Trin Tai - Mehefin 2012

Page 1

Trin Tai Mehefin 2012 Cyhoeddir ‘Trin Tai’ bob mis i roi sylw i waith ardderchog aelodau mewn amrywiaeth eang o ardaloedd gwahanol. Os oes gennych unrhyw straeon yr hoffech eu cynnwys yn y rhifyn nesaf, anfonwch hwy at bethan-samuel@chcymru.org.uk os gwelwch yn dda. Caiff yr holl straeon a dderbynnir hefyd eu rhoi ar wefan CHC.

Dewis Cyntaf yn ennill aur dwbl mewn blwyddyn Olympaidd Mae Cymdeithas Tai Dewis Cyntaf wedi ennill dau ddyfarniad aur - safon Aur Buddsoddwyr mewn Pobl a Safon Aur Dyfarniad Iechyd Gweithle Bach. Mae’r Dyfarniad Iechyd Gweithle Bach yn dangos ymrwymiad Dewis Cyntaf drwy eu dulliau gweithredu blaengar a rhagweithiol i annog staff i fod â ffordd iach o fyw. Mae’r Gymdeithas wedi gweithredu strategaeth iechyd a llesiant i annog staff i ymarfer yn rheolaidd ac i fwyta’n iachach drwy ddarparu ffrwythau ffres yn y swyddfa a chyfle i ymuno â dosbarth rheoli pwysau. Ddim ond wyth mis ar ôl cyflwyno’r cynllun, roedd staff wedi colli cyfanswm o naw stôn a hanner. Dywedodd Hilary Ryan, y Prif Weithredydd ‘Mae ennill dwy safon aur mor agos at ei gilydd yn dangos ymrwymiad, cymhelliant ac angerdd ein staff. Mae gennym ymrwymiad i ddatblygu ein tîm staff a gwyddom fod annog ffordd iach o fyw a chyfrannu at hyn yn cynyddu eu cymhelliant. Mae’r dyfarniadau aur yma’n adlewyrchu ein gweledigaeth fel sefydliad dysgu a chyflogwr ymroddedig sy’n meithrin ei staff.

Grŵp Cynon Taf yn codi miloedd i uned gofal arbennig i fabanod Dros y 12 mis diwethaf, bu Grŵp Tai Cymunedol Cynon Taf yn codi arian ar gyfer yr Uned Gofal Arbennig i Fabanod yn Ysbyty’r Tywysog Charles. Drwy wahanol ddulliau, daeth aelodau staff ynghyd a chodi’r arian fydd yn helpu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Dywedodd Bethan Hopes, Cymhorthydd Cyllid: ‘Fel sefydliad rydym mor falch i fod wedi codi dros £4,500 ers mis Ebrill 2011. Bu hyn drwy rafflau, gwerthu teisennau, digwyddiadau moes a phryn, arwerthiannau, cystadleuaeth ‘dyfalu’r babi’, ras Nos Galon, ‘rhoi cyflogres’ gan staff a llawer o ddigwyddiadau eraill.’ Roedd Maisie Morris, Rheolydd yr Uned yn yr ysbyty, wrth ei bodd i dderbyn y siec am £4,911.13. ‘Diolch yn fawr iawn i chi am waith caled Cynon Taf. Byddwn yn gwneud defnydd da o’r arian i brynu monitorau apnoea y mae babanod eu hangen pan fyddant yn yr ysbyty ac wedyn ar ôl mynd adref. Gall y monitorau hyn synhwyro os yw’r babi yn stopio anadlu yn ystod y nos, gan dynnu sylw rhieni a staff at broblemau mewn babanod bregus. Mae’ch cyfraniad yn werth y byd i ni, diolch yn fawr.’


Cymryd rheolaeth ar-lein Mae Tai Gogledd Cymru wedi dechrau ar raglen o gynhwysiant digidol dan gynllun ‘Cymryd y Llyw’, gan gefnogi preswylwyr hŷn i ddysgu a datblygu sgiliau hanfodol mewn technoleg gwybodaeth. Unodd y gymdeithas tai gyda nifer o gymdeithasau tai a sefydliadau eraill i ymestyn y rhaglen i filoedd o breswylwyr yn y Gogledd. Bydd y grwpiau cymunedol sy’n cymryd rhan yn canolbwyntio ar feysydd allweddol o ddiddordeb yn hytrach na dim ond pori ar y rhyngrwyd. Gall hyn gynnwys defnyddio cyfryngau cymdeithasol neu Skype i gadw mewn cysylltiad gyda theuluoedd a ffrindiau, siopa a chanfod y cynigion gorau ar-lein. Preswylwyr cynllun tai gwarchod Cwrt Taverners yn Llandudno fu’r cyntaf i fanteisio gyda bron yr holl breswylwyr yn cymryd rhan yn y gweithdy cyntaf. Dywedodd Nicky Thomas o Tai Gogledd Cymru: ‘Wrth i’r chwyldro digidol barhau i gyflymu a bod â rôl gynyddol drwy’r amser ym mywyd pawb ohonom, sylweddolwn y byddai’n rhwydd i rai grwpiau, yn arbennig pobl hŷn, gael eu gadael ar ôl os na chânt y mynediad a’r gefnogaeth gywir.’

