GBN Newsletter Issue 1

Page 1

Rhwydwaith Busnes Gwynedd Rhifyn 1 , Mai 2010

Croeso i rifyn cyntaf Cylchlythyr Rhwydwaith Busnes Gwynedd! Mae’r rhwydwaith yn grŵp o berchnogion a gweithredwyr busnes yng Ngwynedd a ffurfiwyd yn 2005 i ddarparu fforwm ar gyfer pob busnes yn y Sir er mwyn:

• • •

Rhwydweithio a rhyng-fasnachu Cyfathrebu â sectorau eraill (cyhoeddus ac academaidd) Adnabod, datblygu a datrys problemau sy’n wynebu busnesau yn yr ardal.

Cwmni cyfyngedig drwy warant, mae ein bwrdd o saith cyfarwyddwr i gyd yn gweithio’n wirfoddol: Cyfarwyddwyr John Lloyd Inigo Jones a’i Gwmni Cyf, Y Groeslon Gill Richards MBE Atebion Recruitment Cyf, Bangor

Fred Foskett yn derbyn ‘Gwobr Cyfraniad Arbennig’ yng Ngwobrau Busnes Gwynedd 2009. Ac yntau’n un o sefydlwyr Rhwydwaith Busnes Gwynedd ac yn ŵr busnes llwyddiannus am 40 blynedd, cafodd cyfraniad Fred i fusnes yng Ngwynedd ei gydnabod a’i werthfawrogi. Yn ddiweddar ymddeolodd o Fwrdd RhBG ond bydd yn parhau i fod yn brysur fel Capten Clwb Golff Brenhinol Dewi Sant, Harlech.

John Morris J Morris Consultancy, Y Bermoh Wyn Roberts Marchnata Aqua Cyf, Caernarfon Samantha Evans Mwnci Bach Cyf, Maentwrog Gwyn Jones Oriel Plas Glyn-y-Weddw, Llanbedrog Sian M Williams Griffith, Williams a’i Gwmni, Pwllheli Os hoffech chi gyfrannu i’r cylchlythyr neu hysbysebu eitem newyddion neu ddigwyddiad, anfonwch e-bost i admin@gwyneddbusnes.net Rhaid i bob eitem fydd yn cael ei chyhoeddi fod yn ddwyieithog – Cymraeg a Saesneg. Ymaelodi Mae aelodaeth yn rhad ac am ddim ac yn agored i bob busnes yng Ngwynedd. Gallwch gofrestru drwy ein gwefan www.gwyneddbusnes.net. Er bod modd cael mynediad i’r rhwydwaith heb gofrestru’n ffurfiol, rydym yn eich annog i wneud hynny. Trwy wneud hynny bydd yn bosibl ichi gael mynediad i bob rhan o’r wefan, yn cynnwys y rhestr o aelodau a byddwch yn derbyn e-byst a chylchlythyrau rheolaidd a fydd yn rhoi’r newyddion diweddaraf ichi am ddigwyddiadau, cyfarfodydd a gwybodaeth fusnes.

www.gwyneddbusnes.net

Ym mis Gorffennaf cyflwynodd Tywysog Cymru wobrau MBE i gydberchnogion Parc y Gelli Gyffwrdd, Stephen ac Andrea Bristow o Lansadwrn, Ynys Môn, am eu gwasanaeth i’r diwydiant ymwelwyr yng Ngogledd Cymru. Hwy hefyd a gipiodd wobr Personau Busnes y Flwyddyn 2009, a chawsant eu henwebu gan Rwydwaith Busnes Gwynedd, yng Ngwobrau Busnes Gwynedd 2009. Cyflwynir y Gwobrau fel cydnabyddiaeth o’r parc antur arloesol i deuluoedd a sefydlwyd ganddynt ym 1993. Mae Parc Gelli Gyffwrdd wedi ei leoli ar gyrion Eryri ac yn cyfuno’r elfennau o hwyl ac antur ag addysg i blant ac oedolion. Yn ogystal â chynnig yr adloniant gorau posibl ar thema werdd, dyma’r unig barc antur i deuluoedd yn y DU sy’n darparu reidiau cwbl ecogyfeillgar, gan gynnwys yr unig reid ffigar êt yn y byd sy’n cael ei gyrru gan bobl.

