Llyfryn YGC

Page 1

www.ygc.cymru

Systemau Rheoli | Syrfewyr Meintiau ac Ymgynghoriaeth Costau

Dylunio Adeiladau ac Arolygu Eiddo | Dylunio Isadeiledd a Thrafnidiaeth

Ymgynghoriaeth Amgylcheddol | Llifogydd ac Arfordirol | Rheolaeth Adeiladu



Pwy ydym ni, a beth rydym yn ei wneud? Mae YGC yn ymgynghoriaeth amlddisgyblaethol a sefydlwyd gan Gyngor Gwynedd yn 1996. Ni yw’r ymgynghoriaeth fwyaf yng Nghymru sy’n cael ei rhedeg gan Awdurdod Lleol, gan weithio gyda nifer helaeth o gleientiaid yn y sector cyhoeddus, a phreifat. Rydym yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau, sy’n cynnwys: • • • •

Dylunio Adeiladwaith a cynnal a chadw ffyrdd Strwythurau ac adeiladau Ymateb i risg o lifogydd mewn ardaloedd arfordirol

Rydym yn sicrhau bod yr amgylchedd yn cael ei ddiogelu wrth ymgymryd â’r holl waith, ac wedi teilwra ein gwasanaethau i gwrdd ag anghenion ein cwsmeriaid. Rydym wedi ein lleoli yng Ngwynedd, yng ngogledd Cymru dros dri lleoliad, sef ein prif swyddfa yng Nghaernarfon a swyddfeydd ym Mhwllheli a Dolgellau.


Eich ‘Siop Un Stop’ sy’n darparu atebion arloesol a chynaliadwy, i gwrdd â’ch anghenion cynllunio, dylunio a chyflawni prosiectau.


Ymgynghoriaeth Amgylcheddol Llifogydd ac Arfordirol Dylunio Adeiladau ac Arolygu Eiddo Dylunio Isadeiledd a Thrafnidiaeth Rheolaeth Adeiladu Systemau Rheoli Syrfewyr Meintiau ac Ymgynghoriaeth Costau


Ymgynghoriaeth Amgylcheddol Mae datblygu cynaliadwy, rheoli a gwella ein hamgylchedd naturiol yn hanfodol i bob penderfyniad rydym yn ei wneud, er mwyn sicrhau ein bod yn bodloni ein gofynion presennol, heb niweidio anghenion cenedlaethau’r dyfodol. Mae gan ein tÎm dros 15eg mlynedd o brofiad o ddarparu datrysiadau amgylcheddol ar gyfer prosiectau isadeiledd a thrafnidiaeth mawr, cynlluniau adeiladu, amddiffyn yr arfordir a draenio tir.



•

Clerc Gwaith Amgylcheddol ac Ecolegol

Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd

Asesiad Effaith Ecolegol

Arolygon Rhywogaethau a Warchodir

Arfarniad Ecolegol Rhagarweiniol

Asesiad Effaith Amgylcheddol

Mae ein gwasanaethau yn cynnwys:


Cyngor Cynllunio Ecolegol

Asesiad Amgylcheddol Strategol

Mapio Digidol GIS

Asesiad CEEQUAL

Asesiad WelTAG

Cynlluniau Rheoli Rhywogaethau Ymledol

Cynlluniau Rheoli Cynefinoedd


Mae ein gwybodaeth leol a’r gallu i gydweithio’n effeithiol gyda thimau dylunio, contractwyr a chyrff amgylcheddol statudol yn sicrhau gwerth am arian wrth ddarparu datrysiadau peirianneg arloesol a chynaliadwy, sy’n lleihau’r effaith ar yr amgylchedd naturiol.



Dŵr ac Arfordirol Wrth i’r hinsawdd newid a phatrymau tywydd ddod yn fwy anwadal, bydd y risg o lifogydd i’n cymunedau yn cynyddu. Wrth i lefel y môr a grym tywydd gynyddu, mae erydiad arfordirol hefyd yn cyflwyno mwy o fygythiad. Mae gan ein tîm arbenigedd mewn amryw o feysydd, yn y maes perygl llifogydd a draenio, ac yn cynnwys dylunio nifer o gynlluniau lliniaru llifogydd. Drwy ddefnyddio dulliau a thechnegau arloesol, gallwn ddilyn cynllun ar hyd ei daith – o’i ddyluniad, i’r gwaith adeiladu - gan gynnwys yr holl gamau yn y canol megis hydroleg, modelu hydrolig, dyluniad strwythurol ac ymgysylltu gyda’r gymuned ayyb.



