__MAIN_TEXT__

Page 1

50 mlynedd ac ymlaen 50 years on 1967 - 2017 Cylchgrawn/Magazine

Hydref 2017 Autumn

1967 - 2017: Protecting and celebrating Snowdonia for 50 years | 1


Cynnwys ● Contents

Sefydlwyd Cymdeithas Eryri yn 1967 a’i nod yw gwarchod a gwella harddwch a rhinweddau arbennig Eryri ac i hyrwyddo eu mwynhad er budd pawb sy'n byw, yn gweithio neu'n ymweld â'r ardal, yn awr ac yn y dyfodol. ~~~ The Snowdonia Society, established in 1967, works to protect and enhance the beauty and special qualities of Snowdonia and to promote their enjoyment in the interests of all who live in, work in or visit the area both now and in the future.

CCB ● AGM

4 8 12 16 20 24 26 28 30 31

Y frwydr dros harddwch ● The fight for beauty: Y Fonesig/Dame Fiona Reynolds Hyrwyddo Eryri ● Championing Snowdonia: Syr/Sir Simon Jenkins Ymgyrchoedd: Potsian deallus ● Campaigns update: Intelligent tinkering Cadwraeth ymarferol ar waith ● Practical conservation in action Holi ein haelodau ● Meet our members Digwyddiadau pen-blwydd yn 50 ● 50th anniversary events Cronfa'r Dyfodol 50 Mlynedd ● 50 Years Future Fund Gwneud gwahaniaeth ● The difference you make Llyfrau ● Books Llythyrau ● Letters

Ymaelodwch heddiw! ● Join today! Ddim yn aelod?

Why not help conserve Snowdonia’s magnificent landscape and biodiversity by joining the Society? Individual membership costs £24.

www.cymdeithas-eryri.org.uk

www.snowdonia-society.org.uk

Rhybudd am

Gwirfoddoli Volunteering

Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cymdeithas Eryri 2017 Notice of the Snowdonia Society

2017 Annual General Meeting 9.45am, 14 Hydref/October Plas Tan y Bwlch Gweler: www.snowdonia-society.org.uk/cy/ digwyddiad/cynhadledd-a-ccb/ See: www.snowdonia-society.org.uk/event/agmand-conference/

Cymdeithas Eryri the Snowdonia Society Caban, Yr Hen Ysgol, Brynrefail, Caernarfon, Gwynedd LL55 3NR  01286 685498  info@snowdonia-society.org.uk www.cymdeithas-eryri.org.uk www.snowdonia-society.org.uk Rhif elusen/Charity no: 1155401 Delwedd clawr: Casglu sbwriel ar yr Wyddfa Cover image: Litter picking on Snowdon © Dan Struthers Cyfieithu/Translation: Haf Meredydd

Not a member?

Cefnogwch ein gwaith o warchod a gwella tirluniau a bioamrywiaeth arbennig Eryri trwy ymaelodi! Aelodaeth unigol: £24.

Digwyddiadau Events

FF*

20% RODD* I FFW

Gostyngiadau Discounts

Cylchgronau Magazines

Ymwadiad golygydddol

Editorial disclaimer

Cynhyrchwyd y cylchgrawn gan dîm golygyddol yn cynnwys Rob Collister, Frances Smith a John Harold. Rydym yn hynod ddiolchgar i’r holl awduron a ffotograffwyr sydd wedi cyfrannu at y rhifyn hwn. Cofiwch mai safbwyntiau personol yr awduron sy’n cael eu mynegi ganddynt, ac nid ydynt o reidrwydd yn adlewyrchu polisi Cymdeithas Eryri.

The magazine is produced by an editorial panel of Rob Collister, Frances Smith and John Harold. We are very grateful to all the authors and photographers who have contributed to this issue. The views expressed by the authors are their own and do not necessarily reflect Snowdonia Society policy.

Swyddogion ac Ymddiriedolwyr/Officers and Trustees

Staff

Llywydd/President: John Lloyd Jones OBE Is-lywyddion/Vice-presidents: Sir John Houghton CBE FRS, Sir Simon Jenkins FSA, Huw Morgan Daniel CVO KStJ, David Firth, Morag McGrath, Katherine Himsworth Cadeirydd/Chair: David Archer Is-gadeirydd/Vice-chair: Margaret Thomas Ysgrifennydd Anrh/Hon Secretary: Gwag/ Vacant Aelodau’r pwyllgor/Committee members: Netti Collister, Bob Lowe, Gareth Roberts, Peter Weston, Dr Jacob Buis, Paul Gannon, Dr Sarah McCarthy

2 | Gwarchod a dathlu Eryri ers 50 mlynedd: 1967 - 2017

Cyfarwyddwr/Director: John Harold Swyddog Aelodaeth a Chyfathrebu/ Communications & Membership Officer: Debbie Pritchard Rheolwr Prosiect Ecosystem Eryri/Snowdonia Ecosystem Project Manager: Mary-Kate Jones Swyddog Prosiect Ecosystem Eryri/Snowdonia Ecosystem Project Officer: Owain Thomas Swyddog Prosiect Tŷ Hyll/Tŷ Hyll Project Officer: Tamsin Fretwell Swyddog Digwyddiadau/Events Officer: Claire Holmes Dylunydd y cylchgrawn/Magazine design: Frances Smith Cyfrifydd/Accountant: Judith Bellis


50 years on

Golygyddol

Editorial

Bwriad Cymdeithas Eryri ar gyfer 2017 oedd cynnal blwyddyn o ddathlu.

2017 was always planned to be a year of celebration for the Snowdonia Society.

Wrth i chi ddarllen hwn, byddwn dri chwarter y ffordd drwy ein blwyddyn pen-blwydd yn 50: • daeth hen gyfeillion ynghyd i’r Picnic Pen-blwydd ar 10 Mehefin yn ffermdy Dyffryn Mymbyr, hen gartref ein sylfaenydd Esmé Kirby, er gwaethaf y tywydd eithriadol o wlyb • mae’r arddangosfa ‘50 Mlynedd ac Ymlaen’ wedi bod ar daith ers ei lansio yn Eglwys St Julitta ym mis Gorffennaf • mae’r ddau grŵp cyntaf o bobl ifanc wedi cwblhau’r uned Sgiliau Cadwraeth Ymarferol a lansiwyd gennym yn gynharach eleni • cafwyd ymdrech lew gan Bob Smith wrth iddo gasglu sbwriel ar y 15 Copa i godi arian • mae’r Gymdeithas wedi chwarae rhan fawr mewn llunio Cynllun Partneriaeth Eryri, gyda datblygu Partneriaeth Tirlun y Carneddau ac wedi cydweithio gyda Rhoi Eryri ac aelodau busnes.

As you read this, we will be three quarters of the way through our 50th anniversary year: • the Birthday Picnic on 10th June was a gathering of old friends made memorable by some spectacularly wet Snowdonia weather at Dyffryn Mymbyr farmhouse, former home of our Society’s founder Esmé Kirby • the ‘50 Years On’ exhibition has been touring since its launch at St Julitta’s Church in July • the first two groups of young people have completed the Practical Conservation Skills unit which we launched earlier in the year • Bob Smith put in an epic fund-raising effort with his sponsored 15 Peaks litter pick • the Society has played a large part in getting the Snowdon Partnership Plan off the ground, in developing the Carneddau Landscape Partnership and working with Snowdonia Giving and business members.

Y bwriad ar gyfer 2017 oedd cynnal blwyddyn o ddathlu.

2017 was always planned to be a year of celebration.

Doedden ni ddim yn disgwyl y galla’i fod yn flwyddyn dyngedfennol i Barciau Cenedlaethol Cymru ac, yn wir, i deulu ehangach y Parciau Cenedlaethol, am wahanol resymau.

What we didn’t expect was that, for very different reasons, it could turn out to be a momentous year for National Parks in Wales, and indeed for the wider family of National Parks.

Yn 2014, comisiynwyd yr Athro Terry Marsden gan Lywodraeth Cymru i ymgymryd ag adolygiad manwl, annibynnol o dirluniau dynodedig Cymru. Yn rhyfedd iawn, yn syth bin wedyn, sefydlodd Llywodraeth Cymru ail grŵp a gynhyrchodd ei adroddiad ei hun ymhen 18 mis, gan danseilio gwaith yr Athro Marsden. Dydy Adolygiad Tirluniau’r Dyfodol ddim yn trafod pwrpasau presennol y Parciau ac fe’i cyhoeddir yn dilyn proses hynod ddiffygiol sydd wedi codi gwrychyn llawer o gyrff cadwraeth.

In 2014, the Welsh Government commissioned Professor Terry Marsden to undertake a detailed, independent review of designated landscapes in Wales. Bizarrely, Welsh Government immediately set up a second group which, 18 months later, produced its own report, undermining Professor Marsden’s work. The Future Landscapes Review fails to mention the Parks’ existing purposes and is the product of a deeply flawed process which has alienated many conservation organisations.

Ers trafodaeth egnïol gan y Cynulliad ar 6 Mehefin, mae’r gweinidog wedi agor ymgynghoriad o’r enw Bwrw Ymlaen â Rheoli Adnoddau Naturiol Cymru yn Gynaliadwy sydd i gynnwys rôl Parciau Cenedlaethol. Erbyn y byddwch yn darllen hwn bydd Cymdeithas Eryri wedi cyfrannu at sefydlu cynghrair o gyrff i ymateb. Wrth i ni ddathlu hanner can mlynedd o weithredu rydym hefyd yn gorfod ymateb i’r bygythiad hwn a sicrhau bod y byd yn gwybod beth sy’n digwydd. Yn y cyfamser, mae ein penwythnos cadwraeth ymarferol, Gwneud Gwahaniaeth, a CCB a Chynhadledd y Gymdeithas (gyda’r siaradwyr y Fonesig Fiona Reynolds ac Iolo Williams) yn prysur agosáu. Wrth edrych ymlaen at yr hanner can mlynedd nesaf, mae’r Gymdeithas yn barod ar gyfer y dyfodol. Ein gorchwyl ni yw sicrhau bod Eryri’n barod hefyd. John Harold (Cewch ddarllen rhagor yn ein herthygl, "Rhagofal cyntaf potsian deallus", tud.14)

Since a robust Assembly debate on 6th June, the minister has opened a consultation called Taking Forward Wales’ Sustainable Management of Natural Resources which is to include the role of National Parks. By the time you read this the Snowdonia Society will have helped bring together a coalition of organisations to respond. As we celebrate 50 years of action we also have to combat this threat and make sure the world knows what is happening. Meanwhile, our Make a Difference practical conservation weekend and the Society’s AGM & Conference (with Dame Fiona Reynolds and Iolo Williams as speakers) are approaching fast. Looking ahead to the next 50 years, the Society is fit for the future. Our task is to make sure that Snowdonia is too. John Harold (Read more in our article, "The first precaution of intelligent tinkering", p.14)

1967 - 2017: Protecting and celebrating Snowdonia for 50 years | 3


50 mlynedd ac ymlaen

Y frwydr dros harddwch Dame Fiona Reynolds Mae harddwch yn air yr ydym i gyd yn ei ddefnyddio wrth ddisgrifio mannau neu brofiadau sy’n ein cyffwrdd. Eto, mae’n air sydd bron â diflannu wrth lunio polisi cyhoeddus. Yn wir, mae hi’n ymddangos heddiw bod y gair yn peri cryn embaras i wleidyddion a’r sawl sy’n gwneud penderfyniadau, fel pe na baen nhw’n gallu cyfaddef i ddisgrifiadau emosiynol neu goddrychol, ac yn hytrach yn defnyddio geiriau ‘jargon rheolaeth’ megis bioamrywiaeth, cyfalaf naturiol neu gwasanaethau ecosystem. Hyd yn oed yng Nghymru, lle mae iaith barddoniaeth a cherddoriaeth ac iaith gwerthoedd ysbrydol neu hunaniaeth ddiwyllianol wedi bod yn rhan o fywyd beunyddiol ers canrifoedd lawer, mae’r adroddiad diweddaraf ar ddyfodol tirluniau gwarchodedig yn agor gyda’r geiriau: “Dylai tirluniau dynodedig Cymru fod yn sail i reolaeth gynaliadwy o adnoddau naturiol yn eu hardaloedd”. Be’ yn y byd ddigwyddodd i harddwch? Wrth i Gymru – yn eofn ac yn briodol mewn rhai achosion – geisio adnewyddu pwrpasau ei thirluniau gwarchodedig, mae angen i ni ail-gynnau’r fflam dros harddwch a’r parodrwydd i siarad amdano, sef y syniad a arweiniodd at greu’r tirluniau hyn ac sydd wedi ysbrydoli llawer o’u cyraeddiadau ers hynny. Gellir priodoli’r symudiad dros harddwch yn y wlad hon yn bennaf i ddyn a ystyrir yn aml fel tad y symudiad presennol dros gadwraeth. Fel gŵr ifanc, cafodd John Ruskin fath o droedigaeth pan ymwelodd â’r Alpau. Wrth wylio storm enfawr yn torri yn nyffryn Chamonix ysgrifennodd: “Spire of ice, dome of snow, wedge of rock … a celestial city with walls of amethyst and gates of gold ... It was then that I understood … God’s attributes, which … can turn the human soul from gazing upon itself and fix the spirit, in all humility, on the types of that which is to be its food for eternity. / This and this only is the pure and right sense of the word BEAUTIFUL.” Os ydych chi’n caru Cymru byddwch yn gwybod yn iawn sut roedd yn teimlo. Rydw i wedi profi eiliadau tebyg di-rif fy hun yn uchel ym mynyddoedd Eryri, wrth edrych i lawr ar y cymoedd drwy belydrau o olau a ffurfiau cymylau trawiadol, neu ar draws ucheldir Cymru, a chael fy hudo gan y copaon di-ben-draw, y

Cnicht © Hawlfraint y Goron/Crown copyright, Visit Wales

4 | Gwarchod a dathlu Eryri ers 50 mlynedd: 1967 - 2017

gorwel a’r cymoedd yn y tirlun. Yn wir, cefais fy mhrofiad cyntaf o ddeall harddwch Cymru’n gynnar yn yr 1960au, pan yn saith oed, wrth i mi ddringo fy mynydd cyntaf, Cnicht. Wrth i fy nhad, fy chwaer a minnau lusgo’n hunain i fyny ei lethrau serth, tebyg i’r Matterhorn, roeddwn yn syfrdan. Roedd yr olygfa o’r copa’n wefreiddiol; copaon a chribau’r Wyddfa a’r Glyderau i’r gogledd; clogwyni Cader Idris tua’r de; y Moelwynion i’r dwyrain, ac olion chwareli lu ar eu llethrau; ac ehangder llydan, glas llachar Bae Ceredigion i’r gorllewin. Doeddwn i erioed o’r blaen wedi gweld harddwch o’r fath, nac wedi teimlo ias i lawr fy nghefn wrth syllu ar berffeithrwydd byd natur, nag wedi profi rhyfeddod llwyr y byd o’m cwmpas. Dyna pryd y cychwynnodd fy nealltwriaeth fod ymgyrchu’n bwysig, ac rydw i wedi treulio fy mywyd wrth weithio i genhadu dros harddwch a pham ei fod yn bwysig: yn gyntaf gyda’r Cyngor (Ymgyrch erbyn hyn) dros Barciau Cenedlaethol; yna gyda Chyngor (Ymgyrch erbyn hyn) Gwarchod Lloegr Wledig; yna fel Cyfarwyddwr Cyffredinol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol am ddeuddeg mlynedd ac yn awr yn gweithio o harddwch Coleg Emaniwel, Caergrawnt. Wrth wneud hyn rydw i’n parhau â thraddodiad hir, oherwydd roedd harddwch yn air ac yn syniad a ddefnyddid yn hyderus gan bobl yn y canrifoedd a fu. Ac oherwydd bod pobl yn dathlu harddwch dyma rywbeth yr oedden nhw’n dymuno ei greu, mewn trefi a chefn gwlad, a’i warchod, drwy gyfrwng deddfau’n gwarchod y pethau a’r lleoedd sy’n hoff gan bobl. Mae harddwch wedi bod yn rhan hanfodol o’n diwylliant erioed. Yn y gweithiau ysgrifenedig cyntaf mynegir hiraeth am harddwch, ac mae Chaucer yn ein hatgoffa mai harddwch bore ym mis Ebrill oedd yn ‘longen folk to goon on pilgrimages’. Adeiladodd seiri meini canoloesol eglwysi ac eglwysi cadeiriol hyfryd; drwy gydol hanes mae artistiaid a phenseiri wedi ceisio sicrhau perffeithrwydd aesthetig; ac mae harddwch byd natur wedi ysbrydoli beirdd, awduron a cherddorion di-rif. Efallai mai dehonglwyr gorau harddwch oedd y Beirdd Rhamantaidd, a’r mwyaf croyw o’r cwbl oedd William