Cadwyn yn dod â thenantiaid ynghyd drwy gynllun rhannu tŷ Mae Cadwyn yn gweithio gyda Rhannu Tŷ Cymru i helpu pobl drwy’r newidiadau i fudddaliadau lles. Bydd y lefelau newydd o fudddal tai a lwfans tai lleol yn creu galw enfawr am rannu llety. Mae Rhannu Tŷ Cymru yn helpu i ateb y galw hwn drwy gysylltu tenantiaid a landlordiaid a galluogi pobl i ganfod ystafelloedd i’w rhentu a thai i’w rhannu. Mae Cadwyn wedi cyflogi Trefnydd Llety Rhannu i gynorthwyo tenantiaid a landlordiaid mewn pump awdurdod lleol: Caerdydd, Blaenau Gwent, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg. Dywedodd Sue: ‘Rwy’n falch iawn i fod yn rhan o’r prosiect newydd a blaengar yma. Mae hwn yn gyfle gwych i wneud gwahaniaeth, i ddod â landlordiaid a thenantiaid at ei gilydd ac i ddarparu llety fforddiadwy a chynaliadwy ar gyfer y rhai sydd ei angen.’

Trin Tai Mehefin 2012

Adfywio Stryd Gorllewin Bute

Mae United Welsh yn adfywio bloc o unedau masnachol ar Stryd Gorllewin Bute, y bu rhai ohonynt yn wag am bum mlynedd. Mae gan United Welsh swyddfa yng Nghaerffili a Bae Caerdydd ac yn rheoli eu portffolio oddi yno. Caiff y swyddfa ym Mae Caerdydd ei symud i Stryd Gorllewin Bute lle mae gan y gymdeithas tai eiddo masnachol gwag. Dechreuodd y gymdeithas weithio ar y safle i greu un swyddfa lle arferai pum uned fod. Mae eu buddsoddiad yn adfywio’r ardal gydag adeiladau gwag yn cael eu hagor a’u defnyddio. Mae’r gymdeithas hefyd yn buddsoddi ac yn adfywio’r gwasanaethau a gynigiant o’u safle yng Nghaerdydd. Caiff y gwasanaethau eu siapio gyda thenantiaid unwaith y bydd y swyddfa ar agor, ond yn dilyn adborth tenantiaid i arolwg cafodd sesiynau galw heibio a chymorthfeydd eu cynllunio a’u hwyluso ar nifer o bynciau yn cynnwys cyngor ar arian. Mae’r swyddfa’n anelu i fod yn ganolbwynt cymunedol i denantiaid, gan gynnig mynediad i’w chyfleusterau i grwpiau cymunedol a chynnal cyfarfodydd grwpiau tenantiaid. Fel rhan o’u buddsoddiad yn yr ardal, bydd United Welsh yn gweithio gyda Chyngor Caerdydd ar welliannau i Ship Lane yng nghefn y swyddfa. Gallai’r gwelliannau roi clwyd ar y lon, cyfyngu mynediad i breswylwyr a busnesau lleol fydd yn arwain at well diogelwch a gwella CCTV. Karen Thomas, Pennaeth Cymdogaethau United Welsh sy’n arwain tîm y prosiect. Dywedodd: ‘Mae’r cyfle i dyfu ein presenoldeb yng Nghaerdydd a darparu gwasanaethau gwell i’n tenantiaid yn gyffrous iawn. Bydd y gwaith yma’n ychwanegu at fuddsoddiad sylweddol diweddar i ardal y bae - byddant yn arwain at welliant mawr yn Stryd Gorllewin Bute.’


