DELIVERY PLAN 19/20 CYNLLUN CYFLWYNO 19/20
CYFLWYNIAD Mae’r Cynllun Cyflwyno hwn yn nodi blaenoriaethau Hyb ACE ym mlwyddyn tri’r cyflwyno. Nodir ein Hymagwedd Strategol yn y ffigur isod. Yn ystod y ddwy flynedd gyntaf, rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol yn ein hamcanion i godi ymwybyddiaeth, datblygu’r offer a mecanweithiau meddwl systemau i gyflwyno mewn amrywiaeth o sefydliadau ac wedi gweithio gyda rhai sectorau penodol i hyfforddi a datblygu polisïau ac ymagweddau sy’n cael effaith.
YMGYSYLLTU STRATEGOL A PHARODRWYDD SEFYDLIADOL
FFRAMWAITH WEDI’I LYWIO GAN ACE
OFFER AC ADNODDAU
CYMORTH GAN ARWEINWYR PERTHYNAS SECTOR
YMWYBYDDIAETH GYSON
HYFFORDDIANT SECTOR PENODOL
CYFLEOEDD AR GYFER DATBLYGU POLISI, NODI RHWYSTRAU
2 | Cynllun Cyflwyno Hyb Cymorth ACE Cymru 2019 – 2020
YMWYBYDDIAETH AC YMGYSYLLTU CYMUNEDOL
Hyb Cymorth ACE - Ymagwedd Strategol
Mae llwyddiant yr ymagwedd o ran codi ymwybyddiaeth o ACES yn bwysig i’w ddeall, os gallwn arddangos effaith ein hymagwedd a’r gwahaniaeth mae’n ei wneud. Elfen allweddol o’r gwaith eleni fydd cysoni ymwybyddiaeth gweithwyr proffesiynol o ran deall ACES, a llywio datblygiad gwaith pellach i sicrhau bod y canlyniadau ar gyfer 3-5 mlynedd a nodir yn ein cynllun busnes, yn cael eu diwallu. Efallai y bydd y canlyniadau hyn yn galw am waith parhaus yr hyb yng ngham 2 y cyflwyno. Rhan allweddol o’r gwaith eleni yw cwmpasu’r galw hwnnw, a dangos sut y bydd hyn yn mynd â ni i sefyllfa gynaliadwy yn y dyfodol. Mae hyn hefyd yn cynnwys gweithio gyda’r Rhaglen Gweithredu’n Gynnar gyda’n Gilydd, a gyllidir ar hyn o bryd gan y Swyddfa Gartref tan fis Mawrth 2020, i gyflwyno rhaglen drawsnewid ACE i’r heddlu a phartneriaid yng Nghymru. Prif ymagwedd y Cynllun Cyflwyno ar gyfer 19/20 felly yw cydgrynhoi’r gwaith rydym wedi’i wneud hyd yn hyn, gan sicrhau bod ymwybyddiaeth ACE yn symud o ‘wybod beth yw ACES’ i greu newid greddfol trwy bolisi, ymarfer neu ddatblygu sefydliadol i wneud gwahaniaeth i bobl sy’n fesuradwy. Er mwyn gwneud hyn, mae angen cwblhau gwerthusiadau o gwmpas y meysydd sector allweddol rydym wedi ymgysylltu â hwy yn ystod y ddwy flynedd diwethaf, a dysgu a ymgorfforwyd wrth ddatblygu cyflwyno neu achredu ymhellach i roi hyder bod y cynhyrchion yn cael eu gwerthuso, a’u sicrhau o ran ansawdd a bod ein hymagwedd yn cael ei chynnal trwy arfer sefydledig a gefnogir gan bolisi Llywodraeth Cymru. Yna byddwn yn edrych ar y bylchau; ble mae’r meysydd allweddol y mae angen canolbwyntio arnynt, o lefel y sector i lawr i feysydd penodol a nodwyd. Hefyd mae angen i ni gynnwys y cyhoedd a chymunedau yn y gwaith hwn ac yn arbennig deall sut rydym yn ymateb i’r trafodaethau sy’n dod i’r amlwg ynghylch adfyd ehangach a phenderfynyddion cymdeithasol, a chanlyniadau anfwriadol, gan ddefnyddio arweinyddiaeth systemau a newid theori i reoli hyn. Ac i fynd i’r afael â’r ‘gofod gorlawn’ y mae ACES yn eistedd ynddo drwy gydweithio â phartneriaid ac arweinwyr i ddod ag agendâu a chyfleoedd a rennir i gydweithio.
Cefnogir unigolion i nodi a chydnabod lle mae dod i gysylltiad ag ACE yn effeithio ar eu bywydau
Gwasanaethau Cyhoeddus yn defnyddio ymagwedd sy’n wybodus am ACE
Cefnogir unigolion i leihau neu liniaru effaith ACEs
Mae cymunedau’n weithreol wrth atal ACEs a chefnogi’r rhai hynny sydd wedi profi ACEs
3 | Cynllun Cyflwyno Hyb Cymorth ACE Cymru 2019 – 2020
CYNLLUN CYFLWYNO 19/20 1
YMWYBYDDIAETH ACE RHANNU TYSTIOLAETH RHANNU GWYBODAETH
GWEITHREDU
SIOM
Ymgyrch Ymwybyddiaeth Gyhoeddus ac Arolwg Sylfaenol o Weithwyr Proffesiynol.
280 / 600 / 330 / 310
The. Yr ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus fydd ymgais strategol gyntaf Hyb ACE i godi ymwybyddiaeth o blentyndod trawmatig ymhlith y cyhoedd. Ystyrir bod yr ymgyrch yn fuddsoddiad hirdymor mewn newid agweddau ac ymddygiadau, a’r canlyniad arfaethedig fydd datblygu hunanymwybyddiaeth a dechrau sgyrsiau ymysg y boblogaeth o oedolion yng Nghymru. Bydd yr ymgyrch yn genedlaethol, ac yn cynnwys pobcymuned sy’n byw yng Nghymru. Mae canlyniadau disgwyliedig yn cynnwys:: • Bydd cynnydd ymwybyddiaeth ymysg y cyhoedd yn arwain at ragor o gyfleoedd i ehangu ein gwaith o fewn cymunedau, i lywio gwaith prosiectau/sefydliadau eraill. • Gwerthuso’r ymgyrch i nodi effaith negeseuon ymysg y boblogaeth gyffredinol o oedolion, i nodi bylchau/llywio cyfleoedd pellach i gael negeseuon allan i’r grŵp hwn. • Y data a ddefnyddir i segmentu’r grŵp eang hwn ar gyfer ymgyrchoedd a gweithgareddau yn y dyfodol, a datblygu negeseuon ac adnoddau wedi’u targedu. • Galw am wybodaeth, adnoddau a gwybodaeth gan y cyhoedd. • Cynllunio ar gyfer rheoli’r galw hwnnw a nodi adnoddau sy’n ofynnol i’w diwallu e.e. datblygu adnoddau a phecyn cymorth. Gwella’r wefan, y fframwaith sgiliau a gwybodaeth
Bydd mapio llinell sylfaen cenedlaethol o ymwybyddiaeth ACE mewn sectorau proffesiynol yn: • Galluogi meincnod ar gyfer canlyniadau’r rhaglen yn ôl pob gweithagredd yn y dyfodol. • Galluogi’r Hyb ACE i sefydlu meysydd a sectorau blaenoriaethol ar gyfer gweithgareddau’r rhaglen ym mlwyddyn dau a thu hwnt sydd eto i’w cynllunio, mewn ymateb i ganfyddiadau na fyddent yn hysbys fel arall. • Darparu gwybodaeth i’r Hyb ACE am y derminoleg gyffredin o gwmpas ACEs, a fydd yn helpu i lywio cyfathrebu a negeseua yn y dyfodol. • Darparu gwybodaeth ddiffiniol o lefelau gwybodaeth ym mhob sector • a thystiolaeth o’r hyn mae pobl yn ei wybod, a allai ddarparu canfyddiadau nad ydym yn ymwybodol ohonynt sy’n gallu llywio rhaglenni gwaith wrth symud ymlaen.
