Page 1

O DAN Y DON Rhifyn 2 2021

CYLCHGRAWN

ACA Pen Llŷn a’r Sarnau

HWYLIO YN ERBYN PLASTIG Dewch i wybod mwy am sut mae’r broblem fydeang hon yn effeithio ar rai o’r llefydd mwyaf ynysig yn y byd.

Morloi llwyd yng Nghymru Dysgwch fwy am y mamaliaid morol carismataidd hyn.

Tir a Môr

O dan y don...

Dysgwch fwy am y prosiect cyffrous a phellgyrhaeddol hwn.

ym Mhen Llŷn a’r Sarnau. Chwilotwch yr ACA drwy lygaid y plymwyr sgwba.


CROESO

C

roeso i rifyn cyntaf O Dan y Don! Y cylchgrawn sy’n crwydro byd tanddwr Pen Llŷn a’r Sarnau, un o’r ardaloedd morol gwarchodedig mwyaf yn y DU. Dewch i weld beth sy’n ffynnu dan y don a beth all fod yn cuddio o’r golwg! Yn y rhifyn hwn cawn wybod am y dyfrgi a pham y dylid osgoi Chwysigod y Môr. Er gwaethaf ei brydferthwch a’i hynodrwydd, mae’r amgylchedd morol yn wynebu heriau lawer. Mae gwybodaeth am brosiectau sy’n digwydd yn eich ardal a sut allwch chi fod yn rhan ohonynt ar gael yn y cylchgrawn. Yn y rhifyn hwn cawn wybod am fyd cyfrin y morwellt a gallwch ymuno â’n hymgyrch i roi’r gorau i ddefnyddio gwellt plastig. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y rhifyn hwn o O Dan y Don, yn arbennig Alaw Geraint o Ysgol y Felinheli, a Lisa Louise Cenydd, a enillodd y gystadleuaeth i enwi’r cylchgrawn hwn. Yn aml, gall fod yn anodd i ni ddychmygu’r hyn sy’n mynd ymlaen O Dan y Don, felly dyma geisio darparu cipolwg i chi o fyd tanddwr cyffrous a lliwgar Pen Llŷn a’r Sarnau.

Alison

CYSYLLTWCH Â NI

info@penllynarsarnau.co.uk www.penllynarsarnau.co.uk 01286 679495

Alison Palmer Hargrave Swyddog ACA / Golygydd

@ ACA_PLAS_SAC Pen Llŷn a’r Sarnau


Rhifyn 2 2021 O Dan y Don

CYFLWYNIAD I’R ACA Porthmadog

Nefyn

Glaslyn / Dwyryd

Pen Llŷn

Harlech

Abersoch Aberdaron

Ynys Enlli

Pen Llŷn a’r Sarnau

GWYNEDD

adrig Sarn B

Abermaw

-Bwch Sarn-y

Mawddach

Machynlleth

Dyfi

Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Special Area of Conservation (SAC)

Sarn

lin Cynfe

CEREDIGION

Mae Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Pen Llŷn a’r Sarnau yn ardal forol warchodedig sy’n ymestyn o Nefyn ar arfordir gogleddol Pen Llŷn, gogledd Cymru, dros 230km i lawr at oddeutu milltir i’r gogledd o Aberystwyth, canolbarth Cymru. Mae’r ardal wedi’i dynodi yn sgil ei chyfoeth o fywyd gwyllt a chynefinoedd. Mae ardaloedd fel rhain yn cael eu dynodi am eu cynefinoedd a rhywogaethau o bwysigrwydd rhyngwladol. Mae gan Ben Llŷn a’r Sarnau 12 ohonynt: • • • • • • • • • • • •

Riffiau Aberoedd Lagŵn Arfordirol Gwastadeddau llaid a thywod Banciau tywod islanwol Ogofâu môr Cilfachau a baeau mawr a bas Dolydd Arfor yr Iwerydd Salicornia Dolffiniaid trwynbwl Morloi llwyd Dyfrgwn

Mae sawl ffordd wych o helpu i warchod Pen Llŷn a’r Sarnau. Cymerwch olwg ar yr adran ‘Bod yn rhan’ ar dudalen 50, edrychwch ar ein gwefan neu ymunwch â ni ar y gwefannau cymdeithasol, i weld rhai o’r prosiectau ardderchog sydd angen gwirfoddolwyr.

BETH YW ARDAL WARCHODEDIG? Mae Ardal Forol Warchodedig yn ddyfais y gallwn ei ddefnyddio i warchod cynefinoedd morol a rhywogaethau o bwysigrwydd cenedlaethol neu ryngwladol wrth alluogi i’r ardal gael ei defnyddio’n gynaliadwy. Mae sawl math o AFW, yn cynnwys, Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) megis Pen Llŷn a’r Sarnau, Ardaloedd Gwarchod Arbennig (AGA) a Pharthau Cadwraeth Morol. Ar hyn o bryd, mae oddeutu 23% o foroedd y DU wedi’u dynodi fel math o ardal forol warchodedig. Mae’r DU wedi ymrwymo i nifer o gytundebau rhyngwladol sy’n nodi bod yn rhaid i ni sefydlu rhwydwaith o ardaloedd sy’n cael eu rheoli’n dda ac sy’n ecolegol gydlynus. Mae hyn yn golygu bod yr holl safleoedd mewn rhwydwaith yn rhoi mwy o fudd nac un safle ar ei ben ei hun.

Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y rhifyn hwn o O Dan y Don: Awduron yr erthyglau : Paul Kay, Alison Palmer Hargrave, Nia Hâf Jones, Becky Price, Jake Davies , Llinos Griffin, Mike Thrussell, Ben Porter, Molly Lovatt, Chloe Powell-Jennings, Arwel Jones Lluniau : Jake Davies, Samantha Bryan, Alison Palmer Hargrave, Paul Kay, Llinos Griffin, Mike Thrussell, Ben Porter, Molly Lovatt, Chloe Powell-Jennings, Catrin Glyn, Ann Wake, Al Rowat

Llun clawr: Paul Kay

3


4

O Dan y Don Rhifyn 2 2021

CYNNWYS CROESO Tudalen 02 Croeso i O Dan y Don, cyflwyno’r staff a manylion cyswllt Tudalen 03 Cyflwyniad i’r ACA a ‘Beth yw ardal warchodedig?’

NEWYDDION Tudalen 06-07 Hynt a helynt y tîm eleni

ERTHYGLAU Tudalen 08 Mapio sonar Tudalen 09 Y bronze bell Tudalen 10 Chwilota dan y tonnau Tudalen 12 Rhywogaeth y rhifyn Tudalen 13 Môr-grwban lledraidd Tudalen 14 Padl-fyrddio Tudalen 18 Pysgota Môr

Tudalen 22 Morloi llwyd Tudalen 24 Moroedd Byw Cymru Tudalen 26 Rhywogaethau estron ymledol Tudalen 32 Neges o’r Arctig Tudalen 38 Tir a Môr Tudalen 40 Chwilota’r Traeth Tudalen 42 Taith Gerdded Gwylio Bywyd Gwyllt Tudalen 44 Llygredd plastig Tudalen 47 Gorffennaf Di-blastig Tudalen 48 Uwchgylchu creadigol

CYMRYD RHAN Tudalen 50 Sut i gymryd rhan


Cleiriach y gwymon (Labrus bergylta) yw un o rywogaethau mwyaf cyffredin i’w gweld ym Mhorth Ysgaden. Yn ystod misoedd yr haf fe allwch eu gweld yn casglu deunydd i greu nyth


6

O Dan y Don Rhifyn 2 2021

NEWYDDION TREIALU ANGORAU TROELL (HELIX) Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi bod yn treialu system angor newydd ym Mhorthdinllaen eleni. Cyn gryfed ag angor concrid, mae ôl-troed llai i’r angor troell ac felly bydd yn gwneud llai o ddifrod wrth ei osod a’i gynnal a’i gadw.

LLEIHAU EFFAITH ANGORFEYDD AR FORWELLT Rydym yn edrych ar ffyrdd o leihau effaith yr angorfeydd yn yr harbwr allanol ym Mhorthdinllaen ar forwellt. Dros y flwyddyn nesaf rydym yn gobeithio treialu system angori well er mwyn treialu pa mor addas ydyw fel angorfa a’i effaith ar y morwellt. Os hoffech fod yn rhan o’r prosiect hwn neu os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni.

TROI’R LLANW AR SBWRIEL MOROL Hoffem ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r amryfal ddyddiau glanhau traethau a fu’n digwydd yn ystod y 12 mis diwethaf yn ACA Pen Llŷn a’r Sarnau. Os gwnaethoch ymuno â ni, grŵp arall neu hyd yn oed ar eich liwt eich hun, mae popeth yn cyfri ac yn helpu i gadw’n traethau yn daclus! Ar gyfer glanhau traethau yn y dyfodol, edrychwch ar ganllawiau Llywodraeth Cymru am y wybodaeth ddiweddaraf ar sut i gasglu sbwriel yn ddiogel.

CARWCH NHW O BELL – DILYNWCH Y CÔD MOROL Rydym wedi parhau i hyrwyddo’r Côd Morol. Rydym wedi cynhyrchu nifer o arwyddion a sticeri bychain i atgoffa pobl o’r côd a’i bwysigrwydd. Mwynhewch y bywyd gwyllt; carwch nhw o bell. • Cadwch lygad allan am fywyd gwyllt • Cadwch eich pellter • Cadwch eich cyflymder a’ch sŵn i lawr

DYWEDWCH NA WRTH WELLT YFED! Er mwyn cadw’r ymgyrch i’r Gwellt a’r Gwelltyn i fynd, rydym yn annog pobl i ddweud “dim diolch” pan gânt gynnig gwelltyn yfed. Gobeithiwn y bydd hyn yn helpu i gefnogi’r rheini sydd wedi ymuno â’r ymgyrch i’r Gwellt a’r Gwelltyn ac yn annog pobl eraill i ymuno.

CRWYDRO O GWMPAS Rydym wedi bod yn brysur iawn dros y 12 mis diwethaf gyda’n holl brosiectau, ond credwn ei bod yn bwysig sicrhau eich bod yn ymwybodol o’r hyn rydym yn ei wneud ac yn cael cyfle i fod yn rhan o’n gwaith. Rydym wedi bod i nifer o sioeau a digwyddiadau lleol gan ddarparu gwybodaeth am Ben Llŷn a’r Sarnau a’r holl brosiectau gwahanol rydym yn eu rhedeg. Rydym wedi ymweld ag ysgolion, grwpiau lleol, busnesau a llawer mwy! Oherwydd y sefyllfa bresennol efallai y bydd hi’n anodd i ni deithio o amgylch cymaint ag arfer, felly er mwyn clywed y diweddaraf am ein gwaith, ewch i weld ein tudalennau Facebook a Twitter.

PECYN ADDYSG NEWYDD Rydym wedi bod eisiau creu pecyn addysg i ysgolion ers amser maith, ac rydym bron wedi’i gwblhau! Rydym wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth ag eraill i gynhyrchu pecyn a fydd yn darparu gwybodaeth a gweithgareddau i athrawon a disgyblion. Bydd y pecyn yn llawn gweithgareddau cyffrous er mwyn gwneud dysgu am yr awyr agored yn llawer o hwyl! Gobeithiwn lansio’r pecyn yn yr hydref.

CIMWCH COCH Yn yr 1970/80au bu cwymp difrifol yn nifer cimychiaid coch, ac mae’r niferodd yn dal i fod yn ddifrifol o isel heddiw. Rydym wedi bod yn edrych ar wahanol opsiynau i helpu i adfer y rywogaeth. Er mwyn mynd â’r prosiect hwn ymlaen i’r cam nesaf byddwn angen i bawb weithio gyda’i gilydd. Cadwch lygad ar ein safleoedd cyfryngau cymdeithasol am fwy o wybodaeth. Yn y cyfamser os byddwch yn gweld neu’n dal cimwch coch, byddem yn ddiolchgar petaech yn adrodd hyn ar: www.brc.ac.uk/irecord/crawfish.

CEFNOGAETH GAN Y GYMUNED

Rydym wedi cael cefnogaeth wych gan gymunedau lleol ar gyfer ein prosiectau dros y 12 mis diwethaf, hoffem ddiolch i bawb sydd wedi helpu a chyfrannu at y gwaith hwn. Heb gefnogaeth y cymunedau lleol, defnyddwyr y môr a busnesau lleol, ni fyddem yn gallu gwthio’r gwaith yma yn ei flaen. Edrychwn ymlaen at barhau i weithio efo chi yn 2021.


Rhifyn 2 2021 O Dan y Don

NEWYDDION BIODDIOGELWCH Un o’r bygythiadau mwyaf i fywyd gwyllt cynhenid yw rhywogaethau estron sy’n ymledu. Mae’r rhain yn rhywogaethau sy’n trechu rhywogaethau cynhenid ac yn gallu cael effaith ddifrifol ar yr amgylchedd. Rydym ar hyn o bryd wrthi’n gweithio ar gynhyrchu cynllun bioddiogelwch ar gyfer Pen Llŷn a’r Sarnau er mwyn lleihau’r risg o rywogaethau estron ymledol yn cael eu cyflwyno i’r ardal. Y cam cyntaf yw siarad gyda’r rheini sy’n defnyddio’r ardal i ddarganfod llwybrau posib ac i weithio allan pa wybodaeth sydd ei hangen ar bobl. Os hoffech fod ynghlwm â’r prosiect hwn neu os oes gennych unrhyw wybodaeth yr hoffech ei rhannu, byddem yn ddiolchgar petaech yn cysylltu â ni ar plasbiosecurity@naturalresourceswales.gov.uk.

DYFRGWN YN ABERDARON! Tra oedden ni’n dysgu mwy am sut mae dyfrgwn yn defnyddio Pen Llŷn a’r Sarnau, fe wnaethom lwyddo i gael delweddau camera/fideo cyffrous o ddyfrgwn ar hyd afon Daron yn Aberdaron. Roedd rhywun yn ddigon lwcus hefyd i dynnu lluniau o ddyfrgi yn rhedeg ar hyd y traeth yn Nhywyn!

MORLOI BACH Yn aml iawn mae morloi bach ifanc i’w gweld ar eu pen eu hunain. Mae nifer o bobl yn gwneud y camgymeriad o feddwl bod y fam wedi gadael ei rhai bach, ond mewn gwirionedd mae eu mam gerllaw. Ar ôl derbyn adroddiadau am bobl yn ceisio achub y morloi bychan hyn, gan arwain at rai ohonynt yn marw, fe wnaethom benderfynu sefydlu ymgyrch i roi gwybod i bobl bod y morloi bach yn hollol iawn, a phwy i gysylltu â nhw os oes ganddynt unrhyw amheuaeth. Mae morloi bach yn anhygoel i’w gweld, ond mae angen i ni gadw ein pellter fel nad ydym yn dychryn y fam a gwneud iddi ffoi. Peidiwch ag anghofio y gall brathiad gan forlo fod yn beryglus.

YMUNWCH Â’R YMGYRCH Lansiodd Amgylchedd y CU yr hashnod #CleanSeas yn 2017, gyda’r amcan o gael ymrwymiad llywodraethau, y cyhoedd yn gyffredinol a’r sector preifat i’r frwydr yn erbyn ysbwriel plastig morol. Dyma ymgyrch fyd-eang y mae Cymru bellach yn rhan ohoni. Mae Partneriaeth Moroedd Glân Cymru yn ymdrin â’r mater o ysbwriel morol yng Nghymru. I wybod mwy ac i weld beth allwch chi ei wneud, ewch draw i’w tudalennau: https://businesswales.gov.wales/marineandfisheries/information-andstatistics/marine-litter/marine-litter-what-you-can-do

7


8

O Dan y Don Rhifyn 2 2021

MAPIO LLONGDDRYLLIADAU GYDA SONAR M

ae SEACAMS 2 yn brosiect wedi’i ariannu gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) sy’n cefnogi datblygiad cyfleoedd economaidd mewn Carbon Isel, Ynni a’r Amgylchedd drwy arbenigo mewn defnyddio ymchwil ac arloesedd yn fasnachol mewn ynni adnewyddadwy morol (MRE), gwytnwch newid hinsawdd ac effeithiolrwydd adnoddau yng Nghymru. Drwy’r prosiect hwn, mae gwyddonwyr morol o Brifysgol Bangor (Ysgol Gwyddorau Eigion) wedi cael mynediad at gwch ymchwil SEACAMS, y Prince Madog. Mae’r dechnoleg sonar aml-belydr diweddaraf ar fwrdd y Prince Madog ac mae’n gadael i wyddonwyr leoli ac arolygu llongau o’r ddau ryfel byd. Mae’r systemau sonar aml-belydr heb eu hail ar y cwch ymchwil yn gweithio drwy gynhyrchu modelau tri-dimensiwn ‘high resolution’ o

wely’r môr wrth i’r cwch ymchwil symud drwy’r dŵr uwch ei ben. Mae’r modelau hyn yn galluogi i arolygwyr a gwyddonwyr adnabod gwrthrychau i’r gentimetr bron, er bod hyn yn ddibynnol ar yr amodau ac ar y systemau penodol a ddefnyddir.

hunaniaeth a hyd yn oed ddarparu tystiolaeth o sut y bu iddynt ddryllio.

Gall archeolegwyr morol gadarnhau hunaniaeth llongddrylliad a darparu gwybodaeth ar sut y bu i’r cwch suddo. Diolch i’r dechnoleg, gall yr offer gynhyrchu delweddau a modelau manwl sy’n taflu goleuni gwerthfawr ar hanes y cychod y maent yn eu canfod. Hyd yma, mae astudiaethau wedi’u cynnal ar fwy na 70 o safleoedd, a gobeithio y bydd mwy yn cael eu harolygu yn y dyfodol.

Ynghyd â darparu ffynhonnell wybodaeth werthfawr i haneswyr ac archeolegwyr morol, gallai defnyddio mapio solar ar gyfer arolygu llongddrylliadau gyfrannu at ddechrau diwydiant newydd. Mae gwyddonwyr yn cael gwybodaeth newydd am sut mae llongddrylliadau yn dylanwadu ar brosesau ffisegol a biolegol yn y môr, ac mae’r wybodaeth hon yn darparu cysyniadau newydd sy’n cefnogi’r sector ynni adnewyddadwy morol (MRE). Yn ogystal, mae ymchwilwyr yn edrych ar sut y gall y strwythurau hyn weithredu fel riffiau artiffisial er mwyn ceisio cynyddu bioamrywiaeth morol.

Mewn dyfnderoedd o 100 metr, sydd i’w canfod fel arfer ym Môr Iwerddon, mae ymchwilwyr yn creu modelau a delweddau o longddrylliadau a allai helpu archeolegwyr morol i gadarnhau eu

Bydd yr holl ddata sydd wedi’i gasglu yn hynod fuddiol i wyddonwyr morol, archeolegwyr a haneswyr. Bydd y dechnoleg mapio solar newydd hon yn rhoi darlun llawer cliriach i ni o’r hyn sy’n llechu o dan y don.


Rhifyn 2 2021 O Dan y Don

THE BRONZE BELL - Y LLONG NA CHYRHAEDDODD BEN EI THAITH

YN HANESYDDOL, BYDDAI NIFER O LONGAU A CHYCHOD WEDI BOD YN HWYLIO O AMGYLCH ARFORDIR PEN LLŶN GAN GLUDO POB MATH O NWYDDAU, YN OGYSTAL Â DIWYDIANT PYSGOTA O FAINT DA, WRTH GWRS. OHERWYDD HYN AC YN SGIL YR AMODAU DIFRIFOL A ALLAI GODI O BRYD I’W GILYDD, CREDIR BOD DROS DDAU GANT O LONGDDRYLLIADAU YN YR ARDAL. MAE CHWE LLONGDDRYLLIAD GWARCHODEDIG O AMGYLCH ARFORDIR CYMRU AC MAE ANGEN CAEL TRWYDDED GAN LYWODRAETH CYMRU I BLYMIO YN Y LLONGDDRYLLIADAU HYN.

M

ae llongddrylliad y Bronze Bell wedi’i henwi ar ôl y gloch a ganfuwyd ar y safle, yn dyddio’n ôl i 1677, ynghyd â chanonau, angorau a 43 bloc o farmor Carrara Eidalaidd, ac mae’n debyg eu bod ar eu ffordd i Gadeirlan St Paul fel rhan o’r gwaith o’i hailadeiladu yn dilyn Tân Mawr Llundain! Mae safle’r llongddrylliad i’r de o riff Sarn Badrig rhwng Abermaw a Harlech ym Mae Ceredigion, ac fe’i canfuwyd 10m o dan yr wyneb gan ddeifwyr o Glwb Sub-Aqua Glaslyn a Harlow yn 1978. Daeth y deifwyr wyneb yn wyneb â llong oedd wedi’i harfogi’n fawr, oedd yn cynnwys oddeutu 66 tunnell o farmor Carrera, 25 dryll haearn bwrw, y gloch efydd ei hun a sawl trysor arall. Lluniodd y deifwyr Grŵp Cae Nest ac ynghyd â Sefydliad Archeoleg Morol a Hanes

Cymru ym Mhrifysgol Cymru (Bangor), gwnaethant gais i ddynodi’r safle a chais am drwydded i’w arolygu. Bellach, mae’r safle wedi’i ddynodi yn Llongddrylliad Hanesyddol dan Ddeddf Gwarchod Llongddrylliadau 1973. Cafodd darnau o bren o’r llongddrylliad eu hymgorffori mewn adeilad yn Neuadd Cors y Gedol ac mae nifer o’r arteffactau o’r llongddrylliad bellach yn cael eu harddangos mewn amgueddfeydd lleol. Ar gyfer dathliadau’r Mileniwm, bu i ŵr lleol o’r enw Frank Cocksey greu cerflun o’r enw ‘The Last Haul’ er cof am y llongddrylliad. Mae’r cerflun trawiadol, sy’n dangos cenedlaethau o bysgotwyr yn llusgo eu rhwydi, wedi’i gerfio o un bloc o farmor Carrara, wedi’i leoli ger harbwr Abermaw ac mae’n werth mynd draw i’w weld.

9


10

O Dan y Don Rhifyn 2 2021

1. Edrychwch yn ofalus ymysg y gwymon ger y waliau, lle y gellir canfod crothell fôr (Spinachia spinachia) cuddliw, yn enwedig tuag at ben bas y bae. 2. Gellir dod o hyd i’r Gwyniad Du (Gobius niger) yn gwarchod eu gwalau yn y tywod. 3. Mae rhywogaethau amrywiol o wyniaid i’w canfod yn y safle, un o’r rhywogaethau mwyaf yw’r Gwyniad Du (Gobius niger), sy’n rhywogaeth chwilfrydig ac sy’n siŵr o ddod draw i chwilota.

CHWILOTA DAN Y TONNAU YM MHEN LLŶN A’R SARNAU Mae sawl ffordd y gallwch fynd ati i fwynhau y cyfoeth o fywyd gwyllt sydd i’w ganfod yn Ardal Cadwraeth Arbennig Pen Llŷn a’r Sarnau, o wylio dolffiniaid ar hyd y pentiroedd i chwilota yn y pyllau glan môr rhwng y llanw ar hyd yr arfordir creigiog.

F

odd bynnag, un o’r ffyrdd mwyaf cyffrous o fwynhau’r bywyd morol yw drwy chwilota dan y tonnau wrth ddeifio sgwba. Mae deifio sgwba yn rhoi cyfle i chi ddod wyneb yn wyneb ag amrywiaeth o gynefinoedd megis riffiau dynodedig y Sarnau a grëwyd yn ystod yr Oes yr Iâ ddiwethaf, a rhywogaethau megis y morloi llwyd chwareus sydd i’w gweld o amgylch Ynysoedd Tudwal. Yn ystod misoedd yr haf, mae’r amodau yn yr ACA yn ddelfrydol ar gyfer deifio sgwba. Mae tymheredd y dŵr yn codi i hyd at 16°C ac hyd yn oed i 20°C neu fwy yn nyfroedd bas Bae Ceredigion, a cheir gwelededd o hyd at 20m ar ddiwrnod da. Mae ymuno â’r clwb deifio BSAC lleol, ‘Lleyn Sub-Aqua Club’, yn ffordd dda o fentro i’r dŵr a mynd i ddeifio. Mae’r clwb yn glwb deifio gweithredol sy’n deifio ddwywaith yr wythnos ac mae ganddo aelodau profiadol sydd wedi bod yn deifio yn yr ardal am flynyddoedd lawer. Mae pob deif o amgylch arfordir Llŷn yn unigryw ac yn wahanol bob tro. Mae mwyafrif y deifiau yn digwydd ar

riffiau, a’r riffiau ar ochr ogleddol Llŷn yw’r rhai mwyaf poblogaidd. Gellir deifio ynddynt yn ystod dŵr slac neu fel deif drifft. Mae riffiau mawr megis y riffiau oddi ar Ogledd Llŷn yn ferw o fywyd; gellir dod o hyd i gimychiaid, crancod ac octopws yn y tyllau ac os ydych yn ffodus iawn, gallwch weld y cranc sbwng (Dromia personata) sy’n feistr ar guddliw. Uwchben y riff, gellir gweld heigiau o forleisiad (Pollachius pollachius) a bib (Trisopterus luscus). Gellir gweld un o’r cynefinoedd tawelach ym Mhorthdinllaen, sef y gwely morwellt (Zostera marina). Mae’r gwely i’w ganfod mewn dyfroedd bas ond ymysg rhywogaethau glaswellt gwyrdd megis y Bibell Fôr Fwyaf (Sygnathus acus) a’r Bibell Fôr Leiaf (Nerophis lumbriciformis) ynghyd â nifer o wyniaid brych yn cuddio ynddo. Mae’r gwely morwellt hefyd yn darparu gwasanaeth ecosystem pwysig gan ei fod yn gweithredu fel ardal fagu i ledod (Pleurnonectes plattesa), penfras (Gadus morhua) a rhywogaethau eraill sydd o bwys masnachol. Nid oes angen cwch i gyrraedd

1

2


Rhifyn 2 2021 O Dan y Don

3

bob safle; mae Porth Ysgaden yng Ngogledd Llŷn yn fae cysgodol, sy’n ei wneud yn lleoliad perffaith ar gyfer deifio ar y lan ac i hyfforddeion. Mae amrywiaeth o gynefinoedd i’w cael ar y traeth goleddol hwn, o dywod moel i fforestydd gwymon bychan, sy’n golygu bod modd canfod amrywiaeth fawr o rywogaethau yno. Fodd bynnag, mae’r môr o amgylch Pen Llŷn hefyd yn cyflwyno amodau mwy heriol i ddeifwyr, megis gwelededd isel a thymheredd oer.

Amodau sy’n gadael i hyfforddeion fentro ar ddeif mwy heriol, ynghyd â phrofi sgiliau’r deifwyr mwy profiadol. Oes gennych chi ddiddordeb dysgu deifio a chanfod beth sy’n llechu o dan y tonnau? Mae clwb ‘Lleyn SubAqua’ yn croesawu deifwyr profiadol neu amhrofiadol i ddod yn aelodau. I wybod rhagor am ymaelodi neu roi cynnig ar ddeif er mwyn cael blas arni, ewch draw i: http://www.llynscuba.org.uk.

I weld beth sy’n llechu o dan y tonnau o amgylch Pen Llŷn, dilynwch Jake ar y cyfryngau cymdeithasol: Youtube : JDscuba Instagram: @JDScuba FaceBook: JDScuba Twitter: @jakedavies333

11


© ANN WAKE AND AL ROWAT

O Dan y Don Rhifyn 2 2021

RHYWOGAETH Y RHIFYN: MORWLITHEN CLYBIOG-OREN Ydych chi erioed wedi clywed am yr morwlithen clybiog-oren? Efallai ddim... Fodd bynnag, dyma greadur bychan sy’n gymaint mwy na gwlithen gyffredin. Mae’n llawer mwy lliwgar na’r rhai y gwelwch yn eich gardd; mae’r wlithen hon yn wyn ac mae ganddi goesynnau a elwir yn “rhinophores”. gyda’u pennau yn lliw oren llachar.

G

ellir dod o hyd i’r morwlithen clybiog-oren (a elwir hefyd yn nudibranch) ar hyd arfordir y DU i gyd. Maent yn byw ar wymon a chreigiau mewn dyfroedd bas ger y lan, ac efallai y dowch o hyd iddynt y tu mewn i bwll glan môr o bryd i’w gilydd. Credwch neu beidio, mae morwlithod yn gigysyddion, sy’n golygu eu bod yn bwyta anifeiliaid eraill. Mae’r morwlithen clybiog-oren wrth ei bodd yn bwyta bryosoaid, sy’n grŵp o greaduriaid morol rhyfedd a elwir hefyd yn fatiau môr, gan eu bod yn edrych fel math o blanhigyn neu fwsog; mae bryosoaid yn drefedigaeth o anifeiliaid sy’n glynu gyda’i gilydd i lunio matiau ar wymon. Mae gan y forwlithen benodol

FFEITHIAU DIDDOROL

hon fecanwaith amddiffynnol pwysig sy’n ei hatal rhag cael ei bwyta gan ysglyfaethwyr. Mae’r coesynnau oren ar eu cyrff yn cael eu defnyddio i gynhyrchu cemegolion sy’n blasu’n afiach i anifeiliaid eraill!

MAE’R MORWLITHEN CLYBIOG-OREN YN LLAI NA 2CM O HYD - TUA MAINT DARN 2C!

Gallwch ddod o hyd i’r creaduriaid lliwgar hyn ar hyd y flwyddyn, felly y tro nesaf yr ydych chi ar yr arfordir, cofiwch gadw llygaid allan amdanynt!

MAENT YN DEFNYDDIO EU COESYNNAU NEU “RHINOPHORES” I FLASU AC AROGLI!

© ANN WAKE AND AL ROWAT

12

NID OES GAN FORWLITHOD RYWEDD, FELLY MAENT YN CAEL EU HADNABOD YN ‘DDEURYWIOL’, SY’N GOLYGU EU BOD YN WRYW AC YN FENYW!


Rhifyn 2 2021 O Dan y Don

10 FFAITH GWBL ANHYGOEL AM Y MÔR-GRWBAN LLEDRAIDD! Pwy fase’n meddwl nad nid rhywogaeth drofannol yn unig yw crwbanod môr? Oherwydd eu bod wrth eu bodd yn bwyta slefrod môr, mae Pen Llŷn a’r Sarnau yn ardal wych ar gyfer y rhywogaeth hon. Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych os ydych chi’n ddigon ffodus i weld un a dyma ein deg ffaith orau am y rhywogaeth anhygoel hon ...

1. Ymysg yr holl fôr-grwbanod, y môr-

grwban lledraidd yw’r un sydd â’r dosbarthiad ehangaf yn y byd, ac fe ellir dod o hyd iddo yn ein moroedd mor bell i’r gogledd ag alaska, uda, ac mor bell i’r de a seland newydd. gellir dod o hyd i’r môr-grwban lledraidd yn aca pen llŷn a’r sarnau!

2.

Y môr-grwban lledraidd yw’r rhywogaeth mwyaf o fôr-grwban yn y byd, ac mae’n tyfu i oddeutu 2m o hyd. daethpwyd o hyd i’r môr-grwban lledraidd mwyaf yn harlech yn 1988 roedd yn pwyso 916kg!

3.

Mae môr-grwbanod lledraidd yn ymlwybro draw i ogledd cymru o’r trofannau yn ystod yr haf i chwilio am eu hoff fwyd - y sglefren fôr.

4. Gall môr-grwbanod lledraidd fyw am hyd at 50 mlynedd yn y gwyllt.

5.

yn wahanol i rywogaethau eraill o fôr-grwbanod - nid yw cragen y môr-

grwbanod lledraidd yn galed. yn lle hynny, fel mae’r enw yn ei awgrymu, mae gan y creadur mawreddog hwn gragen ledraidd sy’n eithaf meddal a hyblyg.

6.

mae’r môr-grwbanod lledraidd yn nofwyr medrus, sy’n defnyddio eu hesgyll blaen pwerus (a all ymestyn hyd at 2.7m) i yrru eu hunain drwy’r dŵr. mae eu hesgyll ôl yn eu helpu i lywio eu hunain yn y dŵr, gan weithredu fel y llyw ar gwch.

7.

Môr-grwbanod lledraidd yw un o’r rhywogaethau crwbanod mwyaf mudol, gan eu bod yn croesi cefnfor yr iwerydd a’r cefnfor tawel..

8.

O gymharu â chrwbanod eraill, gall môr-grwbanod lledraidd oroesi mewn dyfroedd oerach, a hynny mae’n debyg yn sgil yr haen drwchus o fraster insiwleiddio a’u system waed unigryw, sy’n cadw eu cyrff yn gynhesach na’r dŵr sydd o’u cwmpas.

9.

Gan bod môr-grwbanod lledraidd wedi’u harfogi mor dda, mae’r addasiadau hyn yn caniatáu iddynt blymio i ddyfroedd oer, dwfn o dros 1000m! Ni all yr un môr-grwban arall blymio mor ddwfn â hynny!

10. Mae poblogaethau môr-grwbanod

lledraidd wedi dirywio’n ddramatig dros y ganrif ddiwethaf yn sgil bygythiadau megis

Mae saith rhywogaeth o grwban morol yn y byd. Bellach, mae bron pob rhywogaeth o grwban môr yn cael ei dosbarthu fel rhywogaeth mewn perygl, gyda thri o’r saith rhywogaeth mewn perygl eithriadol. .

13


14

O Dan y Don Rhifyn 2 2021

FUOCH CHI ’RIOED YN SYPIO?

Becky Price yn egluro pam mai padl-fyrddio yw ei hoff ffordd o chwilota ar hyd arfordir Pen Llŷn

C

efais fy magu ar y ffin rhwng Shropshire a Phowys, felly dim ond ar benwythnosau neu yn ystod y gwyliau yr oedd modd i mi ymweld â’r arfordir. Rwyf wedi bod wrth fy modd â chwaraeon dŵr erioed a phob tro yr euthum i lan y môr, roeddwn i’n gwneud rhyw fath o weithgaredd dŵr bob amser, boed hynny’n nofio, syrffio neu gaiacio. Ond, bum mlynedd yn ôl, cefais fy mhrofiad cyntaf o badlfyrddio ar fy nhraed (SUP - standup paddle-boarding), a dyma brofiad bythgofiadwy. Bu i fy nyweddi a minnau rentu cwpl o badlfyrddau am brynhawn un

diwrnod yn ystod yr haf 2015; roedd y gwynt yn ysgafn a’r môr mor llonydd fe edrychai fel gwydr - amodau perffaith ar gyfer padlfyrddio. Mae padlfyrddio ar eich traed - neu “sypio” (“supping”), fel mae’n cael ei alw weithiau, yn golygu eich bod yn sefyll ar ganol bwrdd gyda’ch traed led eich ysgwyddau ar wahân, ac yn gyrru eich hun drwy’r dŵr gyda rhwyf fawr. Nid rhywbeth ar gyfer y môr yn unig yw “sypio” chwaith, gallwch hefyd badlo ar hyd afonydd a llynoedd. Neidiais ar y bwrdd, gan ddefnyddio fy mhengliniau i gydbwyso fy hun i ddechrau, cyn i mi fagu digon

o hyder i sefyll ar fy nhraed. Yn araf, sythais fy nghoesau o’m cwrcwd i sefyll, fy mreichiau wedi’u dal allan o’m blaen. Mae’n siwr fy mod wedi edrych fel Bambi! Mae padlfyrddio yn ffordd wych i gadw mewn siâp gan eich bod yn defnyddio pob math o gyhyrau er mwyn cadw eich cydbwysedd. Wna i ddim dweud celwydd, y tro cyntaf i mi roi cynnig ar badlfyrddio, mi wnes i syrthio i mewn, ond ar ddiwedd y dydd, dim ond dŵr ydi o. Ar ôl ymarfer rhywfaint ac wrth i mi fagu hyder, fe benderfynom fentro allan ymhellach tuag at ynysoedd gerllaw. Yr hyn y gwnes i sylwi arno yn syth oedd pa mor dawel a heddychlon yr oeddwn i’n teimlo; erbyn gweld, mae padlfyrddio yr un mor dda i’ch meddwl ag y mae i’ch corff. Roeddwn yn teimlo cysylltiad â’r tirwedd o’m cwmpas mewn ffordd nad oeddwn i wedi ei brofi erioed o’r blaen. Mae sypio yn rhoi safbwynt unigryw i chi o’i gymharu â chychod lle mae’n rhaid i chi eistedd i lawr arnynt; mae’r rhain yn tueddu i ganolbwyntio eich sylw ar fynd ymlaen a symud ymlaen.


Rhifyn 2 2021 O Dan y Don

ddwy asgell dorsal yn torri wyneb y dŵr o’m blaen. “Dolffiniaid!” gwichiais ar fy mhartner oedd yn gleidio wrth fy ymyl. Roeddwn wedi gweld dolffiniaid yn y rhan hwn o’r byd o’r blaen, ond nid oeddwn wedi bod mor agos atynt erioed. Moment hudolus yn wir. Credaf bod padlfyrddio yn rhoi gogwydd gwbl wahanol i chi o’r amgylchedd o’ch cwmpas, gan roi profiad unigryw na all yr un gamp chwaraeon dŵr arall ei rhoi i chi. Cefais fy mhrofiad cyntaf o badlfyrddio bum mlynedd yn ôl ac fe syrthiais mewn cariad â’r gamp. Mi wnes fwynhau cymaint nes yr es i allan a phrynu fy mwrdd fy hun wedi hynny. Dyma un o’r buddsoddiadau gorau i mi ei wneud erioed. Mae yna rywbeth am fod allan ar y bwrdd yna, heb orfod cael injan swnllyd yn eich gyrru ymlaen. Dim ond chi a’r môr sydd yna, a’ch cryfder a’ch cydbwysedd chi sy’n mynd â chi i’r lle yr ydych eisiau bod. Yr unig beth yr wyf yn ei ddifaru yw na wnes i ddechrau ar y gamp ynghynt.

Mae sefyll yn gwneud i chi edrych am i lawr ac allan ar draws y gorwel. Wrth i mi badlo, gallwn weld popeth islaw ac o’m cwmpas i, ac oherwydd bod padlo ei hun yn broses mor ymlaciol a myfyriol, rwy’n tueddu i gymryd mantais o’r pethau ychwanegol y gallaf eu gweld. Gwelais bob math o bysgod a sglefrod môr diddorol yn y dyfroedd islaw i mi; mae’n debyg na fyddwn wedi sylwi arnynt fel arall. Mae padlo ar eich traed yn eich annog i chwilota, ac mae’n talu ar ei ganfed. Aethom ati i badlo o amgylch yr ynysoedd, gan fforio yn y cilfachau bychan a’r ogofau sydd wedi’u cerfio i’r graig, gan edmygu’r harddwch naturiol oedd o’n cwmpas cyn troi yn ôl am y lan. Ond, doeddwn i ddim eisiau i’r daith ddod i ben; Roeddwn am aros yn y foment hon o heddwch pur, felly eisteddais i lawr ar fy mwrdd ac anadlu’r aer hallt ffres, gan fyfyrio ar y byd o’m cwmpas. Dyna sy’n dda am badlfyrddio, dim ond y chi, eich bwrdd a’r amgylchedd naturiol sydd yno. Wrth i mi agor fy llygaid, gwelais

Mae ochr gystadleuol i sypio, ond yn bersonol rwyf i’n caru padlfyrddio gan ei fod yn rhoi cyfle i mi fynd yn agos at natur yn yr awyr iach, ac yn ymarfer corff i minnau ar yr un pryd. Mae padlfyrddio yn wych i bobl sydd eisiau bod yn weithgar, ond sy’n casáu meddwl am fynd i’r gampfa. Byddai’n gwneud hobi newydd gwych. Mae llawer o fuddion eraill hefyd. Mae rhai o’m profiadau gorau gyda bywyd gwyllt wedi digwydd pan oeddwn ar fy mhadlfwrdd. Rwyf wrth fy modd yn padlo o amgylch Pen Llŷn, yn enwedig ger Ynysoedd Tudwal; ac rwyf wedi colli cownt ar ba mor aml y mae dolffiniaid wedi bod yn nofio reit wrth fy ymyl. Teimlaf fy mod yn cael profiad llawer mwy personol wrth eu gweld pan fyddaf ar y padlfwrdd yn hytrach nag mewn cwch. Nid yn unig y mae padlfyrddio yn dda i’ch corff, mae’n dda i’ch meddwl hefyd. Mae’n fy nghydbwyso ac yn dod â heddwch i mi. Drwy badlfyrddio, mae gen i werthfawrogiad cwbl newydd am y lle yr wyf yn byw.

PUM FFORDD I FYND AMDANI

1

Nid oes angen i chi fyw ger yr arfordir i roi cynnig ar badlfyrddio. Yn wir, gall

afonydd a llynnoedd hamdden fod yn fwy gwastad ac felly’n llefydd llawer rhwyddach i ddysgu. Chwiliwch ar Google am eich clwb neu’ch canolfan llogi offer lleol. Mae’r offer yn ddrud i’w brynu, ond yn ddigon rhad i’w rentu.

2

Mae sefyll ar badlfyrddau yn syml iawn - maent wedi’u dylunio i ddarparu llwyfan

pur sefydlog. Er hynny, mae’n werth cael gwers os mai dyma eich tro cyntaf yn rhoi cynnig ar y gamp neu fe allech chi fynd rownd a rownd mewn cylchoedd.

3

Dowch i arfer â symudiad y bwrdd ar y dŵr cyn ceisio sefyll ar eich traed.

Dechreuwch cwrcwd.

drwy

badlo

o’ch

Unwaith y byddwch yn

gyfforddus, defnyddiwch eich dwylo i helpu eich hun ar eich traed.

4

I yrru eich hun ymlaen, rhowch eich padl yn y dŵr tuag at drwyn y bwrdd a

thynnwch ef drwy’r dŵr mewn llinell syth, gan ei gadw mor agos at ymyl y bwrdd ag y gallwch (heb ei gyffwrdd).

Gorffennwch eich

strôc pan mae’r padl yn baralel â’ch fferau.

5

Mae padlfyrddio yn addas i bobl o bob oedran a lefel ffitrwydd, yn enwedig pan

mae’r tywydd ac amodau’r dŵr yn ffafriol.

15


16

O Dan y Don Rhifyn 2 2021


Rhifyn 2 2021 O Dan y Don

Cysgodion anfeidrol ein moroedd glas, gwyrdd a llwyd, gan arddangos rhai o drigolion mawr Pen Llŷn a’r Sarnau Dde: Morlo llwyd Uchod: Dolffin trwyn potel Isod: Llamhidydd

17


18

O Dan y Don Rhifyn 2 2021

CYFRANIAD PYSGOTA MÔR AT GADWRAETH Mike Thrussell yn egluro pam ei fod yn credu bod pysgota môr yn aml yn cael ei ystyried fel camp hamdden, ond mae i’r gamp swyddogaeth llawer pwysicach, oherwydd os yw’n cael ei chofleidio a’i defnyddio, gall wneud cyfraniad mawr tuag at gadwraeth morol a chynllunio i’r dyfodol.

R

wyf wedi bod yn pysgota ar y môr am 60 mlynedd ac rwyf yn hynod bryderus am gadwraeth morol ac wedi bod yn rhan o hynny am bron i 40 mlynedd. Dros y blynyddoedd hynny, rwyf wedi dysgu mai pysgotwyr môr, ynghyd ag agweddau penodol o bysgota masnachol, sy’n gweld ac yn clywed beth yn union sy’n digwydd o dan y don yn ein moroedd. Nid oes unrhyw beth gwell na threulio amser maith ar y môr neu gerllaw iddo os ydych am weld newidiadau

mewn mudiad pysgod, argaeledd bwyd, amrywiaethau tymhorol, patrymau’r tywydd ac ar ben popeth arall, niferoedd stoc rhywogaethau penodol. Nid yw hyn yn rhywbeth newydd. Dechreuais roi tagiau ar ddraenogiaid y môr yng ngogledd Bae Ceredigion ar gyfer y biolegydd pysgod amatur enwog, Donovan Kelly MBE, amser maith yn ôl ar ddechrau’r 1980au. Wrth i mi sgwrsio â Donovan ar y pryd, dywedodd ei fod yn bryderus am

ddyfodol y stoc o ddraenogiaid y môr ac ar y pryd, nid oeddem yn gwybod llawer am gylch bywyd draenogiaid y môr. Y consensws cyffredinol bryd hynny oedd bod holl ddraenogiaid y môr y DU oedd yn oedolion yn symud i Sianel Lloegr i fagu yn gynnar yn y Flwyddyn Newydd. Nid oedd hyn yn gwneud unrhyw synnwyr i bysgotwyr oedd yn dal draenogiaid y môr yng nghanol y gaeaf mor bell i’r gogledd ac ar arfordir Yr Alban. Yn amlwg, nid oedd unrhyw ffordd ffisegol y gallai draenogiaid y môr deithio mor bell mewn cyfnod mor fyr o amser ac yna bod yn ôl yn eu dyfroedd cartref yn y gogledd ym mis Ebrill. Sefydlodd y rhaglen tagio bod draenogiaid y môr, yn bennaf, yn aros mewn ardal benodol a’u bod


Rhifyn 2 2021 O Dan y Don

yn greaduriaid tiriogaethol ac nad ydynt yn symud yn rhy bell i ffwrdd fel oedolion, fel arfer, mae hyn yn awgrymu i ni y gallai camau monitro i warchod draenogiaid y môr yn y dyfodol weithio’n well ar raddfa leol, yn hytrach na chenedlaethol, gan y gallai gorbysgota masnachol daro’r niferoedd lleol yn fuan. Roeddwn hefyd yn rhan o dagio morgwn gleision ym Mae Ceredigion o ddiwedd y 1980au ymlaen. Mae’n deg dweud mai’r tagio a wnaed yn annibynnol gan gapteiniaid pysgota siarter a physgotwyr môr unigol ym Mae Ceredigion, a chan yr Irish Central Fisheries Board gynt, oedd y ffynhonnell gyntaf i sefydlu bod ymgyfnewid pendant yn digwydd ar draws canol Môr Iwerddon wrth i forgwn gleision symud rhwng Bae Ceredigion ac arfordir Wicklow yn Iwerddon. Roedd hyn wedi cael ei amau, ond nid oedd wedi cael ei brofi cyn hynny.

yn symud allan i ddyfroedd dyfnach gerllaw i fagu, a hynny yn agos iawn i’w hardal frodorol arw. Yn ogystal, bu i’r cynllun tagio brofi bod draenogiaid y môr ifanc unigol yn dechrau ar eu bywydau mewn amgylcheddau aberol penodol iddynt hwy, ond cyn iddynt droi’n oedolyn fe allant godi pac yn sydyn a theithio am bellteroedd mawr a sefydlu cartref mewn ardaloedd ymhell iawn o’u cartref genedigol. Rwy’n cofio tagio draenogiaid y môr yn Aber Afon Mawddach ac fe gawsant eu dal yn ddiweddarach yn Aber Afon Conwy, symudodd un i Aber Afon Teifi ac fe deithiodd un arall i’r de i Aber Afon Camel yng Nghernyw. Mae’n anarferol, ond mae’n digwydd, ac mae’n amlwg mewn rhywogaethau sydd fel arfer yn aros mewn ardal benodol, megis y maelgi. Gan ein bod yn gwybod bod draenogiaid y môr

Wrth i ni dagio morgwn trwynog ym Mae Ceredigion ar ddiwedd y 1980au, tynnodd y gwaith sylw at laddedigaethau masnachol niferus lawr ger Ynys Wair wrth i’r morgi trwynog fudo i’r gogledd, ac arweiniodd hyn at niferoedd yn gostwng ar raddfa bryderus oddi ar arfordir Canolbarth a Gogledd Cymru wrth iddynt basio heibio yn ôl yr arfer ddiwedd Mehefin i ddechrau Awst wrth iddynt deithio i’r gogledd. Bu i bysgotwyr leisio’u pryderon, ond yn ôl yr arfer, ofer fu eu hymdrechion ac fe gwympodd eu niferoedd i lefelau pryderus. Mae rhaglenni tagio llwyddiannus eraill a ddilynwyd gan bysgotwyr dal a rhyddhau wedi arwain at warchod ac ail-sefydlu cathod môr cyffredin yng ngorllewin Iwerddon, a’r ymgyfnewidiad cyntaf ymysg morgwn glas rhwng Ewrop ac America i gael ei gadarnhau, a bod morgwn glas a ddaliwyd oddi ar arfordir y DU ac Iwerddon wedi ymddangos oddi ar arfordir De Affrica a’r Azores. Dim ond drwy dagio a rhyddhau y gellir coladu gwybodaeth mor werthfawr. Mae bron i 30 mlynedd wedi mynd heibio bellach ers i bysgotwyr môr

leisio eu pryderon mewn cylchgronau pysgota môr, a drwy ysgrifennu llythyrau i awdurdodau perthnasol y llywodraeth, bod niferoedd a maint cyffredinol y penfras yn cwympo’n ddramatig yn sgil gorbysgota masnachol. Anwybyddu hyn wnaeth gwyddonwyr ar y pryd. Gwyddom erbyn hyn pa mor gywir oedd y sylw hwn. Mae’r un mor bryderus, wrth i ni siarad, bod gwyddonwyr morol a pysgotwyr masnachol yn dweud wrthym nad yw niferoedd penfras wedi cwympo’n fawr a’u bod yn weddol doreithiog. Os hynny, pam nad yw pysgotwyr yn dal unrhyw benfras o faint da mewn niferoedd da ar hyn o bryd, dim ond yn achlysurol, a hynny drwy’r rhan fwyaf o’r DU ac Iwerddon? Yn wir, bydd gaeaf 2018/19 yn cael ei gofio yn y mwyafrif o ardaloedd fel un o’r cyfnodau gwaelaf am benfras sydd wedi’i gofnodi. Bu i bysgotwyr rybuddio hefyd, oddeutu 20 mlynedd yn ôl, am laddedigaethau’r forgath bigog a’r morgi ym Mae Ceredigion gyda rhwydi, ac o ganlyniad bu i’r niferoedd gwympo i’r isaf erioed, gyda rhai yn pryderu bod y morgi wedi diflannu. Hyd yn oed heddiw, ac yn bryderus iawn, mae’r boblogaeth morgwn yn parhau yn is na’r lefel gyfartalog dros 20 mlynedd yn ôl. Yn ogystal, difyr yw nodi mai capteiniaid pysgota siarter oedd yn gweithio o’r porthladdoedd yn Aberystwyth ac Aberdyfi a gyflwynodd gyfyngiadau dal penodol i rywogaethau ar eu cychod mor bell â 25 mlynedd yn ôl gan gyfyngu pysgotwyr i dair gwrachen ddu a thri draenog môr y dydd, dychwelyd pob morgi glas a morgi yn ôl yn fyw, a chyfyngu ar faint o fecryll y gallai pob pysgotwr fynd adref gyda nhw. Meddwl i’r dyfodol ar ei orau. Trueni na fyddai gwyddonwyr a llywodraethau wedi gwneud yr un peth! Yr agwedd fwyaf cyd-gyferbyniol yw’r mecryll a’r penwaig. Arferai mecryll fod yn doreithiog oddi ar arfordir Canolbarth a Gogledd Cymru ac roeddynt yn dod i’r amlwg mewn niferoedd mawr o ganol mis Ebrill i ddiwedd mis Hydref. Dros yr hafau diweddar, niferoedd bychan iawn

19


20

O Dan y Don Rhifyn 2 2021

ohonynt sydd wedi bod o gwmpas, maent yn fychan eu maint ac nid oes modd rhagweld pa bryd y byddant yn cyrraedd; weithiau ni ddônt i’r amlwg yn iawn hyd fis Awst. Heb amheuaeth, mae pysgota masnachol diwydiannol ymhell bell i ffwrdd yn rhan o’r bai, ond efallai bod newid yn nhymheredd y môr dros y gaeaf wedi effeithio ar gylch magu’r macrell hefyd. Yn yr un modd, wrth i bysgota masnachol am benwaig leihau gan bod niferoedd yn isel, ers hynny, mae eu niferoedd wedi cynyddu, a nawr bob hydref, gaeaf a gwanwyn, mae dyfroedd Gogledd a Chanolbarth Cymru eto’n gweld bod penwaig yn cael eu dal mewn niferoedd da. Mae pysgotwyr môr hefyd wedi sylwi bod crancod yn bwrw eu cregyn (maent yn gwneud hyn er mwyn tyfu) yn arafach dros y blynyddoedd diwethaf, a bod y tymor yn llai. Mae hyn yn debygol o fod yn gysylltiedig â’r gwanwyn gwlypach, gyda dŵr llifogydd ac asidedd yn cael dylanwad mawr ar benderfyniad y crancod i fwrw eu cregyn, ynghyd â thymheredd

dŵr yn yr aberoedd. Nid oes yr un niferoedd o lymrïaid o gwmpas erbyn hyn chwaith, ac fe ellir gweld hefyd wrth i’r traethau gael eu “glanhau”, dechreuodd yr abwyd tywod ddiflannu hefyd. Mae’n cymdeithas “Baner Las” yn credu’n aml ei bod yn gwneud y peth iawn, ond hyd yn oed pan ydym yn credu ein bod yn cymryd camau cadarnhaol ar gyfer yr amgylchedd, gall ddal gael effaith ddinistriol ar rai ffurfiau o fywyd morol. Yn ogystal, mae newid hinsawdd wedi golygu bod symudiadau tymhorol cyffredinol pysgod wedi newid. Bellach, mae draenogod y môr a’r hyrddiaid yn cyrraedd dair wythnos i fis yn hwyrach ar gyfartaledd na’r hyn fyddai wedi digwydd ddegawd neu fwy yn ôl. Mae’r gaeafau wedi bod yn dangos arwyddion o lusgo i’r hyn a arferai fod yn wanwyn cynnar ac mae hyn wedi golygu bod gwyniaid y môr wedi bod yn aros gyda’r lan yn hirach dros y gaeaf na’r hyn fyddant wedi’i wneud o’r blaen. Yn y gaeafau mwynach, nid yw’r lledod yn dod mor agos i’r lan ac y byddent dros aeaf oer.


Rhifyn 2 2021 O Dan y Don

Mae’n rhaid i’r rhan fwyaf o bysgotwyr môr gymryd sylw o’r tywydd. Ffolineb llwyr, o safbwynt diogelwch, fyddai pysgota ar yr arfordir agored heb ddeall pa dywydd sydd ar y gorwel, yn enwedig o ran cyfeiriad a chryfder y gwynt. Gall cyfeiriad y gwynt fod yn benodol i ardal leol, ac mae’n rhaid i ni gofio hynny, ond bydd pysgotwyr môr yn dweud wrthych chi bod mwy o ddyddiau lle mae’r gwynt yn dod o’r gorllewin a’r gogledd orllewin na’r hyn a arferai fod. Gallwch weld hyn wrth edrych ar y llwyni eithin arfordirol ar arfordirau agored a arferai gael ymylon gwatad i’r de orllewin, yn sgil y prifwynt. Bellach, mae llwyni eithin yn datblygu ymylon gwastad ar yr ymyl gogledd orllewinol hefyd, yn sgil y newid hwn. Mae’r newid hwn yn y tywydd hefyd yn effeithio ar batrymau syrffio ar y traethau syrffio ac fe allwn ddisgwyl i nodweddion topograffi’r traethau hyn newid dros amser os bydd y gwyntoedd hyn yn parhau. Y peth gorau wnes i erioed, yn 14 mlwydd oed, oedd dechrau cadw dyddiadur manwl o bob trip pysgota yr es arno; rhywbeth yr wyf yn dal i’w wneud hyd heddiw. Rwy’n cyfeirio at sawl peth ynddo, ond y prif bethau y byddaf yn eu cofnodi yw cryfder y gwynt, cyfeiriad y gwynt, y tymheredd, cyflwr y môr, amodau’r tywydd, uchder ac amser y llanw, a’r pysgod y gwnes eu dal. A minnau bellach yn 64 mlwydd oed, gallaf edrych yn ôl dros y tudalennau a darllen am yr holl newidiadau yr wyf wedi’u gweld yn digwydd dros y 50 mlynedd hynny. Mae’n fy syfrdanu faint sydd wedi newid, yn enwedig dros y ddwy ddegawd ddiwethaf. Efallai bod 50 mlynedd yn amser hir i fodau dynol, ond i’r ddaear a’r môr dydi hynny’n ddim byd o bwys. A dyna yw’r pwynt, mewn perthynas ag amser y ddaear, mae’r ffeithiau a’r ffigyrau yr ydym ni’n eu casglu yn cyfeirio at gyfnod byr o amser na all gyd-fynd â oedran y ddaear. Mae’n rhy hawdd o lawer tybio bod y newidiadau hyn yn rhai parhaol, ond mae hynny’n annhebygol. Mewn 50 mlynedd arall,

bydd wedi newid eto. Fel amser, nid oes pen draw i’n dysgu am y byd naturiol a’i ymateb i weithgarwch cynyddol bodau dynol. Bydd llawer yn siŵr o anghytuno, ond mae’n gofyn y cwestiwn ynghylch p’un a ydym yn ymateb yn rhy gyflym ac yn amhriodol i’r hyn yr ydym wedi’i weld yn digwydd dros gyfnod o amser mor fyr. Rydym yn clywed yn aml gan ffynonellau amlwg nad yw cofnodion dibynadwy yn mynd yn ôl ymhellach na 70 mlynedd pan ddaw i gynydd yn lefel y môr a phatrymau’r tywydd, ac mae hyn yn bennaf yn sgil datblygiad cyflym technoleg yn sgil yr Ail Ryfel Byd. Nid yw 70 mlynedd yn ddim byd o bwys yn amser Y Ddaear. Mae gorymateb felly yn bosibilrwydd gwirioneddol y mae angen i ni fod yn ymwybodol ohono, fel arall fe allem wneud llawer mwy o ddifrod yn yr hirdymor. Mae pysgota masnachol yn gwaredu pysgod sy’n rhy fach neu nad ydynt eu hangen ac mae hyn yn enghraifft o fodau dynol, yn sgil polisi pysgodfeydd amhriodol, yn ceisio gwarchod stoc y dyfodol ond yn gwneud pethau’n gwbl anghywir a lladd stoc magu’r dyfodol. Dywedir bod y diwydiant yn gwaredu oddeutu traean o’r holl bysgod masnachol sy’n cael eu glanio. Mae’r pysgod hyn nad ydynt eu heisiau yn cael eu taflu yn ôl i’r môr yn farw neu ar farw, gan ddinistrio poblogaeth fawr o stociau’r dyfodol. Sut mewn gwirionedd y gellir ystyried bod y penderfyniad hwn yn synhwyrol neu’n rhesymegol ac yn unol a’r cysyniad o gadwraeth? Ond mae’n profi’r pwynt nad ydym yn gwneud pethau’n gywir bob tro wrth ymateb yn y tymor byr. Gan gadw hyn mewn cof, mae’n amlwg i rai y gall pysgota môr wneud cyfraniad mawr i gadwraeth ein stoc pysgod a’n hamgylchedd morol i’r dyfodol. Fel yr ydym wedi’i nodi, yn aml, pysgotwyr môr yw’r rhai cyntaf i fod yn ymwybodol o fân newidiadau yn y môr ac o dan y don, llawer ynghynt na’r gwyddonwyr hyd yn oed. Mae pysgotwyr yn gweld y moroedd a’r glannau yn ei holl ogoniant a’i dymer ac yn y pendraw, gydag amser a phrofiad, maent yn dod yn rhan ohono ac felly maent yn sylwi’n syth ar unrhyw newid. Os wnawn ni wrando ar bobl, megis pysgotwyr môr, sydd yn llythrennol ar faes y gad ac yn profi ac yn gweld newid dyddiol, gellir gwerthuso unrhyw newidiadau niweidiol posib yn wyddonol, a hynny’n gynnar, cyn y gwneir unrhyw ddifrod mawr neu wneud unrhyw benderfyniadau amhriodol. Mae hyn yn rhywbeth y mae’r DU, a’r byd, wedi bod yn wael am ei wneud dros y degawdau diweddar. Os wnawn ni anwybyddu unrhyw arbenigedd ynghylch y byd naturiol gan unrhyw garfan ddilys, byddwn, yn y pendraw, yn rhoi ein bodolaeth ein hunain yn y fantol.

21


22

O Dan y Don Rhifyn 2 2021

GADEWCH LONYDD I’R MORLOI! Mae morloi llwyd yn famaliaid morol hynod ac maent yn nodwedd o ACA PLAS, ond maent dan fygythiad gan bobl sy’n ceisio’u ‘hachub’. Dyma beth i’w wneud os ddowch chi ar draws un ohonynt.

Y

morlo llwyd (Halichoerus grypus) yw’r mwyaf o’r ddau rhywogaeth morlo yn y DU, ac mae’r gwrywod yn gallu pwyso hyd at 300kg! Mae’r mamal mawr hwn yn treulio’r rhan fwyaf o’i amser allan yn y môr lle mae’n plymio hyd at 70 metr am oddeutu tri munud ar y tro er mwyn bwydo ar bysgod, cregyn bysgod a seffalopodiau. Gellir dod o hyd i forloi llwyd ar hyd arfordir y DU i gyd, ac mae poblogaeth fagu bwysig iawn i’w chael yng ngorllewin Cymru. Fodd bynnag, y morloi llwyd yw un o’r morloi mwyaf prin yn y byd, ac mae oddeutu 40% o boblogaeth y byd, ac oddeutu 95% o boblogaeth yr UE o forloi llwyd i’w cael yn y DU! O ganlyniad, mae siawns y byddwch yn dod ar draws ‘llo’ morlo ar y tir, ac nid yw’n anghyffredin gweld llo morlo ar ei ben ei hun. Cafwyd adroddiadau cynyddol am farwolaethau lloi morloi wrth i bobl, ar gam, gredu bod y lloi wedi cael eu gadael, ac yna geisio’u ‘hachub’ drwy eu rhoi yn ôl yn y dŵr. Fodd bynnag, 90% o’r amser, nid yw’r llo morlo wedi cael ei adael, ac mae’n debygol bod y fam gerllaw yn y dŵr. Mae mamau morloi yn gadael eu lloi bach yn gynnar iawn mewn bywyd, pan maent yn cael eu diddyfnu yn dair i bedair wythnos oed. Ond yn achlysurol, gall lloi bach gael eu gwahanu oddi wrth eu mamau yn ystod stormydd ac efallai na fydd eraill yn bwydo yn iawn. Ar ôl tywydd

Morlo Llwyd (Halichoerus grypus)

stormus a phenllanw, bydd morloi yn llusgo eu hunain ar draethau i ymlacio ac adennill eu hegni. Y cyngor gorau i chi yw cadw pellter diogel rhyngoch chi a’r morlo fel nad ydych yn codi ofn ar yr anifail. Os yw’r llo morlo yn dal i sugno gan ei fam, yna fe allai nesáu at y llo roi’r bond rhwng y fam a’r llo dan fygythiad ac fe allai’r llo gael ei adael; bydd morloi yn ymateb os bydd rhywun yn mynd yn rhy agos atynt. Yn ogystal, mae’n bwysig gwybod y gall morloi frathu ac y gallai’r brathiad fynd yn heintus yn sgil y bacteria sy’n byw yng ngheg y morlo.