01


Adolygiad Blynyddol

Digwyddiadau a Newyddion

Hoffai’r Cyfarwyddwyr adrodd ar gynnydd a gweithgareddau’r rhwydwaith dros y 12 mis diwethaf. Nid oes amheuaeth fod hon wedi bod yn flwyddyn galed drwyddi draw, ac eto mae’r rhwydwaith yn fywiog ac yn ffynnu. Yn fwy nag erioed, mae ein haelodau eisiau cyfarfod, cyfnewid syniadau a chefnogi ei gilydd. Mae’r Wasgfa Gredyd a siglodd y wlad fwy na 18 mis yn ôl wedi effeithio ar gwmnïau lleol ac mae’n parhau hyd heddiw. Yng ngoleuni’r hinsawdd fasnachu anodd hon ein blaenoriaeth ar gyfer y flwyddyn oedd helpu busnesau Gwynedd i “oroesi’r storm”.

Trefnwyd 9 digwyddiad gennym yn 2009 yn cynnwys “Goroesi’r Wasgfa Gredyd”, nosweithiau rhwydweithio brys ac anffurfiol, a chinio busnes ar y cyd â Chlwb Busnes Ynys Môn. I gloi’r flwyddyn cynhaliwyd cinio Nadolig ar 17 Rhagfyr yng Nghlwb Golff Caernarfon.

Cymerodd ein haelodau ran mewn cyfarfodydd gyda Chyngor Gwynedd i drafod economi Gwynedd a mentrau a fyddai’n cynorthwyo’r gymuned fusnes. Ymysg y materion a godwyd oedd:

Profodd llwyddiant Wythnos Fusnes Gwynedd, a gynhaliwyd ym mis Mai, i fod yn ddigwyddiad pwysig iawn yng nghalendr busnes ein haelodau – roedd yn cynnig rhywfaint o galondid yn y tywyllwch economaidd i ddathlu llwyddiant cwmnïau newydd a sefydledig. Cefnogwyd hon a’r Cinio Gwobrwyo yn llwyr gan RhBG.

• • • • •

Yr angen i Gyngor Gwynedd agor llinellau cyfathrebu, i weithio’n fwy adeiladol gyda busnesau a rhoi gwybod iddynt pa gytundebau a chyfleoedd tendro oedd ar gael Yr angen i ddiogelu swyddi drwy ddwyn ymlaen brosiectau cyfalaf ac adfywio Pryderon sylweddol ynghylch llif arian a’r ariannu sy’n sicrhau parhad masnachu Grantiau busnes ar gyfer datblygu a hyfforddi Pryder ynghylch codiadau mewn cyfraddau busnes

Arweiniodd y cyfarfodydd hyn at lunio Cynllun Gweithredu ar gyfer Gwynedd a chafodd hwn ei gadarnhau gan y Cyngor a gweithredwyd eisoes ar rai o’r pwyntiau a godwyd. Trefnodd y Cyngor arolygon economaidd chwarterol i’w llenwi gan ein haelodau a darparu data cyfredol ar yr economi. Cynhaliwyd tair “Syrjeri Cyflenwyr” ym mis Medi 2009 er mwyn i fusnesau lleol gyfarfod cynrychiolwyr o Uned Gaffael Gorfforaethol y Cyngor i drafod cyfleoedd tendro a chymorth i gyflwyno tendrau. Cylchlythyru gwybodaeth am y Gronfa Fuddsoddi Leol sy’n cynnig hyd at £5,000 o arian grant. Gwnaed datganiadau fod arian wedi ei glustnodi ar gyfer adfywio canolau trefi. Mynegwyd pryderon ynghylch cyfraddau busnes wrth Lywodraeth y Cynulliad. Bydd y cyfarfodydd yn parhau.

