3 minute read

Hanes Bae Teigr

Small Town Med dylfryd Tref Fach

Un o’r ffactorau gorau am symud i ddinas i astudio yn y brifysgol yw’r amgylchedd cosmopolitanaidd. Mae’r trawsnewidiad yma yn syndod llwyr wrth gymharu â’r poblogaeth tu fewn i drefi bach cefn gwlad. Mae’r agweddau o bobl yn drefi bach cefn wlad yn amrywio yn helaeth gan gymharu i agweddau’r trigolion y brif ddinas. Maent llawer fwy caeedig ac yn fwy parod i feirniadu eraill am eu hil, crefydd ayyb. Dydyn nhw ddim eisoes wedi cael y profiad o fyw mewn ardal cosmopolitanaidd fel prif ddinas, ac felly na chwaith ydyn nhw mor agored â dinasyddion y ddinas o ran beirniadu pobl am eu dillad, eu rhywioldeb, eu crefydd a.y.y.b. Yn aml, dydy’r bobl yn y trefi yma heb byw tu allan o’u siroedd, na chwaith wedi profi byw mewn dinas, sydd yn medru teimlo fel byd hollol wahanol. Yn sicr, nid ydy hwn yn berthnasol i bob person sydd yn byw mewn tref fach, ond dyw hi ddim yn anodd darganfod pobl fel hyn ym mhob tref/pentref yn enwedig yng nghefn gwlad Cymru.

Advertisement

Heb brofi byw mewn dinas, neu yng nghwmni amryw helaeth o bobl mewn ardal cosmopolitanaidd, dydyn nhw ddim yn byw eu bywydau mor gyflym â ni. Gan eu bod nhw byth erioed wedi symud tu allan o’u pentrefi/ trefi maent yn aml yn cadw’r un gwerthoedd a moesau a’u rhieni/teulu, ac yn cael eu dylanwadu gan bawb arall o’u gwmpas sydd yn dal yr un farn o genhedlaethau yn ôl. Er enghraifft, mewn sefyllfa ddamcaniaethol, os oedd eich rhieni yn ymddwyn fel petai bod yn hoyw yn beth ofnadwy, maent yn dylanwadu eu plentyn i fagu yr un farn a hwy, ac wedyn mae’r patrwm yma yn parhau i gael ei throsglwyddo ar draws cenedlaethau o deuluoedd sy’n byth yn cael y cyfle i symud tu allan o’i tref genedigol. A heb symud a phrofi bywyd mewn lleoliad llawer mwy agored a derbyniol efo pobl sydd â meddylfryd flaengar. Yn aml nid ydyn nhw yn medru datblygu barn eu hun oherwydd dylanwad y gymdeithas maent yn byw ynddo.

Ambell waith mae parhau i fyw yn eich tref genedigol trwy eich bywyd yn gallu teimlo’n fyglyd, ac yn gallu effeithio ar y ffyrdd rydych chi yn meddwl ac yn gweld y byd. Drwy symud

i brif ddinas, symud gwlad, symud hyd yn oed i sir arall, rydych chi yn medru profi math arall o fyw, math arall o edrych ar y byd. Mae’n ehangu eich gorwelion.

Rydyn ni fel myfyrwyr, a phobl ifanc, yn cymryd yn ganiataol ein bod ni ddim yn beirniadu unrhyw un am lliw eu croen, ei rhywioldeb, na chwaith eu crefydd. Mae’r genhedlaeth o bobl ifanc yng Nghymru yn yr oes yma yn llawer fwy pen agored am eraill. Er bod yna nifer o resymau pam mae byw mewn dinas yn rhoi llawer o brofiadau bywyd amrywiol, mae’n rhaid nodi bod bywyd ym mhentrefi bach Cymru yn dod a’r teimlad o agosatrwydd sydd yn anodd i’w ddarganfod mewn dinas. Mae pawb yn adnabod eu gilydd ac felly yn cael ymlaen hefo’i gilydd ond er dweud hynny, mae llawer iawn o hel clecs, a mae pawb yn ymwybodol o’ch busnes. Ond, wedi dweud hyn, y mantais o fyw mewn pentref bach yw eich bod chi yn medru profi’r teimlad o agosatrwydd sydd yn dod a mynychu tafarnau a busnesau lleol. Dydych chi ddim yn medru profi yn union yr un peth mewn dinas oherwydd y nifer eang o bobl sydd yn poblogi’r ardal. Yn ychwanegol, yn aml mae bywydau’r bobl sydd yn byw yn y ddinas yn rhedeg yn gyflymach na’r rhai sydd yn byw yn drefi, ac felly does gennych chi ddim y cyfleusterau i gymdeithasu yn yr un ffordd a beth fedrwch wneud yn drefi/pentrefi.

Felly, i gloi, yr unig awgrymiad sydd gennyf tuag at bobl sydd yn byw yng nghefn gwlad Cymru yw i ehangu eu gorwelion wrth symud o’u tref enedigol er mwyn datblygu ac aeddfedu. I ddod yn berson mwy goddefgar a meddylfryd hynod mwy agored heb y dylanwad o pobl beirniadol a meddylfryd bach. Heb symud tu allan o’ch pentref, tref neu sir, ni fydd eich safbwynt yn medru datblygu. Yn ychwanegol, mae symud i ddinas yn cynnig cymaint o gyfleusterau amrywiol mae’n anghenreidiol ar gyfer eich datblygiad personol i gael y profiadau hynny.

words by: Sian Jones design by: Madeline Howell