www.ygc.cymru
Ymgynghoriaeth Amgylcheddol | Llifogydd ac Arfordirol Dylunio Adeiladau ac Arolygu Eiddo | Dylunio Isadeiledd a Thrafnidiaeth Systemau Rheoli | Syrfewyr Meintiau ac Ymgynghoriaeth Costau
www.ygc.cymru
Pwy ydym ni, a beth rydym yn ei wneud? Mae YGC yn ymgynghoriaeth amlddisgyblaethol a sefydlwyd gan Gyngor Gwynedd yn 1996. Ni yw’r ymgynghoriaeth fwyaf yng Nghymru sy’n cael ei rhedeg gan Awdurdod Lleol, gan weithio gyda nifer helaeth o gleientiaid yn y sector cyhoeddus, a phreifat. Rydym yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau, sy’n cynnwys: • • • •
Dylunio Adeiladwaith a cynnal a chadw ffyrdd Strwythurau ac adeiladau Ymateb i risg o lifogydd mewn ardaloedd arfordirol
Rydym yn sicrhau bod yr amgylchedd yn cael ei ddiogelu wrth ymgymryd â’r holl waith, ac wedi teilwra ein gwasanaethau i gwrdd ag anghenion ein cwsmeriaid. Rydym wedi ein lleoli yng Ngwynedd, yng ngogledd Cymru dros dri lleoliad, sef ein prif swyddfa yng Nghaernarfon a swyddfeydd ym Mhwllheli a Dolgellau.
Eich ‘Siop Un Stop’ sy’n darparu atebion arloesol a chynaliadwy, i gwrdd â’ch anghenion cynllunio, dylunio a chyflawni prosiectau.
Ymgynghoriaeth Amgylcheddol Llifogydd ac Arfordirol Dylunio Adeiladau ac Arolygu Eiddo Dylunio Isadeiledd a Thrafnidiaeth Systemau Rheoli Syrfewyr Meintiau ac Ymgynghoriaeth Costau
Ymgynghoriaeth Amgylcheddol Mae datblygu cynaliadwy, rheoli a gwella ein hamgylchedd naturiol yn hanfodol i bob penderfyniad rydym yn ei wneud, er mwyn sicrhau ein bod yn bodloni ein gofynion presennol, heb niweidio anghenion cenedlaethau’r dyfodol. Mae gan ein tÎm dros 15eg mlynedd o brofiad o ddarparu datrysiadau amgylcheddol ar gyfer prosiectau isadeiledd a thrafnidiaeth mawr, cynlluniau adeiladu, amddiffyn yr arfordir a draenio tir.
•
Clerc Gwaith Amgylcheddol ac Ecolegol
Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd
Asesiad Effaith Ecolegol
Arolygon Rhywogaethau a Warchodir
Arfarniad Ecolegol Rhagarweiniol
Asesiad Effaith Amgylcheddol
Mae ein gwasanaethau yn cynnwys:
Cyngor Cynllunio Ecolegol
Asesiad Amgylcheddol Strategol
Mapio Digidol GIS
Asesiad CEEQUAL
Asesiad WelTAG
Cynlluniau Rheoli Rhywogaethau Ymledol
Cynlluniau Rheoli Cynefinoedd
Mae ein gwybodaeth leol a’r gallu i gydweithio’n effeithiol gyda thimau dylunio, contractwyr a chyrff amgylcheddol statudol yn sicrhau gwerth am arian wrth ddarparu datrysiadau peirianneg arloesol a chynaliadwy, sy’n lleihau’r effaith ar yr amgylchedd naturiol.
Dŵr ac Arfordirol Wrth i’r hinsawdd newid a phatrymau tywydd ddod yn fwy anwadal, bydd y risg o lifogydd i’n cymunedau yn cynyddu. Wrth i lefel y môr a grym tywydd gynyddu, mae erydiad arfordirol hefyd yn cyflwyno mwy o fygythiad. Mae gan ein tîm arbenigedd mewn amryw o feysydd, yn y maes perygl llifogydd a draenio, ac yn cynnwys dylunio nifer o gynlluniau lliniaru llifogydd. Drwy ddefnyddio dulliau a thechnegau arloesol, gallwn ddilyn cynllun ar hyd ei daith – o’i ddyluniad, i’r gwaith adeiladu - gan gynnwys yr holl gamau yn y canol megis hydroleg, modelu hydrolig, dyluniad strwythurol ac ymgysylltu gyda’r gymuned ayyb.
Modelu Llifogydd
Asesiad Canlyniad Llifogydd
Asesiad Llif Dŵr
Cyngor Cynllunio ar Risg Llifogydd
Asesiad Hydroleg (FEH, ReFH)
Asesiad Hydrolig o Strwythurau
Dyluniad Draenio Dŵr Wyneb
Mae ein gwasanaethau yn cynnwys:
Archwiliadau Asedau
Archwiliadau T98
Cyngor ar Drwyddedau Gweithgareddau Perygl Llifogydd
Arolwg a Mapio Teledu Cylch Cyfyng
Strategaeth Carthu Harbwr
Arolygon Arfordirol
Dylunio Draenio Priffyrdd
Gallwn gynorthwyo ym mhob agwedd o waith draenio; o ddylunio draeniad priffyrdd a dĹľr wyneb, i arolygon TCC o rwydweithiau draenio presennol, a cwlfert.
Dylunio Adeiladau ac Arolygu Eiddo Rydym yn dîm o Benseiri, Syrfewyr Adeiladau a Thirfesurwyr, Peirianwyr Mecanyddol a Thrydanol a Chlercod Gwaith sydd wedi dylunio sawl adeilad gan gynnwys adeiladau cyhoeddus. Mae gennym gyfuniad o amryw o sgiliau traddodiadol a thechnegau arloesol. Gallwn ddylunio ac adnewyddu adeiladau sydd â nodweddion cynaliadwy, ac amgylcheddol sy’n gweddu â’r tirlun lleol gan gwrdd â holl ofynion y Rheoliadau Adeiladu.
Mae ein gwasanaethau yn cynnwys: Dylunio PensaernĂŻol Ceisiadau Cynllunio / Adeilad Rhestredig / Rheolaeth Adeiladu Arolygon Mesuredig
Arolygu Adeiladau ac Archwiliadau Rheoli Prosiect / Ymgynghorydd Arweiniol / Prif Ddylunydd Datrysiadau Draenio Astudiaethau Dichonoldeb
Dylunio Mewnol
Ymgynghorydd Cleient Delweddau 3D A BIM
Ymgymryd  Rôl Prif Ddylunydd CDM A Dylunydd Dylunio Peirianneg Fecanyddol a Thrydanol Gweinyddiaeth Contractau Clerc Gwaith
Ein nod yw darparu atebion dylunio creadigol sy’n mynd i’r afael â materion cymhleth, a heriol o fewn cyllideb y cleient.
Dylunio Isadeiledd a Thrafnidiaeth Wedi ei sefydlu yn 1996, mae gan ein tîm Dylunio Isadeiledd a Thrafnidiaeth brofiad helaeth o gynllunio a cyflwyno prosiectau Peirianneg Sifil. Rydym wedi cydweithio gyda Llywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol ac asiantaethau cyhoeddus eraill ers blynyddoedd lawer, ynghyd â’r sector breifat i ddarparu portffolio amrywiol o brosiectau isadeiledd. Daw ein timau peirianneg o gefndiroedd amlddisgyblaethol felly gallwn gynnig tîm prosiect cynhwysfawr ar gyfer cynlluniau o unrhyw natur a maint.
Mae ein gwasanaethau yn cynnwys:
Cyflawni Prosiectau Isadeiledd
Peirianneg Dŵr a Dŵr Gwastraff
Dylunio Priffyrdd
Peirianneg Geotechnegol
Harbyrau a Marinas
Peirianneg Trafnidiaeth
Dylunio, Archwilio a Rheoli Pontydd a Strwythurau Cynnal
Mae YGC wedi meithrin diwylliant o gydweithio ac ethos rhagweithiol i gwrdd ag anghenion y cleientiaid.
Systemau Rheoli Mae ein Tîm Systemau yn darparu gwasanaethau ymgynghori mewn dylunio, datblygu, gweithredu, cynnal a chadw ac archwilio systemau rheoli. Mae’r tîm yn rhan o raglen Ymgynghorwyr Cymeradwy BSi, gyda’r profiad ac arbenigedd i gyflawni Systemau Rheoli: • • •
Ansawdd (ISO9001) Amgylcheddol (ISO14001) Diogelwch ac Iechyd Galwedigaethol (OHSAS18001) Draig Werdd a BS8555.
Mae ein gwasanaethau yn cynnwys:
Adolygiad o’r Ymarferion Presennol ac Adnabod Diffygion
Datblygu Polisïau Penodol i’r System
Sefydlu a Dogfennu Prosesau a Gweithdrefnau
Archwiliadau Mewnol yn Cynnwys Rhai Cyn-asesiad Allanol
Cefnogaeth Drwy’r Broses Ardystio
Diweddariad Rheolaidd ar Ddeddfwriaeth
Fe all YGC arwain eich cwmni drwy’r broses o ddatblygu system rheoli ac ardystio allanol. Fe allwn dywys a chynnig cefnogaeth barhaus i gleientiaid ymhell ar ôl cyflawni ardystiad.
Syrfewyr Meintiau ac Ymgynghoriaeth Costau Rydym yn darparu gwasanaethau costau, amcangyfrifo, caffael, rheoli prosiect a gwasanaethau ymgynghoriaeth arbenigol eraill i gleientiaid o’r sector cyhoeddus a phreifat. Mae ein tÎm yn darparu gwasanaeth cynhwysfawr o ymgynghori arbenigol ar adeiladu a pheirianneg gyda sylw penodol i optimeiddio risg y cleient, gwella ymwybyddiaeth o werth, a sicrhau goruchwyliaeth a manylion costau llawn ar ran y cleient.
Mae ein gwasanaethau yn cynnwys:
Rheoli Prosiectau a Goruchwylio Achrededig NEC
Datrys Anghydfodau
Ffurfio Strategaeth Caffael a Chontract
Arwain a Gweinyddu’r Broses Gaffael
Gwerthuso’r Prosiect
Amcangyfrif a Chynllunio Costau Cyn-gontract
Rheoli Risg a Pheirianneg Gwerth
Rheoli Costau Ôl-gontract a Rheoli Newid
Beth am edrych ar ein gwefan, lle gallwch weld... • Ein portffolio o brosiectau a gwobrau ar draws ein gwasanaethau • Newyddion a digwyddiadau ymgysylltu diweddaraf • Rhagor o wybodaeth ynglŷn â YGC
www.ygc.cymru
ygc@gwynedd.llyw.cymru 01286 679426
Wedi’i brintio 100% ar bapur wedi’i ailgylchu
Am y newyddion diweddaraf a gwybodaeth ynglŷn â digwyddiadau..
..cysylltwch â ni
Mae ein staff profiadol a phroffesiynol yn cynnig gwasanaeth cyfeillgar a dwyieithog ar draws sawl sector, o Beirianneg Sifil, Peirianneg Amgylcheddol a Dylunio Adeiladau.