2 minute read

NEGES GAN GADEIRYDD BAFTA CYMRU MESSAGE FROM BAFTA CYMRU CHAIR

"CROESO I NOSON WOBRWYO BAFTA YNG NGHYMRU, UCHAFBWYNT BLWYDDYN WYCH ARALL".

"WELCOME TO THE BAFTA CYMRU AWARDS CEREMONY, THE PINNACLE OF ANOTHER FANTASTIC YEAR ".

Advertisement

Croeso i seremoni wobrwyo BAFTA yng Nghymru. Ydi, mae’n seremoni wahanol iawn, ond o ran y gwaith creadigol a glodforir, dyma uchafbwynt blwyddyn wych arall.

Nid yw’r cyfnod diweddar wedi bod yn hawdd i’r byd teledu a ffilm, ond mae BAFTA Cymru wedi parhau i fod yn gefnogaeth arbennig i’r rheiny sy’n gweithio yn ein diwydiant. Crëwyd nifer o gysylltiadau rhwng newyddddyfodiaid â rhai o enwau mawr y diwydiant, yn ogystal â chynnig dosbarthiadau meistr a sgyrsiau amrywiol ar-lein digwyddiadau sydd yn tanlinellu ein rôl bwysig fel elusen.

Diolch i Hannah Raybould a’i thîm am eu hymroddiad arbennig, yn enwedig yn ystod y cyfnod heriol hwn.

Diolch i’r noddwyr ac i S4C, BBC Cymru Wales, Channel 4, Llywodraeth Cymru ac ITV Cymru Wales am eu cefnogaeth graidd.

Diolch i Krishnendu Majumdar, Cadeirydd BAFTA UK, Amanda Berry, Prif Weithredwr yr Academi, a Kevin Price, y Prif Swyddog Gweithredu, am eu cefnogaeth hwythau.

Yn bwysicach na dim, mae ein rhestr enwebeion heno yn cynrychioli’r gorau yng Nghymru. Ar ran BAFTA Cymru, llongyfarchiadau i chi gyd. Mwynhewch y noson!

ANGHARAD MAIR CADEIRYDD BAFTA CYMRU

Welcome to the BAFTA Cymru Awards ceremony. Yes, it’s a very different ceremony, but in terms of the creative work celebrated tonight, this is the pinnacle of another fantastic year.

This year has not been easy for the television and film industry, but BAFTA Cymru has continued to offer great support for those working in our industry. We have created many collaborations between newcomers and some of the industry’s biggest names, as well as offering various masterclasses and online discussions - events that underline our important work as a charity.

Thank you to Hannah Raybould and her team for their fantastic commitment, especially given the challenging circumstances.

Thanks to our sponsors and to BBC Cymru Wales, S4C, Channel 4, Welsh Government and ITV Cymru Wales for their core support.

Thanks to Krishnendu Majumdar, Chair of BAFTA UK, Amanda Berry, Chief Executive of the Academy, and Kevin Price, the Chief Operating Officer, for their support.

Most importantly of all, our list of nominees tonight represents the best in Wales. On behalf of BAFTA Cymru, congratulations to you all. Enjoy the night!

ANGHARAD MAIR CHAIR BAFTA CYMRU