Canllaw Cynrychiolwyr Cwrs (Partneriaethau) 2025-26

Page 1


Canllaw Cynrychiolwyr Cwrs

PartneriaethauAcademaidd

2025/26

I

Cynnwys:

- Rhagair Llywydd Undeb y Myfyrwyr a Phennaeth y Partneriaethau

- Ynglŷn ag Undeb Myfyrwyr Wrecsam

- Etholiadau UM

- Beth ydy Cynrychiolydd Cwrs?

- Etholiadau Cynrychiolwyr Cwrs

- Unitu: Popeth sydd angen ei wybod arnoch

- Fforymau Llais y Myfyrwyr

- Cyfrifoldebau

- y Ganolfan Gynghori

- Cysylltiadau Defnyddiol

Rhagair

LlywyddUndebyMyfyrwyr

Helo a chroeso!

Yn gyntaf oll, diolch i chi am sefyll i fod yn Gynrychiolydd Cwrs Mae eich swydd yn hollbwysig wrth lywio y profiad myfyriwr a sicrhau bod pob llais ar eich cwrs yn cael ei glywed. Fel cynrychiolydd, chi ydy’r bont rhwng y myfyrwyr a’r staff, a’ch dealltwriaeth, eich ymrwymiad a’ch gwaith eirioli yn gwneud gwahaniaeth go iawn.

Mae’r canllaw hwn am fod yn gefn i chi trwy gydol eich amser fel Cynrychiolydd Cwrs - ni waeth a fyddwch yn dechrau am y tro cyntaf neu yn dychwelyd efo profiad. Yn hwn, ceir popeth sydd angen ei wybod, o gyfrifoldebau a gwybodaeth gyffredinol am Undeb y Myfyrwyr i sut mae casglu adborth a chodi pryderon yn effeithiol. Ei fwriad ydy rhoi i chi’r hyder a’r sgiliau bob cam o’r daith.

Nid mynychu cyfarfodydd yn unig ydy hanfod Cynrychiolydd Cwrs, mae hefyd yn ymwneud â sicrhau bod lleisiau myfyrwyr yn cael eu clywed er mwyn gwella ein hamgylchedd dysgu a phleidio achos llais y myfyrwyr ym mhob man y mae angen ei glywed.

Ar ran Undeb y Myfyrwyr, diolch i chi am eich ymrwymiad ac am fod yn rhan o rywbeth sydd wirioneddol o bwys. Rwy’n edrych ymlaen at weld beth gallwn ni ei gyflawni gyda’n gilydd eleni.

Mae croeso i chi gysylltu â fi os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech chi wybod mwy am sut gallwch chi fod yn rhan o newid dyfodol Prifysgol Wrecsam. Dyma ddymuno’r gorau i chi am eleni, pob lwc!

Freya Groom

Students’ Union President

Freya Groom

Llywydd Undeb y Myfyrwyr.

Rhagair

SwyddfaPartneriaethauAcademaidd

Mae’r Swyddfa Partneriaethau yma i’ch cefnogi ynghyd ag Undeb y Myfyrwyr a Llywydd Undeb y Myfyrwyr ar hyd eich taith fel cynrychiolydd cwrs yma yn y Brifysgol. Mae’r canllaw hwn yn rhoi’r wybodaeth angenrheidiol i ddod yn gynrychiolydd cwrs llwyddiannus a bod yn bont rhwng corff y myfyrwyr a’r Brifysgol, a rhwng myfyrwyr ac Undeb y Myfyrwyr.

Mae eich swydd yn hollbwysig. Mae swyddogaeth rannu llais corff y myfyrwyr efo’r Brifysgol yn un o bwys mawr, ac rydych chi’n chwarae rhan hanfodol wrth fynegi’r llwyddiannau, lle i wella, gwelliannau a phryderon efo ni. Fel cynrychiolydd cwrs, mae gennych chi’r cyfle i ddylanwadu ar y ffordd rydyn ni’n gweithio a chefnogi ein myfyrwyr i alluogi ein myfyrwyr i wneud y gorau o’u hamser ym Mhrifysgol Wrecsam. Dyma ddymuno pob llwyddiant i chi yn eich swydd newydd.

