Ehangu Mynediad O’r Gymuned i’r Campws Cyrsiau

Page 1


Ehangu Mynediad

O’r Gymuned i’r Campws

Cyrsiau

Cyrsiau byr am

ddim i oedolion sy’n dysgu

Free, part-time learning in your community

Cyrsiau rhan-amser am ddim yn eich cymuned

Pwy sy’n gymwys?

These bite-sized courses can help you to progress onto higher education programmes – or just offer an opportunity to explore a new subject and meet like-minded people.

Gall y cyrsiau byr hyn eich helpu i symud ymlaen i astudio ar raglenni addysg uwch – neu roi cyfle i chi archwilio pwnc newydd a chwrdd â phobl o’r un anian.

Gallwch gofrestru ar gyfer:

You can sign up for:

Mae ein cyrsiau byr yn agored i unrhyw oedolyn sy’n dysgu (18 oed a hŷn), ond rydym yn rhoi blaenoriaeth i’r rhai sydd:

- yn byw mewn ardaloedd o amddifadedd lluosog

- heb gofrestru ar gyfer cyfleoedd addysg uwch o’r blaen

- Free Cyrsiau blasu in a range of subjects, from art and management to psychology

- Cyrsiau blasu am ddim mewn amrywiaeth o bynciau, o gelf a rheoli i seicoleg

- Free Level 3 Modiwl achrededig (10 university credits each), which are equivalent to A-level study

- Cyrsiau achrededig Lefel 3 am ddim (10 credyd prifysgol yr un), sy’n cyfateb i astudio ar lefel Safon Uwch

- yn hawlio budd-daliadau’r llywodraeth (ac eithrio budd-dal plant)

- ar incwm isel neu’n wynebu tlodi mewn gwaith

Pa bynnag gwrs a ddewiswch, byddwch hefyd yn cael cyngor ac arweiniad gan ein tîm i’ch cefnogi trwy gydol eich astudiaethau.

Whichever course you choose, you’ll also get advice and guidance from our team to support you throughout your study.

- yn ofalwr di-dâl llawn amser neu’n gadael gofal

- wedi cael eu cyfeirio atom gan un o’n sefydliadau partner.

Rydym yn bartner yn y rhaglen Ymestyn yn Ehangach Wedi’i ariannu gan Medr – y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil – mae Ymestyn yn Ehangach yn anelu at gynyddu cyfranogiad addysg uwch o blith grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol drwy godi dyheadau a sgiliau addysgol, a chreu cyfleoedd astudio arloesol a llwybrau dysgu i addysg uwch.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i reachingwider.ac.uk neu e-bostiwch tîm Ymestyn yn Ehangach Met Caerdydd yn reachingwider@cardiffmet.ac.uk

Pwy ydym ni?

Mae tîm Ehangu Mynediad Met Caerdydd yn partneru â sefydliadau, megis elusennau, sefydliadau ac ysgolion, i ddod â dysgu i’r gymuned leol.

Rydym yn gweithio gyda’n gilydd i gynnal cyrsiau caeedig am ddim i helpu i godi dyheadau ac annog pobl sydd efallai’n meddwl nad yw addysg uwch yn rhywbeth iddyn nhw ddechrau meddwl am y cyfleoedd sydd ar gael iddynt.

Rydym hefyd yn cynnig llawer o gyrsiau am ddim i’r cyhoedd trwy gydol y flwyddyn academaidd, yr ydym yn eu hyrwyddo trwy ein cylchlythyr a chyfryngau cymdeithasol.

Dechreuwch ddysgu

Ewch i’n cardiffmet.ac.uk /study/wideningaccess i weld ein cyrsiau sydd ar gael ac i gofrestru.

Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr

Ewch i https://gck.fm/muchu neu sganiwch y cod QR i gael diweddariadau misol am ein cyrsiau:

Cwestiynau?  029 2020 1563

wideningaccess@cardiffmet.ac.uk

@wideningaccess  cardiffmet.ac.uk /wideningaccess

Rhaglen o’r gymuned i’r Campws

O gyrsiau blasu i astudio yn y brifysgol

O gyrsiau blasu i astudio yn y brifysgol

Cofrestrwch ar gyfer cwrs blasu am ddim ac yna fe allwch fynd ymlaen i raddio gyda gradd prifysgol trwy ein rhaglen Cymuned i Gampws. Byddwch nid yn unig yn datblygu sgiliau newydd, ond hefyd yn gwella eich rhagolygon gyrfa, yn magu hyder ac yn cwrdd â dysgwyr eraill sy’n rhannu’r un diddordebau.

Cyrsiau blasu Ehangu Mynediad

Barod i roi cynnig ar rywbeth newydd? Barod i roi cynnig ar rywbeth newydd? Cofrestrwch ar gyfer cwrs blasu am ddim lle gallwch archwilio amrywiaeth o bynciau – fel ysgrifennu creadigol, seicoleg neu wnïo – mewn amgylchedd dysgu cyfeillgar, hamddenol. Cynhelir pob cwrs am ddwy awr yr wythnos am bum wythnos, naill ai yn eich cymuned leol neu yn ein Hysgol Haf ar y campws.

Os ydych am fynd â’ch dysgu ymhellach, yn dibynnu ar ba bwnc y mae gennych ddiddordeb ynddo, gallwch yna gofrestru ar gyfer un o’n cyrsiau achrededig.

Cyrsiau achrededig Ehangu Mynediad (Lefel 3; 10 credyd prifysgol)

Mae’r cyrsiau hyn, a gyflwynir yn eich cymuned, yn helpu i ddatblygu eich hyder, eich sgiliau a’ch gwybodaeth yn eich dewis faes pwnc. Maent am ddim ac fel arfer yn cael eu cyflwyno dwy awr yr wythnos am 10 wythnos.

Fel rhan o’ch cwrs, byddwch hefyd yn cwblhau asesiad, a fydd yn eich helpu i ddod yn fwy cyfarwydd â gofynion addysg uwch.

Bydd angen o leiaf TGAU Saesneg gradd C, neu gyfwerth, arnoch i fynychu. Ddim yn meddu ar y cymhwyster hwn? Gallwn roi gwybod am ddewisiadau eraill sy’n dderbyniol.

Gradd sylfaen ym Met Caerdydd

Ar ôl cwblhau ein cyrsiau achrededig, yn dibynnu ar y pwnc, gallwch wedyn symud ymlaen i radd sylfaen Met Caerdydd. Yn cael eu rhedeg ar y campws, mae’r cyrsiau blwyddyn hyn yn rhoi hwb i’ch gwybodaeth, eich sgiliau astudio a’ch hyder, gan eich paratoi i ddilyn gradd israddedig ym Met Caerdydd. Mae gan raddau sylfaen ofynion mynediad penodol a ffioedd dysgu. Darganfyddwch fwy ar ein gwefan. Darganfyddwch fwy ar ein gwefan

Gradd israddedig ym Met Caerdydd

Dyfnhewch eich gwybodaeth, sgiliau a lefel eich profiad hyd yn oed ymhellach trwy astudio gradd israddedig ym Met Caerdydd. Fel arfer yn para tair blynedd, cynhelir y graddau hyn ar y campws, lle byddwch yn cael eich trochi yn ein cymuned ddysgu glos – yn ogystal â chael cymorth academaidd a llesiant i’ch helpu i ffynnu yn eich dewis faes astudio.

Ac o ran eich gyrfa ar ôl graddio? Rydym yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau i’ch helpu i baratoi ar gyfer y byd gwaith, sydd wedi arwain i ni gael ein rhestru fel y brifysgol orau yng Nghymru o ran cyflogadwyedd (Arolwg Canlyniadau Graddedigion 2024).

Eisiau gwella eich Saesneg?

Beth bynnag fo’ch uchelgeisiau, gallwch gryfhau eich sgiliau darllen, ysgrifennu a gwrando gyda’n cyrsiau byr sydd am ddim, Paratoi ar gyfer IELTS Academaidd a Saesneg Uwch.

Beth mae dysgwyr yn ei ddweud am ein cyrsiau Ehangu Mynediad

Dywedodd 95%

fod y cyrsiau wedi helpu eu gyrfaoedd*

Dywedodd 92%

eu bod wedi dysgu sgiliau newydd*

Dywedodd 94%

eu bod wedi dod yn fwy hyderus*

*Adborth gan ddysgwyr 2023/24

Cyrsiau

Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol

Cyrsiau blasu

Ewch ati i Ysgrifennu’n Greadigol!

Dechreuwch eich taith i fyd cyffrous ysgrifennu creadigol gyda’r cwrs byr rhagarweiniol hwn. Byddwch yn ymchwilio i gelfyddyd adrodd straeon trwy ddadansoddi gweithiau cyhoeddedig, archwilio’r hyn sy’n ein swyno a dadansoddi’r technegau sy’n gwneud i straeon ddod yn fyw.

Trwy ddysgu darllen fel awdur, a chael mewnwelediadau o lenyddiaeth, byddwch yn adeiladu ac yn gwella eich sgiliau ysgrifennu.

Yna byddwch yn plymio’n ddwfn i elfennau sylfaenol ysgrifennu creadigol, fel cymeriad, lleoliad, gwrthdaro a deialog.

Yn olaf, gan ddefnyddio’r wybodaeth a gawsoch, byddwch yn creu eich ffuglen fflach eich hun, gydag arweiniad gan ein tiwtor profiadol ar ddrafftio a golygu, a chyngor ar ble i gael eich cyhoeddi.

Mwy o gyrsiau blasu Saesneg ac ysgrifennu creadigol

- Byr a melys: Ysgrifennu Straeon Byrion

- Eich Bywyd mewn Llyfr

- Ysgrifennu Ffug-wyddonol a Ffantasi

Addysg blynyddoedd cynnar ac astudiaethau plentyndod

Modiwl achrededig

Plant a Phlentyndod yn y Blynyddoedd Cynnar (Modiwl Achrededig lefel 3, 10 Credyd Prifysgol) Cwrs Lefel 3 hwn a fydd yn archwilio rôl chwarae mewn plentyndod cynnar a rôl rhieni/gofalwyr yn addysg a datblygiad plant. Bydd yn edrych ar y prif faterion, damcaniaethau ac agweddau sy’n gysylltiedig â gweithio gyda rhieni/gofalwyr. Mae’n archwilio cysyniad y teulu, amrywiaeth a rôl y cyfryngau a dylanwad cymdeithas ehangach. Bwriad y cwrs yw cynnig llwybr i fyfyrwyr sy’n gwneud yn dda ac yn pasio’r asesiadau i symud ymlaen i’r rhaglen BA (Anrh) Addysg Blynyddoedd Cynnar ac Ymarfer Proffesiynol gyda Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar (SYBC).

Eich llwybr cynnydd

Cwrs blasu Deall Iechyd Meddwl a Llesiant Plant

Understanding Children’s Mental Health and Wellbeing taster course

Cwrs achrededig Plant a Phlentyndod yn y Blynyddoedd Cynnar

Children and Childhood in the Early Years accredited course (Modiwl Lefel 3; 10 Credyd Prifysgol)

Undergraduate degree course in the Cardiff School of Education & Social Policy: BA (Hons) Early Years Education and Professional Practice with Early Years Practitioner Status (EYPS)

Cwrs gradd israddedig yn Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd: BA Addysg Blynyddoedd Cynnar ac Ymarfer Proffesiynol gyda Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar (SYBC)

Iechyd a gofal cymdeithasol

Eich llwybr cynnydd

Cwrs blasu Cyflwyniad i Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cwrs achrededig Cymunedau ac Iechyd

(Modiwl Lefel 3; 10 Credyd Prifysgol)

Blwyddyn sylfaen yn arwain at BA/BSc Gwyddorau Cymdeithasol

Cyrsiau gradd israddedig yn Ysgol

Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd, gan gynnwys HND/BSc (Anrh) Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a mwy

“Rwyf wir ddiolchgar am y cyfle i gymryd rhan mewn cwrs mor werth chweil a phleserus.”

*Adborth gan ddysgwyr 2023/24

Cymdeithaseg,

polisi cymdeithasol a throseddeg

Modiwl achrededig

Cymdeithaseg

(Modiwl Achrededig lefel 3, 10 Credyd Prifysgol)

Cymdeithaseg yw’r astudiaeth o sut mae cymdeithas yn dylanwadu arnom a sut rydym yn dylanwadu ar y byd o’n cwmpas. Bydd y cwrs hwn yn eich arwain trwy ddeall materion pwysig mewn cymdeithas gan ddefnyddio lens cymdeithasegol. Byddwch yn dysgu hanfodion cymdeithaseg ac yn gweld bywyd bob dydd mewn ffyrdd newydd. Byddwn yn archwilio damcaniaethau a syniadau cymdeithasegol allweddol, gan eich helpu i ddeall sut mae pobl yn rhyngweithio, yn ffurfio grwpiau ac yn siapio cymunedau. Byddwch yn datblygu’r gallu i feddwl yn feirniadol am y byd a’ch rôl ynddo. Ar ôl ei chwblhau’n llwyddiannus, efallai y cewch gyfle i symud ymlaen i’r rhaglen Sylfaen sy’n arwain at BA/BSc Gwyddorau Cymdeithasol ym Met Caerdydd.

