

Meithrin Twf Busnesau Bach: Dyfodol Cymorth Busnes yng
Nghymru
Eich cefnogi
Eich amddiffyn
Eich busnes

Dr Llyr ap Gareth
Felix Milbank
Mai 2025
Joanne Roberts
Fabulous Welshcakes
Cydnabyddiaeth
Awduron yr adroddiad hwn oedd Dr Llyr ap Gareth a Felix Milbank. Hoffai’r awduron ddiolch i’r holl gyfweleion a fu’n ddigon caredig i roi o’u hamser i gynorthwyo â’r adroddiad hwn. Mae rôl tîm Cymru wedi bod yn allweddol. Diolch i Mike Learmond, Rob Basini, Shona Holmes-Berry a Lauren Rose am y gefnogaeth hanfodol; hebddynt ni allai llawer o’r ymchwil fod wedi digwydd. Diolch i Ben Cottam a Fflur Elin am eu hadborth a’u cefnogaeth, yn ogystal â’u cyfranogiad pwysig wrth helpu â llunio’r adroddiad terfynol. Cawsom gefnogaeth gan dîm polisi’r DU i ddarparu barn a sylwadau ehangach – diolch yn arbennig i Iliana Pearce a Ben Butler am eu cyfraniad hael i’r adroddiad. Yn olaf, diolch i Uned Bolisi FfBB Cymru am eu mewnbwn a’u cefnogaeth.
Diolchwn i bawb y cyfeiriwyd atynt uchod am eu mewnbwn pwysig – ein camgymeriadau ni fel awduron yw unrhyw gamgymeriadau sy’n weddill.
Crynodeb Gweithredol
“Heb ymdrech, ni allwch fod yn llwyddiannus. Hyd yn oed os yw’r tir yn dda, ni allwch gael cnwd toreithiog heb amaethu.” Plato
Mae Cymru’n wlad entrepreneuraidd gyda busnesau bach a chanolig yn hanfodol i’n heconomi.
Gall mynediad at gymorth busnes effeithiol chwarae rhan hanfodol wrth rymuso unigolion i gychwyn a chynyddu eu busnesau, gan greu ffyniant ledled y wlad. Trwy ddarparu canllawiau hanfodol ar reoliadau a chyllid, ynghyd â hwyluso mynediad at gyfleoedd hanfodol ar gyfer mentora, hyfforddiant a chyllido, gall cymorth busnes fod yn sbardun allweddol ar gyfer twf, arloesedd ac effeithlonrwydd gweithredol o fewn y dirwedd busnesau bach a chanolig (BBCh) yng Nghymru. Mae meithrin twf BBCh yn allweddol i lwyddiant yn y dyfodol, a gallwn ddatblygu’r offer sydd gennym yng Nghymru i wneud hynny.
Mae cymorth busnes yng Nghymru wedi datblygu system ‘siop un stop’. Sefydlwyd Busnes Cymru yn 2011 i weithredu’r ymagwedd hon trwy gynnig cyngor annibynnol, am ddim, i entrepreneuriaid a busnesau ledled y wlad. Er bod y realiti’n cynnwys tirwedd fwy amrywiol o ddarparwyr cymorth, gan gynnwys mentrau penodol i’w sector fel Cyswllt Ffermio, Cymru Greadigol a Diwydiant Cymru, sefydliadau ledled y DU a rhwydweithiau mwy lleol, mae Cymru wedi llwyddo i sefydlu Busnes Cymru fel brand ymbarél amlwg a’r prif bwynt cyswllt cychwynnol, datblygiad sy’n ei osod ar wahân i ranbarthau eraill ar draws y DU.
Y sefydliad allweddol arall yw Banc Datblygu Cymru, a lansiwyd yn 2017 fel olynydd i Gyllid Cymru, sy’n darparu cefnogaeth annibynnol â’r nod o helpu busnesau bach a chanolig Cymru i gychwyn, cryfhau a thyfu trwy ddarparu opsiynau cyllido cynaliadwy ac effeithiol.
Ers sefydlu Busnes Cymru, mae’r dirwedd gyllido wedi newid yn llwyr oherwydd bod y DU wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd. Er bod Banc Datblygu Cymru wedi cael cyfalaf cynyddol i fynd i’r afael â phroblemau mynediad at gyllid, mae cyfanswm y cyllid ar gyfer Busnes Cymru wedi gostwng mwy na chwarter dros y cyfnod hwn oherwydd colli arian yr UE. O’r herwydd, mae wedi gorfod cyflawni mwy â llai.
Ar ôl ceisio deall effeithiolrwydd cymorth busnes wrth feithrin ‘ecosystem entrepreneuraidd’ yng Nghymru,
nodi meysydd i’w gwella, ac ystyried ei gyfeiriad yn y dyfodol, prif ganfyddiad yr adroddiad hwn yw bod ecosystem cymorth busnes Cymru yn darparu mantais strategol a chystadleuol sylweddol. Yn arbennig, mae’r amlygrwydd brand uchel sydd gan sefydliadau cymorth busnes yng Nghymru’n cynnig mantais strategol sylweddol ar gyfer llunio a gweithredu polisi yn y dyfodol. Er mwyn sicrhau bod Cymru’n gallu elwa’n llawn ar fanteision y system hon, mae’r adroddiad hwn yn dadlau y dylid dychwelyd lefelau cyllido, mewn termau real, i’r rhai oedd ar waith cyn i’r DU adael yr UE.
Mae ein hymchwil hefyd wedi tynnu sylw at feysydd clir ar gyfer gwelliant wrth ddarparu cymorth busnes ar draws gwahanol sefydliadau, yn enwedig yr angen am oruchwyliaeth a chraffu cryfach. I fynd i’r afael â hyn, rydym yn cynnig bod Llywodraeth Cymru’n sefydlu Bwrdd Twf Busnes. Y pwrpas fyddai dod â rhanddeiliaid o bob cwr o’r dirwedd cymorth busnes ynghyd, gan gynnwys defnyddwyr gwasanaethau, i asesu’r ddarpariaeth yn erbyn targedau perfformiad allweddol, i ddeall effeithiolrwydd allgymorth i grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn draddodiadol mewn cymorth busnes, ac i sicrhau bod gwasanaethau’n parhau i fod yn ddeinamig ac yn ymatebol i anghenion sy’n esblygu yn y dyfodol.
Mae dadansoddiad o’r broses cymorth busnes yng Nghymru hefyd wedi datgelu cyfleoedd allweddol ar gyfer gwelliant sy’n canolbwyntio ar daith y defnyddiwr. Byddai busnesau’n elwa o well ymgysylltiad, ymatebion mwy prydlon, a gostyngiad mewn biwrocratiaeth ddiangen. Er mwyn mynd i’r afael â’r materion hyn a chreu profiad mwy cydlynol, mae gweithredu strategaeth ddigideiddio gynhwysfawr sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr yn hanfodol. Mae’n bwysig nodi bod tystiolaeth yn dangos bod busnesau bach a chanolig yn gosod cryn werth ar gyswllt personol, gan olygu bod angen dull cytbwys sy’n ystyried ymgysylltu digidol ac wyneb-yn-wyneb fel strategaethau cyflenwol, gan sicrhau system gymorth amrywiol ac effeithiol.
Tynnodd ein hymchwil sylw hefyd at bartneriaethau effeithiol sy’n dod i’r amlwg rhwng Busnes Cymru a chyfryngwyr lleol, gan gynnwys grwpiau busnes sydd wedi’u gwreiddio’n ddwfn mewn cymunedau, er bod lle o hyd i ddatblygu’r perthnasoedd hyn i fod yn fwy effeithiol. Mae’n bosibl y bydd y sefydliadau lleol hyn yn elwa o fwy o ymddiriedaeth, gan alluogi mwy o ymgysylltu uniongyrchol â busnesau ac ymateb wedi’i
1 In 2023 alone, there were a record 20,675 start-ups launched, representing a 13.8% increase on 2022 - Insider Media (2024) ‘Wales experiences 2023 start-up boom: R3’, Insider Media, 23 January. Available at: https://www.insidermedia.com/news/wales/wales-experiences-2023-start-up-boom-r3
deilwra i anghenion y farchnad leol. Fodd bynnag, mae llwyddiant y model hwn yn dibynnu ar fodolaeth fforymau, hybiau a rhwydweithiau lleol cryf. Mae hyn yn gyson â chanfyddiadau ein hadroddiadau diweddar ar Sgiliau2, Gweithgynhyrchu3 a’r Diwydiannau Creadigol4 , a oedd yn tynnu sylw at y gwerth a’r cyfleoedd newydd a grëwyd gan strwythurau o’r fath. Felly, rydym yn argymell cyflwyno strategaeth ar gyfer datblygu rhwydwaith busnes lleol. Wedi’i ysgogi gan awdurdodau lleol â chyfrifoldeb dynodedig, byddai’r ymagwedd hon yn ategu cefnogaeth busnes cenedlaethol, gan sicrhau ei effaith a’i hygyrchedd ar lefel leol. Trin y tir fel bod mentrau’n glanio ar bridd ffrwythlon, fel petai.
Dangosodd adborth gan fusnesau a oedd yn cael cymorth, er bod y defnydd yn gyfyngedig, fod y rhai a oedd yn defnyddio ymgynghorwyr busnes preifat wedi elwa’n fawr o’u harbenigedd. Mae hyn yn awgrymu y gallai cynyddu mynediad at ymyriadau wedi’u teilwra o’r fath, a gwella’r ffordd y cânt eu hyrwyddo, ddarparu gwerth sylweddol i fusnesau. Felly, rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru’n cydweithio â Busnes Cymru i weithredu system talebau sy’n galluogi BBCh i gael mynediad at gymorth busnes arbenigol o’r farchnad breifat. Rydym yn ystyried hyn yn ategiad gwerthfawr i’r fframwaith cymorth presennol, ac yn amddiffyniad rhag disodli darpariaeth cymorth gan y sector preifat.
Nid yw’r system cymorth busnes yn gweithredu ar ei phen ei hun a rhaid ei hystyried fel rhan o’r dirwedd llywodraethiant a gwneud penderfyniadau ehangach
sy’n effeithio ar fusnesau, gan gynnwys cynigion ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredin newydd, strategaethau Diwydiannol a Busnesau Bach Llywodraeth y DU a chynigion ar gyfer ‘gwasanaeth cymorth busnes’ i’r DU. Dylai Busnes Cymru a Banc Datblygu Cymru, fel y ffynhonnell fwyaf adnabyddus ar gyfer cefnogaeth yng Nghymru, fod yn bartneriaid allweddol wrth lunio polisïau’r DU a’u gweithredu i gyd-fynd ag anghenion y farchnad leol yng Nghymru. Mae hefyd yn ddyletswydd ar Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i gydweithio’n effeithiol i sicrhau bod strategaethau economaidd cydlynol a chlir yn cael eu cyflwyno sy’n gweithio ar y lefel leol i fusnesau sy’n cael mynediad at gymorth.
Yn strategol, mae ‘siop un stop’ cymorth busnes Cymru yn ased hanfodol wrth gyflawni uchelgeisiau Llywodraethau’r DU a Chymru ar gyfer twf economaidd. Trwy rymuso busnesau’n effeithiol i gael mynediad at arbenigedd ac adnoddau allanol a’u defnyddio, mae’r ecosystem hon yn cynorthwyo busnesau bach yn uniongyrchol i oresgyn cyfyngiadau gweithredol, addasu’n gyflym i ofynion y farchnad sy’n esblygu, ac yn y pen draw cyflawni gwell cynaladwyedd hirdymor. Wrth ddatblygu dull cyfannol o gefnogi busnesau ar draws meysydd, o sgiliau i sero net i fusnesau’r stryd fawr, o gefnogi prosiectau mawr i gontractau cyhoeddus bach, gallwn gefnogi strategaeth datblygu economaidd sy’n helpu i dyfu busnesau a chyfleoedd ar draws ein holl gymunedau. Wrth feithrin BBCh, rydym yn paratoi’r ffordd ar gyfer llwyddiant economaidd Cymru yn y dyfodol.

2 L ap Gareth, E Crawley, K Marshal, B Wilmott, A Skills-Led Economy for Wales (FSB:2024), available at https://www.fsb.org.uk/resources/policy-reports/a-skillsled-economy-for-wales-MCFTTCO2J6WJBAPIBPWIK37I7VNM
3 D Pickernell ‘Manufacturing Momentum’ (FSB / Swansea University: 2023), available at https://www.fsb.org.uk/resources/policy-reports/manufacturingmomentum-MCQY4X3AG7KZFWJIJHMTSVBYZSSM
4 L ap Gareth ‘The Power of Creativity’ (FSB: 2024), available at https://www.fsb.org.uk/resources/policy-reports/the-power-of-creativityMCHA4NHOFOLFH3NNQRS5BE6XOCVA
Argymhellion Allweddol
Mae’r adran hon yn amlinellu argymhellion allweddol yr adroddiad. Mae argymhellion manylach wedi’u cynnwys ym mhrif gorff yr adroddiad.
Dylai Llywodraeth Cymru:
• Adfer lefelau cyllido ar gyfer cymorth i fusnesau yng Nghymru mewn termau real i’r rhai oedd ar waith cyn gadael yr UE, ac ymrwymo i gyllidebau amlflwyddyn.
• Ymrwymo i fapio ac adolygu cymorth busnes yng Nghymru, gan sicrhau fod hyn yn alinio ag anghenion yr economi yn y dyfodol.
• Datblygu system talebau i annog busnesau llai i gael mynediad at gymorth busnes o’r sector preifat.
• Gosod Banc Datblygu Cymru ar sail statudol i ddarparu sicrwydd a sefydlogrwydd ar gyfer y tymor hir.
• Sefydlu Bwrdd Twf Busnes i ddod â rhanddeiliaid o bob cwr o’r dirwedd cymorth busnes ynghyd, gan gynnwys defnyddwyr gwasanaethau, i asesu’r ddarpariaeth yn erbyn targedau perfformiad allweddol, i ddeall effeithiolrwydd allgymorth i grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn draddodiadol mewn cymorth busnes, ac i sicrhau bod gwasanaethau’n parhau i fod yn ddeinamig ac yn gallu ymateb i anghenion sy’n esblygu yn y dyfodol.
• Cyfeirio adnoddau ychwanegol at swyddogaeth reoli cyfrifon wedi’i thargedu a fyddai’n darparu cefnogaeth arbenigol a dwys – megis mentora wedi’i deilwra, mynediad at gyllid twf, a chefnogaeth ar gyfer addasu arloesedd a thechnoleg – i fusnesau bach a chanolig sydd ag uchelgais a photensial clir i ehangu eu busnes er mwyn mynd i’r afael â ‘chanol coll’ Cymru.
• Defnyddio adferiad y broses o wneud penderfyniadau ynghylch arian a ddaw yn lle’r hyn oedd yn arfer dod o gronfeydd yr UE i weithredu strategaeth economaidd gynhwysfawr, wedi’i chyflawni mewn partneriaeth â llywodraethau lleol a Chyd-bwyllgorau Corfforaethol, ac yn seiliedig ar argymhellion a gyflwynwyd gan y Sefydliad er Cydweithrediad Economaidd a Datblygiad (OECD) yn eu Hadroddiad ar Lywodraethiant Rhanbarthol a Buddsoddiad Cyhoeddus yng Nghymru.
Dylai Llywodraeth y DU:
• Defnyddio’r hyn sydd eisoes yn gweithio. Cydnabod cryfder brand a gwybodaeth Busnes Cymru wrth lunio polisïau newydd, gan gynnwys cyflawni’r Strategaeth Busnesau Bach a’r strategaeth ddiwydiannol, ynghyd â defnyddio’r mecanweithiau hyn sy’n bodoli eisoes i gyflawni eu hamcanion economaidd.
• Sicrhau nad yw unrhyw ‘Wasanaeth Twf Busnes’ newydd ar lefel y DU i gefnogi BBCh yn dyblygu, yn disodli nac yn gwanhau brand a gwaith Busnes Cymru yng Nghymru, ond yn hytrach yn ei gefnogi.
• Gosod targed y dylai hanner holl wariant uniongyrchol Menter Busnes ar gyllido Ymchwil a Datblygu (BERD) y Llywodraeth gael ei gyfeirio at fusnesau bach a chanolig, a gweithredu strategaeth i sicrhau bod cyfran Cymru o gyllid Ymchwil a Datblygu o leiaf yn adlewyrchu ei chyfran o’r boblogaeth.
Dylai Busnes Cymru:
• Gwella taith y defnyddiwr trwy gynyddu ymgysylltiad wyneb-yn-wyneb, gosod targedau ar gyfer pa mor gyflym y mae ymholiadau’n derbyn ymateb a gweithredu dull ‘swyddog achos’ gyda phwynt cyswllt wedi’i enw ar gyfer cymorth diriaethol.
• Gweithredu strategaeth ddigideiddio sy’n canolbwyntio ar gyflymu’r rhyngwyneb ar gyfer cymorth, lleihau biwrocratiaeth a sicrhau ymatebion cyflymach ar gyfer busnesau.
• Cyflwyno strategaeth farchnata sydd â’r nod o sicrhau bod busnesau’n ymwybodol o’r gefnogaeth sydd ar gael iddynt i fynd i’r afael â bylchau sgiliau yn eu gweithlu.
Dylai awdurdodau lleol:
• Gweithio gyda Busnes Cymru i gyflawni strategaethau datblygu rhwydweithiau busnes lleol a nodi a datblygu rhestr o bartneriaid wedi’u henwi i hwyluso atgyfeiriadau ar gyfer cymorth busnes, i ategu’r ddarpariaeth cymorth busnes ledled Cymru.
Pennod 1 Fframweithiau Damcaniaethol
Meithrin Twf Busnesau Bach
Fframweithiau Damcaniaethol
Mae fframweithiau damcaniaethol yn bwysig i ddeall sut mae gwahanol haenau’r llywodraeth yn rhyngweithio â’i gilydd, gan gynnwys sut mae llunwyr polisi a gweision sifil yn gweld cwmnïau a sut y gall ymyriadau eu cefnogi orau. Mae’r rhain yn llunio dealltwriaeth o’r math o gefnogaeth sydd ei hangen ar fusnesau, pa ymyriadau sy’n arwain at dwf a datblygiad economaidd, a sut i gefnogi dyheadau cwmni o gyfrannu at yr economi ehangach. Dyma’r lens y mae llunwyr polisi’n edrych drwyddi i ddeall sut mae cwmnïau’n gweithredu ac yn newid, ac i lywio’r penderfyniadau a fydd yn y pen draw yn effeithio ar fusnesau.
Mae trosolwg o rai o’r gwahanol fodelau yn ddefnyddiol. Nid yw hwn yn drosolwg cynhwysfawr, ond yn hytrach mae’n edrych ar sut mae’r fframweithiau a ddefnyddir yn cael effaith sylweddol ar sut mae polisïau’n cael eu llunio a’u gweithredu – a gan bwy – o fewn cymorth busnes yng Nghymru.
Mae’r bennod hon yn edrych ar sut mae cwmnïau unigol yn gweithredu (y lefel micro) a sut mae’r amgylchedd economaidd yn cael ei lunio ar gyfer llwyddiant (lefel macro) gan fod hyn yn berthnasol i’r ffyrdd y mae llunwyr polisi’n gweithio yng Nghymru a’r DU yn y maes hwn.
Datblygiad cwmnïau unigol (golwg o’r gwaelod i fyny)
Byddai llawer o gwmnïau’n anesmwytho pe byddent yn cael eu categoreiddio. Mae cwmnïau’n unigryw, mae ganddynt wahanol anghenion ac maent yn wynebu pwysau amrywiol ar wahanol adegau, maent yn wahanol o ran daearyddiaeth a sectorau – mewn sawl ffordd, yn ddelfrydol, byddai yna gymaint o ddulliau cymorth busnes ag sydd o gwmnïau!
Yn realistig, mae angen datblygu fframweithiau sy’n nodi lle gall ymyriadau gefnogi cymaint o gwmnïau â phosibl yn fwyaf effeithiol, gan flaenoriaethu effeithlonrwydd o fewn adrannau’r llywodraeth ac alinio â nodau polisi ehangach, megis datblygu strategaeth ddiwydiannol neu drawsnewid i sero net. O ganlyniad, er bod anghenion cymorth busnesau’n amrywio o ran maint, math a sector, maent yn aml yn wynebu problemau tebyg. Fel mae Ysgol Fusnes Harvard yn ei awgrymu, yr allwedd yw nodi’r heriau cyffredin hyn a’u trefnu mewn fframwaith sy’n gwella ein dealltwriaeth o natur, nodweddion a phroblemau busnesau, a thrwy hynny alluogi cefnogaeth effeithlon wedi’i thargedu.
Man cychwyn yw datgan yn glir, dro ar ôl tro, gydag Ysgol Fusnes Harvard nad ‘Busnes Mawr Bach yw Busnes Bach’.5 Felly, mae cymryd y math delfrydol o fusnes fel corfforaethau mawr ac yna gweithio’n ôl i lawr o’u pwysau a’u hanghenion hwy, yn gamgymeriad. Mae’r dull hwn yn camddeall anghenion penodol busnesau bach a chanolig yn sylfaenol ac, yn hollbwysig, yn cyfyngu ar eu potensial i dyfu. Os byddwn yn dechrau o’r syniad hwnnw, sy’n gamgymeriad – fel sy’n gallu digwydd weithiau mewn rhaglenni cymorth busnes generig – ni fyddwn yn gallu cael y gorau o’n BBCh yng Nghymru. Rhaid i unrhyw fframwaith ystyried gwahaniaethau’n unol â hynny: “...mae’r fframwaith yn cynorthwyo… i ganfod problemau a datrysiadau cyfatebol i fentrau llai. Anaml y caiff problemau busnes chwe mis oed sydd ag 20 o bobl, eu datrys gan gyngor yn seiliedig ar gwmni gweithgynhyrchu 30 mlwydd oed sy’n cyflogi 100 o bobl. I’r cyntaf, cynllunio llif arian sydd bwysicaf; i’r olaf, cynllunio strategol a chyllidebu i gyflawni cydlynu a rheolaeth weithredol sydd bwysicaf.”6
Er mwyn cefnogi twf busnesau bach a chanolig yn effeithiol, dylai fframwaith alinio cefnogaeth â chyfnodau penodol datblygu busnes. Mae’r camau hyn yn aml yn cael eu categoreiddio yn ôl twf:

5 J A Welsh & J F White, ‘A Small Business Is Not a Little Big Business’ (Harvard Business Review: 1981), available at https://hbr.org/1981/07/a-small-business-isnot-a-little-big-business
6 N C Churchill & V L Lewis, ‘The Five Stages of Business Growth’ (Harvard Business Review: 1983)
Cam I Bodolaeth
Cam II Goroesi
Cam III - D LlwyddiantYmddieithrio
Cam III - G Llwyddiant –Twf
Cam IV Cynnydd
Cam V Aeddfedrwydd adnoddau
Arddull rheoli Goruchwyliaeth uniongyrchol Goruchwyliaeth wedi’i goruchwylio Gweithredol Gweithredol Adrannol Llinell a staff
Sefydliad Maint systemau ffurfiol Ychydig iawn os o gwbl Ychydig iawn Sylfaenol Yn datblygu Yn aeddfedu Helaeth
Prif strategaeth Bodoli Goroesi Cynnal status quo o ran elw Mynnu adnoddau ar gyfer twf Twf Elw ar Fuddsoddiad
Busnes a pherchennog
Er enghraifft, yn ystod cyfnod twf cynnar, efallai y bydd busnesau angen mynediad at gyllid, yn ogystal â chyngor ar addasu polisïau gweithlu neu gael gafael ar adeiladau newydd. Wrth i gwmnïau ehangu, gall anghenion cymorth newid i gynnwys technegau uwch ar gyfer rheoli staff, strategaethau rheoli newydd, ac ymdrin â heriau adnoddau a chyfalaf sy’n gysylltiedig â chynyddu gweithrediadau. Mae canfod a mynd i’r afael â’r anghenion hyn ar gyfer camau penodol yn sicrhau cefnogaeth effeithiol wedi’i thargedu.
Nod pellach ddylai fod sicrhau model ar gyfer twf cynaliadwy sy’n blaenoriaethu cynlluniau olyniaeth da, gan sicrhau bod gwerth lleol yn cael ei gadw a’i wreiddio ac nad yw hynny’n cael ei golli yn sgil cyfalaf yn cael ei dynnu allan a chwmni arall yn cymryd drosodd. Felly, dylai strategaeth sy’n canolbwyntio ar fusnesau bach a chanolig geisio sicrhau’r manteision mwyaf posibl i economïau lleol.
Mae’n bwysig osgoi’r camgymeriad cyffredin o ystyried datblygu busnes fel cyfres o gamau anochel, neu greu model sy’n tybio bod twf bob amser yn ‘well’ i bob cwmni. Er mwyn gwrthweithio’r risg o gyfateb maint ag ansawdd cwmni, mae’r cysyniad o ‘Gewri Bach: Cwmnïau sy’n Dewis Bod yn Wych yn lle Bod yn Fawr’ yn cynnig dewis arall gwerthfawr. 8 Mae’r dadansoddiad hwn yn archwilio astudiaethau achos lle mae busnesau, ar ôl ehangu’n gyflym, wedi cydnabod eu bod o bosibl wedi colli eu gwerthoedd craidd, ac yn sgil hynny wedi blaenoriaethu eu cryfderau ansoddol dros dwf meintiol. Mae ffocws ar feithrin ‘cewri bach’ hefyd yn tynnu sylw
at y cyfraniad ehangach y mae cynifer o fusnesau bach a chanolig yn ei wneud i’w cymunedau, eu gweithluoedd, ac wrth hybu arloesedd. Er enghraifft, gallai cwmni flaenoriaethu arferion cynaliadwy neu fuddsoddi’n helaeth mewn hyfforddiant ar gyfer eu gweithwyr yn hytrach na throsiant uchel.
Felly, rhaid i unrhyw fframwaith fod yn ddigon hyblyg i ymateb i amryw anghenion cwmnïau unigol – rhai â thwf uchel ac eraill sydd â’r nod o ddatblygu yn ôl ethos gwahanol. Mae’r cwmnïau olaf hyn hefyd yn datblygu neu’n tyfu ar eu cyflymder eu hunain neu yn ôl eu gwerthoedd eu hunain, ac fel busnesau sefydlog sydd wedi’u gwreiddio yn eu cymunedau, yn hytrach na dehongliad rhy gaeth o’r fframwaith uchod. Mae cefnogi’r cwmnïau hyn hefyd yn bwysig i economi amrywiol ac i feithrin ‘canol coll’ cynaliadwy o gwmnïau sy’n tyfu, sy’n gynaliadwy ac sydd wedi’u gwreiddio ar draws cymunedau ledled Cymru.
Ecosystem entrepreneuraidd a ‘dull cenhadaeth’ (golwg o’r lefel uchaf i lawr)
The theoretical understanding of the ‘entrepreneurial Mae’n amlwg bod y ddealltwriaeth ddamcaniaethol o’r ‘ecosystem entrepreneuraidd’ a’i hamrywiadau yn ddylanwadol iawn ymhlith llunwyr polisi a pholisi llywodraethol cyfredol, gan gynnwys syniadau ynghylch ‘economi genhadol’ sy’n llywio cwmnïau tuag at dwf a datblygiad economaidd. Mae’r modelau hyn yn llunio’r camau a gymerir gan lunwyr polisi, ac maent wedi llunio rhai o’r cwestiynau rydym wedi’u gofyn i’r rhai y cyfwelwyd â nhw a’n harolwg yn unol â hynny.
7 Graphic adapted from N C Churchill & V L Lewis, ‘The Five Stages of Business Growth’ (Harvard Business Review: 1983)
8 B Burlingham, Small Giants: Companies Choosing to be Great instead of Big (Penguin: 2007)
Mae’r dull ecosystem yn pwysleisio’r cyddestun ehangach a rôl sefydliadau sy’n cefnogi entrepreneuriaeth a llwyddiant busnes trwy ddarparu’r cyfleoedd, y datblygiad sgiliau a’r gefnogaeth polisi ehangach i lwyddiant economaidd, yn ogystal â diwylliant sy’n hyrwyddo entrepreneuriaid. Mae angen llywio’r rhain tuag at nodau cyffredin, ond gyda gwahanol gwmnïau’n gweithio yn ôl eu cryfderau i adeiladu’r ‘ecoleg’ economaidd honno, a’r hyn sy’n caniatáu i fusnesau ffynnu.
Mae’r model MIT a grybwyllwyd gan lawer o’r rhai y cyfwelwyd â nhw’n dadlau bod yna bump o randdeiliaid allweddol sy’n hanfodol i lwyddiant y rhan fwyaf o ymdrechion mewn entrepreneuriaeth sy’n cael ei gyrru gan arloesedd yn yr ecosystem:
sefydliadol i’w hystyried. Felly, mae’r gwaith hwn yn cyd-fynd â’r ddealltwriaeth o ddatblygiad hanesyddol penodol a’r cysyniad o ddibyniaeth ar lwybrau, gan bwysleisio’r angen i bolisi ystyried cryfderau diwydiannol a seilwaith rhanbarthol sy’n bodoli eisoes. Dibyniaeth ar lwybrau yw’r syniad bod datblygiad economaidd yn cael ei ddylanwadu’n gryf gan ddigwyddiadau a phenderfyniadau hanesyddol, gan greu effeithiau wedi’u “cloi i mewn” lle mae rhanbarthau’n dod yn ddibynnol ar ddiwydiannau neu fodelau economaidd penodol. Gall hyn arwain at gloi i mewn cadarnhaol (e.e. twf cyson Silicon Valley mewn technoleg) a chloi i mewn negyddol (e.e. rhanbarthau ôl-ddiwydiannol sy’n ei chael hi’n anodd arallgyfeirio).12 Mae deall sut mae llwybrau economaidd hanesyddol yn dylanwadu ar ddatblygiad rhanbarthol, sut y gall alluogi neu gyfyngu ar ddatblygiad economaidd yn y dyfodol, yn hanfodol wrth ddylunio fframweithiau cymorth busnes effeithiol. Byddai’r safbwynt hwn yn pwysleisio’r angen am bolisïau addasol sy’n ystyried hanes, galluoedd a strwythurau sefydliadol rhanbarthol yn hytrach na datrysiadau un-maint-ar-gyfer-pawb.
Astudiaeth Achos Ryngwladol: Rhaglen
Broceriaeth Cymhwysedd Norwy
Yn Norwy, mae polisi arloesedd rhanbarthol wedi cael ei gydnabod fel rhywbeth hanfodol i gyflawni potensial economaidd y wlad. Mae’r rhaglen
Broceriaeth Cymhwysedd 2004, a gyflwynwyd o dan Raglen ar gyfer Ymchwil a Datblygu ac Arloesedd Rhanbarthol (VRI) Llywodraeth Norwy yn enghraifft o hyn. Nod y rhaglen
Er bod barn yn amrywio ynghylch ble y dylai pwysau cyfrifoldeb fod, yn enwedig a ddylai’r llywodraeth arwain trwy ysgogi’r ‘economi genhadol’ (cyfeirio buddsoddiad ac arloesedd yn weithredol tuag at nodau penodol)10 neu ddim ond “gosod y bwrdd” (creu amgylchedd ffafriol i fusnesau ffynnu),11 mae model MIT yn pwysleisio bod gan bob rhanddeiliad a nodwyd rôl hanfodol i’w chwarae wrth greu ‘ecosystem entrepreneuraidd’. Mae’r model hwn hefyd yn cydnabod bod rhai rhanddeiliaid yn chwarae rhan fwy amlwg ar wahanol adegau ac mewn gwahanol leoliadau.
Mae’r fframwaith hwn yn dangos na ellir trawsblannu model llwyddiannus o un ardal i’r llall a disgwyl iddo weithio, gan fod yna gryfderau lleol a strwythurau
Broceriaeth Cymhwysedd oedd gwella arloesedd a throsglwyddo gwybodaeth i fusnesau bach a chanolig trwy gyflogi cyfryngwyr i bontio bylchau gwybodaeth rhwng busnesau a sefydliadau ymchwil. Gallai Medr, corff addysg drydyddol Cymru, lenwi bwlch o’r fath o dan ei gylch gwaith presennol.
Un o brif gyflawniadau rhaglen Norwy oedd gwell mynediad i fusnesau bach a chanolig at adnoddau ymchwil a pholisi trwy’r broceriaid hyn, a hwylusodd gysylltiadau â phartneriaid ymchwil. Hefyd darparwyd cyllid a chyngor wedi’u targedu, a chefnogaeth wedi’i theilwra i anghenion rhanbarthol, a thrwy hynny fynd i’r afael â heriau economaidd lleol a lleihau anghydraddoldebau gwybodaeth.
9 P Budden & F Murray, ‘MIT’s Stakeholder Framework for Building & Accelerating Innovation Ecosystems’ (MIT: 2019)
10 M Mazzucato, Mission Economy: A moonshot guide to changing capitalism (Allen Lane: 2021); The Entrepreneurial State: Debunking Public vs. Private Sector Myths (Anthem: 2013)
11 J Lerner, Boulevard of Broken Dreams: Why Public Efforts to Boost Entrepreneurship and Venture Capital Have Failed – And What to Do About It (Princeton University Press: 2012)
12 R Martin & P Sunley, ‘Path Dependence and Regional Economic Evolution’ in Journal of Economic Geography, Volume 6, Issue 4, August 2006
13 OECD (2017), OECD Reviews of Innovation Policy: Norway 2017, OECD Reviews of Innovation Policy, OECD Publishing, Paris, https://doi. org/10.1787/9789264277960-en.
Er bod yr effaith hirdymor ar arloesedd busnes yn amrywio, llwyddodd y fenter i wella tirwedd arloesedd ranbarthol Norwy trwy feithrin cysylltiadau, cryfhau economïau rhanbarthol wrth ddefnyddio data, a hyrwyddo cydweithio.
Felly, mae’n bwysig, os yw’r ecosystem entrepreneuraidd yn sail i fesurau strategol, ei bod yn seiliedig ar ymyriadau penodol sy’n dilyn arfer
gorau fel y gwelir yn Norwy ac fel y’i nodir gan OECD.
Mae ein cyfweliadau â chwmnïau yn awgrymu, er eu bod yn teimlo eu bod wedi’u hamddifadu o ran gallu’r llywodraeth i fynd i’r afael â’u buddiannau, fod ganddynt hyder o hyd yn y systemau a’r prosesau sydd ar waith. Mae sefydliadau fel Busnes Cymru a Banc Datblygu Cymru’n cael eu hystyried yn sefydliadau gwerthfawr, gyda chwmnïau’n cydnabod eu rôl hanfodol fel pileri allweddol yn yr ecosystem cymorth busnes yng Nghymru ac yn ymateb yn wahanol i’r rhain yn yr arolwg o’i gymharu â gwleidyddiaeth bleidiol neu ymddiriedaeth isel mewn llywodraethau. Mae’n gyfrifoldeb arnom felly i sicrhau bod polisi economaidd yn datblygu ac yn gwella’r manteision sefydliadol hyn, a bod gwella cymorth busnes wedi’i seilio ar sefydliadau adnabyddus a chymharol ddibynadwy a welir fel rhai sydd heb gysylltiadau gwleidyddol. Efallai bod ‘rhan o’r dodrefn’ yn ymddangos yn ddyhead isel ei uchelgais, ond yn yr achos hwn, mae’n fantais wirioneddol ac yn sylfaen i adeiladu arni.
Crynodeb
Darparodd y fframwaith damcaniaethol yr egwyddorion a’r cwestiynau a oedd yn sail i’n hymchwil mewn arolygon a chyfweliadau. Mae’r pwyntiau allweddol fel a ganlyn:
• Mae sefydliadau Cymorth Busnes yn rhan allweddol o adeiladu ecosystem entrepreneuraidd yng Nghymru. Nid ydynt yn gwneud hynny ar eu pen ei hun. Mae angen i lawer o wahanol unigolion, sefydliadau ac agendâu polisi gydlynu a gweithio gyda’i gilydd tuag at adeiladu economi busnesau bach a chanolig lewyrchus.
• Mae’n bwysig bod cymorth busnes yn cael ei weld fel rhan o strategaeth ehangach i adeiladu’r ecosystem entrepreneuraidd yng Nghymru. Mae cefnogi’r busnesau sy’n ffurfio’r economi, yn ogystal ag alinio â strategaeth economaidd gydlynol sy’n cael ei gyrru gan y farchnad, yn rôl bwysig, ac mae cefnogaeth busnes cydlynol a chynhwysfawr yn bwysig i’r nod ehangach hwnnw. Mae gan fusnesau bach a chanolig anghenion gwahanol; felly mae fframwaith sy’n rhoi ystyriaeth i gylchred bywyd a modelau datblygu yn bwysig i ddeall y gwahanol anghenion hyn.
• Mae’n bwysig ein bod yn ystyried gwerth gwahanol fusnesau, a gwahanol fathau o fusnesau, a’u gwahanol fodelau datblygiad yn seiliedig ar eu gwerthoedd eu hunain fel Cewri Bach. Mae’n fwy na dim ond tyfu i fod yn fusnesau mwy o ran maint, ond yn hytrach busnesau cryf wedi’u gwreiddio, ac mae angen i’r gefnogaeth roi ystyriaeth i’r gwahanol anghenion hyn.
Pennod 2 Yr hyn a ddywedodd cwmnïau wrthym
“Dim ond trwy fod â phobl dda o’m cwmpas y gallaf adeiladu fy musnes, ac rwyf am i’r llywodraeth fod yn un o’r rheini. Un o’r rheini yw FfBB, un yw’r cyfrifydd, yr adran Adnoddau Dynol, y cyllid, gwasanaethau cyfreithiol, meddalwedd. Ond rwy’n teimlo bod angen i’r llywodraeth fod yn rhan o hyn ... mae angen iddyn nhw fod yn rhan o’r sgwrs.”
Cwmni cludiant, gogledd Cymru
O fis Hydref 2024 i fis Chwefror 2025, cynhaliodd
FfBB Cymru arolwg ar gymorth busnes; cynhaliwyd cyfweliadau â 9 cwmni ar draws gwahanol sectorau, a chynhaliwyd trafodaeth bwrdd-crwn gydag aelodau’r
FfBB i gasglu barn ynghylch cymorth busnes. Ffocws yr allgymorth oedd targedu’r rhai sydd â phrofiad o’r system cymorth busnes.
Mae’r bennod hon yn amlinellu prif ganfyddiadau’r ymchwil meintiol ac ansoddol a’r hyn a ddaeth i’r amlwg yn eu sgil. Mae’r bennod ganlynol yn edrych ar gyfweliadau â sefydliadau a darparwyr, ac yn gosod y materion a godwyd mewn fframwaith a dadansoddiad ehangach.
Dyheadau ar gyfer Twf
Er mwyn deall dyheadau ar gyfer twf y busnesau sy’n cael mynediad at gymorth, gofynnwyd am eu hamcanion, gan arwain at y canlyniadau hyn:
C1. Beth yw dyheadau ar gyfer twf eich busnes dros y 12 mis nesaf?
Dewisiadau Ateb Canran Ymateb
1. Tyfu’n gyflym o ran trosiant/gwerthiant (mwy nag 20% y flwyddyn)
2. Tyfu’n gymedrol (hyd at 20% y flwyddyn) 42%
3. Aros tua’r un maint 23%
4. Lleihau maint/cydgrynhoi ‘r busnes
6. Cau’r busnes
Roedd dwy ran o dair o’r ymatebwyr yn awyddus i dyfu eu busnes, gyda dim ond 9% yn ystyried lleihau neu ddirwyn i ben, sy’n tanlinellu potensial sylweddol busnesau bach a chanolig i fod yn ysgogwyr allweddol wrth gyflawni dyheadau twf Llywodraeth Cymru, gan ddangos yn glir pam fod darparu mynediad at gymorth wedi’i dargedu a chael gwared ar rwystrau polisi mor hanfodol.
Tynnodd ein cyfweliadau sylw at y gwahaniaeth y gall cymorth busnes ei wneud:
“A dweud y gwir, da iawn, ac fe wnaethon ni lansio ein busnes newydd yn llwyddiannus. Roedd y FfBB yn rhagorol wrth ddarparu cynifer o dempledi polisi o’i
wefan ragorol. Mae Rhaglen Cyflymydd
NatWest wedi bod yn wych trwy gefnogaeth gan garfan wych o fusnesau sy’n mynd trwy’r un cam o ran datblygiad, a hefyd am ein helpu i fireinio ein cyflwyniad a’n crynodeb 5 gair o’r hyn a wnawn, a oedd yn wych ar gyfer hyrwyddo neges ein gwefan.”
Gan y bydd twf yn golygu gwahanol bethau i wahanol fusnesau, gofynnwyd sut roedden nhw eisiau i’w busnesau dyfu a datblygu:
C2. Sut hoffech chi i’ch busnes ddatblygu dros y ddwy flynedd nesaf? (dewiswch hyd at 3)
Dod yn fwy cynhyrchiol (h.y. cynhyrchu mwy o nwyddau neu fwy o wasanaethau)
Datblygu cynhyrchion a/neu wasanaethau newydd
Dod yn fwy arloesol
cynllun olyniaeth
Hyfforddiant a datblygiad ar gyfer gweithwyr
Denu buddsoddiad newydd ar gyfer fy musnes
Dod yn fwy digidol 19.81%
Gwella cyflog a/neu amodau gweithwyr 17.92%
Dod yn fwy cynaliadwy yn amgylcheddol 17.92%
Cynyddu Allforion 11.32%
Y 3 prif faes yr oedd busnesau eisiau eu datblygu oedd:
• Dod yn fwy cynhyrchiol (h.y. cynhyrchu mwy o nwyddau neu fwy o wasanaethau)
• Datblygu cynhyrchion a/neu wasanaethau newydd
• Dod yn fwy arloesol
Mae hyn yn dangos, trwy ddarparu cefnogaeth briodol, y gellir grymuso busnesau bach a chanolig i gyflawni uchelgeisiau economaidd strategol ehangach Llywodraethau’r DU a Chymru ar gyfer hybu cynhyrchiant, datblygu marchnadoedd newydd ac arloesedd.
Dewisiadau Ateb Canran Ymateb

Nododd gwaith blaenorol FfBB ar yr agenda canol coll14 gynllunio olyniaeth fel gwendid ar draws economi Cymru. Felly mae’n ddiddorol nodi yn yr arolwg hwn, bod 28% wedi nodi bod ‘Datblygu cynllun olyniaeth’ yn flaenoriaeth dros y ddwy flynedd nesaf. Adlewyrchwyd hyn hefyd mewn trafodaethau gyda’r proffesiwn cyfrifyddiaeth, gan awgrymu bod pwyslais ar y mater hwn trwy sefydliadau cymorth busnes wedi arwain at ganlyniadau cadarnhaol. Mae hyn yn tynnu sylw at y ffaith, lle mae aliniad rhwng sefydliadau, darparwyr ac ymyriadau’r llywodraeth, wedi’i ategu gan amcanion polisi clir, y gall cymorth busnes gefnogi a helpu i lywio BBCh yn effeithiol. Fodd bynnag, ni nododd yr un o’r busnesau a oedd yn bwriadu cau yn y flwyddyn nesaf eu bod wedi datblygu cynllun olyniaeth gyda chymorth cefnogaeth busnes, sy’n dangos bod angen gwneud mwy o waith i sicrhau bod dyheadau i ddatblygu cynlluniau olyniaeth yn cael eu gwireddu.
Sefydliadau Cymorth Busnes a Gyrchwyd
Gofynnwyd pa gefnogaeth yr oedd busnesau bach a chanolig wedi’i chyrchu, fel a ganlyn:
C4. Ydych chi wedi ceisio cymorth busnes gan unrhyw un o’r sefydliadau canlynol? (dewiswch bob un sy’n berthnasol)
14 FSB Wales, ‘Wales’ Missing Middle’ (FSB: 2017)
Cyfoedion (h.y. busnesau eraill)
neu ffrindiau
lleol (Cyngor Sir)
Busnes y Sector Preifat 9.82%
Sefydliadau addysg (e.e. colegau neu brifysgolion wrth gael mynediad at sgiliau neu hyfforddiant)
Asiantaethau neu Hybiau Menter 5.36%
Arall (rhowch fanylion) 5.36%
Banc Busnes Prydain 0.89%
Cyfrifwyr yw’r brif ffynhonnell cymorth busnes, sydd i’w ddisgwyl fel gwasanaeth craidd y bydd angen i lawer o fusnesau bach a chanolig ei ddefnyddio. Mae hyn yn atgyfnerthu pwysigrwydd cyfryngwyr fel modd o gael mynediad at fusnesau bach a chanolig ac ymgysylltu â nhw.
Mae’n werth nodi bod Busnes Cymru yn ail agos i’r gwasanaeth allweddol hwn. Mae hyn yn dangos bod ei frand sefydledig, sy’n cwmpasu darparwyr lleol a chenedlaethol, wedi dod yn adnodd cyfarwydd a dibynadwy – ‘rhan allweddol o’r dodrefn’ i fusnesau bach a chanolig yng Nghymru. Mae’n debyg bod hyn wedi cael ei helpu gan sefydlogrwydd y brand ers ei sefydlu, yn dilyn cyfnod o ail-frandio mynych o fewn gwasanaethau cymorth busnes Cymru.
Mae darparu cymorth busnes yn effeithiol yn dibynnu ar gyfranogiad y sector cyhoeddus a’r sector preifat, gan feithrin dull cynhwysfawr a chytbwys sy’n cyfuno cymorth ac ymyriad y wladwriaeth â chyfeirio clir at ystod amrywiol o ddarparwyr, gan fod o fudd i’r amgylchedd busnes yn y pen draw.
FfBB yw’r trydydd o ran defnydd – rhaid i ni ystyried bod llawer wedi cyrchu’r arolwg trwy ein rhwydweithiau ein hunain, ond mae’n parhau i fod yn glir bod gan FfBB gyrhaeddiad eang a bod nifer sylweddol o ymatebwyr sy’n aelodau wedi cyrchu gwasanaethau FfBB.
Yn dilyn hyn, mae cyfran o fusnesau’n cael mynediad at gymorth trwy rwydweithiau anffurfiol o ffrindiau, teulu a chyfoedion. Mae hyn yn awgrymu bod cyfle sylweddol i wneud defnydd gwell o’r cysylltiadau hyn a’u datblygu ar gyfer cymorth busnes ffurfiol. Ar ben hynny, efallai na fydd cyrhaeddiad gwirioneddol y cyngor a geir trwy’r sianeli anffurfiol hyn yn cael digon o gydnabyddiaeth, gan na chyfeirir at gyngor a geir trwy’r llwybrau hyn bob amser fel cymorth busnes ffurfiol.
Dim ond 16.7% o’r ymatebwyr a nododd eu bod wedi ceisio cymorth gan eu hawdurdod lleol. Mae hyn yn ymddangos yn isel o ystyried bod cyfran sylweddol o gyllid Llywodraeth y DU, gan gynnwys arian o’r Gronfa Ffyniant Gyffredin a’r Gronfa Ffyniant Bro, wedi cael eu gweinyddu trwy awdurdodau lleol. Mae hyn yn awgrymu datgysylltiad posibl: naill ai nid yw busnesau’n ymwybodol o’r rôl y mae awdurdodau lleol yn ei chwarae wrth weinyddu arian o’r cronfeydd hyn, neu nid ydynt wedi cael cyfleoedd i’w cyrchu. I ategu hyn, datgelodd ein cyfweliadau rwystredigaeth ymhlith busnesau ynghylch awdurdodau lleol yn hysbysebu cefnogaeth ar wefannau a brofodd wedyn i fod yn hen ffynhonnau o gefnogaeth. Nododd un bod yna ‘gefnogaeth neu gyngor gwael iawn i’w gael gan yr awdurdod lleol’.
Roedd tua 10% o’r ymatebwyr wedi ceisio cymorth gan ymgynghorwyr busnes. Mae hyn yn cyd-fynd â’r hyn a wyddom am fusnesau bach a chanolig yn gyffredinol yn ystyried y cyngor drutach hwn fel yr un mwyaf addas ar gyfer busnesau sy’n canolbwyntio ar dwf – mae isset gyffelyb yn debygol o ymgysylltu â Banc Datblygu Cymru neu weld cefnogaeth o’r fath fel rhywbeth buddiol. Er mwyn ehangu mynediad ac effaith, efallai y byddai rhinwedd mewn cyfleu’n fwy effeithiol y manteision penodol a gynigir gan opsiynau cymorth a ariennir yn gyhoeddus a’r sector preifat. Fel y disgrifir yn nes ymlaen yn y bennod, efallai y bydd cyfle hefyd i Lywodraeth Cymru archwilio cymhellion fel talebau i alluogi busnesau bach i gael mynediad at arbenigedd ymgynghorwyr.
Yr ymateb sy’n peri’r pryder mwyaf ynghylch ffynonellau cymorth busnes oedd yr un yn ymwneud â’r sector addysg, gydag ychydig dros 8% yn nodi eu bod wedi ceisio cymorth gan sefydliadau addysg bellach neu uwch. Mae’n bwysig cydnabod nad yw busnesau bob amser yn ystyried cyrchu sgiliau trwy’r sefydliadau hyn fel cael mynediad i ‘gymorth busnes’ traddodiadol. Fodd bynnag, o ystyried bod y sector addysg yn rhan hanfodol o adeiladu ecosystem entrepreneuraidd lwyddiannus, mae’r ymgysylltiad isel hwn yn awgrymu tanddefnyddio’r potensial o fewn sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach Cymru i sbarduno twf economaidd, canfyddiad sy’n gyson â’n hadroddiadau diweddar ar sgiliau a gweithgynhyrchu.15
Roedd sgôr Banc Busnes Prydain (BBB) yn isel iawn ond o ystyried, ac eithrio rhywfaint o gyllid sbarduno ledled y DU, nad ydyn nhw fel arfer yn ariannu busnesau’n uniongyrchol, gallai hyn gyfrif am rywfaint o hynny, gan mai trwy gyfryngwyr eraill y byddai’r ymgysylltiad hwn yn digwydd yn gyffredinol. Mae hyn yn awgrymu y bydd rôl brand partneriaid wrth weithredu contractau BBP yn allweddol i gael mynediad at gwmnïau a sicrhau llwyddiant unrhyw fentrau. Mae Banc Datblygu Cymru a Banc Busnes Cymru wedi bod yn cydweithio’n effeithiol yng Nghymru ar Gronfa Buddsoddi Cymru gwerth £130 miliwn a meysydd ymchwil a dadansoddi’n ymwneud â mynediad at gyllid, er enghraifft. Dylai’r berthynas hon barhau a datblygu yn unol â blaenoriaethau a chynlluniau gwaith cydlynol.
• Gan fod brand Banc Datblygu Cymru yn llawer mwy adnabyddus yng Nghymru na brand Banc Busnes Prydain (BBP), dylai BBP sicrhau eu bod yn defnyddio’r brandiau Cymreig i gefnogi effaith eu gwaith yng Nghymru, ac yn defnyddio partneriaethau o’r fath i atgyfnerthu ac adeiladu brand BBP ochr-yn-ochr â brand Banc Datblygu Cymru.
15 L ap Gareth, E Crawley, K Marshal, B Wilmott, A Skills-Led Economy for Wales (FSB:2024); D Pickernell ‘Manufacturing Momentum’ (FSB / Swansea University: 2023)
Asesiad o Ansawdd Cymorth ac Ymgysylltiad
Dyma oedd yr asesiad o ansawdd y gwasanaeth gan wahanol ddarparwyr:
C5. A sut fyddech chi’n graddio ansawdd y gefnogaeth a’r gwasanaethau rydych chi wedi’u defnyddio?
Banc
Awdurdod lleol (Sir...)
Busnes Cymru
Buddsoddwr Angel Busnes
Banc Datblygiad Cymru
Banc Busnes Prydain
Cyfrifydd
Ffederasiwn y Busnesau Bach
Asiantaethau neu Hybiau Menter
Cyfreithiwr
Llywodraeth Cymru
Llywodraeth y DU
Teulu neu Ffrindiau
Sefydliadau Addysg (e.e. colegau...
Ymgynghorwyr Busnes Sector Preifat
Rhwydweithiau Cyfoedion
Dim o’r uchod
[noder y testun o Arall]
Meithrin Twf Busnesau Bach
Gwael lawn Da lawn Gwael Niwtral Da
Cefnogaeth gan ffrindiau, teulu a rhwydweithiau cyfoedion yw’r hyn a werthfawrogir fwyaf, gyda bron dim canfyddiadau negyddol, sydd ddim yn syndod o ystyried bod y rhain yn berthnasoedd parhaus sy’n bodoli eisoes ac y gellir ymddiried ynddynt. Er eu bod yn anffurfiol, daeth yn amlwg trwy’r cyfweliadau fod y cysylltiadau hyn yn ffynonellau pwerus o gyfalaf cymdeithasol a gallant chwarae rhan hanfodol wrth feithrin diwylliant entrepreneuraidd:
“Mae gen i restr o bobl rydw i’n mynd atyn nhw am y math yma o gyngor, lle rydych chi’n gwybod bod y rhai sy’n ei ddarparu’n gwneud hynny o’u hewyllys da eu hunain mewn gwirionedd, yn hytrach nag am unrhyw reswm arall.”
Er bod y niferoedd yn isel, mae’r rhai sydd wedi cael cymorth trwy ymgynghorwyr busnes preifat a sefydliadau addysgol hefyd yn canmol ansawdd y cymorth, gyda cymorth trwy ymgynghorwyr busnes preifat yn sgorio 0 (sero) o ganfyddiadau negyddol. Er bod y defnydd yn isel, mae hyn yn tynnu sylw at werth y llwybrau cymorth hyn unwaith y bydd busnesau’n eu defnyddio, fel yr eglurwyd gan un o’r rhai y cyfwelwyd â hwy:
“[O ran cyflogaeth] roedd angen i mi fynd trwy’r holl bethau cyfreithiol ar gyfer adnoddau dynol, a oedd yn wrthun i mi… Cysylltais â nhw a des i ar draws ymgynghoriaeth o’r enw’r HR Department… Fe wnaethon nhw gymryd yr holl gyfrifoldeb hwnnw oddi arnaf a gofalu am brosesau sefydlu, iechyd a diogelwch, y cylch gorchwyl a’r contractau. Roeddwn i wedyn y gallu canolbwyntio ar wneud yr hyn rwy’n ei wneud, a gwnaeth y bobl AD y gweddill.”
Mae hyn yn dangos y gallai mwy o’r mathau hyn o ymyriadau a gwell marchnata o werth y cynigion hyn neu gymhellion i wneud hynny ddarparu gwasanaeth sy’n cael ei werthfawrogi gan fusnesau sydd wedyn yn manteisio arnynt. Un ffordd o sbarduno’r farchnad hon fyddai bod â system sy’n caniatáu i fusnesau ddefnyddio talebau ar gyfer cyllid i gael mynediad at gymorth gan ddarparwyr cofrestredig, yn debyg i gynlluniau talebau ar gyfer allforio ac ar gyfer cyngor ar sero net. Gallai hyn gael ei weinyddu gan Fusnes Cymru neu Fanc Datblygu Cymru yn ôl yr angen.
• Dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu system talebau i annog busnesau llai i gael mynediad at gymorth busnes o’r sector preifat.
Yn yr un modd, mae Cyfrifwyr a Chyfreithwyr yn gwneud yn dda o ran ansawdd – mae hyn yn adlewyrchu’r ffaith y gall busnesau sy’n anfodlon â gwasanaeth ddod o hyd i ddewis arall yn y farchnad, ac maen nhw’n darparu gwasanaeth craidd sy’n cael ei werthfawrogi.
Roedd 72% o’r ymatebwyr yn gadarnhaol ynghylch gwasanaethau FfBB, gyda 14% yn ymateb yn negyddol.
Y sefydliadau sy’n denu’r canfyddiad mwyaf cymysg i negyddol yw banciau preifat. O ystyried yr hyn a ddeallwn am anawsterau wrth gael mynediad at gyllid yng Nghymru, nid yw hyn yn syndod, ond mae’n parhau i fod yn arwyddocaol. Mae hyn yn parhau i ddangos methiant yn y farchnad ar gyfer BBCh yng Nghymru, ac felly mae yna angen o hyd am gymorth i gael mynediad at gyllid a chyngor busnes o ffynonellau eraill, yn enwedig yn ystod cyfnodau o amodau economaidd anodd pan fydd banciau’n tynnu cyllid yn ôl.
• Mae rôl sefydliadau cyllid cyhoeddus fel Banc Datblygu Cymru a Banc Busnes Prydain yn parhau i fod yn bwysig fel sefydliadau ariannol annibynnol sydd â chennad i gefnogi cyllid BBCh a mynd i’r afael â methiant y farchnad mewn cyllid BBCh yng Nghymru. Dylai’r rôl a’r ffocws hwn ar lenwi bylchau mewn mynediad at gyllid ac ar brofi hyfywedd y farchnad i fanciau preifat a buddsoddwyr barhau a chael ei ddiogelu ar gyfer y dyfodol hirdymor.
Mae Busnes Cymru yn sgorio’n gymharol dda, ond mae lle sylweddol i wella. Roedd 58% yn ystyried y gefnogaeth y maent wedi’i chael mewn ffordd gadarnhaol, o’i gymharu â 22% yn ei gweld mewn ffordd negyddol. Defnyddiwyd Busnes Cymru gan un cwmni y cyfwelwyd â hwy a oedd o’r farn bod y gefnogaeth yn fuddiol, ond nododd y gallai fod wedi bod yn fwy defnyddiol fel ymyriad cynharach:
“[Ar gyfer] sgiliau o ran marchnata digidol, cyfryngau cymdeithasol… defnyddiais
Fusnes Cymru gryn lawer, yn enwedig yn ystod y cyfnod clo ar gyfer eu gweminarau i gael mynediad at gefnogaeth ar gyfer marchnata digidol…[roedden nhw] yn cynnig dadansoddiad o’n marchnata, hefyd dadansoddiad ac adroddiad ar ein gwefan. Roedd popeth yn dda, ond roeddwn i’n meddwl pe bai gennych chi’r dadansoddiad hwnnw ar y dechrau byddai hynny wedi dweud wrthych chi beth oedd ei angen arnoch chi, ac yna gallech chi fynd i ffwrdd a chael hyfforddiant ar ei gyfer. Roedd yn
ddefnyddiol, ond roeddwn i eisoes wedi creu gwefan a sefydlu’r sianeli, ond i gael gwybod beth oedd o’i le wedyn; roedd yn teimlo fel pe bai tuag yn ôl.”
Mae’n amlwg bod lle i wella yn y ffordd y mae Busnes Cymru’n darparu cymorth, yn enwedig o ran taith y defnyddiwr:
“Mae Busnes Cymru yn iawn ond yn araf gan ei fod yn ymddangos bod yn rhaid iddo archebu apwyntiadau gyda’i gynghorwyr, felly nid yw mor adweithiol ac uniongyrchol â’r ddau arall a grybwyllwyd. Dydw i ddim wedi fy argyhoeddi chwaith eu bod nhw wedi deall ein potensial ar gyfer twf.”
“Cefnogaeth gan gynghorwyr yw’r cyfan, ond mae’r pethau y mae cynghorwyr yn awgrymu y gallant roi cymorth i chi ar eu cyfer - nid yw hynny byth yn ymddangos yn dwyn ffrwyth chwaith.”
“Mae’r gefnogaeth gan Fusnes Cymru yn araf iawn o ran cael ymateb ac yn anodd cael mynediad ati.”
Un o’r prif broblemau yma yw nad yw’r amserlenni ar gyfer y sector cyhoeddus bob amser yn cyd-fynd â’r amserlenni tynn y mae busnesau’n glynu atynt er mwyn datblygu eu busnes. Roedd hon yn gŵyn a ailadroddwyd dro ar ôl tro yn ein cyfweliadau â chwmnïau wrth drafod ymgysylltu â chyrff cymorth busnes a llywodraethol.
Cysylltodd un o’r rhai y cyfwelwyd â hwy’r oedi hir â lefel yr awydd i fentro, gan dynnu cymhariaeth rhwng y broses bresennol a’r un oedd ar waith trwy’r Asiantaeth Datblygu Cymru (WDA) gynt:
“Yn y WDA roedd gan yr holl bersonél gefndir busnes, ac nid oeddent yn ofni cymryd ambell risg… Roedd y WDA yn nodi perthynas â’r busnes, yn nodi’r angen, gan ddefnyddio cyllid Ewropeaidd, llunio astudiaeth ymarferoldeb, a threfnu popeth o fewn ychydig fisoedd… Dyna’r math o gyflymder y mae busnesau am ei weld wrth geisio datrysiad - heddiw, yfory, erbyn diwedd yr wythnos. A dydw i ddim yn credu y gallai Busnes Cymru ymdopi â hynny.”
Nododd un arall y cyfwelwyd â hwy fod “Busnes Cymru yn wych ar gyfer busnesau newydd, os ydych chi yn y ddwy flynedd gyntaf, ond unwaith y byddwch chi wedi sefydlu mae’r cyfan ychydig yn ddiamcan; mae popeth wedi’i deilwra ar gyfer busnesau newydd”. Mae hyn yn cyd-fynd â chyfweliadau blaenorol gan FfBB a ganfu dro ar ôl tro fod busnesau’n gyffredinol yn teimlo eu bod ar ymyl y clogwyn o ran cael mynediad at gymorth busnes addas i lawer ar ôl y ddwy flynedd gyntaf. Mae’n ymddangos bod yna fwlch yn y ddarpariaeth rhwng cwmnïau newydd a chwmnïau ‘twf uchel’, gyda chwmnïau sy’n ceisio datblygu mewn strategaeth o dwf cynaliadwy dros amser yn y ‘canol coll’ yn syrthio rhwng y ddwy stôl yma.
Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru
Mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru yn fenter a ariennir yn llawn a gynlluniwyd i gefnogi busnesau twf uchel yng Nghymru, ac fe’i cyflwynir gan dîm o hyfforddwyr busnes. Mae’r rhaglen yn darparu cyngor ac arweiniad wedi’u teilwra i helpu busnesau i ehangu’n gyflym, cynyddu cyflogaeth ac archwilio cyfleoedd rhyngwladol.
I fod yn gymwys, rhaid i fusnesau fod â photensial clir ar gyfer twf uchel, gan ddangos eu bod yn gallu:
• Cyflawni twf blynyddol o 20% mewn trosiant neu gyflogaeth dros ddwy flynedd.
• Creu o leiaf 10 swydd lawn-amser newydd o fewn tair blynedd.
• Ehangu i farchnadoedd rhyngwladol sydd â photensial cryf ar gyfer twf.
Mae’r rhaglen hefyd yn cefnogi busnesau newydd cyn iddynt ennill refeniw, ar yr amod eu bod yn bwriadu dechrau masnachu o fewn 12 mis ac yn dangos potensial cryf i gyrraedd y targedau twf.

Nodwyd mewn sylwadau eraill ar Fusnes Cymru eu bod ‘yn canolbwyntio’n fawr ar gynllun busnes’ ac nid oeddent yn mynd i’r afael â’u hanghenion; yn ôl un arall roedd yn rhy ‘generig’ ond, gan ei fod yn wasanaeth am ddim, na ellid disgwyl iddo fod yn ‘bopeth i bawb.’
O ran ymgysylltu, gofynnwyd hefyd am y dewisiadau canlynol ynghylch pa fathau o ymgysylltu fyddai’n cael eu gwerthfawrogi fwyaf gan fusnesau bach a chanolig:
C7. Pa rai o’r canlynol sy’n bwysig i chi wrth ymgysylltu â gwasanaethau cynghori?
Dewisiadau Ateb
Canran Ymateb
Gallu siarad ag arbenigwr sy'n deall fy sector 62.07%
Un pwynt cyswllt i weithredu fel cynghorydd 55.17%
Cyswllt wyneb-yn-wyneb â chynghorwyr 47.13%
Iaith glir a hygyrch (h.y. heb jargon) 44.83%
Archwiliad blynyddol, gan asesu pa wasanaethau cymorth sydd ar gael a allai helpu ag anghenion penodol fy musnes –'MOT Busnes' 31.03%
Cyswllt rhithiol (e.e. trwy Zoom, Teams, FaceTime, a.y.b.) 28.74%
Llwyfannau digidol i gael mynediad at wasanaethau cymorth busnes 18.39%
Ar 62%, y math o gyngor ynghylch ymgysylltu a werthfawrogir fwyaf yw ‘Gallu siarad ag arbenigwr sy’n deall fy sector’. Mae’r nifer fach sy’n defnyddio ymgynghorwyr preifat yn syndod yn hyn o beth, gan y byddai’r rhan fwyaf o gefnogaeth arbenigol o’r math hwn i’w chael yn fwy tebygol yn y maes hwn na thrwy (er enghraifft) Busnes Cymru. Mae hyn efallai’n dangos – ochr-yn-ochr â’r ffaith bod y sampl fach sy’n defnyddio’r gwasanaeth hwn yn gyffredinol yn gwerthfawrogi ansawdd y gefnogaeth – y gallai fod angen gwell rhyng-gysylltu ar draws y system i awgrymu cefnogaeth breifat â thâl fel opsiwn da, o bosibl gyda chofrestr o ymarferwyr ac arbenigeddau. Mae hefyd yn wir y gallai fod angen cefnogaeth ganolig sydd rhwng yr ochr ‘twf uchel’ a’r ‘busnesau bob-dydd’, i fynd i’r afael â’r busnesau hynny nad ydynt yn fusnesau newydd, nad ydynt ’chwaith yn rhai twf uchel ond sydd am ddatblygu. Fel y nodwyd, dyma pam y gallai cynllun talebau i annog defnyddio’r gwasanaethau hyn fod o fudd.
Yr ail ffactor a werthfawrogir fwyaf yw un pwynt cyswllt ar 55%. Mae ein cyfweliadau’n rhoi cipolwg pellach ar y gwerth y mae busnesau’n ei gael o fod â mynediad at un pwynt cyswllt i helpu â llywio’r busnes trwy system gymhleth:
“Yn fy mhrofiad i, mae’r perchennog busnes cyffredin eisiau rhywun i eistedd wrth eu hochr dros baned o goffi a siarad â nhw neu adael iddyn nhw siarad am eu heriau, ac yna dod o hyd i ryw fath o ddatrysiad.”
Mae cyswllt wyneb-yn-wyneb hefyd yn amlwg yn bwysig i fusnesau, fel y gwelwyd yn ystod ein cyfweliadau:
“Ond rwy’n teimlo y gallaf ofyn i chi egluro pethau nad wyf yn eu deall. Mae’n ddeinamig ac mae’n fyw, mae’n digwydd yn y fan a’r lle a doeddwn i ddim yn teimlo hynny gyda’r cais cyllid. Beth sydd orau i mi mewn gwirionedd? Pa opsiynau sydd ar gael i mi? Rwy’n teimlo y gallwn ofyn y cwestiynau hynny i chi yma. Ond doedd y rhain ddim y math o gwestiynau roeddwn i’n teimlo y gallwn i fod wedi cael atebion iddynt mewn e-bost yn ôl ac ymlaen, gyda dau neu dri diwrnod o oedi rhwng pob ateb.”
Mae hyn yn awgrymu, er bod canoli arbenigedd i lefel genedlaethol yn ddealladwy (yn dilyn llai o gyllid ar ôl i’r DU adael yr UE), a bod y dyfodol yn debygol o gynnwys mwy o ddefnydd o ddulliau digidol a deallusrwydd artiffisial, i lawer o fusnesau bach a chanolig, mae’r cyswllt wyneb-yn-wyneb ac unigol yn bwysig. Felly mae angen cynnwys hyn fel elfen allweddol o strategaethau ymgysylltu – gan gynnwys strategaethau lleol a thrwy gyfryngwyr lleol – fel ffordd o feithrin ymddiriedaeth a dealltwriaeth.
Wrth gwrs, mae cyfaddawdau yma o ran cost a chynhyrchiant, gan y gall gwasanaeth cymorth busnes cenedlaethol gysylltu â mwy o fusnesau’n rhithiol nag y gallant wyneb-yn-wyneb. Rhaid i’r cydbwysedd fod yn gywir. Gall adeiladu rhwydweithiau lleol a chyfryngwyr lleol ychwanegu at y system a chwarae rhan allweddol yma, a gallai strategaeth adeiladu rhwydwaith cymorth busnes lleol gydag adnoddau i’w datblygu ar sail lleoliad chwarae rhan sylweddol mewn gwell mynediad at y system, ac ymgysylltiad â hi. Mae angen ystyried ymgysylltu rhithiol ac wyneb-yn-wyneb â busnesau yn strategol nid fel pethau sy’n gwrthwynebu, ond yn hytrach fel pethau sy’n ategu ei gilydd.
Nododd ambell un o’r rhai a gafodd eu cyfweld ddiffyg ymgysylltiad personol ar gyfer busnesau yn y system, er gwaethaf y ffaith bod polisïau ar waith i ddarparu un swyddog achos ar gyfer yr holl berthynas â busnesau. Felly, y meysydd allweddol i’w gwella yw amseroldeb ymatebion ac ymgysylltu, lleihau biwrocratiaeth, ac ansawdd cynghorwyr (a drafodir yn fanylach yn ddiweddarach yn yr adroddiad). O ran amseroldeb ymatebion, mae yna ddadl gref dros greu’r capasiti ychwanegol sydd ei angen o fewn y system i fynd i’r afael â hyn. Dylai Busnes Cymru a Banc Datblygu Cymru adolygu’r sefyllfa a mynd i’r afael â hyn.
• Dylai Busnes Cymru wella taith y defnyddiwr trwy gynyddu ymgysylltiad wyneb-yn-wyneb, gosod targedau ar gyfer pa mor gyflym y derbynnir ymatebion i ymholiadau a gweithredu dull ‘swyddog achos’ gyda phwynt cyswllt wedi’i enwi ar gyfer cymorth annibynnol.
• Dylai pob sefydliad cymorth busnes sicrhau ymateb prydlon ac eglurder ynghylch amserlen ar gyfer pryd y gall busnesau ddisgwyl ymateb neu drefnu unrhyw ymyriadau ymarferol.
Mae Banc Datblygu Cymru yn gwneud yn weddol dda yn yr arolwg hefyd, ond unwaith eto mae lle i wella. Roedd gan 50% o’r rhai a oedd wedi defnyddio eu gwasanaeth farn gadarnhaol, ac 8% farn negyddol, er bod nifer yr ymatebwyr i’r arolwg a oedd wedi defnyddio eu cymorth yn isel (fel y byddai disgwyl), ac felly dylid ystyried y ffigurau hyn fel rhai dangosol yn unig. Yn y cyfweliad mwy manwl, roedd yn galonogol canfod bod busnes a gyfwelwyd gennym wedi cael cyngor cynnar gan Fanc Datblygu Cymru ar olyniaeth ac ymadael, a ffurfiodd sail i ddull gweithredu’r busnes drwyddo draw. Felly roedd hyn wedi darparu cymorth ar gyfer cynllunio busnes fel cefnogaeth gyfannol o’r cychwyn cyntaf:
“Yn syth pan ddechreuais i yn 2019, cysylltais â Banc Datblygu Cymru… Ac roedd yn adeiladol iawn oherwydd fe helpodd fi i symud o fod yn ddechreuwr llwyr i gydnabod bod gen i fusnes nawr… Er enghraifft, gofynnodd y mentor busnes i mi beth yw eich strategaeth ymadael? Roeddwn i wedi bod mewn busnes ers tua phythefnos. Doedd gen i ddim syniad beth oedd strategaeth ymadael yn ei olygu. Ond fe wnaeth fy ngorfodi i ofyn i mi fy hun, sut oeddwn i’n gweld fy nyfodol?...sut oeddwn
i’n mynd i symud o ddechrau busnes i’r pwynt ymadael? A beth oedd angen i mi ei wneud ar y daith honno i gyrraedd y pwynt ymadael ar yr amserlen oedd gen i mewn golwg er mwyn gwireddu’r bywyd hwnnw yn y dyfodol? Fe helpodd fi i ganolbwyntio, i gynllunio. Felly, cadarnhaol iawn.
Mae’r gefnogaeth honno wedi fy helpu i dyfu … ni allem fod wedi gwneud hynny heb y gefnogaeth ariannol honno.”
Manteisiodd un busnes hefyd ar gefnogaeth Banc
Datblygu Cymru ar gyfer buddsoddiad cyfalaf newydd ar gyfer cerbydau, a oedd wedi caniatáu i’r busnes dyfu, er bod rhai amheuon ynghylch y fiwrocratiaeth a’r ymgysylltu yn ystod y broses honno (y byddwn yn edrych arnynt ymhellach yn yr adran ymgysylltu).
Roedd un busnes wedi cael mynediad at gymorth ar gyfer offer, ond teimlai y byddai mynediad at gyllid refeniw wedi helpu twf cyflym:
“Fe gawson ni ddau fenthyciad bach gan Fanc Datblygu Cymru ar gyfer offer yn gynnar. Maen nhw’n fodlon rhoi benthyciad i chi ar gyfer offer, ond fyddan nhw ddim yn rhoi benthyciad i chi ar gyfer twf. Roedden ni wir eisiau defnyddio arian i fynd allan a phrynu [cynnyrch] i symud popeth ymlaen, a gallen ni fod wedi dyblu ein harian dros nos… [Ond] mae gormod o risg yn hynny, ac nid oedd yn wariant cyfalaf. Felly, gallwch chi gael arian yn erbyn offer cyfalaf [ond nid refeniw].”
Fel gyda Busnes Cymru, roedd problemau ynghylch biwrocratiaeth araf hefyd yn amlwg yn ein cyfweliadau:
“Roedd y broses honno’n hir, yn araf ac yn llafurus iawn, ac rwy’n credu ei bod yn ddiangen o gymhleth oherwydd bod gen i berthynas â nhw… pam [mae angen] i mi roi fy nyddiad geni iddyn nhw ar sawl cais oherwydd dydy fy nyddiad geni ddim yn newid… [Os] oes gen i hanes masnachu gyda chi, pam y byddwn i’n gofyn i chi ddweud pethau wrthyf rwy’n eu gwybod eisoes? Roedd hyn yn fy nghythruddo i.”
Roedd busnes arall wedi canfod y broses ar gyfer
Buddsoddiad Angel a ddarparwyd gan Fanc Datblygu Cymru yn llai na delfrydol:
“Treulion ni oriau ac oriau yn y dyddiau cynnar yn gwneud cyflwyniad buddsoddi i Fanc Datblygu Cymru… roedden nhw’n benderfynol o leihau ein gwerth er mwyn cael mwy o ecwiti am eu harian… Felly, dywedon ni wrthyn nhw ‘Dim diolch.’
Byddai’n well gennym ni wneud hyn yn organig. Mae’n daith anoddach ac mae’n cymryd mwy o amser i ni nawr, ond doedden ni ddim am gael ein gorfodi gan fuddsoddwyr nad oedd ganddyn nhw’r gwerthoedd craidd oedd gennym ni mewn gwirionedd.”
Penderfynodd y busnes nad oedd y cynnig a oedd ar y bwrdd yn foddhaol, ac mae’r dewis o ddod o hyd i’w cyllid eu hunain yn alinio â’r hyn y mae’r llenyddiaeth academaidd wedi’i ganfod o ran rhestr flaenoriaethau ariannol BBCh.16 Roedd yr un cwmni wedi canfod bod cyllid Innovate UK yn arbennig o werthfawr, ac o ystyried bod yr arolwg wedi canfod bod nifer fach yn ystyried ‘arloesedd’ fel blaenoriaeth wrth gael mynediad at gyllid, mae hyn yn fewnwelediad defnyddiol ynghylch y broses sydd ar waith:
“Gydag Innovate UK mae unrhyw beth rydyn ni’n ei wneud gyda nhw yn cyflymu ac yn talu’n ôl ar ei ganfed… Rydyn ni wedi gwneud cwpl lle rydyn ni wedi partneru â phobl. Mae wedi cyflymu datblygiad y cynnyrch… fel ein bod ni wedi datblygu rhywbeth sy’n llawer mwy clyfar na’r hyn rydyn ni wedi’i gynllunio fel ein [cynnyrch] cychwynnol cyntaf… Cawson ni gefnogaeth lawn ar gyfer y prosiect i’n tywys trwy ddatblygu’r defnyddiau, sicrhau patent - y cwbl… Rydyn ni’n rhoi llawer o amser ac ymdrech i’r fenter, ond rydyn ni bob amser yn gweld ein bod ni’n cael yn ôl yr hyn rydyn ni wedi’i roi i mewn i’r prosiectau hynny… Mae’n system dda.”

Mae hyn yn dangos pan fydd busnesau’n cael mynediad at gymorth gan Innovate UK y gall fod yn werthfawr iawn a’u helpu i feddwl am sut y gallant amrywio eu cynhyrchion ac edrych ar farchnadoedd newydd. Yn hanesyddol, mae Cymru wedi derbyn lefel gymharol isel o gyllid ar gyfer arloesedd, sydd wedi’i erydu ymhellach ar ôl gadael yr UE, gyda rhai o’r bobl y cyfwelwyd â hwy yn nodi gostyngiad sylweddol mewn cyllid craidd ar gyfer arloesedd. Serch hynny, mae gwaith wedi’i wneud i rannu adnoddau ar draws sefydliadau Cymru a’r DU i wneud iawn am rywfaint o’r diffyg hwn.
Fel mae adroddiad FfBB ‘The Tech Tonic’17 yn nodi, o’i gymharu â gwledydd eraill y Sefydliad er Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD), ar lefel y DU gyfan, cwmnïau mawr sy’n cael mynediad at gymorth Ymchwil a Datblygu uniongyrchol yn bennaf ac mae’n bwysig bod busnesau bach arloesol hefyd yn elwa o’r cymorth hwn. Mae nifer o wledydd, fel Awstralia, Estonia, Iwerddon a Lwcsembwrg, wedi cyflwyno cyllid uniongyrchol wedi’i dargedu at fusnesau bach a chanolig, a allai ddarparu enghreifftiau da i’w hystyried.
Ar ben hynny, mae Cymru’n derbyn llai na’i chyfran o’r boblogaeth y DU ar gyfer Ymchwil a Datblygu –yn 2022, roedd gwariant Ymchwil a Datblygu yng Nghymru’n cyfateb i 2.3% o gyfanswm gwariant
16 Berger, Allen N. and Udell, Gregory F., The Economics of Small Business Finance: The Roles of Private Equity and Debt Markets in the Financial Growth Cycle. Available at SSRN: https://ssrn.com/abstract=137991 or http://dx.doi.org/10.2139/ssrn.137991. Under Berger and Udell’s “financial growth cycle” theory founders of new firms tend to seek insider finance from family and friends before and at inception as entrepreneurs are “still developing the product or business concept and when the firm’s assets are mostly intangibles”
17 C Russell, ‘The Tech Tonic: Shifting the ground on tech adoption and innovation in small businesses’ (FSB: 2023), available at https://www.fsb.org.uk/resources/ policy-reports/the-tech-tonic-MCKYQV5I5XCFGN5G7G6KKLGSLC7E
Ymchwil a Datblygu’r DU.18 Mae hyn yn adlewyrchu ‘gwendid strwythurol’ yn ei system ymchwil ac arloesedd, er bod yr hyn a gyflawnir yn cael effaith sylweddol.19 Mae angen trefnu cyllido’n well i wasanaethu Cymru, a BBCh yng Nghymru.
Mae’n galonogol bod Memorandwm o Ddealltwriaeth20 wedi’i ddatblygu rhwng Busnes Cymru ac Innovate UK a bod hyn yn nodi’r tanariannu a’r rhagfarn gyffredinol o ran lleoedd a chanolfannau cydgrynhoi mewn arloesedd sydd wedi gosod ardaloedd fel Cymru dan anfantais. Mae’r gwaith hwn gydag Innovate UK yn neilltuo swm penodol o arian i Gymru am y tro cyntaf, yn hytrach nag o gronfa ehangach, gan gynnwys safleoedd lansio ar gyfer Technoleg Amaeth yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru ac ar gyfer safle lansio Sero Net yn Ne Cymru. Fodd bynnag, mae’r duedd yn parhau i anelu arian at brosiectau ‘uwch-dechnoleg’, yn hytrach nag arloesedd prosesau, ac mae’n tueddu i roi blaenoriaeth i gwmnïau mwy. Er bod y datblygiadau hyn yn ddechrau da, mae angen gwneud mwy i fynd i’r afael â thanwariant hanesyddol a pharhaus y DU yng Nghymru. Wrth wneud hynny, dylai sicrhau cyfran o wariant ar gyfer busnesau bach a chanolig fel yr argymhellwyd yn adroddiad ‘The Tech Tonic’ FfBB:
• Dylai Llywodraeth y DU osod targed iddi’i hun y dylai hanner holl wariant uniongyrchol y llywodraeth ar Ymchwil a Datblygu Menter Busnes gael ei gyfeirio at fusnesau bach a chanolig, a gweithredu strategaeth i sicrhau bod cyfran Cymru o gyllid Ymchwil a Datblygu o leiaf yn adlewyrchu ei chyfran o’r boblogaeth.
Mae adroddiad Tech Tonic FfBB y DU hefyd yn argymell datganoli nifer uchel o grantiau cyfredol Innovate UK i lywodraethau cenedlaethol. Ein dealltwriaeth ni yw bod arian wedi’i glustnodi’n benodol ar gyfer Cymru bellach, ac felly gellir cynyddu a datblygu hyn ymhellach mewn partneriaeth â Busnes Cymru i adlewyrchu cyfran poblogaeth Cymru.
• Dylai Innovate UK gynyddu cyfran ei ymyriadau yng Nghymru i adlewyrchu’r argymhelliad ehangach ar gyfer cyllid Ymchwil a Datblygu.
• Dylai Innovate UK a Busnes Cymru barhau i ddatblygu gweithio mewn partneriaeth i helpu â mynd i’r afael â’r tanwariant hanesyddol hwn.
18 Figures available at: https://www.gov.wales/research-and-development-gross-expenditure-2022-html#:~:text=An%20estimated%20total%20of%20 %C2%A3,of%20total%20UK%20R%26D%20expenditure.
19 https://businesswales.gov.wales/sites/business-wales/files/documents/Growing%20a%20business/SMARTCymru%20Brochure%20Eng_growing.pdf
20 MOU available at https://businesswales.gov.wales/memorandum-understanding-mou

Math o gymorth busnes a gyrchwyd
Gofynnwyd ar gyfer pa anghenion busnes yr oedd busnesau bach a chanolig wedi cyrchu cymorth:
C6. Ar gyfer pa rai o anghenion eich busnes ydych chi wedi defnyddio gwasanaethau cymorth busnes i fynd i’r afael â nhw? (Dewiswch bob un sy’n berthnasol)
Dewisiadau Ateb
Cyngor ariannol
Cymorth gyda threthi a/neu reoleiddio
Cyngor ynghylch cyflogaeth
Cyngor marchnata
Cyngor hyfforddiant/sgiliau 18.28%
Gwella gallu digidol fy musnes 17.2%
Cynllun Olyniaeth 13.98%
Cymorth gyda thendrau 9.68%
Cymorth allforio 9.68%
Arall (rhowch fanylion) 9.68%
Dim un o'r uchod
Arloesedd
Y defnydd mwyaf cyffredin o wasanaethau cymorth busnes yw ar gyfer cyngor ariannol, ac yna cyngor cyfreithiol; yna cymorth gyda threthi a rheoleiddio, ac yna cymorth sy’n ymwneud â chyflogaeth. Nid yw hyn yn syndod ac mae’n cyd-fynd â’r meysydd rydyn ni fel arfer yn clywed sy’n peri’r pryder mwyaf i fusnesau.
Yn dilyn ein trafodaeth uchod ynghylch Innovate UK, mae’n werth nodi mai arloesedd oedd y maes yr oedd busnesau wedi cael cymorth ar ei gyfer lleiaf aml. Mae’r canfyddiad hwn yn arbennig o drawiadol o ystyried pwysigrwydd sylfaenol arloesedd ar gyfer twf economaidd a’i amlygrwydd o fewn y tri dyhead twf uchaf a nodwyd gan ymatebwyr yn gynharach yn yr arolwg. Gall fod sawl ffactor yn cyfrannu at y nifer isel sy’n manteisio arno, gan gynnwys cyllid ar gyfer arloesedd yn cael ei ogwyddo tuag at fusnesau mwy. Efallai bod y term ‘arloesedd’ yn teimlo’n haniaethol, neu fod busnesau eisoes yn arloesi heb geisio cefnogaeth ffurfiol. Mae rôl hanfodol arloesedd wrth sbarduno deinameg cwmnïau yn dangos bod angen clir i wneud cymorth ar gyfer arloesedd yn fwy hygyrch ac wedi’i deilwra i ofynion busnesau bach a chanolig, yn ogystal â chyfleu ei fanteision yn glir er mwyn meithrin datblygiad economaidd yn effeithiol ledled Cymru.
Lola Huws
Pant Du Cider
Effaith Cymorth Busnes
Er mwyn deall a oedd y gefnogaeth a gafwyd wedi helpu’r busnesau, gofynnwyd y cwestiwn canlynol:
C8. Sut mae gweithgaredd cymorth busnes wedi helpu eich busnes, os o gwbl?
Ateb
Fe helpodd fy musnes i gydymffurfio â rheoliadau (e.e. iechyd a diogelwch; cyfraith cyflogaeth)
Fe helpodd fy musnes i dyfu
Fe helpodd fy musnes i ddod yn fwy digidol
Fe helpodd fy musnes i oroesi
Wnaeth e ddim helpu fy musnes
Arall (rhowch fanylion)
Canran Ymateb
gefnogi newidiadau sy’n seiliedig ar yr amgylchedd yn ymddangos yn isel, er y gallai fod yn rhy gynnar i farnu. Mae’n awgrymu y gallai cyfeirio busnesau at arbedion trwy sero net fel arfer cyffredinol fod yn ddefnyddiol wrth godi ymwybyddiaeth a manteisio ar y gefnogaeth hon.
Mae hyn i gyd yn tynnu sylw at yr amrywiaeth o gefnogaeth y mae busnesau o wahanol fathau a sectorau ei hangen ac yn ei gwerthfawrogi.
Gyda dim ond 19% o’r ymatebwyr yn nodi nad oedd y gefnogaeth a gawsant o gymorth, mae’n amlwg bod cefnogaeth busnes yn cael ei gwerthfawrogi gan y rhan fwyaf o’r rhai sy’n ei defnyddio, a’i bod yn cael ei gweld fel rhan bwysig o’r seilwaith ar gyfer llwyddiant busnesau bach a chanolig. Fodd bynnag, mae’r ffigur hwn hefyd yn dangos bod potensial sylweddol o hyd i wella effeithiolrwydd ac effaith gwasanaethau cymorth i bob busnes yng Nghymru.
Fe helpodd fy musnes i ddod yn fwy cynhyrchiol 14.29%
Fe helpodd fy musnes i wella cymorth i’r gweithlu 9.52%
Fe helpodd fy musnes i ddod yn fwy arloesol 5.95%
Fe helpodd fy musnes i ddod yn fwy cynaliadwy yn amgylcheddol 5.95%
Prif effaith y gefnogaeth oedd helpu’r busnes i gydymffurfio â rheoliadau, ac yna helpu’r busnes i dyfu.
Mae’r ffaith bod busnesau’n teimlo eu bod yn gorfod ceisio cymorth allanol i sicrhau cydymffurfiaeth reoleiddiol yn awgrymu cymhlethdod diangen o fewn y fframwaith presennol a bod ffyrdd o symleiddio a lleihau baich rheoleiddio er mwyn gwneud y system yn haws i fusnesau bach ei llywio. Mae cynllunio’n cynnig enghraifft arbennig o berthnasol o’r mater hwn.21
Nododd ychydig dros 1 o bob 5 fod cymorth busnes wedi helpu eu busnes i oroesi, ac i ddod yn fwy digidol. Mae’r cyntaf o’r rhain yn bwysig mewn cyfnodau heriol. Mae cefnogi busnesau da i wrthsefyll stormydd economaidd yn caniatáu iddynt ddarparu ar gyfer swyddi a thwf lleol yn ystod adferiad. O ystyried y ffocws diweddar ar sero net trwy arian o ‘gronfa werdd’ Banc Datblygu Cymru, a hefyd rolau newydd ‘cynghorwyr cynaliadwyedd’, mae’r rhai sy’n nodi eu bod yn defnyddio’r gwasanaethau cymorth busnes i

21 L ap Gareth, ‘Let’s Ensure Planning Reform is a Pathway to Growth’, available at: https://businessnewswales.com/lets-ensure-planning-reform-is-a-pathwayto-growth/
Dewisiadau
Pennod 3 Sefydliadau a Darparwyr Cymorth Busnes
“Rydyn ni wedi gallu tynnu’r ecosystem honno at ei gilydd, a dyna ble mae’r gwerth go iawn… mae wedi’i leoli yn yr hyn rydyn ni’n ei alw’n ‘ganol anhrefnus’. Gallwn ni dynnu sefydliadau a llywodraethau at ei gilydd ac yna gwthio pethau ymlaen rhyngom ni, a dyna sy’n wirioneddol gyffrous.”
Hyb Busnes ac Arloesedd Rhanbarthol
Yn y bennod hon rydym yn symud o’r cwmnïau eu hunain at y rhai sy’n darparu cefnogaeth. Fe gynhaliom gyfweliadau manwl gyda rhanddeiliaid allweddol (gweler yr atodlen am fanylion y fethodoleg), â’r nod o gael sampl o ymatebwyr o wahanol rannau o’r system (sefydliadau’r llywodraeth, y sector preifat, darparwyr contractau bach a mawr, ymgynghorwyr busnes).
Byddwn hefyd yn edrych ar sut mae’r sefydliadau hyn yn gweddu i’r dull ecosystem ehangach a amlinellir ym Mhennod 1, a sut mae strategaethau cymorth busnes yng Nghymru yn perthyn o fewn cyd-destun yr ecosystem entrepreneuraidd. Cyfeiriwyd dro ar ôl tro at y cysyniad fel un a oedd yn siapio eu rôl fel darparwyr.
Felly, bydd y bennod hon yn edrych ar y canlynol:
1. Sut i sicrhau bod dull ecosystem entrepreneuraidd o gefnogi busnes yn cael ei lywio, ei gydlynu, ei werthuso’n dda a’i fod yn gwbl atebol.
2. Rôl allweddol Busnes Cymru a Banc Datblygu Cymru fel conglfeini’r system Gymreig, a sut mae angen eu datblygu a’u gwella.
3. Y ffactorau y mae’r conglfeini hynny’n dibynnu arnynt o ran polisi ehangach, boed yn ddaearyddol (cydlynu gan Lywodraeth y DU neu Lywodraeth Cymru, neu wybodaeth ac adeiladu rhwydweithiau ar lefel leol) neu o ran maes polisi (digideiddio, polisi sgiliau ehangach).
Ac eithrio cyfweliadau ffurfiol â sefydliadau’r llywodraeth, mae’r rhain yn ddienw – ac fe wnaethom hefyd gynnal trafodaethau answyddogol gyda staff eraill mewn sefydliadau’r llywodraeth sydd wedi helpu i lunio ein dealltwriaeth. Roedd rhai darparwyr yn teimlo na allent roi cyfweliadau gan eu bod yn cyflawni contractau’r llywodraeth.
1. Mynd i’r Afael â’r ‘Canol Anhrefnus’ - Ecosystem
Cymorth Busnes Cymru
I fusnesau, mae cymorth busnes yn syml – mynediad at grantiau, mynediad at gyllid, a/neu gyngor yn ôl yr angen sy’n helpu eu cwmni i ddatblygu, tyfu neu oroesi. I sefydliadau a darparwyr, yr her yw cyflawni’r gwahanol swyddogaethau hynny mewn ffordd sy’n gwasanaethu anghenion amrywiol busnesau gwahanol, trwy amrywiaeth o fecanweithiau a phartneriaid, a hynny’n alinio ag amcanion polisi a strategaethau economaidd Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Felly, gall yr hyn sy’n ymddangos yn syml o safbwynt y cwmni unigol ddod yn gymhleth yn gyflym o’r lefel uchaf i lawr. Felly, mae darparu ‘siop un stop’ yn golygu bod â ‘ffenestr flaen’ glir i’w chyflwyno i fusnesau mewn ffordd gydlynol, yn ogystal â gwneud llawer iawn o waith y tu ôl i’r llenni. Y nod yw na ddylai busnesau eu hunain weld yr anawsterau hyn a chael profiad mor ddidor â phosibl.
Mae gennym ddiddordeb yn y ffordd y mae gwahanol rannau o’r sector cymorth busnes yn cydweithio a thuag at ba nodau. Mae hyn yn alinio â’r elfennau traddodiadol o’r hyn yr ydym yn aml yn ei ddiffinio’n gul fel cymorth busnes (cyngor, grantiau a chyllid). Ond mae hefyd angen iddo fod o fewn nodau economaidd strategol ehangach, gan gynnwys llunio marchnadoedd, adeiladu tuag at allforio, sefydlu cadwyni cyflenwi, a sicrhau
ein bod yn meithrin capasiti a gallu trwy sgiliau. Mae hyn yn cyd-fynd ag anghenion amrywiol busnesau, o fanwerthwyr y stryd fawr i arloesedd twf uchel. Ar y lefel ‘uchaf’ mae’n ymwneud ag edrych ar sut rydym yn meithrin ac yn hyrwyddo ecosystem entrepreneuraidd yng Nghymru.
Mae hyn yn golygu deall rôl cysylltiadau trawslywodraethol wrth ddylanwadu ar ddarpariaeth, gan fod swyddogaethau gwahanol yn aml yn eistedd ar wahanol lefelau o lywodraeth a llywodraethiant. Er enghraifft, mae llawer o gyllid Ymchwil a Datblygu a llawer o gyllid arloesedd yn eistedd ar lefel y DU i raddau helaeth, sgiliau gyda Llywodraeth Cymru, a llawer o ddulliau ar gyfer datblygu’r stryd fawr ar y lefel leol. Mae rhai mentrau o’r canol yn torri ar draws y gwahanol feysydd dylanwad hyn – gan gynnwys Help i Dyfu, sef rhaglen hyfforddiant yn y DU sy’n darparu dysgu a mentora â’r nod o wella sgiliau arweinyddiaeth a rheolaeth, a chynhyrchiant ar lefel cwmnïau, mewn BBCh a ddarperir gan rwydwaith o ysgolion busnes ledled y DU. Felly, fel menter yn y DU, gan y caiff ei chyflwyno trwy’r prifysgolion, mae hefyd yn dod o dan bwerau datganoledig Llywodraeth Cymru ar sgiliau.
Mae’r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn dangos y meysydd dylanwad hyn, sydd ar adegau’n destun cystadleuaeth.
Enghraifft arall yw allforio, sydd i raddau helaeth yn gyfrifoldeb Llywodraeth y DU, ond gan fod allforio’n gysylltiedig iawn â thwf (mae cwmnïau sy’n allforio’n tueddu i ganolbwyntio mwy ar dwf) mae’n faes pwysig i fynd i’r afael â’r canol coll yng Nghymru a hyrwyddo twf mewn cwmnïau. Mae angen alinio cymorth busnes ar lefel Cymru i gefnogi busnesau yn eu taith tuag at allforio, yr hyn rydym wedi’i alw’n ‘rhyngwladoli busnesau bach a chanolig Cymru’.22 Mae’r rôl gynghori leol hon wrth gefnogi allforio’n dod yn bwysicach yn yr ansicrwydd byd-eang presennol ynghylch marchnadoedd addas.
Mae ymadawiad y DU o’r Undeb Ewropeaidd wedi arwain at newid aruthrol mewn sefydliadoli yn y DU. Nid yw Cronfeydd Datblygu Rhanbarthol Ewrop bellach yn cyfrannu at y dirwedd cymorth busnes yng Nghymru, ond ar ben hynny mae hefyd wedi golygu bod y berthynas rhwng adrannau llywodraeth Cymru a’r DU wedi newid ynghyd â rôl a chyfrifoldebau cyrff hyd braich sydd dan ofal Llywodraeth Cymru sydd wedi’u hailsefydlu i raddau helaeth i adlewyrchu newid yn y strwythurau cyllido a dulliau llywodraethu. Gellir gweld arwyddocâd y newidiadau hyn ar draws yr ecosystem cymorth busnes. Mae’r datblygiadau hyn wedi newid mynediad at gyllid, grantiau a benthyciadau, yn ogystal â sefydlogrwydd y farchnad i gwmnïau sy’n ystyried cynlluniau twf, allforio neu ehangu.
Yng nghyfnod rhaglennu’r UE 2013-2020, buddsoddodd Llywodraeth Cymru tua £4bn, oedd yn cynnwys cyd-gyllido gan yr UE a Chymru. Yn sgil hyn, Cymru dderbyniodd y gyfran fwyaf o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Chronfa Gymdeithasol Ewrop o wledydd y Deyrnas Unedig ar sail ei phoblogaeth.23 Mae hyn wedi gostwng yn sylweddol. Ymateb Llywodraeth y DU i golli arian yr UE ar gyfer datblygu rhanbarthol oedd y Gronfa Ffyniant Gyffredin, a lansiwyd ym mis Ebrill 2022, a oedd i fod para tan fis Mawrth 2025 ac sydd bellach wedi’i hymestyn tan fis Mawrth 2026. Mae’r hyn a fydd yn disodli’r Gronfa Ffyniant Gyffredin ar ôl y dyddiad hwn yn parhau i fod yn aneglur pan ysgrifennwyd y ddogfen hon, a bydd ei ffurf newydd yn benderfyniad allweddol yn y misoedd nesaf, gan effeithio ar yr amgylchedd cymorth busnes yn nhymor nesaf Senedd Cymru.
Maes arall i’w nodi yw newid polisi ac amgylchiadau macro-economaidd – mae Llywodraeth y DU wedi rhoi blaenoriaeth i economi’r genhadaeth ar gyfer twf ac mae’n datblygu strategaeth busnesau bach gyda ‘Gwasanaeth Twf Busnes’ i’w chefnogi. Mae effaith y strategaeth hon wrth iddi dreiddio i lawr i gymunedau eto i’w gweld, ond bydd sut mae gwahanol sefydliadau
22 FSB Wales, ‘Internationalising Welsh Businesses’ (FSB: 2020)
yng Nghymru’n ymateb yn allweddol i’w llwyddiant a’i heffaith ar fusnesau bach a chanolig yng Nghymru, ac a yw wedi’i llunio i fynd i’r afael ag anghenion economaidd a busnes Cymru.
Felly, mae’n ddarlun cymhleth ac yn aml yn un aneglur. Gall y manylion ymddangos yn flêr. Yn wir, wrth drafod rôl hybiau busnes ac arloesedd, nododd un y cyfwelwyd â hwy mai eu rôl oedd tacluso’r ‘canol anhrefnus’ i bobl ar y tu allan. Y nod yw gwneud y broses honno o gael mynediad at gymorth mor syml â phosibl i’r defnyddiwr, gan hefyd alinio â strategaeth glir ar draws y sefydliadau sydd ar y lefel uchaf’.
Gyda llawer o newidiadau’n digwydd yn yr economi fydeang, tirwedd bolisi ehangach y DU sy’n gyfnewidiol a strategaeth economaidd sy’n cael ei ddatblygu, ansicrwydd ynghylch cyllid yn y dyfodol a’i siâp, a chymhlethdod parhaus y ddarpariaeth yng Nghymru – er gyda mantais gystadleuol dull siop un stop trwy Fusnes Cymru – dyma’r amser i ddarparu adolygiad llawn ac eang o’r ddarpariaeth ar gyfer cymorth i fusnesau yng Nghymru. Y nod ddylai fod deall ei rôl yn y strategaeth economaidd a’r dirwedd llywodraethiant ehangach; ei nodau a’i blaenoriaethau yn y dyfodol a sut mae’n cyflawni ei chenhadaeth a’i chylch gwaith orau i gefnogi twf BBCh. Dylai’r cylch gorchwyl geisio sicrhau ei fod yn cael yr arian a’r adnoddau angenrheidiol i gyflawni ei amcanion ac i gefnogi’r ecosystem entrepreneuraidd ehangach.
• Dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i fapio ac adolygu cymorth busnes yng Nghymru, gan sicrhau ei fod yn alinio ag anghenion yr economi yn y dyfodol.
Llywio Gweithredu Cyfunol – Atebolrwydd, Mesur ac Effaith
Un pryder ynghylch sicrhau gweithredu cyfunol ar draws y system yw bod y dull ecosystem entrepreneuraidd, fel y mae OECD yn ei nodi, yn golygu risg o fod yn annatblygedig ac felly’n dueddol o osod targedau afrealistig, aneglur, neu anfesuradwy. Mae’n bwysig bod y system gyfan yn cael ei llywio a’i dwyn i gyfrif am nodau strategol. Bydd atebolrwydd yn allweddol i sicrhau bod y gwahanol linynnau’n cael eu cydlynu ac yn perfformio yn ôl eu dangosyddion perfformiad allweddol strategol. Os – fel y bydd FfBB Cymru yn ei argymell yn y bennod hon – caiff sefydliadau cymorth busnes fwy o gyfalaf er mwyn tyfu yn eu gweithrediadau a’u cyfrifoldebau, gan weithredu â rhywfaint o ymreolaeth a pharhau i fod yn annibynnol ar ‘wleidyddiaeth bob-dydd’, bydd hyn yn bwysicach.
23 House of Lords Library, ‘Brexit: Replacing EU funding in Wales’ (2021), available at https://lordslibrary.parliament.uk/brexit-replacing-eu-funding-inwales/#:~:text=The%20table%20below%20shows%20that%20on%20average,be%20found%20on%20the%20Welsh%20Government%20website.
Er mwyn gweithredu cenhadaeth Llywodraeth y DU ar gyfer twf a datblygiad strategaeth ddiwydiannol mewn ffordd sy’n cael gwir effaith ar lefel Cymru ac yn lleol, mae angen cydweithio effeithiol ar draws ecosystem entrepreneuraidd Cymru a’r gallu i lunio’r ymyriadau.
Pum amod allweddol ar gyfer cydweithio llwyddiannus yw agenda gyffredin, systemau mesur a rennir, gweithgareddau sy’n atgyfnerthu ei gilydd, cyfathrebu parhaus, a sefydliadau cymorth asgwrn cefn.24 Gall y dull cydweithredol hwn fod yn her, gyda llawer yn cael trafferth â blaenoriaethau ac anghenion gwahanol sefydliadau. Er enghraifft, gall amserlenni ymchwil prifysgolion wrthdaro ag angen y sector preifat am gyflymder a sicrwydd, a gall llywodraethau ddychwelyd at fodelau hierarchaidd sy’n gallu tarfu ar arloesedd.
Felly, mae’n hanfodol bod llywodraethau’r DU a Chymru yn cydweithio i ddarparu gweledigaeth glir, a rennir. Rhaid i’r weledigaeth hon fod yn seiliedig ar amcanion penodol y mae pob rhan o’r ecosystem yn teimlo y gallant gyfrannu atynt.
Mae cyflawni’r dull ecosystem hwn yn llwyddiannus yn gofyn am fwy na rhannu adnoddau ‘caled’ yn unig; mae’n golygu bod angen adeiladu agweddau ‘meddal’ fel normau a diwylliant, sy’n meithrin ymddiriedaeth a dealltwriaeth, gan gefnogi gweithredu effeithiol ar y cyd. Mae’r angen hwn i adeiladu agweddau ‘meddal’ yn cael ei adlewyrchu ym mhwyslais OECD ar ddefnyddio “dulliau llywodraeth-gyfan ar gyfer BBCh ac entrepreneuriaeth”. Fel y mae OECD yn ei nodi:
“Mae polisïau a strwythurau sy’n berthnasol i ddatblygu BBCh ac entrepreneuriaeth yn eang ac amrywiol. Maent yn aml yn torri ar draws ffiniau gweinidogaethau ac asiantaethau’r llywodraeth, yn ogystal ag ar draws lefelau o lywodraeth. Mae hyn yn galw am gydlynu polisïau a llywodraethiant effeithiol, ac am ystyried y dimensiwn daearyddol. Mae’n cynnwys mabwysiadu safbwynt BBCh ac entrepreneuriaid yn gynnar wrth ddylunio a chyflawni polisïau ar draws ystod eang o feysydd polisi. Mae hefyd yn cynnwys deall sut mae amrywioldeb yn y boblogaeth fusnes yn effeithio ar effeithiolrwydd polisïau trwy gasglu a gwerthuso data manwl ac amserol ac offer gwerthuso, yn ogystal
ag ymgysylltu’n weithredol â BBCh ac entrepreneuriaid.”25 Felly, wrth fynd i’r afael â’r cwestiwn o lunio fframwaith cymorth busnes, mae’n bwysig deall sut mae elfennau gwahanol yr ecosystem yn gweithio, ble maen nhw’n cefnogi ei gilydd a sut y gellir ymgysylltu orau â busnesau bach a chanolig.
Er mwyn sicrhau bod ymdrechion cydweithredol o fewn yr ecosystem entrepreneuraidd yn wirioneddol effeithiol, mae mesur a gwerthuso cadarn yn hanfodol. Gan gydnabod yr angen hwn, mae OECD wedi cynnal ymchwil sy’n tynnu sylw at heriau sylweddol mewn arferion gwerthuso cyfredol. Mae OECD yn nodi’r anawsterau sy’n perthyn i fesur ffactorau fel ‘diwylliant a normau’, gan dynnu sylw at y ffaith bod llawer o werthusiadau o bolisi busnesau bach a chanolig ledled Ewrop yn annigonol, gan fethu â darparu’r mewnwelediadau angenrheidiol i arwain polisïau yn y dyfodol neu asesu llwyddiant ymyriadau. Er mwyn mynd i’r afael â’r diffygion hyn, mae OECD yn argymell:
“…gwell defnydd o ddata presennol o fewn y llywodraeth at ddibenion gwerthuso a mabwysiadu technegau gwerthuso mwy soffistigedig gan ddefnyddio grwpiau rheoli. Mae angen gwaith hefyd i nodi amcanion a thargedau polisi cyn gwerthuso, er mwyn meincnodi rhaglenni yn erbyn eraill yn seiliedig ar eu canlyniadau gwerthuso, ac i werthuso effeithiau ymyriadau macro megis newidiadau yn y drefn dreth a rheoleiddio yn ogystal â rhaglenni gwariant sydd wedi’u hanelu’n uniongyrchol at grwpiau penodol o fusnesau bach a chanolig ac entrepreneuriaid. Rhaid i dystiolaeth o werthuso hefyd ffurfio sail i benderfyniadau polisi yn y dyfodol.”26
Mae methu â gweithredu strategaethau gwerthuso effeithiol yn peryglu camddyrannu adnoddau a llesteirio’r gallu i nodi’r polisïau hynny a all sbarduno twf cynaliadwy yn effeithiol i fusnesau bach a chanolig. Mae’n galonogol yn yr achos hwn nodi bod gwerthusiadau o fewn Busnes Cymru a Banc Datblygu Cymru wedi rhoi ystyriaeth i argymhellion, fel grŵp rheoli wrth ddeall effaith. Y tu allan i’r sefydliadau
24 J Konia & M Kramer, ‘Collective Impact’ in Stanford Social Innovation Review (Stanford: 2011), available at https://ssir.org/articles/entry/collective_impact
25 OECD, Framework for the Evaluation of SME and Entrepreneurship Policies and Programmes 2023 (OECD: 2023): https://www.oecd.org/en/publications/ framework-for-the-evaluation-of-sme-and-entrepreneurship-policies-and-programmes-2023_a4c818d1-en.html
26 ibid
hyn, ymddengys bod anghysondeb o ran beth yw’r dangosyddion perfformiad allweddol a’r mesurau craidd o ran effaith ar fusnes.
Er bod yr angen am eglurder ynghylch polisïau ymyriad ar y lefel tymor byr, mae OECD yn nodi’r angen am gydlynu ar draws y llywodraeth a sefydliadau yn yr un modd:
“Mae hefyd yn cynnwys deall sut mae amrywioldeb yn y boblogaeth fusnes yn effeithio ar effeithiolrwydd polisïau trwy gasglu a gwerthuso data manwl ac amserol ac offer gwerthuso, yn ogystal ag ymgysylltu’n weithredol â BBCh ac entrepreneuriaid. Mae OECD yn gweithio gyda gwledydd a rhanbarthau i gryfhau ystadegau busnes a gwybodaeth polisi, datblygu offer meincnodi a monitro, a defnyddio dulliau llywodraeth-gyfan ar gyfer BBCh ac entrepreneuriaeth.”27
Mae adroddiad OECD ar lywodraethiant ranbarthol a buddsoddiad cyhoeddus yng Nghymru28 yn darparu man cychwyn i ddeall yn well ble mae llywodraethiant yn rhwystr i hwyluso twf ac ymgysylltu’n effeithiol â chwmnïau sy’n ceisio twf trwy gymorth busnes.
Mae OECD yn argymell dangosfwrdd digidol, sy’n integreiddio ystod eang o ddata awdurdodau lleol sy’n bodoli eisoes, gan gynnwys data ar berfformiad economaidd, addysg a seilwaith. Byddai hyn yn darparu dealltwriaeth gynhwysfawr o heriau rhanbarthol, gan alluogi penderfyniadau gwybodus gan y llywodraeth ar gymorth i fusnesau a gwella ymgysylltiad cwmnïau.
Mae OECD yn pwysleisio rôl hanfodol gweithio ar y cyd ar gyfer datblygu rhanbarthol effeithiol ac yn argymell bod sefydliadau allweddol, gan gynnwys asiantaethau’r llywodraeth, prifysgolion a busnesau, yn mabwysiadu amcanion traws-sector a rennir. Er mwyn sicrhau gweithrediad llwyddiannus, mae OECD yn cynghori sefydlu rolau a chyfrifoldebau sydd wedi’u diffinio’n glir, datblygu cynlluniau sy’n canolbwyntio ar weithredu i gynnal momentwm, a meithrin cyfathrebu rheolaidd rhwng partneriaid. Yn ogystal, mae OECD yn tynnu sylw at bwysigrwydd cynnal asesiadau perfformiad ac effaith rheolaidd i olrhain cynnydd a gwneud addasiadau angenrheidiol.
Dylid hefyd nodi bod pryderon wedi’u codi mewn cyfweliadau anffurfiol bod gwahanol sefydliadau’n cael eu mesur i wahanol safonau a lefelau amrywiol o
27 ibid
ddangosyddion perfformiad allweddol ar gyfer effaith economaidd. Mae hwn hefyd yn bryder rydym wedi’i godi’n gyson wrth fod eisiau dangosyddion perfformiad allweddol economaidd clir ar draws yr holl gyrff o’r fath, wedi’u halinio â strategaeth economaidd. Er ei bod yn gwneud synnwyr i wahanol gyrff ganolbwyntio ar wahanol feysydd (ac felly rhoi sylw i wahanol effeithiau), mae’n bwysig hefyd bod cysondeb wrth fesur a gwerthuso dangosyddion economaidd allweddol, a bod hyn yn hyrwyddo nodau strategol cyffredin. Dylai pob corff hyd braich fod wedi atodi dangosyddion perfformiad allweddol gyda’u cynlluniau busnes, gan y byddai’n rhaid i unrhyw fusnes yn y sector preifat sicrhau bod gweithrediadau busnes yn effeithiol ac o werth.
I fynd i’r afael â’r materion hyn, mae gan FfBB Cymru weledigaeth ar gyfer creu Bwrdd Twf Busnes sydd â’r dasg o ddwyn cyrff allweddol yn y system i gyfrif a sicrhau bod mesuriadau ynghylch twf yn cael eu gweithredu’n gyson ac mewn ffordd sy’n ein galluogi i asesu effaith.
Byddai’r Bwrdd Twf Busnes fel mecanwaith craffu yn dwyn sefydliadau cymorth busnes i gyfrif am feysydd fel:
• Effaith rhaglenni cyfredol yn erbyn amcanion eu cynlluniau strategol (h.y. rhaglen pum mlynedd Busnes Cymru).
• Dadansoddi sut mae cymorth i fusnesau’n cyflawni yn erbyn targedau economaidd Llywodraeth Cymru a strategaeth economaidd y dyfodol.
• Lefelau boddhad mewn perthynas â thaith y defnyddiwr.
• Dylai dangosyddion perfformiad allweddol a mesuriadau ar effaith economaidd fod yn gyson ar draws pob corff sy’n ymwneud â’r economi a chymorth busnes, gan ddefnyddio argymhellion OECD ar fesur effeithiol a chylchoedd gwaith clir, yn ogystal â chydweithio traws-sefydliadol.
• Pa mor effeithiol y mae cymorth busnes yn alinio â strategaethau Llywodraeth Cymru ar rywedd, hil, LHDTC, oedran ac iaith, a dylai fod yna adnoddau digonol i adeiladu cefnogaeth ar gyfer pob cymuned yng Nghymru. Dylid datblygu gweithio mewn partneriaethau lleol ymhellach at y diben hwn.
• A yw cymorth busnes yn addasu i anghenion y dyfodol.
Dylai Llywodraeth Cymru:
• Sefydlu Bwrdd Twf Busnes i ddod â rhanddeiliaid o bob cwr o’r dirwedd cymorth busnes at ei gilydd.
28 ‘Regional Governance and Public Investment in Wales, United Kingdom’ (OECD: 2024), available at https://www.oecd.org/en/publications/regional-governanceand-public-investment-in-wales-united-kingdom_e143e94d-en.html
2. Y Sefydliadau Cymorth Busnes Craidd – Busnes Cymru a Banc Datblygu Cymru
Er bod llawer o sefydliadau’n ymwneud â chefnogi busnesau, mae’n bwysig bod craidd i lywio a chydlynu’r system. Y cyrff allweddol sy’n unigryw i Gymru yw Busnes Cymru a Banc Datblygu Cymru, ac mae’r rhain yn haeddu dadansoddiad manylach, yn ogystal â dealltwriaeth o’u cryfderau a’u gwendidau er mwyn eu datblygu i gael effaith yn y dyfodol. Yna bydd y ffactorau ehangach ar gyfer eu llwyddiant yn cael eu dadansoddi yn yr adran nesaf.
Busnes Cymru
Dadansoddi Effaith a Gwerthusiadau
Mae Busnes Cymru, gan alinio ag amcanion economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol ehangach Llywodraeth Cymru, yn cefnogi busnesau ar wahanol gamau, o entrepreneuriaeth i fusnesau newydd i fentrau twf uchel. Mae eu cefnogaeth yn cwmpasu ystod eang o wasanaethau, gan gynnwys datblygu busnes, masnach ryngwladol, sgiliau a chyflogadwyedd, trawsnewid digidol, a mentrau economi werdd.
Yn anffodus, gwnaed y gwerthusiad diweddaraf o effaith Busnes Cymru yn 2021, pan gomisiynodd Llywodraeth Cymru Ysgol Fusnes Caerdydd i ddarparu asesiad annibynnol o’r deilliannau economaidd sy’n
gysylltiedig â Busnes Cymru yn eu rhaglen strategol o 2015-21.
Roedd canfyddiadau’r adroddiad effaith hwn yn cynnwys y canlynol:
• Gwelwyd cynnydd net y Gwerth Ychwanegol Gros yn £18 am bob £1 a wariwyd ar y Rhaglen Cyflymu Twf, a £10 am bob £1 a wariwyd ar ddarpariaeth graidd Busnes Cymru.
• Roedd goroesiad pedair blynedd busnesau a gynorthwywyd gan y Rhaglen Cyflymu Twf yn 77%, o’i gymharu â 67% ar gyfer busnesau Craidd a Thwf a gynorthwywyd, ac o’i gymharu â 33% ar gyfer busnesau na dderbyniodd unrhyw gymorth.
• Roedd sgoriau credyd busnesau a gefnogwyd gan Fusnes Cymru yn llai tebygol o fod yn rhai â risg uchel ac yn fwy tebygol o fod yn sefydlog a diogel na busnesau oedd heb dderbyn cymorth.
Mae’r defnydd o ddulliau grŵp rheoli a gwerthuso gan ddilyn arfer da yn y dadansoddiad hwn yn galonogol. Fodd bynnag, roeddem yn siomedig mai dadansoddiad 2021 (a ddaeth fel gwerthusiad llawn ar ddiwedd y cynllun blaenorol) oedd y data diweddaraf a oedd ar gael yn gyhoeddus ar effaith.

• Dylai Busnes Cymru ddarparu adroddiadau data blynyddol ar effaith rhaglenni cyfredol yn erbyn amcanion y rhaglen pum mlynedd.
• Dylai Busnes Cymru adrodd yn flynyddol i Bwyllgor Economi’r Senedd at ddibenion craffu ac i sicrhau bod gwybodaeth am effaith a gwaith cyfredol yn cael ei rhannu â’r Senedd.
Mae’r ffaith bod Busnes Cymru yn eistedd yn y canol ac yn gyfystyr â chymorth busnes yng Nghymru’n fantais ynddo’i hun, ac mae’r ffaith bod y brand yn adnabyddus – yn enwedig ar ôl faint o fusnesau a ddefnyddiodd ei wasanaethau yn ystod Covid-19 – yn fantais gystadleuol ac yn dyst i lwyddiant. Er ei fod yn ymddangos fel ‘siop un stop’ o’r tu allan, mae Busnes Cymru yn cwmpasu ystod eang iawn o weithgareddau a chyfrifoldebau, ac mae’n well ei weld fel ymbarél i’r rheiny wrth ddadansoddi’r ecosystem cymorth busnes.
Yn gyntaf, mae’n bwysig nodi bod gweithgaredd Busnes Cymru wedi’i rannu’n wahanol ganghennau:
• Llywodraeth Cymru a pholisi
• Darparwyr a Chontractau i ddarparu gwasanaethau
Fel y dywedodd Busnes Cymru yn ein cyfweliad:
“Mae gan Lywodraeth Cymru ddwy ran yn y gwaith o gyflwyno Busnes Cymru. Mae yna ddarpariaeth uniongyrchol - mae ein llinell gymorth a’n gweithgaredd digidol yn cael eu darparu gan weision sifil. Ac yna mae rhai o’r themâu eraill o fewn gweithgaredd Busnes Cymru yn cael eu cyflwyno gan gontractwyr trydydd parti. Felly, mae safbwynt amrywiol pan fydd pobl yn dweud y gair Busnes Cymru. Rydym yn aml yn cael ein cysylltu â’r llywodraeth neu â’r darparydd y maent wedi bod yn gweithio gyda nhw. Ond rwy’n credu ei bod hi’n bwysig ein bod ni wedi cynnal y brand hwnnw o fewn Llywodraeth Cymru fel llais ar gyfer siarad â busnesau fel y siop un stop.”
Cododd y ‘brand’ hwn bryderon ymhlith rhai swyddogion mewn trafodaethau answyddogol y gallai Busnes Cymru gael ei gysylltu’n negyddol â’r llywodraeth, ar adeg lle mae mesurau cymdeithasol o ymddiriedaeth yn dynodi diffyg ymddiriedaeth yn y llywodraeth. Fe ofynnwyd cwestiwn am deimladau ynghylch gwleidyddiaeth, a chanfod mai dim ond 14%
oedd yn cytuno bod Llywodraeth Cymru yn ‘deall anghenion pobl fel fi’, gyda 66% yn anghytuno â’r datganiad (y ffigur cyfatebol ar gyfer Llywodraeth y DU oedd 3% yn cytuno a 77% yn anghytuno â’r datganiad). Mae hyn yn adlewyrchu barn ehangach ynghylch ymddiriedaeth yn y llywodraeth.
Fodd bynnag, o ystyried y boddhad llawer uwch â’r gwasanaethau cymorth busnes, mae hefyd yn dangos bod gwasanaethau cymorth busnes Llywodraeth Cymru yn cael eu gweld ar wahân ac yn rhan o’r dodrefn. Mae’r dadwleidyddioli hwn o’r gwasanaeth i’w groesawu ac yn dangos bod y brand yn sefyll y tu allan i wleidyddiaeth o ddydd-i-ddydd, sydd o gymorth i sefydlogrwydd ac ymddiriedaeth yn y gwasanaeth.
Felly, wrth gontractio gwasanaethau a phartneriaethau, mae gan Fusnes Cymru rwydwaith o wasanaethau a ddarperir trwy wahanol sefydliadau, boed yn y sector cyhoeddus, yn gysylltiedig â phrifysgolion, neu trwy fentrau cymdeithasol neu ymgynghorwyr a sefydliadau’r sector preifat sy’n ymateb i’r tendr. Mae hyn yn caniatáu defnyddio arbenigedd pobl eraill.
“Bydd busnesau’n cael mynediad at gymorth pan fyddant yn meddwl bod ei angen arnynt…”
“Dwi’n meddwl bod dwy ochr i hyn – un o ran bod yn rhaid i ni adael y farchnad i wneud yr hyn maen nhw eisiau ei wneud. Byddan nhw’n cyrchu’r gwasanaeth os bydd ei angen arnyn nhw. … Ond ymhlith y pethau rydyn ni’n eu gwneud, rydyn ni’n ymgysylltu’n rhagweithiol â chymunedau i sicrhau bod ganddyn nhw’r un cyfleoedd i gael mynediad at y ddarpariaeth sydd gennym ni. Felly, mae’r naill neu’r llall. Ond mae angen cymysgedd o’r ddau arnom ni.”
Mae rhai cynulleidfaoedd – boed yn fusnesau yn ôl hunaniaeth (entrepreneuriaeth fenywaidd, busnesau sy’n eiddo i leiafrifoedd ethnig) neu’n fusnesau yn ôl math (arbenigedd sector) – sy’n cael eu dynodi trwy gyfeirio at gynlluniau gweithredu Llywodraeth Cymru fel rhai sydd angen allgymorth rhagweithiol:
“Mae’n ymwneud â grymuso pobl sydd bellaf i ffwrdd o’r gwasanaeth i wneud yn siŵr eu bod nhw’n gallu cael mynediad at y gwasanaethau maen nhw eu heisiau hefyd… Felly enghraifft o hynny allai fod
sefydliad cyllid cymunedol yng Nghaerdydd rydyn ni wedi gweithio â nhw i estyn allan at gymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig. Byddan nhw weithiau’n estyn allan ac mae bron fel cyflwyniad meddal i Fusnes Cymru lle efallai na fydden nhw’n draddodiadol wedi codi’r ffôn i gysylltu â sefydliad corfforaethol fel Busnes Cymru. Ac mae hynny wedi gweithio’n dda mewn cryn dipyn o gymunedau.”
Mae’r rôl bartneriaeth hon wrth alinio â gwahanol strategaethau cydraddoldeb yn bwysig; dylid ei pharhau a’i datblygu ymhellach, a dylid ymestyn partneriaethau yn ôl yr angen. Yn ôl y ffigurau diweddaraf, dim ond 32.3% o arweinwyr busnesau llai’r DU sy’n fenywod.29
Canfu Baromedr Busnesau Bach Enterprise Nation fod oedran cyfartalog sylfaenwyr busnesau’r DU yn 46, a bod 35% o fusnesau’n cael eu cychwyn a’u rhedeg gan bobl dros 50 oed. 30 Wrth ystyried oedran busnesau sydd ar gyfartaledd yn 8 mlynedd (yn ôl data Tŷ’r Cwmnïau), nid yw hyn yn syndod. Mae’r Swyddfa Ystadegau (ONS) wedi amcangyfrif yn 2021 bod tua 12% o berchnogion busnesau hunangyflogedig yn y DU yn hunan-ddiffinio fel perthyn i grŵp ethnig lleiafrifol, 31 tra bod Arolwg Busnesau Bach Llywodraeth y DU yn amcangyfrif bod 7% yn cael eu harwain gan bobl o grŵp ethnig lleiafrifol yn 2023. 32 Mae dadansoddiad Llywodraeth Cymru yn nodi bod 2.7% o gyflogwyr busnesau bach a chanolig yng Nghymru’n cael eu harwain gan grwpiau ethnig lleiafrifol, sef yr isaf yn y DU. Mae busnesau bach sy’n eiddo i bobl anabl yn cyfrif am 8.6% o drosiant holl fusnesau’r DU ac mae pobl anabl yn fwy tebygol o ymwneud â hunangyflogaeth na phobl nad ydynt yn anabl. 33
Mae cyfleoedd ar gyfer entrepreneuriaeth yn hanfodol i ddarparu cyfleoedd cyfartal, i ddatblygu sgiliau busnes ac i adeiladu cymuned fusnes gynrychioladol, gan wasanaethu anghenion a marchnadoedd pob cymuned yng Nghymru.
• Dylai Busnes Cymru barhau i alinio â strategaethau Llywodraeth Cymru ar rywedd, hil, LHDTC, oedran ac iaith, a dylai gael digon o adnoddau i feithrin cefnogaeth ar gyfer pob cymuned yng Nghymru. Dylid datblygu gweithio
mewn partneriaethau lleol ymhellach at y diben hwn.
• Rhaid i Warant i Bobl Ifanc barhau i wneud cynnig ystyrlon i bobl ifanc ar entrepreneuriaeth, a bod cymorth busnes ag adnoddau digonol wedi’i alinio â’r agenda hon.
Yn ogystal ag adeiladu rhwydweithiau a phartneriaethau yn seiliedig ar hunaniaeth, mae’r gwaith partneriaeth hwn hefyd ar sail hunaniaeth lle, hynny yw, ar ardaloedd sydd angen mwy o gefnogaeth ragweithiol, ac mae’r rhain yn cydberthyn i ryw raddau. Ymddengys mai’r sbardun ar gyfer y dull partneriaeth leol hwn oedd tynnu’n ôl o wasanaethau uniongyrchol gan Fusnes Cymru ar lefelau lleol mewn rhai ardaloedd o amddifadedd, a ddilynodd doriadau mewn cyllido ar ôl gadael yr UE. Mae Busnes Cymru wedi colli dros chwarter o’i gyllid (o tua £30m i £22m) yn ystod y degawd diwethaf, sydd wedi ailgyfeirio ei brif ffocws o fentrau ar lawr gwlad (megis mentrau ‘blaenau’r cymoedd’ a ‘blas ar fenter’ rhwng 2015 a 2021) i ffocws ar Gymru gyfan, gan ddenu partneriaid a ddynodwyd trwy fentrau cydraddoldeb a strategaethau eraill ar gyfer ymgysylltiad mwy lleol.
Dylai Busnes Cymru wneud y canlynol:
• Mae’r system cymorth busnes yn fantais gystadleuol i Gymru. Gan fod brand Busnes Cymru yn adnabyddus, dylai barhau i wasanaethu fel ymbarél ar draws gwasanaethau yng Nghymru lle bo’n briodol.
• Gwarchod rhag newid cenhadaeth a chadw eu ffocws ar fusnesau bach a chanolig yn ogystal â sicrhau cydbwysedd ar draws anghenion amrywiol gwahanol fusnesau yng Nghymru.
• Cynnal adolygiadau a gwerthusiadau o swyddogaethau craidd, gan alinio â rhaglenni newydd ar gyfer y llywodraeth, ar ddechrau pob tymor seneddol yng Nghymru.
29 British Business Bank figures, available at https://www.british-business-bank.co.uk/business-guidance/guidance-articles/business-essentials/overcomingchallenges-female-entrepreneurs-face
30 Enterprise Nation, Small Business Barometer 2024
31 Figures available at https://commonslibrary.parliament.uk/research-briefings/sn06152/#:~:text=The%20British%20Business%20Bank%20in%202020%20 found,other%20minority%2Dethnic%20groups%20and%2089.9%%20were%20White.
32 ibid
33 B Gooch, Business Without Barriers (FSB: 2022)
Banc Datblygu Cymru
Gan nad yw Cymru bellach yn derbyn arian o’r UE ac yn wynebu ansicrwydd ynghylch y Gronfa Ffyniant
Gyffredin a’r Gronfa Ffyniant Bro, mae hygyrchedd, dibynadwyedd a phriodoldeb cyllid gan Fanc
Datblygu Cymru yn dod yn fwyfwy hanfodol ar gyfer sefydlogrwydd economaidd ac uchelgeisiau twf Cymru.
Mae’r Banc Datblygu’n gwneud yn dda o ran bod yn adnabyddus. Mewn ymchwil gan FfBB Cymru o 2022, roedd 65% o’r ymatebwyr yn gyfarwydd â Banc Datblygu Cymru. Yn ogystal, roedd 60% o’r rhai nad oeddent wedi defnyddio ei wasanaethau yn dal yn ymwybodol o’i fodolaeth. Canfu ein harolwg cymorth busnes yn 2024 fod 46% o’r rhai a ymatebodd wedi gwneud cais am gymorth busnes gan Fusnes Cymru neu Fanc Datblygu Cymru. O’r rhai a ymatebodd, nododd 50% fod y gwasanaeth y maent wedi’i dderbyn yn benodol gan Fanc Datblygu Cymru yn ‘Dda’ neu’n ‘Dda iawn’ gyda dim ond 8% o’r ymatebwyr o’r farn fod ansawdd y gwasanaeth yn ‘wael’.
Mae adroddiad diweddaraf Banc Datblygu Cymru34 yn darparu adolygiad o berfformiad ac effaith, gyda’r banc yn llwyddo gwneud elw ar ôl colledion yn 2022/23, ‘wedi’i briodoli i’r amodau macro-economaidd sy’n gwella a’r cyfraddau llog uchel yn ystod y flwyddyn.’
Cyflawnodd y banc 491 o fuddsoddiadau gwerth cyfanswm o £125.2 miliwn, gan greu £50.1 miliwn o gyd-fuddsoddiad gan y sector preifat yn 2023/24 gyda 4,406 o swyddi wedi’u creu neu eu diogelu yn erbyn targed o 3,779. Fe wnaethant fuddsoddi mewn 430 o fusnesau gwahanol sy’n amrywio o’r busnesau newydd lleiaf i fusnesau mawr a’r rhai sydd â’r nod o dynnu gwerth allan wrth ymadael. Gan ddilyn arfer gorau OECD, roedd y gwerthusiad yn cynnwys grŵp rheoli o fusnesau bach a chanolig tebyg na dderbyniodd gyllid, gan ddangos bod cyfran uchel o’r trosiant a’r swyddi a grëwyd neu a ddiogelwyd yn ychwanegol; mewn geiriau eraill, ni fyddent wedi digwydd heb y gefnogaeth.
Dilynodd y gwerthusiad hwn arfer gorau fel y’i gosodwyd gan y Sefydliad er Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) ar gyfer dadansoddi yn erbyn ‘grŵp rheoli’ gwrthffeithiol o fusnesau cyfatebol na dderbyniodd gymorth. Mae’r dadansoddiad yn dangos bod tua 58% o’r twf mewn cyflogaeth a 60% o’r enillion trosiant yn ychwanegol. Mae hyn yn dangos, lle mae Banc Datblygu Cymru yn buddsoddi, ei fod yn cael effaith sylweddol, ac felly’r cwestiwn yn gyffredinol yw a oes angen iddo fuddsoddi’n ehangach a chymryd mwy o risg?
Roedd ei adborth am wasanaeth cwsmeriaid yn drawiadol. Gwelodd Banc Datblygu Cymru sgôr o 90.8 o gyfradd ymateb o 55% yn seiliedig ar fynegai’r NPS sy’n ffurfio ei ddangosyddion perfformiad. Fel y nodwyd yn y bennod ddiwethaf, dim ond sampl fach o’r rhai a ymatebodd i’n harolwg oedd wedi cael cymorth trwy Fanc Datblygu Cymru ond mae’n rhoi darlun llai cadarnhaol. Mae potensial y gallai ymateb yr arolwg gynnwys y rhai na lwyddodd i gael mynediad at gyllid gan Fanc Datblygu Cymru, a allai egluro rhai o’r canfyddiadau negyddol, gan godi ambell gwestiwn ynghylch hygyrchedd cyllid i wahanol fusnesau bach a chanolig.
Dull ymgysylltu Banc Datblygu Cymru yw bod â chymysgedd ehangach o gynghorwyr sydd wedi’u gwreiddio ar lawr gwlad, tra hefyd yn gweld cyfryngwyr fel perthynas allweddol. Mae hyn yn adlewyrchu’r cynnig mwy cymhleth mewn cyllid:
“Un o’r pethau cyntaf y byddwn i’n ei ddweud sy’n allweddol i’n darpariaeth yw cael pobl wedi’u gwreiddio yn y rhanbarthau. Mae hynny’n wirioneddol bwysig. Felly, mae gennym ni bobl ledled Cymru yn ein swyddfeydd. Wyddoch chi, maen nhw’n byw ac yn gweithio yn y lle maen nhw eisiau buddsoddi. Mae hynny wastad wedi bod yn strategaeth bwysig i ni. Dwi ddim yn meddwl y gallwch chi gyflawni’r hyn rydyn ni’n ei wneud heb fod â phobl o gwmpas y lle - oherwydd maen nhw wedyn yn barod i fynd allan i siarad â’r busnesau bach a chanolig, a siarad â’r cymunedau busnes.
Felly, bydd ein gweithgaredd datblygu busnes yn ceisio cyfleu ein neges o ran yr hyn a olygwn wrth y term ‘marchnad gyfryngol’. Dyna fyddai’r rheolwyr banc, y cyfrifwyr, yr ymgynghorwyr busnes, y cyfreithwyr ac felly’r bobl a fydd yn gweithio gyda’r busnesau bach a chanolig hyn. Mae’n ymwneud â sicrhau eu bod nhw’n deall ble gallai’r banc ffitio i mewn, ac yna maen nhw ar gael i gynghori’r cleient ar yr amser iawn.
34 Development Bank of Wales, ‘Annual report and financial statements 2023/24’, available at https://developmentbank.wales/sites/default/files/2024-09/ Annual%20report%20and%20financial%20statements%202023-24.pdf
O ran mynd yn uniongyrchol at y busnesau, rydyn ni’n gwneud hynny. Ond yr hyn fyddwn i’n ei ddweud yw ei bod yn bwysig ceisio sicrhau eich bod chi’n dal y busnes ar yr amser iawn ble maen nhw’n chwilio am gyllid. Felly dyna ble gall cyfryngwr fod ychydig yn fwy effeithiol weithiau, oherwydd bod ganddyn nhw’r berthynas barhaus honno â busnesau.”
I Fanc Datblygu Cymru, mae’n ddefnyddiol bod ymddiriedaeth mewn cyfrifwyr a chyfreithwyr – eu cyfryngwyr allweddol – yn uchaf yn ein harolwg. Felly mae’n bwysig bod Banc Datblygu Cymru yn cynnal ac yn meithrin y cysylltiadau hynny, a dylai unrhyw adolygiad yn y dyfodol edrych ar sut maen nhw’n ymgysylltu ac yn cynnal y sector hwnnw, ac unrhyw gyrff cynrychioli, i sicrhau eu bod nhw’n gyfredol.
Codwyd cwestiwn arall ynghylch benthyciadau gwyrdd – mae’r benthyciad gwyrdd presennol yn benodol o ran yr hyn mae’n ei dargedu, ond byddai’n bosibl yn y dyfodol ychwanegu ‘bonws effeithlonrwydd gwyrdd’ gan ddarparu cyfraddau llog is ar gyfer benthyciadau ar draws portffolio Banc Datblygu Cymru ac felly ei brifffrydio ar draws y gweithgaredd. I bob diben, mae hyn eisoes yn digwydd gyda chyfraddau gwell ar gyfer ei fenthyciadau ar gyfer adeiladu er mwyn effeithlonrwydd ac effeithiau amgylcheddol gwell. Credwn fod hwn yn syniad addawol a byddai’n darparu cymhellion a chefnogaeth i fusnesau bach a chanolig sy’n trawsnewid i sero net, a dylid ei archwilio ymhellach, gyda’r pwyslais ar fonws a chymhellion ychwanegol ar gyfer mesurau effeithlonrwydd o werth cymdeithasol ehangach, yn hytrach nag unrhyw gostau ychwanegol i’r rhai nad ydynt yn gallu ymgymryd â’r mesurau hyn.
Mae angen cyfalaf ac adnoddau ar Fanc Datblygu Cymru er mwyn iddo allu cynorthwyo busnesau i adeiladu eu capasiti a’u galluoedd ac i fanteisio ar gyfleoedd newydd. Fel y nodwyd ym Mhennod 1, mae methiant parhaus y farchnad yn dal i fod yn rhwystr difrifol i fynediad at gyllid i fusnesau bach a chanolig yng Nghymru ac mae ei rôl yn bwysig i fynd i’r afael â hyn.
Ein barn ni yw y gall gynyddu ei annibyniaeth a sicrhau sefydlogrwydd trwy gael ei osod ar sail statudol.
Mae’n bwysig ei fod hefyd yn gallu cymryd camau i gynyddu ei gapasiti a’i adnoddau ei hun i allu cyllido a chefnogi busnesau bach a chanolig. Dylai Llywodraeth
Cymru archwilio sut y gall Banc Datblygu Cymru symud tuag at adeiladu capasiti wrth reoli cronfeydd buddsoddi hirdymor ar ei ran, â’r nod o ddatblygu a chwilio am gyfleoedd pellach fel ei ddefnydd llwyddiannus o Gronfa Bensiwn Clwyd ar gyfer cyfalaf mwy hir-dymor. Dylid archwilio cyfleoedd pellach mewn cronfeydd fel Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC) i gynyddu’r capasiti ar gyfer buddsoddi mewn BBCh. Mae gan PPC gyfanswm asedau gwerth £25bn (ar 31 Mawrth 2024) ac mae £18.5bn (74%) eisoes wedi’i gronni. Mae mwyafrif yr asedau cronedig wedi’u lleoli o fewn is-gronfeydd gyda buddsoddiadau goddefol (£5.2bn) yn effeithiol o fewn y gronfa, ond fe’u delir gan yr awdurdodau PPC priodol ar ffurf polisïau yswiriant. 35
Mae PPC wedi lansio’r rhaglenni Dyled Breifat, Seilwaith a Buddsoddiad Ecwiti Preifat, dan ofal rheolwyr cronfeydd allanol sy’n arbenigo mewn asedau preifat ac sydd â’r dasg o gyflawni enillion cryf, wedi’u haddasu yn ôl risg, dros y tymor hir. Bydd angen i adolygiad o gymorth busnes edrych ar opsiynau fel hyn yn fanylach ac asesu rôl briodol Banc Datblygu Cymru ac a all ysgwyddo mwy o gyfrifoldebau wrth gynhyrchu cyfoeth hirdymor i Gymru, heb beryglu ei ffocws ar ddarparu mynediad at gyllid i fusnesau bach a chanolig.
Mae rôl Banc Datblygu Cymru yn yr ecosystem datblygu economaidd ehangach yn hanfodol, a dylem ddisgwyl i’r rôl honno ddatblygu a bod yn uchelgeisiol ar gyfer datblygiad yn y dyfodol. Fodd bynnag, mae hefyd yn bwysig ei fod yn cadw at ei gylch gwaith craidd o ddarparu mynediad at gyllid i fusnesau bach a chanolig a bod y perygl o ‘newid cenhadaeth’ neu or-ymestyn hefyd yn cael ei reoli. Mae rôl atebolrwydd trwy’r Bwrdd Twf Busnes a nodwyd uchod yn bwysig i sicrhau bod risgiau o’r fath yn cael eu lliniaru.
Wrth gadw ei ffocws o ran cylch gwaith ar fusnesau bach a chanolig, ein barn ni yw mai ei brif rôl fyddai gweithio gydag eraill yn yr ecosystem i sicrhau bod cyllid yn cael ei ddefnyddio i gefnogi nodau polisi ehangach. Mae’n galonogol nodi bod Banc Datblygu Cymru bellach yn gweithio ar draws meysydd ehangach o bolisi’r llywodraeth na’r adran economi (megis tai), a dylai sicrhau bod yna ffocws ar fusnesau bach a chanolig Cymru wrth lunio a gweithredu polisïau, fel y Gronfa Gyfoeth Genedlaethol, ac wrth weithio gyda Banc Busnes Prydain.
35 Figures available at https://walespensionpartnership.org/sub-funds/

