Canllaw i ymuno â ni fel Llywodraethwr Coleg Gwent

Page 1


Bod yn Llywodraethwr yn Coleg Gwent

Neges gan y Cadeirydd

Mae Coleg Gwent yn eistedd wrth galon cymunedau ar draws ardal Gwent. Mae ei Genhadaeth ‘I

Newid Bywydau Trwy Ddysgu’ yn hanfodol o ran cefnogi twf economaidd yn y rhanbarth ac ar gyfer darparu cyfleoedd i’w bobl gyrraedd eu potensial llawn.

Fel Bwrdd, rydym yn chwarae rôl bwysig o ran gosod yr egwyddorion strategol a chymeriad addysgol cyffredinol y coleg. Yr un mor bwysig, rydym yn gyfrifol am sicrhau ei fod yn parhau i fod yn gynaliadwy yn ariannol ac yn parhau i gyflenwi addysg a hyfforddiant o safon yn y dyfodol. Ein rôl yw bod yn ‘gyfaill beirniadol’ i’r Pennaeth a’r Uwch-dîm Arweinyddiaeth. Rydym yn eu dal nhw i gyfrif, rydym yn cwestiynu, yn holi ac yn herio ond, bob amser, mewn ffordd adeiladol a chefnogol sy’n chwilio am atebion a’r canlyniad gorau ar gyfer y coleg a’i fyfyrwyr.

Er mwyn ein galluogi ni i ddarparu goruchwyliaeth a llywodraethiant effeithiol, mae angen ystod o sgiliau a phrofiad arnom ar y Bwrdd. Mae angen Llywodraethwyr arnom sy’n gofalu’n angerddol am bwysigrwydd addysg a hyfforddiant ac sy’n dymuno gwneud gwahaniaeth. Rydym wedi ymrwymo i ymgorffori gwerthoedd Coleg Gwent ac i’w wneud yn rhywle y mae pawb yn teimlo bod croeso iddynt, eu bod wedi’u parchu a gallant fod eu hunain.

Rwyf wedi bod yn Llywodraethwr ers nifer o flynyddoedd erbyn hyn ac rwy’n gwybod ei bod yn ffordd ardderchog o ddefnyddio fy mhrofiad a’m sgiliau er budd fy nghymuned leol. Mae’n heriol ond mae hefyd yn hynod foddhaus a byddwn yn annog unrhyw un sydd â’r sgiliau a’r profiad cywir i ymuno â ni.

Sue Ball

Cadeirydd y Llywodraethwyr

Ein huwch dîm arweinyddiaeth

Yn Coleg Gwent, rydym wedi ymrwymo i ragoriaeth

mewn arweinyddiaeth a llywodraethu. Arweinir y coleg

gan y Pennaeth/Prif Weithredwr, gyda chefnogaeth yr IsBenaethiaid a thîm o uwch arweinyddion, pob un yn

gyfrifol am faes academaidd neu swyddogaethol. Maent yn gweithio'n agos gyda’r Bwrdd Llywodraethwyr mewn perthynas gynhyrchiol sy'n datblygu ac yn cefnogi ein nodau strategol.

‘Mae amrywiaeth o safbwyntiau, profiad ac arbenigedd y mae aelodau'r Bwrdd yn ei ddod i'r bwrdd yn

werthfawr iawn i dîm arweinyddiaeth y coleg. Mae'r llywodraethwyr yn darparu lefel gadarn o her mewn

cyfarfodydd ac yn ein cadw’n canolbwyntio ar gyflawni'r nodau strategol a gwella Coleg Gwent yn barhaus er budd ein dysgwyr.’

Nicola Gamlin

Pennaeth/Prif Weithredwr

Ein huchelgeisiau

Ein Cenhadaeth

I Newid Bywydau Drwy Ddysgu

Ein Gweledigaeth

Erbyn 2026 Coleg Gwent fydd y coleg o

ddewis, yn gweithio’n egnïol gyda'n cymunedau, lle mae pob dysgwr a phob aelod

o staff yn cael eu trin â pharch, yn cyflawni eu potensial llawn ac yn elwa o'r adnoddau gorau mewn amgylchedd dysgu ysbrydoledig.

