O Dan y Don - Rhifyn 1 2018

Page 1

O DAN Y DON Rhifyn 1 2018

CYLCHGRAWN

ACA Pen Llŷn a’r Sarnau

GWYLIO DOLFFINIAID!

Awgrymiadau ar gyfer gwylio ac adnabod dolffiniaid Pen Llŷn a’r Sarnau

Siarc prin yng Nghymru

Achubwch ein morwellt

Diwrnod ym mywyd...

A yw dyfroedd Cymru yn hafan i’r Maelgwn, sy’n rhywogaeth mewn perygl difrifol?

Ym Mhorthdinllaen, ceir yn un o’r gwelyau mwyaf a dwysaf yng Nghymru.

...Dyfed Davies, pysgotwr ym Mhorthdinllaen.


2

O Dan y Don Rhifyn 1 2018

CROESO

C

roeso i rifyn cyntaf O Dan y Don! Y cylchgrawn sy’n crwydro byd tanddwr Pen Llŷn a’r Sarnau, un o’r ardaloedd morol gwarchodedig mwyaf yn y DU. Dewch i weld beth sy’n ffynnu dan y don a beth all fod yn cuddio o’r golwg! Yn y rhifyn hwn cawn wybod am y dyfrgi a pham y dylid osgoi Chwysigod y Môr. Er gwaethaf ei brydferthwch a’i hynodrwydd, mae’r amgylchedd morol yn wynebu heriau lawer. Mae gwybodaeth am brosiectau sy’n digwydd yn eich ardal a sut allwch chi fod yn rhan ohonynt ar gael yn y cylchgrawn. Yn y rhifyn hwn cawn wybod am fyd cyfrin y morwellt a gallwch ymuno â’n hymgyrch i roi’r gorau i ddefnyddio gwellt plastig. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y rhifyn hwn o O Dan y Don, yn arbennig Alaw Geraint o Ysgol y Felinheli, a Lisa Louise Cenydd, a enillodd y gystadleuaeth i enwi’r cylchgrawn hwn. Yn aml, gall fod yn anodd i ni ddychmygu’r hyn sy’n mynd ymlaen O Dan y Don, felly dyma geisio darparu cipolwg i chi o fyd tanddwr cyffrous a lliwgar Pen Llŷn a’r Sarnau.

Y TÎM

CYSYLLTWCH Â NI

info@penllynarsarnau.co.uk www.penllynarsarnau.co.uk 01286 679495

Alison Palmer Hargrave Swyddog ACA / Golygydd

Catrin Glyn Swyddog Prosiect

@ ACA_PLAS_SAC Pen Llŷn a’r Sarnau


Rhifyn 1 2018 O Dan y Don

CYFLWYNIAD I’R ACA Porthmadog

Nefyn

Glaslyn / Dwyryd

Pen Llŷn

Harlech

Abersoch Aberdaron

Ynys Enlli

Pen Llŷn a’r Sarnau

GWYNEDD

adrig Sarn B

Abermaw

-Bwch Sarn-y

Mawddach

Machynlleth

Dyfi

Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Special Area of Conservation (SAC)

Sarn

lin Cynfe

CEREDIGION

Mae Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Pen Llŷn a’r Sarnau yn ardal forol warchodedig sy’n ymestyn o Nefyn ar arfordir gogleddol Pen Llŷn, gogledd Cymru, dros 230km i lawr at oddeutu milltir i’r gogledd o Aberystwyth, canolbarth Cymru. Mae’r ardal wedi’i dynodi yn sgil ei chyfoeth o fywyd gwyllt a chynefinoedd. Mae ardaloedd fel rhain yn cael eu dynodi am eu cynefinoedd a rhywogaethau o bwysigrwydd rhyngwladol. Mae gan Ben Llŷn a’r Sarnau 12 ohonynt: • • • • • • • • • • • •

Riffiau Aberoedd Lagŵn Arfordirol Gwastadeddau llaid a thywod Banciau tywod islanwol Ogofâu môr Cilfachau a baeau mawr a bas Dolydd Arfor yr Iwerydd Salicornia Dolffiniaid trwynbwl Morloi llwyd Dyfrgwn

Mae sawl ffordd wych o helpu i warchod Pen Llŷn a’r Sarnau. Cymerwch olwg ar yr adran ‘Bod yn rhan’ ar dudalen 40, edrychwch ar ein gwefan neu ymunwch â ni ar y gwefannau cymdeithasol, i weld rhai o’r prosiectau ardderchog sydd angen gwirfoddolwyr.

BETH YW ARDAL WARCHODEDIG? Mae Ardal Forol Warchodedig yn ddyfais y gallwn ei ddefnyddio i warchod cynefinoedd morol a rhywogaethau o bwysigrwydd cenedlaethol neu ryngwladol wrth alluogi i’r ardal gael ei defnyddio’n gynaliadwy. Mae sawl math o AFW, yn cynnwys, Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) megis Pen Llŷn a’r Sarnau, Ardaloedd Gwarchod Arbennig (AGA) a Pharthau Cadwraeth Morol. Ar hyn o bryd, mae oddeutu 23% o foroedd y DU wedi’u dynodi fel math o ardal forol warchodedig. Mae’r DU wedi ymrwymo i nifer o gytundebau rhyngwladol sy’n nodi bod yn rhaid i ni sefydlu rhwydwaith o ardaloedd sy’n cael eu rheoli’n dda ac sy’n ecolegol gydlynus. Mae hyn yn golygu bod yr holl safleoedd mewn rhwydwaith yn rhoi mwy o fudd nac un safle ar ei ben ei hun.

Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y rhifyn hwn o O Dan y Don: Awduron yr erthyglau : Catrin Glyn, Alison Palmer Hargrave, Nia Hâf Jones, Eve Nicholson, Becky Price, Ben Wray Cydnabyddiaeth ffotograffau : Janet Baxter, Samantha Bryan, @ecoamgueddfa, Catrin Glyn, Alison Palmer Hargrave, Rohan Holt, Nia Hâf Jones, Rhys Jones, Paul Kay, Carlos Suarez

3


CYNNWYS CROESO

Tudalen 18 I’r Gwellt â’r Gwelltyn

Tudalen 02 Croeso i O Dan y Don, cyflwyno’r staff a manylion cyswllt

Tudalen 20 Prosiect Ecosystemau Morol Llŷn

Tudalen 03 Cyflwyniad i’r ACA a ‘Beth yw ardal warchodedig?’

NEWYDDION

Tudalen 22 Gwylio Dolffiniaid - stori’r gwirfoddolwr Tudalen 24 Y Côd Morol

Tudalen 06-07 Hynt a helynt y tîm eleni

Tudalen 26 Adnabod Anifeiliaid Morfilaidd

ERTHYGLAU

Tudalen 30 Diwrnod ym mywyd pysgotwr

Tudalen 08 Morfa Gwyllt Tudalen 09 Ein Dyfrgwn Tudalen 10 Prosiect Morwellt Porthdinllaen Tudalen 13 Ymwelydd Gwenwynig: Chwysigod y Môr Tudalen 15 “Ysbwriel Tanllyd” - Pam fod rhyddhau balwnau a llusernau Tsieineaidd yn cael mwy o effaith na fyddech yn ei feddwl...

Tudalen 32 Chwilota mewn Pyllau Creigiog Tudalen 34 Mae Llwybr Arfordir Cymru yn eithaf unigryw... Tudalen 36 A yw dyfroedd Cymru yn hafan i Faelgwn?

CYMRYD RHAN Tudalen 40 Sut i gymryd rhan


Mae adar drycin Manaw yn nythu ar Ynys Enlli yn yr ACA, bob blwyddyn maent yn mudo i ardaloedd bwydo ger arfordir De America.


6

O Dan y Don Rhifyn 1 2018

NEWYDDION CEFNOGAETH GYMUNEDOL Rydym wedi cael cefnogaeth gymunedol wych yn ein holl brosiectau eleni ac fe hoffem ddiolch i’r rhai sydd wedi helpu a chyfrannu at y gwaith hwn. Heb gefnogaeth cymunedau lleol, defnyddwyr y môr, a busnesau lleol, ni fyddem wedi medru bwrw ymlaen â’r gwaith hwn. Edrychwn ymlaen i barhau i weithio â chi yn 2018.

YMGYRCH I’R GWELLT Â’R GWELLTYN

PARTNERIAETH MOROEDD GLÂN CYMRU Lansiodd Amgylchedd y CU yr hashnod #CleanSeas ym mis Chwefror 2017, gyda’r amcan o gael ymrwymiad llywodraethau, y cyhoedd yn gyffredinol, a’r sector preifat i’r frwydr yn erbyn ysbwriel plastig morol. Dyma ymgyrch fydeang y mae Cymru bellach yn rhan ohoni. Mae plastig yn broblem enfawr ar draws y byd ac rydym oll angen gwneud ein rhan i leihau faint o blastig defnydd sengl yr ydym yn ei ddefnyddio.

Yn ystod yr haf, fe lansiom ymgyrch newydd, i’r Gwellt â’r Gwelltyn, i leihau faint o wellt plastig a ddefnyddir. Lansiwyd yr ymgyrch yng Nghricieth gyda chymorth y gymuned a busnesau lleol. Mae nifer o fusnesau bellach wedi mynegi eu bod am gymryd rhan yn yr ymgyrch ac wedi ymrwymo i naill ai roi’r gorau i ddefnyddio gwellt yn gyfan gwbl neu ddefnyddio rhai bioddiraddadwy. Os hoffech chi gymryd rhan, cysylltwch â ni.

GWRTHODWCH Y GWELLT!

I gynorthwyo ag ymgyrch i’r Gwellt â’r Gwelltyn, rydym yn annog pobl i ddweud “Na, dim diolch” i wellt. Gobeithiwn y bydd hyn yn cefnogi ymgyrch i’r Gwellt â’r Gwelltyn ac yn annog eraill i ymuno.

SIARCOD PRIN YN NYFROEDD CYMRU! Mae prosiect yn ymchwilio i boblogaeth y Maelgwn (Angelsharks), un o siarcod mwyaf prin y byd, wedi’i lansio yn nyfroedd Cymru. Mae’r Maelgi yn rhywogaeth sydd mewn perygl difrifol. Mae’r boblogaeth olaf hysbys ohonynt yn y byd i’w chanfod oddi ar yr Ynysoedd Dedwydd yng nghanol Môr Iwerydd. Fodd bynnag, yn ystod blynyddoedd diweddar, mae nifer cynyddol o achosion wedi bod ble mae’r pysgod prin hyn wedi’u gweld oddi ar arfordir Cymru. Bellach, mae gwyddonwyr o Gyfoeth Naturiol Cymru a’r Zoological Society of London wedi dod ynghyd gyda physgotwyr ac eraill ar hyd arfordir Cymru i ganfod mwy am ein Maelgwn brodorol.

HOFFEM DDIOLCH I BAWB FU’N CYNORTHWYO I LANHAU TRAETHAU ACA PEN LLŶN A’R SARNAU DROS YR HAF. OS BU I CHI YMUNO Â NI, NEU GRŴP ARALL, NEU OS BU I CHI GYNNAL EICH YMARFERIAD GLANHAU TRAETHAU EICH HUNAIN, MAE EICH YMDRECHION CHI OLL YN HELPU I GADW’N TRAETHAU’N LÂN!

BLWYDDYN Y MÔR 2018 Bydd Croeso Cymru yn lansio Blwyddyn y Môr yn 2018. Dyma gyfle gwych i godi ymwybyddiaeth o’r amgylchedd morol a hyrwyddo defnydd cynaliadwy o’r arfordir.


Rhifyn 1 2018 O Dan y Don

NEWYDDION

Mae bwyty Dylan’s, Cricieth, wedi bod yn garedig iawn ac wedi mabwysiadu bwrdd #2minutebeachclean cyntaf gogledd Cymru. Mae’r holl offer a’r wybodaeth y byddwch ei angen i gymryd rhan mewn ymarferiad glanhau traeth 2 funud, ar y bwrdd. Felly, os ydych chi’n digwydd bod yng Nghricieth a bod gennych ddau funud i’w sbario, cymerwch fag a helpwch gadw Cricieth yn daclus!

ANGOR HELIGOL

Bydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn treialu system angori newydd ym Mhorthdinllaen y flwyddyn nesaf. Bydd angor heligol yn cymryd lle rhai o’r blociau concrid sy’n cael eu defnyddio ar hyn o bryd. Mae gan yr angor heligol ôl-troed llai na’r bloc concrid felly bydd yn gwneud llai o ddifrod wrth osod a chynnal a chadw angorau. Bydd rhyw ddau ohonynt yn cael eu treialu yn y lle cyntaf i sicrhau eu bod yn addas i’r diben.

?

- Arafwch i lawr - Arhoswch ar yr un trywydd - Cadwch eich pellter

Eu caru hwy o bell Love them from afar

COUNTRYFILE Bu Prosiect Morwellt Porthdinllaen ar raglen ‘Countryfile’ y BBC dros yr haf. Dangoswyd rhai delweddau hynod o’r morwellt ynghyd â dalfa gyffrous yn defnyddio rhwyd seine. Mae gennym fywyd gwyllt arbennig ym Mhorthdinllaen ac fe roddodd y delweddau gipolwg i ni o’r hyn sydd o dan y don.

GWEITHGAREDDAU 2017

LLEIHAU EFFAITH ANGORFEYDD Rydym yn ymchwilio i ffyrdd o addasu’r angorfeydd yn harbwr allanol Porthdinllaen i leihau eu heffaith ar y morwellt. Os oes gennych unrhyw syniadau yr hoffech eu rhannu, cofiwch roi gwybod i ni...

l www.pen rwro llyn Mo ar ôd

#2MINUTEBEACHCLEAN

co.uk Follow th au. eM n r sa

e www.p e n llyn Cod ar ine ar

Bellach, rydym wedi cynhyrchu Côd Morol i Wynedd, Ynys Môn a Chonwy. Mae pob awdurdod lleol wedi mabwysiadu’r côd ac wedi anfon copi at bawb sydd wedi cofrestru i lansio. Mae’r côdau wedi cael cyhoeddusrwydd gwych ac mae ymwybyddiaeth o’r côd yn cynyddu. Mwynhewch y bywyd gwyllt; carwch hwy o bell.

k Dily n w .co.u c hy au rn C sa

CÔDAU YMDDYGIAD

GWYLIO DOLFFINIAID Mae Gwylio Dolffiniaid newydd gwblhau ail flwyddyn yn Abersoch. Hoffem ddiolch i’r holl wirfoddolwyr. Maent wedi bod allan ar y pentir ym mhob tywydd yn chwilio am ddolffiniaid, er mwyn gweld sut mae dolffiniaid a chychod yn rhyngweithio. Y gobaith yw y byddwn yn gweld cychod yn dilyn Côd Morol Gwynedd.