Y Gronfa Gyfoeth Genedlaethol
Mae’r Gronfa Gyfoeth Genedlaethol yn fanc polisi a sefydlwyd gan Lywodraeth y DU i bartneru â’r sector preifat ac awdurdodau lleol i ariannu seilwaith a phrosiectau eraill. Mae ei swyddogaethau craidd yn cynnwys denu buddsoddiad gan y sector preifat i feysydd blaenoriaeth - ynni glân, technolegau digidol, gweithgynhyrchu uwch, a thrafnidiaethtrwy fuddsoddiad ecwiti, dyled, a gwarantau, ochryn-ochr â chynnig gwasanaethau cynghori a chyllid cost isel ar gyfer prosiectau seilwaith awdurdodau lleol.
Mae’r Gronfa Gyfoeth Genedlaethol yn cynnig cyfle strategol i symud cyfalaf a sbarduno twf economaidd, a allai fod o fudd sylweddol i ddatblygiadau ynni gwynt ar y môr yng Nghymru. Er mwyn sicrhau’r effaith fwyaf posibl a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau rhanbarthol, dylai’r Gronfa hon hefyd gyfeirio cyfalaf yn strategol tuag at ranbarthau llai amrywiol yn economaidd ledled
y DU sy’n rhagori mewn meysydd fel Ymchwil a Datblygu, amaeth, twristiaeth, gweithgynhyrchu a thechnoleg ariannol. Mae hyn yn cynnwys cefnogi gwelliannau i seilwaith a meithrin datblygiad polisïau sy’n annog arloesedd. Yn olaf, mae sicrhau polisïau sy’n gydnaws â busnesau bach a chanolig a system gymorth busnes gadarn yn hanfodol er mwyn galluogi busnesau llai i elwa’n effeithiol ar gyfleoedd yn y gadwyn gyflenwi sy’n cael eu creu gan fuddsoddiad o’r Gronfa Gyfoeth Genedlaethol.
Byddai FfBB Cymru yn croesawu datblygiad gweinyddiaeth y Gronfa Gyfoeth Genedlaethol yng Nghymru trwy bartneriaeth effeithiol â Banc Datblygu Cymru, a byddai’n annog Llywodraeth y DU i weithio gyda Llywodraeth Cymru i asesu sut y gall cyrff fel Banc Datblygu Cymru ddod yn gyfrwng ar gyfer cyfleoedd buddsoddi penodol i Gymru, gan ganolbwyntio ar greu cyfoeth.
Mewn adroddiad blaenorol rydym wedi galw am Asiantaeth Ddatblygu i sicrhau buddsoddiad tramor sy’n canolbwyntio ar fusnesau bach a chanolig ac i gydlynu’r system, a byddai FfBB Cymru yn gweld Banc Datblygu Cymru yn cydweithio’n agos ag unrhyw gorff o’r fath. Byddent yn sicrhau bod eu strategaethau’n alinio a bod polisi ynghylch mynediad at gyllid yn sicrhau bod unrhyw fuddsoddiadau’n cael yr effaith fwyaf trwy adeiladu capasiti BBCh i fanteisio ar gyfleoedd yn y gadwyn gyflenwi, er enghraifft. Mae sefydliadau eraill wedi awgrymu dulliau gwahanol o ddenu buddsoddiad. Ein hamcan ni yma yw y dylai Banc Datblygu Cymru fod yn alinio eu ffocws ar gyllido BBCh â’r bensaernïaeth sefydliadol ehangach sydd ar waith ar lefel Cymru a’r DU i gefnogi buddsoddiad. Mae hyn yn caniatáu i Fanc Datblygu Cymru gadw ei gylch gwaith ar gyfer BBCh, gan sicrhau eu bod yn cefnogi nodau uchelgeisiol ar gyfer buddsoddiad, prosiectau mawr a pholisi economaidd ehangach yng Nghymru.
Yn ein cyfweliad â Banc Datblygu Cymru, nodwyd yr angen i addasu a ffitio i dirwedd polisi ehangach y DU, megis y strategaeth ddiwydiannol, y Genhadaeth dros Dwf a gweithgaredd masnachol Cronfa Gyfoeth Genedlaethol y DU. Nodwyd bod eu gwaith parhaus gyda Banc Busnes Prydain, trwy Gronfa Buddsoddiad y DU a gyda swyddfa a rennir yng Nghymru, wedi helpu i bontio’r bwlch o ran darparu mynediad at gyllid i fusnesau bach a chanolig yng Nghymru ac wedi bod yn enghraifft dda o ddefnyddio partneriaethau effeithiol ar gyfer gwahanol gryfderau pob sefydliad. Gellid datblygu’r bartneriaeth hon ymhellach i sicrhau bod gweithredu polisi economaidd y DU a Chymru yn cael ei integreiddio ar draws y bwrdd.
• Dylai Llywodraeth Cymru osod Banc Datblygu Cymru ar sail statudol i ddarparu sicrwydd a sefydlogrwydd ar gyfer y tymor hir.
• Mae’r defnydd o Gronfeydd Pensiwn Clwyd wedi bod yn llwyddiannus ac yn fodel da ar gyfer buddsoddiad. Dylai Llywodraeth Cymru a Banc Datblygu Cymru archwilio sut y gellid defnyddio ffynonellau cyllid eraill (megis Cynllun Pensiwn Cymru) yng Nghymru i ddatblygu cyfalaf mwy hirdymor at ddefnyddiau megis y newid i sero net, yn ogystal ag i ddenu buddsoddiad allanol.
• Yn ogystal â’i fenthyciadau gwyrdd penodol, dylai Banc Datblygu Cymru ddatblygu’r defnydd o ‘fonws sero net’ ar draws ei holl fenthyciadau fel bod yna gyfraddau llog is ar gyfer ymgymryd ag addasiadau effeithlonrwydd sero net fel rhan o fenthyciad i ysgogi datblygiadau. Byddai hyn ar sail gwobr ychwanegol am ymgymryd â’r mesurau hyn i adlewyrchu eu gwerth cymdeithasol, yn hytrach na chosbi’r rhai na allant wneud hynny. Mae’r banc eisoes yn gwneud hyn ar gyfer benthyciadau yn y sector adeiladu, a dylid ehangu hyn i annog addasiadau sero net yn gyffredinol.
• Wrth ehangu unrhyw waith, dylai Banc Datblygu Cymru ochel rhag ‘newid cenhadaeth,’ sicrhau ei fod yn cadw ei ffocws ar fusnesau bach a chanolig, ac osgoi gor-ymestyn. Dylai atebolrwydd gan y Senedd osod hyn wrth wraidd unrhyw graffu.
• Lle bo’n briodol, dylid datblygu darpariaeth Cronfa Gyfoeth Genedlaethol ar gyfer Cymru trwy bartneriaeth effeithiol rhwng Banc Busnes Prydain a Banc Datblygu Cymru. Dylai Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ystyried rhoi’r dasg i’r sefydliadau hyn o ddatblygu Uned Gronfa Gyfoeth i weithredu’r gronfa yng Nghymru, uned a allai hefyd addasu i unrhyw gronfeydd cyfoeth Cymru a allai gael eu datblygu yn y dyfodol.

3. Dibyniaethau ar gyfer Llwyddiant yn y Dull Ecosystem
Yn fras, ein barn ni yw mai dull eang Busnes Cymru yw’r un cywir, gan ei fod yn caniatáu cymysgedd strategol o gysondeb a hyblygrwydd, wrth ddarparu siop un stop i fusnesau, gan ddarparu gwasanaeth wedi’i deilwra a rhagweithiol ar draws gwahanol anghenion busnes a chymunedol trwy bartneriaethau o dan ymbarél a brand ‘Busnes Cymru’.
Fodd bynnag, mae’n golygu bod Busnes Cymru a’i chwaer sefydliad, Banc Datblygu Cymru, yn ddibynnol ar rannau eraill o’r ecosystem i weithredu fel cyfryngwyr effeithiol ac i’r cyfryngwyr hynny fod yn effeithiol, ac efallai y bydd bylchau lle nad oes partneriaid lleol effeithiol o’r fath yn bodoli. Mae deall y dibyniaethau hynny – ac felly polisi ehangach – yn hanfodol er mwyn ymestyn cefnogaeth gyfartal i gymunedau busnes mewn gwahanol rannau o Gymru.
Mae angen polisi ‘oddi uchod’ trwy gysondeb ymagwedd ar draws llywodraethau, yn ogystal ag eglurder ynghylch y dull macro-economaidd ehangach. Mae hyn yn lleihau’r risgiau o ansicrwydd ar y lefel uchaf yn bwydo i lawr trwy’r system neu’n cyfrannu at anghysondeb.
O’r ‘gwaelod i fyny’ – mae’r amgylchedd busnes lleol yn ei dro yn darparu’r cyd-destun i fusnesau gyrchu cymorth busnes, ac yn aml nhw yw’r sefydliadau lleol dibynadwy y bydd busnesau bach a chanolig yn eu defnyddio. Mae rhwydweithiau a fforymau lleol ar gyfer busnesau yn bwysig o ran sut mae’r wybodaeth yn cyrraedd busnesau, ynghyd â sut mae busnesau’n cysylltu i ddechrau. Mae ein cyfweliadau â mwy o ddarparwyr lleol yn awgrymu eu bod yn gamau pwysig i ddod â busnesau bach a chanolig i mewn i’r system, gan fod busnesau’n ymddiried ynddynt a’u bod wedi’u gwreiddio mewn rhwydweithiau busnes lleol, yn wahanol i gyrff canolog – o leiaf gyda’r adnoddau presennol. Rydym yn edrych ar y dibyniaethau ehangach hyn yn yr ecosystem nawr.
Arweinyddiaeth Wleidyddol a Pholisi Macro-economaidd
Mae’r amgylchedd strategol economaidd ehangach a sut mae Busnes Cymru’n ymateb iddo yn rhan bwysig o’r system. Gall effaith penderfyniadau polisi ar wahân a blaenoriaethau gwahanol sefydliadau wrth lunio’r rhaglenni a’r ymgysylltiad y mae Busnes Cymru yn ei geisio naill ai symleiddio neu gymhlethu ei rôl fel ‘siop un stop’. Er enghraifft, mae rheoli’r anghysondeb rhwng dull Cronfa Ffyniant Gyffredin a Ffyniant Bro’r DU, a oedd yn canolbwyntio ar weithredu penderfyniadau
awdurdodau lleol a rhai canolog y DU ochr-yn-ochr â ffocws Llywodraeth Cymru ar ddull strategol rhanbarthol trwy Gyd-bwyllgorau Corfforaethol neu fyrddau uchelgais yn creu anghenion, buddiannau a sefydliadau sy’n gwrthdaro, ac yn ychwanegu at gymhlethdod. Mewn ffordd arall, dylai llawer o sefydliadau fod o dan frand ymbarél Busnes Cymru (megis Diwydiant Cymru, Cyswllt Ffermio, ac yn y blaen) ond mae hefyd yn bwysig eu bod yn rhannu cenhadaeth, bod rolau a chylchoedd gwaith yn glir, a bod ffyrdd o weithio ar draws y sefydliadau yn sicrhau eu bod yn gweithio gyda’i gilydd ac nad ydynt yn dyblygu nac yn gweithredu mewn cystadleuaeth.
Beth bynnag, o ran cyllido yn y dyfodol, mae angen eglurder a chydlyniad o ran dull gweithredu gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ynghylch rôl cyrff rhanbarthol, sut maen nhw’n gweithio gyda phartneriaid lleol a chenedlaethol a sut maen nhw’n gwasanaethu strategaeth economaidd ranbarthol.
Mae dau faes allweddol i’w hystyried o ran deall y sefyllfa bresennol a sut mae angen ei llunio ar gyfer y dyfodol:
• Effaith y dull ariannu ôl-Ewropeaidd
• Meysydd newydd posibl o bolisi macro-economaidd (mae Strategaeth Ddiwydiannol newydd y DU, Strategaeth Busnesau Bach y DU, Gwasanaethau Twf Busnes y DU, a Chronfa Gyfoeth Genedlaethol y DU yn enghreifftiau)
Mae’r cyntaf o’r pwyntiau hyn, a’r profiad o newid yr amgylchedd cyllido ar ôl gadael yr UE, yn dangos sut y gall hyn effeithio’n uniongyrchol ac yn anuniongyrchol ar rôl gydlynu a ‘siop un stop’ Busnes Cymru. Yn uniongyrchol, mae hyn yn ymwneud â chyllido (wrth golli chwarter yr arian oedd ar gael), ond mae hefyd yn effeithio’n anuniongyrchol ar raddfa ei waith ac amgylchedd mwy cymhleth a thameidiog.
Fel y nododd y rhai y cyfwelwyd â hwy, mae’r angen i gyfeirio at amgylchedd cyllido a chymorth busnes mwy cymhleth wedi gwneud pethau’n fwy dyrys, a’r wybodaeth sydd ei hangen gan fusnesau ac ar gyfer busnesau’n fwy amlhaenog. Felly byddai busnes yn “Sir Benfro’n gallu cael mynediad at grantiau a gwahanol wasanaethau busnes, ond os nad ydych chi yn Sir Benfro ni fydd yr un ddarpariaeth ar gael i chi, ac mae hynny’n gymhleth”.
Mae’r model cyllido mwy lleol hwn sy’n seiliedig ar ardal awdurdod lleol wedi gwneud y ‘canol anhrefnus’ yn fwy cymhleth, gyda ‘mwy o ffocws ar adeiladu
lleoedd a rhanbartholi’ ond mae angen o hyd am ‘rai gwasanaethau cenedlaethol ochr-yn-ochr â hynny’, ac felly, ‘roedd yna swyddogaeth gydlynu ar lefel genedlaethol [Gymreig].’
Gan gynyddu cymhlethdod lleol, arweiniodd ganoli’r cyfrifoldeb dros gyllido a gwneud penderfyniadau ar ôl gadael Ewrop i San Steffan hefyd at ganoli penderfyniadau ynghylch cronfeydd ariannol. Er nad oedd yn rhywbeth y byddai’r rhai y cyfwelwyd â hwy’n fodlon ei ddweud yn benodol, mae’n ymddangos bod anghysondeb ar y lefel uchaf rhwng polisi Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Cafodd cysylltiadau trawslywodraethol ar lefel Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru effaith ar gydlyniant o’r lefel uchaf i lawr, ac yn ei dro ar ddarpar ddefnyddwyr cymorth busnes yn nes i lawr yn y system.
Roedd hwn yn bryder yr oedd FfBB Cymru wedi’i amlinellu fel risg cyn y newid i’r Gronfa Ffyniant Gyffredin fel canlyniad. 36 Mae unrhyw gyllido o’r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn y dyfodol i gefnogi mentrau’r DU37 yn gofyn am aliniad strategol ar draws Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i hyrwyddo symlrwydd a system sefydlog o’r lefel uchaf i lawr ac ar gyfer y tymor hir. Ein safbwynt yn dilyn Brexit oedd y dylai Llywodraeth Cymru wneud penderfyniadau ar gyllido ar y lefel uchaf, ac mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru bellach wedi ymrwymo i’r dull hwn.
Yng Nghymru, mae OECD wedi llunio sawl argymhelliad ar egwyddorion cydweithio sy’n tynnu ar rôl y Cydbwyllgorau Corfforaethol, Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a Llywodraeth y DU mewn rhai achosion. Mae’r argymhellion yn pwysleisio’r angen i sefydliadau fabwysiadu amcanion cyffredin ar gyfer datblygu rhanbarthol sy’n cwmpasu gwahanol feysydd polisi. Awgrymir hefyd rolau a chyfrifoldebau wedi’u diffinio’n glir i gyflawni’r strategaethau hyn yn ogystal â mabwysiadu cynllun sy’n canolbwyntio ar weithredu i gynnal momentwm. Mae OECD hefyd yn pwysleisio’r angen am sicrhau bod pwyntiau cyswllt rheolaidd yn cael eu cynnal rhwng partneriaid i sicrhau bod asesiad parhaus o sut mae’r egwyddorion hyn yn cael eu gweithredu gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol. Mae hefyd angen sicrhau bod cyllid o’r lefel uchaf i lawr yn gweithredu ar gyfer y bensaernïaeth newydd hon.
Mae’n hanfodol o fewn y mentrau hyn bod gwersi’n cael eu dysgu o arferion da a drwg mewn cyllido blaenorol gan yr UE ac yn agenda’r Gronfa Ffyniant Gyffredin a Ffyniant Bro. Y wers gyntaf yw sicrhau agenda ddatblygu rhanbarthol glir ar lefel ranbarthol a
chenedlaethol ar gyfer Cymru, sy’n alinio sefydliadau a strategaeth ar draws Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Mae gan sefydliadau Cymru rôl hanfodol i’w chwarae yn hynny o beth fel cyrff hyd braich a all weithredu ar draws y llywodraethau, ond mae hefyd yn bwysig nad oes disgwyl iddynt negodi ar draws perthnasoedd nad ydynt yn gweithredu fel y dylent.
Mae’r DU yn ystyried datblygu ‘Gwasanaeth Twf Busnes’ sy’n canolbwyntio ar fusnesau bach a chanolig sydd â’r dasg o gefnogi BBCh. Mae’n bwysig nad yw hyn yn disodli, dyblygu na gwanhau’r ddarpariaeth gwasanaeth yng Nghymru. Dylai’r pwyslais fod ar ddefnyddio’r hyn sydd eisoes ar waith, yr hyn sy’n adnabyddus i fusnesau Cymru, a’r hyn sy’n gweithio orau yng Nghymru.
• Dylai Llywodraeth y DU ddefnyddio’r hyn sy’n gweithio eisoes: Cydnabod cryfder brand a gwybodaeth Busnes Cymru wrth lunio polisïau newydd, gan gynnwys cyflawni’r Strategaeth Busnesau Bach a Diwydiannol, ynghyd â defnyddio’r mecanweithiau hyn sy’n bodoli eisoes i gyflawni eu hamcanion economaidd.
• Dylai Llywodraeth y DU sicrhau nad yw unrhyw ‘Wasanaeth Twf Busnes’ newydd ar lefel y DU i gefnogi BBCh yn dyblygu, yn disodli nac yn gwanhau brand a gwaith Busnes Cymru yng Nghymru, ond yn hytrach yn ei gefnogi.
• Dylai Llywodraeth Cymru defnyddio adferiad y broses o wneud penderfyniadau ynghylch yr arian sydd ar gael yn lle’r cyllid a ddaeth o’r UE gynt i weithredu strategaeth economaidd gynhwysfawr, wedi’i chyflwyno mewn partneriaeth â llywodraethau lleol a Chydbwyllgorau Corfforaethol. Rhaid i’r dull gweithredu gael ei ategu gan yr argymhellion a gyflwynwyd gan y Sefydliad er Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) yn eu Hadroddiad ar Lywodraethiant Rhanbarthol a Buddsoddiad Cyhoeddus yng Nghymru.
• O ystyried y gorgyffwrdd tebygol rhwng rhaglenni cymorth busnes Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru (e.e. cymorth allforio, cymhellion buddsoddi), rhaid i’r naill a’r llall ddarparu mwy o eglurder ynghylch sut y byddant yn cydweithio mewn mentrau ledled y DU, fel strategaeth ddiwydiannol y DU a’r Gronfa Gyfoeth Genedlaethol, a sut y bydd Busnes Cymru yn cyflawni ar ran y ddwy strategaeth lywodraethol.
36 L ap Gareth, ‘Building Businesses’ (FSB: 2022), available at https://www.fsb.org.uk/resources/policy-reports/building-businessesMC6H4J2W2ID5BTLO43YINGD5HZYE#:~:text=Building%20communities%20through%20business%20support,take%20advantage%20of%20new%20 opportunities.
37 FSB Wales has provided detailed view on the need for a Welsh component and responsibilities in the Industrial Strategy and Mission for Growth in its consultation response to HM Treasury in 2024.
Invest 2035: Cynigion ar gyfer strategaeth ddiwydiannol fodern
Ym mis Hydref 2024, cyhoeddodd Llywodraeth y DU Invest 2035, papur gwyrdd yn manylu ar gynigion ar gyfer strategaeth ddiwydiannol fodern, sy’n rhan o’u cenhadaeth i gyflawni’r gyfradd uchaf o dwf economaidd cynaliadwy yn y G7 ac sydd â’r bwriad o gefnogi twf rhanbarthol, uchelgeisiau sero, yn ogystal â diogelwch a gwydnwch economaidd y DU. Mae’r papur gwyrdd yn cynnwys cynigion ar gyfer:
• Targedu cefnogaeth at wyth sector “sy’n sbarduno twf” yn ogystal â lleoedd sydd â photensial uchel ar gyfer twf, gan gynnwys rhanbarthau dinesig, clystyrau rhanbarthol a safleoedd diwydiannol strategol.
• Creu amgylchedd sy’n ffafrio busnes trwy weithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid gan gynnwys busnesau, undebau llafur, meiri a llywodraethau datganoledig.
• Sefydlu cyngor strategaeth ddiwydiannol i gynghori’r llywodraeth a monitro gweithrediad y strategaeth.
Mae’r strategaeth ddiwydiannol yn cynnig cyfle hollbwysig i ail-lunio agenda twf y DU trwy ganolbwyntio ar ei rhanbarthau a’i gwledydd, gan ddarparu cynllun o’r ochr gyflenwi i gryfhau a diogelu’r economi ar gyfer y dyfodol; gan sicrhau cadwyni cyflenwi cadarn, cyflymu datgarboneiddio, a chynyddu cyfleoedd i bobl ifanc.
Er mwyn cyflawni’n effeithiol ar gyfer economi Cymru, mae elfen benodol Gymreig yn hanfodol, gan gydnabod yr anghenion amrywiol a’r dirwedd sefydliadol a thargedu sectorau twf allweddol Cymru.
Ni ddisgwylir i Lywodraeth y DU gyhoeddi’r strategaeth ddiwydiannol derfynol tan o leiaf fis Mehefin 2025.
Dylai unrhyw ymarfer mapio sefydliadau sicrhau cylch gwaith clir a ffyrdd o weithio ar gyfer sefydliadau o fewn yr ecoleg cymorth busnes er mwyn sicrhau eu bod yn gweithio tuag at nodau cyffredin ac yn manteisio ar gryfderau pob sefydliad. Dylid defnyddio Memoranda Cyd-ddealltwriaeth ymhellach i sicrhau eglurder ynghylch ffyrdd o weithio ar draws sefydliadau yng Nghymru, gan gynnwys rhwng cyrff yng Nghymru a’r DU. Dylid mabwysiadu dull darbodus ar gyfer pob

lefel o lywodraethiant i ‘wneud yr hyn rydych chi’n ei wneud yn dda’ a bod hynny’n cael ei adlewyrchu mewn penderfyniadau trwy’r system:
• Lleol: creu lleoedd a gwybodaeth am y farchnad leol.
• Datganoledig a Rhanbarthol (mae’r olaf yn cynnwys system cymorth busnes Cymru yn ogystal â rhanbarthau twf, Cyd-bwyllgorau Corfforaethol, a.y.b.): addasu nodau’r DU i bolisi economaidd rhanbarthol a chydlynu sefydliadau ar y lefel honno.
• Y DU: strategaeth gyffredinol ar gyfer twf (nodau strategol macro-economaidd); pŵer a chefnogaeth gyllidol; cronfeydd cyllido.
Ni ddylid ystyried gwahanol lefelau o lywodraethiant yn nhermau hierarchaeth lem. I fusnesau bach lleol, mae’r addasu i anghenion lleol yr un mor bwysig â’r polisi macro-economaidd. Felly, yr elfen allweddol yw sicrhau bod cydlynu polisi ar lefel Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn cael ei wneud ar sail gyson a sefydlog, gydag eglurder ar yr agenda i Gymru ar gyfer y tymor hir. Mae’r cydlyniant hwn o’r lefel uchaf i lawr wedyn yn caniatáu i bolisïau ehangach y DU gael eu gweithredu’n well, ac mae lle i ddefnyddio’r seilwaith i gyflawni’r polisïau hynny’n well, a’u haddasu at anghenion BBCh Cymru. Roedd Busnes Cymru yn ymwybodol o’r cwestiwn hwn, ac fe’i codwyd mewn perthynas â pholisi economaidd y DU:
“Beth yw rôl Busnes Cymru yn y blynyddoedd i ddod o ran sut mae strategaeth ddiwydiannol Llywodraeth y DU yn effeithio ar ein gallu i nodi sectorau twf a chydgysylltu trwy hynny?”
I wneud hyn yn effeithiol bydd angen mwy o adnoddau i sefydliadau fel Busnes Cymru. Yn dilyn cyfnod pontio, daeth cyllid o raglenni’r UE i ben yn 2023, gyda chyllid craidd Busnes Cymru wedi’i leihau o £30m i £22m. Er bod ail-alinio strategol yn sgil toriadau mewn cyllido i bob golwg wedi arwain at rywfaint o welliannau o ran effeithlonrwydd (ac wedi osgoi dyblygu ar lefel leol o ran cymorth busnes), roedd pryderon gan rai y cyfwelwyd â hwy, gydag un ymatebydd yn nodi “os ydych chi’n lleihau cyllid ymhellach yn unrhyw le, gall olygu mai dim ond cynnig digidol sydd ar ôl, sy’n golygu mai dim ond rhai pethau penodol fydd ar gael i chi.”
O ystyried y bydd cymorth i fusnesau yn hanfodol o ran cynnig cefnogaeth i fusnesau yng nhyd-destun mentrau polisi’r DU, mae FfBB yn awgrymu, o ran gwerth am arian, fod dadl dros gynyddu cyllido. O ran yr angen i gefnogi cadwyni cyflenwi ac adeiladu capasiti er mwyn sicrhau gwerth o strategaeth ddiwydiannol a buddsoddiadau mawr yng Nghymru, efallai y bydd achos hefyd y dylai cyllid y DU ochr-yn-ochr â chyllid Cymru ariannu mentrau cefnogi busnesau BBCh ar gyfer ei strategaeth ddiwydiannol a’i Strategaeth Busnesau Bach yn y dyfodol. Byddai hyn yn llenwi’r bwlch a oedd gynt yn cael ei gyflenwi gan arian o’r UE ar gyfer polisi economaidd rhanbarthol, a dylai ystyried cynyddu cyllid a gweithgareddau, mewn termau real, i’r rhai oedd ar waith cyn gadael yr UE.
Mae Busnes Cymru wedi wynebu toriadau sylweddol dros y degawd diwethaf. Os yw am ysgwyddo mwy o gyfrifoldebau (megis datblygu cadwyni cyflenwi), dylai gael digon o adnoddau i wneud hynny.
Wrth i’r adroddiad hwn gael ei gwblhau, roedd cyhoeddiadau’n cael eu gwneud gan weinyddiaeth yr Unol Daleithiau mewn perthynas â thollau masnach, gan greu ansicrwydd sylweddol mewn perthynas â dyfodol marchnadoedd byd-eang. Er bod y sefyllfa’n rhy ansicr i gynnwys dadansoddiad yn yr adroddiad hwn, mae’n dangos pam ei bod hi’n bwysig bod â system gymorth busnes sefydlog a all ymateb i ddigwyddiadau economaidd annisgwyl, er mwyn gallu datblygu a darparu cyngor ac adnoddau i fusnesau mewn marchnad allforio sy’n newid gydag ansefydlogrwydd cynyddol. Unwaith eto, mae’n bwysig bod llunwyr polisi yn deall gwerth gwasanaethau Busnes Cymru yn llawn fel manteision pwysig mewn cyfnodau ansicr.
• Dylai Llywodraeth Cymru adfer lefelau cyllido ar gyfer cymorth i fusnesau yng Nghymru mewn termau real i’r rhai oedd ar waith cyn gadael yr UE, ac ymrwymo i gyllidebau aml-flwyddyn.
• Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda Busnes Cymru i gyfeirio adnoddau ychwanegol at
swyddogaeth rheoli cyfrifon wedi’i thargedu a fyddai’n darparu cymorth arbenigol a dwys –megis mentora wedi’i deilwra, mynediad at gyllid twf, a chymorth i addasu ar gyfer arloesedd a thechnoleg – i fusnesau bach a chanolig sydd ag uchelgais a photensial clir i ehangu eu busnes er mwyn mynd i’r afael â ‘chanol coll Cymru’.
Dod â Chymorth Busnesau Lleol i Mewn
Nododd Busnes Cymru yn eu cyfweliad: “bydd yna bob amser elfen lle mae rhai pethau y mae angen i chi eu gwneud ar lefel leol na allem eu gwneud trwy wasanaeth Cymru Gyfan.” Nodi’r ‘pethau penodol’ hynny sy’n bwysig, ac mae’n bwysig deall eu gwerth i fusnesau bach a chanolig, a sut maen nhw’n cysylltu â’r darlun ehangach.
Er ei bod hi’n ymddangos bod y gwasanaeth canolog wedi mynd yn fwy cymhleth, roedd rhai pethau cadarnhaol a gwersi i’w dysgu o hyn hefyd, a fynegwyd yn nhermau rôl fwy i awdurdodau lleol i lunio’r rhaglenni’n lleol, fel y nododd un ymgynghorydd busnes wrthym:
”Yn fy marn i, mae rhai pethau cadarnhaol wedi bod ynglŷn â’r ffordd y cafodd pethau fel cyllido Ffyniant Bro ei ddosbarthu trwy awdurdodau lleol, oherwydd bod hyn yn caniatáu ar gyfer mewnbwn a dylanwad lleol o ran sut y byddai’r arian hwn yn cael ei ddosbarthu. Mae hefyd yn debygol bod mwy o fusnesau yn ardaloedd rhai o’r awdurdodau lleol wedi gallu cael mynediad at grantiau nad oeddent hyd yn oed yn ymwybodol ohonynt o’r blaen oherwydd y sianeli cyfathrebu lleol. Felly, dwi’n meddwl ei fod wedi bod yn beth cadarnhaol.”
Nododd yr un ymatebydd fod Cyngor Merthyr wedi bod yn effeithiol o ran ‘dod â busnesau i wahanol fathau o fforymau’ a ‘gosod eu busnes ar sail fwy cadarn.’
Mae rhai awdurdodau lleol wedi ymateb yn gadarnhaol i’r heriau o sicrhau bod y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn cefnogi BBCh, ac mae angen dal gafael mewn dysgu ac effaith ar y lefel hon a’u cynnwys mewn unrhyw fframweithiau yn y dyfodol. Yn benodol, roedd rhai prosiectau’n gallu anelu’n effeithiol at fusnesau bach a chanolig, ac mewn rhai mannau mae’r cyllid wedi hwyluso datblygiad rhwydweithiau defnyddiol ar gyfer perchnogion busnesau bach.
Mewn sawl ffordd, mae’r farn hon hefyd yn adlewyrchu teimladau ehangach ymhlith rhai o’r bobl y cyfwelwyd â hwy bod ‘cymorth busnes ar lefel leol’ yn cael ei danbrisio, fel y dywedodd un darparydd:
“Dwi ddim yn meddwl bod rolau sefydliadau fel ni’n cael y gydnabyddiaeth y maen nhw’n ei haeddu … rydyn ni’n mynd o dan y radar oherwydd rydyn ni’n ei wneud yn naturiol. Yna byddwch chi’n dod â’r sefydliadau, grwpiau, prosiectau neu fentrau hyn at ei gilydd, ond yn sydyn bydd rhywun arall yn hawlio’r clod oherwydd eu bod nhw wedi mynd i’r cyfarfod diweddarach hwnnw lle sefydlwyd y rhwydweithiau. Os ewch chi’n ôl ychydig fisoedd - doedden nhw ddim hyd yn oed yn siarad â’i gilydd. Ac yn awr mae gennych chi gyfres o fentrau neu fusnesau lleol yn dod at ei gilydd, a dyma’r ôl troed.
…[yr hyn] rydyn ni ei eisiau yw cydnabyddiaeth. Efallai y gallwn ni wneud yn well o ran casglu a mesur hynny.”
Yn ogystal â bod wedi’i wreiddio mewn ardaloedd lleol, mae yna well dealltwriaeth o ble mae busnes yn effeithio ar farchnadoedd lleol:
“Rydyn ni’n adnabod yr ardal; rydyn ni’n gyfarwydd â chadwyni cyflenwi’r rhai

38
sy’n dod atom ni. Ond weithiau efallai nad ni yw’r bobl orau i fynd â nhw ar y daith honno mewn gwirionedd. Rydyn ni wedyn bob amser yn eu hatgyfeirio.”
Mewn adroddiadau ymchwil diweddar, mae FfBB Cymru wedi nodi pa mor bwysig yw adeiladu rhwydweithiau ar gyfer Sgiliau, Gweithgynhyrchu a’r Diwydiannau Creadigol. 38 Mae enghreifftiau a welsom yn yr adroddiadau hynny’n cynnwys y gwerthfawrogiad o rwydweithiau a adeiladwyd heb fawr o adnoddau trwy Gymru Greadigol. Mae hybiau rhanbarthol wedi caniatáu i fusnesau a ymunodd â’r rhwydweithiau hynny gydweithio ar gontractau mwy na fyddai’n bosibl ar wahân fel arall, ac roedd gan fusnesau bwynt canolog gwell i gael mynediad at gymorth sgiliau, o’i gymharu â BBCh nad ydynt wedi’u cysylltu â chanolfannau o’r fath.
Mae adroddiadau blaenorol gan FfBB yn dangos y rôl sydd gan hybiau mewn rhwydweithio ac effaith hynny ar gydlynu prosiectau. Fodd bynnag, nododd y rhai y cyfwelwyd â hwy sut y gall hybiau chwarae rhan wrth gydlynu a llywio tuag at brosiectau newydd yn uniongyrchol, gan ddarparu cymorth AD, a chreu cyfleoedd a llunio marchnadoedd. Roedd hyn ar gyfer ‘twf uchel ac arloesedd’ y sbectrwm, ond hefyd o ran rhwydweithiau ‘sy’n canolbwyntio mwy ar gyfoeth cymunedol’:
“Y gwasanaeth cynhwysfawr hwn sy’n gwneud i hyn ddigwydd. Felly dyna pam iddo fod yn llwyddiant.
… Mae’n fwy nag atgyfeirio, mae’n mynd y tu hwnt i hynny… Byddwn yn bwrw golwg ar [wasanaeth contract] Sell2Wales bob dydd, ac yna byddwn yn paru’r cyfleoedd hynny â thenantiaid, ond nid yn unig yn eu trosglwyddo - byddwn yn gofyn oes angen help arnoch i ysgrifennu’r tendr? Ydych chi am i ni ei brawfddarllen ar eich rhan? Dyma alwad ymchwil sydd newydd ddod allan gan Innovate UK. Ydych chi eisiau tendro amdano? A allwn ni helpu gyda’r math yna o arloesedd? Allwn ni greu timau gyda chi? Gallwn ni ei reoli! … [a] sicrhau’r cyllid hwnnw i Gymru er mwyn cyflawni ein hamcanion strategol.”
L ap Gareth, E Crawley, K Marshal, B Wilmott, A Skills-Led Economy for Wales (FSB:2024); D Pickernell ‘Manufacturing Momentum’ (FSB / Swansea University: 2023); L ap Gareth ‘The Power of Creativity’ (FSB: 2024)
Enghraifft arall yw Planed fel rhwydwaith o gynhyrchwyr bwyd, sydd hefyd yn ymgymryd â rôl gydlynu, ac mae’n creu cyfleoedd a marchnadoedd.
“...mae ein prosiectau a’n gweithgareddau’n cwmpasu ystod eang o themâu, sydd unwaith eto’n canolbwyntio ar bobl ond yn gweddu i’n math ni o lesiant economaiddgymdeithasol drwyddo draw… Mae gennym ni’n rhwydwaith ein hunain sydd â thros 80 o aelodau ar hyn o bryd - busnesau bach, tyfwyr lleol, cynhyrchwyr, cyflenwyr.
Mae gennym ni hefyd ein gwaith ar yr ochr fasnachol o ran bwyd, sef y peiriannau gwerthu cymunedol a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Maent yn ddrud i’w prynu a’u hadeiladu ond yn effeithiol iawn o ran cefnogi mentrau lleol fel ffynhonnell incwm gynaliadwy ac ychwanegol nad yw bellach yn ei gwneud yn ofynnol iddynt sefyll mewn marchnad ffermwyr am chwe awr yn y glaw i ennill £30. Nawr gallant lenwi’r peiriant, ac rydych chi’n gwybod y gallant wneud trosiant o £100 neu £1,000 yn dibynnu ar y cynnyrch a’r galw amdano.”
Mae’r ddwy enghraifft hyn yn dangos gwerth ‘siapio marchnadoedd’ er mwyn i’r rhwydwaith hwnnw ddatblygu ac adeiladu ar gyfleoedd newydd. Mae rôl gydlynu o’r fath yn bwysig ac yn gwneud y gorau o’r hyn sy’n bodoli eisoes o ran dod â grwpiau ynghyd tuag at gyfleoedd newydd.
Er ei fod yn canolbwyntio’n benodol ar fentrau cymdeithasol, nododd Cwmpas eu cefnogaeth i hybiau fel modd o adeiladu a chyfuno rhwydweithiau, ond hefyd i ddarparu strategaeth hirdymor:
“Mae angen buddsoddiad mewn capasiti arnom ar gyfer hyb datblygu cydweithredol yng Nghymru – corff rhagweithiol sydd â’r dasg o nodi cyfleoedd ar gyfer busnesau cydweithredol a chymdeithasol newydd mewn cymunedau, cadwyni cyflenwi a sectorau sy’n dod i’r amlwg a chefnogi eu ffurfio trwy ddod â phobl a sefydliadau perthnasol ynghyd.
Boed hynny’n weithio gyda phrifysgolion i ddatblygu cwmnïau cydweithredol sy’n deillio o hynny, gweithio gyda masnachwyr unigol i adeiladu cwmnïau cydweithredol i ddatgarboneiddio ein stoc tai, neu weithio yn y sector amaethyddol i adeiladu’r genhedlaeth nesaf o gwmnïau cydweithredol bwyd – mae angen capasiti arnom ar gyfer cydweithredwyr arbenigol i nodi cyfleoedd a’u troi’n weithredu.”

Mae yna nifer o grwpiau sy’n gwasanaethu gwahanol garfannau, fel Cyswllt Ffermio, Diwydiant Cymru, a Busnes Cymdeithasol Cymru. Mae’r rhain, i wahanol raddau, yn ffitio’n fras o dan ymbarél brand Busnes Cymru. Roedd dadansoddi’r rhain i gyd yn mynd y tu hwnt i gwmpas yr ymchwil hwn, ond fe gawsom sylwadau gan Cwmpas fel enghraifft o’r rhwydwaith ehangach hwn, sy’n bartner blaenllaw (mae eraill yn cynnwys WCVA, Cymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru, UnLtd a Chwmnïau Cymdeithasol Cymru) ym Musnes Cymdeithasol Cymru, sy’n canolbwyntio ar sefydlu a chefnogi mentrau cymdeithasol, gan ddarparu arweiniad am ddim iddynt ar bob cam o’r daith. Roedd yn dda gwybod bod y sawl y cyfwelwyd â hwy yn ystyried eu hunain yn rhan o ‘deulu Busnes Cymru’ a bod ganddynt ‘berthnasoedd cadarnhaol ag unigolion yn Busnes Cymru, gan gydweithio’n strategol i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl i gleientiaid.’
Gwelwyd enghreifftiau o adeiladu rhwydweithiau lleol a rhanbarthol effeithiol gydag ond ychydig o adnoddau trwy rwydweithiau Cymru Greadigol, gan alinio’r gwaith trwy ganolfannau fel M-SParc a’r Egin. Nododd ein hadroddiad diweddar ar y Diwydiannau Creadigol sut bod hyn yn cael ei werthfawrogi gan bobl greadigol, a sut y gellid ei efelychu, a darparu mwy o adnoddau ar ei gyfer.
Nid yw pob ardal yn cael ei gwasanaethu gan yr un adnoddau a hybiau, a bydd yr hyn sydd ei angen arnynt yn wahanol (byddai rhwydwaith bwyd Gorllewin Cymru yn edrych yn eithaf gwahanol yn Ne-ddwyrain Cymru). Yr hyn sy’n allweddol yw bod rhwydweithiau lleol a Busnes Cymru yn cydweithio’n effeithiol fel bod busnesau’n gallu cael mynediad at gymorth di-dor, waeth beth yw eu pwynt mynediad i’r ecosystem cymorth busnes. Ni ddylai’r busnes sy’n ceisio cymorth weld yr hyn sy’n digwydd y tu ôl i’r llenni, fel petai, ond yn hytrach gael ei gyfeirio’n effeithiol at y ffynhonnell gymorth orau iddynt, boed hynny’n wasanaeth lleol neu genedlaethol. Mae cysondeb a chylchoedd gwaith clir gan bob sefydliad yn y system yn allweddol i sicrhau’r daith esmwyth hon i’r defnyddiwr.
Mae awdurdodau lleol yn y sefyllfa orau i fod wedi’u grymuso i ddynodi rhwydweithiau lleol wedi’u henwi, ac felly i gael y dasg o nodi a rhestru partneriaid wedi’u henwi i hwyluso atgyfeiriadau ar gyfer cymorth busnes.
• Dylai awdurdodau lleol weithio gyda Busnes Cymru i gyflawni strategaethau ar gyfer datblygu rhwydweithiau busnes lleol, gan nodi a datblygu rhestr o bartneriaid wedi’u henwi i hwyluso atgyfeiriadau ar gyfer cymorth busnes, i ategu’r ddarpariaeth cymorth busnes ledled Cymru.
O ystyried pwysigrwydd rhwydweithiau lleol, ar gyfer darparu cefnogaeth leol a rhwydweithiau rhwng cyfoedion wrth gyfeirio unigolion at Fusnes Cymru lle bo’n briodol, mae gweithrediad effeithiol y system yn dibynnu ar fusnesau ledled Cymru yn gallu cael mynediad at gyfryngwyr ac atgyfeiriadau lleol, dibynadwy ac effeithiol. Mae rôl yma i Lywodraeth Cymru o ran parhau i ddatblygu polisïau sy’n seiliedig ar le, yn enwedig ar gyfer ardaloedd difreintiedig gwledig a threfol, a sicrhau bod yr ymarfer mapio yr ydym wedi’i argymell y dylent ei gynnal o gymorth i fusnesau yn nodi ac yn mynd i’r afael ag unrhyw fylchau o ran mynediad at gymorth mwy lleol.
I Lywodraeth Cymru, gall grwpiau a rhwydweithiau cymorth busnes lleol effeithiol hefyd gynnig mantais sylweddol trwy wasanaethu fel adnodd gwerthfawr i’w ddefnyddio i ddeall anghenion economaidd lleol a rhanbarthol. Wrth geisio datblygu strategaethau economaidd a gosod metrigau ar gyfer gwerthuso, dylai Llywodraeth Cymru ddefnyddio’r rhwydweithiau hyn fel sylfaen ar gyfer casglu gwell data lleol a dealltwriaeth o anghenion y farchnad leol ar draws agweddau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol.
Cymorth Busnes – Cylch Gwaith i bob BBCh ac Entrepreneur
Risg barhaus ond un y gellir ei hosgoi yw y gallai fod system ddwy haen gyda gorbwyslais tuag at un agwedd ar gymorth i fusnesau bach a chanolig, a hynny ar draul rhai eraill, oni bai bod Llywodraethau’r DU a Chymru yn ei gwneud yn glir bod y naill a’r llall yn bwysig i lwyddiant a gweledigaeth economaidd.
Mae gwahanol fathau o fusnesau’n cael eu trin yn wahanol yn y system bresennol ac yn aml mae yna reswm da am hynny. Gellir gweld hyn o ran lefel ac ansawdd yr ymgysylltiad mewn gwahanol rannau o’r system. Mae yna gydnabyddiaeth mewn cyfweliadau â Busnes Cymru: “ar risiau symudol arloesedd, byddem yn dweud po uchaf yr ewch chi i fyny, y bydd y gwasanaeth yn symud o fod yn ddigidol i fod yn fwy wyneb-ynwyneb” . Mae cyfiawnhad am hyn, oherwydd bod cwmnïau sy’n dringo’r ‘grisiau arloesedd’ yn wynebu problemau ac anawsterau mwy cymhleth i’w datrys wrth i faterion yn ymwneud â’r gweithlu ac anghenion capasiti gynyddu, ac mae angen cyngor mwy pwrpasol arnynt.
Mae’r canlynol yn nodi’r strategaeth gyffredinol i gydbwyso adnoddau, capasiti ac anghenion BBCh:
“Mae gwasanaethu pob busnes yng Nghymru yn eithaf cymhleth. Yn syml, nid oes gennym yr adnoddau i wneud hynny. Felly, roedd ymdrech yn y rownd hon o weithgarwch i ganolbwyntio ar ddigidol yn gyntaf, lle ceisiwyd annog busnesau lle bo modd i ddefnyddio gwybodaeth a chanllawiau digidol... Rydyn ni’n gwneud cryn dipyn o weithgareddau ‘un ar gyfer llawer’ hefyd lle rydyn ni’n gwybod bod heriau allweddol y mae busnesau’n eu hwynebu, a’u bod hefyd yn cael mynediad atynt o gyfeiriad digidol. Rydych chi’n gwybod bod hyn yn ffordd gref iawn o ymgysylltu… Rydyn ni wedi dod i’r casgliad bod angen mwy o ymyriadau wyneb-ynwyneb arnom ni, ond mae’r cyfuniad digidol yn gweithio’n dda i bobl hefyd… Rydyn ni’n gwneud mwy o weithgareddau 1 i 1 er bod adnoddau’n brin, ond fe wyddoch chi y gallwch chi wneud llawer mwy o ymyriadau’n ddigidol nag y gallwch chi os ydych chi’n teithio i gwrdd â phobl. Felly, rydym wedi gweld rhywfaint o gynnydd o ran yr hyn y gellir ei gyflawni gan ein hymgynghorwyr.”
Mae hwn yn ddull dealladwy lle mae adnoddau’n brin; mae anghenion amrywiol yn gofyn am lefelau penodol o ymgysylltiad pwrpasol, ac mae’n sicr y bydd rhywfaint o dargedu tuag at gwmnïau sy’n canolbwyntio ar dwf. Mae’n well darparu cyngor ar draws llawer o gwmnïau na rhy ychydig, er mwyn osgoi aneffeithiolrwydd, ac i flaenoriaethu meysydd twf uchel allweddol i gael effaith ar gymorth pwrpasol. Ond mae angen sicrhau bod y cylch gwaith ar gyfer cwmnïau sy’n datblygu yn un sydd ar gyfer BBCh ar draws pob cymuned. Rhaid i dargedu meysydd twf uchel allweddol beidio ag anwybyddu busnesau gwledig a thrwy hynny ddibynnu ar hybiau dinesig a threfol sy’n bodoli eisoes. Dylai cymorth busnes sicrhau bod y sylw’n cynnwys swyddogaethau hanfodol a chymorth i fusnesau bach ym mhob ardal a sector.
Mewn ymateb i’r cwestiwn hwn, nododd Busnes Cymru’r angen am gydbwysedd yn hyn o beth i sicrhau nad oedd unrhyw ffocws sectoraidd mewn strategaeth ddiwydiannol yn rhoi rhai meysydd dan anfantais yn anfwriadol:
‘Ar gyfer cyflymu twf, mae’n debygol y bydd 40-50% o’r busnes yn y sectorau twf
uchel hynny [a adlewyrchir yn y strategaeth ddiwydiannol]. Ond pan edrychaf ar y gwasanaeth datblygu busnes, mae’n debyg mai dim ond tua 20% ydyw oherwydd bod ganddyn nhw hefyd gylch gwaith polisi gan Lywodraeth Cymru i ganolbwyntio ar fusnesau economi sylfaenol fel busnesau’r Stryd Fawr. Felly, mae yna gydbwysedd.
Mae Llywodraeth y DU hefyd yn edrych ar strategaeth busnesau bach, a bydd yn ddiddorol gweld beth ddaw o hynny. Mae’n debygol y bydd Busnes Cymru’n chwarae rhan yn y ddwy strategaeth hynny.’
Mae hyn yn adlewyrchu’r cylch gwaith presennol ac mae’n bwysig bod arwyddion o’r lefel uchaf – ac adnoddau i ariannu’r gwasanaeth – yn parhau i fod ar waith wrth roi’r un pwyslais ar bob rhan o wasanaethau a chylch gwaith Busnes Cymru i bob busnes bach a chanolig ar draws pob ardal o Gymru, a sut maen nhw’n bwysig i gyfoeth cymunedol a goroesiad busnesau.
Mae’n bwysig sicrhau bod datblygiad strategaeth ddiwydiannol a Strategaeth Busnesau Bach y DU – a’r ffordd y cânt eu llunio wedyn yng Nghymru – yn cael eu trin fel ymyriadau hanfodol, a lle mae Busnes Cymru wedi cael y dasg i’w cefnogi, eu bod yn cael digon o adnoddau i ysgwyddo’r cyfrifoldebau a’r rhaglenni ychwanegol hyn yn gyfartal. Mae angen llunio’r naill a’r llall i ateb anghenion Cymru, a gall y system cymorth busnes chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi’r nodau hynny. Mae’r nod hwn yn berthnasol i bob busnes bach a chanolig yng Nghymru a rhaid i hynny barhau.
• Mae’n bwysig bod yr ystod eang o wasanaethau busnes yn cael eu cefnogi a bod Llywodraeth Cymru’n gosod gwerth arnynt, a’u bod yn cael adnoddau yn unol â hynny. Ni ddylai’r ffocws ar dwf uchel, sydd i’w groesawu, arwain at ddiffyg adnoddau ar gyfer swyddogaethau allweddol eraill a chefnogaeth i fusnesau bach a chanolig sy’n hanfodol yn eu cymunedau.
Proses Gyflymu a Digideiddio
Dylai digideiddio gael ei blethu’n ddi-dor i strategaethau Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod cymorth busnes yn mynd i’r afael ag anghenion cwmnïau ledled Cymru. Bydd hyn yn galw am fuddsoddiad sylweddol mewn galluoedd prosesu data, dadansoddeg a seiberddiogelwch uwch o fewn Busnes Cymru a Banc Datblygu Cymru.
Mae’r adroddiad ar ein harolwg yn y DU ar gyfer ‘Ailddiffinio Deallusrwydd’39 yn darparu data defnyddiol i ddeall teimladau ymhlith BBCh tuag at ddigidol a deallusrwydd artiffisial (AI) o ran cadw’n gyfoes â datblygiadau. Mae’n ffaith bod gan gwmnïau mwy’r adnoddau i fuddsoddi mewn dulliau technoleg uwch ac felly mae yna angen parhaus i gefnogi arloesedd busnesau bach a chanolig i fuddsoddi mewn offer fel AI, gan helpu i leihau costau a pharhau i fod yn hyblyg yn wyneb cystadleuaeth ffyrnig. Dylai Strategaeth Ddigidol Cymru wneud y mwyaf o’r potensial i wella mynediad at gymorth busnes trwy nodi’r cyfleoedd i ddefnyddio’r systemau hyn er mwyn i’r ecosystem cymorth busnes ei hun eu mabwysiadu.

Er bod llawer yn cysylltu ‘digidol yn gyntaf’ â disodli swyddogaethau dynol mewn busnes, mae’r ffocws ar wella rolau sy’n wynebu’r blaen trwy leihau effaith gwaith gweinyddol swyddfa gefn neu waith cynnal a chadw llafur-ddwys trwy seilwaith digidol sydd eisoes yn cael ei ddefnyddio gan fusnesau a sefydliadau o bob maint. Dylid nodi y bydd y gallu i fanteisio ar AI yn cael ei siapio gan ba mor effeithiol y bu cyflwyno seilwaith digidol eisoes, gyda gwledydd bach eraill mewn sefyllfa well ar hyn o bryd oherwydd buddsoddiad hanesyddol. Mae’r bwlch parhaus hwn yng Nghymru yn peryglu’r potensial ar gyfer twf yn economi’r wlad.
Mae gwledydd bach eraill fel Estonia a Denmarc sydd wedi gweithio’n uniongyrchol ar fframweithiau fel strategaethau seilwaith digidol dan arweiniad y llywodraeth ar draws eu sector cyhoeddus, yn darparu model sy’n trosglwyddo’n ddi-dor rhwng rhyngwynebau’r sector cyhoeddus/busnes. Felly, mae’n bwysig bod datblygu seilwaith digidol ar gyfer cymorth busnes yn gweithio ochr-yn-ochr â phrosesau digideiddio a deallusrwydd artiffisial ehangach y sector cyhoeddus. Dylid dilyn arferion gorau rhyngwladol a defnyddio modelau gwledydd bach i arwain strategaeth yng Nghymru.
Fel y nodwyd yn y bennod flaenorol, o’r busnesau a arolygwyd gennym, dywedodd 58% o gwmnïau wrthym, trwy’r gefnogaeth maen nhw’n ei derbyn, fod ansawdd y gwasanaethau naill ai’n dda neu’n dda iawn. Mae hyn yn cymharu â chyfradd boddhad o 50% ar gyfer Banc Datblygu Cymru a 53% ar gyfer awdurdodau lleol. Fodd bynnag, cyfeiriwyd at anawsterau ynghylch biwrocratiaeth ac arafwch gwasanaethau a sut nad oeddent yn alinio ag anghenion y sector preifat am gymorth cyflym. Gall strategaeth ar gyfer digideiddio – a luniwyd i sicrhau bod cyswllt personol ar gael yn ogystal – helpu i fynd i’r afael â’r anawsterau hyn.
Awgrymodd rhai hefyd nad oedd gan gynghorwyr ddigon o brofiad busnes. Nododd rhai cwmnïau eu bod yn teimlo iddyn nhw gael cyngor gwael. Dylid nodi ei bod yn dal i fod yn wir fod ein harolwg wedi derbyn sgoriau cadarnhaol ar y cyfan ar gyfer Busnes Cymru, ond mae’n amlwg bod angen sicrhau bod adnoddau ar gyfer cyflawni effeithiol ac i fynd i’r afael â rhai pryderon a godwyd ar y rhyngwyneb hwn â busnesau a’r system cymorth busnes.
Mae rhai o’r anawsterau yn y rhyngwyneb hwnnw’n cael eu symleiddio trwy strategaeth economaidd gliriach a system lai tameidiog sy’n gwneud darparu cyngor canolog yn fwy cymhleth, ond mae angen gweithredu’n uniongyrchol hefyd o ran hyfforddiant a disgwyliadau ynghylch amserlen ar gyfer ymatebion ac ymgysylltu. Mae’r cwmnïau yr effeithir arnynt yn teimlo’r rhwystredigaethau hyn yn fawr, ac mae’r ymatebion yn awgrymu y bydd profiadau anfoddhaol (hyd yn oed os ydynt yn y lleiafrif) yn effeithio ar y tebygolrwydd y bydd busnesau’n ceisio cymorth yn y dyfodol. Felly, mae angen i bob sefydliad cymorth busnes fynd i’r afael â’r materion hyn ar frys.
O ran yr amserlenni tra gwahanol rhwng sefydliadau’r sector cyhoeddus a busnesau, gellir helpu hyn trwy arweinyddiaeth gref sy’n gwthio’r ffactorau hyn. Gweithiodd un hyb a gyfwelwyd gennym i sicrhau bod effaith unrhyw oedi rhwng y byd academaidd a menter yn cael ei leihau i fusnesau:
“Mae yna bobl sydd wedi ceisio cael mynediad at gymorth busnes, ac nid yw wedi bod yn effeithiol, ac maen nhw wedi llosgi eu bysedd; maen nhw’n ei weld fel gwastraff amser, heb ymwneud â’r broses gan ei bod yn drafferthus. Felly, fe wnaethon ni ddarganfod eich bod chi’n cael 1-2 gynnig o’r fath, 3 ar y mwyaf, ac
39 C Russell, ‘Redefining Intelligence’ (FSB: 2024), available at https://www.fsb.org.uk/resources/policy-reports/redefining-intelligenceMCKHTFHSTCMVGF5BPKCDHVF73FGU
yna maen nhw wedi mynd. Fyddan nhw ddim yn dod yn ôl. Felly, mae’n rhaid i’r gwasanaeth fod yn berffaith.
Rydyn ni wedi sefydlu system ar gyfer rheoli’r berthynas â chwsmeriaid (CRM) i olrhain pwy sy’n gwneud beth, pa mor gyflym rydyn ni’n gweithio gyda’r cwmnïau, ac yn y blaen. Felly, rydyn ni’n ceisio mynd i’r afael â hynny. Rydym hefyd yn ofalgar o’n partneriaid eu bod nhw’n ymwybodol o’r effaith honno. [Prifysgol a Enwyd] er enghraifft, os oes gennym ni brosiect ymchwil, mae angen ymateb prydlon i’r diwydiant, ac mae hynny wedi bod yn fethiant yn y gorffennol.”
Gall canolfannau busnes sydd â chysylltiadau â’r naill ochr a’r llall weithio mewn partneriaeth â’r sector cyhoeddus, a gall Llywodraeth Cymru gefnogi adeiladu prosesau digidol newydd i greu system well a chyflymach, a mwy integredig.
• Dylai Busnes Cymru weithredu strategaeth ddigideiddio sy’n canolbwyntio ar gyflymu’r rhyngwyneb ar gyfer cymorth, lleihau biwrocratiaeth a sicrhau amserlenni ac ymatebion cyflymach i fusnesau.
• Dylai pob corff Cymorth Busnes adolygu eu hamseroedd ymateb a sicrhau bod strategaeth ar waith i wella’r broses o rannu amserlenni â busnesau.
• Dylai unrhyw strategaeth ddigideiddio alinio â seilwaith digidol ehangach y sector cyhoeddus lle bo modd i gefnogi mynediad busnesau yn ogystal â dinasyddion. Dylai arfer gorau rhyngwladol (megis Estonia a Denmarc) arwain y strategaeth.
Sgiliau a Chymorth Busnes
Un maes a ddaeth i’r amlwg – yn aml yn anuniongyrchol – oedd sgiliau; mynediad at sgiliau a’r cysylltiadau â’r system sgiliau. Mae ein hymchwil yn awgrymu bod sgiliau’n aml yn gysylltiedig yn anuniongyrchol â chymorth busnes, ac mae angen i hyn newid.
Roedd Busnes Cymru’n cydnabod hyn fel rhan o’u cylch gwaith, ond hefyd nad oedd eu rôl yn cael ei deall yn aml:
“Mae Busnes Cymru hefyd yn arwain ar bethau fel ymgysylltiad cyflogwyr ar

sgiliau a chyflogaeth, oherwydd yn aml iawn gallant fynd ar goll gan fod yna sawl gwahanol fath o hyfforddiant ar waith - dwi’n meddwl bod 33 o ddarparwyr hyfforddiant gwahanol. Mae’n mynd yn eithaf cymhleth iddyn nhw. Ond mae rhai o’r pethau hynny bron yn mynd heb i neb sylwi arnynt. Dydy pobl ddim yn ymwybodol bod Busnes Cymru’n gwneud hynny.”
Mae hyn yn rhan o gylch gwaith cymorth busnes y mae angen ei ddeall a’i farchnata’n well, ond mae angen aliniad clir rhwng strategaeth a system sgiliau a chymorth busnes. Codwyd rhai pryderon gan y rhai a gyfwelwyd ar yr ochr entrepreneuraidd y gallai cyfeirio cyllid trwy brifysgolion arwain at weithgarwch sy’n canolbwyntio mwy ar ddibenion prifysgolion na helpu’r busnesau eu hunain:
“Taflu arian at academyddion i gynhyrchu traethawd ymchwil ac adroddiad yw’r ateb i bopeth… Pam nad yw’r [cyllid] hwnnw’n mynd i sefydliadau cymunedol, sydd wedi’u gwreiddio yn eu hardaloedd? Sefydliadau a grwpiau sy’n cyflawni mewn cymunedau, dwi’n meddwl mai dyna’r allwedd. Mae angen i chi edrych ar hyn o safbwynt cyflawni yn hytrach na thrwy lens academaidd.
Mae rôl i academyddion o ran cefnogi’r hyn sy’n dod allan ohono, ac rwy’n credu bod y cydbwysedd yn anghywir ar hyn o bryd - yr academyddion sy’n gyrru’r math o bolisi a’r agenda, ac yna mae’n rhaid i’r sefydliadau
Kevin Baker Tyre Glider
cymunedol ymateb. A dweud y gwir, dylai fod y ffordd arall o gwmpas.”
Mae’r llenyddiaeth academaidd sy’n ymwneud â’r ecosystem entrepreneuraidd yn nodi bod problemau o’r fath yn arferol, gan fod gwahanol sefydliadau (llywodraeth, prifysgolion, entrepreneuriaid, buddsoddwyr) i gyd yn wynebu pwysau gwahanol ac yn cael gwahanol ddeilliannau. Nid oedd hwn yn faes ffocws ar gyfer ein hadroddiad, ac felly mae’r dystiolaeth yma’n gyfyngedig. Fodd bynnag, mae hwn yn ganfyddiad y dylid ymchwilio iddo. Rydym hefyd wedi gweld arfer da mewn hybiau sy’n darparu cysylltiadau â sefydliadau addysgol a llywodraethau – ond sydd hyd braich oddi wrthynt – fel ffyrdd defnyddiol o ddarparu’r cyfle ar gyfer negodi ar draws y prif sefydliadau a llywio pawb tuag at ddeilliannau economaidd ymarferol. Fel y gwelsom yn ein hadroddiad sgiliau diweddar, mae angen alinio cymorth sgiliau’n well â chymorth busnes. Mae yna amryw o enghreifftiau o arfer da, yn aml yn seiliedig o amgylch hybiau a rhwydweithiau, ond mae angen aliniad mwy strwythuredig rhwng y systemau cymorth busnes a chymorth sgiliau.
• Dylai Busnes Cymru gyflwyno strategaeth farchnata sydd â’r nod o sicrhau bod busnesau’n ymwybodol o’r gefnogaeth y gallant ei chael i fynd i’r afael â bylchau sgiliau yn eu gweithlu.
• Dylai Medr, Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol a chyrff cydlynu eraill ystyried hwn yn faes gwaith i’w flaenoriaethu er mwyn sicrhau bod busnesau bach a chanolig yn cael mynediad at sgiliau ac yn cael cymorth i lywio’r system. Dylai cylchoedd gwaith a rolau’r cyrff sgiliau newydd hyn gael eu halinio â’r strategaeth cymorth busnes ehangach yn y dyfodol.
Ni fyddai hwn yn fater o bryder pe bai busnesau’n cael mynediad at gymorth sgiliau trwy ddulliau eraill, ond mae canfyddiadau o’n hadroddiad Sgiliau blaenorol yn awgrymu bod ymgysylltiad anghyson rhwng BBCh a’r system sgiliau’n peri pryder. Er nad oedd ein canfyddiadau’n gwbl glir yn hyn o beth, roedd ambell un o blith y rhai a gyfwelwyd yn teimlo y gallai gwaith dan arweiniad prifysgolion fod yn rhy academaidd, yn hytrach na chanolbwyntio ar ddeilliannau ymarferol ar gyfer y meysydd hyn. Fodd bynnag, roedd yna hefyd enghreifftiau da o hybiau a mannau wedi’u halinio â phrifysgolion oedd wedi’u hanelu’n uniongyrchol at fusnes ac arloesedd.
• Gan ddefnyddio’r modelau arfer gorau hyn sy’n darparu lle ymreolaethol i sefydliadau busnes ac addysg weithio ar sail gyfartal, gall AU ac AB ddarparu lle gwell ar gyfer sgil-fentrau entrepreneuraidd, arloesedd a chyfuno eu harbenigedd â rhai entrepreneuriaid a grwpiau cymunedol i sicrhau manteision ymarferol clir.
Nododd llawer o’r rhai y cyfwelwyd â nhw’r bwlch cynhyrchiant yng Nghymru, yn ogystal â’r rôl hanfodol y gall sgiliau ei chwarae wrth fynd i’r afael â hyn (ochr-ynochr â ffactorau eraill fel mynediad at gyllid), felly mae yna ewyllys i wella’r aliniad rhwng cymorth busnes a chymorth sgiliau.
• Dylai unrhyw strategaeth ar gyfer cynhyrchiant a thwf geisio alinio sgiliau a mecanweithiau â strategaethau cymorth busnes yn well fel mater o flaenoriaeth, ac adeiladu partneriaethau a rennir gyda deilliannau clir tuag at y diben hwnnw.

Casgliad Sut mae’r Dwr?
Syniad canolog yn y gwaith o amgylch ecosystemau entrepreneuraidd a’i amrywiadau yw y gellir cynnal entrepreneuriaeth, gellir ei hadeiladu, ac nad yw entrepreneuriaeth yn nodwedd gynhenid sydd gan unigolion neu beidio, ond ei bod yn rhywbeth y gellir ei ddysgu. Felly, mae ansawdd y systemau i helpu ag ysgogi entrepreneuriaeth, i wneud yr opsiwn hwnnw’n haws, ac i ddarparu’r amgylchedd cywir i ffynnu, yn bwysig.
Mae ecolegau wrth natur yn wahanol i’w gilydd, ac efallai na fydd yr hyn sy’n gweithio mewn un lle’n effeithiol mewn un arall, yn dibynnu ar ddiwylliant a hanesion penodol, datblygiad, cryfder cymharol, a.y.b. i gyd yn rhan o’r darlun. Ond fel mae’r llenyddiaeth yn ein dysgu, mae yna bethau cyffredin sy’n effeithio ar lwyddiant, ac mae angen dull cyson er mwyn gallu gwneud hynny.
Fel y dywedodd un academydd, gall entrepreneuriaid mewn ardaloedd fel Silicon Valley yn aml fynnu’r clod am eu llwyddiant eu hunain, gan gymharu hyn â phan ddywedir wrth bysgodyn ei fod yn ffynnu oherwydd dŵr – ac mae’r pysgodyn yn ateb ‘beth yw dŵr?’. Ystyr hyn yw y gellir cymryd yr amgylchedd o gwmpas busnes llwyddiannus yn ganiataol. Mae hwn hefyd yn gamgymeriad a wneir gan lunwyr polisi, lle mae’r angen i ‘ofalu’ am yr amgylchedd yn aml yn cael ei anwybyddu.
Yn yr un modd, yng Nghymru, gwneir llawer o dybiaethau am entrepreneuriaeth, busnes a’r economi, ond does dim byd yn sefydlog, ac mae’r amgylchedd ymhell o fod yn llonydd. I’r gwrthwyneb, mae ein hymgysylltiad â busnesau bach a chanolig yn dangos carfan o fusnesau uchelgeisiol, wedi’u gwreiddio, y gellid eu harneisio i gefnogi ymgais am dwf yng Nghymru.
Y cwestiwn yw sut ydyn ni’n dod â’r cryfderau ar draws meysydd polisi a sefydliadau ynghyd i’n paratoi i adeiladu’r busnesau hynny ac i greu amgylchedd sy’n cynorthwyo busnesau i ffynnu? Fel y nododd llawer o’r rhai y cyfwelwyd â nhw, yn aml mae’r ateb eisoes ar gael, a’r prif beth sydd ei angen yw gwneud y cysylltiadau, dod â’r busnesau a gwahanol rannau o’r system at ei gilydd i ddarparu cyfleoedd newydd.
I fynd â’r trosiad ymhellach, i fesur sut rydym yn cefnogi ac yn tyfu ein busnesau, ac yn gostwng rhwystrau i lwyddiant o fewn yr ecosystem entrepreneuraidd yng Nghymru, dylem fod yn gofyn yr hyn sy’n cyfateb i ‘sut mae’r dŵr?’, nes ein bod yn gallu dweud ‘wel, mae’r dŵr yn braf iawn, mewn gwirionedd!’
Gobeithiwn y bydd ein gwaith a’n hargymhellion yn rhan o’r ymdrechion tuag at greu amgylchedd cefnogol i fusnesau ar gyfer y dyfodol.
Atodlen
Methodoleg
Er mwyn cael dadansoddiad eang a dwfn ar ganfyddiadau o gymorth busnes yng Nghymru, profiadau ohono a dyheadau amdano, defnyddiwyd cymysgedd o ddulliau meintiol ac ansoddol i lunio ein mewnwelediadau. Gyda’i gilydd, mae’r rhain yn rhoi trosolwg o brofiadau busnesau bach a chanolig ac yn caniatáu i ni ddeall y profiadau cyffredinol ehangach, ochr-yn-ochr â dealltwriaeth fanylach o astudiaethau achos unigol o wahanol sectorau.
Data Meintiol - Arolwg
Cynhaliwyd arolwg, a oedd ar agor o fis Tachwedd 2024 tan fis Ionawr 2025, gan ofyn cwestiynau am brofiad o gymorth busnes, yn ogystal â barn ar ansawdd y gwasanaeth. Edrychodd y rhain ar ba fath o gefnogaeth a gyrchwyd, a oedd o gymorth i’r busnes ac ym mha ffordd; yr ymgysylltiad a brofwyd ac a ddymunwyd, a’r dyheadau ar gyfer cymorth busnes ar gyfer y dyfodol.
Derbyniodd yr arolwg 113 o ymatebion.
O ran maint, roedd y sampl yn cynnwys 79% o fusnesau bach iawn (0-9 o weithwyr), 16% o fusnesau bach (10-49), 3% 50+, a 1% (250+). O’i gymharu â’r ddemograffeg ar gyfer busnesau gweithredol yng Nghymru40, mae busnesau ‘bach’ (10-49 o weithwyr) wedi’u gorgynrychioli’n arbennig o’i gymharu â busnesau ‘bach iawn’, a gellir esbonio hyn yn ôl pob tebyg gan ffocws yr arolwg ar y rhai sydd â phrofiad gweithredol o gymorth busnes, gyda’r busnesau cymharol fwy hynny’n debygol o fod wedi cael mynediad at gymorth i dyfu, ac felly’n fwy tebygol o gymryd rhan.
O ystyried bod Arolwg Busnesau Bach yr Adran Busnes a Masnach (DBT) wedi amcangyfrif bod canran y cwmnïau a oedd yn cael mynediad at gymorth busnes allanol yn 27% yn 202341, ni fyddem yn disgwyl i’r ddemograffeg yn yr arolwg hwn gyd-fynd â’r boblogaeth fusnes gyffredinol ehangach.
O ran Sector, gofynnwyd yn yr arolwg ar sail dosbarthiad diwydiannau SIC, a chynhyrchwyd
sampl eang. Y samplau mwyaf oedd ‘gwasanaethau proffesiynol, gwyddonol a thechnegol,’ ‘cyfanwerthu a manwerthu,’ a ‘llety a bwyd,’ sy’n cyd-fynd â chynrychiolaeth aelodaeth y FfBB, er bod gwasanaethau proffesiynol wedi’u gorgynrychioli o’i gymharu â’r ddemograffeg ehangach, eto’n debygol oherwydd y maes pwnc. Nododd nifer ‘arall’ gan fod eu cwmpas yn rhychwantu sectorau, ac felly ddim yn ffitio’n daclus, a/neu nad oeddent yn gweld eu hunain yn cael eu cynrychioli yn opsiynau SIC.
Yn ddaearyddol roedd y lledaeniad yn cynnwys ymatebion o bob un o’r 22 awdurdod. Roedd Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin wedi’u gor-gynrychioli’n gymharol ond roedd cynrychiolaeth ddaearyddol eang ledled Cymru.
O ran rhywedd, dynion oedd dwy ran o dair o’r perchnogion busnesau. Mae hyn yn adlewyrchu’r ddemograffeg ehangach – mae’r ffigurau diweddaraf yn nodi mai dim ond 32.3% o fusnesau llai yn y DU sy’n cael eu rhedeg gan fenywod.42
O ran oedran, roedd ystod y perchnogion busnesau yn hŷn, gyda dim ond 23% o’r ymatebwyr yn iau na 45. Mae hyn yn cyd-fynd yn fras â’r hyn rydyn ni’n ei wybod am berchnogion busnesau. Canfu Baromedr Busnesau Bach Enterprise Nation fod oedran cyfartalog sylfaenwyr busnesau’r DU yn 46, a bod 35% o fusnesau’n cael eu cychwyn a’u rhedeg gan bobl dros 50 oed. Wrth ystyried oedran busnesau sydd ar gyfartaledd yn 8 mlynedd (yn ôl data Tŷ’r Cwmnïau), nid yw hyn yn syndod.
O ran ethnigrwydd, pobl gwyn oedd 97% o’n sampl. Mae’r diffyg amrywioldeb hwn yn siomedig fel ymateb, yn enwedig mewn ardaloedd sydd â’r amrywioldeb ethnig mwyaf yng Nghymru (megis dinasoedd). Mae’r swyddfa ystadegau (ONS) wedi amcangyfrif yn 2021 bod tua 12% o berchnogion busnesau hunangyflogedig yn y DU yn hunan-ddiffinio fel rhywun o grŵp ethnig lleiafrifol.43 Yn ôl amcangyfrif Arolwg Busnesau Bach Llywodraeth y DU, mae 7% yn cael eu harwain gan bobl o grŵp ethnig lleiafrifol yn 2023. Mae dadansoddiad Llywodraeth Cymru yn nodi bod 2.7% o gyflogwyr busnesau bach a chanolig yng Nghymru’n cael eu harwain gan grwpiau ethnig lleiafrifol, sef yr isaf yn y
40 Latest Welsh Government figures have the following breakdown: 94.6% micro business, 3.8% small, 0.9% medium, 0.7% large business, data from ‘Size analysis for active businesses in Wales 2023’ available at https://www.gov.wales/sites/default/files/statistics-and-research/2023-12/size-analysis-of-activebusinesses-in-wales-2023-165.pdf
41 https://www.gov.uk/government/statistics/small-business-survey-2023-panel-report/small-business-survey-2023-panel-report
42 British Business Bank figures, available at https://www.british-business-bank.co.uk/business-guidance/guidance-articles/business-essentials/overcomingchallenges-female-entrepreneurs-face
43 figurau ar gael yn https://commonslibrary.parliament.uk/research-briefings/sn06152/#:~:text=The%20British%20Business%20Bank%20in%202020%20 found,other%20minority%2Dethnic%20groups%20and%2089.9%%20were%20White.
DU. Felly, mae’n ymddangos bod y sampl yn ein harolwg yn cyfateb i amcangyfrifon ehangach ar gyfer Cymru. Fodd bynnag, mae hyn yn dal i ddangos bod angen i FfBB Cymru wneud yn well yn y dyfodol i gynnwys amrywioldeb ethnig wrth fynd ati i gynllunio ein hymchwil.
O ran anabledd, dywedodd 16% fod ganddyn nhw gyflwr a oedd yn amharu ‘ychydig’ neu ‘gryn lawer’ arnyn nhw.
Mae’r sampl yn gynrychioladol i raddau helaeth, ac ochr-yn-ochr â’r ymchwil ehangach, mae’n darparu dealltwriaeth ddefnyddiol o safbwyntiau BBCh gan y rhai sydd wedi defnyddio’r cymorth busnes yng Nghymru, ac felly’n cyflawni amcanion yr ymchwil ar gyfer yr adroddiad hwn.
Data ansoddol
Cyfweliadau
Cynhaliwyd 9 cyfweliad manwl gyda busnesau bach a chanolig yn ystod mis Tachwedd a mis Rhagfyr 2024, a oedd yn gymysgedd o wahanol sectorau, gan gynnwys twristiaeth, gweithgynhyrchu, diwydiannau creadigol, trafnidiaeth a gwasanaethau proffesiynol, ac roedd y rhain o wahanol rannau o Gymru. Roedd rhai ohonynt hefyd yn rhoi cipolwg ar rôl darparwyr cymorth busnes.
Rhoddodd y rhain ddealltwriaeth fanylach o’u profiadau o’r system cymorth busnes a sut yr helpodd y cymorth y busnesau hynny, pa ymyriadau a fu’n llwyddiannus, a pha rai oedd yn llai defnyddiol, gan ddarparu straeon nad oedd mor hawdd eu cofnodi yn yr arolwg. Gwnaed yr ymatebion yn ddienw er mwyn sicrhau eu bod yn teimlo y gallent siarad yn onest.
O ochr y darparwyr, cynhaliom 10 cyfweliad. Cynhaliwyd cyfweliadau ffurfiol â Busnes Cymru a Banc Datblygu Cymru. Fodd bynnag, fe wnaethom hefyd gynnal nifer o gyfarfodydd anffurfiol gyda gwahanol staff i gael gwybodaeth sensitif sydd wedyn wedi’u hadlewyrchu’n gyfrinachol yn yr adroddiad hwn. Cynhaliwyd cyfweliadau â rhannau penodol o’r system,
gan gynnwys y rhai sy’n cyflawni contractau, yn delio ag ochr ‘twf uchel ac arloesedd’ ac ymgynghorwyr a herwyr busnes sy’n darparu cymorth preifat pwrpasol, a rhai elfennau o gymorth Busnes Cymru. Gwnaed y cyfraniadau hyn yn ddienw er mwyn sicrhau cyfrinachedd yr ymatebwyr lle bo modd.
Rhestr o Acronymau
• Busnesau Bach a Chanolig – BBCh
• Ffederasiwn y Busnesau Bach - FfBB
• Sefydliad er Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd - OECD
• Swyddfa Ystadegau Gwladol - ONS
• Cronfa Ffyniant Gyffredin – SPF
• Banc Datblygu Cymru – DBW
• Pwyllgor Ymuno Corfforaethol - CJCs
• Asiantaeth Datblygu Cymru – WDA
• Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru – BWAGP
• Virkemidler for Regional FoU og Innovasjon/ Anogwyr ar gyfer Ymchwil ac Arloesedd Rhanbarthol – VRI
• Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop – ERDF
• Cronfa Gymdeithasol Ewrop – ESF
• Sgôr Hyrwyddwr Net – Mynegai NPS
• Cronfa Gyfoeth Genedlaethol y DU - NWF
• Banc Busnes Prydain – BBB
• Addysg Uwch ac Addysg Bellach – AU ac AB
• Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsrywiol, CwïarLHDTC
• Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol - RSPs
• Dangosydd Perfformiad Allweddol – KPI
• Ymchwil a Datblygu – R&D
• Cynnyrch Domestig Gros – GDP

fsb.org.uk Os oes angen y ddogfen hon arnoch mewn fformat hygyrch, anfonwch e-bost at accessability@fsb.org.uk