UCHELGAIS GENEDLAETHOL:
ADDYSG FENTER,
YSGOLION AC
ECONOMI CYMRU

Yr Athro David Egan
Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Mehefin 2017
fsb.wales
Ymhlith yr heriau sy’n wynebu Cymru, mae’r angen i ddatblygu’r sgiliau sy’n ofynnol i sicrhau llwyddiant economaidd a hybu’r cyfleoedd i gwrdd â dyheadau pobl ifanc a chynyddu cyflogadwyedd ymysg y mwyaf sylfaenol. Mae canolbwyntio ar y materion hyn yn caniatáu inni ddechrau mynd i’r afael â rhai o wendidau strwythurol economi Cymru, megis cynhyrchiant isel, y bylchau sgiliau sy’n bodoli’n awr ac a all fod yn y dyfodol ac amddifadedd economaidd.
Fodd bynnag, mae mynd i’r afael â’r heriau hyn yn galw hefyd am ddull systemig o weithredu sy’n defnyddio’r holl asedau a phrofiad sydd at ein defnydd, yn cynnwys y doreth o fusnesau llai ar draws Cymru.
Gyda hyn mewn golwg y gwnaeth FSB Cymru gomisiynu’r arbenigwr addysg amlwg, Yr Athro David Egan o Brifysgol Metropolitan Caerdydd i edrych ar y cyfleoedd i hybu entrepreneuriaeth a menter o fewn y system addysg yng Nghymru i helpu i ysbrydoli pobl ifanc, i gynyddu eu cyflogadwyedd a chreu’r sylfaen ar gyfer perthynas werthfawr rhwng busnesau bach ac ysgolion – yn arbennig ysgolion cynradd – a fyddai’n ychwanegu at gyfoeth y profiad hwnnw.
Mae busnesau llai ac ysgolion yn rhannu un wedd bwysig – maent ill dau wrth galon pob un gymuned yng Nghymru. Serch hynny, mae’r cysylltiadau rhwng addysg a busnes yn aml yn ddigyswllt neu mewn sawl achos nid ydynt yn bod o gwbl. Mae hyn yn golygu nad yw’r naill na’r llall yn manteisio ar fudd posibl y berthynas honno ac, yn fwy pryderus, rydym yn peidio â defnyddio hyn i hybu’r cam i fyny i economi Cymru sydd mor bwysig inni i gyd.
Gyda’r cyfle i adolygu’r cwricwlwm yng Nghymru, ymagweddau adnewyddedig at addysg alwedigaethol, meddwl strategol newydd gogyfer ag economi Cymru a sylw i wella cyflogadwyedd, ’nawr yw’r amser i ystyried pa fesurau sydd eu hangen i bontio’r bwlch hwn, i sefydlu ymagweddau newydd at ddysgu ac i gynnull y cymunedau a’r rhwydweithiau sydd eu hangen i ganiatáu i hyn ddigwydd.
Rydym yn obeithiol y byddai dull gweithredu o’r fath yn helpu hefyd i hybu gwell dealltwriaeth o fyd gwaith a gyrfaoedd sy’n cwrdd â dyhead ein pobl ifanc ond hefyd yn adlewyrchu’r swyddi sydd ar gael o fewn busnesau Cymru yn fwy effeithiol, yn awr ac yn y dyfodol wrth i’r dirwedd yma ddal i symud.
Mae’n anochel, fodd bynnag, fod y dull gweithredu’n golygu gwneud penderfyniadau anodd a dealltwriaeth fod gan lawer o gymunedau ran bwysig i’w chwarae. Fel y sefydliad busnes mwyaf yng Nghymru, mae FSB Cymru yn barod i chwarae ei ran ei hun yn y sgwrs yma.
Rydym felly’n cynnig y darn pwysig hwn o waith i ddechrau meithrin cysylltiadau â phartneriaid ar draws Cymru wrth inni geisio mynd i’r afael ag anghenion pobl ifanc, busnes ac economi ehangach Cymru.
Janet Jones
Cadeirydd Polisi FSB Cymru Mehefin 2017 FSB Cymru: Uchelgais Genedlaethol: Addysg Fenter, Ysgolion
Y cylch gwaith
Cafodd yr adroddiad hwn ei gomisiynu gan Ffederasiwn y Busnesau Bach yng Nghymru. Ffocws yr adroddiad yn y lle cyntaf oedd y rheidrwydd a glustnodwyd gan Uned Polisi FSB Cymru i fusnesau bach Cymru gryfhau eu cysylltiadau ag ysgolion cynradd. Mae’r brîff wedi ymestyn i ystyried hyn o fewn cyd-destun ehangach addysg fenter yn ysgolion Cymru fel y mae ar hyn o bryd a’r potensial i’w ddatblygu yn y dyfodol fel rhan o’r newidiadau sy’n digwydd ar hyn o bryd i’r cwricwlwm ysgolion yng Nghymru. Mae ‘addysg fenter’ wedi’i defnyddio fel term i gofnodi’r amrywiol ffyrdd y mae cysylltiadau rhwng ysgolion a busnes/diwydiant yn cael eu mynegi ar hyn o bryd: megis ‘gyrfaoedd a byd gwaith’; ‘cysylltiadau â busnes a diwydiant’; ‘addysg fusnes’, ‘addysg entrepreneuriaeth’ ayb.
Er bod ffocws yr adroddiad hwn ar y lle y gallai ac y dylai addysg fenter ei gael o fewn y cwricwlwm ysgolion, mae’r cyd-destun ehangach y mae addysg yn gweithredu ynddo yn cael ei ystyried hefyd. Mae hyn yn cynnwys datblygiadau o fewn economi Cymru ac ymrwymiad cymdeithas sifil a gwleidyddol yng Nghymru i oresgyn tlodi a’i effeithiau wrth ddatblygu ffyniant cenedlaethol ehangach.
Y fethodoleg
Mae sail y dystiolaeth ar gyfer yr adroddiad wedi tynnu ar y ffynonellau canlynol:
• Adolygiad helaeth o ddeunydd darllen.
• Cyfweliadau gyda gwneuthurwyr polisi allweddol a sefydliadau cenedlaethol.
• Arolwg o aelodau FSB Cymru.
• Ymweliadau ag ysgolion.
Mae mwy o fanylion y ffynonellau hyn i’w cael yn adran gyfeiriadau’r adroddiad.
Dull gweithredu
Mae’r adroddiad yn defnyddio’r dystiolaeth yma i ddatblygu, mewn ffordd gyfaddas, yr hyn sy’n cael ei adnabod ym maes ymchwil a gwerthuso polisi fel ‘model rhesymeg’ neu ddull gweithredu ‘damcaniaeth newid’ (Nesta a’r Gynghrair ar gyfer Tystiolaeth Ddefnyddiol, 2015).
Gan dynnu ar y dull gweithredu hwn awgrymir ei fod yn ddisgwyliad rhesymol y bydd pobl ifanc, o ganlyniad uniongyrchol i’w haddysg mewn ysgolion, yn dod yn:
• Fentrus a chreadigol.
• Wybodus ynghylch cyfleoedd gyrfa a chyflogaeth yn y dyfodol sy’n agored iddyn nhw yn lleol, genedlaethol a rhyngwladol.
• Gyflogadwy, trwy fod wedi ennill y sgiliau a’r cymwysterau iawn.
I gyflawni’r canlyniadau hyn, awgrymir y dylai’r galluogwyr canlynol fod ar gael i bobl ifanc tra byddant yn yr ysgol:
• Bod addysg fenter wedi’i chynrychioli’n gryf yng nghwricwlwm yr ysgol.
• Bod cyngor gyrfaoedd annibynnol, o ansawdd uchel ar gael i bobl ifanc.
• Bod cymwysterau a llwybrau galwedigaethol sy’n ateb y gofyn ar gael i bobl ifanc.
Tybir hefyd y bydd pobl ifanc o’r cefndiroedd a’r cymunedau mwyaf difreintiedig – sy’n tueddu at ei gilydd i beidio gwneud cystal mewn addysg – yn elwa fwyaf ar y ffaith fod addysg fenter o ansawdd uchel yn ei lle, i gefnogi’u dyheadau, i gynnig cyfleoedd atyniadol iddyn nhw i gamu ymlaen a helpu eu siawns o ddianc allgáu cymdeithasol a thlodi yn y dyfodol.
Y cefndir
Gellir gweld bod Addysg Fenter yn y Deyrnas Unedig wedi datblygu fel ymateb i ganfyddiadau cynyddol a ddaeth i’r amlwg dros hanner canrif yn ôl yn llifo o waith yr haneswyr, Martin Wiener a Corelli Barnett. Fe wnaethant gyfeirio at amwysedd wrth galon y gymdeithas ym Mhrydain tuag at ddiwydiannaeth a thwf economaidd, gan briodoli rhan fawr o ddirywiad economaidd cymharol y wlad ar ôl 1945 i’r amwysedd hwnnw, ac yn eu cred nhw gallai’i wreiddiau gael ei olrhain i agweddau gwrth-fusnes a thechnegol yn system addysg y Deyrnas Unedig (Barnett, 1972; Wiener, 1981; Sanderson, 1999). Er gwaethaf cynnydd yn ystod y cyfamser, mae’r pryderon hyn yn dal i gael eu hadlewyrchu ym marn y rhan fwyaf o bobl ifanc yn y sector gwladol, a ddywedodd mewn arolwg diweddar fod eu hysgolion yn eu paratoi’n wael at oes weithio oedolyn (Mann et al, 2017).
Cydrannau
Mae twf addysg fenter – yn ei hamrywiol ffurfiau a gydag amryw o enwau – wedi dod yn fudiad rhyngwladol ar bob lefel a chyfnod addysg. Tra’i bod yn anochel fod ei chydrannau’n amrywio i ryw raddau o wlad i wlad, mae’r elfennau craidd a nodir gan Lywodraeth yr Alban isod yn gynrychiadol (Llywodraeth yr Alban, 2015):
• Gwella dysgu ac addysgu trwy ddod â chyd-destunau bywyd go iawn i mewn i’r ystafell ddosbarth.
• Gwell dealltwriaeth o’r farchnad lafur leol.
• Gwybodaeth gyrfaoedd mwy arloesol.
• Datblygu sgiliau ar gyfer ceisiadau swyddi, ysgrifennu CV a chyfweliadau.
• Darparu geirda a chymeradwyaeth.
• Datblygu a chydnabod sgiliau a phriodoleddau ar gyfer cyflogaeth.
• Lleoliadau gwaith, ymweliadau gwaith neu gyfleoedd cysgodi o ansawdd uchel.
• Dysgu proffesiynol ar gyfer staff addysgu.
• Lleihau’r rhwystrau i bobl ifanc gydag anghenion cymorth ychwanegol.
Mae fformiwleiddiadau eraill o addysg fenter yn fwy uchelgeisiol wrth hawlio canlyniadau cadarnhaol o ran ei heffaith ar bobl ifanc (er enghraifft Stanley et al, 2015). Mae’r Foundation for Young Australians, er enghraifft, yn credu bod tystiolaeth yn pwyntio at yr effeithiau canlynol yn deillio o addysg fenter mewn ysgolion (Foundation for Young Australians, 2016):
• Gwelliannau yng nghanlyniadau’r ysgol: cymhelliant i’r ysgol, presenoldeb, cadw, cysylltioldeb (yn cynnwys i fyfyrwyr sydd mewn perygl o ymddieithrio).
• Gwelliannau yn y sgiliau sy’n gwneud pobl ifanc yn barod i fentro.
• Gwelliannau i gyflogaeth a dysgu yn ddiweddarach mewn bywyd.
• Cynnydd yn nymunoldeb, a’r dyhead am entrepreneuriaeth fel gyrfa.
• Llwyddiant busnes cynyddol yn ddiweddarach mewn bywyd yn cynnwys y tebygolrwydd o ddechrau busnes a rhedeg busnes yn llwyddiannus.
Mae’r honiadau hyn ynghylch effaith addysg fenter yn cael eu cefnogi gan sefydliadau hyrwyddol eraill yn y maes, megis y National Schools Partnership a grëwyd yn y Deyrnas Unedig gan Busnes yn y Gymuned, Cydffederasiwn Diwydiant Prydain a Prudential (Partneriaeth Ysgolion Genedlaethol, 2016). Mae Busnes yn y Gymuned hefyd wedi datblygu’r model Dosbarth Busnes sy’n ceisio gefeillio ysgolion ag un cyflogwr mawr lleol i ddatblygu meithrin cysylltiadau cyson. Yn seiliedig ar ymchwil y mae wedi’i gomisiynu, mae’n hawlio bod myfyrwyr sydd wedi meithrin cysylltiadau â Dosbarth Busnes yn 13% yn fwy tebygol ar gyfartaledd FSB Cymru: Uchelgais Genedlaethol: Addysg Fenter, Ysgolion
o gyfunioni’u gwaith ysgol gyda’u dyheadau gyrfa (Busnes yn y Gymuned, 2015). Mae dadansoddiadau mwy annibynnol yn seiliedig ar ymchwil yn rhybuddio, fodd bynnag, er bod gan addysg fenter yn bendant y potensial i ddylanwadu ar ganlyniadau mesuradwy, megis gwell cyrhaeddiad, fod tystiolaeth drwyadl o effeithiau o’r fath yn fwy anodd i’w chadarnhau (Burge et al, 2012).
Mae’r ymagwedd Almaenig at addysg fenter, yn cynnwys yr hyn y mae uned datblygu gwaith ieuenctid rhanbarthol Llundain, Partnership for Young London, yn ei ddisgrifio fel ei ‘graddfa syfrdanol o systematig o feithrin cysylltiadau â chyflogwyr’, wedi’i gynnig ers tro byd fel enghraifft o sut y gall addysg fenter o ansawdd uchel helpu i gynnal twf economaidd cenedlaethol (Partnership for Young London, 2015; t. 6).
Mae’r astudiaeth achos isod yn darlunio rhywfaint o’r gwaith.
Yn North-Rhine Westphalia arweinir cyfnod o gyfeiriadedd gyrfa ym mlynyddoedd ysgol 8 a 9 ym mhob ysgol gan gydlynydd a benodir gan gorff gweithredol yr ysgol i angori’r rhaglen yn yr ysgol. Mae’r rhaglen yn darparu elfennau safonol i’r disgyblion i gyd ac mae’n cynnwys prosiectau addysgu rhyngddisgyblaethol, sy’n canolbwyntio ar brosesau i’r disgyblion:
• Wneud eu penderfyniadau eu hunain ynghylch eu cynlluniau bywyd a’u cyfnod pontio i fyd gweithio.
• Ennill gwybodaeth am y llwybrau economaidd a galwedigaethol a’r llwybrau addysg a hyfforddiant, yn cynnwys prifysgolion.
• Gael profiadau ymarferol a myfyrio ar y dysgu yn yr ystafell ddosbarth.
• Cydnabod eu cyfleoedd gyrfa a datblygu eu hunain a’r pontio i gwrs neu astudiaeth addysg ffurfiol.
Ym Mlwyddyn 8 mae gan bob disgybl 3 diwrnod ymarfer gwahanol a gynigir gan gwmnïau lleol. Mae hyn yn elfen newydd o gyfeiriadedd galwedigaethol, a gefnogir gan y siambr masnach trwy roi gwybod i’r cwmnïau a’i hyrwyddo.
Mae’r broses yma’n arwain at gynnig sydd wedi’i ddatblygu trwy gydol y broses, yn codi ar ôl cryn drafodaeth sy’n cynnwys athrawon, myfyrwyr, rhieni, cyflogwyr a cholegau. Mae cynigion i 3 llwybr at hyfforddiant proffesiynol i bobl ifanc:
• Y system ddeuol sy’n cyfuno hyfforddiant o fewn cwmnïau ac mewn colegau galwedigaethol.
• Hyfforddiant proffesiynol mewn colegau galwedigaethol.
• Y system baratoi alwedigaethol, nad yw’n cynnig unrhyw dystysgrif alwedigaethol, ond a ddylai arwain at waith.
Partnership for Young London, 2015
Meithrin cysylltiadau â chyflogwyr
Elfen allweddol o addysg fenter yw meithrin cysylltiadau ysgolion â chyflogwyr. Mae’r mathau o feithrin cysylltiadau â chyflogwyr wedi’u nodi gan Y Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil i Addysg (NFER) yn eu hadolygiad o dystiolaeth Prydeinig a rhyngwladol (Burge et al, 2012) fel rhai sy’n gweithredu ar:
• Lefel ysgolion yn cynnwys ymwneud â chyrff llywodraethol, cymorth ariannol a chymorth mewn nwyddau a chefnogaeth i ddatblygu staff.
• Lefel athrawon yn cynnwys datblygu a chynghori ar elfennau o’r cwricwlwm a chreu adnoddau cwricwlwm ac adnoddau addysgu.
• Lefel myfyrwyr trwy brofiad gwaith.
Mae ymchwil a wnaed i Dasglu Addysg a Chyflogwyr y Deyrnas Unedig, yn seiliedig ar arolwg o ysgolion uwchradd, wedi canfod mai’r gweithgareddau mwyaf effeithiol oedd y rheini a oedd yn cynnwys profiad
gweithle byd go iawn trwy feithrin cysylltiadau â chyflogwyr (Mann et al, 2017). Mae astudiaeth yr NFER a grybwyllwyd uchod, yn cyfeirio at y profiadau gwaith a oedd ar gael yng Nghanada, yn amrywio o gyfnodau byr o weithgaredd cynlluniedig yn para o 1 i 4 wythnos, drwodd i brentisiaethau ôl-ysgol, fel darpariaeth uchel ei ansawdd (Burge at al, 2012).
Er bod yn amlwg enghreifftiau da o arfer meithrin cysylltiadau â chyflogwyr yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol, mae amrywiadau yn dal i fod mewn llawer o systemau addysg, yn cynnwys yn y Deyrnas Unedig, yn ei ansawdd a’i gysondeb, gyda llawer yn dal i ddibynnu ar flaengaredd cyflogwyr, ysgolion, prifathrawon ac athrawon. Yn deillio o’u hadolygiad rhyngwladol o’r dystiolaeth, mae’r NFER wedi cynhyrchu rhestr gyfeirio o ddeg nodwedd i arwain perthynasau ysgolion-cyflogwyr mwy systematig ac mae’r rhain wedi’u cynnwys isod yn Atodiad 1.
Mae busnesau bach yn aml yn wynebu rhwystrau wrth ddatblygu cysylltiadau ag ysgolion oherwydd problemau capasiti, pryderon ymarferol megis iechyd a diogelwch a gofynion yswiriant a rhwydweithiau cyfyngedig (Ffederasiwn Busnesau Bach Yr Alban, 2016; Partneriaeth Ysgolion Genedlaethol, 2016).
Am flynyddoedd lawer roedd addysg fenter a meithrin cysylltiadau â chyflogwyr wedi’i gyfyngu i ysgolion uwchradd, ond yn ddiweddar mae ymwybyddiaeth gynyddol fod plant cynradd oedran hŷn eisoes yn datblygu dyheadau cryf ynghylch eu bywydau a’u gyrfaoedd yn y dyfodol (Archer, 2015; Le Gallais a Hatcher, 2015), wedi arwain at roi fwy o sylw i addysg gynradd. Yn y Deyrnas Unedig, er enghraifft, mae’r Bartneriaeth Ysgolion Genedlaethol wedi datblygu strategaeth ar gyfer gweithio gydag ysgolion cynradd wedi’i seilio ar bum egwyddor allweddol (Partneriaeth Ysgolion Genedlaethol, 2016):
• Deall amgylchedd yr ysgol.
• Dechrau gydag anghenion yr ysgol.
• Clustnodi’r hyn y gall busnesau ei gynnig.
• Llunio perthynasau effeithiol.
• Gwerthuso effaith.
Mae Primary Futures yn galluogi ysgolion cynradd i gysylltu â gwirfoddolwyr o wahanol broffesiynau a sectorau sy’n fodlon cael eu gwahodd i ysgolion i siarad, i weithio gyda phlant a’u hysbrydoli. Gall athrawon weld proffiliau gwahanol wirfoddolwyr yn eu hardal a chysylltu ag unrhyw rai yr hoffent iddynt ddod i’w hysgol.
Mae’r gwirfoddolwyr yn dod o lawer math o gefndir ac fe allent fod yn brentisiaid, yn recriwtiaid graddedig neu’n Brif Weithredwyr cwmnïau bach neu gymedrol eu maint neu gwmnïau rhyngwladol. Maent wedi ymrwymo i ddarparu o leiaf awr, unwaith y flwyddyn i ysgol wladol yn eu hardal.
Yn Ysgol Gynradd Tattingstone siaradodd ymwelydd yn y lle cyntaf â’r merched o Gyfnod Allweddol 2 yn unig am ei gwaith fel peiriannydd. Yna siaradodd hi â’r ysgol gyfan ac roedd y plant wedi’u rhyfeddu gan yr hyn yr oedd ei swydd yn ei olygu mewn gwirionedd. Primary Futures
Y Cwricwlwm
Fe wnaeth astudiaeth yr NFER a amlinellwyd uchod glustnodi amryw o ffyrdd yr oedd addysg fenter, yn cynnwys meithrin cysylltiadau â chyflogwyr, yn sail i arfer cwricwlwm mewn ysgolion mewn gwahanol wledydd (Burge et al, 2012). Yn yr Alban ble bu cwricwlwm newydd yn cael ei ddatblygu yn y blynyddoedd diwethaf, mae addysg fenter wedi’i chynnwys o fewn parth ‘Sgiliau ar gyfer Dysgu, Bywyd a Gwaith’. Darperir
canllawiau i athrawon at sut y gall sgiliau menter a chyflogadwyedd gael eu trin o fewn rhannau penodol o’r cwricwlwm fel ‘rhan o brofiad integredig’, gydag enghreifftiau’n cael eu darparu o ysgolion sydd wedi cyflawni hyn (Llywodraeth yr Alban, 2009). Yn yr achos hwn, fel yn y rhan fwyaf o wledydd, mae’r graddau y mae addysg fenter wedi’i sefydlu yn y cwricwlwm yn cael ei adael, felly, i ddoethineb athrawon/prifathrawon.
Yn anochel, fel y nodwyd uchod, bydd hyn yn arwain at amrywiad sylweddol ym maint ac yn ôl pob tebyg yn ansawdd profiad y myfyrwyr.
Addysg gyrfaoedd
Mae addysg gyrfaoedd yn anochel yn elfen bwysig o addysg fenter. Mae adolygiad o’r dystiolaeth a dynnwyd o Raglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA) y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) wedi canfod bod mewnbwn proffesiynol Cynghorwyr Gyrfaoedd yn cael ei ystyried gan fyfyrwyr fel y dylanwad mwyaf cadarnhaol arnynt wrth berthnasu eu profiadau ysgol â’r gweithle oedolion, gyda ffeiriau swyddi, cysgodi swydd ac interniaethau yn dilyn (Kashefpakdel et al, 2016).
Yn y Deyrnas Unedig, fodd bynnag, mae’r Gwasanaeth Gyrfaoedd ym mhob un o’r gwledydd wedi mynd trwy newidiadau sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf gyda’r rhan fwyaf o’r gweithgaredd yn cael ei ddatganoli’n awr i ysgolion gyda chefnogaeth cyngor proffesiynol ar y we ond gyda phrinder argaeledd cynghorwyr gyrfaoedd proffesiynol annibynnol sy’n gallu darparu cwnsela a chefnogaeth wyneb yn wyneb. Mae ymchwilwyr wedi canfod yn ddiweddar fod lleiafrif mawr (40%) o bobl ifanc oedd yn agosáu at eu harholiadau TGAU yn dweud nad oeddynt wedi derbyn cyngor gyrfaoedd defnyddiol yn yr ysgol (St Clair et al, 2015).
O wybod, fel y tynnwyd sylw ato uchod, mai yn ystod addysg gynradd y mae plant yn aml yn dechrau ffurfio’u dyheadau, gyfryw fel bod pobl ifanc, erbyn iddynt gyrraedd tair ar ddeg oed, ‘wedi meddwl am y dyfodol, yn pryderu am gael swydd dda, a bod ganddynt beth dirnadaeth o’r hyn a allai fwy neu lai fod o fewn cyrraedd a’u bod yn hynod o uchelgeisiol’ mae hi’n amlwg yn wendid na wneir dim darpariaeth ffurfiol ar gyfer cyngor gyrfaoedd proffesiynol mewn ysgolion cynradd (St Clair et al, 2015; t.120).
Tegwch
Mae’n hysbys fod ansawdd addysg a chyngor gyrfaoedd ar ei fwyaf effeithiol wrth gefnogi cyfnod pontio pobl ifanc difreintiedig i’r gweithlu ac wrth osgoi iddynt ymddieithrio a bod heb waith (Hodgson and Spours, 2013). Yn gyffredinol, mae tystiolaeth yn awgrymu bod gan addysg fenter ran bwysig i’w chwarae wrth gefnogi mwy o degwch a symudedd cymdeithasol yn y system addysg. Daeth adolygiad o symudedd cymdeithasol ym Mhrydain rhwng 1991 a 2011 yn seiliedig ar ddata i’r casgliad ‘petai cyflogwyr, addysgwyr a’r llywodraeth yn gwneud ymdrechion ar y cyd i gynyddu’r gyfradd dderbyn addysgol a symudedd ar i fyny galwedigaethol plant dosbarth gweithiol, trwy brentisiaethau, rhaglenni hyfforddi yn y gwaith a gorfodi deddfau cydraddoldeb yn llym, fe allem wneud ein cymdeithas yn llai anghyfartal’ (Li a Devine, 2015; t.90).
Am gyfnod maith o amser roedd barn gref iawn yn cael ei choleddu ar lawer lefel o gymdeithas y Deyrnas Unedig fod pobl ifanc o gefndiroedd difreintiedig, yn byw mewn ardaloedd o weithgaredd economaidd isel ac wedi’u hamddifadu o fodelau rôl teuluol a chymunedol, yn brin o’r dyheadau i ddod o hyd i gyflogaeth a gyrfaoedd llwyddiannus. Mae ymchwil helaeth wedi datgelu, fodd bynnag, fod y cysyniad o ‘dlodi dyheadau’ ymhlith pobl o’r fath yn gwbl gyfeiliornus ac mai’r hyn a wrthodir iddynt yw’r modd a’r cyfleoedd i wireddu’r dyheadau uchel y maent yn meddu arnynt mewn gwirionedd (Mann et al, 2014).
Y realiti, fodd bynnag, yw bod pobl ifanc o gefndiroedd difreintiedig, sydd yn ôl pob tebyg â fwyaf i’w ennill o addysg fenter o ansawdd uchel, yn wynebu anghydraddoldeb sylweddol. Mae’n hysbys fod myfyrwyr
mewn ysgolion detholus ac ysgolion lle telir ffioedd yn cael lefelau uwch o addysg fenter yn gyson gyda chryn lawer o feithrin cysylltiadau gyda chyflogwyr (Mann et al 2014, Huddleston et al, 2015). Fe wnaeth adroddiad yr NFER a ystyriwyd uchod nodi hefyd fod yna gryn anghydraddoldeb yn argaeledd lleoliadau gwaith o ansawdd uchel i fyfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig o gymharu â rhai breintiedig (Burge et al, 2012). Mae’n ymddangos, felly, fod hwn yn wendid ardal fawr mewn addysg fenter fel y mae’n bodoli ar hyn o bryd ond yn un gyda chryn botensial yn y dyfodol.
Casgliad
Bu datblygiad addysg fenter mewn ysgolion yn y Deyrnas Unedig ac ar draws y byd yn nodwedd arbennig ar systemau addysg dros yr hanner canrif ddiwethaf. Er y gall fod yn anodd mesur ei heffaith yn nhermau canlyniadau caled, mae yna bositifrwydd cyffredinol ynghylch ei heffeithiau ar gymhelliant, cyrhaeddiad a chynnydd myfyrwyr. Elfen gref o addysg fenter yw meithrin cysylltiadau â chyflogwyr ac mae’r ffordd y mae’n gallu darparu profiadau byd go iawn, yn seiliedig ar y gweithle, yn cael ei weld yn gryfder arwyddocaol. Mae yna, fodd bynnag, wendidau mewn addysg fenter, yn cynnwys amrywiadau yn ei maint a’i hansawdd ar draws systemau ysgolion, y rhwystrau a wynebir gan fusnesau bach wrth feithrin cysylltiadau â chyflogwyr, ei diffyg bodolaeth mewn ysgolion cynradd, ei bodolaeth denau yn y cwricwlwm a diffygion wrth ddarparu cyngor gyrfaoedd annibynnol. O ystyried y potensial y credir y gallai fod i addysg fenter wrth gefnogi addysg i gyflawni mwy o degwch canlyniadau a symudedd cymdeithasol, mae’n bryder sylweddol nad oes sicrwydd o brofiadau o ansawdd uchel i’r myfyrwyr mwyaf difreintiedig.
Cefndir
O dwf y system addysg wladol yng Nghymru a Lloegr yn niwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a thrwy gydol y rhan fwyaf o’r ugeinfed ganrif, mae’r cwricwlwm ysgol wedi dilyn llwybr traddodiadol. Roedd hyn yn golygu, er bod Cymru’n un o ffwlcrymau’r chwyldro diwydiannol, fod addysg dechnegol yn cael ei hesgeuluso, gyda phrifathrawon, llywodraethwyr ysgolion ac awdurdodau lleol yn gwrthwynebu unrhyw awgrymiadau y dylid addasu’r cwricwlwm i ddiwallu anghenion pobl ifanc, nad oedd y mwyafrif mawr ohonynt yn mynd ymlaen ymhellach nag addysg elfennol, ac yn ystyried bod pynciau a chyrsiau galwedigaethol yn rhai ar gyfer y llai galluog (Jones, 1982 a Jones a Roderick, 2003). Mewn gwirionedd mae rhai o’r agweddau hyn, yn arbennig mewn perthynas ag addysg alwedigaethol, yn parhau heddiw.
Yn fwy diweddar, fodd bynnag, digwyddodd twf mewn addysg fenter yn y cwricwlwm yng Nghymru a oedd yn adlewyrchu’r datblygiadau ehangach a nodwyd yn adran flaenorol yr adroddiad hwn. Yn 2004, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Strategaeth Entrepreneuriaeth Ieuenctid (YES) ac fe’i hadnewyddwyd yn 2010 (Llywodraeth Cymru, 2010). Roedd yn amcanu at roi sgiliau ac agweddau mentrus i bobl ifanc rhwng pump a phump ar hugain oed a fyddai gobeithio yn codi eu dyheadau ac yn dylanwadu ar eu gyrfaoedd yn y dyfodol. Roedd gwaith YES yn cynnwys datblygu deunyddiau cwricwlwm uchel eu parch, cyfleoedd datblygiad proffesiynol i athrawon, enwi modelau rôl lleol a gweithgareddau Syniadau Mawr Cymru1 sy’n darparu gwasanaeth cymorth a chyfarwyddyd i bobl ifanc sy’n dymuno datblygu syniadau a gweithgareddau mentrus.
Mae strategaeth YES wedi’i chanmol yn eang fel un sy’n cynrychioli arfer arloesol ym maes addysg fenter (Y Comisiwn Ewropeaidd, 2012; FSB, 2012; Pennycook, 2014). Awgrymodd adroddiad gan Fonitor Entrepreneuriaeth y Byd yn 2011 (Bonner et al, 2011) fod entrepreneuriaeth cyfnod cynnar gan bobl ifanc rhwng 18 ac 29 oed yng Nghymru wedi cynyddu’n gyson rhwng 2002 a 2011 a’i fod yn uchel o gymharu â gwledydd eraill y Deyrnas Unedig.
