Page 1

SAUNDERSFOOT


Saundersfoot Mae’r enw’n bodoli ers sawl canrif, ond yn wreiddiol fe gyfeiriai at adeilad ac nid at bentref. Mae’n debyg mai enw teulu lleol oedd yr elfen gyntaf, ac mai nodwedd ddaearyddol oedd ‘foot’.

Cynhanes Dim ond ambell i faen hir o’r Oes Efydd sydd ar ol yn y tirlun presennol i’n hatgoffa o’r cyfnod cynhanesyddol. Fodd bynnag, mae darganfyddiadau ac enwau lleoedd yn dangos fod pobl yn byw yma yn ystod Oes y Cerrig Newydd, yr Oes Efydd ac Oes yr Haearn. Mae’n bosibl mai cromlech o Oes yr Efydd oedd “Harry’s Tump”, ac mai bryngaer o Oes yr Haearn oedd y Castell Hean gwreiddiol. Mae’r enw ‘rath’ hefyd yn dynodi caer neu wersyll wedi’i amddiffyn.

Yr Oesoedd Canol Daeth y Celtiaid i’r ardal yn ystod Oes yr Haearn ac o’r bobl hyn y datblygodd y Cymry, sef prif drigolion yr ardal hyd at yr Oesoedd Canol. Goresgynwyd Lloegr ym 1066 gan y Normaniaid. Genhedlaeth gyfan yn ddiweddarach llwyddodd y Normaniaid i dreiddio i’r ardal hon, a daeth yn rhan o Iarllaeth Penfro. Cadwodd Ieirll Penfro goedwig Coedrath, a arferai ymestyn dros lawer o’r tir rhwng Dinbych y Pysgod ac Amroth, at ddefnydd Castell Penfro a’u hadeiladau demen eraill, ac ar gyfer atgyweirio’r melinau. Ailadeiladwyd yr eglwys o gerrig ac mae t[r y cyfnod hwnnw’n sefyll hyd heddiw. Mae’r groes sydd wedi’i hadnewyddu, ac yn sefyll yn iard yr eglwys, hefyd yn dyddio o’r cyfnod hwn. T] gydag amddiffynfeydd o’r Oesoedd Canol oedd y Castell neu Gwrt Bonville cyntaf; mae’n bosibl mai Nicholas de Bonville, a oedd yn berchen ar dir yma yn ystod y bedwaredd ganrif ar ddeg, neu un o’i deulu fu’n gyfrifol am ei adeiladu. Cawn ein hatgoffa o [r arall o’r bedwaredd ganrif ar ddeg, Andrew Wiseman, a gai hanner ffi Marchog, gan yr enw lle, Wiseman’s Bridge.

Capeli Adeiladwyd y Capel Cynulleidfaol cyntaf ym 1838 a William Thomas o Sardis oedd y Gweinidog. Cafodd ei ailadeiladu yn niwedd y 19eg ganrif a newidwyd yr enw gwreiddiol, Bethel, i Thomas Memorial i anrhydeddu Dr David Thomas o Stockwell, diwynydd o fri a mab y gweinidog cyntaf. Adeiladwyd Capel Bedyddwyr Hebron ym 1854 gan grwp o Fedyddwyr a arferai gynnal gwasanaethau mewn bwthyn yn ymyl safle Gorsaf Dren Saundersfoot. Agorwyd Capel y Wesleaid ym 1892.


Arferai’r Gymdeithas leol gyfarfod mewn llofft uwchben stabl cyn hynny. Cawsant y tir ar les gan Ystad Castell Pictwn am dymor o 99 mlynedd am rhent blynyddol o 5d (a newidwyd yn ddiweddarach i 3c). Adeiladwyd Bethany, sef chwaer eglwys i Gapel Methodistiaid Calfinaidd Bethesda, ym 1865 a’i hadnewyddu oddeutu 1910. Ychydig flynyddoedd yn ol newidwyd yr adeilad yn fflatiau.

Eglwys Gatholig St. Bride Adeiladwyd yr eglwys hon ym 1966. Cyn hyn, arferai’r Catholigion lleol addoli yn Dinbych y Pysgod.

Ysgolion Roedd 3 ysgol yn y plwyf ym 1846 - yr ysgolion ‘antur preifat’ a oedd newydd eu sefydlu yn Woodend a Cater’s Hook Gate, ac Ysgol Genedlaethol Saint Ishel a gynhaliwyd mewn ysgoldy yn iard yr eglwys. Sefydlwyd yr ysgol hon ym 1745 ac mae’r adeilad yno hyd heddiw. Agorwyd Ysgol Brydeinig Saundersfoot ar 10 Ionawr 1870 a hwn, erbyn hyn, yw’r Ganolfan Gymuned. Agorwyd ysgol bresennol y pentref ar 11 Rhagfyr 1973.