02

Cynhaliwyd dau ddigwyddiad “Goroesi’r Wasgfa Gredyd” yng Nghaernarfon ym mis Mawrth ac ym Mhorthmadog ym mis Ebrill gydag arbenigwyr wrth law i roi cyngor ar grantiau a chyllid, treth, materion cyfreithiol a thendro.

Cyflwynwyd Gwobr Pobl Busnes y Flwyddyn Gwynedd, ac a ddewiswyd gan RhBG, i Stephen ac Andrea Bristow o Barc Gelli Gyffwrdd. Cyflwynwyd gwobr am gyfraniad arbennig hefyd i Fred Foskett am ei waith yn sefydlu RhBG. Ymddeolodd Fred o’r Bwrdd fis Hydref diwethaf. Yn ogystal â threfnu digwyddiadau ein hunain, rhoesom gyhoeddusrwydd i bron i 60 o gyfarfodydd busnes, gweithdai a seminarau a gynhaliwyd yng Ngogledd Cymru. Mae gwaith wedi ei gomisiynu i uwchraddio gwefan RhBG gan ychwanegu nodweddion newydd a’i gwneud yn fwy ymarferol a dyma rifyn cyntaf Cylchlythyr RhBG. Mae gennym hefyd, bellach, bolisi dwyieithog ffurfiol.

Aelodau yn mwynhau digwyddiad rhwydweithio brys yng Ngwesty Meifod, Bontnewydd ym mis Hydref. Mae rhwydweithio brys yn un o’n digwyddiadau mwyaf poblogaidd. Mae’n rhoi cysylltiad uniongyrchol i aelodau â chwmnïau lleol eraill ac mae’n ffordd ardderchog o sicrhau busnes newydd.

www.gwyneddbusnes.net


Cynllun Gweithredu Ymateb i’r Dirwasgiad

Gweithio mewn Partneriaeth

Ymgynghorwyd yn llawn â Rhwydwaith Busnes Gwynedd a chyfrannodd tuag at Gynllun Gweithredu Ymateb i’r Dirwasgiad Cyngor Gwynedd.

Mae Rhwydwaith Busnes Gwynedd yn gweithio’n glos â nifer o

Cynhaliwyd nifer o gyfarfodydd i gytuno ar y cynllun gweithredu ac roedd RhBG yn un o’r ymgyngoreion a chyfrannodd yn helaeth at y cynllun terfynol. Mae Cynllun Cymorth y Sector Busnes yn amcanu i helpu gyda golwg ar gyfraddau busnes, cynghori mewn argyfwng, olrhain effeithiau ac o bosibl benthyciadau busnes i’r dyfodol. Ymatebodd aelodau RhBN i holiaduron diweddar a gwnaeth hyn hi’n bosibl i fonitro sut y mae’r dirwasgiad yn effeithio ar fusnesau yng Ngwynedd. Mae rhannau eraill o’r cynllun yn cynnwys mesurau ar Wybodaeth Busnes a hyder, yn ogystal ag ymrwymiad i gefnogi Canolau Trefi a’r Sector Manwerthu ac i gymryd camau mewn perthynas â Gwaith a Phrosiectau Cyfalaf ac i ailymweld â threfniadau caffael y cyngor. Mae cefnogi swyddi a sicrhau fod gan yr ardal y sgiliau cywir yn elfennau pwysig eraill o’r Cynllun Gweithredu. Ceir manylion llawn Cynllun Gweithredu Gwynedd yn: http://www.gwyneddbusnes.net/Portals/57ad7180-c5e749f5-b282-c6475cdb7ee7/Cynllun%20Gweithredu’r%20 Dirwasgiad-Recession%20Action%20Plan.pdf Y sialens bellach yw rhoi’r Cynllun Gweithredu ar waith ac mae RhBN wedi ymrwymo’n llwyr i weithio gyda’r holl bartneriaid i sicrhau ei fod yn llwyddo. Cafodd y cyfarfod diweddaraf i adolygu’r cynllun ei gynnal ar Ebrill 28fed.