4 | Cynllun Cyflwyno Hyb Cymorth ACE Cymru 2019 – 2020
CERRIG MILLTIR
DOLEN I BERCHENNOG SI/GR
Ebrill 2019
1
YMWYBYDDIAETH ACE RHANNU TYSTIOLAETH RHANNU GWYBODAETH
GWEITHREDU
SIOM
Digwyddiadau bord gron i ganolbwyntio ar yr Ymgyrch a symud y naratif o ymwybyddiaeth i newid sefydliadol a chymdeithasol.
280 / 600 / 330 / 310
CERRIG MILLTIR
DOLEN I BERCHENNOG CW/LT
Mawrth/Ebrill 2019
• Cyflwyno dau grŵp ffocws i gynhyrchu data er mwyn llywio’r trafodaethau bord gron gyda phlant a phobl ifanc a rhieni • Cyflwyno tri digwyddiad bord gron yn Wrecsam, Powys a Chaerdydd yn gwahodd 30-50 o gynrychiolwyr o Dechrau’n Deg/ Teuluoedd yn Gyntaf, dylanwadwyr allweddol ac arweinwyr sefydliadol/sector, academyddion
Ebr - Meh 2019
Gor 2019
• Ysgrifennu a Gwerthuso’r digwyddiadau i lywio gwerthusiad cyffredinol o’r ymgyrch a llywio negeseua/targedu/adnoddau yn y dyfodol
Datblygu gwefan well a phresenoldeb gwell yn y cyfryngau cymdeithasol i adlewyrchu’r diddordeb a galw cynyddol o’r ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus • Cylchlythyrau, blogiau a chyfathrebiadau rheolaidd • Ymgysylltu wedi’i dargedu sy’n sector-benodol wedi’i seilio ar arolwg • Cynnwys penodol ar y wefan ar gyfer sefydliadau/Unigolion/ cymunedau
310 / 600 / 330 / 430/ 360
SI
O fis Ebrill yn Fisoly
ET
Mehefin 2019
SI
Ebrill 2019
JH
Mai 2019
PRID
Ebrill/Mai 2019
PRID
Mehefin 2019
JH
Mehefin 2019
CW, JH, RS
• Ymgysylltu’n ddiwylliannol briodol â chymunedau amrywiol Digwyddiad Noddfa yn y Senedd • Datblygu gwell dealltwriaeth
Datblygu gwell dealltwriaeth o effaith ACES ac adfyd ehangach ar gymunedau amrywiol yng Nghymru,
yn cysylltu ag ymrwymiadau maniffesto LlC ar dlodi, yr Adroddiad Cyflenwi Noddfa, Cydraddoldeb a Chymunedau, VAWDASV (gan gynnwys caethwasiaeth fodern). Cytunwyd ar yr ymagwedd hon gan dasglu gweinidogol LlC ar gyfer ceiswyr lloches a ffoaduriaid a chaiff ei chyd-gynhyrchu gyda Gweithredu’n Gynnar Gyda’n Gilydd i gefnogi asesiad Effaith Cydraddoldeb. • Adolygiad Llenyddiaeth o astudiaethau o brofiad trawma a gwydnwch ymhlith pobl sy’n ceisio lloches - fel y’i cytunwyd gan Weinidogion Llywodraeth Cymru • Tasglu ar gyfer Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid • Astudiaethau achos a phrofiad byw pobl o gefndiroedd amrywiol, gan gynnwys ymagweddau wedi’u llywio gan drawma mewn ysgolion cefnogi cymunedau teithwyr • Ymchwil benodol y cytunwyd arni ar ACES a grwpiau agored i niwed yn dilyn yr adolygiad llenyddiaeth a sefydlu grŵp arbenigol i lywio’r ymagwedd • Datblygu ymwybyddiaeth o ACE a hyfforddiant penodol ar gyfer grwpiau’r trydydd sector yn cefnogi pobl sy’n ceisio lloches, llety HO ac yn cefnogi darparwyr contract 5 | Cynllun Cyflwyno Hyb Cymorth ACE Cymru 2019 – 2020
1
YMWYBYDDIAETH ACE RHANNU TYSTIOLAETH RHANNU GWYBODAETH
GWEITHREDU
SIOM
CERRIG MILLTIR
DOLEN I BERCHENNOG
• Cyd-ddatblygu hyfforddiant ar gyfer gweithwyr achos lloches a staff HO sy’n delio â mudwyr
310 / 600 / 330 / 430/ 360
Gorffennaf 2019
JH
Haf 2019
JH
Ebrill, yn parhau
JH/SG
• Cyflwyniad i Dasglu Gweinidogol LlC a chymeradwyo’r ymagwedd • Gwaith i ddeall effaith ACES a phlant ag anghenion dysgu ychwanegol i lywio dadansoddiad o waith pellach sy’n gysylltiedig â gwaith LlC ar Anableddau Dysgu - Gwella Bywydau • Archwilio’r cysylltiadau rhwng ACES a’r profiad Gymunedol ehangach trwy ymgysylltu ag academyddion yng nghynhadledd WCSSJ a chynhadledd flynyddol WISERD gan gynnwys ar benderfynyddion cymdeithasol
Cydweithredu â Gweithredu’n Gynnar Gyda’n Gilydd i sicrhau gweledigaeth ac eglurder a rennir ar gyfer ymarferwyr a darpariaeth leol ynghylch sut mae’r rhaglenni’n alinio
JH Ebrill a Gorffennaf 2019
Ebrill/Mai 2019
JH, JR
Medi 2019 • Datblygu ymagwedd gydweithredol a chynllun cynaliadwy ar ôl Mawrth 2020 • Cymeradwyo gan PHW • Datblygu agenda a rennir a chynllun cyflenwi ar y cyd ar gyfer ôl2020 (*yn dibynnu ar benderfyniadau cyllido HO a LlC)
Datblygu’r achos Busnes ar gyfer Cam 2 yr Hwb • Cyflwyniad strategol lefel uchel i LlC • Digwyddiad Gwraidd y Mater gyda Chymru Well Wales a’r Bwrdd Cynghori
Chwefror/ Mawrth 2019
JH
Ebrill 2019
JH
Mawrth 2019
JH/KM
Yn parhau
KM
Datblygu ymchwil bellach i gefnogi newid penodol greddfol neu systemau • Cyhoeddi gwerthusiad o gynllun peilot Ynys Môn ar gyfer ymholiadau rheolaidd a Meddygon Teulu • Cymorth barhaus i’r Peilotiaid Ymweld Iechyd yng Nghymru i lywio penderfyniadau pellach ynghylch defnyddio ymholiadau rheolaidd i ymarferwyr iechyd gan gynnwys bydwragedd
6 | Cynllun Cyflwyno Hyb Cymorth ACE Cymru 2019 – 2020
1
YMWYBYDDIAETH ACE RHANNU TYSTIOLAETH RHANNU GWYBODAETH
GWEITHREDU
SIOM
CERRIG MILLTIR
DOLEN I BERCHENNOG
Gwerthusiad Hyb ACE a diwallu amcanion y fframwaith • Cofnodi a dadansoddi data hyfforddiant cam 1 ysgolion cynradd
Ebrill 2019
• Adroddiad ar ganfyddiadau cynlluniau peilot ysgolion uwchradd i’w gynnwys yn yr adroddiad blynyddol
Mawrth 2019
• Gwerthusiad realistig o amcanion cyflwyno allweddol i lywio newidiadau a datblygu/cyflwyno gwaith allweddol ymhellach mewn cyfathrebu, gwybodaeth a sgiliau, chwaraeon, ymgysylltu â’r cyhoedd, ymgysylltu â’r gymuned a sectorau newydd sy’n cael eu datblygu.
7 | Cynllun Cyflwyno Hyb Cymorth ACE Cymru 2019 – 2020
Yn parhau
SG, PRID PRID All
2
GWYBODAETH A SGILIAU
GWEITHREDU
SIOM
CERRIG MILLTIR
DOLEN I BERCHENNOG
Datblygu Pecyn Cymorth Gweithredu Sefydliadau sy’n wybodus am ACE/Dod yn Sefydliad sy’n wybodus am ACE
400 / 190
Mehefin 2019
KM
Medi 2019
KM
• Gwerthuso a sicrhau ansawdd pecyn cymorth
Rhagfyr 2019
KM
• Datblygu’r cynnig i unigolion, sefydliadau a chymunedau gyrchu’r adnoddau sydd arnynt eu hangen i fod yn wybodus am drawma, i ddatblygu polisi a phroses sefydliadol penodol sy’n berthnasol iddynt, er mwyn cyrchu cymorth parhaus
Medi 2019
KM
Medi 2019
KM/JH
• Dod â phopeth y gallai fod ei angen ar sefydliadau at ei gilyddi ddatblygu eu sefydliadau gan gynnwys parodrwydd y sefydliad Fframwaith Offer, Sgiliau a Gwybodaeth • Treialu’r pecyn cymorth gyda sefydliadau sydd am ddatblygu eu hymagwedd
Datblygu ymagwedd integredig at ddatblygu’r sector AU/AB i fod yn wybodus am drawma a chefnogi datblygu sgiliau a chynnwys cyrsiau • Datblygu fframwaith ar gyfer ymgynghori â sefydliadau AU/AB mewn gweithdy a gynhelir gan Brifysgolion Cymru • Sefydlu rhwydwaith o ymchwilwyr ôl-raddedig â ffocws ar ACES ar draws Prifysgolion a cholegau Cymru
Awst 2019
• Treialu marc Barcud/Dyfarniad ar gyfer ‘prifysgolion sy’n wybodus am drawma’ yn seiliedig ar egwyddorion allweddol • Mapio pa gyrsiau sy’n cynnwys ACES neu fodiwlau sy’n wybodus am drawma, a nodi meysydd penodol lle gall gwybodaeth a sgiliau sy’n benodol i’r sector gael eu hymwreiddio mewn addysg uwch ac addysg bellach
Gan ddilyn arolwg sylfaenol o weithwyr proffesiynol, archwilio cyfleoedd i dargedu grwpiau proffesiynol penodol gan ddefnyddio canfyddiadau’r arolwg i lywio blaenoriaethau a dadlau dros fuddsoddi wrth ddatblygu gwybodaeth a sgiliau / gweithgarwch dysgu proffesiynol. • Cynnull paneli arbenigol sy’n benodol i broffesiwn i lywio’r gwaith (gan gynnwys cynrychiolwyr cyrff proffesiynol) • Archwilio sut y gellir defnyddio grwpiau presennol e.e. Addysg Iechyd Gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol newydd Gwella Cymru (HWIW) strategaeth, Byrddau Diogelu ac ati • Defnyddio’r Fframwaith Sgiliau a Gwybodaeth i nodi anghenion datblygu’r gweithlu, cyd-gynhyrchu cynnig hyfforddiant sector/ proffesiwn-benodol, ac archwilio ymagweddau cyflenwi cynaliadwy gan gynnwys bod yn rhan o gymwysterau proffesiynol fel sy’n berthnasol.
8 | Cynllun Cyflwyno Hyb Cymorth ACE Cymru 2019 – 2020
Mai 2019 ac ymlaen
KM/JH
3
NEWID SYSTEMAU
GWEITHREDU
SIOM
Ffocws Penodol i’r Sector ar ddatblygu ymwybyddiaeth sy’n arwain at Newid sefydliadol mewn systemau drwy newidiadau polisi, arfer a gweithredol
310 / 290 / 270/ 350 / 190
• Gwerthuso canlyniadau’r Arolwg Sylfaenol a beth mae hyn yn ei ddweud wrthym am fylchau o ran sectorau, ac ymyriadau o fewn systemau nas perchenogir ar hyn o bryd
CERRIG MILLTIR
DOLEN I BERCHENNOG
Mai 2019
GR/KM
Ebrill 2019
• Deall y ‘gofod gorlawn’ - archwiliad ALl o ‘gwybodus am drawma’ neu hyfforddiant ACE (tri maes)
Yn parhau
JH
Ebrill 2019 ac yn parhau
JH, KM, LT
Ebrill 2019
CW
Mai 2019
JH
• Cryfhau ymgysylltu â byrddau Partneriaeth Rhanbarthol, i nodi hyrwyddwyr a chyfleoedd ar gyfer cydweithredu rhanbarthol ar ymyriadau â ffocws
Haf 2019
JH
• Gweithdai a sesiynau datblygu gyda byrddau diogelu i symud meddwl i newid system penodol a’r hyn y gallai fod angen iddynt ei wneud i ddiwallu gofynion y matrics aeddfedrwydd diogelu ar ACES
Mawrth 2019
KM
Haf 2019
JH
Yn parhau
All
• Cydweithredu â phartneriaid allweddol ac alinio ymdrech i sicrhau negeseua ac ymgysylltu cyson, er enghraifft y Comisiynydd Plant, Bwrdd Ieuenctid Interim
Datblygu gwaith sector-benodol ag Iechyd (GIG) a Gofal Cymdeithasol i nodi meysydd ffocws allweddol i gefnogi, ac alinio â datblygiadau allweddol ynghylch gwasanaethau integredig. Mae meysydd yn cynnwys:
280 / 350 / 270 / 400
• Maethu a Mabwysiadu • Plant sy’n Derbyn Gofal • Gofalwyr (gan gynnwys gofalwyr ifanc) • Arolygiaethau • Gofal cyn-ysgol • Datblygu dysgu mewn cymwysterau proffesiynol a Datblygiad Proffesiynol Parhaus
Ymgysylltu Strategol i ymgorffori ymwybyddiaeth ACE yn y trefniadau llywodraethu llywodraeth genedlaethol a lleol, a datblygu ymyriadau penodol i newid sefydliadol gan gynnwys: • Labordai Byw a gweithio gyda’r OFGC i ddatblygu’r ymagwedd systemau gyda PSBs • Cyfarfod â VCs y Byrddau Iechyd
• Ymgysylltu â byrddau cynllunio Ardal • Parhau i gefnogi gwaith y partneriaethau diogelwch cymunedol a threfniadau rhanbarthol wrth fynd i’r afael â VAWDASV, camddefnyddio Alcohol a sylweddau, CSE ac ati sylweddau, CSE ac ati
9 | Cynllun Cyflwyno Hyb Cymorth ACE Cymru 2019 – 2020
310 / 290 / 270 / 350 / 190
3
NEWID SYSTEMAU
GWEITHREDU
SIOM
Gwaith penodol i ACE i gryfhau gwaith i fynd i’r afael â phrofiadau anffafriol ym myd oedolion sy’n effeithio ar blant gan gynnwys:
310 / 290 / 270 / 350 / 190
• VAWDASV – gofyn a gweithredu a newid sy’n parhau, gan ymgorffori ACEs mewn hyfforddiant i lysgenhadon cymunedol. Gweithio gyda CAFCASS ynghylch newidiadau i brofiad y llys teulu ac archwilio’r tensiwn rhwng gwahanu a charcharu rhieni. Mynd i’r afael ag anghydraddoldeb strwythurol fel un o achosion sylfaenol ACES • Camddefnyddio Alcohol a Sylweddau - bord gron gyda sefydliadau trydydd sector blaenllaw i ddeall y galw am gymorth ACES yn yr ardal • Menywod mewn Cyfiawnder a’r gwaith datblygu glasbrint ar gyfer adsefydlu cymunedol • Datblygu hyfforddiant ACE spenodol ar gyfer ICTAs a’r rhai hynny sy’n gweithio i fynd i’r afael â chaethwasiaeth fodern a CSE
CERRIG MILLTIR
DOLEN I BERCHENNOG
Ebrill 2019
JH
Ebrill 2019
LT
Yn parhau
LT
Yn parhau
JH/LT
Ebrill 2019
LT
Mai 2019
LT
Haf 2019
LT
• Archwilio gyda DWP y cyfle i gyd-gynhyrchu rhywfaint o ddysgu ar dlodi, ACES a chyflogadwyedd i gyflwyno i hyfforddwyr gwaith.
Chwaraeon - adeiladu gwydnwch trwy gymryd rhan mewn chwaraeon gan gynnwys cefnogi ceisiadau i’r Gronfa Byw’n
310 / 290 / 270 / 350 / 190
Iach ac Egnïol gan Sported a Streetgames i hyfforddi ac uwchsgilio arweinwyr grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr i fod yn ymwybodol o ACE ac i ddarparu gwasanaethau sy’n wybodus am drawma, a chreu llwybr cynaliadwy i weithgarwch corfforol ar gyfer pobl ifanc ag iechyd meddwl gwael. Os yw’n llwyddiannus: Sported
• Bydd y rhaglen yn defnyddio ‘ymagwedd glwstwr’, gan drefnu a meithrin cydweithrediad rhwng pedwar a chwe sefydliad cymunedol lleol ym mhob un o’r 4 ardal ddaearyddol, er mwyn darparu cymorth gan gymheiriaid, a rhannu gwybodaeth, rhwydweithiau ac adnoddau y tu hwnt i oes y prosiect. • 50 Arweinwyr grwpiau cymunedol • 60 Myfyrwyr Prifysgol yn ymgymryd â gradd Gwaith Ieuenctid • Arweinwyr clybiau bechgyn a merched ledled Cymru – mae 170 o grwpiau chwaraeon ac ieuenctid yn aelodau â chyfanswm o 3500 o wirfoddolwyr yn gweithio gyda 30,000 o bobl ifanc ledled Cymru. Streetgames • Bydd ymagwedd Hyb clwstwr yn galluogi cymunedau i gymryd rhan mewn ymagwedd gydweithredol o ddarparu gwell mynediad i fannau a lleoedd ar gyfer gweithgarwch corfforol • Ymwreiddio Pecyn Cymorth sy’n wybodus am Drawma i arweinwyr clybiau weithio gyda pobl ifanc mewn perygl mewn >30 o grwpiau yn yr ardaloedd targed.
10 | Cynllun Cyflwyno Hyb Cymorth ACE Cymru 2019 – 2020
Haf 2019
3
NEWID SYSTEMAU
GWEITHREDU
SIOM
CERRIG MILLTIR
DOLEN I BERCHENNOG
Gwirfoddoli • Uwchsgilio 100 o hyfforddwyr ac arweinwyr cymunedol mewn sefydliadau gwirfoddol i ddod yn Hyrwyddwyr Newid Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod • Uwchsgilio 90 o Wirfoddolwyr sy’n Fyfyrwyr o 3 Phrifysgol i gefnogi ymgorffori newid systemau Gwybodus am Drawma mewn grwpiau cymunedol gwirfoddol Y Cyhoedd • Cyflenwi Ymgyrchoedd Lleol i gynnwys y gymuned a’i phobl ifanc wrth ddarparu Gweithgareddau Gwybodus am Drawma
Datblygu ymagwedd ag Undeb Rygbi Cymru • Undeb Rygbi Cymru i gynnal Cynhadledd y Trydydd Sector gan ddwyn ynghyd yr holl sefydliadau i drafod gwell cydweithredu
Gorffennaf 2019
• Cyflenwi model hyfforddi’r hyfforddwr i’r Uwch Dîm Staff, 10 x Swyddog Hyb a fydd yn rhaeadru i 95 o swyddogion hyb ar draws ysgolion yng Nghymru
Haf 2019
Hyfforddiant a gyd-gynhyrchir gan y Sector Chwaraeon. Nod pecyn hyfforddiant y sector chwaraeon a
gynhyrchir ar y cyd fydd ymgorffori’r hyfforddiant ym mhob hyfforddiant CPD cyfredol drwy Chwaraeon Cymru, Cymdeithas Chwaraeon Cymru a Chyrff Llywodraethu Cenedlaethol - mae hyn yn cynnwys arweinwyr cenedlaethol a hyfforddwyr chwaraeon cymunedol mwy lleol • Wedi’i gyflenw i swyddogion datblygu chwaraeon ar draws pob un o’r 22 awdurdod lleol – hyd at 15 yr awdurdod sef oddeutu 330
Cymorth i gyflwyno Cwpan y Byd i’r Digartref yng Nghaerdydd Dylanwadu ar Ddatblygu Polisi a Phrosesau Cyhoeddus a gweithio gyda meysydd polisi allweddol i ymwreiddio ACES yn y strategaethau hanfodol a Llywodraeth Cymru.
40
Datblygu ymrwymiadau presennol a nodi cyfleoedd pellach gan gynnwys: • Ymagwedd Ysgolion Cyfan ac Mae Pob Plentyn yn Bwysig
Yn parhau
All
Ebrill 2019
JH
ac yn Parhau
MB, JH
• Cynllun Cenedl Noddfa • Strategaeth Gwaith Ieuenctid • Tlodi • Gofyn am sefydlu grŵp trawsbleidiol ar ACES • Sesiwn ymwybyddiaeth SCS a chinio a dysgu • Gweithio gyda’r sector Cyhoeddus sydd wedi’i ddatganoli ac sydd heb ei ddatganoli i nodi cyfleoedd ar gyfer dylanwadu ar bolisi a dylanwadu’n ymarferol 11 | Cynllun Cyflwyno Hyb Cymorth ACE Cymru 2019 – 2020
3
NEWID SYSTEMAU
GWEITHREDU
SIOM
Gweithio gyda’r trydydd sector i ddatblygu Cais am gyllid gan y Loteri Fawr
320
• Cefnogi datblygu cais gan Gymru i Gronfa Gymunedol Loteri Genedlaethol y DU, gan ddod â phartneriaid sector gwirfoddol at ei gilydd i ddatblygu cynnig cydweithredol • Datblygu cais partneriaeth ar gyfer y gronfa Archwilio Ymagweddau Newydd - Cymru neu’r DU gyfan
4
CERRIG MILLTIR
DOLEN I BERCHENNOG
Ebrill 2019
LT
Haf 2019
GWASANAETHAU ADDYSG AC IEUENCTID - NEWID SYSTEMAU
GWEITHREDU
SIOM
CERRIG MILLTIR
DOLEN I BERCHENNOG
Cyflenwi tri cham hyfforddiant ym mhob ysgol gynradd ac uwchradd yng Nghymru er mwyn sicrhau bod pawb sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc yn ymwybodol o ace, ac yn teimlo’n hyderus i gyflenwi ymarfer sy’n wybodus am drawma.
400 / 190 / 420
Rhagfyr
SG
2019/Gorffennef 2020
SG
Gorffennaf 2020
SG
Mawrth 2020
SG
• GWE - Bydd Cam 1 yn dechrau eleni ar gyfer pob ysgol a nodwyd sydd angen cymorth a Cham 2 i ddilyn
Mawrth 2020
SG
• Hyfforddwyd 600 o ysgolion yn EAS, CSC ac ERW yng ngham 1 a 2 (traean o’r holl ysgolion yng Nghymru)
Gorffennaf 2020
SG
Mawrth/Ebrill 2019
TM
Mai 2019
GR/SG
• Mae pob un o’r 270 o ysgolion yn y Consortiwm EAS wedi’u cyflenwi hyfforddiant Cam 1 a chwblhau Cam 2 erbyn Gorffennaf 2020. • CSC- Rhondda Cynon Taf- mae 26 ysgol wedi mynychu hyfforddi’r hyfforddwr. Ysgolion Caerdydd - bydd pob un o’r 68 wedi derbyn Cam 1 a 2 erbyn Gorffennaf 2020. Merthyr - 10 ysgol Y Fro a Pheny-bont ar Ogwr – dros 50 o ysgolion hyd yn hyn • ERW- 52 Arweinwyr Dysgu Clwstwr sy’n cefnogi pob ysgol ar draws y 6 Awdurdod Lleol wedi’u harchebu ar gyfer Cam 2. Castell-nedd/ Port Talbot- 62 wedi’u hyfforddi yng Ngham 1 ac wedi’u harchebu ar gyfer Cam 2. Ysgolion Powys - 60 o Swyddogion Diogelu Dynodedig wedi’u harchebu ar gyfer Cam 2
• Cynllun peilot Cam 3. Nid oes digon o adnoddau ymhlith seicolegwyr addysgol i gyflwyno Cam 3 - datblygu cynllun peilot ar gyfer llysgenhadon ACE i gyrchu hyfforddiant PATH i feithrin gallu ar gyfer ysgolion
GWERTHUSIAD O GAMAU 1 A 2 • Mewnbwn data i SPSS a dadansoddiad o wybodaeth a gasglwyd o ysgolion sy’n derbyn hyfforddiant Cam 1 a 2 • Gwerthusiad a gynhelir gan PRID i lywio cyhoeddi adroddiad ar cam 1a2 12 | Cynllun Cyflwyno Hyb Cymorth ACE Cymru 2019 – 2020
4
GWASANAETHAU ADDYSG AC IEUENCTID - NEWID SYSTEMAU
GWEITHREDU
SIOM
CERRIG MILLTIR
DOLEN I BERCHENNOG
Cynllun peilot Ysgolion Uwchradd a chyflwyno rhaglen hyfforddi Ysgolion Uwchradd.
400 / 190 / 420 Mai 2019
SG
Mawrth/ Ebrill 2019 Mai 2019
GR
Yn parhau
SG
• Cyflenwi Cam 1 a 2 ym Mhrifysgol De Cymru i werthuso eu defnyddio yng nghynnwys y cwrs TAR yn yr hydref
Mawrth 2019
SG
• Gweithio gyda sefydliadau addysg uwch/sefydliadau addysg bellach eraill i’w defnyddio yng nghynnwys y cwrs
Yn parhau
SG
• Datblygu modiwlau addysg fel cyfle dysgu proffesiynol i gyd-fynd â’r Bil Diwygio ALN
Medi 2020
SG
Ebrill 2019
SG
Yn parhau
SG/JH/LT
Yn parhau
SG
Mai 2019
SI/JH
• Cynllun peilot mewn tair Ysgol Uwchradd - Pencoed, Ebwy Fawr ac Ysgol Uwchradd Casnewydd • Cyflwynir adroddiad gwerthuso interim • Adroddiad gwerthuso llawn
Goruchwylio’r model rhaeadru i sicrhau bod pob ysgol yng Nghymru wedi derbyn tri cham
GR
Datblygu model cynaliadwy ar gyfer addysg gynradd ac uwchradd yng Nghymru
• Cynhwysir y modiwlau ACE yn y dangosyddion iechyd meddyliol a lles ac argymell bod hyfforddiant ACE ar gyfer athrawon yn yr adroddiad ysgol gyfan drafft o amgylch y Mind Over Matters [Meddwl dros Faterion]. • Gweithio gyda LlC i gefnogi datblygu ymagwedd ysgol gyfan, gan gynnwys cynrychiolaeth yn y pedair is-grŵp ffrwd gwaith. Datblygu mecanwaith cyflenwi ar gyfer iechyd meddwl a lles mewn ysgolion gan ddefnyddio’r model ACES a chyfleoedd ar gyfer datblygu cymwysterau proffesiynol • Gweithio gyda LlC i gynnwys ymwybyddiaeth ACE ac arfer gwybodus am thrawma yn y cwricwlwm newydd ar gyfer ysgolion Cymru
Gwaith wedi’i dargedu ar effaith ymwybyddiaeth a hyfforddiant ACES ar wahardd o ysgolion, o gyflwyno a’r rhai hynny a addysgir yn eu cartrefi neu ‘amgylcheddau nad ydynt yn ysgolion’ Datblygu astudiaethau achos arfer da i’w cynnwys yn ein Hadroddiad Blynyddol a chefnogi datblygu’r ymagwedd ysgol gyfan gan gynnwys: • Ysgol Gynradd Pillgwenlly - yn gweithio ag amddifadedd a chymunedau amrywiol – yn meithrin ac yn cefnogi teuluoedd cyfan • Llyn-Yr-Eos – ymagwedd gynhwysol at bawb yn arbennig plant sydd wedi’u gwahardd a’r rhai hynny ag anghenion dysgu ychwanegol • Ysgol Uwchradd Fitzalan - darpariaeth feithrin ysgolion Uwchradd
13 | Cynllun Cyflwyno Hyb Cymorth ACE Cymru 2019 – 2020
4
GWASANAETHAU ADDYSG AC IEUENCTID - NEWID SYSTEMAU
GWEITHREDU
SIOM
CERRIG MILLTIR
DOLEN I BERCHENNOG
• Gweithio gyda Theuluoedd yn Gyntaf, gwarchodwyr plant cofrestredig a darparwyr gofal plant yn y lleoliad nad yw’n ysgol i ddatblygu hyfforddiant yn seiliedig ar y pecyn addysg
400 / 190 / 420
Yn parhau
SG
• Datblygu dealltwriaeth bellach rhwng y gydberthynas rhwng plant ag anableddau dysgu ac anghenion ychwanegol ac ACES a’r cysylltiad â Gwyddoniaeth Ymddygiad Cadarnhaol i leihau gwahardd.
Yn parhau
SG/KM
• Dolen i’r Rhaglen Anableddau Dysgu - Gwella Bywydau i ddatblygu a chytuno ar weithredu sy’n gysylltiedig ag ACES
Yn parhau
SG
Medi 2019
KM
Awst 2019
KM
Datblygu ymagwedd integredig at ddatblygu’r sector AU/AB i fod yn wybodus am drawma a chefnogi datblygu sgiliau a chynnwys cyrsiau • Datblygu fframwaith ar gyfer ymgynghori â sefydliadau AU/AB mewn gweithdy a gynhelir gan Brifysgolion Cymru • Sefydlu rhwydwaith o ymchwilwyr ôl-raddedig â ffocws ar ACES ar draws Prifysgolion a cholegau Cymru • Treialu marc Barcud/Dyfarniad ar gyfer ‘prifysgolion sy’n wybodus am drawma’ yn seiliedig ar egwyddorion allweddol
KM
• Mapio pa gyrsiau sy’n cynnwys ACES neu fodiwlau sy’n wybodus am drawma, a nodi meysydd penodol lle gall gwybodaeth a sgiliau sy’n benodol i’r sector gael eu hymwreiddio mewn addysg uwch ac addysg bellach
KM
Creu Gweithlu Ieuenctid sy’n Ymwybodol o ACE i Gymru • Cyhoeddi Gwerthusiad Annibynnol o Waith Ieuenctid gan Paperboat • Datblygu Cymhwyster Gwaith Ieuenctid Lefel 2 ar gyfer yr holl weithwyr ieuenctid newydd sy’n ymuno â’r proffesiwn gyda Dysgu Oedolion Cymru, i’w adolygu yn 2020 ac yn ychwanegu elfennau Hyfforddiant Ieuenctid ACE. Bydd hyn yn sicrhau y bydd oddeutu 250-300 o weithwyr ieuenctid y flwyddyn yn derbyn yr hyfforddiant. • Mae Prifysgol Fetropolitan Caerdydd wedi ymgorffori’r hyfforddiant mewn Gwaith Ieuenctid Lefel 4 a’r Diploma Ôl-raddedig ac mae’n bwriadu ei gynnwys yn Rhaglenni Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Glyndwr • Sefydlu Hyfforddiant Gweithlu Ieuenctid sy’n wybodus am ACE fel rhan o’r Strategaeth Gwaith Ieuenctid i Gymru newydd ac i atgyfnerthu Fframwaith Hyfforddi Gwaith Ieuenctid • Datblygu modiwl gweithlu Ieuenctid sy’n wybodus am ACE annibynnol gyda’r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid ac AGORED Cymru. Bydd y modiwl yn cyd-fynd â’r Model Adfer o Drawma a’r system Rheoli Uwch o Achosion sy’n cael eu profi o fewn cyfiawnder ieuenctid
Chwaraeon - adeiladu gwytnwch trwy gymryd rhan mewn chwaraeon (Gweler uchod)
14 | Cynllun Cyflwyno Hyb Cymorth ACE Cymru 2019 – 2020
310 / 290 / 270 / 350 / 190 Mai 2019
LT
2020
LT
Yn parhau
LT
Haf 2019
LT
Hydref 2019
LT
ADNODDAU Ar hyn o bryd mae’r tîm wedi’i staffio ag 8: Cyfarwyddwr yr Hyb, dau arweinydd perthnasoedd ac ymgysylltu, arweinydd addysg, arweinydd sgiliau a gwybodaeth, a dau aelod o staff gweinyddol.
RISGIAU Mae dwy brif risg i’w hystyried wrth symud ymlaen i 19/20 Mae’r ganolfan wedi’i staffio’n bennaf gan secondeion o sefydliadau gwirfoddol a thrydydd sector a gwasanaethau cyhoeddus. Bydd secondiadau a roddwyd ar waith ym mlwyddyn un yn dod i ben yng nghanol blwyddyn 3. Mae ansicrwydd ynghylch parhad yr hyb ar ôl Mawrth 2020, ac mae’r diffyg sefydlogrwydd wedi golygu bod staff wedi bod yn ystyried eu hopsiynau tymor hwy gan chwilio am rolau sicr. Bydd yr arolwg sylfaenol a’r ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus yn creu llawer o ddiddordeb a brwdfrydedd o’r newydd i fynd â’r gwaith hwn yn ei flaen, ond o fewn amserlen gyfyngedig o dan gytundebau cyllido presennol. Fe godir disgwyliadau ynghylch gwaith parhaus yr hyb i gefnogi’r sectorau a’r cymunedau hynny nad ydynt eto wedi ymgysylltu’n llawn â’r hyn y gallai fod angen iddynt ei newid yn y system maent yn ei gweithredu, neu nad ydynt yn sefydliadol barod i ddatblygu eu hymagwedd. Datblygwyd achos dros gyllid parhaus a’r meysydd sy’n galw am ffocws. Mae cynllunio cynaliadwyedd ar y cyd â Gweithredu’n Gynnar Gyda’n Gilydd yn.
