1 minute read

6. Sut gallwch chi helpu

Hyd yma, mae pobl y Deyrnas Unedig wedi addasu gyda chreadigrwydd a thrugaredd i'r gofynion mae COVID-19 wedi rhoi ar bob un ohonom. Bellach, mae'n rhaid i'r DU baratoi ar gyfer cyfnod estynedig o fyw gyda bygythiad y feirws a'i reoli; bydd hyn yn parhau i ofyn am gefnogaeth a chydymffurfiaeth gan bawb.

Ymdrech ar y cyd

Advertisement

Mae'r bygythiad yn fygythiad a rennir; mae'r cyfrifoldeb i gadw pawb yn ddiogel yn un y mae pawb yn ei rannu.

Os bydd modd i'r Llywodraeth ddechrau addasu'r cyfyngiadau cymdeithasol, bydd yn ofynnol i bawb weithredu'n ystyriol ac yn gyfrifol i gadw'r gyfradd drosglwyddo (R) i lawr, a phrin yw'r gwallau y gellir eu gwneud.

Pan gaiff cyfyngiadau eu codi, os bydd pawb yn dewis gweithredu'n bwyllog ac yn unol â'r canllawiau a adolygwyd, bydd R yn parhau i fod yn isel, a bydd y gyfradd drosglwyddo'n lleihau ymhellach, a gall y Llywodraeth godi rhagor o gyfyngiadau.

Fodd bynnag, rhaid i'r ymdrech hon fod yn un a rennir gan bawb; byddai nifer fach yn unig o gychwyniadau newydd yn achosi i R godi'n uwch nag un, gan arwain at ailosod rhai o'r cyfyngiadau.

Wrth benderfynu pryd i addasu pob cyfyngiad, bydd y Llywodraeth yn cael ei llywio gan y dystiolaeth orau bosib a bydd, fel yn y ddogfen hon, yn dryloyw ynghylch sail y penderfyniad.

Help llaw

Mae ymateb unigolion, cymunedau, elusennau a busnesau ledled y Deyrnas Unedig –wrth gamu i mewn ac estyn help llaw i gefnogi'r ymdrech genedlaethol –wedi bod yn aruthrol. Mae cyfleoedd o hyd i gefnogi'r ymdrechion sy'n ymwneud â COVID-19 mewn ffyrdd hyd yn oed yn fwy uniongyrchol.

I ddod o hyd i gyfleoedd i wirfoddoli gydag elusennau neu'r GIG, gweler: https://www.gov.uk/volunteering/coronavirus-volunteering

I gynnig cymorth i fusnesau, megis offer, gwasanaethau neu arbenigedd, gweler: https://www.gov.uk/coronavirus-support-from-business

I wneud cais am grantiau cyllid ar gyfer prosiectau tymor byr sy'n mynd i'r afael ag effaith COVID19, gweler: https://www.ukri.org/funding/funding-opportunities/ukri-open-call-for-research-andinnovation-ideas-to-address-covid-19/

Os ydych chi'n glinigwr sy'n ystyried dychwelyd i'r GIG yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban neu'r HSC yng Ngogledd Iwerddon, gweler:

https://www.england.nhs.uk/coronavirus/returning-clinicians/ (yn Lloegr)

https://www.gov.scot/publications/coronavirus-covid-19-guide-for-health-professions-considering-areturn-to-the-nhs-scotland/ (yn yr Alban)

https://gov.wales/health-professionals-coronavirus (yng Nghymru)

https://www.health-ni.gov.uk/Covid-19-returning-professionals (yng Ngogledd Iwerddon)

This article is from: