GOGLEDD CYMRU: PAROD AM NIWCLEAR
Prospectws ar gyfer buddsoddiad yn y dyfodol


MAE GOGLEDD CYMRU YN RHANBARTH
LLAWER MWY NA CHYFANSWM
EI RANNAU . MAE’R RHANNAU’N
CYFUNO I GREU SYLFAEN AR GYFER
NIWCLEAR NEWYDD YN Y DYFODOL.
Gwerthcymdeithasol
Prospectws ar gyfer buddsoddiad yn y dyfodol
LLAWER MWY NA CHYFANSWM
EI RANNAU . MAE’R RHANNAU’N
CYFUNO I GREU SYLFAEN AR GYFER
NIWCLEAR NEWYDD YN Y DYFODOL.
Gwerthcymdeithasol
Trawsfynydd
Wylfa
Effaith economaidd-gymdeithasol dadgomisiynu
Y BOBL A’R LLE
. Cysylltedd
YGADWYNGYFLENWI
Y rhanbarth mewn rhifau
. TrosolwgogadwyngyflenwiniwclearCymru
Amcangyfrifir y bydd buddsoddiad o fwy na £250bn mewn cynhyrchu ynni niwclear yn y DU er mwyn cyrraedd y targed uchelgeisiol o gyflawni 24GW o bŵer niwclear erbyn 2050. Mae nifer o brosiectau a chynlluniau sylweddol yn yr arfaeth ar gyfer datblygu’r sector niwclear i’r dyfodol.
Mae hyn yn gyfle enfawr i economi Cymru, ac mae Gogledd Cymru mewn sefyllfa gref i yrru twf economaidd o niwclear. Ar ben hynny, byddai buddsoddiad niwclear yn cefnogi bywiogrwydd cymunedau ac yn gwella eu lles cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol am genedlaethau.
Mae gan ein rhanbarth berthynas hirsefydlog, symbiotig â niwclear. Mae gweithgarwch niwclear wedi cael - ac yn parhau i gael - effaith economaidd-gymdeithasol gadarnhaol ar draws Gogledd Cymru a gweddill y wlad, ac rydym wedi datblygu nifer o gryfderau yn seiliedig ar ein profiad yn y sector.
Yn ôl Map Swyddi y Nuclear Industry Association (NIA)*, dim ond tua 1% o weithlu ei aelodau (827 o bobl) sy’n byw yng Nghymru. Ar y llaw arall, mae dros 29,000 o bobl a gyflogir gan aelodau NIA yn gweithio ym maes niwclear yng Ngogledd Orllewin Lloegr. Mae Ynys Môn wedi gweld gostyngiad o 57% mewn swyddi gan aelodau’r NIA - y mwyaf o blith holl etholaethau’r DU - er bod Wylfa yn cael ei gydnabod fel y safle gorau ar gyfer datblygu niwclear newydd yn Ewrop. Mae ffigyrau cyflogaeth yr NIA yn dangos mai dim ond 321 o swyddi niwclear sydd ar yr ynys bellach, o gymharu â 750 yn 2010. Mae swyddi niwclear yn Lloegr ar y llaw arall wedi codi 65%.
* Mae Map Swyddi yr NIA yn crynhoi nifer y swyddi niwclear sifil ar draws ei aelodaeth. Nid yw’n cynrychioli’r holl weithlu niwclear yn y DU.
Ar hyn o bryd, nid yw’r manteision economaidd a grëir gan y sector niwclear yn y DU yn cael eu rhannu’n gyfartal gyda’r mwyafrif yn gysylltiedig â chlystyrau o weithgarwch niwclear sifil yng Ngogledd Orllewin a De-orllewin Lloegr.
Gallai cynyddu cyfran y gweithlu niwclear yng Nghymru, ddim ond i gyd-fynd â’i chyfran o boblogaeth y DU (4%), arwain at gynnydd sylweddol yn nifer y swyddi a lefel GVA.
Byddai buddsoddi mewn niwclear yng Ngogledd Cymru yn helpu i fodloni dyheadau diogelwch ynni, sero net a thargedau twf Llywodraeth y DU; tra hefyd yn cefnogi gweledigaeth Llywodraeth Cymru, fel y nodwyd yng Nghynllun Cenedlaethol 2040, o greu buddion economaidd sylweddol i’r rhanbarth a chynhyrchu ynni carbon isel i helpu yn y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd.
Mae Gogledd Cymru yn barod i fanteisio ar y twf a ragwelir yn y sector niwclear gan unioni’r anghydbwysedd economaidd i ddod â manteision sylweddol i Gymru gyfan.
Mae’n debygol y bydd llawer o fuddsoddiad mewn niwclear dros y degawdau nesaf, gan greu galw am weithlu amrywiol a medrus, gyda llawer o 10,000au o swyddi a chyfleoedd busnes ledled y DU.
Mae’r ddogfen hon yn amlinellu’r cyfle i Gymru o’r twf a ragwelir yn sector niwclear sifil y DU. Mae’n cyflwyno achos dros ddod â niwclear newydd i Ogledd Cymru, gan dynnu sylw at yr holl sydd gan y rhanbarth i’w gynnig.
MAE CWMNI EGINO YN CYNNIG CYFRWNG
SEFYDLEDIG – WEDI’I WREIDDIO YNG
NGOGLEDD CYMRU – I HWYLUSO
DATBLYGIAD NIWCLEAR NEWYDD YN
Y RHANBARTH, AC I DDWYN YNGHYD Y
CYDRANNAU ANGENRHEIDIOL AR GYFER
DELIFRO NIWCLEAR A CHREU BUDDION SYLWEDDOL.
Ein cenhadaeth yw helpu i greu’r amodau i
Ogledd Cymru ffynnu drwy hwyluso’r buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol mwyaf posibl o fuddsoddiad niwclear newydd yn y rhanbarth - neu, mewn geiriau eraill, creu effaith bositif, ystyrlon a pharhaol.
Sefydlwyd Cwmni Egino gan Lywodraeth Cymru yn 2021 i ddatblygu cyfleoedd ar gyfer twf economaidd-gymdeithasol o ddatblygiad niwclear newydd yng Ngogledd Cymru. Mae’r rhagwelediad o sefydlu Cwmni Egino ynddo’i hun yn adlewyrchiad o’r potensial a gydnabyddir yn eang yng Nghymru i sicrhau buddion diriaethol a pharhaol i gymunedau trwy weithgarwch niwclear.
Ers sefydlu’r cwmni, rydym wedi meithrin arbenigedd, methodolegau datblygu a pherthnasoedd cadarnhaol gyda rhanddeiliaid - yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.
Rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo atyniad a photensial niwclear newydd yng Ngogledd Cymru. Mae ein dull gweithredu yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer buddsoddiad niwclear yn y rhanbarth a glasbrint ar gyfer ymgysylltu cymunedol a sicrhau gwerth cymdeithasol mewn perthynas â datblygiadau niwclear newydd mewn mannau eraill yn y DU.
Mae Cwmni Egino yn barod i chwarae rhan allweddol wrth ddelifro niwclear newydd yng Nghymru, gan weithio gyda’r Llywodraeth a rhanddeiliaid eraill.
Yn unol â’r weledigaeth ehangach ar gyfer yr economi a’r sector ynni yng Ngogledd Cymru a thu hwnt, yn ogystal â’r nodau llesiant cenedlaethol, rydym am sicrhau’r effaith gadarnhaol fwyaf bosibl i’n rhanbarth a gweddill y genedl.
Ein cenhadaeth yw dechrau
creu cyfleoedd arloesol i sicrhau ein bod yn diogelu ac yn gwella ein hamgylchedd naturiol wrth ganiatáu i gymunedau ffynnu ar yr un pryd. Adeiladu ar ein cryfderau a manteisio ar gyfleoedd lle maent yn ychwanegu gwerth, y tu hwnt i werth ariannol yn unig, i’r rhanbarth.
Ein gweledigaeth ar gyfer Gogledd Cymru yw: Sicrhau’r buddion economaidd, cymdeithasol, ecolegol a llesiant lleol mwyaf posibl o drosglwyddo i economi sero net a dod yn allforiwr net o drydan carbon isel trwy gydweithrediad trawsffiniol a rhanbarthol.
STRATEGAETH YNNI GOGLEDD CYMRU
Os byddwn yn llwyddiannus wrth wireddu ein cenhadaeth, dylai’r buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol a ddaw yn sgil niwclear newydd gyfrannu at ffyniant Gogledd Cymru.
Mae yna awydd yma am ranbarth lle mae cyfleoedd am ffyniant ar draws tair piler sy’n annatod gysylltiedig â’i gilydd - y bobl, yr economi a’r lle - gyda’r iaith Gymraeg a’r diwylliant Cymreig yn rhedeg rhwng pob un.
Mae gweledigaeth Cwmni Egino o Ogledd Cymru ffyniannus yn cynnwys ein gweledigaethau ar gyfer y tair piler hyn.
Mae Gogledd Cymru yn cynnig yr amodau gorau posibl i bobl wneud dewisiadau sy’n eu galluogi i gyflawni bywyd boddhaus, beth bynnag mae hynny’n ei olygu iddyn nhw.
