Hydref / Autumn 2021

Page 1

Eryri | Snowdonia AM BYTH

FOREVER

Hydref • Autumn 2021

Gweithio dros Eryri ● Working for Snowdonia


Sefydlwyd Cymdeithas Eryri yn 1967 a'i nod yw gwarchod a gwella harddwch a rhinweddau arbennig Eryri a hyrwyddo eu mwynhad er budd pawb sy'n byw, yn gweithio neu'n ymweld â'r ardal, yn awr ac yn y dyfodol. ~~~~~ The Snowdonia Society, established in 1967, works to protect and enhance the beauty and special qualities of Snowdonia and to promote their enjoyment in the interests of all who live in, work in or visit the area both now and in the future.

Y��������� ������! ● ���� �����! Ddim Ddimynynaelod? aelod? Cefnogwch Cefnogwchein ein gwaith gwaith oo warchod warchod a a gwella gwella tirluniau �rluniauaabioamrywiaeth bioamrywiaeth arbennig Eryri trwy ymaelodi! arbennig Eryri trwy ymaelodi! Aelodaeth unigol £30

a member? Not aNot member? Why not help conserve Snowdonia’s Why not help conserve Snowdonia’s magnificent landscape and magnifi cent landscape biodiversity by joining and the Society? biodiversity by joining the Society! Individual membership costs £30

www.cymdeithas-eryri.org.uk www.cymdeithas-eryri.org.uk

www.snowdonia-society.org.uk www.snowdonia-society.org.uk

Aelodaeth unigol: £24

Individual membership costs £24

Gwirfoddoli Volunteer

Cylchgronau Magazines

Swyddogion ac Ymddiriedolwyr: Officers and Trustees:

Gostyngiadau Discounts

-20%

Digwyddiadau Events

Staff:

Cyfarwyddwr ● Director: John Harold Cyfrifydd ● Accountant: Judith Bellis Swyddog Aelodaeth a Chyfathrebu ● Membership & Communications Officer: Debbie Pritchard Rheolwr Rhaglen ● Programme Manager: Cadeirydd ● Chair: Julian Pitt Mary-Kate Jones Is-Gadeirydd ● Vice-Chair: Vacancy Uwch Swyddog Cadwraeth ● Senior Aelodau'r pwyllgor ● Committee members: Conservation Officer: Daniel Goodwin David Archer, Sue Beaumont, Dr Jacob Buis, Swyddog Cadwraeth a Thŷ Hyll ● Bob Lowe, Jane Parry-Evans, Richard Neale, Conservation and Tŷ Hyll Officer: Richard Brunstrom, Denis McAteer, Mary Williams Mathew Teasdale Swyddog Prosiect ● Project Officer: Owen Davies Cymdeithas Eryri ● Snowdonia Society Swyddog Ymgysylltu ● Engagement Officer: Caban, Yr Hen Ysgol, Brynrefail, Caernarfon, Claire Holmes Llywydd ● President: Roger Thomas Is-Lywyddion ● Vice-Presidents: Ei Fawrhydi/His Honour Huw Morgan Daniel CVO KStJ, David Firth, Syr/Sir Simon Jenkins FSA

Gwynedd LL55 3NR  01286 685498  info@snowdonia-society.org.uk www.cymdeithas-eryri.org.uk www.snowdonia-society.org.uk Rhif elusen/Charity no: 1155401

Delwedd clawr/Cover image:

Chwarel Dinorwig ● Dinorwig Quarry

© Jackie Evans Cyfieithu/Translation: Haf Meredydd Dyluniad/Design: Debbie Pritchard Print: Cambrian Printers

Ymwadiad golygydddol Cynhyrchwyd y cylchgrawn gan dîm golygyddol yn cynnwys Jane Parry-Evans, Debbie Pritchard a John Harold. Rydym yn hynod ddiolchgar i'r holl awduron a ffotograffwyr sydd wedi cyfrannu at y rhifyn hwn. Cofiwch mai safbwyntiau personol yr awduron sy'n cael eu mynegi ganddynt, ac nid ydynt o reidrwydd yn adlewyrchu polisi Cymdeithas Eryri.

Editorial disclaimer The magazine is produced by an editorial panel of Jane Parry-Evans, Debbie Pritchard and John Harold. We are very grateful to all the authors and photographers who have contributed to this issue. The views expressed by the authors are their own and do not necessarily reflect Snowdonia Society policy.


Casglu sbwriel i 'Caru Eryri' 2021 ● Litter clearing for 'Care for Snowdonia' 2021

Daw'r cylchgawn hwn atoch mewn deunydd i'w gompostio gartref

Cynnwys

This magazine comes to you in home compostable wrap

Contents

4

Golygyddol

4

Editorial

5

Agenda CCB

6

AGM agenda

7

Ein staff yn 2021

7

Our staff in 2021

8

Yn Gryno: y diweddaraf a gwybodaeth leol

10

Shortcuts: updates and local knowledge

12

Natur am byth

13

Natur am byth (Nature forever)

14

Haf prysur

16

A busy summer

18

Partneriaeth Natur Eryri

19

Snowdonia Nature Partnership

20

Newyddion

20

News

22

Mawn: byw neu farw

24

Peat: matter of life and death

26

Uwchraddio llwybr yr Wyddfa

28

Snowdon path upgrade

27

Trwsio llwybrau: gwaith di-ben-draw

29

Track repairs: a necessary evil

30

Arlunydd lleol

30

Local artist

31

Ffarwelio â Morag McGrath

31

Saying farewell to Morag McGrath


Golygyddol

Editorial

John Harold A ddylen ni groesawu Parc Cenedlaethol newydd yng Nghymru?

Should we welcome a new National Park for Wales?

Bu cryn drafod ers i Lywodraeth newydd-etholedig Cymru gadarnhau ei ymrwymiad maniffesto i greu Parc Cenedlaethol newydd ym mryniau Clwyd a dyffryn Dyfrdwy, a ddynodir ar hyn o bryd yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.

There’s been much debate since the newly elected Welsh Government confirmed its manifesto commitment to create a new National Park in the Clwydian Range and Dee V_alley, currently designated as an Area of Outstanding Natural Beauty.

Rydw i wedi clywed unigolion gwybodus yn cwestiynu pwrpas hyn – pam yno, a pham rŵan? Mae gwleidyddiaeth yn chwarae rhan, wrth gwrs. Mae’n berthnasol gofyn ai opsiwn hawdd ydy hwn o’i gymharu â’r busnes anorffenedig yna parthed Parc Cenedlaethol mynyddoedd Cambria, a oedd angen dim ond un llofnod arall i sicrhau ei greu flynyddoedd lawer yn ôl.

I’ve heard knowledgeable individuals question the motives – why there, and why now? Politics plays a part of course. It’s valid to ask whether this is an easy option compared to the great unfinished business of the Cambrian Mountains National Park, which needed just one more signature to bring it to life all those years ago.

Mae cwestiynau ymarferol hefyd. Mae pobl gyda llawer mwy o brofiad na fi’n sôn am drothwy o ran maint Parc Cenedlaethol, gan na fyddai hi’n bosibl cynnal na sicrhau adnoddau i sicrhau mecanwaith y gwaith rheoli os nad yw’n faint digonol. Mae hynny’n peri rhai i ystyried a fydd hwn yn ‘wir’ Barc Cenedlaethol, neu’n ddim ond arbrawf mewn hybrideiddio AHNE a Pharciau Cenedlaethol.

There are practical questions too. People with much more experience than I talk about a size threshold for a National Park, below which the necessary mechanisms of management can’t realistically be maintained or resourced. That prompts some to wonder whether this will be a ‘real’ National Park, or rather an experiment in hybridising AONBs and National Parks.

Mae’r geiriau mwyaf negyddol yn adleisio dros 70 mlynedd a mwy – ‘gorfodaeth trefedigaethol’ dynodiad ar eiddo preifat, creu ‘mannau chwarae i’r dosbarth canol’. Dyma’r un lleisiau sydd i’w clywed pan fo pobl yn cyrraedd Eryri heb baratoi ac heb offer priodol. Mae’r problemau a ddaw gyda’r bobl yma i’r ardal yn amlwg, ac mae ein staff a’n gwirfoddolwyr ymysg y sawl sy’n delio â nhw. Ond yr ymwelwyr yma sy’n creu ‘problem’ yw’r bobl hynny o’r dosbarth gweithiol trefol y crëwyd Parciau Cenedlaethol ar eu cyfer ac er eu lles a’u hiechyd yn y lle cyntaf. Parciau Cenedlaethol er lles pawb. Dydy dynodi ddim yn ateb i bob dim. Mae gennym waith i’w wneud o ran addysg a gosod esiamplau da fel bod mwy o bobl yn gwybod sut i fwynhau cefn gwlad mewn ffordd gyfrifol. Rydym yn croesawu cynnig Llywodraeth Cymru. Ychydig o flynyddoedd yn ôl Cymdeithas Eryri a arweiniodd yr ymgyrch yn erbyn rhaglen ‘Tirluniau’r Dyfodol Cymru’ y llywodraeth gan nad oedd digon o ystyriaeth wedi ei roi i’r rhaglen, a byddai wedi golygu bod Parciau Cenedlaethol yn ymarfer brandio a dim arall. Bydd Cymdeithas Eryri’n cymeradwyo’n gynnes pan fydd Llywodraeth Cymru’n dynodi ei Barc Cenedlaethol cyntaf; diwrnod arwyddocaol. Fel y gwyddom, wedi dros hanner canrif o warchod Eryri, dyma pryd mae’r gwir waith yn cychwyn.

The most negative words echo across 70 years and more – the ‘colonial imposition’ of a designation onto private property, the creation of ‘playgrounds for the middle classes’. They are the same voices which cry ‘foul’ when people arrive ill-prepared and ill-equipped in Snowdonia. The problems those people bring are real, and our staff and volunteers are among those at the sharp end of dealing with them. But these ‘problem’ visitors are today’s equivalent of the urban working-classes for whose health and well-being National Parks were first created. National Parks for the greater good. Designation isn’t a magic wand. We have work to do in education and in setting good examples so more people know how to enjoy the countryside responsibly. We welcome Welsh Government’s proposal. Just a few years ago the Snowdonia Society led the campaign against the government’s ill-conceived ‘Future Landscapes Wales’ programme, which would have seen National Parks reduced to a branding exercise. Snowdonia Society will warmly applaud when Welsh Government designates its first National Park; a significant day. As we know from more than half a century of protecting Snowdonia, that’s when the real work starts.

John Harold yw Cyfarwyddwr Cymdeithas Eryri.

Calendr 2022 ar werth: 2022 calendar for sale: www.snowdonia-society.org.uk/shop 4|

John Harold is the Director of the Snowdonia Society.


Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol 2021 *AR-LEIN* ar ddydd Sadwrn 9 Hydref 10:30yb -12:30yp

Annwyl aelod,

Rhaglen 2021

Fe’ch gwahoddir yn gynnes i’n Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol 2021 a gynhelir ar-lein drwy gyfrwng fideo-gynadledda Zoom rhwng 10.30 a 12.30 ar ddydd Sadwrn 9 Hydref. Ymunwch â ni o’ch cartref i glywed am waith y Gymdeithas dros y flwyddyn ddiwethaf ac i rannu eich teimladau gyda staff ac ymddiriedolwyr wrth i ni edrych tua’r dyfodol. Mae’r rhaglen yn cynnwys sgwrs gan Awel Jones, cynrychiolydd grŵp o ffermwyr denantiaid sy’n archwilio dulliau newydd o amaethu er budd byd natur a phobl ar stad Ysbyty Ifan. Cynhelir trafodaeth gyda phanel a sesiwn holi ac ateb i ddilyn gyda rhai o ffermwyr y project. Bydd cofnodion CBC y llynedd ynghyd ag Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon eleni ar gael ar yr e-bost neu drwy’r post ar gais; ac ar-lein ar www.snowdonia-society.org.uk/2021-agm-notice Cofiwch ymuno â ni ar y diwrnod pwysig hwn – edrychwn ymlaen at eich gweld!

John Harold Cyfarwyddwr, Cymdeithas Eryri

10:00 - Agor y cyfnod arwyddo i mewn (caniatéwch amser i baratoi ar gyfer cychwyn am 10.30) 10:30 - Busnes ffurfiol y CBC 1. Ymddiheuriadau 2. (i) Cofnodion Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol 2020 (ii) Materion yn codi o’r cofnodion hyn 3. Adroddiad y Cadeirydd - Julian Pitt 4. Adroddiad Swyddog y Project Cadwraeth Mary-Kate Jones 5. Adroddiad y Cyfarwyddwr - John Harold 6. Adroddiad Ariannol - Judith Bellis 7. Cwestiynau i’r Cyfarwyddwr a’r Swyddogion 8. Mabwysiadu Adroddiadau a Chyfrifon (i) Cynnig i fabwysiadu’r Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon ar gyfer y flwyddyn yn diweddu 30 Mehefin 2021 (ii) Cynnig i ail-benodi Bennet Brooks fel archwilwyr annibynnol cyfrifon y Gymdeithas ar gyfer 2021/2022. 9. Ethol Swyddogion ac Aelodau’r Pwyllgor Gwaith: Llywydd: Roger Thomas Is-Lywyddion: Ei Anrhydedd Huw Morgan Daniel CVO KStJ, David Firth, Syr Simon Jenkins, Cadeirydd: Julian Pitt | Is-Gadeirydd: gwag Ymddiriedolwyr: David Archer, Sue Beaumont, Richard Brunstrom, Dr Jacob Buis, Bob Lowe, Denis McAteer, Richard Neale, Jane Parry-Evans, Mathew Teasdale. 10. Unrhyw Fusnes Arall a dyddiad CBC 2022 11:30 - Egwyl 11:40 - Siaradwr gwadd: Awel Jones 12:30 - Diwedd

Sut i gofrestru Cofrestrwch ar-lein erbyn 1 Hydref 2021 ar: www.snowdonia-society.org.uk/cy/event/agm21 Cysylltwch â’n Swyddog Ymgysylltu os oes angen cymorth arnoch i gofrestru: claire@snowdonia-society.org.uk

Ymddiheuriadau: □ Dydw i/Dydyn ni ddim yn gallu mynychu CBC 2021 Cymdeithas Eryri ac felly yn anfon fy/ein ymddiheuriadau. Os gwelwch yn dda, derbyniwch gyfraniad o £............... tuag at waith y Gymdeithas. Enw(au): ........................................................................... Rhif aelodaeth: ....................................... Rhoddion ar-lein: www.snowdonia-society.org.uk/cy/donate Neu drwy’r post i: Cymdeithas Eryri, Caban, Brynrefail, Caernarfon, Gwynedd LL55 3NR

|5


Annual General Meeting 2021 *ONLINE* on Saturday 9 October 10:30am -12:30pm

Dear member,

2021 programme

You are warmly invited to our 2021 Annual General Meeting which will be held online via Zoom Videoconferencing from 10:30-12:30 on Saturday 9 October. Join from your home to hear about the Society’s work over the last year and share your thoughts with staff and trustees as we look ahead. The programme includes a talk by Awel Jones, representative of a group of tenant farmers who are exploring new ways of farming for the benefit of nature and people on the Ysbyty Ifan estate. There will be a panel discussion and Q&A to follow, with some of the farmers from the project. Minutes of last year’s AGM along with this year’s Annual Report and Accounts will be available by email or post on request; and online at www.snowdonia-society.org.uk/2021-agm-notice Please do join us on this important day - we look forward to seeing you.

John Harold Director, Snowdonia Society

10:00 - Sign-in opens (allow time to get yourself set up for 10.30 start) 10:30 - AGM formal business 1. Apologies 2. (i) Minutes of the 2020 Annual General Meeting (ii) Matters arising from these minutes 3. Chair’s Report - Julian Pitt 4. Conservation Project Report - Mary-Kate Jones 5. Director’s Report - John Harold 6. Financial Report - Judith Bellis 7. Questions to the Director and Officers 8. Adoption of Reports & Accounts (i) Motion to adopt the Annual Report and Accounts for the year ending 30th June 2021 (ii) Motion to reappoint Bennet Brooks as independent examiners of the Society’s accounts for 2021/22 9. Election of Officers and Members of the Executive Committee: President: Roger Thomas Vice-Presidents: His Honour Huw Morgan Daniel CVO KStJ, David Firth, Sir Simon Jenkins. Chair: Julian Pitt | Vice-Chair: vacant Trustees: David Archer, Sue Beaumont, Richard Brunstrom, Dr Jacob Buis, Bob Lowe, Denis McAteer, Richard Neale, Jane Parry-Evans, Mathew Teasdale. 10. Any Other Business and date of 2022 AGM 11:30 - Comfort break 11:40 - Guest speaker: Awel Jones 12:30 - Ends

How to register

Please register online by Friday 1 October 2021 at: www.snowdonia-society.org.uk/event/agm21 Contact our Engagement Officer if you need help registering: claire@snowdonia-society.org.uk

Apologies: □ I/we are unable to attend the Snowdonia Society‘s 2021 AGM and hereby send my/our apologies. Please accept a donation of £............... towards the Society’s work protecting the National Park. Name(s) ...........................................................................

