Newyddlen Clwstwr Bwyd Mór Cymru a Datblygu Marchnadoedd Bwyd Mór (Haf 2019).

Page 1

#WELSHSEAFOOD #BWYDMÔRCYMRU

HAF 2019

Newyddlen

DIWEDDARIADAU O GLWSTWR BWYD MÔR CYMRU, CYNLLUN DATBLYGU MARCHNADOEDD BWYD MÔR, A LLYWODRAETH CYMRU

BETH SY’N NEWYDD? TAITH ASTUDIO Aeth Nigel Barden (Scala Radio) a Mike Warner (SAGB) ar daith wib i ymweld â busnesau bwyd môr yng ngogledd Cymru. Aeth y daith â nhw i The Lobster Pot, Menai Oysters, Menai Mussels, Môn Dressed Crabs a Halen Môn. Roedd Nigel wedi’i syfrdanu gan ffresni ac ansawdd y bwyd môr, ac fe’i hysbrydolwyd i greu rysáit lasagne yn defnyddio crancod gan Môn Dressed Crab ar ei sioe fwyd a choginio ar Scala Radio gyda’i gydgyflwynydd, Simon Mayo. Dilynwch y ddolen isod ar gyfer rysáit blasus y lasagne cranc. planetradio.co.uk/scala-radio/ entertainment/food-drink/crab-lasagne/

#WelshSeafood #BwydMôrCymru

SEAFOOD EXPO GLOBAL, BRWSEL 7 – 9 MAI 2019

Eleni, am yr ail dro, aethom i gynrychioli Cymru yn nigwyddiad Seafood Expo Global gan roi cyfle i’r chwe aelod Clwstwr Bwyd Môr Cymru a fynychodd y digwyddiad i archwilio a datblygu marchnadoedd allforio newydd, i ddod ar draws cyfleoedd busnes newydd yn ogystal â dysgu ac edrych ar dueddiadau newydd yn y marchnadoedd bwyd môr byd eang.

CLWSTWR BWYD MÔR -

Gweithdai a Hyfforddiant Rydym ni wedi cynnal y gweithdai llwyddiannus canlynol ar y cyd â hyfforddiant Seafish - Paratoi Pysgod Cregyn, Ffiledu Pysgod, a Phuro Cregyn Deuglawr. Cafodd y rhain eu cynnal mewn lleoliadau yng ngogledd a de Cymru. Mynychodd aelodau clwstwr y gweithdai er mwyn datblygu eu sgiliau ymhellach. Derbyniodd bob un dystysgrif am gwblhau’r cwrs. Da iawn bawb! ‘Fel busnes newydd, roedd datblygu ein sgiliau gyda chymorth arbenigwyr y diwydiant yn hanfodol er mwyn sicrhau ein bod yn cynnig y gwasanaeth gorau posib i’n cwsmeriaid yn Siop Bysgod ‘Catch of the Day’.Roedd y cyrsiau a oedd yn cael eu cynnig trwy ein Clwstwr Bwyd Môr yn berffaith ar gyfer hyn, gyda gwybodaeth ymarferol gan weithwyr proffesiynol sy’n arbenigwyr yn eu maes.’ Jane Roche - Catch of the Day, Aberteifi. O ganlyniad i’r galw, rydym ni’n cynllunio Rhaglen Hyfforddi a Datblygu Sgiliau yn seiliedig ar eich gofynion. Bydd sesiynau pellach yn cynnwys; Cochi Bwyd Môr, Cyllid, Asesu Ansawdd Pysgod Cregyn a Physgod Ffres, Gwerthu eich cynnyrch a Rheoli Plâu. Cysylltwch â ni os oes pynciau eraill yr hoffech i ni fynd i’r afael â nhw. Bydd cymorthfeydd cyllid un i un yn cael eu cynnal yng ngogledd Cymru ar 25ain a'r 26ain o Fedi ac yn ne Cymru ar 2il a 3ydd o Hydref. Lleoliadau penodol i’w cadarnhau. Os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu un o’r cymorthfeydd hyn, cysylltwch â Sian Davies. Bydd mwy o wybodaeth yn cael ei rhannu ar ein tudalennau Cyfryngau Cymdeithasol a’i e-bostio at aelodau Clwstwr. #WelshSeafood #BwydMôrCymru


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.