50 years on Wordsworth. Ef a newidiodd y ddadl am harddwch o edmygedd i warchodaeth. Yn gynnar yn yr 19eg ganrif gwelodd fod ei Ardal y Llynnoedd hardd yn dod o dan bwysau wrth i filaod hyll gael eu codi, wrth i fwynau gael eu hechdynnu’n fasnachol, wrth i goed llarwydd estron gael eu plannu ac wrth gwrs gyda chyrhaeddiad y rheilffordd cyn belled ag Windermere. O ganlyniad i’w ymateb: “is then no nook of English ground secure from rash assault?”, ysgogwyd casgliad o bobl a oedd yn caru harddwch ac yn dymuno ei warchod. Parhaodd John Ruskin â’r frwydr, gan ymgyrchu yn erbyn arswyd diwydiannu di-reolaeth a’i oblygiadau cymdeithasol. Arweiniodd ei ymdrechion at sefydlu’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol; y symudiad Celf a Chrefft; a’r syniadau cyntaf am reoli defnydd tir oedd â’r nod o sicrhau bod y Ddeddf Gynllunio gyntaf erioed yn gweithio tuag at ‘the home healthy, the house beautiful, the town pleasant, the city dignified and the suburbs salubrious’. Ond, dim ond ar ôl arswyd a dinistr y ddau Ryfel Byd y cafodd harddwch ei le llawn a phriodol mewn polisi cyhoeddus. Cyflwynodd llywodraeth 1945 becyn o fesurau a gynlluniwyd i ateb anghenion dynol sylfaenol yn ogystal â’u lles corfforol a diwylliannol. Ochr yn ochr â dynodiad Parciau Cenedlaethol, gwarchodaeth byd natur a darpariaeth mynediad i gefn gwlad gwelid polisïau tai ac economaidd, yr hawl i addysg, y Gwasanaeth Iechyd a’r wladwriaeth les. Er ei bod yn ymddangos ein bod wedi anghofio hynny’r dyddiau yma, roeddem yn deall ar y pryd nad yw’r ysbryd dynol yn cael ei fodloni gan gynnydd materol yn unig. Heddiw mae’n ymddangos ein bod wedi ein swyno gan ‘economiaeth’. Wrth siarad am gynnydd rydym yn golygu cynnydd economaidd a’n mesur o hynny yw Cynnyrch Mewnwladol Crynswth (GDP), sy’n nodi dim ond incwm, gwariant a chynhyrchiant, ac nad yw hyd yn oed yn ymgeisio cyfrif y pethau sy’n wir bwysig ond na all arian eu prynu: y pethau sy’n sicrhau ein hapusrwydd a’r adnoddau naturiol yr ydym i gyd yn dibynnu arnyn nhw. Yn wir, oherwydd nad oes iddo fantolen, mae ffigur GDP positif yn ein twyllo i feddwl bod pethau’n mynd yn dda er ein bod yn tanseilio ein dyfodol tymor hir drwy gydol yr amser. Yn ystod y ganrif ddiwethaf rydym wedi colli cyfoeth enfawr o fyd natur a llawer o amrywiaeth ein tirlun ar yr un pryd â diraddio ein pridd a’n hadnoddau naturiol. Os ychwanegwch bwysau arfaethedig newid hinsawdd at hyn mae’n glir bod angen i ni wneud pethau’n wahanol.

Ac yng Nghymru mae gwir awydd i wneud pethau’n wahanol. Ond ni ddylem fod yn iwtilitaraidd wrth geisio dod o hyd i bwrpas yr unfed ganrif ar hugain dros dirluniau gwarchodedig, oherwydd fe all ac fe ddylai harddwch ein helpu wrth i ni symud ymlaen. Nid yr aesthetig yn unig sy’n bwysig: mae’n ffordd o edrych ar y byd sy’n gwerthfawrogi pethau na allwn roi pris materol arnyn nhw, yn ogystal â’r pethau y gallwn eu mesur. Rydym yn chwilio am gyfoeth, ond mae angen gwahanol fath o gynnydd arnom, a yrrir gan lesiant yn hytrach na thwf materol. Rydym yn byw mewn cyfnod lle mae llai ohonom yn cael ein hysgogi gan orchmynion crefyddol, ond nid ydym yn brin o ysbrydoliaeth na’r gallu i gael ein cyffwrdd er mwyn chwilio am bethau gwell. Fe all harddwch roi ffurf i’r dyheu hwnnw. Dychmygwch sut fyddai pethau’n edrych pe baem yn atgyfodi’r frwydr dros harddwch. Byddem yn gofalu mwy am y byd o’n cwmpas ym mhob man ac ystyr. Byddem yn adeiladu ein dinasoedd, trefi ac isadeiledd gyda harddwch. Byddem yn gwarchod byd natur a chefn gwlad, wrth gynhyrchu bwyd o safon da. Byddem yn gofalu am ein treftadaeth ddiwyllianol ac yn canolbwyntio ar wella ansawdd ein bywydau’n hytrach na dyheu am lefelau anghynaliadwy o dwf. A byddai ein tirluniau gwarchodedig yn parhau i gyflenwi cysur ac adfywiad, gan ddod a harddwch i’n bywydau’n ogystal â gwarchod adnoddau hanfodol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Roedd gan John Muir y gallu i ddod o hyd i eiriau i gyfleu hyn, sef ‘not blind opposition to progress, but opposition to blind progress’. Os gwelwch yn dda, ymunwch â mi i adfywio’r frwydr dros harddwch. Yn gyn-Gyfarwyddwr Cyffredinol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, mae’r Fonesig Fiona Reynolds bellach yn Feistr Coleg Emaniwel, Caergrawnt. Bydd yn siarad am harddwch a dyfodol tirluniau gwarchodedig yng nghynhadledd pen-blwydd Cymdeithas Eryri yn 50 oed ym mis Hydref. Cyhoeddwyd llyfr Fiona, The Fight for Beauty, gan Oneworld Publications yn 2016.

Yr Wyddfa o gopa Cnicht Snowdon from Cnicht summit © Russ Williams

1967 - 2017: Protecting and celebrating Snowdonia for 50 years | 5


50 mlynedd ac ymlaen

The fight for beauty Dame Fiona Reynolds Beauty is a word we all use freely when it comes to describing places or experiences that move us. Yet it’s a word that has almost entirely disappeared from use in public policy. Today, in fact, politicians and decision-makers seem almost embarrassed to use the word, as if they cannot admit to emotional or subjective descriptions, resorting instead to ‘management speak’ words like biodiversity, natural capital or ecosystem services. Even in Wales, where there’s long been no reluctance to speak the language of poetry and music, of spiritual values or cultural identity, the latest report on the future of protected landscapes opens with the words: "the designated landscapes of Wales should be the drivers of the sustainable management of natural resources in their areas". Whatever happened to beauty? As Wales bravely and – in some ways rightly – looks to refresh the purposes of its protected landscapes, we need to reignite the passion for and willingness to speak about beauty, the idea which led to their creation and has inspired many of their achievements since. The movement for beauty in this country owes much to a man who is often considered the father of the modern conservation movement. As a young man, John Ruskin experienced an epiphany when he visited the Alps. Watching as a storm broke in the Chamonix valley he wrote: "Spire of ice, dome of snow, wedge of rock … a celestial city with walls of amethyst and gates of gold ... It was then that I understood … God’s attributes, which … can turn the human soul from gazing upon itself and fix the spirit, in all humility, on the types of that which is to be its food for eternity. / This and this only is the pure and right sense of the word BEAUTIFUL." If you love Wales you know what he meant. I’ve experienced countless such moments myself when high in the mountains of Snowdonia, looking down at the valleys through shafts of light and spectacular cloud formations, or across the roof of Wales, entranced by the succession of summits, horizon and valleys that make up the landscape. Indeed my own epiphany was in the early 1960s, when at the age of seven I climbed my first mountain, Cnicht. As my father, sister and I hauled ourselves up its steep, Matterhorn-like slopes, I became awe-struck. The view from the top was spectacular: the peaks and ridges of Snowdon and the Glyderau to the north; the bulk of Cader Idris to the south; the Moelwynion to the east, littered with the poignant remains of mining communities; and the wide, azure sweep of Cardigan Bay to the west. I had never before seen such beauty, never before felt the shiver of nature’s exquisite perfection, never before been so captivated by the sheer wonder of the world. The seeds of my campaigning life were sown then, and I’ve spent my working life proselytising about beauty and why it matters: first at the Council (now Campaign) for National Parks; then at the Council (now Campaign) to Protect Rural England; then as

6 | Gwarchod a dathlu Eryri ers 50 mlynedd: 1967 - 2017

Director-General of the National Trust for twelve years and now from the beauty of Emmanuel College, Cambridge. In doing so I have drawn on a long tradition, because beauty was a word and an idea that people in previous centuries used freely and confidently. And because people celebrated beauty it was something they sought to create, in town and country, and to protect, through laws safeguarding the things and places people love. Beauty is written deeply into our culture too. The earliest written texts show a yearning for beauty, with Chaucer reminding us that it was the beauty of an April spring that ‘longen folk to goon on pilgrimages’. Mediaeval stonemasons constructed fabulous churches and cathedrals; throughout history artists and architects have sought to achieve aesthetic perfection; and the beauty of nature has inspired countless poets, authors and musicians. Perhaps the greatest exponents of beauty were the Romantic Poets, and the most articulate of them all was William Wordsworth. It was he who shifted the debate about beauty from admiration to defence. In the early 19th century he saw his beloved Lake District coming under pressure from the construction of ugly villas, the commercial extraction of ores, the invasion of the alien tree, the ‘spiky larch’, and of course the prospect of the railway arriving in Windermere. His cry in response: ‘Is then no nook of English ground secure from rash assault?’ galvanised a movement of people who loved beauty and wanted to defend it. John Ruskin took up the fight, campaigning against the horrors of rampant industrialisation and its social consequences. His efforts left a huge legacy: the creation of the National Trust; the Arts and Crafts movement; and the first ideas about land use planning, with the aim of the first ever Planning Bill being ‘the home healthy, the house beautiful, the town pleasant, the city dignified and the suburbs salubrious’. But it was after the horror and devastation brought by two World Wars that beauty took its full and proper place in public policy. The 1945 government brought in a package of measures designed not only to meet people’s basic human needs but also their physical and cultural wellbeing. The designation of National Parks, the protection of nature and provision of access to the countryside sat alongside housing and economic policies, the universal right to education, the NHS and the welfare state. We understood then, as we seem to have forgotten now, that the human spirit is not satisfied by material progress alone. Today we seem to have become seduced by ‘economism’. When we talk about progress we mean economic progress and our measure of that is GDP, which charts only income, expenditure and production and doesn’t even try to count the things that matter but that money can’t buy: the things that make us happy and the natural resources on which we all depend. Indeed,


50 years on

because it has no balance sheet, a positive figure for GDP flatters us into thinking things are going well while all the time we are undermining our long term future.

levels of growth. And our protected landscapes would continue to give succour and refreshment, bringing beauty into our lives as well as safeguarding essential resources for future generations.

Over the last century we have lost a vast richness of nature and much of the diversity of our landscape while degrading our soils and natural resources. Add to this the looming pressures of climate change and it is clear we need to do things differently.

John Muir, as so often, had the words for it: our fight is ‘not blind opposition to progress, but opposition to blind progress’. Please join me in reviving the fight for beauty.

And in Wales there is certainly an appetite to do things differently. But we must not become utilitarian in our pursuit of a twenty first century purpose for protected landscapes, because beauty can and should help us as we move forward. It is not just about aesthetics: it is a way of looking at the world that values the things we can’t put a material price on, as well as the things that we can measure. We seek prosperity, but we need a different kind of progress, driven by wellbeing rather than material growth. We live in an era where fewer of us are driven by religious imperatives, but we are not lacking in spirituality nor the capacity to be moved to strive for better things. Beauty can give shape to that yearning. Imagine how things would look if we revived the fight for beauty. We would care more for the world around us in every place and sense. We’d build our cities, towns and infrastructure beautifully. We’d protect nature and the countryside, while producing good quality food. We’d care for our cultural inheritance and focus on improving our quality of life rather than striving for unsustainable

A former Director General of the National Trust, Dame Fiona Reynolds is now Master of Emmanuel College, Cambridge. Dame Fiona will be speaking about beauty and the future of protected landscapes in Wales at the 50th anniversary conference of the Snowdonia Society in October.

Fiona's book The Fight for Beauty was published by Oneworld Publications in 2016.

Y Moelwynion © Steve Lewis

1967 - 2017: Protecting and celebrating Snowdonia for 50 years | 7


50 mlynedd ac ymlaen

Hyrwyddo Eryri Syr Simon Jenkins Rydw i wedi byw efo Eryri ers fy mhlentyndod. Treuliwyd gwyliau ar lethrau Cader Idris, Aran Fawddwy a Diffwys. Fel plant byddem yn dadlau rhinweddau Cader yn hytrach na’r Wyddfa, ac o Eryri’n hytrach nag Ardal y Llynnoedd ac Ucheldir yr Alban. Cymru oedd ar y brig bob tro. Roeddem hefyd yn sylwi ar ecoleg gyfnewidiol y mynyddoedd. Yn ein hieuenctid byddem yn cerdded drwy laswellt bras, eithin, rhedyn a llus, gyda chymoedd o ddrain duon a derw. Roedd pysgotwyr i’w gweld ar lannau’r afonydd a safai pentrefi yng nghanol dolydd llaith. Heddiw mae llawer o Eryri’n wahanol iawn, yn wlad o ddiffeithdiroedd defaid a phlanhigfeydd coniffer, dim eogiaid yn ei hafonydd a melinau gwynt i’w gweld wrth edrych tua’r de. Erbyn hyn mae fy hoff daith gerdded, dros gyfrwy Tarren Hendre uwchben Abergynolwyn, wedi ei chau gan goed trwchus a thywyll. Yn fwy diweddar cafwyd newidiadau er gwell. Cwtogwyd ar y nifer o ddefaid, mae gwartheg duon wedi dychwelyd a phlannwyd rhywfaint o goed collddail. Rydw i’n synhwyro gwarchodaeth fwy sensitif o’r tirlun. Codwyd ambell i arwyddbost dewr yn yr ymdrech i sefydlu llwybr arfordir Cymru, er bod y llwybr weithiau’n anelwig a thro arall yn annog tresmasu anfwriadol. Yn gyffredinol, mae llwybrau Cymru’n parhau i fod yn anghyfeillgar i ymwelwyr, am resymau

sy’n ddirgelwch i mi. Yn peri mwy o bryder mae statws rheolaeth cynllunio yn y Parciau Cenedlaethol, testun papur gwyn rhyfeddol gan Lywodraeth Cymru, Adolygiad Tirluniau’r Dyfodol. Pryd bynnag y byddaf yn bleidiol i achos datganoli o Lundain i Gaerdydd rydw i’n cael fy llorio gan gyhoeddiad newydd gan Gynulliad Cymru. Wedi darllen y ddogfen hon, sydd i fod yn fath o weledigaeth dros rywfaint o dirlun harddaf gwledydd Prydain, roeddwn yn wylo am weld braich hir Llywodraeth Prydain yn dychwelyd. Mae’r ddogfen yn gymysgedd o ddyfyniadau, yn llawn o jargon a heb unrhyw ymwybyddiaeth amlwg mai cadwraeth tirlun yw’r pwnc. Mae hi’n ymddangos mai’r prif bwnc ydy datblygiad economaidd o’r math mwyaf hen ffasiwn. Bron iawn nad yw ucheldir Cymru yn ddim mwy na safleoedd maes-brown sy’n aros am eu diwydiannu. Anwybyddir pwrpas gwreiddiol y cysyniad o Barciau Cenedlaethol – gwarchod harddwch cefn gwlad. Yr awgrym ydy nad oes gan bobl Cymru unrhyw falchder yn eu gwlad, a’u bod yn fodlon gweld adeiladu’n digwydd dros Gymru wledig heb feini prawf penodol dros reolaeth datblygiad. Mae hi’n ymddangos bod yr un anharddu a welwyd yn digwydd yng nghymoedd de Cymru yn y ganrif ddiwethaf – lle mae diboblogi’n digwydd erbyn hyn – yn mynd

Llynnau Cregennen: Adlewyrchiad  Reflection © Mike Alexander

8 | Gwarchod a dathlu Eryri ers 50 mlynedd: 1967 - 2017

i ddigwydd hefyd ar dirlun i’r gogledd ohonyn nhw. Does dim dwywaith bod cadwraeth yn golygu cynllunio. Mae’r broblem eisoes yn amlwg yn Eryri. I unrhyw un sy’n gyfarwydd â rheolaeth gynllunio, yn Ardal y Llynnoedd dyweder neu’r Cotswolds, mae’r gymhariaeth gyda Chymru’n ddigalon. Roedd terfynau’r Parc gwreiddiol yn sinigaidd wrth wrthod unrhyw ardaloedd lle’r oedd posibilrwydd y byddai tirfeddianwyr yn dymuno adeiladu. Cafwyd felly leoli parciau carafanau a stadau o dai heb ystyriaeth cyd-destun esthetig o amgylch Tywyn, Llwyngwril a Harlech. Mae’r diffyg cynllunio islaw Castell Harlech yn codi cywilydd ac wedi difetha golygfeydd dros Fae Ceredigion o’r Parc Cenedlaethol. Mae’n rhaid wrth dwf hyd yn oed mewn Parciau Cenedlaethol ond yn sicr, dylai cyd-destun a statws y Parc ddylanwadu ar ei ffurf. Lle mae twf pentrefi’n briodol dylai fod yn organig, mewn arddull ac wrth ddefnyddio deunyddiau sy’n cydymffurfio ag iaith cynllunio Gymreig. Fel y mae, dydyn ni ddim yn cael pentrefi model, fel patrwm gwledig Ffrainc, ond ehangiad carafanau a sawl siale ar gyrion pentrefi. Mae dallineb o’r fath i gyd-destun ar ei fwyaf amlwg yn achos tyrbinau gwynt sydd erbyn hyn yn cripian ar draws ucheldir Cymru. Yn union fel y teimladau


50 years on cryf yn erbyn y Saeson oedd yn ‘dwyn dŵr Cymru’ yng nghanol yr 20fed ganrif, felly y dylid bod â theimladau cryf am ddwyn harddwch Cymru. Mae’r rhesi o felinau gwynt uwchben Carno a glannau uchaf yr Ystwyth wedi diwydiannu un o’r darnau mwyaf gwyllt o weundir yng Nghymru, gan dorri calonnau’r sawl a oedd yn eu hadnabod heb eu halogi. Er gwaethaf gallu’r peiriannu hyn i gynhyrchu ychydig o egni pan fo’r gwynt yn chwythu, mae eu hangen am allu wrth gefn yn sicrhau mai bychan iawn yw eu cyfraniad i leihad mewn cynhesu byd-eang. Mae’r syniad y bydd y peiriannau hyn rhyw ddydd yn sefyll mewn rhesi oddi ar y lan ar hyd ehangder hyfryd Bae Ceredigion yn fy llenwi â dychryn. Maen nhw’n awgrymu i ymwelwyr bod Cymru wedi colli’r gallu i weld ei hun yn y drych. Mae ansicrwydd enfawr dros warchod y tirlun yn siŵr o ddilyn Brexit. Mae’r tueddiad tuag at sybsideiddio mwynderau cadwraeth a hamdden yn hytrach na chynhyrchu bwyd yn debygol o gyflymu. Mae hynny’n newyddion da. Fodd bynnag, bydd yn dibynnu’n drwm ar awdurdodau Cymreig sy’n deall beth mae hyn yn ei olygu a’r ffordd orau o wireddu hyn drwy gyfrwng y gymuned amaethu bresennol. Beth bynnag arall sydd ei angen, bydd ucheldir Cymru’n parhau i ddibynnu ar

ffermwyr fel eu gwarchodwyr mwyaf dibynadwy a gwybodus. Yn fwy o broblem mae sut i sianelu pwysau twf. Mae tlodi Cymru’n ddirgelwch i’r sawl sy’n ei gweld o bellter. Nid yw wedi ei thorri i ffwrdd. Mae ei chefn gwlad o fewn pellter cymudo i lannau Merswy, y Canoldiroedd a chytrefi Caerdydd-Bryste. Does dim rheswm pam na ddylai fod mor gyfoethog â de ddwyrain wledig Lloegr, Dwyrain Anglia na’r Cotswolds. Mae ei threfi a’i phentrefi yn ddeniadol. Mae ei glannau’n hardd yn bennaf. Dylai gynnig croeso naturiol i ymwelwyr, y sawl sydd wedi ymddeol, cymodwyr sy’n teithio gryn bellter a gweithwyr ‘digidol’. Fe allai pob dogfen rydw i’n ei darllen ar dwf Cymru yn y dyfodol fod wedi ei hysgrifennu yn yr 1970au. Mae’n sôn am atffurfio diwydiant Cymru neu ddenu buddsoddiad o dramor, neu o gadw pobl ifanc yn y cymunedau lle’u magwyd. Fe’i hysgrifennwyd nid yn iaith twf ond atchwelyd. Nid yw Cymru’n mynd i fod fel ardal y Rhine i Brydain nag yn gartref diwygiedig i haearn neu ddur neu electroneg neu fiotechnoleg. Nid yw ei haddysg uwch a phellach yn gymwys ar gyfer hynny. Nid yw ei phobl ifanc yn mynd i aros adref pan fyddan nhw’n gweld y mwyaf disglair a’r gorau’n anelu

am gyfleoedd Lloegr. Serch hynny mae’r twf cyflymaf ym mhoblogaeth Cymru yn digwydd yng nghanolbarth gwledig Cymru a’r gogledd yn hytrach na Morgannwg. Dyma le mae’r economi gwasanaeth newydd yn cael ei denu gan gyfuniad o brisiau tai isel a thirlun rhyfeddol. Mae’n absẃrd, yn ogystal â gwahaniaethol, i wfftio pobl sy’n symud yma. Dyma’r bobl, llawer ohonyn nhw gyda gwreiddiau Cymreig, y mae goroesiad Cymreictod yn dibynnu arnyn nhw. Dyma’r bobl ddŵad yn hytrach na’r rhai sy’n gadael, a’r bobl sy’n dangos ffydd yn nyfodol Cymru, nid ei gorffennol. Mae’r bobl yma’n cael eu denu i Gymru’n benodol oherwydd eu bod yn gweld ei harddwch. Dyma’r bobl sydd fwyaf tebygol o droi eu cefnau arni pe baen nhw’n gweld Llywodraeth Cymru'n dinistrio’r harddwch hwnnw. Mae hen ddywediad yn bodoli bod diwylliant Cymru’n golygu’r hyn a glywir, yn hytrach na’r hyn a welir. Rydw i’n argyhoeddedig ei bod yn bryd i ni brofi hynny’n anghywir. Yn gyn-olygydd o’r Evening Standard a’r Times, mae Syr Simon Jenkins hefyd wedi gweithredu fel Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ar hyn o bryd mae’n golofnydd i’r Guardian.

1967 - 2017: Protecting and celebrating Snowdonia for 50 years | 9


50 mlynedd ac ymlaen

Championing Snowdonia Sir Simon Jenkins

I have lived with Snowdonia since childhood. Holidays were spent on the slopes of Cader Idris, Aran Fawddwy and Diffwys. As children we would debate the merits of Cader versus Snowdon, and later of Snowdonia versus the Lake District and the Highlands. We fiercely championed Wales. We also noted the mountains’ changing ecology. In our youth we walked through coarse grass, gorse, bracken and bilberry, with cwms of hawthorn and scrub oak. The rivers were lined with fishermen. Villages sat discreet in water meadows. Today much of Snowdonia is quite different, a land of sheep prairies and conifer plantations, its rivers empty of salmon and trout and views south punctuated by wind turbines. My once-favourite walk, over the Tarren Hendre saddle above Abergynolwyn, has long been blocked by dense, dark trees. More recently there have been changes for the better. There has been destocking of sheep, the return of black cattle and even some deciduous planting. I sense a more sensitive custodianship of the landscape. The attempt to install a Welsh coastal path has seen a few brave signposts go up, though the route is sometimes obscure and they can be an invitation to unintended trespass. Welsh footpaths remain universally hostile to strangers, for reasons that puzzle me.

uplands might be so many brown-field sites awaiting industrialisation. The original purpose of the National Park concept - to protect the loveliness of the countryside - is ignored. The implication is that the Welsh people have no pride in place, and would be happy to see rural Wales built over with no particular criteria of development control. The same ugliness that was inflicted on south Wales valleys in the last century - and now sees them depopulating - is apparently to be visited on landscape to their north. Conservation is about planning, there is no way round it. The problem is already apparent in Snowdonia. To anyone familiar with development control, say in the Lake District or the Cotswolds, the comparison with Snowdonia is depressing. The boundaries of the original Park were cynical in excluding any areas in which local landowners might want to build. Hence the location of caravan parks and housing estates with no thought of aesthetic context round Tywyn, Llwyngwril and Harlech. The absence of planning below Harlech Castle is embarrassing and has blighted views from the National Park

More concerning is the status of planning control in the National Parks, subject of an extraordinary white paper from Welsh Government, Future Landscapes Review. Whenever I plead the cause of devolution from London to Cardiff I am brought up sharp by some new emanation from the Welsh Assembly. This document, supposedly a vision for some of the loveliest landscape in the British Isles, had me crying for the return of the long arm of Whitehall. The document is a jumble of abstractions, crammed with jargon and with no apparent awareness that the subject is landscape conservation. It seems more concerned with economic development of the most old-fashioned sort. The Welsh

10 | Gwarchod a dathlu Eryri ers 50 mlynedd: 1967 - 2017

over Cardigan Bay. There has to be growth even in National Parks. But its form should surely be conditioned by context and Park status. Where villages are suitable for expansion it should be organic, in style and materials compatible with the language of Welsh design. As it is, we get not model villages, as on the French rural pattern, but caravan and chalet sprawl on village outskirts. Such blindness to context is most vivid in the case of wind turbines, now creeping steadily across the Welsh uplands. Just as Wales in the mid-20th century raged over the English ‘stealing Welsh water’, so it should rage over the theft of Welsh beauty. The arrays above Carno and the upper Ystwyth have industrialised one of the wildest stretches of moorland in Wales, heart-breaking to those who knew them in their pristine state. Despite the ability of these machines to generate a little energy when the wind is blowing, their need for standby capacity makes their contribution to a reduction in global warming trivial. The idea that these machines may one day stand in ranks offshore across the glorious expanse of Cader Idris © APCE/SNPA


50 years on

Cardigan Bay fills me with dismay. They suggest to visitors that Wales has lost the ability to see itself in the mirror. Huge uncertainties over landscape guardianship are sure to follow Brexit. The trend towards subsidising conservation and landscape amenity rather than food production is likely to accelerate. That is good news. However, it will depend heavily on Welsh authorities understanding what this means, and on how it can best be achieved through the existing farming community. Whatever else is needed, the Welsh uplands will continue to depend on farmers as their most reliable and knowledgeable custodians. More problematic is how to channel the pressures of growth. Wales’s poverty is a mystery to those who view it from a distance. It is not cut off. Its countryside is within commuting distance of Merseyside, the Midlands and the CardiffBristol conurbations. There is no reason why it should not be as prosperous as

the rural south east of England, East Anglia or the Cotswolds. Its towns and villages are attractive. Its coastline is still mostly beautiful. It should offer a natural welcome for holiday-makers, the retired, and long-distance and ‘digital’ commuters. Every document I read on Wales’s future growth might have been written in the 1970s. It talks of regenerating Welsh industry or attracting overseas investment, or of keeping young people in the communities where they grew up. It is the language not of growth but of regression. Wales is not going to be the Rhineland of Britain or the revived home of iron and steel or of electronics or biotech. Its higher and further education is not up to that scratch. Its young are not going to stay at home, when they see the brightest and best heading for the opportunities of England. Yet already the fastest population growth in Wales is not in Glamorgan but in rural mid-Wales and the north. It is where the

new service economy is being drawn by a combination of low house prices and spectacular landscape. It is absurd, as well as discriminatory, for nationalism to deplore newcomers. These are the people, many of Welsh origin, on whom the survival of Welshness depends. They are the comers not the leavers, the people who are showing faith in Wales’s future, not its past. These people are attracted to Wales specifically because they find it beautiful. They are the ones most likely to turn their backs on it if they see the Welsh Government destroying that beauty. There is an old saying that Welsh culture is about ears not eyes. Now is surely the time to prove it wrong. A former editor of the Evening Standard and the Times, Sir Simon Jenkins has also served as Chairman of the National Trust. He is currently a columnist for the Guardian.

Llyn Cau © Mike Alexander

1967 - 2017: Protecting and celebrating Snowdonia for 50 years | 11


50 mlynedd ac ymlaen

Rhagofal cyntaf potsian deallus Diweddariad ymgyrchoedd John Harold Amlygir gwir enghraifft o anwybodaeth pan glywir rhywun yn gofyn am anifail neu blanhigyn, “I be mae o’n da?”. Os yw mecanwaith y tir fel cyfanrwydd yn dda, yna mae pob darn yn dda, boed i ni ei ddeall ai peidio. Os yw’r biota, drwy gydol yr oesau, wedi creu rhywbeth yr ydym yn hoff ohono ond nad ydym yn ei ddeall, pwy ond ffŵl fyddai’n cael gwared â rhannau sy’n ymddangos yn ddiwerth? Rhagofal cyntaf potsian deallus yw cadw pob cocsyn ac olwyn. Aldo Leopold Mae esblygiad Parciau Cenedlaethol yn yr ynysoedd hyn yn pontio tair cenhedlaeth. Erbyn hyn mae gan bob un ohonom straeon am y tirluniau rhagorol yma, a’n hatgofion ein hunain am bobl, lleoedd, byd natur a phrofiadau. Mae hi wedi bod yn daith hir felly beth am gymryd hoe fach i ystyried yr hyn a ddysgwyd gennym ar hyd y ffordd?

• 2004 Adolygiad Llywodraeth Cynulliad Cymru • 2007 Datganiad Polisi Llywodraeth Cynulliad Cymru • 2013 Datganiad Polisi drafft dros Dirluniau Gwarchodedig Cymru • 2013 Comisiwn Williams ar Reoli a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae pob un o’r adolygiadau yma wedi ystyried y darpariaethau presennol ac wedi cynnig gwelliannau i ddeddfwriaeth, polisi a rheolaeth. Roeddem yn disgwyl y byddai gwaith mwyaf diweddar Llywodraeth Cymru ar dirluniau dynodedig yn parhau i adeiladu ar bron i 70 mlynedd o brofiad.

Mae Parciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) wedi eu hadolygu sawl gwaith ers eu sefydlu yn yr 1950au:

Ers 2014 mae Cymdeithas Eryri wedi gweithio i godi ymwybyddiaeth am ddau adolygiad pellach o dirluniau dynodedig a gomisiynwyd y naill ar ôl y llall gan Lywodraeth Cymru. Cyfrannodd y Gymdeithas i’r adolygiad cynhwysfawr o dan arweiniad yr Athro Terry Marsden, yn seiliedig ar ymgynghoriad eang a thystiolaeth ac yn cynnig argymhellion manwl wedi eu strwythuro.

• 1970au Pwyllgor Sandford • 1990au Adroddiad Edwards

Mewn cyferbyniad ychydig o gyfle a gawsom i gyfrannu i raglen Tirweddau’r

12 | Gwarchod a dathlu Eryri ers 50 mlynedd: 1967 - 2017

Dyfodol yng Nghymru; digwyddodd y broses o’i llunio y tu ôl i ddrysau caeëdig. Y gorchwyl a roddwyd i Dirweddau’r Dyfodol oedd datblygu argymhellion Marsden, ond wrth iddo fynd ar gyfeiliorn rydym wedi dod yn fwyfwy pryderus am ei gyfeiriad, y broses, a’r allbwn.

Beth sydd o’i le gyda Thirweddau’r Dyfodol yng Nghymru? Mae adroddiad Tirweddau’r Dyfodol yng Nghymru yn cychwyn ar y trywydd cywir drwy atgyfnerthu’r egwyddor bod tirluniau eiconig Cymru, yn cynnwys Parciau Cenedlaethol ac AHNE, yn asedau cenedlaethol sydd angen gwarchodaeth a gofal penodol. Hefyd i’w gymeradwyo mae’r pwyslais ar gydweithio mewn partneriaeth a chydweithredu ym mhroses Tirweddau’r Dyfodol yng Nghymru. Yn anffodus mae’r adroddiad ei hun wedi ei ysgrifennu’n sâl iawn ac mae’n methu â darparu argymhellion clir ac eglur. Mae’r defnydd eang o eirfa ddyrys yn golygu ei bod yn bosibl dehongli llawer o’r adroddiad mewn amryw o ffyrdd. Does dim sôn am lawer o argymhellion adroddiad Marsden 2015, er bod y grŵp

Ar draws Llyn Idwal Across Llyn Idwal © Russ Williams


50 years on gweithio wedi ei benodi â’r gorchwyl o ystyried y rhain. Roedd argymhellion Marsden yn ganlyniad i ymgynghoriaeth eang, gwerthuso systemataidd ac adrodd strwythuredig a rhesymegol. Maen nhw’n cynnig amlinelliad clir o sut y gellir bwrw ymlaen â rheolaeth gynaliadwy mewn tirluniau dynodedig.

Proses Tirweddau’r Dyfodol yng Nghymru Mae rhaglen Tirweddau’r Dyfodol yng Nghymru wedi ei disgrifio gan Lywodraeth Cymru fel un hynod o gydweithredol, gyda rhan lawn gan bartneriaid a rhanddalwyr er mwyn creu ymddiriedaeth a chonsensws wrth gyhoeddi adroddiad ar ran llawer o’r cyrff cyfrannol. Ni all y realiti fod yn fwy gwahanol. Mae’r sawl fu’n cymryd rhan o ystod o gyrff wedi adrodd:

• cam-gyfleu penderfyniadau ac anwybyddu safbwynt y sawl oedd yn cymryd rhan yn fersiwn drafft a fersiwn derfynol yr Adroddiad • yn aml nid oedd cofnodion cyfarfodydd ar gael felly nid oedd cofnod o’r hyn a drafodwyd ac a gytunwyd gan y rhai oedd yn cymryd rhan • cynhyrchwyd adrannau mawr o’r adroddiad gan weision sifil yn unig heb gyfle i’r sawl fu’n cymryd rhan wneud newidiadau • proses ddwys ac wedi ei rheoli, yn wahanol iawn i’r broses gydweithredol a llawn ymddiriedaeth a ragwelwyd gan Weinidogion • dim proses ar gyfer cytuno cyfnod arwyddo’r adroddiad terfynol, gydag amryw o’r cyrff fu’n cymryd rhan ddim yn ei arwyddo a chais wedi ei wneud i eraill beidio â’i arwyddo • dim mecanwaith ar gyfer cyflwyno barn neu benderfyniadau lle na chafwyd consensws • dim cynrychiolaeth gan grwpiau defnydd ar gyfer hamdden neu fynediad, bwlch eithriadol o bwysig o ystyried ail bwrpas Parciau Cenedlaethol (mwynhad y cyhoedd) a diddordeb y cyhoedd mewn mynediad i dirluniau dynodedig.