Membership no: .......................................

Donations online: www.snowdonia-society.org.uk/donate Or by post to: Cymdeithas Eryri Snowdonia Society, Caban, Brynrefail, Caernarfon, Gwynedd LL55 3NR 6|


Ein staff yn 2021 Gweithio ar y cyd i warchod a gwella harddwch a rhinweddau arbennig Eryri.

Our staff in 2021

Cyfarwyddwr Director

John Harold

Cyfrifydd Accountant

Membership & Communications Officer

Swyddog Aelodaeth a Chyfathrebu

Swyddog Ymgysylltu Engagement Officer

Judith Bellis

Debbie Pritchard

Claire Holmes

Rheolwr Rhaglen Programme Manager

Working together to protect and enhance the beauty and special qualities of Snowdonia.

Mary-Kate Jones

Uwch Swyddog Cadwraeth Senior Conservation Officer

Swyddog Cadwraeth a Thŷ Hyll Conservation & Tŷ Hyll Officer

Swyddog Prosiect Project Officer

Daniel Goodwin

Mary Williams

Owen Davies |7


Tŷ Hyll – gwneud yn fawr o’n hadnoddau Yn lle unigryw, mae Tŷ Hyll yn rhan bwysig o hanes y Gymdeithas ac yn adnodd ar gyfer gwireddu ein pwrpasau elusennol. Ddegawd ar ôl y gwaith adnewyddu a phenodi pwrpas o’r newydd, mae’n bryd i ni nawr ystyried beth sydd wedi gweithio a beth sydd wedi methu. Bydd grŵp gwaith o staff ac ymddiriedolwyr yn ystyried opsiynau ar gyfer y defnydd gorau o’r cyfleoedd a ddarperir gan Tŷ Hyll. Byddwn yn cyflwyno ein hargymhellion i chi y flwyddyn nesaf. Rhannu gwely! Yn ei hamser sbâr mae Judith, ein Swyddog Ariannol, yn gwirfoddoli i’r elusen ardderchog honno Amnesty International, ac yn pobi teisennau a helpu mewn digwyddiadau codi arian fel ‘gerddi agored’. Tybed a fyddech chi’n hoffi cynnal Gardd Agored yn 2022 i godi arian i waith Cymdeithas Eryri? Bydd staff y Gymdeithas yn falch o helpu gyda’r trefniadau cyn y diwrnod ac yn ystod y dydd, ac mae’n esgus gwych i fwynhau teisen o fewn pellter cymdeithasol! Does dim rhaid i chi fod yn enillydd medal aur Chelsea – gellir ystyried unrhyw ardd gweddol fawr. Os nad ydych yn credu bod eich gardd chi’n addas, a fyddech yn gallu helpu mewn gardd arall, efallai? Cysylltwch efo’n Swyddog Ymgysylltu, Claire, i drafod ymhellach - claire@snowdonia-society. org.uk Storfa bwmpio Glyn Rhonwy – rhith fwriad yn unig Yn gynharach elei gwrthwynebwyd gennym gais Snowdonia Pumped Hydro Ltd (SPH) i ymestyn y dyddiad ‘cychwyn’ ar gyfer Gorchymyn Caniatâd Datblygu i adeiladu adnodd storfa bwmpio yng Nglyn Rhonwy ger Llanberis. O ystyried bod SPH yn gofyn am estyniad o ddwy-flynedd ac nad ydy hi’n ymddangos eu bod wedi codi fawr o gyfalaf, mae rhai sylwebwyr lleol bellach yn gofyn a ydyn nhw wir yn bwriadu adeiladu neu’n gobeithio gwerthu ymlaen y caniatâd a sicrheir. Gyda blaenoriaeth ynni a thechnoleg yn newid yn gyflym, roeddem yn tybio a oes gan y dull storfa bwmpio ddyfodol yma, o ystyried bod adnodd llawer mwy yn Ninorwig yn barod.

8|

Yn Gryno: y diweddaraf a gwybodaeth leol Pen draw’r ffordd i Lywodraeth Cymru? Mae Cymdeithas Eryri yn cefnogi penderfyniad Llywodraeth Cymru i oedi’r bwriad i greu projectau ffyrdd newydd ac yn croesawu’r adolygiad o gynlluniau ffyrdd a gynlluniwyd a fydd yn cynnwys gwerthuso eu heffeithiau amgylcheddol. Mae hyn yn dilyn y penderfyniad arloesol yn 2019 i beidio â bwrw ymlaen â choridor M4 Casnewydd, pan ddyfynnodd y Prif Weinidog bod effeithiau annerbyniol ar fioamrywiaeth ar Lefelau Gwent yn ystyriaeth bwysig. Byddwn yn monitro’n agos sut mae’r oedi ar adeiladu ffyrdd newydd yn effeithio ar ffordd osgoi arfaethedig Llanbedr, sy’n cael ei alw yn gynllun ‘gwerth isel am arian’ mewn asesiadau’r llywodraeth. Argyfwng byd natur – mae’n swyddogol Cafwyd datblygiad arall i’w groesawu. Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan ‘argyfwng byd natur’. Er syndod i lawer, cefnogwyd y ddadl, a arweiniwyd gan ei gwrthwynebwyr, gan y llywodraeth ar 30 Mehefin. Chwaraeodd Cymdeithas Eryri ei rhan, fel aelod o Gyswllt Amgylchedd Cymru, wrth friffio aelodau’r Senedd. Roedd y ddadl a gafwyd o ganlyniad yn nodedig am ei chyfranwyr gwybodus, ledled y prif bartïon, ar dynged rhywogaethau a chynefinoedd bywyd gwyllt. Y cynnig oedd datgan argyfwng byd natur, cyflwyno gofyniad cyfreithiol glymol i wrthdroi colledion mewn bioamrywiaeth drwy dargedau statudol a deddfwriaethu i sefydlu corff rheolaethol amgylcheddol annibynnol dros Gymru. Dyna ganlyniad da ond mae’n rhaid bod yn ofalus: dim ond cam cyntaf yw datgan argyfwng. Wedi datgan mae’n rhaid gweithredu, ond does dim gofod wedi ei greu ar gyfer y gwaith hwn yn y rhaglen ddeddfwriaethol. Byddwn yn rhoi pwysau ar Lywodraeth Cymru i symud mor gyflym â phosib. Cymdeithas Eryri yn y Senedd Yn ystod y ddadl ‘argyfwng byd natur’, pwysleisiodd yr Aelod dros Ddwyfor Meirionnydd rôl bwysig gwirfoddolwyr a phwysodd ar y llywodraeth i gydweddu â’u hymrwymiad drwy wireddu gweithredu dros yr amgylchedd. Cychwynnodd Mabon ap Gwynfor AS drwy ddisgrifio gwaith ymarferol y Gymdeithas cyn mynd ati i egluro: “Y rheswm dwi'n sôn yn benodol am Gymdeithas Eryri ydy er mwyn dangos bod y gweithredu sy'n digwydd ar hyn o bryd i warchod byd natur a bioamrywiaeth yn ddibynnol ar unigolion ac elusennau bach a mawr, lleol a chenedlaethol. Mae miloedd o wirfoddolwyr eraill yn gwneud gwaith tebyg i sefydliadau eraill hefyd, wrth gwrs, ond fedrwn ni ddim dibynnu ar wirfoddolwyr i roi o'u gwirfodd yn unig. Maen nhw a'r elusennau a chymdeithasau yn y maes, megis Cymdeithas Eryri, yn disgwyl arweiniad cenedlaethol, ac i'r Llywodraeth weithredu hefyd.” ‘Pipe Dream’* i Ddolgarrog Rydym yn ddiolchgar i Janet Finch-Saunders, Aelod y Senedd dros Aberconwy, am ei gwaith ardderchog o ran dod â grwpiau allweddol at ei gilydd i weithio ar broblem fynediad gyda’r bont bibellau yn Nolgarrog. Yn gyswllt pwysig i gerddwyr a beicwyr, bu’n rhaid cau’r bont ar gyfer ei thrwsio ac roedd pryder na fyddai’n cael ei hail-agor. Bellach mae’r dyfodol yn edrych yn fwy diogel, ac mae’r AS wedi bod wrth wraidd sicrhau hyn. Mae Dŵr Cymru a Chyngor Conwy wedi dangos ymateb canmoladwy o safbwynt cydnabod pryderon lleol ac wedi llunio cynllun a fydd yn gwella darpariaeth mynediad yma yn y pen draw, a chreu cysylltiad â’r gwaith adfer diweddar ar yr orsaf reilffordd gerllaw. *Pipe Dream yw enw ras fynydd sy’n dilyn llinell y pibellau i fyny allt wirion o serth – mae gan eich Cyfarwyddwr atgofion ‘melys’ ohoni!


Pris wyau yn codi eto

Mawn: negeseuon dryslyd

Ym mis Mehefin gwrthwynebwyd gennym gais cynllunio NP5 69 16J sy’n ymwneud â’r uned cynhyrchu wyau ar raddfa fasnachol yn Llanegryn yn ne Eryri. Rydym wedi gwrthwynebu’r datblygiad hwn ar bob cam oherwydd nad ydy o’n gweddu gyda phwrpas a chymeriad y Parc Cenedlaethol ac mae’n creu gwir broblemau i breswylwyr lleol. Mae’r cais diweddaraf hwn yn ceisio ‘rheoleiddio’ agweddau o’r datblygiad nad ydyn nhw wedi eu hadeiladu mewn ffordd sy’n cydymffurfio â’r caniatâd cynllunio anesboniadwy a ganiateid gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol. Mae lleoliadau silos wedi eu symud, llinell y to wedi ei newid ac mae’r ‘tirlunio’ a addawyd un ai ar goll neu wedi ei newid.

Ar hyn o bryd mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn arwain ar Gynllun Gweithredu Mawnogydd Cenedlaethol Llywodraeth Cymru. Yn cynnwys dros 30% o fawnog y wlad, mae Eryri yn allweddol i wireddu’r cynllun hwn. Mae Cymdeithas Eryri yn un o sawl corff sy’n cefnogi CNC gyda’r gwaith pwysig hwn.

Mae dogfennau a roddwyd gerbron gyda’r cais yn dadlau nad yw’r newidiadau a gynigir ‘yn arwyddocaol o ystyried graddfa a natur y datblygiad cyfan’. Yn ein llythyr o wrthwynebiad rydym yn anghytuno, gan ddatgan ‘bod y datblygiad eisoes yn annerbyniol o ran cynllunio, ac felly bod hyd yn oed mân newidiadau i edrychiad y strwythur neu ei elfennau yn ei wneud hyd yn oed yn fwy annerbyniol’. Fel yr ydym wedi ei ddadlau dro ar ôl tro, mae caniatáu’r math yma o ddatblygiad yn ddrwg i’r ffermio traddodiadol a’r tirluniau sy’n asgwrn cefn i hunaniaeth ac economi Eryri. Mae’r llun ar tudalen 11 yn dangos yr uned yn y tirlun. Yn y gornel ar y chwith mae tomen Castell Mawr, bryngaer o’r Oes Haearn, a Heneb Rhestredig. Coedwigoedd gwyrdd? Rheolir coedwigoedd cyhoeddus gan Gyfoeth Naturiol Cymru, yn ei rôl o weithredwr coedwigaeth fasnachol. Mae Cymdeithas Eryri yn gweithio i sicrhau bod coedwigoedd Eryri yn cael eu rheoli ar gyfer cadwraeth a hamdden yn ogystal â chynhyrchu pren. Rydym yn ymateb i nifer o ymgynghoriadau Cynllun Adnoddau Coedwigol CNC. Rydym wedi gwneud sylwadau ar gynlluniau ar gyfer Aberhirnant a Llangywer, Llanfor a Chelyn a Bethesda ac Abergwyngregyn. Ar hyn o bryd, rydym yn gweithio ar ein hymateb i gynllun Eryri (Coedwig Beddgelert) sy’n cynnwys lleiniau o goedwig ger Bryn Gwynant, Nantmor, Llyn Cwellyn. Y llain mwyaf yw’r blanhigfa ychydig i’r gogledd o Feddgelert sy’n ymestyn cyn belled â Bwlch y Ddwy Elor, Moel Lefn, Moel yr Ogof a Moel Hebog. Yn ein holl ymatebion rydym yn pwysleisio’r angen i GNC gymryd rhan mewn dull mwy gweithredol i adfer mawnogydd a rheoli rhywogaethau ymledol, yn cynnwys problem hadau conifferau yn ymledu a niweidio safleoedd o werth cadwraeth uchel. Rydym hefyd yn cynnig cymorth lle all ein staff a’n gwirfoddolwyr gyfrannu at waith cadwraeth gwerthfawr. Wyddfa di-blastig Erbyn y byddwch yn darllen hwn bydd astudiaeth ddichonoldeb Partneriaeth Eryri wedi ei chyhoeddi ar sut all yr Wyddfa gael ei ddynodi’n fynydd cyntaf y DU i sicrhau statws ‘di-blastig’. Beth mae hynny’n ei olygu? Rydym yn aros am fanylion ond mae’n debygol o gynnwys cymysgedd o wybodaeth wedi ei thargedu ac atebion ymarferol (megis mannau i ail-gyflenwi â dŵr) a ddarperir gan fusnesau a rhanddalwyr. Rydym wedi cyfrannu at ymgynghoriadau ac rydym yn obeithiol y bydd y gwaith hwn yn gwneud gwahaniaeth. Mae sbwriel plastig a llygredd mircoblastig yn digwydd oherwydd dewisiadau a wneir gan bobl cyn ac yn ystod eu hymweliadau â’r mynydd prysur hwn. Fel erioed, byddwn yn cynnig help llaw ac yn darparu arweiniad yn ôl yr angen. Gwyliwch y gofod hwn. Poteli plastig wedi eu gadael ar yr Wyddfa ● Plastic bottles left on Snowdon

Ar yr un pryd mae CNC yn adolygu safleoedd o fawnog ar ei stad goedwigol, gyda’r nod o adnabod safleoedd mawnog sy’n addas ar gyfer eu hadfer. Mae cymaint o fawnogydd wedi eu difrodi gan goedwigo ac rydym yn croesawu pob un sy’n cael ei hadfer. Wrth ymateb i gynllun coedwig Aberhirnant a Llangywer CNC tynnwyd sylw at bresenoldeb mawn dwfn a gofynnwyd gennym pam fod yr ardaloedd yma’n parhau yn yr ardal wedi ei phlannu pan mai nod CHC oedd adnabod mannau o’r fath ar gyfer adfer y fawnog. Cawsom ein synnu gan ateb CHC ‘bod gan yr ardaloedd wedi eu nodi, heblaw un, gnydau sy’n cynhyrchu’n dda ac felly dydyn nhw ddim wedi eu hadnabod fel mannau priodol ar gyfer adfer y fawnog’. Rydym yn cadarnhau y byddwn yn gweithredu ymhellach ar hyn. Mannau gosod pebyll mewn perygl Yn gynharach eleni gwrthwynebodd y Gymdeithas gais rhif NP5/58//1995 i roi’r gorau i 16 safle i osod pebyll a sefydlu safle carafán ar gyfer 9 carafán deithiol. Fe wnaethon ni ei gwneud yn amlwg nad oedden ni’n dymuno ymyrryd ym musnes y safle gwersylla – roedd ein gwrthwynebiad yn amlygu bod polisi cynllunio’n gwahardd yn benodol unrhyw newid o’r fath. Roeddem yn falch felly o glywed bod y cais wedi ei wrthod – mae ambell i gais tebyg wedi ei ganiatáu. Mae’r ddau haf diwethaf wedi dangos mor hanfodol yw cyflenwad digonol o safleoedd gwersylla fforddiadwy – mae nifer fawr o bobl sy’n gwersylla ar ochrau ffyrdd wedi peri pob math o broblemau. Mae prinder safleoedd i osod pebyll yn un ffactor sy’n cyfrannu at y broblem ac rydym yn annog Awdurdod y Parc Cenedlaethol i fod yn greadigol wrth chwilio am atebion o ran cyflenwad.

|9


Tŷ Hyll – making the best of our resources Tŷ Hyll is a unique place, an important part of the Society’s history and a resource for delivering our charitable purposes. A decade on from a major refurbishment and repurposing, it is time for us to take stock of what has worked and what hasn’t. A working group of staff and trustees will consider options for making best use of the opportunities Tŷ Hyll provides. We’ll bring their recommendations to you next year. Share your beds! In her spare time Judith our Finance Officer volunteers for that excellent charity Amnesty International, including baking cakes and helping out at ‘open garden’ fundraisers. We wondered whether you would like to do an Open Garden day in 2022 to raise funds for the Snowdonia Society’s work? Society staff will happily help out with arrangements before and on the day, and it’s a great excuse for socially-distanced cake! You don’t need to be a Chelsea gold medal winner – any reasonably spacious garden could be considered. If you don't think your garden is suitable, perhaps you could help at another garden? Get in touch with our Engagement Officer, Claire, to discuss further - claire@snowdoniasociety.org.uk Glyn Rhonwy pumped storage – pure speculation Earlier this year we objected to an application by Snowdonia Pumped Hydro Ltd (SPH) to extend the ‘start-by’ date for the Development Consent Order to build a pumped storage facility at Glyn Rhonwy near Llanberis. Given that SPH are asking for a two-year extension and don’t appear to have raised much capital, some local commentators are now asking if they really intend to build or are just hoping to sell on the permissions secured. With energy priorities and technology changing at speed, we wonder whether the ‘sledgehammer to crack a nut’ approach of pumped storage has a future here, given that there is already a much larger facility at Dinorwig.

10 |

Shortcuts:

updates and local knowledge The end of the road for Welsh Government? Snowdonia Society supports the decision by Welsh Government to pause the pipeline of new road-building projects and welcomes the planned review of road schemes which will include evaluation of their environmental impacts. This follows the landmark decision in 2019 not to proceed with the M4 Newport corridor, when the First Minister cited unacceptable biodiversity impact on the Gwent Levels as a primary consideration. We will closely monitor how the moratorium on new road building affects the proposed Llanbedr bypass, which is classed as a ‘low value for money’ scheme in government assessments. Nature emergency – it’s official Another welcome development. Welsh Government has declared a ‘nature emergency’. To the surprise of many, the opposition-led debate on 30th June, was supported by the government. The Snowdonia Society played its part, as a member of Wales Environment Link, in briefing Senedd members. The resulting debate was notable for its informed contributions, from across the main parties, on the plight of wildlife species and habitats. The motion was to declare a nature emergency, introduce a legally binding requirement to reverse biodiversity loss through statutory targets and legislate to establish an independent environmental governance body for Wales. A good outcome but here’s a note of caution: declaring an emergency is only the first step. After words must come action, but no space has been made for this work in the legislative programme. We’ll be pressing Welsh Government to move as quickly as possible. Snowdonia Society in the Senedd During the ‘nature emergency’ debate, the Member for Dwyfor Meirionnydd highlighted the important role played by volunteers and urged the government to match their commitment in delivering action for the environment. Mabon ap Gwynfor MS began by describing the Society’s practical work before going on to explain: "The reason I'm talking specifically about Cymdeithas Eryri is to show that the actions happening at the moment to safeguard nature and biodiversity are reliant on individuals and small and large charities on a local and national level. There are thousands of other volunteers doing similar work for other organisations too, of course. But we can't rely on volunteers. They and the charities and organisations working in this area, such as Cymdeithas Eryri, want national guidance, and they want the Government to act too." Pipe Dream* for Dolgarrog We are grateful to Janet Finch-Saunders, Senedd Member for Aberconwy for her excellent work in bringing key parties together to work on an access problem with the pipe-bridge at Dolgarrog. An important link for walkers and cyclists, the bridge has had to be closed for repairs and there were fears it would not be re-opened. Now the future looks much brighter, and the MS has been instrumental in making things happen. Welsh Water and Conwy Council have shown admirable responsiveness to recognise the local concerns and put together a plan that will ultimately improve the access provision here, and link to the recent refurbishment of the nearby railway station. *Pipe Dream is the name of a fell race that follows the pipeline up a ridiculously steep slope – your Director has ‘fond’ memories of it!


Price of eggs goes up again

Peat: mixed messages

In June we objected to planning application NP5 69 16J which relates to the industrialscale egg-production unit at Llanegryn in southern Snowdonia. We have opposed this development at each step because it is at odds with the purpose and character of the National Park and poses real problems for local residents. This latest application seeks to ‘regularise’ aspects of the development which have not been built in line with the planning permission inexplicably granted by the National Park Authority. Silo locations have been moved, the roofline altered and the promised ‘landscaping’ is missing or has been changed.

Natural Resources Wales is currently leading Welsh Government’s National Peatland Action Plan. With more than 30% of the country’s peat, Snowdonia is key to delivery of this plan. Snowdonia Society is one of many organisations supporting NRW with this important work.

Documents submitted with the application argue that the changes proposed are ‘not significant given the scale and nature of the whole development’. In our objection letter we disagree, stating that the ‘development is already unacceptable in planning terms, and therefore even minor changes to the visibility of the structure or its elements makes it even more unacceptable’. As we have repeatedly argued, permitting this kind of development is bad for the traditional farming and landscapes which are the backbone of Snowdonia’s identity and economy. This image shows the unit in the landscape. The mound at the left end is Castell Mawr, an Iron Age hill-fort and Scheduled Ancient Monument. Castell Mawr, caer fynydd oes yr haearn ● Castell Mawr iron-age hillfort

At the same time NRW is reviewing peatland sites on its forestry estate, with the aim of identifying peatland sites suitable for restoration. So many peatlands have been damaged by afforestation and we welcome every single one that is restored. In responding to NRW’s Aberhirnant and Llangywer forest plan we flagged up the presence of deep peat and asked why these areas remained in the planted area when NRW are aiming to identify such areas for peat restoration. We were shocked by NRW’s reply that ‘the areas identified, except for one, have good yielding crops and therefore have not been identified as suitable areas for peat restoration.’ Members can rest assured that we will pursue this. Pitches in peril

Green forests? Public forests are managed by Natural Resources Wales, wearing its commercial forestry operator hat. The Snowdonia Society is working to ensure forests in Snowdonia are managed for conservation and recreation purposes as well as timber production. We are responding to a series of NRW Forest Resource Plan consultations. We’ve commented on plans for Aberhirnant and Llangywer, Llanfor and Celyn and Bethesda and Abergwyngregyn. At the time of writing, we are working on our response to the Eryri (Beddgelert Forest) plan which includes forestry blocks at Bryn Gwynant, Nantmor, Llyn Cwellyn. The largest compartment is the plantation just north of Beddgelert which stretches up to Bwlch y Ddwy Elor, Moel Lefn, Moel yr Ogof and Moel Hebog. In all our responses we are emphasising the need for NRW to take a proactive approach to peatland restoration and invasive species control, including the problem caused by conifers seeding out from plantations and damaging high value conservation sites. We’re also offering a helping hand where our staff and volunteers could contribute to worthwhile conservation work.

Earlier this year the Society objected to planning application NP5/58/199S for the relinquishment of 16 camping pitches and their replacement with 9 touring caravan pitches. We made clear that we had no wish to interfere in the campsite’s business – our objection was to highlight that planning policy specifically prohibits such a change. We were relieved therefore that the application was refused – some similar applications have been permitted. The past two summers have shown how essential an adequate supply of affordable camping sites is – large numbers of people fly-camping on roadsides has brought all kinds of issues. Shortage of tent pitches is one contributor to the problem and we’re encouraging the National Park Authority to be creative in looking at supply-side solutions. Sbwriel wedi ei adael gan wersyllwyr anghyfreithlon ● Litter left behind by fly campers

Plastic-free Snowdon By the time you read this the Snowdon Partnership’s feasibility study will have been published on how Yr Wyddfa / Snowdon can become the first mountain in the UK to achieve ‘plastic-free’ status. What does that mean? We’re awaiting detail but it’s likely to involve a mix of targeted information and practical fixes (such as water refill outlets) delivered by businesses and stakeholders. We’ve contributed to consultations and we’re optimistic that this work will make a difference. Both plastic litter and microplastic pollution problems result from the choices people make before and during their visits to this busiest of mountains. As always, we’ll offer a helping hand and provide leadership as needed. Watch this space.

| 11


Natur am Byth: golau gwyrdd i fywyd gwyllt arctig alpaidd Eryri Derrig a chacynen y llus yn Eryri ● Mountain avens and bilberry bumblebee in Snowdonia © Julian Driver

Cafwyd newyddion da i rai o rywogaethau Eryri sydd o dan fygythiad gyda’r cyhoeddiad y bydd y project Natur am Byth yn cael ei ddatblygu ymhellach. Partneriaeth yw’r rhaglen adfer rhywogaethau hon, sy’n costio sawl miliwn o bunnoedd, rhwng naw corff anllywodraethol amgylcheddol a Chyfoeth Naturiol Cymru, i ddatblygu project cadwraeth natur mwyaf y wlad sy’n annog pobl i ymwneud â byd natur Cymru. Gyda deg ardal project, pob un i’w harwain gan gorff cadwraeth gwahanol, Plantlife fydd yn arwain y gwaith yn Eryri i gynyddu poblogaethau un-ar-ddeg o blanhigion ac infertebratau o dan fygythiad. Mae’r rhywogaethau targed hyn yn aelodau o’r cymunedau arctig alpaidd sy’n un o nodweddion mwyaf rhyfeddol ein mynyddoedd. Cadarnhawyd yr ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Cenedlaethol ar gyfer y cyfnod datblygu hyd at 2023; bryd hynny bydd cynllun manwl a chais am ariannu’n cael ei roi gerbron. Os yn llwyddiannus, byddai’r project yn cael ei roi ar y gweill dros 5 mlynedd rhwng 2023-27. Mae disgrifiad y project Natur am Byth yn datgan: ‘Mae llethrau a chreigiau Eryri yn hafan i blanhigion arctig alpaidd ac infertebratau eithriadol o brin – bydd Natur am Byth yn cydweithio gyda gwirfoddolwyr,

12 |

Chwilen enfys ddeilen yr Wyddfa ● Snowdon rainbow leaf beetle © Richard Gallon

arweinwyr mynydd a gerddi botanegol i adfer 11 rhywogaeth sy’n hynod brin. Wrth ddathlu Eryri fel ardal a esgorodd ar fotaneg a gwyddoniaeth naturiol, bydd y project hwn yn canolbwyntio ar gynefinoedd mynyddig ac yn ceisio sicrhau mwy o wytnwch a pharhad planhigion arctig alpaidd a rhai o infertebretau yr ucheldir yn wyneb heriau ymfudiad fertigol o ganlyniad i effeithiau newid hinsawdd a phwysau pori. Bydd planhigion arctig alpaidd hefyd yn cael eu trin a’u tyfu gan arbenigwyr yn y maes mewn gerddi botaneg a meithrinfeydd lleol, a bydd gwirfoddolwyr a chontractwyr arbenigol yn ehangu cynefin, gyda chysylltiadau â mannau sy’n boblogaidd gan dwristiaid er mwyn codi ymwybyddiaeth o rywogaethau eithriadol o brin ac arbenigol yr ucheldir sydd i’w cael yn Eryri. Mae gan y rhedynau gyswllt arbennig gyda chasglwyr planhigion oes Fictoria a byddai hyn yn golygu’r ymgais gyntaf i fynd i’r afael â’u hadfer yng nghynefinoedd mynyddig y DU.’ Ymysg yr un-ar-ddeg rhywogaeth i elwa o weithrediadau cadwraeth Natur am Byth mae tormeini trawiadol (siobynnog ac Iwerddon), rhedynau tlws (rhedynWoodsia Alpaidd a gwrychredynen-ycelyn), heboglys yr Wyddfa endemig, ynghyd ag infertebratau’r ucheldir fel chwilen ddail enfys Eryri a physen cragenfylchog yr arctig. Mewn llawer achos mae ystod ehangach o rywogaethau yn

debygol o elwa o’r gwaith hwn o ganlyniad i welliannau yng nghyflwr y cynefin. Mae unrhyw un sydd wedi treulio amser yn edrych ar blanhigion mewn mannau fel Cwm Glas Mawr yn adnabod rhai o’r rhywogaethau hyn. Mae sawl nodwedd yn cysylltu’r safleoedd – clogwyni uchel sy’n wynebu’r gogledd, clogwyni a meysydd clogfeini a saif yn aml ar ddaeareg gwaelodol gyfoethog; y mannau gorau ar gyfer amrywiaeth arctig alpaidd Eryri yw ei lleoliadau oeraf! Mae Cymdeithas Eryri’n falch iawn o fod â rhan ac yn edrych ymlaen i gydweithio gyda Plantlife, Cyfoeth Naturiol Cymru ac eraill i wireddu darn mor bwysig o waith cadwraeth. Bydd yn ein rôl yn cynnwys recriwtio, hyfforddi a chefnogi gwirfoddolwyr i helpu gydag amlhau, plannu a gwarchod y planhigion a monitro eu sefydliad mewn safloedd allweddol. Gwyliwch y gofod hwn am fwy o wybodaeth.


Natur am Byth: green light for Eryri’s arctic alpines

Tormaen llydandroed ● Mossy saxifrage © Jim Langley

There’s good news for some of Snowdonia’s most threatened species, with the announcement that the Natur am Byth project (nature forever) is going forward to its development stage. This multi-million pound species recovery programme is a partnership between nine environmental NGOs and Natural Resources Wales, to develop the largest nature conservation and engagement project in Wales. With ten project areas, each to be led by a different conservation body, Plantlife is set to lead the work in Eryri/Snowdonia to increase the populations of eleven threatened plants and invertebrates. These target species belong to the arctic alpine communities which are one of the remarkable features of our mountains. Funding from National Lottery Heritage Fund has been confirmed for the development stage to 2023 at which point a detailed plan and funding application will be submitted. If successful, delivery of the project would take place over 5 years between 2023-27. The Natur am Byth project outline states: ‘The slopes and crags of Eryri are a haven

for exceptionally rare arctic alpine plants and invertebrates – Natur am Byth will work with volunteers, mountain guides and botanic gardens to revive 11 species on the edge of existence. Celebrating Snowdonia as one of the birth places of botany and natural sciences, this project will focus on montane habitats, seek to ensure greater resilience and a lasting legacy of arctic alpines and some rare upland invertebrates in the face of vertical migration challenges from climate change impacts and grazing pressures. Ex-situ cultivation of arctic alpines linked to botanic gardens and local nurseries/ specialists, volunteer-led and specialist contractors to extend range, and links to tourist honey pots to raise awareness of the exceptionally rare and specialised upland species which Eryri harbours. The ferns bring a particular narrative concerning Victorian plant collectors and would represent a first attempt to address their restoration in UK mountain habitats.’ The eleven species set to benefit from Natur am Byth conservation action include stunning saxifrages (tufted and Irish), fabulous ferns (alpine and oblong Woodsias and the holly fern), the endemic

Snowdon hawkweed, along with upland invertebrates such as the Snowdon rainbow leaf beetle and the Arctic peaclam. In many cases a wider range of species is likely to benefit from this work through improvements in habitat condition. Anyone who has spent time looking at plants in places such as Cwm Glas Mawr will know some of these species. There are common factors that link the sites - high, north-facing crags, cliffs and boulder fields often on base-rich geology; the hotspots for arctic alpine diversity in Eryri are in fact its coldest spots! The Snowdonia Society is delighted to be involved and looking forward to working with Plantlife, NRW and others to deliver such an important piece of conservation work. Our role will include recruiting, training and supporting volunteers to help with propagation, planting and protection of the plants and monitoring of their establishment at key sites. Watch this space for more information.

| 13


Haf Prysur:

Gofalu am Eryri yn ystod tymor yr haf Mary Williams Project partneriaeth yw Caru Eryri lle mae gwirfoddolwyr yn ymweld â rhannau prysuraf Eryri. Mae gwirfoddolwyr Caru Eryri yn clirio sbwriel ac yn cyfathrebu â phobl – yn darparu gwybodaeth, yn ateb ymholiadau ac yn bresenoldeb cyfeillgar sy’n cynnig cymorth. Gobeithio y bydd ein hesiampl yn annog pobl i fod yn ystyriol o’r tir, ei fywyd gwyllt a’i bobl. Gobeithiwn hefyd weithredu fel ‘llygaid a chlustiau yn y maes’, gan adrodd yn ôl am bethau megis camfeydd wedi torri, meysydd parcio ceir llawn, neu safleoedd gwersylla anghyfreithlon y mae angen eu clirio. Bu’n llwyddiant mawr eisoes. Rydw i wedi bod wrth fy modd bob dydd yr ydw i wedi cymryd rhan ynddo. Mae’r cwmni yn ddifyr ac yn amrywiol ac mae cymaint o bobl yn oedi i gyfleu eu gwerthfawrogiad. Mae’r amgylchiadau hyfryd, beth bynnag fydd y tywydd, yn gymorth hefyd! Pam fod ei angen? Ers rhai blynyddoedd, mae’r Parc Cenedlaethol wedi dod yn fwyfwy poblogaidd. Mae’r cyfryngau cymdeithasol a’r ffôn smart bellach yn golygu bod lluniau trawiadol o’r tirluniau yn denu pobl na fydden nhw fel arall o bosib wedi ystyried mynd ar eu gwyliau i’r mynyddoedd nac,

yn wir, mewn Parc Cenedlaethol. Mae gwyliau dramor yn fwy anodd oherwydd y firws Corona-19 ac mae’r nifer enfawr o ymwelwyr ym mis Gorffennaf ac Awst y llynedd, ac eto’r haf hwn, yn dyst o hyn. Y llynedd buom yn cydweithio’n agos gydag Awdurdod y Parc Cenedlaethol, y Bartneriaeth Awyr Agored a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i fynd i’r afael â’r pwysau o ganlyniad. Wrth adeiladu ar y profiad hwn, mae Cymdeithas Eryri wedi chwarae rôl arweiniol eleni gan fod yr un cyrff wedi ymuno eto i drefnu ymateb ledled Eryri. Llesol i gorff ac enaid! Mae gwirfoddolwyr Caru Eryri yn gwneud gwahaniaeth i’r amgylchedd drwy glirio sbwriel ac felly’n cynnal ein lleoliadau arbennig mewn cyflwr da a naturiol a gwarchod bywyd gwyllt rhag niwed. Ond mae cymryd rhan yn y project hwn hefyd o fudd i’r sawl sy’n cymryd rhan eu hunain. Mae gwaith ein staff a’n gwirfoddolwyr yn amlwg iawn yn y mannau prysuraf hynny lle mae angen esiampl dda, dylanwad positif ar rai ymwelwyr sydd ag ychydig o brofiad o sut i ddangos parch tuag at leoliadau a phobl yng nghefn gwlad. Mae awyr iach, lleoliadau hyfryd, ymarfer corff, newid o’r gwaith neu’r hyn y byddech

Ailgylchu pob dim allwn ni ● Recycling what we can

fel arfer yn ei wneud ar benwythnosau yn golygu, hyd yn oed mewn glaw, bod gwirfoddolwyr Caru Eryri yn mwynhau eu hunain bob amser. Mae’r cwmni yn ddifyr ac mae’n ffordd wych o gyfarfod pobl newydd. Â diddordeb? Mae Caru Eryri ar waith rhwng pob dydd Mercher a dydd Sul hyd ddiwedd mis Medi felly mae digon o gyfleoedd i gymryd rhan. Cofiwch wneud! Wedi cychwyn yn raddol adeg y Pasg er mwyn datrys problemau cynnar, rydym bellach wedi cynyddu’r lleoliadau/ llwybrau a’r nifer o ddyddiau yr wythnos. • Does dim angen ymrwymiad rheolaidd – gallwch wirfoddoli yn aml neu dim ond weithiau yn ôl eich dymuniad. • Mae hi bellach yn hawdd arwyddo’n ddigidol i gymryd rhan. • Rydym yn ymweld ag amrywiaeth o leoliadau, er enghraifft, Cader Idris, y ffyrdd o amgylch Yr Wyddfa, Dyffryn Ogwen ac amrywiol lynnoedd poblogaidd. • Darperir hyfforddiant ardderchog, i ddysgu mwy am y Parc Cenedlaethol a chyngor am wahanol sefyllfaoedd y byddech, o bosib, yn dod ar eu traws (sesiwn ar-lein o 2 awr neu cwrs achrededig byr newydd sbon). • Darperir yr holl offer sydd ei angen arnoch ac mae anrhegion ‘diolch’ hefyd. • Asesir diogelwch Covid-19 a’i gynllunio fel rhan o’r gweithgareddau. Fel arfer mae’r shifftiau rhwng 9yb a 3yp. Does dim wir angen ffitrwydd, ond mae pa mor anodd yw pob llwybr yn cael ei nodi ar yr hysbysiadau i’r sesiwn. Cofrestrwch ar bit.ly/carueryri Ein Swyddog Cadwraeth a Thŷ Hyll yw Mary Williams, ac mae hi’n trefnu gweithdai cadwraeth ymarferol i wirfoddolwyr ac yn edrych ar l Tŷ Hyll. Mae hi’n rhan o’r tîm craidd sy’n trefnu project Caru Eryri.

14 |


Gwneud fy rhan dros Eryri

Edrych i'r dyfodol Cefnogwyd datblygiad rhaglen uchelgeisiol Caru Eryri gan Lywodraeth Cymru. Rydym yn cynllunio sut i ddatblygu’r gwaith hwn yn y dyfodol. Mae’n debyg y bydd pwysau ymwelwyr a’r angen i warchod mannau arbennig o ganlyniad yn debygol o fod efo ni am gryn amser. Rydym yn gweithio i sicrhau y byddwn yn gallu gwarchod tirluniau a’r bobl sydd ynddyn nhw. Fodd bynnag, be bynnag fydd y dyfodol i’r project hwn, gobeithiwn y bydd ein negeseuon allweddol yn cael eu mabwysiadu gan y cyhoedd:

cynllunio teithiau ac ymweliadau ymlaen llaw; darganfod gwahanol fannau o fewn y parc, yn hytrach na’r rhai y mae pawb yn heidio iddyn nhw; gwarchod y tirlun trawiadol a hyfryd a’i bobl a’i fywyd gwyllt drwy fod yn ystyriol.

Sbwirel wedi'i gasglu Ebrill - Gorffenaf 2021 202

Gwirfoddolwyr

1,290

Oriau gwirfoddolwyr

318

Bagiau o sbwriel

721kg

Sbwriel wedi'i gasglu

Lisa yw fy enw i. Rydw i’n byw ar arfordir gogledd Cymru gyda fy nheulu a dau gi: Y Bwystfil a Billy. Rydw i’n gweithio yn y Parc Cenedlaethol, ac yn defnyddio fy nghymhwyster Arweinydd Mynydd i arwain grwpiau o ferched ar deithiau mynydd. Does dim brys ar y teithiau, rydym yn oedi i dynnu lluniau, sgwrsio a dydy’r diwrnod ddim yn gyfan heb gacen. Yn fy amser hamdden rydw i’n crwydro mynyddoedd gyda Billy, yn darganfod ardaloedd newydd neu’n bwrdd-badlo ar un o’n llu o lynnoedd.

Dechreuais wirfoddoli yn Eryri y llynedd pan lansiwyd y project peilot Croeso’n Ôl. Fel llawer, roeddwn yn bryderus am effaith pobl ar ardal a’i bywyd gwyllt a oedd wedi ffynnu yn ystod y cyfod clo mawr. Wrth rannu neges ‘Troedio’n Ysgafn/Byddwch Ddiogel/ Byddwch Garedig’ ledled y cyfryngau cymdeithasol, roeddem yn gallu cyrraedd cynulleidfa enfawr mewn dull cyfeillgar. Roeddwn yn bryderus am y broblem sbwriel; roedd yn gas gen i feddwl y byddai ardal sy’n agos iawn at fy nghalon unwaith eto wedi ei gorchuddio â sbwriel ac roeddwn yn falch o’r cyfle i wirfoddoli. Lansiwyd project estynedig Caru Eryri yn ogystal â Chynllun Llysgennad Parc Cenedlaethol Eryri. Fel gwirfoddolwr derbyniais hyfforddiant ar-lein gan Mike Raine ac enillais fy Ngwobr Aur am y cynllun Llysgennad. Gyda chefnogaeth Cymdeithas Eryri ac APCE, roeddwn yn teimlo’n barod i arwain grwpiau o wirfoddolwyr. Gallaf argymell yn gryf arwyddo i gymryd rhan yn y Cynllun Llysgennad ar-lein; mae’n adnodd gwych i ddysgu mwy am Eryri ac mae modiwlau newydd yn cael eu hychwanegu. Fel gwirfoddolwyr mae gen i fwy o ffrindiau, rydw i wedi treulio amser mewn lleoliadau hyfryd ac wedi dod o hyd i ffordd o ymlacio wrth gymryd rhan yn y dyddiau. Rydw i wedi mwynhau sgwrsio gydag ymwelwyr a chynnig cyngor am gerdded yn ddiogel a helpu gyda pharcio, yn ogystal â rhannu straeon am hanes a chwedlau Eryri. Mae hi wedi bod yn wych bod yn rhan o dîm sy’n cadw ein Parc Cenedlaethol yn hardd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol ac ardal lle all yr anifeiliaid a’r blodau barhau i ffynnu. gan Lisa Wells, gwirfoddolwr Cymdeithas Eryri

| 15


A Busy Summer:

Caring for Eryri in high season Mary Williams

Caru Eryri / Care for Snowdonia is a partnership project which sees volunteers out and about in those parts of Eryri that are busiest with people. Caru Eryri volunteers clear litter and engage with people - providing information, answering queries and being a helpful, friendly presence. We hope that our example encourages people to be considerate of the land, its wildlife and people. We also act as ‘eyes and ears on the ground’, reporting issues such as broken stiles, full car parks, or abandoned fly-camping sites which need to be cleaned up.

has contributed to making holidays abroad more difficult and the vast numbers of visitors last July and August and again this summer are testament to this.

It has been a great success already. I have loved each day in which I’ve taken part. The company is great and varied and so many people stop to show their appreciation. The beautiful surroundings, whatever the weather, help too!

Caru Eryri volunteers make a difference to the environment by clearing litter, therefore keeping our special places looking as good as they naturally do and protecting wildlife from harm. But taking part in the project also benefits the participants themselves.

Why is it needed? For some years, the popularity of the National Park has been soaring. Social media and the rise of smartphones mean that stunning photographs of the landscapes are now drawing people in who might otherwise not have thought of holidaying in the mountains or, indeed, in a National Park. The coronavirus pandemic

Last year we worked closely with the National Park Authority, Outdoor Partnership and National Trust to tackle the resulting pressures. Building on that experience, this year the Snowdonia Society has played a leading role as the same organisations have teamed up again to organise an Eryri-wide response. Good for body and soul!

The work of our staff and volunteers is highly visible in those honeypot places where a good example is needed, a positive influence on some visitors who have little experience of how to show respect for places and people in the countryside. Fresh air, beautiful locations, exercise, a change from a day of work or what you

Casglu sbwriel ar ddiwrnod gwaith Caru Eryri ● Collecting litter on a Care For Snowdonia workday

would usually do on a weekend means that even in rain, volunteers consistently enjoy themselves as Caru Eryri volunteers. The company is always good and it is a great way to meet new people. Interested? Caru Eryri / Care for Snowdonia is running every Wednesday – Sunday until the end of September so there are plenty of opportunities to get involved. Please do! After starting gently at Easter to ‘iron out any wrinkles’, we have now increased the locations/routes and number of days a week. • No regular commitment is required – you can volunteer as few or as many times as you like. • Signing up is now digital and smooth. • A variety of locations, for example, Cader Idris, the roads around Snowdon / Yr Wyddfa, the Ogwen valley, various popular lakes. • Excellent training is provided, to learn more about the National Park and advice about different scenarios you might encounter (2 hour online session or a brand new short accredited course). • All equipment you need is provided and there are ‘thank you’ gifts too. • Covid-safety is assessed and planned as part of the activities. Shifts are usually from 9 am to 3 pm. Fitness is not vital, although the expected difficulty of each route is always noted on the shift advertisements. Register at: bit.ly/carueryri Mary Williams is our Conservation and Tŷ Hyll Officer, arranging practical conservation workdays for volunteers and looking after Tŷ Hyll (the ‘ugly house’). She is part of the core team that organises the Caru Eryri / Care for Snowdonia project.

16 |


Doing my bit for Snowdonia

Looking to the future The development of this ambitious Caru Eryri / Care for Snowdonia programme was supported by funding from Welsh Government. We are planning how to develop this work into the future. Visitor pressures and the resulting need to look after special places are likely to be with us for some time. We’re working to make sure we can continue to look after landscapes and the people in them. However, whatever the future holds for this project, hopefully our key messages will be taken up by the public:

to plan journeys and trips out in advance; to discover different areas within the park, instead of those that everyone flocks to; to protect the spectacular, beautiful landscape and its people and wildlife by being considerate.

Litter collected April - July 2021 202

Volunteers

1,290

Volunteer hours

318

Bags of litter

721kg

Litter collected

My name is Lisa. I live on the north Wales coast with my family and two dogs: The Beast and Billy. I work in the National Park, using my Mountain Leader qualification to lead groups of women on mountain walks. The pace is relaxed, we stop for lots of photos, chat and our day isn’t complete unless there’s cake. My spare time is spent with Billy wandering over mountains, exploring new areas or stand-up paddle boarding on one of our many lakes.

I started volunteering in Snowdonia last year when the Welcome Back/Croeso’n Ôl pilot project was launched. Like many, I was worried about the impact people would have on an area and its wildlife that during lockdown had been left to thrive. By sharing the message across social media of ‘Tread Lightly/ Stay Safe/Be Kind’, we were able to reach a huge audience in a friendly manner. The litter problem concerned me; I hated to think that an area I love would once again be covered in discarded rubbish and jumped at the chance to become a volunteer. This year’s expanded Care for Snowdonia/Caru Eryri project was launched along with the Snowdonia National Park Ambassador Scheme. As a volunteer I received on-line training from Mike Raine and achieved my Gold Award for the Ambassador scheme. With the support of the Snowdonia Society and the SNPA, I felt ready to lead groups of volunteers. I can highly recommend signing up for the online Ambassador Scheme; it’s a great resource to learn more about Snowdonia with new modules being added. As a volunteer I’ve made friends, spent time in stunning areas and found a relaxing way to spend the days. I’ve enjoyed chatting to visitors, offering tips for walking safely, helping with parking, as well as sharing stories of the history, myths and legends of Snowdonia. It’s been great to be part of a team keeping our National Park beautiful for future generations and a place where the fauna and flora can continue to flourish. by Lisa Wells, Snowdonia Society volunteer

| 17


Partneriaeth Natur Eryri Bethan Wyn Jones

Y draenog yn dychwelyd i rai gerddi yn 2021 ● A spike in cases – hedgehogs return to some gardens in 2021 © John Harold

Beth yw Partneriaeth Natur Eryri? Menter newydd a sefydlwyd ym mis Ionawr 2020 yw Partneriaeth Natur Eryri (PNE). Erbyn hyn mae partneriaeth fyd natur wedi ei sefydlu ym mhob awdurdod lleol ac ym mhob un o’r tri parc cenedlaethol yn ychwanegol i hynny ledled Cymru. Y feddylfryd y tu ôl i’r partneriaethau yw creu rhwydwaith adfer natur ledled Cymru sy’n cynnwys cyfranwyr o’r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol ac, mewn gwirionedd, y bwriad yw dod â phawb at ei gilydd i drafod, cynllunio a dysgu oddi wrth ei gilydd a, drwyddo draw, anelu tuag at adfer a gwarchod byd natur yn ein hardal leol. Mewn geiriau eraill, ceisio trio sicrhau bod pawb ar yr un dudalen ac yn cydweithio yn effeithiol! Mae’r bartneriaeth wedi'i sefydlu ar sylfeini Fforwm Bywyd Gwyllt Eryri ac mewn ymateb i weithredu Cynllun Gweithredu Adfer Natur Llywodraeth Cymru. Sut mae’r partneriaethau yma yn anelu i adfer byd natur? Y prif ffyrdd y mae’r bartneriaeth yn anelu i wireddu ei hamcanion o adfer byd natur ydy: - Cydweithio i gynllunio a datblygu polisïau hir dymor: hynny ydi, gweithio gyda’r partneriaid a defnyddio eu harbenigedd, eu profiad a’u brwdfrydedd i greu cynllun gweithredu adfer byd natur. Mi fydd gofyn