Mae darpariaeth addas i alluogi pobl i fod yn hapusach, yn iachach, yn wytnach, ac mae ganddynt y modd a’r adnoddau i gael mynediad at, ac elwa o, gymunedau deniadol, hyfyw, diogel gyda chysylltiadau da .
Mae Gogledd Cymru yn amgylchedd arloesol, cynhyrchiol a charbon isel sy’n creu cyfoeth ac yn adeiladu gwytnwch economaidd y mae pobl leol yn elwa ohono. Mae gan bobl yr addysg, y sgiliau a’r gefnogaeth i fanteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael, ac mae’r cyfleoedd hynny’n hygyrch i bawb.
Mae Gogledd Cymru yn lle deniadol i bobl fyw a mwynhau, mae’r amgylchedd naturiol ac adeiledig yn cael ei warchod a’i wella, ac mae cefnogaeth ar gyfer mentrau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol cynaliadwy sy’n ychwanegu gwerth at fywyd cymunedol, yr amgylchedd, a lles ieithyddol a diwylliannol.
Sbardun sylfaenol Cwmni Egino yw gwneud Gogledd Cymru yn lle deniadol i
fyw a gweithio, lle gall cymunedau ffynnu, a lle mae cyfleoedd cymdeithasol ac economaidd cynaliadwy i bobl, nawr ac yn y dyfodol. Yn aml iawn, caiff hyn ei alw’n ‘werth cymdeithasol’ - ac i ni, mae’n synnwyr cyffredin.
Pryd bynnag y byddwn yn siarad am werth cymdeithasol, rydym yn golygu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol a chadarnhaol i fywydau a lles y rhai sy’n galw Gogledd Cymru yn gartref iddynt. Mae hyn yn rhywbeth yr ydym yn angerddol amdano.
I Gwmni Egino, mae creu gwerth cymdeithasol yn mynd ymhell y tu hwnt i fodloni gofynion statudol sylfaenol. Mae gwerth cymdeithasol yn rhan annatod o’n bodolaeth. Rydyn ni’n credu’n gryf fod rhoi buddiannau’r rhanbarth wrth galon popeth a wnawn y ‘peth iawn i’w wneud’ – ac wrth wneud hynny gallwn greu amodau llawer gwell ar gyfer delifro prosiectau niwclear yn llwyddiannus yn y dyfodol.
Rydym yn edrych ar yr hyn y gellir ei wneud i wneud y gorau o’r llu o fuddion y gall buddsoddiad niwclear eu cynnig i Ogledd Cymru: i bawb. Nid fel ychwanegolyn - ond fel ffordd sylfaenol o weithio.
Mae cyfleoedd cyflogaeth, datblygiad sgiliau a’r gadwyn gyflenwi, yn ogystal ag ynni glân, yn gynhenid mewn prosiectau niwclear. Maent yn alluogwyr hynod bwysig i wella ansawdd bywyd; maen nhw’n gyfrwng i wireddau manteision llawer ehangach.
Gall buddsoddiad niwclear ddarparu buddion pellgyrhaeddol i gefnogi gwell ansawdd bywyd i bobl: trwy gadw a denu talent; agor cyfleoedd busnes (y tu hwnt i’r sector niwclear); a chreu llefydd glân, iach a bywiog lle gall pobl ffynnu - lle gall pobl ifanc edrych ymlaen at ddyfodol yn lleol pe baent yn dymuno, a lle gall yr iaith a’r diwylliant Cymraeg flodeuo.
MAE EIN DULL O YMDRIN Â GWERTH CYMDEITHASOL YN CYD-FYND
 DEDDF LLESIANT CENEDLAETHAU’R DYFODOL (CYMRU) 2015, SY’N
DIFFINIO ‘7 NOD LLESIANT’ A ‘5 FFORDD O WEITHIO’ I WELLA LLESIANT
CYMDEITHASOL, DIWYLLIANNOL, ECONOMAIDD AC AMGYLCHEDDOL
CYMRU. MAE’R RHAIN, YN EU TRO, YN DEILLIO O, AC YN CYD-FYND Â
NODAU DATBLYGU CYNALIADWY’R CENHEDLOEDD UNEDIG.
Mae Cwmni Egino wedi datblygu fframwaith gwerth cymdeithasol a strategaeth ymgysylltu, gan dynnu ar ddadansoddiadau o anghenion lleol a data economaidd-gymdeithasol, adborth gan randdeiliaid, rhaglenni economaidd-gymdeithasol presennol yn y rhanbarth, ac enghreifftiau o wireddu buddion ledled y byd.
Gellir mabwysiadu ac addasu ein dull gweithredu i siapio datblygiadau niwclear – a datblygiadau isadeiledd eraill – yn y rhanbarth. Gall helpu i sicrhau bod prosiectau’n cael eu cyflawni’n ymwybodol, a thrwy ddyluniad, o’r dechrau i’r diwedd mewn ffordd sy’n parchu ac yn hyrwyddo anghenion a dyheadau cymunedau lleol.
Mae integreiddio egwyddorion cynaliadwyedd i brosiectau isadeiledd, yn cynnwys ynni, yn cael ei gydnabod fwyfwy fel rhywbeth sy’n greiddiol ar gyfer cyflawni nodau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ehangach.
Mae’n hanfodol ymgysylltu â chymunedau i ddeall eu hanghenion wrth ddatblygu isadeiledd er mwyn sicrhau bod prosiectau’n berthnasol, yn gynaliadwy ac yn fuddiol i’r poblogaethau y maen nhw’n eu gwasanaethu.
Gall ymgysylltu’n rhagweithiol a chynhwysol wrth ymdrin â buddion cymunedol – fel yr amlinellir gan Gwmni Egino – arwain at amgylchiadau mwy ffafriol ar gyfer delifro prosiectau, gan arwain at fudd i ddatblygwyr a chymunedau yn y pen draw.
DR EDWARD JONES, UWCH
DDARLITHYDD MEWN ECONOMEG, PRIFYSGOL BANGOR
18,000
o bobl yn cael eu cyflogi
ar draws y sector
Ynni ac Amgylchedd yng Ngogledd Cymru
Rydym wedi bod yn cynhyrchu ynni ers canrifoedd, ac wedi bod yn gartref i atomfeydd niwclear ers y 1960au.
Mae’n ffaith anhysbys mai Cymru oedd y genedl ddiwydiannol gyntaf yn y
£1.2bn
Gwerth Ychwanegol
Gros (GVA) gan y sector
Ynni a’r Amgylchedd yng Ngogledd Cymru; ~ 8% o gyfanswm GVA
£63m
ar hyn o bryd yn cael ei wario’n flynyddol gyda chwmnïau o Ogledd Cymru sy’n gweithio yn sector niwclear sifil y DU
byd. Mae’r dreftadaeth hon wedi’i cherfio i’n bryniau, yn swatio o amgylch ein glannau ac yn plethu â’n diwylliant. Mae’n rhan anhepgor o bwy ydym ni.
RYDYM WEDI ADDASU GYDA GWYTNWCH AC
ARLOESEDD I DRAWSNEWIDIADAU YNNI’R
GORFFENNOL AC RYDYM EISOES YN GWEITHIO
TUAG AT DDYFODOL CARBON ISEL.
Mae niwclear yn rhan fawr o’n stori - o anterth cynhyrchu trydan yn yr 20fed ganrif, i’r cyfleoedd sydd i ni heddiw o ddadgomisiynu a datblygiadau newydd.
Mae Gogledd Cymru yn ganolfan ar gyfer prosiectau ynni glân, ac mae’r sector carbon isel yn ehangu’n gyflym o fewn y rhanbarth.
Byddai buddsoddiad pellach mewn niwclear yn helpu i angori’r twf hwn, gan sicrhau miloedd o swyddi a chyfleoedd busnes yn ogystal â buddion diriaethol ledled y rhanbarth am ddegawdau lawer i ddod. Byddai hefyd yn cefnogi diwydiannau carbon isel eraill trwy ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy, cynyddu gallu’r gadwyn gyflenwi a pharodrwydd y gweithlu.
Ochr yn ochr â thechnolegau ynni glân eraill, mae gan niwclear rôl enfawr yn ein hadfywiad diwydiannol, economaidd a chymdeithasol modern.
Dengys Cyfrifiad 1851 fod mwy o bobl yn cael eu cyflogi mewn diwydiant nag ym myd amaeth yng Nghymru, y tro cyntaf i hynny ddigwydd mewn unrhyw wlad.
Mae ein gorffennol diwydiannol a’n profiad o gynhyrchu trydan bellach yn siapio ein dyfodol carbon isel. Rydym yn dod yn gyrchfan ar gyfer prosiectau ynni newydd ac mae niwclear yn rhan bwysig o’r eco-system ranbarthol ehangach.
Mae’r gymysgedd o dechnolegau presennol ac arfaethedig yn y sector carbon isel yma yng Ngogledd Cymru yn paratoi’r ffordd i economi ynni amrywiol i gefnogi twf cynaliadwy a gwyrdd. Mae cynlluniau dadgarboneiddio arloesol hefyd mewn sectorau eraill, megis tai, ynghyd â nifer o gynlluniau ynni cymunedol.
