Page 1

Copaon ● Summits Cylchgrawn • Magazine Gwanwyn 2018 Spring


Cynnwys ● Contents

Sefydlwyd Cymdeithas Eryri yn 1967 a’i nod yw gwarchod a gwella harddwch a rhinweddau arbennig Eryri ac i hyrwyddo eu mwynhad er budd pawb sy'n byw, yn gweithio neu'n ymweld â'r ardal, yn awr ac yn y dyfodol. ~~~ The Snowdonia Society, established in 1967, works to protect and enhance the beauty and special qualities of Snowdonia and to promote their enjoyment in the interests of all who live in, work in or visit the area both now and in the future.

CCB ● AGM Nodwch ddyddiad

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cymdeithas Eryri 2018

Please note the date of the Snowdonia Society 2018

Annual General Meeting 14 Hydref/October Coed y Brenin Gweler: www.snowdonia-society.org.uk/cy/ digwyddiad See: www.snowdonia-society.org.uk/event

Cymdeithas Eryri the Snowdonia Society Caban, Yr Hen Ysgol, Brynrefail, Caernarfon, Gwynedd LL55 3NR  01286 685498  info@snowdonia-society.org.uk www.cymdeithas-eryri.org.uk www.snowdonia-society.org.uk Rhif elusen/Charity no: 1155401 Delwedd clawr: Yr Wyddfa o Moel Siabod Cover image: Snowdon Range from Moel Siabod © Nick Livesey Cyfieithu/Translation: Haf Meredydd Dyluniad/Design: Debbie Pritchard

4 8 12 16 20 22 24 26 27 28 29 30

Planhigion ar y copaon • Plants on top: John Farrar Copaon • Summits: Hywel Roberts Safbwynt mynyddwr • A mountaineer's perspective: Rob Collister ‘Esgynwyr’ cynnar Eryri • Snowdonia's earliest 'ascensionists': John Roberts Y Pedwar ar Ddeg Tair Mil • The Fourteen Threes: Alan Pugh Pen-blwydd rhyfeddol • An extraordinary anniversary Parciau Cenedlaethol ar gyfer y 21ain ganrif • National Parks for the 21st Century: John Harold Rhoi’n ôl i wirfoddolwyr • Giving back to volunteers: Sarah McGuinness Rydym wedi tyfu Tŷ Hyll • We have grown Tŷ Hyll Aelodau busnes newydd • New business members Cystadleuaeth ffotograffiaeth • Photography competition Newyddion • News

Ymaelodwch heddiw! ● Join Today! Ddim yn aelod?

Not a member?

Cefnogwch ein gwaith o warchod a gwella tirluniau a bioamrywiaeth arbennig Eryri trwy ymaelodi! Aelodaeth unigol: £24

Why not help conserve Snowdonia’s magnificent landscape and biodiversity by joining the Society? Individual membership costs £24.

www.cymdeithas-eryri.org.uk

www.snowdonia-society.org.uk

Gwirfoddoli Volunteering

Digwyddiadau Events

FF*

20% ODD* R

I FFW

Cylchgronau Magazines

Gostyngiadau Discounts

Ymwadiad golygydddol

Editorial disclaimer

Cynhyrchwyd y cylchgrawn gan dîm golygyddol yn cynnwys Rob Collister, Debbie Pritchard a John Harold. Rydym yn hynod ddiolchgar i’r holl awduron a ffotograffwyr sydd wedi cyfrannu at y rhifyn hwn. Cofiwch mai safbwyntiau personol yr awduron sy’n cael eu mynegi ganddynt, ac nid ydynt o reidrwydd yn adlewyrchu polisi Cymdeithas Eryri.

The magazine is produced by an editorial panel of Rob Collister, Debbie Pritchard and John Harold. We are very grateful to all the authors and photographers who have contributed to this issue. The views expressed by the authors are their own and do not necessarily reflect Snowdonia Society policy.

Swyddogion ac Ymddiriedolwyr: Officers and Trustees:

Staff:

Llywydd/President: John Lloyd Jones OBE Is-lywyddion/Vice-presidents: Sir John Houghton CBE FRS, Sir Simon Jenkins FSA, Huw Morgan Daniel CVO KStJ, David Firth, Morag McGrath, Katherine Himsworth Cadeirydd/Chair: David Archer Is-gadeirydd/Vice-chair: Margaret Thomas Ysgrifennydd Anrh/Hon Secretary: Gwag/ Vacant Aelodau’r pwyllgor/Committee members: Netti Collister, Bob Lowe, Gareth Roberts, Peter Weston, Dr Jacob Buis, Paul Gannon, Dr Sarah McCarthy

Cyfarwyddwr/Director: John Harold Swyddog Aelodaeth a Chyfathrebu/ Communications & Membership Officer: Debbie Pritchard Rheolwr Prosiect Ecosystem Eryri/Snowdonia Ecosystem Project Manager: Mary-Kate Jones Swyddogion Prosiect/Project Officers: Owain Thomas & Daniel Goodwin Swyddog Ymgysylltu/Engagement Officer: Claire Holmes Cymorth Technegol/Technical Support: Frances Smith Cyfrifydd/Accountant: Judith Bellis


Summits

Golygyddol

Editorial

Ar 7 Chwefror gadewais swyddfa’r Gymdeithas Eryri a cherdded i lawr at yr hen bont a’i phedair bwa dros yr afon. Mae bronwen y dŵr a’r hwyaden ddanheddog yn hoff o gyffiniau’r bont hon. O ganllaw’r bont, rydw i wedi cael fy syfrdanu gan las y dorlan ac wedi gwylio llyswennod yn gwau rhwng ei phyrth. Dyma le mae Llyn Padarn, llyn dŵr mynydd ddwy filltir o hyd, yn llifo dros y creigiau oer i gyfeiriad y môr.

On the 7th February I left the Snowdonia Society’s office and walked down to where the old bridge takes four strides to cross the river. The bridge is favoured by dippers and goosanders. From its parapet I’ve been electrified by a kingfisher and I’ve watched a knot of eels unravel under its arches. This is where Llyn Padarn, a two-mile body of mountain water, wriggles its toes over cold boulders and flows away.

Roedd yn anghyffredin o oer; yn y trefi a’r pentrefi roedd ceir wedi cael cychwyn gwael i’r diwrnod gan fod eira wedi cwympo ar rew caled yn ystod y nos. O gwmpas dyfroedd tywyll y llyn roedd y mynyddoedd a’u heira gwyn yn gyferbyniad hynod drawiadol.

It was unusually cold; in towns and villages the cars had a bad start to the day where snow had fallen on hard ice in the night. Encompassing the metalled length of the lake, the mountains were striking in snow-white with dark punctuation.

Mae’r olygfa hon yn eicon – y dyfroedd llonydd bob yn ail â’r dyfroedd berw, y coedydd derw a bedw, y llethrau a’u creigiau hynafol. Mae’r olygfa yn crynhoi cymeriad mynyddig gogledd Eryri. Yr ucheldir hwn sydd hefyd yn darparu’r thema ar gyfer y rhifyn hwn o’r cylchgrawn. Roeddwn wedi mynd at y bont i gael fy nghyfweld ar gyfer newyddion teledu, i roi fy marn, unwaith eto, ar doriadau i ariannu’r Parc Cenedlaethol. Dros y bryniau yn llyfrgell Plas Tan y Bwlch, roedd aelodau Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn cyfarfod i benderfynu ym mhle i wneud y toriadau; pwy fyddai’n colli eu swyddi, pa wasanaethau fyddai’n cael eu cwtogi, sut fyddai’r Awdurdod yn parhau â’i waith. O’r bont roeddwn yn gallu gweld Yr Wyddfa, lle daw hanner miliwn a mwy o bobl bob blwyddyn i anadlu awyr iach y mynydd. Bydd y tir yn parhau i fod yno, a’r dŵr a’r awyr. Yr hyn sydd mewn perygl yw ein perthynas â nhw. Rydym yn parhau i weithio ar y berthynas honno – gan greu cyfleoedd ar gyfer gwirfoddolwyr unigol i wneud gwahaniaeth, a chydweithio gyda’r sawl sy’n rhannu ein gweledigaeth ar gyfer Parciau Cenedlaethol a reolir yn dda ac sy’n cael eu gwarchod, ac sydd o fudd i bob un ohonom.

This view is an icon – the still water between the torrents, the oak and birch woods, the rising ground studded with ancient stone. This gateway distils the mountainous character of northern Snowdonia. That same high ground provides the theme for this issue of your magazine. I had gone to the bridge to be interviewed for the television news, to comment, once again, on cuts to National Park funding. Over the hills in the library at Plas Tan y Bwlch, the members of Snowdonia National Park Authority were meeting to decide where cuts must fall; who would be made redundant, which services reduced, how the Authority would continue its work. From the bridge my view reached up to Snowdon, where half a million people and more visit each year and taste mountain air. The land will still be there, and the water and the air. It is our relationship with them that is at risk. We continue to work on that relationship, creating opportunities for individual volunteers to make a difference and working with those who share our vision for the well-managed and protected National Parks which benefit us all. John Harold, Director

John Harold, Cyfarwyddwr Llyn Padarn, Brynrefail © Debbie Pritchard


Copaon

Planhigion ar y copaon John Farrar Copaon: y nod i lawer sy’n eu troedio cyn symud ymlaen. Ac mor amrywiol, o arwder Tryfan i Foel Eilio lefn; o dyrfaoedd Yr Wyddfa i’r Dduallt anghysbell. A phan rydych arnyn nhw, be ydych chi’n ei weld? Yr olygfa, wrth gwrs, ac anifeiliaid, efallai: y pâr o gigfrain a welir mor aml o amgylch copa Carnedd Dafydd, llwynog yn llithro rhwng y creigiau, gwiwer ambell dro, ac yn rhyfeddol, yn croesi crib uchel rhwng cymoedd. Ond pa mor aml ydych chi’n edrych – ac yn edrych go iawn – ar y planhigion o dan eich traed? Mae planhigion ein mynyddoedd uchel yn fwy na rhestr o rywogaethau. Mae beth maen nhw’n ei wneud cyn bwysiced â beth ydyn nhw. Yn hanfodol, maen nhw’n dal ynni’r haul sy’n gyrru ecosystem y mynydd. Maen nhw’n cynnal y pridd a’r maetholion sydd ynddo ac yn cynnal bywyd gwyllt brodorol: pryfed a mamaliaid uwchben y ddaear, llawer o greaduriaid byw oddi tano, a’r corhedyddion, y cwtiad aur ac adar ysglyfaethus uwchben. Maen nhw’n darparu bwyd i ddefaid y ffermwr. Maen nhw’n arafu llif dŵr o’r glaw i’r afon, ac yn lleihau llifogydd i lawr yr afon. Ac maen nhw’n ychwanegu llawenydd gweledol at

dirwedd hyfryd ein mynyddoedd. Ar gopaon gwelltog (Diffwys, Waun Oer), fe all y planhigion ymddangos yn eithaf di-nod; y gawnen ddu sydd ym mhobman, peiswellt y defaid, y frwynen sgwâr, ambell i hesgen. Yn aml, melyn tresgl y moch yw’r unig gyferbyniad i’r gwyrdd, y brown a’r llwyd. Ond mae hanes, hen hanes, o dan eich traed. Esblygodd cnwp-fwsoglau – mae tair rhywogaeth ar y copaon – 350 miliwn o flynyddoedd yn ôl, pan oedd Cymru’n dal i’r de o’r cyhydedd – a gallwch gwrcwd i lawr i gyffwrdd y ffurf hynafol yma. A dim ond ychydig o gentimetrau i lawr, mae’n bosib bod y craigwely hanner cyn hyned eto. Ar gopaon creigiog (Carnedd Dafydd, Glyder Fawr), gwelir y rhedynen bersli a’r rhedynen Fair yn y cilfachau cysgodol. Esblygodd rhedynau, cysylltiad arall â’r hynafol, tua’r un pryd â’r cnwp-fwsoglau. Ond, ar y creigiau uchel, mwsoglau a chennau sy’n arglwyddiaethu. Rhwng y creigiau yma mae clystyrau llwydwyrdd o Racomitrium, gydag Andreaea sydd bron yn ddu i’w gweld

Fe all ffyngau yma fod yn anodd i'w hadnabod; mae llawer yn brin ac mae'r sborocarpau wedi eu niweidio yn aml gan yr amgylchedd garw. Fungi here can be difficult to identify; many are rare and the sporocarps are often damaged by the harsh environment. © John Farrar

4 | Gwarchod a dathlu Eryri ers 50 mlynedd: 1967 - 2017


Summits

arnyn nhw; a’r cen map melyn cyffredin. Mae llawer o gennau a mwsoglau eraill yn byw ar greigiau yma, ac maen nhw’n anodd iawn i’w hadnabod. Hyd yn oed yma, mae prinder o’n blodau mwyaf prin a mwyaf trawiadol, oherwydd ar greigiau mwyaf sylfaenol y cymoedd uchel y gwelir y rhan fwyaf o’n planhigion arctig alpaidd. Mae ambell i gopa arall, fymryn yn is, wedi ei orchuddio â grug ac yn anodd ei dramwyo; rhowch gynnig ar Y Rhinogydd. Mae rhostir, gyda chymysgedd dda o lus, grug croesddail (lle mae hi’n wlyb, ynghyd â mwsogl Sphagnum) a grug y mêl (lle mae hi’n sych), yn gynefin o bwysigrwydd Ewropeaidd. Efallai mai’r llystyfiant mwyaf trawiadol ar ein copaon, i’w weld ar gopaon gorllewin y Carneddau a'r gopaon gogledd y Glyderau, yw hwnnw sy’n seiliedig ar yr helygen fach. Planhigyn ein copaon uchaf yw hon, coeden leiaf Cymru, sydd ond ychydig o © John Farrar gentimetrau o daldra. Gallwch gerdded dros drwch ohoni heb sylwi arni, ond mae ecosystem gyfan yn dibynnu arni. Yn aml mae chwydd llifbryf ar ei dail, ond y gwreiddiau sy’n wirioneddol arwyddocaol, oherwydd mae ganddyn nhw berthynas symbiotig gydag ystod eang o ffwng. Y mwyaf trawiadol, oherwydd maen nhw dros 20 cm o daldra, yw boled (sy’n edrych yn fwytadwy, ond fyddwn i ddim yn ei fwyta!) ac – yn rhyfeddol – amanita’r gwybed (nad yw’n fwytadwy). Mae’r ddau’n tyfu cryn dipyn yn uwch na’r llystyfiant sy’n eu bwydo, gan siglo yn y gwynt ac mewn perygl o gael eu dymchwel gan unrhyw ddafad sy’n mynd heibio. Ewch i’r mannau yma yn hwyr ym mis Awst ac fe gewch eich rhyfeddu. Er bod y gymuned hon yn deyrnged drawiadol i bwysigrwydd gwreiddiau, un nodwedd o’n llystyfiant ar y mynyddoedd uchel yw faint ohono sy’n bodoli o dan wyneb y ddaear. Yn nodweddiadol, mae hanner pwysau planhigyn yn y pridd; yn uchel ar y mynydd, rhywfaint yn fwy na hyn. (Ac o ran anifeiliaid hefyd; y tro nesaf y byddwch yn gweld dafad yn pori ar y mynydd, dychmygwch yr un pwysau mewn pryfed genwair, pryfetach ac yn y blaen o dan yr un arwynebedd o laswellt). Drwyddo draw, fodd bynnag, dydy ein copaon ddim yn cynnal llawer o rywogaethau. Pam? Mae’r graig waelodol yn galed ac yn treulio’n araf gan ollwng ychydig o faetholion; ac mae’r pridd a ffurfiodd dros y graig wedi i’r rhew gilio wedi colli ei faetholion dros filoedd o flynyddoedd. Ond o ran un maetholyn – nitrogen – mae stori o’r newydd. Mae pibellau mwg ceir yn gollwng ocsidiau nitrogen, ac mae arferion amaethyddiaeth yn gollwng amonia. Mae’r cyfansoddion nitrogen yma’n cronni yn yr atmosffer ac yn cael eu golchi oddi yno a’u gollwng ar y tir gan law. Oherwydd bod mwy o law ar ein tir uchel, mae ein copaon bellach yn derbyn digon o nitrogen ychwanegol i beri lleihad yn amrywiaeth eu planhigion, ac yn newid i ffafrio (er enghraifft) gwelltau yn hytrach na grug.