YnglŷnagUndeb MyfyrwyrWrecsam

Beth ydy Undeb y Myfyrwyr?

Mae Undeb y Myfyrwyr yn gorff cynrychioliadol i fyfyrwyr, dan arweiniad myfyrwyr. Nod Undeb y Myfyrwyr ydy hybu lles a chydraddoldeb myfyrwyr ym Mhrifysgol Wrecsam a’i phartneriaid academaidd a bod yn gefn i unrhyw un sydd â phryderon tra eu bod yn astudio yn y Brifysgol.

Fel myfyriwr/wraig Prifysgol Wrecsam cofrestredig, waeth a ydych chi’n astudio ar gampws Prifysgol Wrecsam, neu mewn un o’r Sefydliadau Partner lleol, cenedaelthol, neu ryngwladol, mi ddewch chi’n aelod Undeb y Myfyrwyr yn awtomataidd. Os mynnwch ddewis peidio ag ymaelodi, cysylltwch â ni yn uniongyrchol trwy anfon e-bost at union@wrexham ac uk

Corff hunan-lywodraethol, awtonomaidd, annibynnol ydy Undeb y Myfyrwyr. Y Llywydd a’r Is-Lywydd ydy’r ddau swyddog sabothol a etholir i’r swydd bob blwyddyn gan gorff y myfyrwyr, efo uchafswm o ddwy flynedd yn y swydd.

Cyngor y Myfyrwyr ydy un o’r pwyllgorau uchaf yn Undeb y Myfyrwyr. Ei hanfod ydy gosod polisi’r Undeb a dal eich cynrychiolwyr etholedig i gyfrif.

Os hoffech chi sefyll am safle ar Gyngor y Myfyrwyr, neu fynychu cyfarfodydd i arsylwi fel myfyriwr/wraig, gadewch i ni wybod trwy gysylltu â carrie bennett@wrexham ac uk Fel Cynrychiolydd Cwrs, fe gewch chi’r cyfle i fod yn rhan o hyrwyddo a datblygu Undeb y Myfyrwyr yn ogystal â gweithio tuag at newid polisi yn yr Undeb a’r sefydliad.

EtholiadauUM

Mae Etholiadau Undeb y Myfyrwyr yn Wrecsam yn gyfle cyffrous i fyfyrwyr lywio eu profiad o’r brifysgol Mae’r etholiadau hyn yn penderfynu arweinyddiaeth Undeb y Myfyrwyr, gan gynnwys swyddi llawn amser fel y Llywydd a’r Is-Lywydd, yn ogystal â swyddi rhan amser fel y Swyddog LDHTC+ a’r Swyddog Graddau Prentisiaeth.

Mae’r broses yn cynnwys enwebu, ymgyrchu, a phleidleisio ar-lein, gan sicrhau bod llais pob myfyriwr yn cael ei glywed Mae’r swyddogion etholedig yn cynrychioli corff y myfyrwyr, trefnu digwyddiadau, a gweithio’n agos efo staff y brifysgol i ysgogi newid cadarnhaol ar y campws. Mae Cyngor y Myfyrwyr hefyd yn chwarae rhan allweddol wrth helpu gosod polisi’r Undeb a dwyn swyddogion i gyfrif.

Y tro diwethaf, mi roddom ni dro hwyl arni efo’n hymgyrch “I Give a Duck about the SU”gan wisgo crysau-T anarferol, cynnal stondinau bachu hwyaid, a dosbarthu hwyaid UM am ddim. Daeth ag egni, chwerthin, a bwrlwm i’r campws!

