Page 1

LLANBEDR FELFFRE


Cefndir C yn y goresgyniad Normanaidd, roedd Cymru wedi’i rhannu’n unedau gweinyddol a elwid yn gymydau. Un o’r rhain oedd Efelffre (a Seisnigeiddiwyd yn Velfrey). O’i fewn roedd plwyfi presennol Llanbedr Felffre, Llanddewi Felffre a Chrynwedd. Nid oes neb yn gwybod i sicrwydd beth yw ystyr yr enw. Byddai’r Cristnogion cynnar yn sefydlu llan neu le caeëdig; ynddo byddai eglwys a mynwent, gydag annedd i’r offeiriad a thir i’w gynnal. Dyma gefndir Llanbedr Felffre, y llan a gysegrwyd i Sant Pedr yng nghwmwd Efelffre.

Hanes Cynnar Ger Penlan mae olion tair siambr gladdu o Oes y Cerrig, a adeiladwyd efallai bron i bum mil o flynyddoedd yn ôl. Canfuwyd olion aelwydydd cyn-hanesyddol ger y nant uwchben Marlais View, ger Coed-y-Ffynnon a thua Princes Gate. Mae’r plwyf cyfan wedi ei fritho ag olion hynafol o Oes y Pres. Gwyddom i Harri II roi Efelffre i Rhys ap Gruffydd, arglwydd pwysicaf de orllewin Cymru, ym 1171. Cofnododd Gerallt Gymro fod ei ewythrod Hywel a Walter, meibion Nest, merch brydferth Rhys ap Tewdwr, wedi derbyn Neolithic chambered tomb Llanbedr ac Efelffre erbyn 1186. Efallai fod un ohonynt wedi cael y cylch-waith a godwyd i’r gogledd o’r eglwys, gyda chaer bren ar ei ben. Daeth Efelffre yn faerdref dan Arglwydd Arberth. Mynychai ei denantiaid yma ei lys Cymraeg ei iaith. Roedd gan yr Arglwydd 60 erw o dir demên (a thomen arall) yn Llangwathen, a gwympodd i’r Goron ym 1330 pan grogwyd yr Arglwydd (bryd hynny), Roger Mortimer, Iarll y Mers, yn Tyburn. Cymerodd y goron yr hawl i benodi offeiriad Llanbedr a chyflwynodd Edward III y swydd i Rees ap Henry ym 1350, yr enw cyntaf sy’n wybyddus i ni. Mae tystiolaeth ddiweddarach yn cyfeirio at diroedd y goron yn y Gilfach, lle ceir cae o hyd o’r enw King’s Park. Cyfarfyddai llys y faenor yn y Gilfach yn yr 1630au. Erbyn y 17eg ganrif, os nad ymhell cyn hynny, roedd y patrwm o ffermydd fwy neu lai wedi ei sefydlu. Y prif dirfeddiannwr yr adeg honno oedd Lewis John o Benlan. Ym 1670 ei d] ef oedd y mwyaf yn y plwyf, gyda naw aelwyd - dim ond un yn llai na Chastell Pictwn. Ef oedd Uchel Siryf Penfro ym 1676. Pan fu farw ym 1696, rhannwyd ei stâd ymhlith ei blant. Cymerwyd Lewis yn gyfenw ganddynt. Y mab hynaf, Syr William, gwneuthurwr sebon ym Mryste, a gododd y gofeb i’w rieni yn eglwys Llanbedr Felffre.


