


Mae’n bleser cael cyflwyno yng Nghaerdydd y 18fed rhifyn o Ŵyl Ffilm LHDTQ+ Gwobr Iris a gynhelir wyneb yn wyneb o’r 8 hyd at y 13 o Hydref, ac ar-lein (ffilmiau byrion yn unig) yn y DU tan ddiwedd mis Hydref.
Ar adeg pan rydyn ni’n gweld mwy a mwy o straeon LHDTQ+ ar gael ar lwyfannau prif ffrwd, mae Gwobr Iris yn parhau i fod yn bwysig ac yn berthnasol wrth i ni rannu straeon dilys y gellir cyhuddo’r brif ffrwd weithiau o’u hanwybyddu.
Rwy’n gwerthfawrogi y gall y byd deimlo fel lle tywyll ac mae llawer o bobl LHDTQ+ yn dal i ddioddef rhagfarn, troseddau casineb ac erchyllterau eraill. Felly, mae’n anochel bod y rhaglen eleni yn adlewyrchu hyn. Fodd bynnag, yn ysbryd herfeiddiwch, hyder a dathlu, gofynnaf i chi ymuno â ni yn yr ŵyl i brofi straeon LHDTQ+ hynod ddyrchafol, doniol a secsi, cwrdd â chyfarwyddwyr, actorion ac awduron talentog, partïo fel tasai’n 1999 a phrofi swyn Caerdydd. Os ydych chi’n dychwelyd, rydych chi’n gwybod beth i’w ddisgwyl; os ydych chi’n forwyn o Gaerdydd mae gennych gymaint i’w brofi gan gynnwys sîn hoyw anhygoel Caerdydd.
Mae’r rhaglen brintiedig hon yn ddechrau perffaith i’ch taith gydag Iris ac ar ein gwefan, gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am ein rhaglen o 13 ffilm nodwedd, 14 rhaglen o ffilmiau byrion, sgyrsiau dyddiol a gweithgareddau eraill gan gynnwys y gig flynyddol a’r cinio dydd Sadwrn yng Ngwesty’r Clayton.
Diolch yn fawr i’n cyllidwyr a’n noddwyr, y gwneuthurwyr ffilm sy’n rhannu ein straeon ac i chi ein cynulleidfa, a gynyddodd 22% y llynedd wrth i ni ddychwelyd i’r sinema, ddechrau cwrdd â ffrindiau hen a newydd a darganfod hyfrydwch swyn Caerdydd.
Mwynhewch Iris 2024
Berwyn Rowlands
CYFARWYDDWR YR ŴYL
VUE CAERDYDD
Prif Leoliad a Chanolfan yr Ŵyl
Plaza’r Stadiwm, Stryd Wood, Caerdydd CF10 1LA
CANOLFAN GELFYDDYDAU CHAPTER
Heol y Farchnad, Treganna, Caerdydd CF5 1QE
THEATR ATRIWM PDC
Prifysgol De Cymru, Stryd Adam, Caerdydd CF24 2FN
Mae Plaza’r Stadiwm yn daith gerdded fer ar draws y Sgwâr Canolog o Orsaf
Ganolog Caerdydd a Chyfnewidfa Fysiau Caerdydd. Mae Canolfan Gelfyddydau
Chapter tua milltir allan o ganol y ddinas ac fe’i gwasanaethir gan wasanaethau Bws Caerdydd 13, 17 ac 18 o ganol y ddinas i Orsaf Heddlu Treganna.
Am wybodaeth fanwl am fynediad gweler ein gwefan irisprize.org/access neu e-bostiwch ni yn access@irisprize.org
Mae yna lawer o ffyrdd i fwynhau Iris, p’un a ydych chi gyda ni am noson, penwythnos neu’r ŵyl gyfan ac mae myfyrwyr yn derbyn gostyngiad arbennig ar gyfer yr holl ddangosiadau ffilmiau nodwedd a ffilmiau byrion.
Mae’n bleser gennym gyhoeddi dychweliad Iris Ar-lein, gan ddod â hud ffilm fer yr ŵyl i’ch sgrin eich hun. Rhwng 9 Hydref a 31 Hydref, gallwch ymdrochi eich hun ym mhrofiad Iris o gysur eich cartref.
Mae ein tocynnau a’n pasiau i gyd ar gael i’w prynu ar-lein nawr – irisprize. org/2024-box-office – neu yn wyneb yn wyneb o ganolfan yr ŵyl yn Plaza’r
Stadiwm drwy gydol yr ŵyl o 3pm ddydd Mawrth 8 Hydref.
Yn cynnwys yr holl ddangosiadau a digwyddiadau, gan gynnwys Noson Agoriadol, Sioe Wobrwyo, Cinio Sadwrn yn y Clayton, partïon gan gynnwys Y Disco Distaw, a chod disgownt i brynu Aelodaeth Iris am £5.
O ddydd Gwener tan ddydd Sul, ar gyfer pob dangosiad a digwyddiad, gan gynnwys Sioe Wobrau, Cinio Sadwrn yn y Clayton, partïon gan gynnwys Y Disco Distaw, a chod disgownt i brynu Aelodaeth Iris am £5.
Yn ddilys am un diwrnod (Mercher, Iau, Gwener, neu Sadwrn) gan gynnwys yr holl ddangosiadau ar gyfer y diwrnod hwnnw. Nodwch nad yw’r pas dydd Sadwrn yn cynnwys y Sioe Wobrwyo ond mae’n cynnwys y Disgo Distaw.
Dilys Mercher 9 Hydref trwy Iau 31 Hydref. Mynediad i bob un o’r 9 rhaglen ffilm fer ryngwladol, tair o rhaglenni byrion y Gorau Ym Mhrydain, Ffilmiau Byrion Iris a rhywfaint o gynnwys ychwanegol!
TOCYNNAU UNIGOL
Noson Agoriadol £15 / £14
Gig £12 / £11
Rhaglenni Ffilmiau Nodwedd £8 / £7
Rhaglenni Ffilmiau Byrion £7 / £6
Sioe Wobrwyo £15 / £14
Y Disco Distaw £5 / £4
Hoffwn eu llongyfarch ar ŵyl y llynedd a sut y daethant â’r gynulleidfa yn ôl a chyflwyno Iris mewn lleoliad cwbl newydd. Rwyf bob amser yn rhyfeddu at yr hyn y bydd tîm Berwyn yn ei gyflawni er gwaethaf pa bynnag broblemau y maent yn dod ar eu traws ar hyd y ffordd ac nid yw’r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn hawdd. Bu’n rhaid iddyn nhw ddelio â symud swyddfeydd ar fyr rybudd a sicrhau bod Iris yn parhau i weithredu yn ystod cyfnod Berwyn i ffwrdd oherwydd salwch. Rwy’n falch iawn o weld Berwyn yn ôl ac rwy’n siŵr y byddai’n hoffi ymuno â mi i ddiolch i Dîm Iris am eu holl waith caled.