Gallai’r sector niwclear a diwydiannau eraill sy’n gysylltiedig ag ynni gefnogi ei gilydd trwy weithgarwch allweddol fel datblygu sgiliau a’r gadwyn gyflenwi.
Mae yna eisoes berthynas rhwng Cwmni Egino ac eraill yn y maes ynni carbon isel, ac awydd i gydweithio a chyd-ddysgu er budd pawb gan fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd a’r buddion y gellir eu gwireddu i bobl a chymunedau yn y rhanbarth.
Mae nodweddion unigryw ac adnoddau naturiol ein rhanbarth yn cynnig y potensial i ddatblygu prosiectau a fydd yn creu swyddi newydd, lleihau allyriadau carbon a chyfrannu at gyflawni sero net erbyn 2050.
Bydd y rhaglen Ynni Carbon Isel o fewn Cynllun Twf Gogledd Cymru yn datgloi’r manteision o brosiectau ynni glân yn y rhanbarth, gan sefydlu Gogledd Cymru fel lleoliad blaenllaw ar gyfer y sector.
Nod portffolio prosiectau’r rhaglen (sy’n cynnwys niwclear newydd yn Nhrawsfynydd) yw sicrhau hyd at £335m o GVA net, creu 1035 o swyddi newydd, a chynhyrchu o leiaf 314MW o drydan carbon isel yn y rhanbarth.
Mae gan Ogledd Cymru gymysgedd unigryw iawn o gapasiti cynhyrchu ynni a hanes o gyflenwi ynni i’r DU ers degawdau! Mae gan y rhanbarth lawer o gryfderau a galluoedd ac rydyn ni mewn sefyllfa berffaith i helpu tuag at y trosglwyddiad cyfiawn i Sero-Net.”
DEBBIE JONES, RHEOLWR
ARLOESEDD CARBON
ISEL, M-SPARC
Mae’r Cynllun Twf yn gytundeb a fydd yn arwain at fuddsoddiad o dros £1 biliwn i Ogledd Cymru. Wedi’i lofnodi ym mis Rhagfyr 2020, mae’r cytundeb yn sicrhau cyllid o £120 miliwn gan Lywodraeth Cymru a £120 miliwn gan Lywodraeth y DU i fuddsoddi ym mhortffolio prosiect y Cynllun Twf.
Bydd cyllid y Llywodraeth yn cael ei dderbyn yn flynyddol hyd at 2036 wrth i brosiectau dderbyn cymeradwyaeth ar sail Achos Busnes Llawn. Bydd y sector preifat a chyhoeddus yn cydweithio i ddenu cyllid ychwanegol a fydd yn ffurfio’r cyfanswm o £1 biliwn.
Mae 37%
o gapasiti ynni adnewyddadwy Cymru yn y Gogledd (1,183 MW)
Mae oddeutu 85%
o sgiliau a chadwynni cyflenwi yn drosglwyddadwy rhwng sectorau
ynni a diwydiannau isadeiledd eraill
Byddai adweithydd 3 GW yn Wylfa yn ychwanegu’n sylweddol at gapasiti cynhyrchu carbon isel Gogledd Cymru.
GOGLEDD CYMRU
DADGOMISIYNU
NIWCLEAR NEWYDD
RHYNG-GYSYLLTYDD
Mae niwclear yn darparu pŵer sylfaenol dibynadwy a all gydbwyso amrywioldeb gwynt a ffynonellau adnewyddadwy eraill, a lleihau cyfanswm costau dadgarboneiddio’r gymysgedd ynni.
Mae gan Ogledd Cymru ddau safle ardderchog ar gyfer datblygu niwclear newydd, gyda’r potensial i gartrefu prosiectau mawr a bach.
Mae ein rhanbarth yn ymgeisydd cryf ar gyfer lleoli prosiectau niwclear newydd. Mae gwaith Cwmni Egino yn dangos hyfywedd niwclear ar raddfa fach yn Nhrawsfynydd, tra bod pryniant safle Wylfa gan Lywodraeth y DU a gwaith datblygu blaenorol gan gwmni Pŵer Niwclear Horizon yn ei gwneud yn lleoliad deniadol ar gyfer buddsoddi yn y dyfodol – boed hynny’n Adweithyddion Modiwlaidd Bach (SMR) neu’n ddatblygiad ar raddfa gigawat fawr.
Mae gan y ddau safle dreftadaeth niwclear gadarn, gan gynnwys gwybodaeth a sgiliau wedi’u hogi’n lleol dros ddegawdau lawer a gweithlu sydd eisoes yn weithredol yn y sector trwy ddadgomisiynu a gweithgarwch o fewn y gadwyn gyflenwi.
» Mae legasi Trawsfynydd yn ymestyn yn ôl dros 60 mlynedd pan adeiladwyd yr orsaf bŵer bresennol a’i hagor ym 1965. Cynhyrchodd y safle ddigon o drydan i bweru tua 1m o gartrefi’r flwyddyn dros 26 mlynedd, ac ar ei anterth roedd yn cyflogi 700+ o bobl. Mae’r broses ddadgomisiynu wedi bod yn mynd rhagddi ers dechrau’r 1990au, gyda chyflogaeth barhaus ar y safle a thrwy’r gadwyn gyflenwi.
» Daeth cyfnod cynhyrchu trydan yr atomfa bresennol yn Wylfa i ben yn 2015 gan nodi diwedd cyfnod i adweithyddion Magnox yn y DU o ran cynhyrchu trydan. Cwblhawyd y gwaith o ddadlenwi tanwydd ym mis Medi 2019, yn cynnwys tynnu 87,890 o elfennau tanwydd o’r safle a’u cludo i Sellafield i’w hailbrosesu.
Trawsfynydd yn Ne Gwynedd yw’r safle ‘arwain a dysgu’ ar gyfer datgymalu adweithyddion o fewn fflyd y Gwasanaethau Adfer Niwclear (NRS) sy’n golygu bod gweithgareddau dadgomisiynu parhaus ar y safle.
Mae’r gwaith arfaethedig yn cynnwys dymchwel pellach i leihau risg a pheryglon yn raddol yn wahanol i’r strategaeth flaenorol o baratoi’r safle ar gyfer cyfnod wei’i ohirio. Mae hyn yn sicrhau amgylchedd mwy diogel a hefyd yn meithrin gweithlu medrus yn yr ardal leol - gan gryfhau’r economi leol a chefnogi’r gymuned.
Mae cyfle yn y fan a’r lle i fanteisio ar yr effaith economaiddgymdeithasol a ddaw o ddadgomisiynu, yn ogystal â manteisio i’r eithaf ar addasrwydd y safle ar gyfer datblygiadau yn y dyfodol a buddion tymor hwy.
Mae safle niwclear
Trawsfynydd o dan berchnogaeth yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear (NDA) ac mae ganddo gysylltiad ag isadeiledd hanfodol, gan gynnwys y Grid Cenedlaethol.
Llofnododd Cwmni Egino ac NDA Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn 2022 i gefnogi’r gwaith o asesu a datblygu Trawsfynydd fel safle ar gyfer defnydd niwclear yn y dyfodol.
GALLAI DATBLYGIAD SMR YN
NHRAWSFYNYDD GREU MWY NA
400 O SWYDDI HIRDYMOR A
MWY NA £600M MEWN GVA
I OGLEDD GORLLEWIN CYMRU A
£1.3BN MEWN GVA I GYMRU
GYFAN DROS GYFNOD GWEITHREDOL
O 60 MLYNEDD.
Mi ge’s i fy magu yng Ngogledd Orllewin Cymru a dwi’n dal i fyw yma. Mae fy rhieni hefyd yn wreiddiol o’r ardal. Felly dwi wrth fy modd mod i wedi cael y cyfle i fod yn Gyfarwyddwr
Safle Trawsfynydd. Magwyd fy mam ym mhentref Trawsfynydd a bu fy nhaid yn helpu i adeiladu’r orsaf bŵer wreiddiol yn ôl ddechrau’r 1960au, cyn gweithio yma fel peiriannydd yn ystod y cyfnod cynhyrchu trydan nes iddo ymddeol yn 1997.
TOM WILLIAMS, CYFARWYDDWR
SAFLE TRAWSFYNYDD, NRS
Mae Cwmni Egino wedi archwilio’r posibilrwydd o ddatblygu niwclear newydd yn Nhrawsfynydd. Datblygwyd cynnig busnes sylweddol sy’n dangos hyfywedd defnyddio niwclear ar raddfa fach ar y safle i gefnogi uchelgeisiau ynni niwclear ehangach y DU - naill ai fel rhan o raglen Great British Nuclear (GBN) yn y dyfodol neu drwy fuddsoddiad preifat.
Mae potensial hefyd i ddelifro gweledigaeth ehangach ar gyfer y safle yn seiliedig ar yr etifeddiaeth niwclear a sefydlwyd eisoes. Mae’r arbenigedd dadgomisiynu sydd wedi’i meithrin yn Nhrawsfynydd yn prysur ennill statws canolfan ragoriaeth ar gyfer y safle, gan ysgogi diddordeb byd-eang a chreu cyfle ar gyfer gweithgarwch economaidd amlddisgyblaethol ehangach yn yr ardal.
