Hay Festival Rhaglen i Ysgolion 2020

Page 1

I N E L G A H R N O I L O YS G 020

C

i2 a M 1 u2 a I d d L2 Dy O D D WE L L A D O N F 020 2 CY i a M 2 2 r e en w a4 G 3 d d L y D DO D E LW L A U DA O N F Y

m ddim a c a d a h r n Y ol d a l w g n o i l o g i ys


CYNNWYS Croeso 3 Cipolwg ar y rhaglen

4

Atebion i’ch cwestiynau

6

DYDD IAU 21 MAI – Cyfnod Allweddol 2 Digwyddiadau: 10am a 2.15pm

8

Digwyddiadau: 11.15am 9 Digwyddiadau: 1pm 10 DYDD GWENER 22 MAI – Cyfnodau Allweddol 3 a 4 Digwyddiadau: 10am a 2.15pm

11

Digwyddiadau: 11.15am 12 Digwyddiadau: 1pm 13

2 I C

PO

LW

G

A

R

Y

RH

AG

LE

N

TU

D

A

L

EN

4


Os oes gennych unrhyw ymholiadau cysylltwch a schools@hayfestival.com

CROESO Mae’n bleser gennym gyhoeddi Rhaglen i Ysgolion Gŵyl y Gelli 2020, gyda rhestr wych o siaradwyr amrywiol sy’n cynnig amrywiaeth ysbrydoledig o ddigwyddiadau. Mae’r prif siaradwyr ar y diwrnod cyntaf yn cynnwys y Beirdd Plant Cressida Cowell a Michael Rosen, yn ogystal â’r sêr newydd Onjali Q Rauf a Konnie Huq o Blue Peter. Ar yr ail ddiwrnod, byddwn yn croesawu awduron arbennig ac ysbrydoledig gan gynnwys Akala, Patrice Lawrence, Muhammad Khan ac Elizabeth Acevedo; yr actifyddion Laura Bates a Laura Coryton; yr hanesydd Lucy Worsley; a’r Bardd Plant enwog Jacqueline Wilson. Ar y ddau ddiwrnod, bydd yr Amgueddfa Wyddoniaeth yn perfformio ei sioe Greatest Hits, gan ychwanegu elfen ffrwydrol at y rhaglen eleni. Bydd y rhaglen, sy’n cynnig 12 o ddigwyddiadau gwych i ddewis o’u plith bob dydd, yn ysbrydoli a difyrru disgyblion yng Nghyfnodau Allweddol 2, 3 a 4. Mae’r digwyddiadau, a ariennir yn hael gan Lywodraeth Cymru a Sefydliad Gŵyl y Gelli, yn rhad ac am ddim i bob ysgol wladol. Gall ysgolion gyrraedd erbyn 10am neu 11.15am. Mae’r ddau amser dechrau yn cynnig yr un cyfleoedd i ddisgyblion glywed gan yr awduron a phrynu eu llyfrau i’w llofnodi. Edrychwn ymlaen at groesawu eich ysgol i Ŵyl y Gelli am ddiwrnod gwych o ysbrydoliaeth, gwyddoniaeth, adrodd storïau ac adloniant.Y Rheolwr Addysg, Aine Venables, a’r Cyfarwyddwr Plant, Julia Eccleshare, sy’n gyfrifol am greu Rhaglen i Ysgolion Gŵyl y Gelli.

Cyfarwyddwr Plant Gwyl y Gelli Cymru

Rheolwr Addysg Gwyl y Gelli Cymru

SUT I ARCHEBU LLE AR GYFER Y RHAGLEN I YSGOLION 1. Dewiswch 10am neu 11.15am fel eich amser cyrraedd. Mae cyrraedd yn hwyrach yn rhoi digonedd o amser ar gyfer teithio i’r Gelli. Mae’r ddau amser dechrau yn cynnig yr un cyfleoedd i weld yr awduron, chwilota trwy’r siop lyfrau, ac ati. 2. Porwch drwy’r rhaglen hon a dewis eich digwyddiadau. Gallwch ddod â chynifer o ddisgyblion ag y dymunwch. Pan fyddwch wedi cyrraedd Gŵyl y Gelli, gallwch rannu’ch grŵp yn ôl gwahanol ddigwyddiadau ar gyfer y gwahanol amseroedd, ar yr amod bod y disgyblion yn cael eu goruchwylio ym mhob digwyddiad. Yr amseroedd yw 10am, 11.15am ac 1pm NEU 11.15am, 1pm a 2.15pm. 3. Archebwch le trwy ddefnyddio’r ffurflen archebu ar-lein yn: hayfestival.org/wales/ rhaglen-ysgolion. 4. Ewch i hayfestival.org/wales/hygyrchedd i weld sut gallwn ni helpu â hygyrchedd, gan gynnwys darpariaeth ar gyfer disgyblion ag anawsterau niwrolegol. 5. Byddwn yn cysylltu â chi i gadarnhau eich lle cyn gynted ag y bo modd. Ar gyfer ysgolion yng Nghymru, rydym yn argymell y dylech wneud cais am fwrsari teithio Ewch i Weld Cyngor Celfyddydau Cymru cyn gynted ag y cadarnheir eich lle, ac o leiaf bedair wythnos cyn eich taith. 6. Byddwn yn cysylltu yn agosach at yr amser i gadarnhau trefniadau parcio. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â: schools@hayfestival.com. 3


CIPOLWG AR Y RHAGLEN DYDD IAU 21 MAI 2020

CYFNOD L2 O D D E W L L A

Dechrau am 10am... 10am

11.15am

1pm

ONJALI Q RAÚF

CRESSIDA COWELL

MICHAEL ROSEN

YR AMGUEDDFA WYDDONIAETH

CHRISTOPHER EDGE

STEFAN GATES

KONNIE HUQ

BALI RAI

PAMELA BUTCHART

CHAE STRATHIE

ELOISE WILLIAMS

EMMA CARROLL

yl 10.45am Egw

12pm Cinio

en 1.45pm Gorff

Neu ddechrau am 11.15am... 11.15am

1pm

2.15pm

CRESSIDA COWELL

MICHAEL ROSEN

ONJALI Q RAÚF

CHRISTOPHER EDGE

STEFAN GATES

YR AMGUEDDFA WYDDONIAETH

BALI RAI

PAMELA BUTCHART

KONNIE HUQ

ELOISE WILLIAMS

EMMA CARROLL

CHAE STRATHIE

12pm Cinio

l 1.45pm Egwy 4

3pm Gorffen


CIPOLWG AR Y RHAGLEN DYDD GWENER 22 MAI 2020

CYFNODAU L ALLWEDDO 3a4

Dechrau am 10am... 10am

11.15am

1pm

AKALA

ELIZABETH ACEVEDO

LUCY WORSLEY

YR AMGUEDDFA WYDDONIAETH

DEAN ATTA

LAURA BATES

JACQUELINE WILSON

JON CHASE

MUHAMMAD KHAN

PATRICE LAWRENCE

LAURA CORYTON

SUE CHEUNG

yl 10.45am Egw

12pm Cinio

en 1.45pm Gorff

Neu ddechrau am 11.15am... 11.15am

1pm

2.15pm

ELIZABETH ACEVEDO

LUCY WORSLEY

AKALA

DEAN ATTA

LAURA BATES

YR AMGUEDDFA WYDDONIAETH

JON CHASE

MUHAMMAD KHAN

JACQUELINE WILSON

LAURA CORYTON

SUE CHEUNG

PATRICE LAWRENCE

12pm Cinio

l 1.45pm Egwy 5

3pm Gorffen


CH ’ I N O I ATEB

U A N Y I T CWES

af ohonyn y fw n a h r y elli. Roedd eld eu diddordeb G Y n y l e go gw ofiad anhy dd mor gyffrous â nhw yn r b d n fo o r li fa b y y h c in disg ac roe estiynau a wyddiad ig w c d “Cafodd e enwyr anfoddog, d n i fy o w g â nh arll duron, am fle i fynd y c nhw’n dd hw wrando ar aw y mweliad y m a ’r o r a fi g o h c n nn iolc gyblion y wrth iddy Rydym ni mor dd is d in e d au. Byd y siop lyfr had ac am ddim. 8 nr y Gelli 201 l y w G , o’r fath y o r h ylw gan at byth.” – S

yngor i Weld’ C h c w ‘E fa ich io o gron nos cyn e h io h it t h y e t it w i e r t ir a a s i rsar rflen m fwr ais bed n eich ffu eud cais a haid i chi wneud c fo A oes bw n n w a u n r y m byddwch ng Nghy tau teithio ithio – r s y e y t o n c g u o a a li t lu o s d a g o e d s t c lion i Gall y n gyn i dalu ud cais cy mddifadedd Disgyb u Cymr u e a n d y w d g d a y lf d Ce niad ant A . Mae’n sy h ddefnyddio’r Gr ymweliad wc tom. Gall archebu a urflen hefyd. flwyno’r ff yw y g y w r t au? unrh ynnau s gennych u tocynn n am doc e b fy o o e s h h O c c . r w 0 a ll 2 rill 20 idol. Ga Sut mae yw 30 Eb bu’n ddig u e a h d c r ia a is i om. e e tocyn ar gyfer c yfestival.c a u h a c @ d ls ia o Caiff pob d o d h r-lein. Y dy neges e-bost at: sc archebu a h c w l? yl. u, anfon yn yr Wy u lyfrau’r Ŵ a ymholiada p r f io y s ll n y u n ngol dod gallu pry bris gosty yn nhw d n d y m id a n o h s t o r e li e o b r isgy mae c on ar w A fydd d oll awdur iwrnod, ac h d r y y r n a a i g d au ofno Bydd llyfr wedi eu ll u a fr y ll Byddant. u e fyd. blion gael ofnodi he ll Gall disgy w i’ in a d eu hun d? ar gael, on ia â’u llyfrau e ll d d d y o b w â dig llwch belled y nag un nych y ga w n nwch, cyn f e u i g m d d y y d n w y y f is am, g i ddiadau a r cyrraedd a ddew igwyddiadau am 10 y w A allwn n ig d d dd yfer ifer o mse 5am (ar g teb i’ch a m (ar gyfer unrhyw nychu cyn .1 fa fy 1 y c 1 h c ’n m w y ll a s a G 10a dau echrau digwyddia aill ai ddechrau am allwch dd rffen 3pm). g u e n dim ond ) n h er go 1.45pm wis: gallwc pm – ams 5 er gorffen s .1 2 chi eu de m a a – m am, 1p ac 1pm am 11.15 11.15am u a d ia d d ael digwy e’r Wyl? fl a s i ysgol yn c t unrhyw d b n o la p b d d o y wr ddus. B r th law grwp ma l a chyffor ydd staff yr Ŵyl w â e g d io o d d d da d n i cyntaf. B y safle, gy io i fod y r n d a a u li ll h A allwn n n o c y e g ll lw i e e w wys i’ wedi n diog ae’r safle lawn o ra cael ei thy m h n t , y e h c c ia a r w , a ll d p a d r G rrae e da h wr th gy eb ymholiadau. Ma ei chyfarc t ll. a r plant co l y dydd i o fe y d g y g r a y r w dr sfaw fn gynhwy gweithdre

ar gael?

6


A yw’r digw

yddiadau’n

hygyrch? Ydynt, mae ein lleoliadau ’n hygyrch i goch ar gyfer gadeiriau olw myfyrwyr ag yn ac mae g anawsterau c ag anawstera anddynt ddo lywed. Gallw u niwrolegol lenni sain isn wneud tre hefyd; i gael hygyrchedd. fn iadau ar gyfe mwy o wyb r ymwelwyr odaeth, ewc h i hayfestiv al.com/wales/ A allwn ni ddo

d â phec

ynnau cinio Gallwch. Mae gyda ni? digon o le ar y safle i ddis Os bydd hi’n gyblion ymla bwrw glaw, g cio a mwynh all pawb aro au yn ystod s yn sych yn yr awr ginio. y pebyll. Oes y na le i bryn

u te a choffi ar y safle? Bydd Caffi’r Cyfeillion ar a g or drwy gyd te, coffi, diod ol deuddydd ydd a byrbr y y Rhaglen i Y dau. sgolion a byd d yn cynnig Ble dylem ni ba

rcio?

Mae gan yr Ŵyl faes parc io p gilfan y tu alla n i’r safle ar H enodol ar y safle i fysiau mini. Gall by eol Aberhon iddynt adael siau dynnu i ddu er mwyn y safle drwy’r mewn i’r gadael plant Clas-ar-Wy. G penodedig i o d di ar y bws, o all gyrwyr by fysiau yng N si nd rhaid g a w u esty Basker v barcio am dd ar ddiwedd ille Hall. Bydd im y dydd. Mae y n y m aes parcio wch yn cael system unffo Basker ville H slot amser i rdd orfodol all, trwy dref a d a el y safle y n y Gelli ac ym weithredol o Wy. Byddwn laen i safle’r fa yn anfon llyth e s p a rc io Gwesty Ŵyl. Rhaid i yr â gwybod fysiau adael d aeth bellach rw y p ’r Clas-ara n fyddwch yn Pwy sy’n ar a rc h e b u lle iannu’r digw . yddiadau? Caiff ein Rha glen i Ysgolio n ei hariannu rhan o’n hym gan Lywodra rwymiad i ad eth Cymru a dysg a’r gymu Sefydliad Gŵ ned. yl y Gelli, fel

7


DYDD IAU 21 MA1 2020 Cyfnod Allweddol 2

10am a 2.15pm

ONJALI Q RAÚF The Boy at the Back of the Class

YR AMGUEDDFA WYDDONIAETH Greatest Hits

KONNIE HUQ Science, Explosions and Scribbling

CHAE STRATHIE So You Think You’ve Got it Bad? Ancient Rome

Ymunwch ag Onjali Q Raúf, awdur arobryn, wrth iddi sôn am ei stori gyntaf sydd wedi cael llawer o glod gan feirniaid. Mae’r llyfr pwysig, gwych a hygyrch hwn, sy’n adrodd stori sy’n llawn hiwmor a chalon, wedi’i seilio ar garedigrwydd a chyfeillgarwch. Bydd Onjali yn sôn am ei hysbrydoliaeth, ei phrofiadau o’r gwersylloedd ffoaduriaid a beth allwn ni i gyd ei wneud i helpu’r miliynau o ffoaduriaid ar y ddaear.

Does dim byd gwell gennym ni yn yr Amgueddfa Wyddoniaeth nag arbrawf sy’n eich syfrdanu’n llwyr. Felly, rydyn ni wedi dewis ein hoff arddangosiadau a’u cynnwys yn y sioe ffrwydrol hon i chi yng Ngŵyl y Gelli. O rocedi i driciau hud a lledrith, o greu hufen iâ yn y fan a’r lle i ergydion ysgytwol, dyma wyddoniaeth ar ei mwyaf difyr!

Ymunwch â’r awdur, y darlledwr a’r cyngyflwynydd poblogaidd Blue Peter, wrth iddi eich cyflwyno i anturiaethau doniol Cookie sy’n dwlu ar wyddoniaeth, gyda chyfle i dynnu lluniau’n fyw, cwisiau i herio’ch meddwl a llawer o gemau. Dyma ymgais cyntaf Konnie ar ysgrifennu llyfr plant ac mae Cookie wedi’i hysbrydoli gan blentyndod Konnie ei hun, ei chariad at wyddoniaeth a’r ffaith ei bod hi’n ‘nerd’ digywilydd.

Os ydych chi’n dwlu ar hanes arswydus, ymunwch â’r awdur arobryn Chae Strathie wrth iddo fynd â chi’n ôl mewn amser i’r hen Rufain i gael gwybod sut oedd bywyd i blant. Gallech fod yn dychmygu heulwen a thogâu, ond meddyliwch eto! O olchi dillad mewn pi-pi i fwyta pathewod fel byrbryd a hyd yn oed ymladd fel gladiator, paratowch am daith ryngweithiol ddoniol iawn yn ôl mewn amser i ddarganfod popeth am Rufain wyllt!

8 Mae deunyddiau addysgu ar gyfer y digwyddiadau hyn ar gael ar lein u hayfestival.org/deunyddiau-addysgol


DYDD IAU 21 MAI 2020 Cyfnod Allweddol 2

11.15am

CRESSIDA COWELL The Wizards of Once: Knock Three Times

CHRISTOPHER EDGE The Longest Night of Charlie Noon

BALI RAI Now or Never

ELOISE WILLIAMS Wilde

Byddwch yn barod i gael eich ysbrydoli gan Fardd Plant Waterstones, Cressida Cowell. Bydd yn sgwrsio am ei Siarter Bardd Plant, ei llyfr diweddaraf The Wizards of Once: Knock Three Times a How to Train Your Dragon (sydd hefyd yn gyfres ffilm a theledu). Bydd Cressida hefyd yn rhoi cyngor ar ysgrifennu a darlunio – mae arnom angen awduron a darlunwyr y dyfodol!

Mae ffuglen Christopher Edge, sydd wedi cael clod gan feirniaid, yn cymysgu storïau calonogol â gwybodaeth wyddonol. Gan ddilyn ymlaen o The Many Worlds of Albie Bright, mae ei lyfr newydd am amser yn profi unwaith eto bod gwyddoniaeth yn gallu bod yn gyffrous ac yn ddifyr.Ymunwch ag ef am ddigwyddiad rhyngweithiol yn llawn ffeithiau rhyfeddol a gwyddoniaeth gyffrous wrth iddo gyflwyno The Longest Night of Charlie Noon.

Dysgwch am y rhan anghyfarwydd o stori gwacáu Dunkirk gyda’r awdur poblogaidd Bali Rai. Mae Now or Never – A Dunkirk Story yn rhan o gyfres Voices, sy’n ceisio rhoi llwyfan i storïau dilys, anhysbys o hanes Prydeinig o safbwynt prif gymeriadau BAME. Yn y sesiwn hon, byddwch yn darganfod stori milwr Mwslimaidd ifanc yn ystod y garreg filltir allweddol hon o’r Ail Ryfel Byd.

Mae Wilde yn ysu am ffitio i mewn yn ei hysgol newydd, ond mae pethau rhyfedd yn digwydd o’i chwmpas drwy’r amser. Pan fydd y wrach o’r hen chwedl leol ‘A Witch called Winter’ yn dechrau anfon llythyrau arswydus at y myfyrwyr eraill, Wilde yw’r cyntaf i gael ei beio. Stori frawychus, gyfoes newydd am wrachod a melltithion gan Fardd Plant Cymru.

9 Mae deunyddiau addysgu ar gyfer y digwyddiadau hyn ar gael ar lein u hayfestival.org/deunyddiau-addysgol


DYDD IAU 21 MA1 2020 Cyfnod Allweddol 2

1pm

MICHAEL ROSEN Macbeth United

STEFAN GATES Science You Can Eat

PAMELA BUTCHART Icarus Was Ridiculous

EMMA CARROLL The Somerset Tsunami

Byddwch yn barod am awr o rialtwch. Ymunwch â’r enwog Michael Rosen i ddathlu geiriau newydd, hen eiriau, cerddi dwl a phlotiau cyfrwys. Dysgwch am fyd storïau gwych Michael, gan gynnwys ei lyfr newydd sbon Macbeth United, sy’n gymysgedd unigryw o bêl-droed, cynllwyniau cachwraidd a stori ysbryd gynhyrfus.

Bydd y cyflwynydd teledu a sioeau byw, Stefan Gates, yn cyflwyno’r sioe wyddoniaeth fwytadwy ryfeddol hon a fydd yn cynnwys rocedi a wnaed o fwyd, adweithiau cemegol bwytadwy, canonau fortecs, taflu fflamau, pryfed byw a’r peiriant rhechu mwyaf swnllyd yn y byd. Bydd Stefan yn defnyddio styntiau ffrwydrol i drawsnewid gwyddoniaeth gymhleth yn antur fwytadwy ddoniol, berthnasol a bythgofiadwy.

Ymunwch ag awdur arobryn Blue Peter, Pamela Butchart, wrth iddi ddychwelyd i’r Gelli am fwy o hwyl a sbri. Bydd digon i’ch difyrru wrth i Izzy a’r gang fynd i’r afael â chwedlau Groeg yn Icarus Was Ridiculous – heb sôn storïau doniol Pamela ei hun! Efallai y bydd angen i chi helpu i greu un newydd…

Ymunwch ag Emma Carroll, awdur arobryn Letters from the Lighthouse a Secrets of a Sun King, wrth iddi gyflwyno ei hantur hanesyddol newydd, The Somerset Tsunami. Byddwch yn clywed am ofergoelion lleol, brwydr i oroesi a llifogydd mawr a ysbrydolwyd gan fywyd go iawn.

10 Mae deunyddiau addysgu ar gyfer y digwyddiadau hyn ar gael ar lein u hayfestival.org/deunyddiau-addysgol


DYDD GWENER 22 MA1 Cyfnodau Allweddol 3 a 4

10am a 2.15pm

AKALA The Dark Lady

YR AMGUEDDFA WYDDONIAETH Greatest Hits

JACQUELINE WILSON We are the Beaker Girls

PATRICE LAWRENCE Rose, Interrupted

Mae Akala yn artist hip-hop, awdur ac entrepreneur cymdeithasol sydd wedi ennill BAFTA / MOBO. Cyd-sylfaenodd yr Hip-Hop Shakespeare Company, sef cwmni cynhyrchu theatr gerdd sy’n archwilio’r cysylltiadau cymdeithasol, diwylliannol ac ieithyddol rhwng gwaith William Shakespeare a gwaith rapwyr cyfoes. The Dark Lady yw ei nofel gyntaf i’r arddegau, a ysbrydolwyd gan sonedau 127–152 Shakespeare.

Does dim byd gwell gennym ni yn yr Amgueddfa Wyddoniaeth nag arbrawf sy’n eich syfrdanu’n llwyr. Felly, rydyn ni wedi dewis ein hoff arddangosiadau a’u cynnwys yn y sioe ffrwydrol hon i chi yng Ngŵyl y Gelli. O rocedi i driciau hud a lledrith, o greu hufen iâ yn y fan a’r lle i ergydion ysgytwol, dyma wyddoniaeth ar ei mwyaf difyr!

Ymunwch â’r Fonesig Jacqueline Wilson, sy’n annwyl gan lawer, i ddarganfod sut y dechreuodd ei gyrfa ysgrifennu, sut y creodd rhai o’i chymeriadau mwyaf poblogaidd, a chlywed am ei llyfr newydd sbon, We are the Beaker Girls. A hithau’n gyn Fardd Plant ac awdur dros 100 o lyfrau, y Fonesig Jacqueline Wilson yw un o’r awduron plant mwyaf poblogaidd ym Mhrydain.

Patrice Lawrence yw un o’r sêr oedolion ifanc mwyaf yn y Deyrnas Unedig. Mae ei llyfr diweddaraf sy’n procio’r meddwl, sef Rose, Interrupted, yn archwilio dod i oedran ac yn edrych ar ein byd cyfoes trwy lygaid gwahanol. Mae’r arddegau’n gyfnod digon anodd, ond mae’n anoddach fyth mewn byd cwbl ddieithr…

Sylwer na fydd cyfle i lofnodi llyfrau ar ôl y digwyddiad hwn, ond bydd platiau llyfr argraffedig â llofnod Jacqueline arnynt ar gael o’r siop lyfrau.

11 Mae deunyddiau addysgu ar gyfer y digwyddiadau hyn ar gael ar lein u hayfestival.org/deunyddiau-addysgol


DYDD GWENER 22 MA1 Cyfnodau Allweddol 3 a 4

11.15am

ELIZABETH ACEVEDO Clap When You Land

DEAN ATTA The Black Flamingo

JON CHASE A Science Rapper’s Guide to the Environment

LAURA CORYTON Speak Up!

Ganwyd a magwyd Elizabeth Acevedo yn Efrog Newydd, lle y dechreuodd berfformio barddoniaeth. Mae’n Bencampwr Slam Barddoniaeth Cenedlaethol ac wedi ymddangos yn Cosmopolitan, yr Huffington Post a Teen Vogue. Nofel fydryddol naratif deuol yw Clap When You Land sy’n llawn galar a chariad, dinistr colled, anhawster maddau a’r clymau chwerwfelys sy’n ffurfio ein bywydau.

Mae The Black Flamingo gan Dean Atta, sef un o feirdd mwyaf blaenllaw’r Deyrnas Unedig, yn stori ‘dod i oedran’ rymus am hil, hunaniaeth, treftadaeth a rhywedd, wedi’i hysgrifennu’n fydryddol. Mae Dean yn trafod sut y gallwch gofleidio eich unigrywiaeth a chanfod eich nerth mewnol, gan roi cyngor ar ysgrifennu a pherfformio ar yr un pryd.

Mae STEM wedi cael effaith fawr ar ein gallu i ateb cwestiynau fel ‘sut mae ein hamgylchedd yn ein cynnal ni?’ a ‘pha effaith rydym ni’n ei chael arno?’ Dysgwch fwy am bwysigrwydd y Ddaear a’n perthynas â hi gyda’r rapiwr gwyddoniaeth, Jon Chase, yn y sioe hon sy’n llawn gwyddoniaeth a rap

Laura Coryton yw’r ferch ysbrydoledig a arweiniodd yr ymgyrch ryngwladol yn erbyn y dreth damponau a lofnodwyd gan fwy na chwarter miliwn o bobl ac sydd wedi arwain at newidiadau i’r gyfraith yn y Deyrnas Unedig ac yn Ewrop. Enillodd wobr Meddyliwr Radicalaidd Newydd y Guardian hefyd ac fe’i henwyd yn brif newidiwr anhysbys y byd gan yr Independent yn 2015.