Ac am flwyddyn, yn cyflwyno casgliad Portreadau Pinc newydd gyda staff Trafnidiaeth Cymru, yn cwblhau ein prosiect tair blynedd Gwaith Maes Gwobr Iris a ariennir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, ffilmio Never, Never, Never gydag enillydd Gwobr Iris 2022 John Sheedy, a chyflwyno mwy na 35 dangosiad ffilm fer yng Nghymru a gweddill y DU fel rhan o Iris ar Grwydr. Dychwelon ni hefyd i Tsieina, India ac Iwerddon gyda’r gorau o Iris!
Mae rhoi rhywbeth fel Iris at ei gilydd yn cymryd llawer o ymdrech ac er bod Tîm Iris yn oruwchddynol, maent yn cael eu cefnogi gan nifer cynyddol o unigolion sy’n helpu gyda chodi arian a nawdd, dyletswydd rheithgor gan gynnwys gwylio cyn-ddethol, cynnig llety i wneuthurwyr ffilmiau, ac mae’r rhestr yn mynd ymlaen ac ymlaen. Diolch yn fawr iawn oddi wrtha i a fy nghyd-ymddiriedolwyr. Rwy’n edrych ymlaen at ddathlu straeon LHDTQ+ byd-eang, cwrdd â ffrindiau hen a newydd a phob un o dan swyn Caerdydd ym mis Hydref. Ac os ydych chi’n fy ngweld yn Iris, dewch i ddweud “helo”. Byddwn wrth fy modd yn clywed beth yw eich barn am fy hoff ŵyl ffilm yn y byd.
TOM ABELL
CADAIR
GWAITH MAES GWOBR IRIS CYFYNGEDIG.
7pm tan 11pm
Dydd Mawrth 8 Hydref 2024 Sinema Vue
Mae Noson Agoriadol bob amser yn arbennig, ac mae 2024 yn argoeli i fod y gorau wrth i ni ddechrau dathlu straeon byd-eang a swyn Caerdydd. Cyflwynir y noson gan Angharad Mair (Heno, S4C) ac mae’n cynnwys pedair ffilm fer anhygoel, a rhyw westeion arbennig iawn gan gynnwys Heather Small. Ar ôl i’r ffurfioldebau ddod i ben, mae’r parti yn symud i ysblander lefel 3 Plaza’r Stadiwm gyda dawnsio dan oruchwyliaeth Jolene Dover, a diodydd a byrbrydau trwy garedigrwydd y Co-op.
Cyf: Tom Paul Martin
DU, 2023, 15 munud
Ffilm sy’n plesio cynulleidfa LHDTQIA +, gan gyfuno elfennau o ffuglen wyddonol, drama a chomedi. Mae’r archarwyr proffesiynol, Sterling a Meridian, newydd orffen achub y dydd (eto) pan yn sydyn, maen nhw’n cael eu hunain mewn eiliad brin ar eu pennau eu hunain. Mae’r siwtiau yn dod i ffwrdd, ond pan fydd hen densiynau a hen elynion yn dychwelyd, mae ein “harwyr” yn dysgu’r gwirionedd tywyll am bwy ydyn nhw go iawn.
FISITOR
Cyf: Llyr Titus
Cymru (DU), 2024, 15 munud (Cymraeg, gydag isdeitlau Saesneg)
Wedi ei stelcio gan alar am ei ŵr a chreadur hunllefus o lên gwerin Cymru, rhaid i Ioan wneud ei orau i oroesi Noswyl Nadolig.
BENDER DEFENDERS
Cyf: Ira Putilova
DU, 2024, 25 munud
Hanes pedwar aelod o glwb Muay Thai queer yn Llundain. Mae’r clwb yn canolbwyntio ar wynebu troseddau casineb cynyddol trwy ddysgu crefft ymladd i bobl queer, traws ac anneuaidd a chynnal dosbarthiadau hunanamddiffyn ar gyfer eu cymuned.
TETH
Cyf: Peter Darney
Cymru (DU), 2024, 12 munud (Cymraeg, gydag isdeitlau Saesneg)
Yn dilyn llawdriniaeth, mae Ioan a’i dad yn addasu i’w perthynas newydd fel tad a mab, hynny yw nes bod y ci yn camgymryd teth am degan cnoi.
11:45
SGRIN 2 VUE
Pecyn o ffilmiau byrion o Raglen Gwobr Iris 2024 i bobl ifanc sy’n byw yng Nghymru eu mwynhau a’u dewis fel enillydd Gwobr y Rheithgor Ieuenctid.
Until Today | Cyf: Megan Lyons | DU | 15 munud
Ar ôl i’w mam ormesol drefnu priodas ddigariad, rhaid i uchelwraig ifanc ystyried pris dyletswydd teuluol pan fydd yn bygwth rhamant waharddedig gyda’i ffrind gorau.
SKIN | Cyf: Leo Behrens | UDA | 7 munud
Mae SKIN yn archwiliad barddonol o hunaniaeth a hunanddarganfod, gan ddefnyddio symbolaeth weledol i ddangos trawsnewid menyw mewn i ddyn.
Jia | Cyf: Vee Shi | Awstralia | 15 munud
Mae mam Tsieineaidd alarus yn teithio i Awstralia ac yn cychwyn ar daith ffordd gydag Eric, i gofio am ei diweddar mab. Mae gwerthoedd ceidwadol Ming yn cael eu profi pan mae’n dysgu taw Eric oedd cariad ei mab.
Gigi | Cyf: Cynthia Calvi | Ffrainc | 14 munud
O’r fôr-forwyn fach doredig i’r fenyw gyflawn y mae hi heddiw, mae Gigi yn dweud wrthym am ei thrawsnewidiad rhwng y rhywiau gyda hiwmor a sensitifrwydd.
12:00
SGRIN 1 VUE
Ffilmiau Byrion Rhyngwladol Gwobr Iris 74 munud
Profiad gyda therapi trosi, cysylltiad newydd, llywio disgwyliadau diwylliannol gyda gweithiwr rhyw, ac ymddangos i’ch hun newydd. Mae’r ffilmiau hyn yn archwilio teithiau gwahanol o dderbyn eich hun.
Ready for Ransom | Cyf: Simon Dickel | Yr Alban | 16 munud
Boys in the Water | Cyf: Pawel Thomas Larue | Ffrainc | 39 munud
Kasbi | Cyf: Farah Jabir | UDA | 12 munud
SKIN | Cyf: Leo Behrens | UDA | 7 munud
Ffilmiau Byrion Rhyngwladol Gwobr Iris 78 munud
Iris Prize Shorts 72mins
Teulu sy’n wynebu bygythiadau, galwad ffôn twymgalon gan Mam-gu Romani, goresgyn rhwystrau diwylliannol ac ieithyddol, breuddwyd un dyn oedrannus, ac eiliad Mam dan y sbotlolau.
Mae’r straeon hyn yn amlygu’r berthynas rhwng pobl o wahanol oedrannau.
Hici dionseque prae veratio temquasintur mod ut archillabo. Ut exera del ex etum vento blabore peditatiis dolor am, nianimp ostiis volupid endebitati ullorrorio. Nequis dic tem dem volorio repedi cusanda quosamenis dolorporiae elenis seque niminvel idunt qui quas as de sunturi onsequa mustendi totame laccabo. Nequidebit expel ipsapiet occum voluptam, elestemporro vel maiossum velenis quidest remquis eicitis ea corum volori dem illest exped
Film Title | Cyf: | Country | 00 Munud
Blood Like Water | Cyf: Dima Hamdan | Palestina | 14 munud
Film Title | Cyf: | Country | 00 Munud
Mami | Cyf: Alecio Araci | Sweden | 7 munud
Film Title | Cyf: | Country | 00 Munud
Jia | Cyf: Vee Shi | Awstralia | 15 munud
Pill Nation | Cyf: Bruno Tadeu | Brasil | 22 munud
The Performance | Cyf: Claire Zhou | Yr Iseldiroedd | 20 munud
MER 09 HYD 14:45
SGRIN 1 VUE
SUL 13 HYD 20:00
CHAPTER 1
Cyf: Daniel Ribeiro (Brasil, 2024)
Mae João a Hugo yn gorffen eu perthynas 10 mlynedd ond yn aros yn ffrindiau gorau. Wrth iddynt ddechrau detio eto, mae emosiynau na ellir eu rheoli yn codi, gan gyferbynnu perffeithrwydd arfaethedig eu chwalfa.
Dyma ail ffilm nodwedd enillydd Gwobr Iris, Daniel, i’w dangos yng Nghaerdydd.
Amser rhedeg 100 munud Portiwgaleg, Isdeitlau Saesneg
16:30
SGRIN 2 VUE
Yn Iris mae stori pawb yn berthnasol. Mae’r detholiad hwn o ffilmiau’n cynnwys straeon heb gyllideb a chyllideb isel, barddoniaeth a gweithiau aflinol a’r hyn a elwir yn ffilm a fideo’r artist. Mae peth o’r gwaith gan storïwyr newydd sbon ac eraill o wneuthurwyr ffilmiau profiadol. Disgwyliwch gael eich ysgogi a’ch herio yn gyfartal!
Ffilmiau Cymunedol, Addysg, a Micro
71 munud
CYMUNEDOL:
Three Letters | Cyf: Michael Graham | 6 munud
Pearls | Cyf: Aude Konan | 13 munud
Silent Spring | Cyf: Helen Eve Kilbride | 7 munud
The Bridges We Cross | Cyf: Iris Van Dongen | 9 munud
Unchartered Waters: Generations of LGBTQ+ Pride in the Royal Navy | Cyf: David Mark Graham | 8 munud
Heron | Cyf: Samuel W. Ross | 16 munud
MICRO:
You Know The Rules | Cyf: Owen Tooth | 1 min
Develop | Cyf: Emily James | 2 munud
Facade | Cyf: Sophia VI | 2 munud
Queer Enough | Cyf: Gemma Reynolds | 1 min 30 sec
Hot Mess | Cyf: Lee Campbell | 1 min
STD | Cyf: Lee Campbell | 2 munud
Kindness Begins with Me | Cyf: Ian H Watkins | 1 min 30 sec
ADDYSG:
Forbidden Reverie | Cyf: Yisong Huang | 4 munud
19:00
SGRIN 1 VUE
Cyf: Sam Shahid (UDA, 2023)
Golwg mynwesol ar artist arloesol, agored hoyw, a dynnodd ffotograffau cignoeth o’r corff gwryw noeth.
Rydym yn falch iawn o gyflwyno’r dangosiad hwn gyda’n partneriaid Ffotogallery.
Amser rhedeg 96 munud Saesneg, dim isdeitlau
20:00
SGRIN 2 VUE
SUL 13 HYD
19:00
SGRIN 1 VUE
Cyf: Sarah Rotella (Canada, 2024)
Mae Maggie a Julianne yn gyn-gariadon sy’n ailgynnau gwreichionen yn annisgwyl yn ystod ymweliad tref enedigol ar gyfer y gwyliau. Ydyn nhw i fod? Bydd yn rhaid iddynt lywio eu teimladau, y dref sy’n hel clecs amdanynt, ac ysbrydion eu cyn-gariadon i ddarganfod hyn.
Mae Sarah Rotella yn dychwelyd i Gaerdydd ar ôl cyflwyno Almost Adults yn 2016, y ffilm nodwedd lesbiaidd fwyaf poblogaidd yn hanes Iris!
Amser rhedeg 88 munud Saesneg
Rydym wrth ein bodd y bydd Sarah Rotella yn mynychu’r dangosiad yng Nghaerdydd
IAU 10 HYD 12:00
SGRIN 1 VUE
Ffilmiau Byrion Rhyngwladol Gwobr Iris 75 munud
Merch ifanc yn darganfod ei hun trwy ddawns, taith animeiddiedig trwy drawsnewid, delio â charu a hunan-werth, ac archwiliad ysgafn o gyrff.
Mae’r ffilmiau hyn yn canolbwyntio ar fenywod a merched yn dysgu i fod y fersiwn fwyaf gwir ohonynt eu hunain er gwaethaf heriau.
11:01 | Cyf: Jimi Drosinos | DU | 29 munud
Gigi | Cyf: Cynthia Calvi | Ffrainc | 14 munud
iykyk | Cyf: Bonita Rajpurohit | India | 18 munud
Come Correct | Cyf: Molly Coffee | UDA | 15 munud
IAU 10 HYD
12:15
SGRIN 2 VUE
SUL 13 HYD
14:30
SGRIN 1 VUE
Cyf: Anthony Schatteman (Gwlad Belg a’r Iseldiroedd, 2024)
Mae Elias yn datblygu teimladau i’w gymydog newydd Alexander. Mae’n sylweddoli yn fuan ei fod yn syrthio mewn cariad am y tro cyntaf.
Dewiswyd Young Hearts, a derbyniodd Soniad Arbennig, yn adran Generation Kplus yn 74ain Gŵyl Ffilm Ryngwladol Berlin, lle cafodd ei première y byd.
Amser rhedeg 97 munud Iseldireg/Ffrainc, Isdeitlau Saesneg
IAU 10 HYD 14:30
SGRIN 2 VUE
Ffilmiau Byrion Rhyngwladol Gwobr Iris 63 munud
Chwilio am gariad coll Mam-gu, dychwelyd i’ch tref plentyndod ar ôl colled, ac wynebu’r person a wnaeth eich bywyd ysgol yn ddiflas.
