Pecyn Recriwtio




Cynnwys:


1. Ein
2. Cyflwyniad
3.
4.
5.
7.
8.
Cynnwys:
1. Ein
2. Cyflwyniad
3.
4.
5.
7.
8.
Yma yn YGC, gallwn helpu i greu a chynnal isadeiledd sy’n cysylltu pobl a llefydd mewn ffordd ddiogel, wyrdd a fwy dibynadwy.
Steffan Jones, Pennaeth YGC
Y Swydd
Rheoli prosiectau deardechnegol, yn unol â chyfarwyddyd y Prif Beiriannydd / Rheolwr yr Uned, er mwyn sicrhau bod gofynion penodol y briff, a ddarperir gan y Cleient o ran costau, amser ac ansawdd, yn cael eu cyflwyno’n llwyddiannus.
Bod yn weithredol yn natblygiad a gweithrediad technegau a systemau rheoli prosiect (e.e. Gweithdrefn Rheoli Prosiect YGC, PRINCE2, Llawlyfr
Rheoli Prosiect y Cyngor ac ati) i sicrhau bod YGC yn ymrwymo’n llawn i fodloni anghenion Cleientiaid i ddarparu gwerth am arian gan weithredu ar sail fasnachol ac addasu’i hun i gystadlu’n effeithiol.
Bod yn gyfrifol am reoli timau prosiect hyblyg, o fewn yr Uned a’r Gwasanaeth yn gyffredinol, a rhoi arweiniad i aelodau’r tîm.
Rhoi sylw i’r holl ofynion yng nghyd-destun rheolaeth
ariannol prosiectau a rhoi adborth ariannol i'r Prif
Beiriannydd / Rheolwyr yr Unedau ar faterion prosiect a llwyth gwaith yn rheolaidd.
Perfformio ymrwymiadau'r contract ar brosiectau adeiladu.
Datrys materion cytundebol gyda sefydliadau megis
contractwyr ac ymgynghorwyr.
Adolygu a datblygu gweithdrefnau newydd yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r Cyngor, ynghyd â datblygiadau cenedlaethol.
Ymdrin â phob menter wella Genedlaethol a'r UE.
Cyflawni gofynion deddfwriaeth iechyd a diogelwch ac amgylcheddol.
Datblygu a chynnal y sgiliau a'r wybodaeth dechnegol sydd ei hangen i gynnal a chyflawni gwasanaethau craidd YGC.
Dylunio Daeardechnegol profiadol ac arbennigol
Cyfrifol am oruchwylio a rheoli gweithgareddau ymgynghorwyr arbenigol ac isgontractwyr.
Rheoli prosiect Daeardaearyddol ar gynlluniau a chynnal astudiaethau dichonoldeb, casglu
data, ymchwiliadau cychwynnol, asesiadau technegol, a gweithdrefnau dylunio, gweinyddol, ansawdd ac ariannol.
Paratoi cynlluniau iechyd a diogelwch ac amgylcheddol cyn tendro.
Marchnata gwaith a galluoedd yr uned i gleientiaid presennol a chleientiaid posib y dyfodol. Ysgrifennu adroddiadau ffeithiol a dadansoddol deardechnegol
Paratoi rhaglenni a rhagolygon gwariant ar gyfer prosiectau.
Monitro ac adrodd i’r cyfarwyddwr prosiect (prif beiriannydd / rheolwr uned) ar gynnydd a chostau gwirioneddol ac argymell a chymryd camau cywiro pan fo angen.
Goruchwylio rheolaeth ariannol, weinyddol a thechnegol gwaith adeiladu, ymchwilio, asesu neu
waith cynnal a chadw a wneir ar ran y cleient.
Cynorthwyo wrth ddatrys materion cytundebol ar ran cleientiaid.
Ymgymryd â'r dyletswyddau sy'n ofynnol dan reoliadau CDM
Ymgysylltu gyda goruchwylwyr safle drwy gydol oes y prosiect.
Ymwybyddiaeth o brosesau stadudol rhwydwaith cefnffyrdd a strwythurau e.e CD622 a AIP
Ydych chi -
gyda profiad helaeth o waith daea
gyda profiad helaeth o reoli prosie hawliadau, materion dyfarnu neu wedi ennill a chynnal cymwystera hyfforddiant a phrofiad sy’n angen gwasanaeth proffesiynol i bob cle
MIStructE, Daearegwr Siartredig, daeardechnegol)
gallu i reoli staff a’r gwasanaeth m fewn cyfyngiadau ariannol a chyfr gallu i weithio dan bwysau ac ysgo sicrhau llwyddiant YGC
yn barod i weithio tu allan i oriau s Ymchwiliadau Cyhoeddus, ymgyn
arddangosiadau a chyfarfodydd y yn cael eich galw allan i sefyllfaoe
Beth am roi cynnig arni?
Byddem yn hapus iawn i ystyried eich cais i ymuno â'n tîm medrus, brwdfrydig a chyfeillgar.
Gwneud cais YMA
Effaith gadarnhaol barhaol at gymuned leol.
Amrywiaeth, cydraddoldeb a chynhwysiant yn hanfodol.
Ymrwymo i feithrin amgylchedd
gwaith sy'n gefnogol, yn barchus
ac yn gynhwysol.
Cyfleoedd gwych ar gyfer twf.
Cymeradwywyd i weithredu cynllun hyfforddi’r ICE
‘Gweithio ar brosiectau ar draws Gogledd a Chanolbarth Cymru.
Mynd i'r afael â rhai o heriau mwyaf
tyngedfennol y wlad.
O isadeiledd cymhleth, cynyddu anghenion
trafnidiaeth, a newid hinsawdd.
Cyfuno arloesi, arbenigedd a thechnoleg.
Gwneud Gogledd a Chanolbarth Cymru yn
lle gwell i fyw, gweithio ac ymweld ag ef.
Traddodiad o allu cynnig cyfleoedd gyrfa i’r rhai sy’n dymuno dilyn gyrfa hynod fedrus yn yr amgylchedd adeiledig
Dros y blynyddoedd, rydym wedi buddsoddi’n drwm yn ei staff, gan gynnig y cyfle i ennill cymwysterau academaidd a / neu broffesiynol pellach.
Brwdfrydig dros cynnal cyflogaeth leol ar draws ystod o ddisgyblaethau ac ar hyn o bryd mae dros 80% o’n staff yn byw yng Ngwynedd.
Cyfrannu tuag at greu amgylchedd sgiliau uchel a thŵf economaidd cynaliadwy wrth cadw cyflogaeth leol mewn sectorau heriol a gwobrwyol.
Sicrhau cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith er mwyn parhau i gyfrannu at gymunedau lleol llewyrchus a bywiog i fyw a gweithio.
Mae Cyngor Gwynedd yn darparu amrywiaeth eang o wasanaethau ar draws ein Sir gan gynnwys addysgu ein plant, gofalu am ein pobl, glanhau ein strydoedd, edrych
ar ôl ein llesiant a hybu ein busnesau lleol i lwyddo.
Mae’r cyfleoedd gyrfa gyda ni yn amrywiol ac yn werth chweil!
Mae staff rhagorol Cyngor Gwynedd yn ein galluogi i wneud y gwaith hollbwysig hwn. Mae’r Cyngor yn llawn pobl sydd wedi dewis gweithio yma oherwydd eu bod eisiau helpu pobl Gwynedd a gwneud gwahaniaeth i’r cymunedau a’r amgylchedd yr ydym yn byw ynddynt.
Fel endyd masnachol sydd yn rhan o Gyngor Gwynedd, mae YGC yn gweithredu ein busnes fel Menter Cymdeithasol. H.y, mae ein elw yn mynd i mewn i wasanaethau’r cyngor sydd yn cael eu darparu hanfodol i bobl lleol a thu hwnt.
Mae Polisi Iaith Cyngor Gwynedd yn cadarnhau ein hymrwymiad i gadw at egwyddorion Safonau’r Gymraeg, i fanteisio ar bob cyfle posib i annog trigolion y Sir i ddefnyddio’r Gymraeg wrth ddefnyddio’n gwasanaethau, ac yn adlewyrchu uchelgais Cyngor Gwynedd i hybu a chodi statws y Gymraeg drwy ei holl waith.
Cyfle i weithio mewn lleoliadau prydferth ar draws Gogledd a Chanolbarth Cymru gan gynnwys 1 parc cenedlaethol, 50 gwarchodfa natur a 1,680 milltir o arfordir trawiadol.
Ystod eang o gyfleoedd hyfforddi a datblygu mewnol ac allanol.
Diwrnod yr wythnos i gwblhau gradd prifysgol.
Cyfraniad tuag at aelodaeth o gyrff proffesiynol sy'n berthnasol i'r gwaith.
Cefnogaeth i ddatblygu sgiliau iaith Gymraeg
Cyflog cynyddol.
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan Cronfa Bensiwn Gwynedd.
28.5 dyddiau o wyliau blynyddol y flwyddyn (cynnydd ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth).
8 diwrnod o wyliau cyhoeddus a statudol.
Gweithio’n hybrid o leiaf 2 ddiwrnod yn y swyddfa.
Oriau gweithio hyblyg.
Gwasanaeth Cwnsela MEDRA - gwasanaeth cwnsela cyfrinachol am ddim i staff.
Absenoldeb hael ar gyfer mamolaeth, tadolaeth a mabwysiadu.
Cynlluniau cymorth i brynu car ac i feicio i’r gwaith.
Arbediadau siopa bwyd, gwyliau, mynd allan i fwyta, DIY, offer trydanol, yswiriant, moduro, a llawer mwy!
Prentis
Prentis
Peirianneg Sifil
Technegydd /
Technegydd
Syrfewr
Meintiau dan
TGAU neu
gyfwerth
Hyfforddiant
Lefel A / NVQ / B Tech
Cymhorthydd Technegol Cymhorthydd
Cymhorthydd
Technegol
Cymhorthydd
Technegol - Ecoleg
Peiriannydd
Technegol
Cymhorthydd
Amgylchedd
Technegol (Ecoleg)
Lefel A / NVQ / B Tech
Cymhorthydd
Pensaernïol
Cymhorthydd
Peiriannydd
Cymhorthydd
Syrfëwr Meintiau
HNC / HND
Syrfewyr, Swyddog, Peiriannydd
Syrfewr Adeiladu
Swyddog
Amgylcheddol
(Ecoleg)
Peiriannydd
Dylunio
Gwasanaethau
Adeiladu
Peiriannydd
Prosiect
Gradd neu
HNC / HND
Uwch Syrfëwr
Adeiladu
Uwch Beiriannydd
Uwch Swyddog
Amgylchedd
Uwch Beiriannydd
Prosiect
Uwch Syrfëwr Meintiau
Uwch Beiriannydd
Technegydd
Gradd / Aelodaeth Siartredig
Prif Bensaer
Prif Beiriannydd
Dylunio
Gwasanaethau
Adeiladu
Prif Syrfëwr
Adeiladu
Brif Beiriannydd
Peiriannydd
Prosiect
Gradd / Aelodaeth
Siartredig a Chymhwyster Rheolaethol
Uwch Rheolwr
Gradd / Aelodaeth
Siartredig a Chymhwyster Rheolaethol
Os hoffech gefnogaeth i ymgeisio, mae Gwaith
Gwynedd ar gael i roi cymorth i drigolion
Gwynedd.
Gwaith Gwynedd yw menter y Cyngor i gefnogi
bobl Gwynedd i gyflawni eu llawn botensial.
www.gwynedd.llyw.cymru/gwaithgwynedd
Symud i Wynedd?
Os hoffech gefnogaeth i ail-leoli neu dod adref
(fel unigolyn neu teulu) i Wynedd neu Gogledd
Cymru mae modd cysylltu a Llwyddo’n Leol. https://llwyddonlleol2050.cymru/ Cefnogaeth
ygc@gwynedd.llyw.cymru