
1 minute read
Sut i wneud cais
from Information pack: Head of Project Development/Pecyn gwybodaeth: Pennaeth Datblygu Prosiect
by CwmniEgino
I wneud cais am y swydd hon, gofynnir yn garedig i chi gyflwyno’r canlynol:
1. CV cynhwysfawr sy'n nodi hanes eich gyrfa gyda chyfrifoldebau a chyflawniadau allweddol a manylion eich pecyn tâl cyfredol.
Advertisement
2. Datganiad ategol o ddim mwy na dwy ochr A4, yn esbonio sut rydych chi'n credu bod eich sgiliau a'ch profiad yn cyd-fynd â gofynion penodol y swydd fel yr amlinellir yn y fanyleb person.
3. Manylion dau ganolwr proffesiynol ynghyd â datganiad byr o’u rôl a thros ba gyfnod y maent wedi eich adnabod; disgwylir i un ohonynt fod yn gyflogwr cyfredol neu ddiweddar. Ni chysylltir â chanolwyr heb eich caniatâd ymlaen llaw.
4. Ffurflen monitro amrywiaeth wedi'i chwblhau – gweler y ffurlfen ar waelod y pecyn gwybodaeth hwn.
Ar ôl cwblhau eich cais, yn ddelfrydol ar ffurf MS Word, anfonwch ef i’r cyfeiriad e-bost canlynol: hr@cwmniegino.wales
Ar ôl i chi gyflwyno'ch cais, byddwch yn derbyn e-bost i gadarnhau bod eich cais wedi'i dderbyn. Os na fyddwch yn derbyn yr e-bost hwn gyda 24 awr o gyflwyno, anfonwch e-bost at: gwybodaeth@cwmniegino.wales
Rydym yn gwerthfawrogi'r gwahaniaethau unigryw y mae pob un o'n cydweithwyr yn eu cyfrannu at ein gwaith ac rydym yn ymroddedig i greu amgylchedd lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu parchu, eu cynnwys ac yn gallu perfformio ar eu gorau. Mae Cwmni Egino yn ymroddedig hefyd i greu gweithle sy'n amrywiol a chynhwysol. Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth ein pobl ac yn mynd ati i geisio cael gweithlu sy'n cynrychioli amrywiaeth gyfoethog y cymunedau yr ydym yn eu cefnogi. Mae Cwmni Egino yn croesawu ymgeiswyr benywaidd, BAME, LGBTQ+ ac ymgeiswyr sydd ag anabledd. Rydym yn hapus i ystyried gweithio hyblyg.