Mae Prosiect ARTHUR Llywodraeth Cymru yn datblygu achos busnes ar gyfer Adweithydd Ymchwil Feddygol y gellid ei leoli yn Nhrawsfynydd ar dir y tu hwnt i’r hyn sy’n ofynnol ar gyfer gorsaf bŵer niwclear. Byddai hyn yn cyfrannu at gynyddu capasiti ar gyfer triniaethau canser ac afiechydon eraill yn ogystal â chreu swyddi yn uniongyrchol a thrwy ymchwil ac arloesedd cysylltiedig.
Yn ogystal, mae gwaith ar y gweill i ystyried dichonoldeb cyfleuster cydweithredol i ategu cyfleoedd dadgomisiynu, niwclear newydd ac ymchwil feddygol ar y safle. Byddai hyn yn darparu amgylchedd ar gyfer diwydiant, y gymuned academaidd a busnesau lleol i harneisio arbenigedd presennol a datblygu mentrau newydd o amgylch ynni niwclear a glân – gan greu sgôp ychwanegol ar gyfer creu gwerth cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.
Saif Wylfa ar arfordir gogleddol Ynys Môn. Yn weithredol rhwng 1971 a 2015, hwn oedd y mwyaf a’r olaf o blith yr adweithyddion niwclear a adeiladwyd gan Magnox. Cynhyrchodd ddigon o drydan i bweru tua 2m o gartrefi y flwyddyn yn ystod ei oes weithredol.
Mae Wylfa wedi’i restru yn y Datganiad Polisi Cenedlaethol ar gyfer Cynhyrchu Pŵer Niwclear (EN-6) fel safle addas ar gyfer datblygiad niwclear newydd. Gydag arwynebedd o fwy na 200 hectar, mae’n safle ardderchog ar gyfer cynhyrchu ynni niwclear newydd, boed hynny trwy adweithyddion bach neu fawr. Byddai datblygiad newydd yn Wylfa yn cynyddu gallu cynhyrchu carbon isel Gogledd Cymru yn aruthrol, gan greu cyflogaeth y mae mawr ei angen a gwerth cymdeithasol ehangach ar yr ynys ac ar draws y rhanbarth.
Sefydlwyd Pŵer Niwclear Horizon yn 2009, yn dilyn pryniant tir yn Oldbury yn Ne Swydd Gaerloyw ac Wylfa yng Ngogledd Cymru. Cafodd y cwmni ei gaffael gan Hitachi yn 2012 a’r bwriad oedd adeiladu Uwch-adweithyddion Dŵr Berwedig 1350MWe ar bob safle.
Datblygodd Horizon brosiect yn Wylfa hyd at gyflwyno ceisiadau am drwyddedau, gan gynnwys Gorchymyn Caniatâd Datblygu. Yn anffodus, ni lwyddodd i ddod i gytundeb i ariannu’r prosiect ac yn 2024, cafodd tir Horizon yn Wylfa ei brynu gan Great British Nuclear gyda’r bwriad o fynd ar drywydd cyfleoedd niwclear newydd, gan nodi’r gwaith datblygu sylweddol a oedd eisoes wedi’i wneud.
Mae Gogledd Ynys Môn wedi gweld dirywiad economaidd dros y 20 mlynedd diwethaf. Mae diffyg swyddi wedi arwain at sefyllfa lle mae pobl mewn oed gwaith, llawer ohonyn nhw’n siaradwyr Cymraeg, yn symud i ffwrdd gyda’u teuluoeddgan adael poblogaeth sy’n heneiddio ac economi sy’n wynebu heriau mawr.
Mae Wylfa yn un o’r safleoedd gorau yn Ewrop ar gyfer niwclear newydd... Byddai capasiti niwclear newydd yn Wylfa yn trawsnewid economi
Gogledd Cymru gyda buddsoddiad newydd, miloedd o swyddi da, yn ogystal â darparu pŵer glân, dibynadwy a sofran ymhell i’r ganrif nesaf.
NUCLEAR INDUSTRY ASSOCIATION
Mae datblygiad niwclear newydd yn Wylfa, naill ai yn un gigawat neu SMR, yn hanfodol er mwyn sicrhau lles a ffyniant hirdymor cymunedau ein hynys, yn enwedig y rhai yng Ngogledd Ynys Môn.
GARY PRITCHARD, ARWEINYDD CYNGOR SIR YNYS MÔN
gyfrifiadurol o orsaf bŵer arfaethedig Wylfa Newydd ar Ynys Môn (Credyd: Pŵer Niwclear Horizon)
Fe wnaethon ni sicrhau contractau cynnar gyda Horizon i gefnogi gwaith galluogi ar y safle. Roedd hyn yn hwb mawr i’r cwmni gan ganiatáu i ni dyfu a chyflogi mwy o staff. Er na wnaeth Wylfa Newydd ddigwydd y tro diwethaf, rydan ni’n obeithiol y bydd pethau’n cychwyn eto yn fuan. Byddai’n dda i ni ond hefyd i’r ynys, gan ddod â swyddi tymor hir yma. Fel llawer o gwmnïau lleol eraill, rydyan ni’n barod i gamu i fyny eto.
MARK BLACKWELL, RHEOLWR GYFARWYDDWR DU CONSTRUCTION, CWMNI O YNYS MÔN
Effaith bosibl niwclear newydd yn Wylfa £4bn
o fewn-fuddsoddiad i Gymru, y mwyaf yn ein hanes
Hyd at £325m
o wariant blynyddol gyda’r gadwyn gyflenwi yng Ngogledd Cymru
Digon o drydan glân, dibynadwy i bweru
£6m
o gartrefi yn y DU
900
o swyddi gweithredol am 60-80 o flynyddoedd
» Mwy na 300 o bobl yn gweithio ar y safle.
» 11 prentis: 3 cynnal a chadw crefft trydanol, 2 crefft a chynnal a chadw mecanyddol, 4 technegydd amddiffyn radiolegol, a 2 mewn amddiffyn ymbelydredd.
» Mae 95% o’r holl weithwyr ac 80% o recriwtiaid newydd yn byw yn ardal yr awdurdod lleol neu un gyfagos.
» Tua £2m o gyllid economaidd-gymdeithasol ar gyfer prosiectau lleol gan NDA/Magnox rhwng 2012-22.
» £14m mewn GVA o ddadgomisiynu ar y safle.
» Mwy na 200 o bobl yn gweithio ar y safle.
» 10 prentis: 3 gweithiwr niwclear, 4 gwaith cynnal a chadw crefft drydanol a 3 gwaith cynnal a chadw crefft fecanyddol.
» Mae 97% o’r holl weithwyr a 100% o recriwtiaid newydd yn byw yn ardal yr awdurdod lleol neu un gyfagos.
» £6m o gyllid economaidd-gymdeithasol ar gyfer prosiectau lleol gan NDA/Magnox rhwng 2012-22.
» £19m mewn GVA o ddadgomisiynu ar y safle.
Mae grŵp NDA yn buddsoddi tua £15m yn uniongyrchol bob blwyddyn drwy raglen grantiau tuag at yn ymyriadau economaidd mewn cymunedau penodol a gydgrëwyd â rhanddeiliaid lleol ar sail data economaidd a gynhyrchir yn annibynnol sy’n manylu ar effaith gymdeithasol ac economaidd ein gweithgareddau ar y cymunedau hynny sydd agosaf at ein safleoedd.
STRATEGAETH EFFAITH GYMDEITHASOL A CHYMUNEDAU’R NDA (2024)
£7.8m o gyllid economaidd-gymdeithasol NDA/Magnox wedi’i glustnodi i Ogledd Cymru rhwng 2012-22
Derbyniodd Gogledd Cymru
£520,000
o gyllid NDA/NRS wedi’i glustnodi i Drawsfynydd a Wylfa in 2023-24 – tua 50% o gyfanswm cyllid economaidd-gymdeithasol yr NRS am y cyfnod
Mae gan Ogledd Cymru 3 ardal o harddwch naturiol eithriadol, 15 mynydd uwchben 3000 troedfedd, gan gynnwys y mynydd uchaf yng Nghymru a Lloegr, 5 dynodiad Arfordir Treftadaeth, 3 Safle Treftadaeth y Byd UNESCO, a 1210 o henebion cofrestredig o bwysigrwydd cenedlaethol.
Mae ein pobl yn dod â bywyd i’n tirwedd brydferth; mae’r lle arbennig hwn yn cefnogi ein ffordd o fyw.
Mae pobl a lleoedd wedi’u cydblethu, yn enwedig mewn cymunedau gwledig fel Gogledd Cymru. Rydyn ni’n byw, gweithio a mwynhau yn ein hamgylchedd naturiol; dyma asgwrn cefn ein hiaith, ein diwylliant, a’n hunaniaeth.
Mae gan yr dreftadaeth ddiwydiannol a diwylliannol gyfoethog, ac mae’n gyrchfan twristiaeth a hamdden boblogaidd oherwydd ein mynyddoedd godidog, ein harfordir ysblennydd a’n hardaloedd o harddwch eithriadol.