18 |

i un o’r cynlluniau yma gael ei gyhoeddi ym mhob rhan o Gymru dros y blynyddoedd nesaf ac mi fydd yn nodi beth yw’r prif rywogaethau a chynefinoedd sydd o dan fygythiad ac sut rydan ni am fynd ati i adfer neu gwarchod y pethau yma yn lleol. - Yr ail beth y bydd y bartneriaeth yn anelu i’w wneud fydd cydweithio a rhannu syniadau ac arferion gorau, sef edrych ar brosiectau adfer byd natur eraill a dysgu beth sydd wedi gweithio a beth sydd wedi methu fel bod prosiectau yn gweithio mewn ffordd effeithiol a phragmatig. - Y trydydd peth fydd cynnal ac ariannu prosiectau sydd â’r nod o adfer byd natur. Mae ambell i brosiect wedi ei ariannu a’i gynnal mewn partneriaeth y llynedd, er enghraifft prosiect Adfywio Mynwentydd Eryri i greu lloches i fyd natur mewn mynwentydd, a phrosiect Gerddi Cymunedol. Mi fydd prosiectau tebyg yn cael eu cynnal eleni eto ac rydan ni’n chwilio’n barhaol am fwy o syniadau. - Yn olaf, bydd ymgyrch i addysgu pobl am fyd natur a chodi ymwybyddiaeth am natur ein hardal leol – rhywbeth pwysig sydd wedi dod yn fwyfwy amlwg yn y flwyddyn ddiwethaf yn enwedig dros y cyfnodau clo heriol. Sut alla’i fod yn rhan o’r Bartneriaeth? Mae tri chyfarfod wedi eu cynnal hyd yma

Gwlithlys ● Sundew © SPNA

ac mi fydd y bartneriaeth yn gobeithio cyfarfod eto yn yr hydref. Mi ydan ni wastad yn chwilio am fwy o bartneriaid felly cofiwch gysylltu os oes gennych chi ddiddordeb. Mae hi’n ddyddiau cynnar ar hyn o bryd ond rydan ni’n gobeithio creu cylchlythyr a hwb ar y we ar gyfer diweddaru partneriaid ynglŷn â’r hyn sy’n digwydd yn ein hardal leol ni. Yn y cyfamser gallwch ein dilyn ar Instagram a Twitter (@natur_eryri) neu ar Facebook (@natureryri) Os hoffech gael mwy o wybodaeth am y bartneriaeth neu os oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn rhan o’r bartneriaeth cysylltwch â Bethan Jones ar bethan.jones2@eryri.llyw.cymru Bethan Wyn Jones yw Swyddog Bioamrywiaeth a Chydlynydd Partneriaeth Natur Leol i APCE gyda cefndir mewn sŵoleg a chadwraeth.

Tinwen y garn ● Wheater


Snowdonia Nature Partnership Bethan Wyn Jones

Cen Cladonia ● Cladonia lichen © SPNA

What is Partneriaeth Natur Eryri? (Snowdonia Nature Partnership?) The Snowdonia Nature Partnership (SNP) was established in January 2020. A nature partnership has by now been established in all local authorities and also in each of the three Welsh national parks. The concept behind the partnerships is to create a network to restore nature throughout Wales and includes contributors from the public, private and voluntary sectors, The aim is to bring everyone together to discuss, plan and learn from one another and, ultimately, to restore and protect nature in our local areas. In other words, to try and ensure that we’re all on the same page and working together efficiently! The partnership was developed on the foundations of the Snowdonia Wildlife Forum and in response to the Welsh Government’s Action Plan for Nature Restoration. How do these partnerships aim to restore nature? The main methods the partnerships will use to fulfil their aims of restoring nature will be as follows:

- Co-operation in planning and developing long term policies; i.e., working with partners and making use of their specialities, experience and enthusiasm to create a nature restoration action plan. It will be necessary for one of these plans to be published in each part of Wales over the next few years and it will list the main species and habitats under threat and how we aim to restore or protect these locally. - The second aim of the partnership will be working with others and sharing ideas and best practices, i.e. to look at other nature recovery projects and learn what has succeeded and what has not so that projects succeed in an effective and pragmatic way. - The third aim will be supporting and funding projects with the aim of restoring nature. Some projects have been financed and supported last year in partnership, e.g.: Graveyard Restoration Scheme in Snowdonia to create a sanctuary for nature in graveyards and a Community Garden project. Similar projects will be actioned again this year and we’re constantly looking for more ideas. - Lastly, a campaign will be launched to

educate people about nature and raise awareness of nature in our local area – the importance of which has become more obvious in the last year, especially during the challenging lockdown periods. How can I be part of the Partnership? Three meetings have been held and the partnership hopes to meet again in the autumn. We’re always looking for more partners so do get in touch if you’re interested. It’s early days at the moment but we hope to create a newsletter and a web hub to ensure that partners receive the latest information about what’s happening in our local area. In the meantime you can follow us on Instagram and Twitter (@natur_eryri) or on Facebook (@natureryri) If you would like further information about the partnership or if you’re interested in being a part of the partnership please get in touch with Bethan Jones on bethan.jones2@eryri.llyw.cymru Bethan Wyn Jones is the Biodiversity Officer and Local Nature Partnership Coordinator for the SNPA with a ackground in zoology and conservation. Llyn Hywel & Rhinog Fach © Nick Livesey |

19


Aelod tîm newydd Owen Davies yw aelod diweddaraf tîm Cymdeithas Eryri ac mae’n gweithio fel Swyddog Project i Gynllun Caru Eryri, ochr yn ochr â Mary a Dan. Mae ei waith yn cynnwys cynllunio ac arwain gweithdai cadwraeth ymarferol i wirfoddolwyr, yn ogystal â chydweithio gyda chyrff cadwraeth eraill sy’n gweithio i warchod agweddau unigryw Eryri. Symudodd Owen i ogledd Cymru yn 2017, o Portsmouth, i astudio fel myfyriwr is-radd ar gyfer gradd meistr mewn daearyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor. Yn ei flwyddyn olaf o’r cwrs hwn gweithiodd Owen hefyd fel Cadwraethwr Preswyl gyda’r Gymdeithas, a bu hyn yn gymorth iddo ddatblygu ei wybodaeth am faterion yn ymwneud â chadwraeth sy’n benodol i’r Parc Cenedlaethol. Wrth grwydro cymoedd anghysbell ac arfordir garw Eryri, sbardunwyd ei angerdd am yr ardal hon, ac ar hyn o bryd mae yn dysgu Cymraeg.

Rydym yn gwybod bod aelodau Cymdeithas Eryri yn hael. Y gwanwyn hwn, am y tro cyntaf, fe wnaethon ni gymryd rhan yng ‘Nghronfa Gyfatebol Werdd’ y Big Give – apêl codi arian ar-lein am wythnos lle roedd cyfraniadau’r cyhoedd yn cael eu dyblu o ‘botyn cyfatebol’. Y potyn a ddosrannwyd i ni oedd £2,500, ac roedd hyn yn golygu y byddai unrhyw gyfraniadau a gafwyd hyd at y swm hwn yn cael arian cyfatebol gan arian y Big Give. Doedden ni ddim yn siŵr a fyddai’r targed hwn yn realistig, ond fe ddaeth y cyfraniadau i mewn a chyrhaeddwyd y targed gyda dim ond ychydig bach o amser ar ôl. Roeddem wedi tynnu sylw at y gweithgaredd codi arian hwn yng nghylchgrawn y gwanwyn, ac yn credu y byddai unrhyw aelod yn gwerthfawrogi gweld eu cyfraniad yn cael ei ddyblu. Dyma’r tro cyntaf i’r Gymdeithas gynnal gweithgaredd codi arian ar-lein ar y raddfa hon ac o ganlyniad i’w lwyddiant byddwn yn chwilio am fwy o gyfleoedd fel hyn. Dyma’r cyfle mawr y mae’r cyfryngau cymdeithasol yn ei gyflwyno i ni wrth ehangu ein hapêl. Canolbwynt yr apêl oedd codi arian i gefnogi ein rhaglen uchelgeisiol o waith gwirfoddoli, sef ‘Gofalu am Eryri’. Mae’r canlyniadau’n dangos cryn lwyddiant – rhwng Ebrill a Mehefin 2021 yn unig, mae dros 100 o wirfoddolwyr wedi eu hyfforddi ac wedi derbyn offer priodol, ac mae 70 o dimau gwirfoddoli wedi bod yn crwydro Eryri. Cafwyd adborth o werthfawrogiad gan bobl leol ac ymwelwyr, a diolchwyd i’r Gymdeithas am drefnu’r gwaith hwn, clirio sbwriel, a gwneud ymrwymiad gweledol i warchod y Parc Cenedlaethol. Roeddem wrth ein bodd, felly, yn fuan wedi’r apêl lwyddiannus hon, o dderbyn siec am £5,000 gan David, un o’n haelodau tymor hir. Mae’r arian yn bwysig – mae’n ein galluogi i fwrw ymlaen â’r gwaith y sefydlwyd y Gymdeithas i’w wneud. Ond, fel tîm, rydym hefyd yn galonogol iawn o wybod bod ein haelodau a’n cefnogwyr yn gwerthfawrogi’r gwaith hwn. Mae’n golygu bod ein neges craidd am bwysigrwydd yr ardal hyfryd hon a gwaith Cymdeithas Eryri yn cael ei glywed; mae’n braf gwybod bod pobl yn ein gwerthfawrogi. Felly, diolch i bob un ohonoch am eich cefnogaeth barhaol a gwerthfawr.

New staff member Owen Davies is the newest member of the Snowdonia Society team working as a Project Officer for the Caru Eryri Scheme, alongside Mary and Dan. This involves planning and leading practical conservation workdays for volunteers, as well as collaborating with other conservation organisations working to protect the unique aspects of Snowdonia. Owen moved to north Wales in 2017, from Portsmouth, to study for an undergraduate master’s degree in geography at Bangor University. In his final year of this course Owen also served as a Conservation Intern with the Society, helping to develop his knowledge of conservation issues specific to the National Park. Exploring the remote valleys and rugged coastline of Snowdonia sparked Owen’s passion for this place, which he demonstrates by learning its native tongue.

20 |

We know that Snowdonia Society members are generous. This spring, for the first time, we took part in the Big Give ‘Green Match Fund’ – a one-week online fundraising appeal where public donations are doubled from a ‘match pot’. Our allocated pot was £2,500, meaning that any donations made up to this amount would be matched by Big Give funding. We were unsure whether this target was realistic, but in fact the donations came in and we reached the target with a little time to spare. We had flagged up this fundraising activity in the spring magazine, believing that any member considering making a donation would value their contribution being doubled. This is the first time that the Society has run an online fundraising activity on this scale and given its success we will actively search for more opportunities of this kind. Such is the great opportunity that social media now presents to us in broadening our appeal. The focus of the appeal was on raising funds to support our ambitious programme of ‘Care for Snowdonia’ volunteering work. The results speak for themselves – between April and June 2021 alone, over 100 volunteers have been trained and equipped, and 70 volunteer teams have been out and about in Snowdonia. There has been appreciative feedback from local people and visitors, thanking the Society for organising this work, clearing litter, and making a visible commitment to looking after the National Park. Imagine our delight when, soon after this successful appeal, we received a cheque for £5,000 from David, one of our long-standing members. The money is important – it enables us to carry out the work the society was established to do. But as a team we also derive great encouragement from knowing that our members and supporters value this work. It means that our core messages about the importance of this wonderful area and the work the Snowdonia Society does are being heard; it is good to be appreciated! So, thank you all for your continuing and invaluable support.


Dweud diolch - wrth aelod hoff o'r teulu am gymynrodd i Eryri

Saying thank you - to a treasured family member for a legacy to Snowdonia

Rydw i’n ddiolchgar i fy nhad Fred Bridges am fy nghyflwyno i’r mynyddoedd, ac i Eryri yn arbennig. Agorwyd fy llygaid ar arhosiad efo’r teulu mewn llety gwely a brecwast ym Meddgelert a rhyfeddais bod lle mor hardd yn gallu bodoli! Pan oeddwn yn 12 oed, aeth fy nhad, fy chwaer a minnau am dro ar lwybr PyG, a phedol yr Wyddfa y flwyddyn ganlynol. Yn yr Alban fy mynydd cyntaf yng nghwmni fy nhad oedd Ben Lawers.

It is to my father Fred Bridges that I owe my introduction to the mountains, and to Snowdonia in particular. A family stay in a Beddgelert B&B was revelatory to me in that such a lovely place could ever exist! My father took my sister and I up the PyG track when I was 12, and the Snowdon Horseshoe the following year. He took us to Scotland too where Ben Lawers was my first Munro.

Yna, wrth i ni ddatblygu ein huchelgais cerdded (ac yna dringo) annibynnol ein hunain, parhaodd fy nhad i annog, gwirio ein gallu, a gadael i ni fynd amdani ein hunain. Cefais fy ysbrydoli hefyd gan ei gasgliad o lyfrau: ar ôl darllen Undiscovered Scotland gan WH Murray, roedd gen i leoliadau ar gyfer blynyddoedd lawer. Darparodd y trac sain hefyd efo’i gariad at waith Sibelius – does fawr yn well na gwersylla yn haul yr hwyr is law An Teallach gyda’r ail symffoni yn y cefndir! Un o Ganolbarth Lloegr oedd fy nhad, wedi ei eni yn Kidderminster, ac wedi gweithio fel darlithydd mewn cemeg ac yna fel Pennaeth Technoleg Gwydr yng Ngholeg Dudley. Roedd ein mam Thelma hefyd yn hoff iawn o gefn gwlad, a phan oeddem yn blant, lluniodd sawl penwythnos mewn bwthyn ar y ffin ein cariad tuag at fyd natur. Dros y blynyddoedd gyda fy nhad buom yn crwydro Cader Idris, Moel Hebog a chrib Nantlle. Bu farw eleni yn 95 oed a phan benderfynodd fy chwaer a minnau i amrywio ei ewyllys er mwyn cyfrannu i elusennau, roedd Cymdeithas Eryri yn ddewis amlwg. Byddai ei gefnogaeth i elusen sydd â nod o gynnal y tirlun a’r byd natur oedd yn golygu cymaint iddo wedi ei blesio’n fawr. Cwsg mewn hedd. gan Richard Bridges, aelod Cymdeithas Eryri.

Cyfrannwch

Then, as we developed our own independent walking (and later climbing) ambitions, my father continued to encourage, check competency, and gradually let go. His book collection also inspired me: WH Murray’s Undiscovered Scotland set objectives for years to come. He even provided the soundtrack with his love of Sibelius - camping in the evening sun below An Teallach with the second symphony on the radio takes some beating! Dad was a Midlander through and through – born in Kidderminster, a working career as a lecturer in chemistry and then Head of Glass Technology at Dudley College. Our mother Thelma was also very countryside minded, and weekends staying as children in a cottage on the Welsh border shaped our involvement with nature. Over the years with Dad we explored Cader Idris, Moel Hebog and the Nantlle hills. He died this year aged 95 and when my sister and I decided to vary his will toward more charity giving, the Snowdonia Society was an obvious choice. His support to a charity whose mission supports the landscape and nature he loved would have made him happy. RIP. by Richard Bridges, Snowdonia Society member.

Donate

ar-lein yn www.cymdeithas-eryri.org.uk gyda siec, yn daladwy i 'Cymdeithas Eryri'

on-line at www.snowdonia-society.org.uk by cheque, payable to 'Snowdonia Society'

ymaelodi

join

ar-lein yn www.cymdeithas-eryri.org.uk

on-line at www.snowdonia-society.org.uk

gadewch Gymynrodd i eryri

Leave a Legacy to snowdonia

Mae rhoddion o ewyllysiau yn rhan hanfodol o'n hincwm, ac mae cymynrodd mawr neu bychan yn gwneud gwahaniaeth go iawn i'r hyn allwn ei gyflawni. Os byddwch yn ysgrifennu eich ewyllys, wedi i chi gofio eich teulu a'ch ffrindiau, ystyriwch adael cymynrodd i Gymdeithas Eryri os gwelwch yn dda.

