Mutual exchange welshpdf

Page 1

Canllaw i denantiaid

Cyfnewid eich cartref Cynlluniau cydgyfnewid a sut maen nhw’n gweithio


Pam cyfnewid eich cartref? Mae nifer o resymau pam y byddwch o bosibl eisiau cyfnewid eich cartref. Efallai bod yr eiddo rydych yn byw ynddo ar hyn o bryd yn rhy fach a’ch bod chi angen mwy o le - neu ei fod yn rhy fawr a bod eich budd-dal tai yn cael ei leihau oherwydd bod gennych ormod o lofftydd. Efallai eich bod yn chwilio am gartref sy’n haws ei reoli, neu eich bod eisiau symud i ardal hollol newydd. Os nad yw eich eiddo yn addas bellach i’ch anghenion ac yr hoffech ‘gyfnewid’, gallai cydgyfnewid gyda thenant cyngor neu gymdeithas tai arall fod yn ateb delfrydol.

2


Beth yw cydgyfnewid? Cydgyfnewid yw pan fydd dau neu ragor o denantiaid diogel y cyngor neu denantiaid cymdeithasau tai yn cyfnewid eu cartrefi. Gyda chaniatâd eu landlord, mae pob tenant yn symud mewn i eiddo’r sawl y maent yn cyfnewid â nhw.

Gallwch gydgyfnewid gyda: • thenant Cymdeithas Tai Teulu arall, neu • thenant cyngor neu gymdeithas tai arall. Rhaid i chi gael caniatâd ar bapur gan Gymdeithas Tai Teulu cyn cyfnewid eich cartref, a bydd angen i chi lenwi a llofnodi’r gwaith papur cyfreithiol cywir cyn i chi symud (bydd rhaid i’r sawl sy’n cyfnewid â chi wneud yr un peth). Pan fyddwch yn cyfnewid, byddwch fel arfer yn cymryd drosodd cytundeb tenantiaeth presennol y sawl yr ydych yn cyfnewid â nhw. Byddwch yn cytuno i symud i’ch cartref newydd fel y mae, felly os oes angen addurno’r eiddo, rhaid i chi fod yn barod i wneud y gwaith eich hun.

!

! Nid yw’n bosibl cyfnewid os ydych yn symud i eiddo gwag.

3


Pwy sy’n cael cyfnewid? Gall unrhyw denant y cyngor neu denant cymdeithas tai sydd â thenantiaeth ddiogel neu sicr wneud cais am gydgyfnewid. Gallwn wrthod eich cais i symud mewn rhai amgylchiadau:

X Os ydych: • Â thenantiaeth isradd neu denantiaeth ragarweiniol. • Mewn ôl-ddyledion rhent. • Wedi achosi niwsans neu ymddygiad gwrthgymdeithasol, neu wedi torri eich cytundeb tenantiaeth mewn rhyw ffordd arall. • Heb adael i ni gynnal gwiriadau nwy a diogelwch yn ystod y 12 mis diwethaf.

X Os ydym: • Yn cymryd camau cyfreithiol yn eich erbyn. • Wedi cyflwyno rhybudd ceisio meddiant o’ch eiddo.

4


X Os yw eich eiddo presennol: • Mewn cyflwr gwael iawn. • Wedi cael ei newid heb ganiatâd Cymdeithas Tai Teulu.

X Os ydy’r eiddo rydych eisiau symud iddo • Yn rhy fawr neu’n rhy fach ar gyfer eich anghenion. • Wedi cael ei ddylunio neu ei addasu ar gyfer person anabl neu hŷn, neu wedi cael ei adeiladu ar gyfer grŵp oedran penodol a’ch bod chi, neu’r sawl rydych yn cyfnewid â nhw, ddim yn gymwys am y math hwnnw o dŷ.

5


Sut ydych yn dod o hyd i rywun i gyfnewid â nhw? Er mwyn dod o hyd i rywun i gyfnewid â nhw, gallech ymuno â Homeswapper, cynllun sydd wedi ei gynllunio i symleiddio’r broses o gyfnewid. Cronfa ddata ar-lein am ddim yw HomeSwapper a sefydlwyd ar gyfer tenantiaid sydd eisiau symud tŷ. Gallwch ei ddefnyddio am ddim, ac mae’n eich galluogi i ddod o hyd i bobl sy’n byw yn y math o eiddo yr ydych eisiau symud iddo. Mae’n wasanaeth cenedlaethol, felly gallwch symud o fewn eich ardal bresennol neu i unrhyw le arall yn y wlad. I gofrestru ar gyfer y cynllun, ewch i www.homeswapper.co.uk a llenwch y ffurflen gais ar-lein. Bydd angen i chi lenwi eich manylion cyswllt a rhoi manylion am y math o gartref yr hoffech symud iddo - nifer y llofftydd sydd eu hangen arnoch, eich dewis o leoliadau, ac unrhyw nodweddion arbennig eraill yr ydych yn chwilio amdanynt (fel gardd fawr, neu fflat ar y llawr gwaelod). Gyda Homeswapper, gallwch chwilio am gartref newydd ar-lein. Pan fyddwch yn dod o hyd i eiddo diddorol, bydd angen i chi ffonio neu e-bostio’r tenant i drefnu gweld cartrefi eich gilydd. Gallwch ddangos diddordeb mewn cynifer o eiddo ag y dymunwch, nes i chi ddod o hyd i gartref sy’n addas i chi. Os nad oes gennych fynediad i’r rhyngrwyd, cysylltwch â’r Tîm Rheoli Tenantiaeth ar 01792 482702, a fydd yn gallu llenwi’r cais ar-lein ar eich rhan a’ch helpu i chwilio am dai a allai fod o ddiddordeb i chi. 6


Awgrymiadau ar gyfer cyfnewid heb broblemau Er mwyn eich diogelwch personol a diogelwch eich eiddo, sicrhewch fod oedolyn arall gyda chi yn ystod unrhyw ymweliadau a’ch bod yn mynd o gwmpas gyda darpar bartneriaid cyfnewid wrth iddynt edrych ar eich cartref.

I wella eich siawns o gyfnewid yn gyflym, gallech roi cynnig ar hysbysebu yn y papur lleol neu mewn ffenestri siopau, neu ystyried cyfnewid gyda rhywun rydych yn ei adnabod. Cadwch eich tŷ yn lân ac yn daclus a thaflwch unrhyw beth nad ydych eu hangen. Drwy gael gwared â phethau nawr, byddwch yn arbed amser ac ymdrech wrth symud!

Rhannwch eich gwybodaeth am eich ardal leol gyda phartneriaid cyfnewid posibl. Gadewch iddynt wybod ble mae’r siopau ysgolion a meddygfeydd agosaf, a rhowch wybodaeth iddynt i’w helpu i ddeall sut mae byw yn eich cymdogaeth. Ceisiwch fod mor hyblyg â phosibl gydag amseroedd ymweld.

Crëwch yr argraff gyntaf gywir drwy dacluso eich gardd, torri’r gwair torri eich gwrychoedd a chlirio unrhyw sbwriel.

7


Beth sy’n digwydd nesaf? Pan fyddwch wedi dod o hyd i rywun i gyfnewid eich cartref gyda nhw, bydd angen i chi a’r sawl yr ydych yn cyfnewid gyda nhw lenwi ffurflen gydgyfnewid. Hefyd, bydd angen i chi lenwi ffurflen ar gyfer landlord eich partner cyfnewid os ydynt gyda darparwr tai gwahanol. Gallwch lwytho’r ffurflenni i lawr oddi ar ein gwefan yn www.fha-wales. com, neu gallwch ofyn amdanynt dros y ffôn gan y Tîm Rheoli Tenantiaeth ( 01792 482702, drwy e-bost  lettings@fhawales.com a drwy’r post  Cymdeithas Tai Teulu (Cymru) Cyf, 43 Heol Walter, Abertawe, SA1 5PN.

i benderfynu, ond fel arfer byddwn yn ceisio cyrraedd y penderfyniad yn gynt os gallwn.

Unwaith y byddwn yn derbyn y ffurflenni hyn, byddwn yn ystyried eich cais a naill ai cymeradwyo neu wrthod caniatâd ar gyfer y symud. Mae gennym hyd at 42 o ddiwrnodau

Fel rhan o’r broses cydgyfnewid, rhaid i Swyddog Tai Cymdeithas Tai Teulu drefnu galw i archwilio eich eiddo i wneud yn siŵr ei fod mewn cyflwr da. Unwaith y bydd yr arolwg wedi’i gwblhau,

8

Os na all y cydgyfnewid fynd ymlaen, byddwn yn ysgrifennu atoch i roi gwybod i chi. Os yw oherwydd rhywbeth sy’n ymwneud â’ch tenantiaeth, byddwn yn dweud wrthych pam. Os yw’r penderfyniad yn gysylltiedig â thenantiaeth eich partner cyfnewid, ni fyddwn yn gallu dweud wrthych beth yw’r rheswm dros wrthod. Yn yr achos hwn, bydd angen i chi ddod o hyd i rywun arall i gyfnewid gyda nhw, a llenwi ffurflenni cydgyfnewid newydd.


bydd y Swyddog Tai yn cysylltu â chi i gadarnhau y gall y cydgyfnewid fynd ymlaen. Bydd apwyntiad yn cael ei wneud i gynnal gwiriadau diogelwch nwy a thrydan ac i drefnu dyddiad ar gyfer llofnodi’r gwaith papur cyfreithiol gyda ni a’r landlord arall (os oes darparwr tai arall dan sylw). Gwnewch yn siŵr nad ydych yn symud nes eich bod wedi llofnodi’r gwaith papur gan y gallech golli eich diogelwch deiliadaeth neu gael eu troi allan.

Rhagor o wybodaeth? Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch ynghylch cyfnewid eich cartref, cysylltwch â Thîm Rheoli Tenantiaeth Tai Teulu ( 01792 482702.

9


Pwyntiau pwysig Os ydych yn bwriadu cydgyfnewid, dyma rai pethau pwysig i’w hystyried. 1 Gwnewch yn siŵr eich bod yn gallu fforddio symud. Bydd angen i chi drefnu a thalu am y symud eich hun. Fodd bynnag, efallai y byddwch yn gymwys i gael cymorth os ydych chi ar incwm isel. Cysylltwch â’ch swyddfa budd-dal tai lleol drafod gwneud cais am daliad tai dewisol i helpu gyda chost y symud. Efallai y byddwch hefyd yn gymwys i gael taliad cymorth unigol gan y gronfa cymorth dewisol ar gyfer costau pellach. Cysylltwch â ( 0800 859 5924 am ragor o wybodaeth. 2 Os oes gennych gyddenantiaeth, bydd rhaid i’r ddau ohonoch gytuno i gyfnewid.

10

3 Nid oes hawl gennych i roi neu dderbyn arian neu nwyddau yn gyfnewid am gytuno i gyfnewid. Os ydych yn gwneud hyn, gallech gael dirwy neu hyd yn oed eich taflu allan. 4 Gwiriwch eich bod yn fodlon â chyflwr yr eiddo yr ydych yn symud iddo. Ni fydd unrhyw ddifrod yn cael ei drwsio oni bai ei fod yn peri risg i iechyd a diogelwch. 5 Chi fydd yn gyfrifol am yr holl waith atgyweirio nad yw’n hanfodol, ac am ailaddurno. 6 Peidiwch â symud heb gael caniatâd. Os gwnewch hynny, byddwch chi a’ch partner cyfnewid mewn perygl o golli eich sicrwydd deiliadaeth, a


gallech gael eich taflu allan neu gael eich gorfodi i ddychwelyd i’ch cartrefi gwreiddiol. 7 Unwaith y byddwn wedi rhoi caniatâd i chi symud, bydd angen i chi gytuno gyda’ch partner cyfnewid pa osodiadau a ffitiadau (gan gynnwys carpedi) y byddwch yn eu gadael ar ôl yn eich hen gartref. 8 Ceisiwch ddarganfod a fydd eich amodau tenantiaeth yn newid pan fyddwch yn symud. Pan fyddwch yn cwblhau cynllun cydgyfnewid, byddwch fel arfer yn cymryd y cyfrifoldeb dros hawliau tenantiaeth y sawl yr ydych yn cyfnewid â nhw. Eich cyfrifoldeb chi yw gwirio hyn cyn penderfynu a ydych eisiau cyfnewid. 9 Os ydych yn cyfnewid gyda rhywun nad yw’n denant Cymdeithas Tai Teulu, mae’n syniad da gofyn i’w landlord am gopi o’r cytundeb tenantiaeth fel y gallwch ei gymharu â’ch un chi eich hun.

11


Cymdeithas Tai Teulu (Cymru) Cyf  (  8

43 Heol Walter, Abertawe, SA1 5PN 01792 482702 lettings@fha-wales.com www.fha-wales.com

Canllaw i Gyfnewid Eich Cartref Mae’r canllaw byr hwn yn darparu gwybodaeth bwysig i denantiaid Cymdeithas Tai Teulu sy’n ystyried cyfnewid eu cartref. Bydd yn eich helpu i ddeall beth yw cydgyfnewid, p’un ai ydych yn gymwys i gyfnewid, a sut allwch ddod o hyd i rywun i gyfnewid â nhw. Mae hefyd yn cynnwys cynghorion ac awgrymiadau defnyddiol i sicrhau bod eich proses o gyfnewid yn rhedeg yn esmwyth.

© Guidemark Publishing Limited 2013. Cedwir pob hawl.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.