Eich llwybr cynnydd

Cwrs blasu Cyflwyniad i Gymdeithaseg

Cwrs blasu Trosedd a Chyfiawnder Cymdeithasol

Cwrs achrededig Cyflwyniad i Gymdeithaseg

(Modiwl Lefel 3; 10 Credyd Prifysgol)

Blwyddyn sylfaen yn arwain at BA/BSc Gwyddorau Cymdeithasol

Cyrsiau gradd israddedig yn Ysgol

Addysg a Pholisi Cymdeithasol

Caerdydd, gan gynnwys BSc (Anrh) Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol, BSc (Anrh) Troseddeg, a mwy

Addysgu oedolion

Modiwl achrededig

Addysgu oedolion

(Modiwl Achrededig lefel 3, 10 Credyd Prifysgol)

Nod y cwrs achrededig lefel 3 hwn yw datblygu’r wybodaeth a’r sgiliau ar gyfer y rhai sydd â diddordeb yn y proffesiwn addysgu oedolion. Mae’r cwrs yn archwilio rolau a chyfrifoldebau tiwtoriaid addysg oedolion, dulliau addysgu a dysgu effeithiol, ac arddulliau dysgu amrywiol. Mae’n codi ymwybyddiaeth o’r sgiliau hanfodol sydd eu hangen i fod yn athro effeithiol i oedolion ac i ysgogi myfyrwyr. Bydd myfyrwyr yn creu portffolio ac yn rhoi cyflwyniad i’w asesu ar ddiwedd y cwrs. Mae’r cwrs hefyd yn darparu llwybr dilyniant i’r cwrs addysgu AHO.

Gwellodd gwybodaeth bynciol dysgwyr 26% oherwydd eu bod wedi mynychu’r cyrsiau byr

*Adborth gan ddysgwyr 2023/24

Eich llwybr cynnydd

Mynediad i Addysgu: Cwrs blasu Gwnewch Fi’n Athro

Cwrs achrededig Addysgu Oedolion

(Modiwl Lefel 3; 10 Credyd Prifysgol)

Cwrs achrededig Paratoi i Addysgu ym maes Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (Modiwl Lefel 4; 10 Credyd Prifysgol)

Cyrsiau gradd yn Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd: Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol neu Dystysgrif Broffesiynol mewn Addysg

Gwaith ieuenctid a chymunedol

Cyrsiau blasu

Cyflwyniad i Waith Ieuenctid a Chymunedol

Mae mwy o bobl yn awyddus i wneud gwahaniaeth yn eu cymunedau ond nid oes ganddynt y wybodaeth am y ffordd orau o gymryd rhan.

Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer y rhai sy’n malio am eu cymuned ac sydd eisiau gwybod mwy am sut y gallant wneud gwahaniaeth. Mae hefyd yn berthnasol i weithwyr ieuenctid neu gymunedol heb lawer o brofiad o astudio mewn ystafell ddosbarth.

Drwy gydol y cwrs, byddwn yn archwilio themâu fel dysgu o brofiad, ymdopi mewn amgylchiadau newydd a deall eraill.

Mwy o gyrsiau blasu gwaith ieuenctid a chymuned

- Cyflwyniad i Ddiogelu

- Cadw Pobl Ifanc yn eu Harddegau’n

Ddiogel

Eich llwybr cynnydd

Cwrs blasu Cyflwyniad i Ddiogelu

Cwrs blasu Cadw Pobl yn eu Harddegau’n Ddiogel

Cwrs blasu Cyflwyniad i Waith Ieuenctid a Chymunedol

Cwrs achrededig Cyflwyniad i Waith Ieuenctid a Chymunedol (Modiwl Lefel 3; 10 Credyd Prifysgol)

Tystysgrif Sylfaen mewn Gwaith

Ieuenctid a Chymunedol

Cwrs gradd israddedig yn Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd: BSc (Anrh) Gwaith Ieuenctid a Chymunedol

Modiwl achrededig

Cyflwyniad i Waith Ieuenctid a Chymunedol (Modiwl Achrededig lefel 3, 10 Credyd Prifysgol)

Mae'r cwrs hwn yn eich helpu i adnabod y rolau a'r sgiliau sydd eu hangen a chymhwyso'r egwyddorion sy'n sail i waith ieuenctid a chymuned. Byddwch yn nodi ac yn asesu gwahanol gymunedau ac yn diffinio cysyniadau ieuenctid a phobl ifanc. Bydd dysgwyr sy’n llwyddo yn yr asesiad ar y modiwl hwn yn cael cynnig cyfweliad am le ar y Dystysgrif Sylfaen mewn Gwaith Ieuenctid a Chymunedol ac, yn dibynnu ar brofiad a chymwysterau, efallai y byddant yn gallu symud ymlaen i’r BA (Anrh) Gwaith Ieuenctid a Chymunedol neu lwybrau PGDip.