Daeth y strategaeth YES i ben yn 2015 ac mae Llywodraeth Cymru’n ystyried yn awr sut i fynd ag addysg fenter yn ei blaen ochr yn ochr â’r cwricwlwm ysgol newydd sy’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd yng Nghymru. Yn 2015, dewiswyd Cymru gan Sefydliad Technoleg Massachusetts i gymryd rhan mewn Rhaglen Sbarduno Entrepreneuriaeth Ranbarthol (REAP) o’i eiddo. Mae’r rhaglen wedi’i chynllunio i roi cymorth i dwf economaidd rhanbarthol a chreu swyddi trwy entrepreneuriaeth a yrrir gan arloesedd. Mae cymryd rhan yn REAP yn debygol o ddylanwadu’n gryf ar y strategaeth newydd sy’n cael ei datblygu gan Lywodraeth Cymru a bydd gofyn dod ag amryw bartïon at ei gilydd i fynd â hi yn ei blaen.
Meithrin cysylltiadau â chyflogwyr
Er gwaethaf y parch sydd i YES, nid yw’n ymddangos fod meithrin cysylltiadau â chyflogwyr mewn addysg fenter yng Nghymru mor eang ag mewn rhai rhannau o’r Deyrnas Unedig. Y fenter amlycaf yng Nghymru yw’r bartneriaeth Dosbarth Busnes a ddatblygwyd rhwng Llywodraeth Cymru a Busnes yn y Gymuned. Mae partneriaethau wedi’u sefydlu gydag 80 o ysgolion uwchradd ledled Cymru (tua 40 y cant o gyfanswm yr ysgolion) ac maent yn darparu model hyblyg sy’n ystyried y cyd-destun y mae’r ysgol wedi’i lleoli ynddo ynghyd ag argaeledd partneriaid busnes addas.
1. https://businesswales.gov.wales/bigideas
Bu Ysgol Uwchradd Babyddol Bishop Hedley yn gweithio gyda Dŵr Cymru trwy Dosbarth Busnes am y ddwy flynedd ddiwethaf.
Bu pedwar o gynrychiolwyr Dŵr Cymru yn cynorthwyo gyda gweithgaredd Ffau’r Ddraig i ddisgyblion Blwyddyn 9. Aeth y grŵp buddudol i’r rownd derfynol fawr ble aethant yn eu blaen i ennill y gystadleuaeth, yr oedd dros 550 o ddisgyblion Blwyddyn 9 wedi cymryd rhan ynddi. Mynychodd Blwyddyn 9 ac 19 o ferched weithgaredd model rôl a sgwrs ‘merched mewn Gwyddoniaeth’ yn Labordai Glaslyn Dŵr Cymru yng Nghasnewydd. Fe wnaeth disgyblion mwy galluog a thalentog Blwyddyn 8 a 9 gymryd rhan mewn diwrnod ‘Rhoi ac Ennill’, gan baentio murlun.
Cymerodd disgyblion mwy galluog a thalentog Blwyddyn 10 ran mewn gweithdai ynglŷn â CVs, ceisiadau swyddi a thechnegau cyfweliad, cyn i Dŵr Cymru gynnal cyfweliadau swyddi ffurfiol ar gyfer y disgyblion. Roedd Blwyddyn 9 â rhan mewn diwrnod sgiliau cyflogadwyedd cydweithredol. Aeth disgyblion Blwyddyn 10 i ymweld â Dŵr Cymru yn Ninas Powys, i gymryd rhan mewn diwrnod sgiliau meithrin tîm.
Cynhaliodd Dŵr Cymru ddiwrnod ‘galw heibio a thrafod’ gyda phrentisiaid ar gyfer disgyblion Blwyddyn 10 a Blwyddyn 11 i gael gwybod mwy am gynlluniau i raddedigion a phrentisiaid.
Gwahoddwyd Arweinwyr Canol yn Bishop Hedley i Ddiwrnod Ysbrydoledig Arweinwyr Canol gyda Dŵr Cymru.
Mae partneriaethau’n cael eu grwpio gyda’i gilydd mewn clystyrau lleol a rhanbarthol i rannu arferion effeithiol a darparu ar gyfer rhwydweithio. Yng Nghasnewydd, er enghraifft, rhannodd cyfarfod clwstwr o’r holl ysgolion uwchradd a’u partneriaid busnes (yn cynnwys y Swyddfa Eiddo Deallusol, Banc Lloyds, Wales and West Utilities, Costain, Cartrefi Dinas Casnewydd a Swyddfa Ystadegau’r Llywodraeth), wybodaeth am y gweithgareddau yr oeddynt yn ymgymryd â nhw, a oedd yn cynnwys ymweliadau â’r gweithle, mewnbynnau i’r cwricwlwm, cyngor gyrfaoedd i fyfyrwyr a thrafod digwyddiadau ar y cyd.
Mae rhai o’r ysgolion uwchradd yn gweithio gyda’u hysgolion cynradd lleol ac mae Dosbarth Busnes yn gobeithio datblygu’r maes gwaith hwn yn y dyfodol. Mae’r rhaglen YES hefyd wedi datblygu rhywfaint o waith gydag ysgolion cynradd er 2013 a hynny ar ffurf cystadleuaeth flynyddol Y Criw Mentrus2 ble mae ysgolion yn cynnig syniad busnes ar gyfer gweithgaredd menter yn eu hysgol. Yn 2015, fe gynigiodd 54 o 1600 o ysgolion cynradd Cymru gyflwyniadau.
Fel y mae hi mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig, mae BBaChau â llai o ran mewn meithrin cysylltiadau cyflogwyr ag ysgolion. Datgelodd arolwg o aelodau’r FSB yng Nghymru a wnaed ar gyfer yr adroddiad hwn, ac a ysgogodd 151 o ymatebion, nad oedd gan 54% unrhyw gysylltiadau presennol ag ysgolion er bod 85% yn cefnogi’r syniad o feithrin cysylltiadau â chyflogwyr.
Fel y gallai rhywun ei ddisgwyl, roedd natur y cyfranogiad gan fusnesau yn eu hysgolion lleol yn amrywio. I rai busnesau roedd y cyfranogiad yn anad dim trwy gynnig profiad gwaith. Roedd eraill yn cyfranogi fel llywodraethwyr, yn aml o ganlyniad i bresenoldeb eu plant eu hunain yn yr ysgol, neu’n darparu gwersi gwestai ar faterion yn ymwneud â’u sector neu’u busnes. Dim ond dyrnaid o ymatebwyr a dynnodd sylw at Syniadau Mawr Cymru fel y peirianwaith drwy ba un yr oeddynt yn meithrin cysylltiadau ag ysgolion.
Pan ofynnwyd iddynt am werth cysylltiadau o’r fath, roedd yr ymatebwyr yn canolbwyntio’n bennaf ar eu dyhead i ysbrydoli eraill i ddod yn entrepreneuriaid neu i adlewyrchu rhwymedigaethau cymdeithasol yr oeddynt yn teimlo fod gan fusnesau yn eu cymuned leol. Er enghraifft, dywedodd un ymatebydd:
2. http://enterprisetroopers.com
FSB Cymru: Uchelgais Genedlaethol: Addysg Fenter, Ysgolion ac Economi Cymru
“Does dim unrhyw werth, gwasanaeth i’r gymuned ydyw.” Fe wnaeth nifer o ymatebwyr bwysleisio hefyd yr angen i roi gwybod i bobl ifanc am fyd gwaith ac roeddynt yn gweld y cysylltiadau ag ysgolion fel modd i ddatblygu cwsmeriaid y dyfodol. Yn wir, fe wnaeth un ymatebydd gynnwys nifer o’r rhesymau hyn, gan ddweud:
“I gynnig profiad gwaith i bobl ifanc, i ennill dirnadaeth a sgiliau gan bobl ifanc a allai fod ar goll o’n busnes. I rannu’r profiad gwirioneddol o waith a busnes gydag ysgolion. I ysbrydoli pobl ifanc i yrfa mewn menter.”
Mae’n amlwg o’r ymatebion hyn fod busnesau’n meithrin cysylltiadau mewn amryw o ffyrdd ac yn gwneud hynny am nifer o resymau. Ychydig gysondeb sydd yn yr ymgysylltu hwn ac mae’n dibynnu’n sylweddol ar ysgogiadau perchennog y busnes.
Ar sail pwysigrwydd BBaChau yn economi Cymru mae yna, felly, gryn botensial i’r rhan yma o feithrin cysylltiadau â chyflogwyr gael ei datblygu.
Un o agweddau isaf meithrin cysylltiadau â chyflogwyr y soniwyd amdanynt yn yr arolwg hwn oedd darparu profiad gwaith, gyda dim ond 6% o ymatebwyr yn darparu’r cyfle hwn ar gyfer pobl ifanc. Mae hyn yn adlewyrchu’r dirywiad sylweddol mewn profiad gwaith yn ysgolion Cymru yn y blynyddoedd diweddar yn deillio o newidiadau yn Gyrfa Cymru a dileu’r rheidrwydd ar ysgolion i ddarparu profiad gwaith ar gyfer pob disgybl 14 – 16 mlwydd oed. Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd yn adran flaenorol yr adroddiad hwn ar werth effaith uchel profiad gwaith, mae hyn yn bryder.
“Fe wnaethom ddechrau meithrin cysylltiadau ag adran adeiladu ysgol sy’n lleol i’n datblygiad yn Brunel Wood, Abertawe yn y lle cyntaf gyda’r bwriad o fodloni ein targedau cyfrifoldeb cymdeithasol. Bu inni ddechrau trwy gyflenwi disgyblion oedd yn ymweld (dan oruchwyliaeth athro oedd gyda nhw) â chipolwg ar y broses ddatblygu. Gan fod yr adborth cychwynnol yn gadarnhaol, cymhellwyd ni i ehangu cwmpas ein rhaglen trwy gynnwys cyfraniadau gan ein hamrywiol isgontractwyr ar y safle i alluogi’r disgyblion i ennill dealltwriaeth ymarferol o beth fyddai gyrfa mewn crefft benodol yn ei olygu.
Mae’r diwydiant adeiladu’n wynebu prinder crefftwyr yn genedlaethol ac felly fe wnaeth cymryd rhan mewn rhaglen o’r fath roi inni’r cyfle i “chwifio’r faner” i ddarpar ddechreuwyr mewn modd nad oedd adrannau gyrfaoedd ysgolion yn ei allu.
Wrth i’n perthynas â’r ysgol leol ddatblygu, bu inni gytuno i lunio partneriaeth ffurfiol dan fenter “Dosbarth Busnes” Cymru. Rhoddodd hyn y cyfle inni ehangu’r ffordd yr oeddem yn gallu gweithio gyda’r ysgol, trwy ein galluogi i gymryd rhan wrth ddarparu profiad menter.
Yn y pen draw, fe wnaeth meithrin cysylltiadau â’r ysgol leol ragori ar ein disgwyliadau. Ar ben hynny, mae wedi bod o gymorth mawr wrth gyflawni un o’n hamcanion allweddol wrth sefydlu ein henw da fel cwmni sy’n canolbwyntio ar y gymuned ac yn cyfrannu’n gadarnhaol at yr ardaloedd yr ydym yn gweithio ynddynt, i’r graddau y byddwn yn bwriadu cyflwyno rhaglenni partneriaeth tebyg mewn ysgolion sy’n lleol i’n holl ddatblygiadau yn y dyfodol (fel yr ydym wedi’i wneud gyda’n prosiect yn Brunel Wood, Abertawe ac yn ddiweddarach gyda’n prosiect yn Llys Daniel Pontarddulais)”.
Ben Francis, Hygrove Homes
Y Cwricwlwm Ysgol
Gellir gweld bod lle addysg fenter o fewn y cwricwlwm ysgol wedi bod yn y pair ers datblygu’r Cwricwlwm Cenedlaethol yn 1988. Yn y dechrau, daeth addysg fenter yng Nghymru o hyd i’w lle penodol o fewn maes Gyrfaoedd a Byd Gwaith y cwricwlwm 5 – 16 yn ogystal â chael ei hadlewyrchu mewn meysydd pwnc a chyrsiau oedd yn cael eu dilyn gan fyfyrwyr hŷn megis Astudiaethau Busnes, Economeg, pynciau galwedigaethol a maes cysylltiedig â gwaith Bagloriaeth Cymru.
Er 2010, fodd bynnag, mae’r cwricwlwm ysgol wedi dod o dan bwysau oherwydd mwy o atebolrwydd allanol ar ysgolion, yn cynnwys mwy o bwyslais ar addysgu llythrennedd a rhifedd a chanlyniadau profion ac arholiadau cenedlaethol. Yn yr adroddiad a baratowyd ganddo yn 2015 ar y cwricwlwm yng Nghymru, fe arweiniodd y sefyllfa yma at Graham Donaldson yn awgrymu (Donaldson, 2015; t.10):
“I lawer o athrawon ac ysgolion mae’r gorchwyl allweddol wedi datblygu i fod yn weithredu disgwyliadau allanol yn ffyddlon, gyda lleihad dilynol mewn creadigrwydd ac yn yr ymatebolrwydd lleol i anghenion plant a phobl ifanc. Yn rhannol o ganlyniad, mae llawer o’r cwricwlwm fel y mae plant a phobl ifanc yn ei brofi wedi’i wahanu oddi wrth ei amcanion addefedig ac yn canolbwyntio gormod ar y tymor byr. Ar ei fwyaf eithafol, gellir bron gostwng cenhadaeth ysgolion cynradd i addysgu llythrennedd a rhifedd a chenhadaeth ysgolion uwchradd i baratoi ar gyfer cymwysterau.”
Heb amheuaeth un o’r pethau a ddioddefodd gan y ‘cafnu’ ymddangosiadol hwn ar y cwricwlwm oedd addysg fenter, sydd bellach heb fod wedi’i chynrychioli yn agos mor gryf ag oedd cyn 2010. Erbyn 2013 roedd ymchwiliad a wnaed gan Bwyllgor Menter a Busnes Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ddigon pryderus i alw am i entrepreneuriaeth gael ei gwneud yn rhan annatod o’r cwricwlwm cynradd ac uwchradd fel bod ‘sgiliau menter wrth galon go iawn system addysg Cymru’ (Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2013).
Mae yna wrth gwrs rai eithriadau i’r sefyllfa gyffredinol hon. Mae esiampl brin mewn addysg gynradd wedi’i nodi yn yr astudiaeth achos isod:
Mabwysiadodd yr ysgol Fenter Fusnes fel cyfrwng i sicrhau gwelliannau – mewn Llythrennedd, Rhifedd, Sgiliau Meddwl, TGCh a datblygu agweddau ar addysg bersonol a chymdeithasol – yn ogystal â gwella sgiliau dysgu annibynnol disgyblion. Mae datblygu prosiectau Menter Fusnes yn cefnogi datganiad cenhadaeth yr ysgol yn llawn.
Mae menter fusnes yn digwydd ym mhob grŵp blwyddyn ac yn rhoi cyfleoedd i ddisgyblion gymhwyso a datblygu eu sgiliau mewn cyd-destunau real ac ystyrlon. Mae’r disgyblion yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn menter fusnes sawl tro yn ystod eu hamser yn yr ysgol, sy’n annog disgyblion i adeiladu ar eu profiadau blaenorol. Dros yr wyth mlynedd ddiwethaf, mae prosiectau wedi galluogi’r ysgol i ddatblygu cysylltiadau da iawn â’r gymuned leol trwy ymweliadau gan fusnesau ac entrepreneuriaid lleol.
Mae’r disgyblion yn:
• Trin cyllidebau; trafod benthyciadau a chyfraddau llog gydag oedolion.
• Caffael cynhyrchion.
• Defnyddio ysgrifennu llythyrau ffurfiol i wneud cais am swyddi o fewn cwmni.
• Defnyddio TGCh fel cyd-destun go iawn i gyflwyno cynlluniau busnes/e-bostio cwmnïau.
