Ehangu Mynediad Gymuned i’r Campws

Page 1


Ehangu Mynediad Gymuned i’r Campws

O gyrsiau blasu i astudio yn y brifysgol

Eisiau gwella eich

Cofrestrwch ar gyfer cwrs blasu am ddim ac yna fe allwch fynd ymlaen i raddio gyda gradd prifysgol trwy ein rhaglen Cymuned i Gampws. Byddwch nid yn unig yn datblygu sgiliau newydd, ond hefyd yn gwella eich rhagolygon gyrfa, yn magu hyder ac yn cwrdd â dysgwyr eraill sy’n rhannu’r un diddordebau.

Cyrsiau blasu Ehangu Mynediad

Barod i roi cynnig ar rywbeth newydd? Barod i roi cynnig ar rywbeth newydd? Cofrestrwch ar gyfer cwrs blasu am ddim lle gallwch archwilio amrywiaeth o bynciau – fel ysgrifennu creadigol, seicoleg neu wnïo –mewn amgylchedd dysgu cyfeillgar, hamddenol. Cynhelir pob cwrs am ddwy awr yr wythnos am bum wythnos, naill ai yn eich cymuned leol neu yn ein Hysgol Haf ar y campws. Os ydych am fynd â’ch dysgu ymhellach, yn dibynnu ar ba bwnc y mae gennych ddiddordeb ynddo, gallwch yna gofrestru ar gyfer un o’n cyrsiau achrededig.

Cyrsiau achrededig Ehangu Mynediad (Lefel 3; 10 credyd prifysgol)

Mae’r cyrsiau hyn, a gyflwynir yn eich cymuned, yn helpu i ddatblygu eich hyder, eich sgiliau a’ch gwybodaeth yn eich dewis faes pwnc. Maent am ddim ac fel arfer yn cael eu cyflwyno dwy awr yr wythnos am 10 wythnos. Fel rhan o’ch cwrs, byddwch hefyd yn cwblhau asesiad, a fydd yn eich helpu i ddod yn fwy cyfarwydd â gofynion addysg uwch.

Bydd angen o leiaf TGAU Saesneg gradd C, neu gyfwerth, arnoch i fynychu. Ddim yn meddu ar y cymhwyster hwn? Gallwn roi gwybod am ddewisiadau eraill sy’n dderbyniol.

Gradd sylfaen ym Met Caerdydd

Ar ôl cwblhau ein cyrsiau achrededig, yn dibynnu ar y pwnc, gallwch wedyn symud ymlaen i radd sylfaen Met Caerdydd. Yn cael eu rhedeg ar y campws, mae’r cyrsiau blwyddyn hyn yn rhoi hwb i’ch gwybodaeth, eich sgiliau astudio a’ch hyder, gan eich paratoi i ddilyn gradd israddedig ym Met Caerdydd.

Mae gan raddau sylfaen ofynion mynediad penodol a ffioedd dysgu. Darganfyddwch fwy ar ein gwefan. Darganfyddwch fwy ar ein gwefan

Gradd israddedig ym Met Caerdydd

Dyfnhewch eich gwybodaeth, sgiliau a lefel eich profiad hyd yn oed ymhellach trwy astudio gradd israddedig ym Met Caerdydd. Fel arfer yn para tair blynedd, cynhelir y graddau hyn ar y campws, lle byddwch yn cael eich trochi yn ein cymuned ddysgu glos – yn ogystal â chael cymorth academaidd a llesiant i’ch helpu i ffynnu yn eich dewis faes astudio.

Ac o ran eich gyrfa ar ôl graddio? Rydym yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau i’ch helpu i baratoi ar gyfer y byd gwaith, sydd wedi arwain i ni gael ein rhestru fel y brifysgol orau yng Nghymru o ran cyflogadwyedd (Arolwg Canlyniadau Graddedigion 2024).

Saesneg?

Beth bynnag

fo’ch uchelgeisiau, gallwch gryfhau eich sgiliau darllen, ysgrifennu a gwrando gyda’n cyrsiau byr sydd am ddim, Paratoi ar gyfer IELTS Academaidd a Saesneg Uwch.

Beth mae dysgwyr yn ei ddweud am ein cyrsiau Ehangu Mynediad

Dywedodd 95%

fod y cyrsiau wedi helpu eu gyrfaoedd*

Dywedodd 92%

eu bod wedi dysgu sgiliau newydd*

Dywedodd 94%

eu bod wedi dod yn fwy hyderus*

*Adborth gan ddysgwyr 2023/24

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.
Ehangu Mynediad Gymuned i’r Campws by Cardiff Metropolitan University - Issuu