16
EIN CYNLLUN I AILADEILADU: Strategaeth adferiad COVID-19 Llywodraeth y DU
2. Ein nodau: achub bywydau; achub bywoliaethau
Nod y Llywodraeth oedd achub bywydau. Mae hyn yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth sydd wrth wraidd y cynllun hwn. Hefyd rhaid i'r Llywodraeth geisio lleihau'r niwed arall y mae'n gwybod bod y mesurau cyfyngol presennol yn ei achosi - i les, bywoliaethau ac iechyd ehangach pobl. Ond mae risg, pe byddai'r Llywodraeth yn rhuthro i wyrdroi'r mesurau hyn, y byddai'n sbarduno ail achos a allai lethu'r GIG. Felly mae'n rhaid i'r DU addasu i realiti newydd - un lle gall cymdeithas ddychwelyd i normal cyn belled ag y bo modd; lle gall plant fynd i'r ysgol, gall teuluoedd weld ei gilydd a gellir amddiffyn bywoliaethau, tra hefyd yn parhau i amddiffyn rhag lledaeniad y clefyd. Felly nod y Llywodraeth sydd wrth ganol y cynllun hwn yw:
I wneud hyn, bydd angen i'r Llywodraeth ailgynllunio'r mesurau cadw pellter cymdeithasol cyfredol yn raddol gyda mesurau newydd, craffach sy'n adlewyrchu lefel y risg ar yr adeg honno, a dirwyn cynlluniau cymorth economaidd i ben yn ofalus tra bod pobl yn cael eu dychwelyd yn ôl i'r gwaith yn raddol. Bydd y Llywodraeth yn gwneud hyn trwy ystyried tri phrif ffactor.
Effaith iechyd Yr ystyriaeth gyntaf yw iechyd y genedl. Mae'n rhaid i'r Llywodraeth ystyried canlyniadau iechyd cyffredinol, nid dim ond y rhai a achosir yn uniongyrchol gan COVID-19. Yn unol â chyngor y Prif Swyddog Meddygol a GIG Lloegr, bydd y Llywodraeth yn ystyried: ●
Marwolaethau uniongyrchol COVID-19, y rhai sy'n marw o'r feirws, er gwaethaf derbyn y gofal meddygol gorau.
●
Niwed anuniongyrchol yn deillio o wasanaethau brys y GIG yn cael eu gorlethu ac felly'n darparu gofal sylweddol llai effeithiol i'r rheini â COVID-19 ac i'r rheini ag argyfyngau meddygol eraill.