Heb sôn am yr hwyl, gwneud newid go iawn sydd wrth wraidd yr etholiadau hyn. Mae sefyll yn rhoi i chi y cyfle i arwain, meithrin sgiliau gwerthfawr, a gadael eich argraff Rhoddir hyfforddiant a chefnogaeth llawn gan staff UM, ac os cewch eich ethol i swydd llawn amser, fe gewch eich talu am flwyddyn sabothol. Cynhelir yr etholiadau bob mis Mawrth, efo ail rownd fis Hydref ar gyfer unrhyw swyddi gwag.

Waeth a fyddwch chi’n sefyll neu bleidleisio, cymerwch ran a dywedwch eich dweud!

Undeb y Myfyrwyr ETHOLIADAU

Bethydy CynrychiolyddCwrs?

Rydyn ni’n dibynnu ar gynrychiolwyr cwrs i fod yn aelodau ymgyrchu gweithgar o Undeb y Myfyrwyr a fydd yn gweithio tuag at y nod o wella’r profiad myfyriwr Nhw sy’n glust i farn y myfyrwyr, yn gweithio i fynd i’r afael â materion adrannol lleol ee safonau adborth, neu’r cyfleusterau sydd ar gael i fyfyrwyr a llawer mwy.

Mae Cynrychiolwyr Cwrs yn gyfrifol am ymgysylltu a monitro Unitu, man diogel ar-lein ar gyfer adborth a thrafod Unitu ydy lle mae cynrychiolwyr myfyrwyr a staff yn gallu codi, trafod a datrys materion academaidd a mwy cyffredinol eu natur, canmol, gofyn cwestiynau, neu roi adborth adeiladol yn ddienw. Mae’n caniatáu i’r Brifysgol ymateb a gweithredu ar adborth ar yr un pryd i sicrhau eich bod yn cael y profiad myfyriwr gorau posibl efo ni yma ym Mhrifysgol Wrecsam.

Fel arfer, gwahoddir cynrychiolwyr cwrs (a’u cyfoedion os mynnant) i fynychu Fforwm Llais y Myfyrwyr (efallai fod enw arall ar y fath yma o ddigwyddiad yn eich sefydliad). Ar brydiau, efallai bydd gofyn i gynrychiolydd cwrs gynrychioli barn nad ydynt yn cytuno â hi, ond os mai barn y myfyrwyr ydy hon, yna eu cyfrifoldeb nhw ydy ei chodi hyd eithaf eu gallu

Pam dod yn gynrychiolydd cwrs?

Cydnabyddiaeth gan eich cyfoedion trwy adborth personol

Cyfle i gael eich enwebu ar gyfer gwobr yng Ngwobrau blynyddol UM

Gwella eich sgiliau cyflogadwyedd, y gallwch fynd â nhw â chi i’ch gyrfaoedd yn y dyfodol

Ond bennaf oll, chi fydd yn gwneud newid cadarnhaol i’r profiad myfyriwr, nid er budd eich cyfoedion yn unig ond er budd holl fyfyrwyr y dyfodol!

Etholiadau CynrychiolwyrCwrs

Efallai fod gan eich sefydliad ei brosesau democrataidd ei hun ond yma rydyn ni’n rhannu ein gweithdrefnau a’n hamcanion ar gyfer y flwyddyn nesaf, os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu bryderon, mae croeso i chi gysylltu’n uniongyrchol â ni neu’u rhoi ar Unitu

Dylid cynnal etholiadau ar ddechrau’r tymor i bob carfan. Sylwer, os cawsoch eich ethol yn y blynyddoedd diweddar, nid ydy’n golygu y cewch eich ail-ethol yn awtomataidd oni bai bod y garfan yn gytûn.

Mae Cynrychiolwyr Cwrs yn cael eu hethol gan eu carfan - nid gan y staff (er mwyn diwallu anghenion ein gweithdrefnau democrataidd).

Gofynnwn am o leiaf 1 cynrychiolydd ar bob lefel fesul cwrs bob blwyddyn.

Dylai staff academaidd ofyn i’r rheini sydd am sefyll i roi eu henwau ymlaen a dylid cynnal etholiad.

Chi sy’n penderfynu sut y cynhelir yr etholiad, boed ar lein neu trwy roi pleidlais i mewn i flwch. Rhaid i’r weithdrefn bleidleisio fod yn ddemocrataidd a theg. Unwaith y cynhelir etholiad yn llwyddiannus, dylai staff anfon e-bost at carrie.bennett@wrexham.ac.uk efo cadarnhad a manylion y cynrychiolwyr cwrs etholedig.

Bydd cynrychiolwyr cwrs yn eu tro yn cael e-bost efo’r camau nesaf gan gynnwys cyfleoedd hyfforddi a gwybodaeth i’w cefnogi.

Unitu

Llwyfan llais myfyrwyr ar-lein ydy Unitu, lle medr myfyrwyr adael adborth a chael ymatebion mewn amser real.

Actifadu eich cyfrif myfyriwr yma

Mae hyfforddiant ar gael i fyfyrwyr a staff, ond ceir yma esboniad byr o sut mae llwyfannau yn gweithio a’u dibenion.

Bydd myfyrwyr yn rhannu adborth ar eu profiadau gan adael sylwad ar eu Unitu Board boed yn sgil anogaeth neu ar eu liwt eu hun. Gall yr adborth hwn, yn ogystal â thrafodaethau fod yn ‘Canmol/Mater/Cwestiwn/Syniad’. Ni fydd cynnwys y sylwad yn ymddangos i staff ar yr adeg hon.

Gall cynrychiolwyr cwrs adolygu y sylwadau adborth ac ymateb lle bo’n briodol

Gall cynrychiolwyr rannu yr adborth efo staff yn yr adran, gan ei symud ymlaen i’r cam nesaf, ‘Opened’. Yma, medr staff weld cynnwys yr adborth a rhoi ymateb ee esbonio y caiff newid ei weithredu mewn ymateb i’r adborth.

Wedyn, medr staff symud yr adborth i’r cam nesaf sef, ‘In Progress’ neu’r cam olaf, ‘Closed’ gan ddibynnu ar eu hymateb

Caiff newid a gwelliannau yn yr adran/cynllun eu cofnodi wedyn yn yr adran ‘Together

We Changed’ o’r Unitu Board.

Gall yr adborth a geir oddi wrth yr Unitu Board gael ei gasglu a’i ddefnyddio gan gynrychiolwyr cwrs yn Fforymau Llais y Myfyrwyr ddwywaith y flwyddyn

O ran hyfforddiant pellach neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â carrie.bennett@wrexham.ac.uk neu ewch i unitu.co.uk i gael gwybodaeth bellach.

FforymauLlaisy Myfyrwyr

Cynhelir Fforymau Llais y Myfyrwyr ddwywaith y flwyddyn sy’n rhoi i gynrychiolwyr cwrs y cyfle i drafod ansawdd eu profiad dysgu. Cam pwysig ydy hwn a fydd naill ai yn mynd ymhellach â’r adborth a geir gan fyfyrwyr neu ei gau.

Fel arfer, rhennir dyddiad a lleoliad y cyfarfodydd ar ddechrau’r flwyddyn academaidd ac mae modd eu cynnal mewn mwy nag un ffordd boed ar-lein neu wyneb-yn-wyneb.

Yn fwy na dim, prif ddyletswydd unrhyw gynrychiolydd cwrs ydy mynychu Fforwm Llais y Myfyrwyr.

Unitu ydy’r llwyfan orau o ran casglu adborth ar gyfer Fforymau Llais y Myfyrwyr ond rydyn ni’n annog cynrychiolwyr cwrs i hel adborth ym mha bynnag modd y dymunant. Boed trwy sgwrs grŵp WhatsApp, e-byst, neu gofnodion cyfarfod.

