1 minute read

Amdanom ni (parhad)

Next Article
Amdanom ni

Amdanom ni

Strategaeth ddatblygu

Rydym yn datblygu’r prosiect mewn tri cham, gan arwain at gael Penderfyniad Buddsoddi Terfynol (FID) a chaniatâd i’w adeiladu erbyn diwedd Cam 3:

Advertisement

• Adeiladu a hyrwyddo’r achos dros safle Trawsfynydd: diffinio ac egluro’r cyfle ar gyfer prosiect niwclear newydd ar y safle a’r potensial i hybu twf yr economi’n lleol, rhanbarthol a thrwy Gymru a’r DU, a dangos bod y prosiect yn un hyfyw.

• Dyluniad y prosiect: datblygu’r prosiect ymhellach gan gynnwys dewis technoleg, nodweddion safle, astudiaethau amgylcheddol, datblygu’r ochr beirianneg, cynllun economaidd-gymdeithasol, ymgysylltu’n helaeth â rhanddeiliaid a’r gymuned, datblygu sefydliadol a pharatoi ceisiadau am ganiatâd a thrwyddedau.

• Paratoi ar gyfer adeiladu: cyflwyno’r ceisiadau am ganiatâd a thrwyddedau; caffael contractau allweddol; hwyluso’r gwaith safle rhagarweiniol a sicrhau cyllid ar gyfer yr adeiladu.

Mae cam cyntaf y gwaith wedi cadarnhau bod y prosiect yn hyfyw ac mae Cwmni Egino bellach ar gychwyn yr ail gam, sy’n cynnwys gwaith datblygu prosiect mwy manwl. Mae’r gwaith datblygu cynnar gan Gwmni Egino wedi cadarnhau:

• addasrwydd y tir sydd o fewn perchnogaeth yr Awdurdod Datgomisiynu Niwclear ar gyfer ystod o dechnolegau SMR, gan gynhyrchu hyd at 1GW o gapasiti newydd;

• fod diddordeb sylweddol gan ddarparwyr technoleg o ran defnyddio SMR yn Nhrawsfynydd;

• o ran y Model Gweithredu Targed, gall Cwmni Egino addasu ei rôl i fodloni anghenion y noddwr (DESNZ/GBN) a’r farchnad;

• y rhaglen waith a'r costau amcangyfrifedig i gyflawni'r canlyniadau sy'n ofynnol ar gyfer cymeradwyaeth i fwrw ymlaen â'r gwaith adeiladu; a’r

• • risgiau, effeithiau a mesurau lliniaru posib ar gyfer y prosiect.

This article is from: