53.2293° N, -4.1309° W
Dywedodd yr Athro Paul Spencer, Dirprwy Is-ganghellor Ymchwil ac Effaith: “Mae gwneud ein Prifysgol yn gyfystyr a chynaliadwyedd yn golygu y dylai cynaliadwyedd fod yn elfen ym mhob ymchwil a wnawn ac, ynghyd ag effaith ein hymdrechion ymchwil, bydd hynny’n cynnig diffiniad byw sy’n esblygu ac yn parhau’n berthnasol. O ddod â rhagoriaeth ymchwil ac effaith ynghyd fel hyn, byddwn ar flaen y gad o ran y blaenoriaethau a’r heriau cymdeithasol newydd sy’n codi yn ogystal â chyfrannu at bolisïau ac arferion y Llywodraeth at y dyfodol i roi sylw iddynt
“
“Ochr yn ochr â hyn byddwn yn sefydlu projectau ‘naid cwantwm’ gan roi’r potensial i’r brifysgol gynyddu graddfa’r ymchwil a wna. Mae’r cynlluniau sydd gennym ar gyfer Ysgol Feddygol i’r Gogledd, gyda chefnogaeth y Llywodraeth, yn enghraifft wych o’r hyn y gellir ei gyflawni trwy gydweithio’n agos â rhanddeiliaid ar broject ‘naid cwantwm’ trawsnewidiol sydd nid yn unig yn ceisio cyflwyno ysgol ryngbroffesiynol arloesol, mae hefyd yn meithrin y cryfderau ymchwil sydd gennym yn y gwyddorau dynol ac yn ceisio helpu datblygu iechyd a gofal cymdeithasol y dyfodol sy’n gynaliadwy, yn seiliedig ar le ac yn cefnogi twf y sector gwyddorau bywyd yn rhanbarthol.”
YMCHWIL COVID-19
Mae pandemig COVID-19 yn cynrychioli un o’r bygythiadau mwyaf diweddar i iechyd pobl, lles a thwf economaidd. Sicrhaodd Prifysgol Bangor fwy na £16 miliwn mewn cyllid tuag at ymchwil sy’n gysylltiedig â COVID-19. Roedd hyn yn cynnwys sefydlu’r rhwydwaith epidemioleg cenedlaethol cyntaf sy’n seiliedig ar ddŵr gwastraff ar gyfer monitro SARS-CoV-2 ym mhoblogaeth gyffredinol Cymru.
gwyliadwriaeth COVID-19 ar lefel genedlaethol. Mabwysiadwyd hyn gan Loegr a’i gyflwyno wedyn gan y Cyd-ganolfan Bioddiogelwch mewn 44 o safleoedd, gan godi i 250 erbyn 2021.
Gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru, bu ein hymchwilwyr yn monitro cyflwr newidiol y pandemig yng Nghymru, yn cefnogi ac yn llywio penderfyniadau polisi iechyd cyhoeddus, ac yn meithrin gallu cenedlaethol i fod yn barod ar gyfer unrhyw bandemig yn y dyfodol. Sylweddolwyd y rôl bwysig y mae’r diwydiant dŵr gwastraff yn ei chwarae ym maes iechyd cyhoeddus cenedlaethol.
Rhagoriaeth ac effaith ymchwil: Mae ymchwil dŵr gwastraff yn faes newydd iawn a chynhyrchwyd wyth papur ar gyfer cyfnodolion y seilir y rhaglen wyddoniaeth genedlaethol arnynt. Mae’r Brifysgol wedi cyfrannu arbenigedd at ymdrechion cydweithredol rhyngwladol i ddatblygu arfer gorau epidemioleg dŵr gwastraff ledled Ewrop a thu hwnt. Mae’r cyllid hefyd wedi rhoi cyfle i adeiladu ar gryfderau ymchwil yng Nghymru mewn gwyddorau amgylcheddol, gwyliadwriaeth afiechyd a genomeg pathogenau.
Wrth i’r byd ddechrau sylweddoli maint y pandemig oedd yn dod i’r amlwg, sylweddolodd tîm o ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor, dan arweiniad yr Athro Gwyddor Pridd a’r Amgylchedd, Davey Jones, yr angen dybryd i ddefnyddio’u harbenigedd a’u galluoedd i weithredu.
Rhagoriaeth wyddonol: Mae Cymru wedi arloesi yn y defnydd o ddŵr gwastraff ar gyfer
Mynychder afiechyd: Y Brifysgol oedd yn gyfrifol am sefydlu rhaglen monitro dŵr gwastraff ar lefel genedlaethol ar gyfer COVID-19 a oedd yn cynnwys 20 o safleoedd allweddol ac yn agos at 70% o boblogaeth Cymru. Mae hwn bellach yn rhan o ddangosfwrdd Armakuni sy’n adrodd ar amlder yr achosion o glefydau cenedlaethol i helpu asiantaethau iechyd cyhoeddus yng Nghymru. Yn ogystal, mae’r gwaith wedi cefnogi profion torfol wedi’u targedu yng Nghymru a Lloegr.
A N N UA L R E P VO I ERW T 2 0 2 0 - 2 0 2 1
15
“
E P VO I ED RW T A D R OADNDNI U AA D L B RL Y N Y D O2 L0 22 00 2- 0 2 -0 22 10 2 1
14