a Cyrsiau

Seicoleg

Cyrsiau blasu

Cyflwyniad i Seicoleg

Yn y cwrs blasu hwn, byddwch yn archwilio pynciau canolog mewn seicoleg, gan eich cyflwyno i’r ddamcaniaeth sy’n sail i’r pwnc a sut mae’n berthnasol i sefyllfaoedd yn y byd go iawn. Byddwch yn archwilio pynciau fel seicoleg ddatblygiadol, seicoleg gymdeithasol, a seicoleg chwaraeon ac ymarfer corff, ymhlith eraill. Bydd y cwrs hefyd yn eich helpu i ddatblygu sgiliau allweddol mewn meddwl beirniadol a dadansoddi, a chyfathrebu a chyflwyno.

Modiwl achrededig

Cyflwyniad i Seicoleg

(Modiwl Achrededig lefel 3, 10 Credyd Prifysgol)

Bydd y cwrs hwn yn cyflwyno myfyrwyr i rai o'r safbwyntiau allweddol mewn seicoleg, er enghraifft: persbectif biolegol, gwybyddol, ymddygiadol a seicodynamig. Yn ogystal, bydd yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu dealltwriaeth o sut mae'r safbwyntiau hyn yn berthnasol i seicoleg gymdeithasol. Bydd y modiwl achrededig hwn yn archwilio meysydd fel yr hunan, dylanwad cymdeithasol, rhagfarn a gwahaniaethu ac ymddygiad rhaggymdeithasol a gwrth-gymdeithasol. Mae'r modiwl hwn hefyd yn dangos sut mae esboniadau damcaniaethol yn y meysydd uchod yn cael eu cymhwyso i senarios byd go iawn; mae hefyd yn dangos sut mae'r ddisgyblaeth yn cysylltu â modiwlau eraill yn y brifysgol, megis iechyd a gofal cymdeithasol, cymdeithaseg a gwaith ieuenctid a chymunedol.

Eich llwybr cynnydd

Cwrs blasu Cyflwyniad i Seicoleg

Cwrs achrededig Cyflwyniad i Seicoleg

(Modiwl Lefel 3; 10 Credyd Prifysgol)

Blwyddyn sylfaen yn arwain at BA/BSc

Gwyddorau Cymdeithasol

Cyrsiau gradd israddedig yn Ysgol

Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd

Caerdydd, gan gynnwys BSc (Anrh)

Seicoleg, BSc (Anrh) Iechyd yr

Amgylchedd, a mwy

Cyrsiau

Celf a dylunio

Cyrsiau blasu

Cyflwyniad i Ddylunio Print

Mae’r cwrs rhagflas hwn wedi’i gynllunio i roi cipolwg i chi ar faes hudol dylunio print, proses a ddefnyddir yn y diwydiannau graffeg, tecstilau, darlunio a mewnol.

Nod y cwrs yw datblygu eich hyder yn y penderfyniadau creadigol rydych chi’n eu gwneud trwy weithgareddau amrywiol lle byddwch yn cael eich arwain at dechnegau lluniadu, lliwiau a themâu hunanddewis ar gyfer eich dyluniadau. Byddwch yn gadael y cwrs gyda phosteri wedi’u hargraffu gan Riso a bagiau cario wedi’u sgrin-brintio.

Modiwl achrededig

Arfer Celf a Dylunio

(Modiwl Achrededig lefel 3, 10 Credyd Prifysgol)

Mae’r cwrs achrededig newydd sbon hwn yn canolbwyntio ar adeiladu eich arfer celf a dylunio yn fwy ffurfiol. Bydd yn mynd â chi ar daith sy’n ehangu eich sgiliau ymchwilio a datrys problemau ac yn cryfhau eich gallu i archwilio thema yn greadigol, tra’n adeiladu ar eich gwybodaeth bresennol am liw, dylunio a phatrwm. Bydd y cwrs yn eich galluogi i arddangos eich sgil, gwybodaeth a gallu i eraill mewn ffordd frwdfrydig a chydlynol trwy ddatblygu portffolio. Er bod y cwrs hwn yn canolbwyntio ar decstilau, gellir cymhwyso’r theori a’r sgiliau i ddisgyblaethau creadigol ehangach. Byddwch hefyd yn cael y cyfle i ddysgu am a defnyddio cyfleusterau yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd. Cynlluniwyd y cwrs i baratoi dysgwyr ar gyfer astudio ar lefel Prifysgol a chefnogi dilyniant i ystod eang o gyrsiau israddedig a gynigir yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd, yn dibynnu ar brofiad a chymwysterau blaenorol.