ATODIAD A Adolygiad o Ymrwymiadau a wnaed ar gyfer Blwyddyn 3 Yn ein Cynllun Busnes Strategol fe wnaethom yr ymrwymiadau dilynol ar gyfer blwyddyn 3 yr hyb: • Gweithio gyda chyrff proffesiynol a darparwyr dysgu i ddatblygu ymwybyddiaeth o ACE a datblygu sgiliau mewn hyfforddiant proffesiynol fel bod cenedlaethau’r dyfodol yn dysgu’n awtomatig am ACEs. • Adeiladu ar ein gwaith codi ymwybyddiaeth gan edrych ar sut y gall cymunedau gefnogi gwaith yn gynaliadwy o ran mynd i’r afael ag ACEs • Parhau i godi’r rhwystrau a’r cyfleoedd ar gyfer mabwysiadu ymagwedd wybodus am ACE trwy bolisi a deddfwriaeth gyda’r llywodraeth. • Parhau i adeiladu storfa o ddysgu, ymarfer, egwyddorion, ymyriadau ac offer effeithiol o amgylch ACEs • Parhau i adeiladu ein cymorth ar draws sectorau a gwasanaethau, a gweithio gyda chyrff rheoleiddio
Mae’r Cynllun Cyflwyno yn dangos sut y byddwn yn diwallu’r ymrwymiadau hyn, sy’n aros yr un fath. Mae’r camau y byddwn yn eu cymryd i gyflawni’r ymrwymiadau hyn wedi cael eu llywio gan y dysgu a’r profiad o gyflwyno ym mlwyddyn 1 ac mae dysgu a newidiadau Allweddol yn cynnwys: • Yr angen i bennu’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth o pa mor wybodus am ACE mae sefydliadau a sectorau yng Nghymru er mwyn targedu ymdrechion ac adnoddau lle mae eu hangen fwyaf i gefnogi’r newid i ymarfer sy’n wybodus am drawma. Byddwn yn cynnal arolwg sylfaenol o weithwyr proffesiynol ym mis Mai 2019. • Mae’n rhaid i sgiliau a dysgu ynghylch ymwybyddiaeth o ACE fod yn benodol i’r sector a chael eu cyd-gynhyrchu, ac ar ei hun nid yw’n effeithio ar newid sefydliadol. Nid yw hyfforddiant generig wedi bod mor llwyddiannus wrth nodi arweinwyr hyfforddiant i fynd â dysgu yn ôl at eu sefydliadau neu’r cymorth strategol i’w gyflwyno. Bydd diwylliant ac ethos sefydliadol yn pennu sut i ymgorffori arfer sy’n wybodus am drawma, er enghraifft bydd ymagwedd achredu yn fwy derbyniol i rai sectorau nag eraill. Byddwn yn datblygu prosbectws a phecyn gweithredu sy’n cefnogi sefydliadau, sectorau ac unigolion i gyrchu cymorth ac adnoddau i adeiladu modelau newid cynaliadwy a fydd yn ysgogi newid iddynt. Yna bydd rhaid i’r newid gael ei ymgorffori mewn hyfforddi, datblygu a monitro/arolygu i sicrhau ei fod yn gynaliadwy ac yn cael ei adolygu. Rydym yn buddsoddi amser a ffocws wrth ddatblygu modiwlau sector-benodol ar gyfer cyrsiau hyfforddi proffesiynol ac mewn prifysgolion
15 | Cynllun Cyflwyno Hyb Cymorth ACE Cymru 2019 – 2020
• Fe fu bwlch yn ein dealltwriaeth o gymunedau a sut mae cymunedau amrywiol yn cael eu heffeithio gan ystod o fathau o adfyd oherwydd gwrthdaro, tlodi, gwahaniaethu ac anghydraddoldeb. Rhaid i ymgysylltu â chymunedau gynnwys trafodaeth ynghylch penderfynyddion cymdeithasol a phrofiad ehangach, a rhaid i gymunedau eu hunain deimlo eu bod wedi’u grymuso. Mae ein hymgyrch ymwybyddiaeth y cyhoedd yn canolbwyntio ar ymagwedd gynhwysol at ddeall yr hyn mae’r cyhoedd yn ei ddeall a’r hyn sydd angen iddynt ei weld i sicrhau newid. • Mae angen i ni symud y tu hwnt i Ymwybyddiaeth Ace a thuag at wahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl trwy newid trawsnewidiol sefydliadol, trwy ymagwedd meddwl systemau sy’n lliniaru yn erbyn arferion negyddol a chanlyniadau a heriau. Mae angen i ni gymryd rhan mewn trafodaethau ynghylch y meysydd her sy’n cael eu hwynebu ledled y DU; a bydd hyn yn llywio ein digwyddiadau bord gron ym mis Ebrill a mis Mai. Bydd lleisiau plant a phobl ifanc a rhieni yn cael eu cynnwys trwy grwpiau ffocws a fydd wedyn yn darparu’r dystiolaeth ar gyfer trafodaethau gyda dylanwadwyr, arweinwyr ac ymarferwyr allweddol. Mae angen i ganlyniadau ystyried yr hyn mae pobl angen iddo ddigwydd er mwyn sicrhau newid ac mae angen i arweinwyr gamu ymlaen i’w gyflenwi. • Ni all newid systemau ddigwydd heb werthuso’r hyn sy’n gweithio a’r aliniad â datblygu polisi a deddfwriaeth yng Nghymru - rydym yn canolbwyntio ar ymrwymiadau maniffesto’r Prif Weinidog newydd a’r ymrwymiadau a nodir yn y strategaeth yn arbennig yr Ymagwedd Ysgol Gyfan at Iechyd Meddwl a Lles, y Strategaeth Gwaith Ieuenctid, ac ymrwymiadau iechyd a gofal cymdeithasol er mwyn lleihau’r nifer o Blant sy’n Derbyn Gofal. Mae Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol yn darparu’r fframwaith i ni ar gyfer cyflenwi sy’n destun eiddigedd i genhedloedd eraill y DU. Mae angen i ni weithio’n galetach i wireddu’r cyfle mae’r ddeddf yn ei roi i ni ysgogi newid ar raddfa briodol, trwy hyrwyddo gweithio ar draws y llywodraeth a’r cyfle i ymgorffori ACES mewn strwythurau cyflenwi lleol. • Mae amser wedi cael, a bydd yn parhau i gael ei fuddsoddi i alinio ein gwaith gyda’r Rhaglen Gweithredu’n Gynnar gyda’n Gilydd i ddatblygu ymagwedd gynaliadwy at ymagweddau ar draws y gwasanaethau cyhoeddus datganoledig ac annatganoledig. Byddwn hefyd yn canolbwyntio ar feysydd eraill o alinio ynghylch atal ac ymyrryd yn gynnar er mwyn osgoi dyblygu a lleihau’r gofod gorlawn. Bydd comisiynwyr Plant a Chenedlaethau’r Dyfodol yn bwysig i’n helpu ni yma fel y bydd arweinwyr strategol byrddau gwasanaethau cyhoeddus, byrddau partneriaeth rhanbarthol a threfniadau partneriaeth. • Rydym ar y trywydd iawn i ddatblygu set gynhwysfawr o offer ac adnoddau ar gyfer sefydliadau a sectorau, sydd ar gael trwy wefan well. Bydd yr ymgyrch ymwybyddiaeth y Cyhoedd yn ein helpu i hyrwyddo a datblygu adnoddau pellach ar gyfer cymunedau a’r cyhoedd. • Byddwn yn adeiladu ar y gwaith ym maes addysg a gwaith ieuenctid yn arbennig i greu fframweithiau tebyg ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, hyfforddi’r arolygiaethau ac ymgorffori newid sefydliadol sydd wedi’i seilio ar dystiolaeth ac sydd wedi’i gwerthuso y gallwn ni ddarparu tystiolaeth ei fod yn cael effaith. • Eleni byddwn yn canolbwyntio ar ddatblygu’r ymagwedd at Gam 2 yr hyb ac edrych y tu hwnt i fis Mawrth 2020 er mwyn adeiladu model cynaliadwy ar gyfer y cenedlaethau i ddod. Rhaid canolbwyntio ar newid o ymwybyddiaeth o ACE i Wybodus am Drawma, yr hyn sydd ei angen i fesur a chyflawni newid a’r hyn sydd ei angen wedyn i gynnal hyn yn wrth symud ymlaen.
