Beyond Pattern

Page 64

cyfeirio defnyddiol. Gallai patrwm fod yn organig neu’n drefniant trefnedig o linellau, siapiau neu liwiau ar, neu oddi fewn i arwyneb. Gallai fod yn enghraifft batrymol i’w gopïo, neu’n ddulliau ymddygiad arferol, neu’n ddisgrifiad o brosesau meddwl. Mae’n ddiddorol sut mae’r categorïau syml yma’n egluro’r gwahanol lwybrau a gyfeirir atyn nhw gan y gweithiau yn yr arddangosfa Beyond Pattern, a’n symud ein canfyddiad i ffwrdd oddi wrth leoliad y patrwm oddi fewn i addurn. Yn eu harchwiliad o’r gofod y tu hwnt i batrwm, mae’r artistiaid hefyd yn ffurfio cysylltiadau gyda gwareiddiadau hynafol, cynfrodorion, llwythau Celtaidd - cynifer ohonyn nhw - sydd wedi defnyddio patrwm i gyfathrebu ac i ddod o hyd i ffyrdd o ddeall a datrys ein perthynas gyda phatrymau gwaelodol y rhai sy’n llywodraethu’n bywydau. Mae un o fy hoff batrymau i yn dangos rôl amlorchwyl ‘patrwm’. Dyma’r patrwm, fel y’i hanodir ar bapur, a grëir gan draed y dawnswyr wrth iddyn nhw wneud y Tango. Mae hon yn ddawns sy’n ymateb corfforol i batrwm rhythmig penodol o gerddoriaeth yriadol a rhythmig sy’n llenwi’r ystafell, y pen a’r corff. Wedi eu hanodi ar bapur, mae’r olion traed manwl a’r llinellau mynegiannol o symudiad yn haniaethol a’n goncrid ar yr un pryd. Mae’r marciau anodi’n gwanu, yn chwyrlio a’n ailadrodd, gan ffurfio patrymau hudol o gysylltu a gwahanu; a’n cofnodi a’n galluogi i ailadrodd y perfformiad hwnnw. Defod angerddol, wedi ei nodi fel patrwm, yn barod i gael ei dynwared. Pan gawn ein hwynebu gan nifer o bosibiliadau yngly^ n â’r hyn yw patrwm wedi’i lunio (yn hytrach na chasgliad ar hap y gallwn efallai nodi patrwm ynddo), gallai fod yn ddefnyddiol cydnabod, yn glasurol, yn nhermau addurniad, y gallwn nodi pedwar math sylfaenol. Mae’r patrymau hynny a grëir o wahanol fotiffau wedi eu cyfuno mewn dull sydd ddim yn ailadroddus, neu’r rhai hynny sy’n defnyddio’r un motiff wedi ei ailadrodd mewn trefn y

64


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.