
1 minute read
Y swydd
from Information pack: Head of Project Development/Pecyn gwybodaeth: Pennaeth Datblygu Prosiect
by CwmniEgino
Bydd y Pennaeth Datblygu Prosiect yn aelod o’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth. Bydd deilydd y swydd yn arwain y rhaglen waith datblygu angenrheidiol er mwyn galluogi penderfyniad i fuddsoddi mewn adeiladu gorsaf bŵer niwclear newydd yn Nhrawsfynydd. Bydd deilydd y swydd hefyd yn sefydlu ac yn arwain y Swyddfa Rheoli Prosiect ar gyfer y prosiect cyfan. Bydd yn chwarae rhan allweddol mewn diffinio sgôp y prosiect, sicrhau’r caniatâd a’r trwyddedau angenrheidiol ar gyfer adeiladu a diffinio’r strategaeth ddelifro, gan weithio gyda’r Pennaeth Masnachol i sefydlu partneriaethau gyda’r gadwyn gyflenwi. Bydd gofyn i ddeilydd y swydd adeiladu capasiti datblygu o fewn y cwmni a pherthynas gyda phartneriaid yn y gadwyn gyflenwi er mwyn sicrhau bod y rhaglen ddatblygu’n cael ei gweithredu’n effeithiol ac effeithlon.
Cyfrifoldebau allweddol
Advertisement
• Diffinio a rheoli'r cynllun cyffredinol ar gyfer datblygu SMR yn Nhrawsfynydd
• Sefydlu ac arwain y swyddogaeth PMO ar gyfer Cwmni Egino, gan gynnwys cwmpas, amserlennu a rheoli costau a rheoli risg
• Datblygu'r safle gan gynnwys nodweddu safle, arolygon amgylcheddol, dylunio gosodiad
• Cynllunio adeiladu, gan gynnwys mynediad at gyfleustodau, mynediad i'r safle, llety gweithwyr a rhyngwyneb â rhaglen datgomisiynu Magnox
• Cadarnhau'r gofynion tir (parhaol a thros dro) a chefnogi'r Pennaeth Masnachol i sicrhau hawliau mynediad
• Diffinio'r strategaeth a chyflawni'r cynllun ar gyfer sicrhau'r caniatadau a'r trwyddedau sy'n ofynnol ar gyfer y gwaith datblygu a'r gwaith adeiladu
• Rheoli rhyngwyneb y safle o ddydd i ddydd gyda’r Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear / Magnox
• Cefnogi’r Pennaeth Masnachol wrth ddewis y dechnoleg arfaethedig a rheoli'r berthynas dechnegol â'r partner a ddewiswyd i sicrhau bod y rhaglen ddatblygu yn cael ei chyflwyno'n effeithlon ac effeithiol
• Datblygu'r cwmpas a'r amserlen integredig ar gyfer adeiladu