Rydym wedi bod yn brysur iawn eleni gyda’n holl brosiectau ond credwn ei bod yn bwysig iawn rhoi gwybod i chi beth yr ydym yn ei wneud a rhoi cyfle i chi gymryd rhan. Rydym wedi ymweld â llawer o sioeau a digwyddiadau lleol yn rhannu gwybodaeth am Ben Llŷn a’r Sarnau a’r holl brosiectau gwahanol yr ydym yn eu rhedeg. Rydym wedi ymweld ag ysgolion, Aelodau Cynulliad, grwpiau lleol, busnesau a llawer mwy! Cofiwch gadw llygad allan am ein baneri mewn digwyddiadau lleol neu ar y traeth a dewch draw i ddweud helô! Ewch draw i’n tudalennau Twitter a Facebook i gael gwybod y diweddaraf am ein gwaith.

7


8

O Dan y Don Rhifyn 1 2018

MORFA GWYLLT Yn cuddio yng ngwylltir canolbarth Cymru mae lagŵn bychan o’r enw Morfa Gwyllt. Mae’n llechu rhwng Aber Dysynni a’r cefnfor agored.

DYMA RAN WYCH O’R ARFORDIR GYDA THONNAU’R CEFNFOR YN TORRI AR UN OCHR A DYFROEDD TAWEL ABER DYSYNNI AR YR OCHR ARALL. UN O’R FFYRDD GORAU O GRWYDRO’R ARDAL YW CERDDED AR HYD LLWYBR ARFORDIR CYMRU. TYNNWCH DDIM OND LLUNIAU, GADEWCH DDIM OND OLION TRAED, LLADDWCH DDIM OND AMSER

M

ae dŵr môr yn llifo i’r lagŵn wrth lifo drwy farian ym mhen uchaf y traeth, gan greu pwll o ddŵr lled hallt nad ydyw’n ddŵr halen nac yn ddŵr croyw. Nid oes fawr o anifeiliaid yn gallu byw yma, ond o’r rhai sy’n llwyddo i oroesi, mae 14 o wahanol anifeiliaid ac algâu wedi’u canfod yma - rhai mewn niferoedd uchel - ac mae tair o’r rhain yn rhywogaethau arbenigol, na ellir ond eu canfod mewn lagynau. Er gwaetha’r lleoliad ynysig, mae sawl mater yn effeithio ar y lagŵn. Mae Morfa Gwyllt yn lagŵn fas sy’n dioddef pan ddaw i gysylltiad ag ysbwriel a baw ci. Rydym hefyd yn bryderus am y defnydd o feiciau modur a beiciau cwad ar y marian. Os yw’r marian yn cael ei ddifrodi fe allai atal y môr rhag

mynd i mewn i’r lagŵn ac fe fyddai hyn yn drychinebus. Byddai’r rhan fwyaf o’r anifeiliaid yn diflannu, ac mae’n bosib, ymhen amser, y byddai’r lagŵn ei hun yn diflannu. Rydym eisiau atal hyn, ac rydym wedi dechrau gweithio â’r gymuned i ymdrin â’r materion hyn. Mae’n werth ymweld â’r rhan hon o’r arfordir, ond cofiwch gymryd gofal wrth ymweld â’r safle a’r ardal o’i gwmpas. •

Mae biniau ysbwriel a biniau baw ci ar gael ger y bont, ar Lwybr Arfordir Cymru.

Rydym hefyd yn gofyn i bobl gymryd gofal pan fônt ar y marian neu yn ei ymyl er mwyn sicrhau nad ydyw’n cael ei ddifrodi.


Rhifyn 1 2018 O Dan y Don

EIN DYFRGWN Mae’r dyfrgi yn rhywogaeth nodwedd o ACA Pen Llŷn a’r Sarnau ac mae’n cyfrannu at ddynodiad y safle.

E

r nad ydym yn gwybod faint yn union o ddyfrgwn sydd yn yr ardal, mae tystiolaeth yn awgrymu fod presenoldeb dyfrgwn yn ymestyn trwy ardaloedd mawr o’r ACA, yn enwedig mewn aberoedd ac ardaloedd arfordirol. Gan ddilyn tystiolaeth arolwg, pobl yn eu gweld, ac achosion ble mae rhai wedi’u lladd ar y ffordd, mae aberoedd Glaslyn/ Dwyryd a Dyfi yn dangos arwyddion bod dyfrgwn yn eu defnyddion rheolaidd, ac mae afonydd Soch, Rhydhir, Erch, Dwyfor, Artro a Dysynni oll yn cael eu defnyddio gan ddyfrgwn. Mae gan ddyfrgwn ardaloedd bwydo pwysig yn yr ACA, gyda’r prif ardaloedd hela yn cael eu dewis yn sgil addasrwydd y cynefin a phresenoldeb rhywogaethau ysglyfaeth. Mae dyfrgwn yn anifeiliaid y nos neu’r dydd, ymddygiad a allai fod wedi datblygu wrth iddynt gael eu haflonyddu a’u herlid. Yn sgil eu natur

llechwraidd, nid ydym yn gwybod faint o ddyfrgwn sy’n bridio sydd yn yr ACA. Fodd bynnag, rydym yn gwybod fod Pen Llŷn a’r Sarnau’n cynnig amrywiaeth o gynefinoedd a allai fod yn addas ar gyfer dyfrgwn er mwyn iddynt fyw a bridio ynddynt. Yn ystod y 1960au a’r 70au, gwelwyd dirywiad cyflym yn niferoedd y dyfrgi yn dilyn achosion o wenwyno gan blaleiddiaid organoclorin. Bu i hela a cholli cynefinoedd waethygu’r dirywiad. Bellach, mae dyfrgwn yn adennill eu tir yn araf bach, gydag ail-goloneiddio’n profi’n fwy llwyddiannus mewn afonydd nac ardaloedd morol. Mae presenoldeb mynych dyfrgwn yn yr ACA’n golygu ei bod yn safle cadwraeth arbennig i’r rhywogaeth. Yn 2018, bydd ACA Pen Llŷn a’r Sarnau yn lansio prosiect newydd i ymchwilio i’r materion sy’n effeithio ar ddyfrgwn, a phenderfynu beth sydd angen ei wneud i’w hamddiffyn.

3 FFAITH DDIDDOROL AM DDYFRGWN GALL DYFRGWN GAU EU CLUSTIAU A’U TRWYNAU PAN FÔNT O DAN DDŴR. YN BENNAF, MAE DYFRGWN YN BWYTA PYSGOD, BROGAOD, ADAR Y DŴR, MAMALIAID BYCHAIN A CHRAMENOGION BYCHAIN, MEGIS CIMYCHIAID AFON MAE’R RHAN FWYAF O DDYFRGWN YM MHRYDAIN YN BRIDIO YN Y GWANWYN, ER Y GALL Y RHAI YNG NGOGLEDD YR ALBAN FRIDIO YN YR HYDREF HEFYD. MAE’R FAM YN CARIO EI RHAI BACH AM NAW WYTHNOS CYN RHOI GENEDIGAETH I UN NEU DDAU O RAI BACH.

9


10

O Dan y Don Rhifyn 1 2018

Y gwely morwellt ym Mhorthdinllaen yw un o’r mwyaf a’r dwysaf yng Nghymru ac mae’n gorchuddio ardal o oddeutu 286,350m2. Ar lanw isel, gallwch weld y morwellt yn ymestyn allan fel carped tua’r bae.

PROSIECT MORWELLT PORTHDINLLAEN Mae Porthdinllaen yn bentref bychan, ynysig sy’n gorwedd ar arfordir gogleddol Pen Llŷn. Llond llaw o adeiladau a thai sydd yn y pentref, gyda thŷ tafarn yn y canol.

Y

n sgil y bae cysgodol a’r angorfa, porthladd pysgota mawr oedd Porthdinllaen yn wreiddiol. Heddiw, mae’n cefnogi llestrau pysgota bychan a sawl llestr hamdden. Mae hefyd yn gartref i fad achub yr RNLI ac mae’n hafan i’r rhai sydd angen lloches mewn tywydd stormus. Mae Porthdinllaen yn enwog am ei dirwedd, ei forwedd a’i fywyd gwyllt. Ceir cyfoeth o gynefinoedd a bywyd gwyllt, gan gynnwys morwellt, yn y bae. Y gwely morwellt ym Mhorthdinllaen yw un o’r mwyaf a’r dwysaf yng Nghymru ac mae’n gorchuddio ardal o oddeutu 286,350m2. Ar lanw isel, gallwch weld y morwellt yn ymestyn allan fel carped tua’r bae. Mae morwellt yn blanhigyn sy’n blodeuo ac mae’n tyfu’n bennaf ar lannau mwdlyd a thywodlyd, ond fe all fyw dan ddŵr mewn lleoliadau dŵr bas, megis Porthdinllaen, ble mae’r dŵr yn glir. Mae gan forwellt ddail gwyrdd fel rhubanau, tua 1cm o led, sy’n edrych yn debyg iawn i laswellt ar y tir. Fel planhigion blodeuol a geir ar y tir, mae’r morwellt yn cynhyrchu blodau,

ffrwythau a hadau, ac oherwydd bod ganddynt wreiddiau tanddaearol, maent yn cyfrannu ocsigen i’r dyddodion ble y tyfant gan wneud y mannau hyn yn gynefin gwych i anifeiliaid bychan. Yn ogystal, maent angen llawer o oleuni i dyfu a chysgod oddi wrth straen ffisegol megis gan donnau a cherrynt cryf. Oherwydd hyn, dim ond mewn harbyrau, aberoedd a baeau cysgodol iawn y’i ceir ble y bydd yn ffurfio gwelyau neu ddolydd trwchus. Er bod morwellt yn gallu goroesi o gwmpas y DU i gyd, yn y ganrif ddiwethaf collwyd o leiaf 80% o forwellt y DU, yn bennaf oherwydd afiechyd. Mae ansawdd dŵr gwael, datblygiad arfordirol, carthu, llygredd ac aflonyddu cyson lleol gan weithgareddau arfordirol wedi llesteirio adferiad y morwellt ac mewn nifer o ardaloedd, wedi cyfrannu tuag at ei ddirywiad. Mae morwellt wedi’i adnabod fel cynefin prin yn genedlaethol yn y DU ac nid yw ond i’w gael mewn ychydig o fannau cysgodol ar hyd yr arfordir, megis Porthdinllaen. Mae cychod sy’n angori a morwellt

EFFAITH CERBYDAU Rydym yn gweithio gyda physgotwyr lleol sy’n defnyddio’r bae, i leihau effaith cerbydau ar y morwellt islanwol.


Rhifyn 1 2018 O Dan y Don

Planhigyn blodeuol yw morwellt sy’n tyfu gan amlaf ar draethau lleidiog a thywodlyd ond gall fyw yn gyfan gwbl dan y dŵr mewn lleoliadau dŵr bas.

Mae morwellt wedi’i adnabod fel cynefin prin yn genedlaethol yn y DU ac nid yw ond i’w gael mewn ychydig o fannau cysgodol ar hyd yr arfordir, megis Porthdinllaen.

Mae Prosiect Morwellt Porthdinllaen yn gweithio gyda nifer fawr o bartneriaid, i gasglu gwybodaeth a datblygu dewisiadau rheoli fydd yn gweithio i bawb.

yn hoff o’r un amodau cysgodol. Mae mwy na 90 angorfa o fewn ac o gwmpas y morwellt ym Mhorthdinllaen. Mae delweddau o’r awyr ac arolygon plymio wedi dangos bod hyn yn effeithio ar y gwely morwellt. Wrth i gadwyni angori ysgubo ar draws gwely’r môr, maent yn rhwygo’r morwellt ac yn ei greithio. Nid yn unig bod hyn yn arwain at golli cynefin morwellt, ond mae hefyd yn gwneud y gwely morwellt yn ddarniog ac yn llai abl o ymdopi â newid megis amodau stormus. Mae gweithgareddau eraill yn

effeithio arno megis llif o faetholion a’r defnydd o gerbydau.

yn rheoli’r morwellt mewn dull cytbwys. Rydym angen lleihau ein heffaith ar y morwellt a chynorthwyo’r adferiad, ond rydym hefyd angen sicrhau y gall pobl barhau i ddefnyddio a mwynhau’r bae. Mae Prosiect Morwellt Porthdinllaen yn gweithio gyda’r gymuned leol, ynghyd â nifer o bartneriaid a defnyddwyr, i gasglu gwybodaeth a datblygu dewisiadau rheoli sy’n gweithio i bawb.

Mae colli morwellt ym Mhorthdinllaen yn destun pryder yn sgil y swyddogaeth allweddol mae’n ei chwarae fel meithrinfa i bysgod, sinc carbon ac o ran amddiffyn y traethlin. Yn ogystal, mae’n bwysig o ran cynhyrchu ocsigen a hidlo dŵr. Mae Porthdinllaen yn lle arbennig am sawl rheswm. Mae’n hanfodol ein bod

11


12

O Dan y Don Rhifyn 1 2018

Fel planhigion blodeuol y tir, mae morwellt yn cynhyrchu blodau, ffrwyth a hadau ac, oherwydd y system gwreiddiau tanddaearol maent yn cyfrannu ocsigen i’r gwaddod lle maent yn tyfu, sydd yn gwneud yr ardaloedd yma yn gynefinoedd gwych i anifeiliaid bychan

MAE PORTHDINLLAEN YN FEITHRINFA! MAE PRIFYSGOL ABERTAWE WEDI AROLYGU’R MORWELLT YM MHORTHDINLLAEN DROS NIFER O FLYNYDDOEDD AC WEDI CANFOD MWY NA 30 RHYWOGAETH GWAHANOL O BYSGOD YNO. PYSGOD IFANC OEDD Y RHAN FWYAF O’R RHAIN GYDAG O LEIAF 10 RHYWOGAETH O WERTH MASNACHOL WEDI’U CANFOD.

