Fha annual report welsh

Page 1

Adroddiad Blynyddol Tai Teulu 12-13


Datganiad y Cadeirydd Mae blwyddyn arall ym maes tai yn golygu blwyddyn arall o heriau, cynnydd a llwyddiant. Yn benodol, mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn un o ddysgu a chynllunio i sicrhau bod ein tenantiaid yn cael eu cefnogi drwy’r newidiadau sy’n cael eu gwneud i fudddaliadau lles. Rydym wedi ailstrwythuro ein tîm Rheoli Tai i ganiatáu i ni ychwanegu at ein gweithgareddau cynhwysiant ariannol a chefnogi tenantiaeth. Mae arolwg proffil tenantiaid cynhwysfawr wedi rhoi’r wybodaeth i ni i allu canolbwyntio ein cefnogaeth a’n cyngor yn y ffyrdd sydd fwyaf priodol ar gyfer y cwsmer. Yn unol â pholisi Llywodraeth Cymru i wneud y gorau o’r effaith sy’n ymgodi o fuddsoddi, mae ein holl gontractau adeiladu newydd yn cynnwys y gofyniad am elfen o fudd cymunedol i wella cyfleoedd ar gyfer ein tenantiaid ac i wella’r amgylchedd. Mae ein tîm cynnal a chadw a benodwyd yn uniongyrchol ac sy’n ehangu wedi ein galluogi i ddarparu prentisiaethau a chymorth hyfforddiant i helpu pobl i gael gwaith. Rydym hefyd wedi penodi swyddog partneriaeth i gydlynu ein gwaith â gwaith asiantaethau eraill, ac i ehangu’r meysydd o gefnogaeth y gallwn eu darparu. Mewn arolwg diweddar, roedd 82% o denantiaid yn teimlo bod eu cartrefi yn cael eu cynnal a’u cadw’n dda. Yr un mor bwysig yw eu bod yn fforddiadwy i’w rhedeg ac yn ystod y flwyddyn, cwblhawyd rhaglen gwerth £ 2.4M o welliannau effeithlonrwydd ynni gennym i foderneiddio ein cartrefi h yn. ˆ Cafodd hyn ei wneud ochr yn ochr â gwaith cynnal a chadw ac adnewyddu cynlluniedig gwerth £1.2M. Mae ein holl eiddo bellach yn bodloni ein strategaeth ar gyfer cydymffurfio â Safonau Ansawdd Tai Cymru y Llywodraeth. Yn ein cynlluniau tai â chymorth, rydym wedi cwblhau’r gwaith o ailddatblygu dau eiddo yn Nhreforys i ddiwallu anghenion esblygol tenantiaid sydd angen mwy o gefnogaeth. Cydnabuwyd ein harbenigedd o ran darparu cynlluniau gofal ychwanegol arloesol, o safon, pan ofynnodd Cyngor Sir Caerfyrddin i ni greu cynlluniau newydd yng Nghaerfyrddin a Rhydaman. Mae’r cynllun yng Nghaerfyrddin yn symud y cysyniad gofal ychwanegol ymlaen gydag unedau sy’n benodol ar gyfer pobl â Dementia, a fydd yn caniatáu iddynt gynnal eu hannibyniaeth cyn hired ag y bo modd, gyda chefnogaeth iddyn nhw a’u partner yn agos wrth law. Mae gwaith wedi parhau yn ein datblygiad newydd yng Nghrymych, gyda Chyngor Sir Benfro. Bydd y cynllun newydd, Bro Preseli, yn dod yn ganolbwynt ar gyfer yr ardal, a bydd yn cynnwys canolfan iechyd a chanolfan

ddydd newydd. Yn Abertawe ac Aberteifi, rydym yn mynd i ehangu ein Gwasanaethau Gofal a Chymorth i’r ardaloedd cyfagos, gan wneud defnydd effeithlon o’r adnoddau ac integreiddio gwasanaethau ymhellach i mewn i’r gymuned. Mae ein hamrediad a’n harbenigedd o ran darparu gofal a chefnogaeth i bobl h yn ˆ ac i’r rhai hynny sydd â salwch meddwl yn cael eu defnyddio i gynorthwyo i hyfforddi nyrsys arbenigol drwy drefniant â’r Bwrdd Iechyd Lleol ar gyfer lleoliadau myfyrwyr yn gweithio ochr yn ochr â’n timau cymorth. Er gwaethaf y cyfyngiadau ar grantiau, rydym yn parhau i gyflawni ein hymrwymiad cynllun busnes i ddarparu ystod eang o dai fforddiadwy. Yn ogystal â’r ddau gynllun gofal ychwanegol ar y safle ac un ar y cam dylunio, mae gennym raglen datblygiad parhaus o gartrefi newydd i’w rhentu a’u gwerthu ynghyd â’r cartrefi pwrpasol ar gyfer y rhai hynny sydd angen lefel uwch o gefnogaeth. Yn ystod 2011-2012, roedd gennym gynlluniau gwerth mwy na £ 27m ar y safle oedd yn cael eu cefnogi gan £12 miliwn o Grant Tai Cymdeithasol. Adroddais y llynedd ein bod yn teimlo bod yr adroddiad HARA a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn rhy feirniadol, ac nad oedd yn adlewyrchu gwaith gwirioneddol y Gymdeithas yn gywir. Cadarnhawyd y pryderon oedd gennym am agwedd y Rheolydd at gyd-reoleiddio ac am ddefnyddio’r egwyddorion oedd yn deillio o Adolygiad Essex gan adolygiad Llywodraeth Cymru ei hun ynghylch rheoleiddio. Mae ein dealltwriaeth o ganlyniadau, llywodraethu a gwerth am arian yn debyg i’r rhan fwyaf o Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yng Nghymru, ac rydym i gyd yn dal i fod yn y broses o ddysgu. Mae aelodau o’r Bwrdd, staff a thenantiaid wedi croesawu canfyddiadau ein hunanasesiad ac adroddiad HARA i weithredu rhaglen o newid ac adnewyddu i’n helpu i gwrdd â’r heriau sydd o’n blaenau. Canfu arolwg diweddar o randdeiliaid ein bod yn sefydliad dibynadwy i ddelio ag ef. Mae hyn wedi cael ei gymeradwyo ymhellach gan farn ein cyllidwyr ein bod yn y 5% uchaf o Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn y DU o ran dibynadwyedd. Un feirniadaeth gan randdeiliaid oedd nad ydym yn canmol ein hunain yn ddigon, a byddwn yn ailwampio ein strategaeth gyfathrebu i oresgyn hyn. Yn dilyn adroddiad HARA, mae’r Bwrdd wedi cynnal adolygiad cynhwysfawr o lywodraethu, ac wedi rhoi cynllun gweithredu ar waith i sicrhau bod gennym y sgiliau a’r strwythurau i lywio rheolaeth a chyfarwyddyd y Gymdeithas. Hoffwn ddiolch i’n tenantiaid, staff a chyd-aelodau’r Bwrdd sydd wedi cefnogi’r Gymdeithas drwy flwyddyn brysur. Alan Lloyd