llygredd o’r fath; bygythiadau eraill sy’n effeithio ar ein copoan yw rhywogaethau ymledol, newid hinsawdd a gorbori. Ydych chi wedi gweld helyglys Seland Newydd yn uchel ar y mynydd? Ydych chi wedi gweld sbriwsen Sitca’n lledaenu o blanhigfeydd? Ynghyd â rhododendron maen nhw i’w gweld ar rai copaon is. Rhyngddyn nhw mae defaid a geifr lled wyllt wedi rhwystro adferiad llawer o rywogaethau i raddau sylweddol, yn cynnwys y gor-ferywen. Gan mai Eryri yw’r casgliad mwyaf deheuol o gopaon 1,000m yn y DU, mae llawer o’n rhywogaethau ucheldir ar ffin eu dosbarthiad ac yn arbennig o fregus i effeithiau newid hinsawdd – nid dim ond cynhesu’n unig, ond patrymau gwahanol o gwymp glaw a thywydd mwy eithafol. Un amcangyfrif yw bod newid hinsawdd yn gyrru rhywogaethau’n uwch o oddeutu 10 qm ym mhob degawd; does unlle i fynd yn uwch na chopa, ac mae’r cynefinoedd llaith, bas-gyfoethog ein planhigion arctig alpaidd i’w cael ar ystod gyfyngedig o uchder. O leiaf rydym yn gwybod beth sy’n digwydd: uwchben Llyn Teyrn mae gorsaf dywydd, calon safle’r Wyddfa sy’n rhan o’r Rhwydwaith Newid Amgylcheddol cenedlaethol, lle mae hinsawdd a bioleg wedi eu monitro ers 1995. Mae’r tymheredd a chwymp glaw yn uwch; mae llai o amrywiaeth planhigion, ac mae gwelltau’n cynyddu lle bu perlysiau. Mor eironig yw hi bod ein copaon – ein mannau mwyaf anghysbell, heb eu cyffwrdd – mor sensitif i lygredd a newid hinsawdd. Roedd John Farrar yn Athro Botaneg ym Mhrifysgol Bangor hyd yn ddiweddar ac mae o’n gyn-Ymddiriedolwr Cymdeithas Eryri. Gellir gweld ei ffotograffiaeth tirlun hyfryd ar ei wefan: www.fragileland.co.uk

Dim ond un o’r llu o fygythiadau i amgylcheddau naturiol yw

1967 - 2017: Protecting and celebrating Snowdonia for 50 years | 5


Copaon

Plants on top John Farrar Summits: the goal for many, trodden, then left. And so varied, from the roughness of Tryfan to the smooth Moel Eilio. From the crowds of Snowdon to the scarcely visited Dduallt. And when you're on them, what do you see? The view, of course, and perhaps animals: the pair of ravens so often around the cairn of Carnedd Llewelyn, a fox slipping back between rocks, sometimes ,and remarkably, a squirrel crossing a high ridge between valleys. But how often do you see, really see, the plants at your feet?

What they do matters as well as what they are. Vitally, they capture the solar energy that powers the mountain ecosystem. They hold the soil and what nutrients it contains, and support native animal life: insects and mammals above ground, many wriggly things below, the pipits, golden plovers and raptors overhead. They feed sheep for the farmer. They slow the flow of water from rain to river, reducing flooding downstream. And they add a visual joy to our precious mountain landscape.

The plants of our high hills are more than just a list of species.

On grassy summits (Diffwys, Waun Oer), the plants can look rather undistinguished. The ubiquitous mat grass, sheep's fescue, square rush and the odd sedge. The yellow of tormentil is often the only contrast to green, brown and grey. But there is history, deep history, at your feet. There are three species of clubmosses on the summits, first evolved 350 million years ago, when Wales was still south of the equator, and you can bend to touch this ancient form. And just a few centimetres down, the bedrock may be half as old again. On rocky summits (Carnedd Dafydd, Glyder Fawr), both parsley fern and lady fern are in sheltered crevices. Ferns, another link to the ancient, first evolved at about the same time as clubmosses. But on the high rocks, mosses and lichens dominate: Racomitrium's grey-green clumps between rocks, near-black Andreaea on them, and the ubiquitous yellow map lichen. There are many other rock-living lichens and mosses, and they are very hard to identify. Even here, there is a dearth of our rarer and more spectacular flowers, for it is on the more basic rocks in the high cymoedd (cirques in English) that most arctic-alpines are found. Some slightly lower summits are heathercovered and give tough walking; try the Rhinogydd. Heathland, with a good mix of bilberry, cross-leaved heath (where it's wet, along with Sphagnum moss) and bell heather (where dry), is a habitat of European importance.

Cennau • Lichens Š John Farrar

6 | Gwarchod a dathlu Eryri ers 50 mlynedd: 1967 - 2017

Perhaps the most striking summit vegetation, found on the tops of the western Carneddau and the northern Glyderau, is that based on dwarf willow. Wales' smallest tree, only a few centimetres high, is a plant of the high tops. You can walk over swards of it without noticing it, but on it a whole ecosystem depends. The leaves often have sawfly galls, but it is the roots that are really significant, for they have a symbiotic relationship with a considerable range of fungi. Most dramatic,


Summits because they are over 20 cm high, are a bolete (looking like an edible bolete, but I wouldn't!) and, remarkably, fly agaric (definitely not edible). Both stand well above the vegetation that feeds them, swaying in the wind and often knocked over by a passing sheep. Go to these places in late August, and be amazed. Whilst this community is a dramatic tribute to the importance of roots, a singular feature of our high mountain vegetation is just how much of it exists below-ground. Typically, half of a plant's weight is in the soil; up high, rather more than this. (And for animals too; the next time you see sheep grazing on the hill, imagine the same weight of worms, insects and the like under a similar area of sward). Overall, though, our summits are not rich in species. Why? The underlying rock is hard and weathers slowly to yield few nutrients, and the soils formed over it after the ice retreated have over thousands of years been leached of what nutrients they had. But for one nutrient, nitrogen, there is a new story. Car exhausts pump out nitrogen oxides, and agriculture emits ammonia. These nitrogen compounds accumulate in the atmosphere, from which they are washed out and deposited on the land by rain. Because rainfall is heaviest over our high land, our summits are now subject to enough extra nitrogen for their plant diversity to be reducing, and changing to favour (for example) grasses over heather. Such pollution is just one of the litany of threats to natural environments. Other factors affecting our summits are invasive species, climate change and overgrazing. Have you seen New

Zealand willow herb up high? Have you seen Sitka spruce spreading out from plantations? Along with rhododendron it is on some lower summits. Sheep and feral goats between them stop significant regeneration of many species, including dwarf juniper. Since Snowdonia has the most southerly set of 1,000m peaks in the UK, many of our upland species are on the edge of their range and particularly susceptible to climate change, not just warming, but altered patterns of rainfall and more extreme weather. An estimate is that climate change is driving species upwards at about 10m per decade, there is nowhere to go above a summit, and those special moist, base-rich habitats of our arctic-alpines occupy a limited range of altitude. At least we know what is happening: above Llyn Teyrn is a weather station, the heart of the Snowdon site that is part of the national Environmental Change Network, where climate and biology have been monitored since 1995. Temperature and rainfall are up, plant species diversity is down, with grasses increasing at the expense of herbs. How ironic that the summits, our remotest, least touched places, are so sensitive to pollution and climate change. John Farrar was Professor of Botany at Bangor University until recently and is a former Trustee of the Snowdonia Society. His fine landscape photography can be viewed on his website: www.fragileland.co.uk

Amanita'r mynydd arctig alpaidd Amanita nivalis yw'r ffwng, mae'n debyg The fungus is probably the arctic-alpine mountain grisette Amanita nivalis Š John Farrar

1967 - 2017: Protecting and celebrating Snowdonia for 50 years | 7


Copaon

Copaon Hywel Roberts

Sylwadau cyn-warden am nodweddion arbennig Yr Wyddfa Oedwch am ennyd bach, ac edrychwch o gwmpas – nid i edrych ar y golygfeydd godidog yn unig, ond ar y ‘pethau’ wrth eich traed. Mor hawdd yw gwibio heibio iddynt a’u methu yn y brys i gyrraedd y copa. Ymddiheuriadau os byddaf yn ymddangos yn ‘bregethwrol’ yn fy sylwadau, ond o fod wedi gweithio yn Eryri am bron i 40 mlynedd fel warden gydag Awdurdod y Parc (ar Yr Wyddfa a Chader Idris), ac wedyn gyda chyrff cadwraeth natur cenedlaethol sef y Cyngor Gwarchod Natur, Cyngor Cefn Gwlad Cymru ac, yn fwy diweddar, Cyfoeth Naturiol Cymru, yng Nghwm Idwal, Dyffryn Conwy a’r Wyddfa, tybiaf bod gennyf farn i’w mynegi. Mae’n fy nhristau, ac yn fy synnu, cyn lleied o ddiddordeb sydd yn y nodweddion naturiol, a’r diffyg darpariaeth gwybodaeth hawdd ei chyrraedd i’r cyhoedd sydd am y nodweddion yma. Mae’r dyddiau o daflenni a phaneli gwybodaeth am y safleoedd nodedig wedi hen fynd, gyda’r disgwyliad bod gan yr ymwelydd cyffredin fynediad i’r we, a hynny ar y safle. Ran amlaf, yn ôl fy mhrofiad i gyda ffôn symudol, does dim modd cael cysylltiad ffôn, heb sôn am gysylltiad â’r we i gael gwybodaeth manwl ar safle penodol. Dyna ddigon o gwyno – fe ddaw haul ar fryn, a dyna’n union beth fydd yn digwydd ym misoedd cyntaf y flwyddyn ar y mynydd, gan ddod â gwên i’m wyneb. Yr arwydd cyntaf o’r gwanwyn i mi bob blwyddyn yw gweld y tormaen porffor Saxifraga oppositifolia yn blodeuo ar lechweddau’r Gwalch (Y Diffwys i rai), y llechwedd i’r gogledd o’r ‘cob’ ar draws Llyn Llydaw. Cefais lawer o ymweliadau dros y blynyddoedd i’w weld yn blodeuo, ac i dynnu ei lun gyda Chrib Goch yn gefndir, a’r Wyddfa i’r gorllewin, yn aml iawn gyda thrwch o eira ar y copa ac yn hafnau’r Drindod ar y creigiau i’r gogledd o’r copa. Ond cofiwch, mae’r llethr yma’n gallu bod yn llithrig iawn, ac yn y gaeaf nid oes llawer o dyfiant i afael ynddo i arbed llithriad pell at lannau Llyn Llydaw. Felly gofal piau hi os am weld y ‘porffor’ yma! Un rheswm am yr ymweliadau blynyddol oedd ceisio gweld, dal ac wedyn adnabod pa wybed oedd yn hel neithdar y blodau’n yr oerfel. Hefyd i weld a oedd newid yn nyddiadau blodeuo’r tormaen, gan fod pryder bod newid hinsawdd yn effeithio ar y blodeuo. Methais â dal pryfyn perthnasol, felly mae cyfle i rywun arall barhau â’r ymchwil i ddyddiadau blodeuo. Hefyd mae ceisio dal y gwybed wedi bod yn broblem; er enghraifft fe osododd Cyngor Cefn Gwlad drap i ddal gwybed oedd yn eu denu gyda golau. Yn anffodus bu’n rhaid rhoi’r gorau i’r ymchwil gan fod y tîm achub mynydd lleol yn cael galwadau gan aelodau o’r cyhoedd a oedd yn credu bod cerddwr mewn ‘trafferth’. Enghraifft nad yw pawb yn gweld pethau o’r un ongl. Efallai na osodwyd arwyddion gwybodaeth am y golau oherwydd pryder am ddiogelwch yr offer, yn sgil enghreifftiau o fandaliaeth; collwyd sawl eitem drudfawr o offer monitro tywydd a bywyd gwyllt o safle Rhwydwaith Newid Amgylcheddol ar y mynydd dros y blynyddoedd – does unman yn ddiogel rhag lladrad a fandaliaeth – er fod y safle’n ddiarffordd. Yn ôl at y tormaen. Pam fod y planhigyn yma’n tyfu mewn lle mor arw i bob ymddangosiad i’r lleygwr, a ddim i’w gael ar dir cyfagos?

8 | Gwarchod a dathlu Eryri ers 50 mlynedd: 1967 - 2017

Y rhesymau pennaf yw natur y graig a’r pridd llai sur sydd yn deillio ohoni, yn wahanol i fwyafrif creigiau a phridd asidaidd y mynydd, hefyd bod y lleoliad yn wynebu’r de/de-orllewin, yn llygad yr haul. Hefyd, yn sgil natur serth y tir nid oes llawer o bori gan ddefaid a dim ond ambell afr wyllt, nac ychwaith lawer o aflonyddu gan bobol! Ni welwch y tormaen yn blodeuo ar y clogwyni sy’n wynebu’r gogledd (er enghraifft, yng Nghwm Idwal ar y clogwyni’r naill ochr i’r Twll Du, ar Glogwyn y Geifr, ac yn Y Ro islaw) tan rai wythnosau yn hwyrach, oherwydd eu bod yng nghysgod haul ac yn aml o dan drwch o rew ac eira. O dan yr amodau yma, efallai eu bod yn cael eu gwarchod rhag effeithiau pwysau trwm cerddwyr a dringwyr. Ond, mae posibilrwydd profi gwrthdaro rhwng cadwraeth a gwarchod y planhigion yma os nad oes digon o rew, a gormod o bwysau gan ddringwyr rhew, sydd efallai wedi teithio ymhell i ymarfer eu sgiliau dringo rhew gyda chramponau a chaib rew. Nid oes gwrthdaro os bydd trwch da o rew, ond pa mor aml mae hyn yn digwydd gyda newidiadau yn ein gaeafau yn sgil newid hinsawdd? Mae’n frwydr cael cydbwysedd rhwng yr amrywiol ofynion ar y mynydd. Dim ond addysg all reoli’r gwrthdaro efallai. Ond, trwy wybodaeth, codi ymwybyddiaeth a chyd-drafod mae’n bosibl cael dealltwriaeth a fydd o fudd i bawb, ac i’r planhigion a’r cynefinoedd. Dyna yw’r nod mewn sawl lleoliad gwarchod natur, sef cael tyfiant cynhenid ffyniannus trwy gyd-weithrediad y tirfeddianwyr gyda’r cyrff cadwraeth. Enghraifft wych o hyn yw’r prosiect tymor hir yng Nghwm Idwal i ail greu croes-doriad o dyfiant naturiol o waelod y Cwm hyd at y copaon trwy ddileu pori, neu o leiaf ei gyfyngu’n sylweddol trwy fugeilio’r defaid a’r geifr. Soniais yn gynharach am y tormaen porffor yn blodeuo ar ddechrau’r gwanwyn. Yn yr un lleoliadau yn aml iawn gwelir tyfiant nodedig ar wyneb y graig ac yn y cilfachau bychain, sef planhigion y graig megis tormaen llydandroed Saxifraga hypnoides, tormaen serennog Saxifraga stellaris, a’r gludlys mwsoglog Silene acaulis. Gwelir y rhain ar ochr llwybr PyG ger Bwlch Glas ac ar ochr rheilffordd yr Wyddfa. Fe welwch y rhain ran amlaf ym mis Mai a dechrau Mehefin, yn dibynnu ar y lleoliad, yr uchder a’r agwedd (yn wynebu’r dwyrain neu’r gogledd ran amlaf). I goroni pob taith i’r copa y gobaith i lawer o fotanegwyr yw gweld y blodau prin nodedig megis y tormaen siobynnog Saxifraga cespitosa, sydd i’w gael yng Nghwm Idwal yn unig, a thormaen yr eira Saxifraga nivalis. Fe welwch sawl blodyn tormaen llydandroed Saxifraga hypnoides ar ochr trac y trên yn agos i Hafod Eryri, a hyd yn oed wrth ymyl y llwybrau o’r Hafod at y copa ei hun! Faint o’r miloedd o ymwelwyr sydd yn sylwi arnynt? Ond yn anffodus, i’r rhai sydd eisiau gweld brwynddail y mynydd/ lili’r Wyddfa Lloydia serotina, rhaid gwyro o’r prif lwybrau i’r copa i waelod Clogwyn Du’r Arddu, clogwyni Twll Du, Cwm Cneifion neu Gwm Clyd. Mae cymaint i’w weld - o’r planhigion i’r adar a’r dirwedd sydd wedi ei chreu gan rewlifiant a’i newid trwy ei thrin gan ddyn dros


Summits y canrifoedd. I’w gwarchod mae angen llawer o waith a gofal, ac nid yw hyn bob amser yn bodloni pawb. Er enghraifft, pwrpas gwaith cynnal a chadw’r llwybrau yw gwarchod y nodweddion, ond y perygl yw bod y gwella’n gwneud y llwybrau yn fwy atyniadol – cylch dieflig go iawn! Felly, cerddwch yn ofalus – gwyliwch lle rydych yn troedio a gallwch nid yn unig leihau eich cyfraniad at erydiad llwybrau ond hefyd gallwch sylwi ar y tyfiant nodedig, neu ffosiliau yn y cerrig ar gopa’r Wyddfa. Ac efallai gallwch ddal y pryf, a’i adnabod, fel

rwyf wedi ceisio ei wneud ers blynyddoedd. Mae cymaint i’w ddysgu o hyd ar y mynydd! Mae Hywel Roberts wedi gweithio yn Eryri am bron i 40 mlynedd fel warden gydag Awdurdod y Parc ac wedyn gyda chyrff cadwraeth natur cenedlaethol sef y Cyngor Gwarchod Natur, Cyngor Cefn Gwlad Cymru ac, yn fwy diweddar, Cyfoeth Naturiol Cymru.

Tormaen porffor • Purple saxifrage, Cwm Idwal © Mike Alexander

Ymchwil ar hanes copa'r Wyddfa Byddwn yn falch iawn o glywed gan unrhyw un sydd yn berchen ar adroddiadau am ddringo’r Wyddfa mewn llawysgrifau neu ffotograffau o’r copa cyn 1900. Ers blwyddyn rydw i wedi bod yn gweithio ar ddeunydd ffynonellau sy’n berthnasol i hanes copa’r Wyddfa. Ceir swmp y deunydd hwn mewn cannoedd o adroddiadau mewn llawysgrifau a rhai a gyhoeddwyd gan wyddonwyr a thwristiaid o’r 17eg i’r 19eg ganrif, ond rydw i hefyd wedi archwilio llawer sydd bellach ar gael ar-lein (yn enwedig papurau newyddion Cymreig lle ceir llawer o hanesion dringfeydd o ail hanner y 19eg ganrif). Rydw i wedi ceisio sefydlu’r hyn sy’n wybyddus am

hanes y garnedd a’r straeon sy’n gysylltiedig â hi. Rydw i hefyd wedi bod yn casglu lluniau, printiadau a ffotograffau cynnar o’r copa ac eisoes rydw i wedi dod o hyd i dros 100 llun o’r copa cyn adeiladu’r rheilffordd. Rydw i’n llwytho i fyny llawer o’r deunydd hwn i’m gwefan sy’n canolbwyntio ar yr hyn a ysgrifennwyd gan dwristiaid yng Nghymru am bobl a lleoedd yng Nghymru yn ystod y 18fed a’r 19eg ganrif. Gweler: www.sublimewales.wordpress.com Michael Freeman, Cymrawd Ymchwil Mygedol Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Aberystwyth. michael.freeman9@btinternet.com

1967 - 2017: Protecting and celebrating Snowdonia for 50 years | 9


Copaon

Summits

Gludlys mwsoglog yn tyfu yng Nghwm Glas, Yr Wyddfa Moss campion growing in Cwm Glas, Snowdon © Rob Collister

Hywel Roberts

Thoughts on the special qualities of Snowdon Linger a while, and look about you – not only to take in the wonderful view but to notice what’s under your feet. It’s so easy to speed past these things and miss them in our hurry to reach the summit. Apologies if I appear to ‘preach’ with my comments but having worked in Snowdonia for nearly forty years as a warden with the Park Authority (on Snowdon and Cader Idris), and then with national conservation bodies such as the Nature Conservancy Council, Countryside Council for Wales (CCW) and, more recently, Natural Resources Wales, in Cwm Idwal, Dyffryn Conwy and Snowdon, I believe I have an opinion to share. It saddens and surprises me how little interest is shown in our natural resources, and the lack of accessible information available to the public about these features. The days of leaflets and information boards with details about important sites have long gone in the expectation that the ordinary visitor has access to the web while on the spot. More often than not, in my experience, there is no access to a mobile phone signal, let alone a link to the web, for accessing detailed information on a specific site.

Back to the saxifrage. Why does this plant grow in what seems to the layman to be such a rugged place, and why is it not found on other land nearby? The main reasons are the nature of the rock and the less acidic soil that is derived from it, different to the acidic rocks and soil on much of the mountain. Another reason is that the site faces south-south west and therefore in full sun; also, because of the steep nature of the land it is only lightly grazed by sheep and the occasional goat, and not much visited by people.

That’s enough complaining – things can only get better; and that’s exactly what happens in the first few months of the year on the mountain, which brings a smile to my face.

You won’t see the saxifrage flowering on north-facing cliffs (for example in Cwm Idwal on the cliffs either side of Twll Du, on Clogwyn y Geifr, and on Y Ro below) until some weeks later as this is an area without sun and is often under a thick layer of ice and snow. Under these conditions, the plants are protected from the detrimental effects of walkers and climbers. But, it’s possible to encounter conflict between recreation and conservation if there is insufficient ice and too much pressure from ice climbers who may have travelled a long distance to practise their skills with crampons and ice axes. There is no conflict if there is a thick layer of ice, but how often does this happen with the change in our winters as a result of climate change?It’s a constant battle trying to strike a balance between the various requirements on the mountain. It’s possible that only education will reduce the conflict between the various interests. But through information, raising awareness and discussion it may be possible to reach an understanding that will benefit all, as well as the plants and habitats.

The first sign of spring for me every year is the appearance of the flowers of purple saxifrage Saxifraga oppositifolia on the slopes of Y Gwalch (Y Diffwys to some), the slope to the north of the ‘cob’ across Llyn Llydaw. I have visited this site numerous times over the years to see it in flower and to take pictures with Crib Goch in the background and Snowdon to the west, often with a thick layer of snow on the summit and in the gullies of the Trinity Face. But remember, this slope can be especially slippery and in winter there is a dearth of vegetation to prevent a long slide down to the shores of Llyn Llydaw. So do take care if you wish to see this purple flower. One reason for the yearly visits was to try to spot, catch and then identify what insects were collecting the flowers’ nectar in the cold. Also, to see whether there was a change in the saxifrage’s flowering dates as there was concern that climate change was affecting it. There is an opportunity here for someone else to continue with this research. Trying to catch the insects was a problem. CCW set a trap that operated by attracting the creatures to a light. Unfortunately, the research had to be halted as the local mountain rescue team were receiving calls from members of the public who believed that someone was in difficulty. An example that not everyone sees thing the same way. It may be that information boards about the light weren’t erected because of concern about vandalism; Several expensive items of equipment for monitoring weather and wildlife have been lost from a Climate Change Network site on the mountain over the years. Nowhere is safe from theft or vandalism even though the site is virtually inaccessible.

10 | Gwarchod a dathlu Eryri ers 50 mlynedd: 1967 - 2017

The aim in many locations is to ensure flourishing native growth through cooperation between the landowner and the conservation bodies. A brilliant example of this is the long term project in Cwm Idwal to recreate a cross-section of natural growth from the valley floor to the summits by stopping grazing, or at least reducing it substantially by shepherding the sheep and goats. I mentioned earlier the flowering purple saxifrage at the beginning of spring. Very often in the same location it’s possible to see other special plants growing on the rock face and in small crevices. Amongst these are mossy saxifrage Saxifraga hypnoides, starry saxifrage Saxifraga stellaris, and moss campion Silene acaulis. These can be seen by the PyG track by Bwlch Glas and on the verges of the Snowdon railway, usually in May and early June,


Summits depending on location, altitude and aspect (usually facing east or north). The highlight of each trip to the summit for many botanists is a sighting of special rare flowers such as tufted saxifrage Saxifraga cespitosa, which can only be seen in Cwm Idwal, and alpine saxifrage Saxifraga nivalis. Mossy saxifrage Saxifraga hypnoides can be seen by the train track near Hafod Eryri, and even next to the paths from the Hafod to the actual summit! How many of the thousands of visitors notice these? Unfortunately, for those that wish to see the Snowdon lily Lloydia serotina, one must veer off the main paths and visit the foot of Clogwyn Du’r Arddu, the cliffs of Twll Du, Cwm Cneifion or Cwm Clyd. There is so much to see - from the plants and the birds to the landscape - that has been created by glacier flow and adapted by man over the centuries. Much work and care is needed to conserve it, and this doesn’t always please everybody. For example, the purpose of maintenance work on paths is to protect the landscape, but the danger is that improvement makes the paths more heavily used – a vicious circle! So, tread carefully. Be aware of where you place your feet and you will not only reduce your contribution to path erosion but you will also notice the special plants, or fossils in the rocks on the summit of Snowdon; and, perhaps, you can catch the insect and identify it, as I have tried to do for many years. There is just so much to learn all the time on the mountain! Hywel Roberts has worked in Snowdonia for nearly forty years as a warden with the Park Authority (on Snowdon and Cader Idris), and then with national conservation bodies such as the Nature Conservancy Council, Countryside Council for Wales and, more recently, Natural Resources Wales

Dringwyr rhew ar ‘The Devil's Appendix’, Twll Du, Cwm Idwal Ice-climbers on The Devil's Appendix, Twll Du, Cwm Idwal © Rob Collister

Research on the history of Snowdon Summit I would be most interested to hear from anyone who has manuscript accounts of ascents of Snowdon or photographs of the summit before 1900. For the past year I have been working on source material which relates to the history of the summit of Snowdon. The bulk of this material is in hundreds of manuscripts and some published accounts of ascents of Snowdon by scientists and tourists from the 17th to the 19th centuries, but I have also examined much that has recently been made available on line (especially Welsh newspapers in which there are many later 19th century accounts of ascents).

I have tried to establish what is known about the history of the cairn and the stories associated with it. I have also been gathering early drawings, prints and photographs of the summit of which I have found over 100 before the railway was built. I am uploading much of this material onto my web site focusing on what tourists to Wales wrote about the people and places of Wales during the 18th and 19th centuries. See: www.sublimewales.wordpress.com Michael Freeman, Honorary Research Fellow of the National Museum of Wales Aberystwyth. michael.freeman9@btinternet.com

1967 - 2017: Protecting and celebrating Snowdonia for 50 years | 11


Copaon

Safbwynt mynyddwr Rob Collister Efallai ei fod yn amlwg i bawb ond mae pob mynydd yn wahanol, pob un â’i nodweddion ei hun sy’n ei wneud yn unigryw a gyda’i gymeriad ei hun. Yma yng ngogledd Cymru, wnawn ni ddim sôn fawr am Yr Wyddfa heblaw’r ffaith fod angen ciwio’n aml i gyrraedd y copa. Ond mae Tryfan yn enwog am Adda ac Efa, dwy graig sydd mor gyfartal o ran eu huchder fel bod rhaid, yn ôl traddodiad, neidio o un i’r llall ac yn ôl i sicrhau eich bod wedi cyrraedd man uchaf y mynydd. Gan fod topiau’r ddwy garreg wedi eu sgleinio cymaint gan wadnau traed yn glanio arnyn nhw dros 150 mlynedd, dyma her arbennig y byddaf yn ei hosgoi pan fydd y tywydd yn wlyb neu’n wyntog. Yn agos at gopa Tryfan mae Glyder Fach, ac mae ei gopa ar ffurf blociau enfawr o graig, hefyd wedi eu gwisgo’n sgleiniog gan droedio cyson. Dim ond wrth sgramblo y gellir cyrraedd y copa yma, ac fe all hyn fod yn ddigon anodd ar dywydd gwlyb. Ar gopa Glyder Fawr gerllaw mae dau gasgliad o greigiau sy’n codi o’r llwyfandir o gwmpas, a gellir ystyried y naill neu’r llall fel y copa. Yn yr un modd, mae gan Crib Goch ddau gopa, un ar bob pen o’r grib hynod o fain a’r ddau yr un uchder yn union yn ôl yr Arolwg Ordnans. Ar gopa’r Elen yn y Carneddau mae tri chnepyn y gellir eu hystyried fel y man uchaf. Yn ôl ar y Glyderau, mae man ucha’r Garn yn amlwg ac eto mae yno ddigon o le i glawdd cerrig crwn ar ffurf cysgod rhag y gwynt a all gysgodi sawl cerddwr; ond dim ond carn fechan iawn sydd ar Foel Goch, sy’n edrych i lawr dros Nant Ffrancon, a saif ar un pen o lwyfandir ar ochr sawl cwymp serth i’r gorllewin a’r gogledd. Yn yr un modd, saif

Carnedd Llywelyn ar un pen o lwyfandir creigiog sy’n ei wneud ychydig yn haws dod o hyd iddo’n y niwl; ond byddai copa Foel Fras yn wirioneddol anodd dod o hyd iddo pe na bai am y clawdd sylweddol a red fel canllaw ychydig o fetrau o’r pwynt trig. Mae’r garnedd ar Llywelyn, fel y rhai ar Dafydd, Foel Grach a’r Drum, yn gyn-hanesyddol. Mae hi bron yn sicr bod y twmpathau enfawr o gerrig yn cuddio claddfeydd o’r oes efydd mewn cistiau, (eirch cerrig) er mai dim ond y garnedd ar Drosgl, llawer yn is, sydd wedi ei chloddio. Mae’n amlwg bod ein cyndadau wedi credu bod rhinweddau arbenig i gopaon mynyddoedd. Yn y Dwyrain, ystyrir bod llawer copa yn sanctaidd ac ni ddylai meidrolion ymweld â nhw. Yn Bhutan ni all neb ddringo’r mynyddoedd uchaf. Yn Nepal, ni chaiff neb ddringo Machapuchare, a gofynnir i ddringwyr beidio gosod troed ar fan uchaf Kanchenjunga. Yn y Gorllewin, mae copaon yn dal i danio ein dychymyg ond mewn ffordd ychydig yn wahanol. Fe’u gwelir fel symbolau o anawsterau a heriau; byddwn yn sôn am orchwyl anodd fel ‘mynydd i’w ddringo’. Maen nhw’n drosiadau am gyraeddiadau, hefyd, mewn ymadroddion megis ‘uchafbwynt ei yrfa’ a ‘chyrraedd y copa o ran ei chyraeddiadau’. Mae pwynt uchaf unrhyw ranbarth arbennig yn eithriadol o ddifyr oherwydd mwy na’u harddwch na’u topograffiaeth un unig; mae pawb yn ei gymryd yn ganiataol mai’r mwyaf sydd orau. Bob blwyddyn mae hanner miliwn o bobl ym ymweld â chopa’r Wyddfa a dydy’r rhan fwyaf ohonyn nhw erioed wedi clywed am Garnedd Llywelyn, dim ond ugain metr yn is. Mae hyd yn oed y cerddwyr mynydd mwyaf Copaon pell: (chwith i’r dde )Foel Goch, Moel Eilio, Elidir Fawr Distant summits: (L to R) Foel Goch, Moel Eilio, Elidir Fawr © Rob Collister

12 | Gwarchod a dathlu Eryri ers 50 mlynedd: 1967 - 2017


Summits

Tryfan o'r gogledd Tryfan from the north © Rob Collister

profiadol yn cael eu denu fwyaf gan y copaon uchaf gan adael y bryniau is i’r rhai sy’n ddigon ffodus i fyw wrth eu hymyl. Pwy bynnag ydym, rydym yn tueddu i gynllunio taith fynydda gyda’r pwyslais ar gyrraedd un neu fwy o gopaon. Mae synnwyr o foddhad wrth ‘gyflawni’r orchwyl’ a chyrraedd copa hyd yn oed os mai newyddiadurwyr sy’n fwy hoff o ‘goncro mynydd’ na mynyddwyr. Fodd bynnag, mae’n werth cyrraedd y copa ar gyfer yr olygfa hyd yn oed os byddwn wedi blino neu’n oer ac yn wlyb; er fod yr olygfa’n aml yn fwy diddorol wrth esgyn neu ddod i lawr mynydd na phanorama moel 360 gradd. Yn anffodus, wrth gyrraedd copa mae rhai pobl yn ymestyn am gynhaliaeth ac yn gadael arwyddion mwyaf dinistriol ein diwylliant megis caniau alwminiwm, poteli plastig, pacedi creision, crwyn banana ac orennau. Ambell dro gadewir y rhain yn amlwg fel pe baen nhw’n cael eu gadael gan bobl anaeddfed neu, yn amlach na pheidio, cânt eu gwthio i graciau neu eu gollwng i agennau yn y graig yn y gobaith y byddan nhw’n diflannu os na fyddan nhw’n amlwg i bawb. Mae’r copa hefyd yn fan lle tynnir llawer o luniau – hunluniau yn bennaf a ffotograffau grŵp a fydd yn ymddangos y noson honno ar y Gweplyfr – ac o gyd-ddathlu ac ysgwyd llaw, pethau y dylid eu gwneud ar ddiwedd y daith pan fydd pawb wedi cyrraedd yn ôl yn ddiogel. Dim ond hanner ffordd yw rhywun wrth gyrraedd copa mynydd, ac mae’r rhan fwyaf o ddamweiniau’n digwydd pan fydd y coesau’n blino a phan fydd pobl yn canolbwyntio llai oherwydd blinder. Wrth gwrs, nid cerddwr yn mwynhau ei amser hamdden wrth gyrraedd copa yw pawb sy’n crwydro mynyddoedd. Mae gan eraill flaenoriaethau gwahanol. Ar adegau hel defaid mae ffermwyr yn gadael eu beiciau cwad ac yn dringo’r cribau i chwilio am eu defaid a’r cŵn sy’n eu casglu. Ambell dro gwelir botanegwyr yn uchel ymysg y llystyfiant ar yr wynebau gogleddol yn chwilio am blanhigion alpaidd prin, neu ar eu pedwar ar rostir arctig y llwyfandir yn chwilio am goedwigoedd bychan bach o gorhelyg. Ym mis Mai, gwelir gwylwyr adar yn crwydro’r copaon uchaf am gipolwg ar haid bychan o hutan y mynydd ar eu hymfudiad tua’r gogledd i nythu. Yn is, ceir hyd i griwiau o weithwyr stad a gwirfoddolwyr, yn enwedig ar yr Wyddfa neu yng Nghwm Idwal, yn trwsio llwybrau tra’n cael eu harolygu gan warden y Parc Cenedlaethol; ac, yn fwy eang, gwelir criwiau o arweinwyr mynydd dan hyfforddiant yn mordwyo eu ffordd o gymerau nentydd i gyfuchlin adfewnol neu gorlan anghysbell. Efallai y bydd rhai o’r pobl yma’n cyrraedd copa ond nid dyna pam eu bod yno; yn y bôn nhw ydy’r eithriadau sy’n profi’r rheol.