16 | Cynllun Cyflwyno Hyb Cymorth ACE Cymru 2019 – 2020
ATODIAD B Gwerthusiad Mae Hyb Cymorth ACE yn mabwysiadu ymagwedd wedi’i seilio ar gryfder i drawsnewid strategaethau, gwasanaethau a phobl sefydliadol i fod yn wybodus am ACE, â systemau integredig i fynd i’r afael â chanlyniadau sy’n gysylltiedig ag ACE yn eu sectorau. Mae’r gwerthusiad hwn yn defnyddio ymagwedd werthuso ffurfiannol, wedi’i seilio ar Theori o Newid gychwynnol. Bydd y canfyddiadau’n cael eu dadansoddi gan ddefnyddio methodoleg Gwerthuso Realistig i ddeall cyd-destun sector-benodol a Dadansoddiad Rhwydwaith i fesur effeithiolrwydd model cyflwyno’r Hyb.
AMCANION HYB CYMORTH ACE
1
Lledaenu hysbysrwydd a gwybodaeth am ACEs a rhannu tystiolaeth am yr hyn y gall sefydliadau ei wneud yn wahanol i helpu i atal a lliniaru ACEs
2
Datblygu gwybodaeth a sgiliau ymysg gweithwyr proffesiynol, darparu hyfforddiant ar eu cyfer er mwyn iddynt alluogi eu hunain a’u sefydliadau i feithrin rhwydweithiau mewnol ac allanol i newid ymarfer
3 4
Cyfuno dysgu gan unigolion, cymunedau, sefydliadau a’r system ehangach. Beth yw effaith strategaeth gyfathrebu effeithiol, wedi’i thargedu wrth gyflenwi amcanion craidd Hyb Cymorth ACE i ddatblygu gwybodaeth?
NODAU’R GWERTHUSIAD a) Pa mor effeithiol yw model Hyb Cymorth ACE wrth hyrwyddo gwybodaeth a thystiolaeth ar draws asiantaethau a chymunedau allweddol yng Nghymru (fel y’i diffinnir yn y Strategaeth Gyfathrebu)?
a) Beth yw effeithiolrwydd prosbectws hyfforddiant yr Hyb (a rhaeadru) wrth gynyddu ymwybyddiaeth o ACEs ymysg gweithwyr proffesiynol allweddol a hysbysu’r ymateb er mwyn atal a lliniaru ACEs?”
a) Sut mae’r Hyb Cymorth ACE yn cyfuno dysgu gan unigolion, cymunedau, sefydliadau a’r system ehangach er mwyn ysgogi’r broses o drawsnewid systemau ar lefelau lleol a chenedlaethol?”
b) Beth yw effaith strategaeth gyfathrebu effeithiol, wedi’i thargedu wrth gyflenwi amcanion craidd Hyb Cymorth ACE i ddatblygu gwybodaeth?
b) Sut mae’r Hyb Cymorth ACE wedi cefnogi capasiti a gallu cynaliadwy ac effeithiol i sefydliadau ymateb i ACEs?
b) Beth yw rhwystrau a galluogwyr model Hyb Cymorth ACE i gyflawni nodau a rennir ag aelodau ehangach, i ymgysylltu a chynnal eu hymgysylltiad i fwrw ymlaen â’i weledigaeth o Gymru sy’n wybodus am ACE? c) Pa mor effeithiol yw Hyb Cymorth ACE wrth ysgogi a chefnogi newid ar lefel leol a chenedlaethol
AMCANION MESUR Dangosyddion:
Canlyniad:
Dangosyddion:
Canlyniad:
Dangosyddion:
Canlyniad:
• Offeryn dadansoddi cynnwys ar gyfer y Strategaeth Gyfathrebu a chynlluniau gweithredu’r sector • Arolwg dadansoddi rhwydwaith • Offer arolwg / adborth digwyddiadau • Holiaduron safonedig cyn / ar ôl hyfforddiant • Ffurflenni adborth hyfforddiant • Cyfweliadau hyfforddi ansoddol
• Gwybodaeth yr hyb yn cael ei chyrchu trwy wahanol gyfryngau • Tystiolaeth o symud cymdeithasol i fynd i’r afael ag ACES / ymwybyddiaeth gynyddol ymhlith y cyhoedd o ACEs • Sefydliadau’n deall cymwyseddau sy’n wybodus am ACE sy’n ofynnol gan eu staff • Cymhwysedd cynyddol ymhlith staff o ran dealltwriaeth staff o ACEs • Gwahanol sectorau cymdeithasol yn ddefnyddio hyfforddiant / gwybodaeth/ fframwaith sgiliau ACE i gynyddu gallu
• Offeryn dadansoddi cynnwys ar gyfer y Strategaeth Gyfathrebu • Arolwg dadansoddi rhwydwaith • Offer arolwg / adborth digwyddiadau • Holiaduron safonedig cyn / ar ôl hyfforddiant • Ffurflenni adborth hyfforddiant • Cyfweliadau hyfforddi ansoddol • Dadansoddi cynnwys cynlluniau gweithredu’r sector
• Gwybodaeth yr hyb yn cael ei chyrchu trwy wahanol gyfryngau • Tystiolaeth o symud cymdeithasol i fynd i’r afael ag ACES / ymwybyddiaeth gynyddol ymhlith y cyhoedd o ACEs • Y sectorau Ysgolion, Gwasanaethau Ieuenctid a Thai yn deall cymwyseddau sy’n wybodus am ACE sy’n ofynnol gan eu staff • Cynnydd yn nifer yr ymarferwyr sy’n wybodus am ACE • /athrawon sy’n dangos gwydnwch a hunan-reoleiddio
• Offeryn dadansoddi cynnwys ar gyfer y Strategaeth Gyfathrebu • Arolwg dadansoddi rhwydwaith • Offer arolwg / adborth digwyddiadau • Atodlen cyfweliad ansoddol rhanddeiliaid
• Gwasanaethau Cyhoeddus yn defnyddio ymagwedd sy’n wybodus am ACE at yr holl wasanaethau • Mae sectorau’n weithgar wrth nodi a chefnogi’r rhai hynny â phrofiadau o ACEs • Bydd gan Hyb ACE graidd ymgysylltiedig sydd wedi’i ymrwymo i fynd i’r afael â chynaliadwyedd amgylcheddau sy’n wybodus am ACE • Mae amcanion Hyb ACE yn cael eu cyflenwi ar y cyd gan randdeiliaid brwdfrydig mewn ffordd gynaliadwy
17 | Cynllun Cyflwyno Hyb Cymorth ACE Cymru 2019 – 2020