Y Tai Lampeter House (Upper End Town) oedd cartref y teulu Philipps ar un adeg. Priododd merch Edward Philipps (Rheithor 1779-93) i deulu stâd Slebech a hi oedd mam y Farwnes de Rutzen, Arglwyddes Maenor Arberth. Ymfudodd ei fab ef Thomas, banciwr a fethodd, i Dde Affrica ym 1820 ac yno bu ganddo ran yn sefydlu trefedigaeth a alwodd yn Lampeter, New Bristol erbyn hyn. Ymddengys bod Lower End Town, ar ben arall y pentre wedi cymryd lle dau d] sydd bellach wedi diflannu - Plas yr Hen Fagwr ger Coed-y-Ffynnon a Phlas Nant y Dref ar y ffordd i’r Marlais. Mae Nant y Dref yn llifo heibio Hill Home i’r Norton. Mae’n adnabyddus i’r daearegwyr am ei ffosilau. Y Rheithordy oedd y t] mwyaf ond un yn y plwyf ym 1670. Mae’n debyg i’r Rheithor Edward Philipps ei ail-adeiladu’n helaeth yn yr 1770au, ac fe drawsnewidiodd Richard Lewis ef drachefn ym 1852. Manchester House oedd siop y pentref hyd 1989. Roedd James Davies yn deilwr a groser yma ar ddiwedd y 19eg ganrif. Gwnai ei fab yng nghyfraith, Joseph Walter Lewis siwtiau yn ôl y mesur a gwerthai amrywiaeth eang o nwyddau. Gyferbyn â chlwydi’r eglwys mae maes chwarae a agorwyd ym 1976. Fe’i godwyd ar safle Church Cottage cartref i goetsmon neu arddwr y Rheithor. Phil Davidson, a arferai fyw yma gyda’i deulu ac a gollodd ei goes yn y Rhyfel Mawr, ddadorchuddiodd gofeb rhyfel y plwyf ym 1921. Yn union i’r dwyrain o’r bwthyn roedd bwa ac oddi dano gafn carreg a thap, a gyflenwid o’r ffynnon i fyny ar dir yr eglwys.Mae cae i’r tu cefn yn cael ei alw’n gae criced hyd heddiw ; roedd gan y pentref ei dîm criced ei hun ar un adeg. Mae’r pentref wedi cynnal nifer fawr o gymdeithasau eraill. Cangen y pentref o Undeb y Mamau a sefydlwyd cyn 1897 yw’r hynaf yn yr esgobaeth.

Ysgolion a’r Capel Mae hen ysgol yr Eglwys ar stryd y pentref ar safle bwthyn a adawodd Lewis John ym 1696 fel elusendy. Cafodd ei ddefnyddio fel tloty tan i Wrcws Arberth gael ei godi yn Allensbank ym 1838. Byddai mynychwyr yr eglwys yn rhoi eu ceffylau yma a chyfarfu ysgol i fyny’r grisiau. Y Rheithor Richard Lewis fu’n gyfrifol am ei ail-adeiladu yn ei ffurf bresennol (ar wahân i’r gegin) ym 1854. Adeiladodd yr Annibynnwyr eu hysgol eu hunain (y festri ’nawr) a chapel ym Mryn Sion. Dywedir i Lewis, Esgob Llandaf yn ddiweddarach, wrthod mynd heibio’r capel ar ei ffordd i d] ei frawd yn Henllan Llanddewi, gan ddewis y llwybr tarw, heibio’r hyn a elwir yn awr yn ‘Old Manse’. Gelwir y ffordd hon yn Bishop’s Lane hyd heddiw. Ym 1870 daeth Bryn Sion yn Ysgol y Bwrdd. Ailadeiladwyd y capel naw mlynedd yn Bryn Sion ddiweddarach ac ym 1895 symudodd yr Chapel ysgol i adeilad newydd i fyny’r bryn, lle’r arhosodd hyd 1973. Aeth mab i un o brifathrawon yr ysgol, a anwyd ym 1914, ymlaen i fod yn Athro Archeoleg yng Nghaergrawnt ac yn ddarlledwr poblogaidd - Dr Glyn Daniel. Caewyd ysgol yr Eglwys ym 1905.


Tafarnau’r Pentref Agorwyd tafarn o enw’r Bush yng Nghanoldre ym 1851. Ym 1876 fe’i symudwyd i’r siop drws nesaf, gan barhau tan ychydig cyn yr Ail Ryfel Byd: mae’r enw’n aros fel Bushlands. Bu gan y pentref dafarnau cyn hynny: y Three Tuns (casgen fawr oedd ‘tun’) - un o’r bythynnod ar ben y stryd a’r Horse and Jockey nes ymlaen y Lime Kiln Inn yn Baldwin House.

Eglwys y Plwyf Bu’r Rheithor Richard Lewis yn gyfrifol am ail-adeiladu eglwys y plwyf yn helaeth ym 1860-62. Rhoddodd do, ffenestri a dodrefn newydd i’r eglwys. Mae’r rhan fwyaf o’r waliau a’r bwâu tu mewn, yn ogystal â’r fedyddfan, yn ganoloesol. Gwnaed y gloch ym 1639. Adnewydd a harddwyd yr eglwys ym 1998.

Melinau Blawd Tua Hendy-gwyn, dargyfeiriwyd Afon y Cwm i ffos i’r gorllewin o Derry Cottage i lenwi llyn y felin yn White House Mill, lle malwyd yr ]d. I fyny’r afon ym Melinau cafodd ei gronni i yrru melinau - felly’r enw - ar gyfer ffermydd Treffgarne a Rhyddgoed. Gyrrid y brif felin, fodd bynnag, gan ffos o’r Gwyddno ger y man lle mae’n ymuno â’r Marlais. Mae White Mill yn dyddio yn ôl i 1532, o leiaf. Perthynai i ddemên yr Arglwydd yn Llangwathen. Roedd y d[r yn troi rhod ddeg troedfedd ar draws a yrrai ddau bâr o feini melin. Arferai’r Gwyddno lifo ar hyd y ffordd o gerllaw Lawn Cottage i ymuno â’r Marlais mewn rhyd hynod o beryglus, a groesid gyda phontbren fregus. Agorwyd y ffordd newydd a’r bont garreg ym 1956.

Chwareli Ac Odynau Calch Cofnododd George Owen ym 1603 fod cloddio am galch yn hen arfer yn Llanbedr Felffre. Saif dwy odyn anferth o bob tu i Sarel. Arferai un arall fod yma, gyferbyn â’r chwarel fechan uwchben Lampeter House. Ger y fynedfa yn Limekiln ymyl Greenvale, roedd tafol gerbydau ar gyfer y llwythi o galch a charreg a gludid ar hyd rheilffordd. Roedd mwy o odynau ger Llanmill.


Woollen Mill

Melinau Gwlân Arferai Llanmill (Lanmill) fod yn ganolfan bwysig i’r fasnach wlân. Ym 1770 safai pandy o eiddo fferm Penlan i’r de-orllewin o Lanmill House. Roedd yna bandy arall, o eiddo fferm y Dyffryn a gyrrid hwnnw hefyd gan dd[r y Gwyddno. Cafodd melin arall, y ‘Factory’, ei hadeiladu ger Venterin. Prynwyd Llanmill gan William Humphreys tua 1860. Prynodd lês Melin Dyffryn ym 1876 a’i hail-adeiladu’n llwyr, ar dri llawr. Rhod dd[r a’i gyrrai i gychwyn ond erbyn 1898 prynodd beiriant ager. William adeiladodd y Stryd - Brynvale - i gartrefu rhai o’r staff. Ei fab David fu’n gyfrifol am ddod â lliwiau synthetig a thechnolegau cyfoes eraill i’r felin. Enillodd brethyn a wehyddwyd yma wobrau rhyngwladol, ond ni wnaeth y busnes oroesi’r dirwasgiad rhwng y rhyfeloedd a bu’n rhaid cau. Victorian letterbox

Teithiau Cerdded Yn y wlad o amgylch Llanbedr Felffre mae rhwydwaith helaeth o lwybrau sy’n ei chysylltu â’r cymdogaethau cyfagos: Arberth trwy Crynwedd (3 milltir), Llanddewi Felffre (3 milltir) a thrwy ddefnyddio Llwybr Ffin y Landsker, Hendy-gwyn (4 milltir) a Thafarn-spite (2 filltir a hanner)

Teithiau Cylchol Llwybr Cylchol Dyffryn Marlais (5 milltir, 8km) O ganol y pentref (GR SN 155144), ewch ar heol Hendygwyn a throwch i’r chwith heibio Fferm T] Gwyn a White House Mill. Mae’r llwybr yn rhydio’r afon ger Panteg ac yn croesi’r ffin i Landdewi Felffre (GR SN 150165). Trowch ar eich union i’r chwith at Eglwys Dewi Sant a dilynwch y llwybr heibio adfeilion Plas Crwn. Edrychwch i fyny ac fe welwch Landdewi Gaer, hen fryngaer o Oes yr Haearn (gweler taflen Llanddewi Felffre). Dilynwch y llwybr heibio’r eglwys i lawr i’r White Mill, a throwch i’r chwith at bont Ffynnon Claf ac i Groesffordd Bryn Sion. Yna trowch i’r chwith yn ôl i Lanbedr Felffre.


Shipping - Gilfach (21⁄2 filltir, 4km) O ganol y pentref (GR SN 154144), cerddwch i fyny heibio’r tai cyngor ar y llaw chwith ym Marlais View; mae’r llwybr yn cychwyn wrth gamfa wrth ochr y garej ar y dde. Dilynwch y llwybr sy’n mynd i Shipping Farm. Ymunwch â’r heol fach cyn troi i’r chwith a mynd heibio Castell Hywel a Gilfach Cross (GR SN 161151) i gyfeiriad Melinau. Trowch yn siarp i’r chwith i lwybr trwy’r cae i Fferm Pen-back ac i’r gyffordd gyda’r ffordd ger Gilfach. Yma medrwch ddilyn y ffordd i’r pentref (tua 2 filltir i gyd) neu ychydig lathenni i lawr y bryn trowch i’r dde gan ddilyn Lwybr Ffin y Landsker sydd wedi ei nodi, i lawr ffordd werdd gul rhwng y caeau. Wedi tro sydyn i’r chwith, edrychwch i’r dde ac fe welwch ddwy garreg fawr yng nghanol y cae. Mae’n bosibl mae cerrig terfyn canoloesol yw’r rhain. Ewch heibio ffynnon yn y clawdd i Ffordd Hendy-gwyn. Trowch i’r chwith yn ôl i’r pentre. Llwybr Cylchol Ffynnon Claf (21⁄2milltir, 4km) Cychwynwch ger Pont Ffynnon Claf (GR SN 141150). Yn ôl y sôn mae rhinweddau iachusol yn perthyn i’r d[r. Dilynwch heol fach fferm y Dyffryn am ychydig lathenni a throi i’r dde i groesi nant ger clawdd y rheilffordd. Dilynwch y llwybr ar draws y caeau i Grynwedd. Trowch i’r chwith ar y briffordd, ac i’r chwith eto wrth y cyffordd nesaf (GR SN 127140). Ewch heibio’r Amlosgfa (mae’n werth troi mewn i weld y gerddi yn yr haf) ac ewch i lawr y bryn i Lanmill. Trowch i’r chwith heibio’r blwch postio Fictoraidd a dilyn y trywydd heibio hen fythynnod y melinwyr a heibio t] mawr ar eich chwith, tua fferm y Dyffryn a Phont Ffynnon Claf.

Y Côd Cefn Gwlad Parchwch - Diogelwch - Mwynhewch • Byddwch yn ddiogel - cynlluniwch o flaen llaw a dilynwch unrhyw arwyddion • Gadewch glwydi ac eiddo fel rydych chi’n eu cael nhw • Ewch â’ch sbwriel gartref, a gofalwch warchod bywyd gwyllt • Cadwch eich ci dan reolaeth dynn • Byddwch yn ystyriol o bobl eraill

Text researched and written by Lampeter Velfrey residents in conjunction with Cambria Archaeology. Design by Waterfront Graphics Illustrations by Geoff Scott & Neil Ludlow SPARC © 2002

Lampeter velfrey welsh  
Lampeter velfrey welsh  
Advertisement