Pwy sy’n cael mynychu?

Pob myfyriwr/wraig cofrestredig o fewn yr adran

Cynrychiolwyr etholedig

Arweinwyr cwrs a modiwl

Aelod Undeb y Myfyrwyr

Dylai’r cyfarfod gael ei gadeirio gan rywun o’r tu allan i’r adran er y cânt ddod o’r ysgol ei hun er tegwch.

Er nad oes agenda benodol, dylid canolbwyntio ar y myfyrwyr bob tro gan gynnwys: Cadarnhau pa gynrychiolwyr cwrs sydd wedi bod mewn cysylltiad â myfyrwyr cyn y cyfarfod a pha weithdrefnau a ddefnyddiwyd

Adborth a’r diweddaraf ar gamau a gwblhawyd ers y cyfarfod diwethaf ac unrhyw faterion sydd wedi codi ers hynny

Beth sy’n digwydd ar ôl Fforwm Llais y Myfyrwyr?

Dylid rhoi adborth ar gamau o Fforymau Llais y Myfyrwyr i fyfyrwyr trwy eich Amgylchedd Dysgu Rhithwir (VLE) cyn pen pythefnos wedi Fforwm Llais y Myfyrwyr. Bydd yr arweinydd cwrs neu’r aelod staff perthnasol yn dilyn unrhyw faterion a rhoi gwybod i gynrychiolwyr cwrs am unrhyw ganlyniadau neu newidiadau Mae disgwyl wedyn, bod y cynrychiolwyr cwrs ac arweinydd y rhaglen yn anfon y canlyniadau hyn yn ôl i’r myfyrwyr trwy wahanol ddulliau.

Cyfrifoldebau

Cynrychiolwyr Cwrs

Hel barn ac adborth

Mynychu Fforymau Llais y Myfyrwyr

Anfon unrhyw bynciau yr hoffent eu trafod yn y cyfarfodydd i'r trefnydd, fel y caiff eu ychwanegu at yr agenda

Gwrando ar yr hyn mae’r myfyrwyr yn ei ddweud wrthynt a chyflwyno eu safbwyntiau mewn modd adeiladol, clir - hyd yn oed os nad ydych yn cytuno!

Sicrhau nad ydy eu safbwyntiau personol yn effeithio ar eu gallu i gynrychioli eich cydweithwyr.

Profiad o weithio dan bwysau i gwrdd â therfynau amser.

Cyfathrebu â Chynrychiolwyr Cwrs eraill a Chynrychiolwyr Cyfadran i ddwyn sylw at faterion rheolaidd.

Deall swyddogaeth sefydliad ymgyrchu mewn Addysg Uwch

Cau'r cylch adborth! Gwneud yn siŵr eu bod yn gweithio efo'r staff academaidd i hysbysu myfyrwyr am ganlyniadau unrhyw faterion a godwyd mewn Fforymau y Llais Myfyrwyr.

Dealltwriaeth o bolisïau a themâu presennol yn y Sector Addysg Uwch, gwleidyddiaeth a chymdeithasau myfyrwyr yn y DU.

Diweddaru Undeb y Myfyrwyr ar unrhyw newidiadau y maent yn eu gwneud

Undeb y Myfyrwyr

Cefnogi Etholiadau Cynrychiolwyr Cwrs a’u timau trefnu ar gais

Darparu hyfforddiant i helpu i fod yn gynrychiolydd cyrsiau effeithiol, ynghyd â chyfleoedd hyfforddi ychwanegol trwy gydol y flwyddyn.

Bod ar gael i helpu'r cynrychiolwyr efo unrhyw beth sy'n gysylltiedig â’u profiad fel cynrychiolydd cwrs

Cadw rhestr o gynrychiolwyr ar gronfa ddata UM

Prifysgol/Sefydliad Partner

Ethol cynrychiolydd sy’n fyfyriwr trwy staff academaidd

Rhoi gwybod am gyfarfodydd, dyddiadau/amseroedd a lleoedd ar gyfer Fforymau Llais y Myfyrwyr a phwyllgorau ymhell ymlaen llaw.