Gifts in wills form a crucial part of our income, and legacies large or small make a real difference to what we can achieve. If you are writing your will, once you have remembered family and friends, please consider leaving a bequest to the Snowdonia Society.

www.snowdonia-society.org.uk/cy/gadael-cymynrodd

www.snowdonia-society.org.uk/leave-legacy

 Cymdeithas Eryri ● Snowdonia Society, Caban, Yr Hen Ysgol, Brynrefail, Caernarfon, Gwynedd LL55 3NR  01286 685498  info@snowdonia-society.org.uk Elusen gofrestredig rhif • Registered charity no: 1155401

| 21


Mawn: byw a marw John Harold

Unwaith neu ddwy mewn oes mae straeon yn ymddangos o’r gors, wedi canrifoedd yn y tywyllwch. Wedi eu cadw’n berffaith, daw eitemau gwerthfawr yn ôl i’r goleuni. Mae miloedd o flynyddoedd o fyd natur a straeon dynol yn aros i’w darganfod yn ein mawnogydd. Mae gwylio wrth i ddyfnderoedd y fawnog gael ei phrofi fel gweld lledrithiwr ar waith. Mae’n gwthio ffon denau hir i’r gors feddal. I lawr â hi. Yna mae darn arall yn cael ei hychwanegu at y ffon a’i gwthio i lawr. Ychwanegir mwy a mwy, yn ddyfnach bob tro nes y byddan nhw’n cyrraedd, ambell dro, chwe neu saith metr o ddyfnder. Yn ymgasglu ar raddfa o un milimetr y flwyddyn, mae metr o fawnog yn cynrychioli mileniwm. Pob blwyddyn yn y cyfnod blaguro, mae wyneb byw cors yn cael ei gorchuddio â phaill â gludir yn yr awyr, ac ysgrifennir tudalen newydd yn y cofnod paill. Mae miloedd o flynyddoedd o dirlun ac ecoleg newidiol yn barod i’w dehongli o samplau o graidd y fawnog. O dan y microsgop, mae gronynnau paill wedi eu piclo’n adrodd cynnydd a chwymp coedwig, prysgwydd a rhos drwy gyfnodau o newid hinsawdd cynhanesyddol. Wrth i’r byd rewi a thoddi bob yn ail, mae coed o wahanol rywogaethau wedi ffynnu, arglwyddiaethu, ac yna wedi eu hysgubo i ffwrdd – pinwydd a llwyfen, bedw a ffawydd, derw ac onnen.

Ar raddfa hollol wahanol i ronynnau o baill mae’r cyrff yn y gors. Cafwyd hyd i ddyn Tollund gan dorwyr mawn o Ddenmarc yn 1950. Wedi bron i 2,000 o flynyddoedd, roedd ei wyneb wedi ei dduo gan sug y fawnog ond fel arall roedd nodweddion ei wyneb fel yr oedd pan yn fyw. Rydym yn gwybod mai potas o hadau gwyllt ac wedi eu trin yn cynnwys barlys, llin a chanclwm oedd ei bryd olaf. Yn yr 1980au cafwyd hyd i ddyn a dynes yn Lindow Moss yn Swydd Caer gan dorwyr mawn oedd yn defnyddio peiriannau diwydiannol i dorri mawn. Pan fu farw rhwng 2 CC ac 119 OC, roedd y dyn yn iach ac yng nghanol ei 20au. Ei bryd olaf oedd bara llosg. Rydym yn gwybod bod y gŵr o Lindow a Tollund wedi cael eu lladd. Serch hynny, oherwydd iddyn nhw gael eu cadw’n berffaith gan y gors, rydym wedi dysgu llawer mwy am eu bywydau nac yr ydym o natur eu marwolaeth. Wedi eu gwarchod gan y gors a’u cuddiodd am gymaint o amser, maen nhw wedi gadael cymaint ar eu holau i ni. Ymysg y cyrff yng nghorsydd Cymru mae un o Gors Caron, un arall o Swydd Faesyfed a thrydydd mewn arch bren gyntefig yn Nhal y Llyn ym Meirionnydd. Cafwyd hyd iddyn nhw i gyd gan dorwyr mawn, pan roedd torri mawn a’i osod i sychu yn orchwylion cyffredin yr haf mewn ardaloedd di-goed.

Defnyddir byrnau o rug i gau ffosydd draenio ● Heather bales are used to block drainage ditches

Roedd mawn yn adnodd rhad ar gyfer cynhesu a choginio, er yn gofyn am gryn dipyn o lafur. Mewn ardaloedd gydag ychydig o bobl a llawer o gorsydd mae’n sicr fod y cyflenwad wedi ymddangos yn ddi-ben-draw. Mae o’n adnodd adnewyddadwy mewn gwirionedd, ond mae adnewyddu mawn yn broses mor eithriadol o araf, dim ond llond dwrn o bobl mewn ardal lawn mawn fyddai yn gallu ei ddefnyddio’n gynaliadwy. Fel tanwydd ffosil, daw egni’r mawn o’i gynnwys carbon ac fel glo, defnydd ar ffurf planhigion marw yw’r carbon mewn mawn. Mae cyfansoddiad mawn yn dibynnu ar y math o fawnog lle cafodd ei ffurfio. Mae cors yn asidig ac yn ffurfio ei mawn yn bennaf o weddillion mwsoglau Sphagnum. Mae ffen yn alcalaidd a daw ei mawnog o hesg, brwyn neu gyrs. Yn oer ac yn wlyb, mae amodau arbennig y gors a ffen yn arafu pydredd deunydd organig. Dros gyfnodau maith mae’r deunydd planhigiol yn cael ei biclo’n araf ac yn cael ei gywasgu i ffurfio mawn. Heddiw mae arnom angen cadw mawn yn y ddaear. Mae’r cyfnod o losgi gwastraffus mawn ar raddfa enfawr yng ngorsafoedd pŵer Iwerddon (a yrrir gan fawn) yn dod i ben yr un pryd ag y mae’r adnodd mawn y mae’n economaidd ei dorri yn darfod. Wedi ei grafu o’r ddaear, ei sychu, ei losgi: mae’r cwbl wedi ei ddefnyddio. I’r mawn sydd wedi diflannu fel mwg mae’r unig beth sydd ar ôl bellach yn ein hatmosffer, yn newid ein hinsawdd ac yn peri risg pellach I’n bywydau a’n cynefinoedd gwerthfawr, yn cynnwys y corsydd a’r ffendir sydd ar ôl. Po fwyaf tua’r gogledd a’r gorllewin yr awn, po fwyaf yw’r potensial i fawn gronni’n wlyb o dan ein traed. Mae corsydd yn fannau gwyllt, ymhell o ganolfannau poblogaeth, ac mae ganddyn nhw eu byd natur a’u diwylliant eu hunain. Maen nhw’n oer, yn wlyb, yn wyntog, yn anodd eu croesi, ac yn beryglus i fynd ar goll ynddyn nhw. Daw’r tro olaf yng nghynffon hanes mawn yn agos iawn i gartref. Dychmygwch ddangos eich gardd i’ch teulu neu ffrindiau. Dychmygwch frolio wrthyn nhw

22 |


eich bod wedi prynu darn o goedwig law’r Amason, wedi ei chwympo, ac wedi ei defnyddio i botio blodau. Dyma beth mae pob un ohonom wedi bod yn ei wneud. Mae mawnogydd a reolir yn dda yn storio mwy o garbon, yn fwy dibynadwy ac yn fwy parhaol nag unrhyw goedwig yn unlle ar y blaned. Maen nhw’n gartref i rywogaethau prin o blanhigion ac i rai mewn perygl o ddiflannu o’r tir, yn ogystal â phryfed ac adar na fyddan nhw’n gallu byw’n unrhyw le arall. Am gyfnod hir, mewn gerddi y defnyddid y mawn gwerthfawr. Wedi ei gloddio o’r gors, ei sychu, ei bacio a’i gludo yna, yn rhyfedd iawn, yn cael ei roi’n ôl yn y ddaear yn ein gerddi. Mae garddwriaeth yn parhau i ysgogi torri mawn ar raddfa fasnachol i’w ddefnyddio fel cyfrwng potio. Ers degawdau, mae prynu compost neu blanhigion o ganolfannau garddio wedi golygu cyfrannu at ddinistr llwyr mawnogydd gwyllt yma a thramor. O’r diwedd mae agweddau wedi newid ac mae ymwybyddiaeth yn troi’n weithredu. Mae’r diwydiant garddio wedi ei lusgo i’r 21ain ganrif ac yn dechrau mynd i’r afael â’r angen ar frys i beidio â defnyddio mawn. Mae siopau ar flaen y gad wedi datgan eu statws di-fawn. Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn haeddu clod arbennig am arwain y ffordd ar y mater hwn ers rhai blynyddoedd. Yn eu gofal mae ardaloedd eang o fawnogydd yn Eryri a mannau eraill, ac mae’n gwneud synnwyr bod yr YG wedi deall y cyswllt rhwng gwarchod yr adnodd naturiol a’r adnoddau a ddefnyddir ganddi yn ei llu o erddi hardd. Gallwn i gyd helpu. Gwiriwch yn ofalus wrth brynu compost; mae rhai cyflenwyr yn cuddio gwir gynnwys mawn eu

Mwsogl, dŵr, amser – cynhwysion mawn perffaith! ● Moss, water, time – the ingredients of perfect peat

cynnyrch yn y print mân. Ysgrifennwch at gyflenwyr i ofyn am gompost di-fawn a pheidiwch â derbyn unrhyw lol! Gadewch i ganolfannau garddio wybod eich bod am brynu compost a phlanhigion di-fawn yn unig. O’r diwedd mae mawnogydd Eryri yn derbyn y gofal haeddiannol. Arweinir projectau adfer ar raddfa fawr gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, RSPB, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, a Chyfoeth Naturiol Cymru. Mae Cymdeithas Eryri yn falch o gefnogi’r projectau hyn a rhoi cyfle i bobl wisgo eu welingtons a chamu i’r corsydd er mwyn eu cadw a’u hadfer. Rydym yn arbenigo mewn clirio egin goed coniffer; gwaith y mae ein gwirfoddolwyr yn gallu ei wneud yn effeithiol ac sy’n ein gwobrwyo’n dawel am ddegawdau i mewn i’r dyfodol. Rheoli conifferau pan maen nhw’n egin goed bach yw’r ateb mwyaf effeithiol o lawer;

os ydyn nhw’n cael eu gadael byddai’r conifferau’n tyfu’n gyflym ac yn cysgodi a sychu’r mawn, gan niweidio ei allu i gloi dŵr a charbon. Mae pob gwirfoddolwr sy’n helpu yn rhan o’r ateb. Mae corsydd Eryri yn cynnal traean o holl fawnog Cymru. Mae’r mannau gwyllt yma o fawnog ynghlwm wrth ein bywydau mewn ffyrdd rhyfeddol, ac mae’n siŵr bod mwy o straeon o fyw a marw wedi eu cloi ynddyn nhw. Ein dewis ni fydd penderfynu a fydd y straeon yma yn adrodd hanes ein gorffennol neu ein dyfodol. John Harold yw Cyfarwyddwr Cymdeithas Eryri.

Gwirfoddolwyr yn helpu i ail-wlychu mawn gwerthfawr ● Volunteers helping to re-wet precious peatland

| 23


Peat: matter of life and death John Harold Martin Cliffe o’r RSPB yn dangos i wirfoddolwyr sut i dorri tywarchen o’r gors! ● RSPB's Martin Cliffe shows volunteers how to take a sod off a bog!

Once in a blue moon stories emerge from the bog, fresh from centuries in the dark. In perfect preservation, precious articles come back up to the light. Thousands of years of natural history and human stories lie waiting in our peatlands. Watching a peat bog being depth-sampled is like seeing an illusionist at work. A long slender rod is pushed carefully into the soft moss. Down it goes. Another rod is screwed on and pushed down. More rods are added, deeper and deeper until they reach, in some cases, six or more metres in depth. Accumulating at roughly one millimetre per year, a metre of peat represents a millennium. Each year as buds burst, the living surface of a bog is peppered with wind-borne pollen, and a new page is written in the pollen record. Thousands of years of changing landscape and ecology lie ready to be interpreted from peat core samples. Under the microscope, pickled pollen grains chart the rise and fall of forest, scrub, and heath through waves of prehistoric climate change. As the world has alternately frozen and thawed, trees of different species have flourished, dominated, and then been swept away – pine and elm, birch and beech, oak and ash. At the other end of the scale from a pollen grain are the bog bodies. A man was found at Tollund by Danish peat cutters in 1950. After almost 2,000 years, his face was deeply tanned by peat juice, but otherwise his features are as they were in life. We know that his last meal was a gruel of wild and cultivated seeds including barley, flax and knotgrass. In the 1980s a woman and a man were found in Lindow Moss in Cheshire by peat cutters using industrial peat extraction machinery. When he died between 2 BC and 119 AD, the man was in good health and in his mid-20s. His last meal was charred bread. We know that Lindow Man and Tollund Man both met their end at the hands of others. Despite that, their exquisite preservation means that we have learnt

24 |

Mwsoglau Sphagnum – mannau llawn bywyd sy’n creu mawn ● Sphagnum mosses – living jewels that make peat

much more about their lives than we have from the manner of their deaths. Protected by the peat time-capsules that held them for so long, they have left much to us. Bog bodies in Wales include one from Cors Caron, another from Radnorshire and a third in a primitive wooden coffin at Tal y Llyn in Meirionnydd. All were found some time ago by peat-cutters, when cutting and stacking peats to dry were common summer tasks in treeless districts. For heating and cooking, peat was a convenient though labour-intensive resource. In districts with few people and many bogs the supply must have seemed inexhaustible. Strictly speaking it is a

renewable resource, but replenishment of peat is so exceptionally slow that only a handful of people in a peat-rich district could use it sustainably. Like a fossil fuel, the energy in peat comes from its carbon content and like coal, the carbon in peat is dead plant matter. The composition of peat depends on the type of peatland where it formed. Bogs are acidic and form their peat principally out of the remains of Sphagnum mosses. Fens are alkaline and their peat comes from sedges, rushes or reeds. Both bogs and fens are cold and wet and it is these special conditions that slow the decomposition of organic matter. Over very long periods the plant material is slowly pickled and consolidated as peat.


Pan fydd y gors yn cynnal dŵr eto rydym wedi cwblhau ein gwaith a gallwn ei gadael i fyd natur ● When the bog holds water again our work is done and nature can take over

Today we know we need to keep peat in the ground. The profligate burning of peat on an unimaginable scale in Ireland’s peat-fired power stations is coming to an end just as the economically extractable peat resource is exhausted. Carved out, desiccated, incinerated: it has all been used. For the peat that’s gone up in smoke the only legacy now is in our atmosphere, changing our climate, putting our lives and precious habitats – including our remaining bogs and fens - at further risk. The further north and west we go, the greater the potential for peat to squish beneath our feet. Bogs are wild places, their centre of gravity is far from centres of population, and they have their own nature and culture. They are cold, wet, and windy, difficult to cross, dangerous to get lost in. The final twist in the peatland story comes surprisingly close to home. Imagine showing family or friends around your garden. Imagine telling them proudly that you’d bought a patch of Amazon rainforest, pulverised it, and used it to pot up geraniums. This is what we have all been doing. Well-managed peatlands store more carbon, more reliably and more permanently than any forest anywhere on the planet. They are home to rare and threatened species of plants, insects and birds that cannot live anywhere else.

For a long time it is in gardens that so much precious peat has been laid to rest. Dug up from the bog, dried out, packaged and shipped, then bizarrely put back in the ground in our gardens. Horticulture continues to fuel the commercial extraction of peat for use as a potting medium. Buying compost or plants from garden centres has for decades meant contributing to the wholesale destruction of wild peatlands both here and abroad. Thankfully the tide has turned and awareness is turning into action. The gardening industry has been dragged into the 21st century and is starting to address the urgent need to go peat-free. Forward looking outlets are starting to proclaim their peat-free status. The National Trust deserves special mention for leading the way on this issue for some years. Entrusted with caring for vast areas of peatland in Snowdonia and elsewhere, it makes sense that NT made the link between protecting the natural resource and the resources it uses in its many beautiful gardens. We can all help. Check with care when buying compost; some suppliers are hiding the true peat content of their products in small print. Write to ask suppliers for peat-free compost and don’t take any nonsense! Let garden centres know that you want only peat-free compost and plants.

Snowdonia’s peatlands are at long last receiving the care they deserve. Large-scale restoration projects are being led by the National Trust, RSPB, Snowdonia National Park Authority, and Natural Resources Wales. The Snowdonia Society is proud to support these projects and give people the chance to put on their wellies and get stuck into bogs and their conservation and restoration. We specialise in clearing conifer saplings; work that our volunteers can do effectively and which reaps its rewards quietly for decades into the future. Controlling conifers at the small sapling stage is by far the most efficient solution; if left unchecked the conifers would grow to shade and dry the peat, damaging its water- and carbon-locking superpowers. Each volunteer that helps is part of the solution. The bogs of Snowdonia hold a third of all the peat in Wales. These wild peaty places are entwined with our lives in remarkable ways, and more stories of life and death are surely locked up in them. Whether those stories are about our past or our future is for us to choose. John Harold is the Director of the Snowdonia Society.

| 25


Uwchraddio llwybr yr Wyddfa Paul Gannon

Oddeutu 150 metr y tu hwnt i’r caffi hanner ffordd ar lwybr Llanberis i fyny’r Wyddfa gellir gweld ambell i garreg trawiadol iawn ar y trac. Yn olau yn bennaf o ran lliw, mae llinellau tywyll i’w gweld ar eu traws. I’r daearegwr mae’r llinellau tywyll yma’n nodi bod y cerrig yn fath arbennig o graig folcanig o’r enw ‘tyffau asiedig’. Fe’u cynhyrchwyd gan y math poethaf a mwyaf grymus o ffrwydrad folcanig, sef ‘llif pyroclastig’. Mae daearegwyr wedi dyfalu bod y ffrwydrad a grëodd y creigiau penodol yma wedi digwydd sawl cilometr i’r gorllewin, o amgylch ardal Mynydd Graig Goch, tua 450 miliwn o flynyddoedd yn ôl. O ganlyniad i’r ffrwydrad gollyngwyd llu o ddarnau tawdd a lifodd mewn cwmwl gwynias tua’r dwyrain ar draws llethr gogleddol yr Wyddfa a chyn belled â Phen yr Ole Wen ger Llyn Ogwen. Yn ystod y ffrwydrad hefyd rhwygwyd darnau mawr o ‘bwmis’ i ffwrdd, sef deunydd ewynnog folcanig caled o ffrwydradau blaenorol. Newidiwyd y lympiau yma o bwmis yn graig tawdd gan dymheredd eithriadol o uchel y cwmwl gwynias. Pan gollodd y cwmwl ei egni ac edwino, gwasgwyd y darnau tawdd o bwmis a ffurfiwyd y llinellau tywyll a welwn yn y cerrig crynion bron i hanner biliwn o flynyddoedd yn ddiweddarach. Y ffrwydrad hwn oedd y cyntaf mewn cyfres o ddigwyddiadau folcanig poeth a ffyrnig tebyg a grëodd greigiau cadarn yr Wyddfa. Mae’r cerrig efo’r llinellau duon yn nodi’r fan lle mae’r cerddwr sy’n dringo’r Wyddfa ar y llwybr gwych hwn yn mynd heibio creigiau gwaddodol i’r creigiau folcanig, a grëwyd gan gyfres o ffrwydradau, sy’n parhau yr holl ffordd i’r copa a thu hwnt. Cofnodir yr holl hanes daearegol rhyfeddol hwn yn y cerrig crynion ar y trac ac mae’r sawl sy’n gwybod yn gallu trosglwyddo’r hanes hwn i’r cerddwr. Neu, yn hytrach, maen nhw’n gallu gwneud hynny ar hyn o bryd, ond nid o hyn ymlaen. Y rheswm am hyn yw bod gwaith uwchraddio yn digwydd ar lwybr Llanberis,

26 |

ac hefyd ar y trac i fyny drwy Gwm Maesgwm (i’w weld ar draws y cwm o lwybr Llanberis), ac mae tunelli o ro mân wedi ei fewnforio’n cael ei ollwng ar ben y llwybr presennol. Bydd yr arweinydd daearegol yn dal i allu dangos y creigiau sy’n adrodd y stori ar ochr y llwybrau, ond cyn bo hir ni fyddan nhw’n gallu oedi, codi’r garreg wrth eu traed ac egluro stori’r garreg honno a beth mae hi’n ei ddweud am hanes daearegol y mynydd – ffordd bwerus ac uniongyrchol o ddarparu cipolwg ar hanes daearegol yr Wyddfa. Mae’r gwaith uwchraddio hefyd yn cynnwys defnyddio dril niwmatig i falu adrannau o greigwely sy’n ymwthio i’r llwybr. Ychydig ar ôl i lwybr Llanberis fynd o dan y bont sy’n cludo Rheilffordd Mynydd Eryri, mae adran o’r llwybr, a oedd yn greigwely ac yn dangos nodwedd a elwir yn ‘holltiad llechi’, wedi cael y driniaeth hon. Efallai y byddai ambell i ymwelydd wrth ddringo neu ddod i lawr y llwybr yn sylwi ar domenni gwastraff dwy chwarel lechi ychydig yn is na’r llwybr yn y fan hon. Mae’n bosib y byddai’r sawl sy’n gyfarwydd â’r ardal yn cysylltu’r brigiad hwn o lechi gyda’r safle gloddio fwy ger Nant Peris ym Mwlch Llanberis. Mae hanes chwareli llechi yn rhan ganolog o hanes oes dyn yn yr ardal ac fel y cerrig crynion folcanig, mae presenoldeb y creigiau llechog yn y llwybr ei hun yn ddull defnyddiol o ddysgu pobl am yr agwedd hon o hanes diwylliannol Eryri. Bellach mae’r creigiau llechog wedi eu claddu o dan y gro mân a fewnforiwyd. Gwelir yr un effaith yng Nghwm Maesgwm. Gwelir yr holltiad llechi yn y creigiau ar y llwybr hwnnw yn y ffotograff a dynnwyd ychydig cyn iddyn nhw hefyd gael eu malu’n deilchion a’u claddu o dan ro mân. Bellach welwch chi mo’r nodweddion creigiau yma o dan eich traed, ni fyddwch yn sylwi ar fandiau newidiol nodweddion; yn hytrach, welwch chi ddim ond gro mân o dan eich traed. Rydw i’n deall yn llwyr mai bwriad y gwaith yw ei gwneud yn haws dringo’r Wyddfa a’r llwybr drwy Gwm Maesgwm (a bydd yn

sicr yn helpu’r beiciwr mynydd i wibio i lawr y llwybrau hyn, fel y gwelais ar lwybr Llanberis y diwrnod cyn i mi ysgrifennu’r erthygl hon ym mis Rhagfyr 2020). Fel defnyddiwr cyson o lwybr Llanberis gallaf wir werthfawrogi y bydd y dau neu dri chan metr olaf wrth ddod i lawr yn llai o ymdrech i goesau blinedig. Wedi dweud hynny, alla’i ddim peidio meddwl na fydd y gro yn gwanhau’r cysylltiad rhwng y cerddwr a’r creigiau sy’n ffurfio’r mynyddoedd. Mi fyddwch yn dal i weld y creigiau i’r naill ochr o’r llwybrau ond, wrth ddringo i fyny ac i lawr, mae sylw’r cerddwr ar ei thraed neu ei draed. Mae pob cam yn gofyn am ofal wrth osod yr esgid ar y garreg gron neu’r graig sy’n llunio’r llwybr. Mae edrych ar y creigiau, ac efallai sylwi ar y gwahaniaeth rhwng gwahanol fathau o gerrig crynion ac ennyn chwilfrydedd ym meddwl bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd, wedi ei aberthu am unffurfiaeth o dan y gro mân. Rydw i wedi anghytuno erioed efo’r sawl sy’n datgan bod llwybr Llanberis yn ddiflas, ond mae’r uwchraddio yma gyda gro mân yn sicr yn cyflwyno elfen o ddiflastod i’r llwybr hyfryd hwn i fyny’r mynydd. Paul Gannon, Snowdonia Society member.

Llwybr Cwm Maesgwm ● Cwm Maesgwm path


Trwsio llwybrau: gwaith di-ben-draw Peter Rutherford

Glaw trwm wedi golchi'r llwybr i ffwrdd ● Path washed out by heavy rain

flynyddoedd yn ôl yn unig yn dilyn glaw mawr yn 2016. Difrodwyd yn ddifrifol y darn igam ogam ar ran isaf llwybr Llyn Cwellyn a hynny’n dilyn gwaith trwsio eang blaenorol. Dros nos, ar ôl gwario £80k, roedden ni’n ôl yn y sefyllfa wreiddiol. Digwyddodd yr un peth yn Llanberis yn 2017, pan adawyd rhywfaint o drac y trên yn crogi yn ddi-sail. Cododd yr un sefyllfa y gaeaf diwethaf, pan gafwyd difrod ar bob un o’r draeniau hyd at yr orsaf hanner ffordd. Dyma’r realiti a’r cefndir i waith diweddar. Ffactor arall yw mai llwybr Llanberis yw’r un mwyaf poblogaidd i ddringo i’r copa – dengys ffigurau 2019 bod 220,000 wedi ei ddilyn ac mae’r ffigur hwn yn cynyddu. Mae llunio neu drwsio llwybrau’n golygu llawer mwy na thwtio ychydig ar un neu ddau o draeniau ac yna eu gadael. Mae llawer o’r draeniau yn hen ac yn anaddas ac mae pawb yn sylweddoli erbyn hyn bod glaw yn broblem dipyn mwy sylweddol nag yr oedd hyd yn oed pan ddechreuais i weithio I’r Parc Cenedlaethol yn 2002.

Bu cryn drafodaeth yn ddiweddar ynglŷn â gwaith a roddwyd ar y gweill gan y Parc Cenedlaethol ar lwybr Llanberis ac ar gyswllt Maesgwm gyda llwybr Llyn Cwellyn. Mae cryn dipyn o waith trafod a chynllunio’n digwydd cyn penderfynu i roi projectau o’r fath ar waith – mae gwaith trwsio, a elwir heddiw yn ‘drwsio cynaliadwy’ – yn aml yn ddrud ac mae angen oriau maith a llawer o beiriannau i’w gwblhau. Dyma’r realiti yr ydym yn ei wynebu yn yr ucheldiroedd; mae pobl yn gwneud sylwadau os wnawn y gwaith ai peidio. Mae llwybrau ar eu hanner, sydd angen gwaith peirianyddol arnyn nhw, bob amser yn peri i bobl wneud sylwadau. Fe wynebwyd y mater hwn ychydig o

Rydym yn ddiolchgar am y cymorth a gawn gan staff a gwirfoddolwyr Cymdeithas Eryri drwy gyfrwng y rhaglen flynyddol o gynnal llwybrau. Ond, pan mae rhywbeth mawr yn digwydd, mae angen gwaith trwsio mwy sylweddol. Mae’n ddiddorol bod rhai pobl yn ystyried bod y llwybrau hyn yn hynod bwysig i gerddwyr ond mae llwybrau Llyn Cwellyn/ Maesgwm yn fwy na llwybrau mynydd yn unig – nhw ydy’r cyswllt rhwng cymoedd. Maen nhw hefyd yn lwybrau meirch ac felly, yn ôl eu diffiniad, mae ganddyn nhw ‘hawliau uwch’ o ran mynediad i’r cyhoedd. Mae’r hawliau hynny - i feiciau a cheffylau – yn golygu ystyried gofynion cyfatebol i sicrhau bod y llwybrau’n addas ar gyfer eu pwrpas. Felly, er bod rhai yn teimlo bod amharu ar eu hawliau neu eu mwynder,

mae’n rhaid i’r Parc Cenedlaethol gymryd golwg ehangach. Mae angen i ni edrych ar allu llwybrau dros y tymor hir a sicrhau bod y llwybrau yma’n gynaliadwy. Mae’r pandemig wedi ychwanegu at y pair, gyda llawer mwy o bobl yn cerdded ac yn beicio yn eu cefn gwlad lleol. Mae ochr bositif hyn yn amlwg. Wedi’r cwbl, un o bwrpasau pennaf y Parc Cenedlaethol yw annog pobl i gefn gwlad – heb amheuaeth, mae’n llesol i iechyd corfforol a meddyliol pobl. Fodd bynnag, gyda mwy o ddefnyddwyr amrywiol, mae’r erydu a’r disgwyliadau gryn dipyn yn uwch. Mae dimensiwn ychwanegol yma gan ei bod yn ofynnol i’r Parc Cenedlaethol ystyried y Ddeddf Gydraddoldeb. Mae’n gyfrifoldeb arnom i ystyried pob defnyddiwr a beth allwn ni ei wneud i ddarparu ar eu cyfer. Pwy fyddai’n cwyno am y defnydd o beiriant Tramper i bobl gydag anableddau, er enghraifft, rhwng Llanberis a Chwellyn? Dyna gyfle gwych a phositif, na fyddem wedi ei ystyried tan yn ddiweddar. Mae amser yn effeithio ar bersbectif y mater sensitif hwn. Rydw i’n cofio Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn wynebu cwynion tebyg wrth lunio disgrifiad ar gyfer llwybr Lôn Gwyrfai. Heddiw mae dros 25,000 o bobl y flwyddyn yn ei fwynhau yn cynnwys cerddwyr, merlotwyr, beicwyr a phobl gydag anableddau gyda’r Tramper. Mae wedi dod yn amwynder llwyddiannus a gwerthfawr dros ben. Felly, wrth werthfawrogi’n llawn bryderon pobl, byddwn yn gofyn i bawb fod yn amyneddgar â ni a chydnabod anghenion y cyhoedd ehangach sydd wrth wraidd y cwbl a wnawn. Peter Rutherford, Swyddog Mynediad a Lles, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

| 27


Snowdon path upgrades Paul Gannon

About 150 metres beyond the Halfway House on the ‘Llanberis path’ heading up Snowdon some very distinctive pebbles can be seen on the track. They are mainly light in colour, but with dark lines running across them. To the geologist these dark lines signify that the pebbles are a particular type of volcanic rock known as ‘welded tuffs’. They are the product of the hottest and most violent type of volcanic eruption, known as a ‘pyroclastic flow’. Geologists have worked out that the eruption that created these particular rocks occurred several kilometres to the west, around the area of Mynydd Graig Goch, and took place some 450 million years ago. The eruption emitted a mass of molten fragments that ran in an incandescent cloud that flowed eastwards across the northern flank of Snowdon and carried on as far as Pen yr Ole Wen near Llyn Ogwen. The eruption also ripped away lumps of ‘pumice’, a hardened volcanic froth from previous eruptions. These lumps of pumice were turned into molten rock by the extremely high temperatures of the incandescent cloud. When the cloud lost its energy and settled, the molten lumps of pumice were flattened and formed the dark lines that we can see in the pebbles nearly half-a-billion years later. This eruption was the first of a series of such hot and violent volcanic events that created the tough rocks of Snowdon. The black-lined pebbles mark the point where the walker heading up Snowdon on this superb route up passes from sedimentary rocks to the volcanic rocks, created by a series of eruptions, that carry on all the way up to the summit and beyond. All this remarkable geological history is recorded in the pebbles on the track and those in the know can pass on this fascinating geological history to the walker. Or rather, they can do so at the moment, but not for much longer. The reason for this is that ‘upgrade’ work on the Llanberis track, and also the track up through Cwm Maesgwm (visible across the valley from the Llanberis path), is seeing tons of imported gravel being dumped on top of the existing track.