Mae ymdeimlad cryf o berthyn yma yng Ngogledd Cymru. Pan fydd pobl yn gadael, maen nhw eisiau dychwelyd. Pan fydd pobl yn dod yma, dydyn nhw ddim eisiau gadael.
Ond mae ein rhanbarth hefyd yn wynebu llawer o heriau economaidd ac er gwaethaf pocedi o gyflogaeth cymharol uchel, mae rhai o’n cymunedau ymhlith y rhai mwyaf difreintiedig yn y DU.
ER MWYN I’N POBL A’N LLEOEDD FFYNNU, MAE ANGEN I NI GREU’R
AMGYLCHEDD AR GYFER TWF ECONOMAIDD-GYMDEITHASOL PARHAUS, GAN DDARPARU SWYDDI A CHYFLEOEDD ECONOMAIDD. MAE’R RHAIN
YN ALLUOGWYR ALLWEDDOL AR GYFER CADW A DENU TALENT, CEFNOGI HYFYWEDD EIN CYMUNEDAU – GAN GYNNWYS EIN HIAITH
A’N DIWYLLIANT – A DIOGELU AMGYLCHEDD CYNALIADWY.
Rydym wedi profi o lygad y ffynnon sut y gall datblygiadau niwclear, fel prosiectau isadeiledd eraill, ysgogi adfywiad, darparu catalydd ar gyfer newid cadarnhaol, a chryfhau ein synnwyr o le.
Mae ein cymunedau’n barod i groesawu’r genhedlaeth nesaf o gyfleoedd niwclear yn y rhanbarth. Mae dealltwriaeth eang o fanteision niwclear, a dyhead i gipio’r buddion a all lifo o brosiectau newydd. Er na ddylid byth ei gymryd yn ganiataol, mae’r drwydded gymdeithasol i weithredu yn bodoli yng Ngogledd Cymru.
Rydyn ni am weld potensial niwclear yn cael ei wireddu i sicrhau ein lles cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol am ddegawdau i ddod a darparu’r amodau i bobl aros, dychwelyd neu gael eu croesawu i’n cymunedau.
Mae premiwm cyflog y diwydiant niwclear yn sylweddol, gyda chyflogau 80% yn uwch na chyfartaledd y DU. Mae pob swydd niwclear yn cyfrannu £102,300 mewn GVA i’r economi ar gyfartaledd.
Mae hyn yn tanlinellu pwysigrwydd prosiectau niwclear ar gyfer ardaloedd gwledig yng
Ngogledd Cymru, lle gall swyddi gwerth uchel o’r fath drawsnewid economïau lleol a mynd i’r afael â heriau cymdeithasol. Mae 54% o bobl yng Nghymru yn cefnogi ynni niwclear, o gymharu â 24% sy’n gwrthwynebu.
Ffynhonnell: Public Attitudes toward Clean Energy
Cartref i tua 700,000 o bobl – oddeutu 23% o boblogaeth Cymru.
Incwm gwario y pen o £18,247 – tebyg i’r ffigwr ar gyfer Cymru gyfan sydd 10fed allan o 12 ymhlith rhanbarthau a chenhedloedd y DU.
Mae 45% o’r boblogaeth dros 50 oed – y canolrif oedran yw 46 (uwch na Chymru a Lloegr).
Rhagwelir y bydd y nifer o oedolion 65+ oed yn cynyddu o 17% erbyn 2025 – hyn yn debyg o gynyddu’r nifer sy’n economaidd anweithgar oherwydd ymddeoliad, gwaeledd a chyfrifoldebau gofal.
Mae cyfartaledd cyflog fesul swydd yn £24.8k - mae hyn £5.6k yn llai na’r cyfartaledd cenedlaethol o £30.4k.
Mae cyflogau llawn amser yn £622 yr wythnos ar gyfartaledd - yr ail isaf yng Nghymru.
194,293 o siaradwyr Cymraeg yn y rhanbarth (2021) 5% yn llai na 2011. Mae’r ganran uchaf o siaradwyr Cymraeg yng Ngwynedd (64.3%) ac Ynys Môn (55.8%).
Tra’n darlithio peirianneg mewn coleg trydyddol yn Nolgellau am chwe blynedd, gwelais lawer o fyfyrwyr brwdfrydig a thalentog ond heb lawer o gyfleoedd. Er gwaethaf eu potensial, dim ond llond llaw wnaeth sicrhau prentisiaethau. Mae llawer yn rhagori yn eu gyrfaoedd ond yn aml yn wynebu teithiau hir neu adleoli parhaol.
Gyda llawer o brosiectau mawr cyffrous yn yr arfaeth – ac yn
enwedig gyda’r potensial am fuddsoddiad niwclear – rydyn ni’n yn hyderus bod gan Ogledd Cymru ddyfodol disglair, ac yn ymroddedig i gyfrannu at y dyfodol hwn mewn ffordd ystyrlon. Drwy gynnig prentisiaethau a swyddi sy’n talu’n dda, ein nod yw denu peirianwyr a dylunwyr yn ôl i Gymru.
Mae yna batrwm o fudo net yng Nghymru, gyda phobl ifanc 15 i 29 oed yn gadael am ardaloedd eraill yn y DU ar gyfer gwell tâl neu yrfaoedd mwy deniadol. Mae hyn yn arbennig o amlwg mewn rhannau o Ogledd Cymru, gyda thuedd gyson tuag at bobl ifanc a thalentog yn ymadael - Ynys Môn, er enghraifft, sydd â’r drydedd gyfran isaf o’r grŵp oedran hwn o holl etholaethau seneddol Cymru.
Yn aml, un o elfennau’r drafodaeth am ddyfodol cymunedau Cymraeg yw’r angen i’w gwarchod ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol ac, o ganlyniad, y meddylfryd y dylid felly eu gwarchod rhag newid a thyfu yn economaidd. Er y gellir deall y rhesymau am y meddylfryd hwnnw, mae’n ddyletswydd ar y Llywodraeth i hybu twf economaidd a lledaenu ffyniant ar draws Cymru. Ni allwn ddisgwyl i gymunedau Cymraeg aros yn statig tra bo natur cymdeithas yn newid... Rydym am weld swyddi da sy’n galluogi pobl ifanc i aros neu, os ydynt yn gadael am brofiadau bywyd gwahanol, ddychwelyd i’r ardaloedd hyn i fyw a magu teulu.
LLYWODRAETH CYMRU, ‘CYMRAEG
2050: MILIWN O SIARADWYR’
Cysylltedd
Ffyrdd
Mae Gogledd Cymru yn elwa o gysylltedd cryf ar hyd yr A55 a’r A470.
Mae’r A55 yn agor y rhanbarth i bobl, nwyddau a deunyddiau o ganolfannau trefol fel Warrington, Manceinion a Lerpwl. Yr A470 yw’r prif gysylltiad ffordd rhwng Gogledd a De Cymru.
Rheilffyrdd
Mae rhwydwaith Gogledd Cymru, ac yn enwedig argaeledd pennau rheilffordd yn agos at safleoedd Wylfa a Thrawsfynydd, yn rhoi’r cyfle i leihau dibyniaeth prosiectau ar y briffordd ar gyfer cymudo staff a delifro cydrannau a deunyddiau.
Porthladdoedd
Mae Gogledd Cymru yn gartref i Borthladd Rhydd dynodedig ar Ynys Môn. Mae hyn yn agor cyfleoedd economaidd-gymdeithasol ychwanegol ac yn darparu canolbwynt canolog i ddosbarthu cydrannau i borthladdoedd yn agosach at safleoedd yn y dyfodol.
Cysylltiad Grid
Mae Rhwydwaith Trosglwyddo Trydan y Grid
Cenedlaethol ac yn enwedig is-orsafoedd sydd wedi’u lleoli yn Wylfa a Thrawsfynydd yn lleddfu cysylltedd ar gyfer datblygu yn y dyfodol.Mae gan Cwmni Egino Gytundeb Cysylltiad Grid ar gyfer hyd at 940MW yn Nhrawsfynydd.
Amseroedd a phellteroedd teithio:
Wylfa Trawsfynydd
Caer 91 Milltir (110 munud) 60 Milltir (100 munud)
Warrington 110 Milltir (120 munud) 78 Milltir (115 munud)
Lerpwl 100 Milltir (120 munud) 70 Milltir (120 munud)
Manceinion 130 Milltir (150 munud) 97 Milltir (140 munud)
Wrecsam 100 Milltir (120 munud) 48 Milltir (85 munud)
Y Trallwng 130 Milltir (160 munud) 50 Milltir (70 munud)
Mae Cwmni Egino wedi casglu gwybodaeth drylwyr am y gadwyn gyflenwi niwclear yng Nghymru, gan gynnwys capasiti, gallu a’r awydd presennol a phosib ar gyfer gwaith yn y sector yn y dyfodol. Gall hyn gefnogi ymdrechion rhanbarthol, traws-sector i ddatblygu’r gadwyn gyflenwi ac ymgysylltu â’r farchnad.
Ar hyn o bryd mae 345 o sefydliadau yng Nghymru sy’n cefnogi’r sector niwclear, gyda chyfanswm o tua £160m mewn gwerthiannau bob blwyddyn yn uniongyrchol o weithgaredd niwclear. O’r rhain mae 114 o sefydliadau wedi’u lleoli yng Ngogledd Cymru, gydag oddeutu £63m yn flynyddol i’r economi ranbarthol. Nid yw hyn yn cynnwys cyfraniad swyddfeydd rhanbarthol busnesau ledled y DU sydd â’u pencadlys y tu allan i Gymru.
Gwariodd prosiect niwclear newydd Hinkley Point tua £165 miliwn yng Nghymru hyd at 2023. O ystyried ei leoliad daearyddol, mae’r mwyafrif o gwmnïau o Gymru sy’n cyflenwi Hinkley Point C wedi’u lleoli yn Ne Cymru.
Amcangyfrifir y bydd Hinkley Point C yn gwario hyd at £700 miliwn gyda’r gadwyn gyflenwi Gymreig yn ystod y cyfnod adeiladu, gan greu oddeutu 3,500 o swyddi yng Nghymru.
Mae yna botensial amlwg i gynyddu gweithgarwch o fewn y gadwyn gyflenwi niwclear yng Nghymru trwy’r cynnydd ar ragwelir mewn gwariant gan ddatblygiadau niwclear newydd yn sgil rhaglenni ledled y DU a phrosiectau yn y rhanbarth, e.e. ar safleoedd Wylfa a Thrawsfynydd.
Mae cryfder cadwyn gyflenwi Cymru yn bennaf ymhlith/ busnesau bach a chanolig, yn enwedig yng Ngogledd Cymru. O’r busnesau yng Ngogledd Cymru sy’n cyflenwi Hinkley Point C, mae 96% yn BBaChau, gydag 1 cyflenwr mawr wedi’i leoli’n rhanbarthol. Ar y llaw arall, mae 17 o gyflenwyr mawr yn Ne Cymru sy’n darparu yn Hinkley Point C.
Mae cwmnïau Gogledd Cymru mewn sefyllfa dda i gyflenwi nwyddau a gwasanaethau i’r sector niwclear mewn nifer o feysydd, yn cynnwys offer a chyfarpar; cyflenwad cyfanwerthol anarbenigol; atgyweirio a chynnal a chadw; gosod trydanol a mecanyddol; a rheoli gwastraff.
Mae cyfle am dwf organig, cynaliadwy drwy adeiladu ar allu presennol a newydd yn y gadwyn gyflenwi yng Nghymru a Gogledd Cymru, a harneisio arbenigedd cwmnïau sydd eisoes yn weithredol ym maes niwclear yn ogystal â denu newydd-ddyfodiaid nad ydynt efallai’n ystyried eu hunain yn ‘gwmnïau niwclear’ ar hyn o bryd ond sydd â’r awydd a’r potensial i gyflenwi’r sector.
O ystyried mor gyffredin yw llawer o’r gwasanaethau a’r sgiliau angenrheidiol, gallai datblygu’r gadwyn gyflenwi niwclear yng Nghymru gefnogi ac agor cyfleoedd mewn diwydiannau eraill.
10,900+ o gyflenwyr niwclear posib yng Nghymru
£23-26bn cyfanswm capasiti y cyflenwyr posib yng Nghymru
Cymru
Cwmnïau sy’n weithredol yn y sector niwclear ar hyn o bryd 345 114 Cyfran sefydliadol o gadwyn gyflenwi niwclear y DU
Nifer sy’n cael eu cyflogi gan gwmnïau sy’n gweithio yn y sector niwclear ar hyn o bryd 46,000
Gwariant blynyddol gyda’r gadwyn gyflenwi o weithgarwch niwclear presennol yn y DU
Cyfran o’r farchnad o gyfanswm gwariant niwclear sifil y DU
Capasiti’r gadwyn gyflenwi bresennol
Sefydliadau bach a meicro sy’n rhan o’r
Mae Hinkley Point C, ar arfordir Gwlad yr Haf, yn enghraifft go iawn o sut y gall datblygiadau niwclear newydd hybu economïau rhanbarthol a chefnogi cymunedau lleol.
Mae dros £5.3 biliwn wedi cael ei wario gan y prosiect ar gyfleoedd i’r gadwyn gyflenwi leol ar draws De-orllewin Lloegr. Mae wedi creu 23,000 o swyddi newydd ac amcangyfrifir bod miloedd o gyfleoedd anuniongyrchol wedi’u creu ymhellach i lawr y gadwyn gyflenwi.
Erbyn diwedd y prosiect adeiladu, bydd rhanbarth De-orllewin Lloegr wedi cael gwerth tua £7.3 biliwn o gyfleoedd trwy gontractau a gweithgarwch yn y gadwyn gyflenwi, sy’n cyfateb i tua 20% o gyfanswm cost y prosiect.
Mae angen i gyfanswm gweithlu niwclear y DU fwy na dyblu er mwyn cyflawni targed Llywodraeth y DU o 24GW o bŵer niwclear erbyn 2050 - o tua 83,000 o bobl sy’n gweithio yn y sector ar hyn o bryd i rhwng
150,000 a 180,000. Bydd angen llenwi 40,000 o swyddi yn y sector niwclear erbyn 2030 i ateb y galw.
Mae cyflogau yn y sector niwclear sifil yn uwch ar gyfartaledd na diwydiannau eraill, ac mae ganddynt ddimensiwn rhanbarthol cryf sy’n golygu y gall pobl fyw a gweithio yn eu cymunedau.
Mae’r sgiliau sydd eu hangen yn mynd ymhell y tu hwnt i beirianneg niwclear; mae galw ar draws ystod eang o sgiliau ehangach ar gyfer niwclear, fel adeiladu a rheoli prosiectau.
Byddai ehangder y cyfleoedd gyrfa o’r twf a ragwelir mewn niwclear newydd yn creu agoriadau i bawb – gan ganiatáu i bobl ifanc aros yn lleol, cefnogi teuluoedd sydd eisiau dychwelyd, a helpu i ddod â phobl yn ôl i’r gwaith.
Mae gan Ogledd Cymru isadeiledd sgiliau a hyfforddiant cadarn ynghyd â mentrau cydweithredol ar gyfer datblygu’r gweithlu ymhellach ac uwchsgilio ein pobl i ateb y galw a ragwelir am sgiliau yn y sector niwclear.
Mae ein rhanbarth yn wynebu llawer o’r un heriau sgiliau â rhannau eraill o’r DU, ac mae prinder sgiliau yn broblem ar draws sectorau yma fel y mae mewn mannau eraill. Ond gyda sicrwydd y bydd prosiectau’n digwydd, byddwn yn ymateb i’r her fel y gwnaethom o’r blaen.
Nid oes angen gradd mewn ffiseg niwclear i weithio yn y sector. Nid yw’r cyfloeoedd gyrfaol wedi’u cyfyngu i rolau technegol a pheirianyddol chwaith - mae galw hefyd mewn meysydd fel y gyfraith, cyllid a chyfathrebu.
Mae angen amrywiaeth eang o wasanaethau ategol ar brosiectau niwclear dros nifer o ddegawdau. Mae’r rhain yn amrywio o arlwyo a glanhau i drafnidiaeth ac, yng nghyd-destun Cymru, cyfieithu a darpariaeth Gymraeg.
» Prinder sgiliau cyffredinol gyda 37% o swyddi gwag yn anodd eu llenwi.
» Mae 70% o gyflogwyr yn y rhanbarth yn wynebu heriau sgiliau ac ar hyn o bryd yn adrodd am brinder cyflenwad llafur acíwt a swyddi gwag heb eu llenwi ar draws y rhan fwyaf o’r rhanbarth a sectorau.
» Mae prinder sgiliau yn achosi problemau recriwtio yn y sector ynni ac mae galw am sgiliau technegol.
» Gyda phrinder sgiliau, mae llawer o gyflogwyr yn gweld bod y broses recriwtio yn cymryd mwy o amser ac mae ymgeiswyr sydd gyda sgiliau a phrofiad y mae galw mawr amdanynt yn mynnu cyflogau uwch.
» Mae prinder sgiliau mewn galwedigaethau peirianyddol a thechnegol gyda chymwysterau STEM yn ogystal â rolau fel syrfewyr siartredig, gwyddonwyr data, ac arbenigwyr seiberddiogelwch a rheoli prosiectau.
» Mae galw hefyd am sgiliau mwy cyffredinol, megis datrys problemau, cyfathrebu, sgiliau digidol, arweinyddiaeth a rheoli.
» Y pum prif sgil i’r dyfodol, fel y nodwyd gan gyflogwyr ar draws pob sector yw sgiliau ym maes ynni adnewyddadwy, rheoli prosiectau, digidol, y Gymraeg a pheirianneg arbenigol.
Mynd i’r afael â’r her sgiliau
» Mae gwaith eisoes ar y gweill drwy’r Bartneriaeth Sgiliau
Rhanbarthol i ddeall yn well a datrys camgyfatebiadau sgiliau yn lleol a rhanbarthol. Mae Cynllun Sgiliau a Chyflogaeth pwrpasol ar gyfer y rhanbarth – mae hyn yn cynnwys y sector ynni fel maes twf allweddol.
» Mae ysgolion cynradd ac uwchradd ar draws y rhanbarth – gyda chymorth partneriaid fel Gyrfa
Cymru – yn ysbrydoli plant a phobl ifanc i ystyried gyrfaoedd ar draws sectorau, yn darparu profiad gwaith gwerthfawr i unigolion, ac yn addysgu dylanwadwyr pobl ifanc, fel rhieni ac athrawon, am lwybrau gyrfa.
» Mae Gyrfaoedd a Phrofiad Byd Gwaith (CWRE) wedi’i wreiddio yn y Cwricwlwm Newydd i Gymru, ac mae cyflogwyr yn y rhanbarth yn awyddus i ymgysylltu ag ysgolion ac ysbrydoli pobl ifanc i ddilyn llwybrau gyrfa a chyfleoedd ar draws pob sector gyda nifer o sesiynau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) yn cael eu darparu ganddynt mewn lleoliadau addysgol.
» Mae ein colegau addysg bellach, Grŵp Llandrillo
Menai a Choleg Cambria, yn rhagweithiol wrth ddarparu prentisiaethau a dysgu seiliedig ar waith ar draws ystod o ddisgyblaethau a bu cynnydd mewn prentisiaethau Lefel 3 a Lefel 4+. Ar hyn o bryd cynigir Prentisiaethau Gradd yng Nghymru yn y sectorau Digidol a Pheirianneg ac mae cynnig eang ar draws y rhanbarth, yn ogystal â Prentisiaethau Gradd mewn Ynni a Chynaliadwyedd Carbon Isel ym Mhrifysgol Wrecsam.
» Mae Prifysgolion Bangor a Wrecsam yn sefydliadau craidd yn ein rhanbarth. Mae gan Brifysgol Bangor arbenigedd mewn ymchwil a datblygu ynni niwclear a charbon isel, ac mae’n gartref i’r Sefydliad Dyfodol Niwclear sy’n prysur ddod yn ganolfan fydeang ar gyfer gwybodaeth ac ymchwil niwclear.
Mae gan Brifysgol Wrecsam arbenigedd penodol mewn harneisio technolegau optig a ffotonig ac mae’n datblygu Canolfan Menter, Peirianneg ac Opteg fel canolbwynt ar gyfer dylunio ac adeiladu cynhyrchion sy’n cynnwys cyfansoddion ac opteg – un o ddau brosiect gweithgynhyrchu gwerth uchel o dan Gynllun Twf Gogledd Cymru.
» Mae ein Prifysgolion yn chwarae rhan ranbarthol, genedlaethol a rhyngwladol wrth ymateb i ofynion sgiliau yn awr ac yn y dyfodol, gan gefnogi twf a ffurfio cydweithrediadau ymchwil a phartneriaethau diwydiannol ledled Cymru a thu hwnt.
» Mae rhaglenni sgiliau ehangach yn cynnwys partneriaethau Oedolion a Dysgu Cymunedol a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy’n gweithio gyda phartneriaid i sicrhau bod blaenoriaethau unigol, lleol a rhanbarthol yn cael eu cefnogi. Nod Llwybr Cyflogadwyedd Gogledd Cymru yw sicrhau bod cymorth yn cael ei roi i unigolion ar bob cam o’u taith yn ôl i’r gwaith.
Yn ôl Cyfrifiad 2021, roedd gan 31% (176,740) o breswylwyr arferol 16 oed neu hŷn yng Ngogledd Cymru gymhwyster ar lefel 4 neu uwch (e.e. Tystysgrif Genedlaethol Uwch, Diploma Cenedlaethol Uwch, Gradd Baglor a chymwysterau ôl-raddedig). Roedd hyn yn gynnydd sylweddol o gymharu â 2011 pan oedd yn 24% (137,501) o’r boblogaeth yn y grŵp oedran dan sylw.
Mae Gogledd Cymru yn cynnig cyfleusterau addysg a hyfforddiant o safon uchel i ddysgwyr o bob oed, o blant oed ysgol i gyrsiau addysg uwch ac addysg bellach llawn/rhan-amser, dysgu seiliedig ar waith a darpariaeth sy’n canolbwyntio ar ofynion diwydiannol.
SEFYDLIAD
DYFODOL
NIWCLEAR
(NFI)
Sefydlu
Gogledd
Cymru yn
ganolfan
ragoriaeth niwclear
Mae’r NFI ym Mhrifysgol
Bangor yn datblygu gallu blaenllaw ym maes gwyddoniaeth a pheirianneg niwclear, gydag arbenigedd, gallu academaidd a rhaglen ymchwil sylweddol. Mae’n prysur sefydlu Gogledd
Cymru fel canolfan ryngwladol mewn technoleg niwclear, gan feithrin cysylltiadau a chyfleoedd diwydiannol a gweithio’n agos gyda’r sector yn y DU. Mae gan yr NFI Femorandwm
Cyd-ddealltwriaeth
gyda’r Labordy Niwclear
Cenedlaethol i gydweithio ar brosiectau ymchwil a rhannu mynediad at gyfleusterau ac offer.
Cyfleusterau rhagorol i gefnogi sgiliau niwclear
Mae Canolfan STeM yn gyfleuster
hyfforddi peirianneg o’r radd flaenaf sydd wrth ymyl y Ganolfan Ynni ar gampws addysg bellach Grŵp Llandrillo Menai yn Llangefni. Ariannwyd y prosiect gwerth
£13.6m ochr yn ochr â phartneriaid gan gynnwys Llywodraeth Cymru, yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear a Phŵer Niwclear
Horizon, i fanteisio ar y sgiliau a’r cyfleoedd swyddi a grëwyd gan ddatblygiad Wylfa
Newydd yn ogystal â phrosiectau ynni ac isadeiledd ehangach yng Ngogledd Cymru.
Mae’r coleg yn gweithio gyda chwmnïau
lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i alluogi pobl ifanc i gael sgiliau o ansawdd uchel sydd eu hangen ar gyflogwyr, gan deilwra cyrsiau i gyd-fynd â gofynion y farchnad lafur – a thrwy hynny ddatblygu talent ‘cynhenid’ i ddiwallu anghenion presennol ac anghenion y dyfodol.
Mae’r Ganolfan yn ategu cyfleusterau eraill ar draws ystâd y Grŵp – megis y Ganolfan
Isadeiledd, Sgiliau a Thechnoleg (CIST) sydd hefyd wedi’i lleoli yn Llangefni, y Ganolfan
Peirianneg ar gampws y Rhyl, a labordai
STEM newydd sbon ar safleoedd Coleg
Meirion-Dwyfor yn Nolgellau a Phwllheli.
Ysbrydoli ac ysgogi’r genhedlaeth nesaf
Mae Cwmni Egino, ochr yn ochr â Chyngor Gwynedd, wedi bod yn gweithio gydag
M-SParc i ddatblygu a chyflwyno rhaglen Egni
STEM i ysgolion yng Ngwynedd ac Ynys Môn gyda chyllid gan yr Awdurdod Dadgomisiynu
Niwclear a’r Gronfa Ffyniant Gyffredin.
Dros gyfnod o ddeg wythnos, gofynnir i blant ystyried un o gwestiynau mwyaf heriol ein hoes - sut gallwn ni rymuso ein cymunedau mewn ffordd gynaliadwy a chyfrifol ar gyfer y dyfodol?
Drwy fynd i’r afael â’r her hon, mae’r rhaglen yn addysgu plant ysgol ac yn codi ymwybyddiaeth am ffynonellau ynni, fel niwclear a thechnolegau glân eraill, yn ogystal â’r opsiynau gyrfa sydd ar gael iddynt yn lleol yn y sector carbon isel. Mae’r plant hefyd yn dysgu sgiliau trawsgwricwlaidd fel mathemateg, sgiliau digidol, meddwl yn feirniadol ac entrepreneuriaeth – i gyd yn gysylltiedig â’r Cwricwlwm Newydd i Gymru.
Mae cannoedd o blant oed cynradd ac uwchradd o Wynedd a Môn wedi bod yn rhan o’r rhaglen ers ei lansio ym mis Medi 2023, gan weithio mewn timau i ddysgu am newid hinsawdd ac ynni carbon isel, a dylunio eu cymunedau eco cynaliadwy eu hunain ar gyfer y dyfodol.
Parc gwyddoniaeth cyntaf
Cymru sy’n cefnogi niwclear newydd yng Ngogledd Cymru
Mae M-SParc, a agorwyd yn swyddogol yn 2018, yn gartref i arloesedd a chyffro yng Ngogledd Cymru ac mae’n rhannu ffocws carbon isel y rhanbarth, gan gysylltu â datblygiadau cyffrous sy’n digwydd ar yr ‘Ynys Ynni’, Ynys Môn, ac ar draws Gogledd Cymru.
Mae M-SParc yn safle treth a thollau arfaethedig o dan gynllun Porthladd Rhydd Ynys Môn a fydd yn gatalydd ar gyfer mwy o ymchwil, datblygu ac arloesi.