ADDASU ANGORFEYDD RYDYM YN YMCHWILIO I FFYRDD O ADDASU’R ANGORFEYDD I LEIHAU EU HEFFAITH. RYDYM YN YMCHWILIO I SYNIADAU MEGIS RHOI FFLOTIAU AR Y CODWR, A LAPIO’R GADWYN I WELD BETH ALLAI WEITHIO YM MHORTHDINLLAEN. RYDYM ANGEN SICRHAU NA FYDD UNRHYW NEWID A WNEIR YN EFFEITHIO AR GYFANRWYDD Y SYSTEM ANGORI.

HOFFECH CHI WYBOD MWY?

OS HOFFECH CHI FWY O WYBODAETH, OS OES GENNYCH UNRHYW SYNIADAU NEU OS YR HOFFECH GYMRYD RHAN, YNA RHOWCH WYBOD I NI. MAE EIN HOLL FANYLION CYSWLLT I’W GWELD AR DUDALEN 2


Rhifyn 1 2018 O Dan y Don

YMWELYDD GWENWYNIG:

CHWYSIGOD Y MÔR (PORTUGUESE MAN OF WAR) Rydym yn clywed nifer cynyddol o adroddiadau am achosion ble mae chwysigod y môr yn cael eu gweld yng Ngogledd a De Cymru, yn enwedig ym Mae Ceredigion a’r Mwmbwls. Yn ôl arbenigwyr, 2017 yw’r flwyddyn pan olchwyd y nifer fwyaf ohonynt i’r lan ers blynyddoedd. Dyma duedd pryderus o ystyried bod gan y rhywogaeth hwn o’r Seiffonoffor - grwp o anifeiliaid sy’n perthyn i sglefrod môr - bigiad poenus, ac mewn achosion prin, fe all fod yn angeuol.

D

yma ffeithiau allweddol am chwysigod y môr, ac awgrymiadau ar sut i sicrhau eich bod chi a’ch teulu (gan gynnwys y ci!) yn aros yn ddiogel.

BETH YW CHWYSIGOD Y MÔR? Nid sglefren fôr yw Chwysigen y Môr, mae’n hydrosoan morol o’r teulu Physaliidae. Daw’r enw o siâp ei hwyl, sy’n edrych, pan fo’n chwyddedig, fel llong frwydr o Bortiwgal sy’n dyddio’n ôl i’r 18 Ganrif. Gweler y rhywogaeth hon yng Nghefnfor yr Iwerydd, Cefnfor India a’r Cefnfor Tawel.

SUT MAEN NHW’N EDRYCH? Fel mae’r enw’n awgrymu, mae’r chwysigod yn edrych fel llong frwydr o Bortiwgal sy’n dyddio’n ôl i’r 18 Ganrif

pan mae’n chwyddedig. Maent yn lliw glas-biws tryloyw ac fe allant fod hyd at 30cm o hyd, ac ymestyn cyhyd â 25cm uwchben y dŵr.

PAM FOD RHAIN WEDI BOD YN CAEL EU GOLCHI I’R LAN? Mae’r cynnydd yn y niferoedd sy’n cael eu gweld wedi digwydd yn sgil cyfuniad o ddylanwadau, ond efallai mai’r prif ffactor yw’r tywydd eithafol ar draws y byd. Mae gwyntoedd cryfion wedi bod yn eu chwythu mewn cyfeiriad deorllewinol tuag at Arfordir Cymru, sy’n gweithredu fel twmffat ac yn eu dal.

PAM EU BOD YN BERYGLUS? Mae chwysigod y môr yn wenwynig, ac fe allant roi pigiad niweidiol i chi os byddwch yn eu cyffwrdd. Mae’r

gwenwyn yn cynnwys cyfuniad o asidau amino sy’n unigryw i chwysigod y môr ac mae’n ei ddefnyddio i barlysu ysglyfaeth; gall y pigiad fod yn farwol i fodau dynol os ydynt yn dioddef o adwaith alergol, neu os oes ganddynt gyflwr presennol. Mewn achosion prin, gall y pigiad achosi gwres, sioc a newidiadau yng ngweithrediad y galon a’r ysgyfaint.

BETH I’W WNEUD OS YDYCH YN GWELD UN? Y peth pwysicaf yw peidio â chyffwrdd chwysigen y môr. Hyd yn oed os ydyw’n farw, gall ddal roi pigiad annymunol. Gan fod chwysigen y môr yn edrych fel balŵn heb aer ynddi, gall fod yn ddeniadol i blant, felly ceisiwch gadw plant ac anifeiliaid anwes draw ohonynt.

13


14

O Dan y Don Rhifyn 1 2018

BETH YW SEIFFONOFFOR? Er bod seiffonoffor, megis chwysigod y môr, yn edrych fel un organeb sengl, mewn gwirionedd mae’n drefedigaeth o unigolion bychan a elwir yn söoidau. Mae pwrpas i bob söoid yn y drefedigaeth, er enghraifft, efallai bod rhai yn gweithredu i amddiffyn y drefedigaeth, eraill er mwyn ei bwydo ac eraill er mwyn atgynhyrchu - gan gydweithio i sicrhau fod y drefedigaeth yn goroesi. Mae’r söoidau hyn mor arbenigol fel na fyddent yn goroesi ar eu pennau eu hunain. Gallant glystyru neu ffurfio tentaclau hir megis tentaclau pigog chwysigod y môr a all ymestyn hyd at 30m o hyd! Y seiffonoffor enfawr (Praya dubia) yw un o’r anifeiliaid hiraf yn y byd ac fe all ymestyn hyd at 50m o hyd.


Rhifyn 1 2018 O Dan y Don

“YSBWRIEL TANLLYD” – PAM FOD

15

RHYDDHAU BALWNAU A LLUSERNAU TSIEINEAIDD YN CAEL MWY O EFFAITH NA FYDDECH YN EI FEDDWL...

Beth ddaw i’ch meddwl pan ydych chi’n meddwl am falwnau a llusernau Tsieineaidd? Harddwch? Hud? Coffadwriaeth? Dathlu? Efallai, fodd bynnag, y gallant hefyd fod yn hynod niweidiol i’r amgylchedd. Mewn ardaloedd ledled y DU, mae Awdurdodau Lleol wedi gwahardd rhyddhau balwnau a llusernau Tsieineaidd yn sgil nifer yr effeithiau andwyol y maent yn eu hachosi. Maent hefyd yn broblem o fewn ACA Pen Llŷn a’r Sarnau, ac mae’r Swyddog ACA yn ceisio gweithio â’r Awdurdodau Lleol perthnasol i annog gwaharddiad ledled siroedd yr ACA.

PAM FOD BALWNAU A LLUSERNAU’N BROBLEM?

1

Perygl tân: Mae llusernau Tsieineaidd yn peri perygl tân difrifol. Mae llusernau’n cael eu cynnau yn ystod dathliadau neu wrth gofio am rywun ac yna’n cael eu rhyddhau i’r aer. Wrth gwrs, mae’n rhaid i’r llusernau lanio yn rhywle, ac os ydynt yn dal ar dân, gallai hyn achosi tân. Gallai hyn fod yn benodol drychinebus pe byddai’r llusern yn glanio mewn deunydd fflamadwy, megis gwair, neu mewn ardal gymunedol. Mae llusernau ar eu mwyaf peryglus yn ystod misoedd sychach yr haf, ac mae achosion wedi bod yn y gorffennol ble mae gerddi a thoeau wedi’u llosgi.

2

Niweidio’r amgylchedd: Mae taflu ysbwriel ar y llawr yn drosedd y gallech gael dirwy amdani. Fodd bynnag, nid yw rhyddhau llusernau a balwnau i’r aer yn cael ei ystyried fel taflu ysbwriel, er y gallant niweidio bywyd gwyllt a’r amgylchedd yn ddifrifol. Allan ar y môr, gall anifeiliaid dagu neu gael eu clymu; gall crwbanod y môr, er enghraifft, gamgymryd balwnau am sglefrod y môr, a’u llyncu’n gyfan. Mae hyn yn achosi bloc yn system dreulio’r crwban môr ac yna gall hyn beri iddo lwgu, a marw. Mae balwnau a llusernau hefyd yn effeithio ar anifeiliaid amaethyddol, gan eu bod yn pori ac yn tagu ar y gweddillion.

3

Camgymryd am ffaglau (cam-rybudd): Gall llusernau Tsieineaidd achosi camrybudd i Wylwyr y Glannau a’r RNLI. Maent yn cael eu camgymryd am ffaglau wrth iddynt chwyrlio yn yr aer. Mae’r RNLI wedi sylwi ar gynnydd yn nifer yr achosion pan fo’r bad achub yn cael ei alw allan o ganlyniad i lusernau. Hefyd, mae gweddillion y llusernau a’r balwnau yn glanio fel ysbwriel ar draethau, gan olygu bod angen i rywun lanhau’r llanast.

4

Perygl i awyrennau: Mae awdurdodau awyrennau sifil wedi adrodd am y risg o falwnau a llusernau’n cael eu sugno i mewn i’r injan wrth hedfan. Hefyd, gallai llusernau ddifrodi injan, teiars a chorff yr awyren ar y ddaear. Mae risg tân arwyddocaol yn gysylltiedig a llusernau’n glanio ger tanciau tanwydd awyrennau. MAE TRAEAN O WASANATHAU BRIGAD DÂN PRYDAIN WEDI DWEUD EU BOD WEDI DERBYN GALWADAU BRYS I FYND I DDIFFODD LLUSERNAU OHERWYDD Y BYGYTHIAD MAE BALWNAU’N EI BERI I FYWYD GWYLLT, MAE DROS 20 AWDURDOD LLEOL YN Y DU WEDI’U GWAHARDD RHAG CAEL EU RHYDDHAU GALL BALWNAU DAGU NEU GLYMU BYWYD GWYLLT, GAN ACHOSI ANAF IDDYNT NEU HYD YN OED ACHOSI EU MARWOLAETH


16

O Dan y Don Rhifyn 1 2018

Rhai o’r cymeriadau lliwgar y gellir eu gweld mewn pyllau creigiog o gwmpas yr ACA Chwith uchaf: Cranc melfed Chwith isaf: Anemoni nadreddog Tudalen dde: Tompotiaid


Rhifyn 1 2018 O Dan y Don

17


O Dan y Don Rhifyn 1 2018

LAST THE

W STRA

na u. c

W I’R G

YN

ELLT

W Â’R G ELLT

ynarsar

.uk • ww u.co w.p na e ar

rnau.co.u arsa k• lyn ll .pen ww w

nl

• uk o.

www.penlly na rs

18

I’R GWELLT Â’R GWELLTYN

Rydym yn gwybod pa mor hardd yw arfordir Pen Llŷn a’r Sarnau, ac rydym yn edrych ymlaen i ddathlu hyn, a phrydferthwch arfordir Cymru gyfan, yn ystod Blwyddyn y Môr y flwyddyn nesaf. Fodd bynnag, rydym yn gynyddol ymwybodol o ysbwriel morol ar ein glannau, a’r her fyd-eang yr ydym yn ei wynebu i ddod â’r broblem hon i ben. Mae hyd at 12.7 miliwn tunnell o blastig yn mynd i mewn i gefnforoedd y byd bob blwyddyn. Mae hyn gyfwerth a gollwng un llond lori ludw o blastig bob munud i mewn i gefnforoedd y byd (Rhaglen Amgylcheddol y Cenhedloedd Unedig 2017).

M

ae ysbwriel morol yn denu sylw’r byd ac mae hyn yn wir ym Mhen Llŷn a’r Sarnau hefyd. Ni allwn hyrwyddo’n moroedd a’n harfordir godidog heb dderbyn bod yr her hon yn bodoli a bod angen gwneud rhywbeth amdani.

Mae prosiect ysbwriel ar y gweill yng Nghricieth, tref sy’n enwog am ei hanes cyfoethog, o’i chastell i’w hufen iâ blasus, er, yn dorcalonnus, mae Cricieth yn dod yn gynyddol adnabyddus am ei phroblemau ysbwriel. Oherwydd lleoliad y dref, mae Cricieth yn wynebu’r prifwynt a llanw cryf, ac mae hyn yn golygu bod llawer iawn o ysbwriel morol yn cael ei olchi i’r lan ar y traeth yno. Dengys ystadegau o UNEP bod 60-90% yr ysbwriel a ganfyddir ar draethau yn blastig ac nid yw Traeth Morannedd, Cricieth yn eithriad. Mae Prosiect Ecosystemau Morol Llŷn yn arwain prosiect cymunedol i lanhau’r traeth a’r cyffiniau, ynghyd â lleihau faint o ysbwriel mae’r dref yn ei greu. Mae’r Cyngor Tref wedi bod yn rhan o hyn ers y cychwyn cyntaf ac mae gwir ymdeimlad o ysbryd cymunedol a pherchnogaeth o’r prosiect. Mae rhan o’r traeth yn

cael ei fonitro’n rheolaidd, gan ddilyn methodoleg y Gymdeithas Cadwraeth Forol, ac mae’r data yn cael ei ychwanegu i werth 20 mlynedd o dystiolaeth. Ar ôl pob sesiwn, mae bwyty Dylan’s yng Nghricieth yn cyfrannu paned a chacen i bob gwirfoddolwr, felly nid yn unig fod gwirfoddolwyr yn teimlo’n dda am wneud eu rhan, cânt gymdeithasu dros baned a chacen am ddim ar yr un pryd...beth gewch chi’n well?! Mae Dylan’s wedi bod yn hynod barod

eu cymorth gyda’r prosiect hwn, nid dim ond drwy ddarparu lluniaeth am ddim ond am gytuno hefyd i ofalu am yr orsaf #2minutebeachclean gyntaf yng ngogledd Cymru. Mae’r bwrdd yn orsaf glanhau traethau, gyda phoced arno yn dal teclynnau codi ysbwriel a bagiau. Bwriad yr orsaf yw hwyluso pethau er mwyn i’r cyhoedd helpu i lanhau’r traeth, hyd yn oed os nad ydynt ond yn gwneud hynny am ddau funud, yna postio llun ar y gwefannau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #2minutebeachclean, fel enghraifft i eraill. Gosodwyd yr orsaf glanhau traethau gyntaf yn nhraeth Crooklets yn Bude, gogledd Cernyw, ym mis Medi 2014. Ers hynny, mae dros 200 o orsafoedd wedi’u gosod ledled y DU ac Iwerddon, gyda Chricieth yn gartref i’r gyntaf yng ngogledd Cymru. Meddai David Evans, Cyfarwyddwr Dylan’s:


Rhifyn 1 2018 O Dan y Don

Yn 1997, syrthiodd 4.8miliwn o deganau Lego oddi ar longau cludo’r Tokio Express. Mae’r darnau Lego yn cael eu golchi i’r lan o hyd ac fe ellir eu canfod ar draethau gogledd Cymru. Nid yw plastig fyth yn diflannu, yr unig beth sy’n digwydd iddo yw ei fod yn torri i lawr yn ddarnau llai - yn y pen draw mae’n mynd yn ddarnau microsgopig ac yn cael ei fwyta gan blancton. Mae llygredd plastig yn crynhoi mewn ardaloedd a elwir yn gylchdroeon (gyres), sy’n cael eu hachosi gan geryntau cefnforoedd. Gelwir un cylchdro yn y Cefnfor Tawel yn “Great Pacific Garbage Patch” ac mae bron 6 gwaith yn fwy na maint y DU. Credir bod mwy na miliwn o adar y môr ac oddeutu 100,000 o famaliaid morol yn cael eu lladd gan blastig bob blwyddyn.

