1 minute read

Amdanom ni (parhad)

Sefyllfa bresennol

Mae Trawsfynydd yn cynnig cyfle hynod gredadwy i sbarduno rhaglen tymor hir o brosiectau SMR yn y DU ac mae

Advertisement

Cwmni Egino’n cynnig cyfrwng datblygu ar gyfer gweithredu’r prosiect.

Rydym mewn sefyllfa i fod yn un o’r prosiectau a fydd yn barod i’w gymeradwyo erbyn diwedd y degawd, yn unol â blaenoriaethau sicrwydd ynni Llywodraeth y DU, ac i Drawsfynydd gael ei enwebu’n un o’r safleoedd i gael ei ddatblygu yn y don gyntaf o ddatblygiadau SMR. Mae creu Great British Nuclear (GBN) yn hynod o bwysig yn hynny o beth, a byddwn yn gweithio gyda GBN er mwyn gwireddu’r rhaglen niwclear newydd.

I ddatgloi’r cyfle yn Nhrawsfynydd, mae Cwmni Egino yn canolbwyntio ar 4 agwedd allweddol yn 2023:

• cadarnhad bod DESNZ/GBN yn dymuno bwrw ymlaen i ddatblygu Trawsfynydd fel un o'r prosiectau y bwriedir eu cymeradwyo yn ystod y Senedd nesaf;

• eglurder parthed rôl GBN a’i berthynas gyda Chwmni Egino;

• cadarnhad o’r dechnoleg ar gyfer Trawsfynydd; a

• Gweithgareddau cradidd er mwyn lliniaru’r prif risgiau a mireinio’r rhaglen ddatblyu ymhellach.

Mwy o wybodaeth

Am fwy o wybodaeth am waith Cwmni Egino, ewch i www.cwmniegino.wales

This article is from: