2 minute read

NEGES GAN GADEIRYDD YR ACADEMI MESSAGE FROM THE CHAIR OF THE ACADEMY

NEGES GAN KRISHNENDU MAJUMDAR, CADEIRYDD YR ACADEMI

MESSAGE FROM KRISHNENDU MAJUMDAR, CHAIR OF THE ACADEMY

Advertisement

Croeso i Wobrau yr Academi Brydeinig yng Nghymru, dathliad BAFTA o’r ffilm a theledu rhagorol a wnaed yng Nghymru a chan y Cymry yn 2019 a dechrau 2020.

Mae pandemig Covid-19 wedi cael effaith enfawr ar ein bywydau i gyd; mae wedi bod yn argyfwng gwahanol i unrhyw un yr ydym wedi'i wynebu yn ddiweddar ac wedi achosi niwed aruthrol i'n gweithlu a'n ffordd o fyw.

Yn ystod yr amseroedd hyn, mae BAFTA wedi helpu i ddod â'r diwydiant ynghyd, gan gadw pobl yn gysylltiedig ac wedi'u hysbrydoli'n greadigol; oherwydd nawr, yn fwy nag erioed, mae angen ffilm a theledu yn ein bywydau, i’n codi, i’n difyrru, i’n hysbysu ac i gadw’r sgwrs genedlaethol yn fyw.

Gobeithio eich bod wedi cael cyfle i gymryd rhan yn y rhaglen o ddigwyddiadau cyhoeddus a symudodd yn gyfan gwbl ar-lein, gan sicrhau bod mewnwelediadau a sgiliau ar gael yn rhwydd.

Mae'n galonogol gweld bod 20 o enwebiadau Gwobrau Cymru eleni ar gyfer enwebeion am y tro cyntaf, oherwydd bod dathlu a thaflu goleuni ar dalent newydd wrth wraidd yr hyn rydyn ni'n ei wneud yn BAFTA.

Wrth i'r diwydiant ddechrau cymryd ein camau cyntaf tuag at adferiad, byddwn yn parhau i gynnig cefnogaeth a helpu talent greadigol i fynd yn ôl at yr hyn maen nhw'n ei wneud orau: creu ffilm a theledu gwych.

Felly diolch a phob lwc i'n holl enwebeion.

KRISHNENDU MAJUMDAR CADEIRYDD BAFTA

Welcome to the British Academy Cymru Awards, BAFTA’s celebration of the outstanding film and television made in Wales and by the Welsh in 2019 and early 2020.

The Covid-19 pandemic has had a huge impact on all our lives; it’s been a crisis unlike any we've faced in recent times and caused untold damage to our workforce and way of life.

During these times, BAFTA has helped bring the industry together, keeping people connected and creatively inspired; because now, more than ever, we need film and television in our lives, to uplift us, to entertain, to inform us, to keep the national conversation alive.

We hope you’ve had the chance to dip into our programme of public events that moved entirely online, making insights and skills freely available and accessible.

I’m heartened to see that 20 of this year’s Cymru Awards nominations are for first-time nominees, because celebrating and shining a light on new talent is at the heart of what we do at BAFTA.

As the industry starts to take our first steps to recovery, we will continue to offer support and help creative talent get back to what they do best: making great film and television.

So thank you and best of luck to all our nominees.

KRISHNENDU MAJUMDAR BAFTA CHAIR