Page 1

JEFFREYSTON LOVESTON, YERBESTON & CRESSELLY


Enwau Enwau sy’n cyfeirio at ffermydd neu eiddo person arbennig yw Jeffreyston (neu Jeffreston), Loveston a Yerbeston: fferm Geoffrey/Jeffrey, fferm Lovell ac yn ôl bob tebyg (yn ôl yr Athro B.G. Charles) fferm Gerbard. Dechreuwyd defnyddio’r enwau yma ar ôl i’r Normaniaid eu sefydlu’u hunain yn Iarllaeth Penfro (o ddiwedd yr unfed ganrif ar ddeg). Ni wyddom pwy oedd yn byw yma a phwy oedd yn berchen ar y tir cyn hynny, ar wahân i’r ffaith eu bod yn Gymry ac yn ddisgynyddion i Geltiaid Oes yr Haearn. Enw arall yn yr ardal yw Creseli. Credir fod hwn yn deillio o’r gair ‘Croes’ neu’r ffurf Saesneg ‘Cross’, o flaen enw person ‘Eli’ neu ‘Heli’.

Cynhanes Roedd yna faen hir - o bosibl o Oes yr Efydd - yn Loveston ar un adeg (cafodd ei dinistrio yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg); cafwyd hyd i fryngaerau ac adeiladau amddiffynnol eraill, yn ôl bob tebyg o Oes yr Haearn, yn Myrtle Hill a Myrtle Grove, Beacon Hill ac o bosibl Millway Lane a Vicarage Farm, i gyd yn Jeffreyston a ger Dinaston (Croft Field) yn Loveston - ble mae’n bosibl fod y gair Cymraeg ‘dinas’ (neu gaer) wedi effeithio ar y dull modern o sillafu’r enw. Mae’r enwau caeau Castle Hill ac Upper a Lower Castle Hill yn Loveston yn cyfeirio at adeilad amddiffynnol o Oes yr Haearn (ac nid at gastell o’r Canol Oesoedd).

Cyfnod Cristnogol Cynnar Mae’n bosibl fod pobl yn byw yn safleoedd Oes yr Haearn yn ystod cyfnod y Rhufeiniaid. Cafodd Cristnogaeth ei phregethu ymhlith y Cymry yn ystod y canrifoedd ar ôl i’r Rhufeiniaid adael, ac mae’n debygol mai yn y cyfnod hwn y sefydlwyd yr eglwys gyntaf yn Jeffreyston. Mae’r garreg hirsgwar yng nghyntedd yr eglwys yn dyddio o’r cyfnod rhwng 600 ac 800 O.C. Mae croes gylch wedi’i naddu arni. Mae’r ffaith fod yr iard wedi’i chodi a’i Parish Church of St Jeffrey bod (hyd at y 19eg & St Oswald ganrif) yn grwn hefyd yn dangos fod safle’r eglwys yn hen iawn. Mae olion pentref crwn o amgylch iard yr eglwys ac mae’n bosibl fod yr adeiladau hyn yn ddyddio o’r Cyfnod Cristnogol Cynnar.

Yr Oesoedd Canol c1100 - c1500 Ni wyddwn bron ddim am y bobl ddaeth i fyw i’r ardal ar ol i’r Normaniaid gyrraedd Penfro. Cyfeirir at eglwys Jeffreyston ym 1291 fel yr eglwys ar fferm [neu ystad] Geoffrey. Sefydlwyd melinau ]d yn Great House, Norchard a Cresswell rhywbryd yn ystod y Canol Oesoedd, a daeth Great Loveston yn fynachdy gyda melin ]d a melin ban.


Tirfeddianwyr John Harcourt Powell, Seymour Philipps Allen, Syr William Owen Barlow a George Lort Phillips oedd prif dirfeddianwyr yr ardal yn ystod canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Y teulu Allen o Greseli oedd y sgweieriaid lleol gan eu bod yn byw yn yr ardal. Adeiladodd John Bartlett Allen gartref gwych ym 1770-1 (a’i ehangu ym 1869) yn lle adeilad cynharach a etifeddwyd wrth y teulu Bartlett. Bu ei fab, John Hensleigh Allen, yn Aelod Seneddol dros fwrdeisdrefi Penfro 1816 - 26; priododd dwy o’i ferched feibion i Josiah Wedgwood, y crochennydd enwog; a phriododd un ferch o’r teulu hwn Charles Darwin.

Glo Mae’r plwyfi hyn ym Maes Glo Sir Benfro, a bu glo’n cael ei gloddio yma o leiaf o’r 16 fed ganrif hyd yr 20fed ganrif. Mae gweithfeydd fel y rhai yn Underhill (a ddynodwyd yn heneb gan Cadw’n ddiweddar), hen siafftiau a thipiau, enwau fel Blackway a Coalpit Lane, hanesion am danchwaoedd a thraddodiadau am y gweithfeydd i gyd yn adlewyrchu hanes ddiwydiannol yr ardal. Ym 1801 Jeffreston oedd un o’r plwyfi (gwledig) mwyaf poblog yn Sir Benfro, ond erbyn y 19eg ganrif roedd y diwydiant yn dirywio. Roedd y gweithfeydd glo i gyd yn y tri phlwyf yn dirywio erbyn y 1830au ac roeddynt wedi cau erbyn 1867. Ni fu’r ymgais ddiweddarach i adfywio’r diwydiant (gan gwmni Saundersfoot & Tenby Colliery ym 1875, a chwmni Jeffreston Anthracite Coal ym 1876) yn llwyddiannus. Cafodd Glofs Loveston ei hagor mewn ardal y buwyd yn cloddio am lo ynddi mewn cyfnod cynharach ond ar 26 Mai 1936, llifodd d[r i’r pwll o’r hen weithfeydd gerllaw a boddi 7 o ddynion.

Technegau a Threfniadau Cloddio Glo (yn ol M.R.C. Price) Gweithfeydd glo brig, gyda ffosydd eithaf dyfn, oedd yn Underhill, Quarryback a safleoedd eraill. Techneg arall oedd suddo pyllau cloch. Roedd rhai tirfeddianwyr yn ymwneud yn uniongyrchol â’r gwaith, ond yn amlach na pheidio roeddynt yn prydlesu’r glo o dan ardal benodol i w]r busnes ac yn derbyn breindaliadau. Gall y term ‘glofa’ neu ‘colliery’ gyfeirio at nifer fawr o byllau bach, felly roedd Glofa Cresswell yn cynnwys yr ardal rhwng Afon Cresswell a Chreseli. ‘Gallai Glofa Jeffreston fod yn ddisgrifiad cyffredinol o’r holl weithfeydd glo yn y plwyf, o dan reolwyr gwahanol’.

Glowyr yn y gymuned Roedd gweithio yn y pyllau glo’n swydd draddodiadol i rai teuluoedd, ond gadawodd llawer oherwydd y dirywiad yn y diwydiant yn ystod y 19 fed ganrif. Erbyn 1851 dim ond 49 o’r boblogaeth o 679 yn Jeffreyston oedd yn lowyr (13 o fenywod a 36 o ddynion). Pedwar ar bymtheg penteulu oedd yn lowyr, o’i gymharu â 56 ffermwr, 8 gweithiwr stad neu eu gwragedd ac 20 crefftwr (6 gof, 5 crudd, 3 saer maen, 1 saer coed, 1 saer llongau, 1 nyddwr a 3 teiliwr).

Cei Cresswell Daeth Cei Cresswell yn lle prysur oherwydd y diwydiant glo, ac roedd yn arbennig o bwysig yn ystod y ddeunawfed ganrif pan oedd yno 3 cei mewn gwirionedd a ffald lo dros erw o faint.Newidwyd y dull o allforio’r glo gyda dyfodiad llongau mwy oedd yn


angori yn Lawrenni ac yn derbyn rhywfaint o’r glo o fadau dadlwytho o Gei Cresswell. Roedd 21 o’r 40 llong a gafodd eu cofrestru ym 1795 fel bod yn hwylio ar y Cleddau yn gysylltiedig a Chei Cresswell. Roedd y rhain yn cynnwys 18 bad dadlwytho a 2 sl[p. Mae M.R.C. Price yn awgrymu fod y gwaith o allforio glo o Gei Cresswell wedi dod i ben cyn 1840, ond roedd llongau cyffredinol yn parhau i ddefnyddio’r ‘Cei’ hyd at yr 20fed ganrif.

Eglwysi Plwyf

Cresswell Quay

Ar ôl i’r Normaniaid gyrraedd cafodd rhai eglwysi eu hailadeiladu ac, o dro i dro, eu hailgysegru, ac adeiladwyd eglwysi newydd. Am eglwys Jeffreyston, gweler The History of Jeffreyston Parish Church a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Thomas Lloyd (yr Churchyard ydym yn ddiolchgar am ei sylwadau ar adeiladau lleol). Mae’r groes Cross ganoloesol yn iard yr eglwys yn arbennig o ddiddorol. Mae eglwys Loveston wedi’i chysegru i Sant Leonard. Mae ganddi d[r gwych sy’n dyddio o’r Canol Oesoedd gyda muriau amddiffynnol o amgylch y top a ffenestr fechan o gyfnod y Tuduriaid yn y mur dwyreiniol. Ni chafodd ei hatgyweirio yn y ganrif ddiwethaf, ac mae wedi cadw llawer o’i naws wreiddiol oherwydd hynny. Roedd eglwys Yerbeston (sydd wedi cau erbyn hyn) wedi’i chysegru i Sant Lawrence. Mae’n adeilad bach a syml iawn o’r Canol Oesoedd, gyda chlochdy bychan a dim t[r.

Pregethwyr Enwog Ar 16 Ebrill 1743 pregethodd George Whitefield, un o gydweithwyr John Wesley, i filoedd o bobl yn Jeffreyston, ‘yn debyg iawn i lowyr Kingswood’. Ymhlith y dorf yr oedd James Relly a ddaeth i ddifetha’r gwasanaeth. Ond arhosodd i wrando ac o ganlyniad daeth yn weithgar iawn yn y diwygiad. Roedd ei frawd iau, John, (m. 1777) yn pregethu yn Jeffreyston a phentrefi cyfagos. Roedd y ddau yn ysgrifennu emynau, ac arferid galw’u dilynwyr yn ‘Rellites’.

Yerbeston Church (now disused)


Cafwyd adlais o frwdfrydedd y pregethwyr Methodistaidd dros ganrif yn ddiweddarach pan alwodd George Thomas, ffermwr o Barn Walls, ei ail fab yn George Whitefield a’i drydydd yn John Wesley.

Capeli Anghydffurfiol Cafwyd ymateb cryf i’r mudiad Methodistiaid Wesleaidd yn yr ardal, ac adeiladwyd capel ym mhentref Jeffreyston rhyw bryd cyn 1820. Cafodd ei ailadeiladu ym 1886 ond caewyd y drysau yn ystod y 1940au. Mae’n cael ei ddefnyddio fel t] erbyn hyn. Adeiladwyd Capel Methodistaidd Cyntefig yng Nghreseli ym 1837. Adeiladwyd capel newydd yr ochr arall i’r ffordd ym 1893, gan symud to’r hen un i’r adeilad newydd. Cafodd ei uno â’r Methodistiaid Wesleaidd ym mis Mehefin 1933 ond caewyd y drysau yng nghanol y 1980au wedi i nifer yr aelodaeth ddisgyn i 6. Cangen o gapel Molleston oedd Capel Bedyddwyr Loveston yn wreiddiol. Rhentwyd bwthyn ym 1867, ei newid yn d] cwrdd a’i alw’n Bethel. Ffurfiodd yr aelodau gapel ar wahân ym mis Awst 1906, ac agorwyd capel newydd ym mis Mai 1907. William Watkins a Frederick Merriman oedd y deaconiaid cyntaf. Sefydlwyd Capel Bedyddwyr Pisgah yng Nghei Cresswell, ond nid o fewn cymuned Jeffreyston, ym 1820 fel cangen o gapel Molleston.

Jeffreyston Mae pentref Jeffreyston yn safle hen, ac yma yr oedd eglwys y plwyf. Fe fu yma lain glas y pentref ar un adeg ac arferid cynnal Ffair Jeffreyston yno hyd at y Coffin Rest 1920au. Cafodd mwyafrif yr adeiladau yn y pentref eu hadeiladu ar ôl yr Ail Ryfel Byd, ond mae ambell un, fel Jeffreyston House gyda’i fwa gosgeiddig o rheiliau gardd o gyfnod y Brenin Siôr, yn hen iawn. T]’r byddigion oedd hwn. Nodwedd ddiddorol yn y pentref yw ‘gorffwysfan yr arch’, sef mainc garreg Village Pump sydd wedi’i hadnewyddu’n ddiweddar. Mae natur y pentref wedi newid: roedd yno 11 fferm a thyddyn ar un adeg, a dim ond 2 sydd ar ôl erbyn hyn. Roedd yno Orsaf Heddlu (caewyd ym 1930), a Siop/Swyddfa Bost (caewyd yn niwedd y 1960au) a 2 d] tafarn (The Rose & Crown a’r Prince of Wales). Ar ôl i’r Prince gau ym 1935 bu’r pentref heb dafarn hyd at y 1970au.

Creseli Mae cysylltiad clòs rhwng pentref Creseli a Cresselly House a’i bedwar ‘lodge’. Yma, gyda nawdd y teulu Allen, y sefydlwyd yr unig ysgol o bwys cyn Deddf Addysg Elfennol 1870. Adeiladwyd yr Ysgol Genedlaethol hon, gyda th], ym 1835, ond dywedir i’r sylfeini gael eu gosod ym 1812. Roedd yna allor fechan yn yr ysgol ac arferai aelodau o deulu Allen gymryd cymun yno yn ystod y 1930au a 40au. Adeiladwyd Neuadd Bentref Creseli ym 1920 gan Mrs. Allen yn dilyn ffurfio Sefydliad y Merched ym 1919; y bwriad oedd ei redeg er lles y W.I.


a’r gymuned am rent bychan o £1 y flwyddyn. Arferid cynnal nifer o ddigwyddiadau lleol ar y rinc sglefrio, (a adeiladwyd gan Henry Seymour Allen ar dir Cresselly House), ar ôl yr Ail Ryfel Byd: Te Dydd y Coroni, Ffeiriau’r Eglwys, Gwasanaethau Cofio ac Eisteddfod Flynyddol Capel Pisgah a oedd yn mynd yn ei flaen weithiau o 3 p.m. hyd 3 a.m.!

Yerbeston Mae gan brif fferm Yerbeston yr un enw â’r plwyf, a hynny ers y Canol Oesoedd. Gwyddwn fod y New Inn yn bodoli erbyn diwedd y 17eg ganrif, a’i fod yn dal i wneud busnes ym 1891. Dim ond fferm oedd yr adeilad erbyn 1910.

Loveston Yr eglwys a ffermydd Great Loveston, Lower Loveston ac Upper Loveston, sy’n sefyll mewn clwstwr i’r dwyrain o Loveston Cross, oedd canol yr hen blwyf canoloesol. Roedd y felin ]d led cae i ffwrdd. Safai datblygiadau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, fel y capel a’r ysgol, ar y brif heol i Hwlffordd. Agorwyd Ysgol Fwrdd Loveston (a ddaeth yn Ysgol y Cyngor yn ddiweddarach) ar y 4ydd o Fedi 1876. Roedd yno 56 o ddisgyblion erbyn diwedd y flwyddyn, gyda 5 plentyn Lawford Merriman a’i wraig, o’r Felin, yn eu plith.

Bishop’s Bridge Dywedir fod Bishop’s Bridge dros yr afon Cresswell wedi cael ei enw oherwydd mai Esgob T]ddewi oedd yn arfer bod yn gyfrifol am ei gadw mewn cyflwr da.

Chwaraeon Creseli a chriced oedd canolbwynt y gweithgareddau yn yr ardal hon. Sefydlwyd tîm criced Creseli ym 1887. Bob blwyddyn mae timau gorau’r sir yn cystadlu am yr ‘Harrison Allen Bowl’ a roddwyd gan Mrs. Harrison Allen ym 1948. Mae’r rownd derfynol yn cael ei chynnal ar gae criced Creseli, ym mis Awst fel arfer. Adeiladwyd Clwb Chwaraeon yno yn ystod y 1960au ac mae’n boblogaidd o hyd.

Llwybrau a Bywyd Gwyllt Mae nifer o lwybrau troed a llwybrau merlota yn yr ardal a gellir eu defnyddio, gyda’r lonydd gwledig tawel, fel ‘cylchdeithiau’ cerdded. Mae Llwybr y Landsker, cylchdaith o 50 milltir sy’n mynd trwy’r ardal, yn gyfle da i weld ardaloedd hyfryd o gefn gwlad. Mae’r fflatiau mwd ar hyd glannau Afon Cresswell yn gartref i Hwyaden yr Eithin fawr frown a gwyn, ynghyd â’r Hwyaden Wyllt, y Corhwyaden a’r Chwiwell yn arbennig yn ystod y gaeaf. Mae yno lawer o Rydyddion yn ystod y gaeaf, fel y Pibydd Coesgoch, Pibydd y Mawn a’r Gylfinir, sydd wedi teithio yno o ardaloedd oerach i fwydo ar y fflatiau mwd. Ymhellach o’r d[r, mae’r tir yn drwm gyda llawer o glai. Mae porfa dda ar y caeau sychach tra bod yr ardaloedd mwy gwlyb yn llawn tir corsiog a perthi helyg. Nuthatch


Mae cen llwyd yn gorchuddio’r perthi helyg, ac mae’r ardaloedd hyn yn gartref gwych i amrywiaeth o adar, blodau, rhedyn a ffwngau. Mae rhai o’r llwybrau’n arwain trwy goetiroedd derw ac onn sy’n gartref i lwynogod, moch daear a gwiwerod, yn ogystal â nifer o adar fel Delor y Cnau a’r Fwyalchen.

Y Côd Cefn Gwlad Parchwch - Diogelwch - Mwynhewch • Byddwch yn ddiogel - cynlluniwch o flaen llaw a dilynwch unrhyw arwyddion • Gadewch glwydi ac eiddo fel rydych chi’n eu cael nhw • Ewch â’ch sbwriel gartref, a gofalwch warchod bywyd gwyllt • Cadwch eich ci dan reolaeth dynn • Byddwch yn ystyriol o bobl eraill

Text researched and written by Jeffreyston & District Local History Group in conjunction with Dyfed Archaeological Trust Design by Waterfront Graphics Illustrations by Geoff Scott SPARC © 2001

Jeffreyston welsh  
Jeffreyston welsh  
Advertisement