“Rydym wastad yn awyddus iawn i gymryd rhan mewn prosiectau sy’n helpu i warchod yr amgylchedd arfordirol. Ers i ni agor yng Nghricieth, rydym wedi bod yn cefnogi sesiynau rheolaidd i lanhau traethau cymunedol. Mae’r bwrdd #2minutebeachclean yn ffordd arall wych o annog ein cwsmeriaid ac ymwelwyr i’r dref i wneud eu rhan i gadw eu traethau lleol yn lân.” Ychwanegodd y Cynghorydd Robert Dafydd Cadwalader: “Mae Cyngor Tref Cricieth yn rhan o’r sesiynau rheolaidd glanhau traethau a’r sesiynau monitro ysbwriel a drefnir gan Brosiect Ecosystemau Morol Llŷn. Mae rhai cerddwyr ac ymwelwyr eisoes yn codi ysbwriel a bydd hyn yn annog mwy i ymuno. Dyma syniad gwych ac mae’r cyngor yn ei gefnogi’n llawn.” Gellir dweud mai’r rhan fwyaf dylanwadol o’r prosiect hwn yw’n

hymgyrch i’r Gwellt â’r Gwelltyn. Mae’r prosiect wedi casglu bagiau’n llawn o blastig, gan ddarparu data gwerthfawr am y math o blastigion sydd i’w canfod ar ein traethau. Mae gwellt plastig yn andwyol i’r amgylchedd, mae llawer yn mynd i domenydd, mae llawer yn mynd i mewn i’n moroedd ac mae llawer wedi’u casglu gan ein gwirfoddolwyr ym Morannedd. Wrth gwrs, nid dim ond o Gricieth mae’r gwellt yr ydym yn eu codi yn dod, ond o bob cwr o’r byd. Mae’r gwirfoddolwyr yn awyddus i gael Cricieth yn ddi-wellt plastic fel rhan o’r prosiect hwn. Felly, rydym yn ceisio cael pob bwyty, tafarn a chaffi i roi’r gorau i ddefnyddio gwellt plastig. Rydym wedi gofyn i dafarndai, bwytai a chaffis yng Nghricieth ymrwymo i orffen eu stoc o wellt plastig a newid i rai bioddiraddadwy. Hyd yma, mae 10 o fusnesau wedi ymrwymo i’r ymgyrch ac mae’r nifer hwnnw yn parhau i gynyddu. Yn sgil llwyddiant y gwaith hwn a’r

cyhoeddusrwydd mae wedi’i dderbyn, mae cymunedau, busnesau ac ysgolion lleol eraill wedi mynegi diddordeb mewn ymuno â’r prosiect. Ar ôl cynnal sgwrs yn Ysgol Tudweiliog ym Mhen Llŷn, penderfynodd y disgyblion y byddai’r ysgol yn rhoi’r gorau i brynu gwellt plastig. Yn ôl y pennaeth, Mrs Einir Davis, “Cawsom sesiwn wych gyda Catrin oedd yn rhannu gwybodaeth am ardal cadwraeth Pen Llŷn a’r Sarnau a phwysigrwydd gwarchod y bywyd gwyllt arbennig sydd o’n cwmpas. Ar ddiwedd y cyflwyniad, penderfynodd y disgyblion ein bod am roi’r gorau i ddefnyddio gwellt plastig yn ystod egwyl y bore a dechrau defnyddio gwellt bioddiraddadwy gwyrdd. Syniad gwych blant!” Rydym mor falch o Ysgol Tudweiliog a gobeithiwn y bydd yr agwedd bositif hon yn cynyddu wrth ymdrin â’r her hon, ym Mhen Llŷn a’r Sarnau a ledled y byd.

19


20

O Dan y Don Rhifyn 1 2018

PROSIECT ECOSYSTEMAU MOROL LLŶN Mae’r prosiect hwn wedi’i leoli ym Mhen Llŷn ac mae’n seiliedig ar waith Ardal Cadwraeth Arbennig Pen Llŷn a’r Sarnau (ACA). Deillia’r prosiect yma o adroddiad a gynhyrchwyd gan Gymdeithas Pysgotwyr Cymru. Cynigiodd yr adroddiad ddull o reoli’r môr i wella ein dealltwriaeth o’r amgylchedd morol a hyrwyddo adferiad a gwytnwch ecosystemau heb gael effaith andwyol ar bysgotwyr lleol. Mae’r dull hwn yn diogelu bywyd diwylliannol ac economaidd ac yn amddiffyn pysgodfeydd traddodiadol a gweithgareddau hamdden. Felly, mae ACA Pen Llŷn a’r Sarnau a Chymdeithas Pysgotwyr Cymru yn arwain y prosiect ar y cyd. Mae hyn yn dangos y gall cadwraeth a’r diwydiant pysgota fynd law yn llaw ac mae’n rhoi pwyslais mawr ar gyd-reoli ac ymgynghori.

heddlu am unrhyw achosion ble mae bywyd gwyllt yn cael ei aflonyddu.

Cynhyrchodd cam cychwynnol y prosiect adroddiad yn edrych ar: • ysbwriel morol a physgodfeydd o gwmpas Llŷn • y gofyn am declynnau gwrthfamaliaid morol ar gyfarpar pysgota yn ardal Llŷn • Côd Morol i lestrau hamdden yng Ngwynedd • materion cyd-reoli pysgodfeydd môr a dull sy’n seiliedig ar ecosystemau yn ardal leol Llŷn

Meddai Steven Harrison, pysgotwr lleol sy’n gwerthu ei ddalfa yn siop sglodion Sblash yn Aberdaron: “Dyma enghraifft wych o sut all y diwydiant pysgota weithio â chyrff cadwraeth i ganfod dull effeithiol ar y cyd o gadw a rheoli ein amgylchedd morol cyfoethog fel y gall cenedlaethau’r dyfodol barhau i elwa ohono a’i fwynhau.”

Enghraifft wych o’r dull ar y cyd hwn yw’r ffaith bod pysgotwyr Llŷn yn ein cynorthwyo i ledaenu’r neges am sut i ddefnyddio dyfroedd arfordirol heb aflonyddu ar fywyd gwyllt. Mae Cymdeithas Pysgotwyr Cewyll Llŷn wedi cytuno i rannu ein côd morol gyda defnyddwyr cychod hamdden a llestrau personol. Hefyd, mae’r pysgotwyr wedi cytuno i adrodd i’r

Meddai Molly Lovatt, swyddog cyllido partneriaethau Cyfoeth Naturiol Cymru; “Mae’r pysgotwyr allan ar y môr am gyfnodau maith, ac maent yn y sefyllfa orau i hyrwyddo’r côd morol ymysg defnyddwyr cychod hamdden ac adrodd am ymddygiad anghyfrifol os oes angen. “Rydym yn hynod werthfawrogol am eu cymorth gan y bydd yn fanteisiol i fywyd gwyllt morol, ac yn creu amgylchedd mwy dymunol i bobl leol ac ymwelwyr hefyd.”

Mae Prosiect Ecosystemau Morol Llŷn yn parhau i weithio i helpu cyflwyno prosiectau penodol gan ganolbwyntio ar gyfathrebu a chydweithio a diwydiant pysgota lleol Llŷn.


Rhifyn 1 2018 O Dan y Don

21


22

O Dan y Don Rhifyn 1 2018

GWYLIO DOLFFINIAID - STORI’R GWIRFODDOLWR Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae ein Prosiect Gwylio Dolffiniaid wedi gweld gwirfoddolwyr yn mentro allan i fonitro poblogaeth ddolffiniaid Pen Llŷn a’r Sarnau. Cesglir data gwerthfawr drwy’r prosiect, sy’n dibynnu ar ymroddiad tîm o wirfoddolwyr megis Becky Price. Dyma brofiad Becky o gymryd rhan yn y prosiect Gwylio Dolffiniaid...


Rhifyn 1 2018 O Dan y Don

G

an wylio’n ofalus, a chodi a gostwng fy minocwlars, rwyf yn canolbwyntio ar doriad bychan yn y tonnau. Eisteddaf yn amyneddgar am dri-chwarter-awr dda, ond does dim yn digwydd. Eisteddaf wrth ymyl fy mhartner, Tommy, sydd â chlipfwrdd yn ei law, sydd hefyd yn gwylio’r môr ar brynhawn Sul godidog ym mis Gorffennaf. Rydym yn eistedd ar graig ar hyd rhan boblogaidd o Lwybr Arfordir Cymru rhwng Abersoch a Phorth Ceiriad, yn chwilio am yr arwyddion bod dolffiniaid a llamhidyddion yn yr ardal. Rydym yn gweld dolffiniaid sawl tro o’r lleoliad hwn drwy gydol y flwyddyn, a nawr, yn ddigon priodol, dyma’r lleoliad cyntaf ar gyfer Cynllun Gwylio Dolffiniaid Pen Llŷn a’r Sarnau. Rwyf yn cadw fy ngolygon ar doriad yn y tonnau, yn sganio arwyneb y môr. Mae fy slot dwy awr bron ar ben, a’m pen-ôl bron yn ddiffrwyth, ond yn sydyn, gwaedda Tommy “Dolffiniaid!!” Mae newydd weld criw bychan o ddolffiniaid trwynbwl (Tursiops truncates) yn dod i’r wyneb ger Ynysoedd Tudwal. Mae fy llygaid yn lledu gyda mwynhad wrth i mi weld eu hesgyll cefn yn codi a gostwng drwy’r dŵr. Rwyf wrth fy modd wrth i mi eu gwylio gyda’r teimlad twymgalon sy’n tyfu y tu mewn i mi. Mae’n brofiad cwbl swreal. Mae Bae Ceredigion a’r dyfroedd o amgylch Pen Llŷn yn gartref i boblogaeth fawr o ddolffiniaid trwynbwl arfordirol, ac yn flynyddol mae rhwng dau a thri chant ohonynt yma, ac roeddem ni newydd weld criw ohonynt.

COFNODI’R DYSTIOLAETH Rydym yn cadw ein golwg ar y dolffiniaid pan glywn ni sŵn mwmian - mae llu o jet skis ar y ffordd. Fe’u gwelwn yn mynd heibio i’r dolffiniaid, yn agos at ble maent yn nofio. Rwyf yn dechrau gweddïo bod y sgiwyr yn sylwi ar y dolffiniaid ac yn dilyn Côd Morol Gwynedd. Maent yn dechrau arafu, a sefyll i fyny oddi ar eu seddi a syllu ar y dŵr. Roeddynt wedi gweld y dolffiniaid; mae hynny’n sicr. Dechreuaf deimlo rhyddhad, gan feddwl eu bod wedi arafu i lawr er mwyn peidio ag amharu arnynt,

fodd bynnag, maent yn troi rownd 90 gradd ac yn dechrau gyrru’r sgis tuag at y criw. Dydyn nhw ddim yn dilyn y côd morol. Gwyliaf gydag anghrediniaeth ac ysgrifennaf i lawr yn ddigalon beth oedd yn digwydd reit o fy mlaen. Dyma pam ein bod i yma; i benderfynu p’un a yw Côd Morol Gwynedd (sy’n wirfoddol) yn cael ei ddilyn. Nid dim ond chwilio am ddolffiniaid a llamhidyddion ydym ni; rydym yn sylwi ar eu lleoliad, maint eu grŵp a’u gweithgarwch ar fap (gydag un map ar gyfer pob 15 munud o arolygu). Wrth ddefnyddio mapiau, bydd modd gweld gwybodaeth ynghylch sut mae dolffiniaid yn defnyddio rhannau amrywiol o bob safle, a ble mae’r mwyafrif o gysylltiadau â chychod yn digwydd. Cesglir gwybodaeth ar sut mae defnyddwyr cychod yn ymddwyn o amgylch dolffiniaid hefyd, ac fe’u cyfeirir yn uniongyrchol at God Ymddygiad Gwynedd.

“Defnyddiwch ysbienddrych neu delesgop yn ogystal â’ch llygaid i weld dolffiniaid. Mae hyn yn rhoi gwell siawns i chi eu gweld o bell!” -Mandy Price Ymddiddori mewn bywyd gwyllt

23


24

O Dan y Don Rhifyn 1 2018

GWYLIO DOLFFINIAID A’R CÔD MOROL Mae ACA Bae Ceredigion a Chyngor Ceredigion wedi bod yn rhedeg cynllun Gwylio Dolffiniaid llwyddiannus ym Mae Ceredigion am nifer o flynyddoedd; fodd bynnag, dim ond yn ei hail flwyddyn mae’r cynllun yng Ngwynedd. Roedd hyn yn fy synnu o ystyried bod nifer cynyddol o lestrau dŵr yn nyfroedd Cymru sy’n debygol o ddod i gyswllt a dolffiniaid. Mae dolffiniaid ac anifeiliaid morfilaidd eraill yn hynod sensitif i weithgareddau difeddwl bodau dynol; ar ôl clywed adroddiadau bod defnyddwyr llestrau anghyfrifol yn aflonyddu ar ddolffiniaid cafodd y Côd Morol Gwynedd gael ei gyflwyno. Bu i Brosiect Ecosystemau Morol Llŷn, dan arweiniad ACA Pen Llŷn a’r Sarnau a Chymdeithas Pysgotwyr Cymru, gyflwyno’r côd yn 2016. Mae nifer o bobl eraill yn rhan o’r prosiect ac yn ei gefnogi, gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyswllt Amgylchedd Cymru.