Mae adeilad M-SParc wedi’i lenwi gyda busnesau arloesol; mae 73% o’r cwmnïau sy’n denantiaid yn gweithio’n y sector carbon isel ac maent wrth wraidd datblygiadau newydd a chyffrous. Mae ail adeilad bellach yn cael ei ddatblygu a fydd yn canolbwyntio ar Arloesi Carbon Isel.
Mae cefnogi uchelgais dadgarboneiddio’r rhanbarth a chlystyrau ynni allweddol - gan gynnwys niwclear – yn un o amcanion craidd M-SParc.
Sefydlwyd tîm Egni yn 2021 i ddarparu cymorth arbenigol yn y maes carbon isel ac i fanteisio ar yr ystod eang o gyfleoedd yn y sector hwn ledled Gogledd Cymru. Mae’r tîm yn gweithio ar draws ystod o brosiectau ac yn cefnogi gweithgarwch ynni amrywiol ynni, o niwclear newydd i wynt ar y môr.
Mae M-SParc yn cydweithio’n strategol â phartneriaid ar hyd a lled y wlad. Mae’n rhan o Strategaeth Arloesi Cymru ac yn cydfynd â strategaethau rhanbarthol a cenedlaethol hanfodol fel Bangor 2030 a Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru.
Mae gan Ogledd Cymru rwydwaith parod o rwydweithiau a phartneriaethau sy’n ein cysylltu â
gweddill Cymru a’n cymdogion dros y ffin. Rydym yn rhannu’r nod cyffredin o gydweithio ar draws sectorau a phrosiectau i wella ein rhanbarth yng nghyd-destun Cymru a’r DU yn ehangach.
Uchelgais Gogledd Cymru www.uchelgaisgogledd.cymru
Mae Uchelgais Gogledd Cymru yn gweithio fel partneriaeth i wireddu’r uchelgais o adnabod a darparu cyfleoedd i ddatblygu’r economi ranbarthol, creu cyfleoedd i bobl ennill sgiliau newydd ar gyfer y dyfodol a datblygu gyrfaoedd gwerth chweil, ac i fusnesau dyfu a chymunedau i ffynnu.
Mae’r bartneriaeth yn cynnwys y chwe awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru, dwy brifysgol y rhanbarth (Bangor a Wrecsam) a sefydliadau addysg bellach (Grŵp Llandrillo Menai sydd â safleoedd ar draws Gogledd-orllewin Cymru a Choleg Cambria sydd â safleoedd yng Ngogledd-ddwyrain Cymru). Swyddfa Rheoli Portffolio Uchelgais Gogledd Cymru sy’n gyfrifol, ynghyd â phartneriaid eraill, am gyflawni’r Cynllun Twf, a chynnal stiwardiaeth ar y weledigaeth economaidd ranbarthol.
Arc Niwclear y Gogledd Orllewin www.nwna.co.uk
Mae Arc Niwclear y Gogledd Orllewin - NWNA – yn glwstwr sector niwclear sy’n cwmpasu
Gogledd Cymru a Gogledd Lloegr, gan ymgorffori’r holl gyfleusterau a galluoedd sydd eu hangen ar draws y cylch oes niwclear o danwydd, i gynhyrchu ynni, rheoli gwastraff a dadgomisiynu. Mae NWNA yn unigryw yn y DU ac yn cael ei gydnabod yn eang fel ecosystem niwclear hollgynhwysfawr o fewn ardal ddaearyddol cymharol fach.
Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol www.partneriaethsgiliaugogledd.cymru
Ers 2014, mae’r Bartneriaeth wedi dod â chyflogwyr, darparwyr sgiliau a rhanddeiliaid lleol allweddol ynghyd i fynd i’r afael â phrinder sgiliau trwy ddylanwadu ar ddarpariaeth sgiliau ôl-16 yng Ngogledd Cymru yn seiliedig ar wybodaeth am y farchnad lafur ac adborth gan gyflogwyr.
Mae’r Bartneriaeth yn cyfuno gwybodaeth o bob rhan o’r farchnad lafur, yn cynnal rhwydweithiau ac yn darparu cyngor, trosolwg ac argymhellion strategol hanfodol i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau.
Fforwm Niwclear Cymru www.walesnuclearforum.com
Wedi’i sefydlu yn 2017, mae Fforwm
Niwclear Cymru yn sefydliad i aelodau sy’n cynrychioli’r diwydiant niwclear yng Nghymru. Mae’n cysylltu’n agos â rhwydweithiau niwclear ac ynni rhanbarthol eraill ledled y DU, ac mae ganddo Femoranda o Ddealltwriaeth gyda sawl clwstwr niwclear a chorff diwydiannol yn fyd-eang. Mae’n meithrin cydweithio rhwng aelodau i ddenu busnes a allai gael ei golli i gwmnïau o gystadlu am gytundebau ar eu pen eu hunain.
Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ( BGC )
Mae pedwar BGC yng Ngogledd Cymru - Gwynedd ac Ynys Môn; Conwy a Sir Ddinbych, Sir y Fflint, a Wrecsam. Eu pwrpas yw gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yr ardal drwy gryfhau cydweithio ar draws yr holl wasanaethau cyhoeddus.
Mae Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yn gyrff statudol sydd â chyfrifoldebau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r
Dyfodol (Cymru) 2015, yn cynnwys cynnal asesiad o les economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol eu hardal a chynhyrchu Cynllun Llesiant sy’n nodi amcanion a’r camau y byddant yn eu cymryd i’w cyflawni.
Byddai dod â niwclear newydd i Ogledd Cymru yn helpu i sicrhau swyddi a thwf gwyrdd teg, yn sicrhau trawsnewidiad cyfiawn i sero net yng Nghymru, ac yn creu cymunedau cynaliadwy bywiog yn y rhanbarth am flynyddoedd lawer i ddod.
AM NIWCLEAR NEWYDD.
Ond nid oes sicrwydd y bydd buddsoddiad yn glanio ar ein hysgwydd. Mae angen eiriolaeth a chefnogaeth gref ar lefel wleidyddol wrth i ni rannu ein huchelgais a’r cyfan sydd gennym i’w gynnig.
Cynhyrchwyd y prosbectws hwn gan Gwmni Egino gan dynnu ar ganfyddiadau’r
gwaith a’r astudiaethau a gwblhawyd gan y tîm hyd yma, yn ogystal â gwybodaeth a chyhoeddiadau a gynhyrchwyd gan sefydliadau eraill.
» Dyfodol gweithgynhyrchu i Gymru: ein taith tuag at Gymru 4.0 Llywodraeth Cymru (2023)
» ‘Civil Nuclear: Roadmap to 2050’ Adran Sicrwydd Ynni a Sero Net, Llywodraeth y DU (2024)
» Cymraeg 2050: Miliwn o Siaradwyr Llywodraeth Cymru (2017)
» Gwefan Data Cymru
» ‘Economic Impact Assessment of Magnox Sites: a report for The Nuclear Decommissioning Authority’ Economic Insight (2023)
» ‘Ensuring Community Benefits From Large Energy Infrastructure Projects’ Prifysgol Bangor (2024)
» Cymru’r Dyfodol: y Cynllun Cenedlaethol 2040 Llywodraeth Cymru (2021)
» Dadansoddiad Anghenion Lleol Cwmni Egino/Arup (2023) (heb ei gyhoeddi)
» ‘Magnox socio-economic story 2012-22’ Magnox
» N’ational Nuclear Strategic Plan for Skills’ Nuclear Skills Delivery Group (2024)
» ‘NDA Social Impact and Communities Strategy’ Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear (2024)
» ‘NIA Jobs Map: 2024’ Nuclear Industry Association (2024)
» Strategaeth Ynni Gogledd Cymru Bwrdd Uchelgais Gogledd Cymru (2020)
» Fframwaith Economaidd Ranbarthol Gogledd Cymru Uchelgais Gogledd Cymru (2022)
» Cynllun Sgiliau a Chyflogaeth Gogledd Cymru 2023-25 Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru
» ‘Nuclear Workforce Data 2023’ Nuclear Skills Strategy Group (NSSG)/Cogent Skills
» Arsyllfa Data Ar-Lein Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru
» ‘Public Attitudes toward Clean Energy (PACE)’ Nuclear Industry Association/Radiant Energy Group (2023)
» Llawlyfr Gwerth Cymdeithasol Cwmni Egino
» Astudiaeth o Gadwyn Gyflenwi Cymru Cwmni Egino (heb ei gyhoeddi)
» ‘The NDA Group Investing in our communities: Socio-economic funding report 2023/24’ Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear (2024)
» Asesiad Economaidd Trawsfynydd (a dogfennau ategol) Cwmni Egino/Arup (2020) (heb ei gyhoeddi)
» Pecyn Gwybodaeth Safle Trawsfynydd Cwmni Egino (heb ei gyhoeddi)
» Gyrru Newid: Pwyslais ar Ynni Carbon Isel Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru
» Economi Cymru mewn Rhifau: Dangosfwrdd Rhyngweithiol platfform data ar-lein Llywodraeth Cymru