Complaints form 4page cym

Page 1

Pryderon a Chwynion Gallwch ddefnyddio’r ffurflen hon i wneud cwyn am Cartrefi Conwy. Gallwch gwyno:  os nad ydych yn fodlon â’r gwasanaeth a ddarparwyd gennym;  os credwch ein bod wedi gwneud rhywbeth o'i le neu yn meddwl ein bod wedi methu â gwneud rhywbeth; neu os ydych chi'n meddwl bod aelod o'n staff wedi eich trin yn wael neu'n annheg. Rydym yn awyddus i ddatrys cwynion cyn gynted ag y bo modd, ac rydym yn awyddus i wneud y broses yn hawdd i chi. Byddwn yn gofyn i'r person sydd fel arfer yn gyfrifol am ddarparu'r gwasanaeth i edrych i mewn i'r gwyn ac yn gofyn iddynt ddatrys y broblem. Os nad ydych yn fodlon gyda'r ymateb cyntaf efallai y byddwch yn dymuno gwneud cwyn mwy ffurfiol. Gallwch wneud hynny drwy lenwi'r ffurflen hon. Unwaith y byddwch wedi llenwi'r ffurflen, anfonwch hi i'r swyddfa yr ydych fel arfer yn ymdrin â hi.

Cartrefi Conwy Morfa Gele Parc Busnes Gogledd Cymru Cae Eithin Abergele LL22 8LJ

Swyddfa Ardal Llandudno 15-17 Madoc Street Llandudno LL30 2TL

Swyddfa Ardal Colwyn 41 Conway Road Bae Colwyn LL29 7AA

Byddwn yn ceisio datrys eich cwyn ffurfiol o fewn 20 diwrnod gwaith. Byddwn yn cysylltu â chi o fewn y pum diwrnod gwaith cyntaf, i ddweud wrthych ein bod wedi cael eich cwyn ac i ddweud wrthych pwy fydd yn edrych i mewn iddo. Ni ddylech ddefnyddio'r ffurflen hon os ydych yn cysylltu â ni am unrhyw un o'r canlynol.  Cais am wasanaeth - er enghraifft, gwaith atgyweirio. Ymddygiad gwrthgymdeithasol - mae gennym bolisi ar wahân am y ffordd yr ydym yn ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol Mater sydd â hawl ffurfiol i apelio; megis nifer y pwyntiau a ddyfarnwyd ar gyfer cais am dai  Cwynion am wasanaethau a ddarperir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy; megis casgliadau biniau, goleuadau stryd, baw cŵn ac yn y blaen

Mae’r wybodaeth rydych chi’n ei rhoi ar y ffurflen gwyno yn cael ei chadw’n gyfrinachol. Byddwn ond yn defnyddio’r wybodaeth i asesu’ch cwyn. Mae’n bosibl y byddwn yn rhannu’ch gwybodaeth gyda sefydliad neu bartner perthnasol, neu gyda’r bobl rydych chi’n eu crybwyll yn eich cwyn. Gadewch i ni wybod os oes arnoch chi angen yr wybodaeth hon mewn print bras neu iaith arall.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.