sefydliadau er mwyn cyflawni un o’i brif amcanion sef “cyfathrebu â sectorau eraill (Cyhoeddus ac Academaidd)”. Yn amlwg, mae’n hanfodol bod RhBN yn gweithio’n agos â Chyngor Gwynedd. Mae’r berthynas hon wedi gwella’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf ac ymgynghorwyd â RhBN mewn perthynas â’u cynllun gweithredu Ymateb i’r Dirwasgiad. Mynychodd cyfarwyddwyr RhBN gyfarfodydd a darparu nifer o awgrymiadau yng nghynllun cymorth y sector busnes, a chafodd y rhain eu mabwysiadu yn y cynllun gweithredu terfynol. Mae RhBN yn cymeradwyo rhagwelediad Cyngor Gwynedd wrth lunio’r cynllun gweithredu hwn a’r sialens sy’n wynebu pawb bellach yw rhoi’r cynllun hwn ar waith. Mae cyfarwyddwyr RhBN hefyd yn mynychu ac yn cyfrannu i gyfarfodydd Tîm Rheoli Gwynedd. Mae’r corff hwn yn trafod, ac yn adrodd ar faterion busnes sy’n effeithio ar fusnesau yng Ngwynedd. Mae trafodaethau diweddar wedi cynnwys stoc a deiliadaeth unedau a thir diwydiannol Gwynedd, twristiaeth yng Ngwynedd ac Wythnos Busnes a Chinio Gwobrau Busnes. Mae RhBN hefyd yn gweithio’n agos â Menter a Busnes. Trefnwyd nifer o ddigwyddiadau ganddynt ar gais RhBN ac mae’n bwysig fod y berthynas hon yn parhau i’r dyfodol. Mae’r Ganolfan Reolaeth Busnes newydd ym Mhrifysgol Bangor yn gaffaeliad pwysig i’r ardal a chynhaliwyd nifer o ddigwyddiadau yno gan RhBN, megis cinio Nadolig lle’r oedd Dafydd Wigley yn siaradwr gwadd. Mae nifer o ddigwyddiadau yn cael eu cynllunio ar gyfer y dyfodol yn y ganolfan hon ac mae’n bwysig fod aelodau’n gwneud defnydd llawn o’r cyrsiau busnes ardderchog a gynhelir yn y Ganolfan Reolaeth Busnes. Mae RhBN hefyd wedi gweithio’n agos â Busnes ym Môn, sef y rhwydwaith busnes cyfatebol ar Ynys Môn a thros y 12 mis diwethaf trefnwyd nifer o ddigwyddiadau ar y cyd ganddynt. Hefyd, lobïwyd Llywodraeth y Cynulliad gyda golwg ar nifer o faterion busnes megis codi tâl am fagiau plastig, cymorth grant ProAct a chyllid Ewropeaidd. Bydd RhBN yn parhau i weithio yn y dyfodol gyda’r holl gyrff uchod a rhai newydd hefyd i sicrhau fod busnesau yng Ngwynedd yn cael cymaint o gymorth a chefnogaeth ag sydd bosibl, gan fod llwyddiant busnesau yng Ngwynedd yn hanfodol i ffyniant economi yn yr ardal.