Ar hyn o bryd, mae Llywodraethwyr yn gweithio gyda’r Uwch-dîm Arweinyddiaeth mewn ymgynghoriad ag aelodau staff i ddatblygu Datganiad Cenhadaeth a Chynllun Strategol newydd.

Ein Gwerthoedd

Disgwylir i lywodraethwyr ymgorffori ein Gwerthoedd Craidd a dangos y safonau personol a phroffesiynol uchaf bob amser:

• Parch tuag at bawb

• Y dysgwr sy’n dod gyntaf bob tro

• Gweithredu gyda gonestrwydd

• Yn cael ein gyrru gan yr awydd i ddod o hyd i ddatrysiadau

Rydym yn goleg cynhwysol ac amrywiol lle mae croeso i bawb. Lle y gallwch chi fod pwy ydych chi heb ofn o gael eich barnu.

Amgylchedd parchus, meddwl agored i wahanol ddiwylliannau, agweddau, credoau ac agweddau, lle mae pawb yn perthyn.

Fel Bwrdd, rydym wedi ymrwymo i ymgorffori'r dull cynhwysol hwn ar draws popeth a wnawn. Mae hyn yn cynnwys pwy ydym ni ac rydym wedi gosod targedau i'n hunain i sicrhau Bwrdd sy'n adlewyrchu'n agosach y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Gweler

DATGANIAD AMRYWIAETH Y BWRDD

Cliciwch ar y lluniau i ddarganfod mwy

Datblygiadau parhaus a datblygiadau’r dyfodol

Cliciwch ar y lluniau i ddarganfod mwy

Rydym yn cynnig rhywbeth i

bawb

Mae ein dysgwyr llawn amser yn bennaf yn fyfyrwyr sydd wedi gadael yr ysgol ac sy’n astudio pynciau Safon Uwch neu bynciau galwedigaethol (neu'r ddau), ond mae nifer sylweddol yn ddysgwyr sy'n oedolion ac sy'n dymuno ailhyfforddi.

Mae dysgu rhan-amser yn cynnig hyblygrwydd a'r cyfle i astudio ar y campws neu yn un o'r lleoliadau cymunedol rydym yn eu gweithredu mewn partneriaeth â phumAwdurdod Lleol. Mae darpariaeth ran-amser arall yn cynnwys Cymraeg i Oedolion.

Rydym yn darparu Prentisiaethau mewn amrywiaeth o sectorau gan gynnwys Adeiladu, Digidol, Peirianneg, Cerbydau Modur a Gofal Iechyd.

Mae ein Tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr yn gweithio'n agos gyda busnesau i sicrhau bod ein cyrsiau'n diwallu anghenion cyflogwyr lleol ac mae ein myfyrwyr yn datblygu sgiliau ar gyfer y gweithle. Rydym hefyd yn darparu ystod eang o hyfforddiant proffesiynol y gellir ei deilwra i anghenion busnesau unigol.

Cliciwch ar y lluniau i ddarganfod mwy

Ein Llywodraethwyr

Mae ein 22 o lywodraethwyr yn wirfoddolwyr di-dâl ac yn cynnwys 16 aelod annibynnol a recriwtiwyd o bob rhan o’r rhanbarth, yn ogystal â staff a myfyrwyr etholedig.

Gan fod yn gyfrifol am drosiant o oddeutu £80m, mae angen Llywodraethwyr ar y Bwrdd sy’n meddu ar ystod o wahanol sgiliau a gwahanol feysydd o arbenigrwydd. Ar ben hynny, daw rhai o’n Llywodraethwyr o fusnesau lleol sy’n rhoi cipolwg defnyddiol ar y sgiliau a’r cymwysterau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. Mae pob Llywodraethwr hefyd yn cynnig ei brofiadau bywyd a’i safbwyntiau ungryw i’n trafodaethau a’n proses gwneud penderfyniadau.