Darparu dogfennaeth pan fo'n berthnasol, megis agenda a chofnodion ar gyfer eu cyfarfodydd

Argymell aelodau priodol o'r staff y gellir cyfeirio problemau myfyrwyr atynt

Ystyried pob adborth a gyflwynir gan y Cynrychiolwyr.

Gweithredu ar adborth lle bo'n briodol.

Gweithio efo’r cynrychiolwyr cwrs i gyflwyno adborth i'r myfyrwyr a chau'r ddolen adborth

O bryd i'w gilydd, gall myfyrwyr ddod atoch chi efo materion o natur sensitif a phersonol.

Peidiwch â cheisio datrys y materion hyn, gallwch gyfeirio myfyrwyr at dîm Lles yn eich sefydliad neu ein Canolfan Gynghori Annibynnol ni

YGanolfanGynghori

Gall ein cynghorwyr penodol gefnogi myfyrwyr unrhyw le yn y byd! Gallwn gynnig apwyntiadau trwy Microsoft Teams, Zoom neu dros y ffôn ac rydyn ni eisoes wedi cefnogi myfyrwyr ledled y byd gan gynnwys lleoedd fel Siapan, yr Almaen, yr Aifft a De Affrica.

Gallwn gefnogi myfyrwyr efo'u hiechyd a'u lles, eu hapeliadau academaidd a’u hamgylchiadau arbennig i enwi ond ychydig!

Gellir trefnu apwyntiad gan anfon e-bost at suadvice@wrexham.ac.uk - ein nod ydy ymateb i bob ymholiad cyn pen 24 awr.

Ewch i’n gwefan gyngor i ddarganfod mwy

CysylltiadauDefnyddiol

Diolch am gymryd yr amser i ddarllen y canllaw hwn. Os oes angen cymorth pellach arnoch, Carrie Bennet, ein Pennaeth Gwasanaethau Aelodaeth fydd eich prif gyswllt fel myfyriwr/wraig (neu aelod staff) sefydliad partner.

Mae Carrie yn gweithio o Brifysgol Wrecsam, Campws Plas Coch, Ffordd yr Wyddgrug, Wrecsam LL11 2AW. Mae modd i chi gysylltu â hi gan anfon e-bost at carrie.bennett@wrexham.ac.uk neu ffonio +44 1978 293131.

Cysylltiadau Undeb y Myfyrwyr Defnyddiol

Cydlynydd Llais y Myfyrwyr - Katie Taffinder katie.taffinder@wrexham.ac.uk

Cydlynydd Democratiaeth ac Ymgyrchoedd - Ben Sanders ben sanders@wrexham ac uk

Llywydd UM - Freya Groom supresident@wrexham.ac.uk

Is-Lywydd UM - Hafsa Farju suvp@wrexham.ac.uk

Cynghorydd Myfyrwyr - Cath Clark cath.clark@wrexham.ac.uk

Cyfleoedd i Fyfyrwyr - Ariana Bradshaw ariana.bradshaw@wrexham.ac.uk

Ymholiadau Cyffredinol - y Dderbynfa union@wrexham ac uk

Dyma ddymuno’r gorau i chi yn eich astudiaethau yn y dyfodol a’ch llongyfarch ar lwyddo i ddod yn gynrychiolydd cwrs… rydyn ni’n gobeithio y gwnewch chi fwynhau’r profiad!

Rydyn ni’n deall y gall pethau fynd o chwith weithiau neu fod sefyllfaoedd yn newid, ac os digwydd hyn, mae croeso i chi gysylltu’n uniongyrchol â’ch Arweinydd Cynllun neu Undeb y Myfyrwyr.

I gael rhagor o wybodaeth, gweler tudalen we ein partneriaid.

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.