Castell Hean Yr adeilad gwreiddiol gyda’i amddiffynfeydd - a elwid ‘Yr Hen Gastell’ yn y cyfnod pan oedd pobl yn siarad Cymraeg yn y plwyf o hyd - a roddodd yr enw i’r ystad. Bu’r amryw berchenogion yn y canrifoedd diweddar yn ymwneud a datblygiad diwydiannol yr ardal. Roedd yna bwll glo, menter Wogan yn ol bob tebyg, yn ymyl Neuadd Coppet erbyn 1764. Yn hanner cyntaf y 19eg ganrif roedd gan Thomas Stokes weithfeydd glo a mwyn haearn a sefydlodd waith 3 briciau. Cadarnhawyd pwysigrwydd Charles R Vickerman, g[r o Lundain, wedi iddo brynu’r Castell ym 1863. Ef oedd mab Trysorydd y Cwmni Saundersfoot Railway and Harbour, ac o dipyn i beth fe ddaeth i reoli’r diwydiant lleol. Charles Vickerman hefyd ailadeiladodd Castell Hean mewn tywodfaen coch gydag addurniadau mewn carreg ‘Forest of Dean’ yn null Oes Elizabeth. Fodd bynnag bu tro ar fyd ac erbyn ei farwolaeth ym 1897, roedd ei fentrau diwydiannol yn dirywio. Ym 1899 gwerthwyd Castell Hean i Syr William Thomas Lewis, y cyntaf o Farwniaid Merthyr o Senghennydd, ac mae wedi aros yn nwylo’i ddisgynyddion hyd heddiw.

Tafarndai Y Milford Arms oedd y dafarn gynharaf y gwyddom amdani, ac arferai fod lle mae adain gefn gwesty’r Cambrian heddiw. Mae’n ymddangos

Town Centre 1845


fod y Cambrian wedi etifeddu rol y dafarn gynharach gan mai yno yr arferid casglu rhent Castell Pictwn. Daeth tafarn arall, y Picton Castle, yn westy’r Hean Castle yn ddiweddarach. Roedd tafarn o’r enw The Wogan Arms (a welir heddiw yn enw’r adeilad Wogan House) yn y dref yn nechrau’r 19eg ganrif. Cawn ein hatgoffa o’r Railway Inn gan Railway Inn Cottage yn Brooklands, ac o’r Brewery Tap gan Brewery Cottage a Brewery Terrace.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd Bu Saundersfoot yn ddigon ffodus i osgoi ymosodiadau gan y gelyn, ar wahan i ambell i ffrwydriad yn ardal yr Eglwys a Neuadd Coppet. Defnyddiwyd gwesty St. Brides fel Ysgol ar gyfer Signalwyr y Royal Marines, gyda llawer o’r personel yn cael eu lleoli yn y gwestai lleol. Cynhaliwyd Ymarfer Jantzen - ymarfer ar gyfer glanio milwyr a nwyddau - ar y traethau ym 1943. Yn sgil y ffaith fod cynifer o filwyr wedi ymweld a’r ardal, bu cynnydd yn y diwydiant twristiaeth wrth i lawer ohonynt ddod yn ol i’r ardal gyda’u teuluoedd ar wyliau - a llawer ohonynt yn priodi ac yn dod i fyw i’r ardal.

Fferm Sandersfoot Yn y cyfnod gweddol fodern, roedd yr adeilad hwn yn rhan o ystad Castell Pictwn. Dengys arolwg o 1770 fod t]’r fferm a’r adeiladau wedi’u lleoli yn ymyl safle presennol maes parcio’r traeth. Roedd y tai neu’r bythynod eraill ar y fferm ar y pryd yn cynnwys: Little Griffiston, Maryhole ac Upper Ridgeway. Dengys yr arolwg fod Fferm Saundersfoot yn fwy nag uned amaethyddol. Caiff y cae deg erw a elwir yn Lower Ridgeway ei ddisgrifio fel “Pyllau Glo ac Eithin” a chae Upper Ridgeway fel “Hen Byllau Glo ac Eithin”. Roedd lleoliad fferm Sandersfoot ym maes glo Sir Benfro yn holl bwysig i’w datblygiad yn ystod diwedd y ddeunawfed ganrif a dechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. (Fe welwch fod sillafiad y ddeunawfed ganrif yn parhau yn y ffordd y caiff y gair ei ynganu’n lleol).

Y Maes Glo Ceir cyfeiriad at gloddio yn ardal Saundersfoot mor gynnar a 1324. Parhaodd y traddodiad hwn, a bu cynnydd yn y gweithgaredd diwydiannol o ddiwedd y ddeunawfed ganrif. Cai glo ei allforio ar longau, o bosibl o Coppet Hall, Bae Swallowtree a Wiseman’s Bridge. Erbyn 1801 roedd Saint Ishel yn un o’r ardaloedd gwledig mwyaf poblog yn Sir Benfro.

Loading coal


Adeiladu Llongau Mae Barbara George wedi dangos fod llongau hwylio a adeiladwyd yn yr ardal wedi’u cofrestru ym Mhorthladdoedd Aberdaugleddau, Penfro ac Aberteifi. Roedd George a Francis Beddoe ymhlith yr adeiladwyr llongau lleol yn negawdau canol y ganrif. Dengys cyfrifiad 1891 fod y traddodiad hwn wedi parhau gyda gweithiwr atgyweirio llongau/adeiladu cychod yn Railway Street, ac un arall (yn ogystal a’i ddau fab) yn Picton Cottage. Roedd gweithiwr atgyweirio llongau arall yn Milford Street yn ogystal a dau oedd, erbyn hynny, wedi ymddeol.

Pentref a Chanolfan Wyliau Glan Mor Ynghyd a’r gweithgaredd diwydiannol a’r masnachu bu cynnydd yn nifer yr ymwelwyr dros yr haf o’r 1850au. Bu agor Rheilffordd y Great Western o Hendy-gwyn i Ddoc Penfro ym 1866 o gymorth yn hyn o beth. Erbyn diwedd y ganrif cadarnhawyd pwysigrwydd Saundersfoot gan gyfarfod y cwrt bach, a’r ffaith fod yna dri Gweinidog a Ficer Saint Ishel yn byw yn y pentref, yn ogystal a meddyg, Athro Bwrdd, amrywiaeth eang o fasnachwyr a chrefftwyr, gan gynnwys gwneuthurwr watsys a ffowndri. Siop atgyweirio peiriannau i’r pyllau glo a’r ffermydd oedd y ffowndri’n wreiddiol, ond datblygodd yn fusnes oedd yn allforio nwyddau pres a haearn.

Cynnydd Diwydiannol Yn sgil cynhyrchu mwy o lo, roedd mwy o angen i’w gludo ar longau, ac ym 1829 rhoddodd y Senedd awdurdod i Gwmni Saundersfoot Railway and Harbour. Golygai hyn adeiladu llinell 4’ i dramiau i gysylltu rhai o’r meysydd glo gyda harbwr newydd yn Saundersfoot. Cai’r tramiau hyn eu tynnu gan geffylau. Syr Richard Bulkeley Philipps o Gastell Pictwn oedd cadeirydd a phrif gyfranddalwr y cwmni. Erbyn 1837 roedd yno bum glanfa’n cael eu Railway defnyddio’n gyson, yn llwytho Street glo o lofeydd Begeli, Cilgeti, Thomas Chapel a Bonville’s Court, yn ogystal a mwyn haearn o weithfeydd ar hyd linell Wiseman’s Bridge. Ehangodd pentref Saundersfoot, ac erbyn canol y 1840au roedd yno ragor na 30 o dai. Roedd y diwydiannau eraill yn cynnwys Gweithfeydd Haearn Stepaside, (sefydlwyd ym 1849) a ffatri brics tân yn ymyl Wiseman’s Bridge (sefydlwyd oddeutu 1850). Arferid allforio haearn crai a brics tân o Saundersfoot hefyd. Honnir mai’r glo caled lleol yw’r gorau yn y byd, a dywedir iddo gael ei gludo i dde a dwyrain Lloegr ar gyfer y diwydiant bragu cwrw ac i Gernyw ar gyfer y diwydiant tun, yn ogystal ag i Ffrainc, yr Almaen a Scandinafia.


Pentref a Harbwr Diwydiannol Mae enwau megis Incline, Incline Villa ac Incline Way i gyd yn bwrw goleuni ar y gorffennol ac yn ein hatgoffa o’r dull dyfeisgar a chrefftus o symud y tramiau glo i lawr yr allt trwy ddefnyddio cadwyni dur a gant eu gweithio o gwt weindio ar ben uchaf yr allt; roedd pwysau’r tramiau llawn yn tynnu’r rhai gwag i fyny. Arferai Westfield Road gael ei galw’n Lower Cart Road, ac Upper Cart Road oedd y Ridgeway. Mae enw Fan Road yn ein hatgoffa o’r system awyru ym maes glo Bonville’s Court ble’r oedd ffan 15’ gan Waddle o Lanelli yn gweithio o 1863 hyd at 1930 pan gaewyd y pwll. Railway Street yw’r hen enw ar y Strand. Arferai’r tram fynd ar hyd y ffordd hon hyd at y twnel ac ymlaen i Wiseman’s Bridge. Yn ystod y 1870au ailosodwyd y llinell ar gyfer peiriant locomotif. Mae rhai trigolion yn cofio’r Rosalind yn tynnu tramiau ar hyd y stryd, a dengys hen ffotograffau harbwr Saundersfoot yn llawn llongau. Dywedir fod 5 gof yn gweithio ar yr harbwr ym 1890 - 1910.

Saint Ishel Mae Saint Ishel yn hen blwyf, h[n na’r pentref ei hun. Mae’r enw’n dyddio’n ol i’r cyfnod Cristnogol cynnar pan oedd y seintiau Cymreig yn efengylu yn yr ardal. Roedd yr eglwys, a enwid ar ol Sant Usyllt (neu ‘Issell’, yn ol y ffurf wedi’i seisnigeiddio), ar yr un safle a’r eglwys bresennol, neu yn agos iddo. Roedd yr eglwys yn un bwysig yng nghyfnod cynnar Cristnogaeth yng Nghymru. Roedd y safle hefyd yn ganolbwynt i nifer o ffyrdd - gelwir un ffordd a redai o’r arfordir presennol at Saint Ishel yn Church Way. (Mae Church Terrace yn rhedeg ar hyd yr un llwybr).

Eglwys Saint Ishel Mae yno fedyddfaen o ddiwedd y cyfnod Normanaidd ac mae rhannau o’r eglwys, gan gynnwys y t[r, yn dyddio’n ol i’r 13eg ganrif. Ychwanegwyd y gangell, y bwa a’r arced yn ystlys y gogledd yn ystod y 14eg ganrif. Cafodd yr eglwys ei hatgyweirio a’i ehangu’n sylweddol ym 1864 o dan arweiniad F.R. Kempson o Landaf a Henffordd. Ychwanegwyd y festri ym 1910. Ymhlith y rhai sy’n cael eu coffau gyda phlac neu ffenestr mae amryw o aelodau o deulu Child o Begelly House, Charles Ranken Vickerman a pherthnasau iddo, Syr William Thomas Lewis a’i ddisgynyddion, ac eraill a oedd wedi gwasanaethu’r plwyf mewn amryw ffyrdd. Mae gan yr eglwys hardd hon Gwpan Cymun a Phaten o Oes Elizabeth ac eitemau rhoddedig eraill megis plåt cymun a rhai enghreifftiau da o wydr lliw.

Preaching Cross

Newid Byd Bu dirywiad yn y diwydiant glo yn ystod yr ugeinfed ganrif am amryw o resymau gan gynnwys yr anawsterau a gafwyd wrth weithio’r haenau lleol. Caewyd pwll Bonville’s


Court ym mis Ebrill, 1930 ac erbyn mis Awst 1939 roedd y pyllau i gyd wedi cau. Fel y nododd awdur y llyfr “Industrial Saundersfoot”, gweithiwyd Wood Level fel pwll preifat rhwng 1944 a 1950, ond pan gaewyd y pwll hwn daeth y diwydiant glo i ben yn yr ardal. Caewyd rheilffordd Saundersfoot ym 1939. Yn fuan wedi dechrau’r rhyfel datgymalwyd y llinell a gwerthwyd y deunydd fel scrap. Fodd bynnag rhoddodd yr ymwelwyr rhywfaint o hwb i’r economi leol a dechreuwyd sefydlu gwestai yno. Ers yr ail Ryfel Byd mae’r pentref wedi dod yn ardal breswyl bwysig. O ganlyniad i’r amryw ddylanwadau hyn bu twf ym mhoblogaeth plwyf Saint Ishel o 974 ym 1801 i 3,478 ym 1981, twf na welwyd ei fath ymhlith plwyfi gwledig Sir Benfro.

Y Côd Cefn Gwlad Parchwch - Diogelwch - Mwynhewch • Byddwch yn ddiogel - cynlluniwch o flaen llaw a dilynwch unrhyw arwyddion • Gadewch glwydi ac eiddo fel rydych chi’n eu cael nhw • Ewch â’ch sbwriel gartref, a gofalwch warchod bywyd gwyllt • Cadwch eich ci dan reolaeth dynn • Byddwch yn ystyriol o bobl eraill

Text researched and written by Saundersfoot Local History Society in conjunction with Cambria Archaeology. Design by Waterfront Graphics & Geoff Scott Illustrations by Geoff Scott PLANED © 2007

Saundersfoot welsh  
Saundersfoot welsh  
Advertisement