Modelu Llifogydd

Asesiad Canlyniad Llifogydd

Asesiad Llif Dŵr

Cyngor Cynllunio ar Risg Llifogydd

Asesiad Hydroleg (FEH, ReFH)

Asesiad Hydrolig o Strwythurau

Dyluniad Draenio Dŵr Wyneb

Mae ein gwasanaethau yn cynnwys:


Archwiliadau Asedau

Archwiliadau T98

Cyngor ar Drwyddedau Gweithgareddau Perygl Llifogydd

Arolwg a Mapio Teledu Cylch Cyfyng

Strategaeth Carthu Harbwr

Arolygon Arfordirol

Dylunio Draenio Priffyrdd


Gallwn gynorthwyo ym mhob agwedd o waith draenio; o ddylunio draeniad priffyrdd a dĹľr wyneb, i arolygon TCC o rwydweithiau draenio presennol, a cwlfert.




Dylunio Adeiladau ac Arolygu Eiddo Rydym yn dîm o Benseiri, Syrfewyr Adeiladau a Thirfesurwyr, Peirianwyr Mecanyddol a Thrydanol a Chlercod Gwaith sydd wedi dylunio sawl adeilad gan gynnwys adeiladau cyhoeddus. Mae gennym gyfuniad o amryw o sgiliau traddodiadol a thechnegau arloesol. Gallwn ddylunio ac adnewyddu adeiladau sydd â nodweddion cynaliadwy, ac amgylcheddol sy’n gweddu â’r tirlun lleol gan gwrdd â holl ofynion y Rheoliadau Adeiladu.


Mae ein gwasanaethau yn cynnwys: Dylunio PensaernĂŻol Ceisiadau Cynllunio / Adeilad Rhestredig / Rheolaeth Adeiladu

Arolygon Mesuredig

Arolygu Adeiladau ac Archwiliadau

Rheoli Prosiect / Ymgynghorydd Arweiniol / Prif Ddylunydd Datrysiadau Draenio Astudiaethau Dichonoldeb


Dylunio Mewnol

Ymgynghorydd Cleient Delweddau 3D A BIM

Ymgymryd  Rôl Prif Ddylunydd CDM A Dylunydd

Dylunio Peirianneg Fecanyddol a Thrydanol Gweinyddiaeth Contractau Clerc Gwaith


Ein nod yw darparu atebion dylunio creadigol sy’n mynd i’r afael â materion cymhleth, a heriol o fewn cyllideb y cleient.




Dylunio Isadeiledd a Thrafnidiaeth Wedi ei sefydlu yn 1996, mae gan ein tîm Dylunio Isadeiledd a Thrafnidiaeth brofiad helaeth o gynllunio a cyflwyno prosiectau Peirianneg Sifil. Rydym wedi cydweithio gyda Llywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol ac asiantaethau cyhoeddus eraill ers blynyddoedd lawer, ynghyd â’r sector breifat i ddarparu portffolio amrywiol o brosiectau isadeiledd. Daw ein timau peirianneg o gefndiroedd amlddisgyblaethol felly gallwn gynnig tîm prosiect cynhwysfawr ar gyfer cynlluniau o unrhyw natur a maint.


Mae ein gwasanaethau yn cynnwys:

Cyflawni Prosiectau Isadeiledd

Peirianneg Dŵr a Dŵr Gwastraff

Dylunio Priffyrdd


Peirianneg Geotechnegol

Harbyrau a Marinas

Peirianneg Trafnidiaeth

Dylunio, Archwilio a Rheoli Pontydd a Strwythurau Cynnal



Mae YGC wedi meithrin diwylliant o gydweithio ac ethos rhagweithiol i gwrdd ag anghenion y cleientiaid.


Rheolaeth Adeiladu Rydym yn dîm o Syrfewyr Rheolaeth Adeiladu cymwys a phroffesiynol sydd yn cynnig gwiriad cynhwysfawr o gynlluniau, a manylebau ac archwiliadau safle drwy gydol y broses adeiladu. Mae ein tîm cyfeillgar yn cynnig cyfarfodydd cyn cyflwyno cais er mwyn trafod cynigion i sicrhau bod materion dylunio ac adeiladu yn cael sylw yn gynnar. Rheoliadau Adeiladu sy’n sicrhau iechyd a diogelwch pobl o amgylch, ac o gwmpas yr adeiladau, yn cynnwys arbed ynni, mynediad a’r defnydd o adeiladau.



Mae ein gwasanaethau yn cynnwys:

Rheolaeth Adeiladu – Archwilio Cynlluniau ac Archwiliadau Safle

Partneriaeth LABC

Cyngor Cyn Cyflwyno Cais


Strwythurau Peryglus

Gwasanaeth Siartredig

Digwyddiadau Allanol

Enwi Eiddo

Gwobrau Rhagoriaeth Adeiladu LABC



Fel

rhan o’r

“Cytundeb Partneriaeth LABC”

cenedlaethol, mae’r tîm mewn partneriaeth gyda 30 o gwmnïau yng ngogledd Cymru. Mae’r cwmnïau yn amrywio o ddylunwyr a phenseiri, i ddatblygwyr.


Robert Williams o YGC yn cyflwyno tystysgrif Lefel 5 y Ddraig Werdd i Brifysgol Bangor.


Systemau Rheoli Mae ein Tîm Systemau yn darparu gwasanaethau ymgynghori mewn dylunio, datblygu, gweithredu, cynnal a chadw ac archwilio systemau rheoli. Mae’r tîm yn rhan o raglen Ymgynghorwyr Cymeradwy BSi, gyda’r profiad ac arbenigedd i gyflawni Systemau Rheoli: • • •

Ansawdd (ISO9001) Amgylcheddol (ISO14001) Diogelwch ac Iechyd Galwedigaethol (OHSAS18001) Draig Werdd a BS8555.


Mae ein gwasanaethau yn cynnwys:

Adolygiad o’r Ymarferion Presennol ac Adnabod Diffygion

Datblygu Polisïau Penodol i’r System

Sefydlu a Dogfennu Prosesau a Gweithdrefnau


Archwiliadau Mewnol yn Cynnwys Rhai Cyn-asesiad Allanol

Cefnogaeth Drwy’r Broses Ardystio

Diweddariad Rheolaidd ar Ddeddfwriaeth


Fe all YGC arwain eich cwmni drwy’r broses o ddatblygu system rheoli ac ardystio allanol. Fe allwn dywys a chynnig cefnogaeth barhaus i gleientiaid ymhell ar ôl cyflawni ardystiad.




Syrfewyr Meintiau ac Ymgynghoriaeth Costau Rydym yn darparu gwasanaethau costau, amcangyfrifo, caffael, rheoli prosiect a gwasanaethau ymgynghoriaeth arbenigol eraill i gleientiaid o’r sector cyhoeddus a phreifat. Mae ein tÎm yn darparu gwasanaeth cynhwysfawr o ymgynghori arbenigol ar adeiladu a pheirianneg gyda sylw penodol i optimeiddio risg y cleient, gwella ymwybyddiaeth o werth, a sicrhau goruchwyliaeth a manylion costau llawn ar ran y cleient.


Mae ein gwasanaethau yn cynnwys:

Rheoli Prosiectau a Goruchwylio Achrededig NEC

Datrys Anghydfodau

Ffurfio Strategaeth Caffael a Chontract

Arwain a Gweinyddu’r Broses Gaffael


Gwerthuso’r Prosiect

Amcangyfrif a Chynllunio Costau Cyn-gontract

Rheoli Risg a Pheirianneg Gwerth

Rheoli Costau Ôl-gontract a Rheoli Newid



Beth am edrych ar ein gwefan, lle gallwch weld... • Ein portffolio o brosiectau a gwobrau ar draws ein gwasanaethau • Newyddion a digwyddiadau ymgysylltu diweddaraf • Rhagor o wybodaeth ynglŷn â YGC

www.ygc.cymru

ygc@gwynedd.llyw.cymru 01286 679426


Wedi’i brintio 100% ar bapur wedi’i ailgylchu

Am y newyddion diweddaraf a gwybodaeth ynglŷn â digwyddiadau..

..cysylltwch â ni

Mae ein staff profiadol a phroffesiynol yn cynnig gwasanaeth cyfeillgar a dwyieithog ar draws sawl sector, o Beirianneg Sifil, Peirianneg Amgylcheddol, Dylunio Adeiladu a Rheolaeth Adeiladu.



Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.