Maint: mae gwrywod yn mesur fyny at 300kg mewn pwysau a 2.5 metr o hyd, mae benywod yn llai, fyny at 150kg mewn pwysau ac 1.8 metr o hyd. Côt: amrywiol - clytiau o ddu, llwyd, brown, gwyn ac arian gyda’r cefn yn tueddu i fod yn dywyllach na’r bol - mae’r gwrywod yn tueddu i fod yn dwyllach na menywod. Pen: mae gan y ddau ryw mwsel hir, tebyg i gŵn, mae gan wrywod drwyn Rhufeinig amlwg – mae ffroenau’r ddau ryw yn gyfochrog â’i gilydd. Diet oedolion: pysgod yn bennaf (yn enwedig llymrïaid, gadoids, e.e. penfras a honos, a lledod, e.e. lleden goch), hefyd cramenogion (berdys, crancod) a seffalopodau (sgwid, ac o bosib ystifflog ac octopws.


Rhifyn 2 2021 O Dan y Don

23

BETH DDYLECH CHI EI WNEUD OS YDYCH CHI YN DOD O HYD I FORLO NEU FAMAL MOROL ARALL BYW? •

PEIDIWCH Â MYND AT YR ANIFAIL NA CHEISIO’I ROI YN ÔL YN Y DŴR.

CADWCH GŴN A PHLANT I FFWRDD RHAG YR ANIFAIL.

CHWILIWCH AM Y FAM, GAN EI BOD YN DEBYGOL O FOD GERLLAW

OS YDYCH YN AMAU BOD YR ANIFAIL WEDI CAEL EI ADAEL NEU OS YW’N AMLWG BOD YR ANIFAIL WEDI’I NIWEIDIO, ADRODDWCH AR HYN I’R BRITISH DIVERS MARINE LIFE RESCUE NEU’R RSPCA.

RSPCA: 0300 1234 999 LLINELL GYMORTH BDMLR RESCUE: 01825 765546 (LLUN-GWENER 9AM-5PM) 07787 433412 (Y TU ALLAN I ORIAU SWYDDFA NEU AR WYLIAU BANC) FFYNONELLAU GWYBODAETH: BDMLR GWEFAN WWW.BDMLR.ORG.UK RSPCA GWEFAN WWW.RSPCA.ORG.UK

Sefwch ddigon pell i ffwrdd o fi! Please stay well away from me!

Cadwch ddigon pell i ffwrdd oddi wrth y morloi bach a chadwch eich ci i ffwrdd. Os yw’r un bach ar ei ben ei hun ar y traeth, peidiwch â cheisio ei symud o gwbl. Fel rheol mae’r fam wrth law yn y dŵr. Cadwch draw er mwyn iddi allu dychwelyd at yr un bach fel bo angen. Peidiwch byth â hel morloi bach i mewn i’r môr - dydyn nhw ddim yn gallu nofio’n iawn ac mae angen amser arnynt i orffwys a thyfu.

Dwi ddim ar fy mhen fy hun I am not abandoned

Leave me alone, , I 'm ok! Dacw fy mam! My mum is over there!

PEIDIWCH â’n hel i mewn i’r dŵr, fedra’ i ddim nofio’n dda iawn! DO NOT chase me into the water, I can’t swim very well!

Please stay well away from seal pups and keep your dog away. If a pup is alone on a beach it is not abandoned, do not attempt to move it. Its mother is usually nearby in the water. Keep away so she can return to her pup when she needs to. Seal pups should never be chased into the sea - they are poor swimmers and need to spend their time resting and growing.

Os ydych chi’n meddwl bod morlo’n sâl neu wedi ei anafu ffoniwch yr RSPCA ar 0300 1234 999. Peidiwch â cheisio symud yr anifail na chyffwrdd ynddo o gwbl.

If you are concerned about the welfare of a seal because you believe the animal is sick or injured please call the RSPCA on 0300 1234 999. Do not attempt to move or intervene with the animal yourself.

Cafodd y testun ei atgynhyrchu gyda chaniatâd caredig Cyngor Sir Ceredigion. Cafodd y lluniau eu hatgynhyrchu gyda chaniatâd caredig Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro.

The text has been reproduced with kind permission form Ceredigion County Council. The illustrations have been reproduced with kind permission from Pembrokeshire Coast National Park Authority. CCO080 08/19 four.cymru

Gadewch lonydd i mi, , dwi n iawn!


24

O Dan y Don Rhifyn 2 2021

PROSIECT MOROEDD BYW CYMRU Mae gan Gymru oddeutu 1,700 milltir o arfordir, a chydag oddeutu 15,000km2 o foroedd, mae’n gartref i fyrdd o fywyd gwyllt godidog!

M

oroedd Byw yw gweledigaeth yr Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt ar gyfer dyfodol moroedd y DU a nawr, fwy nag erioed, credwn bod ein moroedd wedi cyrraedd trobwynt. Ynghyd â’n gwaith eiriolaeth â Llywodraeth Cymru a gwleidyddion Cymru, credwn fod y bobl leol, cymunedau lleol ac ymwelwyr arfordirol yn allweddol wrth geisio gwyrdroi dirywiad mewn bywyd gwyllt morol. Sut felly? Wel, meddai Syr David Attenborough unwaith “no one will protect what they don’t care about; and no one will care about what they have never experienced” ac felly ein cam cyntaf yw dod â’r hyn sydd fwy neu lai’n fyd cudd yn fyd byw, cyn arfogi pobl i weithredu ar ran bywyd gwyllt morol. Yn gynnar yn y gwanwyn 2018, cawsom arian gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Cenedlaethol ar gyfer prosiect 3 mlynedd o’r enw Moroedd Byw Cymru. Dyma brosiect mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru ac mae’n gadael i ni weithio â sefydliadau eraill, megis y tîm ym Mhen Llŷn a’r Sarnau, i fynd allan i dynnu sylw at ein bywyd gwyllt morol anhygoel. Yn ystod yr haf rydem yn mynd ar daith yn cyflwyno’n Moroedd Byw yn Fyw! Mae gan bob digwyddiad, yn ddibynnol ar y lleoliad, brofiadau gweledol, cyfleoedd i chwilota mewn pyllau glan môr, cyfleoedd i chwilota’r traeth, a chyfleoedd i wylio’r môr. Tu hwnt i’r sioe deithiol y mae sawl digwyddiad yn mynd ymlaen yn yr ardal. Un o’n ffefrynnau ydi’r digwyddiad Snŵdlo (Snorcelu + Dŵdlo) lle rydym yn gweithio gyda’r artist, Kim Atkinson, sydd yn byw yn lleol i Aberdaron i

alluogi pobl i fwynhau ysblennydd ein cynefinoedd morol tra’n dysgu i arlunio! Rydym hefyd wedi sefydlu rhaglen o weithgareddau fydd yn caniatáu i bobl ddod yn rhan o gadwraeth ymarferol yr amgylchedd morol, gydag arolygon bywyd gwyllt, glanhau traethau, digwyddiadau hyfforddi a thrwy sefydlu rhwydwaith o Bencampwyr Moroedd Byw ledled Cymru. I wybod rhagor am y prosiect, neu os hoffech chi fod yn rhan, ewch draw i www.livingseas.wales neu dilynwch @livingseaswales


Rhifyn 2 2021 O Dan y Don

25


26

O Dan y Don Rhifyn 2 2021

ESTRONIAID PEN LLŶN A’R SARNAU BETH YW RHYWOGAETHAU ESTRON YMLEDOL? Mae rhywogaethau estron ymledol (INNS), a elwir hefyd yn rhywogaethau anfrodorol ymledol, yn blanhigion ac anifeiliaid nad ydynt i’w gweld yn naturiol yn yr ardal ond sydd wedi’u symud yma fel arfer drwy weithgareddau dynol, a gallant achosi difrod sylweddol. Ystyri’r INNS yn un o’r achosion mwyaf arwyddocaol sydd wrth wraidd colli cynefinoedd a bygythiadau i fioamrywiaeth. Maen nhw’n disodli rhywogaethau cynhenid, yn cyflwyno clefydau ac yn costio tua £1.7 biliwn i economi Prydain! Mae INNS yn cyrraedd trwy amryw o ‘lwybrau’ gan gynnwys trwy ddŵr balast, baw oddi ar gychod / offer cychod, teithio gyda stoc dyframaeth ac ati, trwy weithgareddau fel hwylio hamdden, cludo, gweithgareddau pysgota, abwyd byw, dyframaeth a diwydiannau eraill. Mae enghreifftiau’n cynnwys y Chwistrell Fôr Garped sy’n cael ei henw o’i harfer o fygu rhywogaethau eraill, gan orchuddio strwythurau artiffisial a chynefinoedd â haen drwchus neu ‘garped’. Canfuwyd y rhywogaeth hon gyntaf yng Nghymru ym marina Caergybi yn gorchuddio algâu,

cregyn gleision a’r pontydd cychod a’r rhaffau. Cyflwynwyd brenigen yr wystrys America yn ddamweiniol gyda llwyth llong o wystrys yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac mae’n gyffredin yn y DU erbyn hyn. Mae’r brennig hyn yn ffurfio pentyrrau ac maent yn bla difrifol mewn gwelyau wystrys a chregyn gleision.

ASTUDIAETH ACHOS: CIMWCH AMERICANAIDD YN ERBYN Y CIMWCH EWROPEAIDD Mae’r cimwch Americanaidd yn cynhenid i Ogledd Ddwyrain America ac er bod achosion o’u gweld yn anghyffredin ac nad oes unrhyw dystiolaeth i awgrymu eu bod wedi ymsefydlu yn y DU, mae’n bosibl. Mae dau unigolyn wedi’u cofnodi yng Ngogledd Cymru (Pwllheli a Chonwy). Credir bod yr achosion o’u gweld o ganlyniad i ryddhau neu adael i sbesimenau ddianc o gaethiwed yn fwriadol. Yn 2015, rhyddhawyd 361 o gimychiaid Americanaidd estron, ymledol yn Brighton fel rhan o seremoni grefyddol. Mae’r cimwch Americanaidd yn debyg i’n cimwch Ewropeaidd cynhenid, ond mae’n fwy, hyd at 64cm o hyd a thua 2kg o ran pwysau ac mae ganddo

1 wahaniaethau amlwg eraill. Mae tystiolaeth yn dangos y gallai cimychiaid Americanaidd gyflwyno clefydau fel y syndrom smotyn gwyn a chlefyd cynffon goch a allai ymledu i anifeiliaid eraill. Gall pob cramennog fod mewn perygl o ddioddef feirws y syndrom smotyn gwyn. Gall y cimwch Americanaidd hefyd fygwth ein cimwch Ewropeaidd ni drwy gymryd ei fwyd a’i gysgod, yn ogystal â rhyngfridio o bosibl. Pe bai nifer y cimychiaid Americanaidd sydd yn ein dyfroedd yn cynyddu, gallai hyn gael effaith sylweddol ar bysgodfeydd cimychiaid cynhenid. Amcangyfrifwyd y byddai colli’r bysgodfa cimychiaid cynhenid yn costio £26.5 miliwn i economi Prydain.

1,2 - Cimwch Americanaidd 3 - Map o gofnodion INNS morol yng Nghymru ar fap gwres llwybrau


Rhifyn 2 2021 O Dan y Don

2

3

27


28

O Dan y Don Rhifyn 2 2021

PROSIECT BIODDIOGELWCH ARDAL CADWRAETH ARBENNIG PEN LLŶN A’R SARNAU Y brif ffordd o reoli INNS yw eu hatal rhag cyrraedd yma yn y lle cyntaf ac er mwyn gwneud hynny rydym yn creu cynllun bioddiogelwch. Mae hwn yn brosiect tair blynedd a ariennir gan Gronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewropeaidd ac sy’n cael ei redeg gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Bydd y prosiect yn edrych ar safleoedd a gweithgareddau risg uchel o fewn Ardal Cadwraeth Arbennig Pen Llŷn a’r Sarnau a sut y gallwn leihau’r risg o INNS. Mae bioddiogelwch yn golygu gweithredu pethau syml i atal cyflwyno a lledaenu INNS, megis codi ymwybyddiaeth, darparu canllawiau (ee ynglŷn â glanhau cychod / offer cychod ar ôl eu defnyddio a chyn symud i leoliad newydd ac ati), archwilio ardaloedd fel y gallwn eu canfod yn gynnar, rhoi gwybod am unrhyw INNS cyn gynted ag y deuir o hyd iddynt a rheoli lledaeniad INNS sydd eisoes yn bresennol. Rydym am greu cynlluniau gweithredu ar gyfer yr INNS sydd eisoes yn bresennol yn yr ardal a’r rhai sy’n debygol o gyrraedd yn y dyfodol. Mae Alison Palmer Hargrave, Swyddog ACA PLAS yn darparu cymorth prosiect drwy gydol y prosiect. Mae hyn yn cynnwys cynnal prosiect peilot ym Mhorthdinllaen sy’n edrych ar leihau effaith gwymon estron ar y gwelyau morwellt cynhenid. Y cam cyntaf yw siarad â’r rheini sy’n defnyddio’r ardal i nodi llwybrau posibl ac i weithio allan pa wybodaeth sydd ei hangen ar bobl. Os hoffech gymryd rhan yn y prosiect hwn neu os oes gennych unrhyw wybodaeth yr hoffech ei rhannu, mae croeso i chi gysylltu â ni. plasbiosecurity@ naturalresourceswales.gov.uk. 4 - Sargaswm

4

5 - Chwistrell Fôr Garped wedi’i chymryd o cragen cwch 6 - Pentwr brennig yr wystrys America


Rhifyn 2 2021 O Dan y Don

SUT I ADRODD EICH COFNODION INNS Nid yw bob amser yn hawdd adnabod y rhywogaethau hyn ond mae rhai canllawiau ar gael i’ch helpu (gwelwch y dolenni isod). Bydd y prosiect bioddiogelwch yn sicrhau bod canllawiau ar gael, a gallwch anfon e-bost atom os hoffech i ni bostio neu e-bostio’r wybodaeth hon atoch.

Y LLE GORAU I ROI GWYBOD AM RYWOGAETHAU GORESGYNNOL ESTRON: Ap CCALl Cymru: www.lercwales.org.uk/app.php NEU iRecord: www.nonnativespecies.org//index.cfm?sectionid=81

BLE ALLA I GAEL RHAGOR O WYBODAETH? Fideo YouTube am INNS: www.youtube.com/watch?v=EoggtzYr4Qk Canllawiau Bioddiogelwch RYA: www.rya.org.uk/knowledge-advice/environmental-advice/Pages/invasive-non-native-species.aspx INNS canllaw adnabod www.mba.ac.uk/fellows/bishop-group-associate-fellow#b18

Cysylltwch â ni ar plasbiosecurity@naturalresourceswales.gov.uk i gael unrhyw wybodaeth sydd ei hangen arnoch neu i drafod y prosiect bioddiogelwch.

5

6

29


30

O Dan y Don Rhifyn 2 2021

Yn y lle cyntaf, fe allai’r rhain ymddangos fel planhigion, ond mewn gwirionedd anifeiliaid hynod hardd ydynt. Chwith uchaf: Anemoni dahlia Dde: Mwydyn gwyntyll Chwith isaf: Sbwng ac anemoni


Rhifyn 2 2021 O Dan y Don

PHOTO PAGE

31


32

O Dan y Don Rhifyn 2 2021

NEGES O’R ARCTIG Ben Porter sy’n datgelu sut mae gwastraff plastig yn effeithio ar anialdir rhewllyd yr Arctig, ar ôl iddo ymuno â thaith ymchwil arloesol wedi’i harwain gan fyfyrwyr a deithiodd i Svalbard yn yr haf 2018.


