3 minute read

GWOBR ARBENNIG BAFTA AM GYFRANIAD RHAGOROL I FFILM A THELEDU BAFTA SPECIAL AWARD FOR OUTSTANDING CONTRIBUTION TO FILM AND TELEVISION

GWOBR ARBENNIG BAFTA AM GYFRANIAD RHAGOROL I FFILM A THELEDU

BAFTA SPECIAL AWARD FOR OUTSTANDING CONTRIBUTION TO FILM AND TELEVISION

Advertisement

IVOR LESLIE DILLEY

CYFARWYDDWR CELF / DYLUNYDD CYNHYRCHU ART DIRECTOR / PRODUCTION DESIGNER

Les Dilley on location on Teacup Travels in Scotland.

Ganed Les Dilley yn ystod yr Ail Ryfel Byd yng nghartref plentyndod ei fam, yn nhref Pontygwaith, yn Nyffryn Rhondda. Yn ddiweddarach yn ei arddegau ifanc yn byw yn ardal Wembley yn Lloegr, yn dilyn ei addysg gynnar yng Ngholeg Technegol Willesden, llwyddodd i gael prentisiaeth gyfrwymol, yr oedd cystadleuaeth frwd amdani, fel plastrwr ffeibrog gyda’r Associated British Picture Corporation yn Elstree.

Yn dilyn y profiad cynnar hwn o’r diwydiant ffilm, aeth Les i Stiwdios Pinewood, lle’r oedd sawl Cyfarwyddwr Celf wedi meithrin ei ddiddordeb cynyddol mewn lluniadu technegol trwy ei anfon adref gyda’r lluniadau gweithio a oedd yn cael eu gwneud gan rai o ddrafftsmyn dawnus y diwydiant o’r cyfnod. Rhoddodd ei ddechreuad fel Drafftsmon Iau llawrydd ym 1966 gyfle i Les symud ymlaen yn yr Adran Gelf ac, yn y diwedd, cafodd swydd ei freuddwydion fel Cyfarwyddwr Celf ar y set yn gweithio gyda llawer o wneuthurwyr ffilmiau gorau ein cyfnod ar rai ffilmiau eiconig iawn.

Gyda diolch i / Courtesy of Lucasfilm Ltd.

Yng nghanol y 1980au, symudodd Les i America, gan lanio yng nghalon Hollywood. Yn fuan, daeth yn aelod o Urdd y Cyfarwyddwyr Celf, ac fe’i gwahoddwyd i ddod yn aelod o Gangen Cyfarwyddwyr Celf yr Academi Celfyddydau a Gwyddorau Ffilm. Yn ogystal â pharhau â’i waith fel Dylunydd Cynhyrchu ym maes ffilm, teledu, a hysbysebion, ehangodd Les ei sgiliau i gynnwys Cyfarwyddo 2il Uned, gan ymuno ag Urdd Cyfarwyddwyr America wedi hynny. Enillodd aelodaeth ag Urdd yr Actorion Sgrîn hefyd ar y ffordd, trwy gameos achlysurol drwy gydol y 90au a thu hwnt.

Enillodd Les wobrau Oscar am Gyfarwyddo Celf ar Star Wars George Lucas a Raiders of the Lost Ark Steven Spielberg. Yn ogystal, cafodd ei enwebu am Wobr yr Academi ar gyfer Alien Ridley Scott, The Empire Strikes Back Irvin Kershner, a The Abyss James Cameron.

The Raiders of the Lost Ark Gyda diolch i / Courtesy of Lucasfilm Ltd.

Les Dilley was born during WWII in his mother’s childhood home, in the town of Pontygwaith, in the Rhondda Valley. Later as a young teen living in the Wembley area of England, Les’ early education at Willesden Technical College earned him a coveted bound apprenticeship as a fibrous plasterer at The Associated British Picture Corporation in Elstree.

This early foray into the film industry led him to Pinewood Studios, where several Art Directors nurtured his budding interest in technical drawing by sending him home with the working drawings being done by some of the industry's talented draughtsmen of the period. His start as a freelance Junior Draughtsman in 1966 gave Les the opportunity to advance in the Art Department, eventually achieving his dream job as on-set Art Director working with many of the greatest filmmakers of our time on some very iconic films.

In the mid-1980’s Les crossed the pond, landing in the heart of Hollywood, where he soon became a member of the Art Directors Guild, and he was invited to become a member of the Art Directors Branch of the Academy of Motion Picture Arts & Sciences. While continuing his work as a Production Designer in film, television, and commercials, Les expanded his skills to include 2nd Unit Directing, subsequently joining the Directors Guild of America. He also earned his Screen Actors Guild membership along the way, with his occasional cameos throughout the 90’s and beyond.

Les won Oscars for Art Direction on George Lucas’ Star Wars and Steven Spielberg’s Raiders of the Lost Ark. He also received Academy Award nominations for Ridley Scott’s Alien, Irvin Kershner’s The Empire Strikes Back, and James Cameron’s The Abyss.