“Chwiliwch am yr arwyddion bod dolffiniaid yn yr ardal, megis adar yn bwydo yn cylchdroi o gwmpas lleoliad penodol neu donnau’n symud yn y cyfeiriad ‘anghywir’.” Tommy Taylor Gwirfoddolwr Gwylio Dolffiniaid

Bydd datblygiad y rhaglen Gwylio Dolffiniaid gan ACA Pen Llŷn a’r Sarnau yn sicrhau gwerth ychwanegol drwy fonitro bod pobl yn cydymffurfio gyda’r Côd Morol gwirfoddol yn ogystal â chasglu data gwerthfawr a llenwi bylchau tystiolaeth yn yr ardal. Mae Gwylio Dolffiniaid yn brosiect sy’n dibynnu ar gymorth gwirfoddolwyr ymroddgar sy’n casglu data dros gyfnod o chwe wythnos dros yr haf. Mae Gwylio Dolffiniaid angen mwy o wirfoddolwyr i gynorthwyo i gasglu data pwysig fydd yn cyfrannu at warchod y creaduriaid rhyfeddol hyn. Mae gweld urddas dolffiniaid a llamhidyddion yn rhywbeth heb ei ail, ac rwyf yn falch o ddweud fy mod i’n un o’r gwirfoddolwyr sy’n helpu i’w gwarchod.

AWGRYMIADAU AR SUT I GANFOD DOLFFINIAID! RHOWCH DDIGON O AMSER I CHI EICH HUN Rhaid i chi aros iddynt ddod i’r fei - felly gwisgwch yn gynnes rhag ofn i’r tywydd droi! CADWCH LYGAD AR Y TYWYDD Y diwrnod gorau i’w gwylio yw diwrnod braf ond cymylog - mae gwyntoedd cryf, glaw trwm, tawch, niwl a haul llachar yn ei gwneud yn anodd gweld beth sydd ar arwyneb y dŵr. PACIWCH EICH BINOCWLARS Mewn rhai lleoliadau, mae’n bosib gweld yr anifeiliaid heb finocwlars ond bydd pâr da o finocwlars 7x50 yn cynyddu’r siawns y byddwch yn gweld yn dda. SGANIWCH Y DŴR Sganiwch y dŵr yn araf o’r lan i’r gorwel am yr arwyddion, gan ddefnyddio’ch llygaid moel a’ch binocwlars am yn ail. GWYLIO O’R TIR Rydym yn argymell eu gwylio o’r tir er mwyn osgoi aflonyddu ar yr anifeiliaid. Dilynwch God Morol Gwynedd os ydych yn gwylio dolffiniaid o fadau dŵr. YN BWYSICAF OLL - BYDDWCH YN AMYNEDDGAR! Mae angen amynedd wrth wylio bywyd gwyllt o bob math, a bydd hyn yn cynyddu eich siawns o’u gweld.


Rhifyn 1 2018 O Dan y Don

CÔD MOROL GWYNEDD Nid oes unrhyw beth gwell na crwydro yn yr awyr agored gwyllt. Yr unig beth i’w gofio yw sicrhau ein bod wedi paratoi a’n bod yn parchu yr amgylchedd yr ydym ynddo. Mae aflonyddu ar famaliaid morol yn broblem yn ACA Pen Llŷn a’r Sarnau. Golyga hyn bod anifeiliaid megis dolffiniaid yn cael eu gwthio allan o’u hardaloedd bwydo, gan wastraffu mwy o’u hegni gan, weithiau, gael eu gwahanu oddi wrth eu rhai bach. Mae Côd Morol Gwynedd yn rhoi ychydig o ganllawiau at yr adeg pan fyddwch yn dod i gysylltiad â mamaliaid morol allan ar y môr. Drwy ddilyn y côd, rydych yn lleihau’r tebygolrwydd y byddwch yn aflonyddu arnynt. Bellach, mae’r Côd Morol ar gael yng Ngheredigion, Gwynedd, Ynys Môn a Chonwy. Mae’r holl awdurdodau lleol sy’n rhan ohono wedi cefnogi’r Côd Morol ac wedi ymrwymo i’w ddosbarthu a’i hyrwyddo. Mae’r pedwar Côd Morol yn cynnwys yr un negeseuon ond mae gwybodaeth leol ychwanegol ym mhob un.

18

5

CYFANSWM Y NIFER O RYWOGAETHAU ANIFEILIAID MORFILAIDD SYDD WEDI’U COFNODI YNG NGHYMRU DROS Y TAIR DEGAWD DDIWETHAF

Côd Morol Gwynedd Byddwch yn wyliadwrus gan gadw draw o fywyd gwyllt. Peidiwch â mynd at famaliaid môr, gadewch iddynt ddod atoch chi. Byddwch yn ofalus wrth lywio cychod, gan sicrhau diogelwch y teithwyr a pharchu pobl eraill sy’n defnyddio’r môr. Dolffiniaid, Llamhidyddion a Morloi Os dewch chi ar draws y creaduriaid hyn yn y môr:  Arafwch

yn raddol i’r cyflymder isaf posib. Peidiwch â newid eich cyflymder na’ch cwrs yn sydyn.

 Peidiwch

â llywio’r cwch yn syth atynt na mynd yn nes na 100 medr.

 Peidiwch

â cheisio cyffwrdd y creaduriaid, eu bwydo na nofio â hwy.

 Byddwch

yn arbennig o ofalus wrth osgoi aflonyddu ar anifeiliaid gyda rhai ifainc.

 Peidiwch

â mynd at forloi sy’n gorffwys ar y lan, a pheidiwch â mynd i mewn i ogofâu môr yn y tymor lloea (1 Awst tan 31 Hydref).

 Peidiwch

Y PUM ANIFAIL MORFILAIDD SY’N CAEL EU HADRODD YN FWYAF AML YN NYFROEDD CYMRU YW’R LLAMHIDYDD HARBWR, Y DOLFFIN TRWYNBWL, Y DOLFFIN CYFFREDIN, Y DOLFFIN LLWYD A’R MORFIL PIGFAIN.

Mae’r côd hwn yn berthnasol i bob llong a chwch hamdden yn cynnwys cychod modur, cychod hwylio, dingis, badau personol, caiacau a chanŵod. Dylech gydymffurfio â phob cais gan gychod patrolio lleol a bod yn ymwybodol o derfynau cyflymder o amgylch traethau ymdrochi a safleoedd bywyd gwyllt.

â thaflu sbwriel na chyfarpar

Adar  Cadwch

bridio

draw o’r clogwyni yn y tymor

(1af o Fawrth – 31 Gorffennaf).  Peidiwch

clogwyni.

â gwneud sŵn diangen wrth y

 Cadwch

draw o heidiau adar sy’n gorffwys neu’n bwydo ar y môr.

pysgota i’r môr.  Peidiwch

â gwneud unrhyw sŵn diangen ger yr anifeiliaid.

Noder fod Harbwrfeistri a Swyddogion Rheoli Lansio Gwynedd wedi’u hawdurdodi i dynnu trwyddedau lansio a/neu angori oddi ar gychod ac unigolion nad ydynt yn cadw at reoliadau lleol, is-ddeddfau neu Gôd Morol Gwynedd. Mae’n drosedd i aflonyddu’n fwriadol neu’n ddi-hid ar unrhyw rywogaeth a warchodir (megis dolffiniaid).

www.penllynarsarnau.co.uk @ACA_PLAS_SAC Pen Llŷn a’r Sarnau

Prosiect Ecosystemau Morol Marine Ecosystems Project

25


26

O Dan y Don Rhifyn 1 2018

ADNABOD ANIFEILIAID MORFILAIDD

Rydych wedi gweld morfil, dolffin neu lamhidydd (anifeiliaid morfilaidd) ond dydych chi ddim yn siŵr beth oedd o. Dyma wybodaeth am y pum rhywogaeth mwyaf cyffredin sy’n cael eu gweld yn ACA Pen Llŷn a’r Sarnau a sut y gallwch eu hadnabod. Yn gyntaf oll, gwyliwch a mwynhewch eu gweld. Mae ymbalfalu am eich camera, chwilio drwy lyfrau adnabod neu ddatgloi eich ffôn pan fo’r anifail o’ch blaen yn golygu eich bod yn colli’r foment felly gwyliwch a chymryd nodiadau yn eich meddwl am rai o’r nodweddion a ganlyn:

1

SIÂP A MAINT YR ASGELL GEFN

Mae hwn yn gliw da iawn! Mae gan y llamhidydd asgell gefn fechan drionglog, tra bo gan ddolffiniaid trwynbwl, llwyd a chyffredin a’r morfil pigfain ymyl crymanog.

4

LLIW

Nid yw hyn bob amser yn ddefnyddiol, gan y gallai’r hyn yr ydych yn ei weld amrywio, yn ddibynnol ar y tywydd, yr adeg o’r dydd neu leoliad yr haul mewn perthynas â’r anifail. Ond, os yw’r amodau’n dda mae rhai pethau allweddol i chi gadw golwg amdanynt - a oes patrwm arno, a oes lliw unffurf iddo neu a ydyw wedi creithio?

2

3

5

6

LLEOLIAD YR ASGELL GEFN

Yn fras, mae asgell gefn dolffiniaid a llamhidyddion yng nghanol eu cefn. Mae gan y morfil pigfain a sawl rhywogaeth morfil arall asgell gefn fechan ddau-draean o’r ffordd ar hyd eu cefn.

YMDDYGIAD

Y mwyaf o brofiad a gewch yn gwylio anifeiliaid morfilaidd yn y gwyllt, y mwyaf tebygol y byddwch o adnabod ymddygiad nodweddiadol. Er enghraifft, mae llamhidyddion yn rowlio wrth iddynt ddod i’r wyneb, tra bo dolffiniaid trwynbwl yn llawer mwyn egnïol ac acrobatig. Mae dolffiniaid llwyd yn tueddu i lamu allan a chreu sblash fawr tra bo dolffiniaid cyffredin yn dod i’r wyneb yn gyflym ac maent wastad yn edrych fel petaent yn mynd i rywle ar frys.

SIÂP Y PEN

Weithiau nid yw hwn yn beth hawdd iawn i’w weld ond os byddwch yn cael cipolwg da, gallai siâp y pen fod yn gliw da.

CHWYTH

Mae’n rhaid i bob anifail morfilaidd ddod i’r wyneb i anadlu. Pan maent yn dod i’r wyneb am aer, maent yn agor yr aerdwll ac yn chwythu’r hen aer allan cyn mewnanadlu eto. Gan fod siâp a’r nifer o aerdyllau yn amrywio rhwng rhywogaethau, weithiau fe allwch ddweud pa rywogaeth ydyw wrth sylwi ar siâp y chwyth. Os welwch chi chwyth, rydych yn gwybod eich bod yn edrych ar forfil gan fod chwyth llamhidydd neu ddolffin yn rhy fychan i’w weld o bellter.


Rhifyn 1 2018 O Dan y Don

DYMA GRYNODEB O’R 5 RHYWOGAETH ANIFEILIAID MORFILAIDD CYFFREDIN: LLAMHIDYDD HARBWR (Phocoena Phocoena)

DOLFFIN CYFFREDIN (Delphinus delphis)

DOLFFIN TRWYNBWL (Tursiops truncatus)

Bychan a byrdew - Hyd oedolyn 1.4 - 1.8m

Dolffin mawr cadarn. Hyd oedolyn 2 - 3.9m

Dolffin bychan, streamlined. Hyd oedolyn 1.7 - 2.6m

Asgell gefn fychan, isel a thrionglog, yng nghanol y cefn

Talcen crwn a phig byr crwn

Asgell gefn fawr a chrymanog yng nghanol y cefn

Lliw llwyd tywyll unffurf yn goleuo i lwyd golau tuag at ei fol. Bol gwyn.

Patrwm hourglass ar ei ochrau; lliw hufen ar y blaen, a llwyd y tu ôl, gyda ‘phwynt’ nodweddiadol o dan yr asgell gefn

Cael ei weld mewn grwpiau o hyd at 50 o unigolion fel arfer.

Ar gyfartaledd, maint y grwpiau yn amrywio o 1-20 ar gyfartaledd ond fe all fod yn y cannoedd.

Hynod actif, chwilfrydig ac acrobatig. Llamu o’r môr ac yn nofio ar flaen llestrau.

Nofwyr cyflym ac egnïol, llamu allan o’r môr yn acrobatig a nofio ar flaen llestrau.

Fel arfer mewn grwpiau neu unigolion ar eu pennau eu hunain

Lliw tywyll, gydag ystlys frown

Pen crwn bychan ac heb big

Swil ac anymwthiol, yn teithio’n bur araf yn gyffredinol

MORFIL PIGFAIN (Balaenoptera acutorostrata)

Y DOLFFIN LLWYD (Grampus griseus)

Y RHYWOGAETH MWYAF O DDOLFFIN YN Y BYD YW’R MORFIL DANHEDDOG (KILLER WHALE), SY’N DDOLFFIN, NID MORFIL.

Dolffin mawr - Hyd oedolyn 2.6 3.8m

Morfil o faint canolig - Hyd Oedolyn 7 - 10m

Talcen crwn a phig byr, di-nod

Mae’r asgell gefn yn amlwg - tal a thywyll, wedi’i lleoli yng nghanol y cefn.

Asgell gefn dal a chrymanog, wedi’i lleoli ddau-draean o’r ffordd ar hyd y cefn

Yn aml yn hynod greithiog, daw oedolion yn oleuach ac yn fwy creithiog wrth heneiddio

Rowlio’n gryno, anaml yn codi llabed y gynffon wrth blymio

Corff main streamlined, gyda phen sy’n pwyntio

Maint grwpiau - 1 - 15 o unigolion

Yn cael eu gweld amlaf yn teithio’n araf, yn arnofio fel boncyffion a llamu o’r môr.

Streipiau llorweddol gwyn ar y ffliperi

Anifeiliaid unigol, weithiau’n cael eu gweld mewn parau neu grwpiau bychan

DIM OND HANNER YMENNYDD DOLFFNIAID SY’N CYSGU AR UNRHYW ADEG GAN BOD YN RHAID IDDYNT WNEUD PENDERFYNIAD YMWYBODOL I ANADLU. MAE’N RHAID I UN HANNER AROS YN EFFRO FELLY PAN MAE OCHR CHWITH YR YMENNYDD YN CYSGU, MAE’R LLYGAID DDE AR AGOR AC I’R GWRTHWYNEB. MAE DOLFFINIAID YN CYFATHREBU DRWY GLICIO, CHWIBANU A GWICHIAN. GALL DOLFFINIAID TRWYNBWL FYW AM O LEIAF 40 MLYNEDD.