28 |

Creigiau llechog, Cwm Maesgwm ● Slaty rocks, Cwm Maesgwm

The geological guide will still be able to point out rocks which tell the story to the side of the tracks, but they will soon no longer be able simply to stop, pick up a sample pebble lying at their feet and explain the story of the pebble and what it reveals about the geological history of the mountain - a powerfully direct way of imparting an insight into Snowdon’s geological past. The upgrade work also involves using a powerful jackhammer to smash up sections of bedrock which protrude into the path. Just after the Llanberis path passes for the first time under the bridge carrying the Snowdon Mountain Railway, a section of the path, which was made up of bedrock displaying a feature known as ‘slaty cleavage’, has undergone this treatment. Some visitors ascending or descending on the track may notice the waste tips of two slate quarries just below the track at this point. Those familiar with the area may link up this outcrop of slate with the larger quarrying site near Nant Peris in the Llanberis pass. The history of slate quarrying is a central part of the human-era history of the area and like the volcanic pebbles, the presence of the slaty rocks in the path itself was a useful way of informing people about this aspect of the cultural history of Snowdonia. Now the slaty rocks are buried beneath the imported gravel. The same effect can be witnessed in Cwm Maesgwm. The slaty cleavage in the rocks from that track are shown in the photo which was taken just before they too were smashed up and buried beneath gravel. You can now no

longer see these rock features beneath your feet; no longer will you be able to note the changing bands of features; instead there will just be gravel under foot. I can certainly understand that the work is intended to ease the effort of climbing Snowdon or the track through Cwm Maesgwm (and will certainly aid mountain bikers to speed down these paths, as I witnessed on the Llanberis track the day before I wrote this article in December 2020). As a frequent user of the Llanberis track I can certainly appreciate that the final few hundred metres of descent will be less demanding on tired legs. But I can’t help feeling that the gravel will weaken the connection between the walker and the rocks that form the mountains. Sure, you can see the rocks alongside the tracks, but hiking up and down, the walker’s attention is directed to his or her feet. Each and every step involves a negotiation between the boot and the pebble or boulder making up the path. Looking at the rocks, perhaps noticing the different types of pebbles and raising the inquisitiveness in the mind of visitors and locals alike, has been sacrificed for a gravelly homogeneity. I’ve always disagreed with those who say that the Llanberis path is ‘boring’. But the gravel upgrade certainly introduces a degree of tedium into this magnificent route up the mountain. Paul Gannon, Snowdonia Society member.


Track repairs: a necessary evil Peter Rutherford

I'r pant y rhed y dŵr ● Water always finds its own way

requirements to make sure the paths are fit for purpose. So, whilst some may feel that their rights or amenity have been impinged upon, the National Park must take a wider view. There is a need for us to take a long-term view on route capacity and ensure these routes are sustainable. The pandemic has added to this mix, with many more people walking and cycling in their local countryside. The positive side of this is clear. After all, one of the primary purposes of the National Park is to encourage people into the countryside – without question it’s good for people’s physical and mental health. However, with greater numbers and diversity of users, both wear and tear and expectations are now considerably higher.

There has been much debate of late surrounding works undertaken by the National Park on the Llanberis path and on the Maesgwm link to the Snowdon Ranger path.

the reality and the backdrop to the recent works. And of course, the Llanberis path is the most popular route to the summit – 2019 figures showed it carrying 220,000 people and that figure is increasing.

Such projects are not undertaken lightly – repairs, known these days as `sustainable repairs` - are expensive and require many hours and much machinery to complete. The old saying `you can`t make an omelette without breaking a few eggs` springs to mind. In the uplands this is the reality we are faced with – we’re damned if we do and damned if we don’t. Freshly engineered half-finished routes always raise eyebrows.

Building or repairing tracks cannot simply mean a quick fix to a few drains which are then left to their own devices. Many of the drains are old and not fit for purpose and everyone realises that rainfall is now significantly more of a problem than it was even when I first started working for the National Park in 2002.

We faced this issue in stark terms only a few years ago when the huge downpour in 2016 virtually wiped out the ‘zig zags’ on the lower section of Snowdon Ranger after previous and extensive repairs. Overnight we found ourselves £80k down and back to square one. Llanberis suffered the same fate in 2017, when some of the railway track was left hanging in the air. It happened again last winter, with none of the original drains up to Halfway station being left intact. This is

We’re grateful for the help we get through the annual programme of footpath maintenance by Snowdonia Society’s staff and volunteers. But when a major event occurs, more substantial remedies are required. It is interesting that some people consider those routes to be sacrosanct for walking but Snowdon Ranger/Maesgwm and the Llanberis path are not simply mountain paths - they are links between valleys. They are also bridleways and by definition, therefore, have ‘higher rights’ in terms of public access. Those rights - for cycles and horses – bring corresponding

There is an added dimension here in that the National Park must consider the Equality Act. We have a responsibility to consider all users and what we can provide for them. Who would decry the use of a disability Tramper vehicle being used between, for example, Llanberis and Cwellyn? That is a fantastically positive opportunity, unthinkable not so many years ago. Time affects the perspective on this sensitive issue. I remember the National Park Authority facing similar criticism over the specification for the Lôn Gwyrfai route. Today this is enjoyed by over 25,000 people a year including walkers, horse riders, cyclists and disabled people with Trampers. It has become a highly successful and valued amenity. So, whilst fully appreciating people’s concerns, I’d ask everyone to please bear with us and to recognise the wider public needs which are at the centre of what we do. Peter Rutherford Access & Well Being Officer Snowdonia National Park Authority.

| 29


Arlunydd lleol

Local artist

Roeddem yn meddwl y byddai ein darllenwyr yn hoffi clywed am artistiaid cyfoes sy'n cael eu hysbrydoli i baentio tirluniau Eryri. Yn y rhifyn hwn rydym yn cyflwyno hanes Rob Piercy. Yn ei eiriau ei hun:

We thought our readers might like to hear about contemporary artists who are inspired to paint the landscapes of Snowdonia. In this issue we shine the spotlight on Rob Piercy. In his own words:

Rydw i wrth fy modd bod yng nghanol byd natur, gorau po fwyaf gwyllt, ac rydw i’n mwynhau peintio natur, fel y mae o. Rydw i hefyd wrth fy modd yn cael fy synnu gan yr annisgwyl, fel ymddangosiad sydyn golau ar lethr mynydd neu gwm. I mi, golau yw pob dim; dyma’r un peth sy’n gyrru fy ngwaith celf. Mae’n athroniaeth syml ond hynod o bwerus.

I love being amongst nature, the wilder the better, and I love painting nature, as it is. I am also transfixed by the surprise of the unexpected, like the sudden appearance of light on a mountainside or valley. Fact is, light is everything; it is the one ingredient that drives my art. It is a very simple yet powerful philosophy.

Mae pobl yn gofyn i mi’n aml lle mae cynnwys deallusol fy ngwaith. Dydy deallusol ddim yn air y byddwn yn ei ddefnyddio i ddisgrifio fy nghelf ac efallai bod y gair angerdd yn fwy addas. Gallaf ddweud â’m llaw ar fy nghalon bod pob un o’m peintiadau yn rhywle yr ydw i wedi bod ynddo, pob machlud, pob storm, pob eiliad llonydd tawel. Fy ysbrydoliaeth i yw bod yng nghanol natur newidiol yr amgylchedd hwn a all fod yn anghyfeillgar, ond sydd eto’n rhoi boddhad i mi.

People often ask me where is the intellectual content of my work? Intellectual is not a word I would use to describe my art; perhaps passion is better suited. I can truthfully say that every painting I have completed I have experienced being there, every sunset, every storm, every still quiet moment. Being amongst the transient nature of this satisfying yet often hostile environment is my inspiration.

“Golau, heb amheuaeth, ydi’r cydymaith mwyaf amrywiol gaiff y peintiwr yn Eryri. Amrywiol ac oriog. Golau teg y wawr, golau pygddu’r ddrycin a gorchest golau’r machlud. Weithiau’n llafn miniog, dro arall yn rhith annelwig, golau ysbaid, golau dihangol. Bu’r golau yma’n gydymaith oes i Rob Piercy. Daeth i’w adnabod, ei ddeall, a’i ffrwyno. Llwyddodd i gyfleu llonyddwch gwargrwm y Carneddau, holltau ac agennau’r Glyderau a dyfnderoedd llynnoedd godre’r Wyddfa. Trwy ei waith rhoddodd ei stamp ar y tirlun, crëodd arddull sy’n adnabyddus a phoblogaidd a llwyddodd i gyfleu ei ymdeimlad tuag at Eryri i gynulleidfa eang a gwerthfawrogol.” Gerallt Pennant Yn frodor o Borthmadog, Cymraeg yw iaith gyntaf Rob. Sefydlodd Oriel Rob Piercy yn y dref ym 1986 ac o ganlyniad ymddeolodd yn gynnar o’i waith fel athro. Mae wedi bod yn peintio ac arddangos ei waith ledled y DU am dros ddeugain mlynedd. Golau dros Gwm Idwal ● Light over Cwm Idwal © Rob Piercy

30 |

“Light and its nuance is a constant companion of the painter. Constant and fickle. Kind light of dawn, scowling storm and triumphant sunset. Sharp and incisive, pallid and transient. Geology seems frozen, the ridges, cliffs and summits constant and unmoving, but always changing to the whim of the light. Eryri’s light has been Rob Piercy’s life long companion. He knows, understands and has captured its moving, fleeting moods. His palette has unlocked the sleepy rounded bulk of the Carneddau, the chasms and ledges of the Glyderau and depths of the lakes of Yr Wyddfa. In leaving his mark on this landscape, Rob has shared his passion with a wide and appreciative audience.” Gerallt Pennant

Rob is a Welsh speaking native of Porthmadog. He established the Rob Piercy Gallery in the town in 1986 which allowed him to retire early from his teaching post. He has been painting and exhibiting throughout the UK for over forty years. Crib Goch yn y gaeaf ● Crib Goch in winter © Rob Piercy


Dr Morag McGrath Gyda thristwch mawr y cofnodwn farwolaeth Dr Morag McGrath, un o Is-Lywyddion y Gymdeithas, ar 6 Gorffennaf 2021, yn 83 oed.

It is with great regret that we have to record the passing of Dr Morag McGrath, one of the Society’s Vice-Presidents, on the 6th July 2021 at the age of 83.

Roedd Morag yn aelod a chefnogwr brwd o Gymdeithas Eryri am dros 40 mlynedd. Dechreuodd ymddiddori yn ystod cyfnod Esmé Kirby fel Cadeirydd; defnyddiodd Morag ei gwybodaeth a’i harbenigedd mewn garddio i helpu i baratoi planhigion alpaidd ar gyfer y sêl blanhigion flynyddol yn fferm Dyffryn ac, yn ddiweddarach, yn Nhŷ Hyll. Roedd yn gefnogwr brwd i Dŷ Hyll a bu’n cymryd rhan mewn gwarchod yr adeilad hanesyddol, addysg cadwraeth a recriwtio aelodau i’r Gymdeithas.

Morag was a member and great supporter of the Snowdonia Society for over 40 years. Her first involvement was during Esmé Kirby’s time as Chairman; Morag used her knowledge and expertise in gardening to help prepare alpine plants for the annual plant sale at Dyffryn and in later years at Tŷ Hyll. Morag (d) yn ei helfen, yng nghwmni ffrindiau, yn mwynhau planhigion arbennig a thirlun hardd yng ngardd hanesyddol Plas Tan y Bwlch yn ystod She was a great supporter of Tŷ penwythnos pen-blwydd Cymdeithas Eryri yn 50 oed yn 2017 ● Hyll in its roles of protecting an Morag (r) in her element; in the company of friends, enjoying special historic building, conservation plants and beautiful landscape in Plas Tan y Bwlch's historic garden during education and recruiting Society the Snowdonia Society's 50th anniversary weekend in 2017 members.

Daeth Morag i fyw i ogledd Cymru’n gyntaf yn ei harddegau hwyr gyda’i rhieni a’i brawd, Patrick, ac yna astudiodd fotaneg ym Mhrifysgol Bangor; dangosodd ddiddordeb penodol mewn bryoffytau fel canolbwynt ar gyfer ei PhD. Am lawer o’i bywyd proffesiynol roedd yn ymchwilydd cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor ond arferai hefyd deithio ledled y DU ac, ar adegau, dramor. Cyn ei hanhawsterau o ran iechyd a effeithiodd ar ei gallu corfforol, cerddodd yn eang ledled gwledydd Prydain, tir mawr Ewrop ac, ar adegau, ymhellach eto megis archwilio Parciau Cenedlaethol America. Cofnododd Morag yr anturiaethau hyn gyda’i chamera a defnyddiodd ei sleidiau i gynnal sgyrsiau. Roedd Morag yn wir gadwraethwr, rhywun oedd yn pryderu am pob rhywogaeth o flodyn a chreadur fel yr oedd am y tirlun gyfan. O ganlyniad bu’n gefn i Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru a Chymdeithas Eryri, a bu’n Ymddiriedolwr gwerthfawr o’r Gymdeithas am flynyddoedd lawer. Ar un pryd hi oedd golygydd cylchgrawn y Gymdeithas. Defnyddiodd Morag ei gwybodaeth arbenigol i helpu gyda datblygiad gwaith cadwraeth y Gymdeithas yn y Parc Cenedlaethol a pharhaodd fel aelod o’r Pwyllgor Gwella wedi iddi ymddeol o fod yn Ymddiriedolwr. Wedi iddi roi’r gorau i yrru car symudodd o’i chartref yn Llanddona, gyda’i olygfeydd o’i hannwyl Eryri, i Lanfairpwll. Yma, roedd yn haws iddi ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yr oedd, fel amgylcheddwr, yn daer iawn i’w ddefnyddio. Yn raddol daeth yn fwyfwy anodd iddi fynychu cyfarfodydd a digwyddiadau’r Gymdeithas yn rheolaidd, ond llwyddodd i gymryd rhan yng nghynhadledd pen-blwydd y Gymdeithas yn 50 oed ym Mhlas Tan y Bwlch. Ar ei thaith olaf i Amlosgfa Bangor gorffwysodd yn ei harch o wiail gyda chasgliad o flodau’r haul syml wedi ei gosod arni. Ar gyfer y gwasanaeth roedd ein Cyfarwyddwr wedi cynnig darlleniad o lyfr Bill Condry am Eryri, yn disgrifio Cwm Glas Mawr a’i blanhigion hardd. Wedi bod yng Nghwm Glas unwaith efo Morag roedd y darlleniad hwn yn hynod o briodol ac yn deimladwy. Mae’r Gymdeithas wedi colli un o’i harwyr ond i’r sawl oedd yn ei hadnabod ac yn gweithio gyda hi, rydym wedi colli cyfaill da iawn.

Morag first came to live in north Wales in her late teens with her parents and brother, Patrick, and later studied botany at Bangor University, taking a particular interest in bryophytes as a focus for her PhD. For much of her professional life she was a social researcher based at Bangor University but also travelling throughout the UK and, at times, abroad. Prior to health difficulties affecting her physical ability, she walked extensively throughout the British Isles, mainland Europe and at times further afield such as exploring the National Parks of America. Morag recorded these adventures with her camera using her slides to give illustrated talks. Morag was a true conservationist, someone who cared deeply about each species of flora and fauna as she did about the whole landscape. This led to her being a stalwart of both the North Wales Wildlife Trust and the Snowdonia Society, being a valued Trustee of the latter for many years. At one time she also edited the Society’s Magazine. Morag used her specialist knowledge to help with the development of the Society’s conservation work in the National Park and continued as a member of the Enhancement Committee after she stood down as a Trustee. Once she gave up driving she moved from her home in Llanddona, with its views of her beloved Snowdonia, to Llanfairpwll, making it easier to access public transport which, as an environmentalist, she was keen to use. In time it proved increasingly difficult for her to regularly attend Society meetings and events, though happily she was able to take part in the Society’s 50th anniversary conference at Plas Tan y Bwlch. For her final journey to Bangor Crematorium she rested in a wicker coffin topped with a simple bunch of beautiful sunflowers. For the service our Director had suggested a reading from Bill Condry’s book on Snowdonia, describing Cwm Glas Mawr and its beautiful plants. Having once been in Cwm Glas with Morag I was moved by the appropriateness of this reading. The Society has lost one of its leading lights but for those that knew and worked with her, we have lost a very good friend.

David Firth, Vice-President of the Snowdonia Society

David Firth , Is-Lywydd Cymdeithas Eryri

| 31


The outdoors is for everyone and it’s what we make it. But it’s not just about where we go or what we do. What makes an adventure great is the right kit and the right fit. Our in-store experts and services will help you find and care for kit made for adventure, not for landfill, so together we can reduce our impact and protect the places we love.

20% discount for Snowdonia Society members In-store and online. Expires: 31.03.22. T&Cs available online.

Ymaelodwch

OCC6549_26330 - CO_Snowdonia Society Advert_240x209.indd 1

www.snowdonia-society.org.uk/cy/ymaelodi

Aileen, in-store expert, South Cerney #maketherightchoice

Join

04/08/2021 13:01

www.snowdonia-society.org.uk/join

 Cymdeithas Eryri ● Snowdonia Society, Caban, Yr Hen Ysgol, Brynrefail, Caernarfon, Gwynedd LL55 3NR  01286 685498  info@snowdonia-society.org.uk www.cymdeithas-eryri.org.uk • www.snowdonia-society.org.uk Elusen gofrestredig rhif • Registered charity no: 1155401


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.