Page 1

Diolchiadau

Sefydliad Young

Cafodd yr ymchwil sy’n sail i’r adroddiad hwn ei wneud yn bosibl drwy grant hael gan Lywodraeth Cymru i Amplify Cymru, rhaglen o ymchwil rhyng-gysylltiedig a chefnogaeth i arloesedd. Hoffem ddiolch i Lywodraeth Cymru am eu cefnogaeth. Yn bwysicaf oll, hoffem ddiolch i bobl o Aberystwyth, Cei Connah a Phort Talbot ac eraill ar draws Cymru am eu haelioni o ran amser a meddwl wrth gymryd rhan yn yr ymchwil hwn a helpu i’w ffurfio.

Mae anghydraddoldeb yn gyffredin ac yn gymhleth ac yn effeithio ar sawl maes o fywydau pobl. Mae Sefydliad Young yn sefydliad ymchwil sy’n seiliedig ar weithredu gyda phrofiad rhyfeddol o ymdrin â’r anghydraddoldebau hyn. Rydym yn gweithio ar draws y DU ac yn rhyngwladol i greu mewnwelediad a datblygiadau arloesol sy’n rhoi pobl wrth wraidd newid cymdeithasol.

Amplify Cymru Mae Amplify Cymru yn helpu pobl i weithredu gyda’i gilydd i greu cymunedau tecach lle y gall pawb ffynnu. Rydym yn credu y gall pawb wneud gwahaniaeth a bod newid cymdeithasol cadarnhaol yn fwyaf tebygol o ddigwydd pan fydd pobl o bob rhan o gymdeithas yn cymryd rhan. Rydym yn dod â phobl a sefydliadau at ei gilydd i: • Ddeall profiadau byw pobl am anghydraddoldeb a sut y gellir ei oresgyn; • Adnabod naratifau newydd o ran y dyfodol gwell y mae pobl yn ei ddymuno ar gyfer eu cymunedau; • Creu a thyfu’r prosiectau a’r cynlluniau cydweithredol arloesol sydd eu hangen i sicrhau newid. Mae Amplify Cymru yn cael ei bweru gan Sefydliad Young a’i gyllido gan Lywodraeth Cymru. Rydym yn gweithio gyda phobl ar draws Cymru gan ganolbwyntio’n bennaf ar Aberystwyth, Cei Connah a Phort Talbot.

Awduron Dr Hannah Green a Dr Mary Hodgson.

Yr ymchwilwyr Mae pobl sydd wedi cyfrannu at y gwaith ymchwil, y dadansoddi a’r argymhellion yn cynnwys cymunedau Aberystwyth, Cei Connah a Phort Talbot, a phobl o ardaloedd eraill yng Nghymru, yn ogystal ag Andy Dunbobbin, Cam Boam, Cath Sherrell, Gorka Espiau, Hannah Green, Kieron Williams , Lucy Cui, Mary Hodgson, Nat Defriend, Phil Thomas a Radhika Bynon. Rydym wedi ceisio cadw pobl, lleoedd ac enwau yn ddienw ac eithrio pan mae’r lle yn arbennig yn berthnasol i’r profiad sy’n cael ei drafod - er enghraifft persbectif penodol yn seiliedig ar le neu lle mae manylion demograffig byr yn berthnasol. Cyhoeddwyd am y tro cyntaf yn y Deyrnas Unedig yn 2017 gan Sefydliad Young, 18 Victoria Square Park, Llundain, E2 9PF. Mae’r hawlfraint yn aros gyda Sefydliad Young © 2017.

1|


| 2


Cynnwys Canfyddiadau allweddol Cymdeithas decach i bawb Arwyddocâd lle Rhwystrau ac anghydraddoldeb Asedau Gweithredu dan arweiniad y gymuned Heriau i weithredu a arweinir gan y gymuned Argymhellion

4 4 5 6 7 8 8 9

Cyflwyniad 10 Ein dull ymchwil 11 Ein dulliau 12 Y Cyd-destun 13 Cyd-destun yr ymchwil maes neu safle 14 Deall pwysigrwydd lle 16 Strwythur yr adroddiad 19 Adran 1: Deall yr hyn y mae pobl am i chi ei wybod am y llefydd y maent yn byw ynddynt Cymru: lle rydym yn dewis byw ynddo Mae’n cynnig bywyd da i ni Rydym yn dod o hyd i gymuned a lle i berthyn iddo Y pethau rydym yn ei wneud i ni ein hunain ac i’n gilydd Portreadau Personol • Portread Personol: Aberystwyth • Portreadau Personol: Cei Connah • Portread Personol: Port Talbot Adran 2: Deall yr anghydraddoldeb a’r rhwystrau y mae pobl yn eu hwynebu bob dydd mewn llefydd Mae canfyddiad a naratifau yn anghydraddoldeb Sut mae canfyddiad yn parhau anghydraddoldeb Nid yw’r llwybrau a’r cyfleoedd yn cyfateb Her lle, daearyddiaeth a symudedd Mae yna rai llefydd a chyfleoedd nad ydynt ar ein cyfer ni Mae ein llefydd yn newid Datblygiad sy’n ‘cael ei wneud i bobl’ Pwy sy’n gallu gwneud i newid ddigwydd? Mae penderfyniadau yn cael eu gwneud i ni, nid gyda ni Adran 3: Beth mae pobl yn ei wneud yn y llefydd y maent yn byw a pham, a beth maent ei eisiau ar gyfer y llefydd y maen nhw’n byw ynddynt Themâu gweithredu yn y gymuned Camau gweithredu arloesol Pam mae’r gweithredoedd hyn mor werthfawr Pa heriau sydd yna o ran gweithredu yn y gymuned? Awgrymiadau a arweinir gan y gymuned ar gyfer sut i gefnogi cymunedau i lunio dyfodol tecach

20 21 22 24 26 29 30 34 38 42 43 45 47 48 49 52 54 57 58 60 62 64 65 68

Casgliadau 69 Cyfeiriadau 70

3|


Canfyddiadau allweddol Cymdeithas decach i bawb Beth sy’n helpu neu’n tanseilio lles a’r ymdrech i rymuso pobl sy’n byw mewn cymunedau? Er bod gwahanol ddulliau o ddiwallu anghenion, gwella bywydau pobl a mynd i’r afael â lefelau uchel o anghydraddoldeb mewn cymdeithas y DU, mae yna gytundeb cynyddol nad yw dulliau traddodiadol o wneud pethau bob amser yn gweithio. Yn yr ymchwil hwn, fe wnaethom ymchwilio beth mae pobl sy’n byw mewn tair tref yng Nghymru - Aberystwyth, Cei Connah a Phort Talbot - ei eisiau ar gyfer y llefydd y maent yn byw ynddynt, ar gyfer eu cymunedau ac ar eu cyfer nhw eu hunain. Mae’r canfyddiadau allweddol yn canolbwyntio ar dynnu allan themâu sy’n gyffredin ar draws y trefi hyn ac sydd â goblygiadau i Gymru gyfan. Ym mhrif gorff yr adroddiad, mae canfyddiadau sy’n ymwneud â llefydd penodol yn cael eu hamlygu yn fanylach. Yma rydym yn edrych ar beth mae pobl sy’n byw yn y cymunedau hyn yn ei feddwl am yr heriau sy’n eu hwynebu a’r ffyrdd y maent yn mynd ati i greu cymdeithas decach i bawb. Fe wnaethom fabwysiadu ymagwedd iterus1 at yr ymchwil yr oedd y cysyniad o ‘le’ yn amlwg drwyddo: nid yn unig fel man lle mae pobl yn digwydd byw, ond fel rhywbeth sy’n ganolog i’r ffordd y maent yn byw eu bywydau. Mae lle yn lens mae pobl yn gweld ystyr gymdeithasol a gwerth, ymyriadau neu gymorth gwahanol asiantaethau drwyddo, ac yn profi ymdeimlad o rym a diogelwch.

1  Mae iteriad yn cyfeirio at y broses o ddychwelyd dro ar ôl tro at ffynhonnell y data i sicrhau bod y dealltwriaethau yn wir yn dod o’r data. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu proses gyson o gasglu data, cynnal dadansoddiad rhagarweiniol, gan ddefnyddio hynny i arwain y dull nesaf at gasglu data a pharhau â’r patrwm hwn hyd nes bo’r gwaith o gasglu data yn gyflawn.

| 4


Arwyddocâd lle •

Ym mhob tref, mae gan bobl gysylltiad cryf â ‘lle’. Mae’r cysylltiadau hyn yn ddaearyddol, ond maent hefyd yn ddiwylliannol, cymdeithasol, ffisegol, yn seiliedig ar berthnasau agosaf ac yn economaidd. Mae llefydd yn lleoli pobl yn gymdeithasol ac yn ddiwylliannol. Gallant roi ymdeimlad cryf o gymuned, perthyn a hunaniaeth, nid yn lleiaf oherwydd mai llefydd yw lle mae pobl a’u teuluoedd yn dod ohonynt, dyma lle maent yn gweithio ac wedi gweithio am flynyddoedd, ac maent yn dylanwadu ar y cysylltiad a’r ymrwymiad sydd gan bobl at ei gilydd. Mae’r cysylltiadau hyn â lle yn aml yn tanlinellu bywydau pobl, eu hoffterau a’u penderfyniadau ac yn esbonio teimladau eraill hefyd, fel colled neu bryder. I ryw raddau, maent yn dylanwadu ar y penderfyniadau y bydd pobl yn eu gwneud; er enghraifft ynghylch cyflogaeth, y pethau maent yn eu gwerthfawrogi, a’u gweithredoedd o ddydd i ddydd. Maent hefyd yn dylanwadu ar ac yn gallu esbonio emosiynau a theimladau pobl am yr hyn sy’n digwydd yn eu bywydau a’u hymwneud â’r digwyddiadau hyn.

Er bod gwahanol gymunedau o ddiddordeb mewn unrhyw le - er enghraifft, o ran oedran, galwedigaeth, crefydd, ac ethnigrwydd - mae’r gymuned sy’n seiliedig ar le yn egwyddor drefniadol neu gysyniadol gryf i lawer o bobl, yn rhannol oherwydd yr agosrwydd y mae’n ei roi i bobl eraill ac yn rhannol oherwydd hanes a rhwydweithiau lle.

Mae pobl yn cysylltu’r llefydd y maent yn byw ynddynt gyda’r pethau y maent yn ei wneud a’r camau y maent yn eu cymryd. Mae hyn yn nhermau’r cysylltiadau hanesyddol a chyfredol sydd gan bobl â diwydiant a sefydliadau, ac o ran y cymorth a’r gofal y mae pobl yn ei roi i bobl eraill yn eu cymunedau. Er enghraifft, mae llefydd yn aml wedi rhoi eu cyflogaeth i bobl, sy’n ffynhonnell bwysig o hunaniaeth. Mae hwn yn werth cymunedol ehangach a chwmpasol, am yr hyn y mae pobl mewn llefydd yn debyg, a beth fyddant yn ei wneud i’w gilydd.

5|


Rhwystrau ac anghydraddoldeb •

| 6

Mae lle hefyd yn safle y mae pobl yn profi anghydraddoldeb penodol drwyddo, fel gwahaniaethau o ran incwm o fewn llefydd, a goblygiadau cymdeithasol a diwylliannol y rhaniadau hyn. Mae’r anghydraddoldebau hyn yn aml wedi’u gwreiddio’n ddwfn a gallant gael effaith fawr ar fywydau pobl. Mae pobl yn teimlo bod gan y rhai o’r tu allan ganfyddiadau negyddol ynghylch eu lle, neu eu bod yn rhannu storïau negyddol am y bobl sy’n byw yno, er enghraifft fel bod yn dref sydd wedi dirywio’n ddiwydiannol neu fel pobl sydd angen help neu ymyrraeth o’r tu allan. Gall y syniadau sydd gan bobl eraill am ardaloedd fod yn anghydraddoldeb o’i ran ei hun, yn yr ystyr eu bod yn gosod llefydd a phobl fel rhai sydd o werth mwy neu lai o gymharu â’i gilydd. Mae yna lawer o naratifau a straeon amgen a chadarnhaol am bob lle sy’n ymddangos fel pe baent yn rhai sydd heb eu clywed neu eu cydnabod gan eraill, gan gynnwys y cyfryngau a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau. Datgelwyd bod teimlo nad ydynt yn cael eu gwrando dro ar ôl tro yn brofiad bob dydd i bobl yn y cymunedau hyn. Mae pobl hefyd yn teimlo nad ydynt yn cael eu cynnwys mewn penderfyniadau mawr am bolisi a buddsoddiad yn eu hardaloedd. Maent yn teimlo mai canlyniad hyn yw bod y buddsoddiad y mae llefydd yn ei dderbyn yn ymdrin yn bennaf â materion negyddol hysbys yn hytrach na chyfleoedd cadarnhaol a’i fod yn methu â sicrhau prynu-i mewn, perchnogaeth a chynaliadwyedd.

Mae pobl yn credu bod cyrff a sefydliadau penodol yn y trefi yn creu anghydraddoldeb. Teimlir bod gan y sefydliadau hyn gyfrifoldeb i greu economi gynhwysol ac nad ydynt yn cyflawni’r cyfrifoldeb hwn ar hyn o bryd.

Mae pobl ym mhob cymuned yn profi llawer o newid. Mae’r newid hwn yn cael ei groesawu i ryw raddau ond mae hefyd yn creu ofn a phryder. Gall hyn fod yn arbennig o gythryblus pan fydd datblygiad yn digwydd ‘i’ gymuned yn hytrach na ‘gyda’r’ gymuned.

Mae pobl hefyd wedi profi newid a cholled o ran y llwybrau a’r cyfleoedd a gynigir gan lefydd. Yn aml mae diffyg cydweddu rhwng y cyfleoedd mewn lle arbennig a’r llwybrau sydd ar gael i gyrraedd yno. Er enghraifft, yn aml ni phrofir bod addysg, cyflogaeth a llwybrau hyfforddi yn arwain at gyfleoedd cyflogaeth. Mae pobl yn aml yn teimlo bod llai o sicrwydd heddiw o ran sut y bydd pobl yn cyflawni eu dyheadau nag o’r blaen. Mae symud i ffwrdd i gael cyfleoedd, a’r golled a all ddod yn sgil hynny, yn un o ffeithiau bywyd i lawer.

Mae daearyddiaeth hefyd yn rhwystr sylweddol sy’n effeithio ar alluoedd pobl i ddiwallu eu hanghenion neu fanteisio ar gyfleoedd. Oherwydd gwasgariad gwasanaethau a chyfleoedd, a phellteroedd daearyddol, nid yw pobl bob amser yn gallu cael mynediad at yr hyn y maent ei angen. I rai, mae hyn yn cael ei gymhlethu gan eu statws economaidd a chan rwystrau i symudedd.


Asedau •

Gall yr amgylchedd adeiledig greu rhwystrau i greu cymuned a llefydd cynhwysol. Er enghraifft, mae’r ffordd y mae tai wedi cael eu datblygu, ac yn enwedig rhaniadau rhwng stadau, wedi cyfrannu at ddiffyg cymuned gydlynol mewn rhai mannau.

Mae’r cysylltiad agos â mannau penodol sydd gan lawer o bobl yn golygu y gallai pobl hefyd deimlo’n anghyfforddus neu’n ynysig yn gymdeithasol mewn mannau eraill lle mae cyfleoedd yn bodoli. Mae’n debygol mai’r rheiny sy’n teimlo’r rhaniadau hyn gryfaf yw’r rhai mwyaf agored i niwed.

Gall cymunedau sy’n seiliedig ar le gael eu profi gan rai fel rhywbeth sy’n creu eithrio, megis pan nad yw pobl wedi eu clymu i mewn yn barod i’r gymuned honno neu pan nad ydynt yn cydymffurfio â normau neu werthoedd cymunedol. Gallai cymuned seiliedig ar le hefyd gael ei phrofi fel rhwystr i gael gafael ar gymorth neu gyfleoedd i newydd-ddyfodiaid.

Mae pob tref yn gyfoethog o ran nodweddion daearyddol a thirwedd trawiadol - traethau, bryniau, afonydd, parciau. Mae’r asedau hyn yn rhoi ymdeimlad cryf o berthyn a balchder cymunedol a rennir.

Mae’r adnoddau naturiol hyn yn helpu i roi ymdeimlad dwfn o les i bobl. Maent yn helpu pobl ymdeimlo cysylltiad â natur, maent yn darparu gweithgareddau hamdden ac yn helpu i gynnig ansawdd bywyd da.

Ond mae gan gymunedau ar draws Cymru hefyd lu o asedau cymdeithasol a diwylliannol sy’n cael eu hymgorffori mewn perthnasau cymdeithasol-ddiwylliannol a hanesion lleoedd. Mae pob tref y buom yn ymchwilio iddi yn gyfoethog o ran hanes, cymdeithas a diwylliant. Mae hyn yn cael ei gydnabod yn gyffredin, mewn bywyd bob dydd a thrwy ddathliadau.

Mae rhwydweithiau cefnogol yn y trefi hyn hefyd yn cynnig llawer o gyfleoedd. Yn benodol, mae pobl yn aml yn gofalu am ei gilydd a’r gymuned sy’n seiliedig ar le, sy’n golygu eu bod yn blaenoriaethu eu perthnasoedd a’u rhwydweithiau cymdeithasol fel ffynhonnell gref o werth cymdeithasol a gweithredu cymdeithasol.

7|


Gweithredu dan arweiniad y gymuned

Heriau i weithredu a arweinir gan y gymuned

Mae cael cymorth gwell ar gyfer gweithredu lleol cadarnhaol sy’n deillio o ddiffyg neu argyfwng yn bryder allweddol i bobl ar draws cymunedau yng Nghymru.

Un her yw nad yw syniadau a chamau gweithredu cadarnhaol yn weladwy iawn i eraill ac nad yw eu gwerth yn aml yn cael ei gydnabod y tu allan i’r gymuned.

Er bod gan rai pobl yr hyder neu’r sgiliau i ofyn am a chael cymorth, mae yna lawer o bobl nad ydynt yn gwybod eu bod yn gallu gofyn am gymorth na sut i wneud hynny. Gallai’r broses y mae’n rhaid i bobl fynd trwyddi i gael gafael ar gyllid fod yn fygythiol iawn ac mae’n gallu eithrio pobl.

Gallai cyfyngiadau o ran amser ac adnoddau ei gwneud yn fwy anodd i rai pobl gymryd rhan mewn gweithredu cymunedol.

Gallai’r rhwystrau i gyfranogi gael eu gwneud yn waeth gan ffactorau strwythurol allanol, megis hygyrchedd a natur ddiduedd ffynonellau cymorth a chyllid.

Mae teyrngarwch pobl i le yn golygu bod llawer yn cael eu cymell yn gryf i gefnogi mentrau sy’n gwella ansawdd bywyd a chyfleoedd yn eu cymunedau. Mae pob un o’r lleoedd yn byrlymu â gwaith elusennol, gweithredu, ewyllys da, ac arloesi cymdeithasol. Mae’r gweithredoedd hyn yn arwyddocaol ac yn fuddiol iawn. Maent yn mynd yn bell tuag at ateb anghenion a dyheadau lleol, yn bennaf oherwydd bod y gweithredoedd yn seiliedig ar wybodaeth a gwerthoedd lleol. Mae pobl yn awyddus i ddiogelu pethau y mae ganddynt bryder amdanynt, ac yn gweithredu i ddiogelu eu cymunedau ac i frwydro yn erbyn colled. Mae pobl hefyd yn gweithredu i wella eu llefydd ac yn gweithio tuag at gynaliadwyedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Yn aml mae’r gweithredoedd hyn yn canolbwyntio ar feysydd allweddol:

| 8

Creu dewisiadau eraill drwy nodau byw’n gynaliadwy megis herio gwastraffu bwyd neu ddarparu gweithgareddau celfyddydol ar bresgripsiwn i ychwanegu at ofal sy’n seiliedig ar feddygaeth.

Creu ymdeimlad o berthyn a diogelwch yn wyneb newid neu ymddygiad gwrthgymdeithasol, megis trwy gaffis cymunedol neu gynlluniau celfyddydol a threftadaeth.

Ei gwneud yn bosibl i allu gweithredu i wneud pethau gyda’i gilydd megis sefydlu fforymau cymunedol sy’n cefnogi syniadau dan arweiniad y gymuned trwy wneud iddynt ddigwydd; neu glybiau chwaraeon sy’n gweithredu fel canolfannau gwaith anffurfiol.

Herio colled naill ai drwy frwydro i achub asedau cymunedol neu gyhoeddus, neu ddarparu dewisiadau eraill iddynt.


Argymhellion Mae ein hargymhellion ni yn canolbwyntio ar yr hyn y gellid ei wneud i annog pobl i weithio gyda’i gilydd i greu cymdeithasau teg a chyfartal mewn ffyrdd sydd â mwy o botensial i gynnwys pawb. Maent yn seiliedig ar syniadau ac awgrymiadau a arweinir gan y gymuned, barn rhanddeiliaid, yn ogystal â phrofiad Sefydliad Young wrth alluogi a hyrwyddo arloesedd cymdeithasol a gweithredu cymunedol. 1. Mae gan ddeall sut mae lle yn bwysig i fywydau pobl oblygiadau ar gyfer dadleuon ynghylch i ba raddau y dylai ymyriadau fod naill ai’n seiliedig ar le neu’n niwtral o ran lle2. Dylai gwybod sut mae pobl mewn llefydd arbennig yn profi anghydraddoldeb, yr hyn y maent am ei wneud am y peth ac yn wir yr hyn y maent eisoes yn ei wneud am y peth, fod yn bryder sylfaenol i wneuthurwyr polisi ac asiantaethau datblygu.

4. Mae angen i gymorth i weithredu cymunedol gael ei deilwra tuag at estyn allan yn rhagweithiol at bobl sy’n ei chael yn fwy anodd i gael at ffurfiau mwy traddodiadol o gymorth, megis cyllid, i’w galluogi i gymryd rhan. Dylai sefydlu rhwydwaith lleol i helpu i annog, hyfforddi, mentora a chysylltu pobl sydd am weithredu’n lleol, beth bynnag yw eu sgiliau neu eu hadnoddau, fod yn flaenoriaeth. 5. Gellid gwneud ymdrech wedi ei chydlynu i rannu a helaethu naratifau amgen am lefydd i helpu i wrthwynebu’r naratifau cyfredol am amddifadedd a dirywiad. Mae angen cydbwyso hyn â chydnabod heriau a phroblemau lle maent yn bodoli.

2. Mae’r adroddiad hwn yn dangos bod datblygiad cadarnhaol yn gofyn am arbenigedd lleol wrth wneud penderfyniadau a dyrannu adnoddau i ateb nodau cymunedol yn well. Rydym yn argymell y dylai cymunedau gymryd rhan mewn ffordd ystyrlon mewn gwneud penderfyniadau a bod adnoddau yn cael eu dyrannu’n addas i’r broses honno o wneud penderfyniadau. 3. Mae llefydd yn profi anghydraddoldeb o ran cydnabyddiaeth. Dylid ymdrin â’r mathau hyn o anghydraddoldeb trwy ddod o hyd i ffordd o gydnabod, dathlu ac ymhelaethu’n well ar y camau gweithredu y mae pobl eisoes yn eu cymryd, gan gynnwys y rhai sydd ar raddfa fach ac a ffurfiwyd yn llac - er enghraifft, galluogi mynediad hawdd at ffynonellau cyllid, adnoddau, cyngor a hyfforddiant .

2   Garcilazo, 2011; Barca et al., 2012.

9|


Cyflwyniad Mae’r adroddiad hwn yn rhannu canfyddiadau ymchwil rhaglen Amplify Cymru a gynhaliwyd rhwng Hydref 2015 a Hydref 2016. Mae’n crynhoi canlyniadau ymchwil ethnograffig cyfranogol yng Nghymru sy’n canolbwyntio ar brofiadau a safbwyntiau tair tref Aberystwyth, Cei Connah a Phort Talbot, ac yn tynnu ar arbenigedd rhanddeiliaid allweddol ledled Cymru sy’n anelu at gefnogi cymunedau a meddwl am y ffordd orau o’u grymuso. Mae’n rhannu dysgu ac arsylwadau o weithio gyda chymunedau ac arloeswyr, ac o’r dystiolaeth hon mae’n cyflwyno argymhellion i helpu i feddwl am newid cynaliadwy a theg sydd â’r gymuned yn ganolog.

| 10


Ein dull ymchwil Yn Sefydliad Young, rydym yn credu bod anghydraddoldeb yn strwythurol, oherwydd ei fod yn gweithredu o fewn, ac yn cael ei strwythuro gan, gyfres o berthnasoedd a deinameg rhwng pobl, lle ac adnoddau. Wrth wneud hynny, rydym yn datblygu ar ac yn cyfrannu at gorff sylweddol o waith gan ddamcaniaethwyr cymdeithasol mewn nifer o wahanol ddisgyblaethau. Rydym hefyd yn credu y gallwn ychwanegu llawer at y corff hwn o waith gan roi profiadau pobl wrth galon ein dealltwriaeth ohono. Rydym yn credu er mwyn deall deinameg anghydraddoldeb a newid, bod yn rhaid i ni ddeall mwy am realiti profiadau byw a bywydau bob dydd pobl, eu golwg ar y byd a’u safbwyntiau tuag ato, yn enwedig y rhai nad ydynt yn aml yn cael eu clywed neu eu cydnabod gan arbenigwyr. Yn ein hymchwil, rydym yn gweithio gyda’r syniad o brofiad byw ac yn arsylwi ar realiti ac amodau economaidd-gymdeithasol. Un fframwaith ar gyfer ein rhaglen Amplify Cymru yw ceisio deall safbwyntiau trwy archwilio naratifau. Gellir diffinio naratifau fel ‘disgrifiadau o’r byd’: ffyrdd sydd gennym fel pobl o ddeall a gwneud synnwyr o’r byd. Maent yn esboniadau o’r hyn sy’n digwydd a pham ei fod yn digwydd fel hyn. Pam mae hyn yn bwysig? Pan fyddwn yn sôn am neu yn diffinio cymunedau ac yn creu cymdeithasau mwy teg, rydym yn deall bod llawer o naratifau a syniadau ynghylch capasiti cymunedol, gallu a dyhead, y gall llawer ohonynt fod yn ddefnyddiol, ond y gall rhai ohonynt fod yn niweidiol neu’n negyddol, gan ddylanwadu’n andwyol ar y driniaeth mae pobl yn ei derbyn neu’r cyfleoedd a gynigir iddynt. Gellir defnyddio naratifau hefyd ar wahanol lefelau o gymdeithas i ddilysu ac esbonio anghyfiawnderau mawr a ffurfiau o anghydraddoldeb.

Serch hynny, rydym hefyd yn gwybod mewn unrhyw gyd-destun, lle neu gymuned o ddiddordeb, bod gwrth-naratifau yn bodoli: mae’r rhain yn ddisgrifiadau amgen o’r byd. Efallai y byddant yn dathlu gwahaniaethau ac ymdrechion yn wyneb adfyd, ac yn herio neu’n gwrthwynebu stereoteipiau mwy niweidiol. Mae gennym ddiddordeb yn y gwrth-naratifau hyn nid oherwydd eu bod o reidrwydd yn fwy cadarnhaol (er eu bod yn aml), ond oherwydd eu bod yn cynnig i ni ddealltwriaethau gwahanol ac yn dod â chyfleoedd ac asedau cudd neu heb eu harchwilio i’r golwg. Rydym yn credu er mwyn deall llwybr tuag at wneud newidiadau mwy teg yn iawn, bod angen i ni glywed gan wahanol bobl a chymryd rhan mewn gwahanol fathau o ffyrdd o rannu gwybodaeth. Mae angen i ni wrando a chanolbwyntio ar ddewisiadau eraill. Rydym hefyd yn cydnabod bod naratifau wedi’u gwreiddio mewn perthnasoedd cymdeithasol ac amgylchiadau economaidd, a bod pobl eisoes yn gweithio i sicrhau newid yn eu bywydau bob dydd, i greu ac adeiladu fersiwn mwy cyfiawn o gymdeithas. Mae deall sut y gallent edrych ar gymdeithas, ac unrhyw flaenoriaeth gysylltiedig maent yn ei roi ar newid, yn sylfaenol i ddeall sut i greu trawsnewidiadau sy’n hyrwyddo tegwch cynaliadwy. Mae ein dull ni yn ceisio amlygu hyn: datgelu effeithiau niweidiol anghydraddoldeb, ond hefyd ddangos y gwrthwynebiad a ddangoswyd gan bobl i ddeinameg anghydraddoldeb . Wrth wneud hyn, rydym yn helpu i ddatblygu lefel wahanol o fewnwelediad i ychwanegu at a chyfoethogi’r corff o waith sy’n canolbwyntio ar greu llefydd a chymdeithasau cynaliadwy yn gymdeithasol a theg i bobl fyw ynddynt.

11 |


Ein dulliau Rydym wedi cynnal rhaglen naw mis o hyd o ymchwil ethnograffig a chyfranogol mewn tair cymuned ledled Cymru. Y nod oedd creu darlun o’r heriau y mae cymunedau yn teimlo sydd ganddynt a pha botensial maent yn meddwl sydd ar gyfer newid. Mae’r ymchwil wedi digwydd yng nghymdogaethau pobl, y llefydd yr oeddent yn dymuno bod ynddynt ac y teimlent yn gyfforddus ynddynt. Mae wedi rhoi blaenoriaeth i’w geiriau, eu barn am y byd a’u barn am eu bywydau, ac mae wedi anelu at ddatblygu dealltwriaeth a rennir gyda nhw am nodau a chasgliadau’r ymchwil. Bwriedid i’r offer ymchwil ganolbwyntio ar a datblygu cyd-ddealltwriaeth gyda phobl ynghylch sut y profir anghydraddoldeb a sut y gallem ei herio. Ym mhob cymuned, buom yn gweithio gydag ymchwilydd cymunedol lleol a oedd yn gallu creu perthynas a darlun mwy manwl o’r anghydraddoldeb a’r blaenoriaethau yn yr ardal. Fel tîm ymchwil, fe wnaethom arsylwi a chyfweld pobl leol - yn unigolion a grwpiau gan gynyddu wrth fynd ymlaen niferoedd y bobl oedd yn cael eu cynnwys yn ein gwaith ymchwil, yn ogystal â defnyddio proses mapio i nodi lleisiau a allai fel arall fod wedi cael eu heithrio o’r ymchwil. Fe wnaethom ymdrechu’n galed i gyrraedd pobl nad oedd eisoes yn cymryd rhan mewn grwpiau neu rwydweithiau sefydledig, trwy ymgysylltu â phobl mewn lleoliadau anffurfiol fel safleoedd bysiau, caffis, siopau ac mewn grwpiau plant bach. Fe wnaethom anelu at ymgysylltu â phobl mewn gwaith ymchwil ar sail barhaus, gan ddychwelyd i barhau sgyrsiau yn seiliedig ar ddealltwriaeth newydd a ddatblygwyd drwy gydol y broses. Fe wnaethom hefyd gynnal saith o gyfweliadau ‘rhanddeiliaid’ gydag unigolion mewn swyddi allweddol ledled Cymru, gan gynnwys y rheiny mewn sefydliadau ariannu, elusennau, grwpiau cymunedol a llywodraeth leol, er mwyn cael persbectif Cymru gyfan a phwynt cymharu. Defnyddiwyd meddalwedd NVivo i ddadansoddi’r data yn thematig, gan symud yn ôl ac ymlaen rhwng y dadansoddiad a’r casglu data wrth i themâu a chanfyddiadau ddod i’r amlwg. Er mwyn cefnogi’r dadansoddiad, fe

| 12

wnaethom gynnal gweithdai cyd-gynhyrchu a chyd-greu ym mhob cymuned, a oedd yn anelu at fyfyrio ar y canfyddiadau cychwynnol, profi ymateb iddynt, a symud tuag at lwybrau archwilio newydd. Cynhaliwyd dau weithdy cyd-greu ar wahanol gamau o’r gwaith ymchwil ym mhob un o’r tair tref. Rhoddodd y rhain gyfle i bobl roi adborth ar ymchwil ac i awgrymu sut y gellid ei symud ymlaen. Erbyn diwedd y broses, roedd 350 o bobl wedi ymgysylltu â’r ymchwil. I gyd-fynd ag ef cyflwynwyd rhaglenni cyflymu a chefnogi arloesedd ym mhob ardal.

