CORONAFEIRWS AROS GARTREF DIOGELU’R GIG
CARTREFI CONWY
Gyda’n Gilydd RHIFYN Y GWANWYN 2020
ACHUB BYWYDAU
Mae’r rhain yn ddyddiau rhyfedd i ni gyd ac yn dorcalonnus i’r miloedd o deuluoedd sydd wedi colli anwyliaid i’r Coronafeirws. Ond ar yr un pryd, mae sawl stori i godi calon yn ein cymunedau ac ar hyd a lled y wlad. Mae pob un ohonom yn rhan o hyn gyda’n gilydd, o weithwyr rheng flaen y GIG, yr Heddlu a’r Gwasanaeth Tân a Gofalwyr, i’r gweithwyr allweddol hanfodol sy’n cadw ein siopau ar agor, yn danfon, yn datrys argyfwng, a phawb sy’n gwneud ein rhan yn cadw pellter cymdeithasol ac yn aros gartref i achub bywydau.
Gwych gweld eich cefnogaeth ar gyfer ein GIG. Gadewch i ni barhau i gefnogi hwy.
Gobeithio hefyd eich bod chi’n gwneud rhywbeth bob dydd sy’n gwneud i chi deimlo’n dda – dawnsio, canu, chwerthin, garddio, ymarfer, pobi a chadw mewn cysylltiad efo teulu a ffrindiau. Yn bennaf oll, gwnewch gynlluniau ar gyfer y dyfodol gan y bydd y cyfnod hwn yn mynd heibio.
Rydyn ni’n rhannu’r hyn rydyn ni’n ei wneud i deimlo’n dda ar ein
TUDALEN CYMRYD RHAN GYDA CARTREFI Ewch i’r dudalen hon er mwyn cael llond lle o gyfleoedd sut i gymryd rhan yn ystod ac ar ôl y cyfyngiadau symud a: cymrwch ran mewn digwyddiadau cyffrous yn eich cymuned dewch i gyfarfod â phobl o’r un meddylfryd dewch i ddweud eich dweud ynglŷn â’r ffordd rydym yn rhedeg Cartrefi Conwy. 1
@getinvolvedatcartrefi Hefyd, dros y 2 fis nesaf bydd gennym gystadlaethau newydd bob pythefnos gyda chyfle i chi a’ch teulu ennill gwobrau. Mae’r gystadleuaeth gyntaf yn gyfle i chi ennill £100 a’r cyfan sydd raid i chi ei wneud yw hoffi a dilyn y dudalen erbyn 15fed Mai. Pob lwc gan y tîm – Owen, Lydia, Megan, Laura, Emma, Matt a Nerys!
Mae fersiynau sain ac print or cylchlythur hwn ar gael. Galwch 0300 124 0040. Ebost ymholiadau@cartreficonwy.org Gall pob galwad i ein Gwasanaeth Cwsmer ei recordio.