• Gweithio gyda’i gilydd i gynllunio strategaethau marchnata.
• Defnyddio sgiliau creadigol i hysbysebu a hyrwyddo’u cynhyrchion.
• Cymryd rhan mewn cyfweliadau swyddi.
Astudiaeth Achos Arferion Effeithiol Estyn ar Ysgol Gynradd Llanyrafon, Torfaen
Mewn ysgolion uwchradd mae’r sefyllfa ôl-14 yn fwy addawol fel canlyniad i’r fersiwn newydd o’r Fagloriaeth Cymru a ddechreuodd ym mis Medi 2015. Ym mhob un o’i tair lefel (Sylfaen, Cenedlaethol ac Uwch) mae’n rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr 14 i 19 mlwydd oed gymryd rhan mewn Her Menter a Chyflogadwyedd (un o bedair elfen craidd y Fagloriaeth). Mae’r her yn mynnu bod dysgwyr yn dangos y sgiliau entrepreneuraidd a fynnir yn aml gan gyflogwyr ac a ddylai, felly, fwyhau eu cyflogadwyedd. Mae’r ‘heriau’ yn cael eu cynllunio gan gyflogwyr a sefydliadau cenedlaethol ac mae enghreifftiau i’w cael ar wefan Hwb Llywodraeth Cymru3
Er bod y newidiadau a ddigwyddodd ar ôl 2010 wedi’u seilio i raddau helaeth ar yr angen i Gymru wella’i pherfformiad ym mhrofion PISA’r OECD gan y dywedwyd bod y canlyniadau hyn mor ddylanwadol gyda chyflogwyr, mae’n wrthnysig fod o leiaf peth tystiolaeth gan gyflogwyr yn awgrymu y gall fod yr hyn a ddigwyddodd wedi cael yr effaith groes. Mae Partneriaeth Dysgu, Medrau ac Arloesi De-Ddwyrain Cymru (2016; t.16 – 17) yn sôn, er bod cyflogwyr yn canfod bod 32% o ymgeiswyr am swyddi yn brin o’r sgiliau llythrennedd a rhifedd priodol, bod eu hanner yn ddiffygiol o ran hunanreolaeth a blaenoriaethu tasgau, 40% mewn sgiliau gweithio fel tîm a thrin cwsmeriaid a 69% mewn sgiliau arbenigol. Fe wnaeth y Bartneriaeth gyfatebol yng Ngogledd Cymru nodi ‘diffyg ymwybyddiaeth neu ddealltwriaeth athrawon o fyd busnes’ fel her i recriwtio yn y dyfodol i gyflogwyr yn eu rhan hwy o’r byd (Partneriaeth Dysgu, Medrau ac Arloesi Gogledd Cymru, 2016; t.50).
Cymwysterau a llwybrau galwedigaethol
Byddai’r diffyg o 69 y cant mewn sgiliau arbenigol a nodwyd gan gyflogwyr yn Ne-Ddwyrain Cymru bron yn sicr yn adlewyrchu’r diffyg cymwysterau galwedigaethol arbenigol a feddir gan ymgeiswyr. Er gwaethaf y Rhaglen Llwybrau Dysgu 14 – 19 uchel ei phroffil a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru yn negawd cyntaf datganoli, mae cyrsiau, cymwysterau a llwybrau galwedigaethol yn dal i fod wedi’u cynrychioli’n wan iawn o fewn ysgolion uwchradd Cymru. Mae hyn yn llifo o negyddoldeb hanesyddol at gymwysterau technegol a galwedigaethol yn system addysg Cymru sy’n dal yn gyffredin yn ysgolion Cymru, yn ôl pa un y mae opsiynau o’r fath yn cael eu hystyried yn anaddas i blant ‘clyfar’. Mae hyn yn arbennig o wir mewn ysgolion gyda chweched dosbarth ble byddai pryder petai’r opsiynau hyn ar gael i ddisgyblion 14 – 16 mlwydd oed, y gallai hyn arwain at iddynt fynd ymlaen ar ôl 16 i addysg bellach gyda cholled cyllid a swyddi i’r ysgol o ganlyniad (Edge, 2012; Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2017).
Fe wnaeth y Rhaglen Llwybrau Dysgu 14 – 19 a’r ddeddfwriaeth a ddeilliodd ohoni arwain at wneud rhywfaint o gynnydd hyd at 2010 wrth wella argaeledd opsiynau galwedigaethol i bobl ifanc. Mewn adroddiad yn 2010 fe wnaeth Estyn, er yn nodi hyn hefyd, gyfeirio, fodd bynnag, at amrywiadau rhwng ysgolion a phryder ynghylch myfyrwyr yn cael cynnig cyngor diduedd (Estyn, 2010). Ers yr adeg honno, fodd bynnag, bu dirywiad cyson yn yr opsiynau galwedigaethol sy’n cael eu cynnig gan ysgolion i ddisgyblion 14 blwydd oed ym Mlwyddyn 9 a disgyblion 15 mlwydd oed yn dilyn TGAU.
Mae’r rhesymau dros hyn yn cynnwys y negyddoldeb parhaus tuag at alwedigaethedd sy’n gynhenid yn y system, diweddu cyllid ychwanegol i ysgolion i ehangu eu cwricwlwm 14 – 19 (y bwriadwyd bob amser iddo fod dros dro mewn gwirionedd), newidiadau yn y ffordd y mae perfformiad ysgolion yn cael ei fesur gan Lywodraeth Cymru (eto dan ddylanwad yr adwaith i’r canlyniadau PISA yn 2010) a diffyg pwyslais ar gamu ymlaen i gyflogaeth neu lwybrau yn seiliedig ar gyflogaeth, mewn cymhariaeth â pherfformiad mewn arholiadau a chamu ymlaen i addysg uwch.
Mae’r sefyllfa yma’n arbennig o wrthnysig mewn perthynas â’r twf diweddar mewn cyfleoedd prentisiaeth yng Nghymru. Yn y 1960au roedd tua 30% o’r bechgyn yn gadael ysgol (ond dim ond 3% o’r merched) yn mynd ymlaen i brentisiaethau yng Nghymru, yn bennaf yn yr economi ddiwydiannol a oedd yn dal yn
3. http://hwb.wales.gov.uk/resources/tree?sort=created&language=welsh%20Baccalaureate&nodeld-4bb3785d-c2ac-4770-98ac-76202d6d0ff8
gymharol fywiog. Fel mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig, fodd bynnag, erbyn gwawrio’r mileniwm newydd, roedd prentisiaethau’n dirywio’n sylweddol. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi atal a gwyrdroi’r dirywiad hwnnw ac mae bellach yn buddsoddi’n drwm mewn prentisiaethau pob oed (Jones a Roderick, 2003; Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2011; Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru, 2015).
Mae Ben yn gweithio ar hyn o bryd yn Get Wet – cwmni wedi’i leoli yn Y Bala, Gwynedd, sy’n cynnig gweithgareddau antur awyr agored, yn cynnwys cwrs rhaffau uchel, cerdded ceunentydd, pledu paent a rafftio dŵr gwyn. Yn 2013 – 14, cwblhaodd Ben Brentisiaeth Lefel 3 Rhaglenni Awyr Agored. Darparwyd y brentisiaeth gan Grwp Llandrillo Menai sy’n anelu at gefnogi economi Gogledd Cymru trwy gyflenwi pobl leol â’r sgiliau a’r cymwysterau sydd eu hangen ar gyfer llwyddiant yn y rhanbarth.
Dechreuodd Ben y brentisiaeth yn dilyn cyfnod o fod wedi’i gyflogi gyda Get Wet trwy gynllun Twf Swyddi Cymru. Teimlai ei bod yn ffordd wych o ddal ati i weithio gyda Get Wet a chael chyfle i gael cymhwyster, i weithio tra oedd yn dysgu.
Trwy gydol y cyfnod o weithio yn Get Wet, mae’r brentisiaeth wedi galluogi Ben i symud ymlaen, gan ymgymryd â mwy o gyfrifoldebau a gwella’i ragolygon gyrfa. Cyfrannodd y brentisiaeth ato’n symud ymlaen i swydd fel Cyfarwyddwr Anweithredol o fewn y cwmni. Roedd hyn yn golygu ymgymryd â rhywfaint o gyfrifoldeb ychwanegol hefyd. Ar ôl cwblhau’i brentisiaeth mae Ben yn bwriadu aros gyda Get Wet, sy’n tyfu ar hyn o bryd ac yn ehangu’r dewis o weithgareddau a gynigiant. Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru – 2015.
Mae, felly, o bryder mawr fod y Partneriaethau Dysgu, Medrau ac Arloesi Rhanbarthol yng Nghymru yn adrodd nad oes dim cynnydd yn y diddordeb mewn prentisiaethau yn ysgolion Cymru. Nid yw partneriaeth Gogledd Cymru wedi gweld unrhyw gynnydd arwyddocaol yn y grŵp oedran 16 – 24 sy’n symud ymlaen i brentisiaethau dros y tair blynedd ddiwethaf (Partneriaeth Dysgu, Medrau ac Arloesi Gogledd Cymru, 2016). Mae Partneriaeth De-Orllewin a Chanolbarth Cymru yn nodi diffyg llwybrau at gyfleoedd cyflogaeth lleol (Partneriaeth Dysgu, Medrau ac Arloesi De-Orllewin a Chanolbarth Cymru, 2016). Yn fwyaf damniol mae partneriaeth De-Ddwyrain Cymru yn adrodd fel a ganlyn (Partneriaeth Dysgu, Medrau ac Arloesi DeDdwyrain Cymru, 2016; t 7 – 8):
‘’Mae yna gyflenwad annigonol o rai sy’n gadael ysgol gydag uchelgais i barhau mewn addysg gan gymryd pynciau yn ein sectorau blaenoriaethol. Mae tystiolaeth glir o gamgymharu gyrfaoedd ymhlith pobl ifanc sy’n 16+ yn De-Ddwyrain Cymru. Mae ymchwil Gyrfa Cymru yn datgelu bod nifer bryderus o fach, 5%, o ddisgyblion 14 – 16 mlwydd oed, hyd yn oed yn ystyried llwybr prentisiaeth.’’
Ar sail y sefyllfa yma nid yw’n syndod y dywedwyd wrth Bwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Mai 2017, am y flwyddyn ddiweddaraf y mae cofnodion ar gael ar ei chyfer dim ond 1.6% o’r rhai’n gadael ysgol yng Nghymru aeth ymlaen i ryw fath o ddysgu yn seiliedig ar waith, yn cynnwys prentisiaethau. Ni ddylai fod yn syndod ychwaith – er ei bod yr un mor bryderus – fod y ganran i ddechrau yn 7% cyn iddynt dderbyn cyngor gyrfaoedd yn eu hysgolion! (Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2017).
FSB Cymru: Uchelgais Genedlaethol: Addysg Fenter, Ysgolion ac Economi Cymru
Addysg gyrfaoedd
Mae problemau’n ymwneud ag ansawdd y cyngor gyrfaoedd y mae pobl ifanc yn ei dderbyn yn ystod eu haddysg wedi bod yn destun pryder yng Nghymru ers tro byd a daethant i’r pen yn ystod y Rhaglen Llwybrau Dysgu 14 – 19. Er, fel y tynnwyd sylw ato yn adran flaenorol yr adroddiad hwn, fod tystiolaeth gynyddol fod dyheadau disgyblion ynghylch eu dyfodol yn datblygu ym mlynyddoedd diweddarach addysg gynradd, heblaw’r mentora anffurfiol a’r gwaith uchelgeisiol y mae rhai ysgolion cynradd yn ei wneud, nid yw addysg gyrfaoedd yn cael ei gynnig i ddisgyblion oedran cynradd.
Mewn ysgolion uwchradd, mae cyngor gyrfaoedd wedi’i ddarparu’n draddodiadol gan ‘Athrawon Gyrfaoedd’ penodedig. Er nad oeddynt yn weithwyr gyrfaoedd proffesiynol, roedd y rhain yn aml yn rhai hir eu gwasanaeth, yn ymgymryd â pheth datblygiad proffesiynol ac yn llunio cysylltiadau da â’r Gwasanaeth Gyrfaoedd proffesiynol. Byddai hyn wedi darparu cefnogaeth arbenigol i ddisgyblion ar adegau tyngedfennol megis dewis opsiynau Blwyddyn 10/Blwyddyn 11 ym Mlwyddyn 9, helpu i drefnu lleoliadau profiad gwaith ym Mlwyddyn 10 a gyda llwybrau cyrchfan ôl-TGAU.
Mewn adroddiadau a baratowyd yn 2012 a 2014, nododd Estyn y diffygion canlynol yng ngwaith gyrfaoedd ysgolion trwy’r cydweithgaredd hwn (Estyn, 2012; Estyn 2014a; Estyn 2014b):
• Defnydd cyfyngedig o wybodaeth am y farchnad lafur i helpu disgyblion i wneud dewisiadau pwnc ar ôl Blwyddyn 9.
• Diffyg tystiolaeth ynghylch pa un a oedd disgyblion yn cwrdd ag amcanion y cwricwlwm Gyrfaoedd a Byd Gwaith.
• Amrywiadau yn ansawdd a mewnbwn y gefnogaeth allanol a dderbynnir.
• Gostyngiad arwyddocaol yn lefel yr adnoddau a neilltuir gan ysgolion i waith gyrfaoedd.
• Darparu cyngor a chyfarwyddyd gyrfaoedd oedd yr agwedd wannaf ar y gefnogaeth i ddysgwyr yn ystod eu haddysg 14 – 19 gyda rhai’n derbyn gwybodaeth wallus neu rannol.
Efallai nad yw’n syndod, felly, pan wnaed arolwg o ysgolion uwchradd i’r FSB yng Nghymru yn 2012 ei fod wedi canfod na allai’r un o’r myfyrwyr gofio unrhyw drafodaethau yr oeddynt wedi eu cael gydag athrawon neu gynghorwyr gyrfa a oedd wedi’u seilio o amgylch entrepreneuriaeth neu ddechrau busnes (FSB, 2012). Yn fwy diweddar mae Partneriaeth Dysgu, Medrau ac Arloesi De-Ddwyrain Cymru wedi nodi ‘camgymhariad clir rhwng galw a disgwyliadau sgiliau cyflogwyr a gallu disgyblion yn codi o’r dewis o feysydd pwnc, gwybodaeth am yrfaoedd, sgiliau sylfaenol a hanfodol’ (Partneriaeth Dysgu, Medrau ac Arloesi De-Ddwyrain Cymru, 2016; t.27).
Tra bod ansawdd addysg gyrfaoedd mewn ysgolion, felly, wedi bod yn faes pryder ers tro byd, roedd yr ad-drefnu diweddar ar y gwasanaeth gyrfaoedd yng Nghymru yn bendant wedi gwneud y sefyllfa’n llawer gwaeth gyda Gyrfa Cymru yn colli dros 600 o staff yn y blynyddoedd diwethaf. Mae’i gapasiti presennol yn golygu bod gan bob swyddog gyrfaoedd gyfrifoldeb am chwe ysgol uwchradd yng Nghymru, ble maent ond yn gallu canolbwyntio ar ddisgyblion 14 – 16 mlwydd oed sydd wedi’u henwi’nl rhai sydd mewn perygl o fynd yn rhai nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEETs). Mae hyn er gwaethaf y corff cynyddol o dystiolaeth y gallai pobl ifanc erbyn yr oedran yma fod wedi ffurfio ac wedi colli dyheadau gyrfa a bywyd. Ymddengys mai ychydig iawn o ysgolion uwchradd sydd bellach ag aelod penodedig o’r staff ar gyfer addysg gyrfaoedd ac, felly â phwynt cyswllt ar gyfer Gyrfa Cymru, ychydig iawn o ffocws sydd yn null arolygu presennol Estyn ar gyfarwyddyd gyrfaoedd ac ymddengys nad oes dim sail tystiolaeth gref dros awgrymu y gall argaeledd gwybodaeth ar wefan wneud iawn am golli cyngor gyrfaoedd personol, proffesiynol a diduedd (Gyrfa Cymru, 2017).
Er gwaethaf y rhagfarn gynhenid yn system addysg Cymru yn erbyn galwedigaethedd, ar ôl datganoli llywodraeth i Gymru datblygwyd ymagwedd arloesol ac uchel ei pharch at addysg fenter gan Lywodraeth Cymru. Mae gweithredu’r strategaeth polisi yma wedi’i lesteirio’n sylweddol, fodd bynnag, gan:
• Gyfyngu meithrin cysylltiadau â chyflogwyr mewn ysgolion i Dosbarth Busnes a rhywfaint o waith gydag ysgolion cynradd, y diffyg meithrin cysylltiadau â BBaChau, y gostyngiad sylweddol mewn profiad gwaith a diffyg tystiolaeth am ei effaith.
• Ar wahân i ddatblygiadau addawol yn y Fagloriaeth Cymru newydd, y gostyngiad mewn addysg fenter yng nghwricwlwm ysgolion er 2010 fel effaith anfwriadol, ond i’w ddisgwyl, newid mewn cyfeiriad polisi gan Lywodraeth Cymru.
• Dirywiad parhaus mewn addysg alwedigaethol yng Nghymru ar adeg pan fu cyfleoedd ar gyfer prentisiaethau yn tyfu, gyda’r canlyniad mai dim ond 1.6% o’r rhai sy’n gadael ysgol yng Nghymru sy’n mynd i mewn i ryw fath o ddysgu yn seiliedig ar waith.
• Dirywiad pryderus yn y cyngor gyrfaoedd yn ysgolion Cymru yn arbennig o ran cyngor proffesiynol diduedd.
FSB Cymru: Uchelgais Genedlaethol: Addysg Fenter, Ysgolion ac Economi Cymru
Cyflwyniad
Mae’r ymagwedd model rhesymeg a oedd yn ffurfio’r sylfaen ar gyfer yr ymchwil a wnaed wrth baratoi’r adroddiad hwn wedi’i seilio ar y gred y byddai gan gryfhau lle addysg fenter yn ysgolion Cymru y potensial i gyflenwi ein pobl ifanc â mwy o ddiddordeb ac ymgysylltiad â’u haddysg a gwell siawns o bontio’n llwyddiannus o ysgol i gyflogaeth. Yn ei dro, gallai hyn helpu i dyfu economi Cymru a chreu cymdeithas fwy cyfiawn a theg yng Nghymru. Mae’r dystiolaeth a gasglwyd ynghyd ac a ddadansoddwyd gan yr adroddiad yn awgrymu y gallai’r amcanion hyn gael eu cyflawni trwy strategaeth addysg fenter newydd ar gyfer Cymru wedi’i ffurfio o’r elfennau canlynol:
• Strategaeth gyfannol ar gyfer addysg fenter sy’n cael ei datblygu gan Lywodraeth Cymru, cyflogwyr a sefydliadau rhanddeiliaid.
• Ymagwedd uchel ei broffil at feithrin cysylltiadau cyflogwyr ag ysgolion.
• Gwneud addysg fenter yn rhan annatod o’r cwricwlwm newydd ar gyfer Cymru.
• Lle llawer cryfach i addysg alwedigaethol o fewn ein hysgolion.
• Cyngor gyrfaoedd diduedd o ansawdd uchel ar gyfer pobl ifanc.
Er y dylai’r elfennau hyn o addysg fenter fod ar gael i bobl ifanc i gyd, er mwyn iddynt allu cyfrannu at oresgyn effaith tlodi ar gyrhaeddiad a chynnydd addysgol yng Nghymru, dylent fod â’r gynrychiolaeth gryfaf yn ein hysgolion a’n cymunedau mwyaf difreintiedig.
Mae Llywodraeth Cymru, yn dilyn diwedd y rhaglen YES a’i chyfranogiad gynllunedig yn y fenter REAP, wrthi ar hyn o bryd yn ystyried ei strategaeth yn y dyfodol ar gyfer addysg fenter. Gan adeiladu ar lwyddiannau’r degawd diwethaf yn y maes hwn, byd’n ymddangos yn synhwyrol i’r gwaith sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd mewn amrywiol rannau o Lywodraeth Cymru – yn yr Adran Busnes a’r Economi ar REAP, yr Adran Addysg a Sgiliau ar addysg fenter yn y cwricwlwm newydd ac yn yr Adran Pobl a Chymunedau i ddatblygu strategaeth cyflogadwyedd fel rhan o’i gwaith i ymladd tlodi a thyfu ffyniant, gael ei ddwyn at ei gilydd yn un strategaeth. Dylai sefydliadau sy’n allanol i Lywodraeth Cymru gyda buddiant breintiedig yn y maes hwn, yn cynnwys cyflogwyr, y Partneriaethau Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol a’r amrywiol sectorau addysg yng Nghymru fod â rhan ganolog hefyd wrth ddatblygu’r strategaeth fel bod iddi berchenogaeth eang.
Dylai’r strategaeth adlewyrchu natur amrywiol a datblygol economi Cymru. Er bod y sector corfforaethol yn bwysig i Gymru ac y bydd yn parhau i fod felly, mae BBaChau bellach yn ffurfio bron dwy ran o dair o gyfanswm cyflogaeth yng Nghymru (Llywodraeth Cymru, 2015). Er gwaethaf hyn mae wedi’i ddadlau bod gan Lywodraeth Cymru ddiddordeb parhaus yn denu mewnfuddsoddiad gan gwmnïau symudol a thrwy hynny ddynwared gwledydd eraill Gorllewin Ewrop (Brill et al, 2015). Mae wedi’i awgrymu, felly, mai’r hyn sydd ar Gymru ei angen yw ymagwedd economaidd newydd, sydd yng ngeiriau’r FSB yng Nghymru ‘yn adeiladu ar sylfeini BBaChau ym mhob rhan o Gymru ac yn rhoi mwy o bwyslais ar arbedion lle – gan ganiatáu ymagweddau mwy lleol at ddatblygu economaidd’ gyda meddwl diweddar ar yr hyn sy’n cael ei adnabod fel ‘yr economi sylfaen’ yn gweithredu fel sail (FSB Cymru, 2015; Brill et al, 2015; Jones, 2015; Adamson a Lang, 2014; Lang, 2016; Adamson a Lang, 2017).
Dylai strategaeth addysg fenter newydd gael ei seilio ar yr angen bod angen i Gymru wellai’i pherfformiad addysgol a sgiliau ei phoblogaeth. Mae’r arbenigwyr yn cytuno, er nad oes dim bwledi arian i ysbarduno perfformiad economaidd economïau sy’n llusgo ar ôl, megis Cymru, mai un o’r camau allweddol y gellir eu cymryd i fynd i’r afael â’r sefyllfa yma yw lleihau’r gyfran o unigolion gyda sgiliau a chymwysterau isel iawn. Maent yn cytuno hefyd y dylai hyn ganolbwyntio ar gyrhaeddiad ar amryw o lefelau ac na ddylent ganolbwyntio’n ormodol ar ben uchaf y sbectrwm (PPIW, 2016).
Mae Cymru fel rhan o economi ehangach y Deyrnas Unedig yn adlewyrchu’r hyn y mae economegwyr llafur yn ei ddisgrifio fel natur ‘awrwydr’ y farchnad lafur. Mae’r rhan fwyaf o bobl wedi’u cyflogi’n awr naill ai mewn swyddi sgiliau uchel/cyflog uchel neu swyddi sgiliau isel/cyflog isel. Mae dau ar hugain y cant o’n gweithwyr mewn swyddi â sgiliau isel, un o’r cyfrannau uchaf yn yr OECD ac yn cymharu â ffigur o 5 – 8% i’n cystadleuwyr (Keep, 2015; Cheese, 2015). O ystyried bod swyddi lefel sgiliau canolig yn diflannu o’r herwydd, mae’r oblygiadau o ran ein pobl ifanc yn camu ymlaen yn y farchnad lafur ac o ran symudedd cymdeithasol yn ddifrifol. Mae’r sefyllfa yma’n codi amheuaeth hefyd ynghylch y dybiaeth mai cyflogwyr sydd â diddordeb arbennig mewn asesiadau allanol megis y canlyniadau PISA, sydd, fel y tynnwyd sylw at yn adran flaenorol yr adroddiad hwn, wedi arwain at newidiadau sylweddol i’r system addysg yng Nghymru er 2010 sydd wedi cyfrannu at wthio addysg fenter i’r cyrion. Mae’n ymddangos bod y ffordd y mae cyflogwyr yn gweithredu yn y farchnad lafur yn gwrth-ddweud hyn yn llwyr.
Fel y mae Peter Cheese, Prif Weithredwr Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu yn tynnu sylw ato rydym yn byw mewn cyfnod o ‘yrfaoedd portffolio, contractau dim oriau, cyflogaeth ran-amser a hunangyflogaeth a thwf mewn cyflogwyr bach yn hytrach na chyflogwyr mawr’ (Cheese, 2015). Mae’r heriau a wynebir gan bobl ifanc sy’n dod wyneb yn wyneb â’r paramedrau newidiol hyn yn gofyn am strategaeth newydd uchelgeisiol ac addas i’r diben ar gyfer addysg fenter yng Nghymru fel ein bod yn gallu culhau’r ‘pellter rhwng yr ystafell ddosbarth a’r gweithle’ (Mann a Huddleston, 2015; t.6).
Gan adeiladu ar waith Dosbarth Busnes a mathau eraill o feithrin cysylltiadau â chyflogwyr sy’n digwydd ar hyn o bryd yng Nghymru, dylai meithrin cysylltiadau â chyflogwyr fod yn agwedd ganolog ar y strategaeth addysg fenter newydd yma. Gan adlewyrchu natur economi Cymru, dylai’r sector BBaCh fod â rhan gref yn y gwaith o feithrin cysylltiadau â chyflogwyr ac, felly, byddai angen i’r trefniadau adlewyrchu natur y sector BBaCh a’i broblemau capasiti. Dylid rhoi llawer mwy o bwyslais nag ar hyn o bryd ar feithrin cysylltiadau ag ysgolion cynradd gan adlewyrchu’r wybodaeth sydd gennym mai hwn yw’r amser gorau posibl i ddechrau ymgysylltu â phobl ifanc ynghylch eu dyheadau a’u dyfodol. O ystyried lleoliad llawer o’r BBaChau yn y gymuned, gallant fod mewn lle arbennig o dda i arwain ar hyn.
I gyflawni hyn, byddai’n synhwyrol dod â phawb sydd â diddordeb mewn meithrin cysylltiadau â chyflogwyr at ei gilydd. Gallai ymestyn gwaith Y Tasglu Addysg a Chyflogwyr i Gymru fod yn ffordd briodol o gyflawni hyn4:
Mae’r Tasglu Addysg a Chyflogwyr yn elusen yn y Deyrnas Unedig sy’n gweithio gyda phartneriaid cenedlaethol yn cynrychioli ysgolion, colegau a chyflogwyr i ddarparu rhaglenni ar gyfer ysgolion (yn cynnwys y rhaglen Primary Futures), gweithgareddau rhwydweithio ac ymgymryd ag ymchwil a chyhoeddiadau. Ei nod yw sicrhau bod gan bob ysgol a choleg bartneriaeth effeithiol gyda chyflogwyr.
Mae’r Elusen yn rhedeg y rhaglen Ysbrydoli’r Dyfodol sy’n cysylltu ysgolion gwladol a cholegau â chyflogwyr a phobl o fyd gwaith. Mae athrawon yn gallu gwahodd gwirfoddolwyr yn rhwydd ac yn ddi-gost i ymweld a siarad â phobl ifanc ynghylch eu swydd, gyrfa a’r llwybr addysg y gwnaethant ei gymryd.
Nid yw’n ymddangos bod y sefydliad hwn yn gweithredu yng Nghymru ar hyn o bryd, ond ni ymddengys fod unrhyw reswm paham na ellid gofyn iddo arwain strategaeth meithrin cysylltiadau â chyflogwyr newydd yng Nghymru gan weithio o bosibl gyda Gyrfa Cymru, sydd ar hyn o bryd yn datblygu cronfa ddata o gyflogwyr (Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2017).
4. http://educationandemployers.org
Dylai ymagwedd newydd at feithrin cysylltiadau â chyflogwyr gynnwys ailgyflwyno’r profiadau gwaith i bobl ifanc yng Nghymru sydd wedi’u colli yn y blynyddoedd diwethaf. Fel y tynnwyd sylw ato uchod mae addysg fenter yn llawer mwy effeithiol os yw’n rhoi’r profiad o weithleoedd go iawn i bobl ifanc (Husband, 2015) ac mae colli hyn yn y blynyddoedd diwethaf oherwydd newidiadau yn Gyrfa Cymru wedi bod yn anhawster mawr. Er bod yn ôl pob tebyg fodd cwestiynu effaith y profiad gwaith a wnaed yn y gorffennol, petai i ddod yn agwedd gynlluniedig ac integredig ar y cwricwlwm newydd a phetai’n cynnwys llawer mwy o gyfranogiad gyda BBaChau lleol yng Nghymru, gallai’i botensial sylweddol gael ei wireddu.
Mae persbectif cyflogwr o’r hyn a allai gael ei gynnwys hefyd mewn ymagwedd newydd at feithrin cysylltiadau â chyflogwyr yng Nghymru yn cael ei ddarparu gan y cynnig hwn gan Bartneriaeth Dysgu, Medrau ac Arloesi Rhanbarthol Gogledd Cymru (2016; t.19):
‘‘Mae angen i dargedu penodol ddigwydd o fewn ysgolion yn gynharach o ran oed a gan fynd i’r afael â’r diffyg mewn cyfarwyddyd gyrfaoedd a phrofiad gwaith. I gyfannu’r datblygiadau’n genedlaethol ym
Magloriaeth Cymru, mae angen inni ystyried gweithio gyda chyflogwyr rhanbarthol i ddatblygu Pecyn Cymorth Gogledd Cymru o ‘Sgiliau Cyflogadwyedd’. Byddai cwblhau’r pecyn cymorth yn llwyddiannus gan y cyfranogwyr yn help iddynt gwrdd â disgwyliadau marchnad lafur cytunedig a galwadau cyflogwyr yn y dyfodol o fewn ein sectorau twf’’.
Y Cwricwlwm Ysgol
O ystyried sefyllfa wan addysg fenter yn y cwricwlwm ysgol presennol, mae datblygu cwricwlwm ysgol newydd yng Nghymru ar hyn o bryd yn rhoi cyfle amserol i fynd i’r afael â’r sefyllfa yma. Yn dilyn adolygiad Graham Donaldson i Lywodraeth Cymru penderfynwyd mabwysiadu ei argymhellion i gyd a dechrau’r broses o ddatblygu cwricwlwm newydd a fyddai’n cael ei gyflwyno rhwng 2018 a 2021 (Donaldson, 2015).
Un o bedwar pwrpas y cwricwlwm newydd yw datblygu ‘cyfranwyr mentrus, creadigol, sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith’. Dylai pobl ifanc fentrus a chreadigol fod â’r gallu i:
• Gymhwyso gwybodaeth a sgiliau i greu syniadau a chynhyrchion.
• Feddwl yn greadigol i ddatrys problemau.
• Glustnodi a dal ar gyfleoedd.
• Cymryd risgiau pwyllog.
• Arwain a chwarae gwahanol rôl mewn timau.
Roedd yr adroddiad yn cydnabod yn llawn fod anghenion cyflogwyr a’r gweithle yn ddylanwadau pwysig ar y cwricwlwm ysgol ac os yw pobl ifanc i symud yn rhwydd ac yn llwyddiannus i gyflogaeth, dylent gael eu hadlewyrchu yn y cwricwlwm newydd. Mae creadigrwydd a menter yn cael eu hystyried yn nodweddion canolog ar fywyd cyfoes a ddylai gael eu datblygu a’u hymestyn trwy gydol addysg. Mae angen i bobl ifanc ‘fod yn barod i fynd i mewn i fyd oedolion gyda’r sgiliau, anianau ac agweddau ‘meddalach’ a fydd yn hanfodol yn eu bywydau yn y dyfodol’ (Donaldson, 2015; t.28).
Bydd fframwaith y cwricwlwm newydd wedi’i ffurfio o 4 maes trawsbynciol (asesiad a dilyniant, cyfoethogi a phrofiad, sgiliau trawsgwricwlaidd a sgiliau ehangach) a chwech o Feysydd Dysgu a Phrofiad (AOLEs), sy’n cymryd lle strwythur presennol y cwricwlwm sy’n seiliedig ar bynciau. Mae gwaith datblygu cychwynnol yn 2016 ac i mewn i 2017 wedi canolbwyntio ar y meysydd trawsbynciol fel bod y rhain yn gallu dylanwadu ar ddatblygiad y Meysydd Dysgu a Phrofiad a ddechreuodd yn 2017 ac sy’n mynd ymlaen ar hyn o bryd.
Mae datblygiad y cwricwlwm newydd wedi’i ddylanwadu gan brofiad y Cwricwlwm er Rhagoriaeth yn yr Alban. Mae’r strategaeth ar gyfer addysg fenter yn yr Alban wedi’i nodi yn y Strategaeth Cyflogaeth
Ieuenctid a ddatblygodd Llywodraeth yr Alban yn dilyn gwaith y Comisiwn er Datblygu Gweithlu Ifanc yr Alban (Llywodraeth yr Alban, 2014). Mae’n mynnu bod y system addysg a chyflogwyr yn gweithio’n agos gyda’i gilydd i gyflenwi pobl ifanc â’r sgiliau a’r wybodaeth y bydd arnynt eu hangen i ffynnu mewn gwaith. Mae canllawiau wedi’u darparu ar gyfer Partneriaethau Ysgolion a Chyflogwyr (Llywodraeth yr Alban, 2015).
Mae’r datblygiadau hyn wedi’u cyfunioni â datblygiad y cwricwlwm newydd yn yr Alban (y Cwricwlwm er Rhagoriaeth) sydd wedi bod ar fynd er 2009. Un o amcanion allweddol y cwricwlwm yw datblygu ‘sgiliau ar gyfer dysgu, sgiliau ar gyfer bywyd a sgiliau ar gyfer gwaith’. Mae hyn yn annog ysgolion a’u partneriaid i gynnig amrywiaeth eang o lwybrau, yn cynnwys cymwysterau galwedigaethol, yn unol â galwadau’r farchnad lafur gyfoes (Llywodraeth yr Alban, 2009).
Mae’n ymddangos, fodd bynnag, er gwaethaf uchelgeisiau clodfawr y Cwricwlwm er Rhagoriaeth a’r Strategaeth Cyflogaeth Ieuenctid mai prin yw’r cynnydd sydd wedi’i wneud hyd yn hyn wrth sefydlu addysg fenter yn gryf yn ysgolion yr Alban. Mae’n ymddangos bod meddu ar strategaethau uchelgeisiol a chynigion cwricwlwm arloesol yn annigonol, ynddynt eu hunain, i newid profiad pobl ifanc.
Yr unig agweddau ar ddatblygiadau’r cwricwlwm newydd yng Nghymru sydd yn gyhoeddus ar hyn o bryd yw adroddiadau byr y grwpiau a fu’n gweithio ar y themâu trawsbynciol . Tra bod yr adroddiad sgiliau ehangach yn cyfeirio at ‘addysg entrepreneuriaeth’ ac yn nodi bod tystiolaeth am y maes hwn wedi dylanwadu ar eu meddwl, dyma’r unig sôn penodol am addysg fenter yn y pedair dogfen y bwriedir iddynt ddylanwadu ar ddatblygiad y Meysydd Dysgu a Phrofiad.
Tra bod datblygiad y cwricwlwm newydd yn broses barhaus wrth gwrs, nid yw’r sefyllfa yma’n rhoi hyder mewn perthynas â lle a rôl addysg fenter yn y dyfodol o fewn y cwricwlwm newydd. Efallai y gellid fod wedi gobeithio y byddai datganiadau llawer cryfach ynghylch pwysigrwydd yr agwedd yma ar y cwricwlwm yn themâu trawsbynciol sgiliau ehangach, sgiliau trawsgwricwlaidd a chyfoethogi/profiad ble gallai fod cryn botensial ym mhob achos. Byddai hyn wedyn yn cynnig cyfeiriad cryf i ddatblygiad y Meysydd Dysgu a Phrofiad yn adlewyrchu argymhellion yr OECD a Phwyllgor Busnes a Menter Cynulliad Cenedlaethol Cymru y dylai addysg fenter gael ei sefydlu trwy’r cwricwlwm i gyd (Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2013; Mann a Huddleston, 2015).
Nid yw’n glir chwaith sut y bydd addysg alwedigaethol wedi’i chynrychioli yn y cwricwlwm newydd (Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru, 2015) mewn modd sy’n adeiladu ar y TGAU Mathemateg newydd yng Nghymru sydd wedi’i roi yn enghraifft dda o sut y gellir gwneud cymhwyster yn berthnasol i’r gweithle (Pollard, 2015). Gallai’r arfer diddorol sy’n cael ei ddatblygu yn y Fagloriaeth Cymru newydd fod yn fodel hefyd ar gyfer sut y gellid ymgorffori addysg fenter yn y cwricwlwm mewn cyfnodau cynharach, gan adlewyrchu’r gwaith y mae rhai ysgolion yn ymgymryd ag ef yn barod yn ôl pa un y mae cwricwlwm a pedagogeg y Fagloriaeth yn cael eu defnyddio i ddylanwadu ar ddarpariaeth y cwricwlwm yng Nghyfnodau Allweddol 3 a 2 trwy’r hyn y mae ysgolion yn cyfeirio ato weithiau fel y ‘Fagloriaeth fach’.
Un o’r egwyddorion sylfaenol a nodwyd ar gyfer y cwricwlwm yn adroddiad Donaldson oedd un ‘sybsidiaredd, yn ôl pa un y byddai Llywodraeth Cymru, ar ôl gosod cyfeiriad cyffredinol y cwricwlwm newydd, yn rhoi ymddiriedaeth mewn ysgolion ac athrawon ‘i ddilyn yr arweiniad hwnnw mewn ffyrdd a fydd yn gwasanaethu eu plant a’u pobl ifanc yn dda’ (Donaldson, 2015; t 99). Mae ymchwil ar ecosystemau addysg a hyfforddiant wedi awgrymu bod ‘yr economi leol a daearyddiaeth, dirnadaeth pobl ifanc o’r cyfleoedd sydd ar gael iddynt, normau a thraddodiadau eu rhieni a’u cymunedau’ yn cyfuno â’i gilydd i ddylanwadu ar sut y mae pobl ifanc yn gweld eu dyfodol a sut y bydd eu haddysg yn dylanwadu ar hyn (Hodgson a Spours, 2013; t. 214; gweler hefyd James ac Unwin, 2016)). Fe all addysg fenter, felly, roi cyfle
5. http://cuuriculumforwales.gov.wales/2017/03/08/welsh-dimension-international-perspectives-and-wider-skills-findings-from-the-strategic-designgroup https://curriculumforwales.gov.wales/2017/03/08/enrichment-and-experiences-findings-from-the-strategic-design-group https://curriculumforwales.gov.wales/2017/03/07/cross-curriculum-responsibilities-findings-from-the-strategic-design-group
rhagorol i gryfhau sybsidiaredd trwy adlewyrchu gwahanol gyd-destunau marchnad llafur sy’n bodoli ar draws Cymru.
Dadleuwyd yn adran flaenorol yr adroddiad hwn nad oedd addewid uchel y strategaeth addysg fenter a ddatblygwyd yng Nghymru ar ôl 2004 wedi’i gyflawni am amrywiol resymau, yn cynnwys ei wthio i’r cyrion yn y cwricwlwm ysgol. Os yw hyn i gael sylw yn llwyddiannus yn y cwricwlwm newydd ymddengys fod yna rai cwestiynau tyngedfennol bwysig i’w hystyried os nad yw’r cyfle hwn i’w golli.
Addysg alwedigaethol
Bydd angen i gyflwr enbyd addysg alwedigaethol mewn ysgolion yng Nghymru ar hyn o bryd gael sylw ar frys hefyd os yw addysg fenter i’w gyrru yn ei blaen. Bydd angen i’r rhagfarn gynhenid sy’n bodoli yn erbyn galwedigaethedd, yn cael ei chefnogi gan gyfundrefn atebolrwydd sy’n breintio cymwysterau a llwybrau datblygu traddodiadol, gael ei herio fel un sy’n rhwystrol i gynnig i bobl ifanc amrywiaeth eang o gyfleoedd i gyd-fynd â’u diddordebau a’u doniau, eu camu ymlaen i lwybrau gyrfa atyniadol a thwf economi Cymru.
Fe ellid dadlau fod addysg alwedigaethol am yn rhy hir – yn cynnwys yn ystod cyfnod y Rhaglen Llwybrau Dysgu 14 – 19 yng Nghymru – wedi dioddef trwy geisio cyfwerthedd ffug ag addysg ‘academaidd’ yn hytrach na sefydlu’i gymeriad arbennig ei hun. Hyn a’r wybodaeth brin iawn sydd gan athrawon a phrifathrawon – heb sôn am staff awdurdodau lleol a llawer o arolygwyr Estyn – am y gweithle cyfoes a natur newidiol gwaith, fu’r ffactorau pwysig yn ôl pob tebyg yn arwain at ddirnadaeth negyddol o addysg alwedigaethol (James ac Unwin, 2016).
Trasiedi’r sefyllfa yma yw bod tystiolaeth ymchwil rhyngwladol yn ei gwneud yn glir ei bod yn well gan bobl ifanc sydd mewn perygl o ymddieithrio o addysg gymwysterau a llwybrau mwy galwedigaethol ac ymarferol a’u bod yn ymateb yn well iddynt ac mae hyn yn cyfrannu hefyd at eu pontio llwyddiannus i addysg a hyfforddiant ôl-16 ac yn y diwedd i gyflogaeth (Bielby et al, 2012). Mae Ewart Keep yn dadlau, er mwyn mynd i’r afael â’r sefyllfa yma, fod angen inni weld dim llai na chwyldro yn narpariaeth llwybrau dysgu seiliedig ar waith ar Lefel 3 i bobl ifanc fel rhan o’u pontio i gyflogaeth, sydd yn ei dro yn gallu dylanwadu ar lwybrau camu ymlaen ar lefel 1 a 2 (Keep, 2015).
Yn Lloegr, yn dilyn adolygiad pwysig o addysg dechnegol (Y Panel Annibynnol ar Addysg Dechnegol, 2016) penderfynwyd cyflwyno pymtheg o lwybrau technegol newydd (lefelau T) ar gyfer pobl ifanc, a ategir gan gyflogwyr ac sydd ar gael trwy Gyrff Dyfarnu trwyddedig. Bydd y rhain ar gael o Lefel 2 trwodd i Lefel 5 a byddant yn anelu at ddatblygu’r sgiliau technegol sydd eu hangen arnynt i sicrhau cyflogaeth sgil uchel.
Mae Alison Wolf, a wnaeth adolygiad pwysig o gymwysterau galwedigaethol yn 2011 (Wolf, 2011) a oedd yn herio gwerth a thrylwyredd llawer a oedd yn cael eu cynnig bryd hynny i bobl ifanc, yn credu y bydd y cymwysterau newydd yn darparu ‘dewis arall go iawn yn lle Safon Uwch, un sydd â’i sail resymegol a’i fri ei hun’ fel y byddai’r addysg alwedigaethol o ansawdd uchel a argymhellodd hi yn ei hadroddiad yn dod yn realiti yn awr (Times Educational Supplement, 18 Tachwedd, 2016).
Mae’r datblygiad hwn yn ymddangos yn wir ei fod yn cwrdd â gofynion y prif arbenigwyr yn y maes hwn sydd wedi dadlau’n hir mai’r hyn yr oedd ar y Deyrnas Unedig ei angen oedd llwybrau galwedigaethol o ansawdd uchel a oedd yn cynnig llwybrau gyrfa cyffredinol yn hytrach na llwybrau galwedigaethol i bobl ifanc a thrwy hynny’n adlewyrchu systemau galwedigaethol llwyddiannus Ewrop megis yr enghraifft o’r Almaen a gyflwynwyd yn adran 2 yr adroddiad hwn (Keep, 2015).
Byddai’n ymddangos yn dra synhwyrol bod datblygiad y genhedlaeth newydd yma o gymwysterau galwedigaethol yn Lloegr yn cael ei adlewyrchu gan ddatblygiad tebyg yng Nghymru. O ystyried y gwaith
FSB Cymru: Uchelgais Genedlaethol: Addysg Fenter, Ysgolion ac Economi Cymru
y maent yn ei wneud ar hyn o bryd i resymoli cymwysterau galwedigaethol yn seiliedig ar sectorau fel rhan o’u strategaeth cymwysterau galwedigaethol gyffredinol, fe allai Cymwysterau Cymru fod mewn lle da i ymgymryd â’r datblygiad hwn (Cymwysterau Cymru, 2016 a & b). Fe allai fod y potensial hefyd i integreiddio cymwysterau o’r fath yng Nghymru ym Magloriaeth Cymru i ddarparu ‘Bagloriaeth Dechnegol’.
Byddai angen i’r nifer siomedig sy’n derbyn cyfleoedd prentisiaeth yng Nghymru a nodwyd yn adran flaenorol yr adroddiad hwn gael sylw hefyd fel rhan o ymagwedd newydd at addysg alwedigaethol. Fel y clywodd ymchwiliad 2017 gan Bwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau Cynulliad Cenedlaethol Cymru mewn tystiolaeth, mae amrywiol faterion i’w hystyried yma. Mae angen i fwy o gyflogwyr gael eu perswadio i gynnig prentisiaethau gyda dim ond 13% yn gwneud hynny yng Nghymru ar hyn o bryd. Fe allai fod potensial sylweddol yma i’r sector BBaCh pe gellid ystwytho gofynion prentisiaethau i gwrdd â’r problemau capasiti sy’n gysylltiedig â busnesau bach. Yn amlwg mae angen gwelliannau yn y Gwasanaeth Paru Prentisiaethau presennol fel bod mwy yn dod ar gael yn ystod y cyfnodau pan fo pobl ifanc wrthi’n weithredol yn ymorol am fynd i mewn i’r farchnad lafur (Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2017).
Ym marn Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (2015) mae trefnu bod prentisiaethau iau neu gynbrentisiaethau ar gael o 14 oed fel rhan o ddilyniant pobl ifanc i’w blynyddoedd cyn-hyfforddi/ cyflogaeth yn werth ei ystyried hefyd. Mae herio’r ddirnadaeth fod prentisiaethau ond yn addas ar gyfer disgyblion isel eu cyrhaeddiad neu’r rheini nad ydynt yn addas ar gyfer addysg uwch yn bosibl yn awr trwy argaeledd prentisiaethau lefel uchel, sy’n unigryw i Gymru. Er nad yw’r rhain ddigon hysbys eto yn ôl pob tebyg, mae’u niferoedd wedi tyfu’n sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf (Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2017).
Mae’n ymddangos, felly, mai datblygu cymwysterau galwedigaethol newydd yng Nghymru a gwneud y rhai presennol yn fwy ar gael ac yn fwy atyniadol yw’r ffordd ymlaen. A fydd yn ddigon, fodd bynnag, i oresgyn y ddirnadaeth negyddol sydd wedi andwyo galwedigaethedd yng Nghymru a’r gystadleuaeth sydd wedi bodoli’n draddodiadol rhwng darparwyr addysg ôl-14 ac ôl-16? Mae ymchwiliad diweddar y Cynulliad Cenedlaethol wedi crybwyll y posibilrwydd y dylai fod targedau dysgu sy’n seiliedig ar brentisiaeth/waith i ysgolion yng Nghymru a bu dyfalu yn y gorffennol hefyd y gallai ysgolion gael eu dal yn atebol neu hyd yn oed eu harolygu mewn perthynas â thargedau cyrchfan eu myfyrwyr. Fe all y rhain ymddangos yn fesurau eithafol ac y byddai’n llawer gwell gobeithio y gellid eu hosgoi, ond pan fo dim ond 1.6% o’r myfyrwyr sy’n gadael ysgol yn mynd ymlaen ar hyn o bryd i lwybrau dysgu yn seiliedig ar waith, yn cynnwys prentisiaethau, mae’n amlwg fod taer angen cryfhau addysg alwedigaethol fel rhan o ddatblygu addysg fenter yng Nghymru.
Cyngor gyrfaoedd
Mae’n ymddangos fod cytundeb cyffredinol fod angen i bobl ifanc i gyd gael cyngor gyrfaoedd sy’n uchel ei ansawdd ac yn ddiduedd os ydynt am gyflawni eu potensial. Ym marn Prif Weithredwr Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu mae ‘dyheadau afrealistig, anwybodaeth ynghylch galwadau a chyfleoedd y farchnad lafur a gwydnwch a sgiliau gwaith personol annatblygedig’ yn rhoi pobl ifanc dan anfantais enfawr ar hyn o bryd pan fyddant yn mynd i mewn i’r farchnad swyddi (Cheese, 2015; t.14). Ym marn Ewart Keep os na allwn ni oresgyn y sefyllfa yma ‘waeth inni roi’r gorau iddi ddim’ (Keep, 2015, t.6).
Gellir gweld pwysigrwydd fod y cyngor hwn yn ddiduedd mewn perthynas â’r ddirnadaeth gynyddol mai’r unig ddilyniant teilwng i bobl ifanc ar ôl ysgol yw i addysg uwch. Mae Prif Weithredwr Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu yn tynnu sylw at y ffaith fod lefel ffioedd myfyrwyr mor uchel bellach fel bod y tebygrwydd y bydd myfyrwyr yn cael eu cosbi am wneud y dewis gyrfa anghywir yn uwch nag erioed a bod dewis hyfforddiant yn seiliedig ar waith yn debygol o gyflenwi’r unigolyn a’r cyflogwr â gwell gwerth economaidd beth bynnag (Cheese, 2015). Gan nodi bod y rhan fwyaf o raddedigion yn cychwyn cyflogaeth
yn awr ar lefel a fydd yn golygu na fyddant byth yn gallu ad-dalu eu benthyciadau, mae Ewart Keep yn tynnu sylw at ‘ein hobsesiwn cenedlaethol gydag addysg uwch ar draul y mwyafrif o bobl ifanc nad ydynt yn mynd i Brifysgol’ (Keep, 2015; t.18).
Ar sail y sefyllfa yma, mae cyflwr enbyd addysg gyrfaoedd yng Nghymru ar hyn o bryd, fel y’i disgrifiwyd yn adran flaenorol yr adroddiad hwn, yn faes sy’n peri pryder mawr. Beth sydd ei angen i fynd i’r afael â’r sefyllfa yma? Yn 2014 fe wnaeth Sefydliad Gatsby ymgymryd ag adolygiad pwysig o addysg gyrfaoedd yn y Deyrnas Unedig (Gatsby, 2014). Bu iddynt nodi wyth meincnod ar gyfer cyfarwyddyd gyrfaoedd da:
• Rhaglen yrfaoedd sefydlog ym mhob ysgol y mae disgyblion, rhieni, athrawon, llywodraethwyr, a chyflogwyr yn gwybod amdani ac yn ei deall.
• Dysgu oddi wrth wybodaeth am yrfaoedd a’r farchnad lafur a ddarperir gan gynghorwr gwybodus.
• System cyngor a chymorth wedi’i theilwra i ddiwallu anghenion pob disgybl.
• Dylai pob athro neu athrawes gysylltu dysgu’r cwricwlwm â gyrfaoedd.
• Dylai pob disgybl gael cyfleoedd lluosog i ddysgu gan gyflogwyr am waith, cyflogaeth a’r sgiliau sy’n cael eu gwerthfawrogi yn y gweithle.
• Dylai pob disgybl gael profiadau uniongyrchol o’r gweithle trwy ymweliadau gwaith, cysgodi gwaith a phrofiad gwaith.
• Dylai pob disgybl ddeall yr amrediad llawn o gyfleoedd dysgu sy’n agored iddynt, yn cynnwys llwybrau galwedigaethol yn ogystal â llwybrau academaidd.
• Dylai pob disgybl gael cyfleoedd ar gyfer cyfweliadau cyfarwyddyd gyda chynghorwr gyrfaoedd wedi’i hyfforddi i lefel briodol.
Yng Nghymru ar hyn o bryd rydym yn bell iawn oddi wrth gwrdd â’r disgwyliadau hyn. Bu hyn bob amser yn wir gyda disgyblion cynradd ac yn fwyfwy mae hyn yn ymddangos yn annerbyniol. Yn deillio o’r newidiadau yn y blynyddoedd diwethaf, mae hyn bellach yn wir mewn addysg uwchradd hefyd. Sut y gellir mynd i’r afael â hyn fel rhan o strategaeth addysg fenter newydd i Gymru?
Yn yr oes yr ydym yn byw drwyddi mae’n ymddangos yn afrealistig disgwyl y gallai’r arian a gollodd Gyrfa Cymru gael ei adfer yn rhwydd ac fe ellid gofyn ai hyn oedd naill ai’r peth iawn i’w wneud neu a fyddai’n ddigonol i gwrdd â’r heriau a wynebwn. Mae ymchwiliad diweddar Cynulliad Cenedlaethol Cymru i brentisiaethau wedi clywed tystiolaeth yn awgrymu y dylem fynd â chyngor gyrfaoedd i bobl ifanc yn ei flaen drwy ysgolion a cholegau yn gweithio ar y cyd â chyflogwyr a’r capasiti sydd ar ôl sy’n cael ei ddarparu gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd i ddod o hyd i ffordd ymlaen (Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2017). Bydd sut y gellir gwneud i hyn ddigwydd ar lefel systemig yn peri her, ond yn amlwg mae’n un y mae’n rhaid ei hwynebu. Fel modd o sicrhau bod pobl ifanc i gyd yn derbyn yr hawl yma gall y cynnig y dylid ei wneud yn orfodol i ysgolion ddarparu addysg gyrfaoedd fel rhan o drefniadau’r cwricwlwm newydd ac y dylid gofyn i Estyn arolygu hyn yn erbyn y gofyn hwn fod yn gam cyntaf angenrheidiol.
Addysg fenter a thegwch addysgol
Gellir dadlau mai’r her fwyaf a wynebir gan y system addysg yng Nghymru yw lefelau cyrhaeddiad cymharol isel ei phlant mwyaf difreintiedig a’r canlyniadau sydd i hyn i gymdeithas Cymru a’i heconomi. Mae tua thraean o’n plant yn byw mewn tlodi plant ac mae llawer mwy o deuluoedd yn byw’n agos i’r llinell honno. Er bod cynnydd da wedi’i wneud yn y blynyddoedd diwethaf trwy roi mwy o sylw i’r maes hwn, mae plant o’n teuluoedd a’n cymunedau mwyaf difreintiedig yn cyflawni’n llawer is na phlant mwy breintiedig ym mhob grŵp oedran, ac mae’r bwlch mwyaf yn TGAU ble nad yw tua 70 y cant o fyfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig yn ennill 5 gradd pasio TGAU ‘dda’, yn cynnwys Saesneg a Mathemateg. Er bod tlodi wedi’i wasgaru ar draws Cymru, yn y cymunedau mwyaf difreintiedig sydd i’w cael yn y cymoedd ôl-ddiwydiannol a rhannau o’n dinasoedd, mae lefelau cyrhaeddiad hyd yn oed yn is (Egan, 2016 a 2017).
FSB Cymru: Uchelgais Genedlaethol: Addysg Fenter, Ysgolion ac Economi Cymru
Tra bod goresgyn effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol yn fater cymhleth, mae ymchwil yn y maes hwn yn pwyntio fwyfwy at dri maes y mae angen iddynt gael sylw os yw newid sylweddol i’w wneud. Y cyntaf o’r rhain yw buddsoddi yn addysg y blynyddoedd cynnar, cyn i’r plant gyrraedd yr ysgol yn ogystal ag ym mlynyddoedd cynnar addysg: yn wir, mae’r dystiolaeth yn awgrymu mai dyma ble gellir gwneud yr enillion mwyaf a mwyaf cost-effeithiol. Yr ail faes, ymyrryd yn gynnar, yw sicrhau, ar ba bynnag bwynt neu oed y mae pobl ifanc ar eu siwrnai addysgol, bod ymyriadau’n cael eu gwneud cyn gynted ag y byddant yn ymddieithrio ac yn cael eu gadael ar ôl yn eu dysgu. Mae strategaethau llwyddiannus yma’n cynnwys sicrhau bod eu lles yn cael ei gefnogi fel bod ganddynt y gwydnwch a’r hyder i lwyddo, eu bod yn dod dan ddylanwad athrawon ac addysgu rhagorol, bod clust i’w llais mewn perthynas â’u diddordebau a’u hanghenion a bod ysgolion yn ennyn diddordeb eu rhieni a’u teuluoedd wrth gefnogi’u dysgu.
Mae’r trydydd ffactor yn dyngedfennol o bwysig os yw’r buddsoddiadau a wnaed yn y blynyddoedd cynnar a thrwy gydol y siwrnai addysg i arwain at roi cyfle i bobl ifanc difreintiedig symud allan o dlodi a thrwy hynny gyfrannu at eu teuluoedd a’u cymunedau yn symud ymlaen hefyd. Cyflogadwyedd yw hwnnw: oni bai bod pobl ifanc yn cael y cyfleoedd i symud ymlaen i gyflogaeth gweddol ddiogel, â chyflog da ni fyddant yn gallu dianc tlodi a bydd y buddsoddiadau sydd wedi’u gwneud yn eu datblygiad cynharach wedi bod yn wastraff.
Fel yr amlygwyd yn gynharach yn yr adroddiad hwn, bydd addysg fenter sy’n cynnwys meithrin cysylltiadau â chyflogwyr, arlwy cwricwlwm cytbwys sy’n cynnwys llwybrau galwedigaethol cryf a chyngor gyrfaoedd o ansawdd uchel yn arbennig o bwysig i’r mwyaf difreintiedig yn ein cymdeithas. Bydd yn bwysig, felly, fod unrhyw strategaeth addysg fenter newydd ar gyfer Cymru yn cael ei thargedu’n gryf ar ein pobl ifanc, ysgolion a chymunedau mwyaf difreintiedig. Dylai’u hanghenion o addysg gynradd ble mae meithrin uchelgais mor bwysig, trwy gwricwlwm ysgol sy’n eu cyflenwi ag ymwybyddiaeth dda o gyfleoedd yn y marchnadoedd llafur lleol ac ehangach, cyngor gyrfaoedd o’r ansawdd uchaf a llwybrau galwedigaethol cryf yn ogystal â rhai academaidd, arwain at iddynt ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd cryf yn barod i gymryd cyfleoedd cyflogaeth ble maent ar gael.
Yn ogystal â sicrhau bod yr agwedd ‘cyfiawnder cymdeithasol’ yma’n cael ei hadlewyrchu mewn strategaeth addysg fenter newydd ac ym meysydd priodol polisi addysg yng Nghymru, dylid rhoi ystyriaeth i sut, ar lefel ysgolion yn ein hardaloedd mwyaf difreintiedig, y gellir gweithredu ar hyn. Byddai’r awgrym a wnaed gan Chris Husband y dylai fod cydlynwyr a ariennir yn yr ardaloedd hyn yn gweithio rhwng ysgolion, colegau a chyflogwyr i sicrhau bod llwybrau mwy strwythuredig yn eu lle ar gyfer ein myfyrwyr mwyaf bregus yn werth ei archwilio (Husband, 2015).
Casgliad
Dylai Strategaeth Addysg Fenter newydd i Gymru gael ei datblygu a dylai gynnwys ymagwedd newydd at feithrin cysylltiadau â chyflogwyr, lle cryfach i addysg fenter yn y cwricwlwm a chryfhau lle addysg alwedigaethol yn ysgolion Cymru. Yn ogystal dylai’r strategaeth ystyried dyfodol ac ansawdd addysg gyrfaoedd a’i rôl wrth ddarparu cyfleoedd i ymgysylltu â phobl ifanc, ysgolion a chymunedau difreintiedig.
6.1 Gellir disgwyl yn rhesymol y bydd pobl ifanc yng Nghymru, trwy’u haddysg ysgol, yn dod yn:
• Fentrus a chreadigol.
• Wybodus ynghylch cyfleoedd gyrfa a chyflogaeth yn y dyfodol.
• Gyflogadwy trwy fod wedi ennill y sgiliau a’r cymwysterau iawn.
6.2 Mae datblygiad addysg fenter mewn systemau ysgol wedi arwain at effeithiau cadarnhaol ar gymhelliant, cyrhaeddiad a chynnydd disgyblion. Mae’i heffaith lawn wedi’i gyfyngu, fodd bynnag, gan amrywiadau yn ei maint a’i hansawdd o fewn systemau ysgol, diffyg cyfranogiad BBaChau wrth feithrin cysylltiadau â chyflogwyr, ei diffyg bodolaeth mewn ysgolion cynradd, ei bodolaeth gyfyngedig o fewn cwricwla ysgolion, diffygion yn y cyngor gyrfaoedd a’r ffaith nad yw myfyrwyr difreintiedig yn aml yn mwynhau profiadau o safon.
6.3 Ers datganoli mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu ymagwedd uchel ei pharch at addysg fenter yng Nghymru. Mae’i heffaith, fodd bynnag, wedi’i lesteirio gan:
• Brinder meithrin cysylltiadau cyflogwyr ag ysgolion.
• Ei lle llai o fewn y cwricwlwm ysgol.
• Gwendid addysg alwedigaethol yn ysgolion Cymru.
• Maint ac ansawdd addysg gyrfaoedd.
6.4 Dylai strategaeth newydd gyfannol, dan berchenogaeth eang ar gyfer addysg fenter yng Nghymru gael ei datblygu a dylai gynnwys yr elfennau canlynol:
• Ymagwedd newydd at feithrin cysylltiadau â chyflogwyr sy’n cynnwys ysgolion cynradd a llawer mwy o gyfranogiad gan BBaChau.
• Lle llawer cryfach i addysg fenter yn y cwricwlwm ysgol newydd i Gymru nag y cynllunnir ar ei gyfer ar hyn o bryd.
• Cryfhau addysg alwedigaethol yn sylweddol yn ysgolion Cymru.
• Darparu cyngor gyrfaoedd o ansawdd uchel ar gyfer pob disgybl cynradd ac uwchradd.
• Bod ffocws arbennig ar yr uchod yn ei le ar gyfer ein pobl ifanc, ysgolion a chymunedau mwyaf difreintiedig.
7.1 Dylai Llywodraeth Cymru gymryd yr awenau wrth ddod â chyflogwyr, y Partneriaethau Dysgu, Medrau ac Arloesi Rhanbarthol a chynrychiolwyr yr amrywiol sectorau addysg yng Nghymru at ei gilydd i ddatblygu strategaeth addysg newydd, a berchenogir ar y cyd, i Gymru.
7.2 Dylai’r strategaeth gael ei datblygu o amgylch yr elfennau canlynol:
• Addewid meithrin cysylltiadau â chyflogwyr sy’n galluogi’r sector corfforaethol a BBaChau i ddatblygu partneriaeth gyda phob ysgol gynradd ac uwchradd yng Nghymru.
• Gwneud addysg fenter yn rhan annatod o bob Maes Dysgu a Phrofiad yn y cwricwlwm newydd yng Nghymru.
• Datblygu llwybr galwedigaethol newydd i fyfyrwyr yn ysgolion Cymru wedi’i seilio ar gyfres o gymwysterau technegol a llwybrau haws eu cyrchu at brentisiaethau.
• Bod cyngor gyrfaoedd o ansawdd uchel ar gael i bob disgybl ysgol gynradd ac uwchradd yng Nghymru.
• Y cynnig i bob person ifanc o gefndir difreintiedig yng Nghymru i feithrin cysylltiadau o ansawdd uchel â chyflogwyr, cyrsiau galwedigaethol priodol a chyngor gyrfaoedd diduedd o ansawdd uchel.
7.3 O ystyried natur economi Cymru a phwysigrwydd marchnadoedd llafur lleol, fe ddylai fod rôl sylweddol fwy i BBaChau o fewn y strategaeth addysg fenter.
7.4 Dylai Llywodraeth Cymru ystyried gwneud addysg gyrfaoedd yn agwedd orfodol ar y cwricwlwm cenedlaethol diwygiedig yng Nghymru a gofyn i Estyn arolygu hyn yn y dyfodol.
7.5 Dylai Llywodraeth Cymru ymgymryd ag ymarferiad i gael golwg manwl ar y rhaglenni meithrin cysylltiadau â chyflogwyr presennol sy’n gweithredu ar draws Cymru gyda’r bwriad o ymestyn neu greu fframwaith sy’n addas i fusnesau bach ac ysgolion cynradd.
1. Gweledigaeth
Byddwch â gweledigaeth glir o beth y mae eich perthynas ysgol-cyflogwr am ei gyflawni a sut y bydd yn gwella canlyniadau i bobl ifanc.
2. Cyfathrebu
Datblygwch gyfathrebu da ymhlith y partneriaid.
3. Partneriaethau a chysylltiadau
Dylai perthynasau fod yn gryf, yn fuddiol i’r ddwy ochr ac â chysylltiadau da â rhieni, cymunedau, gwasanaethau ieuenctid ac addysgwyr eraill.
Dylai’r partneriaid ddeall eu rôl, a dylai nodau fod yn benodol ac yn gyraeddadwy – dylai polisïau gefnogi eu gweithrediad..
Dylai’r partneriaid fod â gwerthoedd ac ymagweddau cydnaws, a dylent rannu ymdeimlad o berchenogaeth y berthynas.
Dylai ysgolion weithio gydag amrywiaeth eang o ddiwydiannau i sicrhau bod opsiynau hyfforddi’n cyd-fynd â diddordebau myfyrwyr.
4. Arweinyddiaeth
Mae perthynasau ysgol-cyflogwr yn mynnu lefel uchel o ymrwymiad, cydweithrediad ac arweinyddiaeth ar draws yr holl grwpiau rhanddeiliaid.
5. Amser a chapasiti
Caniatewch ddigon o amser i berthynasau gryfhau ac i ddatblygiad proffesiynol ddigwydd.
6. Hyblygrwydd
Byddwch yn hyblyg fel bod eich perthynas ysgol-cyflogwr yn gallu datblygu a’ch bod yn gallu ymateb i heriau annisgwyl.
7. Y Cwricwlwm
Cysylltwch y dysgu yn yr ystafell ddosbarth â chymwysiadau ‘byd go iawn’ y tu allan i’r ysgol. Integreiddiwch ddysgu academaidd â dysgu yn y maes.
8. Dyluniad y Rhaglen
Dylai fod strwythur da i’r profiad gwaith a dylai fod ar gael yn eang – dylai myfyrwyr ‘ymgofrestru’ ymlaen llaw i ddangos ymrwymiad.
Dylai cymwysterau galwedigaethol fod wedi’u cydnabod yn genedlaethol ac yn gredadwy i ddiwydiant.
Ysgogwch y myfyrwyr i ddysgu trwy ateb y cwestiwn ‘Paham y mae angen imi ddysgu hyn?’
Darperwch gyfleoedd i’r myfyrwyr ‘ddysgu ac ennill’.
Gwrandewch ac ymatebwch i ddiddordebau gyrfa myfyrwyr.
Anogwch fusnesau i gynnig profiad gwaith/interniaethau – bydd y rhain yn rhoi cyfle uniongyrchol i fyfyrwyr i brofi’r amgylchedd gwaith yn uniongyrchol ac i ddysgu’r mathau o sgiliau gwaith sydd eu hangen yn y gweithle.
9. Seiliedig ar anghenion
Ystyriwch flaenoriaethau datblygu’r economi a’r gweithlu yn rhanbarthol (hynny yw, anghenion a chyfleoedd lleol) wrth helpu pobl ifanc i ddatblygu eu gyrfaoedd.
10. Ymyrryd cynnar
Dechreuwch lunio ymwybyddiaeth myfyrwyr o yrfaoedd yn gynnar.
Ffynhonnell: Burge, B., Wilson, R. and Smith-Crallan, K. (2012). Employer involvement in schools: a rapid review of UK and international evidence. Slough: Y Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil i Addysg.
Adamson, D. and Lang, M. (2014). Towards A New Settlement: A deep place approach to equitable and sustainable places. Merthyr Tudful: Canolfan Rhagoriaeth Adfywio Cymru.
Adamson, D. and Lang, M. (2017). Lansbury Park: A Deep Place Plan. Deep Place Centre.
Archer, L. ‘Conceptualising Aspiration’ in Mann, A., Stanley, J. and Archer, L. (2014). Understanding Employer Engagement in Education. Abingdon: Routledge.
Barnett, C. (1972). The Collapse of British Power. London: Eyre Methuen.
Bielby, G., Judkins, M., O’Donnell, L. and McCrone, T. (2012). Review of the Curriculum and Qualifications Needs of Young People Who Are At Risk of Disengagement. Slough: NFER.
Bonner, K., Hart, M. and Levie, J. (2015). Global Entrepreneurship UK: Wales Report. Caerdydd: Llywodraeth Cymru.
Brill, L., Cowie, L., Folkman, P., Froud, J., Johal, S., Leaver, A., Moran, M. and Williams, K. (2015). What Wales Could Be. Caerdydd: Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru.
Burge, B., Wilson, R. and Smith-Crallan, K. (2012). Employer involvement in schools: a rapid review of UK and international evidence. Slough: Y Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil i Addysg.
Business in the Community (2015). Destiny should not be determined by demography: Building alignment between the classroom and the boardroom. Llundain: Busnes yn y Gymuned.
Careers Wales (2017). Changing Lives: A Vision for Careers Wales 2017 – 20. Caerdydd: Gyrfa Cymru.
Cheese, P. (2015) in Mann, A and Huddleston, P., How Should Our Schools Respond to the Demands of the Twenty First Century Labour Market? Eight Perspectives. Llundain: Y Gweithlu Addysg a Chyflogwyr
Donaldson, G. (2015). Successful Futures: Independent Review of Curriculum and Assessment Arrangements in Wales. Caerdydd: Llywodraeth Cymru.
Egan, D. (2016). ‘Educational Equity in Wales’ in The Wales Journal of Education, 18.1. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru.
Egan, D. (2017). After PISA: A Way Forward for Education in Wales. Merthyr Tudful; Sefydliad Bevan
Estyn (2012). Informed Decisions: the Implementation of the Careers and the World of Work Framework. Caerdydd: Estyn.
Estyn (2014a). Barriers to Apprenticeship. Caerdydd: Estyn.
Estyn (2014b). Learner Support Services for Pupils Aged 14-16. Caerdydd: Estyn.
European Commission Education, Audiovisual and Cultural Executive Agency (2012). Entrepreneurship Education at School in Europe: National Strategies, Curricula Learning and Learning Outcomes. Brwsel: Y Comisiwn Ewropeaidd.
Federation of Small Businesses Wales (2012). FSB Wales: Youth Entrepreneurship. Caerdydd: Ffederasiwn y Busnesau Bach.
Federation of Small Businesses Wales (2015). A Better Way for Wales: Building Our Economy on the SME Foundation. Caerdydd: Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru.
Federation of Small Businesses Scotland (2016). School Ties: Transforming Small Business Engagement With Schools. Glasgow: Ffederasiwn Busnesau Bach yr Alban.
Foundation for Young Australians (2016). Enterprise skills and careers education in schools: Why Australia needs a national strategy. Melbourne: Foundation for Young Australians.
Sefydliad Elusennol Gatsby (2015). Good Careers Guidance. Llundain: Sefydliad Gatsby.
Hodgson, A and Spours, K. (2013). Tackling the crisis facing young people: building ‘high opportunity progression eco-systems’, Oxford Review of Education, 39:2, 211 – 228.
Husbands, C. (2015) in Mann, A. and Huddleston, P. How Should Our Schools Respond to the Demands of the Twentieth First Century Labour Market? Eight Perspectives. Llundain: Y Tasglu Addysg a Chyflogwyr.
James, D. and Unwin, L. (2016). Fostering High Quality Vocational Further Education in Wales. Caerdydd: Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru.
Jones, G. (1982). Controls and Conflicts in Welsh Secondary Education, 1889 – 1944. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru.
Jones, G. and Roderick, W. (2003). A History of Education in Wales. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru.
Jones, C. (2015). Prosperity and Place. Caerdydd: Ffederasiwn y Busnesau Bach.
Kashefpakdel, E., Mann, A. and Scleicher, M. (2016). The impact of career development activities on student attitudes towards school utility: an analysis from the Organisation for Economic Co-operation and Development’s Programme for International Student Assessment. Llundain: Y Tasglu Addysg a Chyflogwyr.
Keep, E. (2015) in Mann, A. and Huddleston, P. How Should Schools Respond to the Demands of the Twenty First Century Labour Market? Eight Perspectives. Llundain: Y Tasglu Addysg a Chyflogwyr.
Lang, M. (2016). All Around Us: The Pontypool Deep Place Study. Caerdydd: Athrofa Ymchwil Lleoedd Cynaliadwy, Prifysgol Caerdydd.
Learning, Skills and Innovation Partnership, South-East Wales (2016). Employment and Skills Plan.
Learning, Skills and Innovation Partnership, North Wales (2016). Employment and Skills Plan.
Learning, Skills and Innovation Partnership, South-West and Mid Wales (2016). Employment and Skills Plan.
Le Gallais, T. and Hatcher, R. (2014). ‘How School Work Experience Policies Can Widen Student Horizons or Reproduce Social Inequality’ in Mann, A., Stanley, J. and Archer, L. Understanding Employer Engagement in Education. Abingdon: Routledge.
Li, Y. and Devine, F. (2014). ‘Social Mobility in Britain 1991-2011’ in Mann, A., Stanley, J. and Archer, L. Understanding Employer Engagement in Education. Abingdon: Routledge.
Mann, A, Stanley, J. and Archer, L. (Eds). (2014). Understanding Employer Engagement in Education. Abingdon: Routledge.
Mann, A. and Huddleston, P. (Eds). (2015). How should our schools respond to the demands of the twenty first century labour market? Eight perspectives. Llundain: Y Tasglu Addysg a Chyflogwyr.
Mann, A., Kashefpakdel, E., Rehill, J. and Huddleston, P. (2017). Contemporary transitions: Young Britons reflect on life after secondary school and college. Llundain: Y Tasglu Addysg a Chyflogwyr.
Mann, A., Dawkins, J. and McKeown, R. (2017). Towards and employer engagement toolkit: British teachers’ perspectives on the comparative efficacy of work-related learning activities. Llundain: Y Tasglu Addysg a Chyflogwyr.
National Assembly for Wales Research Service (2011). Apprenticeships in Wales and the UK. Caerdydd: Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
National Assembly for Wales Enterprise and Business Committee (2013). Youth Entrepreneurship. Caerdydd: Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
National Assembly for Wales Economy, Infrastructure and Skills Committee (2017). Record of Proceedings 17 May 2017. Caerdydd: Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
National Foundation for Educational Research (2014). Changing Attitudes to Vocational Education. Slough: NFER
National Training Federation Wales (2015). The Value of Apprenticeships to Wales. Caerdydd: Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru.
National Schools Partnership (2016). Principles and Practices for Primary Engagement. Llundain: Partneriaeth Ysgolion Genedlaethol.
Nesta/Alliance for Useful Evidence (2015). Using Research Evidence: A Practice Guide. Llundain: Nesta/ Cynghrair ar gyfer Tystiolaeth Ddefnyddiol.
Partnership for Young London (2015). From school to work in London: Learning from Germany-education and employers working together. Llundain: Partnership for Young London.
Pennycook, L. (2014). The Welsh Dragon: The success of enterprise education in Wales. Carnegie UK Trust. Pollard, D. (2015) in Mann, A. and Huddleston, P. How Should Our Schools Respond to the Demands of the Twenty First Century Labour Market? Eight Perspectives. Llundain: Y Tasglu Addysg a Chyflogwyr.
Primary Futures: http://www.inspiringthefuture.org
Public Policy Institute for Wales (2016). Improving the Economic Performance of Wales: Existing Evidence and Evidence Needs. Caerdydd: Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru.
Qualifications Wales (2016a). Sector Review of Qualifications and the Qualification System in Health and Social Care. Casnewydd: Cymwysterau Cymru.
Qualifications Wales (2016b). Vocational Qualifications Strategy. Casnewydd: Cymwysterau Cymru.
Sanderson, M. (1999). Education and Economic Decline in Britain, 1870 to the 1990s. Caergrawnt: Gwasg Prifysgol Caergrawnt.
Stanley, J, Mann, A. and Archer, L. (2014). ‘Conclusions’ in Mann, A., Stanley, J. and Archer, L. Understanding Employer Engagement in Education. Abingdon: Routledge
St. Clair, R., Kintrea, K. and Houston, M. (2014). ‘Local Labour Markets: What Effects Do They Have on the Aspirations of Young People’ in Mann, A., Stanley, J. and Archer, L. Understanding Employer Engagement in Education. Abingdon: Routledge.
The Independent Panel on Technical Education (2016). Report of the Independent Panel on Technical Education.
The Scottish Government (2009). Building the Curriculum 4: Skills for learning, skills for life and skills for work. Caeredin: Llywodraeth yr Alban.
The Scottish Government (2014). Developing the Young Workforce: Scotland’s Youth Employment Strategy. Caeredin: Llywodraeth yr Alban.
The Scottish Government (2015). Developing the Young Workforce: School Employer Partnerships, Combined Version. Caeredin: Llywodraeth yr Alban.
Weiner, J. (1981). English Culture and the Decline of the Industrial Spirit, 1850-1980. Caergrawnt: Gwasg Prifysgol Caergrawnt.
Welsh Government (2010). Youth Entrepreneurship Strategy: An Action Plan for Wales. Caerdydd: Llywodraeth Cymru.
Welsh Government (2015a). Size analysis of Welsh businesses: National Statistics First Release. Caerdydd: Llywodraeth Cymru.
Wolf, A. (2011). Review of Vocational Education. Llundain: Adran Addysg
YouGov (2012). EDGE Annual Programme of Stakeholder Surveys: Report. Llundain: YouGov.
Cyfweliadau
Busnes yn y Gymuned Cymru.
Colegau Cymru
Cydbwyllgor Addysg Cymru
Cymdeithas Genedlaethol Prifathrawon Cymru
Cymwysterau Cymru
Gyrfa Cymru
Llywodraeth Cymru
Ymweliadau ysgol
Ysgol Gorllewin Mynwy, Pont-y-pŵl
Ysgol Gyfun Cas-gwent, Mynwy
Ysgol Gyfun Tredegar, Blaenau Gwent
Ysgol Gymunedol Brynmawr, Blaenau Gwent
Ysgol Gymunedol Rhisga, Caerffili
Ysgol Gynradd Deighton, Blaenau Gwent
Ysgol Gynradd Millbrook, Casnewydd
Ysgol John Frost, Casnewydd
Ysgol Uwchradd Bishop Hedley, Merthyr Tudful
Ysgol y Preseli, Sir Benfro