O Dan y Don - Rhifyn 1 2018

Page 15

Rhifyn 1 2018 O Dan y Don

“YSBWRIEL TANLLYD” – PAM FOD

15

RHYDDHAU BALWNAU A LLUSERNAU TSIEINEAIDD YN CAEL MWY O EFFAITH NA FYDDECH YN EI FEDDWL...

Beth ddaw i’ch meddwl pan ydych chi’n meddwl am falwnau a llusernau Tsieineaidd? Harddwch? Hud? Coffadwriaeth? Dathlu? Efallai, fodd bynnag, y gallant hefyd fod yn hynod niweidiol i’r amgylchedd. Mewn ardaloedd ledled y DU, mae Awdurdodau Lleol wedi gwahardd rhyddhau balwnau a llusernau Tsieineaidd yn sgil nifer yr effeithiau andwyol y maent yn eu hachosi. Maent hefyd yn broblem o fewn ACA Pen Llŷn a’r Sarnau, ac mae’r Swyddog ACA yn ceisio gweithio â’r Awdurdodau Lleol perthnasol i annog gwaharddiad ledled siroedd yr ACA.

PAM FOD BALWNAU A LLUSERNAU’N BROBLEM?

1

Perygl tân: Mae llusernau Tsieineaidd yn peri perygl tân difrifol. Mae llusernau’n cael eu cynnau yn ystod dathliadau neu wrth gofio am rywun ac yna’n cael eu rhyddhau i’r aer. Wrth gwrs, mae’n rhaid i’r llusernau lanio yn rhywle, ac os ydynt yn dal ar dân, gallai hyn achosi tân. Gallai hyn fod yn benodol drychinebus pe byddai’r llusern yn glanio mewn deunydd fflamadwy, megis gwair, neu mewn ardal gymunedol. Mae llusernau ar eu mwyaf peryglus yn ystod misoedd sychach yr haf, ac mae achosion wedi bod yn y gorffennol ble mae gerddi a thoeau wedi’u llosgi.

2

Niweidio’r amgylchedd: Mae taflu ysbwriel ar y llawr yn drosedd y gallech gael dirwy amdani. Fodd bynnag, nid yw rhyddhau llusernau a balwnau i’r aer yn cael ei ystyried fel taflu ysbwriel, er y gallant niweidio bywyd gwyllt a’r amgylchedd yn ddifrifol. Allan ar y môr, gall anifeiliaid dagu neu gael eu clymu; gall crwbanod y môr, er enghraifft, gamgymryd balwnau am sglefrod y môr, a’u llyncu’n gyfan. Mae hyn yn achosi bloc yn system dreulio’r crwban môr ac yna gall hyn beri iddo lwgu, a marw. Mae balwnau a llusernau hefyd yn effeithio ar anifeiliaid amaethyddol, gan eu bod yn pori ac yn tagu ar y gweddillion.

3

Camgymryd am ffaglau (cam-rybudd): Gall llusernau Tsieineaidd achosi camrybudd i Wylwyr y Glannau a’r RNLI. Maent yn cael eu camgymryd am ffaglau wrth iddynt chwyrlio yn yr aer. Mae’r RNLI wedi sylwi ar gynnydd yn nifer yr achosion pan fo’r bad achub yn cael ei alw allan o ganlyniad i lusernau. Hefyd, mae gweddillion y llusernau a’r balwnau yn glanio fel ysbwriel ar draethau, gan olygu bod angen i rywun lanhau’r llanast.

4

Perygl i awyrennau: Mae awdurdodau awyrennau sifil wedi adrodd am y risg o falwnau a llusernau’n cael eu sugno i mewn i’r injan wrth hedfan. Hefyd, gallai llusernau ddifrodi injan, teiars a chorff yr awyren ar y ddaear. Mae risg tân arwyddocaol yn gysylltiedig a llusernau’n glanio ger tanciau tanwydd awyrennau. MAE TRAEAN O WASANATHAU BRIGAD DÂN PRYDAIN WEDI DWEUD EU BOD WEDI DERBYN GALWADAU BRYS I FYND I DDIFFODD LLUSERNAU OHERWYDD Y BYGYTHIAD MAE BALWNAU’N EI BERI I FYWYD GWYLLT, MAE DROS 20 AWDURDOD LLEOL YN Y DU WEDI’U GWAHARDD RHAG CAEL EU RHYDDHAU GALL BALWNAU DAGU NEU GLYMU BYWYD GWYLLT, GAN ACHOSI ANAF IDDYNT NEU HYD YN OED ACHOSI EU MARWOLAETH


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.