Mae’r ffilmiau hyn i gyd yn ymwneud ag archwilio perthnasau blaenorol.
Don’t Forget Me | Cyf: Alice Wang | Canada | 19 munud
Nyame Mma (Children of God) | Cyf: Joewackle J Kusi | Ghana | 27 munud
Die Bully Die | Cyf: Nathan & Nick Lacey | Awstralia | 16 munud
IAU 10 HYD
14:45
SGRIN 1 VUE
SAD 12 HYD
17:15
SGRIN 1 VUE
Cyf: Zacharias Mavproeidis (Gwlad Groeg, 2023)
Wrth gael diwrnod o nofio ar draeth queer Athen, mae’r ffrindiau gorau Demos a Nikitas yn cofio digwyddiadau haf diweddar yn y gobaith o’u troi’n sgript ar gyfer ffilm nodwedd gyntaf Nikitas.
Amser rhedeg 106 munud Groeg, Isdeitlau Saesneg
IAU 10 HYD
17:00
SGRIN 2 VUE
Ffilmiau Byrion Rhyngwladol Gwobr Iris 75 munud
Cinio gwaith dirdynnol, gwrthryfel yr ynys lesbiaid, menyw mewn argyfwng, ac aduniad emosiynol.
Mae’r ffilmiau anodd hyn yn portreadu cryfder mewn adfyd.
all the words but the one | Cyf: Nava Mau | UDA | 18 munud
Heroines | Cyf: Astré Desrives | Ffrainc | 29 munud
Niloo | Cyf: Mehdi Koushki | Iran | 10 munud
Where We Stay | Cyf: Florence Bouvy | Yr Iseldiroedd | 23 munud
17:15
SGRIN 1 VUE
Cyf: Ila Mehrotra (DU, 2024)
Dros saith mlynedd, mae’r ymgyrchydd Rudrani Chettri yn creu cwmni i hyrwyddo pobl hijra
India, gan ystyried sgismau a gwreiddiau cymhleth y diwylliant wrth eu symud i ffwrdd o galedi traddodiadol.
Amser rhedeg 85 munud Saesneg, Hindi gydag isdeitlau Saesneg
Rydym wrth ein bodd y bydd Ila Mehrotra yn mynychu’r dangosiad yng Nghaerdydd
IAU 10 HYD 19:30
SGRIN 1 VUE
Ffilmiau Byrion Rhyngwladol Gwobr Iris 80 munud
Agosatrwydd o bell; cwestiynu bod yn rhiant; voyeuriaeth; camgymeriadau iaith yn peryglu cariad; a chariad ffôl diwobrwy.
Yma mae gennym bum ffilm fer sy’n herio confensiwn mewn gwahanol ffyrdd.
DirtyTalk | Cyf: Eva Wyse | Iwerddon, 2024 | 16 munud
ThisIsNotAnAttackOnYourParenting | Cyf: Rory Fleck Byrne | Iwerddon, 2024 | 17 munud
NeverKillaFemboyonTheFirstDate | Cyf: Oonagh Kearney | Iwerddon, 2024 | 17 munud
Homofónia | Cyf: Luke K. Murphy | Iwerddon, 2023 | 11 munud
AMŒBA | Cyf: Ian Fallon | Iwerddon, 2023 | 16 munud
20:00
SGRIN 2 VUE
SUL 13 HYD
16:45
SGRIN 1 VUE
Cyf: Gabriel Carrubba Awstralia, 2023) IAU 10 HYD
Mae bachgen 17 oed yn cael trafferth deall a chofleidio ei rywioldeb wrth iddo ddod i oed yn y maestrefi dosbarth gweithiol ar gyrion Melbourne.
Amser rhedeg 84 munud Saesneg, dim Isdeitlau
Rydym wrth ein bodd y bydd Gabriel Carrubba yn mynychu’r dangosiad yng Nghaerdydd
GWE 11 HYD
11:45
SGRIN 1 VUE
SAD 12 HYD 16:15
SGRIN 2 VUE
Ffilmiau Byrion Gorau Ym Mhrydain Gwobr Iris 79 munud
Ymdopi â newid yn yr hinsawdd, brwydr dyn ifanc gyda’i hunaniaeth, pryder wrth gwrdd am ryw, archwilio dicter queer, bod yn sobr pan yn frenhines drag, a chysylltiad annisgwyl. Mae’r prif gymeriadau hyn yn llywio eu heriau unigol.
Water’s Edge | Cyf: Jason Barker | 15 munud
Fairview Park | Cyf: Aymeric Nicolet, Ellie Hodgetts | 14 munud
I Hope He Doesn’t Kill Me | Cyf: Lyndon Henley Hanrahan, Nora Dahle Borchgrevink | 14 munud
Rage Consumes Me | Cyf: Felix Waverley-Hudson | 5 munud
Miss Temperance | Cyf: Jeremy McClain | 13 munud
12:00
SGRIN 2 VUE
Ffilmiau Byrion Rhyngwladol Gwobr Iris 79 munud
Archwilio rhywedd a chydberthynas, prosiect annifyr, artist dan glo, a dod o hyd i’ch fflam efaill.
Mae’r rhaglen hon yn edrych ar berthynas unigolyn â rhywedd a pha effaith y mae hyn yn ei chael ar y perthnasoedd y maent yn eu ffurfio gyda’r bobl o’u cwmpas.
Alok | Cyf: Alex Hedison | UDA | 19 munud
Terratoma | Cyf: Liadán Roche | Iwerddon | 24 munud
Love, Jamie | Cyf: Karla Murthy | UDA | 20 munud
MnM | Cyf: Twiggy Pucci Garçon | UDA | 15 munud
GWE 11 HYD
14:00 SGRIN 1 VUE
SAD 12 HYD 14:00
SGRIN 2 VUE
Ffilmiau Byrion Gorau Ym Mhrydain Gwobr Iris 78 munud
Dyletswydd teuluol neu gariad ifanc, rôl tadol brenhines drag, teimladau cynnar am fod yn queer mewn cwlt, menyw oedrannus yn syfrdanu ei pherthnasau, a llygoden amlgarwriaethol!
Until Today | Cyf: Megan Lyons | 15 munud
Making Up | Cyf: Ryan Paige | 15 munud
Sister Wives | Cyf: Louisa Connolly-Burnham | 28 munud
Rejoyce! | Cyf: David Ledger | 15 munud
Diomysus: More Than Monogamy | Cyf: Emily Morus-Jones | 5 munud
14:45
SGRIN 2 VUE
SUL 13 HYD
12:15
SGRIN 1 VUE
Cyf: Samantha Lee (Y Pilipinas, 2024)
Mae arddegwraig dal, lletchwith yn symud i dref newydd ac yn cael ei gorfodi i ymuno â thîm pêl-foli ei hysgol uwchradd Gatholig newydd. Mae popeth yn newid pan mae hi’n syrthio am gapten y tîm pêl-foli.
Roedd Billie and Emma, ffilm gan Samatha, yn rhan boblogaidd o’n rhaglen yn 2019, a dyma ei hail ffilm i’w dangos yng Nghaerdydd.
Amser rhedeg 94 munud
Tagalog, isdeitlau Saesneg
GWE 11 HYD
16:30
SGRIN 1 VUE
SAD 12 HYD 11:45
SGRIN 2 VUE
Ffilmiau Byrion Gorau Ym Mhrydain Gwobr Iris 78 munud
Hen gariad, dihangfa chwedlonol, uchelgeisiau i’r sêr, a chynnydd pwerus i enwogrwydd.
Rhaglen sy’n archwilio uchelgais ac yn taflu eich hun i mewn i’r pen dwfn.
Divine Intervention | Cyf: Ravenna Tran | 17 munud
Sally Leapt out of a Window Last Night | Cyf: Tracy Spottiswoode | 20 munud
Everything Looks Simple From A Distance | Cyf: Conor Toner | 13 munud
Who’s Kitty Amor? | Cyf: Maik Diederen | 22 munud
17:00
Ffilmiau Byrion Rhyngwladol Gwobr Iris 80 munud
Cymharu bywyd heldir yn erbyn bywyd y ddinas, hanes rhamant grefyddol beryglus, gwneud iawn gyda hen ffrind, a bod yn drawsrywiol mewn cymuned ffermio ddiarffordd.
Mae’r rhaglen hon yn edrych ar ryngweithiadau amseroedd y gorffennol sy’n siapio person a’u dewisiadau.
Marungka Tjalatjunu (Dipped in Black) | Cyf: Matthew Thorne & Derik Lynch | Awstralia | 24 munud
Dildotectónica | Cyf: Tomás Paula Marques | Portiwgal | 16 munud
Former Best Friend | Cyf: Feicien Feng | Hong Kong | 27 munud mar(i)cona | Cyf: Cande Lázaro | Sbaen | 13 munud
19:00
SGRIN 1 VUE
Cyf: Jacquie Lawrence (DU, 2024)
Ffilm onest a phersonol yn dilyn bywyd llawn bwrlwm yr actifydd, y cyhoeddwr a chrëwr gwobrau amrywiaeth, Linda Riley. Mae cyfuno cyfweliadau â ffilmio pry far y pared yn rhoi cipolwg ar “Brif Lesbiaid y Byd” wrth iddi lywio byd enwogion a gwleidyddiaeth.
Disgwyliwch westeion arbennig yn ystod y dangosiad hwn sy’n cynnwys sesiwn Holi ac Ateb gyda Linda Riley a Jacquie Lawrence.
Amser rhedeg 90 munud
Saesneg
Rydym wrth ein bodd y bydd Jacquie Lawrence yn mynychu’r dangosiad yng Nghaerdydd
20:00
Cyf: Sophie Dupuis (Canada, 2023)
Wedi’i lleoli yn sîn drag fywiog Montreal, mae’r astudiaeth gymeriad addfwyn hon gan yr awdur Sophie Dupuis (Underground) yn canolbwyntio ar berfformiwr ifanc talentog y mae ei orffennol a’i bresennol yn uno mewn ffyrdd annisgwyl.
Amser rhedeg 102 munud French, Isdeitlau Saesneg
21:30
Cyf: Timothy Despina Marshall (Awstralia, 2024)
Mae actor theatr queer yn aros mewn ystafell westy cyn angladd ei dad. Yn argyhoeddedig bod rhywun neu rywbeth yn yr ystafell gydag ef, rhaid iddo ddod wyneb yn wyneb â phawb sy’n aflonyddu arno, mewn brwydr am ei fywyd.
Mae Tim yn un o bedwar o wneuthurwyr ffilmiau Awstralia sydd wedi ennill Gwobr Iris, rydym wrth ein bodd ei fod yn dychwelyd i Gaerdydd ar gyfer y dangosiad hwn o’i ffilm nodwedd gyntaf.
Amser rhedeg 82 munud
Saesneg, dim Isdeitlau
Rydym wrth ein bodd y bydd Timothy Despina Marshall yn mynychu’r dangosiad yng Nghaerdydd
12 HYD 10:15
SGRIN 1 VUE
Ffilmiau Byrion Rhyngwladol Gwobr Iris 66 munud
Galwad ffôn dal i fyny emosiynol, menter fusnes newydd, a thaith ffordd greigiog.
Mae’r rhaglen hon yn archwilio’r llinell rhwng bod yn ffrindiau a’r awydd am gysylltiad dyfnach.
I Never Promised You a Jasmine Garden | Cyf: Teyama Alkamli | Canada | 20 munud
Bunk | Cyf: Piotr Jasiński | Y Weriniaeth Tsiec | 21 munud
Honyemoon | Cyf: Alkis Papastathopoulos | Gwlad Groeg | 25 munud
12:30
SGRIN 1 VUE
Ffilmiau Byrion Rhyngwladol Gwobr Iris 67 munud
Mae actor a cowboi yn mynd i mewn i fydoedd ei gilydd, mae dwy fenyw draws yn croesi llwybrau, mae newyddiadurwr yn wynebu digofaint y rhyngrwyd, a sielydd hŷn unig.
Mae’r straeon hyn yn dangos effaith cyfarfyddiad cyflym â pherson anghyfarwydd.
Some Kind of Paradise | Cyf: Nicholas Finegan | UDA | 22 munud Bust | Cyf: Angalis Field | UDA | 11 munud
RAT! | Cyf: Neal Suresh Mulani | UDA | 17 munud
G Flat | Cyf: Cyf: Peter Darney | DU | 18 munud
SGRIN 1 VUE
Cyf: Rachel Dax (DU, 2024) SAD 12 HYD 14:45
Portread personol o’r artist ffigurol Greer Ralston wrth iddi ein rhyfeddu gyda’i thalent eithriadol ac yn sôn am ei chynlluniau i ymroi i gelf yn unig.
Dyma ffilm ddogfen hir gyntaf Rachel, ac rydym wrth ein bodd y bydd hi’n mynychu’r dangosiad ar gyfer sesiwn Holi ac Ateb.
Amser rhedeg 61 munud Saesneg
Rydym wrth ein bodd y bydd Rachel Dax yn mynychu’r dangosiad yng Nghaerdydd
12 Hydref 2024
19:00
Theatr Atriwm PDC
Ac yna yn dilyn yn y Disco Distaw o 22:00 yng Nghlwb Iris, Plaza’r Stadiwm
Ar ôl wythnos o wylio ffilmiau a siarad am y ffilmiau rydyn ni’n cael darganfod pwy mae’r rheithgorau yn credu sy’n haeddu’r gwobrau. Mae hon bob amser yn noson arbennig iawn i ddathlu rhagoriaeth mewn adrodd straeon. Bydd y gwobrau canlynol yn cael eu cyflwyno:
GWOBR IRIS
a gefnogir gan Sefydliad Michael Bishop
Y wobr ffilm fer LHDTQ+ fwyaf yn y byd gyda £30,000 i wneud eich ffilm fer LHDTQ+ nesaf a gwahoddiad i eistedd ar Reithgor Rhyngwladol 2025.
GWOBR GORAU YM MHRYDAIN GWOBR IRIS
a noddir gan Film4 a Pinewood Studios
Bydd yr enillydd yn cael dangosiad unigryw o’i ffilm yn Pinewood Studios ynghyd â derbyniad croeso gyda diodydd a canapès.
Bydd yr holl ffilmiau Prydeinig ar y rhestr fer yn cael eu darlledu ar Channel 4 a’u ffrydio ar eu gwasanaeth ffrydio ar-lein am flwyddyn.
PERFFORMIAD PRYDEINIG GORAU
MEWN RÔL FENYWAIDD
PERFFORMIAD PRYDEINIG GORAU
MEWN RÔL WRYWAIDD
PERFFORMIAD PRYDEINIG GORAU
TU HWNT I’R DEUAIDD
Mae’r gwobrau perfformiad a noddir gan Out & Proud gyda gwobr ariannol o £250 yr un.
GWOBR RHEITHGOR IEUENCTID GWOBR IRIS
Am y ffilm fer orau a ddewiswyd gan reithgor o bobl ifanc.
GWOBR CYNULLEIDFA CO-OP GWOBR IRIS
Mae’r wobr hon ar gyfer hoff ffilm y gynulleidfa yn cael ei phleidleisio gan gynulleidfaoedd yr ŵyl wyneb yn wyneb ac ar-lein.
Fe’i cyflwynir ym mis Tachwedd.
FFILM NODWEDD ORAU GWOBR IRIS
a noddir gan Bad Wolf
PERFFORMIAD GORAU MEWN RÔL WRYWAIDD
MEWN FFILM NODWEDD GWOBR IRIS
a noddir gan Gylchgrawn Attitude
PERFFORMIAD GORAU MEWN RÔL FENYWAIDD
MEWN FFILM NODWEDD GWOBR IRIS
a noddir gan Gylchgrawn DIVA
PERFFORMIAD GORAU Y TU HWNT I’R DEUAIDD
MEWN FFILM NODWEDD a noddir gan Peccadillo Pictures
Cyflwynir tair gwobr a noddir gan Mark Williams er cof am Rose Taylor ar ddiwedd y rhaglen Ffilmiau Cymunedol, Addysg a Micro ddydd Mercher 9 Hydref:
GWOBR GYMUNEDOL
£250 i alluogi’r grŵp cymunedol i barhau i wneud ffilmiau
GWOBR ADDYSG
£250 i gefnogi’r ysgol/coleg/grŵp ieuenctid i wneud ffilmiau pellach
GWOBR MICRO
£100 i alluogi’r gwneuthurwr ffilmiau i wneud ffilmiau pellach.
SAD 12 HYD
20:00
SGRIN 1 VUE
SUL 13 HYD
17:30
CHAPTER 1
Cyf: Romina Tamburello and Federico Actis (Yr Ariannin, 2023)
Mae Vera, rhwng dosbarthiadau ysgol a phêl-foli, yn rhentu fflat gwag i bobl ifanc yn eu harddegau sy’n chwilio am le i gael rhyw.
Mae ffordd o wneud arian yn datblygu i ddarganfyddiad Vera o’i dymuniadau rhywiol ei hun.
Amser rhedeg 100 munud
Sbaeneg, Isdeitlau Saesneg
13 Hydref 2024
SGRIN 1 VUE
12:15 ROOKIE
Cyf: Samantha Lee (Philippines, 2024)
94 munud. (Tagalog, Isdeitlau Saesneg)
Mae arddegwraig dal, lletchwith yn symud i dref newydd ac yn cael ei gorfodi i ymuno â thîm pêl-foli ei hysgol uwchradd Gatholig newydd. Mae popeth yn newid pan mae hi’n syrthio am gapten y tîm pêl-foli.
Roedd Billie and Emma, ffilm gan Samatha, yn rhan boblogaidd o’n rhaglen yn 2019, a dyma ei hail ffilm i’w dangos yng Nghaerdydd.
14:30 YOUNG HEARTS
Cyf: Anthony Schatteman. (Gwlad Belg a’r Iseldiroedd, 2024)
97 munud. (Iseldireg/Ffrainc, Isdeitlau Saesneg)
Mae Elias yn datblygu teimladau i’w gymydog newydd Alexander. Mae’n sylweddoli yn fuan ei fod yn syrthio mewn cariad am y tro cyntaf.
Dewiswyd Young Hearts, a derbyniodd Soniad Arbennig, yn adran Generation Kplus yn 74ain Gŵyl Ffilm Ryngwladol Berlin, lle cafodd ei première y byd.
16:45 SUNFLOWER
Cyf: Gabriel Carrubba. (Awstralia, 2023) 84 munud (Saesneg)
Mae bachgen dwy ar bymtheg oed yn cael trafferth deall a chofleidio ei rywioldeb wrth iddo ddod i oed yn y maestrefi dosbarth gweithiol ar gyrion Melbourne. 19:00 LAST EXMAS
Cyf: Sarah Rotella. (Canada, 2024)
88 munud (Saesneg)
Mae Maggie a Julianne yn gyn-gariadon sy’n ailgynnau gwreichionen yn annisgwyl yn ystod ymweliad tref enedigol ar gyfer y gwyliau. Ydyn nhw i fod? Bydd yn rhaid iddynt lywio eu teimladau, y dref sy’n hel clecs amdanynt, ac ysbrydion eu cyn-gariadon i ddarganfod hyn.
Mae Sarah Rotella yn dychwelyd i Gaerdydd ar ôl cyflwyno Almost Adults yn 2016, y ffilm nodwedd lesbiaidd fwyaf poblogaidd yn hanes Iris!
13 Hydref 2024
Chapter 1
14:30
Y GORAU O IRIS 2024
A’r enillwyr yw! Dyma’ch cyfle cyntaf i weld enillwyr ffilm fer Gŵyl Ffilm LHDTQ+ Gwobr Iris 2024.
Bydd y rhaglen yn cynnwys enillwyr Gwobr Iris, Gwobr Gorau Ym Mhrydain, Ieuenctid a’r gwobrau perfformio.
17:30
VERA AND THE PLEASURE OF OTHERS
Cyf: Romina Tamburello and Federico Actis. Yr Ariannin. 2023. 100 munud. (Sbaeneg, Isdeitlau Saesneg)
Mae Vera, rhwng dosbarthiadau ysgol a phêl-foli, yn rhentu fflat gwag i bobl ifanc yn eu harddegau sy’n chwilio am le i gael rhyw.
Mae ffordd o wneud arian yn datblygu i ddarganfyddiad Vera o’i dymuniadau rhywiol ei hun.
20:00
PERFECT ENDINGS
Cyf: Daniel Ribeiro. Brasil. 2024 100 munud (Portiwgaleg, Isdeitlau Saesneg)
Mae João a Hugo yn gorffen eu perthynas 10 mlynedd ond yn aros yn ffrindiau gorau. Wrth iddynt ddechrau detio eto, mae emosiynau na ellir eu rheoli yn codi, gan gyferbynnu perffeithrwydd arfaethedig eu toriad perthynas.
Dyma ail ffilm enillydd Gwobr Iris, Daniel, i’w ddangos yng Nghaerdydd.
TUES 14:00 - TBC
SGWRS GYDA KATE HERRON
Mae Kate Herron yn agor Gwobr Iris 2024 gyda’r sesiwn holi ac ateb unigryw hon. O Loki (Marvel), Doctor Who, Sex Education, a Five by Five, mae Kate wedi gwneud marc annileadwy ar ein hanes gwylio. Mae’r awdur-gyfarwyddwr, sy’n gweithio ar draws ffilm, teledu a llyfrau comig, wedi cipio cynulleidfaoedd bydeang gyda’i storïau, gyda phennod o The Last of Us yn dal ar y gorwel. Dydych chi ddim eisiau colli hwn!
MER 10:00 - SGRIN 2
SGWRS IEUENCTID
Ymunwch â ni ar gyfer ein sgwrs diwrnod addysg flynyddol, gan drafod pwysigrwydd straeon LHDTQ+ hygyrch i bob oedran, y broses o wneud ffilmiau a mwy! Os ydych chi’n cynrychioli ysgol a allai fod â diddordeb mewn mynychu Iris, cysylltwch â adnan@irisprize.org
MER 14:00 - PLAZA’R STADIWM
LOST BOYS & FAIRIES
Cloddiwch i mewn i’r ddrama Gymreig queer arloesol gyda’r awdur Daf James, a’r cynhyrchydd Adam Knopf. Mae Lost Boys and Fairies yn dilyn taith fabwysiadu cwpl hoyw, gyda thrafferth yn eu gorffennol yn bygwth difetha’r broses a pheryglu eu dyfodol. Rhybudd Spoiler! Byddwch yn siwr i wylio’r gyfres cyn y sgwrs hon.
THU 10:00 - SGRIN 2
SESIWN YN Y GYMRAEG
Cynnydd isdeitlau! O Young Royals i Squid Game, nid yw iaith bellach yn rhwystr i gynulleidfaoedd enfawr rhag mwynhau adrodd straeon gwych. Ymunwch â ni ar gyfer ein trafodaeth gyntaf erioed yn yr iaith Gymraeg, wrth i ni archwilio’r gobeithion a’r posibiliadau ar gyfer y drysau y bydd hyn yn eu hagor nesaf. Adam Price sy’n cadeirio. Cyfleusterau cyfieithu ar gael.
THU 14:00 - PLAZA’R STADIWM
DYFODOL CYNRYCHIOLAETH DRAWS AR Y SGRIN
Bydd alwm Iris, Harvey Rabbit, yn croesawu panel o westeion o wneuthurwyr ffilmiau. Bydd y drafodaeth hon am adrodd straeon a chynrychiolaeth drawsrywiol ac anneuaidd yn bellgyrhaeddol, gan archwilio prosiectau presennol a’r profiad traws nad ydym eto i’w weld ar y sgrin.
IAU 10:00 - SGRIN 2
YR ARCHIF QUEER
Yn ôl ar ôl galw poblogaidd! Mae trafodaeth ‘Mewn neu Ma’s’ yr Archif Queer yn dychwelyd, gyda phanelwyr yn dadlau pam fod eu ffilm ddewisol yn haeddu cael ei hanfarwoli yn archif sinematig LHDTQ+.
Paul ‘Stumpy’ Davies sy’ wrth y llyw.
IAU 14:00 - PLAZA’R STADIWM
DIVA YN CYFLWYNO
Mae prif gylchgrawn y byd ar gyfer menywod LHDTQIA a phobl anneuaidd yn dwyn ynghyd y gwneuthurwyr ffilmiau arobryn Karimah Zakia Issa (Scaring Women at Night) a Sara Harrak (F **ked) am sgwrs, gan drafod pwysigrwydd menywod queer a storïwyr anneuaidd yn nyfodol y diwydiant. Roxy Bourdillon, Prif Olygydd DIVA sy’n cadeirio.
SAD 10:00 - SGRIN 2
PANEL ALUMNI IRIS
Mae rhai o gyn-fyfyrwyr mwyaf nodedig Iris yn dychwelyd i Gaerdydd i drafod eu teithiau o ffilmiau byrion i ffilmiau nodwedd, a hynt a helynt gwneud ffilmiau annibynnol. Sesiwn ‘rhaid i’w mynychu’ ar gyfer yr holl ddarpar wneuthurwyr ffilm a mynychwyr Iris hir-amser!
RHEITHGOR RHYNGWLADOL GWOBR IRIS 2024
Roxy Bourdillon
PRIF OLYGYDD DIVA
Ryan Chappell
ARWEINYDD AMRYWIAETH, CYNALIADWYEDD A PHWRPAS CYMDEITHASOL, S4C
Karimah Zakia Issa
GWNEUTHURWR FFILMIAU AC ENILLYDD
GWOBR IRIS 2023
Ila Mehrotra
GWNEUTHURWR FFILMIAU
Adam Price CADEIRYDD
AELOD O’R SENEDD
Harvey Rabbit
ARTIST A GWNEUTHURWR FFILMIAU
Greg Thorpe
CYFARWYDDWR GŴYL GŴYL FFILM LGBTQIA
RHYNGWLADOL GAZE
Claire Vaughan
RHEOLWR RHAGLEN, CANOLFAN
GELFYDDYDAU CHAPTER, CAERDYDD
Nat Wilding
RHEOLWR SIOP CO-OP A PHWYLLGOR LLYWIO
RHWYDWAITH CYDWEITHIWR LHDTQ+ Y CO-OP
RHEITHGOR GWOBR IRIS GORAU YM MHRYDAIN 2024
Sara Harrak
CYFARWYDDWR PRYDEINIG-MOROCO AC ENILLYDD FFILM FER GORAU YM MHRYDAIN
GWOBR IRIS 2023
Tim Highsted CADEIRYDD
UWCH OLYGYDD FFILM FFILMIAU NODWEDD A GAFFAELWYD AR GYFER CHANNEL4 A’I BORTFFOLIO O SIANELI
Sabrina Khan
PERCHENNOG A CHYFARWYDDWR, MAASI
Laith Jaafar, MSc Assoc CIPD
CYD-GADEIRYDD RESPECT, RHWYDWAITH
CYDWEITHIWR LHDTQI + YN CO-OP
Guto Rhun
COMISIYNYDD CYNULLEIDFAOEDD IFANC YN S4C
Gary Slaymaker
ADOLYGYDD FFILMIAU
Ar gael o ddydd Mercher 9 tan ddydd Iau 31 Hydref 2024
Gwyliwch: https://watch.eventive.org/irisprize2024
Rydym yn falch iawn o allu rhannu ein rhaglenni ffilmiau byrion ar-lein am y bumed flwyddyn, Os ydych hi’n byw yn y DU, gallwch wylio pob un o’r 35 ffilm fer ryngwladol a 15 ffilm fer Gorau Ym Mhrydain pryd bynnag a ble bynnag rydych yn dymuno gwneud.
