Canllaw ar yr Etholiadau 2025 CYM

Page 1


CanllawaryrEtholiadau 2025

Ynglŷnâ’rcanllawhwn

Lawrlwytho’r pecyn gwybodaeth hwn yw’r cam cyntaf tuag at ddod yn swyddog etholedig, ond peidiwch â phoeni os nad ydych chi’n gwybod am sut mae Undeb y Myfyrwyr yn cael ei redeg, caiff ei esbonio ar wefan ac yn sesiwn briffio’r ymgeiswyr! Does dim angen profiad blaenorol arnoch ar gyfer y swyddi hon. Mae hyfforddiant i bawb sy’n llwyddiannus felly yr unig beth sydd angen ydy’r brwdfrydedd a’r hyder i ddwyn perswâd ar fyfyrwyr eraill mai chi fydd orau am y swydd!

Trwy ddod yn swyddog etholedig, p’un ai yn llawn amser neu’n rhan amser, fe gewch chi feithrin sgiliau ar gyfer y dyfodol a fydd yn cryfhau eich CV! Nid pawb sy’n cael dweud eu bod wedi bod yn bennaeth ar gwmni ac elusen yn syth ar ôl graddio!

Ceir yn y canllaw hwn popeth sydd angen ei wybod am sefyll yn ein hetholiadau! Efallai ei bod yn ymddangos yn ddogfen hir a brawychus ond rwy’n addo nad oes angen poeni… er ei bod yn rhy hir braidd, rydyn ni am sicrhau eich bod chi’n deall pob un dim o bwys!

Mae’r Canllaw hwn yn rhoi cyngor ymarferol i ymgeiswyr sy’n sefyll yn yr etholiadau ac yn cael ei gynnal gan yr is-ddeddf ar etholiadau yn ein cyfansoddiad. Yn ystod prosesau’r etholiadau pan yn rhoi cyngor ac yn dyfarnu yn ôl yr angen, ni chaiff ei ddehongli gan neb ond Dirprwy Swyddog yr Etholiadau (DSE) a Swyddog yr Etholiadau (SE) yn unig. Y DSE yw’r un sy’n hwyluso’r etholiadau ac atynt y mae dyfarniadau a chwynion yn cael eu cyfeirio. Os bydd rhaid, yn eu barn nhw, byddant yn cyfeirio’r mater at y SE sy’n aelod staff yn Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr. Peter Robertson ydy’r SE eleni, Cyfarwyddwr UCM Elusennol.

Os oes unrhyw beth yma nad ydy’n glir neu fod angen gwybodaeth bellach arnoch am rywbeth, mae croeso i chi ddod i Undeb y Myfyrwyr neu anfon e-bost at: ben.sanders@wrexham.ac.uk

Pob lwc, a phob hwyl gyda’r ymgyrchu!

UMWStrwythur

SwyddiLlawnAmser

Y Llywydd

Llywydd yr UM sydd ar frig yr UM, a’r llywydd sydd â’r pŵer i wneud newid gwirioneddol ar gyfer myfyrwyr.

Mae’r swydd hon yn debyg ei natur i wleidyddiaeth genedlaethol, bydd yn rhaid i chi ysgrifennu maniffesto a

Chyngor y Myfyrwyr ac Ymddiriedolwyr fydd yn eich dwyn i gyfrif.

Yr Is-Lywydd

Is-Lywydd yr UM ydy’r ail uchaf, o dan y Llywydd, ac yn swydd sy’n agor y drws i gyrraedd y pen un dydd. Mae’r Is-Lywydd yn ymgyrchu dros eu maniffesto eu hun ac yn debyg i’r Llywydd, byddant yn atebol iddo.

Ceir yma grynodeb o’r ddwy swydd llawn amser.

Swyddi Swyddogion Llawn Amser (SLlA)

Mae dwy swydd llawn amser cyflogedig i’w cael yn yr etholiadau.

Swyddi: 1 x Llywydd, 1 x Is-Lywydd

Cyflog: £21,000+ yr un yn ogystal â llety AM DDIM ym Mhentref Myfyrwyr Wrecsam.

Hyd: Blwyddyn gyfan yn llawn amser o fis Gorffennaf 1af 2025 - mis Mehefin 30ain 2026.

Crynodeb o’r dyletswyddau (ond nid yn unig):

• Bydd y ddau Swyddog Llawn Amser yn aelodau Bwrdd Ymddiriedolwyr

Undeb y Myfyrwyr gyda’r Llywydd yn gadeirydd. Dyma pryd y gwneir penderfyniadau ariannol a strategol yr UM.

• Bydd y ddwy swydd yn cynrychioli pob myfyriwr/wraig Prifysgol Wrecsam ar

uwch bwyllgorau’r Brifysgol, hynny yw Bwrdd y Llywodraethwyr, yr Uwch Dîm

Arwain, y Bwrdd Academaidd a’r Pwyllgor Dysgu, Addysgu ac Ansawdd.

• Byddwch yn atebol i Gyngor y Myfyrwyr, lle byddwch yn gweithredu ar y gwaith a benodir gan y Cyngor trwy gydol y flwyddyn.

• Byddwch yn gwireddu yr ymgyrchoedd a nodir yn eich maniffestos, gan Gyngor y Myfyrwyr, ac yn sgil adborth myfyrwyr.

• Byddwch allan yn aml yn siarad gyda myfyrwyr am eu profiad a’u hannog i

fanteisio ar eu Hundeb y Myfyrwyr tra’n cyflawni’r ymrwymiadau yn eich maniffesto!

Rhoddir hyfforddiant llawn a chefnogaeth barhaus i swyddogion - ni chewch byth eich taflu i’r pen dwfn!

Gweler disgrifiad swydd y Swyddogion Llawn Amser ar dudalen yr etholiadau a geir ar wefan yr UM neu is-ddeddfau Undeb y Myfyrwyr.

SwyddiRhanAmser

Swyddi ar gael:

• Cadeirydd Cyngor y Myfyrwyr

• Swyddog Cynaliadwyedd

• Syddog LHDT+

• Swyddog Myfyrwyr Rhyngwladol

• Swyddog Yr Laith Gymraeg

• Swyddog Y Menywod

• Swyddog Myfyrwyr Mewn Sefydliadau Partner

• Swyddog Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

• Swyddog prentisiaeth gradd

• Swyddog Ôl-raddedig

• Swyddog Llanelwy

• Swyddog Llaneurgain

• Swyddog Stryt y Rhaglaw

• Myfyriwr Aeddfed, Rhiant neu Gofalwr i Rywun

Swyddi Rhan Amser (PTOs)

Mae 14 swydd wirfoddol ran amser i’w cael yn yr etholiadau.

Y Swyddi: Gweler gwefan Undeb y Myfyrwyr i gael rhestr o’r swyddi.

Hyd: Blwyddyn yn rhan amser a gwirfoddol o fis Gorffennaf 1af 2025 - mis Mehefin 30ain 2026.

Crynodeb o’r Dyletswyddau (ond nid yn unig):

Fel Swyddog Rhan Amser, byddwch yn dod yn aelod llawn o Gyngor y Myfyrwyr ac mae disgwyl i chi fynychu hyd at 4-5 cyfarfod y flwyddyn.

• Chi fydd yn cynrychioli eich demograffig o fyfyrwyr ar y Cyngor ac yn y

Brifysgol - efallai bydd rhaid i chi fynychu pwyllgorau’r Brifysgol.

• Byddwch yn dwyn y Swyddogion Llawn Amser i gyfrif ac yn llywio eu gwaith am y flwyddyn.

• Gwireddu pwyntiau eich maniffesto ac ymgyrchoedd perthnasol i fyfyrwyr.

• Cynnig a phleidleisio dros awgrymiadau gan gorff y myfyrwyr i osod polisïau’r Undeb.

• Cynrychioli ar ran yr UM gan hyrwyddo ei wasanaethau ac annog myfyrwyr i gymryd rhan.

Rhoddir hyfforddiant llawn a chefnogaeth barhaus i swyddogion - ni chewch byth eich taflu i’r pen dwfn!

Gweler disgrifiad swydd y Swyddogion Rhan Amser ar dudalen yr etholiadau a geir ar wefan yr UM neu isddeddfau Undeb y Myfyrwyr.

https://www.wrexhamglyndwrsu.org.uk/

DyddiadauAllweddol:

Sutienwebu:

Os ydych chi am sefyll yn yr etholiadau, mae rhaid i chi wneud trwy wefan Undeb y Myfyrwyr.

28ain mis Chwefror 2025 am 12yh ydy’r dyddiad cau i sefyll.

Cam 1 - Bydd rhaid i chi roi datganiad ysgrifenedig at ei gilydd (maniffesto) yn eich cyflwyno eich hun (gall y Ganolfan Gyrfaoedd

neu aelod tîm yr UM eich helpu gyda hyn), yn nodi pam y dylai myfyrwyr bleidleisio drostoch ac yn bwysicach fyth, beth wnewch

chi os yn llwyddiannus. Bydd rhaid i chi ysgrifennu 500 gair a cheir cymorth gydag ysgrifennu maniffesto ar dudalen yr etholiadau ar wefan Undeb y Myfyrwyr.

Cam 2 - Cynnwys llun ohonoch chi’ch hun (dim ond y pen). Hwn fydd y llun ohonoch y bydd pobl yn ei weld fwyaf yn trwy gydol eich ymgyrch, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn hoff ohono!

Cam 3 - Ewch i www.wrexhamglyndwrsu.org.uk/ a mewngofnodi gyda manylion eich cyfrif Prifysgol Wrecsam (cysylltwch â’r UM os cewch chi unrhyw drafferth)

Cam 4 - Cliciwch ar eich enw yn y gornel dde uchaf ac yna dewiswch ‘account/profile’. Ar yr ochr chwith, dewiswch ‘my nominations’ ac yn olaf, cliciwch ar yr Etholiadau a dilynwch y cyfarwyddiadau (os nad yw’r etholiadau yn ymddangos, cysylltwch â ni).

Cam 5 - Aros am e-bost i gadarnhau oddi wrth Undeb y Myfyrwyr a fydd yn manylu ar y camau nesaf ac i chi ddechrau ar ddod â’ch tîm at ei gilydd a chynllunio eich ymgyrch.

Os ydych chi’n cael problemau tra’n enwebu, cysylltwch â: ben.sanders@wrexham.ac.uk

Rhestrobethaui’wgwneud

1. Yn meddwl am sefyll? Ystyriwch ba swydd fyddai’n gweddu i chi orau. Mae aelod staff Undeb y Myfyrwyr neu’r Tîm Gyrfaoedd yn gallu eich cefnogi gyda hyn! Heb wneud penderfyniad eto? Cysylltwch â ben.sanders@wrexham.ac.uk

2. Wedi dod ar draws y swydd berffaith? Gwych! Yn nesaf bydd rhaid i chi gael tynnu eich llun ac ysgrifennu eich datganiad/maniffesto o 500 gair ar y mwyaf (mae cymorth i’w gael ar dudalen etholiadau gwefan Undeb y Myfyrwyr).

3. Wedi hynny, bydd yn rhaid i chi feddwl am eich ymgyrch! Dewch â’ch tîm ynghyd a chynlluniwch eich ymgyrch.

4. Cofiwch gyflwyno eich enwebiad cyn y dyddiad cau - gyda’ch llun a’ch datganiad/maniffesto ysgrifenedig yn barod.

5. Mynychu Hyfforddiant i Ymgeiswyr, mae hyn yn hanfodol. Yn methu â mynychu? Cysylltwch â: ben.sanders@wrexham.ac.uk

6. Rydych chi bellach yn barod i ymgyrchu! Ewch ati i siarad â myfyrwyr!

7. Ewch i noson y canlyniadau a dewch â’ch tîm ymgyrchu - dathlwch yr holl waith caled aeth tuag at eich ymgyrch!

Pob lwc!

UMW

Poblwc!

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.