O dan arweiniad y Cadeirydd, mae'r Bwrdd yn gyfrifol yn gyfreithiol am:

• Pennu cymeriad a chenhadaeth addysgol y coleg

• Goruchwylio gweithgareddau'r coleg

• Cymeradwyo'r Cynllun Strategol

• Cymeradwyo cyllideb flynyddol

• Sicrhau defnydd effeithlon ac effeithiol o adnoddau

• Sicrhau defnydd priodol o arian cyhoeddus

• Sicrhau cynaliadwyedd ariannol y coleg

• Cyflogaeth ac amodau gwasanaeth deiliaid uwch swyddi

• Gosod fframwaith ar gyfer tâl ac amodau gwasanaeth yr holl staff eraill

• Adolygu trefniadau ar gyfer gwaith academaidd y coleg.

Beth mae'n ei olygu

Disgwylir i lywodraethwyr fynychu tua 10-12 cyfarfod bob blwyddyn. Cynhelir y cyfarfodydd yn bennaf ar ddydd Mawrth ar ôl 5.00pm. Mae angen amser darllen a pharatoi ychwanegol hefyd.

Lle bynnag y bo modd, ein nod yw cyfarfod wyneb yn wyneb. Er ei bod yn rôl wirfoddol ddi-dâl, gall Llywodraethwyr hawlio costau teithio rhesymol.

Fel rhan o’r rôl, disgwylir y byddwch o leiaf yn:

• Gwasanaethu ar o leiaf un pwyllgor

• Cynnal lefel dda o bresenoldeb mewn cyfarfodydd Bwrdd a phwyllgorau

• Paratoi ar gyfer cyfarfodydd a chyfrannu atynt

• Cymhwyso eich sgiliau a'ch arbenigedd er budd y coleg

• Parchu cyfrinachedd busnes y Bwrdd

• Gweithredu er budd gorau'r coleg

• Cefnogi penderfyniadau ar sail 'cyfrifoldeb cyfunol'

• Osgoi sefyllfaoedd sy'n creu gwrthdaro buddiannau

• Cymryd rhan mewn cyfleoedd datblygu

• Cymryd diddordeb ym mywyd ehangach y coleg

• Lle bo'n bosibl, mynychu digwyddiadau yn y coleg

• Gweithredu fel llysgennad y coleg

Sut rydym yn gweithio

Mae’r Bwrdd yn cyfarfod 5 gwaith y flwyddyn a chaiff ei waith ei gefnogi gan bum is-bwyllgor:

PWYLLGOR ARCHWILIO

Yn goruchwylio fframwaith rheoli risg a rheolaeth fewnol y Coleg. Yn cynghori'r Bwrdd ac yn monitro gwaith ein harchwilwyr..

PWYLLGOR CWRICWLWM AC ANSAWDD

Yn monitro gwella ansawdd ac yn goruchwylio datblygiad y cwricwlwm yn ogystal â phob agwedd ar brofiad y ysgwr gan gynnwys Diogelu, Cefnogi ac Anghenion Dysgu Ychwanegol.

PWYLLGOR CYLLID AC ADNODDAU

Yn goruchwylio rheolaeth ariannol a pherfformiad a seilwaith y coleg gan gynnwys Ystadau, TG ac Adnoddau Dynol. Mae hefyd yn monitro cynnydd ar brosiectau cyfalaf mawr.

PWYLLGOR LLYWODRAETHU AC AELODAETH

Yn goruchwylio’r broses recriwtio Llywodraethwyr ac yn cynghori'r Bwrdd ar faterion aelodaeth. Mae hefyd yn monitro datblygiadau yn y sector AB ac yn cynghori'r Bwrdd ar oblygiadau ar gyfer llywodraethu.

PWYLLGOR TALIADAU

Cyfarfod bob blwyddyn i ystyried a chynghori'r Bwrdd ar berfformiad, amodau gwasanaeth a chyflog deiliaid uwch swyddi (Pennaeth, Is-Benaethiaid a Swyddog Llywodraethiant).

Rydym yn chwilio am

PROFIAD, SGILIAU A GWYBODAETH

Mae’n hanfodol eich bod chi’n:

• Meddu ar brofiad o arwain

• • Gallu cyfathrebu’n effeithiol, herio a thrafod

• • Meddu ar y gallu i amsugno a gwerthuso gwybodaeth gymhleth

• • Deall sut mae busnesau’n gweithio ac yn

gallu adnabod risgiau a rhwystrau posibl

• • Meddu ar ddealltwriaeth o’r economi

ranbarthol ac anghenion cyflogwyr.

Byddai hefyd yn ddefnyddiol os oeddech chi’n:

• Meddu ar brofiad blaenorol fel Aelod Bwrdd / Ymddiriedolwr / Llywodraethwr

• • Ymwybodol o waith Coleg Gwent a’n rôl yn yr economi leol

• • Meddu ar wybodaeth am y sectorAddysg a Hyfforddiant Ôl-16 neu’n meddu ar brofiad cysylltiedig yn y sector

• • Deall rôl llywodraethu a sut mae’n wahanol i reoli

• • Meddu ar sgiliau TG da

RHINWEDDAU PERSONOL

Mae’n hanfodol eich bod chi’n:

• Dymuno gwneud gwahaniaeth yn eich cymuned

• Meddu ar uniondeb a safonau personol/proffesiynol uchel

• Gallu ymrwymo i Egwyddorion Nolan ar gyfer

Bywyd Cyhoeddus ac alinio â’n Gwerthoedd

Craidd

• Brwdfrydig, dibynadwy ac yn meddu ar hunangymhelliant

• Chwaraewr tîm cryf

• Meddu ar lygad am fanylion

• Meddu ar ddiddordeb ym maes addysg a hyfforddiant

• Meddu ar yr amser i fodloni ymrwymiadau’r rôl

• Bodlon ymgysylltu â chyfleoedd datblygu a hyfforddiant

Byddai hefyd yn ddefnyddiol os oeddech chi’n:

• Byw neu’n gweithio yn ardal Gwent neu ddeddwyrain Cymru

• Siarad Cymraeg

• Meddu ar ddiddordeb mewn pobl ifanc

• Gallu gweithredu fel llysgennad ar ran y Coleg

Beth gewch chi allan os ydyw

‘Mae bod yn Llywodraethwr yn golygu y gallaf sicrhau bod ein cymuned yn cael ei gwasanaethu'n dda gan y Coleg. Mae'n

hanfodol bod gan bobl y sgiliau cywir i gyfrannu at yr economi leol.'

'Mae Coleg Gwent yn sefydliad addysgol eithriadol ac rwy'n gyffrous i allu rhannu fy sgiliau a'm profiad i'w gefnogi.'

'Roeddwn i'n edrych i ailfywiogi fy nhaith ddysgu fy hun ac mae bod yn Llywodraethwr yn cefnogi hyn. Mae'r coleg yn

sefydliad mor ddeinamig a chymhleth, mae rhywbeth newydd i'w ddysgu bob amser.'

‘Rwy'n angerddol am bwysigrwydd addysg ac mae

Coleg Gwent yn cyd-fynd â'm gweledigaeth bersonol o gymdeithas decach sy'n

buddsoddi'n wirioneddol yn nyfodol ei phobl ifanc.’

'Rwyf wedi cwrdd â phobl wych a, chyda gobaith, wedi rhoi rhywbeth yn ôl i'm cymuned.'

'Mae wedi agor fy meddwl i gymhlethdodau rhedeg sefydliad mawr, a'r hyn sydd ei angen i ddarparu addysg a hyfforddiant o'r radd flaenaf.'

‘Gallaf gynnig, yn fy ffordd fach fy hun, fy sgiliau a'm blynyddoedd o brofiad i gefnogi ac arwain tîm rheoli'r coleg er budd y myfyrwyr.’

Sut i gyflwyno cais

Yn yr achos cyntaf, anfonwch CV a llythyr eglurhaol sy’n esbonio eich diddordeb mewn bod yn

Llywodraethwr a sut rydych chi’n bodloni gofynion y rôl. Anfonwch y rhain at y Swyddog Llywodraethu,

Marie Carter :

Coleg Gwent

The Rhadyr

Brynbuga

Sir Fynwy

NP15 1XJ

e-bost: marie.carter@coleggwent.ac.uk

Ffon: 01495 333519/ 07967 307951

Bydd y Swyddog Llywodraethu yn anfon holiadur Sgiliau ac Amrywiaeth atoch chi i’w lenwi. Bydd ein Pwyllgor Llywodraethu ac Aelodaeth yn adolygu pob cais yn erbyn Manyleb y Person a’r Proffil Sgiliau a’n blaenoriaethau presennol.

Os byddwch chi’n cyrraedd y rhestr fer, byddwch chi’n derbyn gwahoddiad i gwrdd â’r pwyllgor i drafod eich cais yn fanylach. Cyn y cyfarfod, gofynnir i chi ddarparu rhagor o wybodaeth am eich hun a llenwi

Datganiad ynghylch eich cymhwysedd i wasanaethu fel Llywodraethwr (gweler isod).

Mae’r cyfarfod gyda’r pwyllgor yn gyfle iddynt ddysgu mwy amdanoch chi a sut gallai eich sgiliau a’ch profiad gefnogi gwaith y Bwrdd. Mae hefyd yn rhoi cyfle i chi ofyn cwestiynau er mwyn sicrhau bod y rôl wirfoddol hon yn addas i chi.

Ar ôl y cyfarfod, bydd y pwyllgor yn trafod ac yn cytuno ar ba ymgeiswyr y dylent gael eu hystyried i gael eu penodi. Gwneir argymhelliad i’r Bwrdd a fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol o ran penodi.

Cymhwysedd

Mae Llywodraethwyr y Coleg yn Gyfarwyddwyr ac Ymddiriedolwyr Elusennol de-facto. Felly, mae ganddynt gyfrifoldebau cyfreithiol penodol. Maent hefyd yn destun i reolau llym ynghylch pwy sy’n gallu gwasanaethu fel Llywodraethwr. Caiff meini prawf cymhwysedd eu crynhoi dan Gymal 7 o Offerynnau ac Erthyglau Llywodraethu Coleg Gwent ac yn y rheolau a osodwyd gan y Comisiwn Elusennau dan Ddeddf Elusennau 2011.

I grynhoi, ni allwch wasanaethu fel Llywodraethwr y Coleg:

• Os ydych chi dan 18 oed (oni bai eich bod chi’n cael eich ethol fel Myfyriwr-Lywodraethwr)

• Os ydych chi’n aelod o staff y Coleg (oni bai eich bod chi’n cael eich ethol fel Staff-Lywodraethwr)

• Os ydych chi’n fethdalwr nas rhyddhawyd

• Os oes gennych chi drefniant anwirfoddol i dalu dyled neu os ydych chi’n ansolfent

• Os oes gennych chi euogfarn heb ei disbyddu o unrhyw fath

• Os oes gennych chi euogfarn a rhoddwyd dedfryd carchar i chi

• Os ydych chi wedi eich cynnwys ar y Gofrestr Troseddwyr Rhyw

• Os ydych chi wedi eich anghymwyso rhag bod yn Gyfarwyddwr Cwmni

• Os ydych chi wedi cael eich gwaredu fel Llywodraethwr neu Ymddiriedolwr yn flaenorol

• Os ydych chi’n ‘berson dynodedig’ dan Reoliadau Rhewi Asedau Gwrth-derfysgaeth.

Mae’r rhestr hon yn un ddangosol yn unig – gall manylion llawn ynghylch cymhwysedd Llywodraethwyr gael eu darparu ar gais a byddant yn cael eu darparu ar ffurf Datganiad i’w lenwi gan ymgeiswyr sy’n derbyn gwahoddiad i gwrdd â’r Pwyllgor Llywodraethu ac Aelodaeth.

Edrychwn ymlaen at glywed gennych

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.
Canllaw i ymuno â ni fel Llywodraethwr Coleg Gwent by Coleg Gwent - Issuu