50
EIN CYNLLUN I AILADEILADU: Strategaeth adferiad COVID-19 Llywodraeth y DU
Atodiad A: Aros yn ddiogel y tu allan i'ch cartref
Mae'r canllawiau hyn yn amlinellu'r egwyddorion mae'n rhaid i chi eu dilyn er mwyn sicrhau bod yr amser y byddwch yn ei dreulio gydag eraill y tu allan i'ch cartrefi mor ddiogel â phosib (oni bai eich bod chi'n agored i niwed yn glinigol neu'n agored iawn i niwed, ac yn yr achosion hynny, dylech chi ddilyn y cyngor ar wahân ar GOV.UK). Eich cyfrifoldeb chi fydd mabwysiadu'r egwyddorion hyn pryd bynnag y bo modd. Yn ogystal, mae'r Llywodraeth yn defnyddio'r egwyddorion hyn fel sail trafodaethau â busnesau, unedau, llywodraeth leol a llawer o randdeiliaid eraill i gytuno ar sut y dylid eu rhoi ar waith mewn lleoliadau gwahanol er mwyn eu gwneud yn fwy diogel. Mae angen i bob un ohonom, fel cwsmeriaid, ymwelwyr, staff neu gyflogwyr, wneud newidiadau er mwyn lleihau'r risg o drosglwyddo'r haint. Mae'r Llywodraeth wedi ymgynghori â'u hymgynghorwyr gwyddonol i bennu'r egwyddorion a fydd yn llywio'r newidiadau hyn. Cadwch bellter rhyngoch chi â phobl nad ydynt yn rhan o'ch aelwyd chi, gan gydnabod na fydd hyn yn bosib bob tro. Mae'r risg o heintio'n cynyddu yr agosach byddwch chi i unigolyn arall â'r haint a chyfanswm yr amser rydych chi'n ei dreulio mewn cysylltiad agos: mae'n annhebygol iawn y cewch eich heintio os ydych chi'n cerdded heibio i rywun arall yn y stryd. Mae Iechyd Cyhoeddus Lloegr yn argymell y dylech chi geisio aros 2m i ffwrdd o bobl fel rhagofal. Fodd bynnag, nid yw hyn yn rheol ac mae'r wyddoniaeth yn gymhleth. Y peth pwysicaf yw peidio â bod yn rhyw agos i bobl am fwy na chyfnod byr o amser, cymaint ag y gallwch. Cadwch eich dwylo a'ch wyneb mor lân â phosib. Golchwch eich dwylo'n rheolaidd gan ddefnyddio sebon a dŵr, gan eu sychu'n drylwyr. Defnyddiwch hylif diheintio pan fo modd y tu allan i'ch cartref, yn enwedig wrth i chi fynd i mewn i adeilad ac ar ôl i chi gyffwrdd ag wynebau. Rhaid osgoi cyffwrdd â'ch wyneb. Gweithiwch gartref os gallwch chi. Gall llawer o bobl wneud y rhan fwyaf o'u gwaith neu eu gwaith yn gyfan gwbl gartref, gyda'r offer a'r addasiadau cywir. Dylai eich cyflogwr eich cyflogi i ddod o hyd i addasiadau rhesymol er mwyn i chi wneud hyn. Fodd bynnag, nid yw'n bosib gwneud yr holl swyddi gartref. Os yw eich gweithle ar agor ac nid oes modd i chi weithio gartref, gallwch deithio i'r gwaith. Ceisiwch osgoi bod wyneb yn wyneb â phobl os ydynt y tu allan i'ch aelwyd chi. Rydych chi mewn perygl mwy o fod yn uniongyrchol agored i ddefnynnau anadlu rywun arall wrth iddo siarad neu besychu pan fyddwch chi o fewn 2m o rywun ac mewn cysylltiad wyneb yn wyneb â nhw. Gallwch leihau'r risg o heintio drwy aros ochr yn ochr yn hytrach na wynebu pobl. Ceisiwch leihau nifer y bobl rydych chi'n treulio amser gyda nhw mewn lleoliad gwaith lle bo modd. Gallwch leihau'r risg o heintio yn y gweithle drwy leihau nifer y bobl rydych chi'n dod mewn i gysylltiad â nhw yn rheolaidd, a gall eich cyflogwr gefnogi hyn lle bo'n ymarferol drwy