Gydan Gilydd Hydref 2021

Page 1

Hydref 2021

Mae eich Llais Chi y Tenant yn Bwysig Nid oes unrhyw arbenigwyr gwell na thenantiaid i’n helpu i wneud y peth iawn i chi, eich cartref, a’ch cymuned.

Mae’r hyn rydych chi’n ei feddwl a’r hyn rydych chi’n ei ddweud yn bwysig dros ben a dyna pam rydym eisiau clywed mwy gennych chi. Darllenwch fwy am hyn ar dudalen 3

Hefyd, y tu mewn Rhybudd Gwasanaeth Newydd! Annibynnol Fi, gwneud bywyd bob dydd ychydig yn haws 2 Hwre mae ein hybiau a’n canolfannau cymunedol ar agor 4 Creu Dyfodol – newid bywydau 13 ymholiadau@cartreficonwy.org / Gwasanaeth Cwsmer: 0300 124 0040 Mae pob galwad gyda Gwasanaethau Cwsmeriaid yn cael eu cofnodi. Mae copïau sain o’r newyddlen hon ar gael.


Rhybudd Gwasanaeth Newydd! Annibynnol Fi, yn gwneud bywyd bob dydd ychydig yn haws Os ydych chi, neu rywun rydych chi’n ei adnabod angen ychydig o help ychwanegol gyda gweithgareddau neu anghenion bob dydd, cwmnïaeth i’w gwneud hi’n haws mynd o gwmpas yna efallai mai ein gwasanaeth newydd Annibynnol Fi yw’r union beth i chi. Dyma rai o’r pethau y gallwn eich helpu chi gyda nhw • mynd gyda chi i apwyntiadau meddyg teulu ac ysbyty, • eich helpu chi wrth siopa, • cadw cwmni i chi, • eich cefnogi gyda hobïau a gweithgareddau hamdden, • gofalu am eich anifeiliaid anwes a mwy… Codir tâl o £12 yr awr am y gwasanaeth gyda thri phecyn hyblyg ar gael Efydd, Arian ac Aur.

Rydym wedi cael sylwadau hyfryd gan ein cwsmeriaid. “Angylion wedi eu hanfon o’r nef…” “Mae Annibynnol Fi mor effeithlon, mi hoffwn pe bai pawb fel nhw…” “Ardderchog - bydd Annibynnol Fi yn gallu fy nghefnogi gydag anghenion fel hyn…” 2

Os ydych chi’n darllen hwn ac yn meddwl “dyma’r peth i mi” neu’n adnabod rhywun sydd angen help llaw, rhowch alwad i ni am sgwrs ar 0300 124 0040. Mae mwy o wybodaeth ar ein gwefan www.independentme.org.uk neu anfonwch e-bost atom: independent.me@cartreficonwy.org

cartreficonwy.org


Mae eich llais chi yn bwysig! Mae’n bwysig iawn ein bod yn gwrando ar beth sydd gan ein tenantiaid i ddweud am ein gwasanaethau a’ch syniadau i’w gwella. Rydym yn arbennig o awyddus i glywed eich barn a’ch syniadau am ganlyniadau’r arolwg boddhad tenantiaid diweddaraf.

Oes gennych chi ddiddordeb? Os oes gennych ddiddordeb, neu fod gennych syniadau, yna cysylltwch â Laura, eich Cydlynydd Llais y Tenant, ar 07391 019943 neu anfonwch neges e-bost at laura.thomas@cartreficonwy.org Byddai’n wych clywed mwy gan denantiaid ifanc a’n cymunedau BAME ac LHDTQ+ hefyd.

Byddech yn gweithio gyda ni i edrych ar y canlyniadau a bod yn rhan o’r penderfyniadau a wnawn i wella ein gwasanaethau. Yn ogystal â hynny, mae llawer mwy o gyfleoedd pwysig er mwyn casglu barn a syniadau tenantiaid, er enghraifft: • effaith gymdeithasol - ynglŷn â sut y gallwn wneud gwahaniaeth yn eich bywyd chi, bywyd eich cymdogion a’r gymuned.

• prosiect gwrando – ynglŷn â chasglu barn a phrofiad tenantiaid o’n Gwasanaeth i Gwsmeriaid

• llais y tenant – mae hyn yn flaenoriaeth i ni, er mwyn cael rhagor o denantiaid yn siarad â ni a chymryd rhan mewn gwasanaethau a gweithgareddau ar eu cyfer.

Acuity Aciwtedd Rydym yn defnyddio cwmni ymchwil marchnad annibynnol o’r enw Acuity sy’n gwneud galwadau i denantiaid ar ein rhan i ofyn pa mor fodlon ydych chi gyda’n gwasanaethau. Mae Acuity yn gwneud galwadau trwy gydol y flwyddyn, dydd Llun - dydd Gwener rhwng 8am ac 8pm. 0300 124 0040

Gallwch wneud cais i’ch adborth i’r arolwg fod yn anhysbys. Weithiau, bydd Aciwtedd yn rhoi baner goch ar adborth rhai tenantiaid, oherwydd eu bod yn teimlo efallai bod pryder iechyd a diogelwch. Ond hyd yn oed wedyn, os ydych chi gofyn bod eich adborth yn ddi-enw, ni fyddwn yn gweld eich adborth. Ond efallai byddwn yn cysylltu â chi i ofyn am unrhyw broblemau gyda’ch cartref a chynnig cymorth i drwsio’r rhain. 3


Hwre mae ein canolfannau cymunedol a’n hybiau ar agor Mae ein canolfannau cymunedol a’n lolfeydd tenantiaid ar agor unwaith eto ond gyda rhai cyfyngiadau yn eu lle er mwyn helpu i’ch cadw’n ddiogel.

A chofiwch fod ein hybiau tenantiaid ar agor hefyd…

Mae ein hybiau tenantiaid bellach ar agor gan gynnwys ein hyb newydd sbon yng ngorsaf drenau Llandudno. Gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sy’n digwydd ar ein gwefannau a’n cyfryngau cymdeithasol. Rydym yn siŵr bod I archebu, cysylltwch â Julia. yna rywbeth at ddant pawb ond gadewch i ni wybod os oes yna Ffôn: 0300 124 0040 weithgaredd rydych chi am i ni roi cynnig arno ac mi wnawn ni E-bost: enquries@cartreficonwy.org weld beth allwn ei wneud.

Mae dyddiau gwell wedi dod, ac rydym wedi bod yn ‘camu allan’ yn ein cymunedau ac rydym wrth ein bodd yn eich gweld chi i gyd eto yn bersonol. Mae eich ysbryd cymunedol yn ffynnu! Rydym wedi cynnal sawl Sesiwn ‘Gwirioni ar Bingo’ a byddwn yn parhau i gyflwyno’r rhain dros yr Hydref. Hyd yn hyn, rydym wedi bod yn gweiddi rhifau yn Argoed ym Mae Cinmel, Heol Scotland, Llanrwst, Y Fron a Phentre Newydd ym Mae Colwyn a Maes Aled yng Ngherrigydrudion. 4

cartreficonwy.org


Rydym wedi bod allan yn tacluso ein hystadau ac wedi casglu sbwriel yn y Fron.

Rydym hefyd wedi cynnal sesiynau digidol gyda Creu Menter drosodd yn Park Way, Llys Kennedy a Llanrwst ac yn ein hybiau eraill.

Diolch mawr i Sheila Jones a Bob Hawkes a gynhaliodd ddiwrnod teulu gwych yng Nglanrafon, Llanrwst, er mwyn diolch i’r holl blant am fod mor dda yn ystod y gwaith ar yr ystâd.

Fe wnaethon ni gynnal cwrs celf Zoom ar gyfer ein tenantiaid gwledig mewn partneriaeth ag Oriel Mostyn a gwahoddwyd ein darpar artistiaid i gael eu tywys yn bersonol o amgylch yr oriel. Fe wnaeth pawb fwynhau’r arddangosfeydd diweddaraf, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda’r oriel yn y dyfodol. Diolch hefyd i’n Contractiwr Brenig Construction a Chyngor Conwy am gefnogi’r digwyddiad hwn.

0300 124 0040

I gael mwy o wybodaeth am ein Coffi a Sgwrs Zoom a’n sesiynau Bingo misol, ffoniwch Nerys ar 0300 124 0040.

5


Mae Catrin a John, dau o’n recriwtiaid KickStart, wedi bod yn helpu gyda’n sesiynau chwarae.

Rydym wedi bod allan yn chwarae trwy’r haf…

Mae cynllun Kickstart y llywodraeth yn helpu pobl ifanc i ddod o hyd i gyfleoedd cyflogaeth. Mae John a Catrin wedi ymuno â ni ers chwe mis ac wrth eu boddau fel swyddogion chwarae gan ennill profiad gwerthfawr a fydd yn eu helpu yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol. Dyma swydd gyntaf Catrin ers gadael yr ysgol a dyma beth yw ei barn am y cynllun. “Roeddwn mor falch o gael y cyfle hwn. Rwyf bob amser wedi bod eisiau gweithio gyda phlant a diolch i’r cyfle Kickstart hwn, byddaf rŵan yn gallu cynnwys y gwaith hwn ar fy CV i’m helpu i gyrraedd fy nod o weithio fel cynorthwyydd dysgu neu fath arall o waith ieuenctid efallai.

Diolch i’r holl blant a ddaeth allan i chwarae – fe gawsoch chi a ni lawer o hwyl! “Mae wedi bod yn gymaint o sbri. Mae yna lawer i’w wneud, o rasys sachau a rasys wy a llwy i grefftau a chwrs rhwystrau. Dw i’n mwynhau’n fawr iawn.” Lexi Williams “Rydym wedi cael amser gwych. Mae’n grêt cael rhywbeth fel hyn i’w wneud gyda’n ffrindiau. Rydym wedi gwneud lliwio, a rhedeg, ac adeiladu efo briciau smalio.” Leland Woodbridge a Kyla Green Newyddion gwych, oherwydd bod y sesiynau chwarae wedi bod mor boblogaidd, rydym wedi penderfynu cynnal sesiynau chwarae ar ôl ysgol yn ystod y tymor ym Mae Cinmel, Tan Lan a Maes y Glyn.

“Mae’n gyfle mor anhygoel i mi. Rwy’n hoff iawn ohono ac mae Cartrefi Conwy yn gwmni gwych i weithio iddo, maen nhw wir yn buddsoddi mewn hyfforddiant staff. Rwy’n dysgu cymaint diolch iddyn nhw.”

6

cartreficonwy.org


Ydych chi’n gwybod bod ein Cist Gymunedol yn cynnig grantiau hyd at £1000 ar gyfer grwpiau cymunedol? Yn ddiweddar dyfarnodd ein cronfa Cist Gymunedol £1000 i Bysedd Gwyrdd Rhodfa Caer i greu perllan afalau a gellyg cymunedol. Dyfarnwyd £600 hefyd i’r grŵp Well Women i ariannu cwrs celf i ferched. Os oes gennych chi brosiect gwych sydd angen rhywfaint o arian, cysylltwch â’r tîm Cyfranogiad Cymunedol: get.involved@cartreficonwy.org

Mi aethon ni i’r sŵ-ŵ-ŵ Diolch i bawb a ymunodd â ni yn nigwyddiad cymunedol y Sŵ Fynydd Gymreig ac a gefnogodd yr atyniad lleol gwych hwn. Llongyfarchiadau eto i Brody a enillodd ein llewpard eira cudd a Rachel Maria a enillodd y gystadleuaeth diwrnod allan i’r teulu.

0300 124 0040

7


Dechreuwch yr Hydref trwy gefnogi RGC Rydym yn falch o fod yn bartneriaid cymunedol swyddogol ar gyfer RGC. Mae hyn nid yn unig yn rhoi 30 tocyn i oedolion am ddim i bob gêm gartref y tymor hwn i denantiaid Cartrefi Conwy ond mae RGC yn ymuno â ni yn ein cymuned ac maen nhw bob amser yn chwilio am dalent rygbi newydd.

I gael cyfle i ennill tocynnau, hoffwch, rhannwch neu tagiwch ein negeseuon cyfryngau cymdeithasol neu gallwch hefyd ffonio 0300 124 0040, anfon neges atom ar Facebook neu e-bostio enquiries@cartreficonwy.org Pob lwc a YMLAEN, RGC!

Ydych chi’n cael trafferth talu eich rhent?

Yn Cartrefi Conwy mae gennym Dîm Budd-daliadau Lles a Chymorth Arian pwrpasol a all eich helpu i reoli eich arian. Maent hefyd yn helpu gyda: • cyngor budd-dal cyffredinol

• cael gafael ar fudd-daliadau

• gwiriadau budd-daliadau a chyfrifiadau i’ch helpu i fod yn well allan

• herio penderfyniadau budd-dal Mae’n golygu eich helpu chi i reoli a chael y gorau o’ch arian, yn awr ac yn y dyfodol. Ffoniwch ni heddiw a siaradwch â’n Tîm Cymorth Arian neu galwch heibio i un o sesiynau cymorth arian Allison yn ein hybiau. 8

cartreficonwy.org


Mae ein Bwrdd Gwasanaethau Tenant eich angen chi! Rydym yn recriwtio ar gyfer lle gwag i aelod tenant ar gyfer rôl cyfetholedig ar ein Bwrdd Gwasanaethau Tenant. Gallai’r cyfle gwych hwn eich helpu i: • adeiladu eich hyder wrth weithio ochr yn ochr ag eraill

• cynyddu eich gwybodaeth am fusnes blaenoriaethau a phrosesau • ehangu eich cyfleoedd cyflogaeth

Tenant byddwch yn gweithio ar y cyd ag aelodau’r bwrdd a chydweithwyr er mwyn ein helpu i:

• cyflenwi gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid

• darparu tai fforddiadwy o ansawdd i’r rhai sydd mewn angen • gwrando ar lais y tenant a dylanwadu ar y broses o wneud penderfyniadau ar lefel strategol. Byddwch yn: • cymryd diddordeb gweithredol yng ngwaith Cartrefi Conwy

• deall beth sy’n bwysig i’n tenantiaid

• paratoi ar gyfer a mynychu tua 4 cyfarfod y flwyddyn

• cael gwahoddiad i fynychu amrywiaeth o ddigwyddiadau eraill Gallwch ddarganfod mwy am y Bwrdd Gwasanaethau Tenant ar ein gwefan: cartreficonwy. org/about-us/meet-our-board/ our-commitees/tenantservices-board/?lang=cy Os hoffech ddarganfod mwy am y cyfle cyffrous hwn, cysylltwch â ni. E-bost: govadmin@ cartreficonwy.org Ffôn: 0300 124 0040 Closing date: 31st Hydref 2021

Beth fydd Deddf Rhentu Cartrefi Cymru yn ei olygu i chi Yn 2016 pasiodd Llywodraeth Cymru Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) gyda’r nod o’i gwneud yn symlach ac yn haws rhentu cartref yng Nghymru. Mae’r Ddeddf yn cyflwyno llawer o newidiadau i gyfreithiau tenantiaeth a bydd yn dod i rym yng Ngwanwyn 2022. Dros y misoedd nesaf byddwn yn eich diweddaru ar yr hyn sy’n digwydd a phryd. Symleiddio 15 deddfwriaeth tai yn un fframwaith cyfreithiol

Bydd pob tenant yng Nghymru yn cael eu symud i gontract newydd ar ddyddiad penodol Dau fath o gontract – diogel a safonol Byddwch yn derbyn copi o’ch contract newydd cyn pen chwe mis o’r Dyddiad Gweithredu. 0300 124 0040

Symleiddio a gwella eich hawliau

New Terms on the Tenancy Agreement Caretrefi Landlord = Conwy Cymunedo Tenant

= Deiliad Contract

Tenancy =

Contract Meddiannaeth 9


Caru Lle Rydych chi’n Byw Roedd y swyddog tai Lynda Johnson wrth ei bodd yn mynd o gwmpas Tan Y Craig yr haf hwn ac anfonodd y lluniau hyn atom o un o’r tenantiaid sydd wedi bod yn gwneud gwaith gwych yn yr ardd ac sydd wedi bod mor garedig â darparu’r planhigion ei hun!

Binio Dim Lluchio Yn anffodus, nid yw rhai o’n storfeydd biniau’n edrych mor brydferth, gyda rhai tenantiaid ddim yn ailgylchu nac yn defnyddio’r biniau a ddarperir.

Mae tenant hefyd yn diolch i’w gymydog am wneud yr un peth yn Heol Scotland

Tan y Craig

Ailgylchu - Gwneud pethau’n iawn

Os ydych chi’n cael trafferth rheoli eich gwastraff a’ch ailgylchu, rhowch wybod i ni oherwydd Mae ein swyddogion Tai yn gweithio’n galed iawn efallai bod ffyrdd y gallwn eich helpu. i weithio gyda’r cymunedau er mwyn helpu i A diolch yn fawr iawn i bawb sy’n cael gwared ar wella hyn, ond ni allwn gael gwared â’ch sbwriel eu sbwriel yn y ffordd gywir. ar eich rhan, ac rydym yn gwario miloedd o bunnoedd yn clirio a glanhau’r storfeydd biniau Os ydych chi’n byw mewn fflat, dyma atgof o’r hyn ac yn delio â thipio anghyfreithlon ar hyn o bryd. sy’n cael ei gasglu a phryd:

10

cartreficonwy.org


Mae gan ein tenantiaid yr hawl i gael eu clywed, eu deall a’u parchu. Mae gan ein cydweithwyr yr un hawl hefyd. Felly, rydyn ni’n gofyn yn gwrtais i chi gadw hyn mewn cof a thrin ein cydweithwyr yn Cartrefi Conwy gyda pharch - maen nhw yma i’ch helpu chi!

Mannau cymunedol – Rhybudd Yn Unol  Deddf Camweddau

Cofiwch os ydych chi’n byw mewn cartref sy’n rhannu mannau cymunedol ac allanfeydd a llwybrau mynediad bod angen cadw’r ardaloedd hyn yn glir bob amser, gan gynnwys y tu allan i’ch drws ffrynt a’ch landin. Mae ein gofalwyr a chydweithwyr eraill yn cynnal Asesiadau Risg Tân ac yn adrodd pan ddônt ar draws peryglon diogelwch. Yna byddwn yn casglu ac yn storio’r peryglon hyn i chi ddod i’w nôl. Mae’n rhaid i ni wneud hyn i’ch cadw chi, eich teulu ac eraill yn ddiogel felly diolch am eich dealltwriaeth!

Ydych chi wedi eich yswirio ar gyfer y Gaeaf? Bydd y Gaeaf yma cyn i ni droi a chyda hynny daw risgiau ychwanegol a allai ddifrodi eiddo yn eich cartref. Gallai tywydd oer a stormydd eithafol arwain at bibellau wedi byrstio, llifogydd, neu ddifrod arall y tu mewn i’ch cartref a’ch eiddo. Gall newid eich eiddo sydd wedi’i ddifrodi fod yn gostus iawn. Mae cael yswiriant cynnwys cartref yn rhoi’r tawelwch meddwl i chi, os bydd eich eiddo’n cael ei ddifrodi, y byddwch yn gallu cael eiddo newydd yn ei le. Os nad oes gennych yswiriant cynnwys cartref, yna peidiwch ag oedi rhag trefnu yswiriant heddiw. Ffoniwch Fy Yswiriant Cynnwys Cartref a gwnewch gais am yswiriant ar 0345 450 7288 neu ewch i www.thistlemyhome.co.uk lle gallwch ofyn i rywun eich ffonio yn ôl.

0300 124 0040

11


Datblygiadau Newydd Mae gennym 3 datblygiad newydd fydd yn cael eu gorffen yn ystod Gwanwyn 2022.

Rhodda Phil Evans, Llanrwst 14 o gartrefi teulu (cymysgedd o dair a phedair ystafell wely) ar gyfer rhentu cymdeithasol.

Tros yr Arfon, Llanrwst 8 o gartrefi teulu (cymysgedd o ddwy a thair ystafell wely) ar gyfer rhentu cymdeithasol.

Mae gerddi a llefydd parcio oddi ar y ffordd yng nghartrefi Rhodfa Phil Evans Thros yr Afon. Maent hefyd yn cael eu hadeiladu â’r lefelau uchaf o inswleiddio ac mae iddynt gostau rhedeg isel, amgylchedd byw cyfforddus a iach a lefelau uchel iawn o amddiffyniad sain a thân. Cadwch lygad ar ein cyfryngau cymdeithasol er mwyn gweld y diweddaraf am y datblygiadau.

Fairview, Llanddulas 24 o fflatiau newydd modern (cymysgedd o un a dwy ystafell wely) ar gyfer rhentu canolradd a chartref teulu 4 ystafell wely wedi ei adnewyddu ar gyfer rhentu cymdeithasol. Mae’r datblygiad ychydig oddi ar gyffordd 23 ar yr A55. Mae’n llai na thair milltir o ganol tref Abergele a phedair milltir o Fae Colwyn.

Diolch yn fawr i Ysgol Bro Gwydir yn Llanrwst a weithiodd yn galed iawn ar eu cynlluniau ar gyfer cartrefi cynaliadwy. Rydym yn edrych ymlaen at roi taith i rai o’r plant o amgylch ein cartrefi cynaliadwy newydd ninnau yn fuan iawn.

12

cartreficonwy.org


Creu Dyfodol Jared’s Story Real People, Real Stories

Galwch heibio un o’n Canolbwyntiau Cymunedol am gymorth i ddod o hyd i swydd, mynd ar-lein, a llawer mwy! Mae ein Hwb Cymunedol newydd sbon wrth ymyl Gorsaf Drenau Llandudno yn ymuno â’n Academi ym Mochdre a Thŷ Cymunedol Rhodfa Caer ym Mae Kinmel fel siop un stop ar gyfer eich holl anghenion tenantiaeth, cyflogaeth a chymorth. Rydym yn eich croesawu i alw heibio neu drefnu apwyntiad ymlaen llaw i gael help i ddod o hyd i swydd, mynd ar-lein a llawer mwy! Mae gwybodaeth cyffredinol ynglŷn â’r sesiynau sy’n cael eu cynnal yn ein Hwb Creu Menter ar gael ar ein gwefan a’n tudalennau cyfryngau cymdeithasol.

Ydych chi wedi ystyried gwirfoddoli?

Ydych chi am ddysgu sgil newydd mewn awyrgylch gyfeillgar? Ydych chi’n awyddus i roi rhywbeth yn ôl i’ch cymuned? Ydych chi wedi ystyried gwirfoddoli? Boed yn ennill profiad gwaith ochr yn ochr â’n staff swyddfa a’n technegwyr crefft neu’n cefnogi tenant hŷn i ddefnyddio gwasanaeth digidol am y tro cyntaf, rydym yn sicr o fod â rôl wirfoddol addas ar eich cyfer! Mae’n holl gyfleoedd gwirfoddoli cyfredol wedi eu rhestru ar ein gwefan. Am fwy o wybodaeth, rhowch ganiad i ni ar 01492 588 980 neu anfonwch e-bost at employmentacademy@creatingenterprise.org.uk 0300 124 0040

13


Siopwch yn lleol ac arbedwch arian gydag ap Creating Loyalty Ydych chi wedi lawrlwytho’r ap Creating Loyalty eto? Mae’n rhad ac am ddim, gyda mwy o dalebau disgownt y gellir eu defnyddio mewn amrywiaeth eang o fusnesau lleol. Mae un o aelodau Creating Loyalty, Heidi, yn adlewyrchu ar effaith y prosiect ar ei theulu: “Roedd yr ap Creating Loyalty yn hawdd iawn i’w ddefnyddio – mae rhai cynigion gwych ar gael yno! Mae’n bwysig i fi gefnogi busnesau lleol, ond mae’r cynigion yn rhoi cymhelliad ychwanegol i fi. Yn ystod y gwyliau haf rydym wedi bod yn mynd i The Sugar Den yn Abergele a defnyddio’r ap i gael 10% i ffwrdd. Mae’r gostyngiad yn ein temtio i fynd yn ôl dro ar ôl tro! Mae’r plant wrth eu boddau yno ac mae’n braf gallu prynu rhai o’r danteithion yno iddynt.” Os ydych y deulu sy’n gweithio ac yn byw yn unrhyw yn Sir Conwy, ewch i www.creatingloyalty.co.uk a lawrlwythwch yr ap heddiw!

Second Chance Furniture’s webpage is live!

14

Mae’n tudalen we newydd ar gyfer ein prosiect Dodrefn Ail Gyfle bellach yn fyw! Mae’r dudalen we yn arddangos dodrefn a nwyddau cartref eraill y gellir eu casglu am ddim gan denantiaid Cartrefi Conwy i’w defnyddio yn eu cartrefi eu hunain. Ewch i www.creatingenterprise.org.uk i weld yr eitemau sydd ar gael i’w casglu ar hyn o bryd. cartreficonwy.org


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.