Our plan to rebuild: The UK Government’s COVID-19 recovery strategy [Welsh language version]

Page 38

34

EIN CYNLLUN I AILADEILADU: Strategaeth adferiad COVID-19 Llywodraeth y DU

5. Pedwar ar ddeg o raglenni ategol

Er mwyn cyflawni ein cynllun fesul cam, bydd y Llywodraeth yn darparu pedai rhaglen waith ar ddeg, y cyfan yn uchelgeisiol o ran eu cwmpas, eu graddfa a'u hamserlenni.

1. Capasiti a model gweithredu gofal a'r GIG Yn gyntaf, er mwyn sicrhau'r hyder mwyaf wrth reoli achosion newydd, mae angen i'r Llywodraeth barhau i sicrhau capasiti gofal a'r GIG, a'i roi ar sail gynaliadwy. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod staff yn cael eu hamddiffyn gan yr offer diogelu personol (PPE) priodol, yn yr holl leoliadau GIG a gofal. Mae hyn wedi gofyn am strategaeth ddiwydiannol newydd ar gyfer PPE. Ers dechrau'r argyfwng, mae'r Llywodraeth, gan weithio gyda'r GIG, diwydiant a'r Lluoedd Arfog, wedi danfon dros 1.16 biliwn o ddarnau o PPE i'r rheng flaen. Ar 6 Mai, cafodd dros 17 miliwn o eitemau PPE eu danfon i 258 o ymddiriedolaethau a sefydliadau. Drwy ei ddull gweithredu ar gyfer y DU gyfan, mae'r Llywodraeth yn gweithio'n agos gyda'r gweinyddiaethau datganoledig i gefnogi a chydlynu'r gwaith o ddosbarthu PPE ledled y DU: mae miliynau o eitemau PPE wedi'u danfon i Ogledd Iwerddon, Yr Alban a Chymru. Ond mae llawer i'w wneud o hyd ac o dan arweinyddiaeth yr Arglwydd Deighton, bydd y Llywodraeth yn gwneud y canlynol: ● Ehangu'r cyflenwad o dramor. Mae'r Llywodraeth eisoes wedi sefydlu uned cyrchu PPE traws-lywodraethol, sydd bellach yn cael ei staffio gan dros 400 o bobl, i sicrhau llinellau cyflenwi o bob cwr o'r byd ac mae wedi cyhoeddi safonau trylwyr ar gyfer prynu nwyddau. Mae'r Llywodraeth yn gweithio ar frys i nodi ffynonellau newydd o PPE o farchnadoedd tramor, arallgyfeirio ffynonellau cyflenwi'r DU ac atgyfnerthu cadwyni cyflenwi'r DU ar gyfer y tymor hir. Mae timau DIT a FCO mewn swyddi ledled y byd yn chwilio am gyflenwadau newydd, yn lobïo llywodraethau i godi cyfyngiadau ar allforio ac yn helpu i gael danfoniadau yn ôl i'r DU. ● Gwella gallu gweithgynhyrchu domestig. Mae'r Arglwydd Deighton yn arwain ymdrech y Llywodraeth i ryddhau potensial diwydiant Prydain i weithgynhyrchu'r PPE ar gyfer y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd hyn yn adeiladu ar y cyfleoedd gweithgynhyrchu mae'r Llywodraeth eisoes wedi'u nodi ac yn cyfrannu at yr ymdrech genedlaethol i fodloni'r galw digynsail. Mae'r Llywodraeth hefyd yn gweithio i gefnogi'r gwaith o gyflymu ymdrechion peirianyddol ar gyfer cwmnïau bach sy'n gallu cyfrannu at gyflenwadau. Ar hyn o bryd mae'r Llywodraeth mewn cysylltiad â thros 200 o weithgynhyrchwyr posibl yn y DU ac mae eisoes wedi derbyn cynnyrch gan weithgynhyrchwyr ardystiedig, newydd yn y DU. ● Ehangu a gwella'r rhwydwaith logisteg ar gyfer danfon i'r rheng flaen. Mae'r Llywodraeth wedi dwyn ynghyd y GIG, diwydiant a'r Lluoedd Arfog i greu rhwydwaith dosbarthu PPE enfawr, gan ddanfon offer hanfodol i 58,000 o leoliadau gofal iechyd gan


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.
Our plan to rebuild: The UK Government’s COVID-19 recovery strategy [Welsh language version] by The British Healthcare Trades Association - Issuu