12 Mae deunyddiau addysgu ar gyfer y digwyddiadau hyn ar gael ar lein u hayfestival.org/deunyddiau-addysgol


DYDD GWENER 22 MA1 Cyfnodau Allweddol 3 a 4

1pm

LUCY WORSLEY The Austen Girls

LAURA BATES The Burning

MUHAMMAD KHAN Kick the Moon

SUE CHEUNG Chinglish

Ymunwch â’r hanesydd teledu poblogaidd, Lucy Worsley, wrth iddi gyflwyno bywyd diddorol Jane Austen mewn ffordd wahanol iawn – o safbwynt ei nithoedd! Daw pob un o’r merched Austen yn arwresau eu storïau eu hunain yn eu tro – ymunwch â ni ar gyfer y digwyddiad cyffrous hwn i ddarganfod sut. Gallwch ddisgwyl gwisgoedd, ffeithiau diddorol, a llawer, llawer mwy.

Bydd yr awdur poblogaidd a sylfaenydd y prosiect Everyday Sexism, sef Laura Bates, yn trafod ei nofel gyntaf, The Burning. Mae’r nofel yn adrodd storïau Anna 15 oed sy’n cael ei bwlio’n ddidrugaredd ar ôl i lun bronnoeth ohoni fynd o amgylch ei hysgol, a Maggie, a gyhuddwyd o fod yn wrach gannoedd o flynyddoedd ynghynt. Mae Laura yn archwilio rhywiaeth mewn ysgolion.

Enillodd Muhammad Khan wobr Branford Boase 2019 a chafodd ei nofel gyntaf I Am Thunder lawer o glod gan feirniaid, gan ei sefydlu’n gadarn fel llais cyffrous ym myd llenyddiaeth oedolion ifanc. Kick the Moon yw ail nofel Muhammad ac mae’n archwilio materion cymdeithasol fel gwrywdod niweidiol a phwysau gan gyfoedion. Mae ganddo radd mewn peirianneg yn ogystal ag MA mewn Ysgrifennu Creadigol.

Mae Jo Kwan yn ferch yn ei harddegau sy’n byw uwchben siop gludfwyd Dsieineaidd ei rhieni yng Nghofentri yn y 1980au gyda’i chwaer fach bryfoclyd a’i brawd hŷn sy’n rhy cŵl o lawer, cyfres o anifeiliaid anwes anffodus iawn a rhieni cwbl wallgof. Mae Chinglish, sydd ar ffurf cofnodion dyddiadur, wedi’i seilio ar fywyd Sue Cheung, ac mae’n rhoi portread gonest iawn o fywyd ar ochr arall y cownter cludfwyd.

13 Mae deunyddiau addysgu ar gyfer y digwyddiadau hyn ar gael ar lein u hayfestival.org/deunyddiau-addysgol


u FF RWD FYW Byddw n ddydd yn ffrydio’r rh Ia mwy o u 21 a dydd aglen i ysgol io G w hayfes ybodaeth a wener 22 M n yn fyw tival.o a c rg/live hofrestru, e i. I gael wch i stream u CH WAR Y GE AEYD LLI D Gallwc h fynd a sain a R fideo e t archif T N E G AU R A P in Rha i Ysgol RY N glen ion ar CYF ’I Chwar y Gelli EDI a W e (s ydd O YDI GAN waelod groliwch i FFR NNU A y ARI hayfes dudalen) y n tival.o rg/hay player u CY NLLU NIAU Gallwc GWE h RSI Rhagle fynd at adno n i Ysg d olion y dau addysgu n hayf estiva ar gyfer awd u CY l.org/d MERW eunyd uron ein CH R diau-a Dysgw ddysgo AN ch fwy l am bro gyfer p obl ifa s i nc, gan ectau ehan Phrosi gac ec gy ar gyfe t y Bannau, nnwys Cwm h Gwyl y G se ell r p hayfes pobl ifanc 16 f cwrs presw awd Gwyl y i ar G tival.o yl ysgr – rg/edu 18 oed, yn ifennu elli a cation am dd im


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.