Theatrau Sir Gar Season Brochure - Summer 2019

Page 21

PHOENIX THEATRE

AGATHA CHRISTIE’S TOWARDS ZERO FFWRNES

16-18 MAI/MAY 19:30 TOCYNNAU/TICKETS: £10 GRŴP 8+/GROUP 8+: £8.50

Pan fydd criw o bobl yn cwrdd am barti ffasiynol yn Gull’s Point, cartref y Fonesig Tressilian ar lan y môr yng Nghernyw, caiff yr olygfa ei gosod yn barod ar gyfer cynllwyn dichellgar i lofruddio. Gêm barlwr ddwbl yw Towards Zero gan fod y gynulleidfa yn cael ei gwahodd i ddyfalu pwy sy’n mynd i gael ei ladd, a hynny cyn dyfalu pwy yw’r llofrudd. Yn nhraddodiad gorau Agatha Christie, mae Towards Zero yn noson pryd na fydd y gynulleidfa yn arogli’r drwg yn y caws nes ei bod yn rhy hwyr. Ymunwch â Grŵp Theatr y Phoenix o Lanelli mewn drama dditectif afaelgar lle nad oes unrhyw beth yn syml ac sy’n sicr o fod yn noson o theatr a hwyl o’r radd flaenaf. When a fashionable house party gathers at Gull’s Point, Lady Tressilian’s Cornish seaside home, the scene is set for a carefully-laid plan for murder. Towards Zero is a double parlour game because before guessing the murderer’s identity, the audience is invited to guess who is going to be killed. In the best Agatha Christie tradition, Towards Zero presents an evening in which the audience does not smell a rat until too late. Join Llanelli’s Phoenix Theatre Group for an enthralling who-dun-it where nothing seems straight-forward and which guarantees good theatre and first-rate fun.

RAINBOW VALLEY PRODUCTIONS

BUTTONS UNDONE LYRIC 17-18 MAI/MAY 19:30 TOCYNNAU/TICKETS: £18.50

Mae Buttons Undone! yn llawn chwerthin ac er ei bod wedi’i hanelu at bobl dros 18 oed, nid yw’n cynnwys unrhyw eiriau pedair llythyren anweddus, gan fod yr hiwmor yn bendant yn nhraddodiad Prydeinig ‘Carry On’ o chwarae ar eiriau ac ensyniadau. Bydd y giamocs yn gyflawn wrth i Frenin Comedi diamheuol Cymru, Owen Money, ymddangos fel Buttons gyda chyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol Cymru a seren Llanelli, Rupert Moon, yn chwarae rhan y Barwn ar yr 17eg a’r actor enwog, Julian Lewis Jones, yn actio rhan y Barwn ar y 18fed. O ydy mae e! Buttons Undone! is a big bawdy barrel of laughs and although aimed at Over 18’s, it doesn’t contain any crude four-letter words, as the humour is unashamedly in the Great British ‘Carry On’ tradition of rib-tickling double entendres and innuendo. The shenanigans will be together by Wales’ undisputed King Of Comedy Owen Money as Buttons and former Wales international rugby player and Llanelli superstar Rupert Moon as the Baron on 17th and renowned actor of stage and screen Julian Lewis Jones as the Baron on the 18th. Oh yes it is!

theatrausirgar.co.uk

21


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.