27


28

O Dan y Don Rhifyn 1 2018

Rhai o’r adar môr godidog y gellir eu gweld o gwmpas yr ACA Chwith uchaf: Gwylan goes-ddu Chwith isaf: Gwalch y penwaig Tudalen dde: Mulfran werdd


Rhifyn 1 2018 O Dan y Don

29


30

O Dan y Don Rhifyn 1 2018

dŵr, larwm gwastraff ac ati. Unwaith y bydd yn sicr fod popeth yn iawn ac yn barod i fynd, mae’n rhyddhau’r angor ac yn morio allan i’r dyfroedd. Wrth iddo yrru allan, mae adar y môr yn dechrau adnabod y cwch a’r hyn mae’n ei olygu iddyn nhw - bwyd. Fodd bynnag, dydi Dyfed ddim yn meindio’u gweld yn chwyrlio o gwmpas ei gwch yn y gobaith o gael tamaid bach hawdd i’w fwyta. Mae’n hoffi meddwl amdanynt fel hen gapteiniaid llong yn ei oruchwylio wrth ei waith bob dydd. Mae Dyfed yn teithio allan i’r môr i gael ei ddalfa arferol, sef gwichiaid moch, ers mis Ionawr 2017. Gellir dal gwichiaid moch drwy gydol y flwyddyn, yn wahanol i cregyn bylchog, gan mai dim ond rhwng 1 Tachwedd a diwedd Ebrill y gellir eu dal. Unwaith y bydd Dyfed yn cyrraedd ei leoliad pysgota cyntaf (a all amrywio o ddau funud, i awr neu fwy o’r lan), mae’n dechrau gosod gwialen o oddeutu 500 o gewyll, yn ddibynnol ar y tywydd. Mae’r tywydd yn chwarae rhan fawr yn llwyddiant Dyfed, neu ei fethiant, nid yn unig yn ystod y dydd, ond drwy gydol y flwyddyn.

DIWRNOD YM MYWYD PYSGOTWR Ydych chi erioed wedi meddwl sut beth yw hi i fod yn bysgotwr? Ydych chi erioed wedi meddwl am yr heriau dyddiol maent yn eu wynebu er mwyn i ni gael bwyd môr ar ein platiau? Wel dyma gyfle i chi gael ateb i rai o’r cwestiynau hynny. Mae Dyfed Davies, pysgotwr ymroddedig ym Mhorthdinllaen, wedi bod yn rhoi gwybod i mi am ddiwrnod arferol yn ei fywyd... Dyfed Davies yw perchennog balch llestr pysgota y Steel Venture ym Mhorthdinllaen. Dyma gwch sy’n gweithio ble mae Môr Iwerddon yn cwrdd ag arfordir trawiadol Cymru. Prynodd y Steel Venture gan ffrind yn 2012 cyn gwerthu ei gwch cewyll cyflym Ivy Ross tra roedd hefyd yn gweithio fel pysgotwr sgalopiau a queenie ar fwrdd yr Harmoni MR7. Ef bellach yw cyd-sylfaenydd Davies Shellfish Ltd. Mae diwrnod Dyfed yn cychwyn yn oriau mân y bore yn ei gartref yn Nefyn.

Yma, mae’n llwytho ei dractor a’i drelar gydag abwyd, tanwydd a hanfodion eraill megis bwïau, rhaffau a chewyll. Mae’n waith trwm, gyda’r abwyd ei hun yn pwyso oddeutu 200kg. Yna, mae Dyfed yn gyrru draw i Forfa Nefyn drwy’r cwrs golff, ac i lawr i’r traeth tywodlyd ble mae’n llwytho bad glanio sy’n ei gludo draw at y Steel Venture; sy’n arnofio ar y dŵr yn barod. Mae’r holl gyfarpar yn cael ei drosglwyddo’n gyflym oddi ar y bad llwytho i’r Steel Venture cyn iddo fwrw ymlaen â’i wiriadau arferol, olew yr injan,

Pysgota yw unig fywoliaeth Dyfed, ac mae’r arian mae’n ei gael yn ddibynnol iawn ar y cyfnod pan mae’n medru


Rhifyn 1 2018 O Dan y Don

pysgota. Yn aml, mae tywydd garw yn lleihau’r cyfnod hwn yn fawr, ac mae wedi sylwi fod cyfleoedd i bysgota yn codi mwy yn ystod y gwanwyn na’r haf. Fodd bynnag, mae’n dal yn medru pysgota yn y rhan fwyaf o’r bae yn ystod y tymor pysgota. I gyflawni hyn mae Dyfed yn treulio oriau maith ar y môr, rhwng pum a 16 awr yn wir. Ar brydiau, fe all hyd yn oed dreulio 24 awr flinedig ar yr un pryd ar y môr. Mae ei amser allan ar y môr yn ddibynnol ar y llanw, y tywydd, a’r ymdrech sydd ei hangen er mwyn iddo gael ei ddalfa. O bryd i’w gilydd, mae Dyfed yn dal rhai rhywogaethau’n anfwriadol, megis octopws. Fodd bynnag, mae unrhyw rywogaeth sy’n dod ar fwrdd y llong sydd heb werth marchnad iddo yn cael ei ddychwelyd i’r dyfroedd yn ddiogel a chyn gynted ag y bo modd. Hefyd, mae Dyfed yn dod a thalpiau mawr o wastraff ar fwrdd y llong, sy’n synnu dim arnom

o ystyried cyflwr ein moroedd. Mae’n teimlo bod cyfrifoldeb moesol arno i ddod â’r ysbwriel yn ôl i’r lan a’i waredu’n briodol. Yn anffodus iawn, mae ysbwriel yn rhywbeth mae sawl pysgotwr yn ei ‘ddal’ yn aml. Gan fod Dyfed a’i griw yn cael eu hystyried yn ‘bysgotwyr cwch dydd’, nid oes angen oeri ei ddalfa, gan fod popeth yn cael ei lanio yn dal yn fyw. Ar ddiwedd y dydd, mae’r gwichiaid moch yn cael eu cludo oddi ar y traeth gyda thractor a threlar ac yna’n cael eu cludo i Fleetwood mewn lori gymalog er mwyn eu prosesu. Mae’r rhan fwyaf o’i ddalfa yn cael ei anfon i Korea, ac ychydig i Ewrop. Nid yn unig fod ei ddyddiau yn hir a llafurus, ond mae hefyd yn wynebu sawl her arall bob dydd. O 1 Tachwedd bob blwyddyn, mae Steel Venture yn mynd allan i garthu cregyn bylchog. Mae’n tynnu tri carthwr bob ochr, gan weithio rhwng y cyfyngiad 3 milltir, ac oddeutu 1

milltir o’r lan. Dyma lle mae’n wynebu un o’i heriau mwyaf. Mae pwysau cynyddol gan gychod eraill o ardaloedd y tu allan i’r ardal leol yng Nghymru, ac mae Dyfed a physgotwyr lleol eraill yn gorfod cystadlu â nhw er mwyn cael eu dalfa. Yn gyffredinol, mae hyn yn golygu bod angen i bysgotwyr lleol weithio rownd y cloc. Yn ogystal, mae Dyfed a physgotwyr eraill wedi’u cyfyngu o ran ble maent yn cael pysgota, gan fod gwaharddiad mewn rhai ardaloedd er mwyn gwarchod cynefinoedd neu rywogaethau sensitif. Fodd bynnag, mae ef a physgotwyr lleol eraill yn barod yn gymuned hunangynhaliol gan eu bod yn gosod cwota pysgota cyfyngol eu hunain, ac yn cytuno i beidio â physgota mwy na 500 cawell y dydd wrth bysgota gwichiaid moch. Mae ganddynt agwedd hynod arbennig tuag at bysgota’n gynaliadwy, a chred Dyfed bod cymuned bysgota Porthdinllaen yn unigryw yn hyn o beth. Wedi dweud hynny, mae’n credu bod arfordir Cymru angen mwy o warchodaeth i bysgodfeydd, ac y dylid patrolio’r dyfroedd yn rheolaidd i fonitro’r gweithgareddau sy’n digwydd ar garreg ein drws. Nid dim ond cyflog mae pysgota yn ei olygu i Dyfed â’r pedwar cwch arall sy’n gweithredu ym Mhorthdinllaen: maent yn gymuned o bysgotwyr ymroddgar, ac maent yn gobeithio, un dydd, y bydd modd iddynt reoli Bae Caernarfon eu hunain. Er gwaethaf yr heriau niferus sy’n ei wynebu bob dydd, mae Dyfed yn dal i garu ei waith. Mae wedi bod yn pysgota ers iddo fod yn 12 oed; yn aml yn chwarae triwant o’r ysgol er mwyn mynd allan ar y môr! Mae Dyfed wedi bod yn bysgotwr proffesiynol erioed, ac nid oes ganddo unrhyw fwriad o newid hynny. Mae pysgota yn ei waed. Roedd ei daid yn bysgotwr ac adeiladwr cychod, ac roedd brodyr ei rieni yn bysgotwyr. Roedd y cariad oedd gan ei berthnasau tuag at gychod, pysgota a’r môr wedi cydio ynddo pan oedd yn fachgen, a bellach, yn 34 oed, ni all Dyfed ddychmygu gwneud unrhyw beth arall. Mae Dyfed yn ystyried ei hun yn fachgen a gafodd ei swyno gan straeon ei deulu am y môr. Bellach, mae ganddo ei straeon ei hun i’w hadrodd, mewn proffesiwn ble mae’n dysgu o hyd a ble nad oes yr un dydd yr un fath.

31


32

O Dan y Don Rhifyn 1 2018

CHWILOTA MEWN PYLLAU CREIGIOG! Mae pawb yn hoffi chwilota o gwmpas pyllau creigiog, ac nid yw chwilota’r glannau yn arfordir Pen Llŷn a’r Sarnau’n siomi! HEULSEREN Mae’r llanw yn fythol-barhaus - mae’n digwydd a dyna ni - ond nid ydym yn aml yn meddwl am sut mae’n gweithio a pha effaith mae’n ei gael ar ein bywyd gwyllt arfordirol. Mae rhywun wedi dweud wrth bob un ohonom ryw bryd yn ystod ein bywydau bod y llanw yn cael ei achosi gan y lleuad; mae hyn yn rhannol wir, ond mae’r llanw yn broses gymhleth sy’n cael ei achosi gan gyfuniad o rymoedd disgyrchiant y lleuad a’r haul ar y ddaear, ac hefyd ar gylchdro’r ddaear. Oherwydd hyn, mae gan amseroedd ac amlder y llanw gylch dyddiol, misol a blynyddol y gellir ei ragweld ac mae hyn yn golygu bod yna adeg benodol o’r dydd, ar adeg benodol o’r flwyddyn, pan fo’r llanw ar ei isaf, a dyma’r adeg orau i chwilota mewn pyllau creigiog.

BRENIGEN LAS

CIMWCH

BUWCH GOCH

CRANC LLYGATGOCH

Yn gyffredinol, mae llanw uchaf y flwyddyn yn digwydd ar ôl cyhydnos mis Mawrth a mis Medi pan fo’r nos a’r dydd yr un hyd a phan fo’r grymoedd sy’n achosi’r llanw ar eu cryfaf. Bryd hynny, gellir gweld y creaduriaid anarferol a hudolus nad ydynt fel arfer yn cael eu dadorchuddio gan y llanw. Creaduriaid megis y cimwch hyrdew, brenigen las, heulseren, gwlithod môr a phob math o anemoni, sy’n ffefrynnau gen i, rhaid dweud. Mae gallu creaduriaid y glannau creigiog i wrthsefyll eu cyswllt ag aer, tymheredd amrywiol a sawl amod amgylcheddol arall yn pennu eu safle ar ymyl y traeth ac mae’n achosi ffenomenon a elwir yn barthau ymylon traeth creigiog (Rocky shore zonation). Gellir gweld y parthau hyn yn glir os byddwch yn edrych ar hyd ymyl traeth creigiog ar lanw isel. Er enghraifft, gall creaduriaid megis gwyddau môr a llygaid meheryn wrthsefyll bod allan o’r dŵr am gyfnodau estynedig o amser ac felly maent yn tueddu i fyw yn uchel ar y lan; ond ni all rhywogaethau, megis yr anemoni dahlia, ond gwrthsefyll cael eu dadorchuddio am gyfnodau byr o amser yn ystod llanw uchel, ac felly maent i’w canfod yn is i lawr ymyl y traeth. Efallai na fydd y parthau isaf ond yn y golwg am gyfnod byr o amser yn ystod y llanw uchel mawr a chan fod y pyllau yn yr ardaloedd hyn yn gyffredinol yn adlewyrchu’r creaduriaid sydd i’w canfod yn y moroedd bas o amgylch Cymru, dyma’ch cyfle i weld creaduriaid na fyddech yn eu gweld fel arfer wrth chwilota mewn pyllau creigiog. I wneud y mwyaf o’ch sesiwn pyllau creigiog, ewch allan am oddeutu pedair awr ar ôl llanw uchel gan dreulio awr neu ddwy yn dilyn y llanw sydd ar drai i’w bwynt isaf (oddeutu 6 awr ar ôl llanw uchel) cyn iddo droi a dechrau dod yn ôl i mewn. Mewn gwirionedd, y cwbl yr ydych ei angen yw cynhwysydd - bydd hen dwb marjarîn yn hen ddigon da - ac awgrymaf ddefnyddio pot gwyn gan y bydd creaduriaid yn haws i’w gweld yn erbyn cefndir gwyn. Mae rhwyd fechan hefyd yn ddefnyddiol, y math a ddefnyddir ar gyfer tanc pysgod yn y cartref yw’r gorau. Dylech gymryd gofal bob amser wrth chwilota mewn pyllau creigiog - mae angen i chi fod yn ymwybodol o’r hyn yr ydych yn ei wneud bob amser - gallwch gael eich dal gan y llanw yn hawdd iawn, yn enwedig pan fyddwch a’ch pen-ôl yn yr awyr a’ch llygaid wedi’u hoelio ar y pyllau!


Rhifyn 1 2018 O Dan y Don

CHWILOTA MEWN PYLLAU CREIGIOG YM MHEN LLŶN A’R SARNAU:

Gallwch chwilota mewn pyllau creigiog mewn unrhyw fan, mae ardaloedd creigiog bychan i’w cael ar draethau tywodlyd hyd yn oed, ond dyma rai o’r mannau yr ydym ni’n hoffi mynd iddynt:

1. PORTH COLMON

Lle gwych i chwilota mewn pyllau creigiog, gallwch fynd y naill ffordd neu’r llall o’r maes parcio i chwilota.

2. PORTHDINLLAEN

Mae rhai pyllau creigiog gwych i’r dde, ac os bydd y llanw’n ddigon isel, gallwch fentro i’r ynysoedd bychan, ond gofalwch beidio â sefyll ar y morwellt.

3. ABERDARON

Ewch draw i’r traeth a throwch i’r dde, fe welwch ardaloedd bychan o greigiau a gwymon. Dyma le gwych i edrych o dan y cerrig ond cofiwch eu rhoi yn ôl yn yr un lle!

4. PWLLHELI

Chwilotwch dan y gwymon a’r cilfachau yn y creigiau ar hyd wal yr harbwr.

5. CRICIETH

Mae’r pyllau creigiog gorau ar y lan o dan y castell!

PAN YN CHWILOTA DRWY BYLLAU TRAI GWNEWCH YN SIWR EICH BOD YN GWYBOD OS MAE’R LLANW YN DOD I MEWN NEU ALLAN!

33


34

O Dan y Don Rhifyn 1 2018

MAE LLWYBR ARFORDIR CYMRU YN EITHAF UNIGRYW... Pam? Oherwydd Cymru yw’r wlad gyntaf yn y byd i gael llwybr dynodedig ar hyd ei harfordir cyfan. Dyna gyfanswm o 870 milltir neu 1,400km o hyd! Gyda’r pwyntiau cychwyn/gorffen ar y ffin â Chaer (gogledd) a Chas-gwent (de), gallwch ddewis cychwyn o’r naill ben i’r wlad neu’r llall wrth fentro ar eich taith!

Pam cerdded ar Arfordir Cymru?

hyd

Llwybr

Mae’r llwybr yn ystumio drwy rai trefi a phentrefi arfordirol enwog Cymru megis Dinbych-y-Pysgod yn Sir Benfro, tref Fictoraidd boblogaidd Llandudno yn y gogledd gyda chysylltiadau pwysig megis y daith gylchol o 125 milltir o amgylch Ynys Môn, sy’n rhoi blas i chi o’r hyn

sydd gan y wlad fechan ond hynod hon i’w gynnig.

Nid ras yw hi... Peidiwch â gadael i’w hyd eich atal rhag cerdded ar hyd Llwybr Arfordir Cymru - mae’n ddigon hawdd ei dorri i lawr yn ddarnau llai o daith fer hanner awr ar hyd y promenâd yn Llandudno i ddiwrnodau cyfan megis o Drefor i Nefyn (9 milltir a chwarter / 15 km), er enghraifft. Dyna’r peth da am y llwybr, gallwch ddychwelyd dro ar ôl tro a cherdded ar


Rhifyn 1 2018 O Dan y Don

Peidiwch â gadael i’w hyd eich atal rhag cerdded ar hyd Llwybr Arfordir Cymru mae’n ddigon hawdd ei dorri i lawr yn ddarnau llai.

hyd y rhannau o’r llwybr yr ydych wastad wedi bod eisiau eu cerdded a chanfod beth sydd yn eich ardal.

Ble alla i gael rhagor o wybodaeth? Mae llwyth o wybodaeth ddefnyddiol ac ymarferol ar wefan Llwybr Arfordir Cymru i’ch helpu i gynllunio eich taith, o fapiau ar-lein i dablau pellter: http://www. walescoastpath.gov.uk/?lang=cy& Mae’r saith Canllaw Llwybr Arfordir Cymru hefyd ar gael gan y cyhoeddwyr swyddogol, Northern Eye.

Canfyddwch a dilynwch ni... Rydym yn brysur iawn ar y gwefannau cymdeithasol - dilynwch ni am yr holl newyddion diweddaraf am y llwybr a lluniau gwych o arfordir Cymru!

Facebook: https://www.facebook.com/walescoastpath Twitter https://twitter.com/WalesCoastPath Instagram: https://www.instagram.com/walescoastpath Pinterest: https://uk.pinterest.com/walescoastpath Google + https://plus.google.com/+WalescoastpathGovUk

35


36

O Dan y Don Rhifyn 1 2018

A YW DYFROEDD CYMRU YN HAFAN I FAELGWN? Mae Môr Iwerddon yn ehangder o ddŵr sy’n gorchuddio oddeutu 45,000km sy’n gwahanu ynysoedd Iwerddon a Phrydain Fawr. Mae mwyafrif moroedd tiriogaethol Cymru ym Môr Iwerddon, a’r gweddill ym Môr Hafren.

Maelgi a ddaliwyd oddi ar Abermaw 1989, gan Ron Greenfield. Llun wedi’i roi gan June Owen

Amcangyfrifwyd gwerth economaidd Môr Iwerddon yn oddeutu £6 biliwn y flwyddyn, yn ôl astudiaeth yn 2004, ac mae hyn yn cael ei gynrychioli gan nifer o weithgareddau gan gynnwys pysgodfeydd masnachol (yn bennaf pysgodfeydd cregynbysgod), gweithgareddau hamdden (gan gynnwys plymio, pysgota môr, hwylsyrffio, barcudsyrffio) ynghyd â nifer o ddatblygiadau ynni adnewyddadwy, carthu agregau a phlatfformau drilio olew a nwy gweithredol. Mae’r ardal yn cynnwys amrywiaeth

o gynefinoedd morol gan gynnwys riffiau creigiog, gwastadeddau llaid a thywod, riffiau’r llyngyr diliau biogenig a ffa môr, gwelyau wystrys a dolydd morwellt. Mae hyn oll yn cefnogi niferoedd o rywogaethau pwysig o’r gwyntyll môr pinc i’r llamhidydd harbwr. Mae o leiaf 30 rhywogaeth o siarcod, cathod môr a morgathod sy’n defnyddio Môr Iwerddon, ac mae nifer ohonynt yn ymwelwyr tymhorol gan gynnwys y maco, y môr-lwynog a’r morgi trwynog, ynghyd â’r ail bysgodyn mwyaf yn y byd, yr heulforgi. Mae rhai rhywogaethau yn aros

Ar un adeg, roedd y Maelgi (Squatina Squatina) yn gyffredin iawn ledled Ewrop ond mae ei niferoedd bellach wedi dirywio’n ddramatig dros y 100 mlynedd diwethaf ac maent bellach yn eithriadol brin ar draws Dwyrain yr Iwerydd a Môr y Canoldir. yn y dyfroedd hyn ar hyd y flwyddyn megis y morgi lleiaf, y forgath felen a’r forgath bigog. Un o’r rhywogaethau mwyaf prin sydd i’w chanfod yn y dyfroedd hyn yw’r Maelgi sy’n rhywogaeth sydd Mewn Perygl Difrifol. Ar un adeg, roedd y Moelgi (Squatina Squatina) yn gyffredin iawn ledled Ewrop ond mae bellach wedi dirywio’n ddramatig dros y 100 mlynedd diwethaf ac maent bellach yn eithriadol brin ar draws Dwyrain yr Iwerydd a Môr y Canoldir, gyda dim ond ychydig o boblogaethau ar ôl. Mae’r Maelgi bellach wedi’i restru


Rhifyn 1 2018 O Dan y Don

Llun gan Carlos Suarez, Oceanos de Fuego

fel rhywogaeth sydd mewn perygl difrifol ar Restr Coch yr IUCN, a’r dyfroedd o amgylch yr Ynysoedd Dedwydd yw’r unig le ble maent yn cael eu gweld yn rheolaidd erbyn hyn. Maelgwn (Squatinidae) yw’r ail rywogaeth o siarcod sydd mewn mwyaf o berygl ar ôl y llifbysgodyn (Pristidae). Fodd bynnag, mae nifer cynyddol o’r pysgod prin hyn wedi bod yn cael eu dal yn ddamweiniol oddi ar arfordir Cymru

yn y blynyddoedd diwethaf, sy’n dangos eu bod yn dal yn bresennol yn nyfroedd Cymru. Nid ydym yn gwybod beth yw maint y boblogaeth, ond fe allai fod yn hanfodol o ran goroesiad y rhywogaeth eiconig yma yn y dyfodol. Bellach, mae gwyddonwyr o Gyfoeth Naturiol Cymru a’r Zoological Society of London (ZSL), fel rhan o’r Prosiect Maelgwn, wedi dod ynghyd â physgotwyr

Lansio’r daflen Wybodaeth a’r canllawiau ar sut i ymdrin orau â Maelgwn - Llun o’r chwith i’r dde: Ben Wray (Cyfoeth Naturiol Cymru), Jake Davies (myfyriwr ar leoliad, CNC), Tom Hughes (Pysgotwyr Llŷn), Joanna Barker (Zoological Society London)

masnachol, pysgotwyr hamdden ac eraill ar hyd arfordir Cymru i ganfod mwy am faint ac ymddygiad ein poblogaeth maelgwn. Fel rhan o’r prosiect, gofynnir i bobl adrodd am bob achos pan fo’r Maelgi yn cael ei ddal yn ddamweiniol, a chael cyngor (gweler taflen Morgwn) ar sut i ymdrin a hwy a’u rhyddhau yn ôl i’r dŵr yn ddiogel ac heb eu niweidio.

37


38

O Dan y Don Rhifyn 1 2018

Maelgwn yng Nghymru: maent angen eich help!

Rydym am wybodaeth oddi wrth bysgotwyr i’n helpu i ddeall, lle gellid dod o hyd i Faelgwn yn nyfroedd Cymru a gwarchod y rhywogaeth hon yn well, gan eu bod mewn Perygl Difrifol. Hefyd mae gan Maelgwn nifer o enwau eraill yn Saesneg sef ‘angelsharks’ ‘monk’ ac ‘Angel fish’!

Peidiwch â mynd ar ôl Maelgwn Diogelir maelgwn yn dda yn nyfroedd Cymru ac mae’n anghyfreithlon i fynd ar ôl y rhywogaeth

Dilynwch y canllawiau

Adroddwch eich bod wedi eu gweld Adroddwch eich bod wedi gweld Maelgi wrth sites http://sites.zsl.org/angelsharks/ neu wrth tom@llynangling.net

Os byddwch yn dal maelgwn yn ddamweiniol, dilynwch y canllawiau ar y dudalen drosodd i’w rhyddhau yn y cyflwr gorau

Beth yw Maelgi? Siarc ag iddo gorff fflat yw’r Maelgi (Squatina squatina), a gall dyfu i fod yn 2.4 metr o hyd.

Mae’n bwydo ar amrywiaeth o bysgod, cramenogion a molysgiaid, ac mae ganddo rôl bwysig wrth gynnal ecosystem forol gytbwys.

Weithiau’n mae’n cael ei gam-recordio fel morgath oherwydd bod y ddau’n rhannu enw cyffredin yn Saesneg: Monkfish neu Monk.

Maelgwn Yng Nghymru: pam mae cofnodi yn bwysig? Roedd maelgwn ar un adeg yn gyffredin ar hyd silff arfordirol a chyfandirol allanol Gogledd-ddwyrain Cefnfor Iwerydd, a Môr Canoldir. Yn dilyn degawdau o leihad mewn nifer, maen nhw wedi diflannu o nifer o’u cynefinoedd blaenorol. Serch hynny, mae cofnodion pobl sydd wedi gweld Maelgwn yng Nghymru yn dangos eu bod yn dal i fod yn bresennol yma, ond mae angen gweithredu ar frys i ddeall yn well faint o faelgwn sy’n defnyddio dyfroedd Cymru a ble mae dod o hyd iddynt.

©

Sut mae Maelgwn yn cael eu gwarchod yng Nghymru? • •

Gwaherddir tarfu’n fwriadol ar, targedu, anafu neu ladd Maelgwn o fewn 12 môr-filltir o arfordiroedd Cymru a Lloegr (Atodlen 5 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981) Gwaherddir targedu, cadw, cludo neu lanio Maelgwn yn llongau holl wledydd yr UE a thrydydd gwledydd yn nyfroedd yr UE. Rhaid i bob maelgi >50 kg gael eu cofnodi. (Rheoliad y Cyngor (UE) Rhif 2017/127)

Ca

rlo

Er ni ddylid targedu Maelgwn, mae’r arweiniad hyn wedi cael ei ddatblygu gyda physgotwyr er mwyn lleihau’r marwolaethau os cânt eu dal yn ddamweiniol. 2. Wrth fyrddio y cwch (DIM OND os oes rhaid) Os ydych ar gwch ac mae angen i chi lanio’r siarc i’w ddadfachu’n ddiogel, defnyddiwch rwyd lanio fawr i’w godi i’r cwch. Peidiwch byth â defnyddio tryfer.

Cofnodwch faint a rhyw’r Maelgi. Mae gan faelgwn gwrywaidd ddau gydiwr (atodion hir) y tu ôl i’w hasgell belfig.

I gynnal yr organau mewnol a sicrhau nad oes unrhyw niwed yn cael ei achosi.

Mae’r wybodaeth hon yn ein helpu i ddiogelu’r rhywogaeth.

Trïwch ddadfachu’r siarc yn y dŵr bob amser (ar ochr y cwch neu mewn dŵr at eich pen-glin ar yr arfordir). Os oes rhaid i chi dorri’r ‘leader’, torrwch ef mor agos at y bachyn ag y bo modd.

Gosodwch ef ar arwyneb oer, gwlyb a meddal (e.e. tywel gwlyb). Rhowch dywel (wedi’ wlychu gyda dŵr môr) dros y llygaid. Er mwyn ei gad w’n dawel a di-gyffro.

I leihau straen ar y siarc gan fod y dŵr yn cynnal ei organau mewnol.

3. Ei drin (DIM OND os oes rhaid) Peidiwch byth â dal y Maelgi wrth ei gynffon, ei esgyll neu’r tagellau’n unig. Mae angen i chi gynnal ochr isaf y siarc. Rheswm: I leihau’r pwysau ar ei organau mewnol a allai arwain at farwolaeth.