www.gwyneddbusnes.net

03


Cwmni o Wynedd yn Ennill Cytundeb Twristiaeth Rhyngwladol Mae Cwmni Marchnata o Gaernarfon wedi ennill cytundeb â thalaith Chubut yn yr Ariannin, sef ardal ym Mhatagonia sydd wedi ei thrwytho yn y diwylliant Cymreig a grëwyd gan ymsefydlwyr o Gymru yn y 19eg ganrif. Cafodd Marchnata AQUA Cyf ei ddewis gan lywodraeth leol y dalaith i ddatblygu strategaeth farchnata i hyrwyddo’r ardal i’r farchnad Gymreig, a chaniataodd rhan o’r broses i Wyn Roberts, Cyfarwyddwr AQUA, ymweld â’r ardal i ddysgu popeth am ei photensial o ran twristiaeth. “Prif nod y strategaeth yw manteisio’n llawn ar y cyswllt Cymreig rhwng y ddwy ardal, yn ogystal â hyrwyddo Patagonia i deithwyr nad ydynt yn siarad Cymraeg. Rydym wedi bod yn ddigon ffodus i gynnal gwaith marchnata cyrchfan sylweddol iawn yng Nghymru, a’n bwriad yw rhannu rhywfaint o’r profiad hwnnw â’n cydweithwyr ym Mhatagonia”. Yn ystod ei ymweliad, cyfarfu Wyn â Gweinidog dros Fasnach Ryngwladol, Twristiaeth a Buddsoddi Chubut, ac â chyfarwyddwyr twristiaeth yr ardal, a gwelodd nifer o’r prif atyniadau â’i lygaid ei hun. Ychwanegodd Wyn: “Un peth a ddaeth yn amlwg yn dilyn fy ymweliad yw bod gan yr ardal gymaint mwy i’w gynnig i ymwelwyr o Gymru na chapeli a thai bwyta! Mae ‘na gyrchfan sgïo ardderchog, rafftio dŵr gwyn gyda dyfroedd gwyllt gradd 5, a lletygarwch rhyfeddol yno”.

Croeso Cynnes i Fusnesau Twristiaeth G. Perch Cyf yw’r unig ddarparwr hyfforddiant yng Ngwynedd sydd wedi ennill y cytundeb i gyflwyno modiwl Croeso Cynnes rhaglen Gwobr Croeso Cynnes Cymreig a ddatblygwyd gan Lywodraeth y Cynulliad a Chroeso Cymru i ddisodli Gwobr Cynllun Croeso. Mae’r wobr newydd hon wedi ei hanelu at bob busnes yn y sector twristiaeth yn cynnwys; atyniadau, darparwyr llety, tai bwyta, caffis, bariau a busnesau adloniant i enwi ychydig yn unig. Gyda diweddariad Gwobr Croeso Cymru i Croeso Cynnes Cymreig, bydd y Cynllun Croeso yn cael ei newid rhwng nawr a 2011. Os oes gennych ddiddordeb mewn darganfod mwy am y wobr a’r manteision y bydd ei hennill yn ei gynnig i’ch busnes, eich staff a’r rheolwyr neu os oes gennych ddiddordeb mewn cael gwybodaeth am Croeso Cynnes Cymreig mae croeso ichi gysylltu â ni gan ddefnyddio’r manylion canlynol; graham.perch@tiscali.co.uk neu 01766 781 145 / 07866 599 860.

04

www.gwyneddbusnes.net


Aelodaeth

B E R M

ER

Y Bwrdd Mae’r Cyfarwyddwyr yn gweithio’n wirfoddol ac maent wedi cynnal chwe chyfarfod o’r Bwrdd yn ystod y 12 mis diwethaf, yn ogystal â chyfarfodydd i gynllunio digwyddiadau. Maent hefyd wedi cynrychioli’r Rhwydwaith yng Nghyfarfodydd Cyngor Gwynedd: Tîm Rheoli Busnes Gwynedd, sy’n is-grŵp o PEG Partneriaeth Economaidd Gwynedd; Is-bwyllgor Sgiliau i Wynedd; Uwch-gyfarfodydd Economi Gwynedd. Maent hefyd wedi cyfarfod gyda’r Dirprwy Brif Weinidog, Mr Ieuan Wyn Jones, i gyfleu pryderon ein haelodau ynglŷn â’r wasgfa gredyd. Ystyrir bod y cyfarfodydd hyn yn bwysig gan eu bod yn gyfle i drafod gyda, a dylanwadu ar Gyngor Gwynedd a chyrff cyllido a hyfforddi eraill yng Nghymru.

E

yd w a i t h

r hw

. n e t wo r k

A

Cyflwynasom farn yr aelodau mewn perthynas â’r ariannu busnesau i Gyngor Bwrdeistref Ynys Môn a anfonodd gais i E L cyllido. Cafodd aelodau Lywodraeth y Cynulliad am grant B hefyd O D ar yrEeconomi, M eu cylchlythyru gydag arolygon chwarterol ac · M ymgynghorwyd â hwy mewn perthynas â darpariaeth gofal plant yng Ngwynedd.

