Gweithio i Wella

Page 1


Gweithio i Wella

Canllaw cam wrth gam ar fynegi

pryder am y GIG yng Nghymru.

Wedi’i greu gyda phobl ifanc, ar gyfer pobl ifanc.

Prosiect Plant Yng Nghymru, a grewyd gyda gwifoddolwyr

Cymru Ifanc

Dylunio a Darluniau

Geirfa

Cydnabyddiaeth

Eiriolaeth

Cwyn

Derbyn neu gydnabod bod rhywbeth wedi digwydd.

Cael rhywun annibynnol ar eich ochr sy’n gwrando arnoch chi, yn egluro eich hawliau, ac yn eich helpu i gael eich clywed yn ystod y broses gwyno.

Dweud wrth rywun eich bod yn anhapus am rywbeth, oherwydd nid yw’n iawn nac yn deg.

Pryder Teimlo’n bryderus neu’n boenus.

Ffurfiol

Bwrdd Iechyd

Gair arall am swyddogol neu mewn modd ffurfiol.

Anffurfiol

Ombwdsmon

Un o gyrff y llywodraeth sy'n gyfrifol am ddarparu a gofalu am wasanaethau gofal iechyd mewn ardal ddaearyddol benodol.

Gair arall am ymlaciol, hamddenol neu answyddogol.

Un o swyddogion y llywodraeth sy'n ymchwilio i gwynion ac sy’n ceisio eu datrys. Person sy'n sefyll dros eraill.

Helo a chroeso!

Cafodd yr adnodd hwn ei greu er mwyn i bobl ifanc ddysgu mwy am y Broses Gweithio i Wella. Gall eich helpu chi, neu rywun sy’n agos atoch chi, i fynegi pryder i GIG Cymru.

Nod y GIG yng Nghymru yw darparu’r gofal a’r driniaeth orau un, ond weithiau efallai na fydd pethau’n mynd cystal â’r disgwyl.

Pan fydd hynny’n digwydd, dylech fynegi eich pryderon gyda’r staff sy’n ymwneud â’ch gofal neu driniaeth, er mwyn iddynt allu edrych ar yr hyn a allai fod wedi mynd o’i le a cheisio ei wella.

Yn GIG Cymru, gwneir hyn drwy broses o’r enw ‘Gweithio i Wella’, neu GIW yn fyr. Cafodd yr adnodd hwn ei greu i egluro’r broses, fel bod y wybodaeth yn gwneud synnwyr i bobl ifanc - cafodd ei chreu gyda phobl ifanc, ar gyfer pobl ifanc.

Gallwch ddarllen yr adnodd hwn ar eich pen eich hun, neu gallwch ei ddarllen ar y cyd ag oedolyn y gellir ymddiried ynddo. Os ydych chi’n teimlo bod unrhyw beth yn ddryslyd, edrychwch ar yr eirfa ar flaen yr adnodd, neu chwiliwch am ragor o wybodaeth drwy ddilyn codau QR.

Felly, amdani!

Archwilio Camau’r Drefn

Gwyno

Gellir rhannu’r Broses Gweithio i Wella yn

6 cham gwahanol.

Bydd y dudalen hon yn eich cyflwyno i’n ffrindiau, a fydd yn eich tywys drwy bob cam ac yn egluro beth sydd angen i chi ei wneud i symud ymlaen.

Maen nhw’n garedig ac eisiau defnyddio eu sgiliau i’ch cefnogi yn y broses hon - gallwch gysylltu â nhw pryd bynnag y bydd angen i chi wneud hynny, drwy ddarllen yr adnodd hwn.

Mae rhai ffrindiau y dylech chi gwrdd â nhw a all eich helpu i ddysgu am y broses Gweithio i Wella...

Cam 1

Cam 2

Mynegi Pryderon yn Anffurfiol

Teigr

Yn ffyrnig ac yn canolbwyntio ar y nod. Mae Tiger yma i’ch helpu i sianelu eich egni. Bydd hi’n eich arwain drwy’r camau cyntaf o fynegi eich pryderon yn anffurfiol - gyda phwy y mae angen i chi siarad a pha wybodaeth y mae angen i chi ei darparu.

Cyflwyno Cwyn

Ffurfiol

Crocodeil

Mae Crocodeil yn cyflawni pethau. Bydd hi yn eich tywys drwy bob manylyn sydd ei angen wrth gyflwyno eich cwyn ffurfiol - gyda phwy i gysylltu, sut i’w cyrraedd, sut i ysgrifennu eich cwynion, a beth i’w ddisgwyl. Mae gan y croc gofalgar hon yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i gyflwyno eich cwyn yn gyflym!

Cam 3

Cydnabod Cwyn

Morgath Manta

Mae Morgath Manta yn amyneddgar. Dyma’n union beth sydd ei angen ar y cam hwn o’r broses, pan fyddwch yn cael cydnabyddiaeth o’ch cwyn. Os nad wyt ti’n hoffi disgwyl, mae ganddo rywfaint o weithgareddau i helpu i ofalu am dy les.

Cam 4

Ymchwilio ac Ymateb

Morfil a Cwrel

Cam 5

Mae Morfil a Cwrel yn dîm cefnogol. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y cam ymchwilio ac ymateb, bydd Morfil yn plymio’n ddwfn i fynd at wraidd y mater i siarad â Cwrel, sy’n gwybod yn union sut mae’r broses gyfan yn gweithio. Gyda’i gilydd, byddant yn eich cefnogi yn y ffordd fwyaf hygyrch.

Cefnogaeth ac Eiriolaeth

Pengwin

Mae Pengwin yn sylwgar ac yn ofalus. Mae’n eich tywys drwy fyd rhewllyd cymorth ac eiriolaeth, gan dynnu sylw at lwybrau, gwasanaethau a sefydliadau defnyddiol a allai eich helpu i wthio eich cwyn at y llinell derfyn.

Cam 6

Uwchgyfeirio at Ombwdsmon Gwasanaethau

Cyhoeddus Cymru

Jiráff a Mwnci

Jiráff a Mwnci yw’r tîm “o, diar!”. Maen nhw’n deall yn iawn nad ydych chi’n hapus â chanlyniad terfynol eich cwyn a’ch bod chi yma i wneud rhywbeth yn ei gylch. Gyda’i gilydd, byddant yn eich helpu i gysylltu â’r Ombwdsmon i ymchwilio ymhellach i’ch cwyn.

Cam 1

Mynegi Pryderon yn Anffurfiol

Cam cyntaf y broses Gweithio

i Wella yw mynegi pryder yn anffurfiol.

Os oes gennych bryder, dylech ddweud wrth rywun cyn gynted â phosibl. Mae’r broses Gweithio i Wella yn ei gwneud yn ofynnol i gwynion gael eu gwneud o fewn deuddeg mis i’r digwyddiad, neu pan ddaethoch yn ymwybodol o’r mater am y tro cyntaf.

Beth yw pryder?

Os ydych chi’n rhannu pryder, rydych chi’n siarad am rywbeth rydych chi’n teimlo’n anhapus yn ei gylch neu ddim yn ei hoffi.

Gallai pryder fod yn rhywbeth sy’n mynd o’i le sy’n gwneud i chi deimlo’n flin neu’n drist.

Gallai pryder ymwneud â’r canlynol:

• Y gofal neu’r driniaeth a gawsoch

• Y man lle cawsoch chi’r driniaeth, fel ysbyty neu ambiwlans

• Y bobl oedd yn gofalu amdanoch chi, fel nyrs neu feddyg

“Dydw i erioed wedi gwneud cwyn anffurfiol o’r blaen, beth mae angen i mi ei wneud?”

“Beth ddylwn i ei ddweud?”

Meddyliwch am y canlynol:

Beth

ddigwyddodd? Ar bwy yr effeithiwyd? Pryd ddigwyddodd hyn?

Ble ddigwyddodd hyn?

Sut gwnaeth hynny i chi deimlo?

Beth hoffech chi ei weld yn digwydd nesaf?

“A... gyda phwy y dylwn i siarad?”

• Siaradwch â’r staff, y meddyg neu’r nyrs a ddarparodd y gwasanaeth

• Cysylltwch â rheolwr y meddyg teulu neu’r ysbyty lle cawsoch eich triniaeth

• PALS (Gwasanaeth Cyngor a Chyswllt Cleifion)

Cyflwyno Cwyn Ffurfiol

If you are not happy with the response to your informal complaint, the second step of the ‘Putting Things Right’ process is making a formal complaint submission.

Os nad ydych chi’n fodlon â’r ymateb i’ch cwyn anffurfiol, ail gam y broses ‘Gweithio i Wella’ yw cyflwyno cwyn

I wneud hyn, mae angen i chi gysylltu â’ch bwrdd iechyd lleol.

Mae saith Bwrdd Iechyd gwahanol ledled Cymru, sy’n gweithio i ddarparu a gofalu am wasanaethau gofal iechyd yng Nghymru. Mae gan bob Bwrdd Iechyd dîm pryderon sy’n delio â chwynion.

Ble mae fy

Mwrdd Iechyd?

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gyfrifol am Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol

Bae Abertawe yn gyfrifol am Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, ac yn darparu rhai gwasanaethau rhanbarthol.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn cynnwys Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gyfrifol am ardaloedd Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam.

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn gwasanaethu Powys i gyd.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn gyfrifol am Flaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn gwasanaethu ardaloedd

Caerdydd a Bro Morgannwg.

Cysylltu â

Bwrdd Iechyd

Gyda phwy ddylwn i siarad?

Mae gan bob Bwrdd Iechyd neu

Ymddiriedolaeth ei dîm pryderon ei hun - gallwch gysylltu â nhw drwy’r wybodaeth a nodir isod.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (CTMUHB)

Wefan: E-bost: Ffôn:

ctmuhb.nhs.wales/

CTHB_Concerns@wales.nhs.uk

01443 744915

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BCUHB)

Wefan:

E-bost:

Ffôn:

bcuhb.nhs.wales/

ConcernsTeam.bcu@wales.nhs.uk

01248 384194

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (ABUHB)

Wefan:

E-bost:

Ffôn: abuhb.nhs.wales/ 01633 431666

PuttingThingsRight.ABHB@wales.nhs.uk

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (CAVUHB)

Wefan: E-bost:

Ffôn: cavuhb.nhs.wales/ 029 2183 6318 concerns@wales.nhs.uk

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (PTHP)

Wefan: E-bost:

Ffôn: pthb.nhs.wales/ 01874 712582

Concerns.qualityandsafety.POW@wales.nhs.uk

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (HDUHB)

Wefan:

E-bost:

Ffôn: hduhb.nhs.wales/ 0300 0200 159

hdhb.patientsupportservices@wales.nhs.uk

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (SBUHB)

Wefan: E-bost:

sbuhb.nhs.wales/

Ffôn: 01639 683316 SBU.Complaint@wales.nhs.uk

E-bost

Pwy all fy helpu i gyflwyno fy nghwyn?

Fel person ifanc, mae llawer o bobl a sefydliadau a all eich cefnogi i gyflwyno cwyn yn y broses Gweithio i Wella. Mae’r adran hon yn egluro pwy allai eich cefnogi chi, a beth allan nhw ei wneud i helpu.

Eiriolaeth a Chefnogaeth Yng Nghymru

Mae elusennau fel Meic a Platfform yn hyrwyddo iechyd meddwl a llesiant meddyliol pobl ifanc. Gallwch ddefnyddio eu gwasanaethau sgwrsio i ofyn am gymorth gyda’ch cwyn, neu i ymchwilio i gymorth wyneb yn wyneb.

Gall NYAS Cymru helpu plant a phobl ifanc i siarad drostynt eu hunain, a sicrhau eu bod yn cael eu cynnwys mewn penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau. Mae’n wasanaeth sy’n canolbwyntio ar hawliau plant.

Mae Gwasanaethau Eiriolaeth TGP Cymru yn wasanaeth penodol ar gyfer plant sy’n derbyn gofal, y rheini sydd ag anghenion ychwanegol, plant sydd wedi’u mabwysiadu a’r rheini sy’n gadael gofal. Maent yn darparu gwasanaeth am ddim i gefnogi plant a phobl ifanc (0-25) i wneud cwyn.

Llais yw’r corff annibynnol cenedlaethol a sefydlwyd i roi llais cryfach i bobl Cymru yn eu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Maen nhw’n cynnig gwasanaeth Eiriolaeth Cwynionsy’n gallu eich helpu i fynegi pryder wrth ddarparwr gwasanaeth a gwneud cwyn i’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus.

Ydych chi wedi ystyried siarad ag...

Oedolyn rydych chi’n ymddiried ynddo?

Gweithiwr ieuenctid?

Athro cyfeillgar?

Ysgrifennu Cwyn

Gall ysgrifennu cwyn fod yn dasg anodd, ond bydd y tudalennau nesaf yn eich helpu i ysgrifennu cwyn.

A

chofiwch:

Dydych chi ddim ar eich pen eich hun

gyda’r dasg hon - gofynnwch i oedolyn rydych chi’n ymddiried ynddo am gymorth, fel rhiant, gweithiwr cymdeithasol neu athro.

Eiriolaeth a Chefnogaeth Yng Nghymru

Wrth ddechrau ysgrifennu eich cwyn, efallai yr hoffech ystyried cynnwys y canlynol:

• Agoriad clir: Ydych chi wedi defnyddio dechrau brawddeg i agor eich cwyn?

• Amlinellwch y mater : Beth sydd wedi digwydd? Pam ydych chi’n cwyno?

• Enwau: Pwy sy’n gysylltiedig â hyn? Gallai hyn fod yn chi a’ch teulu, neu’r staff sy’n ymwneud â’ch gofal. Ar bwy mae hyn wedi effeithio, a sut maen nhw’n teimlo?

• Ble a Phryd?: Ydych chi wedi cynnwys dyddiadau, amseroedd a lleoliad y digwyddiad?

• Beth hoffech chi ei weld yn digwydd nesaf?

Banc Ymadroddion

Os ydych chi’n cael trafferth dod o hyd i eiriau i ysgrifennu eich cwyn, gallwch ddefnyddio’r ymadroddion hyn yn eich llythyr.

Apwyntiad Siomedig Cynnwys Staff

Ymddiheuro Dewis

Gwrando

Neb yn gwrando

Teimlo’n ddiogel

Cyfathrebu gwell

Amser Aros

Pryderus

Gofal

Esboniad

Clust i wrando Triniaeth deg

Penderfynu Ymweliad Poenus

Dryslyd Gwasanaeth

Cysylltyddion

Cymorth

Triniaeth Gwella

Wedi fy mrifo Esbonio Gwelliant

Anghyfforddus

Oherwydd Hefyd O ganlyniad... Mae hyn yn golygu...

Fodd bynnag Er enghraifft...

Dechrau Brawddegau

Y tro nesaf...

Rwy’n ysgrifennu atoch i rannu fy mhryderon am...

Hoffwn gwyno am y ffordd...

Roeddwn i’n teimlo fel ___ pan...

Doeddwn i ddim yn teimlo bod neb yn gwrando arna i oherwydd...

Byddwn wedi hoffi pe bai...

Roedd yn anodd i mi pan...

Roedd hyn yn gwneud i mi deimlo...

Hoffwn i chi...

Enghreifftiau o Ffurflenni Pryder

Mae’n gyffredin i bob Bwrdd Iechyd brosesu ei wasanaeth Cwynion a Chanmoliaeth mewn gwahanol ffyrdd. Efallai y byddant yn gofyn i chi gysylltu drwy e-bost, drwy’r post neu drwy Microsoft Forms.

Bydd y dolenni isod yn mynd â chi i’r tudalennau perthnasol. Os yw’r broses yn eich drysu, gallwch ofyn i oedolyn rydych

chi’n ymddiried ynddo neu gysylltu â’r Bwrdd Iechyd i gael rhagor o arweiniad.

Bwrdd Iechyd Prifysgol

Betsi Cadwaladr

Bwrdd Iechyd Prifysgol

Hywel Dda

Bwrdd Iechyd Prifysgol

Caerdydd a’r Fro

Bwrdd Iechyd

Addysgu Powys

Bwrdd Iechyd Prifysgol

Cwm Taf Morgannwg

Bwrdd Iechyd Prifysgol

Bae Abertawe

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Cam 3 Cydnabod Cwyn

Ar ôl cyflwyno eich cwyn, byddwch yn cael e-bost cyfeillgar yn cydnabod eich cwyn o fewn dau ddiwrnod gwaith gan eich Bwrdd Iechyd.

