4 minute read

Ffasiwn yng Nghymru

Protest Tw Pride Nid Parti

Mae’r gymuned LGBTQ fel y gwyddoch, wedi goroesi nifer fawr o ddigwyddiadau trais a homoffobia yng nghanol yr holl glityr, dawnsio, a dathlu. Mae’r digwyddiadau erchyll yma tuag at y gymuned LGBTQ yn dyddio yn nôl canrifoedd gan bobl sy’n perthyn i’r gymuned heterorywiol. Er bod pethau wedi ac yn parhau i wellhau, dydi’r berthynas rhwng y gymuned LGBTQ a’r gymuned heterorywiol dal ddim yn berthynas berffaith, ac mae rhaid cofio mai protest yw pride ac nid parti.

Advertisement

Yn 1954 sefydlwyd Pwyllgor Wolfenden ar ôl i lawer o ddynion adnabyddus gael eu dyfarnu’n euog o ‘anwedduster’. Yna yn 1957 awgrymodd y pwyllgor Wolfenden y dylai rwystro’r ddeddfwriaeth oedd yn atal dau ddyn i gael rhyw, neu’r hawl i droseddu dau ddyn os roeddynt yn cael eu dal. Cafodd yr awgrymiad yma gryn dipyn o gefnogaeth, yn enwedig gan Gymdeithas Feddygol Prydain, er hyn gwrthodwyd yr awgrymiad gan y llywodraeth.

Ychydig wedi hynny, sefydlwyd Cymdeithas Beaumont fel corff hunangymorth cenedlaethol wedi ei redeg gan ac ar gyfer y gymuned drawsryweddol. Yna yn 1969, y flwyddyn lle sbardunwyd un o ddigwyddiadau fwyaf arwyddocaol y gymuned LGBTQ hyd tuag at heddiw. Roedd Stonewall Inn yn Efrog Newydd yn destun cyrch gan yr heddlu yn ystod oriau man y bore. Yn dilyn hyn, bu Stonewall Inn yn wynebu tair noson o aflonyddwch gyda’r gymuned LGBTQ yn brwydro yn nol yn erbyn yr heddlu. Roedd lesbiaid a menywod traws groenliw yn rhai o’r ffigyrau allweddol yn y gwrthsafiad. Un o ffigyrau blaenllaw’r terfysgfeydd oedd Marsha P. Johnson, merch traws groenliw a sefydlwyd y Gay Liberation Front, a dyma sbardunodd y gymuned LGBTQ i ddechrau ymgyrchu yn galed dros eu hawliau. Yn 1970 cafodd y Gay Liberation Front ei sefydlu yn y Deyrnas Unedig, dwy flynedd cyn i’r digwyddiad Pride gyntaf gael ei gynnal yn Llundain, a ddenodd 2,000 o bobl.

Er roedd pethau yn edrych ar ei fyny i’r gymuned LGBTQ yma yn y Deyrnas Unedig a thu hwnt, roedd dal llawer iawn o bobl yn gwrthwynebu caniatáu dau berson o’r un rhyw i fod mewn cariad, ac mewn perthynas. Yn 1988 cafodd gyfraith newydd ei gyflwyno o dan lywodraeth Margaret Thatcher o’r enw Adran 28. Roedd y ddeddf yma yn gwahardd athrawon rhag hyrwyddo perthnasoedd hoyw mewn ysgolion, ac i beidio rhamanteiddio y syniad o deuluoedd hoyw. Roedd y gyfraith newydd yma yn un o nifer o rwystredigaethau a wynebodd Stonewall Prydain, sef elusen sydd yn cefnogi aelodau o’r gymuned LGBTQ. Yn 1992, penderfynodd sefydliad iechyd y byd i stopio cyfeirio at atyniad i’r un rhyw fel salwch meddwl, a dim

Protest Tw Pride Nid Parti

ond yn y flwyddyn 2000 penderfynodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig i godi’r gwaharddiad tuag at y gymuned LGBTQ yn gwasanaethu yn y lluoedd arfog. Erbyn hyn, mae dynion hoyw yn cael rhoi gwaed, ond dim ond ers 2011 ac mae hynny ar yr amod eu bod nhw ddim yn rhan o unrhyw berthnasedd rhywiol 12 mis cyn rhoi gwaed. Yn fwy diweddaraf ac yn hanesyddol i’r gymuned LGBTQ, gall cyplau o’r un rhyw briodi’n gyfreithlon yng Nghymru a Lloegr. Yn 2013 hefyd, cynhaliwyd y digwyddiad Pride cyntaf yn Brighton, sydd bellach yn adnabyddus iawn am fod yn un o’r digwyddiadau amlycaf i brotestio yn erbyn hawliau, i ddathlu cariad ac i ddathlu bod yn hoyw.

Er bod hawliau yn newid a deddfau yn cael ei dileu, mae dal llawer iawn o waith i’w wneud er mwyn atal homoffobia yng Nghymru, Lloegr, ac o gwmpae hynny drwy sawl ffactor. Mae angen normaleiddio perthnasoedd o’r un rhyw, ac mae rhaid gwneud hynny i bawb o bob oedran, yn enwedig ar y teledu ac mewn ffilmiau, i blant a phobl ifanc ond hefyd i oedolion. Yn yr un modd a hynny mae rhaid dysgu am y gymuned LGBTQ, y terfysgoedd Stonewall, ac yr holl unigolion arwyddocaol sydd wedi siapio’r gymuned LGBTQ i fod yn gymuned agored a chynhwysol i bawb. Yn ychwnaegol i hynny, mae dyletswydd ar y gymuned heterorywiol i gefnogi’r gymuned LGBTQ drwy arwyddo deisebau, cefnogi elusennau, ymuno yn yr hwyl o benwythnos pride; mae pride yn cael ei gynnal ym mhob dinas mawr yn y Deyrnas Unedig erbyn hyn, gan gynnwys prif ddinas Cymru: Caerdydd.

Mae 2020 wedi bod yn flwyddyn od iawn, ond mae un peth yn sicr, mae pawb â gwaith i’w wneud ynglyn â dysgu am eraill, am gymunedau, crefyddau, hil ac i beidio bod mor gyfun i’n cylch personol. Mae angen i ni fod yn agored i dderbyn pawb, dim bwys am pwy maent yn eu caru, neu beth yw lliw eu croen. Mae gan bawb hawl i garu pwy bynnag felly byddwch yn garedig, a chefnogwch eich cyd-ddinasyddion!

words by: Dafydd Orritt design by: Anna Kerslake