4. Rhyddhau Rhyddhewch y siarc cyn gynted â phosibl ar ôl ei ddadfachu. Gollyngwch y siarc yn ofalus i mewn i’r dŵr gan wynebu’r llanw neu’r tonnau. Mae hyn yn gorfodi ocsigen drwy ei dagellau er mwyn iddo allu nofio i ffwrdd yn gyflym.

5. Adrodd

Tacl pysgota

Defnyddiwch yr offer canlynol i leihau anafiadau i faelgwn os cânt eu dal ar ddamwain Defnyddiwch fachau pres heb adfach bob amser. Os nad ydynt ar gael, defnyddiwch fachyn arall gyda’r adfach wedi’i wasgu i lawr. I leihau’r siawns o fachu perfedd fel ei bod yn haws dadfachu’r siarc.

Rhowch wybod am unrhyw faelgwn y byddwch yn eu dal yn ddamweiniol ar http://sites.zsl.org/angelsharks/ neu e-bostiwch tom@llynangling.net Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon i ddeall a gwarchod yr anifeiliaid hyn yn well.

Defnyddiwch lein gref.

STRONG Cryf

Gall y siarcod mawr, corff fflat hyn gyrraedd 2.4m o hyd. Maent hefyd yn cael eu galw yn faelgwn neu fôrlyffantod, maent weithiau’n cael eu cam-gymryd am gath fôr neu’n cael eu cam-gofnodi fel môr-lyffantod. Mae maelgwn yn bwydo ar amrywiaeth o bysgod, cregynbysgod a molwsgiaid ac mae ganddynt rôl bwysig i’w chwarae mewn cynnal ecosystem forol gytbwys. Nid ydynt yn fygythiol tuag at fodau dynol, ac maent yn byw’n bennaf ar y tywod neu’r mwd ar waelod y môr, yn ysglyfaethu ar bysgod bach a molwsgiaid.

s Sua rez

Arweiniad i’r ffordd gorau a diogel o ryddhau Maelgwn a ddalwyd yn ddamweiniol

1. Dadfachu

BETH YW MAELGI?

I leihau’r tebygolrwydd y bydd y lein yn torri ac atal y siarc rhag llusgo’r gêr ar ei ôl.

Uchod: Taflen Wybodaeth a’r canllawiau ar sut i ymdrin orau â Maelgwn i Gymru

Mae pysgotwyr masnachol a physgotwyr wedi bod yn adrodd bod cynnydd yn yr achosion o Faelgwn yn cael eu dal yn ddamweiniol mewn blynyddoedd diweddar ond mae ystyr hyn yn aneglur. Ychydig iawn yr ydym yn ei wybod am ecoleg y Maelgi yn nyfroedd Cymru ar hyn o bryd - gallai’r boblogaeth fod yn bresennol drwy gydol y flwyddyn, neu ddim ond am ran o’r flwyddyn. Bydd y data mae’r prosiect yn ei gasglu yn helpu creu darlun llawer gwell o’r sefyllfa yng Nghymru ac yn helpu gyda’r gwaith o gynnal y creaduriaid hynod hyn. Meddai Jim Evans o Gymdeithas Pysgotwyr Cymru “Nid yw gwerth gwybodaeth ecolegol leol yn cael ei werthfawrogi yn aml; mae pysgotwyr yn warchodwyr pwysig o’r môr ac maent yn deall pwysigrwydd cynnal bioamrywiaeth. “Mae maelgwn wedi cael eu gweld gan bysgotwyr masnachol oddi ar arfordir Cymru am sawl blwyddyn, ac mae cael y cyfle i wella ein dealltwriaeth o ddeinameg poblogaeth Cymru yn enghraifft o gydweithio pwysig sy’n cael ei groesawu gan bysgotwyr Cymru ac fe ddylid rhoi clod iddynt am hynny.”

Y MAELGI A PHEN LLŶN A’R SARNAU Mae ACA (Ardal Cadwraeth Arbennig) Pen Llŷn a’r Sarnau yn ardal bwysig ar gyfer cofnodion Moelgwn oddi ar arfordir Cymru. Mae dyfroedd arfordirol tywodlyd bas Bae Ceredigion

a phresenoldeb riff creigiog gerllaw yn cynnig cynefin delfrydol i Faelgwn. Yn hanesyddol, adroddwyd yn fynych am Faelgwn yn y 1960au a’r 1970au cynnar yn ystod misoedd yr haf yn y dyfroedd gyda’r glannau yng Ngogledd Ddwyrain Bae Ceredigion, ble adroddai pysgotwyr eu bod wedi dal unigolion mawr hyd at 2.4m. Cafodd record pysgota o’r lan y DU ar gyfer y Maelgi ei gosod ym Mae Ceredigion oddi ar draeth Llangwyril yn 1984 - roedd yn pwyso 521 pwys. Er gwaetha’r adroddiad hwn am unigolyn mawr, bu i adroddiadau am Faelgwn yn y 1970au hwyr a’r 1980au leihau ac am sawl blwyddyn ni chafwyd yr un adroddiad am weld na dal maelgi yn ddamweiniol. Nid yw’r rhesymau am y dirywiad hwn yn glir ond fe allai gynnwys gostyngiad cyffredinol yn y boblogaeth o Faelgwn, newidiadau mewn offer pysgotwyr a llai o ymdrech gan bysgotwyr hamdden yn yr ardal hon. Yn y blynyddoedd diweddar, mae’n ymddangos bod adroddiadau am Faelgwn wedi cynyddu. Ers 2000, mae 33 adroddiad dilys wedi bod am Faelgwn yn yr ACA, sy’n cyfrif am 70% o gyfanswm holl adroddiadau Cymru dros yr un cyfnod. Roedd y mwyafrif o’r unigolion yn oedolion mawr ond mae adroddiadau am rai ifanc wedi bod hefyd. Mae’r rhesymau am y cynnydd tybiedig hwn yn aneglur ond fe allai ddangos y gallai dyfroedd Cymru, yn enwedig yr ardal o gwmpas ACA Pen Llŷn a’r Sarnau, fod yn hafan i Faelgwn a bod y niferoedd yn dechrau cynyddu. Gall y cynnydd yn yr ymwybyddiaeth o’r angen i adrodd am achosion o ddal Maelgwn fod yn rheswm arall posib am y cynnydd yn y cofnodion, ynghyd â hygyrchedd y cyfryngau cymdeithasol i gynorthwyo â’r broses hon. Felly, mae’n bwysig ein bod yn casglu cymaint o wybodaeth â phosib o gofnodion hanesyddol a rhai mwy diweddar, fel y gallwn edrych ar y tueddiadau posib dros amser. Fel arfer, daw’r adroddiadau am weld Maelgwn a gyflwynir i brosiect casglu data Cymru gan bysgotwyr cychod siarter a physgotwyr masnachol sy’n dal Maelgwn yn ddamweiniol; ond rydym yn croesawu adroddiadau gan bob


Rhifyn 1 2018 O Dan y Don

Llun gan Carlos Suarez, Oceanos de Fuego

aelod o’r cyhoedd er mwyn gwella ein cofnodion, a byddem yn annog unrhyw un sydd ag unrhyw gofnod hanesyddol, cyfredol neu yn y dyfodol o Faelgwn yng Nghymru i adrodd eu bod wedi’u gweld.

SUT I ADRODD EICH BOD WEDI’U GWELD Bydd gwybodaeth gennych chi yn ein helpu i gael gwell dealltwriaeth o ecoleg Maelgwn yn y dyfroedd o amgylch Cymru a byddem yn annog unrhyw un sydd ag unrhyw gofnod o weld Maelgwn, boed yn hanesyddol, yn gyfredol neu yn y dyfodol. Mae modd i chi adrodd ble rydych wedi gweld Maelgi i: https://angelsharknetwork.com/#map neu e-bost tom@llynangling.net

DILYNWCH Y CANLLAWIAU Mae targedu Maelgwn yn anghyfreithlon, ond os byddwch yn dal un yn ddamweiniol wrth bysgota, dilynwch ein

canllawiau arferion gorau er mwyn ei ryddhau mewn cyflwr da. Datblygwyd y canllawiau Maelgwn ar y cyd rhwng sawl partner gan gynnwys ZSL, Cymdeithas Pysgotwyr Cymru a’r Shark Trust.

cyllid ac ymestyn y gwaith ledled Cymru yn 2018, gan helpu cynyddu ymwybyddiaeth o Faelgwn yn nyfroedd Cymru a chael gwell dealltwriaeth o’r ardaloedd sydd o bwys yng nghylch bywyd y rhywogaeth.

SUT MAE MAELGWN YN CAEL EU GWARCHOD YNG NGHYMRU? • Mae targedu, anafu neu ladd Maelgwn yn fwriadol o fewn 12 milltir forwrol o arfordir Cymru a Lloegr (Atodlen 5, Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981), yn anghyfreithlon • O ran pysgotwyr masnachol, mae’n anghyfreithlon i dargedu, cadw, trawslwytho neu lanio Maelgwn o ran pob llestr UE a thrydydd gwlad yn nyfroedd yr UE. Rhaid logio pob un >50kg a deflir. (Rheoliad Cyngor (UE) Rhif 2017/127)

Y CAMAU NESAF... Ar hyn o bryd, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio â’r ZSL i sicrhau

Nid yw gwerth gwybodaeth ecolegol leol yn cael ei werthfawrogi yn aml; mae pysgotwyr yn warchodwyr pwysig o’r môr ac maent yn deall pwysigrwydd cynnal bioamrywiaeth.

39


40

O Dan y Don Rhifyn 1 2018

CYMRYD RHAN

GWYLIO DOLFFINIAID

GLANHAU TRAETHAU

Os hoffech chi dreulio amser mewn lleoliad gwych yn chwilio am ddolffiniaid yna efallai mai Gwylio Dolffiniaid yw’r prosiect i chi! Ar hyn o bryd rydym yn gweithredu o Abersoch ond rydym yn gobeithio ehangu i ardaloedd eraill. Gofynnwn i wirfoddolwyr gymryd slot dwy awr, unwaith yr wythnos am oddeutu chwe wythnos dros fisoedd yr haf. Peidiwch â phoeni os nad oes gennych unrhyw brofiad blaenorol, rydym yn cynnig hyfforddiant i sicrhau eich bod yn gyfforddus â dulliau’r arolwg a’ch bod yn gwybod beth i chwilio amdano. Os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch â ni neu cymerwch olwg ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol am fwy o fanylion.

Mae cymryd rhan mewn ymarferiad glanhau traethau yn ffordd wych o helpu i edrych ar ôl yr amgylchedd morol. Mae sawl ymarferiad glanhau traethau yn cael eu trefnu ar draws y safle drwy gydol y flwyddyn, gallwch droi i fyny a chymryd rhan! Cymerwch olwg ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol am y wybodaeth ddiweddaraf. Os nad ydych yn awyddus i ymuno a grŵp, beth am fynd a bag gyda chi a threulio ychydig o amser yn glanhau traeth o’ch dewis eich hun? Neu os ydych chi yng Nghricieth, gallwch gymryd rhan yn y #2minbeachclean - mae bwrdd gwybodaeth ac offer i’w gael y tu allan i fwyty Dylan’s ar y traeth.

LLEIHAU PLASTIG DEFNYDD SENGL

Mae ysbwriel morol, yn enwedig plastigion, bellach yn broblem fyd-eang. Mae bagiau plastig defnydd sengl, deunydd pecynnu bwyd, gwellt a photeli plastig yn rhai o’r pethau sy’n cael eu canfod yn ein cefnforoedd. Un ffordd wych i chi helpu yw lleihau faint o eitemau plastig defnydd sengl yr ydych yn eu defnyddio ac ailgylchu ble bynnag y gallwch. Gallwch hefyd ofyn am eitemau di-blastig neu fioddiraddadwy pan fyddwch allan yn crwydro. Dyma broblem fyd-eang ond gall pob un ohonom wneud gwahaniaeth.


Rhifyn 1 2018 O Dan y Don

RHANNU SYNIADAU Rydym yn rhedeg nifer o brosiectau ym Mhen Llŷn a’r Sarnau ac rydym yn croesawu unrhyw syniadau neu fewnbwn sydd gennych. Os oes gennych unrhyw sylwadau, syniadau neu os hoffech ragor o wybodaeth, cofiwch gysylltu.

ADRODD AM ACHOSION O WELD BYWYD GWYLLT Os byddwch yn gweld bywyd gwyllt diddorol pan fyddwch allan yn crwydro, cofiwch roi gwybod i rywun. Drwy adrodd am yr hyn yr ydych yn ei weld, rydych yn ein helpu i greu darlun gwell o’r hyn sydd gennym ar hyd ein harfordir.

DEWCH YN MORLINofalwyr Os ydych yn caru traeth neu ran penodol o’r arfordir yn y cyffiniau, efallai y byddai gennych ddiddordeb dod yn MORLINofalwyr Cymunedol. Mae bod yn MORLINofalwyr yn galluogi i bobl sy’n ymweld â’u man prydferth lleol yn rheolaidd chwarae rhan hanfodol o ofalu amdano drwy wirio cyflwr y llwybrau, casglu ysbwriel, monitro bywyd gwyllt, hysbysu’r ceidwad lleol am unrhyw broblemau a helpu eraill i fwynhau’r safle. Mae gwaith y MORLINofalwyr yn hynod werthfawr, yn helpu’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i gadw’u safleoedd arfordirol ar eu gorau ar gyfer natur a’r bobl sy’n ymweld â hwy. Mwy o wybodaeth: www.nationaltrust.org.uk/cy_gb/ features/yn-galw-ymorolwyr

CO-COAST Mae Co-coast yn chwilio am wirfoddolwyr i arolygu traethau lleol. Felly, os ydych yn hoffi treulio amser ar y traeth ac os hoffech chi ddysgu tipyn mwy am yr hyn yr ydych yn ei weld, cysylltwch â’r tîm co-coast.

DILYNWCH Y CÔD MOROL

Os ydych allan ar y dŵr, ffordd dda o leihau eich effaith yw dilyn y Côd Morol a rhoi gwybod i eraill amdano hefyd. Mae hyn oll yn ymwneud â sicrhau nad ydym yn tarfu ar ein mamaliaid morol pan fyddwn allan ar y môr. Y prif egwyddorion i’w dilyn yw: - Arafwch i lawr - Arhoswch ar yr un llwybr - Cadwch eich pellter

41


info@penllynarsarnau.co.uk www.penllynarsarnau.co.uk 01286 679495

@ ACA_PLAS_SAC Pen Llŷn a’r Sarnau


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.