Ethnograffeg - dull Ethnograffeg yw astudiaeth fanwl o bobl mewn cyd-destun, er enghraifft, pobl mewn lle neu sy’n profi problemau penodol. Mae’n archwilio sut mae eu byd-olwg, eu hanghenion a’u dyheadau yn effeithio ar eu gweithredoedd a’u dull o weithredu mewn gwahanol gyd-destunau cymunedol. Mae’n ddull dwys sy’n creu dealltwriaeth gyfannol o fyd cymdeithasol unigolyn a’r gymuned y maent yn byw ynddi. Mae’n werthfawr oherwydd ei allu i wneud cysylltiad rhwng credoau, gwerthoedd a gweithredoedd, sy’n anarferol ar gyfer sawl math o ymchwil ansoddol. Nod hyn yw datgelu sut mae naratifau a safbwyntiau am y byd a gwerthoedd diwylliannol yn cael eu hymgorffori mewn gweithredoedd dyddiol a pherthnasau economaidd-gymdeithasol.   Cafodd ein methodoleg ei chynllunio i ddatblygu argraff gyflawn a chytbwys o fywyd yn y tair tref a astudiwyd gennym, ac yng Nghymru yn fwy eang. Fodd bynnag, er ein bod wedi siarad gyda channoedd o bobl, nid yw ein hymchwil yn honni rhoi dealltwriaeth gyflawn neu gynhwysfawr o brofiadau, safbwyntiau neu werthoedd y bobl hynny, nac yn wir y rheiny na wnaethom eu cwrdd. Yn sicr mae yna bobl, profiadau, safbwyntiau, gwerthoedd a gweithredoedd nad ydym wedi gallu eu cynnwys yn yr adroddiad hwn.


Y Cyd-destun Mae’r ymchwil yn canolbwyntio ar dair tref yng Nghymru. Mae Cymru yn wlad o tua 3.1 miliwn o bobl3 gyda nodweddion daearegol ac adnoddau naturiol cyfoethog. Yn draddodiadol, mae economi Cymru wedi dibynnu ar adnoddau a diwydiannau megis ffermio, mwyngloddio, chwarela a gwneud dur, sydd wedi dirywio yn dilyn y duedd o ddad-ddiwydiannu ar draws y DU. Ers cwymp y diwydiannau glo a dur a oedd ar un adeg yn dominyddu yn yr 1970au a’r 1980au4, mae Cymru mewn rhai ffyrdd wedi wynebu heriau o ran adfywio. Nid yw wedi trawsnewid ei hun tuag at economi gwasanaethau o werth uchel neu economi weithgynhyrchu uwch yn yr un ffordd ag y mae rhannau eraill o’r DU megis De-ddwyrain Lloegr, wedi gwneud5. Mae’r dirywiad hwn wedi arwain at economi mwy amrywiol, er bod y rhanbarth yn dal i ddod dros yr ailstrwythuro sylfaenol a fu i’w sylfaen economaidd6. Mae gan Gymru lefelau isel o arloesi ac entrepreneuriaeth o gymharu â rhanbarthau eraill y DU7. Heddiw, mae Cymru yn un o’r rhanbarthau lleiaf datblygedig yn economaidd yn y DU8. Mae enillion unigolion yng Nghymru, ar gyfartaledd, yn is na chyfartaledd y DU. Mae adroddiad diweddar gan Sefydliad Joseph Rowntree, mewn partneriaeth â Sefydliad Bevan, yn dangos bod cyfartaledd o 700,000 o bobl yn byw mewn tlodi yng Nghymru yn ystod y tair blynedd hyd at 2014-15, sy’n cyfateb i 23% o’r boblogaeth9. Mae’r problemau hyn yn parhau i fod yn arbennig o ddifrifol yn ardaloedd Cymoedd De Cymru. Mae rhai wedi dadlau bod llefydd o’r fath yn dioddef o ddiffyg ysbryd o fentergarwch, sydd wedi cael ei gysylltu ag etifeddiaeth ddiwydiannol na wnaeth gynhyrchu haenau ‘dosbarth canol’ o ddiwylliant a chymdeithas Gymreig gyda gallu i ystyried perchenogaeth busnes10.

3 ONS, 2011. 4  Mackay, 1992; Alden, 1996. 5 Blackaby and Murphy, 2009; Robinson et al., 2012. 6  Huggis and Thompson, 2014. 7  Robinson et al., 2012. 8  Huggins and Thompson, 2014. 9  Yr Adran Gwaith a Phensiynau, 2016. 10  Morgan, 1980; Massey, 1984.

Yn gyffredinol, nid yw lefelau anghydraddoldeb yng Nghymru mor uchel ag yng ngweddill y DU, gan fod gan Gymru nifer gymharol fach o bobl sy’n ennill y cyflogau uchaf neu sy’n ‘gyfoethog iawn’11. Serch hynny, mae anghydraddoldeb incwm yng Nghymru yn dal i fod yn drawiadol: mae gan un rhan o ddeg tlotaf y boblogaeth, rhyngddynt, tua 1.5% o gyfanswm incwm Cymru, tra mae gan yr un rhan o ddeg cyfoethocaf 25-30%12. Yn ogystal, mae adroddiad Panel Cydraddoldeb Cenedlaethol y DU yn awgrymu nad oes fawr o ymwybyddiaeth am anferthedd y gwahaniaeth economaidd sy’n “rhedeg drwy gymdeithas, o’r cyfoethog i’r tlawd,” a bod hyn yn “gweithredu fel cyfyngiad ar unrhyw bolisïau sy’n bwriadu cyfrannu at leihau anghydraddoldeb”13. Mae Cymru yn gyfoethog o ran diwylliant, er y dadleuir nad yw diffinio diwylliant a hunaniaeth Gymreig dros amser yn ‘waith hawdd’14. Mae dwy iaith yn cael eu siarad yng Nghymru. Cymraeg, ei mamiaith, sy’n cael ei hystyried i fod yn un o ieithoedd hynaf Ewrop, sy’n dangos ymdeimlad dwfn o’r hunaniaeth Geltaidd ethnig a diwylliannol15, a Saesneg, fel yn llawer o weddill y DU. Mae’r iaith Gymraeg wedi bod yn fater gwleidyddol; cafodd ei gormesu yn y gorffennol ac mae deddfau wedi eu pasio ers hynny i’w chynnal a chefnogi ei datblygiad. Er enghraifft fe wnaeth Deddf yr Iaith Gymraeg yn 1993 a Deddf Llywodraeth Cymru ym 1988 wneud darpariaeth i’r iaith Gymraeg gael ei thrin ar sail gyfartal gyda’r Saesneg16. Ers 2012, mae swydd Comisiynydd y Gymraeg wedi bod ar waith i hybu a hwyluso’r Gymraeg. Yn y blynyddoedd diwethaf mae Cymru - fel yr Alban ac Iwerddon - wedi ennill rhywfaint o ymreolaeth wleidyddol oddi wrth lywodraeth y DU trwy’r broses o ddatganoli ac yn 1999, daeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn weithredol. Mae gan lywodraeth etholedig Cymru gyfrifoldeb am ddatblygu polisïau economaidd yng nghyd-destun fframweithiau polisi canolog y DU17.

11 WISERD, 2011. 12  The Poverty Site, n.d. 13  Panel Cydraddoldeb Cenedlaethol, 2010; t. 398. 14  Bowie, 1993; Clifton, 2011. 15  Cooke and Rehfeld, 2011. 16  Clifton, 2011. 17  Huggins a Thompson, 2015.

13 |


Cyd-destun yr ymchwil maes neu safle Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyfiawnder cymdeithasol ac mae wedi bod yn ceisio trechu tlodi drwy dri llinyn gwaith: trwy atal tlodi drwy waith ymyrraeth gynnar, trwy helpu pobl i gael gwaith, a thrwy liniaru effaith tlodi18. Mae Cymru hefyd yn genedl sydd wedi llwyddo i wneud pethau am y tro cyntaf. Yn 2007 daeth Cymru i fod y wlad gyntaf yn y DU i ddiddymu taliadau presgripsiwn y GIG er mwyn lleihau anghydraddoldeb ymysg cleifion19 ac, yn 2015, i gyflwyno polisi optio allan o roi organau20. Yn 2008, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i gael Statws Masnach Deg am y cynnydd yr oedd wedi ei wneud o ran sicrhau bod mwy o nwyddau o’r fath ar gael21. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi gwneud ymrwymiad i nodau datblygiad dynol cynaliadwy ac yn ddiweddar mabwysiadodd Ddeddf arloesol Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 sy’n amlinellu’r meysydd allweddol y bydd cymdeithas, daearyddiaeth, economi a hanes Cymru yn cael eu cynnal a’u cefnogi mewn ffordd gynaliadwy ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Cymru hefyd oedd y wlad gyntaf yn y byd i ddeddfu ar gyfer Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig22.

18 Llywodraeth Cymru (2013). 19  BBC (2007). 20  Llywodraeth Cymru (2015). 21  BBC (2008). 22  Llywodraeth Cymru. (2016).

| 14

Er mwyn cael safbwyntiau amrywiol a lluosog ar fywyd yng Nghymru, canolbwyntiwyd yr ymchwil ar dair cymuned astudiaeth achos. Y rhain oedd: Aberystwyth, tref farchnad wedi’i lleoli yng Ngheredigion, Gorllewin Cymru; Cei Connah, tref fawr wedi’i lleoli yng Nghytref Glannau Dyfrdwy ar lan afon Dyfrdwy yng Ngogledd Cymru, ger y ffin â Lloegr; a Phort Talbot, ym mwrdeistref Castell-nedd Port Talbot, De Cymru. Fe wnaethom ddewis y cymunedau hyn gyda Llywodraeth Cymru i roi cipolwg ar dair tref gyda chyfleoedd, cefndiroedd a chyfansoddiad demograffig oedd yn ymddangos yn wahanol i’w gilydd. Fe wnaethom hefyd gynnal cyfres o gyfweliadau gyda rhanddeiliaid ledled Cymru sy’n gweithio i gefnogi pobl yn y tair tref y bu i ni eu harchwilio ac ardaloedd eraill sy’n wynebu heriau a chyfleoedd tebyg. Ar ôl archwilio pwysigrwydd lle fel cysyniad isod, yn adran 1 rydym yn cynnig yr hyn a alwn yn bortreadau personol o bob un o’r trefi a’i chyd-destun, yn seiliedig ar ddisgrifiadau a grëwyd gan ymchwilwyr cymunedol o bob tref.


Cei Connah

Aberystwyth

Port Talbot

15 |


Deall pwysigrwydd lle Yng Nghymru, y cwestiwn yw ‘o ble ’chi’n dod?’ ... Yn Lloegr maen nhw’n gofyn ‘beth ’chi’n neud?’ (Cyfarwyddwr, Sector Cyflogi, Cymru) Yng Nghymru, mae pobl yn uniaethu’n gryf gyda’r llefydd maen nhw’n byw ynddyn nhw. Mae ‘lle’ yn arbennig yn gysyniad allweddol y mae pobl yn ei ddefnyddio mewn sgwrs i wreiddio eu safbwyntiau, credoau a meddyliau am sefyllfa ac i esbonio sut mae eu gweithredoedd neu eu perthnasoedd cymdeithasol a’u gwirioneddau cymdeithasol yn cael eu llunio neu ar beth y maen nhw yn cael eu seilio. Mae ‘lle’ yn aml yn cael ei ddefnyddio fel sail resymegol mewn unrhyw sgwrs am sut i ddelio â, herio, a newid problemau cymdeithasol23. Mae arwyddocâd lle i gymunedau a hunaniaeth Gymreig yn cael ei gydnabod yn gyffredin mae’n rhan o bolisi yn ogystal â llên gwerin. Mae ein hymchwil yn dangos bod cymunedau yn arbennig yn teimlo bod ei arwyddocâd efallai wedi ei anwybyddu o ran sut y mae’n berthnasol i’r gwasanaethau maent yn eu derbyn, y gwaith sydd ar gael a datblygu cyfleoedd, yn ogystal ag egwyddorion ehangach gallu cymunedol, capasiti, ymgyrchu a dewisiadau ar gyfer sut y mae llefydd yn cael eu cefnogi. Mae lle yn thema fetanaratif neu ddominyddol sy’n sail i syniadau pobl am yr heriau maent yn eu hwynebu, beth yw anghydraddoldeb ac annhegwch ac, yn bwysicaf oll, sut i wella eu bywydau a bywydau pobl eraill er gwell. Am y rheswm hwn, yn yr hyn sy’n dilyn mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar le fel cysyniad canolog. Rydym yn esbonio pam fod lle mor bwysig i bobl, a sut y mae’n sail i’w penderfyniadau a’u teimladau ar nifer o faterion.

23  Mae hyn yn adeiladu ar gorff mawr o waith (Emmett, 1982; Bowie, 1993;. Cloke et al, 1998; Thompson a Day, 1999) sy’n dangos bod yna ymdeimlad cryf o hunaniaeth ynghlwm wrth le ar draws Cymru.

| 16

Mae lle yn amlwg yn lleoliad daearyddol neu’n farciwr ffiniau. Mae’n cyfeirio at ardal neu ranbarth, ond gall delesgobio i fod yn fwy nag un peth ar unwaith: gallai fod yn ystafell mewn tŷ ar ffordd mewn pentref ar Benrhyn Gŵyr, a gallai fod yn Gymru fel gwlad. Mae’r ddau beth yn bwysig. Mae gwybod lle rydych chi yn y byd yn eich helpu i leoli eich hun, i wybod ble rydych chi. Ond mae gan le hefyd ansawdd gymdeithasol, ddiwylliannol, hanesyddol, ac economaidd ac ansawdd o ran perthnasau. Mae llefydd yn fannau lle cawsoch eich geni, lle rydych wedi dysgu a gweithio; maent yn aml yn ddylanwad trwm ar yr iaith yr ydych yn ei siarad, y perthnasau sydd gennych a’r pethau rydych yn eu gwybod. Mae llefydd yn eich helpu i leoli eich hun fel person yn y byd mewn llawer o ffyrdd eraill ac i wybod pwy ydych chi hefyd 24. I lawer, gallai lle fod yn wreiddyn diwylliant, yn farciwr hunaniaeth neu’n nodwedd sy’n rhoi sylfaen i chi25. Yn y ffordd syml iawn hon sydd eto’n gymhleth, mae llefydd yn cynnig ffynhonnell o hunaniaeth i bobl. I unigolyn, mae’r lle y mae’n dod ohono neu’n byw yn farciwr allweddol o hunaniaeth - naill ai iddyn nhw eu hunain neu i eraill. Er bod lle yn aml yn croestorri â marcwyr hunaniaeth eraill megis oedran, hil neu ryw, mae hefyd yn bwysig yn cynnig ffynhonnell o ffocws cymunedol a hunaniaeth a rennir. Yma, mae’r bobl sy’n byw ym mhob lle yn dod i gael eu hadnabod, i raddau mwy neu lai, fel cymuned o bobl sy’n rhannu rhywbeth a nodweddion tebyg: pobl sy’n debygol o rannu rhai pethau, meddwl mewn ffyrdd penodol ac sydd â straeon penodol i’w dweud. Mae yna naratifau a rennir am bobl mewn llefydd, syniadau a rennir am yr hyn sydd gan bob cymuned

24 Mae Casey (1993) yn dadlau bod pobl yn rhwym wrth lefydd a’u bod nid yn unig mewn llefydd ond ohonyn nhw hefyd. Mae’n awgrymu bod lle’n chwarae rôl ganolog mewn profiad dynol, gan gynnwys llunio mynegiadau sy’n ymwneud â hunaniaeth.  25  Mae lle fel arfer yn cael ei ddiffinio fel gofod wedi ei drwytho ag ystyr (Malpas, 1999). Mae’n cael ei ffurfio gan gyfuniad o leoliad, cymdogaeth ac ymdeimlad o le, lle mae ‘ymdeimlad o le’ yn ymlyniad goddrychol ac emosiynol sydd gan bobl at y lle hwnnw (Agnew, 1987).


mewn lle i’w gynnig, a’r gwerth y gallant ei roi yn fwy cyffredinol. Efallai y byddant yn cael eu hystyried yn ‘fwy neu’n llai Cymreig’ nag eraill - neu’n deuluoedd mwy newydd neu hŷn nag eraill. Gallant fod yn newydd-ddyfodiaid. Efallai eu bod yn cael eu hystyried fel rhai sy’n byw mewn lle sy’n dirywio. Gallent gael eu hystyried yn byw ym mhen drwg y dref. Mae’r ffynhonnell hon o hunaniaeth hefyd yn ffynhonnell o weithredu ac ystyr: gall yn yr un modd fod yn ffocws pwysig i bobl pan maent yn meddwl am yr hyn y maent yn ei roi i unrhyw gymuned, beth y gallent ei golli pe byddent yn symud i ffwrdd a beth maent yn ei ennill drwy aros. Mae lle yn brism y mae pobl yn meddwl ac yn profi pethau drwyddo, yn enwedig yr heriau sy’n eu hwynebu. Gall lle hefyd fod yn locws gwaharddiad neu wahaniaeth dwys26. Mae’r ymchwil yn y tri lle yn dangos bod rhai anghydraddoldebau a wynebir mewn mannau eraill yn y DU yn dod yn arbennig o benodol neu’n cael eu gwaethygu ar lefel lle-benodol. Yma, mae lle yn rhan annatod o amlygiad anghydraddoldeb. Er enghraifft, mae daearyddiaeth, neu gyfleoedd cyflogaeth, neu allgau cymdeithasol yn enghreifftiau o anghydraddoldeb sy’n seiliedig ar le27. Gall anghydraddoldebau gael eu profi gan gymuned yn gyffredinol mewn lle (er enghraifft, mae mynegeion Amddifadedd Lluosog yn tueddu i fapio anghydraddoldeb sy’n benodol i le arbennig). Mae hyn yn golygu bod pobl yn fwy tebygol o ddioddef elfennau o amddifadedd gyda’i gilydd, i raddau helaeth waeth bynnag beth yw’r gwahaniaethau mewn incwm neu gyfoeth.

26  Mae Rose wedi dadlau y gall y cysylltiad rhwng lle a hunaniaeth gael ei ddeall trwy dair elfen wahanol: uniaethu â lle; uniaethu yn erbyn man (llunio “ni” yn eu herbyn “nhw”); a pheidio ag uniaethu â llefydd (teimladau o ddadleoli neu ddieithrio) Rose, 1995). 27  Mae rhai wedi dadlau y gall yr amgylchedd adeiledig gael effaith enfawr ar gyfleoedd pobl (Pinoncely, 2016). Er enghraifft, mewn cyhoeddiadau diweddar ynghylch adfywio’r hyn a elwir yn ‘sink estates’ yn Lloegr, mae Llywodraeth y DU wedi cydnabod y cyswllt rhwng yr amgylchedd adeiledig, tlodi ac ystod o broblemau cymdeithasol megis ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Fodd bynnag, mae’n amlwg bod rhai pobl mewn ardal ddaearyddol neu le yn fwy agored i effeithiau anghydraddoldeb sy’n seiliedig ar le neu ddeinameg anghydraddoldeb cyffredinol mewn ffordd nad yw pobl eraill. Mae deinameg anghydraddoldeb megis eithrio ariannol neu gymdeithasol yn cynrychioli effeithiau sydd wedi’u cymhlethu - lle mae elfennau o brofiad pobl yn croestorri i greu anfantais ac eithrio sylweddol. O fewn llefydd, mae yna hefyd nifer o ffyrdd a ffyrdd gwahanol o ddisgrifio a phrofi’r lle hwnnw, gyda phob un â gwahanol arwyddocâd a goblygiadau. Gallai ‘lle’ ‘cymuned’ a ‘hunaniaeth’ i gyd fod yn gysyniadau problematig neu’n rhai sy’n cael eu herio ac mae llawer ffordd o ddeall a diffinio pob cysyniad. Mae gan lefydd raniadau a phethau i ddadlau yn eu cylch - mae hyd yn oed y pethau mae rhai yn eu dathlu fel rhan o’r gymuned yn creu problemau i eraill. Gall hyn gael ei atgyfnerthu gan yr union wahaniaethau sy’n ymddangos fel pe baent yn bodoli o fewn llefydd eu hunain: peidio â chyrraedd yr un safon byw ag eraill, bod yn newydd-ddyfodiad neu drwy fyw mewn ardal benodol sydd ag enw negyddol iawn. Mae yna hefyd syniadau am lefydd sy’n cystadlu â’i gilydd; syniadau neu naratifau sy’n gwrthdaro’n uniongyrchol gyda’i gilydd neu’n mynd yn groes i’w gilydd. Gellir cyfeirio at lefydd mewn ffyrdd sy’n gadarnhaol ac yn negyddol ar yr un pryd, ac mae hyn yn frwydr allweddol i rai cymunedau a phobl yng Nghymru. Er enghraifft, os ydych yn byw ym Mhort Talbot, efallai y byddwch wrth eich bodd gyda’r traeth a’r llwybrau beicio mynydd yn y bryniau, ond byddwch hefyd yn gwybod (ac yn digio) bod pobl eraill yn ei alw yn ‘Port Toiled’. Ond er gwaethaf yr holl wahaniaethau posibl hyn, mae gan bobl yn aml ffyrdd tebyg o feddwl am lefydd penodol, neu am bwyntiau cyfeirio

17 |


cyffredin28. Mae ganddyn nhw ddisgrifiadau a rennir am le, yr hyn rydym yn eu galw’n ‘naratifau’, ac maen nhw’n siarad am le nid yn unig fel cysyniad trefnu, ond fel rhywbeth sy’n ganolog i’w ffordd o lunio penderfyniadau, eu cymhellion a’u canfyddiadau am fywyd a’i ansawdd. Yn yr ymchwil hwn, rydym yn ceisio cyflwyno’r naratifau hyn sy’n cael eu rhannu am le, yn ogystal â safbwyntiau sy’n herio’r naratifau hyn lle maent yn bodoli. Mae llawer o naratifau yn bodoli am lefydd a’u rhinweddau. Mae adrodd straeon a chynrychiolaeth yn ganolog i’r ffordd y mae pobl yn gweld eu bywydau a’r llefydd maent yn byw ynddynt29. Gallai hyn fod yn chwedlonol ac yn ddiwylliannol, a gall hefyd gael ei ymgorffori, rhan o’r profiad o fyw yn rhywle. Mae hyn yn arbennig o wir am wlad gyfoethog mewn myth, celfyddydau creadigol a diwylliant30. Yn yr adroddiad hwn, cyfeirir at le yn y modd hwn, fel rhywbeth sy’n cynnig egwyddor drefniadol ar gyfer meddwl am y gymuned. Ein hymgais yw cyfleu ei arwyddocâd fel prism y mae pobl yn profi eu bywydau drwyddo - eu buddugoliaethau a’u heriau: “Nid gwerth ydy o, mae’n fath o - ble lle rydyn ni’n dod ohono - naws am le.” (Gweithiwr sector treftadaeth, Aberystwyth) 28  Place is a layered location replete with human histories and memories. “It is about connections, what surround it, what formed it, what happened there, what will happen there.” (Lippard, 1997, t. 7). 29  White, 1980; Entrikin, 1991; Ochs a Capps, 2001; Vanclay, 2008. 30  Mae hyn wedi cael ei gydnabod gan Bwyllgor Diwylliant Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mewn pennod o drafod (Pwyllgor Addysg a Hyfforddiant ôl – 16 – ETR 15.00, 28/6/2000), ysgrifennant: “Mae diwylliant Cymru yn gyfoethog ac yn ddwfn o ran amrywiaeth ei fynegiant. Mae’n ddiwylliant perfformiadol lle mae pobl yn teimlo’n angerddol dros gymryd rhan ac yn mwynhau pobl eraill yn cymryd rhan ... Mae’n edmygu sgiliau creadigrwydd, gwaith caled, diwydiant ac arloesi. Fe’i naddwyd o amgylchedd naturiol Cymru, ei thirwedd dramatig, ei system addysg a’i hanes cymdeithasol a diwydiannol unigryw ... Mae Cymru yn cael ei diffinio gan ei hiaith hynafol, ei hamrywiaeth modern o bobloedd a’i thosturi cymdeithasol, ond yn anad dim, gan ei hangerdd o blaid creadigrwydd”.

| 18


Strwythur yr adroddiad Yn adran 1, rydym yn archwilio beth mae pobl am i chi wybod am y llefydd y maent yn byw ynddynt ac yn darparu yr hyn a alwn yn ‘bortreadau personol’ am bob tref a’i chyddestun, yn seiliedig ar ddisgrifiadau a grëwyd gan ymchwilwyr cymunedol o bob tref. Yn adran 2, rydym yn archwilio’r anghydraddoldeb a’r rhwystrau a brofir gan bobl mewn llefydd. Yn adran 3, rydym yn dangos beth y mae pobl yn ei wneud i fynd i’r afael â’r anghydraddoldebau hynny a pha heriau y maent yn dod ar eu traws wrth wneud hynny. Yn yr adran olaf, rydym yn tynnu casgliadau cyffredinol o’r ymchwil hwn.

19 |


ADRAN 1:

Deall yr hyn y mae pobl am i chi ei wybod am y llefydd y maent yn byw ynddynt

| 20


Cymru: lle rydym yn dewis byw ynddo Ym mhob un o drefi’r astudiaeth achos, mae pobl yn pwysleisio bod ganddynt hoffter am y llefydd y maent yn byw ynddynt ac yn cysylltu â nhw. Mae’r rhain yn llefydd y mae pobl eisiau bod a lle maent yn teimlo ymdeimlad cryf o gysur ac o berthyn: “Dwi ddim yn gwybod a yw hyn yn unigryw i Aber, ond mae gynnon ni gymuned gref iawn. Ydych chi’n gwneud hynny pan fyddwch yn mynd i lefydd eraill ac rydych chi’n chwilio am wynebau cyfarwydd ar y stryd? Dwi’n dweud ‘o, mae o’n edrych fel hwn a hwn’. Ac oherwydd ei fod mor gyfeillgar ac oherwydd ei fod mor gyfarwydd y mae gennych chi’r holl fathau gwahanol hyn o bobl.” (Gweithiwr sector treftadaeth, Aberystwyth) Wrth siarad â phobl ar draws y wlad, yr ymateb llethol yw bod Cymru a’i dinasoedd, trefi a phentrefi yn llefydd mae pobl yn dymuno bod ynddynt yn fawr iawn a rhai maen nhw’n gwneud dewisiadau i fod ynddyn nhw: “Ryn ni’n dewis aros yma.” (Gweithiwr ieuenctid, Aberystwyth, ei phwyslais hi). Fodd bynnag, mae pobl yn pwysleisio hyn yn bennaf oherwydd eu bod yn teimlo nad yw ei arwyddocâd yn cael ei ddeall neu mae’n cael

ei gamddeall. Maent yn teimlo bod syniad cyffredinol gan eraill na fyddai unrhyw un yn dymuno aros yn y llefydd maen nhw’n byw ynddyn nhw, pe bai ganddynt y dewis. Er gwaethaf anghydraddoldeb sylweddol, a heriau - y mae rhai ohonyn nhw yn cysylltu’n gryf â lle a phrofiadau o fyw ynddo - mae’r bobl a gymerodd ran yn yr ymchwil i raddau helaeth wedi buddsoddi’n drwm yn yr ardaloedd y maent yn byw ynddynt ac yn cysylltu â nhw. Yr ymateb llethol gan bobl yw na fyddent yn dymuno symud i ffwrdd. Maent yn dewis byw yn eu cymunedau. Mae ganddyn nhw gonsyrn mawr am y llefydd lle maent yn byw, ac mae hyn yn rhoi ymdeimlad o falchder, perthyn, a hunaniaeth iddynt yng Nghymru er gwaethaf y gwahaniaethau mawr sy’n bodoli rhwng ardaloedd. Mae tair thema allweddol sy’n cynnig mewnwelediad penodol i egluro’r ffaith pam fod lle yn gysyniad mor ganolog ac rydym yn eu hamlinellu isod. Y rhain yw: ansawdd bywyd, y gymuned a pherthyn, a gwreiddiau.  

Lle rydym yn dewis byw ynddo Bywyd da Pwysigrwydd lle

Yr asedau naturiol Cymuned a pherthyn Y pethau rydym yn eu gwneud i ni ein hunain ac i’n gilydd

21 |


Mae’n cynnig bywyd da i ni Yn Aberystwyth, Cei Connah a Phort Talbot, mae pobl yn teimlo balchder sylweddol yn y llefydd y maent yn byw. Mae gan bob ardal ei mannau prydferth naturiol sy’n unigryw iddynt hwy. Maent yn siarad yn aml am eu balchder yn y tirlun naturiol: “Rydw i wrth fy modd efo’r traeth, a’r teithiau cerdded ar y mynydd, y cronfeydd dŵr. Mae gen i gi, felly dwi’n dwlu mynd am dro gyda’r ci.” (Gweithiwr Cristnogol, Port Talbot)

Ar draws pob lle, mae pobl yn teimlo bod eu llefydd yn caniatáu iddynt fynegi diddordebau, lles a gweithgareddau sydd yn iach ac yn gynhyrchiol. Yn gyffredinol, maent yn cytuno ynghylch ac yn awyddus i ddathlu nodweddion deniadol a chynhwysol lle, yn enwedig lle cyhoeddus a chymunedol sy’n cael ei rannu, gan nodi bod pob lle yn darparu llwybrau a chyfleoedd i bobl fod yn nhw eu hunain, i archwilio eu dyheadau a chanolbwyntio ar weithgarwch corfforol32.

Mae’r asedau naturiol a’r amgylchedd yn rhoi ymdeimlad o ansawdd bywyd iddynt sydd wedi’i wreiddio’n ddwfn mewn daearyddiaeth a’i nodweddion:

Mae hyn yn teimlo’n arbennig o bwysig mewn cyfnodau sy’n aml yn anodd, lle mae pethau wedi cael eu colli mewn agweddau eraill ar fywydau pobl:

“Gallaf ddweud yn syml Cei Connah ... Oherwydd ei fod yn fach ond eto yn fawr, mae’n lân, yn daclus, dwn i’m rydw i jyst yn ei hoffi!” (Perchennog busnes o wlad Pwyl, Cei Connah)

“Ers i ni golli llawer o swyddi… rydw i wedi sylwi ar gynnydd enfawr mewn faint o bobl sydd ar y traeth, yn cerdded am dro, yn mynd â’r plant i chwarae pêl-droed neu griced ar y tywod, am fod hwnnw’n ddiwrnod mas sydd ddim yn ddrud.” (Ysgrifennydd Bocsio, Port Talbot)

Mae’r asedau naturiol lleol hyn yn creu teimladau dwys a balchder yng Nghymru yn ehangach31. Mae maint cymharol fach eu trefi a pha mor hawdd yw symud o gwmpas ynddynt hefyd yn cael eu hystyried i fod yn nodweddion cadarnhaol, fel yr eglurir gan gynghorydd lleol yn Aberystwyth: “Rwy’n credu bod pawb sy’n byw yma fel preswylydd yn hoffi’r dref yn fawr. Mae’n dref ar raddfa ddynol, gallwch gerdded rhwng un lle a’r llall ynddi. Mae’n gymharol wastad - nid cyrraedd y brifysgol a’r ganolfan gelfyddydau ond mae’r rhan fwyaf o’r dref yn gymharol wastad. Mae’n braf cerdded o’i chwmpas. Mae gan y bensaernïaeth, er nad yw’n syfrdanol, ryw fath o estheteg sy’n ddeniadol. Ac mae pawb jyst yn wirioneddol hoffi’r lle...” Mae’n mynd ymlaen i ddangos sut y mae’n credu bod y nodweddion hyn yn bwysig mewn perthynas â theimladau pobl am les: “...Mae hynny mewn gwirionedd yn dylanwadu ar bobl, mae’n lle hardd i fyw ynddo.” 31  Landmarks and significant features in the landscape contribute to sense of place by providing an icon to which symbolic meaning can be ascribed (Vanclay, 2008).

| 22

Ar y cyfan, mae pobl yn pwysleisio faint sydd gan eu trefi i’w gynnig: “Wel, mae gynnon ni bopeth yma! Mae gennych chi’r pwll nofio, y llyfrgell, y canolfannau hamdden a chwaraeon, y coleg, y parciau, y castell… hyd yn oed er yn dechnegol mai dyna Ewlo, ond wedyn, mae’n dal yn Wepre. Mae yna lawer iawn i’w wneud, ac mae’r siopau’n dda.” (Gweithiwr Cymorth Cyntaf, Cei Connah) Mae gan lawer o lefydd asedau ffisegol sy’n cael eu rhannu sy’n rhad ac am ddim i’w defnyddio, sy’n gwneud yr amgylchedd ffisegol yn lle cynhwysol y gall pawb ei fwynhau, gan gynnwys y rhai a allai gael eu heithrio o fannau cyfarfod eraill megis caffis am resymau ariannol, neu arall. Fodd bynnag, mae llawer o bobl yn cydnabod bod y gweithgareddau cynhwysol hyn hefyd yn ddibynnol ar y tymhorau a’r tywydd, ac yn teimlo bod angen i ddibyniaeth ar fannau agored, gael ei ategu â gweithgareddau eraill yn enwedig i blant a phobl ifanc.

32  Mae Darby (2000) yn dadlau bod hunaniaeth unigol wedi’i wreiddio mewn profi’r dirwedd a bod bod yn aelod a chymryd rhan mewn grwpiau cerdded yn ystod oriau hamdden yn helpu i adfer ymdeimlad o gymuned.


Mae Beca yn fam sengl yn Aberystwyth., Mae hi’n gweithio’n rhan amser ar gyflog cymharol isel ac, er ei bod yn llwyddo i gael dau ben llinyn ynghyd, mae’n gwybod na fyddai’n cymryd llawer iddi fod “mewn trafferthion go iawn”. Pan ofynnwyd a oedd hi’n gallu cael mynediad at yr holl bethau roedd hi eu heisiau neu eu hangen, fe atebodd: “OK wel, ydw, i raddau helaeth. Ond fel rhiant sengl heb unrhyw deulu yn yr ardal, mae gofal plant yn ei gwneud yn amhosibl i mi wneud pethau a fyddai dim ond i mi ar fy mhen fy hun. Felly dydw i ddim yn gwneud pethau felly. Ond mae pethau rydw i am eu gwneud gyda fy mhlentyn fel nofio, mynd i weld ffilm, mynd i’r - cyfleusterau’r llyfrgell yn anhygoel.” Pwysleisiodd mai’r pethau hyn sy’n ei chadw yn Aberystwyth: “...Mae’n lle gwych i fagu plentyn yn tydi? O ran peidio â bod â llawer o arian, sydd mae’n debyg yn berthnasol, does dim rhaid i chi ei gael yma. Mae yna lawer o bethau ar garreg eich drws.” Yn yr un modd roedd nodweddion cymdeithasol cyfeillgarwch hirsefydlog yn rhywbeth roedd hi’n ei werthfawrogi yn y dref, gan wella’r ansawdd bywyd yr oedd yn gallu ei gael. Yn aml, yr agweddau ar le y mae pobl yn fwyaf balch ohonynt yw’r rhai oedd yn caniatáu i’r gymuned ddod at ei gilydd ac sy’n darparu lle ar gyfer llawer o wahanol fathau o bobl. Mae’r rhain yn cynnwys parciau yn benodol, meysydd chwarae, traethau, cyfleusterau chwaraeon, yn ogystal â marcwyr tirwedd deniadol. Maent hefyd yn cynnwys llyfrgelloedd, caffis a sefydliadau allweddol lleol megis campfeydd paffio a hyd yn oed gelf gyhoeddus fel y morfil ym Mhort Talbot.

Mae gan bob tref ymgysylltiad hanesyddol cyfoethog gyda diwylliant. Cydnabyddir hyn gan bobl leol bob dydd, er enghraifft gyda llwybrau treftadaeth, grwpiau hanes lleol, theatr, cerddoriaeth a chwaraeon: “Fe ddes i mewn i’r swyddfa fel preswylydd lleol oherwydd fy mod ychydig yn bryderus am y ffaith nad oedd ein cofeb ryfel yn cael ei gofal da iawn. Ac o fewn pythefnos i mi ddod i mewn, roeddem wedi sefydlu grŵp hanes lleol i edrych ar faterion fel ‘na o gwmpas y gymuned. Oherwydd yr hyn roeddem yn ei deimlo oedd bod hanes yma yn aml yn cael ei esgeuluso ... Felly fe wnaethom ddechrau gyda chyfarfod agored. Yn fuan iawn roedd gennym 20-30 o bobl yn dod bob wythnos i gyfarfod.” (Grŵp hanes lleol, Penparcau, Aberystwyth) Mae diwylliant a gwerthoedd a rennir pob un o’r llefydd hefyd yn cael eu dathlu’n dda mewn digwyddiadau mwy, er enghraifft drwy wyliau tref gyfan sy’n cael eu gwerthfawrogi’n gyffredinol ym mhob un o’r llefydd, ac sy’n amrywiol iawn. O wyliau celfyddydol yn Aberystwyth, Gŵyl y Traeth ym Mhort Talbot neu ŵyl flynyddol Cei Connah, mae pobl yn gweld y digwyddiadau mawr hyn fel achlysuron i ddathlu popeth sydd gan eu trefi i’w gynnig ac fel rhywbeth sy’n clymu pobl at ei gilydd mewn lle: “Achos rwy’n credu pan fyddwch yn edrych ar yr holl ddigwyddiadau sydd ganddyn nhw ym Mharc Wepre, ac yn y Neuadd Ddinesig ac ar y Stryd Fawr mae yna bob amser gefnogaeth dda. Mae yna bob amser lawer o bobl sydd yn neis oherwydd rydych yn gweld pobl o’r gymuned yn siarad â ffigurau gwahanol yn y gymuned.” (Preswylydd lleol, Cei Connah) Mae’r digwyddiadau hyn yn dod â’r ymdeimlad o gymuned yn fyw ac yn weladwy sy’n bodoli mewn ffurfiau llai gweladwy ar adegau eraill, gan alluogi pobl i ddathlu eu hardaloedd, a’u gwerth.

23 |


Rydym yn dod o hyd i gymuned a lle i berthyn iddo “Na. Faswn i ddim eisiau symud o’r Cei. Mi ges i fy ngeni yma, treulio fy mywyd i gyd yma, ac mae’n debygol y bydda i farw yma. Dwi’n teimlo mai dyma lle dwi’n perthyn, ac mae’n perthyn i mi.” (Cynghorydd Tref a Chymuned, Cei Connah) Mae llefydd, fel y disgrifiwyd yn gynharach, yn rhoi ymdeimlad cryf o berthyn33 a sicrwydd i bobl. I rai pobl, o’i osod yn erbyn yr holl bethau eraill, pryderon, profiadau ac ofnau eraill, mae llefydd yn ymddangos fel pe baent yn helpu i greu ymdeimlad o ddiogelwch ontolegol34, y teimlad eich bod yn sicr am y byd a’ch lle chi ynddo. Mae yna ymdeimlad bod Cymru yn benodol yn cael ei gwerthoedd o berthyn a’i gwerthoedd cymdeithasol o le. Fel y byddwn yn mynd ymlaen i archwilio, gallai pa mor hir rydych wedi byw ac wedi bod â theulu yn rhywle fod yn bwysig iawn ac mae beth rydych yn ei wneud mewn llefydd i edrych ar ôl a chroesawu pobl eraill yr un mor allweddol. Oherwydd hyn mae gan bobl gonsyrn am eu cymunedau ac maent yn teimlo bod ganddynt gysylltiadau ac ymrwymiadau a rennir, a dealltwriaethau sy’n eu clymu at ei gilydd. Un agwedd sy’n dangos pa mor bwysig yw lle i bobl yn y tair tref yw’r ymdeimlad o hunaniaeth eu bod yn gallu ffurfio ymlyniad at y llefydd maent yn byw ynddynt. Mae teulu, hanes a phrofiadau a rennir i gyd yn ffactorau sy’n cyfrannu at ymdeimlad pobl o hunaniaeth ac o wreiddiau ac yn werthoedd pwysig ym mhob un o’r tair tref: “Mae teulu yn rhywbeth sy’n wirioneddol bwysig yn yr ardal. Mae hynny’n clymu pobl wrth le. Mae pobl yn clymu gyda’i gilydd o amgylch teulu.” (Rheolwr sector tai, Port Talbot).

33  Mae ymchwil wedi dangos bod gan hyn fanteision cymdeithasol sylweddol, oherwydd pan fydd pobl yn teimlo eu bod yn perthyn maent yn buddsoddi mwy o amser ac egni i mewn i’r gymuned (Evans et al., 2015). 34 Mae diogelwch ontolegol yn ymdeimlad sefydlog o fod yn sicr yn y byd a’ch rôl chi ynddo, a fathwyd am y tro cyntaf gan Giddens (1991). Fel cysyniad mae wedi profi i fod yn haws ei ddiffinio, nag i gytuno’n bendant ar sut y caiff ei ffurfio. Fodd bynnag, mae’n cael ei ystyried yn hynod o bwysig i les meddyliol.

| 24

Mae teulu a pherthnasau yn rhan bwysig o fywyd cymdeithasol Aberystwyth, Cei Connah a Phort Talbot ac ystyrir bod diddordeb a rennir yn y teulu a chysylltiadau yn werth sy’n clymu pobl at ei gilydd: “Dwi’n dwlu ar y ffaith y gallwch chi gwrdd â rhywun nad ydych chi’n eu nabod ac fe ewch i siarad â nhw am y lle maen nhw’n dod ohono, eu gwaith, eu teulu, ac fe ddewch chi o hyd i gyswllt, waeth pa mor simsan – bod eu hen, hen Fodryb Nora’n adnabod rhywun o’r un cwm â hen ewyrth eich mam, neu beth bynnag, a dwi’n meddwl fod hynny’n rymus iawn, am fod hynny’n ffordd o ddweud: ‘Ydyn, rydyn ni i gyd wedi ein plethu ynghyd; mae gennym ni bethau’n gyffredin, ac rydym ni’n trysori hynny.” (Ecolegydd, Aberystwyth) Gall yr ymdeimlad hwn o berthnasau gael ei ddangos yn yr hyn y gallwn ei alw yn ffordd a grëwyd gan y dychymyg35, yn yr ystyr efallai na fyddwch yn rhannu gwaed neu glymau cyfreithiol teulu ond rydych yn rhannu rhywbeth yr un mor ystyrlon gyda phobl drwy hanes mewn lle: “Os ydych chi’n dod o’r Cei, wel, mae’n debyg y byddai’n well dweud ‘Yr Hen Gei’. Os ydych yn perthyn i’r ‘Hen Gei’ rydym yn debyg iawn i’n gilydd ac mae gennych chi well dealltwriaeth.” (Cynghorydd Tref a Sir, Cei Connah) Mae’r cysylltiadau teuluol â threfi, pentrefi a llefydd yn cael eu gwerthfawrogi’n ddwfn. Mae yna hefyd ymdeimlad bod diddordeb mewn dod o hyd i gysylltiad ag eraill yn werth arbennig o ‘Gymreig’: “Mae’n braf bod yn ôl yng Nghymru, ynghanol pobl gyfeillgar. Bydd pobl yn oedi i siarad â chi yn y stryd. Mae’n grêt. Dwi erioed wedi bod i unlle mor gyfeillgar.” (Preswylydd, Port Talbot)

35 Mae perthnasau a grewyd gan y dychymyg yn derm anthropolegol yn ymwneud â’r teimlad neu gred bod gennych glymau fel rhai teuluol gyda rhywun arall nad ydynt yn seiliedig ar briodas neu berthynas waed, neu’r perthnasau teuluol traddodiadol lle rydych yn byw.  


Unwaith eto, mae’r rhain yn werthoedd sy’n teimlo fel pe baent wedi eu gwreiddio mewn lle ac yn ymddangos fel pe baent yn unigryw: “Mae Port Talbot yn lle sy’n canolbwyntio ar y gymuned. Mae pawb yn adnabod pawb. Mae yna fanteision ac anfanteision i hynny. Mae ‘na, chi’n gwybod, lawer o bobl hyfryd allan yna yn barod i’ch helpu chi. “Fe allech chi guro – fe allech chi fynd mas a churo ar ddeg drws a dwi’n sicr y byddai’r deg drws yn cynnig disgled o de i chi, ‘Dewch i mewn, beth am sgwrs, dewch i eistedd.” Allech chi ddim gwneud hynny pe baech chi’n mynd i, dwn i’m, Llundain neu rywle. Mi fydden nhw’n dweud ‘Be ‘dach chi isio?’ Mae ‘na frîd gwahanol i lawr yma!” (Perchennog busnes lleol, Port Talbot). Er bod hyn yn creu ymdeimlad o berthyn i le, sy’n cael ei rannu gallai hefyd beryglu eithrio pobl eraill. Gallai fod yn anodd i bobl eraill ymuno. I raddau helaeth, mae pobl yn teimlo bod y gwerthoedd hyn yn cael eu tynnu o ymdeimlad o rannu gwerthoedd a gweithredu arnynt, felly nid ydynt yn perthyn yn unig i’r rhai sydd wedi bod yno ar hyd eu hoes. Mae pobl yn teimlo bod pobl newydd yn cael eu croesawu gyda’r un synnwyr o gyfeillgarwch, “Mae pobl yn gorfod ‘ffitio i mewn’ ... Mae unrhyw un yn cael ei dderbyn yma - does dim ots am lefel eu haddysg, mewn gwirionedd mae pobl yn amheus o bobl addysgedig! Ond os ydynt yn dod ac yn gwneud cwis neu’n mynd i lawr i’r dafarn yna mi fyddan’ nhw’n cael eu derbyn. Mae cymuned yn wirioneddol bwysig.” (Gweithiwr dur, Port Talbot)

Mae rhai newydd-ddyfodiaid cymharol hefyd yn teimlo hyn. Mae Giovani, mudwr o Wlad Pwyl sydd wedi bod yn byw yn ardal Cei Connah, yn gallu cadarnhau ei fod yn teimlo ei fod yn cael ei dderbyn ac yn pwysleisio ei fod yn trïo mor galed â phosibl bod yn gyfeillgar ac yn hawdd siarad ag ef: “Mae’r gymuned bob tro rwy’n gofyn [cwestiwn] i rywun does ganddyn nhw ddim problem dod o hyd i ateb i mi. Unrhyw beth, chi’n gwybod, weithiau rydych yn cael trafferth dod o hyd i unrhyw beth, nawr rwy’n ei chael yn llawer haws nag roeddwn yn arfer. Dwi byth wedi cael unrhyw drafferth, dwi ddim yn meddwl. Efallai mai dim ond yr ardal hon yn y Cei lle’r ydym yn byw ydy o, ond mae’r bobl yn ymddangos fel pe baen nhw’n gyfeillgar.” Ond gallai fod yn bwysig bod unrhyw un mwy newydd yn dangos parodrwydd pendant i ymrwymo i’r un gwerthoedd cadarnhaol â phawb arall sydd yn y lle, er enghraifft: cymryd rhan, bod yn gyfeillgar, ymuno mewn pethau. Fe wnaeth Barri, gweithiwr dur wedi ymddeol, sydd wedi byw yng Nghei Connah drwy ei oes grynhoi hyn fel hyn:. “Mae’n dafarn gyfeillgar iawn, os oes rhywun yn dod i mewn mwy na dwywaith dach chi eisiau gwybod ei enw. A’r math yna o beth ... Os dach chi’n berson neis neu’n berson normal, fe fydd pawb yn y Cei yn dod ymlaen gyda chi. Ond os dach chi’n cael enw yng Nghei Connah fel rhywun nad yw’n berson neis neu’n berson drwg neu beth bynnag, mae hynny’n fuan yn mynd o gwmpas Cei Connah, oherwydd dydyn nhw ddim eisiau unrhyw beth i’w wneud gyda chi. Fyddwch chi ddim yn aros yma’n hir gan na fydd pobl Cei Connah, eich eisiau chi yma.”  

25 |


Y pethau rydym yn ei wneud i ni ein hunain ac i’n gilydd Gall traddodiad gwaith, diwydiant, sefydliadau neu ffordd o fyw ym mhob lle hefyd roi ymdeimlad cryf o hunaniaeth i bobl. Mae beth mae pobl yn ei wneud - sut maent yn gwneud eu bywoliaeth a sut maent yn treulio eu hamser yn werth allweddol36. Yn benodol, mae’r cysylltiadau hanesyddol a chyfredol â diwydiant ym Mhort Talbot yn gryf iawn: “Rwy’n credu ein bod yn dref ddiwydiannol yma a bod hynny’n ein gosod ar wahân i lefydd fel Abertawe neu Gaerdydd ... y gwaith dur yw eicon y dref o hyd. Pan fydd pobl yn meddwl am y dref fe fyddan nhw’n meddwl am y gwaith dur. Ochr gadarnhaol hyn yw bod gyda chi le sy’n hynod falch o’r hyn sy’n cael ei gynhyrchu, a hefyd balchder eithriadol o fod yn dîm ac o gydweithio.” (MP, Port Talbot) Mae’r cysylltiadau hanesyddol hyn yn atgyfnerthu’r ymdeimlad o hunaniaeth a rennir a dynnir o bwrpas cyffredin. Gall y nodweddion cymdeithasol, galwedigaethol a thirweddol uno a chyd-adweithio i roi ymdeimlad cryf o’r cysylltiadau rhwng nodweddion lle a’i normau a’i werthoedd cymdeithasol - yn ogystal â’i werth i eraill. Er enghraifft, fe wnaeth Elen, sy’n cadw siop lysiau yng Nghei Connah, sefyll yn ei siop a dweud wrthym am hanes ei groseriaid, busnes teuluol a etifeddodd gan ei thad. Gallai hi olrhain hanes, nid yn unig ei theulu, ond hefyd y gwaith roedd hi’n ei wneud, a lle roedd yn ei wneud. Ystyriai bod yr elfennau hyn o berthyn a galwedigaeth wedi eu cysylltu’n anorfod a’i gilydd. Fel y mae dyn ifanc ym Mhort Talbot yn dweud, byddwch yn derbyn adborth cadarnhaol gan y gymuned yn seiliedig ar sut yr ydych yn gweithio: “Rwy’n cael llawer o gefnogaeth gan y genhedlaeth hŷn i fod yn onest gyda chi ac rwy’n hoffi meddwl eu bod yn meddwl yn fawr ohona i a dwi’n weithiwr caled.” 36  In Wales, the nature of place and its social effects are strongly shaped by industry. It is argued to be more evident here than elsewhere (Day, 2002).

| 26

Yn yr un modd mae Aberystwyth yn ymfalchïo mewn bod yn groesawgar, yn gosmopolitan ac agored37. Mae ei sefydliadau byd-eang yn gweithredu fel safleoedd sy’n hwyluso rhyngweithio: “Mae gynnoch chi’r bobl sydd wedi cael eu geni a’u magu yma, ac oherwydd ein bod yn byw mewn tref brifysgol, sy’n dod â phobl i mewn o bob cwr o’r byd, mae gennych agwedd gosmopolitan iawn i’r dref.” (Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion) Nid yw’r ymdeimlad hwn o hunaniaeth yn cael ei amlygu’n unig mewn pethau y mae pobl yn ei wneud drostynt eu hunain, fel y gwaith y maent yn ei wneud, ond mae hefyd am y pethau y maent yn ei wneud i’w gilydd a chyda’i gilydd. Mae’r ymdeimlad cryf o fod yn rhan o gymuned o bobl wedi eu clymu at ei gilydd gan y lle y maent yn byw ynddo yn darparu sail resymegol gref i bobl weithredu mewn ffordd sy’n dangos gwerthoedd y gymuned honno, sy’n ymdrin â’r anawsterau o fyw mewn lle, ac sy’n cadw’r pethau da am y llefydd y maent yn eu caru. Mae pobl yn teimlo eu bod yn rhannu gwerthoedd cymdeithasol cryf wrth ofalu am ac wrth dderbyn gofal gan y cymunedau lle maent yn byw: “Wnewch chi ddim diflannu o dan y radar. Mae pobl yn eich gweld. Mae pobl yn poeni amdanoch chi fan hyn.” (Gweithiwr cymdeithasol, Aberystwyth) Mae pobl yn dweud eu bod yn awyddus i edrych ar ôl ei gilydd ac i gefnogi ei gilydd pan fydd arnynt angen cymorth. Ystyrir pethau syml fel dweud helo neu roi biniau cymdogion allan, fel rhan o gyfraniadau pob dydd pobl at fywyd eu cymunedau: “Ni fyddai 90% o bobl yn cerdded heibio unrhyw un maent yn ei weld ar y llawr yn y stryd a phe bai ar rywun angen cael ei wthio yn y car byddent yn gwneud hynny.” (Swyddog Diogelwch Cymunedol, Port Talbot)

37  Mae hyn yn cefnogi awgrym Tuan (1996), wrth ystyried y berthynas rhwng tirwedd a diwylliant, o’r hyn y mae’n ei olygu i fod yn gwbl ac yn hapus ddynol - cael eich angori gan y ddwy raddfa; y “cosmos” a’r “aelwyd”. Mae Tuan yn cynnig yr “aelwyd gosmopolitan” fel cysyniad diwygiedig o ddiwylliant sy’n annog bod wedi eich gwreiddio yn eich diwylliant eich hun yn ogystal â chofleidio chwilfrydedd am y byd.


Ac mewn argyfwng, mae pobl yn ymfalchïo mewn cydweithredu: “Mae ’na gymuned dda yma. Er enghraifft, yn ystod y llifogydd ofnadwy rai blynyddoedd yn ôl, fe wnaeth pawb ddod ynghyd, ac fe ddangoswyd gwir ysbryd y gymuned.” (Arweinydd y cyngor, Aberystwyth) Ymddengys fod gan bob cymuned nifer sylweddol o bobl sy’n gweithredu i gynnal a gwella eu cymunedau. Mae’r gweithredu hwn yn digwydd ar sawl lefel wahanol ac am resymau gwahanol. Mae pob un o’r bobl hyn yn ymateb i anghenion y maent yn eu gweld yn eu cymunedau ac yn ymgorffori gwerthoedd eu cymunedau eu hunain wrth wneud hynny:

Connah, mae yna nifer o grwpiau sy’n gweithio i edrych ar ôl y dref, yn arbennig i ofalu am ei mannau gwyrdd. Mae llu o sefydliadau ffurfiol ac anffurfiol, gan gynnwys Cyfeillion Parc Gwepra, Groundworks, Cadwch Gymru’n Daclus a Rainbow Biz yn gweithio i gadw Cei Connah a’r ardaloedd cyfagos yn lân, yn daclus ac yn rhydd o sbwriel, yn ogystal â cheisio gwella’r ardal, er enghraifft, drwy addysgu pobl sut i arddio. Mae’r camau hyn yn rhan annatod o’r gwerth lleol o ofalu am ymddangosiad ac ymdeimlad y llefydd lle mae pobl yn byw, a gwerthfawrogiad arbennig o estheteg lle.

“Rwy’n poeni am bobl eraill. Rwy’n hoffi gweld pobl yn cyflawni. Rwy’n credu ei bod yn bwysig ein bod yn rhoi pob cyfle i’n plant. A dyna fi, dyna be dwi isio ei wneud. Mae gen i blant fy hun, wyrion rŵan. Maen nhw i gyd yn gwneud yn dda i fod yn onest. Maen nhw i gyd yn yr ysgol neu’r coleg a dwi isio gallu cefnogi pethau i roi’r cyfle yna i bawb os ydy hynny’n gwneud synnwyr?” (Cynghorydd lleol, Port Talbot)

Mae’r pethau hyn y mae pobl yn gofalu amdanynt yn cynnwys y cyfleusterau a’r gwasanaethau sydd wedi cael eu bygwth fwyfwy â chael eu colli. Mae pobl yn cael eu hysgogi i frwydro dros bethau sy’n cael eu bygwth gan gynnwys canolfannau cymunedol, grwpiau ieuenctid, caffis lleol a drysorir, ysbytai a swyddfeydd post. Mae llawer o bobl wedi cymryd y cyfrifoldeb am y gwasanaethau hyn, ar gost fawr o ran eu hamser a’u hadnoddau eu hunain.

Ac mae gwneud pethau gyda’i gilydd yn llythrennol yn dod â phobl at ei gilydd mewn ffordd sy’n creu clymau newydd:

Er enghraifft, mae Bethan yn sôn am ei hanes o gymryd ei chanolfan gymunedol leol drosodd ym Mhort Talbot:

“Weithiau bydd y bobl leol yn swil gyda phobl newydd y maen nhw’n eu cyfarfod. Efallai fod hyn yn rhoi adlewyrchiad negyddol? Ond yna pan geir cyfle i ymwneud go iawn â’i gilydd, drwy gyfrwng prosiect neu rywbeth â nod sy’n cael ei rannu, mae’r grŵp yn ffynnu ac yn datblygu cysylltiadau cryfion.” (Swyddog Iechyd a Diogelwch, Cei Connah)

“Roeddwn wedi bod yn lanhawraig am 30 mlynedd. Mae gen i broblem gyda fy nghefn ac allwn i ddim cymryd swydd yn eistedd i lawr. Ro’n i’n sâl y llynedd, ces lawdriniaeth, fedrwn i ddim mynd yn ôl i’r gwaith, doeddwn i ddim eisiau’r swydd roeddwn yn ei gwneud, a daeth hyn i fyny. Mae fy ngŵr bob amser wedi bod yn gwneud rhywbeth gyda’r gymuned. Dwi wastad wedi bod mewn gwaith, felly ro’n i eisiau rhywbeth i’w wneud â’r gymuned. Rydyn ni’n rhan o’r gymuned, dwi’n gwneud pethau gyda’r eglwys, y pethau bychain. Dwi wedi’i helpu fe yn ei waith cymunedol bob amser, wedi helpu i’r graddau mod i wedi mynd i wneud y siopa, mynd a threfnu pethau. Meddyliais, wel yn lle gadael iddo fe gau, dwi eisiau ysgwyddo’r gwaith, dwi eisiau ei gadw ar agor. Mae angen rhywbeth yn y gymuned ar gyfer y gymuned.”

Mae gan bobl ddiddordeb cryf mewn cefnogi mentrau lleol oherwydd eu ffyddlondeb i’r llefydd, a’u cariad tuag at y gymuned, lle maent yn byw. Mae pobl yn y cymunedau hyn yn canolbwyntio ar amddiffyn y pethau y maent yn malio amdanynt, gan gynnwys y dirwedd ffisegol38. Er enghraifft, yng Nghei

38  Mae tirwedd, a’i amddiffyn, yn bwysig i greu hunaniaeth lle (Hague a Jenkins, 2005).

27 |


Nid oedd gan Bethan unrhyw gysylltiad ffurfiol gyda’r ganolfan gymunedol ac eithrio fel glanhawr ond roedd hi’n teimlo rheidrwydd i ddiogelu ei chymuned rhag colli’r adnodd hwn, gan gymryd y cyfrifoldeb ei hun, gyda chymorth pobl eraill o’i chwmpas. Mae stori Bethan yn un ysbrydoledig, ond nid hi yw’r unig un, mae llawer o unigolion gweithgar ym mhob un o’r cymunedau yn ceisio diogelu beth sydd ganddynt er budd cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol. Mae angerdd personol ac angen lleol yn dod ynghyd ac yn ysbrydoli pobl i weithredu, weithiau gyda sgiliau a chymorth ariannol prin. Yn fwy na dim ond cadw’r hyn sy’n bodoli’n barod, mae pobl hefyd yn weithgar o ran gwella eu llefydd ar eu cyfer nhw eu hunain a phobl eraill. Mae’r bobl y gwnaethom ni eu cyfarfod yn ceisio adeiladu eu cymunedau a chreu llefydd lle gall pobl berthyn. Mae busnesau cymunedol fel Caffi Cymunedol Libby yng Nghei Connah yn anelu at ddarparu mannau fforddiadwy lle y gallai pobl ddod at ei gilydd. Yn fwy na chynnig dim ond bwyd, mae Libby’s yn fan lle mae cyfeillgarwch yn cael ei ffurfio a chyda’r ystod o gyrsiau a gynigir yn y caffi gall sgiliau newydd gael eu dysgu a’u rhoi ar waith. Mae yna hefyd gonsyrn arbennig tuag at y rhai a ystyrir sy’n stryglo yn eu cymunedau. Yn hyn o beth, mae grwpiau crefyddol yn arwain y ffordd, gan ddarparu banciau bwyd a chyfle i’r digartref alw mewn canolfannau yn Aberystwyth a Phort Talbot. Ond mae’r gefnogaeth yn mynd y tu hwnt i gefnogaeth y sefydliad ffurfiol. Wrth sôn am gynnal banc bwyd, meddai Christine, gwirfoddolwr ym Mhort Talbot: “Mae [Cadwyn archfarchnad] wedi bod yn gefnogol iawn i’r banc bwyd, ond mae’r menywod yn gyffredinol sy’n gweithio yn [yr archfarchnad] wedi rhoi o’u hamser a’u hadnoddau eu hunain i’n helpu ni ... Mae un o’r modurdai wedi rhoi benthyg fan i ni. Mae pethau felly wedi gwneud gwahaniaeth enfawr.” Er y gallai rhai pobl sefydlu neu wirfoddoli ar brosiectau penodol, mae yna ymdeimlad bod y gymuned gyfan yn gwerthfawrogi’r pethau hyn ac yn rhoi fel y gallant.

| 28

Yn ogystal â’r rhai sy’n cael eu gweld fel rhai sydd angen cefnogaeth oherwydd y gwahanol arwyddion o dlodi, mae yna hefyd werth cryf yn cael ei roi gan bobl yn y tair tref ar iechyd, diogelwch, a rhagolygon y bobl ifanc yn eu hardaloedd ar gyfer y dyfodol. Mae’r gwerth hwn yn cael ei amlygu mewn nifer fawr o gamau gweithredu wedi’u targedu at y grŵp demograffig hwn. Ym mhob un o’r tair tref mae grwpiau buddiant, gan gynnwys chwaraeon, theatr, cerddoriaeth a drama, yn ogystal â gwasanaethau i gefnogi’r bobl ifanc hynny sydd hefyd yn cael trafferth, er enghraifft gyda digartrefedd neu sydd mewn perygl o gael eu gwahardd o’r ysgol. Fel sy’n wir gyda’r caffi cymunedol, mae llawer o’r sefydliadau hyn yn cyfrannu y tu hwnt i’r gwasanaeth a ddisgwylir ganddynt neu y maent yn ei hysbysebu yn y lle cyntaf. Er enghraifft, mae Campfa Bocsio Bulldogs ym Mhort Talbot yn cynnig lle i bobl ifanc ddod i focsio (nid yw’r gampfa ar gyfer pobl ifanc yn unig, ond mae hwn yn un grŵp demograffig y maent yn ei dargedu) ac wrth iddyn nhw wneud hyn maent yn gallu dechrau siarad am y pethau y gallent fod angen siarad amdanynt. Yn ogystal, mae’r gampfa yn cynnig gwasanaeth anffurfiol i helpu i gael pobl ifanc i mewn i waith. Yn yr un modd, mae clybiau chwaraeon eraill, yn enwedig ym Mhort Talbot ac Aberystwyth, yn sôn am sut y maent yn dysgu’r bobl ifanc sy’n eu defnyddio am fwy na dim ond sut i chwarae camp arbennig: “Rwy’n gweld chwaraeon fel ffordd dda i blant ddysgu disgyblaeth y gellir ei chymhwyso at agweddau eraill ar eu bywydau. Mae gennym bolisi crys a thei ar ôl y gêm, a chanu caneuon, hyd yn oed pan fyddwn yn colli. Dywedodd un o’r bechgyn ar ôl gêm ‘fe allwch gael hwyl heb ddiod, allwch chi ddim?!” (Hyfforddwr rygbi, Port Talbot) Ond mae pobl yn cydnabod hefyd bod arnyn nhw angen cymorth - nid ydynt yn teimlo y gallant daclo’r heriau yn eu cymunedau i gyd ar eu pennau eu hunain.


Portreadau personol Mae’r hyn sy’n dilyn yn gyfres o bortreadau personol a ysgrifennwyd gan yr ymchwilwyr cymunedol ym mhob un o dair cymuned yr astudiaethau achos. Er bod yr adroddiad yn ei gyfanrwydd yn canolbwyntio ar ganfyddiadau sy’n gyffredin ar draws y tair ardal ac felly sydd â goblygiadau i Gymru fel rhanbarth, mae’r portreadau personol hyn yn anelu at roi syniad o sut fywyd sydd gan bobl ym mhob cymuned unigol, ond o safbwynt ymchwilydd cymunedol. Maent yn tynnu sylw at y gwahaniaethau mewn profiad sy’n benodol i bob cymuned gyda’u lleoliad daearyddol, hanes a chefndir eu hunain, a’r sefyllfa economaidd a chymdeithasol gyfredol. Mae’r portreadau personol yn fwriadol yn lleol eu natur a hefyd yn bersonol, gan adlewyrchu profiad yr ymchwilwyr cymunedol wrth iddynt gynnal yr ymchwil ar gyfer y rhaglen hon. Maent yn adlewyrchu arddull ailadroddol a chynhwysol ymchwil ethnograffig lle mae’r ymchwilydd yn profi’r lle ochr yn ochr â’r cyfranogwyr yn yr ymchwil fel bod y ddau yn gallu dysgu mwy am natur eu cymunedau.

Mae’r portreadau personol hyn yn bwysig i’r adroddiad hwn gan eu bod yn peintio darlun manwl o ardaloedd bychain ac maent yn rhoi dehongliadau gwahanol. Er bod polisi yn aml yn anochel yn cael ei greu gyda dull brwsh bras, mae’r lluniau llai hyn yn helpu i ddangos sut y gall llefydd wynebu anghydraddoldebau penodol a neilltuol iawn a sut y byddai eu poblogaethau yn hoffi gweld gwahanol fathau o newidiadau y gallai rhai ohonynt gael eu gweithredu ar lefel eithaf lleol . Maent yn dangos sut na ellir diffinio llefydd gan ‘angen’ neu naratif / canfyddiad unigol. Ond mae’r portreadau personol hyn hefyd yn dangos y gellir gweld profiadau tebyg o ddeinameg anghydraddoldeb hefyd ar draws gwahanol lefydd yng Nghymru y byddwn yn mynd ymlaen i’w trafod yn adran 2.

29 |


PORTREAD PERSONOL:

Aberystwyth Gan Cath Sherrell, Ymchwilydd Cymunedol

| 30


Tref fechan ar arfordir canolbarth Cymru yw Aberystwyth. Mae ganddi boblogaeth o 13,000 sy’n cynyddu i ryw 22,000 yn nhymor y myfyrwyr, ac mae rhyw 6,000 ychwanegol yn byw yn yr ardal gyfagos39. Mae Aber (fel y’i gelwir yn annwyl) yn dref brifysgol ac mae ganddi nifer rhyfeddol o gyfleusterau a sefydliadau o ystyried maint y dref gan gynnwys y Brifysgol, Ysbyty Bronglais, Y Canolfannau Celfyddydau a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Lleolir y dref mewn ardal wledig bellennig, gyda’r môr i un cyfeiriad a’r mynyddoedd y tu cefn, ac eto mae yma lawer o’r cyfleusterau a’r cyfleoedd y byddech chi’n eu cysylltu â lle llawer yn fwy. Mae Aber yn dref glan môr gyda phiyr, tri o draethau a Phromenâd Fictoraidd. Mae’n fach ac yn hawdd mynd o’i chwmpas - mae pobl yn hoffi’r ffaith eu bod yn gallu cerdded i’r rhan fwyaf o lefydd. Mae gan wahanol rannau o’r dref hunaniaeth hollol wahanol gyda Phenparcau (pentref wedi’i leoli i’r dwyrain o ganol tref Aberystwyth) yn arbennig, yn un a ystyrir sydd ag ymdeimlad cryf o gymuned a phoblogaeth fwy sefydledig, llai byrhoedlog. Mae pobl yn Aberystwyth yn arfer gwneud pethau drostynt eu hunain. Mae’r ffaith ei bod mor bell o unrhyw drefi a dinasoedd eraill40 yn golygu bod pobl yn tueddu i fod yn eithaf hunangynhaliol ac yn rhagweithiol ac yn gwneud i bethau ddigwydd. Mae yma amrywiaeth o wahanol grwpiau a sefydliadau a chymdeithasau. Mae yna lawer o ddigwyddiadau cymunedol, clybiau chwaraeon, corau cymunedol, grwpiau theatr, grwpiau artistiaid a chymdeithasau, yn ogystal â grwpiau ymgyrchu cymunedol, sefydliadau a digwyddiadau Cymraeg, a chylchgrawn sgleiniog misol lleol a sefydlwyd gan bobl leol yn benodol i ddathlu Aberystwyth a’i phobl.

Mae yna lawer o Gymraeg yn cael ei siarad yn y dref a’r ardal gyfagos41. Mae yna lawer iawn o wyliau sy’n ychwanegu at fywiogrwydd y dref yn dathlu ffotograffiaeth, arswyd, bwyd, ffilm, celf, cerddoriaeth a digwyddiadau cyhoeddus mawr fel y Carnifal a Sioe Tref Aberystwyth a’r Orymdaith Llusernau. Mae pobl yn hoffi hynny am fyw yn y lle hwn – maen nhw’n dwlu ar y ffaith ei bod hi’n dref anarferol ac unigryw. “Dwi’n meddwl bod pawb sy’n byw yn Aberystwyth yn wir hoffi’r lle. Mae’n dipyn o le unigryw ... Ond mae fel pe bai wedi datblygu ei ddiwylliant ei hun.” (Cynghorydd) Mae rhai pobl yn poeni y gallai golli’r hyn sy’n ei gwneud yn arbennig os ydynt yn caniatáu datblygu gormod o archfarchnadoedd mawr neu siopau. Ond mae eraill yn cefnogi’r datblygiad hwn gan y bydd yn rhoi mwy o ddewis heb orfod teithio’n rhy bell. Gall Aberystwyth gynnig ansawdd bywyd uchel, ac mae yma deimlad eich bod yn gallu byw yma ar fawr iawn. Mae hyn yn arbennig o wir am bobl sydd wedi dewis symud yma yn benodol ar gyfer y cyfan y mae gan y lle i’w gynnig, ac sy’n barod i aberthu rhai pethau er mwyn aros. Serch hynny, gall hyn guddio’r ffaith y gall hi fod yn ymdrech fawr i fyw yma. Gall y nifer o sefydliadau proffesiynol ac ‘amlygrwydd y Dosbarth Canol’ fel y dywedodd un person, fod yn wrthgyferbyniad llym i fywydau pobl ar gyflogau bychain a budddaliadau. Ynghyd â’r swyddi proffesiynol sy’n talu’n dda, mae yna lawer o swyddi ar isafswm cyflog, dim oriau. Mae rhenti a chostau tai’n gymharol ddrud yma42, a phe baech chi’n colli eich swydd, gall cyfleoedd cyflogi eraill fod yn bur gyfyng, yn enwedig i bobl ifanc. Weithiau gall yr ynysu deimlo fel gwendid mawr, yn enwedig pan fydd gwasanaethau

39 ONS, 2011.  40 Mae’r dref sylweddol agosaf wedi ei lleoli o leiaf 1 awr 45 munud o daith car i ffwrdd. Mae Abertawe, i’r de, 70 milltir (110 km) i ffwrdd; mae Amwythig, yn Swydd Amwythig, Lloegr, i’r dwyrain, 75 milltir (120 km) i ffwrdd; ac mae Wrecsam, i’r gogledd-ddwyrain, tua 80 milltir (130 km) i ffwrdd. Mae prifddinas Cymru, Caerdydd, dros 100 milltir (160 km) i ffwrdd.

41  Cadarnhaodd cyfrifiad 2011 bod 31% o bobl yn Aberystwyth yn debygol o fod yn gallu siarad Cymraeg, o gymharu â 19% ar draws y wlad i gyd. 42  Ystyrir mai Ceredigion yw’r ‘sir lleiaf fforddiadwy i fyw ynddi yng Nghymru’, gydag amcangyfrif bod prisiau tai bron i chwe gwaith yr incwm cyfartalog (Sefydliad Tai Siartredig Cymru, 2005).

31 |


Lleis i au Aberystwyth

AnMaesaaberwyndlledgwychbywi fywyynddo d uc h el Mae’r ffaith fod y dref yn fach yn golygu bod pobl yn adnabod, ac yn gofalu am ei gilydd. Mae’n lle cyfeillgar a bywiog, gyda chelfyddydau, cerddoriaeth a diwylliant. Mae aber o ran ei maint a’i lleoliad yn dref sy’n rhagori ar eich disgwyliadau

Ryn ni wrth ein bodd yn byw yma. Mae’n wych i ni fel teulu. Ryn ni’n mwynhau’r dref. Mae hi’n fach ac yn gyfeillgar, ond dyw hi ddim yn teimlo’n rhy wledig. Mae ganddi’r holl bethau y mae arnoch eu hangen ac, yn arbennig os ydych yn byw yn y dref, maen nhw i gyd o fewn pellter cerdded. (Ficer)

Sut allwn ni wneud y weledigaeth o ansawdd bywyd uchel yn wir i bawb yn aberystwyth? Rydych chi’n cael eich allgau os ydych chi’n dlawd. Mae pobl wrthi’n gyson yn dangos i chi’r holl bethau y gallech eu gwneud neu eu cael pe bai gennych chi arian, sy’n pwysleisio’r teimlad hwnnw eich bod yn cael eich allgau. (Rheolwr bar)

| 32

Hoffem i bawb allu mwynhau’r bywyd o ansawdd uchel sydd gan aberystwyth i’w gynnig


Mae gennym ni lan y môr ac amgylchedd naturiol hardd Mae ‘na lawer o bethau am ddim yn Aber, fel y traeth, y tu allan, mynyddoedd, natur, y gallwch eu mwynhau heb arian o gwbl. Ac mae bod y tu allan yn allweddol o ran ansawdd bywyd. (Trafodaeth gweithdy)

Mae hyn yn gallu cuddio’r ffaith y gall bywyd yma fod yn anodd Mae rhai ohonom ni yn ei chael yn anodd

cael dau ben llinyn ynghyd. Mae cyflogau isel a rhent uchel yn rhwystrau go iawn i allu mwynhau'r holl bethau gwych am aber. Rydyn ni’n gallu teimlo fel ein bod yn byw mewn cymdeithas dwy haen, sydd wedi’i rhannu rhwng y rhai sydd ganddynt bethau a’r rhai sydd hebddynt Mae yna swyddi yma, ond swyddi dim oriau ac mae hynny’n ddinistriol i chi. Rydych chi’n aros tan ddydd Sadwrn i wybod beth yw eich oriau am yr wythnos nesaf, a gallent fod yn unrhyw beth o ddwy awr ar nos Wener i 30 awr. (Rheolwr bar)

Mae yna lawer o grwpiau a mudiadau sy’n gweithio gyda’r rhai hynny ohonom sy’n ei chael yn anodd Rydym yn wir werthfawrogi’r ymdrechion yma ond maen nhw yn aml yn atebion byr dymor nad ydyn nhw’n mynd at wraidd y broblem

Mae’n anodd iawn i bobl ar gyflog isel, ar fudd-daliadau neu mewn tlodi. Mae’r dosbarth canol yn amlwg iawn ond mae yna lawer o bobl nad ydyn nhw’n gallu fforddio siopa yn Polly’s. (Nyrs iechyd meddwl)

dan fygythiad. Roedd pryder lleol dwys ac ymgyrch weithgar iawn pan oedd yr ysbyty dan fygythiad o gael ei chau, (mae’r ysbyty agosaf nesaf 1.5 awr o yrru i ffwrdd a dros 2 awr ar drafnidiaeth gyhoeddus)43. Mae’r bygythiad o lai o wasanaethau yn parhau, ac mae rhai adrannau allweddol, megis y ward iechyd meddwl wedi mynd, gan achosi straen ychwanegol i deuluoedd y rhai yr effeithir arnynt. Mae cysylltiadau cludiant yn gyfyngedig. Mae hefyd yn dref ‘diwedd y llinell’, ac mae pobl yn y dref yn ystyried bod yna gyfran gymharol uchel o bobl sy’n agored i niwed. Yn gyffredinol mae agwedd gefnogol tuag at bobl yn y sefyllfa hon - ond mae pobl yn teimlo na allant ddelio â’r holl anghenion sy’n ymddangos yn y dref. Cafodd iechyd meddwl ei grybwyll fel problem benodol. Ceir undod cymunedol gwych yma. Mae’n lle cyfeillgar iawn ac yn lle hawdd i fyw ynddo. Mae’n dod i frig rhestrau ‘Lle gorau i’ yn aml: y lle mwyaf diogel, mwyaf cyfeillgar, y lle mae pobl yn fwyaf tebygol o ddweud helo wrth ei gilydd ynddo ar y stryd, y lle rydych chi’n fwyaf tebygol o gael cwtsh gan rywun (a arweiniodd at yr enw ‘prifddinas Cwtshys Cymru’!), ac er nad yw pob un o’r rhain o reidrwydd o ganlyniad i’r ymchwil mwyaf trwyadl, dyma’n bendant oedd y teimlad oedd gan lawer iawn o’r bobl y bu i mi siarad â nhw. Mae Aber yn lle cymharol fach ac mae pobl yn adnabod ei gilydd ac yn gofalu am ei gilydd. Er enghraifft, pan ddigwyddodd y llifogydd, cafwyd ymateb cymunedol gwych gyda llawer o bobl yn helpu i glirio, gan gynnig llefydd i bobl aros a rhoi dillad ac eitemau eraill. Mae hefyd yn lle amrywiol a goddefgar iawn. Dyma un o’r mannau cyntaf yn y Deyrnas Unedig i dderbyn grŵp o ffoaduriaid o Syria44. Roedd grŵp pwyso lleol gweithgar iawn yn gwthio am hyn, ond cafodd ei gefnogi’n gryf hefyd gan yr awdurdod lleol ac eraill. Dywedodd y swyddog lles yn y Brifysgol wrthym fod y dref yn hysbys yng nghymuned draws-gymuned y myfyrwyr fel lle diogel i drawsnewid, ac mae wedi bod ag enw da am amser hir fel lle diogel i bobl LHDT45 - nid y peth amlwg y byddai pobl yn ei ddychmygu pan maent yn meddwl am dref fach yng Nghanolbarth Cymru.  43 Gweler adroddiadau newyddion o 2012, fel y BBC, 2012; Cymru Ar-lein, 2012. 44 BBC, 2015. 45 Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsrywiol.

33 |


PORTREADAU PERSONOL:

Cei Connah

Gan Andy Dunbobbin, Ymchwilydd Cymunedol

| 34


Lleolir tref Cei Connah yng Ngogledd Ddwyrain Cymru, yn Sir y Fflint. Mae dwy dref arall, Shotton a Queensferry, yn agos ac mae’r tair tref gyda’i gilydd yn cael eu galw’n Lannau Dyfrdwy, oherwydd eu lleoliad ar hyd Afon Dyfrdwy. Mae poblogaeth Cei Connah tua 17,500 ac mae poblogaeth gronnus Glannau Dyfrdwy yn nes at 50,00046. A minnau wedi byw yng Nghei Connah ar hyd fy oes, a phob un o deulu fy mam yn dod o’r ‘Cei’, darganfûm (drwy fy ngwaith ymchwil) gymaint sydd wedi newid yng Nghei Connah. Mae Cei Connah yn dref fawr sydd wedi ei rhannu’n draddodiadol yn dair ardal. Yn lleol maent yn cael eu galw yn West End, Y Parc a Wepre, mae’r bobl yn yr ardaloedd hyn yn cael eu hadnabod fel Westenders, Parkies a Wepre. Mae gan bob un o’r ardaloedd eu hunaniaeth eu hunain, er enghraifft, credir bod y bobl sy’n byw yn Wepre yn well eu byd oherwydd bod y tai yn fwy. Gan fod Cei Connah wedi tyfu dros y blynyddoedd, mae gwahanol ardaloedd wedi eu creu neu cyfeirir atynt hyd yn oed gydag enwau gwahanol. Er gwaethaf y gwahanol rannau o’r dref, mae Cei Connah yn ei gyfanrwydd, yn ysgogi gwir ymdeimlad o berthyn ymysg ei phobl. Mae Parc Gwepra yn ardal lle mae holl drigolion Cei Connah yn cysylltu â’i gilydd. Mae’n lle sy’n dod â phob un o’r gwahanol gymunedau o fewn Cei Connah at ei gilydd. Mae’n cael 200,000 o ymwelwyr o bob rhan o’r rhanbarth yn flynyddol47. Mae atyniad Parc Gwepra yn annog pobl o drefi cyfagos i ymweld â’r ardal, yn enwedig pan gynhelir Gŵyl Cei Connah. Ac eto gallwch fynd i ben Wepre, ar gyrion y dref, a theimlo yn bell i ffwrdd – does dim siopau yn y rhan hon o Gei Connah ac mae’n teimlo fel lle gwahanol iawn i’r dref. Mae trafnidiaeth leol yn broblem yn y rhan hon o Gei Connah. Nid yw bysiau yn rheolaidd ac rydych yn ddibynnol iawn ar geir neu dacsis. Mae Glannau Dyfrdwy yn adnabyddus am ei diwydiant; ac mae gan y gwaith dur a’r stad ddiwydiannol ar lan ogleddol afon Dyfrdwy arwyddocâd hanesyddol a chyfredol48. Arferai gwaith dur Shotton chwarae rhan fawr o ran sut y byddai cymunedau Cei Connah (a threfi cyfagos) yn integreiddio. Hwn oedd y cyflogwr mwyaf 46 ONS, 2011. 47  Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint, d.d. 48 BBC, 2010.

yn yr ardal, gan gyflogi tua 13,000 o bobl pan oedd y diwydiant yn ei anterth49. Roedd yn dod â budd ehangach i Lannau Dyfrdwy i gyd; cyn diswyddiadau yn y gwaith dur, roedd y Stryd Fawr brysurach yn golygu bod digonedd o siopau annibynnol ac arferai marchnad Cei Connah fod â nifer fawr o fasnachwyr yn dod draw iddi. Yn fwy diweddar, mae Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy yn dod â swyddi i’r ardal mewn llawer o wahanol ddiwydiannau, gan gynnwys gyda’r gwneuthurwr awyrennau Airbus ac yn ffatri beirianneg hynod ddatblygedig Toyota. Er nad yw’r diwydiannau hyn yn clymu pobl at ei gilydd yn yr un ffordd â’r gwaith dur maent yn dal i greu llawer o falchder. O wrando ar sgyrsiau pobl, caf y teimlad fod hiraeth yn gryf yma. Yn enwedig ymysg y genhedlaeth hŷn o bobl y Cei. Mae pobl sy’n symud i Gei Connah yn cael eu derbyn ymhen amser ond os yw eich teulu yn dod o’r Cei, rydych yn cael eich derbyn yn llawer cyflymach. Mae pobl Cei Connah yn falch ac yn gweithio’n galed. Maent hefyd yn bobl gref ac annibynnol iawn, sydd fel arfer yn barod i roi cymorth i’r rhai sydd mewn angen. Mae yna nifer o grwpiau sy’n cynnig cymaint i bobl Cei Connah. Cyfeillion Parc Gwepra, Caffi Cymunedol Libby, a Chymdeithas Waterman’s Quay i enwi ond rhai. Mae llawer o bobl yn y sefydliadau hyn yn gwirfoddoli eu hamser ond gallant deimlo’u bod wedi’u datgysylltu oddi wrth bobl eraill sydd yn gwneud pethau yn y gymuned. Drwy gydol rhaglen Amplify Cymru mae pobl wedi dweud pa mor ddefnyddiol y mae wedi bod o ran dod â phobl at ei gilydd nad ydynt fel arfer yn gweithio gyda’i gilydd. Mae gan Gei Connah lawer o asedau, yn amrywio o gaffis cymunedol i bwll nofio a chanolfan dreftadaeth. Mae pobl Cei Connah yn gwybod pa mor bwysig yw’r llefydd hyn, ac ynghyd â’r mannau agored, maent yn eu gwirioneddol werthfawrogi. Gan fod y dref wedi gweld nifer o gyfleusterau yn newid dwylo trwy Drosglwyddo Asedau Cymunedol, maent wedi profi rhywfaint o ansicrwydd ynghylch dyfodol y llefydd y maent yn malio amdanynt ac yn eu defnyddio yn rheolaidd.

49 Atkinson, K., 1998-2006.

35 |


Ll e i siau Cei Connah

in gilydd D o dYngatngheieconnah rydym yn

gwerthfawrogi’r perthnasau sydd gennym gyda phobl eraill. Rydym y math o Rydym boblhefydsy’nyn gwerthfawrogi’r dweud helohaneswrth ein gilydd a’r cysylltiad sydd gennym â’r dref ei hun

Rydym yn hoffi’r lle ‘ma’n fawr. Mae’n lle cyfeillgar iawn ac mae ganddo ymdeimlad cryf o gymuned. Y broblem yw mai ychydig o lefydd sydd yna i’r ymdeimlad hwnnw o gymuned gael ei ddangos. (Gwirfoddolwr, Caffi Cymunedol Libby)

Ond dydy hyn yn dal ddim yn ddigon mae angen mwy Rydym ni am i fwy o bobl fod yn falch o’r dref a theimlo eu bod yn perthyn yma

Mae’r parc sglefrio wedi bod yn lle cadarnhaol iawn. Mae pobl ifanc wedi parchu’r ardal. (Trafodaeth gweithdy)

Beth yw’r cyfleoedd i bawb ddod at ei gilydd o amgylch y dref a’i hamgylchedd?

Achos dwi’n meddwl pan ydych chi’n edrych ar yr holl ddigwyddiadau sydd ganddyn nhw ym Mharc Wepre, ac yn y Neuadd Ddinesig ac ar y Stryd Fawr, mae yna gefnogaeth dda bob amser, mae llawer o bobl o gwmpas, sy’n wych. Oherwydd rydych chi’n gweld pobl yn cymysgu gyda gwahanol bobl yn y gymuned. (Preswylydd lleol) | 36


Rydym ni’n malio am y dref ond mae ganddi rai problemau Mae rhai rhannau o’r dref yn cael eu galw yn

ardaloedd gwael, ac mae eraill yn cael eu gweld fel rhai crand Na. Fyddwn i ddim yn dymuno symud o’r Cei. Ces fy ngeni yma, dwi wedi treulio fy mywyd i gyd yma, ac mae’n debyg y bydda’ i’n marw yma. Rwy’n teimlo mai dyma’r lle dwi’n perthyn, ac mae’n perthyn i mi. (Cynghorydd Tref a Sir)

Mae Cei Connah wedi mynd 15, 20 gwaith yn fwy mewn cyfnod byr. Mae niferoedd y bobl yma nad ydyn nhw yn gysylltiedig â Chei Connah yn enfawr. Ond maen nhw wedi bod yma mor hir fel nad ydyn nhw bellach yn cael eu galw yn ‘bobl ddieithr’. (Preswylydd lleol)

Mae [Cei Connah] wedi newid. Dydy o ddim fel yr oedd o... Pobl ddieithr sydd yma i gyd rŵan. Dydy pobl ddim fel pe baen nhw yn aros yma yn hir. (Siopwr lleol)

Mae ein tref ni wedi newid llawer Roedden ni arfer ‘nabod pawb ond mae o’n lle llawer mwy a dieithr rwan. Mae hyn yn gallu bod yn brofiad sy’n eich ynysu chi

Mae yna barciau yng Nghei Connah ond dydyn nhw ddim yn ddigon lleol i’r lle dwi’n byw. A phethau hwyliog i’r plant eu gwneud. Nid dim ond y parc sglefrio yn Wepre. Cofiwch, mae’n dda cael hwnnw yno ond mae plant gwahanol yn hoffi pethau gwahanol. Dydy’r dewis yna ddim yna iddyn nhw. (Preswylydd lleol)

Mae yna lefydd lle rydym i gyd yn gallu dod at ein gilydd a lle mae pawb yn perthyn Rydym yn gwerthfawrogi parc wepre yn arbennig a chyfleusterau fel y pyllau nofio. Yn y mannau hyn rydym yn gallu datblygu cysylltiadau newydd. Mae’r pethau rydym yn eu gwneud yn aml yn canolbwyntio ar yr ardaloedd hyn

Roedd ganddyn nhw gynllun lle roedden nhw yn cael pawb yn plannu planhigion. Roedd yn wych ond fe adawodd pobl iddyn nhw farw. Yn bendant mae angen i ni ddod â phobl at ei gilydd i gael eu cefnogaeth. Mae’r balconïau yn edrych yn hyfryd yn yr haf. (Preswylydd lleol)

37 |


PORTREAD PERSONOL:

Port Talbot Gan Cam Boam, Ymchwilydd Cymunedol

| 38


Mae gan dref Port Talbot, sy’n rhan o fwrdeistref sirol Castell-nedd Port Talbot, a Dyffryn Afan, uwchlaw’r dref, boblogaeth gyfun o ryw 51,00050. Mae’r ardaloedd hyn yn gyforiog o adnoddau dynol a naturiol. Fel ymchwilydd cymunedol, rydw i wedi treulio’r 8 mis diwethaf yn dod i adnabod y cymunedau sy’n byw ac yn gweithio yn y llefydd hyn ac yn ystod y cyfnod hwnnw daeth hi’n fwyfwy clir i mi nad yw Port Talbot a’r Dyffryn yn cael sylw haeddiannol. “Does yna ddim byd o’i le gyda Phort Talbot... Mae yna bethau gwych, mae yna bethau hardd am Bort Talbot.” (Perchennog busnes) Mae Port Talbot a’r Dyffryn yn llawn i’r ymylon o unigolion gweithgar, dyfeisgar sy’n ymrwymedig i’w cymunedau. Mae’r ymrwymiad hwnnw i’w weld ym mharodrwydd y bobl leol i wneud cysylltiadau ag eraill. Mae tref Port Talbot yn cynnwys ystod o gymunedau amrywiol. Y gymuned fwyaf adnabyddus yw stad Sandfields a adeiladwyd yn wreiddiol yn yr 1950au i gartrefu gweithlu’r gwaith dur ac yn awr, yn ôl pobl leol, mae yna lawer iawn o drigolion iau. Mae Margam, mewn gwrthgyferbyniad, yn adnabyddus yn lleol am fod â ‘rhes y cyfoethogion’. Gwasanaethir Margam ei hun gan heol sy’n arwain o’r ardal hon, drwodd i Tai-bach ac yna’n syth i ganol y dref. Dyw hi ddim yn heol unffurf, o bell ffordd, ac mae arni gymysgedd o adeiladau masnachol, adeiladau a gynhelir gan y gymuned, cartrefi ac olion diwydiant. Yna mae yna drigolion sy’n byw ger gwaelod y M4 a rhwydweithiau’r ffyrdd sy’n cysylltu â hi sydd wedi gorfod ymgorffori ei daearyddiaeth i’w bywydau bob dydd. Mae sawl un o’r unigolion yr ydw i wedi cwrdd â nhw yn y cymunedau hyn ac ym mhentrefi dyffryn Afan wedi buddsoddi rhinweddau fel ymroddiad i gymuned a meddwl dyfeisgar i ddatblygu ystod eang o rwydweithiau cynnal anffurfiol. Rydw i wedi dod ar draws nifer o enghreifftiau o fudiadau sy’n cael eu cynnal gan y gymuned sy’n gweithio i sicrhau llif gwybodaeth o fewn y gymuned; o lyfrgelloedd sy’n cael eu cynnal gan y gymuned, sydd nid yn unig yn rhoi mynediad i lenyddiaeth, ond sydd hefyd yn cynnal

gweithgareddau ymgyfoethogi fel nosweithiau ffilm, hyd at wasanaeth newyddion hyperleol sy’n cael ei gynnal gan wirfoddolwyr sy’n dod o hyd i newyddion o’r gymuned ei hun. Rydw i hefyd wedi canfod yn gyffredin fod y sefydliadau sy’n cael eu cynnal gan y gymuned yn cynnig cymaint mwy na’u gwasanaeth sylfaenol. Mae sefydliadau fel Campfa Focsio Bulldogs nid yn unig yn rhoi cyfleoedd i bobl wella’u ffitrwydd, ond maen nhw hefyd yn cefnogi pobl ifanc i gael gwaith. Mae clwb rygbi Aberafan yn cynnig yr adnoddau yno yn rhad ac am ddim i bob grŵp cymunedol. Ac mae ysgol ddawns TDM yn Sandfields, yn cynllunio dosbarthiadau o amgylch anghenion ei chymuned. Mae’r enghreifftiau hyn yn dangos y ffordd y mae llawer o sefydliadau ym Mhort Talbot a’r Dyffryn yn darparu gwasanaethau cyfannol. Eto maent yn fwy na gwasanaethau; mae rhai o’r sefydliadau a’r canolfannau hyn wedi cael eu disgrifio fel ail gartrefi, llefydd ar gyfer twf personol a rhannu gwerthoedd. Er ei bod hi’n wir nad oes gan dref Port Talbot amgueddfa na chanolfan gelfyddydau ar hyn o bryd, dydy hyn ddim yn adlewyrchiad o ddiffyg creadigrwydd yn y dref a’r Dyffryn. Yn ogystal â’r ysgolion dawns, a’r grwpiau theatr amatur, gan gynnwys theatr ieuenctid, mae’r ardal hefyd yn cynnal nifer o wyliau a noson cerddoriaeth reolaidd yn Nhaibach. Mae Triongl Tai-bach, fel y gelwir ef, yn digwydd ar y Sul, pan fydd tri band yn chwarae mewn tri o dafarndai Tai-bach. Daeth y noson yn ddigwyddiad sefydlog y bydd llawer o bobl leol yn ei fynychu ac yn lle arall i’r gymuned ddod ynghyd. Mae’r diwydiannau creadigol yn gyffredinol yn dod yn fwy amlwg ym Mhort Talbot, wrth i nifer o stiwdios cynhyrchu teledu, fideo a ffilm sefydlu yn yr ardal. Mynegodd pobl yn y gymuned rai pryderon am ddyfodol pobl ifanc ym Mhort Talbot a’r Dyffryn. Ond mae’r bobl ifanc eu hunain yn uchelgeisiol iawn, gyda llawer o blant oed ysgol yn bwriadu bod yn athrawon, gwyddonwyr, cogyddion, pêl-droedwyr, bydwragedd, chwaraewyr rygbi proffesiynol, gyrwyr,

50 ONS, 2011.

39 |


Ll ei s i au Port Talbot

Pe baen nhw wedi gwrando, fe fydden nhw’n gwybod Mae gennym lawer o’n plaid ym

B a l chder mewn l l e

Mhort Talbot

Dyw’r ffordd y mae port talbot yn cael ei gynrychioli gan y cyfryngau a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau ddim yn hollol gadarnhaol Rydym yn cael ein gweld fel rhywle sy’n dirywio neu mewn perygl yn hytrach na fel rhywle gyda llawer o’i blaid

Mae yna elfen amrwd i Bort Talbot. Mae pobl eisiau gweithio. Maen nhw’n wirioneddol frwd. Mae’n lle gwych ar gyfer dawnsio. Mae’n wych dod â’r egni hwnnw i ddawns. Ac rwy’n meddwl bod gan bobl y meddylfryd lle maen nhw’n gwybod os ydyn nhw am wneud yn dda yna mae’n rhaid iddyn nhw weithio’n galed. (Rheolwr, TDM Studios)

Pwy a beth ym Mhort Talbot ddylen ni fod yn eu helpu i hyrwyddo a dathlu? Rydym am ddiogelu, datblygu ar a hyrwyddo’r pethau da sydd gennym Gyda’r ansicrwydd sydd yn y dref ar hyn o bryd, mae’r pethau hyn yn fwy pwysig nag erioed i ni, ond maen nhw hefyd yn fregus iawn

| 40

Mae yna lawer iawn o falchder sy’n dod i’r amlwg pan fydd pobl yn erbyn wal... Mae’r gwaith dur yn bwysig ac mae llawer o ofn am beth fydd yn digwydd pan fydd hwnnw’n mynd. Wrth gwrs mae yna ofn yn nhermau swyddi ac mae pobl yn poeni, ond mae yna ymdeimlad o herio hynny; mae’r ofn hefyd am falchder ac am ei golli. (Rheolwr NPT Homes)


Yn llawer rhy aml mae penderfyniadau yn cael eu gwneud am ein tref o’r tu allan Mae pobl yn siarad amdanon ni ond dydyn nhw ddim yn gwrando arnon ni. Dydyn nhw ddim yn cydnabod yr holl bethau rydym yn eu gwneud yn barod

Roedd pobl yn yr ardal yn teimlo eu bod wedi bod yn rhan o ‘brosiect ar ôl prosiect’, maen nhw wedi torri’u calonnau. Cafodd canolfan gymunedol fawr ei chodi, ond dydy pobl ddim yn teimlo’n gysurus, dydy o ddim yn teimlo fel eu lle nhw... Mae pobl yn teimlo eu bod wedi colli grym, maen nhw’n teimlo nad ydy e o bwys beth maen nhw yn ei wneud, mae penderfyniadau yn cael eu gwneud beth bynnag. Ond y maen nhw’n malio am eu cymuned. (Swyddog Datblygu Gallu Cymunedol, CVS)

Rydym yn dathlu ein diwylliant a’n cymuned gyda drama, celfyddydau, cerddoriaeth a chwaraeon Mae digwyddiadau mawr fel gŵyl y traeth a drama’r dioddefaint yn dangos beth mae port talbot yn gallu ei roi

nofwyr proffesiynol, dynion a menywod sy’n perthyn i’r lluoedd, diffoddwyr tân, peirianwyr sifil, gwerthwyr ceir, newyddiadurwyr ac artistiaid. Fe ddois ar draws sawl enghraifft o bobl ifanc yn eu hugeiniau a’u tridegau oedd wedi sefydlu busnesau a sefydliadau ar eu cyfer eu hunain ac er lles y gymuned51. Mae pobl ifanc ym Mhort Talbot yn falch iawn o’u tref, gan symud i ffwrdd ar gyfer cyfleoedd addysg a chyflogaeth yn unig, ac yn aml yn dychwelyd yn ddiweddarach. Mae pobl Port Talbot a’r Dyffryn yn arbennig o falch o’r traeth a’r bryniau hefyd. I lawer dyma sy’n ei wneud yn lle prydferth i fyw. Mae Traeth Aberafan yn ymestyn am dair milltir, gan gyffwrdd cyrion Sandfields ac edrych dros Fae Abertawe. Rydw i wedi cerdded ar hyd y prom yno ar ddiwrnod braf ym mis Awst, a mwynhau’r cyffro sy’n treiddio o’r pwll chwarae sblash a’r caffis. Rydw i hefyd wedi mwynhau’r olygfa i gyfeiriad y Dyffryn a cherdded ar hyd rhannau o’r llwybr beiciau ar flaen y Dyffryn. Mae’r traeth a’r Dyffryn yn lleoliadau rheolaidd ar gyfer cynnal chwaraeon a gweithgareddau hamdden lleol, yn ogystal â bod yn gefnlen i fywyd beunyddiol. Does dim amheuaeth fod hunaniaeth y bobl sy’n byw yn yr ardal hon wedi’i glymu’n agos â’r dirwedd naturiol hon, ac mae nifer helaeth y trigolion, os nad pawb, yn dymuno’i gwarchod.  

Rydym yn gymuned gefnogol ac rydym yn helpu ein gilydd pan allwn Mae gennym hanes o wirfoddoli ac

ymgyrchu. Mae gennym lu o grwpiau cymunedol, eglwysi a sefydliadau sy’n gwneud pethau da ar draws y dref

51  Mae hyn yn mynd yn groes i ymchwil sy’n awgrymu nad oes gan bobl mewn llefydd megis Port Talbot y dyhead i fod yn entrepreneuriaid neu i ddechrau busnesau (gweler dulliau ymchwil, y cyd-destun Cymreig).

41 |


ADRAN 2:

Deall yr anghydraddoldeb a’r rhwystrau y mae pobl yn eu hwynebu bob dydd mewn llefydd

| 42


Mae canfyddiad a naratifau yn anghydraddoldeb Fel yr amlinellwyd, mae lle yn fframwaith pwysig i bobl yng Nghymru i greu cysyniad am y byd y maent yn byw ynddo, ac y maent yn profi bywyd bob dydd trwyddo. Mae’n brism y mae pobl yn meddwl am bethau drwyddo, ac yn profi pethau, yn enwedig yr heriau sy’n eu hwynebu. Mae’r adran hon yn dangos y gallai rhai naratifau am le greu ymdeimlad a realiti o anghydraddoldeb eu hunain o fewn a rhwng llefydd. Mae’r ymchwil yn y tair tref yn datgelu anghydraddoldeb a rhwystrau sy’n bwysig eu deall, oherwydd eu bod yn benodol i’w profiad o le. Mae rhanddeiliaid ledled Cymru wedi ein helpu i’w deall fel rhai sy’n bodoli mewn ffyrdd tebyg neu gymharol ar draws Cymru. Mae’r anghydraddoldebau hyn yn aml wedi eu gwreiddio’n ddwfn ac yn cael effaith fawr ar y bywydau y mae pobl yn gallu eu byw.

Mae hanesion am rai o’r cymunedau wedi teimlo’n negyddol iawn gyda phobl yn teimlo eu bod wedi cael eu cysylltu gan eraill â thlodi, amddifadedd ac annymunoldeb52. Mae pobl yn ymwybodol iawn o fyw mewn ‘ardal ddifreintiedig’ trwy ddiffiniad Cymunedau yn Gyntaf er enghraifft.

Ond maent yn ddigon arwyddocaol i ni warantu trafod y canfyddiadau a’r heriau penodol sy’n seiliedig ar le yn yr adroddiad hwn.

Un mater cyfredol iawn, yn ogystal â hanesyddol y mae pobl ym Mhort Talbot yn sôn amdano, yw pryder gyda’r ffordd y mae’r ardal yn cael ei gweld gan bobl o’r tu allan, yn enwedig yng ngoleuni’r newyddion diweddar am dynged y gwaith dur. Fel y dywedodd un preswylydd, Louise:

Wrth i ni archwilio, mae llawer o wahanol ganfyddiadau am lefydd a naratifau amdanynt. Mae ein hymchwil yn canfod y gallai naratifau am le fod yn rhan arbennig o ddyrys a dylanwadol o’r profiad o anghydraddoldeb mewn lle. Mae llefydd yn cael eu hystyried mewn ffordd arbennig gan bobl o’r tu allan ac o’r tu mewn i’r ardaloedd hynny. Ym mhob cymuned mae pryder a rennir bod pobl nad ydynt yn byw yno yn aml â chanfyddiadau ohoni sy’n annheg. Gall fod canfyddiadau negyddol, ac efallai ystyrir bod y rhain yn anghyfiawn. Ar adegau maent yn ymddangos i fod yn seiliedig ar ddiffyg dealltwriaeth o realiti byw yn yr ardaloedd hynny (yn ogystal â’u llu o rinweddau ac asedau). Gallant gynnwys disgrifiadau llym o gymeriad ffisegol lle, neu nodweddion a rhinweddau’r bobl sy’n byw yno.

Er gwaethaf byw mewn ardaloedd difreintiedig yn economaidd, yn aml nid yw pobl yn rhannu’r cysyniad hwn o amddifadedd, neu ddiffyg cyffredinol, yn enwedig o ran eu bywyd cymdeithasol a diwylliannol a’u perthnasau. Ond maent yn teimlo ymdeimlad cryf o anghydraddoldeb pan maent yn meddwl am y naratifau sy’n galw eu lle nhw yn lle difreintiedig neu israddol, yn bennaf oherwydd bod ymdeimlad o hunaniaeth, yr hunan a pherthyn mor glwm gyda lle.

“Y syniad sydd gan bobl am Bort Talbot yw taw un dref ddur fudr yw hi...” Mae hyn yn arwyddocaol gan ei fod mor groes i sut mae hi’n gweld y dref: “...ac mewn gwirionedd, os ewch chi lan y dyffryn ychydig, gallwch chi weld beth sydd gyda ni. Mae’n anghywir ystyried y lle fel’na.”

52  Roedd pobl yn ymwybodol iawn o fyw mewn ‘ardal ddifreintiedig’ fel y diffiniwyd hynny gan Gymunedau yn Gyntaf, yr un modd y canfyddiad cyffredin oedd bod y cyfryngau yn eu portreadu mewn ffordd oedd yn dangos tlodi a dirywiad. Mae adroddiadau diweddar, megis yr un o’r JRF yn parhau’r naratif hwn o dlodi a dirywiad ymhellach (JRF, 2016).

43 |


Mae Louise yn teimlo’n gryf iawn bod y safbwyntiau sydd gan bobl y tu allan i Bort Talbot am yr ardal nid yn unig yn annheg, ond mewn gwirionedd yn anghywir. Roedd y bobl y buom ni’n siarad â hwy ym Mhort Talbot yn sôn am y pethau cyffrous a oedd yn digwydd yn yr ardal megis gwyliau, y celfyddydau, drama a chwaraeon ac am y modd y mae’r gymuned yn cefnogi ei gilydd gyda gweithredoedd bach bob dydd, fel rhoi biniau cymdogion allan ac ymdrechion sydd wedi eu trefnu megis drwy’r banc bwyd neu gymryd drosodd asedau cymunedol gwerthfawr. Eto i gyd roedd teimlad cyffredinol nad oedd y straeon hyn yn cael eu clywed ac nad oeddent yn cael eu cydnabod gan y cyfryngau a chan bobl sy’n gwneud penderfyniadau. Er y gall y canfyddiadau hyn ymddangos yn arwynebol, maent yn cael effaith go iawn ar y ffordd y mae pobl yn profi’r llefydd hyn a’r bywydau maent yn gallu eu byw53. Disgrifiodd un preswylydd, Amanda o Gei Connah, a oedd yn byw mewn ardal o dai cymdeithasol a elwir yn fflatiau Pen y Llan y ffordd y mae pobl yn gweld yr ardal: “Clywais un o’r adeiladwyr y diwrnod o’r blaen yn dweud ‘dyma i ti ardal ofnadwy’ pan oeddwn i fan yma. Roedd yn arfer bod yn ardal hyfryd.” Mae hi’n teimlo bod y farn hon am y lle mae hi’n byw yn gyffredin. Mae hi hefyd yn credu bod hyn yn effeithio ar y ffordd y mae pobl sy’n byw yno yn cael eu trin yn gyffredinol: “Dyw ein lleisiau ni ddim yn cael eu clywed. Mae gennym ffurflenni y byddwn ni’n eu llenwi i gwyno am broblemau tai ond mae’r swyddog tai’n dweud yn hollol agored eu bod nhw’n ‘mynd yn y bin’… Dwi’n teimlo’n flin dros lawer o bobl; mae llawer o bobl yn cymryd rhan yn yr ardal ond dydyn nhw ddim yn gwrando. Mae’r rhai sydd mewn grym, fel y swyddogion tai, yn meddwl ein bod i gyd yn ofnadwy.”

53 Mae cymdogaethau sy’n cael eu portreadu’n negyddol wedi cael eu disgrifio fel ‘pocedi tlodi’. Yn yr ardaloedd hyn gallai llai o fynediad at y farchnad swyddi, ynysu cymdeithasol, stigmateiddio, a mynediad cyfyngedig at hawliau dinasyddiaeth cymdeithasol i gyd effeithio ar gyfleoedd bywyd pobl (Van Kempen, 1997).

| 44

Mae Amanda yn sôn am ei phrofiad o gael ei hanwybyddu ar faterion sy’n bwysig iddi hi a’r diffyg effaith o ganlyniad i hyn mae hi’n teimlo sydd ganddi ar ddylanwadu ar wneud penderfyniadau yn ei hardal. Mae hi, fel eraill ar draws pob cymuned, yn gweld hyn fel canlyniad uniongyrchol i’r canfyddiadau sydd gan y rhai ‘mewn grym’ o’r lle. Mae hi’n weithgar iawn yn y gymuned leol ond mae ei theimladau ei hun am fyw yn y lle wedi cael eu newid gan ganfyddiadau y rhai o’i hamgylch a’i phrofiad o fyw drwy’r newidiadau sydd wedi digwydd yn yr ardal. Er ei bod yn ymroddedig iawn i’r lle ac yn teimlo mai yma mae hi’n perthyn, mae Amanda yn teimlo y byddai’n hoffi gadael yr ardal oherwydd sut y mae yn awr. Ond mae hi hefyd yn teimlo’n gaeth: “Dwi’n aros am na allwch chi symud. Sut ewch chi allan o fan hyn? Does gen i ddim plant ond dydw i ddim chwaith yn ddigon hen i fynd i’r blociau neu’r ardaloedd brafiach. Dywedodd un preswylydd “na allwch chi gael mynd allan o’r fflatiau hyn oni bai eich bod mewn bocs pren’ ac mae hynny’n gwbl wir.” Mae Amanda yn dweud bod pethau wedi newid yn yr ardal: bod pobl yn arfer edrych ar ôl y lle. Byddent yn tyfu pethau ac yn ceisio creu parc bach i’r plant. Eto mae hi’n teimlo nad yw pobl yn trafferthu bellach. Byddai’n hoffi gweld y pethau hyn yn digwydd eto, ond dydi hi ddim yn gwybod sut i newid diwylliant yr ardal.


Sut mae canfyddiad yn parhau anghydraddoldeb Mae pobl hefyd yn dweud y gall canfyddiad hefyd effeithio ar sut mae anghydraddoldeb yn cael ei leddfu, ei herio neu ei drin. Yn Aberystwyth, mae rhai ardaloedd fel Penparcau yn cael eu diffinio fel mannau o amddifadedd. Ond ystyrir ar y cyfan bod pobl yn llwyddo i fyw eu bywydau bob dydd yno ac nad oes arnyn nhw angen cymorth ychwanegol. Cred y gymuned fod y canfyddiad hwn wedi arwain at sefyllfa o ‘dlodi cudd’ - lle nad yw pobl yn cael eu cydnabod i fod â’r anghenion sydd ganddynt. Yn Aberystwyth mae’r broblem hon yn teimlo’n arbennig o ddifrifol. Er gwaethaf yr ansawdd bywyd uchel yr ystyrir bod Aberystwyth yn ei gynnig yn gyffredinol, mae pobl yn teimlo mai dim ond pobl sy’n byw ar lefel incwm benodol sy’n ei brofi. Yn wir, y ddealltwriaeth gyffredin yw unwaith y bydd eich incwm yn disgyn islaw’r lefel hon, bod bywyd yn Aberystwyth yn mynd yn galed iawn. I’r rheiny sy’n profi tlodi, gall deimlo fel cymdeithas ddwy haen54, un lle gall dim ond rhai pobl fanteisio ar gyfleoedd neu oroesi. Siaradodd un cyfranogwr, Sarah, a gyflogid mewn rôl gwasanaeth gan sefydliad mawr yn y dref am ei phrofiad hi o weithio mewn swydd gyda thâl isel pan oedd yn byw yn Aberystwyth. Roedd hi’n teimlo’n gryf iawn bod y cyflog isel a dderbyniai yn ei hatal rhag cymryd rhan yn y gymdeithas oherwydd ‘nad oedd hi’n gallu cadw i fyny’ gyda ffrindiau neu fynychu grŵp gan fod y rhan fwyaf o’r gweithgareddau roedd pobl yn eu gwneud yn gyffredinol yn yr ardal yn costio arian. Fe brofodd hi hyn fel ymdeimlad dwfn o anghydraddoldeb o safbwynt y gallu i gymryd rhan - y rhaniad rhwng y mwyafrif a oedd yn dda eu byd a’r rhai nad oeddent yn gallu cael mynediad at y safon uchel o fywyd a ystyrir sy’n cael ei gynnig yn Aberystwyth:

54  Mae ymchwil wedi dangos bod lles goddrychol pobl yn cael ei ddylanwadu’n negyddol yn gryfach gan incwm eu cymdogion pan fo anghydraddoldeb incwm yn uchel (Cheung a Lucas, 2016).

“Dyw e’n ddim byd i’w wneud â faint o arian sydd gyda chi, mae’n ymwneud â sut mae’n gwneud i chi deimlo. Allwch chi ddim â chael eich cynnwys mewn unrhyw beth, ond does dim byd arall. Dyhead ydy popeth i bawb; wel mae hynny’n iawn os ar ôl gweithio am 5 mlynedd y gallwch chi gyflawni rhywbeth, ond os yw’r system wedi’i stacio yn eich erbyn, eich bod wastad yn gwneud dim ond dyheu - dydych chi ddim yn hapus lle rydych chi - does dim gwerth mewn unrhyw beth rydych chi’n ei wneud. Ond does dim ots pa mor galed rydych chi wedi gweithio, wnewch chi byth mo’i gyrraedd – mae’r peth dwy haen yma’n mynd i fod yno bob amser – mae’n hollol ddigalon.” Nid yw profiad Sarah o fyw ar isafswm cyflog a chontract dim oriau yn anarferol. Fel y gwelsom yn gynharach, mae’r fam sengl Beca wrth ei bodd yn byw yn Aberystwyth ond yn yr un modd mae hithau yn ei chael yn anodd yn gweithio mewn swydd weinyddol i un o’r sefydliadau mawr: “Dydyn ni ddim yn gwneud contractau dim oriau bellach ond rydyn ni’n gwneud contractau sydd yn awr yr wythnos yn lle achos eu bod nhw lawer yn well! Mae hynny bob amser er mwyn gwasgu’r mwyaf allan o bobl am y lleiaf o arian...” Mae hi’n siarad am hyn wrth sôn am y rhenti cymharol uchel a godir yn yr ardal55: “Rwy’n credu mai tai ydy’r allwedd i bopeth ... Mae’n rhaid i chi gael cartref diogel i allu mwynhau unrhyw beth arall dwi’n meddwl. A hyd yn oed wrth gymharu â dinasoedd yn Lloegr mae’r rhenti yma siwr o fod yn isel iawn, dydyn nhw’n dal ddim yn cymharu cystal â hynny gydag incwm cyfartalog llawer o bobl. Felly, rwy’n meddwl bod hynny’n rhwystr enfawr a dydw i ddim yn meddwl y gall unrhyw un wneud unrhyw beth am y peth nes bydd rhenti yn cael eu rheoleiddio’n iawn.” Yma, mae’r rhwystr dwbl o gyflog isel a rhent uchel wrth fyw ar un incwm yn gwneud bywyd yn frwydr i Beca. Mae Beca yn ystyried ei hun yn ffodus gan fod ei landlord yn caniatáu iddi dalu’r rhent y mae hi’n gallu ei fforddio, ond mae hi’n poeni am newidiadau mewn polisi a allai wneud 55  Fel yr amlinellwyd yn y portread personol o Aberystwyth. Prisiau tai yng Ngheredigion yw rhai o’r uchaf yn y wlad (Sefydliad Tai Siartredig Cymru, 2005).

45 |


hynny’n anoddach i’w landlord ei wneud56. Dydy hi ddim yn credu y byddai hi’n gallu cael dau ben llinyn ynghyd pe na bai ganddi landlord mor hael. Er bod tlodi eithafol a chaledi yn cael eu cydnabod yn Aberystwyth, teimlid bod y rhai oedd ‘jyst yn ymdopi’ yn cael eu hanghofio. 56 Roedd Beca yn cyfeirio’n benodol at ddeddfwriaeth Rhentu Doeth Cymru sy’n ei gwneud yn ofynnol i landlordiaid gofrestru a chydymffurfio â Deddf Tai (Cymru) 2014. Roedd hi’n pryderu y byddai costau’n cael eu trosglwyddo iddi hi fel tenant neu y byddai ei landlord yn penderfynu bod yna ormod o reoliadau ac y byddai’n gwerthu’r tŷ. Meddai “Dwi jyst yn ystyried bod hyn yn newid polisi sy’n peri llawer o bryder. Ac mae wedi cael ei ddychmygu gan bobl yn y Cynulliad, neu beth bynnag y maen nhw am gael eu galw yn awr, nad oes ganddyn nhw unrhyw syniad am sut mae pethau’n digwydd ar waelod y raddfa, a sut y gallai’r peth lleiaf fel hyn fod yn drychinebus i rywun.”

Rhan allweddol o’r sylwebaeth gymdeithasol am unrhyw le o safbwynt y bobl sy’n byw yno yw pam fod tlodi cudd yn bodoli, a sut a pham ei fod yn guddiedig. Mae’r canfyddiad fod pobl yn llwyddo i ymdopi yn un agwedd sy’n egluro pam nad yw’n cael ei nodi. Ond ar gyfer y rhai mewn gwaith cyflog isel, mae yna gwestiynau hefyd am gyfrifoldeb trefniadaethol neu sefydliadol i lefydd a’r cyfrifoldebau sydd gan bawb mewn cymdeithas tuag at ei gilydd, gan gynnwys cydnabod pryd mae pobl yn wynebu heriau fel tlodi. Ymddengys fod Sarah a Beca yn gweithio i sefydliadau ag enw da ac maen nhw ac eraill yn teimlo y dylai mwy gael ei ddisgwyl gan y sefydliadau hyn i ddiogelu eu gweithwyr rhag tlodi. Mae’r heriau hyn yn codi materion ynghylch i ba raddau y dylai pobl a sefydliadau o fewn pob lle a chymuned fod â chyfrifoldeb at bawb yn y gymuned.  

Mae canfyddiad a naratif yn creu anghydraddoldeb Mae canfyddiad yn parhau anghydraddoldeb Dydy llwybrau a chyfleoedd ddim yn cyfateb Anghydraddoldeb a rhwystrau

Lle, daearyddiaeth a symudedd Llefydd a chymunedau anghynhwysol Llefydd a newid Datblygiad ‘gwneud i’

| 46


Nid yw’r llwybrau a’r cyfleoedd yn cyfateb Mae llawer o bobl y buom yn siarad â nhw ledled Cymru yn teimlo bod llai o gyfleoedd i ffynnu a bod yn hunangynhaliol yn y llefydd mae pobl yn byw nag a oedd ar un adeg. Mae heriau economaidd a chymdeithasol y mae pobl yn eu profi yn eu bywydau bob dydd hefyd yn teimlo yn arbennig o ddifrifol wrth ystyried y cyfleoedd a’r llwybrau cyfyngedig y mae pobl yn teimlo sydd ar gael iddynt yn y llefydd y maent yn byw gan fod llwybrau allan o anhawster yn gyfyngedig. Wrth lwybrau rydym yn golygu’r llwybrau y mae unrhyw un yn eu cymryd i gyflawni dyheadau megis cyflogaeth. Mae’r bobl ym mhob un o’r trefi yn teimlo’n gynyddol (ac mewn rhai achosion maent wedi teimlo felly ers blynyddoedd) eu bod yn cael llai o gyfleoedd i ‘fynd yn eu blaenau’ neu gyflawni’r hyn y maent am ei gael yn eu llefydd nag a oedd ganddynt ar un adeg. Er bod hyn yn ychwanegu at y teimlad o fyw mewn cymdeithas dwy haen, mae hefyd yn ymwneud â newid. Mae’r rhwystredigaeth yn cael ei fynegi’n arbennig o ran cyfleoedd sy’n newid o safbwynt cyflogaeth: “Mae’n gyfnod ansicr iawn. Nid oes neb yn sicr bod ganddynt swydd. Ac mae cryn dipyn o ddicter yn y gymuned oherwydd yr ansicrwydd hwnnw.” (Un o weithwyr Tata, Port Talbot) Yng Nghei Connah a Phort Talbot, bu newid mawr yn y mathau o swyddi sydd ar gael wrth i bob un o’r llefydd symud i ffwrdd oddi wrth eu prif ddiwydiant, ac eto nid yw’r llwybrau i gyflogaeth eto yn addas i arfogi pobl (yn enwedig pobl ifanc neu bobl hŷn sy’n newid swyddi) yn y sgiliau sy’n angenrheidiol ar gyfer y farchnad swyddi sy’n newid. Er bod swyddi ar gael, nid ydynt yn cyd-fynd â disgwyliadau neu hyfforddiant a chyfleoedd addysgol: “Mae gan Gei Connah goleg da ond does dim digon o brentisiaethau i’w cynnig i bobl. Mae hyn yn gwneud bywyd yn anodd iddynt barhau â’r brwdfrydedd i gyflawni eu nodau mewn bywyd.” (Gweithiwr wedi ymddeol, Cei Connah)

Y mae yna swyddi, ond teimlir nad yw’r swyddi sydd yn bodoli o reidrwydd yn addas ar gyfer y sgiliau o fewn y gymuned: “Rwy’n credu bod myfyrwyr yn aml yn caru’r lle a dydyn nhw ddim eisiau gadael, a dyna pam mae gennym gymaint o raddedigion sy’n gweithio mewn siopau coffi neu gaffis ac yn gwneud gwaith gofal. Mae cyfleoedd gwaith yn gyfyngedig iawn.” (Nyrs dan hyfforddiant, Aberystwyth) Ac maent yn aml yn talu’n wael neu’n gyfleoedd anniogel: “Maen nhw’n dal i dalu £6.20 am eu bod yn talu bonws ar ben hynny am faint maen nhw yn ei wneud neu beth bynnag, felly mae’n ei gymryd i fyny at £7.20 ond nid dyna’r cyflog maen nhw yn ei dalu iddyn nhw am eu tâl gwyliau. Am eu tâl gwyliau maen nhw’n talu £6.20 iddyn nhw.” (Gweithiwr dur wedi ymddeol, Cei Connah)57 Mewn rhai mannau, ystyrir ei bod yn anodd cael swyddi hefyd oni bai bod gennych gysylltiadau â phobl yn yr ardal, sy’n gwneud y broblem yn waeth. Mae Terry yng Nghei Connah yn credu bod “diwylliant o nepotiaeth” yn dal i fodoli mewn rhai ardaloedd sy’n chwarae rhan fawr wrth benderfynu pwy sy’n gallu, a phwy sydd ddim yn gallu dod ymlaen yn y lle hwnnw. Mae hyn yn creu ansicrwydd sylweddol. Ystyrir ei fod yn adlewyrchu’r newidiadau ehangach sy’n digwydd ledled Cymru, ond mae’n aml yn creu colled, wrth i bobl symud i ffwrdd i gael gwell cyflogaeth neu gyflogaeth addas: “Mae pethau wedi newid lle yn y gorffennol roedd llawer o swyddi oedd yn talu’n dda. Maen’n ymddangos fod rhywfaint yn llai ohonyn nhw yn ddiweddar. Mae llawer o’r cwmnïau mwy, dywedwch er enghraifft, Amazon a rhai felly yn dod i mewn lle nad yw’r gwaith mor fedrus. Mae yna lawer mwy o swyddi ar gyflog isel yn yr ardal hon bellach.” (Perchennog Busnes, Port Talbot)

57  Mewn gwirionedd mae data 2006-08 yn dangos mai’r enillion wythnosol gros ar gyfartaledd ar gyfer rhai oedd yn gweithio yn Alun a Glannau Dyfrdwy oedd tua £496. Y ffigur cyfatebol ar gyfer Cymru oedd £470. Y rhain oedd y ffigurau diweddaraf oedd ar gael (Gwasanaeth Ymchwil yr Aelodau, 2010) .

47 |


Her lle, daearyddiaeth a symudedd Mae anghydraddoldeb yn croestorri â daearyddiaeth, sy’n un o’r ffyrdd allweddol y mae lle yn brism o anghydraddoldeb. Mae daearyddiaeth a seilwaith yn nodweddion allweddol y profir lle drwyddynt, yn nhermau’r hyn sydd gan le a sut mae’n cysylltu â llefydd eraill58. Yn yr hyn sy’n dilyn rydym yn mynd ymlaen i archwilio lle teimlir bod cyfleoedd mewn llefydd yn arbennig o bwysig i’r hyn mae’n ei olygu i fyw bywyd boddhaus a llewyrchus. Er bod gan Gei Connah a Phort Talbot gysylltiadau cymharol dda â dinasoedd mawr (fel Caer, Abertawe a Chaerdydd), mae Aberystwyth yn ddaearyddol ynysig. Mae’r bobl yn Aberystwyth yn aml yn dweud bod hyn yn rhan o’r hyn sydd wedi caniatáu iddynt ddatblygu diwylliant mor fywiog, yn enwedig gyda phresenoldeb y brifysgol. Ond ar adegau lle mae angen cymorth a chefnogaeth arbenigol, gallai’r ynysu gael ei ystyried yn broblem: “Mae triniaeth iechyd meddwl yn jôc lwyr. Does dim cefnogaeth i’r teulu, ac yna mae’r broblem amlwg fod popeth mor bell, a bod angen teithio cymaint i gael help a chefnogaeth… Dyma’r eithafion o fyw mewn lle fel Aberystwyth, lle rydych chi ar ddiwedd y lein. Mae’n gallu bod yn lle delfrydol i fyw tan fod angen help arnoch chi.” Ac mae triniaeth mewn ysbyty yn fater allweddol mewn gwirionedd.” (Gweithiwr sector Treftadaeth, Aberystwyth) Ym mhob un o’r tri lle, roedd pellter daearyddol yn rhywbeth a gafodd ei restru fel rhwystr i gyflawni neu fodloni anghenion: “Un peth sy’n anodd i mi yn bersonol yw cysylltu. Mae’n gallu bod yn lle sydd dipyn yn ynysig. Mae’n ddwy awr i gyrraedd unrhyw le, gan gynnwys i weld teulu a ffrindiau. Mae trafnidiaeth yn anodd iawn.” (Gweithiwr ieuenctid, Aberystwyth)

58 Jones et al., 2014.

| 48

I rai, gallai hyd yn oed bellteroedd byr yn ddaearyddol fod yn broblem i bobl sy’n cael problemau gyda symud neu i’r rhai nad ydynt yn berchen ar gludiant preifat. Roedd un cyfranogwr, Owen, wedi bod yn ceisio dod o hyd i ddosbarthiadau pêl-droed i’w fab yng Nghei Connah a chafodd wybod ar ôl un sesiwn bod y dosbarth wedi ei ganslo ac wedi symud i Gaer: “Allwch chi ddim bob amser ofyn i bobl ar ymyl isaf y raddfa gymdeithasol sydd o dan y pwysau ariannol mwyaf, na fyddent efallai yn gallu fforddio car, neu roi petrol yn y car, i fynd i Gaer oherwydd bod eu plentyn dwy flwydd oed eisiau chwarae pêl-droed.” Ymhelaethodd ar hyn, gan awgrymu ei fod yn dangos diffyg buddsoddiad yng Nghei Connah ei hun. Mae’n teimlo nad oes digon o bobl yn gwybod am beth sydd ar gael: “Ac mae hynny i mi yn gwbl annerbyniol. Mae’n rhaid i ni fod yn hyrwyddo ein hardal eu hunain. Mae cymaint y gallwn ei wneud yng Nglannau Dyfrdwy. Rydw i am hyrwyddo mwy o gydraddoldeb cymdeithasol. Mwy o weithgareddau sy’n seiliedig ar y teulu.” Mae e’n teimlo nad yw hwn yn ddigwyddiad ynysig. Mae pobl yn cael digon pan mae gwasanaethau a chyfleoedd yn cael eu symud i’r trefi mwy, sy’n bell yn ddaearyddol, yn gymdeithasol ac yn economaidd oddi wrth yr hyn y maent yn gallu cael mynediad ato a’i fforddio.  


Mae yna rai llefydd a chyfleoedd nad ydynt ar ein cyfer ni Nid yw problemau sy’n ymwneud â theithio a symudedd yn ymwneud â phellter corfforol yn unig. Mae gan lefydd ystyr hefyd: mae rhai yn rhoi cysur a diogelwch, mae eraill yn tanseilio hynny, a gallai teithio fod yn faes pryder allweddol. Gallai’r pellter daearyddol rhwng llefydd herio ymdeimlad pobl o ddiogelwch y maen nhw yn ei werthfawrogi gymaint yn eu cymunedau eu hunain. Er enghraifft fe wnaeth Lyn, mam sengl yng Nghei Connah, dreulio rhywfaint o amser yn siarad am ei hamharodrwydd i fynd i lawr at yr afon. Er bod glan yr afon mewn gwirionedd yn rhan o Gei Connah, roedd yn brin o’r diogelwch hwnnw a deimlai mewn ardaloedd yn agosach at ei chartref. Roedd ei phrofiad ei hun o gael ei mygio beth amser yn ôl ynghyd â storïau am ddigwyddiadau tebyg yn digwydd yn yr ardal honno wedi cynyddu amharodrwydd Lyn i fynd i’r ardal hon. Er bod ei brawd hi yn dweud wrthi bod yr ardal wedi newid ac y bu llawer o ail-ddatblygu, roedd hyn yn parhau i fod yn rhwystr iddi. Mae yna hefyd raniadau diwylliannol a chymdeithasol mawr sy’n amlwg rhwng llefydd, ac sydd yn aml â gwreiddiau hanesyddol: “Os ydych yn dod o Shotton, rydych yn ‘Shotton git’. Os ydych yn dod o’r Fflint, o rydych yn dal i fod yn ‘frigging Flint’. Roedd ganddyn nhw a ddaeth yma ar droad y ganrif eu hardaloedd bach eu hunain onid oedd. Bwcle, Y Fflint, Cei Connah. Hyd yn oed yn y gwaith dur, roedd gennych chi’r melinau rholio, - roedden nhw’n gweithio tair sifft mewn cylchdro - ond byddai gan y rholiwr ei griw ei hun, i gyd yn dod o Fwcle. Byddai’r criw nesaf yn gwneud y shifft nesaf o’r Fflint, a’r criw nesaf o Gei Connah.” (Gweithiwr dur wedi ymddeol, Cei Connah) Pan wnaethon ni siarad â phobl yng Nghei Connah byddent bron bob amser yn cyflwyno eu hunain trwy dynnu sylw at yr union le yng Nghei Connah roeddent yn byw, a byddent yn aml yn siarad am eu lle yn wahanol i lefydd eraill cyfagos, er enghraifft Shotton neu Queensferry. Mae’r gwahaniaethau hyn o ran lle o fewn trefi yn cael eu teimlo’n ddwfn yn Aberystwyth, Cei Connah a Phort Talbot.

Maent yn arwyddocaol iawn yn nhermau beth mae pobl yn teimlo maen nhw, a beth nad ydyn nhw, yn gallu ei wneud. Ee enghraifft, mae David, gweithiwr cymdeithasol yn Aberystwyth yn siarad am y bobl ifanc sy’n byw allan o’r dref a sut maen nhw’n teimlo eu bod yn cael eu hallgau o’r dref. Meddai: “Does ganddyn nhw ddim gwasanaethau lleol oherwydd tybir y byddan nhw yn gallu dod i mewn i’r dref, ond y mae yna rwystrau. Mae’r rhwystrau hyn yn ffisegol, er enghraifft trafnidiaeth, ond mae yna hefyd fater o beidio â gallu ‘ffitio i mewn’. Mae addysg academaidd yn freintiedig o’i gymharu â mathau eraill o sgiliau, mae pobl nad ydyn nhw’n academyddion yn ei chael hi’n anodd cael eu derbyn i’r gymuned hon.” Yma, mae daearyddiaeth a diwylliant yn cyfuno i gau pobl allan o’r pethau sy’n cael eu cynnig iddyn nhw yn y dref ei hun. Pwynt a gadarnhawyd gan Aled, cynghorydd lleol: “Mae’n ymddangos braidd yn rhyfedd i ni bobl sy’n byw yn y dref - ond mae’r ardaloedd gwledig yn cymryd yn erbyn Aberystwyth braidd gan eu galw yn ‘townies’ cyfoethog.” Sydd bob amser yn rhyfedd i mi, ond dyna sut maen nhw yn ein gweld ni. Ac mae pobl yn Nhregaron yn ein gweld ni fel rhai sy’n cael y gwasanaethau i gyd a hwythau yn colli eu rhai nhw i gyd. Ac yn gyffredinol maen nhw’n llai cyfoethog. Mae’n anodd iddyn nhw fynd o gwmpas heb gar, felly maen nhw’n fwy dibynnol ar gar.” Mae’n allweddol deall nad yw llawer o bobl, am resymau amrywiol, yn teimlo y gallan nhw fynd i rywle arall yn hawdd iawn, heb ing neu bryder. Mae hyn mewn gwirionedd yn gwaethygu’r rhaniadau rhwng llefydd yn hytrach na’u datrys. Mae’r bobl yn Nhregaron yn gweld eu hunain yn colli gwasanaethau wrth i fuddsoddiad gael ei wneud yn Aberystwyth, yn yr un ffordd ag y mae Caer yn cael ei weld fel lle hyfyw i glwb pêl-droed, ond nid Cei Connah. Mae hyn yn ddiraddiol iawn i’r bobl sy’n byw yn y llefydd nad ydyn nhw’n gweld buddsoddi, yn enwedig yng ngoleuni pa mor bwysig yw’r llefydd i’r bobl sy’n byw yno. Mae hyn yn creu ymdeimlad o anghydraddoldeb rhwng llefydd a’r bobl sy’n byw yn y mannau hynny.

49 |


Mae’r rhaniadau hyn yn bodoli o fewn, yn ogystal â rhwng, llefydd, fel y cadarnhawyd gan Gareth, cynghorydd lleol, oedd yn byw yng Nghwmafan, rhan o Ddyffryn Afan: “Mae Castell-nedd Port Talbot yn gyngor ond maen nhw’n ddwy gymuned ar wahân. Oes, mae’n rhaid i ni ddefnyddio Port Talbot fel canolfan siopa, ond byddai’r rhan fwyaf o bobl i fyny yma yn dweud pe gallen nhw beidio â mynd i lawr yno, fydden nhw ddim yn trafferthu. Mae’r un peth yn wir am bobl ar Sandfields. Mae, unwaith eto, yn fater lleol. Oes, mae arnon ni angen Port Talbot ... Fyddwn i ddim yn dweud bod yna lawer o gysylltiad. Rydym yn mynd i lawr yno i siopa, mynd i dafarn neu glwb i lawr yno efallai, a dyna i gyd mewn gwirionedd. Fel yna mae hi, yn anffodus. Mae fy nheulu yn dal i fyw ar Sandfields. Oni bai ein bod yn mynd i lawr yno, chi’n gwybod, rwy’n dweud wrth fy chwaer ... ‘ a bydd hi’n dweud ‘O, dydyn ni ddim wedi’ch gweld chi am wythnosau,’ ac fe fydda i’n dweud wrthi hi ‘Wel, o fy nrws ffrynt i at eich un chi mae’n bum milltir.’ ‘O, dydw i ddim am fynd i fyny’r Dyffryn.” Rhaid i’r rhwystrau hyn gael eu cydnabod a dydyn nhw ddim yn hawdd i’w goresgyn. Maent yn aml wedi eu gwreiddio’n ddwfn. Mae hyn yn arbennig o bwysig am fod y rhai sy’n teimlo’r rhaniadau gryfaf yn debygol o fod y rhai sydd fwyaf agored i ddioddef o ganlyniadau’r rhwystrau hyn. Er enghraifft, gallai person di-waith yng Nghei Connah elwa o swydd yn y stad ddiwydiannol yn Garden City ond gallai wynebu mwy o heriau o ran gallu cyrraedd y swydd honno, oherwydd y rhwystr o orfod teithio ar draws y ‘bont las’59 i le sy’n teimlo’n wahanol iawn yn ddiwylliannol, na rhywun sydd eisoes yn hyderus yn ei swydd ac yn newid gyrfa.

Gall y rhwystr gael ei waethygu gan broblemau symudedd: yr her o gyrraedd y stad ddiwydiannol o ochr arall yr afon, yn enwedig os yw’r swydd yn golygu gweithio oriau afreolaidd nad ydynt mewn llawer o achosion yn cyfateb â’r dewisiadau o ran trafnidiaeth gyhoeddus. Yn yr un modd mae llawer o wasanaethau yng Nghwmafan wedi cau ac eto, fel y dangosir uchod, maent yn annhebygol o’u defnyddio ym Mhort Talbot. Mae rhai gwahaniaethau allweddol o ran dealltwriaeth o’r hyn sy’n bosibl ac sydd ddim yn bosibl i wahanol bobl o fewn pob un o’r tair ardal. Er enghraifft, ym Mhort Talbot, mae’r cynghorydd lleol, David, yn sôn am Gastell-nedd Port Talbot: “Oherwydd ein bod yn fwrdeistref sirol rydw i’n adnabod y lle fel Castell-nedd Port Talbot. Mae’n gefn gwlad mewn gwirionedd i fod yn onest gyda chi, oherwydd mae’r hyn sy’n effeithio ar bobl yng Nghastell-nedd yn effeithio ar bobl ym Mhort Talbot ac i’r gwrthwyneb.” Mae hyn yn wahanol i’r safbwynt sydd gan Mary, un o’r trigolion lleol: “Dydw i ddim yn hoffi’r ffordd y penderfynodd y Llywodraeth gau tair ysgol er mwyn eu rhoi mewn un ysgol. Yn enwedig gan fod y tair ysgol y maen nhw’n eu rhoi efo’i gilydd yn casáu ei gilydd. Mae bob amser wedi bod yn gystadleuaeth rhwng yr ysgolion ... Roedd Ysgol Gyfun Sandfields bob amser yn cael ei hystyried fel yr ysgol gyda’r plant drwg. Mae Cwrt Sart mewn gwirionedd yn Britton Ferry, ond cyn belled ag y mae’r plant eraill yn y cwestiwn Castellnedd ydy’r lle Mae’n mynd i fod yn anodd iawn. Felly gallai fod trafferth yno pan fydd yn dechrau ym mis Tachwedd ... Port Talbot yw Port Talbot (nid Castell Nedd). Rydyn ni bob amser wedi bod yn rhyw fath o diriogaethol.” (Fy mhwyslais i) I Mary, yn gysyniadol mae Castell-nedd a Phort Talbot yn teimlo fel llefydd gwahanol iawn ac mae hi’n teimlo bod angen i hyn gael ei barchu o ran darparu gwasanaethau, neu fel arall efallai na fydd pobl yn teimlo ymdeimlad o hawl i’r gwasanaethau hynny.

59 Mae’r ‘bont las’ yn bont gebl sy’n rhychwantu Aber Afon Dyfrdwy. Mae’r bont yn cysylltu’r Fflint a Chei Connah i lan ogleddol Afon Dyfrdwy, lle mae stad ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy wedi ei lleoli. Ond i lawer o bobl yn yr ardal mae’n cael ei gweld fel rhwystr na fyddent yn dymuno ei groesi.

| 50


Astudiaeth achos - addysg ym Mhort Talbot Un enghraifft o heriau’r llwybrau sydd ar gael yw’r her o ddilyn addysg bellach ym Mhort Talbot. Gwasanaethir Port Talbot gan Academi Chweched Dosbarth Castell-nedd Port Talbot sydd â champws ym Margam. Er bod campws Margam yn cynnig ystod o gyrsiau galwedigaethol, nid yw myfyrwyr yn gallu astudio pynciau Safon Uwch yno. Os bydd myfyriwr yn dymuno dilyn eu pynciau lefel A, yna mae’n rhaid iddynt deithio i Gastell-nedd i wneud hynny. Mae hyn yn broblem am bob un o’r rhesymau a ystyriwyd yn adran 2. Rydym wedi gweld bod yna raniadau cryf rhwng Port Talbot a Chastell-nedd, sy’n debygol o gael eu teimlo yn gryf iawn pan fydd person ifanc yn dechrau ar ei bynciau lefel A yn 16 oed. Mae hyn yn gwaethygu’r rhwystrau presennol y gallai pobl ifanc eu hwynebu wrth ddechrau ar addysg bellach. Yn yr un modd, mae’r pellter daearyddol yn broblem sylweddol i lawer o fyfyrwyr sy’n teithio o Bort Talbot. Fel y disgrifia Matthew, un o bobl ifanc yr ardal: “Yr unig bynciau Lefel A sy’n cael eu cynnig yn agos yw yng Nghastell-nedd. Ac mae’n daith bws 40 munud. I gael y bws o fy nhŷ i i fynd i Goleg Castell-nedd byddai’n rhaid i mi gael y bws o fy nhŷ i i’r orsaf fysiau, sydd tua ugain munud ac yna bws o’r orsaf fysiau. Dyna ddigwyddodd i fy chwaer a ddechreuodd wneud Lefel A yng Nghastell-nedd ym mis Medi. Dim ond hyn a hyn o lifftiau y gallwch eu rhoi i rywun, mae fy rhieni yn rhoi lifftiau ond mae’r ddau yn gweithio, mae fy mam-gu a fy nhad-cu yn trio rhoi lifftiau, ond dim ond hyn a hyn o lifftiau y gallwch eu rhoi i rywun. Allwch chi ddim rhoi lifftiau iddi bum diwrnod yr wythnos. Ac yn y diwedd fe roddodd y gorau i’r cwrs gan nad oedd hi’n mynd yno ddigon ... Tra roeddwn i’n gallu cerdded os oeddwn i eisiau a chymryd chwarter awr. Roeddwn i’n arfer mynd ar y bws, a oedd yn cymryd tua thri munud, neu yn beicio. Ond roedd hynny yn fy nhref i. Dwi’n gwybod mai Castellnedd, Port Talbot ydy e, ond mae’n dref ar wahân i Bort Talbot ac mae’n dipyn o bellter i ffwrdd.” Eglurodd Matthew yn ddiweddarach y byddai wedi hoffi gweld buddsoddiad yng Nghampws Margam fel y gallai gynnig cyrsiau Lefel A. Y dybiaeth sylfaenol yw bod angen i bobl ifanc sydd am ddilyn addysg bellach adael yr ardal.

Mae gwahaniaethau barn a symudedd yn awgrymu sefyllfa gymhleth nad yw’r ymchwil hwn wedi gallu ei datrys yn llawn60. Yr hyn sydd fwyaf amlwg yw nad yw’r rhain yn llefydd niwtral; maen nhw’n golygu rhywbeth i bobl mewn ffordd, os nad yw’n cael ei deall, a allai danseilio ymdrechion i wella bywydau pobl, ac o bosibl greu anghydraddoldeb o’i ran ei hun.  

60  “No change in landscape or cityscape will ever be free of conflict or opposing views” (Vanclay, 2008).

51 |


Mae ein llefydd yn newid Mae pryder am newid hefyd yn rhan gref iawn o hunaniaeth a lle. Mae’n annifyr pan fydd y pethau y mae balchder a hunaniaeth yn pwyso arnynt yn newid neu’n teimlo dan ymosodiad. Mae newidiadau mewn cyflogaeth leol yn arwain at newid cymdeithasol sy’n gwneud i bobl symud: “Rydych wedi gweld, dros y blynyddoedd, wahaniaeth yn yr ardal, y dref ei hun. Y dyddiau hyn, ydyn, mae pobl yn symud, ond pan oeddwn i’n blentyn nid felly oedd hi.” (perchennog busnes, Port Talbot) Ym mhob man, mae symud i ffwrdd am gyfleoedd gwell wedi dod yn un o ffeithiau bywyd: “Bydd y rhan fwyaf o bobl ifanc yn ôl pob tebyg yn gadael yr ardal. Nid dim ond y dref ond yr ardal gyfan. Ac mae hynny bron yn cael ei gymryd yn ganiataol, nad oes bosibl iddo fod yn dda i unrhyw le.” (Cynghorydd, Aberystwyth) Eto mae ffurfiau newydd o gyflogaeth hefyd yn dod â phobl newydd i mewn: “Rwy’n credu ym Mhort Talbot, flynyddoedd yn ôl, roedd pobl yn cael eu cyflogi’n bennaf gan y gwaith dur. Mae llawer o fusnesau bach o gwmpas, ond roedden nhw’n dibynnu ar y gwaith dur. Felly, dwi’n meddwl, rydyn ni ar goridor yr M4, wrth i swyddi ddiflannu o ardal Port Talbot mae pobl wedi gorfod teithio. Wedyn rydych chi’n tueddu i gael pobl nad ydyn nhw’n naturiol o’r ardal yn dod i’r ardal gan ei bod yn llawer rhatach prynu tŷ ym Mhort Talbot nag y mae yng Nghaerdydd ... Felly mewn gwirionedd, lle roeddech yn arfer cael pawb o Bort Talbot ac yn lleol, mae gennych chi lawer o bobl o du allan i’r ardal sy’n cael eu cludo i mewn. Felly mae gennych chi bobl yn dod i mewn gyda gwahanol nodweddion, gwahanol ffrindiau, gwahanol deulu.” (Swyddog Diogelwch Cymunedol, Port Talbot)

| 52

Dywedodd pobl yng Nghei Connah a Phort Talbot eu bod wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer y bobl sy’n byw yno sy’n cymudo i fannau eraill dros y 30 mlynedd diwethaf. Ar draws pob cymuned roedd pobl y buom yn siarad â nhw yn teimlo bod rhai o werthoedd cadarnhaol eu llefydd yn mynd ar goll wrth i’w cymunedau newid: “Rydw i wedi cael fy ngeni a’m magu yn y Cei, ond mae’n edrych fel nad oes cymaint o bobl dych chi yn eu ‘nabod o gwmpas bellach, sydd o’r Cei ei hun.” (Trafodaeth grŵp cymunedol, Cei Connah) “Roedd y gymuned yn Sandfields yn arfer bod yn agosach. “Roeddwn i’n adnabod fy nghymdogion, ond mae hynny wedi mynd.” (Gwirfoddolwr, Port Talbot) Mae newid nid yn unig yn anghysurus i rai ond mae hefyd yn codi cwestiynau ynghylch a fydd gan bobl eraill yr un normau cymdeithasol a’r un gwerthoedd: “Mae’r gofalu am ein gilydd wedi mynd allan o’r dref. Dwyt ti ddim yn meddwl, [enw]? Does neb yn gofalu am ei gilydd. Roedden nhw arfer gofalu am ei gilydd, mae hynny wedi mynd o’r dref dwi’n meddwl.”(Grŵp ffocws, tai’r henoed, Aberystwyth) Ym mhob un o’r llefydd, teimlai pobl fod llai o ymdeimlad o gymuned glos nag yr arferai fod, er ei bod yn agwedd werthfawr o’u profiad o’u llefydd nhw. Mae’r profiad hwn o newid, er ei fod yn cael ei gydnabod fel rhan o fywyd yn y trefi hyn, ac mewn rhai ffyrdd yn cael ei ystyried fel rhywbeth sy’n eu gwella, hefyd yn cael ei ddeall fel rhywbeth sy’n bygwth ymdeimlad pobl o hunaniaeth a pherthyn, a gallai greu ofn: “Dw’n i ddim. Mae rhai pobl - nid fi yn bersonol - wedi sôn am siopau Pwylaidd yn cael eu hagor a sut maen nhw’n teimlo dan fygythiad. Fel arfer mae torfeydd mawr o’r bobl o Wlad Pwyl o gwmpas ac yn amlwg i bobl fel yr henoed a phethau pan maen nhw’n mynd allan dydyn nhw ddim yn teimlo eu bod yn gyfforddus i fynd a cherdded i lawr yno.” (Preswylydd lleol, Cei Connah)


Weithiau mae’r ofn hwn yn seiliedig ar brofiadau o anhawster, er enghraifft roedd achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn aml yn cael eu trafod yng Nghei Connah gan gynnwys cyfres o ddigwyddiadau treisgar difrifol a oedd wedi digwydd o gwmpas ardal Pen y Llan. Er bod y profiadau hyn yn peri i bobl sydd wedi bod yn byw mewn ardal am amser hir deimlo gwrthdaro, mae modd i’r gwerthoedd cadarn sydd ynghlwm wrth le ac amser hefyd gael eu profi fel math o anghydraddoldeb i’r rhai sy’n newydd: y rhai sydd eisiau perthyn ond sydd ddim yn teimlo y gallant wneud hynny, neu nad ydynt yn teimlo eu bod yn cael eu cynnwys yn y llefydd lle maen nhw wedi dewis byw. Er bod pobl yn aml yn honni eu bod yn groesawgar tuag at newydd-ddyfodiaid, mae’r ymglymiad â hanes a’r gwerth a roddir ar fod o ardal arbennig yn golygu y gallai hyd yn oed y rhai sydd wedi byw mewn lle am amser hir ddal i gael eu gwneud i deimlo fel rhywun o’r tu allan61: “Ryn ni wedi bod yma 40 mlynedd nawr ac ryn ni’n dal yn bobl o’r tu allan i rai pobl!” (Preswylydd lleol, Cwmafan, Port Talbot) Mae Rosie, un o breswylwyr Aberystwyth wedi gweithio’n galed i gymryd rhan, gan nodi angen i siarad Cymraeg a meithrin ei pherthnasau. Ond mae hyn yn waith hynod o galed, sy’n gofyn am lefel o gyfalaf cymdeithasol a symudedd cymdeithasol a allai fod yn anodd i bobl eraill.

Gall ymdeimlad o berthyn yn fregus i rywle greu ymdeimlad o ansicrwydd. Mae’r syniad o fod ‘yn wirioneddol’ yn rhan o rywle neu’n rhywun sydd y tu allan yn gysyniad sy’n ymddangos i fod yn eithaf amlwg ym mhob un o’r tair tref, ac roedd yn dangos yr anawsterau sydd ynghlwm wrth le; y gall gwerthoedd cymuned a rhwydwaith sy’n seiliedig ar berthnasau a pherthyn fod yn waharddol neu yn creu rhaniadau. Gall effeithio ar y ffyrdd y mae’r rheiny nad ydynt yn teimlo eu bod yn perthyn yn gallu cymryd rhan ym mywydau eu trefi62: “Os ydych yn ymwelydd, a dwi’n dosbarthu fy hun fel ymwelydd am fy mod yn byw y tu allan i Aberystwyth, dych chi ddim yn gwybod beth sy’n mynd ymlaen. Er enghraifft, dwi’n clywed pobl yn dweud eu bod wedi bod i fyny i Gaffi Canolfan y Celfyddydau, ond fyddwn i ddim yn meddwl ei fod yn lle i ni fynd.” (Gweithiwr y sector ieuenctid, Ceredigion) Mae’r ymdeimlad o lefydd anghynhwysol a pherthyn hefyd yn effeithio ar bobl sy’n agored i niwed: “Dwi’ methu dod o hyd i le na phethau i’w gwneud yma. Mae pobl yn garedig, yn barchus, yn gwrtais. Ond ni allwn wneud ffrindiau. Rydyn ni’n aros gyda’n gilydd, rydyn ni’n mynd i dŷ ‘[enw] … Mae pobl yn gwrtais, ond maen nhw’n gaeedig.” (Ffoadur, Aberystwyth)

“Rwy’n fewnfudwr o Loegr, rydw i wedi dysgu Cymraeg a dwi’n teimlo fod fy mherthynas ag eraill yn gwneud i mi berthyn yma. Mae hynna’n beth bregus, onid yw e? Perthyn i rywle ... fel rhywun o’r tu allan.”

61  Tynnwyd sylw at y ffaith, yng nghyd-destun hunaniaeth Gymreig, fod y syniad hwn o rywun o’r tu allan neu “ddieithryn” yn gysyniad newidiol, fel nad yw bod yn ddieithryn mewn un cyd-destun o reidrwydd yn gwneud rhywun yn ddieithryn mewn un arall (Frankenberg, 1957, t. 19).

62  Mae hanes hir o grwpiau dominyddol mewn cymdeithas yn credu eu bod rywsut yn uwchraddol i fewnfudwyr, gan sefydlu naratifau sy’n ychwanegu at anghydraddoldeb (Elias a Scotson, 1994).

53 |


Datblygiad sy’n ‘cael ei wneud i bobl’ Yn ogystal ag ymdopi â chanfyddiadau a naratifau negyddol am y llefydd lle maent yn byw, a newid economaidd-gymdeithasol nad yw’n ymddangos fel pe bai o fudd iddyn nhw neu’n achosi colled, gall ystyr lle esbonio’r ffordd y mae pobl yn ystyried penderfyniadau a pholisi datblygu sy’n digwydd yn eu hardaloedd. Mae yna ymdeimlad o golli rheolaeth dros y modd mae llefydd yn newid a theimlad cyffredinol nad yw newid pwrpasol, ‘datblygiad’, yn deall anghenion y gymuned. Teimlir pan mae datblygiad yn digwydd, ei fod am resymau negyddol neu heb gefnogaeth neu gyfraniad gan y gymuned. Mae yna hefyd synnwyr y gallai datblygiad elwa rhai ac nid eraill. Fe wnaethom ystyried yn gynharach sut mae pobl yn Aberystwyth, Cei Connah a Phort Talbot yn teimlo mai’r unig gydnabyddiaeth a gânt fel llefydd yw cydnabyddiaeth negyddol. Maent yn credu bod y ffordd y mae buddsoddiad yn cael ei wneud yn atgyfnerthu’r naratif negyddol hwn. Un enghraifft o wneud penderfyniadau sy’n pwysleisio’r gydnabyddiaeth negyddol hon yw lle mae cyllid wedi cael ei roi ar waith, y gallai ganolbwyntio ar bethau negyddol. Yn fflatiau Pen y Llan yng Nghei Connah mae’r blociau wedi cael eu codio mewn gwahanol liwiau fel eu bod yn haws i’w hadnabod mewn achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae’r penderfyniadau hyn yn canolbwyntio ar y problemau a wynebir yn y lle hwn. Yn fwy cyffredinol, er bod ffocws Cymru gyfan ar ardaloedd o amddifadedd lluosog yn cael ei gydnabod gan lawer i fod yn offeryn defnyddiol ar gyfer blaenoriaethu cyllid, mae yna ymdeimlad fod y ffordd y mae’n categoreiddio ardaloedd yn ardaloedd ‘difreintiedig’ neu ‘ddim yn ddifreintiedig’ yn gallu eu tanseilio. Mae pobl yn aml yn ymwybodol iawn o fyw mewn ardal ‘Cymunedau yn Gyntaf’. Gall y math hwn o gyllid hefyd fod yn ymrannol, wedi’i deilwra at anghenion ystadegol canfyddedig yn hytrach na’r hyn y mae pobl yn meddwl sy’n ddyledus iddyn nhw.

| 54

Efallai y bydd pobl yn y llefydd sy’n cael eu labelu fel rhai ‘ddim yn ddifreintiedig’ yn credu bod y dynodiad hwn yn anwybyddu cymhlethdod eu hardaloedd, er enghraifft, fel y cyfeiriwyd ato gennym yn gynharach, tlodi cudd. Mae pobl yn yr ardaloedd hyn yn dal i brofi anghydraddoldeb ond rhoddir llai o gydnabyddiaeth i’w problemau. Er enghraifft, soniodd y cynghorydd lleol ar gyfer Baglan am gwynion yr oedd ef yn eu derbyn ynghylch dileu gwasanaethau bws o’r ardal: “Baglan yn benodol, dwi wedi gwneud arolwg ar y lle ... poblogaeth Baglan, mae nifer y ceir ar gyfartaledd yn 2.8 y teulu. Nawr mae hynny’n nifer uchel o geir y pen o’r boblogaeth yn tydi? Felly, gallwch chi ddeall yr anhawster y byddwn yn ei gael wrth geisio esbonio i aelodau’r cyhoedd nad oes ganddyn nhw gar pan fydda’ i’n troi rownd a dweud, dych chi’n byw ym Maglan, mae’n ardal led-gefnog. Mae’r sefyllfa trafnidiaeth gyhoeddus yn anodd oherwydd dydy pobl ddim yn defnyddio’r gwasanaeth ... Felly, trïwch chi esbonio hynny i aelod o’r cyhoedd, mae’n anodd.” Mae’r profiad hwn i’w ystyried gyda’r rhwystrau a’r anghydraddoldeb a nodwyd yn gynharach, gan gynnwys yr anawsterau a wynebir yn Aberystwyth gan y rhai sy’n byw ar gyflog isel, a phrofiad ardaloedd gwledig yn colli buddsoddiad gyda’r dybiaeth y byddant yn elwa o fuddsoddiad mewn canolfannau trefol cyfagos. Mae’r buddsoddiad mewn ardaloedd difreintiedig yn cael ei groesawu, ond mae yna ymdeimlad bod rhaid i chi er mwyn cael mynediad at yr arian hwn bwysleisio agweddau negyddol lle yn hytrach na dathlu gwerthoedd a gweithredoedd cadarnhaol. Mae’r ffordd y mae buddsoddiad yn cael ei wneud yn cael ei ystyried fel rhwystr i’r rhai sydd am weithredu’n gadarnhaol yn eu cymunedau: “Roedd pwyslais cryf iawn ar faterion ariannu yn y gymuned. Rwy’n credu bod hyn yn cael ei deimlo fel rhwystr mawr gan lawer o bobl. Yr hyn sydd wedi dod drosodd eto yw nid nad oes parodrwydd yn y gymuned, neu hyd yn oed bod yna ddiffyg gweithredu gan aelodau o’r gymuned; ond yn hytrach bod rhai rhwystrau gwirioneddol y mae’r rhai sy’n weithgar yn dod i fyny yn eu herbyn. Mae’r rhwystrau hyn wedi eu clymu i mewn gyda gwleidyddiaeth leol a chenedlaethol a gallant fod yn anodd eu taclo.” (Sylw ymchwilydd cymunedol, Port Talbot)


Mewn gwirionedd y teimlad cyffredinol yw drwy osod y mathau hyn o agendâu ar gyfer newid mewn ffordd sy’n seiliedig ar broblemau, bod datblygiad sy’n seiliedig ar y farchnad neu ar bolisi wedi cael ei ‘wneud i’ bobl mewn ffordd sy’n atgyfnerthu’r naratif dominyddol, negyddol o’u llefydd, a amlinellwyd yn gynharach. Yn ein hymchwil, o fewn y tair tref a gyda llunwyr polisi ac actorion ar lefel Cymru gyfan, roedd ymdeimlad cyffredinol o anfodlonrwydd gyda’r ffordd yr ymdriniwyd â datblygiad mewn ffordd a ystyrid i raddau helaeth oedd ‘o’r brig i lawr’. Mae pobl yn teimlo: “Does dim ots beth wnawn ni, mae penderfyniadau’n cael eu gwneud beth bynnag.” Mae hyn yn arbennig o wir ym Mhort Talbot lle mae pobl wedi cael yr hyn y maent yn ei ddisgrifio fel profiad ‘stopio a chychwyn’ o ddatblygiad. Roedd buddsoddiadau a wnaed yn aml wedi cael eu gadael ar eu hanner, weithiau gan adael arwyddion gweladwy iawn o’r datblygiad oedd wedi methu. Er enghraifft, wrth gerdded o gwmpas yr ardal dangoswyd i ni safle adeiladu yn Burrows Yard yn Aberafan. Roedd y gwaith ar y safle hwn wedi cychwyn yn 2007, ond stopiodd yn 2008 pan wnaeth y tenant, cadwyn archfarchnad, dynnu allan. Mae wedi aros fel strwythur wedi’i hanner adeiladu ers yr adeg hon, ac mae’n cael ei ddisgrifio fel ‘hyll’ gan drigolion lleol. Yn yr un modd, nid yw datblygiad sydd wedi digwydd yn aml yn cael ei weld fel rhywbeth sy’n canolbwyntio ar anghenion y gymuned. Fel y dywedwyd wrthym gan Chris, a oedd yn arwain y daith o gwmpas yr ardal: “Nid yw’r cynllunio’n arbennig o addas i’r gymuned nac yn arwain at unrhyw falchder yn yr ardal.” [Gan gyfeirio at Sandfields]

Symbol amlwg o hyn yw datblygiad y ganolfan hamdden ar y traeth yn Aberafan. Ystyrir bod y strwythur hwn yn disodli’r Lido, a oedd yn ased cymunedol gwerthfawr63. Er ei fod yn cael ei groesawu gan bobl ym Mhort Talbot, nid ystyrir bod y ganolfan hamdden newydd yn ymgorffori gwerthoedd y Lido. Wrth adeiladu’r ganolfan, cafodd ffens dal ei hadeiladu rhyngddi a Stad Sandfields, y gymuned yr honnir y mae yn ei gwasanaethu. Mae hyn yn cael ei weld fel symbol clir o waharddiad ar gyfer y rhai sy’n byw ar ochr arall y ffens hon. Mae diffyg cysylltiad tybiedig rhwng datblygu, ac anghenion a dymuniadau’r gymuned yn fwyaf gweladwy ym Mhort Talbot. Ond mae yna ymdeimlad o ddiffyg cysylltiad tebyg yn Aberystwyth a Chei Connah. Er enghraifft siaradodd Barri, gweithiwr dur wedi ymddeol yng Nghei Connah, am y datblygiad tai a oedd wedi digwydd yn yr ardal yn ystod ei fywyd: “Byddwn yn dweud rywle o gwmpas 1960. Fe wnaethon nhw ddechrau adeiladu yma, anghredadwy! Fe wnaethon nhw adeiladu tai lle na ddylen nhw fod wedi adeiladu tai. Achos fel plant roedden ni’n gwybod bod yma naill ai’n gorsydd neu fod yna nentydd yn mynd trwy’r tir. Ond dal i godi tŷ wnaethon nhw ac yna methu deall, ddwy flynedd yn ddiweddarach pam fod y tir wedi llithro. Roedden nhw’n meddwl y gallen nhw adeiladu ar unrhyw dir. A dyna beth wnaethon nhw. Ym mhob man. Mae Cei Connah ... wedi mynd bymtheg, ugain gwaith yn fwy. Ac mewn cyfnod byr o amser. Dach chi’n siarad am hanner can mlynedd...” Mae Cei Connah wedi gweld llawer iawn o ddatblygiadau tai dros y 60 mlynedd diwethaf ac, wrth i chi deithio o gwmpas y dref, mae’n bosib gweld sut mae hyn wedi cyfrannu at y rhaniadau daearyddol y teimlir sy’n bodoli. Ystyrir bod datblygiad tai yn un o’r ffactorau sy’n cyfrannu at danseilio cymuned yn y dref. Mae yna ystadau wedi’u dynodi’n glir sy’n darparu ar gyfer gwahanol bobl, heb ganolbwynt i’r cymunedau gwahanol hyn ddod at ei gilydd. Yn yr un modd, yn Aberystwyth, mae yna ymdeimlad bod yna lawer o ddatblygiad yn digwydd ond nad yw’n sensitif i werthoedd y gymuned:

63 Cafodd yr Afan Lido ei dinistrio gan dân yn 2009.

55 |


“Mae datblygiad yn enghraifft wych. Mae llawer o ddatblygiad gwael yng Ngheredigion. Ond nid yw datblygiad ynddo’i hun yn beth drwg. Rwy’n credu mai ansawdd y datblygiad ydy’r broblem ... a sut maen nhw’n llwyddo i gael caniatâd i wneud hynny? Dydw i ddim yn deall. Fe hoffwn i pe gallem ddenu datblygiad o ansawdd llawer gwell.” Ym mhob un o’r tair tref, roedd datblygiad yn cael ei weld fel rhywbeth a oedd wedi’i ddatgysylltu oddi wrth anghenion a dymuniadau’r bobl leol sydd, er gwaethaf eu hymlyniad cryf i’r ardaloedd hyn, yn teimlo mai ychydig iawn o effaith y gallent ei gael ar y penderfyniadau a wneir am eu trefi. Un enghraifft o’r ffordd yr ystyrir bod y broses o wneud penderfyniadau yn annheg ac yn wahaniaethol rhwng llefydd yw profiad yr arbrawf o gau Cyffordd 41 traffordd yr M4 gan bobl ym Mhort Talbot. Roedd yr arbrawf yn golygu cau’r ffordd ymadael tua’r gorllewin (ym Mhort Talbot) yn ystod amserau brig am gyfnod o ychydig dros flwyddyn. Roedd hyn yn cael ei ystyried gan bobl sy’n byw yn y dref fel penderfyniad gwahaniaethol:

| 56

“Pan gaeon nhw’r allanfa i’r M4 fe wnes i feddwl ‘O’r argol, mae’r un dref sy’n dioddef waethaf dan graith yr M4 yn methu â defnyddio’r M4’. A thra bod sôn amdano fel mater o ddiogelwch, oni ddylech chi felly gau pob un gyffordd o gwmpas Caerdydd a Chasnewydd am fod y rheiny hefyd yn mynd yr un mor brysur â thagfeydd. Ond na, fasen nhw byth yn meiddio gwneud hynny, ond mae modd gwneud i Bort Talbot. Pam hynny?” (Peiriannydd, Port Talbot) Mynegodd pobl ddicter a gofid bod y penderfyniad hwn wedi ei wneud heb ymgynghori priodol ac roedd yn eu gadael yn teimlo bod Port Talbot mewn perygl o fod yn “dref farw”.  


Pwy sy’n gallu gwneud i newid ddigwydd? Mae penderfyniadau yn cael eu gwneud i ni, nid gyda ni Mae’r profiadau hyn o ddatblygu a buddsoddi wedi cyfrannu at y teimlad bod yna ddatgysylltu sylweddol rhwng y rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn y tair tref a’r rhai sy’n cael eu heffeithio gan y penderfyniadau hynny. Mae pobl yn y tair tref yn aml yn sôn am y ‘nhw’ fel y bobl a wnaeth benderfyniadau am eu trefi. Fel y dywedodd Cate, merch yn ei harddegau ym Mhort Talbot am ailddatblygu safle’r Lido: “Dwi jyst yn aros i weld beth maen nhw’n ei wneud yno. Ar hyn o bryd mae gen i olygfa wych ac mae’r machlud yn wirioneddol hyfryd, dydw i ddim isio fflatiau.” [Fy mhwyslais i] Ystyrir bod rhai grwpiau o bobl yn dod yn rhai sy’n gwneud penderfyniadau ac mae llawer o bobl yn y dref yn teimlo nad yw hyn yn gynrychioliadol: “Does yna ddim cynghorwyr ifanc. Maen nhw yn cael y cyfarfodydd hyn i fyny yn y cyngor ac maen nhw o genhedlaeth hŷn, felly mae’r hyn maen nhw isio i Bort Talbot fod yn wahanol i’r hyn dwi’n meddwl y dylai fod. Dydw i ddim yn meddwl y dylai fod yn dref ymddeol.” (Preswylydd lleol, Port Talbot) Mae’r datgysylltu hwn yn creu problemau oherwydd ei fod yn seiliedig ar ddiffyg ymddiriedaeth bod y bobl sy’n gwneud y penderfyniadau yn gweithredu er lles gorau’r rhai y maent yn gweithredu ar eu rhan. Mae pobl yn rhannol yn priodoli hyn i brofiadau hanesyddol o benderfyniadau sydd wedi effeithio’n negyddol ar fywydau pobl yn y tair ardal, yn arwyddocaol i rai yn creu colled ac ymdeimlad o ddadrymuso. Fel y disgrifiodd ymgyrchydd lleol ym Mhort Talbot, mae’r syniad hwn o golled na ellir ei atal wedi bod yn mynd ymlaen am amser hir: “Mae yna hanes hir o anfodlonrwydd gyda’r cyngor lleol a’r math yna o beth. Rydych yn cael hynny ym mhobman, dwi’n gwybod hynny, ond, chi’n gwybod, fe gawson ni ganol y dref wedi ei dymchwel yn llwyr yn yr 1970au. Lle mae’r ganolfan siopa yn awr ... Roedden ni’n arfer bod â chanol tref gyfan a dwi’n golygu cannoedd o dai a siopau a strydoedd a marchnad a neuadd y dref. Cafodd yr holl beth, y cyfan ei fflatio’n llwyr ac fe wnaethon nhw adeiladu’r ganolfan siopa yno.”

Mae yna hefyd gwestiynau am sut y cafodd penderfyniadau eu gwneud sydd wedi creu diffyg ymddiriedaeth hanesyddol a phryder ymysg y gymuned: “…roedd yna bob math o fargeinion amheus a llwgrwobrwyo ac aeth pobl i’r carchar, cynghorwyr a hynny i gyd yn ôl yn y cyfnod hwnnw. Cafodd y draffordd ei hadeiladu. Yn amlwg, roedd llawer o bobl yn ypset am hynny. Cafodd y tai i gyd eu dymchwel a, chi’n gwybod, roedd yna bentref bach ym mhen draw Margam a gafodd ei ddymchwel a phob math o bethau felly.” Mae hyn yn cael effaith ddinistriol ar sut mae pobl yn teimlo y gallant ymgysylltu â phrosiectau seilwaith a datblygu, ac mae’n ymdeimlad parhaus a rennir yn gymdeithasol ac ar lefel y gymuned: “Felly, mae pobl dros oedran arbennig, rwy’n meddwl eu bod nhw jyst wedi cael llond bol ac maen nhw wedi rhoi i fyny. Maen nhw’n meddwl, ‘O wel, chi’n gwybod, maen nhw wedi cymryd hwn i ffwrdd, maen nhw wedi cymryd y llall i ffwrdd a fedren ni wneud dim am hynny ... Rwy’n meddwl eu bod wedi rhoi i fyny, yn sicr pobl hŷn, ac mae hynny, rywsut, yn effeithio ar bobl iau hefyd.” (Ymgyrchydd Lleol, Port Talbot) Ni ellir goresgyn yr ymdeimlad cyffredinol hwn o ddadrymuso drwy gynnal ambell ymgynghoriad achlysurol. Mae’r gagendor sy’n bodoli rhwng rhai sy’n gwneud penderfyniadau a phobl leol yn hanesyddol ac yn seiliedig ar brofiadau penderfyniadau sydd wedi atgyfnerthu stereoteip negyddol o’u trefi y maen nhw wedi buddsoddi’n gryf ynddynt. Maen nhw yn naratifau sy’n rhagnodol yn gymdeithasol am bwy sy’n gallu gwneud beth, ac maen nhw’n rhan o brofiad sydd wedi ei fyw. Byddwn yn mynd ymlaen i adolygu sut mae pobl yn cymryd nifer o gamau gweithredu ar wahanol raddfeydd i wneud bywyd yn well ar gyfer eu cymunedau. Fodd bynnag, mae llawer yn teimlo o ganlyniad i’r hyn yr ydym wedi ei adolygu uchod bod angen i’r diwylliant polisi newid i gefnogi, meithrin, a helpu i roi graddfa briodol i’r camau hyn.

57 |


ADRAN 3:

Beth mae pobl yn ei wneud yn y llefydd y maent yn byw a pham, a beth maent ei eisiau ar gyfer y llefydd y maen nhw’n byw ynddynt

| 58


Yn yr hyn sy’n dilyn, rydym yn archwilio ffyrdd y mae pobl yn gweithredu i newid eu cymunedau ac rydym yn cyffwrdd yn fyr â’r ffactorau y mae cymunedau wedi myfyrio arnynt a’u hystyried i helpu a llesteirio eu lle eu hunain neu eu hymdrechion i geisio gwneud newidiadau yn seiliedig ar y gymuned. Mae’r myfyrdodau hyn wedi helpu i greu argymhellion sydd wedi dod o drafodaethau gyda chymunedau ac sy’n deillio o’r ymchwil hwn.

Mae rhai o’r materion hyn yn gymhleth - gan gyffwrdd ar faterion adnabyddus ynghylch cyfalaf cymdeithasol, symudedd cymdeithasol a dilysrwydd i weithredu yn y byd gyda hygrededd.

Fel y datgelodd adran 1, ar draws pob cymuned mae yna bobl sy’n gweithio i herio anghydraddoldeb canfyddedig neu i greu ffyrdd eraill o wneud pethau mewn byd sy’n ymddangos fel pe bai’n newid o’u hamgylch.

Nid yw’r pethau y mae pobl yn ei wneud o reidrwydd yn ymwneud â chreu newid ar raddfa fawr, ond maent yn canolbwyntio yn aml ar frwydro yn erbyn colled a chreu dyfodol amgen a chynaliadwy. Maent yn aml yn anelu at gynorthwyo pobl i aros wedi eu gwreiddio mewn ymdeimlad o le, yn hytrach na bod yn seiliedig ar y rhagdybiaeth o orfod gadael i chwilio am gyfleoedd ystyrlon.

Ond fel y dangosodd diwedd adran 2, mae llawer o bobl yn teimlo, er eu bod yn ceisio gwella bywyd y cymunedau y maent yn byw ynddynt, nad ydynt yn teimlo y gallant fwydo i mewn i benderfyniadau sy’n effeithio ar eu cymunedau gyda grym llawn eu bwriad neu eu parodrwydd i helpu.

Serch hynny, mae pobl yn dal i weithio’n galed, gan gymryd camau i gefnogi pobl eraill yn eu cymuned, a chreu newidiadau ystyrlon ac unigryw i’r hyn sy’n ymddangos fel problemau cymdeithasol dwfn a heriau.

Mae llawer o’r camau gweithredu hyn yn anffurfiol ac nid ydynt o reidrwydd yn cael eu hystyried fel gyrwyr newid, ond fel dim ond ‘pethau rydyn ni yn eu gwneud’ neu, gan bobl y tu allan, yn enwedig ym Mhort Talbot, fel ‘dim ond ymdopi’.

Herio colled Creu cymuned a pherthyn Gweithredu cymunedol Gwneud gyda’n gilydd Creu dewisiadau cynaliadwy

59 |


Themâu gweithredu yn y gymuned Fel yr archwiliwyd mae llawer o gamau gweithredu unigol ac wedi’u rhwydweithio gwahanol yn digwydd ar draws Aberystwyth, Cei Connah a Phort Talbot. Nid yw’r hyn sy’n dilyn yn olwg gynhwysfawr arnynt, ond yn hytrach yn ddangosydd bras sy’n gwerthfawrogi amrywiaeth o weithgareddau y mae pobl ym mhob tref yn eu gwneud sy’n canolbwyntio yn weithredol ar wella bywydau pobl o’u cwmpas a’r gymuned yn gyffredinol. Gallai’r pethau hyn a’r camau gweithredu hyn ganolbwyntio i raddau helaeth ar brofiadau mewn lle, yn benodol. Mae hyn yn tanlinellu ei bwysigrwydd fel egwyddor trefnu ym mywydau pobl. Ond maent yn aml yn canolbwyntio ar themâu tebyg: rhoi sylw i broblemau, gan greu cysondeb a chydlyniad, a hwyluso ymdeimlad o sicrwydd am y lle hwnnw, yn ogystal â mynd i’r afael â’i amlygiad o anghydraddoldeb, a allai fod yn eithaf penodol, er enghraifft cymdeithas ‘ddwy-haen’ Aberystwyth .

“Rhai o’r rhesymau pam rwy’n gwneud rhai o’r pethau rydw i yn eu gwneud yw i weld y syniad hwnnw o gymuned yn cael ei ail-greu. Rydw i am weld pobl yn cael eu rhyddhau. Er enghraifft, cynnal clwb plant er mwyn i rieni gwrdd â’u ffrindiau; byddwn yn ystyried hynny fel datblygu cymuned ... Dwi wirioneddol eisiau bod yn creu cymuned, cael pobl at ei gilydd a chreu gofod diogel.” (Gweithiwr Ieuenctid, Aberystwyth) •

Mae’n bosibl meddwl am gamau gweithredu sy’n cyd-fynd â gwerthoedd penodol neu ddiddordebau a rennir. Ar draws y tair tref canfuom fod y camau gweithredu y mae pobl yn eu cymryd yn canolbwyntio yn aml ar bedwar o gymhellion allweddol: •

Herio colled: Gwarchod neu roi pwrpas newydd i asedau lleol ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol. Er enghraifft, y glanhawr mewn canolfan gymunedol leol yn ei hatal rhag cael ei chau drwy gymryd y cyfrifoldeb ei hun; neu’r person ifanc 20 mlwydd oed oedd yn dewis cynnal y llyfrgell leol:

“Yr hyn rydym wedi ei ganfod yw bod yna lawer mwy o grwpiau sy’n cymryd adeiladau drosodd oherwydd bod y cyngor wedi eu cau, wedi cloi’r drysau a dweud ‘os dych chi eu heisiau cynhaliwch nhw eich hunain’ a throsglwyddo’r allweddi.” (Hyfforddwr bocsio, Port Talbot)

| 60

Creu ymdeimlad o gymuned a pherthyn Darparu cyfle i bobl ddod at ei gilydd a chysylltu, yn aml o amgylch lle ac yn aml yn wyneb newid neu ymddygiad gwrthgymdeithasol. Er enghraifft, caffi cymunedol fel man fforddiadwy i bobl ddod at ei gilydd, a dysgu sgiliau newydd, neu ŵyl tref i ddod â phobl at ei gilydd er gwaethaf eu gwahanol gefndiroedd a diddordebau:

Cefnogi ein gilydd i weithredu: Cynnig cefnogaeth i eraill yn y gymuned. Er enghraifft, y gampfa focsio ym Mhort Talbot sydd wedi llunio partneriaethau gyda busnesau lleol ac wedi cyfrannu at 60 o bobl ifanc yn mynd i mewn i waith; neu fforymau cymunedol sy’n cefnogi syniadau dan arweiniad y gymuned trwy eu cysylltu gyda’i gilydd a rhannu straeon newyddion da:

“Y rhai dwi’n edmygu fwya yw’r holl bobl yn y fforwm, achos maen nhw’n codi oddi ar eu tinau ac yn gwneud i bethau ddigwydd ... Maen nhw yn bobl weithgar, maen nhw am i bethau ddigwydd, ac maen nhw’n gwneud iddyn nhw ddigwydd”. (Preswylydd, Aberystwyth) •

Creu dewisiadau amgen drwy gyfrwng nodau byw cynaliadwy: Herio’r ffyrdd y mae pethau’n cael eu gwneud yn draddodiadol i greu dyfodol gwell sy’n fwy cyfeillgar i’r amgylchedd. Er enghraifft, herio gwastraff bwyd drwy weithredu fel canolwr rhwng archfarchnadoedd ac elusennau lleol, neu ymgyrchu dros ofalu am a diogelu mannau gwyrdd:

“Rydym yn hoffi’r syniad y gall y gymuned wneud rhywbeth [am wastraff bwyd] eu hunain - gallan nhw wneud newid, herio’r manwerthwyr, creu ateb cymunedol.” (Arloeswraig, Hwb Bwyd)


Enghraifft prosiectau bwyd yn Aberystwyth: Mae yna nifer fawr o brosiectau sy’n canolbwyntio ar faterion sy’n ymwneud â bwyd yn Aberystwyth. Gall y prosiectau hyn gael eu gweld fel ymateb uniongyrchol i’r pryder ynghylch tlodi cudd yn yr ardal - y mae peidio â gallu bwydo eich teulu yn un o’r canlyniadau allweddol. Fe wnaeth nifer o gyfweliadau grybwyll pryder am y nifer cynyddol o bobl sy’n defnyddio banciau bwyd. O fewn rhaglen Amplify Cymru, fodd bynnag, fe wnaethom nodi bod nifer o bobl yn ceisio mynd i’r afael â’r mater hwn o onglau gwahanol. Er enghraifft, edrych ar y mater o ddosbarthu bwyd a gwastraff bwyd (Aber Food Surplus); neu alluogi pobl i dyfu eu bwyd eu hunain (Tyfu Aber /Grow Aber). Mae’r syniadau hyn nid yn unig yn arloesol, gan eu bod yn chwilio am atebion newydd i broblemau dwfn; ond maent hefyd yn ymdrin â’r gwerthoedd lleol, y mae bwyd da yn un ohonynt. Mae’r prosiectau hyn ac eraill sy’n canolbwyntio ar fwyd yn ceisio gwireddu’r gwerth hwn o allu bwyta’n dda, ac mewn ffordd sydd hefyd yn gynaliadwy i’r amgylchedd naturiol, yn fwy hygyrch i bawb yn Aberystwyt.  

61 |


Camau gweithredu arloesol Mae’r adran hon yn cyflwyno enghreifftiau o brosiectau, mesurau arloesi a chamau penodol sy’n bodoli neu’n cael eu datblygu i wneud eu cymunedau yn lle gwell. Cafodd pob un o’r prosiectau hyn eu cefnogi trwy Accelerator Sefydliad Young, fel rhan o raglen Amplify Cymru64. Rydym wedi eu grwpio o dan dair o’r themâu allweddol a nodwyd uchod.

Creu ymdeimlad o gymuned a pherthyn Caffi Dementia Libby (Cei Connah): Mae’r caffi cymunedol hwn oedd eisoes yn llwyddo yn ceisio cynnig rhaglen o ddigwyddiadau hwyliog a deniadol, yn ogystal â darparu lle cymunedol i bobl â dementia a’r rheiny sy’n eu cefnogi gael gwybodaeth /cyngor a chysylltu ag eraill â phroblemau tebyg. Prosiect seilwaith Cyngor y Dref (Cei Connah): Mae’r cyngor tref yn symud prosiect yn ei flaen sy’n canolbwyntio ar integreiddio isadeiledd trafnidiaeth ffurfiol ag anghenion lleol. Y nod yw gwneud gwell defnydd o linellau a darpariaethau trafnidiaeth ffurfiol er mwyn gwella llefydd cyhoeddus a mwynhad trigolion Cei Connah. Gŵyl gelfyddydol ledled y dref (Aberystwyth): Gan ddatblygu ar y diwylliant cyfoethog sydd gan Aberystwyth i’w gynnig eisoes, mae’r prosiect hwn ar ffurf gŵyl greadigol fawr. Byddai’r ŵyl yn dod â phobl Aberystwyth ac ymwelwyr ynghyd gan ddefnyddio’r cyfoeth o artistiaid lleol sydd yn y dref, er mwyn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithdai ac arddangosfeydd creadigol. St. Paul’s – Canolfan a Chaffi Datblygu’r Gymuned: Mae Canolfan Fethodistaidd St Paul’s yn adnodd cymunedol gwerthfawr sy’n cynnwys ystafelloedd a logir am bris isel i grwpiau cymunedol. Mae bar coffi yn ystod yr wythnos yn cynnig byrbrydau a diodydd am bris rhesymol. Yn 2016 fe wnaethant ddathlu eu jiwbilî arian gan fod yr adeilad wedi ei agor 25 mlynedd yn ôl. Byddent yn hoffi codi proffil y ganolfan fel adnodd cymunedol gwerthfawr ar gyfer y 25 mlynedd nesaf. 64  Am fwy o wybodaeth am raglen Amplify Cymru, ewch i: http://youngfoundation. org/projects/amplify-cymru/

| 62

Bydd hyn yn cynnwys gwaith adnewyddu ymarferol a datblygu’r bar coffi i gynyddu ei botensial fel canolbwynt ar gyfer y gymuned, gyda’r nod o gynyddu cydlyniant cymunedol.

Gwneud gyda’n gilydd Woodwork to Wellness (Cei Connah): Mae’r prosiect hwn yn dwyn ynghyd bob math o sgiliau “crefft” mewn amgylchedd gweithdy llawn offer yng Nghei Connah. Mae Woodwork to Wellness yn anelu at wneud i bobl deimlo’n gartrefol a darparu lle yr un pryd i ddinasyddion gael eu herio gydag amrywiaeth o dasgau ymarferol. Fforwm newyddion cymunedol Deeside.com (Cei Connah): Datblygu fforwm newyddion ar-lein lleol iawn i gyhoeddi straeon cadarnhaol am Gei Connah. Rhoi llwyfan gwerthfawr i fentrau cymunedol, digwyddiadau cyhoeddus yn y dref ac entrepreneuriaid cymdeithasol sy’n ymwneud â phrosiectau busnes cymdeithasol. Y bwriad yw creu mwy o unoliaeth gymunedol a meithrin balchder a chydnabyddiaeth. Campfa Gymunedol (Cei Connah): Drwy gydweithio â’r Awdurdod Addysg Lleol yng Nghei Connah, bydd y prosiect hwn yn cefnogi plant bregus lleol i gyflawni’u cyrhaeddiad addysgol gorau drwy gyfrwng pob math o chwaraeon. Rhwydwaith canolfan gymunedol Radio Glannau Dyfrdwy: Creu rhwydwaith canolbwynt Cymunedol, wedi’i angori wrth adeilad sy’n hygyrch i bob grŵp yn y gymuned ac a fydd yn datblygu perthynas weithredol gref â gwasanaethau cymdeithasol eraill yn lleol. Drwy greu rhwydwaith unigryw rhwng ystod wahanol o grwpiau lleol, bydd modd i grwpiau gyfnewid cyngor, rhannu adnoddau a chyfuno gwybodaeth er mwyn hwyluso wrth ddarparu’r gwasanaeth gorau posib drwy holl ardal Cei Connah a’r cyffiniau.


Ninja Kitchen (Aberystwyth): Caffi addysg gymunedol amgen gyda chegin hyfforddi a lle i gwrdd â phobl a’u cyfarch, sy’n anelu at ymwneud â phobl ifanc. Wedi ei dargedu at bobl ifanc 11-16 oed yn Aberystwyth, mae’r prosiect yn anelu at ymgysylltu â nhw a’u hysgogi drwy hyfforddiant mewn coginio a sgiliau blaen y tŷ. Byddai’r caffi hefyd yn cynnal boreau coffi a elwir yn ‘Gwau a Sgwrs’ ac yn dod â’r henoed allan o’u cartrefi i gwrdd pobl ifanc fel ffordd o hyrwyddo dealltwriaeth ar draws y cenedlaethau. Let’s Talk About Food: Datblygu pecyn addysgol rhyngweithiol undydd ar gyfer plant oed ysgol gynradd, 7 oed a hŷn, a fydd yn canolbwyntio ar wneud bara gyda’i gilydd. Bwriad y diwrnod fyddai rhoi sesiwn bleserus a llawn gwybodaeth i’r plant lle gallant ddysgu am a thrafod materion allweddol yn ymwneud â bwyd. Mae hyn yn cynnwys sut mae bwyd yn cyrraedd ein platiau; sut mae tir yn cael ei ddefnyddio; goblygiadau newid yn yr hinsawdd; goblygiadau twf yn y boblogaeth; cwestiynau am gyfiawnder cymdeithasol (o’r fferm i’r bwrdd); a’r hyn y mae’n ei olygu i gael diet ‘iach’.

Creu dewisiadau eraill SHARE - Supporting Homeless Assisting Refugees Everywhere: Model rhannu sgiliau a fydd yn darparu gweithdai, cyrsiau a chyfleoedd i bobl ddigartref neu a gafodd gartref newydd yn ddiweddar yn ardal Cei Connah. Dyfeisiwyd y cyrsiau mewn ymateb i anghenion a diffygion sgiliau’r rhai sy’n cymryd rhan. Bwriad SHARE yw torri cylch dieflig digartrefedd, cynyddu cyfleoedd unigolion o aros mewn tenantiaeth a’u helpu i gael gwaith, naill ai am gyflog neu ar lefel wirfoddol. Aber Food Surplus: Bwriad Aber Food Surplus yw lleihau gwastraff bwyd drwy ailddosbarthu bwyd sy’n addas i’w fwyta er mwyn cyfrannu at ddiogelwch bwyd lleol, a hybu newid mewn

agwedd ac ymddygiad ym maes cynaliadwyedd bwyd. Mae’r prosiect yn gobeithio darparu cyfleoedd gwirfoddoli i’r gymuned leol gan gynyddu cyfalaf cymdeithasol. Ar ben hynny, mae’r prosiect yn gobeithio datblygu yn gaffi bwyd dros ben ac yn ‘ganolbwynt’ gweithgaredd cymunedol, gan ysbrydoli a grymuso pobl leol i gyflwyno mentrau a digwyddiadau dan arweiniad y gymuned, er enghraifft, rhannu sgiliau, dosbarthiadau coginio, a chyrsiau. Tyfu Aber/ Grow Aber (Aberystwyth): Rhwydwaith o erddi o gwmpas Aberystwyth a fydd yn darparu cynnyrch lleol i’w werthu i fusnesau lleol, gan gynnwys y brifysgol, gwestai a bwytai, yn ogystal â’r cyhoedd. Bydd yn darparu cyfleoedd i’r cyhoedd wirfoddoli a lleoliadau therapiwtig cyffredinol ar gyfer pobl â phroblemau iechyd meddwl ac anghenion arbennig eraill, a bydd yn cynnal cyrsiau a digwyddiadau cymdeithasol eraill er mwyn rhannu sgiliau garddio gyda’r gymuned leol a dod â phobl at ei gilydd o amgylch bwyd. Arts on Prescription (Aberystwyth): Rhaglen mewn partneriaeth â HAUL, y Celfyddydau ym maes Iechyd a Fforwm Cymunedol Penparcau. Bydd y rhaglen yn cynnig cyfle i drigolion Penparcau gymryd rhan mewn cyfleoedd creadigol a fydd yn gwella hunan-barch, iechyd a lles unigolion ac yn hybu hyder a chydlyniant cymunedol . Mae mentrau arfaethedig yn cynnwys gweithdai celf, hyfforddiant anffurfiol, grwpiau cefnogi rhwng pobl a’i gilydd a phecyn cymorth ar gynllunio digwyddiadau. Striate Creative Network (Port Talbot): Cwmni cynhyrchu ffilmiau a cherddoriaeth sy’n canolbwyntio ar y gymuned sy’n ceisio cael pobl sydd wedi bod yn gaeth i’r tŷ yn y tymor hir, yn ddi-waith neu’n isel ym Mhort Talbot i fod yn greadigol a chymryd rhan mewn gweithgaredd cymunedol . Mae’r prosiect yn dechrau gyda chyfres ar-lein am fywyd Cymru a ddyfeisiwyd ac a grëwyd gan y gymuned.

63 |


Pam mae’r gweithredoedd hyn mor werthfawr Mae’r syniadau a’r datblygiadau arloesol hyn yn dod gan bobl sydd wedi’u gwreiddio yn y cymunedau lleol a’u rhwydweithiau cymdeithasol. Mae’r camau sy’n cael eu cymryd yn aml yn ymateb uniongyrchol i’r anghydraddoldeb a welir bob dydd yn eu llefydd: “Anghyfartaledd cyfleoedd ydy’r hyn sy’n fy ngyrru ymlaen i ddal ati i wneud y gwaith yr ydw i’n ei wneud. Rydw i eisiau sicrhau bod gan y bobl fwyaf bregus fynediad i’r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt.” (Chris Ryan, Arts on Prescription) Mewn rhai achosion, mae’r rhain yn anghydraddoldebau y mae pobl wedi eu profi eu hunain ac maent yn awyddus i helpu eraill a allai wynebu heriau tebyg. Er enghraifft, fel plentyn cafodd Sera ei gwahardd o’r ysgol. Mae hi bellach yn gweithio gyda phobl ifanc eraill sydd mewn perygl o gael eu gwahardd, gan gynnal dosbarthiadau coginio: “Rydw i eisiau gwneud y gorau o sefyllfa ddrwg. Weithiau, dyma’u cyfle olaf, am fod y rhan fwyaf o’r bobl ifanc y bydda i’n gweithio gyda nhw ar ffin cael eu heithrio. Faswn i byth yn rhoi i fyny arnyn nhw.” (Sara Coles, Ninja Kitchen) Maent yn aml yn gweithredu ar werthoedd lleol i greu atebion lleol i’r anghydraddoldebau hyn sy’n addas i anghenion y gymuned. Maent yn mynd allan o’u ffordd i gwrdd ag anghenion y cymunedau y maent yn gweithio gyda nhw: “Yna aeth yn ei flaen i nôl nifer o blant o’u cartrefi cyn i ni fynd ymlaen i gwrdd â gweddill y grŵp ym maes parcio ysgol gynradd leol. Roedd rhai o’r plant yn dal i fod yn cysgu pan gyrhaeddon ni a rhoddodd [y cydlynydd] hanner awr iddyn nhw gael eu hunain yn barod ac addawodd ddod yn ôl yn fuan. Nid oedd yn flin nac yn ddig; rhannodd jôc gyda’u rhieni ac roedd yn amlwg ei fod wedi sefydlu cysylltiadau cryf gyda’r teuluoedd. Roedd am gael cymaint o blant â phosibl ar y bws.” (nodiadau maes o daith diwrnod gyda phobl ifanc a drefnwyd gan y Tîm Cyfiawnder Ieuenctid yn Aberystwyth)

| 64

Mae ymgyrchwyr lleol a rhai sy’n gwneud newidiadau yn aml yn annog eraill i wneud yr un peth, gan weithredu fel catalydd ar gyfer gweithredu cymdeithasol: “Felly, mae’n rhaid i chi adnabod yr ardal yn dda iawn. Fe fydda’ i yn dweud wrth unrhyw un sy’n dechrau i fynd am dro bach o amgylch y stad. Mae angen i chi adnabod eich milltir sgwâr ac mae angen i chi fod yn weledol yno. Mae angen i chi ddod i adnabod pobl ac mae hynny’n cymryd mor hir.” (Rheolwr, Cymunedau yn Gyntaf, Cei Connah) Mae hyn yn dangos gwerth gweithredu a arweinir gan y gymuned neu gan le; mae pobl sydd wedi’u lleoli’n lleol yn gallu ymateb yn uniongyrchol i’r anghydraddoldebau a’r gwerthoedd lleol yn eu gwaith. Maent yn fwy tebygol o ddeall naws bob dydd bywyd mewn cymunedau, mae ganddynt berthnasoedd a hygrededd gyda phobl leol, a gallant deilwra eu hymatebion i anghenion y gymuned y maent yn ei gwasanaethu. Roedd pobl sydd wedi cymryd rhan yn rhaglen Accelerator Amplify Cymru yn creu atebion oedd yn gwerthfawrogi’r gymuned leol a lle. Yn yr un modd ag y mae gwyliau lleol yn dathlu cryfderau cymunedol neu asedau o wahanol fathau roeddent yn awyddus i ddod â phobl at ei gilydd o gwmpas y gwerth hwn: “Rwy’n hoffi gweld pobl yn dod at ei gilydd a hwyluso hynny.” (Ruth Flatman, St. Paul’s) Mae’n siarad am y gobaith o weld cymuned yn cael ei hailadeiladu a oedd yn ddyhead allweddol ar gyfer pob un o ardaloedd yr astudiaethau achos: “Roedd yn gymuned. Ond wedyn roedd yn ymddangos fel pe bai’n chwalu. A nawr mae’n dod yn ôl at ei gilydd eto.” (Gwirfoddolwr, Fforwm Cymunedol Penparcau)


Pa heriau sydd yna o ran gweithredu yn y gymuned? Un her ar gyfer gweithredu yn y gymuned yw cydnabyddiaeth, a chael yr offer cywir i argyhoeddi eraill y gallwch gymryd camau gwerthfawr. Mae’r offer hyn yn aml yn cael eu disgrifio mewn iaith adnoddau, boed economaidd neu gymdeithasol. Mae’r adnoddau sydd ar gael i chi yn arbennig o arwyddocaol. P’un a oes gennych gyfrifoldebau neu ymrwymiadau eraill, p’un a ydych yn gallu cefnogi eich hun yn ariannol wrth wneud pethau gydag ychydig iawn o elw ariannol os o gwbl, ac a oes modd i chi fuddsoddi amser mewn cyflawni’r sgiliau sydd eu hangen arnoch neu weithredoedd rydych am eu cyflawni. Fel y dengys adran 2, mae perthnasoedd cymdeithasol a statws - pwy ydych chi, a beth yw eich cefndir, neu’r gymuned yr ydych yn dod ohoni - yn bwysig wrth gyflawni newid: “Mae yna grŵp penodol o bobl sy’n fwy tebygol o gael y cyfle i gymryd rhan mewn pethau, ac mae hynny’n anffodus, ond mae’n un o ffeithiau bywyd ynte, ac mae rhan ohono yn ymwneud â bod yn hunan-hyderus, mae rhan ohono yn ymwneud â bod wedi derbyn addysg a bod yn huawdl ac yn gysylltiedig â rhwydweithiau cyfathrebu y mae llawer o bobl yn cael eu hallgau ohonynt am ryw reswm neu’i gilydd. Dydw i ddim yn gwybod sut yr ydych yn pontio’r bwlch hwnnw wrth sefydlu prosiectau.” (Arloeswr, Aberystwyth) Ceir canfyddiad bod angen i chi fodloni meini prawf penodol fel person er mwyn creu ffordd ystyrlon o weithredu. Mae pobl sydd wedi gallu llwyddo gyda’u hymdrechion mewn cymunedau yn dweud sut mae eu cefndir wedi eu helpu i fod y math o berson a oedd yn gallu gwneud hyn: “Fe wnaeth fy nghefndir a’m proffil helpu’r fforwm yn y camau cynnar, gan fod gennych wybodaeth, rhwydweithiau ac arbenigedd ar sut i gael gafael ar gyllid, neu lenwi ceisiadau am grant o’m swyddi blaenorol.” (Cydlynydd, Fforwm Cymunedol Penparcau)

Mae’r rhwydweithiau a’r perthnasau sy’n bodoli yn y gymuned hefyd yn cael eu gweld fel ased allweddol o ran y gallu i weithredu ar draws y tair tref: “Fy nghymorth mwyaf oedd y cysylltiadau cymunedol. Mewn llawer o ffyrdd gallwn helpu ein gilydd. Mewn rhai achosion rydym yn cysylltu ac yn gwneud prosiectau ar y cyd ac mewn ffyrdd eraill rydym yn cefnogi ein gilydd drwy ddefnyddio gwasanaethau ein gilydd.” (Anne-Marie Lloyd, Striate) Mae cefnogaeth gymunedol yn allweddol o ran bod pobl yn gallu dod o hyd i anogaeth gan eraill ar gyfer y pethau y maent yn eu gwneud: “Rydym hefyd wedi cael ein cynorthwyo a’n hannog gan eraill yn ein cymuned a chan bobl eraill yn y grŵp hwn.” (Chris Byrne, Aber Food Surplus) Mae angen i gefnogaeth, yn enwedig cefnogaeth ariannol, yn aml ddod o’r tu allan i’r gymuned. Mae yna gysylltiadau pwysig eraill mae angen i bobl eu datblygu - gyda noddwyr a rhai sy’n gwneud penderfyniadau. Mae angen i bobl fod yn gallu torri trwy neu i mewn i rwydweithiau penodol i gyflawni hyn. Yn aml mae angen iddynt oresgyn datblygu polisi o’r brig i lawr a all gymryd yn ganiataol bod gan rai sy’n gwneud polisïau y gallu i wybod beth sydd orau ar gyfer y gymuned. Deellir hefyd o fewn y cymunedau hyn, er mwyn gweithredu’n ystyrlon, bod angen i chi fod yn gallu pontio’r rhaniad rhwng gwneuthurwyr polisi a chymunedau, yn yr ardaloedd y buom ni yn eu harchwilio dim ond rhai pobl sy’n gallu cyflawni hyn ar hyn o bryd. Gall fod yn anodd i bobl gael eu grymuso i ffurfio’r perthnasau cywir ac i gael y wybodaeth am bwy i siarad â nhw a sut i gael mynediad atynt (yn ogystal â llwyddiant pe baent yn gallu gwneud hynny):

65 |


“Fy rhwystr mwyaf oedd peidio â gwybod â phwy i siarad. Mae cymaint o alwadau ffôn a negeseuon e-bost yn bownsio’n ôl. Mae’n anodd iawn targedu rhai pobl benodol yn enwedig mewn sefydliadau mawr - felly fel arfer dwi’n cael dim llwyddiant. Mae dysgu dod o hyd i’r union berson sydd â digon o ddiddordeb / pŵer i’ch helpu chi yn anodd iawn. Dydy gwefannau fel arfer yn ddim help.” (Chris Byrne, Aber Food Surplus) Mae yna hefyd deimlad bod arnoch angen nodweddion penodol er mwyn creu newid: nodweddion a nodwyd gan arloeswyr yn cynnwys bod yn hunan-hyderus, addysgedig, huawdl ac yn gysylltiedig â rhwydweithiau. Gall hyn adael rhai pobl yn teimlo na allant wneud i newid ddigwydd fel hyn. Mae Sophie yn gweithredu busnes lleol yng Nghei Connah, a sefydlodd yn wreiddiol gyda’r bwriad o weithio dros ferched sy’n agored i niwed, megis y rhai oedd wedi dianc rhag trais yn y cartref. Treuliodd amser hir yn siarad am ei phrofiad o sefydlu busnes, gan gynnwys cael mynediad at gymorth busnes: “Roedd yn rhywbeth na fyddwn i fel arfer yn ei wneud, yr oedd allan o fy mharth cysur i ofyn am gymorth ond wrth gychwyn busnes, doedd gen i ddim -, dydw i ddim yn dda iawn yn academaidd gyda phen a phapur ... Dydw i ddim yn dda iawn efo pethau felly, dwi’n fwy o berson ymarferol.” Fe wnaeth Sophie oresgyn y rhwystr hwn ac, ar ôl cael help, llwyddodd i lunio cynllun busnes. Ond roedd yn rhaid iddi hefyd gymryd y cam pellach o gael gafael ar gyfalaf cychwynnol: “Roedd rhaid i mi fynd o flaen bwrdd cyllid wedyn draw yn Abertawe. Byth eto. Roedd yn neuadd fawr, enfawr, hir ac roedd bwrdd yn y pen draw gyda phedwar o bobl yn eistedd wrtho. Yn wirion fe wnes i wisgo sodlau. Roeddwn yn clip-clopian yr holl ffordd ac roeddwn i mor nerfus. Roeddwn i felly efo fy nghynllun busnes yn cerdded yr holl ffordd i lawr. Roedd mor frawychus, roedd e fel rhywbeth allan o’r senedd.”

| 66

Mae hyn yn dangos y rhyngweithio, yn yr achos hwn, rhwng amgylcheddau ariannu, ac asiantaethau unigol, profiad a lefel hyder. Gallai newid yr amgylchedd neu lefel hyder Sophie, neu’r ddau, fod wedi gwneud y cyllid hwn yn fwy hygyrch i fusnes Sophie. Ystyrir diffyg hyder fel rhywbeth sy’n atal pobl rhag gweithredu ar draws Cymru. Tybir bod y farn hon yn gyffredin ar lefel genedlaethol: “... Mae arnon ni ormod o ofn methu ... mae’n rhaid i ni fod yn barod i ddweud ‘fe allai hyn weithio beth am roi cynnig arni’ ac atal ein rhagdybiaeth yn y gymdeithas y bydd popeth yn methu...” (Cyfarwyddwr, Sector Cyflogaeth, Cymru) Ac ar lefel leol: “Y rhwystr mwyaf yn ôl pob tebyg oedd fy niffyg hunangred i fy hun yn fy ngallu i greu hyn i gyd o ddim byd.” (Lowri Earith - SHARE) Er y gellir ystyried bod datblygu cysylltiadau gyda’r rhai sydd y tu allan i’r gymuned yn hanfodol, ystyrir hefyd eu bod yn gwneud gweithredu yn fwy cymhleth ac yn cyflwyno lefel arall o fiwrocratiaeth a all fod yn annymunol neu’n peryglu perthnasau cymunedol, gan ei fod yn arafu popeth ac yn gwneud i bethau edrych fel bod pethau wedi eu gadael unwaith eto: “Felly pan fyddwch yn dechrau siarad â’r sefydliadau o’ch cwmpas ... mae’r olwynion yn dechrau troi yn araf. Ac mae hynny’n anodd iawn. Ac efallai nad eu bai nhw yw e neu beth bynnag, dim ond y prosesau y maen nhw’n mynd drwyddynt, neu dim ond y ffordd y mae pethau, mewn gwirionedd. Mae’n wirioneddol anodd. Ond mae hynny’n troi yn fath o ddelwedd negyddol ... Pan fyddwn yn dechrau cynnwys pobl eraill o’n cwmpas, mae rhai o’r pethau hynny yn dechrau arafu; ac felly mae’r gymuned yn dweud wedyn ‘Be’ sy’n mynd ymlaen? Be’ sy’n digwydd?” Ac mae hynny’n gallu bod yn broblem.” (Cydlynydd, Fforwm Cymunedol Penparcau) Mae biwrocratiaeth nid yn unig yn arafu ymdrechion, ond mae hynny a’r adnoddau eraill sydd eu hangen hefyd yn codi rhwystrau i fathau penodol o weithredu.


Yn yr un modd, mae profiad wedi dangos bod tueddiadau o ran sut y dylid gweithio gyda chymunedau, neu weithredu yn seiliedig ar broblemau wedi tanseilio’r wybodaeth leol mewn llefydd ynghylch sut i gefnogi pobl: “Yn anffodus fe wnaethon ni golli cymaint o waith ieuenctid yng Nghymru ... Y pryd hynny roedd yn rhaid iddo fod wedi ei strwythuro, oherwydd eu bod yn cael arian oddi wrth Gymunedau yn Gyntaf ar gyfer ardaloedd difreintiedig: “O, iawn, fe wnawn ni newid yr amddifadedd, fe wnawn ni ddysgu iddyn nhw sut i goginio bîns ar dost ...’ Fe wnaethon ni wario ffortiwn fel gwasanaeth ieuenctid yng Nghymru ar yr holl offer coginio yna. Yna meddyliodd rhywun am rywbeth, does ganddyn nhw ddim tystysgrifau hylendid bwyd, felly roedd yn rhaid i bob gweithiwr ieuenctid fynd ar gwrs hylendid bwyd. Yna daeth rhywun i mewn i archwilio’r gegin. ‘Allwch chi ddim dysgu coginio yma, dydy’r gegin yma ddim yn addas,’ felly cafodd yr holl offer ei roi yn y gornel ... Dwi’n teimlo fod hyn yn cymryd i ffwrdd oddi wrth sylfeini gwaith ieuenctid lle rydych yn dweud wrth y bobl ifanc, ‘Be dych chi eisiau ei wneud heno?’ ‘Dwi am fynd i eistedd mewn cornel a chael sgwrs efo chi.’ ‘Iawn, unrhyw un arall isio dod?’ ‘Dan ni isio chwarae pêldroed.’ ‘Chris, dos i chwarae pêl-droed efo nhw fan acw.’” (Gareth, Rheolwr Canolfan Gymunedol, Port Talbot)

Y perygl yw y gallai’r math hwn o gyllido a pholisi o’r brig i lawr dros dymor byr gael effeithiau parhaol ar wybodaeth leol ac arbenigedd sydd wedi ei ddatblygu’n ofalus dros amser, ac yn wir y gwaith y mae pobl eisoes yn ei wneud neu y gallent ei wneud. Mae Gareth yn sôn am ddynes sy’n defnyddio’r ganolfan gymunedol ar gyfer grŵp chwarae yn y bore. “Mae [Enw] eisiau mwy o blant i mewn, mae arni angen mwy o blant i mewn i gario ‘mlaen ... Mae hi’n dweud wrtha’ i fod Dechrau’n Deg wedi cymryd llawer o waith oddi arni oherwydd bod Dechrau’n Deg yn gynllun rhad ac am ddim gan y llywodraeth. A, chi’n gwybod, mae’n rhaid i chi ei thalu iddi oherwydd mae’n rhaid iddi hi logi’r ystafell a phopeth ... Roedd hi yma ymhell cyn i Ddechrau’n Deg ddechrau, ac rwy’n dychmygu bod Dechrau’n Deg yn taro llawer o bobl fel hi sy’n cynnal pethau ac sydd wedi bod yn cynnal pethau am flynyddoedd.”

67 |


Awgrymiadau a arweinir gan y gymuned ar gyfer sut i gefnogi cymunedau i lunio dyfodol tecach Fe wnaethon ni ofyn i bobl sy’n ymwneud â’r gweithredu yn y gymuned y buom ni yn gweithio gyda nhw, pa gefnogaeth a fyddai’n galluogi i’w gweithredoedd a’u datblygiadau arloesol ffynnu. Mae eu syniadau a’u hawgrymiadau yn cael eu crynhoi isod: •

| 68

Fe ddylem fod yn dathlu’r rhai sy’n creu newid! Gan gydnabod yr hyn y mae pobl yn ei wneud yn y cymunedau i wneud i newid ddigwydd.

Fe hoffem ni weld y pethau y mae pobl yn ei wneud yn cael eu cydnabod a’u cefnogi – drwy’r amgylchedd busnes, drwy gysylltu ag eraill, drwy fod yn gallu cael mynediad i rwydweithiau yr ydym ni’n teimlo wedi ein heithrio ohonyn nhw.

Fe hoffem gael gwell marchnata a dweud yr hanesion da, nid dim ond yr hanesion gwael – rydym ni eisiau gweld ffynonellau cyfryngau eraill, a’r wasg leol yn dathlu’r pethau da sy’n digwydd ymhob tref.

Fe hoffem ni beidio â bod o dan chwyddwydr pobl o’r tu allan am y rhesymau anghywir, ond hoffem gael ein cydnabod am y rhesymau cywir hefyd.

Fe hoffem weld cydnabod y tlodi cudd sy’n bodoli a gweld cyfrifoldeb yn cael ei ysgwyddo gan yr holl bobl a sefydliadau mewn lle er mwyn ei drechu.

Fe hoffem gymryd rhan. Fe hoffem fod yn gwneud penderfyniadau ar lefel leol. Rydym am fod yn rhan o ddatblygiad, nid ei gael wedi ei wneud i ni.

Hoffem gael cydnabyddiaeth ynghylch pa mor galed y mae sefydliadau cymunedol yn gweithio - yn aml yn dyblu i fyny i hwyluso rhwydweithiau pwysig ac i ddarparu cefnogaeth hanfodol sy’n cael ei golli mewn mannau eraill. Fe hoffem pe bai pobl yn cydnabod nad oes modd i ni wneud popeth ar ein pennau ein hunain, waeth faint wnawn ni. Mae arnom angen cymorth a chefnogaeth i wneud yn sicr bod pawb yn cael y cyfle i ‘fynd yn eu blaenau’ yn y llefydd hyn y maent yn eu caru ac yn malio amdanynt.


Casgliadau Mae’r adroddiad hwn wedi dangos bod ‘lle’ yn ffordd bwysig i bobl ledled Cymru feddwl am a deall cysyniadau megis anghydraddoldeb a chyfrifoldeb cymdeithasol a sut i greu cymdeithas decach, fwy cyfiawn. Ceir ymdeimlad cryf bod cymunedau yn profi mwy o ansicrwydd ac ansefydlogrwydd o ran gwybod sut y byddant yn creu ac yn byw eu bywydau yn y dyfodol. Mae newidiadau i ddiwydiant, a’r economi yn fwy cyffredinol, wedi cael effaith ddifrifol ar fywoliaeth a datblygiad economaidd ar draws Cymru, ac mae adroddiadau diweddar a naratifau amlwg yn awgrymu bod hyn yn arwain at ddirwasgiad ac amddifadedd yn yr ardal. Yn ogystal, mae rhai wedi dadlau bod yna ddiffyg dosbarth entrepreneuraidd, sy’n barod i fentro neu arloesi. Mae’r darlun hwn yn lens y mae pobl yn gweld llefydd a photensial cymunedau drwyddo, yn ogystal â’u hanghenion a’u dibyniaethau ymddangosiadol. Drwy wrando ar a gweithio gyda’r gymuned mewn ffyrdd gwahanol, mae ein hymchwil wedi ychwanegu cymhlethdodau i’r darlun hwn ac wedi canfod bod dull o’r fath yn gyfyngedig o ran ei allu i greu cymdeithas decach i bawb. Rydym wedi canfod bod pobl yn teimlo bod datblygiad wedi cael ei wneud iddynt hwy, yn aml drwy ganolbwyntio ar agweddau negyddol. Maent yn teimlo nad ydynt yn cael cymryd rhan ac nad oes unrhyw un yn gwrando arnynt. Mae ofn newid a cholled wedi bod yn rhan o fywydau pobl, fel y mae diffyg llais neu allu i gymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau am yr hyn sy’n digwydd yn y llefydd y maent yn eu caru. Mae’r cysyniadau hyn yn arwyddocaol oherwydd eu bod yn dwyn i’r golau bwysigrwydd canolog diwylliant, gwerth a pherthnasoedd cymdeithasol-ddiwylliannol

ym mywydau pobl. Maent yn helpu i esbonio sut mae pobl yn teimlo ac maent yn agwedd a anwybyddir i raddau helaeth o ddatblygiad neu fuddsoddiad mewn adnewyddu. Ond ym mhob cymuned, mae naratifau amgen am yr hyn y mae pob lle yn ei olygu, beth yw ac ymhle mae cryfderau ac asedau cymunedol, nad ydynt yn cyd-fynd â’r darlun cyffredin hwn. Gwelsom a dywedwyd wrthym am weithgareddau a oedd yn helpu eraill yn y gymuned ac yn mynd i’r afael yn benodol ag anghydraddoldeb. Mae pobl yn aml yn greadigol ac yn arloesol: mae cydnabyddiaeth gynyddol o bosibiliadau amgen ac felly mae pobl yn defnyddio eu sgiliau a’u gwybodaeth yn gynyddol i greu ffyrdd newydd o ymdrin â hen broblemau yn lleol. Er gwaethaf yr heriau sylweddol maent yn ceisio cymryd camau i greu llwybrau a chyfleoedd newydd i bobl yrru ymlaen yn eu trefi a’u cymunedau a ffynnu. Mae arnynt angen cymorth i wneud hyn, ond dylai fod yn gymorth sy’n cydnabod yr hyn y maent yn ei wneud yn barod ac sy’n dechrau o’r fan lle y maent. Yr her yw ymhelaethu ar yr hyn sy’n digwydd yn y cymunedau hyn yn ehangach. Rydym yn gobeithio bod yr adroddiad hwn wedi bod o gymorth i wneud hyn yn rhannol, i ddod â’r lleisiau, y syniadau a’r gweithredoedd y mae pobl yn eu cymryd yn eu llefydd eu hunain i’r blaen i helpu i gydnabod eu gwerth a’u teilyngdod. Yn fwy cyffredinol, mae angen i ni wrando ar y syniadau hyn a’u cefnogi: gan ganiatáu ar gyfer datblygu lle yn gadarnhaol mewn modd sy’n gynhwysol ac yn gyfranogol.

69 |


Cyfeiriadau ABTA (2015). The Value of Tourism – Wales. https://abta.com/news-and-views/abta-generalelection-hub/the-value-of-tourism-your-area/wales. Cyrchwyd 29 Tachwedd 2016. Agnew, J. (1987). Place and Politics: the Geographical Mediation of State and Society. Boston and London: Allen and Unwin. Alden, J. (1996). The transfer from a problem to powerful region: the experience of Wales, in Alden, J. and Boland, P. (Eds) Regional Development Strategies: A European Perspective, pp. 129-58. London: Jessica Kingsley. Atkinson, K. (1998–2006). The History of Shotton – Deeside, http://www.angelfire.com/fl/shotton/history11.html. Cyrchwyd 4 Tachwedd 2016. Barca, F., McCann, P. and Rodriguez- Pose, A. (2012). The case for regional development intervention: place-based versus place-neutral approaches. Journal of Regional Science, 52, 134-52. BBC (2007). Prescription charges end in Wales. http://news.bbc.co.uk/1/hi/wales/6513579.stm. Cyrchwyd 28 Tachwedd 2016. BBC (2008). Wales made first trade ‘pioneer’. http://news.bbc.co.uk/1/hi/wales/7438787.stm Cyrchwyd 28 Tachwedd 2016. BBC (2010). North east Wales, a pen picture. http://www.bbc.co.uk/wales/northeast/sites/deeside/pages/pen_picture.shtml. http://news.bbc.co.uk/1/hi/wales/7438787.stm. Cyrchwyd 10 Tachwedd, 2016. BBC (2012). Bronglais protesters demand protection for hospital. http://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-mid-wales-17195605. Cyrchwyd 18 Tachwedd 2016. BBC (2015). Syrian refugees set for Aberystwyth arrival by Christmas. http://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-mid-wales-34602096. Cyrchwyd 18 Tachwedd 2016. Blackaby, D. and Murphy, P. (2009). The Economic Downturn and the Welsh Economy. Bevan Foundation Reviews, Rhif 12, Mehefin. Bowie, F. (1993). Wales from within: conflicting interpretations of Welsh identity, in Macdonald, S. (Ed.) Inside European Identities, pp.167-93. Berg, Rhydychen. Casey, E. S. (1993). Getting Back into Place: Toward a Renewed Understanding of the Place-World. Bloomington: Indiana University Press. Sefydliad Tai Siartredig Cymru (2005). Key Information: Issue 3, September 2005, A CIH Cymru Briefing Paper. Cheung, F., & Lucas, R. E. (2016). Income inequality is associated with stronger social comparison effects: The effect of relative income on life satisfaction. Journal of personality and social psychology, 110(2), 332. Clifton, N. (2011). Regional culture in the market place: place branding and product branding as cultural exchange. European Planning Studies, 19, 1973-94. Cloke, P. Goodwin, M. and Milbourne, P. (1998). Cultural change and conflict in rural Wales: competing constructs of identity, Environment and Planning A. 30.3, 463-80.

| 70


Comaroff, J. and J. (1985). Body of Power, Spirit of Resistance: The Culture and History of a South African people. Chicago: University of Chicago Press. Cooke, P. and Rehfeld, D. (2011). Path dependence and new paths in regional evolution: in search of the role of culture, European Planning Studies, 19, 1909-29. Darby, W. J. (2000). Landscape and Identity: Geographies of Nation and Class in England. Oxford: Berg. Day, G. (2002). Making Sense of Wales: A Sociological Perspective. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. Yr Adran Gwaith a Phensiynau (2016). Households below Average Income, 2014/15. Table 3.17ts. Elias, N., & Scotson, J. L. (1994). The established and the outsiders (Vol. 32). London: Sage. Emmett, I. (1982). Fe godwin ni eto: Stasis and change in a Welsh industrial town, in Cohen, A. P. (Ed.) Identity and Social Organisation in Bristish Cultures. Manchester: Manchester University Press. Entrikin, J. N. (1991). The Betweenness of Place. Maryland: John Hopkins University Press. Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint, (d.d.) Discover Wepre Park. Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint. Frankenberg, R. (1957). Village on the Border, London: Cohen and West. Garcilazo, E. (2011). The evolution of place-based policies and the resurgence of geography in the process of economic development, Local economy, 26, 459-66. Hague, C. and Jenkins, P. (2005). Place Identity, Participation and Planning. Oxford: Routledge. Huggins, R. and Thompson, P. (2015). Culture and Place-Based Development: A Socio-Economic Analysis, Regional Studies, 49:1, 130-59. JRF (2016). Prosperity without poverty: a framework for action in Wales. https://www.jrf.org.uk/report/prosperity-without-poverty. Cyrchwyd 17 Tachwedd 2016. Lippard, L. (1997). The Lure of the Local: Sense of Place in a Multicentered Society. New York: The New Press. Mackay, R. R. (1992). Wales. In Townrow, P. and Martin, R. (Eds) Regional Development in the 1990s: The British Isles in Transition, pp. 97-107. Malpas, J. (1999). Place and experience: A philosophical topography. Cambridge: Cambridge University Press. Massey, D. (1984). Spatial Divisions of Labour: Social Structures and the Geography of Production. London: MacMillan. Gwasanaeth Ymchwil yr Aelodau (2010). Ystadegau Allweddol ar gyfer Alun a Glannau Dyfrdwy, Mai 2010. Bae Caerdydd: Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Morgan, K. (1980). Regional Inequality and the Tory Government. University of Sussex, Brighton: Mimeo. Panel Cydraddoldeb Cenedlaethol (2010). Report of the National Equality Panel. Swyddfa Cydraddoldeb y Llywodraeth. Parciau Cenedlaethol Cymru (2013). Gwerthfawrogi Parciau Cenedlaethol Cymru. http://www.nationalparkswales.gov.uk/__data/assets/pdf_file/0009/389727/Valuing-Wales-National-Parks-.pdf Cyrchwyd 28 Tachwedd 2016. 71 |


Ochs, E. and Cappps, L. (2009). Living narrative: Creating lives in everyday storytelling. London: Harvard University Press. Swyddfa Ystadegau Gwladol (2011). Cyfrifiad y Deyrnas Unedig. https://www.ons.gov.uk/census/2011census/censusanalysisindex Cyrchwyd 18 Tachwedd 2016. Pinoncely, V. (2016). Poverty, Place and Inequality: Why place-based approaches are key to tackling poverty and inequality. Papur Polisi RTPI. http://www.rtpi.org.uk/media/1811222/poverty_place_and_inequality.pdf Cyrchwyd 15 Tachwedd, 2016. Robinson, C. Carey, J. and Blackaby, D. (2012). Firm Performance in Wales: An Analysis of Productivity Using Company Accounts. WISERD, Caerdydd. Rose, G. (1995). Place and Identity: A Sense of Place. In Massey, D. and Jess, P. (Eds) A Place in the World. Oxford: Oxford University Press, pp. 87–132. Said, E. W. (2001). Orientalism: Western Conceptions of the Orient. UK: Penguin. Scott, J. (1985). Weapons of the Weak: Everyday Forms of Peasant Resistance. New Haven & London: Yale University Press. Sen, A. (1985). Commodities and Capabilities. Oxford: Oxford University Press. Sen, A. (1989). “Development as Capability Expansion,” Journal of Development Planning, 19: 41–58. Sen, A. (1999). Development as Freedom. Oxford: Oxford University Press. The Poverty Site (n.d.) Wales Income Inequalities. http://www.poverty.org.uk/w09/index.shtml Cyrchwyd 19 Rhagfyr 2016. Thompson, A. and Day, G. (1999) Situating Welshness: ‘local’ experience and national identity. In Fevre, R. and Thompson, A. (Eds) Nation, identity and social theory: Perspectives from Wales. Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru. Tud. 27-47. Tuan, Y., (1996) Cosmos and Hearth: A Cosmopolite’s View. Minneapolis: University of Minnesota Press Sefydliad Cymdeithasol ac Ymchwil Economaidd Cymru, Data a Dulliau (WISERD) (2011). An anatomy of economic inequality in Wales. Cyfres Adroddiadau Ymchwil WISERD, Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru. Cymru Ar-lein (2012). Aberystwyth campaigners plan protest over hospital closure worry. http://www.walesonline.co.uk/news/local-news/aberystwyth-campaigners-plan-protest-over-2042709. Cyrchwyd 18 Tachwedd 2016. Llywodraeth Cymru (2012). Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi 2012-2016. http://gov.wales/docs/dsjlg/publications/socialjustice/120625tackpovplanen.pdf. Cyrchwyd 28 Tachwedd 2016. Llywodraeth Cymru (2015). Rhoi Organau Cymru. http://organdonationwales.org/r?lang=en Cyrchwyd 5 Ionawr 2017. Llywodraeth Cymru (2016). About Wales: Sustainability. White, H. (1980). The Value of Narrativity in the Representation of Reality. Critical Inquiry, 7(1), 5-27. Wolf, E. R. (1985). Europe and the People without History. Oakland, California: University of California Press. | 72

Gwerthfawrogi lle  

Pwysigrwydd lle ar gyfer deall anghydraddoldeb a gweithredu yng Nghymru Adroddiad ymchwil Amplify Cymru

Read more
Read more
Similar to
Popular now
Just for you