Nod GIG Cymru yw darparu ymateb terfynol i gwynion ffurfiol o fewn 30 diwrnod gwaith. Efallai y bydd angen mwy o amser i ymateb i achosion mwy cymhleth, hyd at chwe mis, gyda diweddariadau rheolaidd yn cael eu darparu.

Rydym yn cydnabod bod gan y broses bryderon y potensial i achosi straen ac effeithio ar eich llesiant. Tra byddwch chi’n aros, efallai y gallech chi edrych ar yr adnoddau a’r gweithgareddau llesiant hyn i wneud yr aros ychydig yn fwy o hwyl.

Dylunio Llwy Garu

Dysgu sut mae Bîtbocsio

Symudiadau Ysgafn

Ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar

Mae gwefan Hapus.Wales yn amlinellu 100 o wahanol adnoddau llesiant y gallech roi cynnig arnynt wrth i chi aros.

Celf Cegin

Cam 4

Ymchwilio ac Ymateb

Dyma pryd y bydd eich Bwrdd Iechyd yn ymchwilio i’ch cwyn ac yn ymateb i’r rheini yr effeithir arnynt. Byddant yn defnyddio’r amser hwn i siarad â’r bobl sy’n gysylltiedig â’r gŵyn - gallai hyn fod yn feddygon, nyrsys, gofalwyr, staff ysbyty, chi a’ch teulu - i ganfod beth sydd wedi mynd o’i le.

Maent yn gwneud hyn er mwyn iddynt allu dod i gasgliad am eich cwyn, a darparu camau i symud

Beth

fydd eich Bwrdd Iechyd yn ei wneud i ymchwilio?

• Byddant yn siarad â’r staff a oedd yn gysylltiedig â’r digwyddiad.

• Efallai y byddan nhw’n siarad mwy â chi a’r rheini y mae’r digwyddiad wedi effeithio arnyn nhw.

Byddan nhw’n ymchwilio i’r digwyddiad i gael gwybod beth ddigwyddodd.

Byddant yn dod i gasgliad, ac yn rhoi gwybod i chi beth yw eu canfyddiadau.

Gallwch fod yn dawel eich meddwl am y canlynol...

• Byddant yn gwneud yn siŵr y byddwch yn cael eich cymryd o ddifri.

• Eu prif nod yw gwneud i chi deimlo eich bod yn cael eich clywed.

• Bydd eich cwyn yn helpu eich Bwrdd Iechyd i wella’r gwasanaeth a ddarperir.

Sut

fydd

ymateb yn edrych?

• Ymateb ysgrifenedig

• Ymddiheuriad (os yw’n briodol)

• Esboniad o’r camau a gymerwyd

Gall ymateb gynnwys...

• Cyfle am gyfarfod

• Barn arbenigwyr sy’n ymwneud â’r gŵyn neu’r achos

• Cofnodion meddygol

Cam 5

Cefnogaeth ac Eiriolaeth

Beth sy’n digwydd ar ôl i

chi fynegi eich pryder?

Felly, rydych chi wedi cyflwyno eich cwyn ac yn aros am ymateb gan eich Bwrdd Iechyd lleol.

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Dyma lle gall cyfleoedd cefnogaeth ac eiriolaeth fod o fudd i chi yn y broses. Gall cyflwyno cwyn i’r GIG fod yn emosiynol, a gall fod yn adeg pan fydd angen rhywfaint o gymorth ychwanegol arnoch.

Efallai y byddwch am siarad â rhywun am eich teimladau, neu efallai y byddwch am i rywun siarad â’r ymchwilwyr ar eich rhan.

Beth am ei ddadansoddi, beth mae’r cam hwn yn ei olygu?

Pa fath o gefnogaeth

allai fy helpu?

• Rhywun i wrando ar eich profiad.

• Rhywun i helpu gydag ysgrifennu llythyrau, llenwi ffurflenni neu baratoi ar gyfer cyfarfodydd.

• Llinellau cymorth a gwasanaethau sgwrsio arlein

• Grwpiau cymorth gan gymheiriaid i gysylltu â phobl ifanc eraill sydd â phrofiadau tebyg

• Mannau diogel i siarad neu atgyfeirio at wasanaethau cwnsela

• Adnoddau llesiant

• Cefnogaeth ddilynol a sesiynau galw heibio

• Dolenni i sefydliadau defnyddiol a all eich helpu.

Beth yw Eiriolaeth? Ydy hyn yn ddefnyddiol i mi?

Mae eiriolaeth yn golygu cael rhywun annibynnol ar eich ochr sy’n gwrando arnoch, sy’n egluro eich hawliau, ac sy’n eich helpu i gael eich clywed yn ystod y broses gwyno. Gall fod yn ddefnyddiol iawn, oherwydd mae eiriolwr yn gwneud yn siŵr bod eich safbwyntiau’n cael eu cymryd o ddifri, ac yn eich cefnogi drwy system sy’n gallu teimlo’n ddryslyd neu’n llawn straen.

Mae tair prif ran i’w swydd:

2

1

Bydd eiriolwyr yn gwrando arnoch chi.

Mae eiriolwyr yn rhoi gwybodaeth i chi am eich hawliau a’ch opsiynau.

3

Mae eiriolwyr yn eich cefnogi i roi gwybod i bobl eraill beth rydych chi’n ei feddwl, yn ei deimlo ac am ei weld yn digwydd.

Eiriolwyr yng Nghymru

Gyda phwy alla i gysylltu?

Gall cael profiad pryderus gyda’r GIG wneud i ni deimlo’n ofidus.

Isod ceir rhai enghreifftiau o bwy y gallwch gysylltu â nhw a sut y gallant helpu gyda’ch cwyn.

Mae Llais yn cynnig eiriolaeth annibynnol a chyfrinachol am ddim i helpu pobl ifanc yng Nghymru i lywio system gwyno’r GIG. Mae hyn yn cynnwys cymorth fel ysgrifennu llythyrau, paratoi ar gyfer cyfarfodydd, a deall eu hawliau. Dydyn nhw ddim yn gwneud penderfyniadau ar eich rhan, ond maen nhw’n eich grymuso i godi eich llais a chadw rheolaeth ar eich

Mae Meic Cymru yn llinell gymorth gyfrinachol am ddim i bobl ifanc yng Nghymru (hyd at 25 oed). Ar gael yn ddyddiol dros y ffôn, drwy neges destun neu drwy sgwrs ar-lein. Maen nhw’n cynnig cyngor, yn egluro eich hawliau, ac yn gallu eich cefnogi i godi eich llais neu weithredu ar eich rhan os oes angen.

Mae gan NYAS eiriolwyr annibynnol profiadol sydd bob amser ar ochr plant a phobl ifanc. Maen nhw’n gwrando ar yr hyn sydd ei eisiau ar blant a phobl ifanc, yn rhoi gwybod iddyn nhw am eu hawliau, ac yn eu grymuso i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed. Maent yn cynnig llinell gymorth genedlaethol am ddim, yn ogystal â chyfleoedd i fentora cymheiriaid ac eiriolaeth.

Mae TGP Cymru yn darparu eiriolaeth annibynnol am ddim i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Maen nhw’n cefnogi’r rheini sy’n derbyn gofal, sy’n gadael gofal, sydd wedi cael eu mabwysiadu, sydd dan warchodaeth arbennig, neu sydd angen gofal a chymorth fel arall. Maen nhw’n eich helpu i ddeall eich hawliau, dweud eich dweud mewn cyfarfodydd, a sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed wrth ddelio â gweithwyr iechyd proffesiynol.

Mae Ymddiriedolaeth y Gofalwyr yn sefydliad sy’n rhoi cymorth i’r rheini sy’n gorfod gofalu am aelodau anabl o’r teulu neu ffrindiau. Gall yr elusen hon gefnogi unigolion sydd â chwynion yn erbyn y GIG drwy gynnig cymorth ariannol neu emosiynol i’r gofalwr. Gall bod yn ofalwr gael effaith ar eich iechyd meddwl, yn enwedig os yw’r person rydych chi wedi gofalu amdano yn cael problem ddifrifol gyda’r GIG.