Yn gyffredinol, mae pawb yn anelu tua’r copa; oddi ar y copaon a’r llwybrau sy’n arwain tuag atyn nhw does fawr neb i’w gweld. Mae’n rhaid i mi gyfaddef ei bod yn well gen i erbyn hyn gerdded o amgylch godrau mynydd, yn sicr yma yn Eryri, ac i gylchu godrau’r mynydd cyn amled â’i ddringo. Gan fod y rhan fwyaf o lwybrau’n arwain ar i fyny mae hyn yn golygu gadael y llwybrau. Dydy rheolwyr tir ddim yn cymeradwyo hyn ond ni allwch hawlio eich bod yn adnabod mynydd os yw eich gwybodaeth wedi ei gyfyngu i’r llwybrau. Yn ffodus, dengys ymchwil ei bod yn well gan 95% o gerddwyr ddilyn y llwybrau felly dydw i ddim yn mynd i deimlo’n euog am wneud yn wahanol. Yn yr adrannau hynny o’r mynydd nad ydyn nhw’n agos i’r prif lwybrau, fe all rhywun ddod ar draws mannau sy’n anweledig ac ynghudd o unrhyw lwybr lle mae’r cyfuniad o nant a chraig a chriafolen unig, er enghraifft, wedi creu golygfa naturiol hyfryd; neu gallwch daro ar safle lle mae ychydig o greigiau wedi creu pentwr neu lle mae un garreg fawr wedi symud i greu lloches, gan adael awgrym o weithgaredd dyn na welir ar unrhyw fap. Yma, hefyd, fe all unrhyw un eistedd yn llonydd ac ystyried y cwestiynau pwysig hynny nad oes iddyn nhw atebion; ac, wrth eistedd yn dawel, yn amlach na pheidio bydd rhywbeth rhyfeddol yn digwydd, megis hebog tramor yn plymio i ddal colomen ar 200 milltir yr awr neu lygoden pengrwn y maes yn ymddangos o’i thwll. Mae’r digwyddiadau hyn yn llawer llai tebygol o ddigwydd ar gopa cymdeithasol a chyfeillgar, er mor ddymunol yw hynny, a phe baent yn digwydd yno mae siawns uchel na fyddai neb yn sylwi. Mae gormod o bwyslais ar gopa yn fy nhyb i! Arweinydd mynydd wedi ymddeol yw Rob Collister, ac mae hefyd yn gyn-ymddiriedolwr Cymdeithas Eryri.

1967 - 2017: Protecting and celebrating Snowdonia for 50 years | 13


Copaon

A mountaineer's perspective Rob Collister

Neidio Adda i Efa ar Tryfan Jumping from Adam to Eve on Tryfan Š Rob Collister

14 | Gwarchod a dathlu Eryri ers 50 mlynedd: 1967 - 2017


Summits It may be stating the obvious but the summit of every mountain is different, each one exhibiting features that make it unique and give it a character of its own. Here in north Wales, the less said about Yr Wyddfa (Snowdon) the better except that you often have to queue to reach it. But Tryfan is renowned for its twin megaliths, Adam and Eve, so equal in height that traditionally you have to jump from one to the other and back again to be sure you have reached the highest point of the mountain. The tops of both stones have been so polished by the landing of feet over 150 years that, personally, I avoid this particular challenge when it is windy or wet. Not far away is Glyder Fach, its summit a cluster of huge blocks, also worn smooth by the passage of feet, reached only by an awkward scramble that can feel quite tricky in the wet. Neighbouring Glyder Fawr has twin tors rising from the surrounding plateau, either of which can be regarded as the summit. Similarly, Crib Goch has two summits at either end of the infamous knife edge, each given exactly the same height by the Ordnance Survey; and Yr Elen in the Carneddau is surmounted by three nodules, any one of which can be claimed as the top. Back on the Glyderau, Y Garn has a satisfyingly obvious high point spacious enough for a circular stone-built wind-break that can accommodate several walkers; whereas Foel Goch, overlooking the Nant Ffrancon, has only a diminutive cairn situated at one end of a plateau on the very edge of precipitous drops to west and north. Likewise, Carnedd Llywelyn lies at one end of a stony plateau making it slightly easier to find in mist; while Foel Fras would be distinctly hard to locate if it were not for the substantial wall that runs like a hand-rail a few metres from the trig point. The cairn on Llywelyn, like those on Dafydd, Foel Grach and Drum, is prehistoric. The huge heaps of stone almost certainly conceal bronze-age burials contained in 'cistiau' (or stone coffins) though only the cairn on Drosgl, much lower down, has been properly excavated. Mountain tops were clearly revered by our ancestors. In the East, many summits are regarded as sacred and not to be visited by mortals. In Bhutan all major peaks are out of bounds. In Nepal, Machapuchare, the famous Fish’s Tail, is off- limits, and climbers are requested not to actually set foot on the highest point of Kanchenjunga. In the West, summits still exert a powerful hold on our collective imagination but in a rather different way. They are seen as symbols of difficulty and challenge; we talk of a daunting task as ‘a mountain to climb’. They are metaphors for attainment, too, in phrases like ‘the peak of perfection’, ‘the high point of his career’ and ‘the summit of her achievement’. The highest point of any particular region has a compulsive fascination unrelated to aesthetics or topographical interest; it is an unquestioning assumption that biggest is best. Half a million people visit the summit of Snowdon every year, of whom the vast majority have never heard of Carnedd Llywelyn, only twenty metres lower. Even serious hillwalkers are attracted most by the high summits, leaving lower hills to those lucky enough to live nearby. Whoever we are, we tend to plan a mountain walk around reaching one or more summits. There is a satisfying sense of ‘mission accomplished’ on reaching the top even if the spurious notion of conquering any mountain is beloved more by journalists than mountaineers. However exhausted or cold or wet we may be, it is worth it for the view, after all; even though, it has to be said, the view on the way up or down is usually more interesting than a rather bland 360 degree panorama. Unfortunately, arrival

at a summit tends to coincide with a need for sustenance with the resulting votive offerings of our culture: aluminium cans, plastic bottles, crisp packets, banana skins and orange peel. Sometimes these are left in the open in adolescent defiance; more often, they are carefully poked into cracks or dropped into crevices, in the fond belief that even partly out of sight is out of mind. The summit is also the scene of much picture taking – mostly selfies and group photos which will appear on Facebook the same evening – and of celebratory hugs and handshakes which really ought to be saved for the bottom when everyone is safely down. The top is only the halfway point of a mountain day, and most accidents occur in descent when legs are tired and concentration is prone to lapse. Of course, not everyone out on the hill is a recreational walker bent on reaching a summit. Others have different priorities. At gathering times, farmers are obliged to leave their quad bikes and clamber up onto ridge crests for sight of their sheep and the dogs working them. Botanists can sometimes be seen high up on vegetated north faces searching for rare alpines, or on their hands and knees on the arctic heath of the plateaux looking for lilliputian forests of dwarf willow. In May, birdwatchers can be seen scouring the high tops for a glimpse of a small flock (or trip) of dotterel on their passage north to breed. Lower down, gangs of estate workers and volunteers are sometimes to be found, especially on Snowdon or in Cwm Idwal, repairing battered footpaths supervised by a National Park warden; more widespread are parties of trainee mountain leaders under instruction painstakingly navigating their way from stream junction to tiny re-entrant to isolated sheepfold. Some of these people may end up on a summit, but it is not why they are there; essentially they are the exceptions that prove the rule. In general, everyone is heading for the top; away from the summits and the paths that lead to them, there is no one. I have to admit that nowadays my own preference is to skirt the summits, certainly here in Snowdonia, and to go round mountains as often as up them. Since most paths lead upwards this inevitably means venturing off the beaten track. This is not approved of by land managers but you cannot claim to know a mountain if your knowledge is confined to the paths. Fortunately research reveals that 95% of walkers actively prefer to stay on paths, so I feel absolved of any guilt I might have been prey to. In those segments of mountain away from the main thoroughfares one can chance upon places invisible and unsuspected from any path, where the juxtaposition of stream and crag and solitary rowan, for instance, has created gems of exquisite natural beauty; one can stumble on sites where a few rocks have been piled up or a boulder shifted to create a meagre shelter, leaving a tantalising hint of human activity not shown on any map. Here, too, one can sit undisturbed and ponder on those important questions to which there are no answers; and, while sitting quietly, more often than not something wonderful will happen, be it a peregrine stooping on a pigeon at 200mph or a field vole emerging cautiously from its hole. These events are much less likely to occur in the sociable conviviality of a summit, pleasant though it is, and if they should occur there is every chance they will not be noticed. Summits are over-rated if you ask me! Rob Collister is a retired mountain guide and former trustee of the Snowdonia Society.

1967 - 2017: Protecting and celebrating Snowdonia for 50 years | 15


Copaon

‘Esgynwyr’ cynnar Eryri John Griffith Roberts Mae’r cofnodion cyntaf am bobl megis botanegwyr, teithwyr cyfoethog ac ambell i breswylydd lleol yn dringo copaon Eryri yn arwydd o’r canrifoedd o ddiddordeb yn y mynyddoedd. Sonnir am y copaon yn aml fel mannau anghysbell a pheryglus, yno i’w gorchfygu a’u herio. Ymhellach yn ôl, mae llenyddiaeth cynnar a chwedlau’n sôn am wrachod, cewri ac ysbrydion ar yr ucheldir ac roedd y copaon fel arfer yn fannau i’w hofni a’u hosgoi. Yr Wyddfa ei hun yw man claddu chwedlonol Rhita Gawr, cawr ffyrnig a orchfygwyd gan y Brenin Arthur. Ystyr Yr Wyddfa yw ‘bedd’. Fodd bynnag, efallai mai carnedd gladdu cyn-hanesyddol sydd bellach wedi ei dinistrio yw’r bedd y cyfeirir ato, er ein bod yn gwybod iddi fodoli yno ar un pryd. Mae gweddillion archeolegol a thystiolaeth o dirluniau hynafol yn herio’r syniad o’r copaon fel mannau pell a pheryglus nad oedd bobl yn ymweld â nhw. Byddai’r garnedd gladdu ar gopa’r Wyddfa wedi ei chodi yn gynnar yn yr Oes Efydd, oddeutu 4,500 o flynyddoedd yn ôl. Mae gan lawer o gopaon Eryri garneddau claddu o’r dyddiad hwn; a dyna sut y cafodd crib y Carneddau ei henw. Mae ambell un o’r rhain yn enfawr a hyd yn oed filoedd o flynyddoedd yn ddiweddarach maen nhw’n parhau’n ddigon mawr i fod yn amlwg o’r cymoedd a’r iseldir gilometrau i ffwrdd. Er eu bod yn debyg i dyrrau di-strwythur o gerrig erbyn heddiw, mae tystiolaeth i rai ohonyn nhw fod yn gymhleth, gyda muriau ymylol a ffurf debyg i ddrwm grisiog. Yr hyn sydd ar goll yw’r wybodaeth am unrhyw gydrannau organig. Rydym yn cael ein temtio i geisio dod â’r safleoedd hyn yn fyw drwy eu cymharu â charneddau oboo Mongolia, safleoedd sanctaidd y mae pobl yn galw heibio iddyn nhw ar bererindod, sydd yn aml wedi eu haddurno’n lliwgar gyda baneri a deunydd. Efallai bod carneddi copaon Eryri hefyd wedi bod yn lleoliadau a oedd yn cysylltu bydoedd daearol gyda bydoedd ysbrydol ein cyndeidiau. Ni wnaethpwyd gwaith cloddio ar y rhan fwyaf o garneddi’r copaon, ond mae pobl wedi ymyrryd â llawer, un ai wrth eu

Cylch Cefn Coch uwchben Penmaenmawr Cefn Coch Circle above Penmaenmawr © Rob Collister

hysbeilio am drysor neu am gerrig cloddio. Ailgodwyd rhai fel llochesi; sawl cerddwr, sy’n ddiolchgar am loches rhag y gwynt ar gopa Carnedd Dafydd, sy’n gwybod ei fod yn eistedd o fewn safle sanctaidd o’r Oes Efydd? Lle maen nhw wedi eu cloddio, mae’r darganfyddiadau’n cynnwys potiau amrywiol eu maint a’u math (o gwpanau bach ar ffurf powlen fach a thebyg i ‘bicer’ i wrnau mwy), gweddillion wedi eu llosgi (ambell dro mewn potiau), pennau saethau callestr, cyllyll neu grafwyr, ac weithiau eitemau bach megis arfau neu emwaith aur, efydd, ambr neu ddefnydd arall. Cafwyd hyd i weddillion llosg merch ifanc ar y Drosgl wrth gloddio yn yr 1970au ynghyd â charreg hogi ar gyfer hogi arfau efydd. Credir bod pot ‘bicer’ sydd yn yr Amgueddfa Genedlaethol wedi ei ddarganfod yng ngharnedd copa Moel Hebog. Ymhellach i ffwrdd, mae carnedd ar gopa Fan Foel ym Mannau Brycheiniog a gloddiwyd yn y 2000au cynnar yn rhoi i ni gipolwg ar arferion angladdol. Cafwyd hyd i sawl corfflosgiad yn cynnwys plant ac oedolion; dengys paill oedd wedi goroesi bod yr olion yng nghanol y garnedd wedi eu claddu gydag offrwm o flodau’r erwain. Roedd rhannau eraill o’r ucheldir hefyd yn ganolbwynt gweithgaredd seremonïol cyn-hanesyddol. Ceir hyd i gylchoedd cerrig a meini hirion ar lawer o fylchau a llwybrau ucheldir Eryri, a saif cannoedd o garneddi claddu ar gribau, copaon is a llwyfannau’r ucheldir, yn ogystal ag ar y copaon uchaf. Mae cymaint o’r safleoedd yma yn bodoli fel bod eu dehongli fel tirlun sanctaidd neu fyd y meirw’n unig yn ymddangos yn annigonol i’w hesbonio. Mae’n debyg bod iddyn nhw gymaint i’w wneud â byd y byw â byd y meirw. Efallai bod rhai wedi eu defnyddio i nodi llwybr, ond mae’n debyg bod eraill wedi chwarae rhan mewn rheolaeth a mynediad at adnodd ucheldir cyn hyned â’r bryniau – porfa. Dengys astudiaethau o ddangosyddion paill bod lleiniau agored yn dechrau ymddangos yn nhirlun coediog yr ucheldir yn gynnar yn yr Oes Efydd.. Mae dangosyddion paill yn nodi bod gwelltir yn ymddangos ar yr un pryd a chredir bod clirio coedlannau ar gyfer pori wedi cychwyn bryd hynny. Yn ystod yr Oes Efydd, mae’n debyg bod tir pori ar yr ucheldir yn frithwaith cyfoethog o dir agored a phorfa coediog. Bu llawer mwy o glirio yn ystod yr Oes Haearn a’r cyfnodau Rhufeinig oddeutu 2,700 i 1,500 o flynyddoedd yn ôl. Mae’r cofnodion paill ac archeolegol yn awgrymu bod pobl yn weithgar yn uchel yn y mynyddoedd ymhell cyn y cyfnod hwn. Mae gwaith manwl yn y cwm uwchben y Rhaeadr Fawr yn Abergwyngregyn yn awgrymu bod y copaon a chribau’r ucheldir, erbyn rhyw 6,000 o flynyddoedd yn ôl, y cyfnod Neolithig, yn glir o’r fforestydd a oedd wedi datblygu yn y 5,000 o flynyddoedd ers

16 | Gwarchod a dathlu Eryri ers 50 mlynedd: 1967 - 2017


Summits

diwedd yr Oes Iâ diwethaf. Gan fod y cymoedd yn parhau’n goediog, awgrymir mai’r ucheldir oedd un o’r ffyrdd gorau o symud rhwng gwahanol ardaloedd. Ni ddylem gael ein synnu gan hyn. Mae ein persbectif o drafnidiaeth ar ffurf moduron yn dylanwadu’n fawr ar ein hamgyffred cyfoes o dirlun yr ucheldir fel rhwystr i gyfathrebu rhwng cymunedau’r cymoedd. Yn yr 1960au, daeth syniad i anthropolegydd a oedd yn astudio yng ngogledd Meirionnydd bod cysylltiadau dros y mynyddoedd rhwng cymunedau yn debygol o fod yn bwysicach na’r ffyrdd hir drwy’r cymoedd ar gyfer symud a rhannu cynnyrch, llafur (er enghraifft ar gyfer cynaeafu a chneifio) a syniadau. Mae Bwlch y Ddwy Elor, rhwng Cwm Pennant a Rhyd-ddu, yn ein hatgoffa o hyn; lle i gyfnewid corff rhwng dau grŵp o gludwyr ar eu taith i’w man gorffwys olaf yn yr eglwys yn y cwm nesaf.

Carneddau seremonïol o’r Oes Efydd ar y grib i’r de orllewin o Garnedd Dafydd wrth edrych tuag at Pen yr Ole Wen © Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd • Bronze Age ceremonial cairns on the ridge south-west of Carnedd Dafydd looking towards Pen yr Ole Wen © Gwynedd Archaeological Trust

Gwelir ambell i gofeb, fel y siambr gladdu o fath ‘dolmen’ ym Maen y Bardd uwchben Conwy, a charneddau siambrog enfawr Carneddau Hengwm uwchben Bermo ym mryniau Ardudwy, ond maen nhw’n brin ac yn osgoi’r copaon. Fodd bynnag, mae darganfyddiadau ar hap, megis casgliad o dros 30 o fflochiau mawr o gallestr o ansawdd uchel yn yr 1920au yn erydu o fawn ar grib copa’r Ro Wen rhwng Dolwyddelan a Phenmachno, yn arddangos presenoldeb pobl ar y copaon. Hela, pysgota a chasglu bwyd oedd sail yr economi ymgynhaliol yn ystod y Mesolithig, y cyfnod ar ôl diwedd yr Oes Iâ diwethaf. Parhaodd y gweithgareddau hyn wedi i bobl fabwysiadu ffermio a da byw yn y Neolithig a byddai grwpiau wedi ymweld â’r ucheldir uchel yn chwilio am anifeiliaid hela ac aeron yn ôl y tymor. Nid oedd carneddau, cylchoedd cerrig a chofebau yn cael eu codi yn yr ucheldir erbyn 3,500 o flynyddoedd yn ôl. Fodd bynnag, parhaodd natur sanctaidd a deuol arferol tirlun y mynydd, er bod hynny'n digwydd mewn ffyrdd gwahanol. Daeth claddu neu guddio arteffactau, yn enwedig gwaith metel cain, yn ganolbwynt ar gyfer defodau. Ymysg y rhain mae tariannau efydd rhyfeddol o gorsydd mawn Gwern Einion, Harlech a Moel Siabod. Ni ddarganfuwyd yr un o’r enghreifftiau o waith metel ar gopaon, ond gwnaed darganfyddiadau prin o fwyeill efydd mewn lleoliadau uchel ac agored ar glogwyni megis ar Pen yr Ole Wen. Cafwyd hyd i gleddyf efydd, sy’n cael ei arddangos yn amgueddfa

Storiel, Bangor, mewn mawn yn uchel yng Nghwm Eigiau. Credir mae offrymau i dduwiau neu ysbrydion oedd y darganfyddiadau yma yn hytrach na’u bod wedi eu colli’n ddamweiniol. Parhaodd triniaeth defodol o’r tirlun hyd yr Oes Haearn. Cafwyd hyd i bowlen efydd gydag addurniadau o gyfnod olaf yr Oes Haearn gyda chynlluniau enamel manwl wedi eu mewnosod yn yr 1970au mewn sgrî islaw Craig Cwm Beudy Mawr ar lethrau gogleddol Crib Goch. Credir iddi gwympo o’r clogwyni uchel uwchben. Mae’n edrych yn debygol iawn bod pobl, wrth yrru eu da byw neu’n cyflawni gweithgareddau eraill, wedi bod yn ymwelwyr cyson â thir uchaf Eryri ers miloedd o flynyddoedd. Ond, yn wahanol i’r esgynwyr cyntaf a enwyd, anaml iawn y cafodd y rhain eu cofnodi, er y cawn ambell i gipolwg. Mewn achos llys o’r ddeunawfed ganrif, wrth edrych yn ôl i’r ganrif flaenorol am ddadl dros berchnogaeth tir a hawliau pori, cofnodir mai plant oedd yn rhannol gyfrifol am yrru anifeiliaid, ac yn eu gyrru i Gwm Cŷd, yn uchel ar lethrau Moel Hebog. Nid oedd y copaon yn cael eu hystyried fel mannau heriol i’w harchwilio ond fel rhan o fywyd beunyddiol pobl. John Griffith Roberts yw'r Rheolwr Prosiect Datblygu, Partneriaeth Tirwedd y Carneddau, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri

Project y Carneddau Mae John Griffith Roberts, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, yn gweithio ar gyfnod datblygu project Partneriaeth Tirlun y Carneddau. Ariennir y project gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a’i nod yw helpu pobl i ddarganfod, cofnodi, gwarchod a dathlu rhinweddau arbennig y Carneddau yn rhan ogleddol y Parc Cenedlaethol. Os hoffech gael gwybodaeth bellach neu i gymryd rhan, cysylltwch â: Carneddau@eryri.llyw.cymru www.eryri.llyw.cymru/gofalu/prosiectau/carneddau

1967 - 2017: Protecting and celebrating Snowdonia for 50 years | 17


Copaon

Snowdonia's earliest 'ascensionists' John Griffith Roberts The first recorded ascents of Snowdonia’s summits, variously attributed to botanists, wealthy travellers and occasionally to local inhabitants chart centuries of interest in the peaks. The summits are often cast as remote and dangerous locations, subjects for conquest and challenge. Further back, early literature, folklore and legend populate the high ground with witches, giants and spirits, where the summits are usually places to fear and avoid. Yr Wyddfa (Snowdon) itself is the mythic burial place of Rhita Gawr, a ferocious giant defeated by King Arthur. Yr Wyddfa means ‘grave’. However, the grave being referred to could be a prehistoric burial cairn, now destroyed, but known to have been on the summit. Archaeological remains and evidence for past landscapes challenge the idea of the summits as distant and hazardous places devoid of people. The burial cairn on Snowdon’s summit would have been built in the early Bronze Age, about 4,500 years ago. Many of Snowdonia’s summits have burial cairns of this date; the Carneddau range even takes its name from the Welsh word for them. Some of these are massive and even after millennia remain big enough to be visible from the valleys and lowlands kilometres away. Although mostly looking like unstructured stone-piles today, there is evidence for complexity at some of them, including kerb walls and drum-like, stepped, form. What’s lost is information on any organic components. It’s tempting to breathe life into these sites by imagining them resembling the oboo cairns of Mongolia, sites of veneration and pilgrimage which are often colourfully decorated with flags and fabric. Snowdonia’s summit cairns may also have been locations connecting earthly and ancestral spirit worlds. Most of the summit cairns haven’t been excavated, but many have been disturbed, often either by robbing for treasure or for walling stone. Some have been rebuilt as shelters; how many walkers, grateful for cover from the wind on the summit of Carnedd Dafydd, know that they are sitting within a Bronze Age holy site? Where excavated, finds include pots of various sizes and types (from small bowl and beaker-like cups to larger urns), cremated remains (sometimes within pots), flint arrowheads, knives or scrapers and, occasionally, small items such as tools or jewellery made of gold, bronze, amber or other materials. The cremation of a young woman was found at Drosgl during excavation in the 1970s along with a whetstone for sharpening bronze tools. A beaker pot in the National Museum is believed to have been found in the summit cairn of Moel Hebog. Further afield, a summit cairn excavated in the early 2000s at Fan Foel in the Brecon Beacons gives us a touching insight into funerary rites. Several cremations were found including both children and adults; preserved pollen showed that the ones at the centre of the cairn were accompanied by an offering of meadowsweet flowers. Other parts of the uplands were also the focus of prehistoric ceremonial activity. Stone circles and standing stones are found on many upland passes and routes in Snowdonia, and hundreds of burial cairns are sited on ridges, lower summits and upland plateaux, as well as on the highest peaks. These sites are so prolific that their interpretation as simply a sacred landscape

18 | Gwarchod a dathlu Eryri ers 50 mlynedd: 1967 - 2017

or world of the dead seems inadequate to account for them. They probably had as much to do with the world of the living as that of the dead. Some might have doubled as waymarkers, but others likely played a part in the management of, and access to, an age-old upland resource: grazing pasture. Studies of pollen in cores of deep peat from Snowdonia show a wooded upland landscape opening up in the early Bronze Age. Pollen indicators for grassland appear at the same time and it is thought that clearance of woodland for grazing started at this time. During the Bronze Age, upland grazing land was probably a rich mosaic of open ground and wood pasture. Clearance became much more extensive during the Iron Age and Roman periods, about 2,700 to 1,500 years ago. The pollen and archaeological records suggest that well before this time people were active high up in the mountains. Detailed work in the valley above the Rhaeadr Fawr waterfall at Abergwyngregyn suggests that by about 6,000 years ago, the Neolithic period, the summits and upland ridges were clear of the forests that had developed in the 5,000 or so years since the end of the last Ice Age. It is suggested that because the valleys remained heavily wooded the high ground might have been one of the best ways of moving between different areas. We shouldn’t be surprised. Our contemporary perception of the upland landscape as a barrier to communication between valley communities is strongly influenced by the perspective of motor-based transport. An anthropologist studying north Meirionnydd in the 1960s was struck by this point, noting that ,historically, contacts over the mountains between communities were probably more important than the long, valley-based, ways round for the movement and sharing of produce, labour (for example for harvesting and shearing) and ideas. Bwlch y Ddwy Elor – (the pass of the two biers) - on the pass between Cwm Pennant and Rhyd-ddu is a reminder of this; a place for a corpse to be swapped from one party of bearers to another on the journey to its final resting place at the church in the next valley. There are some Neolithic monuments, such as the impressive ‘dolmen’ type burial chamber at Maen y Bardd above Conwy ,and the massive chambered cairns of Carneddau Hengwm above Barmouth in the mountains, but they are rare and avoid the summits. However, chance finds, such as the collection of over 30 large flakes of high-quality flint found in the 1920s eroding from peat on the summit ridge of Y Ro Wen between Dolwyddelan and Penmachno, demonstrate people’s presence on the summits. Hunting, fishing and gathering food was the basis of the subsistence economy during the Mesolithic, the period after the end of the last Ice Age. These activities continued after the adoption of farming and livestock in the Neolithic, and visits would have been made to the high uplands by groups seeking game and berries according to the season. 3,500 years ago, cairns, stone circles and other ceremonial monuments were no longer being built in the uplands. However, the dual sacred and routine nature of the mountain landscape continued, albeit in a different way. The burial or secretion of artefacts, especially fine metalwork, became a focus for ritual.


Summits Amongst these are stunning bronze shields from peat bogs at Gwern Einion, Harlech and Moel Siabod. None of the known metalwork finds are from summits, but rare finds of bronze axes are known from high, exposed, cliff locations, for example on Pen yr Ole Wen. A bronze sword, on display in Storiel museum, Bangor, was found in peat high up in Cwm Eigiau. These finds are assumed to be offerings to deities or spirits rather than casual losses. The ritual treatment of the landscape persisted into the Iron Age. An ornate bronze bowl of the late Iron Age with intricate enamel inlay designs was found in the 1970s in scree beneath Craig Cwm Beudy Mawr on the north slopes of Crib Goch. It is thought to have fallen from high up on the cliffs. It seems highly likely that people accompanying their livestock or undertaking other activities have been habitual visitors to the highest ground of Snowdonia for millennia. Unlike named first ascensionists, they are rarely documented although there are glimpses. An eighteenth century court case, looking back to the previous century, about an argument over land ownership and grazing rights, records that children were partly responsible for herding, accompanying cattle in Cwm Cŷd, high up on the slopes of Moel Hebog. The summits weren’t perceived as a challenging place for exploration but as part of people’s everyday worlds. John Griffith Roberts is the Development Project Manager, Carneddau Landscape Partnership, Snowdonia National Park Authority

Gallwch weld y gwrthrych efydd hardd hwn yn yr Amgueddfa Brydeinig, lle cafodd ei enwi fel tarian Moel Hebog; fodd bynnag, credir mai’r un a gafodd hyd iddo oedd William Cadwallader o Frynengan ger Capel Curig tua diwedd y ddeunawfed ganrif wrth dorri mawn ar lethrau Moel Siabod. Diametr: 0.65m © Amgueddfa Brydeinig This stunning bronze object can be seen in the British Museum, where it is known as the Moel Hebog shield; however, it is thought to have been found by William Cadwallader of Brynengan near Capel Curig in the late eighteenth century while digging peat on the slopes of Moel Siabod. Diameter: 0.65m © British Museum

Carneddau project John Griffith Roberts, Snowdonia National Park Authority, is working on the development phase of the Carneddau Landscape Partnership project. The project is funded by the Heritage Lottery Fund and aims to help people discover, record, protect and celebrate the special features of the Carneddau range which occupies the northern part of the National Park. If you would like further information or to get involved, please contact: Carneddau@eryri.llyw.cymru www.eryri.llyw.cymru/looking-after/projects/carneddau-project

1967 - 2017: Protecting and celebrating Snowdonia for 50 years | 19


Copaon

Y Pedwar ar Ddeg Tair Mil Alun Pugh Mae’r daith undydd dros fynyddoedd Cymru sydd dros 3,000 o droedfeddi’n daith wych ar Yr Wyddfa, y Glyderau a’r Carneddau. Mae angen cryn baratoi i gwblhau’r daith hon. Fel arfer, mae angen cychwyn ar doriad gwawr ym Mhen y Pas yng nghyfnod hirddydd haf. Serch hyn, mae llawer yn methu â chyrraedd Foel Fras cyn nos. I’r sawl sy’n cwblhau’r daith gyfan, a hyd yn oed i lawer nad ydyn nhw’n ei chwblhau, mae’n brofiad aruthrol. Er y bydd y rhan fwyaf o bobl sydd â diddordeb yn Eryri’n gyfarwydd â’r mynyddoedd dros 3,000 troedfedd, ychydig fydd yn ymwybodol o’r cysylltiadau rhwng y daith enwog a Chymdeithas Eryri.

record newydd i ferched o 9 awr a 29 munud gan ei wraig Esmé. Yn ddiweddarach, ail-briododd Esmé ac, fel Esmé Kirby, hi sefydlodd Cymdeithas Eryri yn 1967.

Yr unigolyn cyntaf i gymryd y record am y daith gyflymaf o ddifrif oedd Thomas Firbank; saif ei fferm, Dyffryn Mymbyr, ar lethrau deheuol y Glyderau. Heddiw mae’r fferm yn nwylo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a bydd llawer o aelodau’r Gymdeithas yn gyfarwydd â hi. Soniwyd am y daith yn llyfr adnabyddus Firbank, ‘I Bought a Mountain’, ac o ganlyniad mae ei daith dros y pedwar mynydd ar ddeg dros 3,000 o droedfeddi ym 1938 yn gyfarwydd i lawer. Mae disgrifiad Firbank o gynllunio manwl, paratoi, hyfforddiant, amserlenni a thimau cefnogaeth yn swnio’n gyfoes iawn a thalwyd ar ei ganfed pan lwyddodd ei dîm o dri, er gwaethaf tywydd sâl yn cynnwys haen o niwl trwchus ar y Carneddau, i gwblhau’r daith mewn 8 awr a 25 munud. Mae’n werth cofio hefyd nad oedd y llwybrau mor amlwg bryd hynny, gan ychwanegu at y posibilrwydd o fynd ar gyfeiliorn. Sefydlwyd

Pan gefais fy mhenodi’n Gyfarwyddwr y Gymdeithas yn 2008 roeddwn yn ymwybodol nad oedd un cyhoeddiad penodol yn bodoli a oedd yn cyfeirio at y daith a chysylltiadau’r Gymdeithas â hi. Cymeradwywyd y syniad o wefan gan yr ymddiriedolwyr a chafwyd nawdd i dalu’r costau cysylltiedig. Erbyn dechrau 2009 roedd gwefan 14peaks.com yn barod; heddiw fe’i cynhelir gan Eryri Bywiol.

Alun Pugh, chwith, a Matt Swaine yn croesi Crib Goch yn gynnar yn y bore Alun Pugh, left, & Matt Swaine traversing Crib Coch early in the morning © Rob Collister

20 | Gwarchod a dathlu Eryri ers 50 mlynedd: 1967 - 2017

Roedd John Disley, Llywydd diweddar Cymdeithas Eryri, yn athletwr a enillodd fedal efydd yn y ras ffos a pherth 3000m yng Ngemau Olympaidd Helsinki. Fel rhywun a oedd yn hoff o Eryri ac a dorrodd sawl record rhedeg pellter yn y DU roedd yn beth naturiol iddo gymryd diddordeb yn her y pedwar ar ddeg, a thorrodd y record ym 1952 gydag amser o 7 awr a 24 munud.

Addawodd Matt Swaine, golygydd y cylchgrawn ‘Trail’ ar y pryd, y byddai’n cynnwys cryn wybodaeth am amcanion y Gymdeithas ac awgrymodd ein bod yn cwblhau’r daith gyda’n gilydd fel sail ar gyfer erthygl nodwedd. Yng nghwmni ymddiriedolwr y Gymdeithas ac arweinydd mynydd, Rob Collister, cychwynnwyd ar ein taith am 4 o’r gloch y bore yn gynnar ym mis Ebrill o Ben y Pas ac roeddem yn ffodus i gael y tywydd braf angenrheidiol i fwynhau


Summits taith ar fynyddoedd uchaf Cymru. Cafwyd benthyg modur cartref ar olwynion Helen Berry a John Farrar ar gyfer cinio hwyr yn Nyffryn Ogwen ac roeddwn yn falch iawn o gyfarfod fy ngwraig Mary gyda llond sach gefn o fwyd a diod a gludwyd yr holl ffordd o’r ffordd ym Mwlch y Ddeufaen i gopa Foel Grach erbyn gyda’r nos. Gan fod y golau dydd yn prysur ddiflannu, ni lwyddwyd i gyrraedd y ‘pymthegfed pedwar ar ddeg’ sef Carnedd Uchaf, neu Garnedd Gwenllian fel y’i gelwir heddiw. Roedd yn eithaf tywyll erbyn i ni gyrraedd copa Foel Fras i ddathlu efo paned o de, bron i bymtheg awr ar ôl i ni gychwyn o’r Wyddfa. Mae’r her o gysylltu’r holl gopaon mewn un cadwyn yn atyniadol iawn i unrhyw fynyddwr eithaf ffit sy’n gyfarwydd â thopograffiaeth Eryri. Mewn tywydd gwael, fodd bynnag, yn enwedig mewn ambell i le megis Crib Goch ac wrth flino tua diwedd y daith ar lwyfandir eang y Carneddau, fe all ambell un fynd i drafferthion. Roedd Alun Pugh yn gyfarwyddwr Cymdeithas Eryri o 2007 hyd 2010. Cyn hynny roedd yn Weinidog Diwylliant Llywodraeth Cymru. Ymysg ei brojectau presennol mae ymweld â’r chwedeg o fynyddoedd y Munro nad yw eto wedi cyrraedd eu copaon tra’n ennill bywoliaeth. Alun Pugh (mewn melyn) a Matt Swaine yn dod i lawr creigiau Crib y Ddysgl Alun Pugh, (in yellow) & Matt Swaine descending the rocks of Crib y Ddysgl © Rob Collister

The Fourteen Threes Alun Pugh The single day traverse of the 3,000 feet mountains of Wales is a magnificent expedition taking in the Snowdon, Glyderau and Carneddau massifs. It is certainly not a journey to be undertaken lightly. It generally requires a dawn start at Pen y Pass near the summer solstice and, even so, many fail to reach the summit of Foel Fras before nightfall. For those who complete the full traverse, and even for many of those who don’t, it provides a memorable experience. While anyone with an interest in Snowdonia will be familiar with the Fourteen Threes fewer will be aware of the links between the famous journey and the Snowdonia Society. The first person to take the record for the quickest traverse really seriously was Thomas Firbank whose farm, Dyffryn Mymbyr, lies on the southern slopes of the Glyderau. Today the farm is a National Trust property and will be familiar to many Society members. A chapter was devoted to the journey in Firbank’s highly readable bestseller ‘I Bought a Mountain’, ensuring that his 1938 traverse of the Fourteen Threes has been well known ever since. Firbank’s description of detailed planning, reconnaissance, training, schedules and support teams has a very modern ring to it and it all paid off when his team of three, despite poor weather which included an ‘impenetrable fog blanket’ on the Carneddau, achieved a time of 8 hours 25 minutes. It is also worth remembering that footpaths were less well-defined at that time, adding to the navigational difficulties. Firbank’s wife Esmé set a new women's record of 9 hours 29 minutes. Esmé later remarried and, as Esmé Kirby, founded the Snowdonia Society in 1967. John Disley, a recent President of the Society, was an athlete who won a bronze medal in the 3000m steeplechase at the Helsinki Olympics Games. As someone who broke many UK long distance records and loved Snowdonia it was only natural that he should turn his attention to the Fourteen Threes, breaking the record in 1952 with a time of 7 hours 24 minutes.

When I became Director of the Society in 2008, I was conscious that there was no single reference work covering the traverse and the Society’s links to it. The trustees approved the idea of a website, and the costs of setting it up were covered by sponsorship. By early 2009 the 14peaks. com website was ready to go; today it is maintained by Snowdonia Active. Matt Swaine, then editor of ‘Trail’ magazine, promised substantial coverage for the Society’s aims and suggested that we do the traverse together as the basis of a feature article. Accompanied by Society trustee and mountain guide Rob Collister, we set off at 4am in early April from Pen y Pass and were fortunate to enjoy the clear weather necessary to best enjoy a trip over the roof of Wales. Members Helen Berry and John Farrar kindly provided their motorhome for a late lunch in the Ogwen Valley, and I was very pleased to meet my wife Mary with a rucksack of food and drink hauled all the way from the Bwlch y Ddeufaen road head for a late evening rendezvous near the summit of Foel Grach. Light was failing so we missed out the fifteenth ‘three’ of Carnedd Uchaf, or Carnedd Gwenllian as it is now known. It was quite dark by the time we arrived at the Foel Fras trig point for a celebratory mug of tea, nearly fifteen hours after our departure from Yr Wyddfa. To anybody with a good degree of hill fitness and a reasonably sound prior knowledge of the topography of Snowdonia, the challenge of linking all the summits in a single ‘enchainment’ will be irresistible. In poor weather, however, the ill-prepared could easily find themselves in difficulty in places such as Crib Goch or, as fatigue takes hold, on the bleak Carneddau plateau. Alun Pugh was Director of the Snowdonia Society from 2007 to 2010. Prior to this he was Culture Minister in Welsh Government. His current projects include visiting the sixty Munros that escaped his attention while earning a living.

1967 - 2017: Protecting and celebrating Snowdonia for 50 years | 21


Newyddion

Pen-blwydd rhyfeddol 2017, dyna i chi flwyddyn i Gymdeithas Eryri! Aeth hanner can mlynedd heibio ers y cyfarfod hwnnw ym Metws-y-coed a sbardunodd ein pum degawd o weithredu yn Eryri. Y llynedd buom yn dathlu gyda llu o ddigwyddiadau lliwgar, o bicnic pen-blwydd

yn y fan lle dechreuodd y cwbl, i ŵyl benwythnos o wirfoddoli a chynhadledd bwysig. Dyma ddetholiad o holl ddigwyddiadau 2017 mewn lluniau.

s Taith aelodau Cymdeitha Eryri i Enlli

Picnic pen-blwydd yn ffermdy Dyffryn Mymbyr

Lansiad arddangosfa Cymdeithas Eryri yn eglwys St Julitta

Taith chwedlonol gyda’r cyfarwydd Eric Maddern

Penwythnos MAD i wirfoddolwyr yng Nghraflwyn, Beddgelert

Iolo Williams yn ein cynhadledd pen-blwydd Wynebu’r Dyfodol

Edrych tua'r dyfodol Roedd 2017 yn flwyddyn arbennig ond nid dyna’r diwedd. Cofiwch edrych ar ein calendr digwyddiadau ar gyfer 2018 i weld sut allwch chi helpu i warchod a dathlu Eryri gyda ni. Mae dyddiau gwaith, teithiau, sgyrsiau a gweithdai ar gyfer pawb ac, yn

newydd ar gyfer eleni, digwyddiadau arbennig ar gyfer aelodau’n unig ar gyfer pob tymor. Edrychwn ymlaen at eich gweld yn fuan. I gymryd rhan yn ein digwyddiadau newydd sbon ar gyfer aelodau yn 2018, cysylltwch â ni neu ymaelodwch ar-lein ar ein gwefan.

info@snowdonia-society.org.uk | 01286 685498 | www.cymdeithas-eryri.org.uk

22 | Gwarchod a dathlu Eryri ers 50 mlynedd: 1967 - 2017


News

An extraordinary anniversary 2017, what a year for the Snowdonia Society! Fifty years since that meeting in Betws-y-Coed which catalyzed our first five decades of action in Snowdonia. Last year we celebrated in style with a host of colourful events, from a birthday picnic in the place

Snowdonia Society members' trip to Bardsey Island

Mythical walk with local storyteller Eric Madddern

where it all began, to a weekend-long festival of volunteering and a prestigious conference. Here’s a selection of what we packed into 2017 in pictures:

Anniversary picnic at Dyffryn Mymbyr farmhouse

Make a Difference (MAD) volunteer weekend at Craflwyn

Snowdonia Society exhibition launch at St.Julitta's church, Capel Curig

Facing the Future anniversary conference at Plas Tan y Bwlch

Looking ahead 2017 was a fantastic year but it doesn’t stop there. Be sure to check out our 2018 events calendar to see how you can help protect and celebrate Snowdonia with us. There are workdays, walks, talks and workshops to suit everyone and, new for this year,

exclusive member-only events for each season. We look forward to seeing you soon. To take part in our brand new member-only events for 2018, contact us or join online at our website.

info@snowdonia-society.org.uk | 01286 685498 | www.snowdonia-society.org.uk/join

1967 - 2017: Protecting and celebrating Snowdonia for 50 years | 23


NEWYDDION

Parciau Cenedlaethol ar gyfer y 21ain ganrif Gobaith i dirluniau Cymru’n y dyfodol John Harold Pan ofynnwyd i’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas ar deledu cenedlaethol pam fod y gair ‘cadwraeth’ ar goll o’i adroddiad ar ddyfodol Parciau Cenedlaethol ac AoHNE, atebodd gan ddweud “Oherwydd iddo gael ei ysgrifennu yn yr unfed-ganrif-ar-hugain, nid y ganrif ddiwethaf.” Roedd hynny flwyddyn yn ôl wrth i’r cyfryngau ymateb yn dilyn datgelu adroddiad ‘Tirweddau Cymru’r Dyfodol’. Roedd Cymdeithas Eryri o flaen y gad wrth arwain yr ymateb i’r adroddiad, ac yn y pen draw cafwyd dadl yn y Senedd ar 6ed Mehefin pan ymatebodd Aelodau’r Cynulliad i’r nifer uchel o ohebiaeth a dderbyniwyd ar fyrder gan eu hetholwyr drwy ymuno â’r fenter i fod yn bencampwr dros gadwraeth a Pharciau Cenedlaethol. Felly, cafwyd gwaith ymgyrchu a wnaed yn dda ac enghraifft o’n Cymdeithas yn gweithredu’n effeithiol ar lefel genedlaethol. Ond, roedd yn eithaf hawdd amlygu’r bylchau a’r meddwl niwlog a oedd yn amharu ar adroddiad ‘Tirweddau Dyfodol Cymru’. Nawr rydym yn wynebu’r her anos o helpu i greu llwybr newydd i’w ddilyn. Mae ein tirluniau dynodedig wedi bod ‘o dan adolygiad’ ers pedair blynedd. Yn gyntaf roedd adroddiad manwl ac ymarferol yr Athro Marsden ac yna’r adroddiad gyda mwy o 'weledigaeth' gan yr Arglwydd Elis-Thomas, y ddau wedi eu comisiynu gan Lywodraeth Cymru. I’n Parciau Cenedlaethol a’n AoHNE bu’r rhain yn bedair blynedd o ansicrwydd, heb benderfyniadau i ddatrys dulliau gwahanol yr adolygiadau yma o fynd i’r afael â’r pwnc. Yn ychwanegol at hyn cafwyd blynyddoedd o doriadau mewn cyllid a diffyg diddordeb dychrynllyd gan olyniaeth o weinidogion. Erbyn 2020 bydd cyllideb blynyddol Awdurdod Parciau Cenedlaethol Eryri yn llai nag yr oedd yn 2000. Gyda chwyddiant, mae hyn yn cynrychioli haneru’r adnoddau sydd ar gael ar gyfer gwarchod Eryri. Er bod y wlad yn canolbwyntio, am resymau amlwg, ar yr argyfwng yn y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol, rydym yn wynebu rhywbeth tebyg yn ein Parciau Cenedlaethol, ein ‘Gwasanaeth Iechyd Naturiol’. O dan yr amgylchiadau yma mae’n anodd bod yn galonogol. Yn ogystal ag effeithio ar bob un ohonom sydd yn teimlo’n angerddol am ein Parciau Cenedlaethol mae’n effeithio hefyd ar y gwleidyddion a’r gweision sifil sydd wedi etifeddu sefyllfa sy’n dirywio a’r gohebu negyddol gan y wasg sy’n mynd efo fo. Fodd bynnag, mi fydd rhaid mynd i’r afael â hyn ac mae angen i ni ddod o hyd i’r llwybr cywir a’i ddilyn. Yn sicr, bron, daw gobaith i dirluniau eiconig Cymru mewn deddfwriaeth amgylcheddol mentrus diweddar. Nid yw’n afresymol i hawlio, fel mae Llywodraeth Cymru’n ei wneud, bod Cymru’n arwain y byd gyda Deddf Amgylchedd Cymru a Deddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol. Daw’r her, fel gyda phob

24 | Gwarchod a dathlu Eryri ers 50 mlynedd: 1967 - 2017

deddfwriaeth, wrth ei gweithredu ac mewn troi geiriau yn weithred; y gweithredu sy’n dod a’r ddeddfwriaeth yn fyw. Ymysg pethau eraill, mae’n ofynnol yn y ddeddfwriaeth bod Cymru’n rheoli ei hadnoddau naturiol yn gynaliadwy, yn adfer bioamrywiaeth ac yn gweithio ledled sectorau ac ar y raddfa briodol er budd pawb, heb gyfaddawdu buddion cenedlaethau’r dyfodol. I wireddu unrhyw un o’r rhain bydd angen newidiadau trawsffurfiol yn y ffordd y mae llywodraeth, busnes a dinasyddion yn gweithredu ac yn rhyngweithio. Ym mhle arall fyddem ni’n dechrau’r gwaith yma nag yn ein Parciau Cenedlaethol a’n AoHNE? Mae profiad, arbenigedd a modelau gwaith ar gyfer rheolaeth adnoddau sensitif wedi bod yn cronni’n dawel mewn tirluniau dynodedig ers saithdeg mlynedd. Yn Eryri mae Awdurdod y Parc yn datblygu ei waith mewn partneriaeth hyd at lefelau newydd, gan ddarparu’r cyfrwng delfrydol i lywio ffordd drwy’r dyfroedd dyrys o’n blaenau. Daw gobaith pellach ar ffurf y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Hannah Blythyn AC, sy’n dod i’r swydd o’r newydd ac sydd wedi cael cychwyn da gyda’r sector amgylcheddol. Rydym yn edrych i’w chyfeiriad hi a Llywodraeth Cymru am arweiniad mewn dull diamwys amgylchedd-yn-gyntaf. Os allwn ni adeiladu ar yr hyn mae Parciau Cenedlaethol ac AoHNE wedi eu cyflawni wrth gynnal eu hethig cadwraeth, bydd y sylfaen gennym ar gyfer amgylchedd Cymreig o safon byd-eang, ffordd neilltuol o weithio fydd yn gwneud yn fawr o’r hyn sydd gennym fel cenedl. Fe all tirluniau dynodedig helpu i ddatrys y pos y mae Llywodraeth Cymru wedi ei osod iddo’i hun ac, yn wir, i bob un ohonom. Atyniad tirluniau dynodedig yw eu bod yn darparu’r strwythur a’r raddfa ar gyfer mynd i’r afael â materion adnoddau eang megis carbon a dŵr, yn ogystal â heriau penodol datblygiad economaidd gwledig, dirywiad bioamrywiaeth a mynediad teg i bawb. Mae hyn yn awgrymu cydbwysedd rhwng galluogi newid a chynnal sylfeini cadwraeth Parciau Cenedlaethol ac AoHNE. Amlinellir mecanweithiau gwarchod y cydbwysedd hanfodol hwn yn Adroddiad Marsden. Bydd angen gweledigaeth a pharodrwydd i brofi dulliau newydd o weithredu ar raddfa’r tirlun ar amgylchedd Cymru yn dilyn Brexit. Fe all adolygiadau tirluniau dynodedig Cymru ddarparu’r glasbrint a’r uchelgais angenrheidiol i sicrhau bod Parciau Cenedlaethol ac AoHNE yn ddynodiadau cadwraeth sy’n wir addas ar gyfer yr unfed-ganrif-ar-hugain. Mae’r Parciau Cenedlaethol a’r AoHNE eu hunain yn darparu’r deunyddiau crai, yr ysbrydoliaeth, yr arfau, yr arbenigedd a’r profiad. Nawr mae angen buddsoddiad ac ymrwymiad arnyn nhw, ac efo’r rhain daw’r hyder i fynd i’r afael â’r gwaith pwysig hwn.


NEWS

National Parks for the 21st century Hope for the future landscapes of Wales John Harold Asked on national television why the word ‘conservation’ was missing from his report on the future of National Parks and AONBs, Lord Dafydd Elis-Thomas AM replied, “Because it was written in the twenty-first century, not the last century”. That was one year ago in the media flurry which followed the leaking of the ‘Future Landscapes Wales’ report. The Snowdonia Society galvanised the response to this report, culminating in a debate in the Senedd on 6th June when Assembly Members reacted to the volume and urgency of correspondence from their constituents by queuing up to champion conservation and National Parks. So far so good. A campaigning job well done and an example of our Society operating effectively at national level. Pointing out the omissions and muddled thinking which marred the ‘Future Landscapes’ report was, however, relatively easy. Now we face the more difficult challenge of helping construct a way forward. Our designated landscapes have been ‘under review’ for four years. First there was the detailed and practical report by Professor Marsden and then the more 'visionary' work by Lord Elis-Thomas, both commissioned by Welsh Government. For our National Parks and AONBs this has been four years of uncertainty, with no resolution of the contrasting approaches taken by these reviews. Added to this are years of budget cuts and a lamentable lack of interest from successive ministers. By 2020 Snowdonia National Park Authority’s annual budget will actually be smaller than it was in 2000. Allowing for inflation this represents a halving of the resources available for looking after Snowdonia. While the country is, for obvious reasons, focused on the crisis in the National Health Service, we are facing something similar in our National Parks, our ‘Natural Health Service’. In these circumstances it is hard to avoid a siege mentality. This affects not only all of us who feel passionately about our beautiful National Parks but also the politicians and civil servants who have inherited a deteriorating situation and the bad press that goes with it. There must, however, be a way through this and we need to find and follow it. Hope for the iconic landscapes of Wales lies, almost certainly, in recent ground-breaking environmental legislation. It is not unreasonable to claim, as Welsh Government does, that Wales is leading the world with the Environment Wales Act and the Well-being of Future Generations Act. The challenge, as with all legislation, lies in its implementation, in turning words into action; it is the action which brings the legislation to life. The legislation requires, amongst other things, that Wales manages its natural resources sustainably, restores biodiversity and works across sectors and at the right scale to benefit all

without compromising the interests of future generations. To achieve any of this will require transformational changes in the way government, business and citizens act and interact. Where else would we begin this work other than in our National Parks and AONBs? Designated landscapes are where the experience, expertise, and working models for sensitive resource management have been quietly accumulating for 70 years. In Snowdonia the Park Authority is developing its work in partnership to new levels, providing the ideal vessel in which to pilot a way through rough waters ahead. More hope comes in the form of the Environment Minister, Hannah Blythyn AM, who comes to the post without baggage and has made a good start on engaging with the environment sector. We look to her and Welsh Government for leadership in an unambiguous environment-first approach. If we can build on what National Parks and AONBs have achieved while maintaining their conservation ethic, we will have the foundations of a world-class Welsh environment, a distinctive way of working which makes the most of what we have as a nation. Designated landscapes can help solve the puzzle which Welsh Government has set itself and indeed set for us all. The attraction of designated landscapes is that they provide the structure and the scale with which to tackle broad resource issues like carbon and water, as well as specific challenges of rural economic development, biodiversity decline and equitable access. This suggests a balance between enabling change whilst upholding the conservation foundations of National Parks and AONBs. The mechanics of protecting this crucial balance are detailed in the Marsden Report. A post-Brexit environment for Wales will require vision and a willingness to test new approaches at a landscape scale. The reviews of designated landscapes in Wales can provide the blueprint and the ambition needed to make sure that National Parks and AONBs are indeed conservation designations fit for the twenty-first century. The National Parks and AONBs themselves provide the raw materials, the inspiration, the tools, expertise and experience. Now they need investment and commitment, from which will come the confidence to take on this important work.

1967 - 2017: Protecting and celebrating Snowdonia for 50 years | 25


NEWYDDION

Mae’r Gymdeithas yn The Society gives rhoi’n ôl i wirfoddolwyr back to volunteers Sarah McGuiness Mae Cymdeithas Eryri wedi fy ngalluogi i ddatblygu medrau cadwraeth ymarferol na fyddwn fel arall wedi cael cyfle i’w profi drwy gyfrwng fy ngradd Prifysgol, ac mewn mannau anghysbell na fyddwn wedi llwyddo i gael mynediad iddyn nhw fy hun. Mae pob profiad gwirfoddoli newydd yn fy ngalluogi i ddeall yn well sut mae’r Parc Cenedlaethol yn cael ei gynnal, wrth ddysgu am y problemau sy’n ei wynebu a’r camau a gymerir i leihau’r problemau hyn. Mae dysgu am y tactegau rheolaeth ar gyfer difa pob rhywogaeth ymledol, neu profi’r problemau’n ymwneud ag ysbwriel a chynnal llwybrau ar lwybrau poblogaidd yn bynciau a ddeallir yn well o lawer drwy brofiad uniongyrchol yn hytrach na theori’n unig.

The Snowdonia Society has allowed me to develop practical conservation skills that I would not have had the chance to experience through my University degree, and in remote areas that I would not be able to access on my own. Each new volunteer experience allows me to better understand how the National Park is maintained, by learning about the problems facing it and the steps that are taken to limit these problems. Learning about the management tactics for removal of each of the invasive species, or experiencing the problems surrounding litter and footpath maintenance on heavily used routes are topics that are much better understood through first-hand experience than theoretically.

Mae Cymdeithas Eryri yn rhoi cymaint i’w gwirfoddolwyr megis cludiant yn rhad ac am ddim i ddyddiau gwaith, digwyddiadau cymdeithasol, a hyfforddiant am ddim mewn amrywiaeth o bynciau amgylcheddol. Mae’r cyrsiau hyfforddi yma wedi ysgogi fy niddordeb mewn pynciau megis dal gwyfynod, arolygu dyfrgwn, ac adnabod coed. Wrth fynychu’r dyddiau gwaith cefais ddealltwriaeth sylfaenol o bob pwnc, mewn amgylchedd llawn hwyl a mwynhad, yn ogystal â’m galluogi i sicrhau gwybodaeth bellach drwy fy niddordeb newydd.

The Snowdonia Society give back so much to their volunteers through free transport to workdays, social events, and free training in a variety of environmental areas. These training courses have sparked my interest in topics such as moth trapping, otter surveying, and tree identification. The days enabled me to gain a foundation understanding of each subject, in a fun and relaxed environment, on which I was able to build further knowledge through my newly developed interest.

Llwyddais hefyd i gwblhau cwrs mewn Medrau Cadwraeth Ymarferol gyda Chymdeithas Eryri yn ystod wythnos o wirfoddoli ym mis Mehefin 2017. Ar y cwrs cefais gymorth i ddysgu medrau sylfaenol ar gyfer gyrfa ym maes cadwraeth, megis y defnydd o offer a diogelwch, a rhoi asesiadau risg ar waith ar gyfer amrywiaeth o dirluniau a gorchwylion. Mae modd dysgu llawer o’r medrau yma wrth wirfoddoli ond fe’m darparwyd gan Gymdeithas Eryri â’r cyfle i sicrhau cymhwyster cydnabyddedig proffesiynol i fynd â’m gwirfoddoli gam ymhellach wrth geisio sicrhau fy swydd cyntaf ym maes cadwraeth. Mae gwirfoddoli wedi fy helpu i fagu hyder ynof fi fy hun a fy ngallu i symud yn nes at yrfa ym maes cadwraeth. Rydw i wedi gwella medrau gwerthfawr megis gwaith tȋm a chyfathrebu. Mae gwirfoddoli yn fy helpu i wireddu fy amcanion o ran gyrfa ac hefyd yn darparu diddordeb gwych i mi ar gyfer fy oriau hamdden. Mae gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored, yng nghanol tirluniau hyfryd, wrth roi rhywbeth yn ôl i’r amgylchedd hwnnw, yn brofiad rhyfeddol.

26 | Gwarchod a dathlu Eryri ers 50 mlynedd: 1967 - 2017

Sarah McGuinness de • right

I was also able to complete a course in Practical Conservation Skills with the Snowdonia Society during a week of volunteering in June 2017. The course helped me gain vital skills for a career in conservation, such as tool use and safety, and carrying out risk assessments for a variety of landscapes and tasks. Many of these skills can be obtained from volunteering but Snowdonia Society provided me with the opportunity to get a professionally recognised qualification to take my volunteering one step further when trying to get my foot in the door of conservation. Volunteering has helped me become more confident both in myself and my ability to advance with a conservation based career. I have improved valuable skills such as teamwork and communication. Volunteering not only aids me in achieving my career goals but also provides a wonderful recreational pastime. Being able to take part in outdoor activities, surrounded by beautiful landscapes, while giving something back to that environment is an amazing experience.


NEWS

Rydym wedi tyfu Tŷ Hyll Margaret Thomas Mae hi’n 30 mlynedd ers i’r Gymdeithas Eryri gael y weledigaeth i brynu Tŷ Hyll. Gyda’i ardd fywyd gwyllt, gwenyn a choedlan mae’n parhau i ffynnu. Ers ei atgyweirio yn 2012 i gynnwys ystafell de y Pot Mêl ac ystafell y wenynen fêl, mae niferoedd ymwelwyr wedi cynyddu o flwyddyn i flwyddyn, gan gyrraedd 41,000 yn 2017. Hefyd yn parhau i gynyddu mae’r arian a godir drwy werthu ein cynnyrch a’r ‘Hadau er Lles Gwenyn’ a ‘Phlanhigion i Beillwyr’ poblogaidd, i gyd yn cael eu rheoli gan wirfoddolwyr Tŷ Hyll. Yn 2017 codwyd dros £3,000 trwy werthu hadau a phlanhigion yn unig! Gallwch ein helpu i gynnal y codi arian drwy alw heibio Tŷ Hyll i brynu planhigion a hadau. Gallwch brynu hadau hefyd ar ein gwefan. Gan gadw at y thema gwenyn, eleni rydym yn gwerthu peintiadau cwyr gwenyn unigryw gan ein aelod lleol John Whittaker. Ar hyn o bryd dim ond yn Nhŷ Hyll y gellir prynu’r rhain. Yn ystod 2017 ymgymerwyd ag ymchwil manwl i hanes yr adeilad a’i gyn-breswylwyr gan wirfoddolwyr. Erbyn hyn rydym yn gwybod y dyddiad pendant y codwyd y tŷ yn ei ffurf bresennol! Bydd llyfryn newydd Tŷ Hyll sy'n cael ei gynhyrchu ar hyn o bryd, yn cynnwys yr holl wybodaeth yma. Ers blynyddoedd lawer mae’r ardd fywyd gwyllt wedi derbyn gofal a sylw tîm bach o wirfoddolwyr ymroddedig. Eleni rydym wedi gallu cyflogi garddwr arbenigol i ymuno â’r gwirfoddolwyr a’u cynnal. Gobeithio y bydd bywyd gwyllt ac ymwelwyr hefyd yn elwa! Mae gwirfoddolwyr newydd yn dal yn hanfodol ac rydym yn falch iawn o’u croesawu bob amser. Os ydych chi’n lleol, pam na wnewch chi roi cynnig arni? Bydd unrhyw un sy’n dilyn ein dyddiau gwaith i wirfoddolwyr yn gweld bod yr ystod o ddigwyddiadau hyfforddiant a digwyddiadau perthnasol sy’n defnyddio coedlan hardd Tŷ Hyll yn parhau i ehangu. Drwyddo draw, mae Tŷ Hyll yn adnodd eithriadol i’r Gymdeithas, aelodau, ymwelwyr a bywyd gwyllt. Cofiwch ei gynnwys ar eich rhestr fel lle i ymweld ag o eleni! Gardd Tŷ Hyll Garden

Peintiad cwyr gwenyn • Beeswax painting, gan • by John Whittaker

We have grown Tŷ Hyll It is 30 years since the Snowdonia Society had the foresight to purchase the iconic Tŷ Hyll. With its wildlife garden, bees and woodland it continues to flourish. Since the refurbishment in 2012, to incorporate the Pot Mêl tearoom and Honeybee room, the visitor numbers have shown a steady year on year growth, reaching 41,000 in 2017. Also continuing to grow are the funds raised through the sales of our merchandise and the popular ‘Seeds for Bees’ and ‘Plants for Pollinators’, all managed by our Tŷ Hyll volunteers. In 2017 over £3,000 was raised by the sale of seeds and plants alone! Help us to sustain this fundraising by visiting Tŷ Hyll to purchase plants and seeds. Seeds can also be purchased on our website. Keeping with the bee theme, this year we are selling unique beeswax paintings by local member John Whittaker. Tŷ Hyll is currently the only place these can be bought. During 2017, volunteers undertook detailed research into the history of the building and its past occupants. A conclusive date is now known for the building of the house in its current form! The new Tŷ Hyll booklet, currently in production, will include all this information. The wildlife garden has for many years received love and attention from a small team of dedicated volunteers. This year we have been able to employ a specialist gardener to join and sustain them: wildlife and visitors will hopefully also benefit! New volunteers are still essential and always welcomed with open arms. If you are local why not give it a try? Anyone who keeps an eye out for our volunteer workdays will see that the range of training and related events utilising the beautiful Tŷ Hyll woodland continues to expand. All in all Tŷ Hyll is an exceptional resource for the Society, members, visitors and wildlife. Put it on your list to visit this year!

1967 - 2017: Protecting and celebrating Snowdonia for 50 years | 27


Newyddion ● News

Aelodau Busnes newydd • New Business Members Croeso i'n Haelodau Busnes newydd. Diolch enfawr am gefnogi gwaith Cymdeithas Eryri. (Telerau yn weithredol ar gyfer y gostyngiadau; cysylltwch â'r busnes am fanylion.)

Welcome to our new Business Members. A huge thank you to them for supporting the work of the Snowdonia Society. (Terms apply to all discounts; contact the business for details.)

'Breese Adventures' - Gwyliau arbenigol, teithiau tywys a heriau i unigolion, grwpiau ac elusennau. Cymdeithas Eryri yw un o'r elusennau a enwebwyd i elwa o'u digwyddiad Her Eryri. Gostyngiad i aelodau: 10% oddi ar dâl mynediad Her Eryri. www.breeseadventures.co.uk

Breese Adventures - Tailored adventures, guided walks and challenges for individuals, groups and charities. The Snowdonia Society is one of the charities nominated to benefit from their Snowdonia Challenge event. Member discount: 10% on Snowdonia Challenge entry fees www.breeseadventures.co.uk

Gwyliau Cymdeithas y Cerddwyr (Ramblers) - Cwmni nidam-elw sy’n cynhyrchu arian ar gyfer elusennau cerdded. Cofiwch enwebu Cymdeithas Eryri wrth archebu gwyliau gyda RWH uchod. www.ramblersholidays.co.uk

Ramblers Walking Holidays - A not-for-profit company generating funds for walking charities. Please nominate the Snowdonia Society when you book a holiday with RWH. www.ramblersholidays.co.uk

'Wern Cottage', Prestatyn – Ym Mharc Cenedlaethol Eryri, rydym yn cynnig gwyliau byr a gwyliau wythnos drwy gydol y flwyddyn. Gostyngiad i aelodau: 10% www.werncottage.co.uk

Wern Cottage, Prestatyn - Within the Snowdonia National Park, we offer short breaks and full week holidays throughout the year. Member discount: 10% www.werncottage.co.uk Castle Vision Photographic, Prestatyn - High quality images to enhance and support businesses and individuals. Wildlife & landscape photography courses also offered. Member discount: 10% www.castlevision.co.uk

'Castle Vision Photographic', Prestatyn - Delweddau o ansawdd uchel i wella a chefnogi busnesau ac unigolion. Hefyd cynigir cyrsiau ffotograffiaeth bywyd gwyllt a thirluniau. Gostyngiad i aelodau: 10% www.castlevision.co.uk Tŷ Gwledig Tan y Foel, Llanrwst - Llety gwely a brecwast bach, clyd, gyda golygfeydd gwych; dim ond 5 munud o Betws-y-coed. Gostyngiad i aelodau: 5% www.tanyfoelcountryhouse.co.uk

TAN Y FOEL

'Snowdon Events' - Trefnu a rheoli digwyddiadau, diogelwch a stiwardio; profiad mewn diwydiannau awyr agored. Gostyngiad i aelodau: 15% ar archebion grŵp www.snowdonevents.co.uk 'Snowdonia Farm Holiday', Llanllechid - Dau gartref hamdden hunan arlwyo, ynghudd ymysg mynyddoedd chwedlonol Eryri – yr encil delfrydol ar gyfer ymlacio. www.snowdoniafarmholiday.com 'Sugar & Loaf' - Casgliad hyfryd o fythynnod gwyliau yng Nghymru ar gyfer pob math o wyliau: rhamantus neu wahanol, ar gyfer teuluoedd neu bobl â chŵn. www.sugarandloaf.com 'Holiday Cottages' - Yn cynnig gwasanaeth gyda’r gorau i berchnogion lletai gwyliau a chwsmeriaid ers dros 25 mlynedd. www.holidaycottages.co.uk/wales 'Wales Cottage Holidays' - Dewis rhagorol o fythynnod gwyliau ledled y wlad: bythynnod o ansawdd, ysguboriau wedi'u haddasu, fflatiau yng nghanol y dref a mwy! www.walescottageholidays.co.uk 'Original Cottages' - Cartrefi gwyliau bendigedig gan ein grŵp o asiantaethau lleol; bydd eu harbenigedd lleol yn dod o hyd i'ch dihangfa perffaith. www.originalcottages.co.uk

Os ydych yn gwybod am fusnes sy’n gweithredu ym Mharc Cenedlaethol Eryri neu’n agos ato, pam na wnewch chi awgrymu eu bod yn ymaelodi fel Aelodau Busnes? Cysylltwch â ni i ofyn am becyn Aelodaeth Fusnes neu ewch i'n gwefan i ddarganfod rhagor.

28 | Gwarchod a dathlu Eryri ers 50 mlynedd: 1967 - 2017

Tan y Foel Country House, Llanrwst - Small, secluded B&B with great views, a 5 minute drive to Betws-y-Coed. Member discount: 5% www.tanyfoelcountryhouse.co.uk Snowdon Events - Event planning and management, safety and marshalling, bringing experience from multiple outdoor industries. Member discount: 15% discount on group bookings www.snowdonevents.co.uk Snowdonia Farm Holiday, Llanllechid - Two self catering leisure homes hidden away amidst the legendary Snowdonia mountains - the ideal retreat in which to unwind. www.snowdoniafarmholiday.com Sugar & Loaf - Beautiful holiday cottages in Wales for every type of holiday: romantic or quirky, dog-friendly or family. www.sugarandloaf.com Holiday Cottages - A first class service to holiday property owners and customers, for over 25 years. www.holidaycottages.co.uk/wales Wales Cottage Holidays - An outstanding selection of holiday cottages across the country: quality cottages, modern barn conversions, central apartments and more! www.walescottageholidays.co.uk Original Cottages - Wonderful holiday homes from our family of local agencies. Our local expertise means we can always find you the perfect escape. originalcottages.co.uk

If you know a business that operates in or near the Snowdonia National Park, why not suggest they become Business Members? Contact us for a Business Membership pack or visit our website to find out more.


Y thema yw ‘Eryri’. Mae'r gystadleuaeth yn agored i’r cyhoedd; ymgeiswyr i anfon un ffotograff erbyn dyddiad cau’r gystadleuaeth ar 30 Mehefin 2018.

‘Snowdonia’ is the theme. The competition is open to the public to submit one photo by the competition closing date of June 30 2018.

Cyhoeddir y 12 llun gorau a ddewisir gan banel o feirniaid yn ein calendr 2019.

The 12 prize winning images selected by a panel of judges will feature in our 2019 calendar.

Bydd y ffotograffydd a’r cynhyrchydd ffilm lleol Natasha Brooks ar y panel beirniadu a bydd yn cynnal gweithdy ffotograffiaeth yn y gwanwyn i helpu’r sawl sy’n awyddus i wella eu medrau efo’r camera.

Celebrated local photographer and film maker Natasha Brooks will be on the judging panel and will run a photography workshop in the spring to help those who would like to hone their camera skills.

Yn ogystal ag aelodaeth Cymdeithas Eryri, rhoddwyd gwobrau Fabulous prizes have kindly been donated by RAW gwych gan RAW Adventures, Dinorwig Distillery, Melin Wlân Adventures, Dinorwig Distillery, Trefriw Woollen Mill and Elen's Castle Hotel in addition to Snowdonia Society Trefriw a Gwesty Castell Elen. memberships. Rhaid anfon ymgeisiadau ar ffurf ddigidol i: Entries must be in a digital format and sent to: info@snowdonia-society.org.uk erbyn hanner nos ar 30 info@snowdonia-society.org.uk by midnight on June 30 Mehefin 2018. 2018. Cewch weld y rheolau a'r amodau llawn ar ein gwefan: Full terms and conditions can be found on our website: www.cymdeithas-eryri.org.uk/cy/cystadleuaeth-calendr/ www. snowdonia-society.org.uk/calendar-comp/

Ymaelodwch! Dewch i ddarganfod sut y gallwch helpu i gadw Eryri'n wyllt ac yn hardd, ac am y manteision o fod yn aelod o Gymdeithas Eryri drwy gysylltu â ni neu ymweld â'n gwefan:

S FITH

RIF N G

WU RHY Ms

33

3/19

31/0

333

 info@snowdonia-society.org.uk

Become a Member! Find out how you can help keep Snowdonia wild and beautiful, and about the benefits of being a Snowdonia Society member, by contacting us or visiting our website:

 01286 685498

www.cymdeithas-eryri.org.uk/ymaelodi  www.snowdonia-society.org.uk/join 1967 - 2017: Protecting and celebrating Snowdonia for 50 years | 29


Newyddion

Staff newydd • New staff

Daniel Goodwin

Debbie Pritchard

Ein haelod mwyaf newydd o’r tîm yw Daniel. Fel Swyddog Project mae’n darparu gweithdai cadwraeth ymarferol a digwyddiadau hyfforddi ledled Eryri. Mae hefyd yn gyfrifol am reolaeth y goedlan o gwmpas Tŷ Hyll, eiddo pwysig y Gymdeithas.

Debbie yw’r Swyddog Aelodaeth a Chyfathrebu a hi yw’r cyswllt cyntaf ar gyfer aelodau newydd a rhai sy’n aelodau eisoes. Mae hi’n gyfrifol am gyfathrebu drwy ystod o gyfryngau ac adeiladu perthnasau gyda’n teulu o aelodau a chefnogwyr.

Daniel is our newest member of the team. As Project Officer he delivers practical conservation workdays and training events throughout Snowdonia. He is also responsible for the woodland management at our flagship property Tŷ Hyll.

Debbie is the Membership and Communications Officer and is the primary contact for new and existing members. She is responsible for communications through a range of media and relationship building with our family of members and supporters.

Adolygiad llyfr • Book review Wildlife Diary - A year in the Old Welsh Country of Meirionnydd Daeth Dyddiadur Cefn Gwlad â chwa o awyr iach i’r Guardian dros ganrif yn ôl, ac mae’r fformiwla wedi llwyddo byth ers hynny. Un o’r rhesymau dros y llwyddiant yw’r synnwyr o leoliad, o wreiddiau, a ddarperir gan ddyddiaduron cefn gwlad. Dyma rinwedd sy’n rhan hanfodol o dudalennau 'Wildlife Diary' Brian Macdonald. Ers dau ddegawd mae Brian wedi bod yn cyflwyno pobl i ardal ei gartref, Ardudwy, drwy gyfrwng ei fenter dywys Wildlife Wales a dyddiadur cefn gwlad ar gyfer papur newydd lleol. Mae’r gyfrol hon, ynghyd â darluniau hyfryd Charles Tunnicliffe, yn defnyddio cynnwys y dyddiaduron i fynd â phobl am dro drwy’r tymhorau, o wythnos i wythnos, i archwilio cornel o Gymru drwy gyfrwng ei bywyd gwyllt. Mewn oes lle mae cymaint ohonom yn treulio cryn amser yn darllen geiriau ar sgrin, mae’n bleser edrych drwy lyfr sydd wedi ei gynhyrchu mor gain. ylai darllenwyr fwynhau anadlu awyr iach Meirionnydd. Adolygiad gan • Review by: James Robertson

30 | Gwarchod a dathlu Eryri ers 50 mlynedd: 1967 - 2017

llyfr gan • a book by Brian Macdonald £15 A Country Diary first brought a breath of fresh air to the Guardian more than a century ago, and the formula has proved a winning one ever since. One of the reasons for success is the sense of location, of rootedness, which country diaries provide. This is a quality that pervades the pages of Brian Macdonald’s Wildlife Diary. For two decades he has been introducing people to the delights of his home territory, Ardudwy, through his Wildlife Wales guiding enterprise, and a country diary he has written for a local newspaper. This volume, adorned by Charles Tunnicliffe’s beautiful illustrations, draws on these diaries to take the reader on a journey through the seasons, week by week, exploring a much-loved corner of Wales through its wildlife. In an age when so many of us spend so much time reading words on a screen, it is a pleasure to handle such a beautifully-produced book. Readers should enjoy filling their lungs with this blast of Meirionnydd fresh air. I archebu cysylltwch â • To order, contact: Wildlife Wales. 01341 241469 mail@wildlife-wales.co.uk Bydd £5 y llyfr yn cael ei gyfrannu at Gymdeithas Eryri • £5 per copy will be donated to the Society Society


News

Cefnogi ein gwaith • Supporting our work Yn ein helpu i glirio mwy o ysbwriel a chynnal mwy o lwybrau Helping us clear more litter and maintain more paths!

£50,627 Diolch Thank you

£580

£2,793 Diolch i aelodau Co-op, Llanrwst am enwebu Cymdeithas Eryri i dderbyn canran o’u pryniannau Thank you to Llanrwst Co-op members for nominating the Snowdonia Society to receive a percentage of their purchases.

Mae RAW Adventures wedi codi arian i Gymdeithas Eryri drwy gyfrwng eu dyddiau Dringo'r Wyddfa tra'n tywys pobl i gopa'r mynydd. Raw Adventures have raised money for the Snowdonia Society through the Climb Snowdon days guiding people up the mountain.

Diolch enfawr i bawb a gyfrannodd i ein Cronfa’r Dyfodol 50 Mlynedd. Ei'n diolch hefyd i gyfrannwr caredig dros ben a gytunodd i roi arian cyfatebol i hyd at £500 o roddion. A huge thank you to everyone who donated to our 50 Years Future Fund. We also thank a very generous donor who agreed to match fund up to £500 of donations.

Her Eryri 2018 £370 Mae Ellie Salisbury, o Fabian4, wedi codi arian ar gyfer Cymdeithas Eryri drwy drefnu Ras Fynydd Gladstone ym Mhenmaenmawr ym mis Medi 2017. Diolch hefyd i'r nifer o wirfoddolwyr a helpodd i wneud y digwyddiad hwn yn llwyddiannus. Ellie Salisbury from Fabian4 raised money for the Snowdonia Society by organising the Gladstone Fell Race in September 2017. Thanks also to the many volunteers who helped make this event a success.

Mae’r cwmni lleol ac aelod busnes gyda Chymdeithas Eryri, Breese Adventures, yn galw am bobl godi arian a stiwardiaid i fod yn rhan o’u her wytnwch tridiau cyffrous ym mis Mehefin. Mae Her Eryri yn brawf o wytnwch meddyliol a chorfforol a gwaith tîm, sy’n digwydd yn y mynyddoedd a’r coedwigoedd hardd o gwmpas Betws-y-Coed. Mae'r her eleni’n cychwyn ar ddydd Gwener 29 Mehefin ac yn dod i ben ar ddydd Sul 1 Gorffennaf. Noddwch ein staff a'n ymddiriedolwyr os gwelwch yn dda. manylion ar ein gwefan

Snowdonia Challenge 2018 Local company and Snowdonia Society business member, Breese Adventures, is calling for fundraisers and marshals to be a part of their exciting three-day endurance challenge this June. The Snowdonia Challenge is a test of mental and physical resilience and team work, and takes place in the stunning mountains and forests surrounding Betws-yCoed. This year’s challenge starts on Friday 29 June and ends Sunday 1 July. Please sponsor our staff and trustees. Details on our website

1967 - 2017: Protecting and celebrating Snowdonia for 50 years | 31


£50,627 Diolch

Gweithio gyda’n gilydd

Working together

Pan lansiwyd ein Cronfa’r Dyfodol 50 Mlynedd gennym y llynedd roedd y targed o £50,000 yn ymddangos bron yn amhosibl. Ond roedd ein haelodau’n ffyddiog.

When we launched the 50 Years Future Fund last year the £50,000 target looked almost impossible. But our members had other ideas.

Pasiwyd y targed cyn cau’r apêl yn mis Chwefror, gan roi hwb i’n hyder bod pobl yn dymuno gweld ein gwaith yn datblygu.

The target was passed by the time the appeal closed in February, boosting confidence that people want our work to grow.

Mae’n cymryd adnoddau i gynnal rhaglenni cadwraeth ac ymgyrchoedd effeithiol. Mae gwaith llai amlwg ar gynllunio ac ymgynghoriadau hefyd yn hanfodol. Weithiau ein llais ni yw’r unig lais sy’n eiriol dros gadwraeth. Diolch i chi am weithio dros Eryri.

Cyfrannwch... ar-lein yn www.cymdeithas-eryri.org.uk gyda siec, yn daladwy i 'Cymdeithas Eryri' neu ymaelodwch!

It takes resources to run effective conservation programmes and campaigns. Less visible work on planning and consultations is also vital. Sometimes ours is the only voice speaking up for conservation. Thank you for working for Snowdonia.

Donate... on-line at www.snowdonia-society.org.uk by cheque, payable to 'Snowdonia Society' or join as a member!

 Cymdeithas Eryri the Snowdonia Society, Caban, Yr Hen Ysgol, Brynrefail, Caernarfon, Gwynedd LL55 3NR  01286 685498  info@snowdonia-society.org.uk www.cymdeithas-eryri.org.uk • www.snowdonia-society.org.uk Elusen gofrestredig rhif/Registered charity no: 1155401

© Dan Struthers

Thank yo u

Cess Gwanwyn/ Spring 2018  

Copaon / Summits

Cess Gwanwyn/ Spring 2018  

Copaon / Summits

Advertisement