Snowdonia_Society_mag_spring_2014

Page 14

Creu eich gwaith eich hunain Catrin Roberts

Archeolegydd oedd arna i eisiau bod pan oeddwn i'n ifanc, yna nani, ac yn dilyn hynny daeth sawl peth arall i'm meddwl. Penbleth yn wir oedd penderfynu ar yrfa benodol! Roedd cymaint o ddewisiadau; sut oedd disgwyl i ferch ifanc wneud penderfyniad dwedwch? Fe gawsom gyngor ar yrfaoedd yn yr ysgol ond cefais y cyngor gorau gan fy rhieni, mae’n debyg: “Gweithia yn y meysydd sy'n dy ddiddori; y rhai ti'n credu ynddynt ac sy'n dy ysbrydoli.” Ac felly y bu yn y pendraw - nid drwy gynllunio'n ofalus, cofiwch chi, fwy drwy hap a damwain a thraul bywyd! Wedi gweithio mewn sawl gwahanol faes dros y blynyddoedd, mae gwell syniad gennyf bellach o beth sy'n fy moddhau o ran gwaith. Ac oeddent, roedd fy rhieni’n iawn: mae’n waith sy'n fy niddori ac yn fy ysbrydoli, ac rwy’n credu ynddo!

iawn at fy nghalon. Mae hyn wedi mynd o nerth i nerth; bellach rwyf yn gweithio fel tiwtor i dri choleg gwahanol ac yn cynnig gwersi preifat. O ganlyniad i ddilyn y trywydd hwn, rwyf wedi cwrdd â dwy eneth arall sydd â'r un math o ddiddordeb yn yr iaith ac rydym newydd ddechrau busnes cyfieithu, 'LWC', ym Mlaenau Ffestiniog. O gofio sut mae’r economi wedi bod yn ddiweddar, da yw gweld fod mentrau newydd yn datblygu yn y fro sy’n cynnig gwaith, hyfforddiant a chyfleoedd gwahanol ac amgen i bobl ein bro, ac mae o leiaf dau ohonynt yn ymfalchïo yn eu gwasanaeth Cymraeg.

DHFF, a ysgrifennir yn llwyr gan bobl ifanc y fro. Mae hyn oll wedi rhoi hwb i'n heconomi a'n calonnau, ac wedi cynnig sawl swydd newydd diddorol. Gwn nad ydy’r hyn sy'n fy moddhau at ddant pawb, ac mae’n wir nad oes ystod eang o yrfaoedd ar gael i’r rheiny sydd am barhau i fyw yn ardal 'Stiniog, ond credaf yn gryf fod angen inni fynd ati i greu ein gwaith ein hunain. Mynd amdani i wireddu breuddwydion, un cam bach ar y tro. Pwy a ŵyr lle aiff yr holl fentro â chi, a bois bach mae'n foddhaol! Mae gwaith ar gael os ydych yn barod i fentro, nid eich gwaith delfrydol bob tro, ond bydd un peth yn aml yn arwain at y llall, ac yn aml at rywbeth gwell.

"Penderfynais ar fympwy bron i gychwyn arwain fy nheithiau cerdded fy hun"

Gan nad oedd swydd leol yn cynnig hyn oll, Mentrau fel menter gweithgareddau awyr penderfynais ar fympwy bron i gychwyn agored Antur Stiniog, sydd â llwybrau arwain fy nheithiau cerdded fy hun, eww! beicio arloesol a siop ddillad awyr agored; a'i wir fwynhau. Mae'n cwmpasu sawl a menter Cellb, tŷ bwyta a bar sy’n cynnig agwedd braf imi: cael mynd am dro; dysgu adloniant a lleoliad gwych i gynnal gigs a am fy mro, ei hanes a'i natur; casglu a sinema amgen, a chartref i gylchgrawn mwynhau bwyd gwyllt; cael rhannu hyn gydag eraill; ac wrth gwrs y cymdeithasu! Delweddau © Catrin Roberts O ganlyniad i bobl yn dod i wybod am hyn, rwyf wedi cael dipyn o waith dehongli, ysgrifennu byrddau gwybodaeth a gwybodaeth ar gyfer teithiau - rhywbeth na ystyriais erioed. Mae'n rhyfedd sut gall un peth arwain at rywbeth arall diddorol. Tra bod hyn yn gweddu'n wych i mi'n bersonol, wnaiff o fyth ddenu digon o arian i fy nghynnal drwy'r flwyddyn. Felly fe fues i'n ffodus iawn pan daflodd bywyd gynnig arall perffaith ataf nad oeddwn wedi ei ystyried o'r blaen, sef dysgu Cymraeg i oedolion - rhywbeth rwyf wedi bod yn ei wneud yn anffurfiol ac yn wirfoddol ers sawl blwyddyn, ac yn bendant rhywbeth sy'n agos 14

Ni ellir gweld yr olygfa wych o ben y mynydd heb gymryd y cam cyntaf wrth ei droed.


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.