Mae CAMHS yn wasanaeth iechyd meddwl sy’n helpu pobl ifanc 3-18 oed sydd ag anawsterau iechyd meddwl. Gall hyn amrywio o orbryder ac iselder i anhwylderau mwy difrifol fel anhwylder deubegynol neu anhwylder personoliaeth ffiniol. Gall CAMHS eich cefnogi gyda gwahanol fathau o therapi, fel therapi celf, ond gall hefyd gynnig therapi teulu. Gall hyn nid yn unig helpu gyda straen y gofalwr ond hefyd y person sy’n derbyn gofal hefyd.

Mae Good Samaritans yn elusen sydd ar agor 24/7 a bydd yn helpu unrhyw un heb farnu. Mae eu cymorth yn ymwneud yn bennaf ag atal hunanladdiad a siarad ag eraill yn ystod cyfnodau anodd. Gall yr elusen hon gefnogi’r rheini sydd â chwyn am y GIG drwy gynnal trafodaethau agored gyda dioddefwr digwyddiad a gyda’r GIG.

Mae Mind Cymru yn elusen sy’n ymdrechu i sicrhau bod pawb ledled Cymru yn ymwybodol o ba gymorth iechyd meddwl sydd ar gael iddynt a phryd mae ei angen arnynt. Mae ganddynt un-deg-chwech o swyddfeydd Mind lleol ledled Cymru, sy’n cynnig gwahanol brosiectau i bobl ifanc gymryd rhan ynddynt. Maent yn cynnig llinell gymorth, adnoddau argyfwng a chyngor ar-lein mewn argyfwng.

Good Samaritans 116123 | jo@samaritans.org

Cyngor ar Bopeth 0808 223 1133

y Gofalwyr 03007729702 | info@carers.org

RAY Ceredigion

01545 570 686 | enquiries@rayceredigion.org.uk

Papyrus UK Suicide Prevention 08000684141 | pat@papyrus-uk.org

Umbrella Cymru 0300 302 3670 | info@umbrellacymru.co.uk

Llinell gymorth 116123

Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS) 08009539599 | awp.camhsgettingadvice@nhs.net Gwasanaeth Cyngor a Chyswllt Cleifion 111

Croeso i Mental Health Matters Wales (MHM Wales) 01656767045 | admin@mhmwales.org.uk Mind Cymru 03001021234 | supporterrelations@mind.org.uk

Uwchgyfeirio at yr Ombwdsmon Gwasanaethau

Cyhoeddus

Os ydych chi wedi gwneud cwyn, a’i bod wedi mynd ymlaen i’r cam olaf ond eich bod yn dal yn anhapus, efallai y gallwch gwyno wrth Ombwdsmon.

Iawn, ond beth yw Ombwdsmon?

Mae Ombwdsmon yn ymchwilio i gwynion am sefydliadau.

Does dim rhaid i chi dalu i fynd â chwyn at Ombwdsmon. Rhaid i Ombwdsmon weithredu’n deg.

Daw’r gair ‘Ombwdsmon’ o Sweden. Yn Swedeg, mae’n golygu cynrychiolydd neu rywun sy’n sefyll dros eraill.

Pwy yw Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru?

Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn ymchwilio i gwynion am wasanaethau cyhoeddus. Maent yn annibynnol, yn ddiduedd, yn deg ac yn agored i bawb sy’n eu defnyddio. Mae eu gwasanaeth yn rhad ac am ddim i’w ddefnyddio.

Sut gallen nhw fy helpu?

Maent yn cynnal ymchwiliad annibynnol i’ch cwyn os nad ydych yn fodlon ar ymateb eich Bwrdd Iechyd. Gallant fynd â phethau ymhellach, mewn ymdrech i helpu i wella gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

I gyrraedd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, gallwch ddefnyddio’r wybodaeth gyswllt isod:

Ffôn: 0300 790 0203 www.ombudsman-wales.org.uk

Cyfeiriad Post: 1 Ffordd yr Hen Gae, Pencoed, CF35 5LJ

Tudalen Adborth

Erthygl 13 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r PlentynHawl y plentyn i ryddid mynegiant.

Sut ydych chi’n teimlo am y broses ‘Gweithio i Wella’?

Beth ydych chi’n ei hoffi am yr adnodd hwn? Beth sy’n gweithio’n dda?

Ydych chi’n teimlo bod unrhyw beth ar goll yn yr adnodd hwn?

ôl ei llenwi, cyflwynwch eich ffurflen i E-BOST

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.