Rheoli Tai Perfformiad Tai ar Osod Ein busnes craidd yw darparu cartrefi fforddiadwy o safon mewn cymunedau cytbwys. Er mwyn cyflawni hyn, rydym yn cydnabod bod angen i ni uchafu ein hincwm rhent i’r eithaf drwy sicrhau bod ein tai yn cael eu gosod cyn gynted â phosibl i’r rhai hynny sydd mewn angen. O ble mae ein hymgeiswyr yn dod Mae ein tenantiaid yn gallu cael mynediad i’n heiddo drwy ein rhestri aros ein hunain a hefyd, trwy ein partneriaeth effeithiol gyda’r awdurdodau lleol yn Sir Gaerfyrddin, Dinas a Sir Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Ceredigion a Sir Benfro. Rydym yn parhau i groesawu ceisiadau gan bob cartref yn y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu ac os nad ydym yn gallu eu hail-gartrefu yn uniongyrchol, byddwn yn archwilio dewisiadau tai eraill a allai fod ar gael. Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi cymryd dros 40 o dai rhent canolradd dan reolaeth. Mae’r math hwn o eiddo yn rhoi’r cyfle i bobl sydd yn gweithio ac sydd ddim yn gallu prynu eiddo ar y farchnad agored ar hyn o bryd i rentu cyn prynu. Rydym yn bwriadu cyflwyno mwy o gynlluniau mwy canolradd yn 2013/14 mewn ystod eang o ardaloedd ac eiddo o wahanol feintiau. Rydym yn monitro pwy sy’n rhentu ein tai yn rheolaidd i sicrhau bod ein polisi dyrannu yn deg a dim yn wahaniaethol. Ceir dadansoddiad o’r tai a osodwyd gennym yn 2012/13 yn y tabl isod: -

Categori

2012/13

Enwebiadau o'r ALl

54

Adleoli

4

Rhestr Aros

190

Cyfnewidiadau tenantiaid

18

ADAPT

4

Symud ymlaen

7

Trosglwyddiadau

24

Gofal Ychwanegol

10

Cyfanswm

311

Yn ystod 2012/13, gosodwyd 311 o dai gennym ac ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, roedd gennym 18 o dai yn wag. Roedd hyn yn cynrychioli dim ond 0.76% o’n stoc anghenion cyffredinol. Ymddygiad Gwrthgymdeithasol Cafodd pob achos o ymddygiad gwrthgymdeithasol eu datrys heb orfod cymryd unrhyw gamau cyfreithiol difrifol. Mae achosion yn gallu amrywio o niwsans s wn, ˆ sef y math mwyaf cyffredin o g wyn, ˆ i ymddygiad gwrthgymdeithasol difrifol sy’n gallu effeithio ar gymuned gyfan. Mae’r tîm yn gweithio’n agos iawn gyda’r heddlu, darparwyr cymorth ac asiantaethau eraill i geisio dod o hyd i’r ateb gorau i bawb dan sylw. Yn ddiweddar, rydym wedi cyflawni’r lefel cydymffurfio “gweithio tuag ato” ar gyfer Safon Rheoli Tai Cymru ar gyfer mynd i’r afael ag Ymddygiad Gwrthgymdeithasol. Delio gydag Ymddygiad Gwrthgymdeithasol “Cafodd y g wyn ˆ ei thrin yn synhwyrol ac oherwydd natur y gwyn, gweithredodd y staff mewn ffordd sympathetig iawn.” “Hapus gyda’r gwasanaeth - deallgar a diduedd.” “Deliwyd â’r gwyn yn brydlon a chawsom ein diweddaru’n rheolaidd”

1


Nod Safon Cymru yw sefydlu meincnod heriol i herio landlordiaid cymdeithasol Cymru i ymdrechu i sicrhau gwelliannau parhaus mewn gwasanaethau sydd wedi’u hanelu at ddelio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae’n pontio’r agendâu atal, cefnogi a gorfodi, ac yn rhoi pwyslais cryf ar ymgysylltu a grymuso tenantiaid. Drwy ymdrechion y tîm rheoli tenantiaeth a’r gweithgor tenantiaid, rydym wedi gallu dangos ein bod yn cwrdd â nifer o ofynion y safon, ac rydym hefyd wedi datblygu cynllun gweithredu i ymdrin â’r diffygion a nodwyd.

Cyfranogiad Tenantiaid Rydym bellach wedi cychwyn ar ail flwyddyn cynllun gweithredu’r Strategaeth Cyfranogiad Tenantiaid Lleol sydd wedi cael ei adolygu. Yn ddiweddar, mae ein gr wp ˆ llywio, sy’n cynnwys tenantiaid a staff, wedi adolygu’r camau gweithredu o flwyddyn 1 i wneud yn si wr ˆ bod y strategaeth yn rhoi cyfle i denantiaid leisio eu barnau go iawn ynghylch gwasanaethau. Mae ein tenantiaid sydd ynghlwm yn parhau i weithio gyda’r Adrannau Gwasanaethau Eiddo a Rheoli Tai. Cynnwys Tenantiaid Diwrnod agored Clos Maes yr Ysgol: “Nid wyf fel arfer yn dod allan o’r t yˆ ac nid yw fy meibion fel arfer â diddordeb mewn unrhyw beth. Mae’r bechgyn wedi cael b hwyl ac wedi ymuno heddiw ac wedi hyd yn oed helpu’r criw DJ! “

2

Ymdriniodd y tîm rheoli tenantiaeth gyda chyfanswm o 186 o achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn 2012/2013, sy’n ostyngiad o 44 ers y flwyddyn flaenorol. Cafwyd 15 o gwynion “ailadroddus”, lle’r oedd yr achwynydd yn parhau i ddioddef niwsans ar ôl yr ymchwiliad cychwynnol i’r g wyn. ˆ Mae’r ffigwr hwn yn cynrychioli 8% o’r holl achosion y deliwyd â hwy gan y tîm rheoli tenantiaethau.

Yn ystod haf 2012, cynhaliwyd dau ddiwrnod agored ar safleoedd lle rydym wedi nodi bod angen gwneud gwelliannau gyda’n tenantiaid. Roedd ein staff yno i ateb cwestiynau a gwrando ar farn tenantiaid. Drwy gydol ail hanner 2012, cynhaliwyd ymarfer proffilio i ddod i adnabod ein tenantiaid yn well. Helpodd hyn ni i ddod o hyd i denantiaid a fyddai’n cael eu heffeithio gan y diwygiadau lles. Bydd yr wybodaeth yn ein helpu hefyd i lunio ein gwasanaethau yn y dyfodol. Mae’r Aseswyr Gwasanaethau yn parhau i helpu i fonitro perfformiad yn erbyn ein safonau gwasanaeth. Mae aelodau’r Panel Tenantiaid wedi bod yn weithgar iawn yn ein helpu i adeiladu fframwaith i adrodd ar ein perfformiad, a bydd yn parhau i’n helpu i ddatblygu hyn.


Perfformiad Rhenti Mae’r rhenti sy’n cael eu casglu gennym yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau o safon, ac adeiladu rhagor o dai fforddiadwy. Rydym yn sylweddoli bod angen cynnal cydbwysedd rhwng rhenti fforddiadwy a sefydlogrwydd ariannol ein busnes, Er mwyn cyflawni hyn, mae’n rhaid i ni wneud yn si wr ˆ bod rhenti a chostau gwasanaethau yn cael eu cadw mor isel â phosibl, a’u bod nhw’n cael eu u casglu’n effeithiol. Er ein bod ni’n ceisio gwneud ein gorau glas i geisio lleihau ôl-ddyledion rhent, mae ein hymagwedd yn ddigon hyblyg i gefnogi’r tenantiaid hynny mewn achosion o wir galedwch. I gynorthwyo’r tenantiaid hynny sydd angen ychydig mwy o help a chyngor i ddelio â’u cyfrif rhent a dyledion eraill yn effeithiol, yn ddiweddar, rydym wedi cyflogi Swyddog Cynhwysiant Ariannol sy’n gallu helpu gyda chyllidebu, delio â dyledwyr a sicrhau bod y budd-daliadau cywir yn cael eu hawlio. Drwy ddarparu’r cymorth hwn, rydym wedi helpu llawer o denantiaid i gynnal eu tenantiaeth a dod yn fwy sefydlog yn ariannol. Rhenti wythnosol cyfartalog Ardal Awdurdod Lleol

Fflat 1 ystafell

Tyˆ 3 ystafell

Sir Gaerfyrddin

£72.90

£76.01

Castell-nedd Port Talbot

£68.14

£78.02

Dinas a Sir Abertawe

£70.89

£81.73

Ceredigion (Gofal Ychwanegol)

£111.05

N/A

“Maen nhw bob amser yn darparu cyngor cadarnhaol a chadarn gan ystyried pethau o safbwynt y tenant. Dim ond un alwad ffôn i’r tîm rhenti sydd ei hangen, a heb os nac oni bai, byddant yn eich rhoi yn ôl ar y trywydd iawn gyda chynllun teg ar gyfer taliadau yn y dyfodol. Mae’r tîm yn gwneud i chi deimlo’n gartrefol ar unwaith.” Canran o’r rhent a gasglwyd gennym yn 2012/13

98.89%

Canran o’r rhent a gasglwyd yn 2011/12 98.50% “Roeddech yn gwrando ac yn ofalgar- pan fydd pobl mewn panig, mae’n galonogol bod yna bobl sy’n gwrando.”

Panel Tenantiaid Adroddiad y Cadeirydd Mae fy mlwyddyn gyntaf fel Cadeirydd y Panel Tenantiaid wedi bod yn gyfnod heriol, gan imi orfod delio â goblygiadau’r Asesiad Rheoleiddio Cymdeithasau Tai (HARA) a’r llwyth gwaith ychwanegol o ganlyniad i staff ac aelodau’r Panel. Ein disgwyliad yw y byddwn yn gallu symud ymlaen a chael perthynas agosach gyda Bwrdd Tai Teulu yn y dyfodol. Mae aelodau’r Panel Tenantiaid yn awr yn cydweithio gyda’r Gr wp ˆ Gorchwyl a Gorffen ar y cyd â swyddogion ac aelodau’r bwrdd, ac maent yn gweithio tuag at weithredu Gr wp ˆ Craffu Tenantiaid. Pwrpas gr wp ˆ craffu a arweinir gan denantiaid yw nodi arfer gorau o ran darparu gwasanaeth gyda chydweithrediad staff, swyddogion a’r Bwrdd ac yna, gwneud argymhellion i’r Bwrdd. Mae’r Panel a’i is-bwyllgorau wedi bod yn brysur iawn yn adolygu polisïau a gweithdrefnau a gyda hyn mewn golwg, hoffwn ddiolch i fy nghyd-aelodau o’r panel am eu gwaith caled a’u hymroddiad. Rydym yn parhau â’n hymdrechion i gael tenantiaid i gymryd rhan ym maes cyfranogiad tenantiaid, ac rydym felly wedi creu ein gwefan ein hunain a gafodd ei hysgrifennu gan y tenantiaid ar gyfer y tenantiaid yn www.familytenant.co.uk.

“Weithiau, yn ystod eich bywyd, byddwch yn dod ar draws rhai pobl sy’n cymryd yr amser a’r ymdrech i helpu pobl mewn trafferthion, yn hytrach na dim ond defnyddio eu swydd fel ffordd 9-5 o dalu eu biliau. Mae Mrs L Rees yn un o’r bobl hynny.

Mae rhagor o heriau o’n blaenau gyda Diwygio Lles a’r Credyd Cynhwysol, felly bydd y Panel yn parhau i weithio’n agos gyda staff a swyddogion i fynd i’r afael ag unrhyw broblemau posibl a allai godi.

Llwyddodd i wneud mewn 4 diwrnod yr hyn roeddwn i wedi ceisio ei wneud mewn 4 blynedd.”

Mike Wiseman Cadeirydd, Panel Tenantiaid

3


Tai â Chymorth ar gyfer Pobl sydd â Salwch Meddwl

4

Yn ystod 2012/13 rhoddom gymorth i 104 o bobl sydd â salwch meddwl sy’n rhan o’r Prosiect WISH (Gweithio dros Annibyniaeth mewn Tai â Chymorth) mewn 19 o dai oedd wedi’u lleoli yn Abertawe a Chastell-nedd. Mae hyn yn cynrychioli cynnydd o 16% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

Beth arall a wnaethom: ■

Cyflwyno lleoliadau i fyfyrwyr nyrsio o fewn y Prosiect WISH.

Gorffen gwaith ailddatblygu mewnol sylweddol o’n hostel 24 awr ar Slate Street, Treforys.

Arolygwyd y prosiect gan Dîm Cefnogi Pobl Dinas a Sir Abertawe ym mis Ab Mehefin 2012 M ac a Arolygiaeth Gofal a G Gwasanaethau G Cymdeithasol C Cymru ym mis Cy Chwefror 2013 Chw ac unwaith eto, un cawsom adolygiad ardderchog aar gyfer y ffordd rydym yn darparu gwasanaethau cymorth a gofal yn y cartref.

Ail-leoli dau o’n timau er mwyn rhoi mwy o le swyddfa i staff ac arbed costau.

Cyflwyno rhaglen “yn ôl i’r llawr” ar gyfer uwch reolwyr a staff canolog i wella cyfathrebu ac arweinyddiaeth gyda thimau staff.

Parhau i ailstrwythuro ein staff a’n tîm rheoli fel y cynlluniwyd fel modd o wneud yn iawn am effaith y gostyngiadau yn y Grant Cefnogi Pobl - ein prif ffynhonnell o gyllid.

Darparu gliniaduron i dimau staff fel y gallant gefnogi tenantiaid gyda chynhwysiant digidol, e.e. cwblhau hawliadau budd-dal ar- lein, manteisio ar gynigion ar-lein, ymchwilio rhwydweithiau cymorth ac adnoddau cymunedol.

Prosiectau Tai â Chymorth Eraill

Diwygio gweithdrefnau cynllunio cymorth i adlewyrchu newidiadau mewn deddfwriaeth Cefnogi Pobl a gweithio i ymgorffori’r newidiadau hyn o fewn ein timau staff.

Mae ein gwasanaethau tai â chymorth a chymorth fel y bo’r angen eraill yn Abertawe a Sir Gaerfyrddin yn parhau i weithredu’n llwyddiannus, gyda’r ddau awdurdod lleol yn cydnabod perthnasedd strategol y prosiectau hyn. Yn ystod 2012/2013 cefnogwyd 66 o bobl gennym yn y prosiectau hyn. Mae hyn yn cynrychioli cynnydd o 8.2% o’i gymharu â 2011/12 ac mae’n parhau â’r duedd a welwyd yn 2011/12, lle gwelwyd cynnydd sylweddol o’i gymharu â blynyddoedd blaenorol. Mae hyn oherwydd bod mwy a mwy o denantiaid angen cymorth i reoli eu cyllid a’u llety o ganlyniad i ddiwygiadau lles a thoriadau i wasanaethau eraill. Cynhwysiant Ariannol O ganlyniad uniongyrchol i’r gefnogaeth a ddarparwyd gennym, roedd pobl yn gallu: Cael mynediad i incwm £95,424 wythnosol ychwanegol gwerth Ad-dalu dyledion gwerth

£2,707

Cael mynediad i Grantiau a symiau eraill i'r cyfanswm o

£47,056

Cyflawniadau Rydym yn darparu gwasanaeth cefnogi holistaidd i bobl ar draws ystod o feysydd, er mai’r pedwar prif faes lle mae pobl wedi bod angen ein cefnogaeth yw: ■

rheoli llety 87%

rheoli arian 71%

rheoli iechyd corfforol 85%

rheoli iechyd meddwl 85%

Lle rydym wedi rhoi cymorth i denantiaid, rydym wedi galluogi 84% naill ai i gyflawni eu canlyniadau arfaethedig neu i wneud rhywfaint o gynnydd tuag at eu cyflawni.


Gweithio gyda Darparwyr Eraill Rydym yn parhau i weithio ochr yn ochr ag asiantaethau eraill sy’n cefnogi tenantiaid sydd ag ystod eang o anghenion yn ein tai. Mae’r asiantaethau hyn yn cynnwys:

Barnau ein tenantiaid a rhanddeiliaid eraill Pob blwyddyn, rydym yn gofyn i denantiaid am eu barn ynghylch ein gwasanaethau, a dywedodd 96% o bobl eu bod yn hapus iawn gyda’r gwasanaeth y derbyniont. Dyma rai o’r pethau a gafodd eu dweud: “Rwy’n teimlo fel bod gennyf gyfle i gael fy mywyd yn ôl ar y trywydd iawn diolch i’ch gwasanaeth; nid oes unrhyw eiriau yn gallu cyfleu yn union faint mae hyn yn ei olygu i mi.” TENANT (CSH) “Rwy’n teimlo’n fwy hyderus a fy mod yn annwyl i rywun - mae’r staff yn wych.” TENANT “Diolch am yr holl gymorth a chefnogaeth ragorol rydych wedii eu rhoi i’n merch.” RHIENI (CSH)

Mae rhai o’r sylwadau gan weithwyr proffesiynol eraill am ein gwasanaethau cymorth yn cynnwys: “Ffoniodd LN ni i ddweud pa mor dda mae eich cefnogaeth wedi bod, ac rydym wedi cael llai o broblemau cymdogaeth ers dechrau cael cymorth gennych chi” SWYDDOG TAI “Mae’r gwasanaeth yn darparu rhwyd diogelwch mawr ei angen ar gyfer pobl sy’n ei chael hi’n anodd di reoli ... Mae’n gwneud iddynt deimlo mlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi.” DARPARWR ARALL “Mae staff yn cymryd nodau tymor or hir defnyddwyr gwasanaethau i ystyriaeth ac yn eu cefnogi gyda’r rhain yn hytrach na theimlo’n rhwystredig oherwydd eu problemau iechyd meddwl.” RHEOLWR GOFAL

Prosiect Pobl Ifanc Sengl Ddigartref Abertawe Cefnogi Pobl Ifanc.

Cyrenians Cymru - Cefnogi Pobl Ddigartref.

Tai Esgyn - Cefnogi Pobl sydd â Salwch Meddwl.

Consortiwm Bywydau Cymunedol - Cefnogi Pobl sydd ag Anableddau Dysgu.

Perthyn - Cefnogi Pobl sydd ag Anableddau Dysgu.

Cymorth i Fenywod Abertawe - Cefnogi Menywod sydd wedi dioddef trais domestig yn y cartref.

Rhoddwyd cytundebau rheoli tair blynedd newydd ar waith o 2012 gyda’r asiantaethau hyn.

5


Cynnal a Chadw a Gwella Yn ystod 2012/13, llwyddodd ein rhaglen fuddsoddi i wella amodau byw i 329 o deuluoedd drwy adnewyddu 139 o geginau, 45 o ystafelloedd ymolchi a 143 o systemau gwres canolog. Roeddem yn llwyddiannus wrth ddenu rhagor o gyllid ARBED1 a gafodd ei ategu gyda grant Rhwymedigaeth y Cwmnïau Ynni (ECO) 2 sy’n golygu bod tua gwerth £ 2.2M o grant bellach wedi cael ei dderbyn i wella effeithlonrwydd ynni yn ein cartrefi. Hyd yma, rydym wedi cyflawni’r gwelliannau canlynol:

6

Rydym yn monitro ein gwasanaeth ymateb i geisiadau am waith atgyweirio drwy ddefnyddio ystod o fesurau perfformiad a ddatblygwyd ac y cytunwyd arnynt drwy ymgynghori â’r Gr wp ˆ Gwasanaethau Eiddo. Gellir dangos ein perfformiad yn erbyn y mesurau hynny fel a ganlyn: Mesur Perfformiad

Canlyniad Perfformiad

Nifer cyfartalog y diwrnodiau i gwblhau 0.8 diwrnod atgyweiriadau argyfwng

Gwelliant

Nifer o Dai

Insiwleiddio Wal Allanol

207

Newid o wres canolog trydan i wres canolog nwy

135

Nifer cyfartalog y diwrnodiau i gwblhau 9.85 diwrnod atgyweiriadau cyffredinol

Gosod Paneli Solar i Dwymo Dwr ˆ

5

Gosod Paneli Solar Ffotofoltaig

37

Uwchraddio hen foeleri gwres canolog Gradd G

13

Canran y tenantiaid sy’n dychwelyd holiaduron yn mynegi boddhad gyda’r gwasanaeth atgyweiriadau

Mae effeithlonrwydd ynni ein cartrefi yn cael ei fesur gan y Weithdrefn Asesu Safonol (SAP), sef y fethodoleg a ddefnyddir gan yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd i asesu a chymharu ynni a pherfformiad amgylcheddol mewn tai. O ganlyniad i’r gwelliannau a wnaed, mae graddau cyfartalog ein cartrefi wedi cynyddu i 73 allan o 100; 65 yw’r sgôr targed sy’n ofynnol gan Safonau Ansawdd Tai Cymru. Mae ein perfformiad wrth gyflwyno rhaglenni gwella arfaethedig yn cael ei fesur yn erbyn ystod o fesurau perfformiad a ddatblygwyd ac y cytunwyd arnynt mewn ymgynghoriad â Gr wp ˆ Tenantiaid ar Wasanaethau Eiddo. Gweler y tabl isod. Mesur Perfformiad

Canlyniad Perfformiad

Canran o’r pethau y bwriadwyd eu hadnewyddu a oedd yn bodloni ein Safon Ansawdd yn ystod arolygiad.

99.15

Canran y tenantiaid a oedd yn dychwelyd holiaduron yn mynegi boddhad gyda’r gwasanaeth.

97.64

Canran o’r gwaith adnewyddu cynlluniedig a oedd yn bodloni’r safon Iechyd a Diogelwch.

100%

Nifer cyfartalog y diwrnodiau i gwblhau 4.5 diwrnod atgyweiriadau brys

98.38%

Ym mis Mawrth 2010, cyflwynwyd staff cynnal a chadw a gyflogir yn uniongyrchol (DEMS) gennym i gyflawni rhai o’r gweithgareddau cynnal a chadw a gwella. I ddechrau, mae dau weithiwr aml-sgiliau wedi cael eu cyflogi i wneud mân atgyweiriadau ymatebol. Mae perfformiad DEMS yn cael ei fesur yn yr un modd ag y mesurwn ein contractwyr er mwyn cael cymhariaeth uniongyrchol. Mae’r tabl canlynol yn nodi eu perfformiad yn ystod 2012/13: Mesur Perfformiad

Canlyniad Perfformiad

Nifer yr Atgyweiriadau a Wnaed

1629

Nifer cyfartalog y diwrnodiau i gwblhau 2.82 diwrnod atgyweiriadau brys Nifer cyfartalog y diwrnodiau i gwblhau 9.22 diwrnod atgyweiriadau cyffredinol Canran y tenantiaid sy’n dychwelyd holiaduron yn mynegi boddhad gyda’r gwasanaeth atgyweiriadau

99.40%

Dyrannwyd £ 345.551 o Grant Addasiadau Ffisegol Tai Cymdeithasol i ni gan Lywodraeth Cymru, a’n galluogodd i addasu pedwar deg pump o dai i ddiwallu anghenion penodol tenantiaid. Roedd y gwelliannau’n cynnwys pedwar estyniad i ddarparu cyfleusterau ystafelloedd gwely ac ystafelloedd ymolchi newydd, addasiadau i’r ystafell ymolchi, addasiadau i’r gegin, lifftiau grisiau, rampiau a systemau mynediad drws.

1 Rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru a sefydlwyd yn 2009 i ddod â manteision amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd i Gymru a chydlynu buddsoddiad ym mherfformiad ynni cartrefi Cymru. 2 Cyflwynwyd ECO ym mis Ionawr 2013 i leihau’r defnydd o ynni yn y DU a chefnogi pobl sy’n byw mewn tlodi tanwydd. Mae’n gwneud hyn drwy ariannu gwelliannau effeithlonrwydd ynni gwerth tua £ 1.3biliwn bob blwyddyn.


Gwasanaethau Pobl H yn ˆ Mae gan y Gwasanaeth Pobl H yn ˆ gyfanswm o 525 o gartrefi sy’n darparu ystod o opsiynau tai yn Ninas a Sir Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion. Mae opsiynau’n cynnwys: ■

Tai Gwarchod (gyda staff ar y safle a heb staff ar y safle).

Llety arbenigol ar gyfer Pobl Tsieineaidd H yn. ˆ

Tai Gofal Ychwanegol.

Tai Gwarchod yn cynnwys Swan Gardens Mae’r gwasanaeth yn parhau i sicrhau bod tenantiaid yn gallu byw mor annibynnol â phosibl mewn amgylchedd diogel, gyda mynediad i gymorth, cyngor a chymorth pan fo angen. ■

Mae’r staff wedi darparu ystod o gymorth sy’n canolbwyntio ar y person i dros 100 o denantiaid i gyflawni llawer o amcanion personol gan gynnwys: Gwell mynediad at ystod o weithgareddau cymdeithasol, gan leihau unigrwydd ac arwahanrwydd.

Mwy o hyder wrth reoli a delio â gohebiaeth.

Mynediad i’r hawliad budd-dal lles cywir i uchafu incwm i’r eithaf.

Ail-gartrefu mewn tenantiaethau newydd.

Ffactor allweddol dros y 12 mis diwethaf oedd datblygu digwyddiadau pleserus sy’n dod â’r cynlluniau at ei gilydd mewn amgylchedd cymdeithasol lle gellir rhannu diwylliannau a chreu cyfeillgarwch. Cynhaliwyd un digwyddiad o’r fath yn y neuadd gymunedol yn Hazel Court ym mis Chwefror 2013, yn dilyn llwyddiant digwyddiad Dragon Unite yn 2012 i ddathlu’r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd. Daeth mwy na 30 o denantiaid ar draws y cynlluniau draw i fwynhau cwis trawsddiwylliannol gyda chwestiynau ar wahanol feysydd pwnc ar Tsieina a Chymru. Daeth y tenantiaid â lluniaeth a oedd yn adlewyrchu bwydydd y ddwy wlad, a chafodd pawb brynhawn pleserus iawn. Mae’r digwyddiad hwn bellach yn un o’r prif ddyddiadau ar y calendr cymdeithasol, a bydd yn parhau i gael ei drefnu bob blwyddyn.