Trin Tai Mehefin 2012

Chwaraeon yn gweithio i Jamie Mae Jamie o Gwmbran wedi sicrhau swydd lawn-amser gyda busnes peintio ac addurno, diolch i gyfle cyflogaeth seiliedig ar chwaraeon a digwyddiad ‘clicio cyflym’ gyda busnesau lleol yn Nhai Cymunedol Bron Afon. Roedd Jamie un un o saith o bobl ddi-waith rhwng 18 a 24 oed a gyfeiriwyd gan y Ganolfan Gwaith ar gyfer cwrs deg-wythnos Chwaraeon sy’n Gweithio a gefnogir gan staff Bron Afon ac a gynhelir gan awdurdodau lleol yng Nghasnewydd, Blaenau Gwent, Caerffili a Thorfaen. Mae staff a gwirfoddolwyr Chwaraeon sy’n Gweithio yn cynnig hyfforddiant mewn ysgrifennu CV, sgiliau cyfathrebu, technegau cyfweld a gwaith tîm. Dilynodd staff Bron Afon hyn drwy wahodd busnesau lleol i gwrdd gyda phobl ifanc i drafod cyfleoedd swyddi. Yn y digwyddiad hwn y gwnaeth Jamie argraff ar ei gyflogwr newydd, R&M Williams. Dywedodd Lisa Charles, Rheolydd Buddsoddiad Cymunedol Bron Afon: ‘Mae’r cynllun wedi trawsnewid bywydau pobl a gymerodd ran mewn nifer o ffyrdd, megis sicrhau cyflogaeth, cynyddu sgiliau bywyd ac adeiladu hyder. Ynghyd â phartneriaid, mae Bron Afon yn awr yn ymchwilio cyfleoedd i ddatblygu’r rhaglen a sicrhau mwy o fuddsoddiad.’

Gwelliannau i insiwleiddiad ym Mlaenau Gwent Caiff cartrefi ar draws Blaenau Gwent eu hadnewyddu fel rhan o gynllun i wella insiwleiddiad a gostwng biliau gwresogi. Caiff y gost o £6m ei rhannu rhwng E.on a Chartrefi Cymunedol Tai Calon. Mae tenantiaid eisoes yn gweld budd y cynllun i osod 767 o systemau gwresogi newydd ac insiwleiddio a rendro tu allan 474 o gartrefi. Gwneir y gwaith fel rhan o’r Prosiect Arbed Ynni Carbon (CESP). Bu mor llwyddiannus fel bod Tai Calon mewn trafodaethau gydag E.on ar hyn o bryd am ei ymestyn. Paul Bevan yw Rheolydd Prosiect Arbed Ynni Cymunedol Tai Calon. Dywedodd ‘Bu E.on yn gweithio gyda ni ostwng tlodi tanwydd ym Mlaenau Gwent. Drwy CESP, gobeithiwn yn y pen draw i osod 1,000 o systemau gwresogi a rhoi rendr allanol ar 770 o gartrefi ar draws y tri chwm, gostwng allbwn carbon a chynorthwyo i ostwng tlodi tanwydd.’

Staff tai’n gymunedau

dangos

ymrwymiad

i

Gwirfoddolodd staff Cartrefi RhCT dros 500 awr yn ddiweddar i weithio ar brosiectau cymunedol fel rhan o’u hymrwymiad i Ddiwrnod Rhoi ac Ennill Busnes yn y Gymuned. Cynhaliwyd y gwirfoddoli ar draws pedair cymuned yn Rhondda Cynon Taf. Nod y digwyddiadau oedd gwneud gwahaniaeth i ymddangosiad cymdogaethau a datblygu’r berthynas rhwng staff o Cartrefi RhCT a phreswylwyr. Cynhaliwyd y gwirfoddoli ar draws y parc, caeau a garejys yn y Gilfach Goch, canolfan Cenhadaeth i’r Byddar ym Mhontypridd, clwb pêl-droed Rhydyfelin a llwybrau ardaloedd chwarae a fflatiau yn Llanhari. Bu gwirfoddolwyr yn peintio, trwsio drysau garejys a ffensys, dileu graffiti ac adeiladu tybiau pren ar gyfer blodau. Roedd adnewyddu Clwb Pêl-droed Rhydyfelin yn cynnwys gosod patio, gosod drysau a ffenestri, peintio, gosod plastfwrdd ar gyfer waliau mewnol rhoi farnais ar ddrysau. Roedd Joseph Gibson, Cadeirydd y Clwb yno ar y dydd i helpu. Dywedodd: ‘Rhoddodd cynifer o bobl eu hamser ar gyfer prosiect bach - ni fedrem fod wedi’i wneud ein hunan. Bydd fy nghymuned a fy chwaraewyr ifanc wrth eu boddau. Roedd yn llawer mwy na’n disgwyliadau.’ Dywedodd Andrew Lycett, Prif Weithredydd Cartrefi RhCT, ‘Mae brwdfrydedd ar gyfer gwirfoddoli yn rhywbeth arbennig yng Nghartrefi RhCT. Mae mynd allan o’n swyddi arferol a gweithio gyda thenantiaid i greu rhywbeth fydd yn gwneud gwelliant mor amlwg i’r ardal yn wych - neidiodd staff ar y cyfle i wneud hyn a bu eleni yn un lwyddiannus iawn.’