Dywedodd ein dysgwyr eu bod wedi mwynhau:

“Y

tawelwch – roeddwn i’n teimlo’n dawel wrth gymryd rhan yn y cwrs hwn.”

Mwy o gyrsiau blasu celf a dylunio

- Dysgu sut i Ddefnyddio Peiriant Gwnïo

- Cyflwyniad i Frodwaith

- Cyflwyniad i Ddylunio Print

- Cyflwyniad i Ddylunio Graffeg

- Dylunio Logo a Brandio

- Taith Gerdded Braslunio Meddwlgarch

- Ailgychwyn Eich Gwaith Celf

- Lluniadu Bywyd Llonydd

- Peintio ag Olewau ac Acrylig

- Ysgrifennu Creadigol a Darlunio

- Ffotograffiaeth Ddigidol

- Newyddiadurol Creadigol

- Trwsio a Gwneud Dillad

Eich llwybr cynnydd

Cwrs blasu celf a dylunio (o leiaf un)

Cwrs achrededig Ymarfer Portffolio Celf a Dylunio (Modiwl Lefel 3; 10 Credyd Prifysgol)

Cyrsiau gradd israddedig yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd, gan gynnwys BA (Anrh) Celfyddyd Gain; BA (Anrh) Cerameg; BA (Anrh) Dylunio Ffasiwn; BA (Anrh) Tecstilau; BA (Anrh) Dylunio Mewnol; BA (Anrh) Ffotograffiaeth, a mwy

Cyrsiau

Technoleg

Cyrsiau blasu

Sgiliau Digidol

Hoffech chi wella eich sgiliau TG? Yn y cwrs hwn, byddwch yn cael eich arwain gan ein tiwtor profiadol i helpu i gryfhau eich sgiliau mewn swyddogaethau hanfodol ar eich dyfais ac archwilio offer hanfodol fel e-bost ac apiau Google (Slides, Docs a Sheets). Darganfyddwch rym TG gyda’r cwrs blasu hwn sydd wedi’i deilwra i unrhyw un sy’n dymuno gwella eu sgiliau digidol.

Mwy o gyrsiau blasu technoleg

- Codio Creadigol

- Cyflwyniad i Roboteg

94%

Dywedodd 94% o’n dysgwyr fod cynnwys y cyrsiau blasu hyn yn rhagorol neu’n dda*

*Adborth gan ddysgwyr 2023/24

Cyrsiau

Busnes a chyllid

Cyrsiau blasu

Dechrau Eich Menter Eich Hun

Bydd y cwrs yn helpu darpar entrepreneuriaid a darpar entrepreneuriaid i feithrin eu gwybodaeth, eu hyder a’u sgiliau fel y gallant ddechrau eu menter gymdeithasol eu hunain neu fusnesau micro, bach neu ganolig. Bydd hefyd yn helpu perchnogion neu reolwyr i redeg eu mentrau presennol yn fwy effeithiol.

Gallwch ddangos eich addasrwydd eich hun fel entrepreneur a thrafod y disgwyliadau, y cymhellion a’r risgiau sy’n gysylltiedig â sefydlu eich menter eich hun.

Erbyn y diwedd, byddwch hefyd yn gallu egluro’r broses o sefydlu menter/busnes, gan amlinellu’r adnoddau ariannol a dynol sydd eu hangen. Byddwn hefyd yn eich helpu i nodi pa fath o gwmni sy’n gweddu i’ch syniad busnes, sut i gydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau cwmnïau, sut i gael gafael ar gyllid, a dysgu meysydd allweddol ar gyfer marchnata, gwerthu a chyfryngau cymdeithasol.

Mwy o gyrsiau blasu busnes a chyllid

- Cyllid Islamaidd

- Datblygu Busnes Lletygarwch ar yr Ochr

Bwyd a lletygarwch

Cyrsiau blasu

- Coginio ar Gyllideb

- Cyflwyniad i Ddiogelwch Bwyd

- Cyflwyniad i Faeth

- Datblygu Busnes Lletygarwch ar yr Ochr 95%

Dywedodd 95% o’n dysgwyr fod y tiwtoriaid a oedd yn cyflwyno’r cyrsiau blasu hyn yn rhagorol*

*Adborth gan ddysgwyr 2023/24

Cyrsiau gwella eich Saesneg

Paratoi ar gyfer

IELTS Academaidd

Hyd: 36 wythnos

Wedi’i gyflwyno gan ein tiwtor arobryn, mae’r cwrs ar-lein rhad ac am ddim hwn ar gyfer y dysgwyr hynny a hoffai fynychu Met Caerdydd ac sydd â Saesneg fel ail iaith. Bydd y cwrs yn eich paratoi ar gyfer y pedair cydran asesu: gwrando, darllen, ysgrifennu a siarad.

Byddwch yn cael adborth personol, yn sefyll profion ymarfer ffug ac yn cwblhau ymarferion wedi’u targedu a fydd yn rhoi hwb i’ch hyder a’ch hyfedredd yn yr iaith Saesneg. P’un a ydych yn anelu at fodloni gofynion mynediad prifysgol neu wella eich sgiliau iaith, ein cwrs yw eich porth i lwyddiant.

Mae llawer o ddysgwyr sy’n cwblhau’r cwrs hwn yn symud ymlaen i raddau israddedig ym Met Caerdydd.

Saesneg Uwch

Hyd: Wyth wythnos

Mae’r cwrs blasu ar-lein rhad ac am ddim hwn ar gyfer dysgwyr y mae Saesneg yn ail iaith iddynt. Mae’n berffaith os ydych chi’n chwilfrydig am eich opsiynau ar gyfer y dyfodol ac yn awyddus i blymio i astudiaeth uwch o Saesneg, yn enwedig os ydych chi’n ystyried dilyn cyrsiau addysg uwch. Mae’n cynnig cyfle i fagu hyder ac archwilio pa lwybr dysgu sy’n iawn i chi - heb bwysau unrhyw arholiadau ffurfiol.

“Fe wnes i elwa o adolygu Saesneg

sylfaenol, dysgu geirfa wahanol ar gyfer bywyd bob dydd ac ymarfer ysgrifennu brawddegau gan ddefnyddio berfau a geirfa ymadroddol.”*

*Adborth gan ddysgwyr 2023/24

Cyrsiau meithrin eich sgiliau a hyder

Cynllunio Eich Dyfodol

Chwilio am gyfeiriad newydd? Angen rhywfaint o gymhelliant? Dechreuwch o’r newydd gyda’r cwrs blasu hwn sy’n anelu at roi hwb i’ch hunan-barch, datblygu eich hyder a’ch helpu i gynllunio’ch dyfodol trwy gyfres o ymarferion gosod nodau hwyliog. Byddwn yn edrych ar eich set sgiliau bresennol ac yn archwilio eich opsiynau ar gyfer y dyfodol gyda digon o gefnogaeth ymarferol ac ymarferion magu hyder wedi’u cynllunio i’ch cymell i gyflawni eich nodau personol a phroffesiynol.

Drwy archwilio eich disgwyliadau, eich profiadau, eich cyflawniadau a’ch dyheadau, byddwn yn rhoi’r offer i chi wneud y dewisiadau sy’n iawn ar gyfer eich cyfeiriad yn y dyfodol. Byddwch hefyd yn cael cyngor gyrfa a hyfforddiant unigol wedi’i deilwra i’ch cyfeirio at adnoddau perthnasol. Gallwn hefyd eich helpu i gynllunio neu ysgrifennu CV, cynnig awgrymiadau a thechnegau cyfweliad, gwella eich sgiliau cyfathrebu a llywio gwefannau swyddi.

Mwy o gyrsiau i feithrin eich sgiliau a’ch hyder

- Sut i Gyflawni Eich Nodau Gyrfa

- Datblygu Meddwl Athronyddol

- Sgiliau Academaidd

- Sgiliau Ymchwil

- Datblygu Meddwl Beirniadol

Ysgol Haf

Bob mis Mehefin, rydym yn cynnal ein Hysgol Haf, sy’n rhoi cyfle i ddysgwyr sy’n oedolion fynychu amrywiaeth o gyrsiau blasu am ddim ar ein campws yn Llandaf.

Mae ein digwyddiad mwyaf y flwyddyn, yr Ysgol Haf, yn eich galluogi i brofi ein campysau a’n cyfleusterau, cymryd rhan mewn cyrsiau blasu cyfoethog, llawn hwyl a chael blas ar fywyd fel myfyriwr prifysgol.

Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr

Ewch i https://gck.fm/muchu neu sganiwch y cod

QR i gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, lle byddwch ymhlith y cyntaf i glywed am ein sesiwn Ysgol Haf nesaf:

Beth mae ein dysgwyr yn ei ddweud:

“Mwynheais yr awyrgylch hamddenol a chroesawgar, y tiwtor rhagorol a chymwynasgar a fu’n rhedeg y cwrs, a chwrdd ag eraill gyda syniadau ac awgrymiadau.”*

*Adborth gan ddysgwyr 2023/24

“Rwyf wedi mwynhau pob munud

o’r cwrs hwn.”

*Adborth gan ddysgwyr 2023/24

99%

Dywedodd 99% o ddysgwyr a fynychodd yr Ysgol Haf fod y cyrsiau wedi ‘gwneud gwahaniaeth’*

*Adborth gan ddysgwyr 2023/24

99%

Dywedodd 99% o’r dysgwyr a fynychodd ein Hysgol Haf fod y profiad yn rhagorol neu’n dda*

*Adborth gan ddysgwyr 2023/24

Llwyddiannau ein dysgwr

Mae llawer o’n dysgwyr yn defnyddio’r rhaglen o’r Gymuned i’r Campws fel cam tuag at ennill gradd a rhoi hwb i yrfa newydd.

Mae Harriet yn un ohonyn nhw. Dechreuodd wirfoddoli i Gymdeithas Tai Cadwyn, oherwydd ei bod eisiau rhoi yn ôl i gymdeithas. Cafodd ei hannog i gofrestru ar gwrs a allai arwain at gyfleoedd addysg a chyflogaeth barhaus yn y sector tai.

Ar ôl cwblhau’r cwrs achrededig Cymunedau ac Iechyd, cwblhaodd Harriet y radd Sylfaen sy’n arwain at radd BA/BSc Gwyddorau

Cymdeithasol a graddiodd dair blynedd yn ddiweddarach gyda gradd mewn tai o Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd.

Cwblhaodd Harriet ei thaith addysg pedair blynedd, o gwrs Ehangu Mynediad i raddio, ochr yn ochr â bod yn fam, rhedeg busnes glanhau a gwirfoddoli gyda Cadwyn

Mae Harriet bellach wedi sicrhau ei swydd ddelfrydol yn gweithio gyda phobl fregus fel rheolwr mewn cymdeithas dai.

“Mae mynd yn ôl i addysg wedi bod mor werth chweil ac wedi dangos i mi nad oes rhaid i ddysgu ddod i ben yn yr ysgol. Mae cwblhau cwrs Ehangu Mynediad yn ffordd wych o benderfynu os yw addysg yn addas i chi. Mae’n rhad ac am ddim, felly ni fyddwch yn colli dim byd ond efallai y byddwch yn elwa’n fawr ohono, fel y gwnes i. Y cwrs Ehangu Mynediad oedd y garreg gamu tuag at gyflawni fy ngradd a swydd amser llawn yn y diwydiant rwyf yn ei garu.”

“Roedd camu i’r ddarlithfa am y tro cyntaf yn frawychus. Nid oes unrhyw un yn fy nheulu wedi bod i’r brifysgol, felly nid oeddwn yn gwybod beth i’w ddisgwyl. Ond yn gyflym fe wnes i gwrdd â llawer o bobl o’r un anian ar y cwrs a oedd ar daith debyg i fy un i ac wedi dychwelyd i addysg. Roedd gweld oedolion eraill sy’n dysgu a oedd hefyd yn cydbwyso bywyd teuluol a gwaith yn gymaint o ysbrydoliaeth ac wedi fy ysgogi.”

“Cefais gefnogaeth wych ym Met Caerdydd gan y darlithwyr a oedd mor garedig ac yn deall fy sefyllfa. Roedd hynny’n gwneud dychwelyd i addysg yn brofiad cadarnhaol. Does dim byd yn fy rhwystro i nawr.”

Harriet, cyn ddysgwr Ehangu Mynediad

“Mae’r cyrsiau hyn yn rhoi cyfleoedd i bobl gyflawni eu hamcanion.”

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r tîm Ehangu Mynediad yn:

 029 2020 1563

 wideningaccess@cardiffmet.ac.uk

 @wideningaccess

 cardiffmet.ac.uk/wideningaccess

Mae’r cyhoeddiad hwn wedi’i argraffu gan ddefnyddio stoc gynaliadwy ac wedi’i gydbwyso o ran carbon. Ailgylchwch y cyhoeddiad hwn.

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.
Ehangu Mynediad O’r Gymuned i’r Campws Cyrsiau by Cardiff Metropolitan University - Issuu