Adroddiad Tirweddau’r Dyfodol yng Nghymru Mae bylchau rhyfedd yn adroddiad Tirweddau’r Dyfodol yng Nghymru a’r mwyaf dychrynllyd yw’r diffyg sylfaenol i warchod harddwch naturiol a

Y ffordd ymlaen

bioamrywiaeth. Dyma un rheswm pam na all cyrff gwarchodaeth fu’n cymryd rhan ym mhroses Tirweddau’r Dyfodol yng Nghymru gefnogi’r adroddiad.

Mae angen dychwelyd i argymhellion adroddiad Marsden a gwneud defnydd priodol ohonyn nhw. Roedden nhw’n gynnyrch ymgynghoriad eang, gwerthuso systemataidd ac adrodd strwythuredig a synhwyrol, ac maen nhw’n cynnig ffordd amlwg ymlaen ynglŷn â sut y gellir bwrw ymlaen â rheolaeth gynaliadwy o adnoddau naturiol mewn tirluniau dynodedig.

Mae Egwyddor Sandford yn biler sylfaenol Parciau Cenedlaethol ac mae’n darparu blaenoriaeth ddeddfwriaethol ar gyfer pwrpas cyntaf Parciau Cenedlaethol (gwarchodaeth) mewn achosion o wrthdaro gyda’r ail bwrpas (mwynhad y cyhoedd) na ellir eu datrys. Cymeradwywyd Egwyddor Sandford gan Lywodraeth Cymru mor ddiweddar â 2103 ac roedd yn ffactor arwyddocaol ym mhenderfyniad yr International Union for Conservation of Nature (IUCN) i barhau i gydnabod Parciau Cenedlaethol ac AHNE fel mannau gwarchodedig Categori V.

Mae llawer o waith i’w wneud gyda’n gilydd i godi pontydd rhwng y system o ddeddfwriaeth sefydledig a’r cyfleoedd a gynigir o bosibl gan ddull newydd o weithredu yn seiliedig ar reolaeth gynaliadwy o adnoddau naturiol wrth iddo ddatblygu ac aeddfedu.

Cymeradwywyd tri phwrpas cysylltiedig ar gyfer Parciau Cenedlaethol ac AHNE gan adroddiad Marsden, ac y dylid gweithredu Egwyddor Sandford ledled pob tirlun dynodedig, gan gadarnhau mai’r prif bwrpas yw gwarchodaeth.

Mae’n rhaid i bobl weld bod y dull ‘rheolaeth gynaliadwy’ yn gwarchod nodweddion sy’n cael eu gwerthfawrogi’n fawr gan y cyhoedd, heb i’r nodweddion hynny o anghenraid fod ag unrhyw werth ariannol penodol.

Mae’r diffyg sôn am argymhelliad adroddiad Marsden i ail-gadarnhau, atgyfnerthu, ac ymestyn Egwyddor Sandford o fewn cyd-destun tri phwrpas rhyng-gysylltiol yn ddiffyg arwyddocaol.

Mae angen mwy o eglurder a chywirdeb ar lawer o gynnwys adroddiad Tirweddau’r Dyfodol yng Nghymru, ochr yn ochr ag adnewyddiad o’r broses i sicrhau gwir gydweithredu ac eglurder, ac ymrwymiad i benderfynu ar ganlyniadau ar y cyd.

Mae Panel Asesiad IUCN y DU, Comisiwn y Byd ar Ardaloedd Gwarchodedig, wedi mynegi pryderon cryf am adroddiad Tirweddau’r Dyfodol yng Nghymru, yn cynnwys y methiant llwyr i drafod Egwyddor Sandford.

Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru

Ym mis Mehefin cyhoeddwyd ymgynghoriad ar Fwrw Ymlaen â Rheolaeth Gynaliadwy o Adnoddau Naturiol, sy’n cynnwys cynigion o adroddiad Tirweddau’r Barn Panel yr IUCN oedd, pe bai Dyfodol yng Nghymru, ac mae’n cau ar argymhellion adroddiad Tirweddau’r 30 Medi. Os ydych chi’n ei ddarllen cyn y dyddiad yma, cofiwch ymateb. Os ydych Dyfodol yng Nghymru yn cael Cyfleu a w wedi ysgrifennu i ymateb i’r n gweithredu, y byddai hyn yn ei gwneud ichi droeisoes Yr a s Gym hwnnw, diolch i chi; byddwn Eithrdiaolygiad o ymgynghoriad yn amhosibl parhau i roi cydnabyddiaeth ru dol a Ardalo P ed llwyddo i wneud ein gwaith. ryngwladol i Barciau CenedlaetholMac AHNE harciawedi u d o Ha

Tirwe ddau ’r Dyf odol: Cene

dlaetrddwch N hol yn aturio g Ngh l Cyfle Llywodraeth ymru

ai 20

17 Cymru fel mannau gwarchodedig. Mae’n cymeradwyo, pe bai Cymru’n dymuno cynnal a chryfhau’r gydnabyddiaeth ryngwladol a ddynodir ar hyn o bryd i’r mannau hyn, y dylai Llywodraeth Cymru seilio polisi yn y dyfodol ar yr argymhellion a ddatblygwyd yn adroddiad Marsden.

Nid oes sail resymegol wedi ei rhoi ynglŷn â pham y teimlir nad oes lle i Egwyddor Sandford mewn cyfres o egwyddorion parthed rheolaeth adnoddau naturiol. Mae’n bosib y bydd y risgiau o symud oddi wrth fframwaith cyfunol a gwydn sydd â therfyn polisi sefydledig i rywbeth mor amhendant yn eithriadol o ddifrifol. © Ha

wlfra

int y

Goron

2017

WG30

197

ISBN

Digido

l: 97

8 1 47

Cymru i ddangos bod Parciau Cenedlaethol mewn dwylo diogel

34 95

21 0

Wedi degawdau o esblygiad cawn ein hunain mewn sefyllfa lle’r ydym yn gofyn i Lywodraeth Cymru gamu’n ôl o’r dibyn a dangos na fyddan nhw’n rhannu teulu’r Parciau Cenedlaethol. Mae statws rhyngwladol tirluniau dynodedig Cymru mewn perygl heb sôn am eu harddwch a’u bioamrywiaeth. Gofynnwn i Lywodraeth Cymru gydnabod bod angen yr holl rannau gweithredol ar yr arfau sy’n gwarchod ein hamgylchedd os ydyn nhw’n mynd i fod yn effeithiol.

1967 - 2017: Protecting and celebrating Snowdonia for 50 years | 13


"The last word in ignorance is the man who says of an animal or plant, "What good is it?". If the land mechanism as a whole is good, then every part is good, whether we understand it or not. If the biota, in the course of aeons, has built something we like but do not understand, then who but a fool would discard seemingly useless parts? To keep every cog and wheel is the first precaution of intelligent tinkering." Aldo Leopold

The first precaution of intelligent tinkering Campaigns update

John Harold

The evolution of National Parks in these islands spans three generations. By now we all have stories set in these exceptional landscapes, our own memorable encounters with people, places, nature and experience. It’s been a long journey so let’s take a moment to get our bearings and consider what we’ve learned along the way. National Parks and Areas of Outstanding Natural Beauty (AONBs) have been reviewed several times since they were established in the 1950s: • 1970s Sandford Committee • 1990s Edwards Report • 2004 Welsh Assembly Government review • 2007 Welsh Assembly Government Policy Statement • 2013 Welsh Government draft Policy Statement for Protected Landscapes in Wales • 2013 Williams Commission on Public Service Governance and Delivery. Each of these reviews has considered the current provisions and recommended improvements to legislation, policy and management. We expected Welsh Government’s most recent work on designated landscapes to continue to build on nearly 70 years of experience. Since 2014 the Snowdonia Society has worked to raise awareness of two further reviews of designated landscapes commissioned in succession by Welsh Government. We contributed to the comprehensive review led by Professor Terry Marsden, based on wide consultation and evidence and offering detailed structured recommendations. By contrast we have had little opportunity to contribute to the Future Landscapes Wales programme, whose process has taken place behind closed doors. Future Landscapes was given a remit to develop Marsden’s recommendations, but as it has veered off course we have become increasingly concerned at its direction, process, and output.

What’s wrong with Future Landscapes Wales? The Future Landscapes Wales report begins well enough, by endorsing the principle that Wales’s iconic landscapes, including National Parks and AONBs, are national assets which need safeguarding and require specific stewardship. Similarly laudable is the emphasis on partnership working and collaboration in the Future Landscapes Wales process. Unfortunately the report itself is very poorly written and fails to provide clear and unambiguous recommendations. The wide use of abstruse language means that much of the report is open to multiple interpretations. Afon Glaslyn © Nicholas Livesey

14 | Gwarchod a dathlu Eryri ers 50 mlynedd: 1967 - 2017


50 YEARS ON There is no trace of many of the recommendations of the 2015 Marsden report, despite the working group being explicitly tasked with considering these. The Marsden recommendations were the product of wide consultation, systematic evaluation and structured, logical reporting. They offer a clear outline of how the sustainable management of natural resources can be taken forward in designated landscapes.

Future Landscapes Wales process The Future Landscapes Wales programme has been described by Welsh Government as highly collaborative, with full involvement of partners and stakeholders so as to build trust and consensus in publishing a report on behalf of the many contributing organisations. The reality could hardly be more different. Participants from a range of organisations have reported: • misrepresentation of decisions and omission of the views of participants in both draft and final versions of the Report • minutes of meetings were often lacking so there was no record of what was discussed and agreed by participants • large sections of the report were produced solely by civil servants with no opportunity for participants to make amendments • a tense and controlling process, which was far from the collaborative, trust-building approach envisaged by Ministers • no process for agreeing sign-off on the report, with several participating organisations not signing it off and others not asked to sign • no mechanism to present views or decisions on which there was no consensus • no representation from recreational user groups or access organisations, a major omission given the second National Park purpose (public enjoyment) and public interest in access in designated landscapes.

and biodiversity. This is one reason why conservation organisations involved in the Future Landscapes Wales process are unable to support the report. The Sandford Principle is a fundamental pillar of National Parks and provides legislative priority for the first National Park purpose (conservation) in cases of irreconcilable conflict with the second purpose (public enjoyment). The Sandford Principle was endorsed by the Welsh Government as recently as 2013 and was a significant factor in the International Union for Conservation of Nature's (IUCN) decision to continue to recognise National Parks and AONBs as Category V protected areas. The Marsden report recommended three interlocking purposes for National Parks and AONBs and that the Sandford Principle should be applied across all designated landscapes, confirming the primacy of the conservation purpose.

The Future Landscapes Wales report suffers from some baffling omissions of which the most startling is the lack of an ultimate safeguard for natural beauty

There is a need to return to and make proper use of the Marsden report’s recommendations, which were the product of wide consultation, systematic evaluation and structured, logical reporting, and offer a clear way forward on how the sustainable management of natural resources can be taken forward in designated landscapes. There is much work to be done, collectively, to build bridges between the well-tested language of established legislation and the opportunities which a new approach based on the sustainable management of natural resources may be able to offer as it develops and matures. The ‘sustainable management’ approach needs to be seen to protect features and characteristics which society values highly, without those features necessarily having a defined monetary value.

The lack of any mention of the Marsden report’s recommendation to reaffirm, strengthen and extend the Sandford Principle within the context of three interlocking purposes is a significant oversight.

Greater clarity and precision is needed on much of the content of the Future Landscapes Wales report, accompanied by a reboot of the process to ensure genuine collaboration and transparency, and a commitment to shared outcomes.

The IUCN UK Assessment Panel of the World Commission on Protected Areas has expressed deep reservations about the Future Landscapes Wales report, including the absence of any mention of the Sandford Principle.

Welsh Government consultation

A consultation on Taking Forward Wales’s Sustainable Management of Natural Resources, which includes proposals from the Future Landscapes Wales report, was published in June and closes on The IUCN Panel has concluded that, if 30th September. If you are reading this acted upon, the recommendations in before that date, please respond. If you eliver have already written in response to that the Future Landscapes Wales D report inconsultation, g for W thank you; we will have The would make it impossible to continue BeauReview of succeeded alinesdoing our job. t A rea to accord international recognitiony anto d

Futur e

Land

scape

s:

Natio s of Ou nal Pa tstan May rks in ding N AONBs as 2017 Wale to ashow A chance tural s

Wales’s National Parks and protected areas. It recommends that if Wales desires to maintain and strengthen the international recognition currently accorded to these areas, the Welsh Government should base future policy on the recommendations developed in the Marsden report.

No rationale has been provided as to why there is felt to be no place for the Sandford Principle in a set of principles of natural resource management. The risks of moving away from a coherent, robust framework with an established policy back-stop to something so undefined are potentially extremely serious. © Cr own ’r dd ogfe copyright n ym 2017 a he fyd ar W gael G30197 yn G ym

Mae

Future Landscapes Wales report

The way forward

raeg

that National Parks are in safe hands

After decades of evolution we find ourselves asking Welsh Government to step back from the edge and demonstrate that it will not break up the National Park family. The international status of designated landscapes in Wales is at stake not to mention their beauty and biodiversity. We ask Welsh Government to recognise that the tools which protect our environment need all their working parts if they are to be effective.

Digita l / This ISBN: 97 8 1 47 docu 34 95 men t is al 20 3 so av ailabl e in

Welsh

.

1967 - 2017: Protecting and celebrating Snowdonia for 50 years | 15


50 MLYNEDD AC YMLAEN

Cadwraeth ymarferol ar waith Mary-Kate Jones Rhaglen wirfoddoli yn mynd o nerth i nerth

Weston, Rhodd Eryri ac Ymddiriedolaeth Eryri Esmé Kirby.

Ers 50 mlynedd, mae ein gwirfoddolwyr wedi gweithio’n ddygn i gadw Eryri’n lle arbennig. Beth bynnag fo’r tywydd neu’r adeg o’r flwyddyn, mae ein gwirfoddolwyr yno bob amser, yn barod i gasglu sbwriel, difa jac-y-neidiwr neu godi ffens. Mae ein project i wirfoddolwyr wedi datblygu’n sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf ac mae gwaith ymarferol yn cael ei gyflawni ar raddfa fwy a mwy strategol nag erioed o’r blaen – gweithiodd ein gwirfoddolwyr y swm anhygoel o 3,500 awr yn 2016!

Ein gwaith ar yr Wyddfa

Dros y pum mlynedd nesaf mae Cymdeithas Eryri yn buddsoddi £10,000 ychwanegol bob blwyddyn mewn gwaith cadwraeth ymarferol gan wirfoddolwyr. Mae’r buddsoddiad hwn yn dangos yr ymrwymiad cadarn i’r rhan yma o’n gwaith a bydd yn ein galluogi i gynllunio ein rhaglen waith ymarferol a hyfforddiant dros y tymor hir. Rydym yn cydweithio gydag ystod eang o bartneriaid yn cynnwys Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru, Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Cyfoeth Naturiol Cymru a chanolfannau cadwraeth lleol. Mae ein gwaith yn bosibl diolch i’n noddwyr, sydd ar hyn o bryd yn cynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, Sefydliad Garfield

16 | Gwarchod a dathlu Eryri ers 50 mlynedd: 1967 - 2017

Gyda chymaint â 600,000 o bobl yn ymweld â’r Wyddfa bob blwyddyn, mae angen cymorth ar y mynydd eiconig hwn, fel yr amlygir yng Nghynllun newydd Partneriaeth Eryri. Mae gwaith ein gwirfoddolwyr yn bwydo’n uniongyrchol i Gynllun Partneriaeth Eryri gyda’r nod o sicrhau bod llwybrau a thirlun Yr Wyddfa yn ddiogel i bawb eu mwynhau. Ar yr un pryd bydd ein cynefinoedd pwysig ar yr ucheldir yn cael eu gwarchod. Pob blwyddyn mae ein gwirfoddolwyr yn cydweithio gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, y darparwyr gweithgareddau mynydd lleol Raw Adventures, Gwir Her y 3 Chopa a Rheilffordd Fynydd yr Wyddfa i fynd i’r afael â’r problemau yma. Ar ôl gwisgo eu dillad glaw a’u hesgidiau cerdded i ffwrdd â nhw i grwydro’r llethrau’n casglu sbwriel, clirio ffosydd a chwalu carneddi. Rhywogaethau ymledol – problem gynyddol Rhywogaethau sy’n tyfu’n lleol ond nad ydyn nhw’n frodorol yw rhywogaethau ymledol anfrodorol ond maen nhw’n ymledu’n gyflym iawn dros arwynebedd enfawr; maen nhw’n broblem anferth ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Er mai Rhododendron ponticum a jac-y-neidiwr yw’r prif rywogaethau ymledol y mae ein gwirfoddolwyr yn mynd i’r afael â nhw, mae ein gwirfoddolwyr hefyd wedi helpu i reoli coed coniffer ifanc, bambŵ ac asalea melyn ymledol!

Gwaith llwybr ar Lôn Gwyrfai, Wythnos Wirfoddoli Mehefin 2017, a phawb yn cwblhau’r uned Sgiliau Cadwraeth Ymarferol. Volunteers undertake footpath work on Lôn Gwyrfai, Volunteer Week June 2017, all completing the Practical Conservation Skills unit.


50 YEARS ON

Jac-y-neidiwr Planhigyn blynyddol yw jac-y-neidiwr (Impatiens glandulifera) sy’n gwasgaru ei hadau’n gyflym iawn, yn enwedig pan fydd yn tyfu ar lan afon gan fod y dŵr yn cludo ei hadau gyda’r llif. O fewn ychydig o flynyddoedd, fe all orchuddio llecyn cyfan ac arglwyddiaethu dros rywogaethau brodorol, gan adael glannau afon yn foel ac yn debygol o gael eu herydu wrth i’r planhigyn farw’n ôl dros y gaeaf.

Cynydd yn nifer y dyddiau gwaith a hyfforddiant ers 2013 Increase in the number of workdays and training since 2013 35

Nifer diwrnodau gwaith  Number of workdays

O fewn ein project, rydym yn chwilio am fudd tymor hir drwy gyfrannu i brojectau strategol mawr lle mae sawl corff yn gweithio tuag at yr un nod.

Wrth weithio gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, mae ein gwirfoddolwyr yn cyfrannu at ddull strategol o weithio i fynd i’r afael â jac-y-neidiwr mewn un ardal: ar lannau Llyn Tegid, y Bala. Sawl blwyddyn yn ddiweddarach, ac ar ôl cynnal dyddiau gwaith blynyddol, ychydig iawn o jac-y-neidiwr sydd i’w weld ar lan Llyn Tegid, ac mae hi’n haws rheoli’r hyn sydd ar ôl. Isod mae neges gan Bill Taylor, Warden Parc Cenedlaethol Eryri.

30

25

20

15

10

5

0

Rhywogaethau ymledol Invasive species

Llwybrau a sbwriel Footpath & litter

2013-14

Rheoli cynefinoedd eraill Other habitat management

Hyfforddiant Training

2016-17

Map gwres yn dangos sbwriel wedi ei gasglu, Llwybr y Mynwyr, Awst 2016 Heat map of litter collected on the Miners' Track, August 2016

“Dros yr ychydig o flynyddoedd diwethaf, rydw i wedi cael y fraint o weithio ochr yn ochr ag aelodau amrywiol o staff a gwirfoddolwyr Cymdeithas Eryri. “Wrth weithio gyda’n gilydd i reoli jac-y-neidiwr ar lan Llyn Tegid a’i afonydd ochr rydym wedi bod yn llwyddiannus iawn, i ddweud y lleiaf. Mae ein hymdrechion yn pwysleisio unwaith eto pwysigrwydd y gwaith hwn er mwyn lleihau lledaeniad y planhigyn i lawr yr afon, ac yn anogaeth i’r grwpiau hynny sy’n mynd i’r afael â jac-y-neidiwr ar rannau isaf yr afon Ddyfrdwy. “Llawer o ddiolch, Cymdeithas Eryri, rydych yn wir haeddu clod!” Hyfforddi gwirfoddolwyr Mae’r ystod o gyrsiau hyfforddiant a gynigir gennym wedi datblygu ac ehangu. Rydym wedi cynnig ystod o gyrsiau a digwyddiadau

hyfforddi megis adnabod gwyfynod, cadw gwenyn i ddechreuwyr, dyddiau arolygu mamoliaid ac amrywiol gyrsiau ar adnabod planhigion. I ddathlu ein penblwydd yn 50, lansiwyd ein huned achredu cyntaf mewn Sgiliau Cadwraeth Ymarferol yn 2017. Mynychodd gwirfoddolwyr ddyddiau gwaith gan gadw cofnod ysgrifenedig o’r hyn a ddysgwyd ganddyn nhw a’r hyn a brofwyd. Yna, gellir achredu’r gwaith hwn ac mae’r sawl sy’n cymryd rhan yn derbyn tystysgrif yn dangos eu cyrhaeddiad. Dyma ffordd ardderchog o arddangos medrau cadwraeth ymarferol yn ogystal â medrau cyflogaeth allweddol eraill. Ar hyn o bryd rydym yng nghyfnod peilot yr uned hon, ond mae hi wedi derbyn cryn gefnogaeth ac rydym yn edrych ymlaen at ei gweld yn datblygu yn y dyfodol, yn ogystal ag unedau eraill. Mae’n ddull defnyddiol o ychwanegu gwerth at y profiad o wirfoddoli ac i roi rhywbeth yn ôl i wirfoddolwyr sy’n helpu i gadw Eryri’n arbennig. Edrych tua’r dyfodol

Wrth edrych tua’r dyfodol, bydd gwaith ein gwirfoddolwyr yn parhau i dyfu ac yn bwydo i’n gwaith mewn partneriaeth ledled Eryri. Mae’r gofyn am ein gwasanaethau gwirfoddol yn ehangu o flwyddyn i flwyddyn. Rydym yn edrych ymlaen at gyfrannu’n sylweddol at waith Partneriaeth Eryri, project Partneriaeth Tirlun y Carneddau a phrojectau eraill. Byddwn yn parhau i roi gorchwylion hanfodol ar waith megis cynnal llwybrau a chasglu sbwriel ond byddwn hefyd yn ehangu ein gweithdai i gynnwys gorchwylion newydd a chyffrous, a byddwn yn datblygu ac yn ehangu ein hyfforddiant achrededig fel ein bod yn sicrhau profiad gwerthfawr i’n gwirfoddolwyr. Felly gwyliwch y gofod yma! Diolch enfawr i bob un o’n gwirfoddolwyr, cefnogwyr a phartneriaid am sicrhau mai blwyddyn ein pen-blwydd yn 50 oedd y fwyaf gyffrous a llwyddiannus eto!

1967 - 2017: Protecting and celebrating Snowdonia for 50 years | 17


50 MLYNEDD AC YMLAEN

Practical Conservation in Action Mary-Kate Jones

Volunteer programme goes from strength to strength For 50 years, our volunteers have worked hard to help keep Snowdonia special. Whatever the weather or the time of year, our volunteers are always there, tools at the ready, to pick up litter, bash some balsam or build a fence. Our volunteer project has grown significantly in recent years and practical work is now being completed on a larger and more strategic scale than ever before – our volunteers worked a massive 3,500 hours in 2016! For the next five years the Snowdonia Society is investing an extra £10,000 per year into practical volunteer-based conservation work. This investment demonstrates strong commitment to this aspect of our work and will allow longer-term planning of our practical work and training programme. We work with a wide range of partners including Snowdonia National Park Authority, North Wales Wildlife Trust, National Trust, Natural Resources Wales and local conservation centres. Practical work varies considerably and includes scrub clearance, pulling up conifer regeneration, tree planting and wildlife surveys - our diverse group of volunteers are always ready to muck in wherever help is needed. Our work is possible thanks to our funders, which at present include Natural Resources Wales, Garfield Weston Foundation, Snowdonia Giving and the Esmé Kirby Snowdonia Trust. Our work on Snowdon With just under 600,000 people visiting Snowdon each year, this iconic mountain definitely needs some TLC - as highlighted in the new Snowdon Partnership Plan. The work of our volunteers feeds directly into the Snowdon Partnership Plan with the aim of making Snowdon’s footpaths and landscape safe and enjoyable for everyone – whilst still protecting our important upland habitats. Every year our volunteers work with Snowdonia National Park Authority, local mountain activity providers Raw Adventures, the Real 3 Peaks Challenge and Snowdon

18 | Gwarchod a dathlu Eryri ers 50 mlynedd: 1967 - 2017

Mountain Railway to combat these problems. They don waterproofs and walking boots and take to the slopes to pick up litter, clear culverts and dismantle cairns. Invasive species: a growing problem Invasive non-native species are species which are not naturally found locally but very quickly take over vast areas; they are a huge problem in Snowdonia National Park. While the main invasive species our volunteers work with are Rhododendron ponticum and Himalayan balsam, they have helped to control invasive conifer saplings, bamboo and yellow azalea too! Within our project, we look for long term benefits by contributing to large strategic projects where multiple organisations work towards one goal. Himalayan balsam Himalayan balsam (Impatiens glandulifera) is an annual plant which spreads its seeds very quickly, particularly when it is near a river, as the water carries the seeds downstream. Within a few years, it can completely take over an area, out-competing native species and leaving river banks bare and prone to erosion when it dies back in the winter. Working with Snowdonia National Park Authority, our volunteers contribute to a strategic approach to tackling balsam in one area: around Llyn Tegid, Bala. Several years on, and with annual workdays, there is very little balsam to be found around Llyn Tegid, and what is there is more easily controlled. Below is a


50 YEARS ON message from Bill Taylor, Snowdonia National Park Warden. “Over the past several years, I have had the privilege of working alongside various Snowdonia Society staff and volunteers. Our joint working in controlling Himalayan balsam at Llyn Tegid and its tributaries has proven to be very successful to say the least. Our efforts highlight yet again the importance of this work in reducing further downstream spread and are an encouragement to those groups dealing with Himalayan balsam on the lower sections of the River Dee. Many thanks Snowdonia Society, it’s a credit to you all!” Volunteer Training The range of training courses we offer has grown and diversified. We have offered a range of courses and training events such as moth ID, bee-keeping for beginners, mammal survey days and various plant identification courses. To celebrate our 50th anniversary, in 2017 we have launched our first accredited unit in Practical Conservation Skills. Volunteers attend workdays and keep a written record of what they have learned and experienced. This work can then be accredited and participants receive a certificate demonstrating their attainment. This is an excellent way to demonstrate practical conservation skills as well as other key employability skills. We are currently in the pilot phase of this unit, but it has been well received

and we are looking forward to seeing it and other units grow in the future. It is a useful way to add value to the volunteering experience and to give something back to volunteers who help keep Snowdonia special. Looking to the Future Looking to the future, the work of our volunteers will continue to grow and feed into our work in partnership across Snowdonia. The demands for our volunteers’ services continue to grow year on year. We look forward to contributing significantly to the work of the Snowdon Partnership, the Carneddau Landscape Partnership project and other projects. We will continue to carry out essential tasks such as footpath maintenance and litter-picking but will also expand our workdays to include new and exciting tasks, and our accredited training will be developed and expanded so that we can give our volunteers a valuable volunteering experience. So watch this space! A big thank you goes out to all our volunteers, supporters and partners for making our 50th anniversary year our most exciting and successful year yet!

Cyfrannwch £28

i dalu am achredu gwirfoddolwr yn ein huned Sgiliau Cadwraeth Ymarferol.

Donate £28

to cover the cost of a volunteer's Practical Conservation Skills accreditation.

Cwblhaodd Dan Goodwin yr uned Sgiliau Cadwraeth Ymarferol ym mis Ebrill. / Dan Goodwin completed the Practical Conservation Skills unit in April.

Codi sbwriel, y Glaslyn, Mehefin 2017 Litter-picking, Glaslyn, June 2017 © Dan Struthers

1967 - 2017: Protecting and celebrating Snowdonia for 50 years | 19


50 mlynedd ac ymlaen

Holi ein haelodau Holi Kate Worthington

Ms R hyw un G riffi ths 3333 3 31/12 /1

7

Ymaelododd Kate a Ross Worthington o RAW Adventures â Chymdeithas Eryri yn 2010, gan ddod yn Aelod Busnes yn 2012. Ers hynny maen nhw wedi partneru ein gwaith ar Wir Her y 3 Chopa (casglu sbwriel ar gopaon uchaf y DU) ac, o dan eu baner Dringo’r Wyddfa, maen nhw’n cyfrannu £1 am bob un o’r cannoedd o bobl sy’n cael eu harwain ganddyn nhw i fyny’r Wyddfa bob blwyddyn. Beth â’ch ysbrydolodd i ymuno? Fel busnes lleol, roeddem yn awyddus i fod yn ymwybodol o faterion lleol, sy’n cwmpasu ystod o bynciau yn cynnwys hanes lleol, cadwraeth, addysg, digwyddiadau lleol, cyfleoedd i wirfoddoli, trafnidiaeth a'r economi leol. Beth yw eich profiadau mwyaf cofiadwy gyda’r Gymdeithas? Rydym wrth ein bodd yn treulio dyddiau gweithdy ymarferol ar dirwedd yr ucheldir ac rydym wedi cyfarfod pobl wir hyfryd ar hyd y daith. Mae helpu ar lefel ymarferol, wrth gynnal a chadw llwybrau’r ucheldir, clirio llystyfiant neu gasglu sbwriel, yn rhoi boddhad meddyliol ac yn ein gwobrwyo’n gorfforol – rydych yn gallu gweld y gwaith yn digwydd ar y ddaear. Hefyd, roeddwn yn ei theimlo’n anrhydedd cael fy ngwahodd i siarad ym Mhicnic Pen-blwydd y Gymdeithas yn 50 ym mis Mehefin; roeddwn yn falch o gyfarfod pobl gyda chymaint o barch at waith y Gymdeithas ac at Eryri. Sut mae eich ymwneud fel aelod wedi dylanwadu ar ddewisiadau neu weithgareddau eraill yn eich bywyd? Mae bod yn aelod o Gymdeithas Eryri wedi rhoi rheswm i ni wybod mwy am faterion lleol eraill, ac wedi canolbwyntio ein sylw pan fod angen hynny, drwy roi cyfle i ni gynyddu ymwybyddiaeth o brojectau lleol a chyfle i gymryd rhan ynddyn nhw. Wrth fynychu digwyddiadau lleol a drefnwyd gan y Gymdeithas rydym wedi dysgu mwy am yr amgylchedd o’n cwmpas a’i fwynhau; mae ein merch, Libby, sydd bellach yn 8 oed, hefyd yn mwynhau cymryd rhan erbyn hyn. Ydych chi wedi ysbrydoli neu wedi perswadio eraill i ymaelodi neu wirfoddoli? Mae ymaelodi fel Aelod Busnes wedi ein galluogi i rannu pa mor bwysig y credwn yw cefnogi credoau a gweledigaeth y Gymdeithas, ac o ganlyniad mae rhai o’n cyfoedion yn y diwydiant hefyd yn gwerthfawrogi buddion a phrofiad positif gwirfoddoli i’r Gymdeithas.

20 | Gwarchod a dathlu Eryri ers 50 mlynedd: 1967 - 2017

Pa newidiadau ydych chi wedi sylwi arnyn nhw yn Eryri? Ers symud i’r ardal i fyw a gweithio yn 2010, rydym wedi sylwi ar fwy o weithgaredd yn y sector twristiaeth, gyda mwy o ymwelwyr yn dymuno gwybod mwy am y rhan benodol hon o Gymru a mwynhau ei rhinweddau arbennig. Pa newidiadau ydych chi wedi sylwi arnyn nhw yn y ffordd y mae’r Gymdeithas yn gweithio? Cynnydd yn y nifer o staff i gefnogi projectau penodol, sy’n galluogi datblygiad strategol pellach. Sut ydych chi’n gweld dyfodol Eryri? Rydym yn bryderus wrth weld ardaloedd penodol o Eryri o dan bwysau sylweddol. Mae dyfodol yr ardal yn ddibynnol iawn ar werthoedd a buddion y sawl sy’n ceisio ei reoli, y sawl sy’n treulio amser o ansawdd yn byw ac yn gweithio yn yr ardal, a systemau rheoli ac ariannu cenedlaethol a rhyngwladol. Ym mhle gredwch chi y dylai’r Gymdeithas fod yn canolbwyntio ei hymdrechion? Addysg i gymunedau lleol a’r genhedlaeth iau. Gwaith creadigol pwy sydd wedi eich ysbrydoli fwyaf o ran byd natur ac Eryri yn benodol? Rydw i’n hoff o beintiadau dramatig a rhamantus William Turner, a geiriau byw iawn Ellis Evans (Hedd Wyn) sy’n agor ffenestr hiraethus iawn ar hanes dyn a chyfnod yn Eryri.


50 years on

Holi Deidre a Peter Southgate Mae Netti Collister yn sgwrsio gyda Deidre a Peter Southgate a ymunodd â Chymdeithas Eryri ar ddechrau’r 1980au. Ers pryd ydych chi wedi bod yn aelodau o’r Gymdeithas? Ddaru ni symud i Gymru yn ’79, felly ers dechrau’r 80au. Beth ddaeth a chi i Gymru? Peter: Rydym yn hoff iawn o’r mynyddoedd a’r tirlun. Deidre: Roedd fy hen daid yn dod o ogledd Cymru ac roeddwn yn dod i Eryri i ddringo creigiau felly mae gen i gyswllt erioed. Roeddech chi’n Ymddiriedolwr o Gymdeithas Eryri am ddeng mlynedd, Deidre? Oeddwn, rhwng 1984-94. Awgrymodd Tony Shaerer fy enw yn ei le fo ar ei ymddeoliad. Roeddwn yn cymryd rhan gyda gwerthu planhigion, casglu sbwriel, lladd rhodo, gwaith cadwraeth ymarferol... Rydw i’n cofio ymweld â safleoedd a oedd yn cael eu cynnig fel cynlluniau ynni dŵr. Daeth y trafod ar ynni dŵr i ben am ychydig ond mae wedi codi’i ben eto yn ddiweddar. Peter: Mae ganddon ni gynllun ynni dŵr bach yn agos iawn at y fan hon. Pam fod yn rhaid iddyn nhw gael concrid mor amlwg wrth gymryd dŵr i mewn? Rydych chi wedi bod yn tyfu a gwerthu planhigion ers cryn amser, Deidre. Ai chi oedd yn trefnu sêl blanhigion flynyddol hynod o lwyddiannus y Gymdeithas? Na, Esmé oedd yn gwneud hynny. Roedd yn tyfu llawer mewn fframiau oer yn Nyffryn Mymbyr, ynghyd ag aelodau eraill. Rydw i’n cofio mod i wedi cyflenwi planhigion am ddim.

yr ymchwiliad cyhoeddus a helpu i lunio rhai o’r trafodaethau. Peter: Y cynllun gwreiddiol oedd defnyddio concrid moel ar gyfer y waliau cynnal lle’r oedd coedwigaeth yn eu sgrinio. Mi wnes i’r pwynt mai cnwd ydy conifferau ac y byddai’r waliau’n amlwg pan fyddai’r coed yn cael eu cwympo. Gwrandawodd yr arolygwr ar hynny a mynnodd bod pob wal foel yn cael ei hwynebu gyda cherrig. Roedd merch Thomas Firbank, Joanna, yn byw yn y pentref a bu’n weithgar iawn wrth wrthwynebu rhai o’r cynigion, felly buom yn cydweithio â hi. Roedd gan y Gymdeithas ran hefyd mewn sicrhau claddu gwifrau trydan a ffôn yn nyffryn Lledr. Yn eich tyb chi, beth ddylai’r Gymdeithas fod yn falch ohono? Peter: Newid barn y cyhoedd amdani. Roedd y Gymdeithas yn amhoblogaidd iawn o dan arweinyddiaeth Esmé. Roedd sicrhau rhan Cymry Cymraeg yn gychwyn da. Ydych chi’n siarad Cymraeg? Deidre: Tipyn bach. Mae gan y ddau ohonom lefel ‘A’. Rydw i’n gallu darllen y wers yn yr eglwys. Beth sy’n eich gwneud yn drist? Deidre: Roeddwn yn flin iawn pan ddaru ni golli’r frwydr dros y bibell yng Nghwm Dyli. Rydw i’n cofio cyfarfod lle ddaru’r CEGB argyhoeddi’r bobl leol y byddai

llawer o swyddi ar gael ond wrth gwrs yn y pen draw dim ond dros dro neu’n rhan amser yr oedd y rheini. Doedd gan Walter Marshall ddim bwriad i gladdu’r bibell er bod y ddaear mewn mannau mor feddal y byddai wedi bod yn haws ei chladdu. Roeddem yn brwydro yn erbyn agweddau oedd wedi eu hen sefydlu. Ar beth hoffech chi weld Cymdeithas Eryri yn canolbwyntio yn y dyfodol? Mae angen i’r aelodaeth gynyddu. Dydy llwyddiant Rhaeadr y Graig Lwyd ddim i’w weld wedi denu llawer o aelodau newydd. Efallai y gellir annog aelodau presennol i roi tanysgrifiad i ffrindiau neu deulu. Mae rhywun yn mynd i’r cyfeiriad cywir wrth weithio gyda phlant. Mae projectau fel garddio mewn ysgolion gydag Anna Williams (ar ran Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru) yn bwysig iawn i’r genhedlaeth nesaf. Allwch chi annog ffermwyr i ymaelodi? Beth am Gareth Wyn Jones sydd ar y teledu drwy’r amser? Mae hi’n dal yn anodd iawn sicrhau cefnogaeth ffermwyr. Mae gennym ambell un sy’n cydymdeimlo ond dydyn nhw ddim i’w gweld yn ymaelodi. Mae ein llywydd yn ffermwr, wrth gwrs. Oes unrhyw beth arall yr hoffech sôn amdano? Deidre: Dim ond ein bod yn falch o barhau fel aelodau ac rydw i wedi cynnwys y Gymdeithas yn fy ewyllys. Diolch o galon i chi. Dyna ffordd dda iawn o ddod â chyfweliad i ben!

Beth yw’r agwedd bwysicaf o’r Parc Cenedlaethol i chi? Y tirlun ‘rhestredig gradd 1’ hyfryd. Pe bai unrhyw beth yn ei fygwth, fe all y Gymdeithas fod yn hynod o bwysig. I ba raddau mae Cymdeithas Eryri wedi dylanwadu ar eich cymuned leol yn Nolwyddelan? Deidre: Yn bersonol, buom yn cymryd rhan yn gynnar yn y cynllun i wella’r A470. Siaradodd y ddau ohonom yn

© Ianto Roberts

1967 - 2017: Protecting and celebrating Snowdonia for 50 years | 21


50 mlynedd ac ymlaen

Meet our Members Interview with Kate Worthington Kate Worthington of RAW Adventures joined the Snowdonia Society with her husband Ross in 2010; they became Business Members in 2012. Since then they have partnered our work on the Real 3 Peaks Challenge (a litter pick of the UK's highest peaks) and, under their Climb Snowdon banner, they donate £1 for each of the few hundred people they guide up Snowdon every year. What inspired you to join? As a business, we wanted to stay abreast of local issues, spanning a range of topics including local history, conservation, education, local events, volunteering opportunities, transport, local economy. What are your most memorable experiences with the Society? We love to get involved with practical workshop days in upland terrain and have met some very lovely people along the way. Helping on a practical level, whether upland path maintenance, vegetation clearing or litter collection, is mentally satisfying and physically

rewarding – you see work ‘getting done’ on the ground. Also, I was very humbled to be invited to speak at the Society’s recent 50th Anniversary Birthday Picnic in June; how amazing to meet a group of people with so much respect and value for the Society's work and for Snowdonia. How has your involvement as a member influenced other choices or activities in your life? Being a member of the Snowdonia Society has given us reason to keep abreast of other local issues, and focused our attention when necessary, by giving us an opportunity to increase awareness of and involvement in supporting local projects. Attending local events organised by the Society has helped us learn about and enjoy our surroundings more; this has extended to involving our daughter, Libby, who’s now 8. Have you inspired or persuaded others to join or volunteer? Being a Business Member has allowed us to share how important we believe

supporting the Society’s ethics and missions are, and this has resulted in some of our industry peers appreciating the benefits and positive experience of volunteering for the Society, at the very minimum. What changes have you noticed in Snowdonia, eg in landscape or culture? Since moving to the area to live and work in 2010, we have noticed increased activity in the tourism sector, with more visitors wanting to find out more about this specific area of Wales and enjoy its special qualities. What changes have you noticed in the way the Society works? An increase in staffing numbers to support specific projects, which allows for further strategic development. How do you see the future of Snowdonia? We are concerned to see certain areas of Snowdonia experiencing considerable pressure. The area’s future is very much dependent on the values and interests of those who seek to manage it, those who spend quality time living and working in it, and national and international funding and governance systems. Where do you think the Society should be focusing its efforts? Education to local communities and the younger generation. Whose writing, pictures or films have most inspired you with regard to the natural world and Snowdonia in particular? I like the dramatic and romantic paintings of William Turner, and the very real words of Ellis Evans (Hedd Wyn) which serve as a most evocative window on to the history of a man and a time in Snowdonia.

Kate a Ross yn mwynhau taith ddaearyddiaeth Kate & Ross enjoying a geology walk

22 | Gwarchod a dathlu Eryri ers 50 mlynedd: 1967 - 2017


50 years on

Interview with Deidre and Peter Southgate Netti Collister talks to Deidre and Peter Southgate who joined the Snowdonia Society in the early 1980s.

Do you speak Welsh? Deidre: Tipyn bach. We both have A level. I can read the lesson in church.

How long have you been members of the Society? We moved to Wales in ‘79, so since the early 80s.

What are you saddest about? Deidre: I was very cross when we lost the battle over the pipeline in Cwm Dyli. I remember a meeting where the CEGB convinced the locals in Nant Gwynant that there would be lots of jobs involved but of course they turned out to be only temporary or part time. Walter Marshall had no intention of burying the pipeline though in places the ground was so soft it would have been easier to bury it. We were up against entrenched bigotry.

What brought you to Wales? Peter: We love the mountains and the landscape. Deidre: My great grandfather came from north Wales and I used to come to Snowdonia to rock climb so there has always been a link. You were a Trustee of the Snowdonia Society for ten years, Deidre? Yes, roughly 1984-94. I came onto the committee through Tony Schaerer who suggested me when he stood down. I was involved with the plant sale, litter picking, rhodo bashing, practical conservation work... I remember visiting sites which were being suggested for hydro-electric schemes. Hydro seemed to die a death for a while but it has recently come back. Peter: We have a small hydro scheme just near here. Why they have to have exposed concrete for the intakes is beyond me. You have been growing and selling plants for a long time, Deidre. Were you behind the Society’s highly successful annual plant sale? No, that was Esmé. She did a lot of propagating in cold frames at Dyffryn, and other members did too. I supplied some plants for free, I’m sure. What is the most important aspect of the National Park for you? The magnificent ‘grade one listed’

landscape. If anything threatens it, the Society could be very important. Has the Snowdonia Society had much impact on your local community in Dolwyddelan? Deidre: We were personally quite involved in the A470 improvement scheme early on. We spoke at the public enquiry and helped to modify some of the decisions. Peter: The original plan was to use exposed concrete for the supporting walls where there was forestry screening them. I pointed out that conifers are a crop so that when the trees were cut down the walls would be visible. The Inspector took that on board and insisted that all exposed walls should be faced in stone. Thomas Firbank’s daughter, Joanna, lived in the village and was very active in opposing some of the proposals, so we worked with her. The Society was involved in undergrounding electricity and phone lines in the Lledr valley, also. What do you think the Society should be most proud of? Peter: Changing the public’s perception of it. The Society was very unpopular under Esmé. Bringing in Welsh speakers was a start.

Ymaelodwch! Darganfwch sut y gallwch helpu i gadw Eryri'n wyllt ac yn hardd, ac am y manteision o fod yn aelod o Gymdeithas Eryri drwy gysylltu â ni neu ymweld â'n gwefan:

What would you like to see the Snowdonia Society focusing on in the future? Membership needs to grow. The Conwy Falls success doesn’t seem to have attracted many new members. Perhaps existing members could be encouraged to give friends or family a subscription. You are going in the right direction working with kids at Tŷ Hyll. Projects like Anna Williams’ gardening in schools (for North Wales Wildlife Trust) are very important for the next generation. Can you get farmers to join? What about Gareth Wyn Jones who is on the TV all the time? It is still very hard to get farmers on board. We have some sympathetic ones but they don’t seem to actually join. Our president is a farmer, of course. Is there anything else you’d like to say? Deidre: Only that we are glad to continue as members and I’ve put the Society in my will. Thank you. That seems like a good way to end an interview!

Become a Member! iths

Griff ywun

h Ms R

3 3333

/17

31/12

 info@snowdonia-society.org.uk

Find out how you can help keep Snowdonia wild and beautiful, and about the benefits of being a Snowdonia Society member, by contacting us or visiting our website:

 01286 685498

www.cymdeithas-eryri.org.uk/ymaelodi  www.snowdonia-society.org.uk/join 1967 - 2017: Protecting and celebrating Snowdonia for 50 years | 23


Digwyddiadau pen-blwydd 50 50th anniversary events

50

50

50

50

50

Y stori hyd yma

The story so far

Dros y misoedd diwethaf cynhaliwyd llu o ddigwyddiadau i ddathlu pen-blwydd Cymdeithas Eryri yn 50, ac mae llawer mwy i ddod; gydag arddangosfa pen-blwydd deithiol, teithiau a sgyrsiau â thema, a’n Cynhadledd a CCB arbennig ym mis Hydref, mae rhywbeth ar gyfer pawb.

The last few months has seen a multitude of events take place in celebration of the Snowdonia Society’s 50th anniversary, and there’s plenty more to come; with a travelling anniversary exhibition, themed walks and talks, and our special weekend Conference & AGM in October, there’s something to suit everyone.

50

Uchelbwyntiau

Highlights

Chwedlau Eryri

Legends of Eryri

Ym mis Ebrill bu plant ysgolion lleol yn cymryd rhan mewn gweithdy adrodd straeon fel rhan o Flwyddyn Chwedlau 2017. Wedi eu hysbrydoli gan straeon am Dŷ Hyll, lluniodd y plant greaduriaid dychmygus a chreu eu chwedlau eu hunain. Bydd y chwedlau cyfoes yma’n cael eu cyhoeddi mewn partneriaeth ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

In April local schoolchildren took part in a storytelling workshop as part of the 2017 Year of Legends. Inspired by the stories of the Ugly House, children invented mythical beasts and wrote their own ‘chwedlau’ (Welsh for legends). These modern-day legends will be published in partnership with the Snowdonia National Park Authority.

Project ysgolion APCE

Llwyddiant er gwaetha’r glaw

Picnic pen-blwydd yn Nyffryn Mymbyr Ar 10 Mehefin daeth dros 60 o aelodau o Gymdeithas Eryri i Ddyffryn Mymbyr i ddathlu pumdeg mlynedd union ers cyfarfod cyntaf y Gymdeithas ym 1967. Bu aelodau, cyfeillion a staff yn cyfnewid atgofion am Esmé Kirby a dyddiau cynnar y Gymdeithas wrth fwynhau brechdanau, te a theisennau lu. Er gwaetha’r glaw, cafodd pawb ddiwrnod ardderchog. Roedd ymdeimlad o wir falchder wrth ddathlu 50 mlynedd o waith dygn yn Eryri. Edrychwn ymlaen at yr 50 mlynedd nesaf!

Eryri, Môr a Mynydd Taith i Ynys Enlli

Ym mis Gorffennaf, aeth casgliad o aelodau a phobl nad ydyn nhw’n aelodau i Ynys Enlli am daith braf yn yr haul i ddysgu am hanes, pensaernïaeth ac ecoleg yr ynys. Ymysg yr uchelbwyntiau roedd gwylio palod, llursod a gwylogod yn eu cannoedd, cael eu croesawu i’r lan gan udo’r morloi llwyd, a’r olygfa ryfeddol o Eryri o grib Mynydd Enlli ymhell uwchben y môr.

NPA schools project

frigau ddannedd o hed wsogl' gyda'i  Twig-toot 'Anghenfil m ol lle l go ys ren. n blant l school child a grëwyd ga ca lo by d te r' crea 'moss monste

Teisen pen-blwydd yn 50, a wnaed gan aelod, Joan Firth  50th anniversary cake, made by member, Joan Firth

A Soaking Success

Birthday picnic at Dyffryn Mymbyr

June 10th saw over 60 members of the Snowdonia Society gather under a rainsoaked marquee at Dyffryn Mymbyr farmhouse to celebrate exactly fifty years since the Society’s inaugural meeting in 1967. Members, friends and staff exchanged memories of Esmé Kirby and the Society’s early days while enjoying sanwiches, tea and ample cake. Despite the rain, an excellent day was had by all. There was a great sense of pride to be celebrating 50 years of hard work in Snowdonia. Here’s to the next 50 years!

Snowdonia, Sea & Sky Trip to Bardsey Island

i  Guillemots in Gwylogod ar Swllt Enll Thomas Bardsey Sound © Owain

24 | Gwarchod a dathlu Eryri ers 50 mlynedd: 1967 - 2017

In July, an intrepid group of members and nonmembers ventured across to Bardsey Island for a sun-drenched tour of the island’s history, architecture and ecology. Highlights included seeing puffins, razorbills and guillemots in their hundreds, being greeted ashore by the island’s colony of howling grey seals, and the remarkable view of Snowdonia from the island’s heather-clad cliffs.

5


50

50 mlynedd ac ymlaen ● 50 YEARS ON Digwyddiadau eraill yn 2017

More events for 2017

'Pumdeg Mlynedd yn Ddiweddarach' ar daith

'Fifty Years On' Exhibition on tour

Agorodd arddangosfa pen-blwydd Cymdeithas Eryri, 50 Mlynedd yn Ddiweddarach, ym mis Gorffennaf a bydd yn teithio o gwmpas y Parc Cenedlaethol hyd at fis Rhagfyr: • Surf Snowdonia, Dolgarrog: 18 Medi - 7 Hydref • Plas Tan y Bwlch, Maentwrog: 7 - 15 Hydref • Storiel, Bangor: 26 Hydref • Canolfan Ogwen, Nant Ffrancon: 16 Hydref - 16 Tachwedd • Canolfan Dechnoleg Amgen, Machynlleth: 17 Hydref -13 Tachwedd • Coed y Brenin, Dolgellau: dyddiadau i'w cyhoeddi.

50

26 Hydref, 'More Than Honey' Sgwrs gan Trevor Dines a film, Storiel, Bangor

50

Bydd pwysigrwydd blodau gwyllt yn cael ei bwysleisio gan y botanegydd adnabyddus a’r cyflwynydd teledu Dr Trevor Dines. Dangosir y rhaglen ddogfen ‘More Than Honey’ sydd wedi ennill gwobrau; a bydd cyfle i weld cwch gwenyn symudol.

29 - 30 Medi, Penwythnos MAD, Beddgelert

Dau ddiwrnod o weithgareddau i wneud gwahaniaeth yn Eryri, yn cynnwys glanhau afonydd a lladd Rhododendron. Gwersylla dros nos yng Nghraflwyn, barbeciw a cherddoriaeth werin fyw.

The Snowdonia Society’s anniversary exhibition, 50 Years On, opened in July and will be touring the National Park until December: • Surf Snowdonia, Dolgarrog: 18 September - 7 October • Plas Tan y Bwlch, Maentwrog: 7 - 15 October • Storiel, Bangor: 26 October • Canolfan Ogwen, Nant Ffrancon: 16 October - 16 November • Centre for Alternative Technology, Machynlleth: 17 October - 13 November • Coed y Brenin, Dolgellau: dates to be announced.

50

50

More Than Honey 526Talk0October, by Trevor Dines & film screening,

Storiel, Bangor The importance of wild flowers will be brought to life by eminent botanist and television presenter Dr Trevor Dines with a screening of the award-winning documentary More Than Honey and a mobile observation hive.

29 - 30 September, MAD Weekend, Beddgelert

Two days of activities to Make a Difference in Snowdonia, including river clean-ups and rhododendron bashing. Overnight camping at Craflwyn with a BBQ and unplugged folk music.

Cynhadledd Pen-blwydd yn 50 a Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol 50th Anniversary Conference & Annual General Meeting

13-15 Hydref/October 2017, Plas Tan y Bwlch, Maentwrog Digwyddiad na ellir ei golli

A milestone event

Rydym yn gwahodd aelodau i gymryd rhan mewn cynhadledd bwysig ar ddyfodol Eryri, gyda siaradwyr gwadd yn cynnwys y naturiaethwr Iolo Williams a chyn-Gyfarwyddwr Cyffredinol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, y Fonesig Fiona Reynolds.

We invite members to take part in an important conference on the future of Snowdonia, with guest speakers including naturalist Iolo Williams and former Director-General of the National Trust, Dame Fiona Reynolds.

Ychydig o leoedd sydd ar gael yn y digwyddiad hwn, sydd hefyd yn cynnwys CBC y Gymdeithas.Bydd siaradwyr gwadd a thrafodaeth y gynhadledd yn cael eu ffilmio fel eu bod ar gael ar-lein i’w gwylio gan y bobl hynny nad ydyn nhw’n gallu mynychu’r gynhadledd.

There are limited places for this event, which also incorporates the Society’s AGM. Guest speakers and the chaired discussion will be recorded and available online for those unable to attend.

Rhagor o wybodaeth ac archebu ar gyfer pob digwyddiad: / More information and bookings for all events:  claire@snowdonia-society.org.uk  01286 685498 www.cymdeithas-eryri.org.uk/cy/digwyddiadur  www.snowdonia-society.org.uk/events 1967 - 2017: Protecting and celebrating Snowdonia for 50 years | 25

5


gwneud gwahaniaeth

Cronfa'r Dyfodol 50 Mlynedd 50 Years Future Fund

Lansiwyd y gronfa i ddathlu 50 mlynedd o waith dygn wrth warchod a gwella Eryri ac i ddarparu adnoddau a fydd yn ein galluogi i ymateb yn sydyn ac yn hyderus i fygythiadau a chyfleoedd sy’n codi yn y dyfodol. Allwch chi ein helpu ni i gyrraedd £50,000? Mae’r adran ymgyrchoedd yn y rhifyn hwn yn egluro’r bygythiad difrifol a hollol annisgwyl y mae Eryri wedi ei wynebu yn yr ychydig fisoedd diwethaf. O ganlyniad i frys Llywodraeth Cymru i weithredu ei agenda ‘Tirluniau’r Dyfodol’ heb warchodaeth cadwraeth briodol roedd angen ymateb yn gyflym ac yn benderfynol. Arweiniodd Cymdeithas Eryri gyda chydlynu’r ymateb hwn, gan lobïo Aelodau’r Cynulliad a sicrhau sylw’r wasg. Roedd ein gwaith yn amlwg yn ystod dadl y Cynulliad ar 6 Mehefin, pan fu AC yn amddiffyn pwrpasau clir yn seiliedig ar gadwraeth ar gyfer Parciau Cenedlaethol Cymru. Gallwch ein helpu i barhau â’r gwaith hwn ac yn y dyfodol wrth gyfrannu’r hyn a allwch. Cofiwch, bydd cyfraniad o £28 yn talu am achredu gwirfoddolwr trwy ein huned Sgiliau Cadwraeth Ymarferol; bydd £250 yn talu i ni archwilio ac ysgrifennu ymateb i gais cynllunio syml. Dewch i’n helpu i gyrraedd ein targed. Gallwch gyfrannu: ✓ ar-lein yn www.cymdeithas-eryri.org.uk ✓ gyda siec, yn daladwy i 'Cymdeithas Eryri' ✓ neu ymaelodwch!

When we launched our 50 Years Future Fund in January we thought our target of £50,000 was very optimistic. But our donors and supporters have risen to the cause and six months into our appeal we are very happy to announce that our current total of £32,589 takes us nearly two thirds of the way to our target. The fund was launched to celebrate 50 years of hard work protecting and enhancing Snowdonia and to provide resources that will allow us to respond quickly and confidently to threats and opportunities that arise in the future. Can you help us reach £50,000? The campaigns section in this issue explains the serious and entirely unexpected threat Snowdonia has faced in the last few months. Welsh Government's haste to implement its 'Future Landscapes' agenda without adequate conservation safeguards required a speedy and decisive response. The Snowdonia Society took the lead in co-ordinating this response, lobbying Assembly Members and generating media coverage. Our work was evident during the Assembly debate on 6th June, when AMs robustly defended clear conservation-based purposes for National Parks in Wales. Please help us continue this work now and in the future by donating what you can. Remember, £28 will pay for a volunteer to be accredited under our Practical Conservation Skills unit; £250 will pay for us to research and write a response to a simple planning application. Help us reach our target. You can donate: ✓ on-line at www.snowdonia-society. org.uk ✓ by cheque, payable to 'Snowdonia Society' ✓ or join as a member!

26 | Gwarchod a dathlu Eryri ers 50 mlynedd: 1967 - 2017

diolch! ! u o y k n a Th

© Steve Lewis

Pan lansiwyd ein Cronfa 50 Mlynedd i’r Dyfodol ym mis Ionawr roeddem yn credu bod ein targed o £50,000 yn hynod o optimistaidd. Ond mae ein cyfranwyr a’n cefnogwyr wedi ymateb i’r her a chwe mis i mewn i’n hapêl rydym yn falch o gyhoeddi bod ein cyfanswm presennol o £32,589 yn mynd â ni bron yn 2/3 o'r ffordd tuag at ein targed.


The difference you make

£8,133

© Ianto Roberts

191 UNIGOLYN/INDIVIDUALS Diolch i’n holl aelodau a chefnogwyr sydd wedi bod yn arbennig o hael eleni. Thank you to our members and supporters who have been especially generous this year.

NOSON GWIS Y DOUGLAS QUIZ NIGHT Diolch i griwiau cwis y Douglas Arms, Bethesda, am enwebu Cymdeithas Eryri i dderbyn yr elw o’u noson gwis misol. Pam na wnewch chi roi prawf ar eich gwybodaeth gyffredinol ac ymuno â nhw ar ddydd Mawrth cyntaf bob mis? Thank you to the Douglas Arms quizzers, Bethesda, for nominating the Snowdonia Society to receive the proceeds of their monthly quiz night. Why not test your general knowledge and join them on the first Tuesday of next month?

£276

£604 CASGLU SBWRIEL BOB’S LITTER PICK Ym mis Mehefin, cwblhaodd Bob Smith daith codi sbwriel ar gopaon uchaf Eryri gan gasglu 3 bag o sbwriel a chodi £404. Cafwyd arian cyfatebol ar gyfer hwn gan LocalGiving, gan ddod â’r cyfanswm i £604! In June, Bob Smith completed a sponsored litter pick of Snowdonia’s highest peaks, collecting 3 bags of litter and raising £404. £200 of this was matched by LocalGiving, making a grand total of £604!

RHODDION ER COF/MEMORIAL DONATIONS Diolch i deuluoedd a ffrindiau'r canlynol: £276 Thank you to the families and friends of: Stephen Gould, Frank Bishop, David Tegid £2,000 Evans and John & Maureen Douglas.

£8,133 Cl o ckw i s e 

£604 C

edd  l o cw

£300

£300

£2,400

Cyfanswm Total

£2,355

£32,589

£500

Dewch i’n helpu i gau’r bwlch hwn! Please help us fill this gap! £11,168

£855

£855

£140 £250

£3,250

£592

£140 BETWS QUEST Diolch i'r stiwardiaid. Thank you, marshals.

£2,400

£2,355

(£17,411)

DIGWYDDIADAU, sgyrsiau a chyflwyniadau EVENTS, talks & presentations

RAW Adventures Cronfa 'Climb Snowdon' fund

£250

BREESE ADVENTURES

RHODD CYMORTH ar yr holl gyfraniadau yma GIFT AID claimable on these donations

£500

SNOWDONIA MARATHON ERYRI Diolch i wirfoddolwyr gorsaf fwydo Beddgelert. Thank you to our Beddgelert feed station volunteers.

£11,168

£3,250 RHODD ERYRISNOWDONIA GIVING Cynllun 'rhoddion ymwelwyr' Eryri. Snowdonia’s ‘visitor giving’ scheme.

£592 CO-OP LLANRWST O’r tâl bag siopa a’u Cronfa Gymunedol From the carrier bag levy and their Community Fund

Enwebodd Waitrose Gymdeithas Eryri ar gyfer yr elw o’u tâl bag siopa ar gyfer y flwyddyn 2016-17. Cynhyrchodd 268,000 bag siopa'r swm anhygoel o £11,168! Waitrose nominated the Snowdonia Society to receive the proceeds from the carrier bag levy for 2016-17. 268,000 carrier bags generated a whopping £11,168!

1967 - 2017: Protecting and celebrating Snowdonia for 50 years | 27


gwneud gwahaniaeth

Ydy eich ffrindiau’n caru Eryri? Dewch i’n helpu i recriwtio 500 o aelodau newydd: 10 i bob un o’n 50 mlynedd. Wedi ei anfon gyda’r cylchgrawn hwn mae taflen aelodaeth newydd Cymdeithas Eryri. Cofiwch ei rhoi i ffrind, gymydog neu aelod o’ch teulu a’u hannog i gefnogi Eryri drwy ymaelodi â Chymdeithas Eryri. Tanysgrifiadau aelodaeth yw prif incwm y Gymdeithas ac er bod ffigurau aelodaeth wedi bod yn eithaf sefydlog yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’n hanfodol bwysig ein bod yn recriwtio aelodau newydd i sicrhau iechyd y Gymdeithas a’n gallu i frwydro dros Eryri. Pe bai pob aelod yn recriwtio un cefnogwr newydd byddai ein haelodaeth a’n tanysgrifiadau’n dyblu! Os ydych chi’n gwybod am gaffi, siop neu fan cyhoeddus cyfeillgar arall a fyddai’n fodlon arddangos ein taflenni, gadewch i ni wybod er mwyn i ni anfon rhai i chi.

Os allwch chi argymell aelod newydd cyn diwedd 2017 fe anfonwn becyn nwyddau yn cynnwys cerdyn cyfarch Tŷ Hyll, Hadau i Wenyn a mwy. (Rhaid i'ch ffrind ddyfynnu eich enw a rhif aelodaeth o dan “Sut clywsoch chi”.)

Recommend a new member before the end of 2017 and we will send you a goody bag including a Tŷ Hyll greetings card, a packet of Seeds for Bees and other items. (Your name and membership number must be quoted under “How you heard”.)

Safwn gyda’n gilydd dros ddyfodol Eryri.

Do your friends love Snowdonia? Help us recruit 500 new members: 10 for each of our 50 years. Enclosed with your magazine is the new Snowdonia Society membership leaflet. Please pass it on to a friend, neighbour or member of your family and urge them to support Snowdonia by joining the Snowdonia Society. Members' subscriptions are the Society's primary source of income and while membership figures have been relatively stable in recent years, to ensure the health of the Society and our ability to fight for Snowdonia it is essential that we recruit new members. If every member were to recruit one new supporter our membership and subs income would double! If you know a friendly cafe, shop or other public place that would be happy to display some leaflets, please let us know so we can send you some.

Let’s get fit to fight for Snowdonia’s future.

Croeso i'n Haelod Busnes newydd ● Welcome to our new Business Member DistYLLFA Dinorwig

www.dinorwigdistillery.co.uk Saif Distyllfa Dinorwig, sy’n defnyddio deunydd botanegol a dŵr o ffynnon naturiol i gynhyrchu eu Jin Llechan Las, uwchben Llyn Padarn. “Mae’r ferywen yn rhywogaeth sydd mewn perygl yn y DU ac rydym yn cydweithio gyda chyrff cadwraeth i gefnogi ei hadferiad. Yn y cyfamser, rydym yn ei mewnforio o Facedonia.” Gostyngiad i aelodau: 10%

Os ydych yn gwybod am fusnes sy’n gweithredu ym Mharc Cenedlaethol Eryri neu’n agos ato, pam na wnewch chi awgrymu eu bod yn ymaelodi fel Aelodau Busnes?

Cysylltwch â ni i ofyn am becyn Aelodaeth Fusnes neu ewch i'n gwefan i ddarganfod rhagor.

28 | Gwarchod a dathlu Eryri ers 50 mlynedd: 1967 - 2017

Dinorwig Distillery

www.dinorwigdistillery.co.uk Based above Llyn Padarn, Dinorwig Distillery uses locally-sourced botanicals and water from a natural spring to produce their signature Blue Slate Gin. “Juniper is an endangered species in the UK and we are working with conservation organisations to support its regeneration. Meanwhile, we import it from Macedonia.” Member discount: 10% If you know a business that operates in or near the Snowdonia National Park, why not suggest they become Business Members?

Contact us for a Business Membership pack or visit our website to find out more.


The difference you make Rhoi’n ôl i wirfoddolwyr  Giving back to volunteers

Bagiau cludo Waitrose

Beth Powell Morris is one of 17 volunteers to have taken advantage of our accredited Practical Conservation Skills unit since its launch earlier this year. Here's an excerpt from her story on our website.

Rydym yn annog pob siopwr i gludo bagiau gyda nhw wrth siopa, ond yn y deuddeg mis hyd fis Ebrill 2017, derbyniodd Cymdeithas Eryri £11,168 o werthiant bagiau cludo yng nghanghennau Waitrose yng Nghymru.

Mae Beth Powell Morris yn un o 17 o wirfoddolwyr sydd wedi manteisio ar ein huned achrededig Sgiliau Cadwraeth Ymarferol ers ei lansiad yn gynharach eleni. Dyma ddyfyniad o’i stori oddi ar ein gwefan. Cefais fy annog i ddewis pedwar diwrnod gwaith dros gyfnod o dri mis. Fe wnaeth pob un o’r dyddiau gwaith hyn roi cyfle i mi ddefnyddio offer nad oeddwn i wedi’i ddefnyddio erioed o’r blaen, yn cynnwys trosol, gordd, llif bwa a matog.

I was encouraged to select four workdays over three months. Each workday I completed allowed me to work with tools I had never used before: crowbars, mells, bow saws and mattocks.

O ganlyniad uniongyrchol i gwblhau’r cwrs Sgiliau Cadwraeth Ymarferol, rwy’n gwybod sut i ddefnyddio dyfais GPS llaw, sut i asesu risgiau’n effeithiol, sut i wahaniaethu rhwng gwahanol fathau o gerrig hogi a sut i blygu gwrych.

As a result of completing the Practical Conservation Skills course, I also know how to operate a handheld GPS device, write an effective risk assessment, tell a water stone from an oil stone and build a hedge.

Elwais o brofiad nifer o wahanol unigolion, pob un ohonynt yn wybodus iawn am ei faes. Roedden nhw’n rhannu diddordeb mewn gwarchod a chynnal yr amrywiaeth hyfryd o amgylcheddau yn Eryri.

I gained experience from many different and knowledgeable individuals, all with a shared interest in conserving and maintaining the beautiful environments found within Snowdonia.

Fe wnaiff hyn fy nghynorthwyo’n sylweddol yn fy ymdrechion i weithio fel cadwraethwr maes, ac rwy’n hynod o ddiolchgar am y cyfle a gefais gan Gymdeithas Eryri.

This will help significantly in my future endeavours to work as a field conservationist. I am hugely grateful for this opportunity the Snowdonia Society granted me.

YSBRYD cymunedol  Community Spirit Diolch i bawb a ddaeth draw i Caban ddwywaith eleni i helpu i lenwi amlenni ar gyfer postio deunydd i aelodau. Roedd yn gyfle gwych i Ymddiriedolwyr, aelodau a gwirfoddolwyr ddod i adnabod ei gilydd a buan iawn y gwnaed y gwaith â chymaint yn helpu. Dydy o ddim yn teimlo fel gwaith wrth gael hwyl! It's not like work - it's fun!

Thank you to everyone who came to Caban to help stuff envelopes for our two big mailings this year. It was a great opportunity for Trustees, members and volunteers to get to know each other and they made light work of what had seemed like a mammoth task. (Yn anweledig: Cadeirydd Cymdeithas Eryri, David Archer, a oedd yn brysur yn stampio pob amlen yn y swyddfa i lawr y grisiau.) (Not shown: Snowdonia Society Chair, David Archer, who was busy stamping each and every envelope in the office downstairs.)

Roedd gweithwyr Waitrose yn bendant y dylid buddsoddi’n lleol unrhyw arian a godwyd yn yr ardal. “Pa ffordd well o’i fuddsoddi nag wrth helpu i warchod ein Eryri hardd, a ninnau’n gallu gweld y mynyddoedd o faes parcio’r siop yma ym Mhorthaethwy?” meddai rheolwr y siop Kim Cox. Mae £11,168 yn cynrychioli 268,000 o fagiau cludo. Heb y tâl am fagiau cludo byddai’r ffigwr dair gwaith yn fwy na hyn, a byddai llawer mwy o sbwriel yn Eryri! Defnyddir yr arian hwn i fwrw ymlaen â’n gwaith cadwraeth yn Eryri a datblygu ein hyfforddiant cadwraeth.

Waitrose carrier bags We urge all shoppers to take bags with them when they shop, but in the 12 months to April 2017, the income from carrier bag sales in Wales branches of Waitrose raised £11,168 for the Snowdonia Society. Waitrose workers were adamant that money raised in the area should be reinvested locally. "What better way to invest it than helping protect our beautiful Snowdonia, whose mountains we can see from the store car park right here in Menai Bridge!" said Menai Bridge store manager Kim Cox. £11,168 represents 268,000 carrier bags. Without the carrier bag levy the figure would be more than three times that, and littering in Snowdonia would be much worse! This money will be used to further our conservation work in Snowdonia and develop our conservation training.

1967 - 2017: Protecting and celebrating Snowdonia for 50 years | 29


Llyfrau ● Books The Hills of Wales

Two things can undoubtedly be said about Jim Perrin: that he is an accomplished writer, and that he loves Wales. By means of glorious descriptions of her hills and mountains, this book is a hymn to Wales - her landscapes, wildlife, history, literature and mythology, and what Jim Perrin discerns as the essence of what it means to be Welsh.

gan/by

Jim Perrin Dau beth a ellir eu dweud, yn ddigamsyniol, am Jim Perrin, yw ei fod yn ysgrifennwr penigamp, a’i fod yn caru Cymru. Molawd a geir yn y llyfr hwn, trwy gyfrwng disgrifiadau gloyw o’i bryniau a’i mynyddoedd, o Gymru - ei thirwedd a’i bywyd gwyllt, ei hanes, ei llenyddiaeth a’i chwedloniaeth, a’r hyn y mae Jim Perrin yn ei ganfod fel hanfod yr hyn a olygir trwy fod yn Gymraeg a Chymreig. Casgliad yw The Hills of Wales o erthyglau, ysgrifau a rhagnodiadau, rhai a ail-weithiwyd, a wnaed dros ddegawdau o grwydro a dod i adnabod uchelfannau Cymru. Mae’r llyfr wedi ei rannu yn bennaf i wyth pennod, pob un yn ymwneud ag ardal o Gymru. Cychwynna efo Bryniau Clwyd, a welai Jim Perrin ar orwel gorllewinol ei ieuenctid dinesig. Ceir, wrth gwrs, fel y buasem yn disgwyl gan ddringwr, ysgrifau ar Eryri a’r mynyddoedd uchel, ond mae’r awdur hefyd yn ein harwain i ardaloedd megis Dyffryn Tanat, y Gororau (sydd yn eu hanfod, meddai, yn rhan o Gymru!), ac i’r de ôl-ddiwydiannol. Mae’n ysgrifennwr gwybodus a llengar, a’i ddyfyniadau pwrpasol o farddoniaeth Saesneg a Chymraeg yn dyfnhau mwynhad y darllen. Da yw gweld yr enwau Cymraeg yn gywir ganddo (dim ‘Glyders’ yma), er y buaswn yn dadlau yn erbyn eu cyfieithu gan ddefnyddio priflythrennau, er enghraifft ‘Moon Spring’ am Ffynnon Lloer, rhag bwydo’r tueddiad cynyddol i Seisnigo’r enwau brodorol. Mae’n llyfr athronyddol, ac yn gyforiog o wybodaeth gwmpasog ac arsylwadau craff. Dysgwn lawer am Gymru, ond dysgwn hefyd am Jim Perrin, yr hogyn ifanc o Fanceinion a’i gyndeidiau yn ffoaduriaid Huguenot, a’r hyn a geisia mewn bywyd, ac a gafodd o werth wrth ymgartrefu yng Nghymru, a’i chofleidio. Elen Huws

The Hills of Wales is an anthology of articles, essays and notes, some re-worked, that have been written over decades of wandering (or stravaiging, to use his word) and knowing the high places of Wales. The book is broadly divided into eight chapters, each addressing a different area of the country. It begins with the north eastern hills, the western horizon of Jim Perrin’s city childhood. There are, of course, as one would expect from a climber, chapters on the high mountains, but the author also leads us to areas such as Dyffryn Tanat, the Marches (which, he believes, are essentially part of Wales!), and to the post-industrial south. He is a learned author, and the many literary quotations, both English and Welsh, enrich the pleasure of reading. It is good to see the Welsh placenames respected and correctly written (no ‘Glyders’ here), although I wouldn’t agree with the English translations in capital letters (eg ‘Moon Spring’ for Ffynnon Lloer), given the unfortunately increasing trend to Anglicise indigenous names. It is a philosophical book, written with erudition and perspicacity. We learn much about Wales but, also, about Jim Perrin, the youngster from Manchester with the refugee Huguenot ancestors, of what he seeks in life, and of what he found of value when he came to live in Wales, and embraced her. Elen Huws

Cystadleuaeth Liwio Tŷ Hyll Colouring Competition Yn yr haf, fel rhan o Flwyddyn y Chwedlau, cynhaliwyd cystadleuaeth liwio Tŷ Hyll. Wedi eu hysbrydoli gan chwedlau Tŷ Hyll, roedd y ceisiadau’n amrywio o’r gwamal i’r bwganllyd, ac roedd oedran y sawl oedd yn ymgeisio rhwng 4 a 14. Gyda’i gerrig o bob lliw a llun, y to agennog a’i ffenestr doredig, mae dehongliad Eban, sy’n naw oed, o Dŷ Hyll yn ei gwneud yn amlwg i bawb o le daeth yr enw. Pwy a ŵyr pa fath o greadur chwedlonol sy’n byw o dan ei do? Go dda ti, Eban!

Llun buddugol Eban / Eban's winning image

30 | Gwarchod a dathlu Eryri ers 50 mlynedd: 1967 - 2017

In the summer, as part of the Year of Legends, we held a Tŷ Hyll children’s colouring competition. Inspired by the legends of Tŷ Hyll, submissions ranged from the whimsical to the ghoulish, with entrants between the ages of 4 and 14. With its irregularly-shaped boulders, fissured roof and damaged window, 9 year old Eban’s interpretation of Tŷ Hyll vividly conjures up the idea of an ‘ugly house’. Who knows what kind of mythical beast lurks inside? Well done, Eban!


llythyrau ● letters Llythyr oddi wrth yr Ymddiriedolaeth Cenedlaethol Er y byddwn yn parhau i gydweithio’n agos gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac yn ymuno â nhw i gwblhau gwaith cadwraeth ymarferol yn Eryri, mae Cymdeithas Eryri wedi cwestiynu eu rhan mewn ambell i gynllun ynni dŵr. Cynigiwyd ‘hawl i ymateb’ i’r YG. Annwyl Aelodau Cymdeithas Eryri, Rydym yn rhannu'r un nod angerddol - sef sicrhau’r dyfodol gorau posib ar gyfer Eryri. Ond, efallai y bydd rhai ohonoch yn cwestiynu pa mor gryf yw ymrwymiad Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru i hyn yn sgil adroddiadau diweddar am ein rhan mewn adeiladu cynllun ynni dŵr yn Eryri. Nid ydym yn disgwyl i chi ymddiried ynom ar sail ein gair neu ein henw da yn y gorffennol yn unig, nac ar sail ein haddewid i ofalu am fannau arbennig am byth i bawb. Hawdd yw dweud, ond mae angen gwneud. Felly, hoffem wahodd aelodau o Gymdeithas Eryri ac unrhyw un arall sydd â diddordeb i ymweld â’n datblygiadau ynni dŵr er mwyn i chi gael eu gweld eich hun. Rydym am ddangos i chi'n union sut rydym yn gadael y dirwedd ar ôl codi cynllun ynni dŵr a pha mor bwysig yw adfer y safle i safon uchel. Gallwn hefyd ddangos y manteision sy'n deillio o gynlluniau ynni dŵr i gymunedau lleol ac o ran ffermio cynaliadwy. Yn bwysicach na dim, gallwn ddangos i chi sut mae’r prosiectau yn helpu i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd fel rhan o gynllun cenedlaethol i gwtogi ar danwyddau ffosil a sut mae refeniw a geir yn sgil cynhyrchu ynni dŵr yn helpu i warchod yr ardal leol. Rydym hefyd wedi bod yn gwneud llawer o waith gyda chymunedau lleol yn y cyswllt hwn, ac rydym yn hynod o falch bod nifer o brosiectau da wedi eu rhoi ar waith yn llwyddiannus yn y tirlun. Rydym yn gwybod eich bod am ddiogelu mannau arbennig Eryri, ac am wneud hynny’n nod cyffredin i bawb. Rydym am eich sicrhau bod yr un peth yn wir amdanom ni, ac ni fydd unrhyw ystyriaethau nac unrhyw fanteision tymor byr byth yn ein troi oddi wrth ein bwriad craidd. Er hynny, rydym yn gwybod nad yw Eryri yn ddiogel rhag pwysau'r byd sydd ohoni. Yn anffodus, mae’r cynnydd mewn ymwelwyr i'r ardal a'r pwysau ar ffermwyr i arallgyfeirio

yn siŵr o achosi newidiadau na allwn droi ein cefnau arnynt. Mae sut rydym yn ymdopi â'r newidiadau hyn yn her y mae’n rhaid inni weithio arni gyda’n gilydd. Efallai na fyddwn bob amser yn cytuno ar unwaith sut yn union y dylem ymateb. Ond rydym i gyd yn gytûn ynghylch beth yw ein nod yn y pen draw, sef gwarchod un o'r llecynnau prydferthaf a mwyaf arbennig sydd ar y ddaear yma a’i reoli mewn ffordd gynaliadwy. Gadewch inni weithio gyda’n gilydd, trin a thrafod unrhyw wahaniaethau rhyngom o ran sut i weithredu a’u datrys orau y gallwn, a gwneud ein gorau i ddeall ein gilydd gan wybod ein bod yn anelu at yr un canlyniad. Byddem yn falch iawn pe baech yn derbyn ein cynnig i ddod draw i ddiwrnod agored y gallwn ei drefnu ar eich cyfer am ynni dŵr, er mwyn i chi weld y cyswllt rhwng hyn a’n hymagwedd tuag at warchod a rheoli tir. Os ydych am ddysgu mwy am beth rydym yn ei wneud, ewch i www.nationaltrust.org.uk/cy_gb/features/ ynni-gwyrdd-yng-nghymru Neu mae croeso i chi gysylltu â ni ar 01766 510120 neu hydroseryri@nationaltrust.org.uk er mwyn trefnu ymweliad. Justin Albert, Cyfarwyddwr Cymru Trystan Edwards, Rheolwr Cyffredinol Eryri a Phen Llŷn, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Letter from the National Trust While we continue to work closely with the National Trust, joining forces to deliver practical conservation for Snowdonia, the Snowdonia Society has questioned their involvement in some hydro schemes. We offered NT a 'right of reply'. Dear Snowdonia Society Members, We have a shared passion – to ensure the best possible future for Snowdonia. But, some of you may wonder about the strength of National Trust Wales’ commitment following recent coverage about our role in hydro scheme building in Snowdonia. We don’t expect you to trust us just on our word or past reputation alone, or on our pledge to look after special places for ever for everyone. Deeds speak louder than words. We would like to invite members of Snowdonia Society and interested others

Croesewir llythyrau a sylwadau ar unrhyw agwedd o’n gwaith a’n hymgyrchoedd, neu ar unrhyw fater sy’n effeithio ar y Parc Cenedlaethol. Argraffir llythyrau yn yr iaith y cawn hwy.

to visit our hydro developments and see for yourselves. We want to show you directly how we leave the landscape after a hydro is built and the importance of quality reinstatement. We can show you also the benefits that hydro schemes can bring for sustainable farming and local communities. Most importantly, we can show how the projects assist in tackling climate change as part of a nationwide plan to cut fossil fuel and how revenue from hydro generation helps conservation in the immediate area. We’ve also been doing a lot of work with local communities on this front, and are pleased that several good projects have been implemented successfully in the landscape. We know you want to protect Snowdonia’s special places and make that a common cause. We want to reassure you that we do too, and our core purpose will never be swayed by short-term considerations or gain. However, we know Snowdonia is not immune to pressures from today’s world. The growth in visitors to the area and the pressures on farmers to diversify are inevitably going to bring changes we cannot turn our backs on. How we manage those changes is a challenge we have to work on together. We may not always agree immediately on how exactly to respond. But we do all agree on what our ultimate goal is - conserving and sustainably managing one of the most beautiful and special places on the planet. Let’s work together, work through any differences on approach as best as we can, and strive to understand each other in the knowledge we are working for the same result. Please accept our offer to come along to an open day which we can arrange for you about hydro energy, and see how it links in with our approach to conservation and land management. If you want to know more about what we are doing, please go to www.nationaltrust.org.uk/features/greenenergy-in-wales Or feel free to contact us on 01766 510120 or hydroseryri@nationaltrust.org.uk to arrange a visit. Justin Albert, Director for Wales Trystan Edwards, General Manager Snowdonia and Llŷn, the National Trust

We welcome letters or comments on any aspect of our work and campaigns or on any issue that affects the National Park. Letters are printed in the language in which we receive them.

Cymdeithas Eryri the Snowdonia Society, Yr Hen Ysgol, Caban, Brynrefail, Caernarfon LL55 3NR

 info@snowdonia-society.org.uk

1967 - 2017: Protecting and celebrating Snowdonia for 50 years | 31


50 mlynedd o ^ rwan... Ers 50 mlynedd mae gwirfoddolwyr ac aelodau Cymdeithas Eryri'n cyfrannu eu hamser a’u harian i ofalu am ac amddiffyn mynyddoedd, dyffrynnoedd a golygfeydd arbennig Eryri. Mae’n drueni na allwn ni ddweud, “Hwre! Mae natur a harddwch Eryri’n ddiogel. Mae’r holl drigolion, ymwelwyr a phobl sy'n gweithio yma yn eu caru ac yn gofalu amdanyn nhw." Ond 50 mlynedd wedyn ac mae ar Eryri angen ein

gwaith a’ch cymorth yn fwy nag erioed!

Bydd eich cyfraniad at ein Cronfa'r Dyfodol 50 Mlynedd yn helpu i sicrhau fod Cymdeithas Eryri'n barod am y 50 mlynedd nesaf, ac yn gallu ymateb yn effeithiol i fygythiadau a chyfleoedd i ddod.

Cyfrannwch Rŵan at Ddyfodol Eryri! A dewch i ni sicrhau y bydd Eryri, ymhen 50 mlynedd, yn lle sy’n cael ei garu’n well, ei werthfawrogi’n well a’i fwynhau'n well gan bawb.

50 years from now... For 50 years, Snowdonia Society volunteers and members have given their time and their money to look after and protect Snowdonia's special peaks, valleys and vistas. If we could only say, “Hurray! Snowdonia’s wildness and beauty are safe. They are loved and cared for by all who live, visit or work here.” But 50 years on and Snowdonia needs

our work and your help more than ever!

Your donation to our 50 Years Future Fund will help ensure the Snowdonia Society is fit for the next 50 years and can respond effectively to future challenges and opportunities.

Donate now for Snowdonia’s Future! Let’s make sure that, 50 years from now, Snowdonia is better loved, better valued and better enjoyed by all.

Cyfrannwch... ✓ ar-lein yn www.cymdeithas-eryri.org.uk ✓ gyda siec, yn daladwy i 'Cymdeithas Eryri' ✓ neu ymaelodwch!

Donate... ✓ on-line at www.snowdonia-society.org.uk ✓ by cheque, payable to 'Snowdonia Society' ✓ or join as a member!

 Cymdeithas Eryri the Snowdonia Society, Caban, Yr Hen Ysgol, Brynrefail, Caernarfon, Gwynedd LL55 3NR  01286 685498  info@snowdonia-society.org.uk www.cymdeithas-eryri.org.uk • www.snowdonia-society.org.uk Elusen gofrestredig rhif/Registered charity no: 1155401

32 | Gwarchod a dathlu Eryri ers 50 mlynedd: 1967 - 2017

© Alan Carter

Diolch am eich rhoddion hael hyd yn hyn; rydym wedi derbyn £32,589 at ein targed o £50,000! Thank you for your generosity so far; we are £32,589 towards our £50,000 target!

Profile for Snowdonia Society - Cymdeithas Eryri

Cess autumn mag 2017  

Cylchgrawn hydref 2017 Autumn magazine

Cess autumn mag 2017  

Cylchgrawn hydref 2017 Autumn magazine

Advertisement