Maes Mwldan Symudodd Maes Mwldan yng Ngheredigion i’w ail flwyddyn o weithredu, ac mae’n parhau i ddarparu amgylchedd diogel a hygyrch ble gall pobl fyw a’i fwynhau. Cyflawnodd ddeiliadaeth o 100% yn Chwefror 2013, ac mae hyn wedi parhau drwy gydol y flwyddyn hyd yn hyn. Mae’r Gymdeithas Tenantiaid ym Maes Mwldan wedi parhau i ddatblygu, gyda rhai grwpiau newydd diddorol sy’n cynnwys tenantiaid a’r gymuned ehangach. Mae’r rhain yn cynnwys: ■

Gwau a sgwrsio.

Gr wp ˆ Cyfeillgarwch.

Dosbarthiadau Crochenwaith.

Grwpiau Ymarfer Corff.

Yn ddiweddar, sefydlwyd Gr wp ˆ Cymorth Diabetes, lle mae pobl sy’n byw ym Maes Mwldan ac yn ardal Aberteifi yn cyfarfod i drafod a chefnogi ei gilydd wrth reoli eu cyflwr. Mae’r gr wp ˆ yn gwahodd siaradwyr gwadd sy’n arbenigo mewn diabetes, a bydd Rhaglen Cleifion X-pert yn cael ei ffurfio a’i lleoli ym Maes Mwldan yn y misoedd nesaf. Mae’r tîm Gofal a Chymorth yn parhau i weithio’n rhagweithiol gyda thenantiaid i gynnal annibyniaeth, gan arwain at ostyngiad sylweddol yn yr oriau asesedig cychwynnol, a galluogi’r gwasanaeth i gynnig gofal a chefnogaeth i fwy o bobl. Un datblygiad cyffrous mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ceredigion yw ehangu’r gwasanaeth i ddarparu gofal yn y cartref i’r gymuned ehangach. Disgwylir y bydd y gwasanaeth hwn yn dechrau tua diwedd yr haf 2013. Y ffocws dros y flwyddyn nesaf yw datblygu gweithgareddau pellach sydd yn cael eu cynnig ym Maes Mwldan ac ehangu’r gwasanaeth Gofal a Chymorth i mewn i’r ardal leol.

7


Mae’r digwyddiadau canlynol yn dangos amrywiaeth y gweithgareddau cymunedol. Dathliad y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd ym mis Chwefror 2013, lle ymunodd mwy na 40 o denantiaid o Princess of Wales, Francis, Philadelphia a Traherne Courts â thenantiaid Swan Gardens yn Hazel Court, a drefnwyd drwy ymdrechion cyfunol y staff o’r ddau gynllun olaf hyn. Ym mis Gorffennaf 2012, cynhaliwyd Finance and Garden, digwyddiad cymunedol pontio’r cenedlaethau llwyddiannus, yn cynnwys Gr wp ˆ Garddio Hazel Knuts, aelodau o Gr wp ˆ Cymunedau yn Gyntaf Parc Sgeti a Phenlan; ysgolion Parkland a Clwyd, ac Undeb Credyd LASA. Hazel Court Mae Hazel Court, Abertawe, sydd yn ei phedwaredd flwyddyn o wasanaeth, yn parhau i gyflawni ei addewid i ddarparu cartrefi cyfforddus, o safon, mewn amgylchedd dymunol, a gofal a chefnogaeth i’r rheini sydd ei angen ac ar yr un pryd, yn dod yn ganolfan sefydledig ar gyfer gweithgareddau cymunedol hamdden, addysgol a chymdeithasol yn yr ardal. 8

Yn ystod y flwyddyn, darparwyd gwasanaethau gofal o safon i 45 o gartrefi unigol. Mae hyn yn cynnwys 10 o gartrefi ychwanegol, 3 ohonynt yn denantiaid newydd, a 7 tenantiaid presennol sydd bellach angen gofal. Mae hyn yn dangos nod Hazel Court i fodloni anghenion newidiol y tenantiaid, yn ogystal â’r ffaith nad yw 6 o bobl bellach angen gofal oherwydd bod eu hiechyd a’u lles wedi gwella ers byw yn y cynllun. “Mae Hazel Court wedi rhoi fy mywyd yn ôl i mi ac yn fy ngalluogi i ddatblygu cyfeillgarwch a chyfleoedd cymdeithasol” TENANT

Mewn partneriaeth â’r awdurdod lleol, mae’r Gwasanaeth Seibiant hefyd wedi dod yn adnodd cymunedol gwerthfawr, ac fe’i ddefnyddiwyd dros 153 diwrnod yn ystod y flwyddyn, gan ddarparu llety dros dro diogel a chyfforddus i bobl sy’n byw yn y gymuned ehangach. Mae cyfleusterau cymunedol helaeth Hazel Court yn cael eu defnyddio’n dda iawn gan bobl leol, grwpiau a sefydliadau, ac yn fwrlwm o weithgarwch y rhan fwyaf o’r amser. Yn wir, nid oes un diwrnod pan nad yw’r naill neu’r llall wedi cael eu bwcio ar gyfer eu defnyddio.

“Mae ysbryd cymuned yn cael ei feithrin o fewn y cynllun tai penodol hwn “ SYLWAD GAN WEITHIWR CYMDEITHASOL UWCH

Mae perthynas weithio agos â’r Gwasanaethau Cymdeithasol, Cefnogi Pobl, Tai a Cymunedau yn Gyntaf, yn ogystal â Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg, yn sicrhau bod gwasanaethau Hazel Court yn ategu ac yn cyfrannu at ymrwymiadau statudol Abertawe. Mae bod ynghlwm gyda sefydliadau fel Age Cymru, U3A, Cymdeithas Strôc, ysgolion lleol, colegau ac eglwysi a grwpiau eraill, yn galluogi Hazel Court i gyflawni ei hymrwymiad i’r gymuned ymhellach . “Mae’n gyfleuster gwych sy’n ymgysylltu â’r gymuned ehangach yn y fath fodd cadarnhaol”

Mae’r sylw hwn gan un o’r trigolion lleol sy’n mynychu cwrs U3A, yn crynhoi’r budd cymunedol y mae Hazel Court yn gweithio tuag ato, ac wedi llwyddo i’w gyflawni yn ystod y flwyddyn.


Cyfrifon Cryno

Aelodau o’r Bwrdd

am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2013 2013 £oedd YR HYN SYDD EI ANGEN ARNOM I REDEG Y GYMDEITHAS Tai, swyddfeydd, offer a cherbydau ar gost, llai grantiau a dderbyniwyd gan y Gymdeithas YR HYN SY’N DDYLEDUS I NI Gan Asiantaethau’r Llywodraeth, tenantiaid ac eraill Balans yn y banc ac ar flaendal tymor byr

LLAI BETH SY’N DDYLEDUS ARNOM NI I gontractwyr a chyflenwyr gwasanaethau Ar fenthyciadau, yn cynnwys morgeisi

YN GADAEL YR HYN SY’N BERCHEN I’R GYMDEITHAS SUT Y CRËWYD HYN Drwy gyfalaf cyfrannau Drwy refeniw wrth gefn Drwy gronfeydd dynodedig

2012 £oedd

Mrs M Watkins Is-gadeirydd, Goruchwylydd Cyfrifon, BSC (Wedi ymddeol) **

61,365

GWARGED AM Y FLWYDDYN Gwarged a gariwyd ymlaen o flynyddol blaenorol Trosglwyddiad i/o gronfeydd dynodedig

Mrs K Jones Is-gadeirydd, Cymdeithas Tai Castell (Cymru) Cyf Swyddog Gweinyddol (Wedi ymddeol) Tenant **

13,819 10,646

4,693 3,010

85,830

67,589

Mr B Smith M.Sc F.I.H. Cyn-gadeirydd (Cymdeithas Tai Teulu (Cymru) Cyf) Dirprwy Gyfarwyddwr Tai, Dinas a Sir Abertawe (Wedi ymddeol) **

9,623 69,070

4,230 56,236

78,693

60,466

Mr W Arthur L.L.B. Cyn-gadeirydd, (Cymdeithas Tai Teulu (Cymru) Cyf) Cyfreithiwr (Uwch Bartner) Wedi gadael Ionawr 2013 **

7,137

7,123

M Bourke J.P. F.C.I.B. Uwch Fancer (Wedi ymddeol) Cyfarwyddwr Cyllid Gloucester Foods Group Ltd, Ynad ** Mr T Gilby Cyn-gadeirydd Panel Tenantiaid Cymdeithas Tai Teulu, Rheolwr Siop Bapurau Newydd (Wedi ymddeol) Tenant **

-

-

5,800 1,337

3,242 3,881

7,137

7,123

Mr J Pile Bancer (Wedi ymddeol) Gwyliwr y Glannau Cynorthwyol ** Mr T Larcombe, Cyfarwyddwr Eiddo Hamlar Investments ** ** Hefyd yn gwasanaethu fel Aelod Cymdeithas Tai Castell (Cymru) Cyf

Gr wp ˆ Cymdeithas Tai Teulu (Cymru) Cyf 43 Heol Walter, Abertawe SA1 5PN Ffôn: (01792) 460192 Ffacs: (01792) 473726 www.fha-wales.com e-bost: info@fha-wales.com

O BLE DAETH YR ARIAN

Llai: gwariant ar wasanaethau, atgyweiriadau a chostau gweinyddol a benthyciadau

Canon J Morrissey Cyn-gadeirydd (Cymdeithas Tai Teulu (Cymru) Cyf) Cadeirydd, Cymdeithas Tai Castell (Cymru) Cyf **

59,886

GWEITHREDIADAU BLYNYDDOL

Rhenti tenantiaid a chostau gwasanaethau, heb unedau gwag Grantiau refeniw gan y llywodraeth, cymorthdaliadau, a Ffioedd Rheoli Incwm arall a llog derbyniadwy

Alderman A Lloyd OBE Cadeirydd, Cyn Arglwydd Faer Dinas a Sir Abertawe, Llywydd Undeb Rhyngwladol Awdurdodau Lleol, Llywydd Sefydlu Dinasoedd Unedig a Llywodraeth Leol **

11,529

10,640

3,790 480

4,859 322

15,799

15,821

15,744

15,266

55 3,242 2,503

555 1,012 1,675

Llywodraeth Cymru Rhif Cofrestru L002 Cydgymdeithasau’r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol Rhif Cofrestru 21057R Cymdeithas Tai Castell (Cymru) Cyf Llywodraeth Cymru Rhif Cofrestru P097 Cydgymdeithasau’r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol Rhif Cofrestru 26187R Yn gysylltiedig gyda Ffederasiwn Cenedlaethol Cymdeithasau Tai a Chartrefi Cymunedol Cymru Mae gan Gymdeithas Tai Teulu (Cymru) Cyf statws elusennol GYDA DIOLCH I’N PARTNERIAID ARIANNOL:

GWARGEDION CRONEDIG A GARIWYD YMLAEN

5,800

3,242

Barclays Bank PLC Co-operative Bank PLC Lloyds Banking Group (HBOS) Nationwide Building Society

9


www.fha-wales.com

10


11


12


13


14


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.