Rydyn ni wedi rhoi ychydig o bethau ychwanegol i chi gan gynnwys rhai o gynyrchiadau Iris o’r archif a phrosiect Ffilmiau Cymunedol Iris.
Cofiwch gallwch hefyd bleidleisio dros eich hoff ffilm fer, a chyflwynir y ffilm gyda’r nifer fwyaf o bleidleisiau gyda Gwobr Cynulleidfa Co-op Gwobr Iris.
Cynhyrchir Gŵyl Ffilm LHDTQ+ Gwobr Iris gan y Festivals Company Limited.
Cyfarwyddwr: Berwyn Rowlands
Rheolwr y Cwmni: Grant Vidgen
Pennaeth Gwaith Maes a’r Cyfryngau Cymdeithasol: Holly Russell-Allison
Pennaeth Newyddion a Chyfieithydd: Lynne Reynolds
Pennaeth Technegol: Kris Francies
Cyfarwyddwr Cynnwys: Harrison Williams
Cydlynydd Rhaglen a Chymorth Marchnata: Seth Edmonds
Golygydd y We a Gweithredydd Marchnata: Adnan Ahmed
Cydlynydd Diwydiant Iris: Lewis Bayley
Cydlynwyr Gwirfoddolwyr: Francis Brown a Nick McNeil
Interniaid Cymorth Marchnata: Eve Robinson Liv Eveleigh a Gemma Willmott
Cydlynydd Cyflwyno: Stuart Pomeroy
Cynhyrchydd Cynnwys Ychwanegol: El Bergonzini
Cynorthwy-ydd Asedau Sgrinio: Michael Karam
Cydlynydd y rheithgor: Mathew David
Ymgynghorydd Cronfa Ddogfennol: Angela Clarke
Darlunydd y Catalog: Samo Chandler
Rydym yn ddiolchgar i Becky a’i thîm yn Vue Caerdydd a Claire a’r tîm yn Chapter am wneud i Iris deimlo’n gartrefol a darparu cyfleusterau sgrinio rhagorol. Ni allem ddod â Gŵyl Ffilm LHDTQ+ Gwobr Iris i chi heb ein tîm o wirfoddolwyr, criw cynhyrchu digwyddiadau Prifysgol De Cymru ac interniaid anhygoel o Brifysgol Caerdydd. Diolch!
Mae Iris Prize Outreach Limited, elusen gofrestredig 1149914, yn herio gwahaniaethu ar sail rhywioldeb ac yn hyrwyddo arddangos straeon LHDTQ+ ar ffilm.
Ymddiriedolwyr: Tom Abell (Cadeirydd), Helios B, Suzy Davies, Jacquie Lawrence, Heather Small, Christopher Racster, Katie White
Tuesday 8 Oct | Dydd Mawrth 8 Hyd
14:00 Kate Herron in Conversation (Talk) USW Atrium
19:30 Opening Night Vue 4
20:45 Party: Opening Night Clwb Iris
23:00 Sing & Spin The Kings
Wednesday 09 Oct | Dydd Mercher 09 Hyd
10:00 Youth Talk Vue 2
11:45 Youth Shorts Vue 2
12:00 Happy in Your Own Skin (Iris Prize) Vue 1
14:00 Intergenerational Stories (Iris Prize) Vue 2
14:00 Lost Boys & Fairies (Talk) Clwb Iris
14:45 Perfect Endings Vue 1
16:30 Community, Micro & Education & Awards Vue 2
19:00 Hidden Master Vue 1
20:00 Last ExMas Vue 2
22:00 Drinks Mary’s
Thursday 10 Oct | Dydd Iau 10 Hyd
10:00 Sgwrs Cymraeg Vue 2
12:00 Forbidden Fruit (Iris Prize) Vue 1
12:15 Young Hearts Vue 2
14:00 The Future of Trans Representation on Screen (Talk) Clwb Iris
14:30 The Past Into Focus (Iris Prize) Vue 2
14:45 The Summer With Carmen Vue 1
17:00 Resilience (Iris Prize) Vue 2
17:15 India’s 1st Best Trans Model Agency Vue 1
19:30 Irish Shorts with GAZE Vue 1
20:00 Sunflower Vue 2
22:00 International Karaoke Golden Cross
Friday 11 Oct | Dydd Gwener 11 Hyd
10:00 The Queer Archive - In or Out? Vue 2
11:45 Into the Unknown (Best British) Vue 1
12:00 Lived Trans Stories (Iris Prize) Vue 2
14:00 DIVA Presents (Talk) Clwb Iris
14:00 Family Dynamics (Best British) Vue 1
14:45 Rookie Vue 2
16:30 Taking the Plunge (Best British) Vue 1
17:00 Roots (Iris Prize) Vue 2
19:00 Life of Riley Vue 1
20:00 Solo Vue 2
21:00 Iris Gig: Jason Kwan & GIRLBAND! Clwb Iris
21:30 In the Room Where He Waits Vue 1
Saturday 12 Oct | Dydd Sadwrn 12 Hyd
10:00 Iris Alumni Talk Vue 2
10:15 Take a Chance on Me (Iris Prize) Vue 1
11:45 Taking the Plunge (Best British) Captioned Vue 2
12:30 Dangerous Liaison (Iris Prize) Vue 1
13:30 Pass Holders’ Lunch Clayton Hotel
14:00 Family Dynamics (Best British) Captioned Vue 2
14:45 Greer Ralston - Giving It All to Art Vue 1
16:15 Into the Unknown (Best British) Captioned Vue 2
17:15 The Summer With Carmen Vue 1
19:00 Iris Awards 2024 USW Atrium
20:00 Vera & the Pleasure of Others Vue 1
21:00 Silent Disco Clwb Iris
Sunday 13 Oct | Dydd Sul 13 Hyd
12:15 Rookie Vue 1
14:30 Young Hearts Vue 1
14:30 Best of Iris 2024 Chapter 1
16:45 Sunflower Vue 1
17:30 Vera & the Pleasure of Others Chapter 1
19:00 Last ExMas Vue 1
20:00 Perfect Endings Chapter 1