D

AEL

ess

. bu

in

Anfonwyd arolwg i aelodau yn gofyn am eu barn ynghylch gwaith RhBN a’r digwyddiadau a drefnwyd ar eu rhan. Roedd y mwyafrif ohonynt yn fodlon iawn â’r ddarpariaeth, yn arbennig gyda’r cyfleoedd i gyfarfod a rhwydweithio.

O

ne

y d . Mae gennym 682 o aelodau yn cynrychioli a bu s.gw 593 odgwmnïau e n sefydliadau. Mae aelodaeth ynsparhau i fod yn ddi-dâl.s

M

J Morris

Consultancy

Mae RhBG ar hyn o bryd mewn trafodaethau â Phrifysgol Bangor i’r diben o adnabod a chydweithio ar brosiect ymchwil a fydd o fudd i economi Gwynedd. Rydym hefyd yn trafod gyda’r Ganolfan Reolaeth ym Mangor i drefnu digwyddiadau a fydd yn dod ag aelodau RhBG, Clwb Busnes Bangor a rhwydweithiau lleol eraill at ei gilydd.

Ariannu a Chymorth Rydym wedi gallu parhau i gynnal ein gweithgareddau drwy gymorth ariannol a gweinyddol parhaus Cyngor Gwynedd. Mae Menter a Busnes hefyd wedi rhoi cymorth sylweddol gyda’r gwaith o drefnu a marchnata digwyddiadau. Mae ein gwerthfawrogiad yn fawr i’r ddau sefydliad hyn am eu cymorth parhaus a diolch yn arbennig i Colin Morris a’i staff yn Uned Cymorth Busnes Cyngor Gwynedd. Ein bwriad yn y flwyddyn sydd o’n blaenau yw parhau i gydweithio i gynorthwyo busnesau Gwynedd gymaint ag sydd bosibl fel y gallwn oroesi’r dirywiad hwn a diogelu swyddi ac economi Gwynedd.

www.gwyneddbusnes.net

05


Grantiau a Chynlluniau Cyllido Cronfa Fuddsoddi Leol

Rhaglen Datblygu’r Gweithlu

Pecyn cymorth ariannol hyblyg yw’r Gronfa Fuddsoddi Leol (CFL) i gynorthwyo busnesau newydd a rhai sydd wedi sefydlu’n barod drwy gynnig grantiau cyfalaf o 40% o brosiectau cymwys, gydag isafswm grant o £1000 ac uchafswm o £5000. Er mwyn cael eich ystyried, rhaid ichi gyflogi llai na 250 o bobl; rhaid i’ch prosiect fod wedi ei leoli yng Ngwynedd, Conwy, Sir Ddinbych neu Sir Fôn a rhaid cwrdd ag un neu fwy o’r amcanion canlynol:

Gall Llywodraeth y Cynulliad ddarparu cynghorydd Datblygu Adnoddau Dynol dan y ‘Rhaglen Datblygu’r Gweithlu’ yn ddi-dâl i helpu i gynllunio a chyflawni cynllun dysgu. Mae cyllid ar gael ar gyfer yr hyfforddiant cyfan neu ran ohono dan y cynlluniau hyn – Dysgu Seiliedig ar Waith, Prentisiaethau Modern, PROACT i gyflogeion sy’n gweithio am gyfnod byr cyn ystyried colli swyddi, REACT ar gyfer gweithwyr di-waith, Datblygu Arweinyddiaeth a Rheolaeth.

• Creu neu gynnal swyddi • Cynyddu trosiant neu sicrhau arbedion effeithlonrwydd • Cynorthwyo twf busnes • Cynyddu’r awydd i gystadlu • Cynyddu cynaladwyedd • Sbarduno buddsoddiad a thwf pellach • Cyflwyno cynhyrchion, gwasanaethau neu farchnadoedd newydd • Cefnogi sector allweddol • Creu / datblygu menter gymdeithasol I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.gwynedd.gov.uk a chliciwch ar Fusnes a’r Economi > Grantiau, neu cysylltwch â Chyngor Gwynedd ar 01286 679 231 neu business@gwynedd.gov.uk.

Cronfa Fuddsoddi Sengl (Cfs) Os yw eich busnes yn gweithredu y tu hwnt i’r farchnad leol a bod angen help arnoch gyda phrosiect yng Nghymru, gallech fod yn gymwys i gael cymorth ariannol drwy CFS. Os ydych yn Fenter Gymdeithasol gallech hefyd fod yn gymwys i dderbyn cymorth os ydych yn gweithredu’n fasnachol (rhaid i o leiaf 50% o’ch incwm neu o’ch elw ddeillio o fasnach busnes). Yn anffodus, os ydych yn gweithredu yn y sector manwerthu, yn y farchnad leol yn unig, neu mewn marchnad sydd eisoes yn cael ei gwasanaethu’n dda, mae’n annhebygol y byddwch yn cael cymorth. CYMORTH HYBLYG I FUSNES a CFS Ffoniwch 03000 6 03000 neu ewch i www.business-support-wales.gov.uk.

Cymhorthdal Recriwtio Jobcentreplus £1000 o arian yn ôl pan fyddwch yn cyflogi gweithiwr newydd Mae Jobcentre Plus yn cynnig £1000 am bob person cymwys ydych chi’n ei recriwtio, sydd wedi bod yn hawlio Lwfans Ceisio Gwaith am chwe mis neu fwy. Gall y bydd grant hyfforddiant mewn swydd o hyd at £1,500, ar gael hefyd. Rhagor o wybodaeth http://www.jobcentreplus.gov.uk/jcp/ Employers/AdvertiseaVacancy/recruitmentsubsidy

www.gwyneddbusnes.net

Rhagor o Wybodaeth http://wales.gov.uk/dcells/publications/ informationforemployers/workforcedev/workforcedevelopment.pdf?lang=en

Cronfa Gynaladwyedd Gwynedd Grantiau cyfalaf a refeniw hyd at £5000 (75% o’r gost gyfan) i grwpiau cymunedol a gwirfoddol Gwynedd. Prif nod y grant yw cefnogi prosiectau a fydd yn gwella ansawdd bywyd preswylwyr, grwpiau a chymunedau yng Ngwynedd. I gael rhagor o wybodaeth gan Gyngor Gwynedd ewch i www. gwynedd.gov.uk a chlicio ar Busnes a’r Economi > Grantiau, neu cysylltwch â’r Cydlynydd Cynaladwyedd 01286 679 233.

Menter Gymdeithasol A Chymorth Cydweithredol Mae Canolfan Gydweithredol Cymru yn cefnogi datblygiad a thwf entrepreneuriaeth gymdeithasol, mentrau cymdeithasol a chwmnïau cydweithredol mewn ardaloedd o Gymru. Rhoddir cymorth drwy ddarparu cyllid ar gyfer cynghorydd pwrpasol neu drwy hyfforddi, mentora, cynnal dosbarthiadau meistr a rhwydweithio. Mae’n cael ei hariannu drwy raglenni Cydgyfeirio’r Undeb Ewropeaidd gydag arian cyfatebol gan Lywodraeth y Cynulliad. Rhagor o wybodaeth yn://www.walescoop.com/what-we-do/ social-enterprise-and-co-operative-support

Benthyciadau 0% yr Ymddiriedolaeth Garbon – Effeithlonrwydd Ynni Benthyciadau di-log anwarantedig o £3,000 - £500,000 i ddisodli hen offer ag offer newydd mwy ynni-effeithlon. Cyfrifir y bydd ad-daliadau yn cael eu gosod yn erbyn arbedion egni misol. I gael rhagor o wybodaeth ffoniwch 01865 885 878 neu ewch i www.carbontrust.co.uk/loans.

© 2010 Rhwydwaith Busnes Gwynedd Golygu gan: aqua-marketing.co.uk Dylunio gan:

06


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.