Cyngor cynilo craff ar draws y cenedlaethau Defnyddiodd arbenigwr creadigol ar gynhwysiant ariannol gerddoriaeth, drama, barddoniaeth a chelf yn ddiweddar i ennyn diddordeb pobl hen ac ifanc fel ei gilydd mewn syniadau gwych i arbed arian, diolch i gynllun gan Gymdeithas Tai Clwyd Alyn yn gweithio mewn partneriaeth gyda Barnado’s. Cynhaliodd Clwyd Alyn ddwy sesiwn cyngor cymunedol yn Sir y Fflint yn ddiweddar, a drefnwyd gan Barnado’s, lle gallai pobl o bob oed ddod at ei gilydd i ddysgu mwy am gynilo, trefnu eu harian a rheoli dyledion. ‘Trefnodd Barnado’s i arbenigwr ariannol creadigol arbenigol a ddefnyddiodd y celfyddydau i ennyn diddordeb pobl mewn ffordd wirioneddol ddeinamig,’ meddai Lousie Blackwell, Swyddog Datblygu Cymunedol Clwyd Alyn. ‘Roedd y cyswllt rhwng y bobl ifanc a’r preswylwyr hŷn yn wych. Fe wnaethant weithio’n wirioneddol dda gyda’i gilydd a chael rhai syniadau gwych, yn arbennig ar gyfer ‘Cynilo Craff’. Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i Barnado’s am drefnu’r sesiynau hyn a hefyd i bawb a ddaeth draw a chyfrannu cymaint.’

Tîm grymuso tenantiaid yn lansio Prosiect Celf Pontio’r Cenedlaethau Unodd tîm Grymuso Tenantiaid Cartrefi NPT gyda Chanolfan Celf a Dysgu y Ddraig i gynnig cyfle i denantiaid Cartrefi NPT greu darnau artistig ar gyfer pencadlys newydd Cartrefi NPT. Ym mis Gorffennaf, caiff tenantiaid gyfle i roi cynnig ar weithio gyda chrochenwaith a thecstilau gyda dosbarth ychwanegol ar fosaics ym mis Awst. Dywedodd Kathryn Cook, Swyddog Grymuso Tenantiaid: ‘Hoffem i denantiaid ddod draw a mynegi eu hunain drwy’r prosiect artistig yma; yn ogystal â bod yn ffordd wych i gwrdd â phobl o’r un anian, mae hefyd yn cynnig cyfle i ddatblygu sgiliau newydd a sgiliau presennol. Byddwn yn annog tenantiaid i ddod draw a bod yn greadigol; gellir wedyn arddangos darnau o gelfwaith yn ein swyddfa newydd pan fydd wedi’i chwblhau yng ngwanwyn 2013.’

Trin Tai Mehefin 2012

Hwb cynaliadwyedd £27m i Melin Dewiswyd Cartrefi Melin i ddarparu prosiect cartrefi gwyrdd gwerth £27m yn ymestyn o bont yn y de ddwyrain i draeth yn y de orllewin. Wedi’i ran-ariannu gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, mae Arbed 2 yn gynllun gwella cartrefi gwyrdd fydd yn gosod mesurau effeithiolrwydd ynni mewn cartrefi ar sail ardal a hyrwyddo sgiliau a swyddi gwyrdd. Dros y tair blynedd nesaf, bydd Cartrefi Melin, mewn partneriaeth gyda’r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni (EST), yn gyfrifol am weithredu mesurau effeithiolrwydd ynni mewn hyd at 1,000 o gartrefi bob blwyddyn gyda chyllideb flynyddol o £9m. Bydd Melin, gan weithio’n agos gydag EST, yn arwain mewn gosod mesurau effeithiolrwydd ynni a thechnolegau ynni adnewyddadwy mewn cartrefi. Bydd EST yn gweithio gydag awdurdodau lleol a phartneriaid eraill i ennyn diddordeb deiliaid tai (ar rent ac eiddo preifat) yn yr ardaloedd targed ac yn eu hannog i fod yn rhan o’r cynllun blaengar. Yn ogystal â darparu help ar ynni ar gyfer y rhai yn yr ardaloedd sydd fwyaf ei angen, bydd y prosiect yn hwb gwerthfawr i’r diwydiant effeithiolrwydd ynni ac ynni adnewyddadwy drwy ddarparu contract i gwmnïau gosod o bob rhan o Gymru. Bydd y rhaglen hefyd yn galluogi busnesau bach a chanolig a chontractwyr i adeiladu ar sgiliau, arbenigedd a chymwysterau presennol. Dywedodd Mark Gardner, Prif Weithredydd Cartrefi Melin: ‘Mae hwn yn un o’r prosiectau mwyaf cyffrous y buom yn ymwneud ag ef. Mae’n gyfle i ni gael effaith sylweddol ar draws De Cymru i gyd, gan arbed arian i bobl ar eu biliau ynni, gostwng eu ôl-troed carbon a chreu swyddi lleol. Rydym yn edrych ymlaen at symud ymlaen gyda EST ar y prosiect gwirioneddol gynaliadwy yma.’


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.