Rhifyn 2 2021 O Dan y Don

A

r ôl treulio hanner fy mywyd wrth gael fy magu ar ynys bellennig Enlli oddi ar arfordir Llŷn, efallai nad yw’n syndod fy mod wedi datblygu cysylltiad dwfn â’r amgylchedd morol a’r bywyd anhygoel y mae’n ei gefnogi - o gytrefi dwys o adar môr yn nythu i forloi llwyd chwilfrydig sy’n igam-ogamu ymysg fforestydd gwymon tanddwr. Yn yr un modd, mae hyn hefyd wedi golygu fy mod wedi dod yn gynyddol bryderus ac ymwybodol o’r bygythiadau sy’n wynebu’r moroedd a’i drigolion - yn bennaf felly y bygythiad sy’n dod yn sgil ysbwriel morol.

PLASTIGION YN YR ARCTIG? Yn yr Hydref 2017, yn ystod fy nhrydedd blwyddyn yn astudio Bioleg Cadwraethol ym Mhrifysgol Exeter, gwelwyd cyfres o adroddiadau brawychus yn y penawdau, gan gynnwys datganiadau megis: ‘Arctic becoming dumping ground for plastic waste’. O dan y penawdau hyn roedd delweddau o draethau ynysig a fjordau rhewlifol wedi’u gorchuddio mewn ysbwriel morol. Roedd cyfran fawr o’r gwastraff hwn yn cynnwys eitemau bob dydd o’r cartref, wedi’u cario yno yng ngherrynt y cefnforoedd o ardaloedd poblog megis Gogledd Ewrop, a hyd yn oed o’r DU, i fannau pellennig yn yr Arctig. Roedd y cysyniad y gallai ysbwriel a daflwyd yn anystyriol ar draeth yma yng Nghymru, er enghraifft, wneud ei ffordd i ddyfroedd a glannau pellennig dwyrain Yr Ynys Las, yn frawychus, yn enwedig o ystyried y perygl oedd yn ei beri i’r bywyd gwyllt anghredadwy sy’n byw yn yr ardal hon o’r byd - Eirth Gwyn, Walrysod, Môr-ungyrn, Carfilod Bach, Gwyddau Môr a Gwylogod Brunich, i enwi ond rhai. Yn waeth na hynny, y gred nad oedd y mwyafrif o bobl yn ymwybodol, yn anwybodus neu hyd yn oed yn malio dim fod hyn yn digwydd. Bu i’r gyfres hon o adroddiadau yn ystod yr hydref 2017 danio’r gwaith o gynllunio a datblygu prosiect pur uchelgeisiol dros y misoedd i ddod, a fyddai yn y pendraw yn dod â grŵp o 25 o wyddonwyr, artistiaid, gwneuthurwyr ffilm, ymgyrchwyr,

morwyr a chyd-fyfyrwyr ynghyd ar daith i agor-llygaid, i grŵp o ynysoedd Arctig ynysig Svalbard, tua 600 milltir o Begwn y Gogledd.

33


34

O Dan y Don Rhifyn 2 2021

Y DAITH Ein nod oedd ‘gwneud yr anweladwy yn weladwy’: treulio pythefnos ar fwrdd llong dal 44-metr yn treillio am ficroblastigion yn y dŵr, arolygu’r môr agored am blastigion mawr yn arnofio, profi’r aer am ffibrau microplastigion, gwrando am lygredd sŵn tanfor, cynnal sesiynau glanhau traethau a chyfuno sgiliau amrywiol y tîm i ddod â’r neges am yr hyn sy’n digwydd i’r Arctig yn fyw i gynulleidfa ehangach yn ôl adref. Roedd y daith yn brofiad hynod anghredadwy, ond roedd yr hyn a welsom yn ein tristau: roedd yn echrydus gweld faint o blastig sy’n cyrraedd yr amgylchedd hynod bellennig a chyntefig hwn - sydd ond 600 milltir o Begwn y Gogledd. Roedd myrdd o offer a rhwydi pysgota ar hyd y glannau, ond yn fwy poenus fyth oedd gweld ysbwriel cartref arferol megis caeadau poteli, poteli plastig, blociau polystyren, ffyn cotwm a sigarennau bron ar bob traeth y bu i ni ymweld ag o. Roedd yn amlwg

bod rhai eitemau wedi cael eu cludo ymhell iawn i gyrraedd yr Arctig, megis crât pysgota Stornoway a nyrdls plastig (gronynnau plastig diwydiannol cyn-gynhyrchu). Allan ar y môr, wrth i ni dreillio wyneb y dŵr, gwelsom y llygryddion ‘anweladwy’ mwy llechwraidd y buasem yn disgwyl ei weld gyda’r lefel hwn o wastraff morol: ffragmentau a ffibrau plastig mân, tua milimetr neu ddau mewn maint - darnau a allai wneud eu ffordd yn rhwydd i sylfaen y we fwyd Arctig sy’n cefnogi miloedd o adar môr a mamaliaid dirifedi, o Fôr-ungyrn a Morfilod Gwyn, i ysglyfaethwyr ar y tir megis Eirth Gwyn. Mae astudiaethau yn Svalbard, er enghraifft, wedi canfod yn barod bod plastig ym mherfedd 87.5% o’r adar drycin y graig a arolygwyd, gyda chyfartaledd o 15 darn fesul aderyn.

EIN PRIF AWGRYMIADAU AR GYFER LLEIHAU MICROBLASTIGION! OSGOWCH DDEFNYDDIO MICROGLEINIAU Chwiliwch am gynnyrch cosmetig nad ydynt ond yn cynnwys gleiniau sgwrio neu gliter bioddiraddadwy.

MEDDYLIWCH AM AMSER PANED Defnyddiwch de rhydd a hidlwr neu fagiau te di-blastig

YCHWANEGWCH FFILTER YN EICH GOLCH Ychwanegwch belen neu fag ffilter i’ch peiriant golchi a sychu dillad i helpu i ddal y microffibrau sy’n cael eu rhyddhau

GWAHANWCH EICH DEFNYDDIAU Golchwch eitemau caletach, megis denim, ar wahân o ddefnyddiau synthetig megis siwmperi ‘fleece’ er mwyn lleihau’r rhwbio sy’n achosi i ffibrau ddod yn rhydd.


Rhifyn 2 2021 O Dan y Don

DARGANFUWYD BOD POB LITR O REW MOROL YR ARCTIG YN CYNNWYS ODDEUTU 12,000 O RONYNNAU O BLASTIG

ROEDD MWY NA 50% O’R GRONYNNAU PLASTIG OEDD WEDI’U DAL YN Y RHEW YN LLAI NAG UGEINFED O FILIMEDR O LED

35


36

O Dan y Don Rhifyn 2 2021

BETH NESAF?

BETH ALLWCH CHI EI WNEUD?

Mae cyfathrebu ac ymestyn allan yn agweddau hanfodol o’n cenhadaeth. Yn aml, mae gwyddoniaeth yn rhywbeth anodd i’r cyhoedd gael mynediad ato a’i ddeall, sy’n cuddio mewn cyfnodolion gwyddonol neu jargon cymhleth. Drwy fynd ag artistiaid, ffotograffwyr a gwneuthurwyr ffilm ar y llong, rydym wedi medru cyfathrebu’n canfyddiadau i gynulleidfa llawer ehangach mewn sawl ffordd - o beintiadau a cherfluniau i raglenni dogfen ac arddangosfeydd ffotograffig mewn orielau. Mae Jess Grimsdale un o’r artistiaid ar y daith - wedi bod yn gweithio ar lyfr i blant am y daith; Mae Tom Auld a Mari Huws wedi cynhyrchu ffilmiau trawiadol am y daith ac fe ellir eu gweld ar-lein; ac mae’r delweddau gan y ffotograffwyr ar y daith wedi cael eu defnyddio mewn erthyglau ac arddangosfeydd ledled y wlad.

‘Mae pob dewis yr ydym yn ei wneud, popeth yr ydym yn ei brynu, yn effeithio ar y math o blaned yr ydym am fyw arni. Mae’n byd angen moroedd glân ac iach. Ni yw’r unig rai a all wneud i hynny ddigwydd. Mae’n dechrau gyda ni, a hynny yn y cartref.’ Dyma eiriau ysbrydoledig Lewis Pugh, a nofiodd ar draws y Sianel y llynedd i godi ymwybyddiaeth o gyflwr ein moroedd, ac mae’n crisialu’r meddylfryd y mae’n rhaid i ni ei fabwysiadu er mwyn mynd i’r afael â’r broblem. Gall pob un ohonom wneud ein rhan i newid yr argyfwng sy’n wynebu’r amgylchedd naturiol: mae cymaint o newidiadau bychan syml y gallwn eu gwneud yn ein bywydau a allai - ar y cyd - wneud gwahaniaeth mawr i’r broblem hon. Osgoi defnyddio plastigion un-tro yw un o’r mwyaf mae’n debyg: yr eitemau hynny sy’n cael eu defnyddio unwaith ac yna’n cael eu taflu. Mae prynu poteli dŵr a chwpanau coffi y gellir eu hailddefnyddio yn ddechrau da er mwyn defnyddio llai o blastigion un-tro; dweud na i gyllyll a ffyrc a gwellt plastig mewn caffis a bwytai; peidio â defnyddio plastig di-bwrpas wrth y til yn yr archfarchnad a dweud wrth y siopau am gael ardaloedd di-blastig ar gyfer eu cynnyrch. Dim ond awgrymiadau bychan yw’r rhain er mwyn i chi fynd amdani, ond ewch draw i wefannau megis ‘Surfers Against Sewage’ i gael syniadau am gamau eraill y gallwch eu cymryd. Ewch draw i wefan Sail Against Plastic am ragor o wybodaeth ac i weld sut allwch chi helpu: www.sailagainstplastic.com


Rhifyn 2 2021 O Dan y Don

37


38

O Dan y Don Rhifyn 2 2021

symud yn ddirwystr o fewn sustemau ffermio effeithiol a rheoli yn ofalus effaith y cynnydd mewn pobl o bell ac agos sy’n cerdded ar hyd ein glannau, drwy’r flwyddyn, ar hyd Llwybr Arfordir Cymru. Mae cynnal ansawdd dŵr sydd yn llifo o’r afonydd i’r môr yn holl bwysig os ydym am sicrhau bod ein traethau a’r môr sydd yn ein hamgylchynu yn lân, ac yn cynnal y rhywogaethau arbennig sydd i’w gweld ar y tir, yn yr afonydd ac yn y môr. Mae’n anodd rheoli’r plastig sydd yn y môr ac sydd yn cael ei olchi ar ein traethau heb i ni ei gasglu, ond mae’n hanfodol ein bod yn ymddwyn yn gyfrifol er mwyn sicrhau nad ydym yn cyfrannu ymhellach at y broblem gynyddol yma. Rhaid gwneud penderfyniadau synhwyrol yn ein bywydau o ddydd i ddydd sydd yn arwain at newid ymddygiad ar lefel bersonol, ac ehangach i droi’r llanw yn erbyn gwastraff os yr ydym am ei atal rhag mynd i fewn i’r gadwyn fwyd wrth iddo gael ei dorri lawr i ddarnau mân gan rym y môr.

PROSIECT TIR A MÔR LLŶN Mae prosiect Tir a Môr Llŷn, sy’n cael ei ariannu drwy ‘Gynllun Rheoli Cynaliadwy’ Llywodraeth Cymru, yn torri tir newydd drwy annog cydweithio agos rhwng budd ddeiliaid sydd yn gyfrifol am reoli’r adnoddau naturiol arbennig ar y tir a’r môr sydd yn amgylchynu Penrhyn Llŷn. O ystyried na dim ond drwy deithio i’r Dwyrain y gellir gadael y Penrhyn heb wlychu eich traed a bod y rhan fwyaf o boblogaeth yn byw mewn trefi a phentrefi sy’n agos i’r arfordir mae’n naturiol i geisio rheoli’r amgylchedd arbennig yma fel un, ac ystyried yn ofalus effaith unrhyw weithgaredd ar raddfa ehangach. Rydym i gyd bellach yn dechrau sylweddoli sut mae effeithiau cynhesu byd eang yn gynyddol ddylanwadu ar ein bywydau yn Llŷn, gyda thywydd

mwy eithafol yn dod a sychder, stormydd cryf a glaw trwm yn fwy rheolaidd, allan o dymor ac am gyfnodau llawer hirach. Mae’r prosiect yma yn edrych i ddatblygu gwydnwch o fewn yr amgylchedd naturiol yn lleol fydd yn rhoi’r cyfle gorau i fywyd gwyllt fedru goroesi drwy wella cysylltedd a chynnal cynefinoedd ar hyd y rhimyn arfordirol sydd yn amgylchynu Llŷn. Mae’n hanfodol ein bod yn ceisio sicrhau bod cyfle i rywogaethau fedru

Trwy prosiect Tir a Môr Llŷn rydym wedi datblygu adnoddau dysgu sydd yn codi ymwybyddiaeth o’r materion yma, ac yn ceisio ysbrydoli a datblygu


Rhifyn 2 2021 O Dan y Don

dealltwriaeth bellach o’r ecosystem arbennig yr ydym yn byw ynddi ymysg plant a phobl ifanc yr ardal. Drwy weithio ar lefel leol yn effeithiol rydym yn medru adnabod ffyrdd newydd i ymateb i’r sialensiau yr ydym yn gorfod eu wynebu wrth i’r blaned yr ydym yn byw arni newid. Mae’r prosiect yn cymryd camau bychain fydd gobeithio yn annog mwy o gydweithio a chodi ymwybyddiaeth ynglŷn â sut y gallwn gyfrannu yn bositif i’r heriau newydd yma. Bydd rhaid i ni barchu ein hamgylchedd os ydym am sicrhau cyfleoedd economaidd i’r cenedlaethau fydd yn dod ar ein holau i barhau i fedru rheoli yn gyfrifol a chynaeafu yn gynaliadwy adnoddau naturiol yr ardal arbennig yr ydym yn byw ynddi.

39


40

O Dan y Don Rhifyn 2 2021

DITECTIFS GLAN Y MÔR Yn draddodiadol, lle sy’n cael ei gysylltu â’r haf yw glan y môr, ond mewn gwirionedd, does unman gwell i fynd yn y gaeaf er mwyn Chwilota’r Traeth.

CASYS WYAU GWICHIAID MÔR

PWRS Y FÔR-FORWYN - MORGI

PWRS Y FÔR-FORWYN - CATH FÔR

Mae’r moroedd stormus yn siŵr o ddadorchuddio dewis da o drysorau naturiol ac artiffisial, ac mae buddion iechyd i’w cael o wynt oer y môr. Mae gwynt y môr yn cyflymu gallu’r corff i amsugno ocsigen a chydbwyso serotonin, cemegyn sy’n gysylltiedig â thymer a straen, gan wneud i ni deimlo’n fwy egnïol. Ar adeg o’r flwyddyn lle y gallai fod yn ddeniadol iawn aros yn y tŷ, mae chwilota’r traeth yn weithgaredd gaeaf gwerth chweil ac nid oes prinder traethau i chwilota arnynt ar hyd arfordir Pen Llŷn a’r Sarnau, yn wir, mae’r ardal yn gartref i rai o’r goreuon yng Nghymru! Ymddangosodd y term Saesneg ‘beachcombing’ mewn print am y tro cyntaf yn Omoo, gwaith Hermann Melville, i ddisgrifio troseddwyr a dynion oedd wedi dianc oddi ar gychod morfila a oedd yn byw oddi ar froc môr wedi’i olchi i’r lan yn Ne’r Môr Tawel; mae ‘beachcombing’ yn cael ei ddefnyddio yn ehangach heddiw i ddisgrifio’r gweithgarwch hamdden o chwilio am drysorau sy’n cael eu golchi i’r lan ar draethau. Yn y pen draw, gêm dditectif yw chwilota’r traeth lle mae’r rhai sy’n cymryd rhan yn ceisio casglu tystiolaeth o’r bywyd gwyllt rhyfedd a rhyfeddol sy’n byw o dan y don, a’r rhan y mae yn ei chwarae yn y dirgelion sy’n digwydd o dan ein moroedd. Y traethlin yw’r lle gorau i chwilio am y dystiolaeth hon; wrth ymchwilio’n agos, gellir gweld y mathau gwahanol o wymon a môr-wiail byseddog, ac yn aml iawn, dyma’r lle y byddwch yn dod o hyd i fân faw pryfed genwair troellog. Mae olion mat môr, cytref o anifeiliaid bychan, yn aml yn gorchuddio rhai o’r môr-wiail byseddog mwyaf. Wrth dyrchu o amgylch y traethlin, gallwch ddod o hyd i rai casys wyau, a adwaenir ar lafar gwlad fel Pwrs y Fôr Forwyn, sy’n brawf o bresenoldeb siarcod, lledod a chathod môr yn ein dyfroedd. Bydd siâp a maint yr hyn y byddwch yn ei ddarganfod yn datgelu pa rywogaethau sydd wedi’i ddodwy. Tra bod gan y morgi lleiaf, a adwaenir yn fwy cyffredin fel y morgi, dendriliau cyrliog ar bob cornel, cyrn sydd gan gathod môr.

CRAGEN CRANC

Un o’r darganfyddiadau mwyaf cyffredin yw casys wyau gwichiaid môr; yn ddiddorol iawn, mae’r wyau cyntaf i ddeor yn bwyta wyau eu brodyr a’u chwiorydd. Gyda’u cregyn cogwrn, gwichiaid yw rhai o’r mwyaf adnabyddus; fodd bynnag, gellir dod o hyd i amrywiaeth enfawr o gregyn môr. Bydd gosod her o gyfrif cynifer o wahanol fathau â phosib yn rhyfeddu unrhyw un gan bod modd dod o hyd i gymaint ohonynt! Chwilotwch yn ddyfnach am arwyddion o lofruddiaeth - mae tyllau bychan crwn yng nghregyn rhai rhywogaethau yn datgelu presenoldeb y gragen fwclis, sy’n rhywogaeth brydferth, ond marwol. Mae’r anifail hwn yn ymlwybro ar hyd llawr y môr yn chwilio am ei ysglyfaeth - cregyn môr eraill - ac mae’n defnyddio ei dafod i ddrilio twll yng nghragen ei ysglyfaeth cyn sugno ei gorff meddal allan. Ar ôl cyfres o stormydd mawr, gellir dod o hyd i arwyddion o

YSTIFFLOG


Rhifyn 2 2021 O Dan y Don

wledydd pell wrth i ffa morol trofannol (podiau hadau) planhigion gwinwydd gael eu gwthio allan o’r Iwerydd, i mewn i Fôr Iwerddon ac yn y pen draw, ar y traethau. Mae’r rhain yn ganfyddiadau prin ond hyfryd ac yn profi bod ein moroedd i gyd yn gysylltiedig. Mae wastad yn werth edrych yn fwy gofalus am ffa morol os ydych chi’n dod o hyd i gaglau môr. Gellir dod o hyd i gaglau môr, gyda’u coesynnau hir a’u cregyn platiog, yn tyfu ar falurion sydd wedi cael eu tasgu i’r lan ar ôl arnofio allan i’r môr - dyma arwydd gwirioneddol bod stormydd y gaeaf wedi bod yn cludo gwrthrychau diddorol o bellteroedd y byd. Nid yw’n anghyffredin dod o hyd i forloi wedi’u golchi i’r lan yn ystod misoedd y gaeaf, yn enwedig y lloi bach, wrth iddynt gael eu dal yn y stormydd sy’n taro’n glannau. Yn aml, mae’r un peth yn digwydd i’r llamhidyddion a dolffiniaid, ac, o bryd i’w gilydd, efallai y down o hyd i rai o’r morfilod mwy wedi’u golchi i’r lan. Fodd bynnag, er bod hyn oll yn hynod ddiddorol, mae hefyd yn dystiolaeth na ddylid fyth ymyrryd â hwy. Mamaliaid yw’r creaduriaid hyn, fel ni, ac fe all afiechydon a feirysau ledaenu’n rhwydd.

Mae’n traethau yn newid gyda phob llanw a thrai ac yn datgelu rhai o ddirgelion y byd o dan y don, gan gyflwyno tystiolaeth i ni o’r gwahanol greaduriaid sy’n bresennol a’r perthnasau rhyngddynt. Felly, beth am fynd ati i ymuno â’r gêm enfawr o “Cluedo” arfordirol - mae’n llesol i’ch iechyd hefyd!

PORTH NEIGWL MAE STORMYDD GWYLLT Y GAEAF YN TASGU POB MATH O BETHAU AR Y TRAETH; CHWILIWCH AM DRYSORAU O BEDWAR BAN Y BYD! CRICIETH MENTRWCH AR Y TRAETH A THRAW O’R CASTELL; MAE TRAETHLIN HYNOD YMA! NEFYN DYMA FAN GWYCH AR GYFER POB MATH O BETHAU, OND CHWILIWCH YN ENWEDIG AM BYRSIAU MÔR FORWYN! HARLECH TRAETH HYFRYD YN YR HAF - CHWILIWCH AM SGLEFROD MÔR CASGEN A OLCHWYD I’R LAN - HOFF FWYD Y MÔR GRWBAN LLEDRAIDD! PWLLHELI EWCH DRAW AR Y TRAETH GER PLAS HELI A MWYNHAU MILLTIROEDD O DRAETHLIN!

CHWILOTA TRAETHAU YM MHEN LLŶN A’R SARNAU:

Gallwch chwilota’r traeth ymhob man bron; mae traethlin i’w chwilota i’w chael ar bob traeth ac ar hyd glannau creigiog hyd yn oed, ond dyma rai o’n hoff fannau:

41


42

O Dan y Don Rhifyn 2 2021

LLWYBR ARFORDIR CYMRU

TAITH GERDDED GWYLIO BYWYD GWYLLT 1 MACHROES I BORTH NEIGWL

Amser: oddeutu 4 awr, taith gerdded lefel gymedrol Dechrau: Maes parcio Machroes SH317265 Gorffen: Maes parcio Porth Neigwl SH284266 Lleoedd bwyta: Gwesty Porth Tocyn ger Machroes a’r Sun Inn, Llanengan Mae’r daith gerdded hon yn dilyn Llwybr Arfordir Cymru, yn igam-ogamu o amgylch Trwyn yr Wylfa a phentir Cilan lle ceir golygfeydd godidog ar draws Bae Ceredigion tuag at Ynys Enlli a digon o gyfle i fynd i nofio ym Mhorth Ceiriad a Phorth Neigwl ar ddiwrnod braf o haf.

1. Mae’r daith gerdded hon yn dilyn Llwybr Arfordir Cymru o amgylch pentir Trwyn Yr Wylfa lle ceir golygfeydd estynedig draw am Ynysoedd Tudwal a Bae Ceredigion, ac yno, yn aml, gellir gweld Dolffiniaid a Llamhidyddion allan yn y môr. Os oes ymchwydd mawr yn y môr, bydd dolffiniaid yn chwarae ymysg y tonnau sy’n torri ar y clogwyni yn Nhrwyn yr Wylfa a draw am Borth Ceiriad. Mae’n werth cerdded draw i ben pellaf Trwyn yr Wylfa, lle gallwch eistedd a bwyta eich cinio tra’n edrych am Borth Ceiriad; mae’r ardal hon ar ben y clogwyn, lle mae’r creigiau mor agos i’r wyneb, yn edrych yn odidog yn y gwanwyn gyda’i blodau gwyllt, cennau a chrop cerrig.

2. Cariwch ymlaen ar hyd Llwybr Arfordir Cymru y tu ôl i Borth Ceiriad ac yno’n aml gellir gweld y Frân Goesgoch, Cigfrain a’r Cudyll Coch, cwningod ac, ar brydiau, ysgyfarnogod, heb anghofio am y cyfoeth o adar môr sy’n trigo ar y clogwyni. Mwynhewch y traeth os oes gennych amser - mae’n boblogaidd â syrffwyr, ynghyd â nofwyr a theuluoedd - mae’n fae prydferth tu hwnt. Wrth gario ymlaen ar hyd y llwybr, cewch eich harwain ar hyd y clogwyni tuag at Fryngaer Oes yr Haearn Castell Parred Mawr, lle mae chloddiau traddodiadol yn amgylchynu’r caeau ac yn cefnogi cymunedau o flodau gwyllt megis bwtsias y gog, lluglys a chlustog Fair, yn ddibynnol ar yr amgylchedd sych a heulog hwn, ac os ydych chi’n andros


Rhifyn 2 2021 O Dan y Don

o lwcus efallai y gwelwch fadfall a neidr ddefaid ar y cloddiau cynnes hyn. 3. Ymlaen â chi o amgylch Trwyn Cilan a Mynydd Cilan, lle ceir golygfa heb ei hail yn gynnar yn yr haf wrth i’r rhostir arfordirol gael ei orchuddio mewn grug piws ac eithin melyn sy’n blodeuo gan greu carped anhygoel o liw. Mae’r llwybr yn eich harwain drwy’r rhostir ac ymlaen o amgylch y pentir am Borth Neigwl - traeth pedair milltir o hyd - lle mae’r môr ei hun yn olygfa a hanner, yn enwedig ar ddiwrnod tymhestlog - eto, dyma gyfle arall i weld dolffiniaid, llamhidyddion a morloi. Hefyd, yn aml, bydd casgliad da o syrffwyr ar y traeth os oes ymchwydd yn ar y môr, yn sgil y tonnau trawiadol sydd i’w cael yma. 4. O fan hyn, gallwch naill ai ddod â’ch taith gerdded i ben ym Mhorth Neigwl, neu fe allwch ddewis o blith cyfoeth o lwybrau fydd yn eich tywys yn ôl ar draws y pentir i Fachroes a’i gwneud yn daith gylchol. Hefyd, mae gennych yr opsiwn o fynd draw i’r Sun Inn yn Llanengan am bryd o fwyd - mae ar agor yn yr haf ac ar benwythnosau.

43


44

O Dan y Don Rhifyn 2 2021

DO IT FOR DAVID - DARLLENWCH

Y STORI Y TU ÔL I’R YMGYRCH GYNYDDOL SY’N MYND ATI I DACLO LLYGREDD PLASTIG

Beth petai pawb yn codi ychydig o blastig wrth fynd am dro bob dydd, siawns y byddai hynny’n clirio llawer ohono.

Casglu ysbwriel Do it for David yng Nghroesoswallt

W

rth lapio fy sgarff yn dynnach o amgylch fy ngwddf, rwyf yn mynd ati i sganio’r tywod am ddarnau o blastig ac ysbwriel. Fwy neu lai ar unwaith, deuthum o hyd i ardal lle roedd cannoedd o gaeadau poteli plastig wedi’u golchi i’r lan. Roedd yn fore Nadolig oer, ac roedd ein teulu wedi penderfynu mynd a’r cŵn am dro ar ein traeth lleol - Porth Neigwl yng Ngogledd Cymru. Yn ôl yr arfer, roeddem wedi dod â bagiau efo ni i gasglu’r plastig a’r malurion oedd wedi cael eu gollwng gan ymwelwyr neu wedi cael eu golchi i’r lan gyda’r llanw. Roeddem wedi bod yn mynd

ati i lanhau traethau a chodi ysbwriel wrth fynd am dro ers tipyn erbyn hynny. Wrth i ni edrych ar y ddaear, fe welsom blastig diddiwedd yn llygru ein traeth godidog. Roedd ein bagiau yn orlawn o boteli, bagiau, gwellt a chynwysyddion bwyd plastig. Hefyd, fe sylwom ar ddarnau mân o blastig oedd yn amlwg wedi cael eu torri i lawr a’u golchi ar y traeth gan y môr. Roedd gweld ein traeth wedi’i lygru gan y fath blastig yn torri ein calonnau, a thyfodd ein rhwystredigaeth wrth i ni sylweddoli beth oedd graddfa’r broblem, nid yn unig yma, ond ar draws y byd. Rhaid bod rhywbeth

Becky (chwith) and Mandy (dde) sydd y tu ôl i ymgyrch Do it for David


Rhifyn 2 2021 O Dan y Don

Diolch personol gan Sir David Attenborough

Cychwyn ymgyrch Do it for David drwy lanhau traeth Porth Neigwl

arall y gallem ni ei wneud. Wrth i ni edrych ar ein bagiau o sbwriel, meddyliom “Beth petai pawb yn codi ychydig o blastig wrth fynd am dro bob dydd, siawns y byddai hynny’n clirio llawer ohono.” Roedd yn syniad mor syml; ond pam fyddai unrhyw un yn gwrando arnom ni? Yna, meddyliom am yr hyn oedd wedi’n hysbrydoli ni

i warchod ein hamgylchedd - Syr David Attenborough. Roeddem wedi bod yn gwylio rhaglenni David ar y BBC ers blynyddoedd, ond y gyfres chwyldroadol ‘Blue Planet II’ wnaeth ein hysbrydoli i weithredu yn erbyn llygredd plastig. A dyma ni’n meddwl, “Wel, efallai na wnaiff neb hynny i ni, ond efallai y gwnaiff rhywun hynny i David!” Ac felly, ganed ymgyrch ‘Do it for David’!

Rydym wedi trefnu nifer o sesiynau casglu ysbwriel mewn trefi ar hyd camlesi ac afonydd, ynghyd â sesiynau glanhau traethau. Fodd bynnag, mae ein hymgyrch yn bennaf yn annog pobl i godi plastig yn eu cymuned leol wrth iddynt fynd am dro, gan bod mwyafrif y plastig sy’n mynd i’r môr yn cael ei chwythu o afonydd mewndirol a chymunedau (ACS, 2017). Mae sesiynau glanhau yn ffordd wych i helpu i amddiffyn ein moroedd rhag llygredd plastig, ac nid oes yn rhaid treulio llawer o amser yn gwneud hynny! Gallwch gasglu llawer iawn o blastig mewn dau funud. Fodd bynnag, rydym yn gwybod na fydd codi plastig yn unig yn datrys y broblem llygredd plastig. Mae addysg yn allweddol; annog pobl i ddefnyddio llai o blastig yn y lle cyntaf; a rhoi pwysau ar fusnesau a gweithgynhyrchwyr i gael gwared ar gynnyrch a deunydd pecynnu plastig. Os na fyddai plastig yn cael ei gynhyrchu a’i ddefnyddio yn y lle cyntaf, yna ni fyddai’n cael ei olchi allan i’r môr ac yn niweidio ein bywyd gwyllt ac yn cael ei olchi i’r lan ar ein traethau godidog!

Gyrrwyd rhai llyfrau am lygredd plastig at ferch fach o Nigeria oedd eisiau ein helpu ni

Mandy ar y One Show gyda Alex Jones

45


46

O Dan y Don Rhifyn 2 2021

Mae Do it for David wedi annog nifer o fusnesau i leihau eu hôl troed plastig ac wedi ysgogi pobl i fod yn fwy ymwybodol o faint o blastig y maent yn ei ddefnyddio. Rydym wedi cyfarfod â chynghorwyr, ysgrifennu at archfarchnadoedd, rhoi sgyrsiau mewn ysgolion, cynnal diwrnodau ymwybyddiaeth plastig, siarad ar orsafoedd radio, ac wedi ymddangos ar ‘The One Show’! Mae pobl o bedwar ban byd wedi ymateb i’n hymgyrch, wedi cael eu hysbrydoli i ddefnyddio llai o blastig a’n helpu i lanhau ein byd prydferth. Rydym hefyd wedi derbyn llythyr personol gan Syr David Attenborough ei hun yn diolch i ni am Lyfr Sgrap yr anfonom ato ar ei ben-blwydd yn sôn am ein hymgyrch! Rydym wedi cael ein syfrdanu gyda’r ymateb. Yn gynharach eleni, sefydlodd Mandy ei busnes ei hun yn gwerthu cynnyrch di-blastig mewn marchnadoedd ac ar-lein yn www. plasticfree-uk.com.

Os ydych am fentro ar eich siwrne eich hun a defnyddio llai o blastig, gallwch hefyd fynd draw i www.plasticfree-uk.com References ACS. 2017. Export of plastic by rivers into the sea. ACS. Available from: https://www. acs.org/content/acs/en/pressroom/newsreleases/2017/october/better-managingplastic-waste-in-a-handful-of-rivers-could-stem-plastics-in-the-ocean.html

Rydym yn sylweddoli na all y byd fyw heb BETH plastig, wedi’r cyfan, cafodd ei gynhyrchu i fod yn hynod wydn ac amlbwrpas; ond nid oes unrhyw angen am blastigion un-tro. Mae’n bryd i ni newid. Ni sydd wedi creu’r broblem hon, a dyma’r amser i ni ei datrys. Rydym yn byw mewn byd prydferth, ac mae angen i ni ei warchod. Gwnewch hyn ar eich cyfer chi eich hun, ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol ac ar gyfer David! Do it for David!

Diwrnod ymwybyddiaeth plastic

Os hoffech chi ymuno â Do it for David neu i wybod rhagor, ewch draw i’n tudalen Facebook neu Instagram ac ymunwch â chymuned o dros 10,000 o bobl sydd wedi ymroi i frwydro yn erbyn y broblem llygredd plastig.

Mae ein dilynwyr mor angerddol eu bod yn gwisgo i fyny mewn gwisg morfilod! Mae llawer o fusnesau wedi cael eu hysbrydoli i leihau eu gwastraff a’u defnydd plastig fel y gwerthwyr pysgod hyn yn Camberleyale!


Rhifyn 2 2021 O Dan y Don

GORFFENNAF DIBLASTIG Penderfynodd tîm morol Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru, ynghyd â’n Swyddog Addysg a Chymuned a’i holl deulu ifanc, fynd ati i dreulio mis heb ddefnyddio unrhyw blastig un-tro ac maent yn bwriadu gwneud yr un peth eleni eto.

D

yma sut hwyl gawsom ni, ar y cyfan; ein llwyddiannau, gwendidau/ anawsterau a’r hyn yr ydym yn bwriadu ei newid ar gyfer y dasg am eleni.

Y peth mwyaf syfrdanol i’r mwyafrif o’r cychwyn oedd na fyddai unrhyw gynllunio na phrofiad blaenorol yn medru’ch paratoi ar gyfer y dyddiau cyntaf. Dyna pa bryd y mae’n eich taro, pan ydych yn sylwi eich bod wedi anghofio rhywbeth pwysig. Bu i ni ddechrau rhannu syniadau, gwefannau a chyfleoedd i brynu mewn swmp ymlaen llaw (papur toiled, te rhydd, coffi, sebon a phowdr dannedd - pethau hanfodol y gallwch anghofio amdanynt). Cafodd llawer eu dal allan drwy beidio â chynllunio ar gyfer amser cinio, gan ei bod yn anodd prynu cinio i fynd heb blastig un-tro: “Rwy’n tueddu i brynu cinio a swper yn ddyddiol, felly roedd yn anodd iawn addasu fy holl drefn i gyd-fynd â hyn.” - Andy O’Callaghan, Swyddog Prosiect, Ein Harfordir Gwyllt. Mewn dim o dro, roeddem wedi dod i arfer, ac er bod yn rhaid i chi feddwl yn galed a chynllunio’n dda, nid yw’n amhosib o bell ffordd ac rydym wedi cario ymlaen i wneud rhai pethau am weddill y flwyddyn. Roedd yn fis drud, fodd bynnag, ac mae’n gwneud i chi feddwl am eich arferion prynu cyffredinol, sy’n beth da ar gyfer y blaned. Roedd Malan, aelod ieuengaf ein tîm Gorffennaf Di-blastig, hyd yn oed yn brysurach na’r gweddill ohonom, gan mai hi oedd yn gyfrifol am bostio pethau ar Facebook. Bellach, mae ei siwrne drwy gydol y mis, beth oedd yn anodd iddi, sut wnaeth hi arfer â’r dasg a sut y gwnaeth baratoi ei hun, ar ffurf BLOG ar ein gwefan. Bu i’w thad, Iwan, a gweddill ei theulu wneud newidiadau, sy’n dangos, hyd yn oed gyda phlant (buasem ni’n dadlau, yn enwedig gan bod gennych chi blant), bod hyn yn rhywbeth gwerth chweil i’w wneud. Yn wir, mae’n un o’r pethau hynny y mae’n RHAID i chi roi cynnig arno, er mwyn i chi wybod sut beth ydi o. Y peth gorau am wneud hyn oedd y trafodaethau y cawsom â theulu, ffrindiau, cydweithwyr eraill, y cyhoedd yn ehangach, pobl mewn siopau a’r prynu ar-lein. Cawsom ddigonedd o lwyddiannau yn ystod y mis a thu hwnt. Cafodd Charlotte Keen, ein Swyddog Prosiect “Ein Harfordir Gwyllt” un “Llwyddiant” pan oedd mewn gŵyl: “Bu’n rhaid i mi gael dadl fechan â barman blin mewn gŵyl, ac yn y diwedd bu i reolwr gwych y bar roi cerydd iddo a dweud wrtho ‘mae’r ddynes hon yn ceisio achub y blaned, rho beint iddi yn ei chwpan ei hun neno’r tad!’”. Gwelodd Andy O’Callaghan bod y person oedd yn byw gydag ef, nad oedd ag unrhyw ddidordeb o’r blaen, yn bwriadu gwneud rhai newidiadau: “Rwyf newydd sylwi mai fi sydd berchen ar yr holl blastig sydd yn y tŷ bellach ac mae cymaint ohono. Mae’n rhaid i mi ddechrau prynu pethau sydd heb gael eu lapio mewn plastig”. Derbyniodd y tîm Moroedd Byw Cymru graceri a fflapjacs cartref yn hytrach nag anrheg wedi’i brynu gan rieni’u myfyriwr Profiad Gwaith ar ôl iddynt glywed nad oeddem yn defnyddio plastig un-tro. Rydym yn bwriadu cymryd rhan yn nigwyddiad Gorffennaf Di-blastig y Gymdeithas Cadwraeth y Môr eto eleni. Y gobaith yw y bydd mwy o bobl yn cymryd rhan a byddwn yn postio ac yn blogio drwy fis Gorffennaf ar ein tudalennau Facebook a’n gwefan. “Yn gyffredinol, credaf bod hyn wedi gwneud i mi fod yn hynod ymwybodol o’r plastigion un-tro yr ydym yn dibynnu arnynt drwy’r amser, ond hefyd wrth gynllunio ymlaen llaw a chael hyder i siarad am y mater, mae’n bosib osgoi defnyddio plastigion un-tro.” - Charlotte Keen.

47


48

O Dan y Don Rhifyn 2 2021

i nofio i’r môr yn yr haf a mi fues i’n lwcus iawn o gael cwmni morlo flwyddyn diwetha’. Er fy mod i wedi cyfri pedwar ohonyn nhw allan yn y mor yn Ynysgain rhyw dro, mae’r un yma (sy’n lond ei groen ac yn amlwg yn mwynhau sglaffio macrall!) wedi ymddangos sawl tro a’i sŵn anadlu Darth Vader y tu ôl i mi yn ddigon i godi ofn cyn dod i arfer! A minnau’n sgwennu hwn ym mis Chwefror, mae o bellach wedi diflannu am eleni ac mi faswn i wrth fy modd gwybod lle mae o rwan a dw i’n gobeithio wir y daw o’n ôl. Wrth iddo fo ddiflannu, mi ddiflannodd y tywydd poeth a daeth y tymor stormydd a gwynt yn ei le. Ac efo’r llanw uchel, daw’r trychineb. Mae hi’n gymaint o siom gweld faint o lanast a phlastig sy’n cyrraedd y traethau bendigedig yma - tunnelli faswn i’n tybio. O ganiau olew anferth i botiau menyn i boteli Coke i ddarnau lego bychan.

RHYDDID PEN A RHAFFAU PLASTIG Llinos Griffin yn rhoi cipolwg i ni o’i dull creadigol o uwchgylchu ysbwriel glan y môr. Dydi’r olygfa tuag at Gricieth o Borthmadog byth yr un fath ddwywaith. Mae’r dref ei hun yn newid o dymor i dymor hefyd. Mae’r misoedd twristaidd yn troi’n dawelwch. Mae golau llachar yr haul ar y môr yn troi’n ruo stormydd y gaeaf. Dyma pam dw i’n licio’r lle.

O

’m fflat, dw i’n rhedeg fy musnes fy hun ac mae hi’n bwysig i mi fynd am fy ‘ffics’ a dianc i’r traeth o leia’ dwywaith yr wythnos i ymlacio, boed hynny’n eistedd ar un o’r cerrig ar draeth Morannedd neu fynd i glywed sŵn y tonnau ar ôl iddi dywyllu. Mae’n gwneud byd o wahaniaeth i ysbryd rhywun. Yn fwy na hynny, mae ‘na gysur enbyd yn y ffaith fy mod i’n gweld un o’m hoff lefydd eraill o lan-môr Cricieth. Mae mynyddoedd y Rhinogydd yn sefyll yno’n warchodol rhywsut yn edrych

tuag aton ni dros y bae. Mae hi’n anodd peidio â meddwl hefyd am yr holl hanes mae’r arfordir yma wedi ei weld yn ei dro efo’r ddau gastell mor amlwg heb son am yr holl gychod a llongau a fyddai wedi mynd heibio o Bort pan oedd diwydiant llechi yn ei anterth. Mae’r gorwel yn edrych yn eang, ond felly ei hanes hefyd. Ydi, mae’r darn yma o’n harfordir ni yn un anhygoel. Y llynedd, daeth rhyfeddod arall i’m sylw. Dw i wrth fy modd yn mynd

Wrth fynd ati i drio hel rywfaint, mi ddes i ar draws rhaffau plastig o bob math - llawer ohonyn nhw wedi eu clymu i’r gwymon, felly dyma fynd ati efo siswrn i dorri ac i glirio ac wrth fynd a nhw adref, sylweddoli nad o’n i’n rhy siwr os oedd modd eu hail-gylchu neu


Rhifyn 2 2021 O Dan y Don

beidio. Er bod y sefyllfa yn un druenus dros ben, roedd ‘na rhywbeth yn hardd ynddyn nhw hefyd efo’r lliwiau llachar, felly mi es i â nhw i’r tŷ, eu golchi’n iawn yn y bath i’w di-heintio, eu tynnu nhw’n g’ria’ a dechrau gwnio! Erbyn hyn, mae wedi dod yn hobi, hynod o therapiwtig ac eithaf hawdd ei wneud. Maen nhw’n anrhegion penblwydd rhad iawn hefyd! Heblaw ei fod yn help i mi ymlacio ar ôl diwrnod caled o waith, mae ‘na deimlad o gysur yn y ffaith hefyd na wnaiff unrhyw aderyn gael ei grogi gan y darnau yma ac na wna’n nhw fydd lanio ym mol fy morlo mabwysiedig i chwaith. Am wn i, o leia’, mae’r syniad yn trio dod â llecyn o oleuni ar ddifrifoldeb y sefyllfa dorcalonnus ‘dan ni bellach yn ei gweld dro ar ôl tro mewn lluniau ac ar fideos ar facebook a twitter. Diolch byth bod cymaint

o grwpiau lleol wedi dod at ei gilydd i glirio yn y blynyddoedd diwetha’ ac mae pawb yn gallu chwarae eu rhan. I mi, mae’r cyfrifoldeb mwyaf ar ddiwydiannau mawr y byd. Lle ddechreuodd y rhaffau a’r ‘nialwch ‘ma eu taith? Y cwmniau mawr gaiff wared ar y broblem yn gyfan gwbl, heb os, ond gallwn ni i gyd ‘wneud y pethau bychain’ a chodi llond llaw o blastig bob tro awn ni i’r traeth. A dechrau gwnio. Pam ddim?

49


50

O Dan y Don Rhifyn 2 2021

SUT I FOD YN RHAN O’N GWAITH

GLANHAU TRAETHAU Mae cymryd rhan mewn ymarfer glanhau traeth yn ffordd wych o helpu i edrych ar ôl yr amgylchedd glan môr. Mae nifer o ddyddiau glanhau traethau’n cael eu trefnu dros y safle trwy gydol y flwyddyn, a’r cwbl sydd angen i chi ei wneud yw troi i fyny a chymryd rhan! Cadwch lygad ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol am y wybodaeth ddiweddaraf. Os nad ydych yn rhy hoff ar ymuno â grŵp, beth am fynd â bag efo chi a threulio dipyn o amser yn glanhau traeth o’ch dewis? Neu os ydych yng Nghricieth gallwch gymryd rhan yn y #2minbeachclean – cewch hyd i fwrdd gwybodaeth ac offer tu mewn i Fwyty Dylan’s ar y traeth (mae hyn yn amodol ar y llanw/tywydd ar y pryd). Edrychwch ar y canllawiau

diweddaraf gan Lywodraeth Cymru ar sut i gasglu sbwriel yn ddiogel #CaruTraethauCymru.

LLEIHAU’R DEFNYDD O BLASTIG UN-TRO Mae sbwriel môr, yn enwedig pob math o blastig, yn broblem fydeang erbyn hyn. Mae bagiau plastig, pecynnau bwyd, gwellt yfed a photeli plastig sy’n cael eu defnyddio unwaith i gyd yn enghraifft o’r pethau sy’n ffeindio eu ffordd i’n moroedd. Un ffordd wych y gallwch helpu yw lleihau faint o eitemau plastig un-tro rydych yn eu defnyddio, ac ailgylchu pan allwch. Gallwch hefyd ofyn mewn siopau/caffis am eitemau di-blastig neu eitemau sy’n pydru. Mae hon yn broblem ar draws y byd ond gall pob un ohonom wneud gwahaniaeth.

ADRODD AM WELD BYWYD GWYLLT Os gwelwch fywyd gwyllt diddorol tra rydych yn crwydro, gadewch i rywun wybod. Trwy adrodd am yr hyn a welwch, rydych yn ein helpu ni i greu gwell darlun o’r hyn sydd gennym ar hyd ein harfordir.

MORLOI BACH Wrth i fwy a mwy o bobl gerdded ar hyd ein harfordir mae angen i ni gofio am yr anifeiliaid eraill sy’n defnyddio’r ardal hon. Os gwelwch forlo ifanc ar eich taith, cofiwch gadw ddigon pell. Efallai y bydd yn edrych fel petai ar ei ben ei hun, ond fel arfer mae’r fam yn ymyl.


DILYNWCH Y CÔD MOROL Os ydych allan ar y dŵr, un ffordd wych o leihau’r effaith a gewch yw dilyn y Côd Morol a gadael i bobl eraill wybod amdano hefyd. Holl bwrpas hyn yw gwneud yn siŵr nad ydym yn tarfu ar ein mamaliaid morol a’r adar tra rydym allan ar y môr. Y prif egwyddorion i’w dilyn yw: •

Cadwch lygad allan am fywyd gwyllt

Cadwch eich pellter

Cadwch eich cyflymder a’ch sŵn i lawr

BYDDWCH YN RHAN O BROSIECTAU LLEOL Rydym yn sefydlu prosiectau i fynd i’r afael â gwahanol faterion ar draws y safle gan gynnwys sbwriel, tarfu ar famaliaid y môr a cholli morwellt. Os hoffech fod ynghlwm ag unrhyw un o’n prosiectau, gadewch i ni wybod. Gallwch hefyd gadw llygad ar ein cyfryngau cymdeithasol am fwy o wybodaeth.


info@penllynarsarnau.co.uk www.penllynarsarnau.co.uk 01286 679495

@ ACA_PLAS_SAC Pen Llŷn a’r Sarnau

Profile for Pen Llŷn a'r Sarnau

O Dan y Don - Rhifyn 2  

Advertisement
Advertisement
Advertisement

Recommendations could not be loaded

Recommendations could not be loaded

Recommendations could not be loaded

Recommendations could not be loaded